2012-08-30
15.00
|
|
|
...
Y FARW WEDI EI CHYFODI YN FYW: 1845
(Arysgrifiad)
C.? L.? Parry
Y farw wedi ei chodi yn fyw
Atebydd
Anerchiad
Beth ydyw yr Efengyl
Beth yw Mormoniaeth
Y Glorian
Gau Brophwydi
a(‘u) Hamcan
Cwcw y Don
Amddiffyniad y Saint
Adolygiad
(Clawr)
Y FARW WEDI EI CHYFODI YN FYW:
NEU'R HEN GREFYDD NEWYDD
TRAETHAWD YN DANGOS ANGHYFNEWIDIOLDEB TEYRNAS DDUW
GAN CAPT. D. JONES.
"CANYS MYFI YW’R ARGLWYDD NI'M NEWIDIR," &C. — Malachi.
"A rhai yn wir a osododd DUW yn yr eglwys;
yn gyntaf APOSTOLION, yn ail PROPHWYDI, yn drydydd athrawon,
yna GWYRTHIAU: wedi hynny doniau I IACHAU,
cynorthwyau, llywodraethau, RHYWOGAETHAU TAFODAU." — Paul.
"Eithr pe bai i ni, neu i Angel o'r nef Efengylu i chwi amgen,
na'r hyn Efengylasom i chwi bydded ANATHEMA." — Paul etto.
"Ac efe (Crist) a esgynodd i'r uchelder
ac a roddes roddion i ddynion."
"Ac EFE a roddes rai yn APOSTOLION,
a rhai yn BROPHWYDI," &c. — Paul fyth,
"Dymunaf ar bob Cymro a wêl y traethodyn hwn ei ddarllen yn
bwyllog a diduedd, ai farnu (nid cyn ond wedi ei gymharu)
wrth y Gyfraith a'r dystiolaeth, wrth yr hon y bernir ni
oll cyn hir; ond ni foddlonaf, i Dduwinyddion y byd eistedd
mewn barn arnaf, am na osodwyd hwy yn farnwyr." — Yr awdwr.
"Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda." — medd Paul.
"Y neb a attebo beth CYN EI GLYWED,
ffolineb a chywilydd fydd iddo." — Solomon.
TRAETHAWD, Rhif 1af.
GWRECSAM
ARGRAFFWYD GAN WILLIAM BAYLEY, HEOL-ESTYN.
1845.
-
[Tudalen] iii
RHAGYMADRODD.
Un o wrthrychau godidoccaf y bŷd, ie, prif addurn y
greadigaeth, yw, Meddwl annibynol, rhodd y nef yw hon
i ddynion, a'r hynottaf o'i holl roddion: yr hwn ni feiddia
feddwl drosto ei hun, nid yw ddynol, a'r hwn nad ymddwyn
yn gyferbyniol, iw'r rhagrithiwr gwaethaf o'r hîl
ddynol! Ychydig, mewn cydmariaeth sydd yn meddu ar
yr anian auraidd hon, am nad ydynt yn gwybod ei
gwerth; ond yr wyf fi, er yr unig UN o hîl Gomer ar a
welais yn y wlad) yn honi fy hawl, nid yn unig i gredu, ond
hefyd i amlygu yr athrawiaeth a osodir allan yn y traethawd
hwn, ïe mae'n ddyledswydd arbenig arnaf gyhoeddi'r
hyn a gredaf yn wirioneddau dwyfol; ped esgeuluswn hyny
ni byddwn ddieuog ger bron fy marnwr. GWIRIONEDD yw'm
cleddyf, a gŵn, mae'r, HWN YDWYF.” Sy'n cynal fy neheulaw:
ei waith Ef yw, am hyny nid ofnaf beth a wnêl dyn i
mi!
EI AIR EF, yw'r unig reol anffaeledig a hyny heb
un esponiad ffaeledig arno." A dymunaf ar y darllenydd,
gydmaru, yn onest, a diduedd y pethau hyn, (nid wrth
Gyffes yr hên dadau,) ond wrth y Gyfraith ar dystiolaeth,
oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes
oleuni ynddynt. Pa un a ydyw y pethau hyn felly? Sydd
holiad pwysig iawn, ac a ddylai gael ei atteb, nid wedi ond
cyn eu cymbaru a'r drych cywir; canys y neb a attebo beth
cyn ei glywed ffolineb a chywilydd fydd iddo." medd Sol.
Dywed Paul, "Profwch pob peth, deliwch yr hyn sydd
dda," Na fydded i neb ddyfod i benderfyniad byrbwyll am
yr athrawiaeth hon, o herwydd ei bod yn ymddangos yn
newydd a dieithr, canys yr hynaf un o bob athrawiaeth yw;
a sicr yw na bydd ddieithr i neb yn yr ail-fyd, os bydd yn
hwn.
[Tudalen] iv
Cyfrifaf yr hwn a'i prawf yn anysgrythyrol, (mewn
yspryd addas,) yn ffrund penaf, ïe yn wladgarwr dâ; a
rhwymaf fy hun i alw y cyfeiliornad yn ol, (wedi ei BROFI
felly, y Bibl yn unig, fel mae'n ysgrifenedig, yn rheol) yn
y modd mwyaf cyhoeddus. Ond, o'r ochr arall, os condemnia
neb ef cyn ei chwilio, gan roddi rhwystrau ar ei
ffordd, efe a brawf ei hun yn annoeth ac annheg, yn
wrthwynebwr y gwirionedd; ie yn elyn yw genedl ei hun;
a bydded Solomon yn farnwr arno.
