kimkat0256k Siencyn Ddwywaith. 1873. Remsen, Efrog Newydd. Hanes Unwaith Am Siencyn Ddwywaith; Sef Y Pethau Mwyaf Hynod Yn Ei Fywyd, Yn Nghyda Rhai Traethodau, A Thalfyriadau Oi Bregethau, &C., &C.; Hefyd Ychydig Awgrymiadau Am Minnesota, Ar Cymry A Wladychant Yno.

 

17-07--2017

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

● ● ● ● kimkat2557k Mynegai i Hanes Unwaith am Siencyn Ddwywaith www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_2667k.htm

● ● ● ● ● kimkat0262k Y tudalen hwn

 

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delw 0003)
..








Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles


Cywaith Sin Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Sin Prys (Collecci de textos en galls)

_______________________________________


Siencyn Ddwywaith
1873
Utica, New York State


RHAN 3 tudalennau 200-282



0285_map_cymru_trefynwy_061117
(delw 0285)

 

 

Yn l i rhan 2 (tudalennau 100-199): kimkat0255k www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-2_0255k.htm

 

 

ar Parch. Griffith Samuel

yn South Bend.

 

Tudalennaur llyfr heb eu cywiro, ar wahn i 200-206

 

 



 

 

 

(x200)
Mae y Parch. Philip Peregrine yn gweinidogaethu iddynt yn Butternut Valley yn awr, a minau pan y gallwyf; ar Parch.
Griffith Samuel

yn South Bend. Ffurfiais hefyd un eglwys Bresbyteraidd ar y Big Cottonwood, a dwy Ysgol Sabbothol. Yr wyf yn myned yno yn barhaus yn awr ac yn y man, ac hefyd i Lake Crystal, a manau eraill. Mae Minnesota yn rhedeg trwyddi ger llyn sydd ger yr Afon Goch i Fort Snelling, ger St. Paul. Mae y gogledd-ddwyreiniol iddi yn lled goediog, ar rhanau gorllewinol yn brairies llydain, agos yn wastad, a llawer o lynoedd o wahanol faintioli, ac yn brinach o goed. Maer priddellau yn gyffredin o ugain modfedd i ddeugain o ddyfnder. Gwlad hynod yw am wenith, ceirch, haidd, rhyg, corn, cloron, gwair, a phorfeydd. Ei dyfroedd sydd iachus, a llawn o bysgod. Mae ynddi gyflawnder o gwningod, hwyaid, a ieir y prairies, a gwyddau yn y gwanwyn ar hydref. Mae ei railroads yn aml, ei threfydd masnachol yn lluosogi, a digonedd o lo mewn rhai manau ynddi.

Mae yma bedwar neu bump o sefydliadau Cymreig; ond hwn, yn Swydd Blue Earth yw y mwyaf o lawer. Yma y mae chwech o gapeli gan y Trefnyddion Calfinaidd; dau gan y Cynulleidfaolion, heblaw amryw ysgoldai lle yr arferir addoli yn yr iaith Gymraeg. Gellir cael cartrefleoedd o gant a thriugain o erwau am ganoedd lawer o filldiroedd, ond talu pymtheg dolar ir Llywodraeth; a digonedd o leoedd eraill am bris isel, yn ol y gwahanol fanau, ar cyfleusderau y byddont, ar driniaeth a gawsant. Mae yn lle dychrynllyd i feddwon, a dynion diog. Gwna y naill rewi i farwolaeth yn eu meddwdod, tra y bydd y llall yn sicr o ddyoddef mwy nag sydd raid iddo yn y gauaf. Mae dwy section o bob


 



(delwedd B0201)

(x201)

plwyf wedi eu trwyddedu, er mwyn addysg y plant. Bernir ei bod yn hynod iachus awyrgylch sych, deneu, a llewyrch haul digwmwl y rhan fwyaf or amser; y tywydd yn bur sefydlog ambell ystorm ddychrynllyd y mellt yn oleu iawn, ar taranau yn gryfion a thrystfawr.

O Minnesota braf,
Ac iachaf yn y byd,
Mor hyfryd yn yr haf
...
Yw byw lle na bor cryd;
Dewch atom, Gymry, yn ddioed,
Heb aros dim, os gellwch ddod


 



(delwedd B0202)

(x202)

Y PARCH.
MORRIS ROBERTS, REMSEN, A MR. WILLIAM MAXY, CARBONDALE.

Amrai flynyddau yn ol, yr oedd Cymanfa yn Carbondale, a llawer o bobl wedi ymgynull yn nghyd. Yn un or oedfaon yr oedd Mr. Roberts yn pregethu; pan tua haner ei bregeth, wedi myned i hwyl wrth ddyweyd am drefn y cadw, dywedai am railroad fawr yr iachawdwriaeth, clywid Maxy yn dyweyd, Amen, Amen, fel y byddai yn arfer. Yn mhen ychydig, dywedai Morris, gan droi ei law yn ei wallt, Bobl fach, ar y railroad hon y mae y locomotive dwyfol, a thrain noble ar ei hol. Dyma dair or ceir, y Gymdeithas Genadol Dramor, mae hon yn carior efengyl i wledydd paganaidd., Parhai Maxy i waeddi, Amen, Amen. Ychwanegai at hyny hefyd, Or goreu, fy ngwas i. Dyma gar noble arall, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, mae hon yn cynorthwyo eglwysi gweiniaid, sydd yn analluog i gynal y weinidogaeth yn eu plith eu hunain, ac i blanu eglwysi newyddion mewn lleoedd oeddynt amddifad or efengyl or blaen.
Amen, Amen, dyna hi, fachgen. Dyna gymdeithas arall, y Gymdeithas Feiblau, i roddi Gair y Bywyd yn mhob iaith, i holl drigolion y byd. Amen, Amen, dyna hi eto, fachgen. Dyna gymdeithas arall hynod iawn, sef y Gymdeithas Draethodol. Mae yn hon le ir merched ar gwragedd i fyned ar efengyl ir tai, ac i bob man lle y byddo dynion. Amen byth, dyna hi eto. Mae cymdeithas arall yn awr ar droed, ac un enwog yw hi hefyd, sef y



 



(delwedd B0203)

(x203)

Gymdeithas Ddirwesol, i wneyd y meddwon yn sobr, i newynu yr hen saloons budron yma, a dysgu dynion i fyw fel y dylent; dyma y ffordd i gael y byd i drefn. briodol. Ioan Fedyddiwr yw yr engineer dysgyblion Ioan, jumpiwch i mewn iddo gyda brys. Pan oedd Mr. Roberts yn dyweyd am y gymdeithas hon, trwy nad oedd Maxy yn ddirwestwr, ac yn caru llymed, yn lle dyweyd Amen, fel cynt, ysgydwai ei ben, a dywedai, He, beth yw hyna sydd gent ti?

Wedi dybenu yr oedfa, awd i dy Mr. Maxy i de (un caredig a lletygar iawn ydoedd). Pan wrth y bwrdd, gofynodd Mr. Roberts i Maxy, paham na buasai yn dyweyd Amen pan oedd ef yn dyweyd am y Gymdeithas Ddirwestol, fel ag y gwnai pan oedd yn dyweyd am y cymdeithasau eraill? Yr ateb a gafodd oedd, Nid wyf fi ddim yn mofyn dy gymdeithas ddirwestol di, does dim oi heisiau arno i.

Roberts Nid yw yr yfed yma yn gwneyd dim lles i chwi, fe fyddai yn well i chwi o lawer iawn ei roddi heibio.

Maxy Yr wyf fi yn gwybod yn well na hyny; pan y byddwyf fi yn tyllu yn y gwaith, ar llwch yn dyfod im genau, a minau yn gweithio yn galed, mae llymed bach y pryd hwnw yn fine iawn; neu yn yr hwyr, ar ol bod yn ddyfal trwyr dydd, mae yn gysurus anghyffredin i gael llymed y pryd hyny hefyd, wel di.

Roberts Wel, Maxy, mae yn rhaid i chwi joinio dirwest, neu mae yn rhaid eich diarddel or eglwys. Mae gyda ni yn awr, yn State New York, engine fawr, ac yr ydym yn cylymu y chain am yddfan yr hen stympiau, ac y mae yn eu tynu hwy or gwraidd bob




 



(delwedd B0204)

(x204)

un; ac yr wyf fi yn meddwl fod yn rhaid tynu yr hen yfwyr yma hefyd or eglwysi.

Maxy Nid alli di ddim, fy ngwas i; yr oeddwn i yn aelod yn eglwys Cross, Penmaen, cyn i ti gael dy eni, na son am danat ti na dy ddirwest; nid wyf fi ddim wedi meddwi erioed, nid alli di wneyd dim i mi. Am dy engine sydd gyda ti, yn State New York, i godi stympiau, eu gadael hwy i bydru eu hunain yr ym ni yma, ac y mae yn llawn cystal i ti fy ngadael inau yn llonydd, ni fyddaf fi ddim yn hir ar dy ffordd di, nac ar ffordd neb arall ychwaith.

PREGETH.

Crist an llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom; canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd yn nghrog ar bren. Gal. iii. 13.

Planwyd Cristionogaeth yn foreu yn Galatia, yn y flwyddyn 50, gan Paul, ac yn y flwyddyn 54 ymwelodd hwynt. Act. xvi. 18, 23. Ysgrifenwyd yr epistol hwn o Corinth. Ni bu Paul yn Rhufain am 10 mlynedd wedi hyn. Hwn yw yr epistol cyntaf a ysgrifenodd. Yr oedd yr eglwys hon yn gymysg o Iuddewon a Chenhedloedd; yr olaf oeddynt luosocaf. Prawf galarus o lygredigaeth foesol dynolryw yw, fod personau neillduol, ac eglwys hefyd, yn llaesu ac yn ymollwng oddiwrth burdeb athrawiaeth yr efengyl hyd yn nod yn nyddiau Paul. Diffyg y Galatiaid yn benaf oedd, cymeryd eu tynu ar gyfeiliorn gan eu hathrawon Iuddewaidd, y rhai a ddywedent, oddieithr iddynt gymeryd eu henwaedu nad allent fod yn gadwedig,


 



(delwedd B0205)

(x205)

gan osod y ddeddf yn lle Crist. Er eu gosod ar eu gocheliad yn erbyn y cyfeiliornad hwn, mae yr apostol yn dangos mai trwy ffydd y cyfiawnhawyd Abraham, ac nad oes neb yn wir blant i Abraham ond y rhai sydd yn credu yn Nghrist; a bod y rhai a ymlynant wrth weithredoedd y ddeddf, fel sail eu cymeradwyaeth gyda Duw, dan felldith.

Mae dwy ffordd i fywyd, un ir dieuog, ar llall ir euog; a chan ein bod ni oll yn euog, fod yn rhaid ymwadu ar gyntaf, trwy ein bod tan felldith y ddeddf; ac felly, mai yr olaf yw ein ffordd ni, sef trwy ffydd yn Nghrist.

I. Ystyriwn ein sefyllfa dan felldith y ddeddf. Mae y ffaith yn anwadadwy, oblegid pe na buasem dan felldith y ddeddf, ni buasai eisiau ein gwaredu oddiwrth y fath felldith.
Yn fwy neillduol. .

1. Mae ein bod yn ddarostyngedig i felldith y ddeddf, yn golygu ein bod dan rwymau anughyfnewidiol i ufuddhau iddi. Y fath yw y ffaith, nas gallwn byth ymryddhau on rhwymau i garu Duw an cymydog, trwy un amgylchiad a ddichon ddigwydd trwy holl gylch ein bodolaeth. Nid yw pechod yn ein rhyddhau, mwy nag yw tori amod yn rhyddhau oddiwrth gytundeb. Nid yw gras yn gwneyd hyn, oblegid gwaith hwn yw gosod y gyfraith yn ein calon, ac ofn Duw ynom.

2. Ein, bod dan rwymau i ufuddhau a chadw y gyfraith. Darfu i ni ei throseddu yn ei holl ranau. Er nad yw pob un yn euog or un math o ddrwg ar llall yn hollol o gyflawni yr un pethau, mae pawb wedi ymadael oddiwrth fuchedd Duw, ac wedi troseddu egwyddorion rhwymedigaeth, ac felly yn euog or cwbl.



 



(delwedd B0206)

(x206)


Mae caniatau un pechod, yn dangos nad ydym yn ymgadw oddiwrth bechodau eraill oddiar un parch ir Arglwydd, ond oddiar ryw s-ddyben sydd yn rhy fyr o ogoniant Duw; am hyny y maer Iuddew ar Cenedl-ddyn tan bechod.
Rhuf, iii. 10. Nid oes neb cyfiawn; nac oes un. Iago iii. 10.

3. Wedi troseddu y gyfraith ddwyfol, a myned yn ol am ogoniant Duw, hyd yn nod pan y mae ufudddod yn rhanol wedi cael ei wneyd, yr ydym yn anocheladwy tan felldith. Mae pob cyfraith a chosb yn gysylltiedig a hi, onide ni byddai ynddi rym. Mae y gyfraith ddwyfol wedi cysylltu marw ai throseddiad. Mae bendith a melldith yn perthyn iddi; y naill ir ufudd ar llall ir anufudd, a chan ein bod ni yn perthyn ir desgrifiad olaf, yr ydym tan y felldith. Gan hyny, gadewch i ni wneyd ymchwiliad i gynwysiad y gair brawychus hwnw, Melldith y ddeddf.

(1.) Mae yn gosb yr hon a weinyddir, neu a dybir ei bod, oddiwrth uwchlaw gallu dynol. Nid ydyw rhegfeydd a melldithion dynion drwg, ond yn gosod allan eu hannuwioldeb au dymuniadau llidiog at eraill; ond y mae melldith sylweddol yn dyfod oddiwrth Dduw, neu ryw un tan ei awdurdod. Pan ddatganodd Noah y felldith ar Ham, yr oedd yn gwneyd hyny trwy ddylanwad prophwydoliaeth; a phan anfonodd Balac am Balaam i felldithio Israel, yr oeddid yn tybied ei fod yn cymdeithasu ar Duwdod, neu ryw allu anweledig. Nid yw melldith y brenin hudoledig, neu offeiriaid pabaidd, ddim yn y byd; ond y mae bod dan felldith Duw yn beth dychrynllyd, ac nid oes diangfa.

(2.) Mae melldith deddf gyfiawn Duw yn rhwymor pechadur i gosb dragywyddol.
Yr oedd bygythiadau


 



(delwedd B0207)

(x207)

ofnadwy yn dilyn y troseddiad o gyfraith Moses. Deut. xxviii. 1519. Er fod y melldithion hyn yn benaf yn cael eu bygwth am bethau tymhorol, ag y gall dynion dan yr efengyl ddianc, eto y maent dan felldith ysbrydol, yr hon sydd yn llawer mwy ofnadwy, sef eu taflu ymaith oddiwrth nawdd Duw am byth, mewn anobaith am ymwared. Nid yw y bywyd presenol ond oediad or llid a fydd.

II. Ein prynedigaeth. Crist an llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom. 1. Md dyma y mesur oedd y gyfraith yn ei ddarparn. Nid yw, ychwaith, yn ol dull a threfn cyfiawnder per- sonol, ond darpariaeth hynod o ddyfais y Pen-Llyw- ydd ei hun. Nid yw y gyfraith yn darparn cyfnew- idiad personan, ond yn gofyn yr enaid a bechodd i farw. Pe buasai i'r gyfraith redeg ei chwrs, bnasai yn rhaid i ni oil farw. Mae darpariaeth prynedigaeth yn gyfan-gwbl o ras. 2. Mae ein rhyddhad oddiwrth y felldith yn cael ei effeithio mewn ffordd sydd yn diogelu anrhydedd y gyfraith, yn gystal ag iachawdwriaeth y pechadur. Mae dau fath o brynedigaeth trwy bris, nen werth, a thrwy allu, ac y mae y ddau yn ateb i'n sefyllfa ni. Pan y byddo y llywodraeth drosom yn dreisiol, nid oes heddwch i gael ei wneyd a'r gelyn, na phris iV gynyg am ei waredigaeth, ond rhaid gosod nerth yn erbyn nerth ; ond pan y byddo gallu i gadw yn gaeth yn gyf- iawn, rhaid i'r rhyddhad gymeryd lie trwy dal neu heddychiad. Mae gwaredu cyfaill o law gelyn, fel y gwaredodd Abraham Lot, trwy rym arfau ; ond y car- charor a gedwir yn gyfreithlon a ollyngir trwy iawn




 



(delwedd B0208)

(x208) HAKES BTWYD

neu daliad, fel y rhyddhaoddd Paul Onesimus, neu Juda Benjamin. Mae ein rhwymau i gyfraith Duw yn gyfiawn, an haeddiant or felldith felly hsfyd. Nid gwiw amcanu treisio y gyfraith ddwyfol. Rhaid ir hwn sydd yn oymeryd y gorchwyl o ryddhau y troseddwr roddi boddlonrwydd i gyfiawnder dialeddol. Yr oedd yr aberthau dan y gyfraith yn gosod allan y drychfeddwl o ryddhad a maddeuant trwy waed y cymod.

3. Mae y cymeriad a roddir yma i osod allan ddyoddefiadau ein Harglwydd yn gryf iawn. Fei gwnawd yn felldith drosom yn wrthodedig gan nefoedd a daiar; yr unig Pod difrycheulyd er cwymp dyn a fu byw yn y byd yn cael ei drin fel pe buasai yr unig bechadur. Rhoddodd ei enaid yn aberth dros bechod yn y fath fodd ag i ddangos fod pechod yn cael ei gondemnio yn y cnawd, neu yn ein natur ni, a bod yr Arghvydd wedi rhoddi arno ef ein hanwiredd ni i gyd. Yr oedd Job yn achwyn fod ei ddolur yn fwy nai ocheneidiau, a Jeremian yn dy weyd ei fod yn un a welodd flinder; ond both oedd eu dyoddefiadau hwy iw cyferbynu ar eiddo Crist yn yr ardd, ac ar y groes? Na ddyweded y rhai a welsant adfael Jerusalem mwy-ach, beth yw y llid ar dig hwn? Edrychwn i Galfaria, a gwelwn Fab Duw yn trengu dan y felldith drosom yno.

4. Effeithiau y dyoddefiadau hyn yw ein prynedigaeth, an gwaredigaeth pddiwrth felldith y ddeddf. Yn awr, gan fod cyfiawnder wedi cael cyflawn foddlonrwydd, mae Duw yn ymddangos yn ei wir gymeriad, yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. Mewn cadw pechaduriaid yn ei Fab, mae Duw

T PAKCH. JENTKIH


 



(delwedd B0209)

(x209)

yn llawn mor hoff oi gyfiawnder, a gelyn i bechod, a phe buasai yn condemnio y pechadur i ddinystr. Rhuf. ni. 2426. Mae iachawdwriaeth yn gyfiawn gydag ef. Ps. cxxx. 7, 8. Disgwylied Israel am yr Arglwydd, o herwydd y mae trugaredd gydar Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef; ac efe a wared oddiwrth eu holl anwireddau.

CASGLIADAU.

1. Gwelwn ddiogelwch a dedwyddwch credinwyr. Nid yw y felldith mwyach yn sefyll yn eu herbyn, ar holl fendithion yn eiddo iddynt. Fe ddyry Duw iddynt bob peth gyda Christ.

2. Mae iachawdwriaeth yn awr yn cael ei chynyg yn rhad i bechaduriaid, a Christ yn barod i dderbyn pwy bynag a ddel. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef. Amen.

PEEGETH.

Tr wyf yn marw beunydd. 1 Cor. xv. 31.

Nid oes achos i ni gyfyngu ystyr ein testyn, ond derbyniwn ef yn yr olwg gyffredinol, yn mha ystyr y gallasai Paul ddyweyd hyn, ac yn mha ystyr y mae yn briodol i ninau ei arferyd.

