Adolygiad diweddaraf: 2012-08-29 09.37

 

7898b_gwefan_logo_CYM-CAT_120613
(delwedd 7898b)

 


7001_kimkat0001c6998_kimkat0001_hafan
saeth-draffig_120607_i-lawr_BACH
6998_kimkat2001k6998_kimkat2001k_arweinlen
saeth-draffig_120607_i-lawr_BACH
6998_kimkat0960k6998_kimkat0960k_sion-prys
saeth-draffig_120607_i-lawr_BACH
6998_kimkat_GWAG6998_kimkat_tudalen-hwn

7375_map_cymru_rhedynfre_090204
 (delwedd 7375)



 ...

Ymgais i ddehongli’r gerdd hon o’r flwyddyn 1810

CERDD NEWYDD AM YR ENWOG HELWRIAETH A WNAETH CŴN JOHN LEWIS, ESQ., O NANT-GWYLLT

 

Radnorshire Society Transactions
Vol. 19 1949 pp42-45

In the last volume of Transactions Vol. XVIII. on
Page 69, we were able to reproduce the music of Cwn
Sqweir Lewis, Nantwillt." Since then through the kindness
of General Lewis of Baileymawr, a descendant of the Sqweir,
we have been able to get the words of the Song. It consists
of a Photostatic copy of the original, and is in the possession
of a relative of the General. The bracketed lines are indecipherable as the original is badly worn.

xxx testun gwreiddiol
xxx testun wedi ei gywiro / wedi ei addasu

Edward Mills, 1810, Llanidloes

CERDD NEWYDD, AM YR ENWOG HELWRIAETH
CERDD NEWYDD AM YR ENWOG HELWRIAETH

WNAITH CWN JOHN LEWIS, ESQ., O NANTGWILLT,
A WNAETH CŴN JOHN LEWIS, ESQ., O NANT-GWYLLT,

Ar ol y Llwynog.
Ar ôl y Llwynog.

Cyd nefwch [ . . . .]
??Cyd-nefwch

Rhai mwynion a manwl yn gwbwl gid,
Rhai mwynion a manwl yn gwbl i gyd,

Clywch ddatgan helwriath un helaeth o hyd
Clywch ddatgan helwriaeth un helaeth o hyd

Am Llwynog yn llon,
Am y Llwynog yn llon

Un crilon amcanion prif glew a mai'n glur,
Un creulon ei amcanion, pryf glew, ac mae'n glir

A Chwn Scweir LEWIS wir ddwnis ar dir;
A chŵn Sgweir LEWIS yn wir ddawnus ar dir;

Cewch hanes y siroedd, ag hefyd yr plwyoedd,
Cewch hanes y siroedd, ac hefyd y plwyfi,

Mynyddoedd a chwmoedd, y rhedoedd ar hid
Mynyddoedd a chwmoedd y rhedodd ar (eu) hyd

Ar Cwn ai dilynoedd, yn rhyfeddiawn rhiwfodd,
A’r cŵn a’i dilynodd, yn rhyfeddion rhywfodd

Drwy ffroini dyffrynoedd, yn ufudd i gyd
Drwy ffroeni dyffrynoedd, yn ufudd i gyd

Nid oes cwn yn unlle moi baeth hwy trwy'n byd
Nid oes cŵn yn unlle mo’u bath hwy trwy ein byd

Frechinog ychwelwch, sir gadarn a chodwch,
Frycheiniog ?dychwelwch, sir gadarn a chodwch

Yn gynes cyd genwch mawrygwch mewn hedd;
Yn gynnes cyd-genwch, mawrygwch mewn hedd;

Bytheied Scweir LEWIS, wr hylaw da nwylis,
Bytheied Sgweir LEWIS, ŵr hylaw da hwylus

Da doniol a dawnis, mwyn weddis ei wedd,
Da, doniol a dawnus, mwynweddus ei wedd,