Na farner yr athrawiaeth hon yn ôl yr ystoriau disail,
a'r mil ond un o chwedlau celwyddog, sydd eisoes wedi
gorlifo'r wlad yn erbyn yr enw hwn; canys gallaf brofi
pob un a glywais etto, yn gelwyddog a disail; a rhoddi
hollol foddlonrwydd i bob dyn, a addef un math o brawf.
Ni wna un dyn egwyddorol feio ar fy iaith, os nad yw
mor ramadegol; oherwydd na fuom ymhlith Cymry nemawr
er yn fachgen; ond wedi bod er's dros ddeunaw mlynedd,
bron o hyd, ymysg iethoedd ereill, lle na chlyw'n air o
honi; yn enwedig am y saith mlynedd diweddaf, ni
swniodd un Cymro dyrtyr fwyn fy ngwlad am awr yn fy
nglyst; ac ni allai dim llai na chariad at fy ngwlad, a
dymuniad mawr i'm cyd-genedl gael y gwir; ie fel y mae
yn yr Iesu, fy nghymell, dan y fath anfanteision; i gynyg
iddynt yr egwyddorion hyn, gan wybod eu bod yn
wahanol i bob athrawiaeth sydd yn y wlad! Ond gwell
genyf anturio ar fy nyledswydd, ar gost pob peth, hyd yn
nod enw da (yr hwn a gyfrifaf yn well nac aur coeth lawer)
ie, os bydd raid rhoddi bywyd hefyd yn offrwm gwirfoddol
dros y gwirionedd, nac anturio ar gost cydwybod effro
i ŵyddfod ei hawdwr, i gyfarfod un Cymro, wedi celu y
pethau hyn oddiwrtho!!
Gwrecsam, Ebtill 4, 1845
[Tudalen] 1
AMDDIFFINIAD Y SAINT
VERSUS
CYHUDDIADAU THOMAS JONES,
MERTHYR,
AC EREILL.
ANWYL DDARLLENYDD,- Ysgrifenwyd
yr amddiffyniad canlynol ar
y dysgwyliad iddo gael ymddangos
yn y Bedyddiwr. Aethom ag ef
i'w swyddfa ef yn Nghaerdyf yn
bwrpasol, cynnygiasom ef i'r
Golygydd hwnw a fu ddigon rhydd i
gyhoeddi y cam-gyhuddiadau erchyll
hyny, a phob peth dirmygus arall arnom fel
enwad, sef yr hwn a
ymffrostia fod ei Fedyddiwr ef yn
gyhoeddiad rhydd i bawb amddiffyn
eu cymmeriadau.
Erfyniasom yn daer a gostyngedig am gael clirio
ein hunain o'r baw
ysgeler a ddwbiodd arnom yn ddiachos; ond, fel
arferol, yr atebiad a
gawsom ganddo oedd gomeddiad digywilydd! Do,
druan, brawychodd; glasodd, cochodd, duodd,
gwelwodd, brochodd,
ac ymgynddeiriogodd, heb un achos ond
cynhyrfiadau maleisus cydwybod
euog, nes y siglai ei liniau a'i holl gorff
yn waeth nâ'r eiddo
Belsassar gynt. Ac yn ngwyneb pob taerineb,
rheswm, a chyfiawnder —
nid oedd fater beth, gwaeth-waeth yr
ysgyrnygai ei ddannedd, y
malai ewin, ac yr haerai ychwaneg o
gyhuddiadau disail ac enwau
drwg arnom, ïe, yn ein gwynebau! Cyhuddai y
Saint o fod wedi
dweyd na chafodd yr William Hughes hwnw a
dorodd ei glun gynnorthwy
gan blwyf Merthyr, a thrwy hyny ddarfod
iddynt fforffetio
eu geirwiredd; ac o ganlyniad, na chaent
amddiffyn eu hunain yn y
Bedyddiwr. Dywedasom y gellid
profi y dynion duwiolaf a fu yn y
byd erioed yn gelwyddog
yn ol y resymeg yna, sef credu camgyhuddiad
gelyn proffesedig, a gwrthod gwrando ar yr
ochr arall. Heriasom
ef i brofi y cyhuddiad gwarthus hwnw arnom
fel enwad, neu hyd y
nod i brofi fod cymmaint ag un o'r Saint
erioed wedi dweyd y fath
beth â hyny. O, yr oedd fod rhyw Edward
Lewis, o'r Coed-duon,
wedi ysgrifenu hyny i'r Bedyddiwr yn
ddigon o brawf iddo ef, ebe efe.
Dywedasom nad oedd y gwr hwnw wedi profi ei
eirwiredd yn ddigonol
i ni ei gredu. Ac os gall y gwr hwnw brofi
fod rhai o'r Saint wedi
dweyd na chafodd W. Hughes gynnorthwy gan blwyf
Merthyr, cyhoedded
eu henwau i'r byd, a thystion o hyny; yna
galwn y cyfryw
i gyfrif, canys yr ydym ni wedi holi
llawer, a methu cael un a
ddywedodd hyny. A phe dywedasai rhyw un, dau, neu
dri hyny yn eu
hanwybodaeth, a fuasai
hyny yn profi yn agos i fil o bobl yn
gelwyddog? A ydym ni,
wrth brofi eich gohebwyr erlidgar chwi yn
gelwyddog mor eglur, yn profi drwy hyny fod
holl Fedyddwyr Cymru
yn gelwyddog? Ydym, yn ol eich rhesymeg
chwi eich hunan!