Yr oedd ef yn marw beunydd, o herwydd yr oedd yn wastad mewn perygl wrth bregethu yr efengyl. 2 Cor. xi. 2328. Hwyrach nas gallwn ni fod mewn cymaint o beryglon a Paul, eto yr ydym Mg^^hy^berjgJJbob awr, ac yn agored i ddigwyddiadau!YFydym yn cael ein cylchynu gan ddynion drwg a direswm, tymerau a


 



(delwedd B0210)

(x210)

HAKES BYWTD

dichellion y rhai a allant ein dinystrio. Qnid ydym mewn byd sydd yn llawn o faglaubreuolder y corff, curiadau y gwaed, &c.?

2. Yr oedd Paul yn marw beunydd, nid yn unig yn gyfansoddiadol, ond hefyd yn dyngedol. Y fynyd y dechreuasom fyw, yr oeddym yn dechreu marw. Yr ydym yn siarad am farw. Mae amryw o honom yn haner marw yn barod, a rhai yn rhagor. Mae amryw on cysylltiadau yn feirw, an cysuron, an gobeithion. Yr ydym wedi claddu llawer o gyfleusderau, o ddyddiau a blynyddoedd, ac y mae pob dydd a mynyd yn ein dwyn at ddiwedd y cwbl. Gwrthun yw cyfyngu marw ir weithred o ysgariad y corff ar enaid; nid yw hyn ond yr ergyd olaf.

3. Yr oedd Paul mewn ystyr foesol yn marw beunydd. Marw i wrthddrych, yn ol yr Ysgrythyr, yw, nad oes dim mwyach a fynom ag ef. Cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod. Os ydym wedi marw i bechod, pa fodd y byddwn byw mwyach iddp ef? Croeshoelio yr hen ddyn, y cnawd, ei wyniau ai chwantau; marweiddio gweithredoedd y corff, croeshoelio y cnawd. Yr wyf yn marw beunydd.

4. Yr oedd Paul ynjDarod i ymddatod pa bryd bynag y buasai hyny yn cymeryd lle. Ar dyn sydd or un meddwl sydd yn ystyriol i barotoi i farwmewn sefyllfa ac agwedd addasi farw yn ddiogel ac yn dawel. Marw i ogoneddu Duwi gael mynediad helaeth i deyrnas dragywyddol ein Harglwydd Iesu Grist. Mae yn rhaid i hyn ddechreu gyda dymuniad yr apostol, i enill Crist, an cael ynddo ef. Nid oes dim yn cael ei wneyd i bwrpas er parotoi erbyn tragywyddoldeb nes y gallwn ddyweyd, Ith ddwylaw di y gorchymynaf fy ysbryd.

Y PARCH.


 



(delwedd B0211)

(x211)

Ti am gwaredaist, O Arglwydd Dduw y gwirionedd. Nid ydyw llais y nefoedd yn cyhoeddi neb yn wynfyd-^ edig ond y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd. Mewn sefyllfa o undeh a chymuhdeh ag ef; ei gyfiawnder ef yn rhoddi hawl, ai ras yn em gwneyd yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.

5. Yn yr achos hwn dylem, nid yn unig fod yn barod mewn teimlad, ond disgwyl yn weithredol; wedi gwregysu em lwynau, an lampau yn gyneuedig; y gydwybod yn bur, ac yn dawel; ein serch wedi ei dynu oddiwrth bethau daiarol, fel pan ddelo y wys, ein bod yn foddlon i fyned, ac nid gwaeddi am arbediad, a dywedyd, Paid a mi, fel y cryfhawyf, cyn fy myned ac na byddwyf mwy. Mae hyn yn gwastadhau y llwybr tuar lorddonen, ac nid taro ein traed wrth y mynyddoedd fcywyll yn ddisymwth. Mae sydynrwydd amgylchiad yn gwylltio y teimlad, ac yn gyru y meddwl i ymddyrysu. Hwyrach na wna angau ddyweyd pa bryd y daw, na pha fodd trwy gystudd. Os na chredwn ni hyn, ni chredem ychwaith pe cyfodai un oddiwrth y

ro/ritvro- *

meirw.



PKEGETH.


 



(delwedd B0212)

(x212)

Y mae afon, ai ffrydiau a lawenhant ddinas Duw.Salm xlvi. 4.

Pa beth a all yr afon hon fod, ond y cyfamod tragywyddol hwnw oedd Duw wedi ei wneyd dg ef, at yr hwn yr oedd ei feddwl yn cyrchu, pan yr oedd pob ffrwd arall wedi sychu i fyny. Er nad oedd ei dy felly gyda Duw; dyna oedd ei holl ddymuniad, er nad oedd yn peri iddo flaguro. Pa beth yw ffrydiau yr afon. HAKES BTWTD

yma, ond y cysuron hyny yr oedd Dafydd yn eu mwynhau oddiwrth y cyfansoddiad dwyfol hwn? Gwaed Iesu, dylanwadau yr Ysbryd Glan, athrawiaethau ac addewidion yr efengyl, ordinhadau crefyddol a moddion gras. Mae pedair ffordd y gall ffrydiau afon lawenhau dinasvddion. - *~~

~*~...... J......-

I.5 Yr olwg arnynt. Nis gall dim fod yn fwy pleserus a dymunol ir rhai sydd yn archwaethu pryd-ferthwch natur, na rhodio wrth ochr ffrydiau bywiog a grisialaidd. Gweled y pysgod yn chwareu, yn esgyn a disgyn ar wyneb y don; y llysau gwyrddleision yn ymsymud a siglo ar wyneb y crych gloy w; swn y dyfroedd yn llithro heibio ir clogwyni, ar hyd y ceryg llyfnion; lliw y gwaelod yn ymddangos trwy belydr yr haulwen yn y ffrwd, ar awel yn brigwynu symudiad y crych; y prenau yn ymestyn ac yn plygu eu brigau ar hyd yr ochrau, yn cusanu y dwfr; y coed llathraidd ac uchel-frig yn cysgodi a gorchuddio wynetpryd yr aber oddiar y clogwyni ar pantau cylchynog. Dyma le i ddyn o feddwl ac archwaeth i fyfyrio; ir bardd i chwareu ei awen fwyn, ar arluniwr ei bwyntil. Ond beth yw yr olwg a gaiff y Cristion wrth syllu ar ei ffynonau ef? Mor amrywiol, mor anwyldeg, ac mor argraffiadol ar ei feddwl ai galon yw y gwrthddrychau a ymddangosant iddo! Bydd melus fy myfyrdod am danomi a lawenychaf yn yr Arglwydd.

i f 2.)Masnach. Mae yn annhraethol fanteisiol i ddinas j focTyn agos i ddyfroedd, gan ei fod nid yn unig yn I gwneyd masnach yn alluadwy, ond hefyd yn hawdd ac I nelaeth. Humber sydd wedi gwneyd Hull mor enwog, | a Thames, Lundain. Trwy nerth afonydd a dyfroedd y

Y PAECH. JEJTKIN


 



(delwedd B0213)

(x213)

I

mae marsiandiaeth yn cael ei gario o amryw ddinasoedd i eithafoedd y ddaiar, au hynodi mewn cyfoeth a gwychder. Ar hyd y ffrydiau hyn y maer Cristion yn derbyn cyfoeth iw enaid, ie, trysorau annhraethol eu gwerth a pharhaus.
Trwy y rhai hyn y mae yn delio ar wlad bell. Gwell yw ei marsiandiaeth hi na marsiandiaeth o arian, ai chynyrch hi sydd well nag aur coeth.

/ 3.}Ffrwythlonrwydd. Meddyliwch am dir sych, lle na3 oes dim dwfr iw gael; mor ddymunol fyddai ffynonau dyfroedd yn ymwthio or creigiau ar bryniau llwm, ar hyd y tywod melyn, ar eu goriwaered, er cynyrchu y borfa a chorsenau brwyn. Dewisodd Lot wastadedd Sodoma, yn agos ir lorddonen, am ei fod yn ddyfradwy fel gardd yr Argwydd.

A ddarllenasoch chwi erioed eiriau Balaam, yn darlunio gwynfydedigrwydd Israel. Ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afon; fel olewydd a blanodd yr Arglwydd; fel cedrwydd wrth ddyfroedd. Onid y Cristion yw y pren a blanwyd wrth afonydd dyfroedd, yn tyfu mewn bywyd dwyfol, wedi ei add-urno a grasau yr Ysbryd, yn pyngu a ffrwythau cyfiawnder, trwy Iesu Grist, er mawl a gogoniant Duw.

s**\

(4.
Er cyflenwi angen. Beth a wnelai dinas heb yr elfen ddyfrllyd, werthfawr? Bob amser amcanar gelyn atal ffordd y dwfr ir ddinas, er mwyn iddi roddi fyny iddo. Yr oedd rhifedi llu brenin Assyria gyda Eab-saceh yn bostio, mai a gwadn ei esgid y buasai yn sychu dyfroedd Jerusalem. Ni bydd ar y saint eisiau. O deuwch ir dyfroeddy dwfr a roddwyf fi iddo a

HANES BTWYD


 



(delwedd B0214)

(x214)

fydd ynddo yn ffynonos oes ar neb syched, deued ataf fi ac yfedcymerwch o ddwfr y bywyd yn rhad.

If such the sweetness of the stream,

What must the fountain be, Where saints and angels draw their bliss

Immediately from thee?

PEEGETH.

Nac ymrysonwn a Duw.Act. xxiii. 9.

~*\ I.1 Dangoswn pa fodd y gellir dyweyd fod dynion yn

ymryson a Duw:

1. Pan y byddont yn casau ac yn anmharchu ei bobl.

2. Pan y byddont yn atal ac yn dystewi ei weinidogion i bregethu. Chwithau hefyd a erlidiant.
Y gyfraith o unifurfiad a daflodd ddwy fil o weinidogion ou swyddi. Lladd ei dystion.

3. Yla dangos gwrthwynebiad ir gwirionedd. Jer. xliy. 16,17. Y maent i bob gweithred dda yn anghy-meradwy.

4. Pan yn amlygu anfoddlonrwydd, a beio gweinyddiadau ei ragluniaeth. Job xl. 2. Ai dysgeidiaeth yw ymryson ar Hollalluog?
Esa. xly. 9. Gwae a ymrysono ai luniwr. Rhuf. ix. 20. - Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti, yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? Yn dyweyd, Da yw ymddigio yn erbyn Duw. Esa. yiii. 21. Pan y byddo Duw yn taro, mae y pechadur am daro yn ol.

5. Pan yn mygu argyhoeddiadau, gan wneyd trais au cydwybodau. Gwnaeth y cyn-ddiluwiaid hyn dan bregethiad E~oah, ar Iuddew anghrediniol dan wein

Y PARCH.
JENKIN JBKKINS.


 



(delwedd B0215)

(x215)

idogaeth yr apostolion. Act. xxiy. 25. Dos ymaith ar hyn o amser, &c. Mat. xiii. 14, 15. Gan glywed yjcjywch, ond ni ddeallwch. \Iu Ystyriwn ddrygedd y fath ymddygiad.

1. Ms gall gelyniaeth yn erbyn Duw ddeilliaw ond oddiar anwybodaeth o Ddtiw, a thyb hunanol on doethineb ein hunain. Jer. v. 3, 4.

2. Mae yr ymgyrch hwn yn wag a disylwedd. 1 Cor. x. 22. Ai gyru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef? Esa. xl. 21. Yr hwn a wna yn ddiddym farnwyr y ddaiar, &c. Caled yw gwingo yn erbyn symbylau. Luc xiy. 31. Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, &c.

3. Bydd y diwedd yn druenus. Mewn ymrysonau eraill, dichon y canlyniad fod yn amheus.
Yma mae yn sicr o fyned yn erbyn y dyn. Job ix. 4. Mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth, &c. Heb. x. 31. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw.

4. Gwell yw dyfod i gymod ag ef gyda brys. Mae y ffordd yn rhydd, Cyfryngwr yn barod, a heddwch trwy waed y groes. 2 Cor. v. 19, 20. Sef bod Duw yn Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun. Mat. v. 25. Cytuna ath .wrthwynebwr ar frys. Esa. xxvii. 5. Neu ymafled yn fy nerth, fel y gwnelo heddwch a mi, ac efe a wna heddwch a mi.

5. Os na wneir i fyny yn y byd hwn, bydd yn rhy ddiweddar am byth. Yn awr yw yr amser cymeradwy. Yn y byd a ddaw bydd y gagendor wedi ei sicrhau. Ps. 1. 21, 22. Deallwch hyn yn awr, y rhai ydych yn annghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, fel na byddo gwaredydd. Hyn a wnaethost, a minau a dewais.


 



(delwedd B0216)

(x216)

ttANES BYWYD

PKEGETH.

Yr hwahefyd aaseliodd.2 Cor. i. 22.

Yr Ysbryd Glan yn cael ei osod allan fel sel, a chredinwyr yn derbyn argraff ei sel ar eu calonau au meddyliau.

I. Sel oedd yn cael ei defnyddio i gadarnb.au ac awd-urdodi ysgrifen-brawf (document). Gwelwn hyn yn Jer. xxxii. 9, a Nek. ix. 38. Holl fendithion cyfamod Duw sydd yn cael eu selio drosodd gan yr Ysbryd il credadyn pan yn edifarhau a chredu yr efengyl.

II. Yr oedd sel gwr yn cael ei rhoddi ar ei eiddo, iw wahaniaethu oddiwrth eiddo pawb arall. Bzec. ix. 4; Dat. vii. 2. Wrth ein hy.sbryd y gwyddys eiddo pwy ydym. Os eiddo Duw, yr ydym wedi ein selio gan Ysbryd Duw. Yr ysbryd sydd yn tystiolaethu.

III. Sel a osodir i ddiogelu pethau gwerthfawr. Yn awr y saint yw y jewels, ar llythyrau. Yr Ysbryd sydd yn selio ei bobl, a phob peth a feddant i fywyd tragywyddol.

IV. Trwy selio y mae delw gwr yn cael ei rhoddi ar ei eiddo. Felly mae yr Ysbryd wrth selio plant Duw yn gosod delw Duw ar ei eiddo, sef goleuni, gwirionedd, cyfiawnder, cariad, santeiddrwydd, a ffyddlondeb, &c. Dyma y sel sydd ar yr holl deulu. Pa le bynag y gwelwch un o deulu Duw, yno y gwelwch ei ddelw ef hefyd.

1. Dynion sydd yn dangos yr Ysbryd y seliwyd hwynt ag ef.

2. Na thristawn yr Ysbryd an seliodd hyd ddydd prynedigaeth.

T PAKCH. JERKIN JENKINS.


 



(delwedd B0217)

(x217)

3. Cysurus yw bod dan sel y Brenin byth ac yn dragywydd. Ioan i. 29. Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.

I. Yr enw a roddir i Iesu Grist, Oen Duw.
Oen oedd arwyddlun o

1.
Ddiniweidrwydd, dieuog, didwyll, dilygredd, perffaith, difai.

2. Amyneddgar ac addfwyn, yn ngwyneb dirmyg a gwawd Pilat, ar archoffeiriad. Fel oen yr arweiniwyd efirlladdfa.

3. Defnyddioldeb.Ei gnawd yn fwyd yn wirei waed yn ddiod yn wir; ai wlan yn wisg oreucyfiawnder y saint.

4. Oenaberth dyddiol dros bechodau dyddiol y genedl.

5. Oen y Pasgaberth mawr blynyddol dros y genedl; yn oen blwydd, perffaith-gwbl, or gorlan, ai ladd yn nghanol y gynulleidfa; ei rostio, heb dori asgwrn o hono; ei waed ar gapan y drws ac ar y ddau ystlys-bost, i ddiogelu ei holl deulu. O! edrychwn arno trwy ffydd, nes byddo ein calonau yn cynesu ato.

6. Iesu oedd Oen Duw yn ei briodol ystyr; ei unig-anedig Fab, ei hanfodol gydradd, uwch nac angelion, wedi ei ethol, ai anfon, ai uno ar natur ddynol; yr hwn a roddodd ei hun yn aberth dros bechodau y byd; yr hwn a gymeradwywyd gan y Llywydd ar ei orseddfainc.

II. Yr hyn y mae Iesu Grist yn ei wneyd fel Can Duw tynu ymaith bechodau y byd.

1. Tynu ymaith bechodau y byd.Trwy ei ufudddod ai angau; fe dynodd ymaith y felldith oddiar bob un sydd yn credu, &c. Anrhydeddodd y gyfraith, bu farw yn



 



(delwedd B0218)

(x218)

HANES

Y PARCH.
JElfKUT JENKINS. aberth dros bechod. Tit. n. 4. Dat. v. 9. Eph. i. 7. Heb. ix. 26. 1 Ioan ni. 5, a iv. 14. 1 Tim. n. 36.

2. Y mae yn tynu ymaith euogrwydd pechod pob un a edifarhao ac a gredo, drwy faddeu, cyfiawnhau, mabwysiadu.

3. Y mae yn tynu ymaith halogrwydd pechod trwy ei ras, ei Ysbryd, ai waed golchi, a phuro. Heb. xii. 24. Esa. liii.

III. Y sylw difrifol a weddai y pethau hyn gael. Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau

1. Wele Oen Duw yn nirgeledigaethau ei gnawdoliaeth. O mor isel y daeth.
Rhyfedd ei gyfansoddiad. Mab a roddwyd; Emmanuel, Duw gyda ni.

2. Wele ef yn rhyfeddodau ei fywyd bywyd santaidd, gofidus, hunanymwadol, dyoddefgar, eto yn wyrth

O drugaredd a gras.

3. Wele ef yn nyfnderoedd ei ing yn Gethsemane, ai enaid yn aberth dros bechod, yn yfed y cwpan erchyll, yn drist hyd angau.

4. Wele ef yn nyoddefiadau a dirmyg y groes, yn cael ei lusgo i ben Calfaria ei groeshoelio rhwng dau leidr, yn marw dan dywyllwch y nefoedd, cryndod daiar, a rhwygiad y creigiau.

5. Wele ef yn adgyfodi oddiwrth y meirw yn angau

1 angau, yn dranc ir bedd; caethiwodd gaethiwed, derbyniodd roddion i ddynion.

6. Wele ef ar ei orsedd gyfryngol. Gorphwys yn lle llafur, gogoniant yn lle dirmyg, eistedd ar ddeheulaw Duw yn lle y groes.

Pa fodd y mae i ni edrych ar Oen Duw?

 

 




 



(delwedd B0219)

(x219)




1.
Gyda pharch a gostyngeiddrwydd yn edrych ar Arglwydd y lluoedd.

2. Gyda chalon ddrylliog, a chywilydd wyneb o herwydd pechod.

3. Gyda llygad ffyddiog at yr hwn a fu farw yn ein lle.

4. Gydag ymgysegriad diolchgar iddo or hyn oll ag ydym.

5. Gyda goruchel barch iddo, a hyfrydwch ynddo. (1.) Cymellwch bawb i edrych arno, a rhoddi eu

hunain iddo.

(2.) Yr holl fyd ai gwel cyn bo hir.

(3.) Y saint a gant ei weled cyn bo hir mewn gogoniant.

PEEGETH.

Yr hwn yn ein hisel radd an coflodd ni, o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.Salm cxxxvi. 23.

I. Ein sefyllfa isel. Yr hwn yn ein hisel radd.

1. Isel radd fel teuluon tad diafol, a hwnw yn gelwyddog or dechreuad; yn rebel yn erbyn Duw slanderer, llofrudd, anghyfiawn, ansantaidd, yn cynhyrfu pob drwg sydd yn y byd; yn achos o bob gofid ag y cyfarfyddodd y byd ag ef erioed.

2. Isel radd o ran ein cymeriad. Criminals condemniedig, yn y carchar gan ddwyfol gyfiawnder, cortyn am y gwddf, dan y ddedfryd.