Hwn dylech glodfori nis byddoch mewn bedd.
Hwn ddylech glodfori nes byddoch mewn bedd

O grigie y cnwch,
O greigiau’r Cnwch,

Yn fflwch heb fawr fflychio, ai'r cadno mawr cri,
Yn fflwch heb fawr fflychio, âi'r cadno mawr cryf,

A Rorri tan rorrio, ai Canto fe'n gu;
 Rori tan rorio, a’i ?canto fe'n gu;

Ag fellu'n y blaen,
Ac felly yn y blaen

Yn gyfan fwyn gafod, gwich benod oi bodd,
Yn gyfan fwyn gawod, gwych bennod o’u bodd,

Y Ffinder ddau nesa, a blaena'n rhoi bloedd
Y Ffinder a ddaw nesa, a’r blaenaf yn rhoi bloedd

Silio ebe Musick, a Sounwel ci ffyrnig,
?Silio ebe Miwsic, a Sownwel ci ffyrnig

A Ffamous arbenig nid diddig ar dir
A Ffamws arbening nid diddig ar dir

[ . . . .] Ddilonian a Lily.
?A ddilyniant â Lily

A Darner oedd yno yn tyni ar dir
A Darner oedd yno yn tynnu ar dir

A Phrimer a Blueman yn gyfan drwy'r gûr,
A Phrimer a Blueman yn gyfan drwy'r g
ŷr

'Rhoedd Trubel a Trywnfer, a Roman a Leader,
'Roedd Trwbel a Trywnfer, a Roman a Leader

Yn swnio'r oedd Singer mewn llawnder a lles
Yn swnio roedd Singer mewn llawnder a lles

A Ffamous a Chlywdu yn lanwaeth y leni,
A Ffamws a Chlywdu yn lanwaith eleni,

Ond da ydiw henwi'r hain ymma yn rhes,
Ond da ydyw enwi yr rhai hyn yma yn rhes,

Rhag imi llysenwi yn gyfon os ces.

Rhag imi lysenwi yn gyfan os ?ces.

Yn nesa chwi gewch,
Yn nesa chwi a gewch,

Trwy degwch gwrandawwch, ddiallwch yn well,

Trwy degwch gwrandewch, fe ddeallwch yn well,

Ffordd rhedodd y Llwynog llofryddiog ei gell
Ffordd y rhedodd y Llwynog llofruddiog o’i gell

O'r graig y mai'n glur,
O'r graig y mae'n glir

Yn eglur o wagle, fe gode'n ddible,
Yn eglur o wagle, fe godai'n ddi-ble,

I gefn gorngafallt oddiyno'r ai e
I gefn Carn Gafallt oddiyno yr âi ef

 

http://www.geograph.org.uk/photo/136597 Carn Gafallt SN9464

I rhyd crychdu wedin, a chefn gwastedin,
I Ryd Crychddu wedyn, a Chefn Gwastedyn,

http://www.geograph.org.uk/photo/733350 Cefn Gwastedyn SN9866

 

Yr gorddu yn llinin'r ai'r tenin ond te
I’r gorddu yn llinyn yr âi'r tennyn onid e / onte

Trwy dyffrin y fainor, nid oedd e'n cael hepgor,
Trwy ddyffryn y Faenor, nid oedd e'n cael hepgor,

Y cwn oedd yn egor ain dryfor i'r dre,
Y cŵn oedd yn egr am ?dryfor i'r dre,

Sef Rorri a Ffinder, a Musick heb ble
Sef Rori a Ffinder, a Miwsic heb ble

Yn buredd a pharod i ben crige hynod,
Yn buredd a pharod i ben creigiau hynod

Y cefn y wiglod yn gafod i gid;
Y cefn y’i wiglodd yn gawod i gyd;

Dan ymlid y Gamlo, Cefn Pawl'ent tan bowlo,
Dan ymlid y Gamlo, Cefn Pawl ?yr ânt tan bowlo