Dywedasom fod tystiolaeth Wm. Hughes am y
peth hwnw wedi ei
hysgrifenu, a'i geirwiredd wedi ei ardystio
gan lawer o lygad-dystion,
ei bod wedi ei hanfon iddo ef, ei fod wedi
cyfaddef iddo ei derbyn, ac
wedi gwrthod ei chyhoeddi yn y Bedyddiwr
hyd heddyw! — fod y
dystiolaeth hòno wedi ei chyhoeddi i'r byd
ar y pryd hyny, yn yr hon
yr addefa Wm, Hughes ei hun ddarfod iddo
gael cynnorthwy gan
[Tudalen] 2
blwyf Merthyr, yr hyn a brofa yn amlwg nad
y Saint a ddywedodd
erioed na chafodd gymhorth gan y plwyf.
Mae brad a dichell y ddyfais wyrgam hòno
i'w weled yn amlwg.
Dyben gelynion y gwirionedd yn llunio y
cyhuddiad hwnw ydyw,
ceisio profi y Saint yn gelwyddog mewn un
peth, fel na choelier fod
Wm. Hughes wedi tori ei glun na chael
iechyd! A
rhyfedd fel y
llwyddant yn eu dyfais
enllibus. Sylwer ar eu prawf
a'u sophistry
gystrawiog! Rhyw Edward Lewis yn dweyd fod
[rhyw un, dau, ynte
tri, tybied, ni welodd yn dda i ddweyd,
ond] y Seintiau yn y Coed-
duon yn dweyd na chafodd Wm. Hughes
gymhorth gan blwyf Merthyr,
a'r "Quick yn Dwr" celwyddog hwnw
yn gwneyd i'r relieving
officer ddweyd ei fod wedi cael. A dyma brawf, medd golygydd y
Bedyddiwr, na thorodd y dyn ei glun, ac na
chafodd iechyd!! Pa
brawf yw hyn? Beth a wyddai y relieving
officer hwnw a dorodd y
dyn ei goes? Pa un ai
efe, ynte y "Quick yn Dwr," a ysgrifenodd
hyny? Mae'r ddau yr un
lleferydd, chwaeth, a dyben. Cywilyddied
y dichellwyr ynfyd wrth y
fath dwyll-resymeg faleisus! Ond dyma
yr oreu a allant
ddyfeisio yn erbyn y Saint; a gwell ganddynt hyn,
nag addef y gwir a chydnabod
gallu Duw yn y peth hwnw. Pe
dywedasai un o'r Saint na
chafodd ddim gan y plwyf, pa fodd yn enw
rheswm y dichon hyny
brofi enwad cyfan o bobl yn gelwyddog? A
phaham y gwrthodai y
golygydd rhagfarnllyd hwn iddynt le i amddiffyn
eu cam? Atebwn, mai
oherwydd y rhagwelai ei hun yn ei liw
priodol drwy hyny, sef yn
erlidiwr creulon, ac yn athrodwr parhaus.
Meddyliai gadw ei ddarllenwyr dan ei
bawenau, a chadw y Saint yn
y baw a ddwbiodd efe
arnynt! Beth ychwaneg a allai
wneyd? Beth
ychwaneg a allasem ninnau wneyd?
Cynnygiasom iddo ddigonedd
o brofion o'u dieuogrwydd, ac yn ngwyneb y
cyfan pranciai
oddiamgylch fel dyn gwyllt, gan waeddi,
"Pw! pw! pw! — twyll, twyll
i gyd." Ni fynai glywed dim genym, nac
edrych ar ein hysgrif.
"Ni wnaf fi ddim â chwi"
ebe efe; ac ymaith ag ef i'w dwll mewn
tymherau drwg, gan slamo
y drws ar ei ol! Ië, Gymry, dyma ymddygiad
golygydd y Bedyddiwr
crefyddol hwn, er ei holl ymffrost o "ryddid."
Rhyddid un-ochrog iawn yw
hyn — Ïe, rhyddid iddo ef gamgyhuddo a fyno,
a rhyddid i ninnau oddef y cyfan yn
ddiamddiffyn o'i ran ef. Diolchwn
am ryddid y wasg a'r gwirionedd i'n
hamddiffyn, a gwnawn yr iawn
ddefnydd o honynt hefyd, er ei waethaf ef
a'i blaid enllibus. Drwg
genym fod i ni ddim a wnelom ag yntau; ei
fai ef ydyw hyny. Ond
cymmaint a hyn wrtho — fod yn rhy ddiweddar
iddo waeddi, "Ni wnaf
fi ddim â chwi," yn awr, wedi bod yn
ein difenwi a chyhoeddi pob
math o gableddau arnom am flynyddau. Mor gynted ag y dechreuwn
ni ymolchi, tafl y cawg i
lawr, a chan genfigenu gwaedda, "Ni wnaf
fi ddim a chwi:" ac
mor gynted ag y cynllunia rhai o'i gynffonwyr
ryw ystori ddigon drwg a
chelwyddog i foddio ei chwaeth ef, allan a
hi yn y Bedyddiwr fel
seren wibiog, ac efallai enw rhyw barchedig yn
gynffon iddi, fel ei chreder yn hawddach
gan y werin; ac yn y fan
y dechreuwn amddiffyn, dianc fel y cadno
i'w dwll, ben ol yn mlaenaf,
a than ysgyrnygu ei ddannedd oddiyno,
gwaedda, "Ni wnaf fi ddim
â chwi!" Beth yw hyn ond dweyd y deil
efe ein pen dan ei gesail
tra gallo, ac y gwahodda
bob Parch. Mr. Davies o
Ddowlais, Parch.