3. Yn y carchar, yn slaves i ddiafol an nwydau llygredig ein hunaiu, yn feddwon, yn lladron, yn gas genym Dduw.

4.
Yn dlodion, noeth, newynog, aflan, a dilewyroh.


 



(delwedd B0220)

(x220)

HASTES B1WTD

5. Yn afiachus, yn wallgofus, yn sicr o farw oni cheir meddyginiaeth.

6. Yn ddibarch, yn ddigyfeillion, heb lygad yn tosturio wrthym.

II. Yr hwn, sef Duw, yn ein hisel radd an cofiodd m. Nyni wrthryfelwyr annheilwng, nyni blant diafol, nyni a haeddodd fod yn uffern byth ac yn dragywydd. Coflodd m,

1. Yn ei dragywyddol arfaeth, cyn bod y byd.
O diolch iddo.

2. Cofiodd ni, ac a wnaeth drefn in hachub on holl drueni an hiselder mawr.

3. Cofiodd ni, ac nid arbedodd ei briod Fab, ond ai traddododd ef drosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?

4. An cofiodd ni, ac a ddanfonodd ei efengyl, ai weision, a chenadwri y cymod atom ni, gan ddeisyf dros Grist, Cymoder chwi a Duw.

5. An cofiodd ni, gan orchymyn iw holl ragluniaethau i fod yn foddion i ddeffroi ein meddwl cysglyd, fel Manasseh yn y dyrysni, ar afradlon yn ei newyn.

6. An cofiodd ni, ac a gynhyrfodd ei deulu i arfer moddion gras, cyrddau gweddio, ysgol Sabbothol, esbonio yr Ysgrythyrau, canu mawl, egwyddori, cyngori, a rhoddi esiamplau da on blaen.

7. An eofiodd ni, drwy gynhyrfu ei deulu i ddylanwadu arnom ni; fel y gaethes yn nhy Naaman, fel yr hen wraig o Samaria, ac fel y rhai hyny oedd yn llefaru bob un wrth ei ^ymydog.

8. An cofiodd ni, ac a ddanfonodd ei Ysbryd i godi a donio gweisiou, a chynorthwyo ei deulu yn ei waith mawr; i ddylanwadu trwy y moddion i argy-

T PARCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0221)

(x221)

hoeddi y byd o bechod, i droi o dywyllwch i oleum, o feddiant satan at Dduw, i ail eni, i weled Crist ac i gredu ynddo, a chael bywydmaddeuant, heddwch, mabwysiad i deulu Duw, ac i holl ragorfreintiau ei drefn rasol ef.

III. Y cynhyrfiol achos o gael ein cofio yn ein hisel radd.
O herwydd fod ei drugaredd yn parhau yn dragywydd. Paham y cofiodd Duw hwynt yn eu hisel radd?

1. Nid o herwydd eu bod wedi cael cam; O nage, yr uniondeb mwyaf a gawsant. Ein bai mawr oedd, pechu yn erbyn Duw.

2.
Nid am eu bod yn analluog i gadw deddf Duw, ond eu hanallu oedd eu cariad at bethau gwaharddedig.

3. Nid oblegid iddynt gael eu twyllo. Cywilydd wyneb iddynt gymeryd eu twyllo gan elyn, nas gallai wneyd dim niweid iddynt.

4. Nid am eu bod yn ceisio trugaredd. Nid oedd neb yn ceisio Duw.

5. Nid am eu bod yn haeddu; haeddu eu damnio byth yr oeddynt.

6. Nid am i Grist farw; ond fe garodd fel y rhoddodd ei anwyl Fab i farw, fel y byddai byw pawb a gredant yn ei enw ef.

2. O herwydd ei drugaredd. Efe a fwriadodd ein cofio ni; fe wnaeth drefn addas, ar bob ystyr, in cofio ni; a dygodd ni i edifarhau, i gredu, ac i dderbyn y drefn hono; o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd, am hyny y mae yn parhau i gofio rhai yn eu hisel radd, yn eu dwyn i afael trefn achub, au cynal ar daith yr anialwch; efe au cynal i fyned trwy yr lorddonen, a thrwy y farn; yr hwn yn ein hisel radd an cofiodd ni yn mhob amgylchiad.


 



(delwedd B0222)

(x222)

HANTSS BTWYD

PKEGETH.

Owyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal betmydd wrth fy nrysau, eaa warchod wrth byst fy rhkyrth i. Diar. viii. 34.

I. Sylwn ar lefaru Grist, ac iawn wrando arno.

1. Beth a ddywed Crist wrthym, felv Cyfryngwr. (1.) Ein bod wedi pechu, a myned yn ol am ogon

iant Duw; ein bod wedi ein damnio, Duw wedi digio, yr orsedd dan gwmwl; teulu wedi gwrthryfela, y gyfraith wedi ei throseddu.

(2.) Bfe a ddywed am drein fawr ei Dad i gadw yr euog; iddo ddanfon ei Fab i geisio ac i gadw y rhai a gollasid; yn lawn dros bechod, i ddatod gweithredoedd y diafol.

(3.) Efe a ddywed am reol derbyniad ir drefn edifeirweh tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, ufudddod iw gyfreithiau, hunan-ymwadiad a phob arglwyddiaeth arall, ai ganlyn yn y byd.

2. lawn wrando ar Grist.

(1.) Gwrando yn astud, am fywyd, yn ddeallus.

(2.) Ffydd sydd yn dyfod trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.

(3.) Deigryn ar lygaid ffydd yw edifeirweh tuag at Dduw.

(4.) Ffydd sydd yn derbyn Crist, yn ufuddhau iddo, yn hunan-ymwadu, codir groes, ai ddilyn trwy glod ac anghlod.

II. Gwylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau.

Nodwn ar ddrysau Duw i gyfranu. Darllen, myfyrio, gweddio, canu, addoli yn ddirgel, teuluaidd, a chyhoeddus. O nior ddyfal bennydd y mae yr euaid newynog wrth ddrysau ei Dduw. yn gwylio am gardod.

T PARCH. JEKKIIf JENKISTS.


 



(delwedd B0223)

(x223)

III. Gwarchod wrth byst fy mhyrth i.

1. Pyrth Duw sydd fel pyrth y dinasoedd gynt. Yma yr oedd eisteddfa cyngor, barn, cyfarwyddyd, ac amddifFyniad.

2. Wrth byst fy mhyrth. Dyma holl swyddogion eglwys Dduwesgobion, henaduriaid, efengylwyr, ac athrawon, &c.

3. Yr holl deulu yn gwarchod yma, wrth enau yr henuriaid. Y pregethau, cyfarfodydd gweddio, yr ysgol Sabbothol; yma y maent yn cael Crist, a phob goleuni, cyfarwyddyd, a nerth, iw ddilyn yn y byd. Yma y maent yn gwarchod ddydd a nos, fel tlodion wrth elusendy, a chleifion wrth feddygdy.

4. Byddant yn fuan yn myned trwyr pyrth i deyrnas nefoedd.

IV. Gwyn ei fyd, canys y neb am caffo i a gaiff fywyd, ac a feddiana ewyllys da gan yr Arglwydd.

1. Caiff fywyd.

(1.) O heddwch a chymeradwyaeth gyda Duw.

(2.) Fywyd rhydd oddiwrth lywodraeth pechod, ai ganlyniadau.

(3.) Fywyd o santeiddrwydd ger bron Duw a dynion.

(4) Fywyd o dderchafiad ir berthynas uchafmeibion Duw.

(5.) Fywyd o anrhydedd ar dedwyddwch mwyaf.

2. Ac a feddiana ewyllys da gan yr Arglwydd. (1.) Ewyllys da Preswylydd y Berth. Yn ei ffafr y

mae bywyd, ac yn ei wg y mae marwolaeth,

(2.)
Os cael ewyllys da Duw, y mae yr oll a fedd, ar

oil a all, on plaid, er ein cysur an dedwyddwch.
1. A ydym ni yn gwrando arno. 2. Yn gwylio yn

ddyfal.
3. Ac yn gwarchod wrth byst ei byrth. Gwyn

dy fyd.


 



(delwedd B0224)

(x224)

HANES BYWTD

PBEGETH.

Yr iachawdwriaeth sydd yn Ngkristlesu.~2 Tim. il. 10. I. Y testyn a ddengys i ni y gogoneddus Waredwr, Iesu Grist.

1. Crist, neu Eneiniog. Crist oedd, nid yn unig yn rhodd y Tad, ond yn rhodd neillduedig ac eneiniedig Duw i ni bechaduriaid; wedi tywallt ei Ysbryd arno yn ddifesur, gan ei osod ai law ei hun yn Gyfryngwr cyfamod newydd, yn Frenin, Prophwyd, ac Offeiriad.
Dent, xviii. 15. Heb. ni. 1. 1 Tim. vi. 15. Luc. iv. 18.

2. Iesu, hyny yw, Achubwrwedi ei eneinio yn Waredwr. Pel Gwaredwr, y mae yn feddianol ar anfeidrol urddasolrwydd, hollalluog allu, diderfyn dosturi, a dihysbyddol haeddiant.

II. Yr hyn sydd yn Nghrist Iesuyr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu. Yr iachawdwriaeth a gynwys fod euogrwydd a thrueni, ac yn tybied gwaredigaeth oddiwrthynt. Yn awr, yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu

1. Sydd iachawdwriaeth berflaith, hollol, gwbl, i ddileu euogrwydd, i ddiffodd trueni, gwaredu o berygl, cyflawnhau, maddeu, heddychu, adnewyddu ar ddelw Duw, a derchafu i fywyd tragywyddol gorflf ac enaid.

2. Sydd iachawdwriaeth bresenol, nid un i ddyfod. Bi gwaredigaethau ai mwynhad sydd iw meddianu yn awr. Yn awr yw yr amser cymeradwy. Trwy-ras yr ydych yn gadwedig. Ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. A wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.

3. Sydd iachawdwriaeth dragywyddoliachawdwr-

T PARCH. JESTKI5T JBKKINS.


 



(delwedd B0225)

(x225)

iaeth cyhyd a pharhad yr enaid. Minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol. Gogoniant tragywyddol. 2 Tim. n. 1. Gan gael i ni dragywyddol ryddhad. Heb. ix. 1215. Y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.

III. Y testyn an cyfarwydda at yr unig ffynon lle mae cael yr iachawdwriaeth. Yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu.

1. Iachawdwriaeth sydd yn ei berson. Efe yn bendant yw yr iachawdwriaeth. Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth.
Esa. xii. 2, a xlix. 6. Simeon a ddywed iddo weled Crist Fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, yr hon a barotoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd.

2. Iachawdwriaeth sydd yn ei waed ef. Efe yw yr lawn. Trwy ffydd yn ei waed ef. Rhuf. ni. 25. Prynedigaeth trwy ei waed ef. Eph. i. 7. Col. i. 14. Wedi ein prynu a gwerthfawr waed Crist, megys oen difeius. 1 Pedr i. 18, 19.

3. Iachawdwriaeth sydd yn ei enw. Canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. Act. iv. 12. Nid oes iachawdwriaeth yn neb aralL Maddeuant pechodau yn ei enw ef. Pregethu yn ei enw ef. Mabwysiad trwy gredu yn ei enw ef. Ioan i. 12. Y caffoch fywyd yn ei enw ef.

4. Iachawdwriaeth sydd yn Ngair neu efengyl Crist. Atoch chwi yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. Act. xiii. 26. Efengyl eich iachawdwriaeth. Eph. i. 13.

5. Iachawdwriaeth sydd rodd Crist. Minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol.
Ioan x. 38. Coron cyfiawnder, coron y bywyd, coron y gogoniant. 226

HASTES BTWTD


 



(delwedd B0226)

(x226)

2 Tim. iv. 8. 1 Pedr v. 4. Dat. n. 10. Ioan xyii. 2, a

Ti. 8.

6. lachawdwriaeth sydd yn gynwysedig yn benaf mewn mwynhad o Gristei ffafr, ei ddelw, ei bresenoldeb, ai deyrnas.

(1.) Bechadur, wele Berson addas i ti, ac iachawd-wriaeth gyflawn ynddo.

(2.) Yn awr, yn ddioed, dere yma i ymofyn am dani.

(3.) Gochel ir tymor fyned heibio er dy fywyd.

(4) Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall.

PKEGETH.

eithr

Y peth yr wyf fi yn ei wneyd, ni wyddost ti thr ti a gei wybod ar ol hyn.loan xiii. 7.

yr awr hon;

I. Y mae ymdriniaeth Duw gydai bobl yn fynych yn dywyll a dirgelaidd iawn. Ni wyddost ti yr awr hon.

1. Cyfeiriwn hyn at yr oesoedd gynthanes Jacob, &c.; Israel yn cael eu harwain ddeugain mlynedd, daith pymtheng niwrnod; Lazarus yn marw; dyoddefiadau ei bobl yn y byd; Blias yn yr ogof; Jeremian yn y carchar; Daniel yn ffau y llewod; y llanciau yn y ffwrn dan; tori pen Ioan yn y carchar.

2. Edrychwn ar yr oes bresenolpobl Dduw mor ychydig ydynt mewn cydmariaeth ir lluaws, &c., mor dlawd, mor gystuddiol; mor uchel, mor gyfoethog yw anflyddwyr, &o.; yr eglwys fel gardd fechan, ar byd mawr, eang, yn ddiffeithwch, &c.

3. Nid yw yr Arglwydd yn bresenol yn chwenych i

T PARCH. JEWKITf


 



(delwedd B0227)

(x227)

ni wybod y dirgeledigaeth.au hyn. Nid ydym eto wedi ein cymwyso i. edrych ond ar y pethau presenol yn unig. Nis gallwn edrych yn ol nac yn mlaenein goleuni sydd anmherffaithuid dydd, ac nid nos. Gwy-bod dirgeledigaethau an hangymwysa i ddefnyddiol-.deb a mwynhad.

TI. Y dirgeledigaethau yma a gdnt eu hollol ddad-guddio.
Ni wyddost ti yr awr hon; eithr ti a gei wobod ar ol hyn.

1.
Llawer o bethau a wybyddir ar y ddaiar. Jacob a wybu nad oedd pob peth yn ei erbyn yma ar y ddaiar. Dyddiau diweddaf Job oeddynt ragorol; Martha a Mair a wybuant paham na ddaeth Iesu cyn marw eu brawd; llawer sydd yn awr yn gwybod beth oedd y bwlch cyfyng yma, ar adwy galed acw; pob peth yn glir yn awr.

2. Yn y nefoedd y cawn wybod y cyfan yn berfiaith. Yno y bydd galluoedd ein gwybodaeth yn berflaith, digwmwl, a thragywyddol oleuniyn perffaith weled cysondeb holl oruchwyliaethau Duw tuag atom.

III. Y dylanwad ymarferol a weddai ir mater hwn gael arnom ni. Fe ddylai gynyrchu

1.
Presenol foddlonrwydd.Y peth yr wyf yn ei wneyd. Y mae yn gwneyd pob peth yn ddoeth ac yn dda, yn berflaifch, a ffyddlon. Efe yw ein Tad, ein Achubwr, ein Brawd, an Priod, &c.

2. Meddyginiaeth ddifiael i anobaith. Nid yw gorchwylion y byd, nar eglwys ychwaith, yn llaw Satan, nac yn llaw dynion, nac yn ein llaw ein hunain. Yr Hollalluog sydd yn cynal, yr Anfeidrol ddoeth sydd yn cyfarwyddo, ac yn goruwchlywodraethu pob peth er ei ogoniant ei hun, a lles ei anwyl deulu yn y byd.

3. Bydded ynom amynedd i ddisgwyl am ddadgudd-


 



(delwedd B0228)

(x228)

HANKS BTWTD

iad gan yr Arglwydd yn ei amser da ei hun. Ein braint yw disgwyl yn ffyddiog wrtho.

4. Ein cynhyrfu at bob dyledswydd. Dyledswydd sydd yn wastad yn eiddom ni; digwyddiadau yn eiddo Duw. Dan. xii. 13.

5. I godi hiraeth am y nef. Sefyllfa aniheus nid yw ddymunol. Yn awr mewn cyfyng-gyngormewn rhan yn oleu. Yno yn glir, boddhaol, perffaith wybodaeth llawenydd annrhaetbadwy a gogoueddus; y pur o galon yno yn gweled Duw.

(1.) Gwelwn ein anmherffeithrwydd presenol. (2). Eboddwn ein holl achos yn ei law, ac ufuddhawn iddo yn hollol.

(3.) Cawn ddeongliad oi holl ffyrdd yn y nef. (4.) Pwy heddyw a rydd ei achos yn ei law fawr?

PEEGBTH.

Na chofia yr anwireddgynt in herbyn; brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni, canys llesg yn gwnaethpwyd. Salm Ixxix. 8.

Y testyn a gynwys weddi addas ir duwiol yn mbob amgylchiad. Nid yw yn bosibl-teimlo ein annheilyngdod yn rhy ddwys, neu alaru am ein pechod yn ormodol ger bron yr Arglwydd, gan hyny cymwyswn y testyn at ein heneidiau ein hunain, ac mewn ysbryd cywir a difrifol, llefwn ar yr Arglwydd, Na cbofia yr arwiredd gynt.

I. Poenus ir Gristion yw edrych yn ol ar ei anwiredd gynt. Dau ddosbartb, y rhai ydynt,

1. Y rhai hyny a gyflawnasom cyn ein dychwelyd.

Y PAECH. JENKIS JENKIKS.


 



(delwedd B0229)

(x229)

Er i Dduw oi ras eu maddeu y dydd y dycbwelasom ato yn edifeiriol, eto yr ydym yn cofio eu mawredd au drygedd, ar drugaredd au maddeuodd.

2. Yr anwiredd a wnaethom ar ol cael maddeuant, cymeradwyaeth, a mabwysiad i deulu Duw; rhai o wendid, rhai trwy rym profedigaetb, a llawer iawn o gariad at bechod. Cywilydd wyneb, a galar, a hunan-ffieiddiad, a weddai i ni ger bron Duw. Fe weddai i ni eu cofio, in cadw yn wastad yn y llwch wrth ei draed.

II. Teimlad isel presenol oi herwydd. Canys llesg yn gwnaethpwyd.

1. Weithiau yn isel iawn o fwynhad; dim archwaeth at bethau ysbrydol, dim heddwch, dim llawenydd, &c.

2. Yn isel iawn, bron yn anobeithiol; yr enaid wedi ei daflu i lawramheuon ac ofnaurhyw ddydd y syrthiaf yn llaw Saul, bron a llesmeirio.
O mor Iesg!

3. Llesg iawn. Cystudd corfforol, gwendid medd-wl, dyddiau blin a nosweithiau gofidus, &c.

III.
Gweddi addas in sefyllfa. Na chofia yr anwiredd gyntos creffi ar anwiredd, O Arglwydd, pwy a saif?

1. Mae yn ymbil am i gosb pecbod gael ei throi ymaith. Na, chofia yr anwiredd gyntac na chosba fi yn dy lid.

2. Mae yn gweddio.
Rhagflaened dy dostur drugareddau ni. Nid oes dim mor addas a thrugaredd in hymgeleddu yn mhob amgylchiad, ac in rhagflaenu rhag pechu yn erbyn Duw, rhag myned i dir rhyfyg, a rhag, ar y llaw arall, fyned i dir anobaith. Rhagflaened dy dostur drugareddau ni.

3.
Mae yn gweddio am gymorth uniongyrchiol Brysia. Y presenol yw amser Duw bob amser, ac a


 



(delwedd B0230)

(x230)

HASTES BYWYD

ddylai fod ein hamser ninau hefyd. Yn awr yw yr amser cymeradwy.

CASGLIADAU.