Yn gadarn am gydio ar Llwynog o hyd,
Yn gadarn am gydio ar y Llwynog o hyd

Braf cwn Scweir LEWIS rhai hwylis i gid.
Braf cŵn Sgweir LEWIS rhai hwylus i gyd

Llandewi llwydida,
?(Yn) Llanddewi ?y llwydda, (?llwyd ei da)

http://www.geograph.org.uk/photo/649451 Llanddewi Ystradenni SO1068


Yn gyfan gan gofio, rhaid lliwo pob lle,
Yn gyfan gan gofio, rhaid lliwo pob lle

Cwmferdi Dyfaner am fwynder' roedd ê;
?Cwmferdi Dyfaner am fwynder roedd ef;

Yr Abbi Cwmhir.
Yr Abbi, Cwm Hir.

 

http://www.geograph.org.uk/photo/1581878 SO0571 Abaty Cwm Hir

Mai'n eglur drwy ogledd a gwinedd igid,
Mae'n eglur drwy’r gogledd a Gwynedd i gyd

Lle hynod ei henwi, ai benni mewn byd
Lle hynod ?ei henwi, a’i ?(ddi)bennu mewn byd

Ir Wenallt ar redeg ir Cwmdu yn Burdeg,
I’r Wenallt ar redeg, i’r Cwm-du yn burdeg

Cefn garn landeg, yn chwaneg i chwi,
Cefn Garn landeg, yn ychwaneg i chwi

I fyni ibont howel fe 'drychaw yn uchel;
I fyny i Bont Hywel fe ?'drychaw (?edrycha) yn uchel;

Rhag hudo fe o'i hoedel mewn gafel yn gu,
Rhag ei hudo fe o'i hoedl mewn gafael yn gu,

Gan gwn oedd yn dilin fel gawod yn llu;
Gan gŵn oedd yn dilyn fel gawod yn llu;

Y lawr aeth ar redeg, oddiyno i farteg,
I lawr yr aeth ar redeg, oddiyno i’r Farteg,

Ar hyd ddi yn landeg, yn burdeg ir byd

Ar hyd-ddi yn landeg, yn burdeg i’r byd

Heibo'r Coed Gleision, fe nefodd yn inion,
Heibio'r Coed Gleision, fe ?nefodd yn union

I grige'r Allt gochion rhai geirwon i gyd,
I greigiau'r Allt-gochion, rhai geirwon i gyd

Ar hyder cael odfa, rhag lladdfa mewn llid..
Ar ?hyder cael oedfa, rhag lladdfa mewn llid.

[ [ orn heb [ . . . .]
xxx

Yndilwyad idrio dyffygig feb ffael,
Yn ?ddilwyad i dreio ?dyffygig heb ffael

Ond Ffinder a Rorri, nhwi fynen ei gael;
Ond Ffinder a Rori, hwy a fynnent ei gael;

Ir cenfidd yn hu,
Ir cefnydd yn hy,

Craig Neiddu mein noddfa dyweda heb wâd,

Craig Neiddu maen noddfa dyweda heb wâd

Yn dilin 'roedd Mufick a Soundwel pur mâd

Yn dilyn roedd Miwsic a Sowndwel pur fad

Nhwi redsant yn ffyrnig, odd'yno i Llangerig,
Hwy redasant yn ffyrnig, oddi yno i Langurig,

http://www.geograph.org.uk/photo/41908 Llangurig SN9079

 

Dyma Ffamous arbenig nodedig ar dir,
Dyma Ffamws arbennig nodedig ar dir,

A Fflora a Chymli yn dilin y'r heini
A Fflora a Chymli (Comely) yn dilyn y rhai hynny

Rhai gweddis yn gweiddi am glyni yn glur,
Rhai gweddus yn gweiddi am glynu yn glir,

Nid oes cwn ai baetdda, tan warrant yn wir,
Nid oes cŵn a’u ?baedda, tan warant yn wir,