[Tudalen] 3
Mr. Tobit ger y Bont, Parch. T. ab Ieuan,
Parch. D. Williams
o Abercanaid, Thomas Jones o Merthyr, Quick
yn Dwr anwireddus, Meiriadog
afresymol, pob mad-dog a chowards
cyfarthlyd ereill drwy'r dywysogaeth,
i'n taro yn ein talcen, ac yr helpa yntau
gyda ei saethau brwyn
bob cyfleu a gaffo. Mae yn ffiaidd genym
fod rhaid i ni ddifwyno
ein dwylaw i drin y fath gadno drewedig, ac
ni buasem ychwaith oni
bai fod yn ddyledus i'w ddarllenwyr gael ei
weled gerfydd ei gynffon
o flaen eu gwynebau, fel y gwelont fath un
ydyw, a deall pa fodd i'w
goelio ef a'i Fedyddiwr enllibus o
hyn allan. Darllener a ganlyn i
ddechreu, a cheir ychwaneg o sawyr ei
ymgnofa etto, fel y gallo pawb
ffurfio ei farn ei hun am liw a llun ei
galon ef.
WILLIAM PHILLIPS,
WILLIAM HENSHAW,
THOMAS PUGH.
[Copi o'r ysgrif at Olygydd y BEDYDDIWR.]
MR. GOLYGYDD, — Dyledus i chwi, i'r
cyhoedd, i'n cymmeriadau ein
hunain, ac yn enwedig i'r grefydd yr
ymddibynwn arni am fywyd
tragwyddol, yw amddiffyn ein hunain yn
ngwyneb y cam-gyhuddiadau
gwarthus a ddygir yn ein herbyn gan ddyn
o'r enw Thomas Jones,
Merthyr, ac a welir yn rhifyn Hydref o'r Bedyddiwr.
1. Cyhudda ni o arferyd enwau rhyw
"Ahiram a Joseph Smith wrth
fendithio," yr hyn sydd hollol
ddisail, mewn gwirionedd.
2. "Y cânt feddiannu eu lleoedd yn
Nauvoo," &c. Nid yw hyn felly
ychwaith; ond yr hyn a gredwn mewn
perthynas i'r "ymfudiad i'r
America," yw yr hyn a geir yn yr ysgrythyrau
santaidd; a gwyr y gwr
uchod na addawyd dim meddiant i ni, nac
iddo yntau, yn Nauvoo, nac
yn un man nodedig arall
ar y cyfandir.
3. "Hysbysem (ebe efe) ein bod yn
gweled Iesu Grist mewn whiskers
cochion," &c. Mae y cyhuddiad hwn heb liw na llun
iddo, mewn
gwirionedd, cyn belled ag y mae a wnelo y
Saint ag ef. Pa beth a allai
efe fod wedi ei haeru yn debyg i hyny, nis
gwyddom ni, ac nid ydym yn
atebol drosto.
4. Mewn perthynas i'r ddyfais echryslon ein
cyhudda o honi, sef, ein
bod wedi ffugio cael dadguddiad, yn cyhuddo
y llywydd cyntaf o fod yn
ddrwg gyda gwraig gwr arall, fel y caffai
dyn arall ei swydd ef, &c.
Ei wefusau ei hun sydd yn ei fwrw yn euog,
fel y canlyn — "Barnasom y
gwnai yr olaf yn well," ebe efe. Ac ar
yr anadliad nesaf, dywed — "Fod
yr olaf yn cael ei ystyried yn
brif-lywydd" eisoes! Afreidiol manylu,
oherwydd y mae'r celwydd hwn yn ddigon
amlwg. Ond, mewn sobrwydd y
dywedwn, fod y cyhuddiad hwn, ie, bob gair
o hono, wedi cael
ei brofi yn hollol anwireddus mewn arholiad
manwl a fu yma ar y peth
o flaen cannoedd, pa rai a dystiant hyny
hefyd. Profwyd na chafodd y
fath ddyfais ryfygus ac annuwiol
fodoliaeth, ond yn unig yn ei galon
genfigenus ef ei hun. Haera fod ereill wedi
cyduno ag ef yn hyny.
Erioed o'r blaen ni ddywedodd fod ond un;
ac er cael pob annogaeth
genym i brofi hyny yn yr arholiad manwl a
fu arno ef, methodd brofi
fod cymmaint ag un o honom yn gwybod dim am
y fath gabledd ysgeler.
A rhyfedd, os gwir y cyhuddiad, na ddarfu
i'r Thomas Jones hwn
ynganu gair am y fath beth am lawer o
fisoedd wedi yr amser y dywed
iddo gymmeryd lle!
[Tudalen] 4
Nid oedd eisieu y fath ddyfais, nac un
ddyfais arall, i ateb y dyben y
sonia am dano, oherwydd nad oedd dyfodiad y
llywydd olaf i'r wlad hon
yn effeithio dim mewn un dull ar yr hwn
oedd yn blaenori yma o'r
blaen. Ac — "No object in view, no
design." Pe dywedai y gwr uchod
y gwir, gwyr yn dda na welodd gyhuddiad yn
cael ei dderbyn yn erbyn
neb o honom, ond gan lygad-dystion. Am ei
waith yn haeru ei fod
wedi clywed un o honom yn haeru ddarfod
iddo gael dadguddiadau na
chaniata gweddeidd-dra iddo eu gosod o
flaen y cyhoedd, na fydded i
chwi, Syr, na neb arall, ei goelio. A
thybiwn, pe yr adwaenech chwi y
gwr hwn, fel ei hadwaenir yma yn ei
gartref, na chawsai un o'i
haeriadau ymddangos yn eich colofnau, h.