1. Bydded ir coffadwriaeth or pechodau gynt ein cynhyrfu ni i wyliadwriaeth yn erbyn pechu yn bresenol.

2. Bydded i drugaredd Duw ein cynhyrfu i ddiolchgarwch a hyder.

3. Yr edifeiriol all ddyfod yn awr i gael trugaredd.

PEEGETH.

Calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygu. Salm li. 17.

I. Sylwn ar galon gyfan, fel dinas heb ei thori, byddin heb ei dryllio ar y maes, yn gyfan yn ei sefyllfa.

1. Wedi ei hamgaeru ag anghrediniaeth, ai thoi hefyd.

2. Am hyny yn byw yn ddiserch at Dduw, a santeiddrwydd.

3. Yn anedifeiriol o herwydd pechu yn erbyn Duw.

4. Yn anufydd, yn annerbyniol or efengyl, yn wrthryfelgar.

II. Y moddion y mae Duw yn ddefnyddio i ddryllio y galon, i ddryllio caerau anghrediniaeth, ai dyrau, ar pyrth.

1. Addysg rhieni, perthynasau, athrawon ysgol Sab-bothol, deddf, efengyl, cystudd, rhagluniaeth, Boanerges, Meibion Diddanwch, gweddiau, cydwybod, ar Maes-lywydd, yr Ysbryd Glan.

Y PARCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0231)

(x231)

2. O y rhyfel caled sydd i dori mur anghrediniaeth sydd yn amgylcliynu y galon! Ond pan dorer, dynar galon wedi dryllio, y pyrth wedi agor, ar tyrau wedi syrthio.

III. Yn awr darluniwn galon ddrylliog gystuddiedig.

1. Wedi ei dryllio, y maer goleuni wedi tywynu ynddi, y mae yn awr yn gweled ei thruenus gynwr ai phechod.

2. Wedi gweled, y mae yn teimlo cywilydd a galar o herwydd pechu.

3. Yn dwfn ymostwng ger bron Duw, mewn sachlian.

4. Yn gadael ei bechod, ac yn dychwelyd at yr Arglwydd.

5. Yn diolch, ac yn derbyn Mab Duw, a threfn ei ras.

6. Efe a wna wir a difrifol ymofyniad am iachawd-wriaeth, fel Manasseh, y tair mil, a cheiwad y carchar.

IV. Pedwar cyngor ir galop ddrylliog gystuddiedig.

1. Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled at yr Arglwydd.

2. Ymofyned am faddeuant a chymeradwyaeth, trwy ffydd, ac edifeirwch yn enw a haeddiant Iesu Grist, y Cyfryngwr.

3. Listied tan ei faner o galon, a bydded ffyddlon iddo.

4. Bydded fyw ar ras ei Arglwydd, i fynegu ei rinweddau.

V. Ni ddirmyga Duw y galon ddrylliog gystuddiedig.

1. Na wna, mae hyny yn groes i natur rasol Duw.

2. Na wna, mae hyny yn groes i drefn rasol Duw ei hun.

3. Na wna, mae hyny yn groes iw eirwiredd ei hun.


 



(delwedd B0232)

(x232)

SANES BYWYD

4. Na wna, mae hyny yn groes iw gyhoeddiad brenhinol. Deuwch ataf fi, bawb sydd yn llwythog a blinderog. Salm xxxiv. 18. Bsa. i. 18. Byddant fel gwlan.
Esa. Ivii. 15. Mat. xi. 28.

5. Na wna, mae hyny yn groes iw hen ai hoff ymddygiad tuag at y drylliedig o galonManasseh, Da-iydd, y Publican, Magdalen, Zaccheus, pnblicanod a phechaduriaid, y lleidr, y tair mil, Saul o Tarsus, y Goririthiaid; derbyniad dieithriad a gafodd pob un drylliedig o galon gan Iesu Grist erioed.

2. M ddirmyga Duw y galon ddrylliog gystuddiedig.

(1.) Ond efe au derbynia iw ras maddeuol ai ffafr.

(2.) Iw dy ai deulu, fw hymgeleddu, eu santeiddio, eu dysgu, eu harwain, au cymwyso i fod yn eiddo iddo.

(3.) Efe au derbyn iw ogoniant byth ac yn dragywydd.

CASGLIADAU.

1. Calon gyfan raid farw.

2. Deffroed y rhai difraw.

3. Gobeithied y drylliedig o galon yn ei Dduw, &c.

PEEGETH.

Ac i Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol. 2 Cor. ix. 15

I. Y rhodd y cyfeirir ati.Y rhodd yw yr Arglwydd Iesu Grist, a roddwvd gan Dduw er iachawdwriaeth y byd.

1. Y gair rhodd sydd yn ein cyfarwyddo at yr, egwyddor rasol, ar yr hon y rhoddwyd Onst.
Nis dan-

JAKCH. JENKIN JENKIKS.


 



(delwedd B0233)

(x233)

fonwyd ef i arddelwyr cyfiawn, nac i rai yn ei haeddu; nid fel rhodd haelionus i ddeiliaid tlawd, ffyddlon, end fei rhoddwyd fel gweithred rasol a thrugarog ir tlawd truenus, gresynus, ac annheilwng.

2. Y dull yn mha un y rhoddwyd y rhodd yma.
(1.) Trwy addewid, fel in rhieni cyntafi Abraham. (2.) Mewn cysgodau, aberthau, &c.Oen y pasg, ar

aner goch.

(3.) Mewn prophwydoliaethauSiloh Jacob, Prophwyd, fel Moses; Gwaredwr Job, ir hwn y mae yr holl brophwydi yn dwyn tystiolaeth.

(4.) Yn weithredol, yn nghyflawnder yr amseryn yr amser, y lle, ar dull y rhag-ddywedwyd am dano.

3. Y dybenion mawrion a fwriadwyd wrth roddi y rhodd ymadwyfol ogoniant y rhoddwr, gwaredigaeth y byd, dymchweliad i holl alluoedd Satan.

II. Annhraethol werth y rhodd fawr yma.

1. Y mae felly yn ei gwreiddyn.Ffrwyth cariad annhraethadwy.
Felly y carodd Duw y byd. Pa faint, nis gwyr dynion nac augelion.

2. Annhraethol yn ei werth.laith sydd ry dlawd i osod allan berl mor uchel brisSeren foreu, Haul cyf, iawnder, Bara y bywyd, Bywyd y byd, Goleuni y byd, Canolbwynt y bydysawd, Ffynon bodolaeth, Gwreiddyn pob gwynfyd, Da penaf pob creadur, Cymwynaswr y ddaiar, Arglwydd y nefoedd, ai holl ogoniant.

3. Annhraethol yn ei bendithion.Rhodd yw hon yn yr hon y mae yr holl fendithion eraill yn gynwysedigrhodd y rhoddion, a chyfrwng holl drugareddau Duwgoleuni, bywyd, maddeuant, heddwch, cyfiawnhad, mabwysiad, santeiddhad, a gogoniant tragywyddol.


 



(delwedd B0234)

(x234)

HANES B1WTD

4. Annhraethol yn ei pharhad.Mae pob peth ar y ddaiar yn ddarfodedig a chyfnewidiol, ond y rhodd yma sydd arosol, anghyfnewidiol a thragywyddolyr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd.

III. Annhraethol rodd sydd yn galw am ddiolchgarwch gwresocaf. I Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol.

1. Diolchgarwch i Dduw a ddylai fod o galon wresog, edifeiriol a ffyddiogyr holl enaid, calon, a bywyd, yn diolch am y Mab.

2. Diolch weddai fod yn wastadol, bob amser, yn mhob man. Ei foliant a fyddo yn fy ngenau yn wastad.

3. Diolchgarwch a fydd gan yr holl waredigion yn y nefoedd am dragywyddoldeb. Gwrando arnynt. Dat. vii. 10. Ac yn llefain a llef uchel, gan ddywedyd, lachawdwriaeth in Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac ir Oen.
Halelnia, Amen.

CASGLIADAU.

1. Rhodd fwyaf y nefoedd.Dere yma, yr euog.

2. Trysor penaf dyn.

3. Dyledswydd pawb yw ei dderbyn, a diolch am dano byth.

PRBGETH.

Calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw ni ddirmygi. Ps. li. 17

Rhydd y Salmydd batrwn ardderchog o brofiad enaid wedi colli ei le, ac yn deimladwy o hyny yn ei wir ymostyngiad, ai wir ymofyniad am faddeuant,.adnewyddiad, a ffafr Duw.

T PAKCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0235)

(x235)

I. Ymdrechwn i ddarlunio calon ddrylliog, gystuddiedig. Nid calon ddrylliog oddiwrth golledion a thrallodion, a thristwch y byd hwn, &c., ond yn benaf o herwydd pechu yn erbyn Duw, ai lywodraeth Ian, ai efengyl rasol.

1. Calon ddrylliog sydd wedi ei thrwyadl argyhoeddi o bechod.
Nid siarad llawer heb deimlo pla y galon. Mor angenrheidiol yw gwir adnabyddiaeth on cyflwr drwg.

2. Calon ddrylliog sydd yn teimlo dwfn alar o herwydd pechu yn erbyn Duwcalon yn toddi, yn ymollwng o fiaen Duw o herwydd pechu yn ei erbyn, ei Chrewr, Cynaliwr, ai Hachubwr.

3. Calon ddrylliog sydd yn dwfn ymostwng ger bron Duw.Hunan fawr ar lawr; enaid mewn sachlian; Duw yn fawr yn ei olwff.

4. Calon ddrylliog a wna rydd a chalonog gyffesiad oi bechod. Edrychwn ar ddechreu y Salmy publican ar afradlon,

5. Calon ddrylliog a wna wir a difrifol ymofyniad am iachawdwriaeth.
Adn. 912.Manasseh, y tairmil, ceidwad y carchar, Paul. Wele, y mae efe yn gweddio, a phob enaid edifeiriol, &c.

II. I galonogi y galon ddrylliog, gystuddiedig ni ddirmygi. Na, fe edrych Duw arno gyda thosturi a thynerwch; efe a wrendy dy gwyn ath gri, efe a iacha y galon ddrylliog, efe a dry alar yn llawenydd, nos yn ddydd, a hyny dan ganu. Gallwn ymorphwys yn dawel y gwna Duw hyn. .

1. Gyda golwg ar ei ddwyfol berffeithrwydd, y mae Duw yn dda, cariadlawn, graslawn, a thragarog.

2. Gyda golwg ar ei ymddygiad at y drylliog, cystuddiedig, Agos yw yr Arglwydd at y drylliog o galon.


 



(delwedd B0236)

(x236)

HAKES BTWYD

Ps. xxziv. 18. Deuwch yr awr hon. Bsa. i. 18. Ar hwn yr edrychaf, sydd yn crynu wrth fy ngair.
Esa. Ixvi. 2. Manasseh, Dafydd, y Publican, Zeccheus, Paul, Magdalen, ar lleidr.

3. Ar ei ddwyfol gyhoeddiadau. Ps. xxxiv. 18. Mat. xi. 28.

4. Ar drefn ei ras.Y mae y cyfan yn profi na ddirmyga Duw yr enaid drylliogei ddwyfol berffeithderau, ei gyhoeddiadau, ai ymddygiadau, a threfn ei ras, oll yn dywedyd ith gysuro.

III. Cyfarwyddyd ir drylliedig, cystuddiedig o galon: 1. Gadawed y drygionus ei fforddgadawed bob pechod.

2. Gostyngedig a ffyddiog ddisgwyl wrth Dduw yn nhrefn ei ras.

3. Yn galonog ac yn hollol ymorphwys ar Berson a haeddiant Crist am gymeradwyaeth gyda y Duw y pechasom yn ei erbyn.

4. Gwisgo am danom yr Arglwydd Iesu Grist o flaen Duw a dynion, i fod yn ddysgyblion proffesedig a phenderfynol iddo bythcymeryd i fyny y groes, ai ddilyn trwy glod ac anghlod.

CASGLIADAU.

1. Rhaid ir balch, anwybodus, ar digred farw.

2. Deffroed y difater am ei fywyd.

3. Gobeithied y drylliedig o galon yn ei Dduw.

T PABCH. JBNKIK JENKINS,


 



(delwedd B0237)

(x237)

PEEGETH.

Oblegid cyd-stad ar angelion.Luc xx. 86.

Sefyllfa ddyfodol teulu y ffyddcyd-stad ar angelion. I. Dynion yn eu cyflwr gwreiddiol oeddynt islaw yr angelion.

1. Angelion a gawsant y flaenoriaeth mewn bodol-aeth. Yr oeddynt yn dystion o greadigaeth y byd; hwy a welsant ryfedd waith Duw, ac a ganasant yn nghyd. Job xxxviii. 4. S&r y boreu.

2. Angelion a gawsant drigfan mwy uchel a dyrchafedig na dyn. Dyn a grewyd or ddaiar, i fyw ac i lywodraethu arni. Angelion oeddynt i fyw yn uchel drigfanau y Goruchaf, yn llys ymerodrol Duw, yn mhresenoldeb digyfrwng y Duwdod, yn nisgleirdeb ei ogoniant, o flaen ei orseddfainc, &c.

3. Angelion a gawsant natur uwch na ni. Tebygol yw mai ysbrydion pur ydynt, wedi eu donio a galluoedd mawrion, o uchel wybodaethbodau perffaith o degwch a hawddgarwch, a nerthol i gyflawni ewyllys Duw. Dyn a wnaed ychydig yn is nar angeliony link nesaf yn ngraddau bodolaeth.

II. Y saint trwy ras a ddyrchefir yn gyd-stad ar angelion.

1. Y saint a fyddant yn gyd-stad ar angelion mewn gwybodaethcyneddfau wedi eu dyrchafucorff ysbrydol fel corff Crist.

2. Cyd-stad mewn purdeb, mewn calon a bywyd heb frycheuyn na chrychni, yn llawn o ddelw Crist

3. Cyd-stad mewn dedwyddwch. Pob achos gofid


 



(delwedd B0238)

(x238)

HANBS B1WTD

wedi darfodpob ffrwd o ddedwyddwch yn gorlifo

digrifwch yn dragywydd.

4. Cyd-stad mewn urddasolrwydd. Byw mor agos ir un orsedd, gweithio yn yr un gwaith, yn cyd-addoli yr un Duw.

5. Yn gyd-stad mewn anfarwoldeb.Yn iraidd fel angel, yn blodeuo fel ieuenctyd anfarwol, yn gyd-stad diderfyn, ja ogoneddus fodolaeth.

III. Bydd y saint ar rai golygiadau yn rhagori ar angelion mewn gogoniant.

1. Y bydd eu per lawenydd yn felysach nar eiddo yr angelion. Ni wyr yr angel ddim am lawenydd am faddeuant peeked, am waredu oddiwrth felldith deddf, a thragywyddol wae, &c.; edrych yn ol ar y trueni a haeddasantedrych yn mlaen ar y drugaredd.

2. En perthynas & Duw fydd yn n6s nar angelion. Nid perthynas creadur a Duw yn unig fel angel, ond meibion wedi eu geni o DuwDuw wedi ymddangos yn en natur, a hwythau a ymddangosant yn gyfranogion or dduwiol anian; y berthynas yn tra rhagori ar berthynas angelion; cnawd o gnawd y brodyr yw Crist.

3. Anrhydedd y saint a fydd yn fwy nar angelion. Eistedd gyda Christ ar ei orseddbarnu y bydy barnwn ni angelion; casglu yn nghyd efrau, au rhwymo; y wraig ar ei ddeheulaw.

4. Can y saint fydd yn uchaf.Angelion a ganant am ddwyfol santeiddrwydd a daioni Duw ai gyfiawnder; ond y saint a roddant yr anthem allanTeilwng yw yr Oen, yr hwn a laddwyd, ac an prynaist ni i Dduw trwy dy waed dy hun. Dat. v. 812, &c.

T PARCH. JBKKIK JENKINS.


 



(delwedd B0239)

(x239)

CASGLIADATJ.

1. O, y fath anogaeth i ymgais am fod yn santaidd fel teulu Duw.

2. Os am fod yn gyd-stad ar angelion, ceisiwn eu hefelychu.

3. Bydded ir mater dynu ein meddwl ir nef, lle mae Crist.

PKEGETH.

Tlodais, ac efe am hachubodd.Ps. cxvi. 6.

Y testyn sydd yn brofiad cyifredinol holl bobl Dduw. Pwy sydd heb gyfarfod a goruchwyliaethau chwerwon, au dwyn yn dlawd ac isel yn fynych. Cymerwn olwg ar rai amserau yn dygir yn bur dlawd, ac yri hachubir.

I. Fen dygir yn dlawd trwy ein dwyn i deimlad on heuogrwydd an perygl. Cyn hyn yr oeddym yn fawr, ac yn falch; ond yn awr yn y pydew erchyll, yn euog, tlawd, a than farn Duw,.yn edifeiriol, a Duw yn achub trwy ei Air, ei weision, ai Ysbryd Santaidd.

II. Trwy gystudd corfforol o amrywiol ddoluriau. Bfe am hiachaodd, ac am hachubodd, ac a adferodd iechyd i mi.

III. Trwy Hinder a thrallod, gan fusiness ac amgylchiadau, amddifadiad teulu, a thlodi. Efe am hachubodd trwy roddi nerth, gras, &c.

Trwy demtasiynau blin, tost, adfyduspicellau y fallnithio fel gwenith. Ej;o, Efe a weddiodd drosof, fel na ddiffygiai fy ffydd, ac a drefnodd ei ras ai ragluniaeth i achub fy enaid.


 



(delwedd B0240)

(x240)

HAKES BTWYD

V. Trwy ofnau ac amheuon yn suddo fy ysbryd, yn tywyllu fy meddwl, ac yn fy nwyn i dir anobaith. Eto, yr Arglwydd am cynorthwyodd, ac a dywynodd ei wyneb arnaf; cododd fi or pydew erchyll, ac a osododd fy nhraed ar y graig, ac a hwyliodd fy ngherddediad, ac a roddodd yn fy ngenau ganiad newydd.

VI. Trwy fy ngwendidau am pechod.Y mae y rhai hyn yn fy suddo ac yn fy nhlodi; a hwy a ddistrywiant fy ngobaith, fel y maent yn distrywio fy heddwch, oni bai cymorth yr Arglwydd; ond y mae efe yn cynal, yn cadw, yn adfywio, ac yn adferyd fy enaid o ddydd i ddydd.

1. Oni ddyelm ni fyw yn ddiolchgar i Dduw or galon?

2. Onid yw yn wrthddrych teilwng on hymddiried penaf?

PKEGETH.

Am hyny wele, mi ai denaf hi, ac ai dygaf ir anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon; a mi a roddaf iddi ei swinllanoedd or fan hono, a dyffryn Achor yn ddr^s gobaith; ac yno y can hi, fel yn nyddiau ei hieuenctyd, ac niegys yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aipht.Hosea n.14, 15.

I. Gwelwn yma ymddygiad Duw tuag at ei eglwys

1. Ei denu, ai dwyn, drwy ragluniaeth a gras. (1.) Drwy ddawn tyner, ac ymddygiadau tyner.

(2.) Drwy ragluniaeth dyner, yn rhoi llawer neu yn oymeryd llawer oddiwrthym; tyner yw hyn i achub bywyd.

2. Ac ai dygaf ir anialwch. I weled mai mewn anialwch mawr y rhae, o ran ei chyflwr gwrthgiliedig.

Fel anialwch, (1.) Diffrwyth. (2.) Tywyll. (3.) Di-

T PARCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0241)

(x241)

ymgeledd. (4.) Creaduriaid ysglyfaethus. (5.) Drain a dyrysni. (6.) Lleisiau lawer. (7.) Agored i gollrr ffordd. (8.) O gyflwr truenus!