Drwy cwmmarch glynbrochan, a diffrin Glynharen
Drwy Cam March Glynbrochan, a dyffryn Glynharen

A chefn manhinion Plimhimon oer le,
A Chefn ?Manhinion Pumlumon oer le,

Llawr Aberbigi, Llanidlos fwyn odle;
Llawr Aberbigi, Llanidloes fwyn odle;

Tref Eglwys trwy fag le yn gyfrwysgrai e,
Tref Eglwys trwy ?fagle yn gyfrwys ?grai e

Trwy greigidd a chordidd a phob dyris le.
Trwy greigydd a chorsydd a phob dyrys le

Drwy Blwy Llanbrynmair,
Drwy Blwy Llanbrynmair,

Mai'r gair hyd y gwledidd, ar Trefidd yn bod,
Mai'r gair hyd y gwledydd, a’r trefydd yn bod

'Rai Cwn Scweir LEWIS, rhyglyddus ei clod
Yr ai cŵn Sgweir LEWIS, ¿rhyglyddus eu clod

'Roedd Rina'd yn bod,
'Roedd Rinald yn bod

Yn hynod pryd hyni mronffailu a ffoi,
Yn hynod pryd hynny ymron ffaelu â ffoi

Fe rodde lef uchel fel gwyddel mewn gwai

Fe roddai lef uchel fel Gwyddel mewn gwae

Heb attal 'raeth etto oddiyno i garno,
Heb atal yr aeth eto oddiyno i Garno,

http://www.geograph.org.uk/gridref/SN9596 Carno SN9596

 

Yno'n ochneidio dan wylo'n bur wael,
Yno yn ochneidio dan wylo yn bur wael

Dan Ddywedid fel yma a dderfidd am dana
Dan ddywedyd fel yma, “A dderfydd amdanaf?”

Fe 'mrnwygir yn llarpiau mewn gole heb gel,
Fe 'm rhwygir yn llarpiau mewn golau heb gêl,

Bydda gan Rorri a Ffinder, a Musick fel mel,
Bydda gan Rori a Ffinder, a Miwsic fel mêl,

Ag fellu y cadno cai ddiwedd yngharno
Ag felly y cadno câi ddiwedd yng Ngharno

Gan Rorri a Ffinder, a Mufick yn llon,
Gan Rori a Ffinder, a Miwsic yn llon,

Braf gwn Scweir LEWIS, nhwi redsant yn hwylis
Braf gwn Sgweir LEWIS, nhwy a redsant yn hwylus

Tri ugain milltir, nei chwaneg or bron,
Tri ugain milltir, neu ychwaneg o’r bron,

Ple gwelwd mewn talaeth fath heliaeth a hon.
Ple gwelwyd mewn talaith y fath heliaeth â hon

Trwy unplwy ar ddeg,
Trwy un plwyf ar ddeg,

Yn landeg ar redeg mynegaf i chwi,
Yn landeg ar redeg mynegaf i chwi,

Aeth y cwn gwirglod, mewn llawnder yn llu
Aeth y cŵn gwirglod, mewn llawnder yn llu

Trwy ran o dair Sir,
Trwy ran o dair Sir,

Mai'n eglur gwn clodfawr rai hynod ei hoin,
Mae'n eglur yn gŵn clodfawr, rhai hynod eu hoen,

Gallwn feddwl 'n ddiammai bod ei pene mewn poen;
Gallwn feddwl yn ddiamau bod eu pennau mewn poen;

Llanwrthwl llanwrthie, a Nantmel ddiammai,
Llanwrthwl ?llanwyrthiau, a Nantmel ddiamai,

http://www.geograph.org.uk/photo/2999715 Llanwrthwl SN9763

 

http://www.geograph.org.uk/photo/3088313 Nantmel SO0366

 

Llandewi maen ole mewn brintiau or bron,
Llanddewi mae’n olau mewn brintiau o’r bron,