y., os oes genych ryw barch
i'ch cyhoeddiad. Nid ydym yn chwennych duo
cymmeriad y gwr hwn mewn
un modd, ond carasem yn fawr ei adael yn
llaw Duw cyfiawn. Dyoddef
fel llofrudd neu leidr a fyddai bod yn
ddystaw yn hwy, yn ngwyneb y
fath gyhuddiadau. Onid yw efe wedi ein
gorfodi i ddod allan fel hyn,
i'w ddangos ef yn ei liw priodol, fel y
dealloch chwi a'ch darllenwyr
gymmeriad yr unig dyst a saif i fyny yn erbyn
tystiolaeth cannoedd o
Gymry, i'w darostwng hwy, a'r oll sy'n
werth byw erddo (pe gwir ei
haeriadau), islaw dynoliaeth. Ond mewn
gwirionedd, Syr, nid yw ei
gyhuddiadau ef i'n herbyn yn ddim amgen nag
effeithiau gwenwynig ei
galon ddialgar ei hun, a hyny wedi iddo
gael ei esgymuno o'n heglwys
ni, ac wedi ei brofi yn euog o bechodau llawer mwy
ysgeler nag y
dymunem enwi. Ceisiodd ddod yn ol amryw
weithiau; ie, byd y nod wedi
i'w ysgrif gyntaf ymddangos yn y Bedyddiwr,
dywedodd, y byddai yn dda
ganddo ddod yn ol i'n
heglwys ni. Y mae cannoedd a
dystiant iddynt ei
glywed yn dweyd, ar ol iddo gael ei dori
allan, "nad oes gan neb arall
y wir grefydd ond ein heglwys ni." Er
hyny, yr oedd ei ymddygiad
anfoesol ac anedifeiriol yn parhau yn
gyfryw, fel, pan safai i fyny o
flaen ein heglwys i geisio ei le yn ein
plith, na chodai cymmaint ag
un, o yn agos i dri chant o aelodau, ei law
o'i blaid!!
Haerai y pryd hyny nad oedd efe wedi
traethu y cyhuddiadau uchod wrth
y Bedyddwyr, pan y gwyddem ei fod wedi
gwneyd hyny eisoes. Pan welodd
na chaffai dderbyniad, ymollyngodd i'r fath
nwydau drwg, nes bygwth ar
gyhoedd y mynai ddial arnom rywfodd, ac y
cyhoeddai bob peth a allai
yn ein herbyn yn y Bedyddiwr,
&c, yr hyn a brofodd i bawb nad oedd efe
yn wir edifeiriol am ei bechodau blaenorol;
ac o ganlyniad, ni
chaniatäai ein rheolau eglwysig iddo ef, na
neb arall o'r cyfryw,
aelodaeth yn ein plith. Aeth y dyn hwn mor
afreolus, nes gorfod i'r
swyddwyr ei droi allan o un cwrdd cyn y
diwedd. Wedi ei wrthod genym
ni, cynnygiodd ei hun i'r Bedyddwyr
drachefn; ond clywsom ddarfod
iddynt hwythau ei wrthod mewn mwy nag un
eglwys, ac y bygythiai eu
haelodau ymadael yn hytrach na chyfranogi
gyda'r fath ddyn. Ac yn
ddiweddaf oll, cyssegrwyd ef â dwfr
santaidd y Pabyddion. Bedyddiodd
ei blentyn gyda hwy, a haera yn awr mai
ganddynt hwy yn unig y mae y
wir grefydd! Paham yr ystyria eich gohebydd
groes-haeriadau gelyn
proffesedig ac esgymunedig fel hwn yn
deilwng o le mewn cyhoeddiad
crefyddol, yn hytrach na thystiolaeth
wirach cannoedd o gymmydogion,
yn hollol groes iddo? Gwyddai efe o'r goreu
fod y tyst dialgar hwn yn
cael ei ystyried gan ei frodyr ef yn rhy
ddrwg i gael dyfod i'w plith
hwynt; ac etto yn ddigon cywir i gondemnio
enwad o ddynion ereill? A
fyddai y fath dyst yn ddigonol yn erbyn ei
enwad ef, neu yn erbyn rhyw
eglwys
[Tudalen] 5
arall, heblaw y Saint, tybied? Na fyddai yn
ddiau, ddim mwy nag
oedd tystiolaeth Judas Iscariot yn erbyn yr
enwad y perthynai yntau
iddo. Pa ddyn rhesymol a ddysgwylia glywed
llawer o wir gan ddyn
esgymunedig, digon drwg i addef ei fod wedi
rhyfela yn wirfoddol am
dros dair blynedd yn erbyn Duw a chydwybod?
Pe gwir fyddai haeriadau y dyn hwn, na dim
o'r cyffelyb, am ein
crefydd, ai tybied y glynai dros hanner
miliwn o bobl resymol yr oes
oleu hon wrthi dan bob gwawd ac
erlidigaethau, a'r rhan fwyaf o honynt
wedi bod gydag enwadau ereill cyn hyny? Pe
twyll a fyddai genym,
ai tybied, mewn difrif, yr erlidiai y
twyllwyr hyn ni mor arw?
Unwaith etto tystiwn, mewn gwirionedd, nad
yw y broffes fawr a wna y
gwr uchod am ei gydwybodolrwydd i
"ddadguddio twyll," &c, namyn
rhagrith digywilydd, er cael gan ereill ei
gredu, a'i unig ddyben ydyw
dial ar y rhai na allant gyd-ddwyn yn hwy
â'i ddrygioni. Cawsom lawer
o drafferth er pan y daeth atom, i geisio
ganddo rodio yn ffyrdd
cyfiawnder; ond o'r diwedd gorfu arnom ei
dori maes, a dyma efe wedi
dangos pwy ydyw, mai "cyhuddwr y
brodyr," wedi troi yn "angel y
goleuni." Gwir yw y
gair a ddywed — "Dyn drwg o drysor drwg y galon a
ddwg allan bethau
drwg."