3. Llefaru wrth fodd ei chalon. (1.) Dywed am ogoniant trefn ei ras.
(2.) Digonolrwydd yr aberth. (3.) Helaethrwydd yr addewidion. (4.) Drygedd pechod. (5.) Gogoniant santeiddrwydd. (6.) Caiff pob peth gydweithio er daioni iddi.

4. Rhoi gwinllanoedd iddi or fan hono, sef dan y weinidogaeth efengylaidd.

(1.) Ysbryd gweddi. (2.) Hyfrydwch yn y gwaith. (3.) Tawelwch cydwybod. (4.) Cymdeithas gyda Duw.
(5.) Cysur dan y groes. (6.) Hyder.wrth orsedd gras. (7.) Nerth newydd i dynu yn mlaen.

5. Dyffryn Achor yn ddrws gobaith iddi. Ei ysfcyr yw drws gofid, ac yn ddarluniad o ddrws edifeirwch efengylaidd am bechod.

(1.) Dyffryn Achor oedd yn ddrws neu agorfa i wlad Canaan; felly hefyd y mae edifeirwch yn ddrws ag sydd yn agor ir Ganaan nefol.

(2.) Yma y declireuodd Achan ofidio Israel.
Mewn edifeirwch y mae gofid ar holl blant Duw yn dechreu.

(3.) Yn nyffryn Achor y dechreuodd rhyfeloedd Canaan.
Yn nyffryn edifeirwch y mae rhyfel y Cristion yn dechreu.

(4.) Yn nyffryn Achor y llabyddiwyd Achan. MeWn edifeirwch y mae pechod yn cael ei groeshoelio, gan yr edifeiriol ei hun.

(5.) Yma y tynwyd y diofryd beth ymaith o Israel. Trwy edifeirwch y tynir y llaw ar llygad deau ymaith.

(6.) Yma y lladdwyd Achan. Trwy edifeirwch y




 



(delwedd B0242)

(x242)

HANBS BYWYD

T PAECH.


lleddir pechod, ac y ceir presenoldeb Duw, a sylfaen i obeithio am lwyddiant.

II. Ymddygiad yr eglwys tuag at ei Duw. Yna y can lii, megys yn nyddiau ei hieuenctyd, ac megys yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aipht.

Pedair emyn y gwrthgiliwr.

1. Yr hwn an coflodd ni yn ein hisel radd, ac an dychwelodd yn edifeiriol at draed ein Duw.

2. Yr hwn a faddeuodd yr holl bechod mawr i gyd.

3. Am ddarostwng ein holl chwantau an nwydau.

4. Fel Israel ar Ian y Mr Coch, wrth ddyfod i fyny or Apht.

PKEGETH.

Ai pechadur yw, nis gwn i; un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.loan ix. 25.

Y testyn sydd atebiad y dyn a gafodd ei olwg. Yr Iuddewon, yn lle diolch am y wyrth, ac arwydd eglur or Messiah, yn dechreu ei gyhuddo ei fod yn bechadur. Yna y dall a lefarodd eiriau y testyn, &c. Y mae llawer eto nas gallant ddadleu pynciau mawrion, ond gwyddant yn brofiadol pa beth yw dyfod or tywyllwch ir goleuni.
Ein pwnc yw, crefydd brofiadol, bersonol, ai chadernid.

I. Natur y profiad personol yma. Y mae yn brofiad 1. O hollol gyfnewidiad. Un waith yn ddall, yn anwybodus o Dduw, o honom ein hunain, or gwirionedd, o fendithion crefydd, ai breintiau, ai dyledswyddau dall naturiol ac ysbrydol, ond yn awr yn gweled en cyflwr, eu perygl, ar Meddyg, ar drefn rasol i achub

 

 




 



(delwedd B0243)

(x243)


 

 



enaid, a phob peth ynddi.
Dyma brofiad personol o grefydd Mab Duw yn yr enaid.

2. Y mae yn gyfnewidiad or pwys mwyaf. Pa beth sydd yn gyffelyb ir golwg? Unig ddymuniad y dall oedd cael agor ei lygaid. Y pwys mawr o weled, i fyw a marw yn dduwiol. O am gael ein golwg!

3. Y mae yn ddwyfol gyfnewidiad.
Nid o hunan effaith, nid un wedi ei effeithio gan gyd-greadur, &c. 2 Cor. iv. 6.

4. Mae yn gyfnewidiad or gras ar drugaredd fwyaf. Heb ei deilyngu nai haeddu, yn rhad i un a aned yn ddall.

5. Cyfnewidiad a effeithiwyd gan foddion annhebygol iawn. Drwy glai a phoerynyn debycach i ddallu na gwella. Nid oedd dim rhinwedd yn y clai, nac yn y dwfr yn llyn Siloam, am hyny rhaid ei fod o Dduw. Yn awr, trefn gras yw, credu yn Iesu Grist, yr hwn a groeshoeliwyd. Dyma ffordd Duw i roddi iddynt eu golwg, fel y gwelont eu trueni, ac y dychwelont at Dduw, yn edifeiriol, a flyddiog mewn Gyfryngwr.

II. Y dystiolaeth yma a rydd y fath brofiad o Grist a Christionogaeth; y dyn yma a ddyg dystiolaeth o allu Crist ai ddwyfoldeb; mae hyny yn profi mai efe oedd y Messiah. Yr Iuddewon a gawsant yn hwn y dystiolaeth.fwyaf eglur ag oedd bosibl; ei dad ai fam, a llawer oedd yn ei adnabod, yn dyweyd mai yn ddall y ganed ef. Gadewch i ni chwilio y dystiolaeth a rydd Cristionogion ou profiad i ddylanwadau crefydd ar eu calon au bywyd.

1. Eu tystiolaeth a berthyn ir hyn y maent yn wybodol bersonol o hono. Nid gwybodaeth dybiedig, &c., ond yr hyn a wyddant, fel y dall, ei fod yn gweled.


 



(delwedd B0244)

(x244)

HAKES BTWTD

1

Felly y Cristion, efe a wyr fod cyfnewidiad hollol ynddo mewn calon a bywyd.

2. Eu tystiolaeth sydd yn ddiduedd. Nid oes iddynt ddim budd o dwyllo neb, nac iddynt gael en twyllo. Md oes iddynt ddim mantais fydol, ond anfantais.

3. Eu tystidlaetb.au sydd gyson u gilydd i gyd, yn mhob oes a graddau. Pawb yn dyweyd yr un peth, ac yn mwynhau yr yn bendithion, er nad ydynt or yn farn am athrawiaethau, eto y maent or un farn am effaith dwyfol ras ar eu heneidiau.

4. Eu tystiolaeth sydd yn cael ei sicrhau drwy brofiad. Lie yr oeddwn i yn ddall, yr wyf yn awr yn gweled. Onid oes cyfnewidiad amlwg yn y Cristion, yn ei fywyd ai fnchedd? Edrych arno yn ei dy, yn ei deulu, yn yr eglwys, ac yn y gymydogaeth.

5. Y maent yn dwyn eu tystiolaeth dan bob amgylchiad, trwy glod ac anghlod, parch ac anmharch; yn dlawd ac yn gyfoethog, yn hen ac yn ieuanc, yn rhyddion ac yn gaethion, le, y maent yn tystio mewn gofid, pruddder, tlodi, saldra, carchar, tan a ffagodau, a dirdyniadau, le, tystio ar yr anadl olaf, o wirioneddol effaith crefydd ar eu heneidiau.

CASGLIADAU

1. Dysgwn ei bod yn ddyledswydd ar gredadyn i ddwyn dystiolaeth am Grist, ai allu i achub, drwy eiriau, tymerau, ac ymarweddiad, o gariad a pharch at Grist an cyd-ddynion.

2. Anogwch bawb i dderbyn y dystiolaeth yma, ac arferwch bob moddion efengylaidd at bob dyn.

3. Y mae ymwrthodiad ar dystiolaeth yma yn arddangos gelyniaeth y galon gnawdol yn erbyn Duw a santeiddrwydd.

Y PAECH. JENKIK JESTKtNB.


 



(delwedd B0245)

(x245)

PEEGETH.

A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig or dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth ath ddyg di, ar bronau a sugnaist. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.Luc xi. 27, 28.

Mae ein testyn yn nodi amgylchiad yn yr hwn y llefarodd gwraig or dyrfa, yr hon oedd yn gwrandaw Crist. Yr hyn oedd Crist wedi ei wneyd oedd bwrw cythraul mud o ddyn. Mae llawer o ddynion a chythraul mud ynddynteto; ni fedrant lefaru wrth eu cyd-greaduriaid, er eu bod yn hollol adnabyddus a hwynt. Mae rhyw ystyfnigrwydd cythreulig ynddynt iw weled yn amlwg iawn ar rai amserau. Nid oedd neb yn ameu nad oedd Crist wedi bwrw y cythraul allan or dyn, ond pa fodd a thrwy ba allu yr oedd y weithred wedi cymeryd lle, yr oedd y bobloedd yn rhyfeddu, a rhai yn dyweyd mai trwy Beelzebub, penaeth y cythreuliaid, yr oedd Crist yn medru bwrw allan gythreuliaid. Yn yr adnodau dilynol, mae Crist yn dangos nad yw Beelzebub mor ffol ag yr oeddynt hwy yn priodoli ei fod; nad oedd ty wediy mranu yn ei erbyn ei hun yn medru sefyll, ac na fuasai teyrnas Satan yn sefyll ychwaith os oedd Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun; fel pe buasai yn dyweyd, Nid yw Satan ddim mor ffol a hyny; yn lle bwrw cythraul allan, efe a garai i fwy or rhyw hyn fyned i mewn ir dyn, oblegid byddai ei deyrnas ef yn gryfach felly; ond wrth iddo fwrw un allan, fod ei deyrnas yn gwanhau, ac nad oedd yn bosibl iddi sefyll. Mae yr ysbryd aflan yn gryf ac yn arfog, ac yn cadw ei neuadd mewn heddwch; ond y mae rhyw un cryfach nag ef wedi cymeryd meddiant or dyn hwnwedi cy


 



(delwedd B0246)

(x246)

HANBS BYWYD

meryd meddiant or arfau yn y rhai yr oedd efe yn ymddiried ynddynt, ac yn Mianu ei anrhaith ef at bethau gwell. Yr wyf fi wedi dyfod i ddinystro gweithredoedd y diafol; ac y mae un sydd yn gryfach nag ef, a thrwy hwnw y bwriwyd. y cythraul or dyn. Yr wyf fi yn erbyn y cythraul, a myfi a fwriodd y cythraul or dyn; a phwy bynag sydd yn fy erbyn i, gyda y cythraul y mae. Fe ddichon yr ysbryd aflan adael y dyn am dymor, a myned ar ei dro ar hyd leoedd sychion, oblegid mao efe yn blino ambell waith aros yn yr un man. Gwna ymddangos yn wahanol ir hyn ydyw mewn gwirionedd; gall ymrithio fel angel y goleuni, a bod yn debyg ir Phariseaid yma, yn lled foeeol yn ngolwg dynionyn gweddio llawer yn gyhoeddusyn gwneyd yn llydan ei phylacderau, ac yn degymu y mintys ar anis, &c.; ond nid yw y pethau hyn yn taro ei archwaeth gystal a bod yn ei elfen ei hun; yna bydd wedi ymgyngori ag ef ei hun yn dyweyd, Myfi a af yn ol ir dyn lle yr wyf wedi bod. Mae efe yn awr yn Pharisead selog, gall wneyd llawer mwy drosof fi nag or blaen, oblegid gall dwyllo mwy wedi cymeryd y tir y mae yn sefyll arno na phan yr oedd yn ei liw ei hun. Mewn cudd wisg grefyddol efe a ddyrysa yr holl wersyll; byddaf fi ar saith diafol eraill sydd yn fy llaw yn sicr o wneyd grymusder gyda hwna. Gwnaf fi fwy mewn croen dyn nac mewn un llwybr arall, a bydd diwedd y dyn hwnw yn waeth nai ddechreuad. Pel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, rhyw wraig or dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Qwyn fyd dy fam, fod ganddi fachgen mor gall; mae yn gwy-bod ac yn deall dichell a thwyll y Phariseaid i drwch y blewyn.
Mae yn dda genyf dy glywed yn eu trin mor

Y PAECH.
JENKlST JEKKISTS,


 



(delwedd B0247)

(x247)

eglur a didderbyn wyneb. Dywedodd Crist, Mae fy mam yn wynfydedig, ond mi. a ddangosaf iti am rai mwy gwynfydedig; mae perthynas ysbrydol a mi yn tra rhagori ar unrhyw berthynas naturiol. Nid Crist yn ei chroth, ond Crist yn ei chalon a geidw ei henaid i fywyd tragywyddoi.

I. Sylwaf ar yr hyn a elwir yma yn Air Duw.Gair ydyw cyfrwng trosglwyddiad meddwl or naill berson ir llall. Wrth Air Duw y deall wyf yr Hen Destament ar Newyddy rhanau hyny or Beibl sydd yn dechreu gyda Genesis, ae yn diweddu gyda Malachi; ar hyn sydd yn dechreu gyda Matthew, ac yn diweddu gydar Dadguddiad. Yr wyf yn ymwadu ar hyn a elwir llyfrau yr Apocrypha. Yr ydym yn ymwrthod ar llyfrau hyny fel gwir air Duw. Nid ydym yn gwadu nad yw y rhan fwyaf or llyfrau hyn, fel gwaith dynion eraill, yn onest fel dynion; ond yr ydym yn dadleu nad oedd eu hysgrifenwyr o dan gyfarwyddiadau uniongyrchol anffaeledig Ysbryd Duw, o herwydd y rhesymau canlynol:

1. Yr oedd yr ysgrifenwyr eu hunain yn addef nad oeddynt felly.

2. Mae amryw bethau gwrthnn yn cael eu nodi au cyrneradwyo ynddynt, megys aberthu i gythreuliaid, &c.

3. Rhoddodd Malachi, pan yn dybenu ei brophwydoliaeth, awgrym ir eglwys na fuasai prophwyd i godi ynddi mwy hyd oni chodai Ioan Fedyddiwr. Wele, mi a anfonaf i chwi Blias y prophwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd.

4. M soniodd yr efengylwyr, Crist, nar apostolion, yr un gair am un o lyfrau yr Apocrypha mewn un man.
Cyfeirient yn aml at lyfrau Moses, Job, y Salm-


 



(delwedd B0248)

(x248)

JBYWYI)

au, ar prophwydi. Mae yn rhyfedd, os bwriadwyd hwynt i fod yn rheol ffydd ac ymarweddiad, na buasent yn dyweyd yn rhyw le, megys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Maccabeaid, Bstras, Story Susannah, Bell a Ddraig, neu y tri llanc yn ymryson am y goreu, neu ryw beth or fath; ond nid oes dim son am yr un o honynt, mwy na phe buasent heb fod mewn bodolaeth.

Mae y Beibl yn cael ei alw yn Air, yn y rhif unigol, o herwydd ei gysondeb; nid geiriau, ond Gair. Nid oes anghysondeb mewn gair; dewiswch y gair a fynoch, nid oes ynddo yr un anghysondeb. Er engraifft, dywedwch Duw, diafol, dwfr, tiki, neu ryw air arall, nid oes yno un gwrthddywediad. Ond pe dywedem, Duw drwg, diafol gostyngedig, dwfr sych, tan oer, rhae yma anghysondeb. Pe dywedem, Duw da, diafol balch, dwfr gwlyb, neu dn poeth, nid oes yma yr anghysondeb lleiaf.

(1.) Mae y Beibl mor gyson a gair. Mae ei hanesion, wrth eu cyferbynu au gilyddei brophwydoliaethau yn y cyflawniadau o honynty seremoniau ar aberthau yn cael eu sylweddoli, yn profl yn eglur fod yma gyfangorff o berffeithrwydd cyson au gilydd.

(2.) G-elwir ef yn Air Duw, oblegid ni allai neb arall fod ei awdwr. Nid yw ein hamgyffrediadau ni yn medru treiddio i wybyddiaeth ond am bum dosbarfch o fodau deallawl. Gwrtlmn yw meddwl y gallai unrhyw fod arall wneyd Beibl fel hwn. Nid oes gan yr ych, yr asyn, y pysgodyn, yr aderyn, nar un ymlusgyn, gymwysderau at y fath orchwyl; maent yn gwbl anghyfaddas. Nid oes genym ar ol ond angelion a chythreuliaid, dynion da a drwg, a Duw ei hunan.
Nis gallai yr angelion da, na dynion da, fod yn dda, os twyllwyr

T PAfiCH. J.E.NKI.N JEHKINB.


 



(delwedd B0249)

(x249)

a chelwyddwyr ydynt. Os hwy a wnaethant y Beibl, paham yr oeddynt yn beiddio dywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, canys genau yr Arglwydd ai llefarodd, &c. Ysgatfydd rhai y diafol, neu ryw ysbryd drwg arall ai gwnaeth. Mae y llyfr hwn yn groes i amcan y diafol. Prifamcan yr ysbryd drwg yw amddifTyn a chadarnhau ei deyrnas. Am y llyfr hwn, mae ei holl ranau yn anelu at ddinystrio teyrnas Satan, a chadarnhau teyrnas Mab Duw.

Nis gallai dynion drwg fod yn awdwyr or Beibl, er mor amrywiol ydynt. Ni fuasai halogwyr Sabbothau yn dyweyd, Gofia gadw yn santaidd y dydd Sabboth; nar cybydd, Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch; nar celwyddwr, Pfiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog.
Nid oes yr un arferiad drwg gan ddynioo. nad yw y Beibl yn ei gondemnio. Nid oes genym yn weddill or holl ddosbarthiadau ond Duw ei hunan, ac y mae efe yn deilwng awdwr o hono. Nis gall neb arall wneyd y fath lyfr a hwn. Mae holl berffeithderau y Duwdod iw gweled yn amlwg trwyddo yn ei holl ranauei ddoethineb ei santeiddrwydd, ei gyfiawnder, ei dragywyddolrwydd, ei anghyfnewidioldeb; ie, ei amynedd, ei ddaioni, ei drugaredd ai ras yn cydgordio yn ogoneddus trwyddo; ac nid oes diffyg gallu yn y Duwdod, a bydd yn sicr o wneyd yr hyn y mae wedi lefaru, oblegid Duw gwirionedd ydyw, heb anwiredd. Anmhosibl yw myned Gair Duw yn ddirym.

II. Ein dyledswydd tuag at y Gairei wrando, ai gadw.

Yn gyntaf, Ei wrandoei leferydd Ef ydyw.

1. Mae yn cynwys cenadwri sydd yn dal perthynas a ni gan ein Crewr, ein Cynaliwr, an Llywodraethwr.


 



(delwedd B0250)

(x250)

HAKES BYWTT)

2. Y modd iw wrandoyn ystyriol, yn bwyllog, yn ddeallus, yn ddibartio], a phersonol drosom ein hunain. Nid dan gysgu, ond yn effro; nid am dymor, ond holl ddyddiau ein bywyd; nid fel barnwyr, ond fel pechaduriaid; nid iw anghofio, ond i ddal yn well; nid iw gam-ddefnyddio mewn un ystyr, ond in hiawn hyfforddi. Dylem wiando y Gair ryw beth yn debyg fel y mae dyn yn gwrando ewyllys perthynas cyfoethog ac agos ar ddydd ei angladd.
Maer Iesu wedi marw, ac y mae ei destament mewn grym. Mae rhyw beth wedi ei adael i ni.

Fe brynodd i ni fwy nar byd, Ar groesbrenun prydnawn.