Llananno, Llanbister, St. Harmon drwy burder
Llananno, Llanbister, St. Harmon drwy burder

http://www.geograph.org.uk/photo/1553151 Llananno SO0974

 

http://www.geograph.org.uk/photo/154298 Llanbister SO1073

 

http://www.geograph.org.uk/photo/740626 Llanarmon SN9872

 

Y rhedsant ai hyder, mewn llawnder yn llon,
Y rhedsant a’u hyder, mewn llawnder yn llon,

Llangirig lle gore duhintiau 'drw hon,
Llangurig lle gorau ¿duhintiau drwy hon,

Llanidloes llwyn odiaeth, Tref Eglwys lle helaeth
Llanidloes llwyn odiaeth, Tref Eglwys lle helaeth

http://www.geograph.org.uk/photo/1590014 Llanidloes SN9584


http://www.geograph.org.uk/photo/1912625 Trefeglwys SN9790

 

http://www.geograph.org.uk/photo/2827383 Llan-bryn-mair SH8902

 

A Llanbrynmair glanwaeth iach doreth ar dir,
A Llanbrynmair lanwaith iach doraeth ar dir,

 

A Carno plwy cornfawr lle hwylwd ei elor;
A Charno plwyf ¿cornfawr lle hwylwyd ei elor;

Heb Dy nag Esgybor, na gwibor ond gwir,
Heb d
ŷ nag ysgybor, na ?gwibor ond gwir

Brechinog, Maesyfed, Trefaldwn, tair Sir.
Brycheiniog, Maesyfed, Trefaldwyn, tair Sir.

Dymynwn mewn hedd,
Dymunwn mewn hedd,

Pob rhinwedd yn rhanne, ai beni mewn byd,
Pob rhinwedd yn ?rhannau, a’i ?(ddi)bennu mewn byd

I'r Sgweir a Madam yn gyfan i gyd
I'r Sgweir a Madam yn gyfan i gyd

'Tifeddion 'r un modd,
Etifeddion yr un modd,

Iw rhifo mewn rhinwedd yn weddis yn rhes,
I’w rhifo mewn rhinwedd yn weddus yn rhes,

A bendith Duw cyfion rhai llawnion er lles
A bendith Duw cyfiawn rhai llawnion er lles

Duw doro dy lwyddiant hoff innion a ffyniant,
Duw a ?dorro dy lwyddiant hoff union a ffyniant,

Boed miliwn rhoi moliant dan warant ynwir,
Boed miliwn yn rhoi moliant dan warant yn wir,

Ir Scweir gwich fodde, a Madam fwyn ole
I’r Sgweir gwych (ei) foddau?, a Madam fwyn olau

Doethineb rhynweddol rhai gore heb gur,
Doethineb rhinweddol rhai gorau heb gur,

Bendithia ei Plant inion rhai torion ar dir,

Bendithia eu plant union, rhai tirion ar dir,

I gadw cwn gwiwlon, I ddifa pryf gwilltion
I gadw cŵn gwiwlon, i ddifa pryf-gwylltion

Rhag lladd Defed dofion dwis inion heb fen,
Rhag lladd defaid dofion dwys union heb fen,

Rhag difa'r wyn gweinon fyddefo ei Mamogion
Rhag difa'r ŵyn gweinion fydde fo eu Mamogion

Yn peredd a phirion yn llon dan y llen,
Yn beraidd a phurion yn llon dan y llen,

Wel dyma nymyniant mewn mwynder. Amen.
Wel dyma fy nymuniant mewn mwynder. Amen


NORTHS, PRINTERS, BRECKNOCK.
 

sion_prys_094_cwn-john-lewis-nant-gwyllt_1810_23913k

cwn_john_lewis_120313

______________________________________________
 
Adolygiad diweddaraf: 2012-08-29 09.37

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)

 
Archwiliwch y wefan hon
---
Adeiladwaith y wefan
---
Gwaith cynnal a chadw
 
Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr
6998_kimkat0860k
 
CYMRU-CATALONIA

Free counter and web stats