Gan fod eich cyhoeddiad
yn ddigon rhydd i'r cyhuddiadau gwarthus
hyny, hyderwn yn fawr y
bydd yn ddigon rhydd i dderbyn hyn o
amddiffyniad hefyd.
Gallasem roddi i chwi lawer ychwaneg o enwau
dynion cymmeradwy, ond
gobeithiwn y boddlona yr hyn a ganlyn yn
bresennol, yn ngwyneb UN tyst! — Samuel
Morris, John Phillips, David
John, William Morgan, Daniel Williams,
David Rees, Thomas Rees, Thomas
Smith, Morgan Morgans, Howell Williams,
David Jones, Jenkin
Hughes, Joseph Davies, Edward Edwards,
William Hughes, Hugh
Jones, Jenkyn Thomas, John Griffiths,
Timothy Wosley.
Yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd, wele
dystiolaeth William
Henshaw ei hunan! — "Gan mai myfi yw y
llywydd cyntaf hwnw y
cyfeiria Thomas Jones ato, dyledus yw
hysbysu mai anwireddau
hollol yw yr hyn a ddywed. Ni ddarfu Capt. D. Jones
erioed geisio
fy swydd i. Nid yw ei
swydd ef yn effieithio dim ar fy nyledswyddau
i; ac yna ni bu neb o'r
Saint yn euog o ddyfeisio y cabledd ofnadwy
y sonia Thomas Jones am dano, ond efe ei
hun. Buasai meddwl am
y fath ryfyg yn ein llanw ag arswyd a
braw."
Yr eiddoch, &c.,
WILLIAM PHILLIPS,
WILLIAM HENSHAW,
THOMAS PUGH.
Gwel y darllenydd bellach nad yw
tystiolaeth y Thomas Jones
esgymunedig hwn yn deliwng o'i ymddiried
ef, oherwydd ei fod yn dweyd
gormod i fod yn wir, ac yn ei groes-ddweyd
ei hun. Mewn rhifyn
blaenorol o'r Bedyddiwr, galwai y
dyn hwn y Saint yn dwyllwyr, &c.
Haerai mai ffug oedd y doniau ysbrydol a
broffesant, a dyry enghraifft
o lefaru mewn tafodau dyeithr, a'r
cyfieithiad, &c, "er profi twyll y
Seintiau." Ac wedi y cwbl, onid profi
ein gwirionedd y mae efe yn
anwrthwynebadwy i bob dyn rhesymol? Sicr
iawn; canys addefa ein gelyn
proffesedig hwn ein bod yn llefaru â
thafodau, cyfieithu, &c., ac o
ganlyniad, ein bod yn efelychu yr eglwys
apostolaidd, yn ein proffes o
leiaf.
[Tudalen] 6
Yr oeddynt hwy yn dweyd, "Deisyfwch
ddoniau ysbrydol;" dyma addefiad
ein bod ni yn gwneyd felly etto.
"Byddwch awyddus i brophwydo,
ac na waherddwch i lefaru â thafodau
dyeithr," ebe Paul; addefa
Thomas Jones ein bod ni yn gwneyd hyny.
Etto — "Yr hwn sydd yn
llefaru â thafod dyeithr, gweddied ar iddo
allu cyfieithu," oedd y
gorchymyn apostolaidd; ac wele ein gelyn
penaf yn tystiolaethu fod y
Saint yn gwneyd felly. Ai tybied nad yw hwn
yn dyst digon diduedd
gan hyd y nod Olygydd y Bedyddiwr ei
goelio? Yr ydym ni yn pregethu
i'r byd, ac yn proffesu ein hunain ein bod
yn mwynhau y doniau
ysbrydol hyny yn ein heglwysi. Mae y byd yn
ammau, ein gelynion yn
gwadu; ond o'r diwedd, dyma iddynt
dystiolaeth ddigon cryf, debygem
ni, ein bod yn credu ein bod yn mwynhau y
doniau; a phwy a wyr yn
well na'r rhai a brofasant y rhoddion nefol
wrth y cannoedd? Pe bai
Thomas Jones mor gyfrwys â gwadu nad oeddym
yn honi mwynhau y
doniau yn yr eglwys, yna, cyn belled ag y
credasid ei air, llwyddasai
yn ei amcan annuwiol. Ond y mae yn rhy
ddiweddar i hyny yn awr, canys
y mae wedi addef ein bod yn eu harferyd.
Mae'n wir fod Thomas Jones
yn haeru mai ffug yw y doniau, ond y mae
mor wir â hyny hefyd na
chynnyg efe un math o brawf o hyny; na wna,
mewn un dull, ond ei air
ef yn unig: a pheth yw ei haeriad ef yn
ngwyneb cannoedd a wyddant
yn well? A ddichon rhywun rhesymol gredu y
gwnai cannoedd o rai a
fuant yn bregethwyr doniol, yn ddiaconiaid
ffyddlon, ac yn aelodau
parchus gyda'r gwahanol enwadau ereill,
barhau i ffugio doniau
ysbrydol am flynyddau, mewn undeb a
chariad, heb gael un budd, na thâl,
na lles trwy hyny? O na,
y mae y fath beth yn anmhosibl; a'r neb a
haera hyn, a haera ar yr
un anadliad, mai ffug oedd yr arferiad o'r un
doniau yn yr un fath
achosion gan saint y dyddiau gynt. Deistiaeth
proffesedig yw y naill
wadiad yn ogystal â'r llall.
CIPOLWG AR Y DAVID WILLIAMS O ABERCANAID
HWNW, SYDD A'l
FYS MOR DDWFN YN Y FRYWES HALLT HON.