3. Ei wneuthur.Mae rhyw beth ymarferol yn y Gair. Mae tuedd mawr mewn dynion i wybod pa beth a gant, yn hytrach na pha beth a wnant. Rhaid gwneyd ewyllys Duw. Nid yw ei gwybod ond un peth, mae ei gwneyd yn beth arall. Mae anwybodaeth or Gair yn bechod; ond mae gwybodaeth o hono, a pheidio ei wneyd, yn bechod mwymae hwn yn euog o amryfusedd. Yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ifonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ar gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei Arglwydd, ac nid ymbarotodd, ac ni wnaeth yn ol ei ewyllys Ef, a gurir a llawer ffonod. I bwy bynag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo. Mae cyfrifoldeb dyn yn mesur yn ol ei gymwysderau ar manteision a gafodd. Rhaid rhoddi y dalent at y cyfnewidwyr, ymladd ar gelyn, rhedeg yr yrfa, cymeryd gafael yn y bywyd tragywyddol, glynu wrth yr Arglwydd, ac ymdrechu i fyned i mewn trwy y porth cyfyng.

;. :. ;:

T PAKCH. JENKIN JERKINS.


 



(delwedd B0251)

(x251)

Rhaid codir groes ac nid ei gwneyd, A charu r brodyr gyda dweyd; A choncro peeked o bob rhyw, Os wrth y Beibl y mynwn fyw.

Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi. Yr hwn a barhao hyd y diwedd a fydd cadwedig.

III. Y fendith gysylltiedig a gwrando Gair Duw ai gadwbod yn fwy gwynfydedig na dal y berthynas agosaf a neb pwy bynag, yn ol y cnawd, hyd yn nod ar Iesu ei hun! Mae bod yn perthyn i ddynion mawr, enwog mewn dysg, doethineb, cyfoeth, ac anrhydedd, yn fraint fawr iawn. Ystyriai Elizabeth yn fraint or mwyaf gael ei chyfarch gan Mair; eto hi a lefodd a llef uchel, gan ddywedyd, Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
O ba le y daeth hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? A dywedodd Mair, Efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes, oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau am galwant yn wynfydedig. Dywedodd y wraig or dyrfa y gwir, ni wnaeth yr Iesu ei hameu yn y mesur lleiaf; eto rhoddodd wers y bydd cof am dani byth, Yn hytrach gwyn fyd yr hwn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw. Yr oedd gan Grist barch mawr iw fam. Dywedir am ei rieni, Ac efe a fu ostyngedig iddynt. Pan oedd efe ar y groes, dywedodd, O wraig, wele dy fab; ac er ei boenau i gyd, rhoddodd ofal ei fam ir dysgybl oedd yn sefyll gerllaw. Er y cwbl, ymddengys nad yw perthynas naturiol ddim yn worth ei harddel mewn cvferbyniad ir berthynas ysbrydol yma a nodir. Pan oedd Crist yn llefaru wrth y torfeydd, dywedodd un wrtho, Wele, y raae dy fam ath frodyr yn sefyll allan yn dy geisio di. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a


 



(delwedd B0252)

(x252)

HANES BTWTD

ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i, a phwy yw fy mrodyr i? Ac efe a estynodd ei law tuag at y dysgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, am brodyr i; canys pwy bynag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, am cliwaer, am mam. Pel pe dywedasai, Nid wyf fi yn arddel neb i fod yn perthyn i mi ond fy nysgyblion, y rhai sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, yr hwn sydd yn gwrando gair Duw ao yn ei gadw.

ADLEWYKCHIADAU.

1. Mae modd i fod yn perthyn i Grist; Brenin y bremnoedd yw, ac Arglwydd pawb oll; Brawd yw o gnawd y brodyr. Br fod ei wir ddysgyblion yn aml yn cael eu diystyru au dirmygu gan lawer, nid yw gywilydd ganddo ef eu galw hwy yn frodyr; ac y mae. yn ewyllysio, er ei fod yn y goruwchleoedd, iddynt hwy-thau hefyd fod gydag ef.

2. Bobl anwyl, a oes arnoch chwi ddim awydd arddel Iesu yn awr yn nydd gras? Os gwnewch, gwna yntau eich arddel chwithau pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gydar angelion santaidd.

3. Nyni sydd yn proffesu Crist, ac sydd ar ei enw, ymdrechwn lawer am fod yn fwy tebyg iddo, or un ysbryd ag yntau. Od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef.

4. Mae yn rhyfedd fod Crist yn sefyll cyhyd wrth ddrws calon y pechadur, yr unig un a all ei Iesau ef, ac yntau yn dyweyd o hyd.
Ni fynwn ni mo hwn i deyrnasu arnom. O, dychwelwch at Fugail ac Esgob eich eneidiau.

Iesu, difyrwch f enaid drud,

Yw edrych ar dywedd; Ac mae llythrenau d eaw pur,

Tn fywyd ac yn hedd.

T PARCH. JEHKIN JESTKIITS.

PKEGETH.


 



(delwedd B0253)

(x253)

Canys cyflog pechod yw marwplaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.Raul, vi. 23.

Yn y bennod hon darlunir pechod dan yr enwan meistr a brenin, a gras neu gyfiawnder yn gyferbyniol i hyny. Mae pechod yn feistr caled, ond gras yn hollol wahanol; y naill yn teyrnasu i farwolaeth, ar llall yn teyrnasu i fywyd didranc. Gwnawn rai sylwadau ar bechod, yna ar ddawn Duw.

I. Pechod. Beth ydyw? Mae Iago yn dyweyd mai anghyfraith ydyw. Eraill a olygant mai trosedd o gyfraith Duw, neu anghyflawniad o honi ydyw. Dy-wed Gweddi Gyffredin, neu Lyfr Eglwys Loegr, mai gwneyd y peth ni ddylasem ei wneuthur, a pheidio gwneyd y peth a ddylasem ei wneuthur ydyw. Nid oes genym wrthwynebiad ir un or golygiadau uchod, eto fe ddichon, er mwyn ei egluro yn mhellach, mai priodol yw dyweyd, mai diffyg yw, oblegid lle bynag y mae pechod mae yno ddiffyg. Diffyg cyfiawnder yw anghyfiawnder, diffyg santeiddrwydd yw aflendid, diffyg da yw drwg, a diflyg doethineb yw ffolineb. Nid oes diffyg yn y nefoedd. Diffyg i gyd sydd yn uffern. Rhyw le cymysgedig yw y ddaiarer fod yma lawer o dda, y mae yma lawer o ddrwg hefyd. Duw a wnaeth bob peth, eto ni wnaeth ef bechod, oblegid nid peth ydyw pechod, ond diflFyg peth ydyw.

Eto, ysgatfydd mai anliawdd yw peidio enwi pechod yn beth, o ddiffyg iaith i osod ein meddwl allan, neu ryw ddiffyg arall. Ond yr ydym yn sicr nad yw Duw yn awdwr o hono. Nid oes pechod ynddo ef, ac nid


 



(delwedd B0254)

(x254)

HAKES B1WTB

dichonadwy yw iddo roddi i arall yr hyn nad yw yn eiddo iddo ei hun. Purdeb, uniondeb difeth sydd yn ei natur ai weithrediadau. Wele hyn a gefais, wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn. Br iddo ei greu felly, nid oedd dan y rhwymau lleiaf iw gadw neu ei atal rhag pechu. G-waith anhawdd yw golygu pa fodd yr oedd yn ddichonadwy i Dduw, ar dir cyflawnder, i wneyd dyn yn gyfrifol am ei weithrediadau, heb ei fod yn berchenog ar gymwysder i wneyd hyny. Nid yw dyn dan rwymau anianyddol i wneyd da, onide nid oes ystyr ir gair rhinwedd, neu i wneyd drwg, onide ni byddai arno bechod.

Mae y gyfraith foesol yn llawn anogaethau i wneyd daioni, ac yn llawn gocheliadau rhag gwneyd drwg. Yr addewidion i ufudddod or naill du, ar bygythion or tu arall, a brofant hyn. Na ddyweded neb pan demtier ef, Gran Dduw ym temtircanys nid yw efe yn temtio neb. Er fod dyn yn greadur amgylchiadau, eto y mae yn weithredydd gwirfoddol. Nid yw cam-ddefnyddiad or cymwysderau yn ei ddiddymu, mae y cymwysderau yn parhau yr un, ar rhwymedigaeth yn ddigyfnewid; pe amgen, po fwyaf o ddrwg a wnel dyn gwnai ymryddhau oi rwymedigaethau. Nid; felly, bydd dyn dan rwymau i roddi ufudddod i Dduw ai gyfraith byth, ac felly i barhau tra byddo Duw yn Dduw, ac yntau yn ddyn. Mae rhwymau y creadur rhesymol yn sylfaenedig ar berthynas. Yn ol y berthynas sydd rhyngddo a Duw ei hun, ac ag eraill, y mesurir ei ddyledswyddau. Nid yw gras yn ei gyfnewid, ac nis gall pechod ei ddiddymu byth. Sylwaf, yn

I. Ar bechod ai gyflogmarwolaeth. Gwahaniaethir pechod yn wahanol ddosbarthiadau, fel y canlyn.

T PA.KCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0255)

(x255)

1. Pechod gwreiddiol a gweithredoL Pechod gwreiddiol yw pechod ein natur, a phechod gweithredol yw pechod ein hymddygiadau. Er fod Duw wedi gwneyd dyn yn uniawn, syrthiodd drwy anufudddod. Nid yn y cyflwr yr oedd Adda ynddo cyn iddo bechu y cawsom ni ein bodolaeth, ond yn y sefyllfa yr oedd wedi myned iddi drwy ei anufudddod. Mae yn gynwysedig yn y gogwyddiad sydd yn y meddwl, neu y tueddiadau sydd ynom at y drwg yn hytrach nar da. Mae y gogwyddiad hwn iw gaufod mewn plant yn gyffredinol; maent yn dysgu gwneyd drwg gyda mwy o rwyddineb na da, ac yn caru pethau cnawdol a daiarol yn fwy na phethau ysbrydol a duwiol.

Pechod gweithredolbyw yn ol y tueddiadau hyny Bydd yn y natur lygredig, a gweithredu yn groes i ddeddfau yr Arglwydd yn bersonol.

2. Pechod anifeilaidd, a phechod cythreulig. Pechodau anifeilaidd ydynt, glythineb a meddwdod, anlladrwydd a godineb, diogi a musgrellni, brynti a chysgu yn oedfaon gras. Ond pechodau cythreulig ydynt, llid, malais, cenfigen, cabledd, celwydd, serthedd, lladrad, llofruddiaeth, twyll, a dichell twyllodrus. Mae y naill yn cael ei goleddu gan y rhan anifeilaidd or dyn yn fwy nar ysbrydol, ar llall gan yr enaid yn fwy nar corff.

3. Pechod o fodd, a phechod o anfodd. Yr wyf fi yn credu mai ou bodd y mae dynion yn pechu bob amser. Haera rhai eu bod yn pechu ou hanfodd, a chyfeiriant at yr adnodau hyny sydd yn yr epistol a ysgrifenodd Paul at yr Rhufeiniaid, (vii. 15.) Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw foddlawn genyf; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hyny yr wyf yn ei

I


 



(delwedd B0256)

(x256)

HAKES BTWTD

wneuthur; eithr y pefch sydd gas genyf, hyny yr ydwyf yn ei wnenthur. Mae Paul yma yn siarad am y ddeddf, ei bod yn ysbrydol, ond ei fod ef yn gnawdol, ai fod yn ewyllysio gwneuthur da, a bod y drwg gydag ef yn bresenol. Gwir fod y cnawd yn rhyfela ar ysbryd, a bod y rhai hyn yn gwrthwynebu en gilydd.
Gwyr pob Cristion rywbeth am hyny. Trwyr cwbl, on bodd yr ydym yn pechu. Eglurwn y mater fel hyn.

Pan oeddwn i yn Dundaff, tua dechreu y cynhauaf gwair un flwyddyn, ryw brydnawn hogais y bladur, a gosodais hi mewn trefn. Yn y prydnawn hwnw fcorais ddwy ystod o amgylch y cae, gan benderfynu rhoi fyny yr hwyr hono, myned ir gwely yn gynar, a chodi am bedwar or gloch boreu dranoeth, fel y buaswn wedi tori cryn ddarn cyn i boethder yr haul ddyfod arnaf. Ond wedi swper, daeth cyfaill or Hen Wlad a llythyrau i mi; wrth ddarllen y llythyrau, ao ymddiddan am wahanol bethau gydar cyfaill, aeth yn hwyr, nid aethum i gysgu yn brydlon, a phan ddaeth pedwar or gloch yn y boreu, yr oeddwn yn gaeth yn ngafaelion cwsg, felly, nid y peth da yr oeddwn yn ei ewyllysio y nos or blaen yr oeddwn yn ei wneuthur, ond y drwg, sef ammharu ac anghymwyso fy hun i wneyd fy nyledswydd. Mae penderfyniadau yn cael eu tori fel hyn, ar dyn yn ymollwng i wneyd yr hyn nad yw yn ewyllysio. Ar y pryd y mae y weithred yn cael ei chyflawni, y mae y dyn yn ei gwneyd oi fodd. O fodd ei galon y mae y gweddiwr yn gvreddio, ac o fodd ei galon y mae y cablwr yn cablu, y naill yn dywedyd y gwirionedd, ar llall yn dywedyd ei gelwyddau.
4. Pechodau yr Aipht a phechodau Canaan.Mae y

h

Y PARCH. JESTKItf


 



(delwedd B0257)

(x257)

cyntaf yn cynwys y rhai y mae yn eu cyflawni cyn iddo ddyfod at grefydd, ar olaf ar ol iddo ddyfod. Yn y naill sefyllfa ar llall, mae ei rwymedigaethau yn parhau yn ddigyfnewid.

5. Pechod maddeuol a phechod anfaddeuol. Nid oes yr un pechod na chabledd na faddeuir i ddynion ar dir gwir edifeirwch. Onid oedd y Corinthiaid wedi bod yn ettog or pechodau niwyaf ysgeleryn odinebwyr, eilunaddolwyr, torwyr priodas, masweddwyr gwr-ryw-gydwyr, lladron, cybyddion, meddwon, difenwyr, a chribddeilwyr. Nid meddwl yr apostol oedd, na fuasai y rhai oeddynt wedi bod yn euog or pechodau hyn yn cael etifeddu teyrnas Dduw, ond y rhai a fyddent yn parhau yn y fath erchyll bechodau, yn anedifeiriol; oblegid yn adnod 11 y mae yn dywedyd, A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a santeiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni. Pe yr ychwanegem at hyn bechodau Manasseh, Mair Magdalen, ar lleidr ar y groes, byddem wedi dyfod o hyd ir pechodau mwyaf erchyll a gyflawnwyd yn y byd erioed. Nid ydym am roddi terfyn ar Sant yr Israel. Duwr maddeu yw ei enw, ac efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai sydd yn dyfod at Dduw trwyddo Ef. Pedr hefyd a wadodd ei Arglwydd dair gwaith; do, efe a dyngodd ac a regodd, a gwnaeth hyn dair gwaith, ar ol ei holl dystiolaethau gwahanol a gwrthwynebol i hyn! Rhyfedd y fath bwll dwfn y darfu iddo syrthio iddo; ond mwy rhyfedd oedd y gras ai cododd ir Ian. Do, fei codwyd ef i fyny or pydew erchyll, ac allan or clai tomlyd, a gosodwyd ei draed ef ar y graig, a hwyliwyd ei gerddediad tua thir y bywyd. Ond am gabledd Q


 



(delwedd B0258)

(x258)

HAKES BTWTD

yn erbyn yr Ysbryd Glan, yr hwn yw y pechod anfadd-euol, nid oes maddenant am hwnw, yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw. Mae anfeidrol gyfiawnder, doethineb ac uniondeb y Duwdod wedi gosod n6d mor ddu ar y pechod hwn, fel y mae wedi penderfynu na wna ei fadden. Pe byddai y dynion duwiolaf yn gweddio dros y rhai sydd yn euog or pechod yma, hyd yn nod Noah, Daniel, a Job, ni wrandawai Duw arnynt. Canys os on gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechod wedi ei adael mwyach. Heb. x. 26. Mae Ioan yn dyweyd am bechod i farwolaeth, nad gwiw deisyf yn ei gylch; a Christ wedi dyweyd ei hunan, Oni taddenwch i ddynion en camweddau, ni faddevi eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd eich camweddaiT chwithaii. Bu Julian, yr Ymerawdwr Rhuieinig, yn proffesu crefydd Crist; wedi hyny trodd yn bagan erlidgar i Ddtiw ai achos. Gwawdiai Fab Duw, gan ei alw yn fasdard, ac yn Galilead, a phob enw er ei ddirmygn. Pan oedd yn rhyfela yn erbyn y Persiaid, daeth saeth oddiwrth y gelyn iw galon. Wedi iddo ei thynn allan, daliodd ei law i dderbyn y gwaed a ffrydiai allan or archoll, a thaflodd ef ir awyr; a chan edrych i fyny, dywedodd yn uchel, O, y Galilead, ti am maeddaist. Chwi gablwyr sydd yn mathru Mab Duw, ac yn difenwi Ysbryd y gras, arswydwch, oblegid nid oes aberth mwyach wedi ei osod dros bechod.

6. Pechod bach a phechod mawr.Gwir fod rhai pechodau yn fwy nau gilydd, ond mawrion ydynt oll yn ngolwg Duw. Barnodd ef yr hwn yr ydym wedi pechu yn ei erbyn, yr hwn sydd yn medru mesur pechodau, au pwyso wrth yr hyn y maent yn haeddu,

T PARCH. JENEIN JENKINS.


 



(delwedd B0259)

(x259)

fod yn rhaid cael lawn anfeidrol am danyxt, neu gosb dragywyddol ou herwydd.

. 7. Pechod gwybodus, a phechod mewn amvybod. Pechod mewn anwybod oedd Paul wedi ei wneyd wrth gablu ac erlid eglwys Dduw; ond cafodd drugaredd. Yr oedd rhai or rhai a groeshocliasant Grist wedi ei wneuthur mewn anwybod. Gweddiodd Crist drostynt, O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. Nid y peth y mae dyn yn ei wybod y

mae y gyfraith yn ei ofyn, ond y peth a ddylai wybod.

8. Pechodau duon, gwynion, a brithion, fel defaid Jacob.!Nid wyf yn dyweyd fod eu gwahaniaethu fel hyn yn gymeriadan priodol, ond felly y maent yn cael eu henwi gyda dynion. Pechod du yw y pechod y mae arall wedi ei wneyd yn dy erbyn di; mae hwnw yn gy-ffredin yn ddu arswydus. Pechod gwyn yw y pechod yr wyt ti wedi ei wneyd yn ei erbyn efnid ydoedd fawr o bethni fuasai raid iddo byth wgu arnat am beth mor lleiednid ydoedd ond y peth lleiaf. Rhaid ei fod yn hynod groen deneu; nid oeddit ti ar y cwbl prin yn nieddwl ei fod yn ddrwg yn y byd. Ar pechodau brithion ydynt y pechodau hyny yr ydych yn eu cyfaddef wrth eich gilydd pan y byddoch yn gwneyd heddwch y naill ar llall; ond mae pob pechod yn ddu i gyd yn ngolwg yr Arglwydd.

II. Cyflog pechod yw marwolaeth.Teilwng ir gweithiwr ei gyflog. Mae yn haeddu marw; ie, a marw byth.

1. Mae dyn yn farw ysbrydol, mewn dieithrwch oddiwrth fuchedd Duw. Syniad y cnawd, marwolaeth jw, yn gwbl amddifad o weithrediadau bywyd ysbrydol;


 



(delwedd B0260)

(x260)

HASTES BTWTI)

nid oes dim yn ei holl ysgogiadau yn santaidd; mae yn llawn hunanolrwydd, ac yn byw mewn drygioniyn gas ganddo am Dduw ai waith.

2. Mae yn gondemniol farw, wedi ei ddedfrydn i ddyoddef cosb dragywyddol am ei drosedd.

3. Mae gwahaniaeth rhwng gweision dynion a gweision pechod. Nid yw y cyntaf yn gofalu am y gwaith, nao yn earn ei wneyd, ond yn fawr am y cyflog; oad yr olaf, nid da ga,nddynt y cyflog, ond yn hoff iawn or gwaith. Gan tod y cyflog yn dilyn y gwaith, wedi gwneyd y gwaith rhaid derbyn y cyflog. Yr hwn sydd yn hau ir cnawd, or cnawd a fed lygredigaeth. Mae yn cynwys ysgariad oddiwrth bob dedwyddwch am byth, yr hon yw yr ail farTrolaeth.

III. Dawn Duw yw bywyd tragywyddol, tiwy Iesu Grist ein Harglwydd.

1. Rhodd Duw, nid anrheg.Mae rhodd yn golygu ei bod yn anrhwymiadol o du y cyfranwr, ac yn anhaeddianol o du y derbyniwr. Nid elw i Dduw oetid amcan y rhoddwr wrth roddi y rhodd, ond elw tragywyddol y dyn.

2. Mae y rhodd hon yn deilwng o Dduw i ddynio annheilwng ac anhaeddianol.

3. Mae yn rhodd yn ol ei gyfoeth ai ras.Mae yn ablpob awdurdod yn ei lawyn Ben Arglwydd nefoedd a daiar. Mae yn rhodd dialw yn ol.

4. Mae yn rhodd heb ei disgwyl, a thu draw i amgyffredion dynion. Pwy a ddychymygodd i Victoria roddi Tywysog Cymru i farwolaeth yn lle teyrnfradwyr ei llywodraeth? Neb erioed. Er syndod i angelion a dynion, Felly y carodd Duw y byd,fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, &c.
Mae hanes yn dy

Y PABCH. JBSTKIK JENKINS.


 



(delwedd B0261)

(x261)

weyd fod gan Philip o Macedon, tad Alexander Fawr, ferch, a bod ei Brif Lywydd wedi ymgyfathrachu a hi, au bod yn myned i briodi, ac ir Llywydd ofyn iw thad am gynysgaeth gyda hi. Rhoddodd Philip rwyd anferth yn llawn o aur iddo mewn canlyniad.
Anfonodd yntau yn ol, fod ei haner yn llawn ddigonna feddyliodd ef erioed am gymaint a hyny. Yr ateb a gafodd oedd, fod ei haner yn llawn ddigon ir General ofyn; ond nad oeddynt i gyd ddim yn ormod i Philip iw rhoddi. Nid ag arian ac aur ych prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad, ond a gwerthfaw waed Crist. Yn hyn y mae cariad, a ni eto yn bet.:aduriaid, i Grist mewn pryd farw drosom ni. Mae bywyd tragywyddol, a phob bendith arall yn deilliaw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Efe yw cyfrwng holl weinyddiadau y Duwdod, mewn creu, cynal, ac achub. Mae Efe yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol ir rhai oll a ufuddhant iddo.

ADDYSGIADAU.

1. Mawr ddrwg pechod yw yr achoa haeddianol o farwolaeth Cristyr hwn ni wnaeth bechod, ac na chaed twyll yn ei enau.

2. Mawredd trefn gras, dawn Duw, bywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Mae gwlad o etifeddiaeth deg,

Yn arcs pawb or saint; Ni ddichon dyn nac angel byth,

Amgyflred gwerth eu braint.


 



(delwedd B0262)

(x262)

HANES BTWYD

PREGETH.

Gan hyny pwy hynas sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi ai cyffelybaf of i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig; ar gwlaw a ddisgynodd, ar llifeiriaint a ddaethant, ar gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y ty hwnw, ac ni syrthiodd, oblegid sylf aenasid ef ar y graig. A phob un ar sydd yn gwrando fy ntieiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod; ar gwlaw a ddisgynodd, ar llif-ddyf roedd a ddaethant, ar gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw, ac efe a syrthiodd, ai gwyinp a fu fawr.-Mat. vii. 24-28.

Mae geiriau ein testyn yn gasgliad o bregeth Crist ar y mynydd. Y bregeth oreu a bregethwyd erioed.
Crist oedd y pregethwr goreu o neb fu, sydd, neu eto a ddaw. M lefarodd neb fel y dyn hwn. Yr oedd yn perffaith adnabod ei wrandawyr, yn dyweyd y pethau mwyaf angenrheidiol iddynt eu gwybod au .gwneyd. Nid yn unig yr oedd yn dyweyd y pethau mwyaf perthynol iddynt, ond hefyd gwasgai y gwirioneddau hyny yn ddwys at eu cydwybodau. Yn y bregeth hon mae efe yn cyhoeddi naw gwynfydedigrwydd i gymeriadau neillduol, ac yn dangos beth yw gwir gymeriad ei gaulynwyr. Parhad y gyfraith ar prophwydi, gan esbonio ysbrydolrwydd y gyfraith yn wrthwynebol i draddodiadau y tadau. Nid yw cyflawniad allanol ac arwynebol on dyledswyddau yn ddigonol, gau fanylu pa fodd y mae yn. rhaid eu gwneuthur hwynt. Pa bethau sydd iw gwneyd, a pha bethau sydd iw gochelyd. Pa fodd i weddio, a pharodrwydd Duw i gyfranu. Anogaeth gref i ymdrechu myned i mewn trwy y porth cyfyng. Ymogelu rhag gau brophwydi, ac i adnabod dynion wrth eu ifrwythau. Y dichon dynion

Y PAKCH. JEKTKIN JENKINS.


 



(delwedd B0263)

(x263)

alw ar enw yr Arglwydd, heb eu bod hwy nau gwaith yn gymeradwy gan Dduw yn y diwedd.

Yn llythyrenol ac uniongyrchol, mae geiriau ein testyn yn perthyn ir rhai oedd yn gwrando Crist ar y pryd, eto y maent yn dal yr un berthynas a holl wrandawyr yr efengyl trwy holl oesau y byd. Ynia y mae holl wrandawyr yr efengyl yn cael eu cyffelybu i ddau ddynun yn wrandawr y gair heb ei wneuthurj ar llall yn wrandawr y gair ac yn ei wneuthur.

Nid yw ein testyn yn perthyn ir pagan iaid, neu y rhai nad yw yr efengyl ganddynt, ond i wrandawyr y gair yn unig. Ac y mae yn perthyn ir rhai hyny i gyd, bob un o honynt.

I. Y maent yn lled debyg iw gilydd mewn amryw bethau.

1. Dan ddyn ydynt, yn gwrando yr un geiriau, y naill fel y llall; or un gelfyddyd, pob un yn adeiladu ei dy.
Nis gellir profi fod gan y naill gryfach synwyrau a chyneddfau nar llall. Maent ill dau yn ddeiliaid yr un ddeddf, yn gwynebu yr un farn, ac i gael eu pwyso yn yr un clorianau. Y ddau i fyw. byth mewn eilfyd, yn berchenogion eneidiau anfarwol, ac yn bwriadu ao yn meddwl am ddedwyddwch tu draw ir bedd.

Nid oedd yr un yn well adeiladydd nar llall, yn ol a allwn ni ei wybod.
Yr un manteision a chyfleusderau, ac yn aml yn mwynhau yr un doniau. Mae yn rhaid mai rhyw beth tu draw i olwg dynion yw y gwahaniaeth rhyngddynt.

2. Maent yn cael yr un profion y naill fel y llall, i brofi eu taiy gwlaw, y gwynt, ar llif-ddyfroedd. Mae y rhai hyn oll yn brofion addas o waith pob un, nid yw y naill yn gwneyd gwaith y Y gwlaw yn


 



(delwedd B0264)

(x264).

BTWYB

Y PAEOH. JEtfKTK

26S

profi y td, y gwynt y muriau, ar llif-ddyfroedd y syl-feini.
Byddant yn sicr o ddwyn tystiolaeth gywir.

(1.) Nid oes dim mor addas ar gwlaw i brofi y t6, bydd hwn yn sicr o ddyweyd y gwir, os ydyw y td yn ddiddos, neu os yw yn gollwng defni ir ty. Mae cystuddiau, tlodi, llwfrdra, a gwahanol gawodydd o ddygwyddiadau; yr anifeiliaid yn meirw, ein perthynasau yn ein hesgeuluso, ac yn eiu gadael pan byddo mwyaf angen wrfchynt. Aml ydyw y dyferion sydd yn eiu hoes yn dyfod i brofi ein tai; byddant yn sicr o ddwyn eu tystiolaeth arnom.

(2.) Y gwynt yn profi y muriau. Hid oes gyffelyb iddo, os bydd yr agen leiaf yn y mur, y diffyg mwyaf anhawdd ei ganfod yn y drysau ar ffenestri, yn ei osodiad ar y sylfaen, bydd hwn yn sicr oi hysbysu. Yr ydym ni, sydd yn byw yn yr hinsawdd gogleddol, yn gwybod am hyn, yn hollol brofiadol. Yn aml bydd y gwynt yn gwneyd ei ffordd in haneddau mewn lle nas gwyddom, eto gwyddom ei fod yn gwneyd ei ffordd drwy ryw fan neu gilydd; mae yno ryw wall wedi bod yn yr adeiladydd, drwy ryw anocheliad neu gilydd. Felly y mae gydar hwn sydd yn gwrando y gair, cyfyd rhyw ystorm o ryw gyfeiriad neu gilydd, ac ysgydwir ef yn ei sefydlogrwydd, ei dymer, ei egwyddorion, ei ddeall, a gogwyddiad ei ewyllys. Daw rhyw awel rymus o siomedigaeth mewn cyfeillion, a gwna y diafol eiorou iw ysgwyd yn ei ogr, yn lled ddiesgeulus, er rhwyn iddo fyned gydar gwynt. Chwantau ieuenctyd, cyfeillach lawen; gwna rhyw wynt croes ei chwythu mor bell, weithiau, fel nas gwyr yn y byd i ba le y mae wedi myned.


 



(delwedd B0265)

(x265)

(3.) Y llifeiriaint a brofant y sylfeini.Mewn gwlad fel Palestina, lle yr ymruthra y dyfroedd ar y gori-waered oddiar ei mynyddoedd cribog ar draws y clogwyni danynt, mae grym y tonau yn fawr iawn. Ar amserau, ar ol toddiad yr eira ar y mynyddoedd, ymarllwysant gyda ffyrmgrwydd ar draws pob peth a fyddo ar eu ffordd. Dadwreiddiant y coedydd, dymchwelant y muriau, dadsylfaenant y tai, a gyrant hwy gydar tonau, nes y byddant yn y diwedd wedi eu gwthio ir mdr marw, lle bydd pob gobaith am dariynt wedi diflanu am byth.
Os na byddwn yn adeiladu ar Grist ai eiriau am fywyd tragywyddol, i lawr y daw ein holl obeithion. Nid yw dywediadau Plato, Seneca, ar philosophyddion yn sylfeini digon safadwy i adeiladu arnynt; traddodiadau y tadau, yr anffyddwyr, nac unrhyw hunan-gyfiawnder o eiddo dynion; ie, hyd yn nod elusenau, proffes allanol o grefydd yn y gynulleidfa fwyaf uniawngred, yn ddigon o sylfaen i ymddibynu arni.

Dywed Crist dan yr enw, fy ngeiriau hyn, nas gall ei eiriau ef ei hun ein cadw heb eu gwneyd; hyny yw, eu credu yn ffyddiog, au hymarferyd yn ein bywyd an hymarweddiadrhaid i ni eu gwneyd. Mae ufuddhau yn well na brasder hyrddod. Mae yr adeilad i fod yn pwyso yn gwbl ar y sylfaen. Sylfaen arall nis gall neb ei gosod heblaw yr un a osodwyd, yr hon yw Iesu Crist.

Sylfaen gref yw r Arglwydd Iesu, Arno r vryf am adeiladu; Ac fe ddeil y sylfaen hono, Pan bo r ddaiar hon yn tauio.


 



(delwedd B0266)

(x266)

HANES BYWYD

ADDYSGUADAU.

1. Yr hwn sydd yn adeiladu ar Grist, y mae wedi cloddio yn ddwfn, wedi cael gafael yn y graig, ac yn ymddiried yn gwbl ynddo am fywyd tragywyddol. Gwna hyder a gobeithion hwn sefyll yn ddigryn er gwaethaf y gwlawogydd mwyaf a ddaw arno, y gwyntoedd cryfaf a ruthrant yn ei erbyn, a llifeiriaint afon aiigau ni syflant ei sail.

2. Y siomedigaeth echrys a gaiff y rhai nad ydynt ond gwrandawyr y gair yn unig.Ar ol yr holl wrando trwy yr holl flynyddau, eu sel dros eu henwad, au hymgais i wasanaethu dau Arglwydd, i lawr yr a eu holl drafiferthion, yn ofer yn y diwedd. Bydd y ty wedi syrthio pan y bydd fwyaf angenrheidiol iddynt wrthopan y bydd yn rhy ddiweddar i ail gynyg ei adeiladn. Bydd y golled yn anadferadwy am byth eu bywyd yn terfynu, eu cyfleusderau yn dybenu, au holl freintiau yn ymadael a hwyntyr haf wedi darfod, y cynauaf wedi myned heibio, a hwythau heb fod yn gadwedig; heb obaith, na Duw yn y byd. Amen.

Am graig i adeiladu,

Fy enaid chwilia n ddwys, Y sylfaen fawr safadwy,

I roddi ami th bwys; Bydd rhelus yn yr afon

Gael craig am deil ir Ian, Pan byddo r storom olaf

Yn euro ar fenaid gwan.

Y PARCH. JEHKIN JBKKINS.


 



(delwedd B0267)

(x267)

CAPEL Y T. O. YN CAMBKIA, MINN.,

YK HYTST A ELWIK HOBEB.

Adeiladwyd y capel hwn tuar flwyddyn 1857. Yn yr amser hwnw yr oedd y defnyddiau yn hynod ddrud, ac anhawdd eu cael ond am bris uchel, a hyny yn fwy am nad oedd arian i dalu i lawr am ei adeiladu. Y fath oedd prinder arian yr amser hwnw, fel yr aeth mewn dyled, ar 116g bedair dolar y cant yn y mis. Gau mai braidd newydd ddyfod yma yr oedd y rhan fwyaf or aelodau, a bod amgylchiadau eraill yn eu gwasgu ar y prydy banciau yn tori, ar adeiladwyr yn bygwth gwerthu y capel, daeth amryw or ymddiriedolwyr ataf, gan hysbysu eu sefyllfa, a dymuiio arnaf wneyd rhyw beth, os oedd yn bosibl, er eu dwyn or cyfyngder yr oeddynt wedi myned iddo. Penderfynais y buaswn yn myned i ymweled ar gwahanol sefydliadau Cymreig trwy Wisconsin, Ohio, a Pennsylvania, gan ofyn yn ostyngedig am gynorthwy. Rhoddwyd hysbysiad o hyn yn y Drych, ar Gyfaill. Nid oeddwn yn bwriadu aros fawr yn Wisconsin, gan fy mod am brynu yr amser, ac mai yn Ohioy sefydliadau lle bu y nifer luosocaf or rhai a ddaethant yma, yn bywoedd y manau tebycaf i lwyddo yn fy amcan.

Gan mai hwn yw y capel cyntaf a adeiladwyd gan y Cymry yn Nhalaeth Minnesota, a bod y rhai yr oeddwn yn gofyn eu cydymdeimlad wedi cael cyfraniadau y rhai oeddynt yn bresenol dan y baich, dadleuais yn hyf mai eu dyledswydd hwythau oedd cadw achos Iesu Grist rhag myned i warth mewn sefydliad mor newydd


 



(delwedd B0268)

(x268)

HASTES BYWYD

Nl wnaethym ddim gwahaniaeth rhwng y naill -mwad nar llall, arian oedd eisiau arnaf fi, ac yr oedd yn rhaid i mi eu cael. Trwy fy mod wedi ymgymeryd ar gorchwyl, yr oedd fy mhenderfyniad mor gryf na fuaswL yn dychwelyd hebddynt yn fy ol. Wedi cyrhaedd ardal Gomer, Ohio, pregethu yno ar y Sabboth, a chael caniatad i gasglu, nid aethym i ofyn i neb dranoeth, trwy eu bod wedi cyhoeddi pregethwr o eiddo y Trefnyddion Calfinaidd i fod yno y noson olynol, ac yn dymuno arnaf finau bregethu gydag ef. Beth a wnaeth y pregethwr hwn ond defuyddio ei ddylanwad hyd y medrai er fy lluddias i gyrhaeddyd fy amcan yn eu plith, gan ddyweyd eu bod hwy yn. eu Cymanfa flynyddol wedi penderfynu na buasai neb yn cael casglu yn eu plith hwy heb ganiatad y Cyfarfod Tri-misol. Gan mai Independiaid oedd pobl Gomer, mai at gapel ar enw y Trefnyddion Calfinaidd yr oeddwn yn ymofyn eu hewyllys da, a bod un ou pregethwyr hwy eu hunain yn dangos y fath wrthwynebiad, penderfynais na buaswn yn gyru yn galed yn erbyn rhwystrau, er nad oeddwn am roddi i fyny ychwaith, yn ol fel yr oedd amryw yn fy nghyngori i wneyd. Arosais yno am Sabboth arall, a chefais garedigrwydd nid bychan gyda hwynt. Ni chefais wedi hyn fawr o wrthwynebiad, er fod yr amser hwnw yn hynod o farwaidd. Bu y Parchedigion H. Powell, Robert Williams, John Evans, a John Jeffreys, yn hynod siriol i mi, a chyflawnais fy mwriad yn hollol.

Oofus genyf, pan oedd rhai yn gofyn i mi pa fodd yr oeddwn yn llafurio felly dros y Trefnyddion Calfinaidd, a minau yn un or Indepediaid, fy mod yn eu hateb, Beth a allaswn i oddiwrth mai yn y Mynydd Bach y

Y PARCH. JBNKIST


 



(delwedd B0269)

(x269)

cefais fy nwyn at grefydd, ac nid yn Llangeitho? Dy-wedais fy mod wedi bod yn dileu dyled oddiar amryw gapelau perthynol ir Independiaidmai ambell i Fethodist fyddai yn rhoddi i mi y pryd hwnw; ond yn awr, mai ambell i Annibynwr oedd yn gwneyd, a bod plant Adda a llawer mwy o sel dros eu henwad na thros achos Duw. Tueddwyd fi hefyd i ddyweyd fy mhrofiadfod un fuwch yn well i bregethwr na deu-ddeg o aelodau eglwysigfy mod yn cael godro hono yn ddiddig ddwywaith y dydd, ac mai y llaeth olaf oedd y goreu; ond pan y byddwn yn ceisio godro tipyn arnynt hwy, eu bod yn cicio yn enbyd, ac nad oedd fawr yn dyfod oddiwrthynt yn y diwedd. Trwy y cwbl, gwelais rai, wrth ystyried eu hamgylchiadau, yn lled haelionus, yn neillduol yn Johnstown a Pomeroy. Mae y capel hwn yn awr yn ddiddyled, ar Parch. David M. Jones yn fugail yr eglwys. Dyinunwyf iddynt lwyddiant mawr.