Dyma y dyn hwnw a gyhoeddodd ffrwyth ei
ymenydd cymmysglyd, a'i
enllib cas, yn erbyn y Saint, mewn
traethodyn bychan yn ddiweddar;
a dyma y dyn a bwyswyd mor deg yn ei glorian
ei hun, ac a gafwyd
yn brin o reswm, ysgrythyr, a gwirionedd;
ac y profwyd ef yn ddeist
athrodus trwy ei lyfryn. Ac yn nesaf peth,
yn lle canlyn yn y blaen
mewn brwydr deg drwy yr argraffwasg ar ol
dechreu, dialai yn mhob
modd a allai o'r tu ol i'r berth. Nid ydym
yn sicrhau mai efe a
berswadiodd un o'i aelodau i droi yr holl
Saint o'u gwaith a'u tai,
ar yr addefiad mai o herwydd eu crefydd yn
unig y gwneid hyny. Ond hyn
a ddywedwn. Os nad efe oedd yr achos
cynhyrfiol o'r erlidigaath
gywilyddus, a'r creulondeb digyffelyb hwnw,
nad y David Williams hwn
a rwystrodd un o'i braidd i wneyd hyny.
Onid yw efe yn proffesu
bod yn fugail ar braidd yr Iesu addfwyn?
Ond cynddaredd blaidd
yw hyn yn hytrach. Dywed y Bibl i ni mai
"wrth eu ffrwythau yr
adnabyddwch hwynt." Hefyd, yr hwn a
ddywedo Duw yn rhwydd
wrth y neb a wnelo y fath beth sydd yn
gyfranog o'i weithredoedd
drwg ef. Dywedir hefyd, "Na
ddialwch;" ond y mae dial yn felys
gan hwn. Yn nesaf peth, clywir ef yn y
tafarndai ar nos Sadyrnau
yn cymhenu y Saint, yn mhlith meddwon,
tyngwyr, a rhegwyr. Cofus
[Tudalen] 7
genym y ddiareb, mai
"adar o'r un lliw a ehedant i'r un lle." Clywsom
fod rhyw bregethwr
erlidgar wedi methu cadw ei draed dano, ac
yn mha le y cafodd ei
hun, neu y cafwyd ef gan ereill, debygech chwi,
wrth ddychwelyd o
bregethu ar nos Sul, ond mewn pwll hwyad! Nid
ydym ni yn dweyd pwy oedd
y truan anffodus hwnw. Ond
gwyddom
mai David Williams, o Abercanaid, yw y
gohebydd a ffurfiodd, a
ofynodd, a ysgrifenodd, ac a anfonodd
atebion y Thomas Jones hwnw i'r
Bedyddiwr, ac a ddymunai i'w ddarllenwyr goelio ei dystiolaeth
unigol
ef, yn erbyn yr holl Saint a'u crefydd. Ond
clywch beth yw barn
David Williams ei hun am eirwiredd a
chymmeriad y Thomas Jones
hwnw. Y mae tystion ddarfod iddynt ei
glywed yn dweyd mai dyn
drwg a chelwyddog oedd y tyst hwnw, nad
oedd ei air yn werth dim
yn ei olwg ef, a bod ei holl aelodau ef
wedi gwrthod derbyn Thomas
Jones yn aelod o'u heglwys hwynt; ac etto,
dysgwylia i'r wlad gredu
ei dystiolaeth yn erbyn y Saint.
Ddarllenwyr y Bedyddiwr, beth
meddwch chwi am hwn? Bydded rhyngoch chwi
ag ef. Yn nesaf,
dangoswn y benbleth gelwyddog a wauodd y
ddau bartner hyn, a'r
modd y crogant eu gilydd
yn yr un rhaff. Yn ei ragymadrodd i'w
holwyddoreg, yn rhifyn
Hydref o'r Bedyddiwr, dywed David Williams
wrth y golygydd —
"Ni therfynwyd yr ymddyddan [efo T. Jones] ar
hyny [sef yr hyn a ddaeth
allan yn y rhifyn blaenorol], eithr aethom
rhag ein blaen." Ai "rhag eu
blaen" gyda'r hanes a geir yn rhifyn
Hydref? Beth arall a ddichon gyfeirio ato?
Ac os felly, paham y
gofyna yr un D. Williams i T. Jones, yn yr
ymddyddan hwnw — "A
ydych yn aros yn yr un
penderfyniad yn bresennol [sylwer, a pha
bryd?] ag yr oeddych pan y buom yn
ymddyddan ar y mater hwn o'r
blaen?" Beth! Oni ddywedodd y fynyd
o'r blaen, na therfynwyd yr
ymddyddan y pryd hyny? Oni ddywed fod
ganddo bedwar o dystion
crefyddol, fod yr holl ymddyddan, sef yr
hyn oedd yn y rhifyn
blaenorol, a'r un dan
sylw, wedi cymmeryd lle ar yr un "prydnawn
gwaith," yn yr un
Capel y Bedyddwyr? Ie, dyna
ddywed David Williams.
Ond sylwer fel yr haera y Thomas Jones hwn
yn hollol groes iddo!
Dywed mai rhyw amser arall y bu yr
ymddyddan olaf hwn, a'i fod
yntau yn parhau yn yr un penderfyniad gwrol,
sef i gablu plant Duw,
ag yr oedd y tro
blaenorol. Pa un o'r ddau a goelir? Anmhosibl
coelio y ddau. Ond ni
choelia neb rhesymol yr un o honynt, debygwn i.
Goreu iddo ef po leiaf a
fo ganddo o dystion fel hyn, onide?
canys tystion i'w erbyn ei
hun yw y rhai hyn. Pwy fyddai mor ffol â
dysgwyl clywed gwirionedd
gan y fath gyfeillion hynaws a'r rhai hyn?
Gwr cloff yw'r celwydd. Unwaith etto, am y
David Williams hwn,
dywed nad oedd yn meddwl y Saint yn werth
sylw pellach, oddieithr
i'r "Meiriadog" hwnw ofyn i
Thomas Jones, trwy gyfrwng y Bedyddiwr,
a oedd efe wedi addef wrth Robert Evans mai
celwyddau a ysgrifenodd
efe ar y Saint, a bod yn edifar ganddo. Ac
yna, pwy a welwn
yn neidio i'r bwlch, gan na allai gael gan
Thomas Jones wadu hyny
yn awr, ond y David Williams hwn, fel teigr
yn yspïo ei fantais i
grafangu ei ysglyfaeth; a'r modd y gwna i
atebion blaenorol Thomas
Jones i wneyd y tro yn awr, ac i brofi
Robert Evans yn gelwyddog, ac
i gadw yr argraffiadau cyntaf ar feddwl y
wlad, ydyw, cyfnewid ei
gwestiwn cyntaf, fel pe buasai yn ei ofyn
wedi i gwestiwn Meiriadog
[Tudalen] 8
ddod i maes, ac fel y buasai yr ateb hwnw
yn ateb i Meiriadog hefyd.
Dyma ei gweithio hi yn drwsgl, onide?
Profasom eisoes fel yr
ymgrogodd yn ei rwyd ei hun, trwy addef yn
ei ragymadrodd fod yr
atebion diweddaf wedi eu rhoddi cyn i T.
Jones wadu. Ond y mae yn
amlwg mai private at ei bartner anwyl,
sef y golygydd, oedd y
rhagymadrodd, ac iddo yntau, naill ai yn ei
frys, neu ryw ffwdan
anffortunus arall, ei ollwng allan.
Gresyn, er lles eu hachos
hwynt, na fuasai y ddau fradwr yn deall
eu gilydd yn well.
Gofaled Goliath y cledrwyr o Abercanaid anfon
ei secrets gwenwynig
i'w gyfaill ar eu pen eu hun y tro nesaf, rhag ei
gywilydd. Ond pa fodd y
gallai ei ohebiaeth ef fod yn atebiad Thomas
Jones i Meiriadog,
oddieithr ei fod yn brophwyd, ac ateb cwestiynau
cyn eu gofyn? Ond, er gweled ychwaneg o'r fusiness
gywilyddus a garia
y pregethwr hwn a'i Judas cyflogedig yn
mlaen, mor sly
debygasent hwy a'r cwn lladd-defaid,
darllener a ganlyn, a chaiff
y new member o'r sanhedrim hon, sef
Meiriadog, ei dynu drwy'r felin
etto ar ei ben ei'hun, a gweled ei fod wedi
dechreu gwaeth job na'r
frad hono ynghylch lladrata corff Crist o'r
bedd, a'i fod mewn gwaeth
cwmni na'r celwyddwyr hyny.
ROBERT EVANS YN ERBYN MEIRIADOG.
"Yr ydym ni yn tystio ddarfod i ni
glywed Thomas Jones yn dweyd
wrth Robert Evans y dywediadau hyny a
anfonodd Meiriadog i'r
Bedyddiwr, a chlywsom Thomas Jones yn dweyd llawer ychwaneg ar
y pryd, ac i'r un pwrpas.
Gofynodd Robert Evans i Thomas
Jones
dair gwaith drosodd, yn ngwydd dros ugain o
ddynion, gan mwyaf
o'r byd, y cwestiynau hyny ac ereill, a
chafodd yr atebion hyny.
Cyfaddefodd Thomas Jones mai anwireddau yw
y cyhuddiadau hyny a
gyhoeddwyd yn y Bedyddiwr yn erbyn y Saint.
Cwestiwn gan Robert Evans
— 'A ydych chwi, Thomas Jones, yn cyfaddef
yn ngwydd y
dorf hon fod yn edifar genych achosi i hyny
fyned i'r Bedyddiwr?
Ateb gan Thomas Jones —
'Y mae yn edifar genyf, ac ni feddyliais y
caent ymddangos yno.' Cwestiwn gan Robert
Evans — 'A ydych
chwi yn caniatau i mi ddefnyddio eich enw
er eu galw yn ol?' Ateb
gan Thomas Jones — 'Ydwyf, a dywedwch fy
mod i yn dweyd mai
anwireddau ydynt.' Gwelsom Robert Evans yn
ysgrifenu rhai o
atebion Thomas Jones yn ei ddydd-lyfr yn y
fan, yn ein gwydd ni oll;
ac felly y gwyddom mai gwir yw yr hyn a
ddywedodd Robert Evans
wrth Meiriadog am y mater hwn."
HOWEL PHILIPS,
EDWARD OWENS,
BENJAMIN JONES,
THOMAS JOHN,
JOHN ROBERTS,
HOPKIN MATHEWS,
DANIEL WILLIAMS,
JENKYN THOMAS.
ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES, RHYDYBONT.
Fersiwn wedi ei chywiro o’r testun a geir yn:
http://www.archive.org/details/amddiffyniadysai01jone#
______________________________________________
sion_prys_095_y-farw-wedi-ei-chodi-yn-fyw_1845_2914k_120830_15-00
Adolygiad
diweddaraf: 2011-02-15 23.48;
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan
"CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant
una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You are visiting a page from
the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
(Íngglish)
Archwiliwch y wefan hon
---
Adeiladwaith y wefan
---
Gwaith cynnal a chadw
Cysylltwch â ni
trwy’r llyfr ymwelwyr
CYMRU-CATALONIA