 



(delwedd B0270)

(x270)

HANES BYWYD TERFYNIAD YB HANES, NEXT AIR YN MHELLAOH. Wrth ddybenu yr hanes hwn, nid wyf yn teimlo yn hollol, fy mod wedi cyflawni fy nyledswydd heb nodi yr hyn a ganlyn. Yn y lie cyntaf, carwn ddyweyd gair am fy nhad fy hun, yr hwn a'm magodd yn dyner. Derbyniwyd ef yn aelod crefyddol yn y Mynydd Bach, Morgan wg, pan yn 12 mlwydd oed, gan yr Hybarch Lewis Rees, a pharhaodd yn ffyddlon gyda'r achos hyd ei farw, yr hyn a gymerodd le yn Dundaff, Pa., yn y flwyddyn 1836. Bu yn ddiacon yn y Mynydd Bach am flyn- yddau lawer, a phan y cymerodd y diweddar Barch. David Davies ofal yr eglwys Gynulleidfaol yn Eben- ezer, Abertawe, y fath oedd yr ymlyniad rhyngddynt, fel y parhaodd fy nhad i wasanaethn yno hefyd yn yr un swydd hyd farwolaeth ei hen weinidog parchus, a rhai blynyddau wedi hyny. Yna, o herwydd pellder y ffordd, cyfyngodd ei hun i'r Mynydd Bach hyd y dydd y daeth drosodd ar ol ei blant i Dundaff. Bu farw, fel y bu fyw, yn ffyddlon hyd y diwedd. Bydd ei goffad- wriaeth yn anwyl gan y rhai a'i hadwaenai tra y bydd- ont hwythau yn aros yr ochr hyn i'r bedd. Joseph Jenkins, tad fy anwyl wraig. Ganwyd ef yn agos i Lanfair Muallt, D. 0., yn y fl. 1791. Derbyn- iwyd ef yn aelod eglwysig yn moreu ei oes, gan yr Hybarch David Williams, Troedrhiwdalar. Daeth i ? r America yn y fl. 1823, a sefydlodd yn Bradford, Pa. Efe oedd y cyntaf o'r Cymry a sefydlodd yn yr ardal



 



(delwedd B0271)

(x271)

 

 

 



hono. Yr amser hwnw yr oedd yr ardal lle y gosododd ei babell ynddi yn anialwch disathr. Dilynodd y Cymry ef o un i unmae y sefydliad Cymrcig hwn yn bresenol wedi dyfod yn dra hysbys, ac wedi dyrchafu i radd uchel o enwogrwydd. Bu am flynyddau yn ddiacon, pan yr oedd yr eglwys yn wan ac heb weinidog. Yn aml pregethai am flynyddau yn dra derbyniol, eto ni chymerai arno ei fod yn bregethwr, pan y byddai arall a honai y swydd yn bresenol ar y pryd. Yr oedd yn hynod ei gof, a chyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, hanesyddiaeth, ac yn y celfyddydau; nid yn aml y ceid ei fath mewn gwybodaethau yn gyffredinol. Bu yn lletygar iawn holl ddyddiau ei einioes; yn ddidderbyn wyneb, yn hon, ac yn medru llywodraethu ei deimlad yn hollol, hyd ei anadliad olaf. Ymwelodd a ni yn Minnesota ddwy flynedd cyn ei farw, a chladdwyd ef yn barchus, gyda phruddder dwys, yn mysg ei gymydogion, ei garenyddion, ai gyfeillion crefyddol, gyda thristwch a galar dwys ar ei ol.

Pe ddichon nad anfuddiol, cyn rhoddi fy ysgrifbin heibio, fyddai nodi gair nen ddau fel hyn:Ddarllenydd hynaws, paid a bod yn rhy hyf a hnnanol. Gorfodwyd fi yn Minnesota, rai blynyddau yn ol, i fod yn dyst yn erbyn un oedd wedi bod yn tori coed ar dir ei gymydog. Yr oedd gan y troseddwr gyfreithiwr hyf a haerllug. Yn. nydd y prawf, gofynodd i mi gyda gwedd o ddiystyrwch, How many of this mans trees did he cut? Dywedais wrtho yn araf ac ystyriol, gan fy mod ar fy llw, Few. Mewn gwawd, dywedodd, Few, how much is few? Cant you be more definite than that? How much is few? Atebais ef yn dawel, Less than many. Edrychodd arnaf gyda yr anfodd-


 



(delwedd B0272)

(x272)

HASTES BTWTD

lonrwydd mwyaf, a dywedodd, Many, how much is many; tell me that, if you can? Atebais ef, More than few. Wrth weled ei fod yn cael ei ddyrysu fel hyn, gofynodd i mi gyda gw6n ragrithiol, Stop, rhy dear fellow, I wish to ask you from where did you come? Atebais, That has nothing to do with this point. Judge, your Honor, call this man to order. Gorfn iddo eistedd i lawr yn nghanol chwerthiniad swyddogion y llys.

Ychydig gyda dwy flynedd yn ol, pan ar daith yn Pennsylvania, dymunodd yr eglwys Gynulleidfaol yn Birmingham arnaf, wrth fyned heibio, arcs am ychydig gyda hwynt. Yr oedd rhyw annoethineb cyfrinachol rhwng eu gweinidog a rhai o honynt mewn perthynas i wraig barchus, brydweddol, yn yr eglwys. Cyhoeddwyd yr hanes, mewn cellwair, yn y papyrau Saesonig ar hyd Pittsburgh ar gymydogaeth. Mewn canlyniad, effeithiodd y fath chwedl deimladau terfysglyd ac annymunol yn y naill tuag at y llall or pleidiau, nad oes ond amser ai llwyr ostega. Br fy mod wedi ymddwyn mor ddibartiol ac anmhleidgar, yn ol fel yr oeddwn i yn deall pethau, nid wyf yn meddwl fy mod wedi rhoddi hollol foddlonrwydd ir naill ochr nar llall hyd heddy w. Creadur anhawdd* iw drin ydyw dyn; o bob creadur, hwn yw yr un mwyaf aflywodraethus. Mae Duw yn medru ei drin, bydded y peth y byddo. Rhaid i mi gyfaddef, yr wyf fi wedi methu lawer gwaith. Cefais sirioldeb mawr yn eu plith, a dymunwyf heddwch Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, i ail drigianu eto yn eu mysg.

Amryw flynyddau yn ol, bu ambell un mor gymwyn-

T PAKCH. .TESTKIST JENKINS.


 



(delwedd B0273)

(x273)

asgar ag addaw ysgrifenu fy hanes ar ol i ,mi farw. Hwyrach eu bod hwy yn tybied y byddent byw ar fy ol.
Yr wyf yn dybenu y llyfr hwn yn ninas Utica, N. Y., yn mhell oddiwrth fy nheulu, yn fwy na haner claf am fy nghartref. Mae gweddill fy oes yn niwl i mi, ond gwn nad oes ond ychydig o honi ar ol. Dymunwyf fod yn ddoeth i ddeall hyn, i ystyried fy niwedd, fel y dygwyf fy nghalon i ddoeth?neb. Amen.


 



(delwedd B0274)

(x274)

HANES BIWYD

NODIADAU AE SIENCYN DDWYWAITH,

GAN lOKTHRYN GWYNEDD.

Clywais lawer o son yn Nghymru ac yn America, er ys llawer o flyneddau, am Siencyn Ddwywaith; ac ail adroddwyd i mi lawer oi hanes ai ffraetheiriau, ar fy ymweliad cyntaf ar Unol Dalaethau, yn y fi. 1851-52, Yr oedd ef wedi bod yn gweiuidogaethu cyn hyny am flyneddau yn ninas New York, (lle yr urddwyd ef, Tachwedd, 1832,) ac yn Dundaff, Pa., a Newark a Granville, Ohio, a Sugar Greek, Armstrong, Pa., a Dodgeville a Welsh Prairie, Wis. Yn Wisconsin yr oedd efe y pryd hyny, ond ni thelais ymweliad Ar dal-aeth hono y pryd hyny.
Yn 1855 y symudodd efe i fyw i Minnesota, lle y mae eto yn ddefnyddiol a chysurus. Yr oedd gair mawr a pharchus iddo gan weinidogion, diaconiaid, ac aelodau, a gwrandawyr, yn gy-ffredinol. Ond yr oeddynt yn ei ddarlunio i mi, y pryd hyny, fel rhyw hen Gymro rhyfeddol o od, afler, a diofal am ei wisg, ac am ei wallt, ai wyneb; ac yn orlawn o ffraethebau parod a tharawiadol. Ac yr oedd y bobl yn gyffredin yn cofio llawer o ranau oi bregethau ai ffraeth ddywediadau, ac yn eu nail adrodd i mi gyda llawenydd a chwerthin.

Adroddwyd llawer oi hanes, ai_bregethau, ai ffraetheiriau, gan y bobl yn dra gwahano] ir moddau gwirioneddol y cymerasant le, ac ir hyn a ddywedodd Mr. Jenkins ei hunan. Digwydda hyny yn am] wrth ail adrodd hanesion, a phegethau, a ffraetheiriau.
Creodd

Y PARCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0275)

(x275)

hyn awydd cryf ynwyf i gael gweled a chlywed y dyn hynodol hwn. Ond ni chefais gyfleusdra felly hyd y flwyddyn 1867, pan y talodd Mr. Jenkins ymweliad fi llawer or eglwysi yn Pennsylvania.
Cefais lawer oi gymdeithas bersonol, a chlywais ef yn pregethu lawer o weithiau y pryd hyny. Bu yn lletya vn fy nhy yn Mahanoy City, Pa., Mehefln 10, 1867. Dyna yr amser y tynais ei ddarlun (mewn pencil), ac y mae yn fy meddiant eto, ac yn werthfawr yn fy ngolwg. Cadwaf efynofalus. Mae yn ddarlun llawer mwy cywir nar photograph a ddanfonodd Mr. Jenkins ei hun i mi o Minnesota. Nid wyf yn hoffi hwnw. Nid yw hwnw yn sicr yn ardeb cywir o hono ef; mae hwnw yn ei osod ef allan, ir rhai nas gwelsant ef erioed yn bersonol, fel y dyn hyllaf ar wyneb y ddaiar! Ac nid yw gwir ddelweddau ei wynebpryd iw gweled ynddo. Nid dyn felly yw Mr. Jenkins. Pfuflais farn fy hunan am daiio. Cyhoeddaf hi yn awr ir byd, mewn ychydig ymadroddion, fel y eanlyn:

Pan welais i Mr. Jenkins, yn 1867, ac wedi hyny yn Minnesota, yn niwedd y fi. 1870, ac yn Utica, N. Y., Mawrth, 1872, yr oedd yn edrych yn dda a chalonog. Yr oedd ganddo wisg o ddillad duon da, ond yr oedd yn lled ddiofal am danynt. Dyn cryf, esgyrnog ydyw, o daldra cyffredin, dichon, 5 tr. 8 m., o ysgogiadau arafaidd, yn gwarn ychydig wrth gerdded, ond yn ymsythu yn sydyn, ac yn gogwyddo ei ben yr ochr arall, pan yn adrodd rhyw hanesyn difyrus; mae yn hoff o gau ei lygaidjweithiau, wrth siarad; bryd arall edrycha yn graffus yn myw eich llygaid, ac ar ol ei adrodd, egyr ei lygaid mawrion yn fwy fyth, chwytha yn ei ffroenau mawrion, a chwerthina yn uchel (hearty laugh)


 



(delwedd B0276)

(x276)

Dyn h mae ganddo wyneb llyfn,

glandeg, a gwridgoch; ptu iwr, crwn, uchel; talcen nodedig uchel a llydan; gwallt du fel y fran; aeliau duon cryfion iawn, bron fel yr hen bererin duwiol, y diweddar Barcb. Lewis Powell, gynt o Gaerdydd, D. C.; llygaid craffus, bywiog; trwyn lled hir, a ffroenau llydain; g6n ucbaf fer; gwefusau teneuon; g^n isaf fer a main; gwddf lled hir, ond nid tew; clustiau bychain, teneuon; a llais tra hyglyw, ond nid perseiniol. Sieryd yn uchel ac eglur; swnia bob gair, sill, a llythyren, yn gywir ac eglur. Mae yn ddarllenwr Cymreig nodedig dda; ac yn bregethwr campus. Gogwydda at y ffraeth ar digrif. Cyfansodda ei bregethau yn syml a thlws, a thraddoda hwynt yn hollol ddiboen, yn ei ddull hynodol ei hun yn hollol. G-all wneyd i dyrfaoedd wylo a chwerthin bron ar unwaith.

Ei gryfder penaf ef yw ffraethder (wit). Mae hyny yn reddfol ynddo yn y ty ac yn yr areithfa; ond y mae weithiau yn rhedeg i eithafion, trwy arfer iaith rhy gy-ffredin, a rhy anweddus ir areithfa efengylaidd. Ond y mae wedi arfer hyny drwy yr holl flyneddau- maiti iddo ef gael dyweyd ei feddwl yn hyf fel y myno; ofer fyddai i neb geisio ei rwystro, a gwae y dyn a amcanai hyny. Un gair o eiddo Jenkins a drywanai ei gnawd ai esgyrn; ac y mae y bohl yn gyffredin yn awr yn goddef iddo, ac yn disgwyl iddo ddyweyd y pethau a fyno, fel y myno; ac ni byddai yn Siencyn Ddwywaith yn ngolwg y miloedd heb hyny. Mae yn dra difyrus iw wrando. Ar yr amser sychaf, gall dynu gwlaw o gymylau y nef; ac hyd yn nod ar flu y bedd, gorfoda chwi i lawenhau. Kid wyf yn deall ei fod yn llenor Cymreig coethedig, ac nid yw ei lawysgrif yn dlos,

Y PAROH. JEKKIN JENKINS.


 



(delwedd B0277)

(x277)

nai frawddegau yn gywir yn aml, ac nid oes ganddo drefn dda mewn dim a wnelo nac a ddywedo; tebyga felly ir anfarwol Christmas, Evans. Yr oedd yn rhaid gweled a chlywed hwnw, cyn y gellid ei adnabod yn iawn; annichon oedd ei ddarlunio ar bapyr. Credwyf mai felly y bydd gyda Siencyn Ddwywaith. Am hyny cyngorwyf yr holl genedl Gymreig i fynu ei weled ai glywed, os gallant, ac i brynu ei lyfr gwerthfawr, pris $1, pan ar ei deithiau yn America, ac yn Nghymru. Mae efe yn sicr yn werth iw weled ac iw glywed; a bydd ei lyfr, sef Hanes Unwaith am Siencyn Ddwy-waith, yn dra hynodol, fel yntau, ac yn ychwanegiad gwerthfawr at ein llenyddiaeth. Bydd yn debyg i Hanes Gadsby o Manchester a Siencyn Penhydd.
Prynir a darllenir ef gan y miloedd. Tybiwyf mai y Parch. Ed. K. Lewis (lorwerth Callestr), Pottsville, Pa., a minau, a gyngorodd Mr. Jenkins gyntaf i ysgrifenu a chyhoeddi ei hanes ei hunan. Rhoddais gry-bwyllion byrion am dano ef yn y Gyfrol I. o HANES CYMRY AMERICA. (Gwel Hanes Minnesota, yn Dos. B, sef T Qorllewin Pell.}

Mae Mr. Jenkins yn gyfaill anwyl, yn Gristion da, yn ddyn llawn o synwyr cyffredin, yn bregethwr rhagorol, yn yr iaith Gymraeg a Saesonaeg; yn dduwinydd gwir ysgrythyrol; yn barchus yn ngolwg yr holl enwadau crefyddol, ac yn weinidog cyfrifol ac enwog yn ngolwg yr Americaniaid. Mae yn awr tua 68 mlwydd oed. Bum yn lletya yn ei dy, ar ei dyddyn rhagorol, ger capel Horeb (T. C.), yn Blue Earth Co., Minnesota, yn niwedd 1870. Mae ei briod, Mrs. Jenkins, yn foneddiges grefyddol a siriol (gynt Miss Ann Jenkins, inerch Mr. Joseph Jenkins, tyddymvr, Bradford Co.,


 



(delwedd B0278)

(x278)

HAKES BTWYTl

Pa.,) ac y mae ganddynt amryw o feibion a merched. Mae ei ail ferch ef yn un or athrawesau mwyaf parchus a dysgedig yn Mankato, Minnesota. Enw ei wraig gyntaf oedd Sarah, merch Christmas a Catherine Dayies, or Crwys, ger Abertawe, D. C. Ymfudodd gydag ef i New York, a bu hi farw yn mhen blwyddyn ar ol hyny, a chladdwyd hi yn barchus yn mynwent capel y Bedyddwyr Saesnig, yn Amity St., tuar fi. 1833. Codwyd gweddillion marwol y rhai a gladdwyd yno, a symudwyd hwynt i fynwent y Cymry, sef y Cypress Hill Cemetery, ar Long Island, er ys blyneddau. Yno y mae ei gweddillion hi, ar Parch. Shad-rach Davies, a lluoedd eraill o Gymry parchus yn gorwedd.) Dymunwyf fawr lwyddiant ir Parch. Jenkin Jenkins, a dirfawr werthiant ir Hanes Unwaith am Siencyn Ddivywaith.

LLAIS Y BBIRDD.


 



(delwedd B0279)

(x279)

LLYFH Y PARCH. JENKIN JENKINS.

Addawodd Siencyn Ddwywaitb.yn gofres

O un .gyfrol berffaith,., In swyno i Hanes Unwaith, A pliob digwyddiad yn ffailh.

Oesi a wna pob hanesynam Mr

Wedi marw Siencyn; Dysg plant Miljhnyddiant fel hyn, Ei arabedd yn rhibyn

Yn ddiau, os cadd Siencyn Ddwywaitb.fyw,

Ni cha fedd ond unwaith: Yn rhyw le or ddaiar laith, Y cul fedd gwnaed celfyddwaith.

Ac ar ei gareg er gwirioy lle r

Penill hwn aroso Byth, yn NgTwettrren y Beirrdd bo, Gydag arf gwedi gerflo,

Ar y gwamalfyd drwg ymaSiencyn

Roes ei winciad ola; Credadyn, a dyn nrwy da K weithredoedd ni tbroedia.

Eos G-LAN TWECH.


 



(delwedd B0280)

(x280)

LLAIS T BBTRDD.

Y PARCH. JENKIN JENKINS.

as,y

BEIRDD.


 



(delwedd B0281)

(x281)

BNOLYNION A GYFANSODDWYD WBDI DARLLEN MSB. Y 1O.YRR, HANB8 UNWAITH AM SrENCYN DDWY WAITS.

Dymuawyd am ei hanes,y dyn call,

Ar doniau cu, eres; Yn yllyfr gwelir er lles Greinion ei galon gynes.

Buan gylchrediad, a bywydir llyfr,

Fo er llwydd ieueuctyd; Unwaith y ddwywaith a ddyd Hanes ei dda oes ddiwyd.

Arabydd diarebolyw r arwr Mae i eiriau n drydanol; Llona gall, lleinw ei gol A syniadau swyn hudol.

T gyirol aed fel olwyno dan gwyllt,

Yn dwyn gwerth ar Siencyn; Ynddi gwel deithi y dyn,

Lwyr daflodd lawer dieflyn.

IBTJAN DDU.

Nid ofer yw y difyr waiti,mynd dros, Mynd drwy i Hanes Unwaith; Fel hyn, in dilyn ar daith, Oni ddaw i Siencyn Ddwywaith?

Ni cliwynem, pe mil a chanwaith,o gaol Cyd-gwrdd Siencyn Ddwywaith; Arosfyn llawer oes faith, Yn swyn ei Hanes Unwaith.

OBFNI


 



(delwedd B0282)

(x282)

ENGLYNION I LYFR Y PARCH. JENKIN JENKINS (SIENCYN DDWYWAITH).

Oi oes enwog Hanes Unwaith,yn llawn,

Syn llyfr 8iencyn Ddwywaith; Difyr i gyd, efor gwaith, Y treulir hynt hir, eilwaith.

Yn ddiwyd bu Siencyn Ddwywaith, i wneyd

I ni r fath gydymaith; Tra nsyn! trwy i Hanes Unwaith, Daiar ai gwel ef dair gwaith.

 

------------------------------

Sumbolau: ːːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ ːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː ː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә g:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-3_0256k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 26-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 26-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: -
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHATS NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait

 

 



CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 

hit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats