kimkat0123k Y Partin Dwpwl. Sef Rhagor o Hanes Ysmala Dai a Shoni yn y Rhyfel. Glynfab. 1919.


10-03-2023

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●
kimkat0123k Y tudalen hwn

 

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delw 0003)

 

 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website



Y Partin Dwpwl.
Glynfab. 1919.

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delw
edd 4665)

 

Ceir fersiwn ar ffurf tudalen IAH = Iaith Arwyddnodi Huperdestun / Hypertext Markup Language = HTML yn y fan hon:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_100_y-partin_1919_3801k.pdf


….

==

 


(delwedd
5116) (tudalen 6)

 

Ail Lyfr ‘Ni’n Doi’

Llyfr mwyaf Difyrus yr Iaith.

Y Partin Dwpwl
Sef Rhagor o Hanes Ysmala

Dai a Shoni yn y Rhyfel.
 
GAN GLYNFAB.
CARMARTHEN:
W. M. EVANS & SON, "SEREN CYMRU”
OFFICE.

 

(William Morgan Evans) (1919)

==

 


(delwedd
5117) (tudalen 7)

'Y Partin Dwpwl.'
RACOR O ANAS DAI A FINNA
A'R RYFAL
“I gatw'r ên Dafottiath yn fyw.”
Gan GLYNFAB.
Awdwr – “THE RAVEN,"
Buddugol yn Eist. Gen. 1911; "SILVANO,” a Nofelau eraill.

‘Shift y Diwetydd’


CAERFYRDDIN:
W. M. EVANS A’I FAB, SWYDDFA "SEREN CYMRU.”
 

==

 


(delwedd
5118) (tudalen 8)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYNWYSIAD.

Y Shwrna Ginta – “Randiboo o'r Short Ora’.”

Yr Ail Shwrna — "Coolo lawr Diccyn."

Y Dryttydd Shwrna — "Ar Ascwrn y’n Cefan."

Y Betwarydd Shwrna — "A'n Gwinepa sha Berlin."

Y Bimfad Shwrna — "Yn Nghenol y Panarmonian!"

Y Wechfad Shwrna — "Sleepin' Pills an' so on."

Y Seithfad Shwrna — “’Ow Ni'n Doi Saved the Situashion."

Yr Wythfad Shwrna — "Wrth Drod y Bryn."

Y Nawfad Shwrna — "Mas O'r Pot Sâm."

Y Ddecfad Shwrna — "Cheers a Promoshon."

Yr Unfad Shwrna ar Ddeg — "Y Clatcho Ffyrnicca Ariod.”

Y Ddoiddecfad Shwrna — “Avoc ar Venjance."

Y Dryttydd Shwrna ar Ddeg — “Tynu Sha Weelod y Pwll."

 


==

 


(delwedd
5119) (tudalen 9)

Y PARTIN DWPWL.


Y SHWRNA GiNTA.


'RANDIBOO O'R SHORT ORA’.

 
‘Ma i o'r diwadd,' mynta Dai, 'Wy ti, Shoni, yn gwpod beth sy weti'n striko i?’


‘Nacw wir ddyn,' myntwn i. 'Alla i ddim gesso bachan; gwed mlan, wath ma'r ‘forward movemant' bothdi dychra.'


‘Wel, Shoni,’ mynta Dai, ‘geira'r bachan bach na gladdson ni ddo ddiwetha. Wy ti'n cofio? Pan odd a bron ffeelu anatlu i wetws, —

'Did I do my duty? Wot will they think of me at 'ome?'


I ethon y'n doi yn ddishtaw.


'la, ia,' mynta Dai. ‘Sa pob showdwr yn pinno y geira ar i frest — ' Wot will they think of me at 'ome,' fyssa Will y Bwtchwr o Berlin ddim yn 'ir cyn cal
job i dorri cerryg o dan boys y wyrcws.'

‘Eetha right Dai,' myntwn i.


‘la, a sa pob crottyn a chrotten,' mynta Dai,' wrth atal Cymru i fynd sha Lloegar, ne rywle arall, yn
gneyd r’un peth, fyssa ddim cwmment o waith i'r
 

==

 


(delwedd
5120) (tudalen 10)

 
10 Y PARTIN DWPWL.


ffeeraton a'r pyrgethwrs i weiddu Mesopotamia a Gibboa yn y cyrdda prygethu. Na fyssa, creta di fi.
Fyssa ddim cwmment o bechaduriaid yn y byd: fyssa pob crottyn a chrotten yn rwy short o genatwr iddi nw'i unen.'

‘Bachan, Dai,' myntwn i, ‘Old on, myn yffryd i. Take time, bachan. Sa yna'n diccwdd i fyssa'r ffeeraton a'r pyrgethwrs mas o job: i fyssa rwpath
felna yn ry depyg i'r 'Self-raising Flour,' ne'r sepon sy'n golchi unan.’

‘Gwet di beth licci di, na'r fact, Shoni, a na'r patant levar sy'n mynd i weetho machine yours confectionately Dai Jones —

‘Beth weta nhw yn nre?'

Ma Ilicced Cymru arno ni'n doi, phob doi arall.

‘Beth weta nw yn nre
Am Dai a Shoni Morgan?
Os do nhw 'nol yn fyw
R’ol gneyd blawd llif o'r German:
Beth weta'r Parlamant
Am showdwrs gora'r gwletydd?

Ma dwy line ytto, a ma rwpath yn gweyd am i fi neyd wind-up fel 'yn —

Fod wyrkouses y wlad
I ni i dreelo'n dwetydd.'

‘Eisht bachan cebyst,' myntwn i. ‘Showdwrs yn
 

==

 

 

 

 


(delwedd
5121) (tudalen 11)


Y PARTIN DWPWL. 11

 

gorffod treelo diwetydd i os miwn wyrkws? Ar ol bod yn wmladd dros i gwlad? Paid bod yn ionc, Dai.'

 

'Ionc efa, Shoni?’ mynta Dai. 'Na ffordd odd petha webi bod, yn ol yr annas. Sawl trempyn alws wrth ddrws back y'n ty ni, a diccon awdd gwpod ma showdwr odd a weti bod wrth i gerddettiad a. Ar ol colli Iliccad, ne fraich, ne gôs yn y ryfal yn gorffod becan i fara chaws.'

 

‘Der di, Dai,' myntwn i, 'Cn di galon. I ddarllenas i fod Membar of Parlamant yn gofyn i'r Llywottrath i addo cymryd neb on y boys fu'n wmladd dros i gwlad fel swddocion o 'yn i mas, ne, o leia, roi'r first chance iddi nw.'

 

‘Membar o Parlamant,' mynta Dai. 'Ca di fox, Shoni, a phaid chleppran am Fembars of Parlamant, y tacla sy'n coleri petwar cant o binna bob blwyddyn, a ynny pan ma eesha arian ar y wlad! Os un o nw weti cinnyg gweetho am ddim? Os na Fembars o Parlamant yn wabblo Will o Berlin â sepon meddal, gan obeetho, walla, i gal i gneyd yn Gompositars,' ar ol i'r ryfal wero mas, a Will yn diccwdd ynnill.

 

'Ambassadors wy ti'n feddwl Dai,' myntwn i. ‘Sdim use blaggardo pob membar achos fod amall rapscaliwn yn diccwdd bod yn i cenol nw. Ettrych ar Mabon; ettrych ar Dafydd Lloyd George! Diccyn o drick i ti ffindo short y ddoi na, o otti.'

==

 


(delwedd
5122) (tudalen 12)


12 Y PARTIN DWPWL.

‘Allu di stoppo, Shoni,' mynta Dai. 'Os neb
bod yn braggo mwy o Mabon Lloyd George na fi. I netho i englyn iddo pan gas a i gwnni yn Chancellor; wyt ti'n i gofio fa spo. Ma fa, i rows Mishtir diccyn o bolish arno, jest i gael y corneli yn right.


Henffych well o Ganghellydd! — y gwr bach
A geir byth daw i'th glodydd;
Wirione dy gyd-garrennydd -
‘Hip hwre' yn chwap a rydd.

Gymru Lân, e gân y gôg — ar fyr
Eiriau i fawredd anhalog:
Ie — 'clywch,' fydd sain pob clôg - —
‘Hwn ydyw'r Prif Weinidog.'

A ma fa nawr beth wetas i — yn Brif-winitog
Pryttan. Wy ti'n cofio stori'r plant bach yn gweetho ecclws o glai.

‘Ottw,' myntwn i, 'on wad ymlan Dai.'


[I] ddath y ffeerad mlan, a i ofynws, —


‘Be chi neyd blant bach?'

‘Ecclws ser,' mynta'r plant yn attab fel cantata.

'Da mhlant i,' mynta'r ffeerad yn wén o glust i
glust.

 

'Beth yw 'wn, a beth yw 'wn, a 'wn?'

‘Y clochdy ser, y porch ser,' mynta'r plant.

‘Ble ma'r ffeerad?' mynta fa.

‘O, ser, odd dim diccon o glai gytta ni i neyd
ffeerad,' mynta'r plant.


‘Na fel ma i gytta'r Membars of Parlamant Shoni,
 

 


(delwedd
5123) (tudalen 13)


Y PARTIN DWPWL. 13

w i ddim yn cretu fod na ddiccon o glai i gâl i neyd mwy na un Mabon, a un Lloyd George.

 

‘Wel, Dai,' myntwn i, ‘Gad y Membars yn Ilonydd. All for myself i nw, a'r rest i Shoni mrawd. Ffreio yn y pappra un dwyrnod, a fraich y mraich yn cerad i'r clwb yn Llundan y dwyrnod wettyny. Brawlach o streeffan o bothdi 'Ome Rule a chlatcho ar yr Ecclws yn lle gwrando ar Lord Roberts a Lord Charles Beresford.'

 

‘Germany an' England will never be at war,' mynta nw. ‘Never' eetha short odd a, ar mencos i. Sa ffittach fod eetha army gytta ni mas ar y dychra, a i fyssa lot o'r avoc ar Ffrainc a Belgium weti safio. I glywast stori'r fam a'r ddoi grottyn. Odd Will a Dai yn wara o bothdi'r ti, a'r fam eesha i un o nhw i ryttag ar necas.

 

‘Wiliam!’ mynta i, miwn llaish rwpath rwng ootar y Mauretania a mouth-organ.

 

‘Well,' mynta Will.

 

‘Beth di neyd?' mynta'r fam.

 

‘Dim,' mynta Will.

 

‘Dafydd!’ mynta'r fam.

 

‘Well,' mynta Dai.

 

‘Beth di neyd?' mynta'r fam.

 

'Elpu Will,' mynta Dai.

 

‘Na beth ma y ran fwya o’r Membars yn i neyd efyd, — elpu i giddil i neyd dim; fel Will a, Dai, a chal cheque o gan punt pob cwartar am ynny,' myntwn i.

 

==

 


(delwedd
5124) (tudalen 14)

14 Y PARTIN DWPWL.

‘Dyn-di-shefo-ni,’ mynta Dai. 'Bachan, ma yn bryd doti check-weigher ar ben y pwll na, Shoni.'

 

'Wel, ma fi yn gweyd goo' bye wrth y Parlamant, ma ngên i jest troi yn frwch cânes; w i yn mynd i shafo. Wy ti'n gwpod, Shoni, beth sy yn y mwzzlo i?'

 

‘Nacw'n wir,' myntwn i.

 

‘Wel, w i'n colli diccyn o ngwallt o ar goppa men, a ma fi'n gorfod shafo ngên. Pam ny? Sa'r wiskars sy ar y ngên i yn galw mass meetin', a setlo i ddychra sproutan ar y ngoppa i, i fysswn yn falch. Rwpath od fel criatur yw dyn, ma fel sa poppath o with.'

 

‘Bachan, wy ti'n ngofio i am Irishman odd yn gweetho ar dop y screens ar ben pwll y Winsor, odd a'n lodgo gytta Mari, gweetw Moccyn Pwll-up. Diccyn o gobben odd Mari, a odd dim waste cnwylla ar fora tywyll i fod. Odd i'n fora tywyll yn y geia; i gwnnws yr Irishman bothdi petwar, i wisgws i drywsis an' so on; fyttws i frecwas, a off ag e sha'r gwaith.

 

Fu a ddim yn 'ir cyn slippo o ben y screens, a lawr ath a ar i ben i'r sidin'. I ryttws pob un o'r gweethwrs i ettrych, yn dishgwl dod o 'yd i gorff marw. On odd yr Irishman ar i drad, yn ettrych diccyn yn yrt.

 

'Are you urt, Mike,' mynta'r gaffar.

 

‘No sorr,' mynta Mike yn inspecto i drywsis, 'but be jabers, I've had a terrible twist.'

==

 


(delwedd
5125) (tudalen 15)


Y PARTIN DWPWL. 15

 

Erbyn ettrych odd dim byd yn mattar ar Mike, on i fod a weti diccwdd gwishgo i drywsis a'r part ol y mlan yn y twyllwch y bora ni. Na'r twist gas Mike.

 

On i ddath yn ‘stop lamps' ar y'n clepar ni, off a ni yn y twyllwch, yn single file, pob cwmpni yn dilyn i scout, mlan am bothdi annar milltir. Lie down wettyny am spel.

 

I liccech gal gwpwd shwt i ni'n gweetho pan ar y'n gora yn ceesho sceepo'r bawgwns o fodolath. Liccech figinta. Wel, o'r gora, i gewch, ynny yw, — D.V.

 

I chi gyd yn gwpod beth yw D.V. Ottich, ottich. Chewn ni ddim gneyd 'eb bo 'rwy un uwch ben yn folon.' Odd 'en goach-driver o -- i -- os slawar dydd, diccyn yn jealous o goach driver arall o'r un pentra. I welws yn y pappar fod wnnw'n gweyd y byssa'i goach a yn ryttag o -- i --, D.V. Er mwyn i feiddu fa i ddotws ynta notiss yn yr un pappar; rwpath fel 'yn - ‘John Jones' coach will run from -- to -- every day, D.V. or not.'

 

Odd yr 'en foy siwr o fod yn cretu ma 'bwrw glaw' odd yshtyr D.V. I chi, ddyrllenwrs, yn gwpod yn wanol.

 

Wel, am wech yn y bora, i geson y'n galw at y'n giddil ar yr ewl fawr yn acos i'r pentra wetas i am dano yn y shwrna o'r blan. Mlan a ni i gwm bach

==

 


(delwedd
5126) (tudalen 16)

16 Y PARTIN DWPWL.

cul trw bentra arall. Odd y spot yn y nghofio i am ddwy line yn dishgrifio Cwm Rhondda, - —

 

‘Cwm llun y sarff, cwm llawn o sôg, Cwm culach na cham ceiliog.'

 

Wrth gwrs odd dim argol am sôg yn y cwm bach wn. Off ytto. Ma'r cenyns yn dychra roaro! Yn gros i bont fach dros afon bert, a sa amsar spar gytta ni, i fyssan yn cal shawns i bippan ar amall i frythill yn pownsan Ian i'r afon, yn wilo am gleren i frecwas. On odd dim amsar boys. Na! ma, —

 

'Swn rhyfel yn y gwynt

Daw yn nes, yn gynt, yn gynt.'

 

W i'n cretu y newita i ddiwadd y pennill, a gatal y geira gyreiddol i shifto; rwpath fel 'yn –

 

'Mae swn rhyfel yn y gwynt,

Daw yn nes, yn gynt, yn gynt,

Swn Germaniaid ar eu hynt

Yn sathru tir a hedd Ewropa.'

 

Am un o'r gloch, ma staff offisar yn gyrlappo at y Kernal; ma wnnw yn galw'r captans, yn sponio'r map i ddangos y dreckshwn o ni i fynd. Ma ni off. Ar ol cerad bothdi milltir, Ian a ni dros ochor bryn bach, trw allt o gôd, a draw o ni'n gweld twmpin bothdi cant a annar o latheidi o 'yd. Eisht-taw-son am diccyn, a Ian a ni, yn crippan yn eetha tawal. I stopson, a i ath cwppwl o foys i dop y twmpin a i

==

 


(delwedd
5127) (tudalen 17)


Y PARTIN DWPWL. 17

 

orweddson ar i gwynepa. Gwnnws un i ddryll lan, a ma'r lifftenant (ia, ia, Ted odd a) yn crippan mlan idd i joino nw. I sefws y'n platoon ni o'r golwg, on, yr arcol, ma'r bwlats yn fflyan dros y'n penna ni fel Beecham's Pills. I welws y scouts bishin fflat o wlad bothdi milltir o 'yd, a spots o gôd nawr a yn y man. Jest annar ffordd odd twmpin tepyg i'r man 'ny lle odd y bwlats yn dod. Odd y Sossinjers weti cal cewc arno ni. Wrth gornal bryn y Germans odd twmpin o sand, a ma Lifftenant Ted yn galw am 'three good shots.' Wel, os possib os ôs raid i fi weyd pwy odd doi o'r tri, ôs a? Cistal gneyd clean brest; i geso “Ni'n Doi” a bachan arall y'n pecco mas. Lan a ni, i orweddson lawr, fi bointson y ddryll.

 

‘I think,' mynta'r Lifftenant, 'the range is 800, fire Jones.'

 

I shapws Dai, i danws, no result.

 

I dreiws y bachan arall 750, no result.

 

I gitchas inna yn y'n nryll, gymras bwynt am 700, i danas, a i welws yr officar trw i spyin'-glass bwff bach o ddwst yn cwnni ar y twmpin sand.

 

'That's the range boys, 700,' mynta fa.

 

Ma'r sarjant yn dod a'r boys i lan atto ni.

 

'Give the blightars five roun's, — fire independantly at 700 yards,' mynta fa.

 

Ma i off! O ni'n gweld penna'r rapscaliwns yn poppan lan, on i ceson i. O do. On odd y Germans

==

 


(delwedd
5128) (tudalen 18)

18 Y PARTIN DWPWL.

ddim yn secur, odd swn y bwlats yn weepan eebo, a amall i ochenad ar y'n pwys ni yn gweyd fod rwy boor dab weti chal i. I ddath yn ddishtawrwdd ytto, a beth welso ni on crowd o'r Sossinjers yn i brasgamu ddi shag ato ni. Am amsar odd dim i weld a dim idd i glywad on mwg a swn y cenyns o draw, a'n drylla ni. Odd amall i German yn cwmpo lwr-i-ben, on mlan odd y rest yn dod. la, co string o Germans yn treio dodge arall, yn i ryttag i ar 'yd ymyl y bryn: yn y golwg am diccyn, o'r golwg wettyny, a'r bwlats fel cawotydd o bys o fan arall yn y'n cyrradd ni.

 

'The enemy is advancing by rushes, an' takin' cover as he halts after each rush.'

 

Na glywson ni'r officar yn i weyd.

 

'Mark the groups,' mynto fa, ' and I'll give the range; then fire.'

 

Na netho ni, un cwmpni yn tano at y rushin' Germans, a chwmpni yn gwllwn ergytion at y sand. Na rwy fath o amcan i chi, ond y tro wn odd dim o’r mashine-guns yn gweetho. I gwmpws lot o'n boys ni, on i scapws y ran fwya eb gal i lladd. I gas y Sossinjers mwy na diccon myn depyg, wath i geson dywelwch am dair awr, a na lle buon ni yn gneyd eetha trench.

 

‘Dai Oi,' myntwn i, ar ol i boppath ddishtewi.

 

'Right O, Shoni,' myntai Dai diccyn o belltar off.

==

 


(delwedd
5129) (tudalen 19)


Y PARTIN DWPWL. 19

 

Ma fa'n dod yn climmercan diccyn, a'r gair cinta wetws a —

 

'Ro fatchan i fi, Shoni, wath ma want wiff arno i yn ddychrynllyd, os wir ddyn.'

 

Na deemlata pob un o'r boys odd yn perthyn i'r Welsh, eeto dim ffig am Will na'i griw. Dyw a ddim syndod fod Mishtir Ni'n Doi weti gweyd miwn cân Sysnag, —

 

'Thinks he's playing football

When he rushes at the Huns ; Sings his ‘Men of Harlech,'

As he runs to spike their guns;

'Kamerad!' they're shouting

When young Taffy's face they see,- —

He's a 'hero' all over, is he.'

==

 


(delwedd
5130) (tudalen 20)

20 Y PARTIN DWPWL.

 

 

YR AIL SHWRNA.

 

COOLO LAWR DICCYN.

 

AR ol cwppla damshal ar gyrn y Germans i geson spel fach, jest i goolo lawr. O ni'n eetha siwr na fyssa ddim want ar y blokes i wân i bissedd i'r tân am diccyn bach ta beth.

 

‘Bachan,' myntai Dai, ‘W i'n wys dyferu. Ma rwy durn out fel 'wn yn warth na gweetho yn y stêm coal; i allu wascu'n ngrys i, a i ddaw diccon o ddwr mas o no i neyd poun' i olchi defed yndo, myn yffryd i.'

 

I wyrthinas i, allwn i ddim peedo wir ddyn, wath odd ettrych ar Dai, a wnnw mor gochad a signal railway, a'i wallt o’n ffliwch, yn ddiccon i ela'r marw i wyrthin. I droison nol at y trenches nillso ni. Ni'n Doi a’r rest odd yn fyw, a miwn wincad ma Dai yn colli drôd, a miwn ag e blwnsh ar i ben i dwll yn ddiccon mawr i alw chi arno fa. Wel, walla ddylswn i ddim gweyd ar i ben efyd, wath odd Dai yn eetha tebyg i gath, yn lando ar i drâd wastod.

 

Ma screch mwya dychrynllyd! I needas i lawr i geesho catw bywyd Dai o ni'n feddwl, on yr arcol anwl, beth welas i on slashyn listy o German ar i

 

==

 


(delwedd
5131) (tudalen 21)

Y PARTIN DWPWL.  21

 

 

benlinna yn becan am i fywyd, Dai yn ishtu flan a yn wyrthin fel ffwl.

 

‘Got a wife an childrun,' mynta fa, yn weppan a becan.

 

‘O ave you,' mynta Dai, 'You ought to think of that before leavin' the old oomun an the kids,'

 

‘I nevar say Gott strafe Englan',' mynta'r en wlanan.

 

‘Ay, ay, naddo figinta,' mynta Dai, 'on ma diccyn o strafe i fod rwngo ni miwn wincad.'

 

'Nein! Nein!' mynta'r en gwtin mwg, nein!'

 

‘Nine, myn yffryd i,' mynta Dai, 'bachan wy ti siwr o fod yn pyrthin yn acos i Brigam Young, yn short o broffessional widman. Wel, phrioti di ddim o numbar ten, wath wy ti yn mynd i gâl y ffinishin' stroke da fi.'

 

'Non! Non!' mynta fa, yn cretu na odd Dai ddim wetti ddiall a, a odd Dai ddim efyd, os i chi am wpod

 

‘Been to London, — good English, — kind English,' mynta fa.

 

‘O ave you, my nabs,' mynta Dai, ‘you will ave to fforffit your return tickat mun. Bachan, Shoni, ma weti peeco Ian mwy o deemlata caretic miwn petar munad na ddyscws ariod o’r blan. Ma yn dda i fod a weti dyscu rwpath, ma gopath am neyd dyn o’r bachan allu fentro.'

==

 


(delwedd
5132) (tudalen 22)

22 Y PARTIN DWPWL.

‘Criatur miwn cornal yw Dai,' myntwn i. ‘I wetiff rwpath er mwyn cal i fywyd. Wy ti'n cofio stori'r gath a'r ligotan? I fuas i yn attrodd pishyn pan o ni'n grottyn bach, w i ddim yn cofio’r geira.'

 

‘Gwet ti'r story, a i shapa i diccyn o bynnillion ar ol lando'r en bledran fwg mayn y quad.'

 

‘Thenkyw Ser,' wetas i.

 

Ma’r gân nath Dai, rwy fath o ‘revised version with apologies to the original author.' Na diccyn o dwtch Llundan i chi. I dotwn i miwn man 'yn, er ma ar ol cloi'r boy yn y lock-up y gnath Dai y gân. Walla efyd, sa chi'n pippo, ar yr original, y findwch chi ychyttig o waniath, w i ddim yn garantio ma'r un gath i.

 

'Y GATH A'R LIGOTAN.'

 

(GAN D, CONUNDRUM JONES.)

 

Ath Iligotan fach lwyd,

Wrth wilo am fwyd,

Ar i phen i badellad o frecci;

A yna lle bu

Yn mofiad yn hy’

I gatw i unan rag môci.

 

 

Bu’n mofiad fel ’yn

Rown' i'r en battall din

Am amsar, a’i anal bron diffodd, —

 

==

 


(delwedd
5133) (tudalen 23)

Y PARTIN DWPWL. 23

 

 

'Elp, ‘elp!” mynta i,

Rowch ‘leg up’ i fi,

Ma'n ddisgras i mi foddi miwn diod.’

 

Dath Pwss y gath Wen

I bippo dros ben

Y batall a’r brecci miwn wincad:

‘Miss Pwss boed i chi,

Roi pawen i fi,

I brofi y'ch bod yn Samariad.'

 

‘A ga i,’ medd Pwss

Ar ol yr ol ffws

Di fytta?’ ‘Cewch,' mynta’r Iligotan, —

‘Cewch fy mytta yn fyw, —

Ma blas cas da Ome-Brew,' —

A i'r Ian y dath, wiw, fel Ilychetan.

 

‘W i'n diolch yn fawr

Miss Pwss i chi ‘nawr;

Am roddi elp llaw fel Samariad,

‘At your service I'll be

On' rosswch i fi

Shigglo’r cwrw, jest am funad.'

 

‘Ah,' mynta'r en gath

Cai bryd heb ei fath

Caf y ‘courses’ i gyd i fy unan,

On pan ath I’w dal, —

Wiw, i dwll yn y wal,

Ar ol sychu, yr ath y Iligotan.

 

For shame,' mynta'r gath,

Wir i ddyn wy ti’n wath

Na Will 0 Berlin un diwyrnod, --

Eish! taw gath a sôn,

Jest leave well alone,

Os dim grym miwn addewid miwn diod.'

==

 


(delwedd
5134) (tudalen 24)

24 Y PARTIN DWPWL.


‘Eetha right, Dai,' myntai i, ‘sdim diolch i'r beggar ma wath ma fa miwn cornal yn cal i wascu.'

 

'Otti, otti,’ myntai Dai. ‘Now goo' boy, wy ti'n ettrych yn fachan eetha apal, cwn ar di drad. gad ni gal gweld os gen ti rwy glem ar gerad. Starta. Ma meddwl am di blant ti weti toddi diccyn y nghalon i. Get up Sossiojer.'

 

Wir ddyn i gwnnws ar unwath, on odd i wefla fa mor sych a chorcyn.

 

‘March!'

 

I fartchws.

 

‘No tricks,' mynta Dai.

 

‘Nein,' mynta fa, yn brefan fel dafad.

 

'O,' mynta Dai. ‘Nawr w i'n di ddiall di bachan diarth. Nein is No. Wel cer mlan, a wrth weyd di brayars eno yn y lock-up, ro diccyn bach o dwtch Cwrdd Diolchgarwch, a diolcha ma doi griatur tynar galon, fel Ni'n Doi, di ddalws di.'

 

Odd y bloke ma weti bod yn Llundan, on odd dim o 'yn yn gweyd llawar o'i ochor a. Ma llawar i fachan ne ferch weti bod yn Llundan fyssa'n well i bod nw weti aros yn nre. I ath Dick, mab Twm a Nanny Cefenbryn sha Llundan, i fuws no am bothdi blwyddyn miwn shop ddrapary, i ddath sha thre ar i olidays, a dim on' Sysnag odd a'n frawlan: weti colli i Gwmrag i gyd. I greiddws y bwthyn bach to gwellt, a na lle odd yn guffs, yn golar, yn gold pin, a scitsha patant leathar, a 'at, rwy gross breed rwng bowlar

 

==

 


(delwedd
5135) (tudalen 25)

Y PARTIN DWPWL. 25

 

box ’at. Dim on' i fam odd yn diccwdd bod yn y ty^, ar y pryd; odd yr 'en wr i dad yn gneyd clawdd yn y ca wrth gefan y ty^.

 

I safws yr en Nanny fel post yn staran arno.

 

‘Richard!' mynta i, a'i doi liccad fel dwy sowsar.

 

‘Ow do, maw? An Ow is Paw?' mynta Dick.

 

‘Richard bach!’ mynta Nanny, ‘be sy arno ti?’

 

‘Dim Cwmrag maw,' mynta Dick, ‘Dim Cwmrag.'

 

‘Ishta lawr,' mynta Nanny, 'i â i i alw di dad.'

 

‘Really maw, dont excite yourself,' mynta Dick, ‘dont really.’

 

On mas ath Nanny i wilo am Twm.

 

'Tomos,' mynta i, yn pwffan jest mas o anal. ‘Der sha'r ty, ma Richard weti dod; ma fa weti gwishgo fel gwrboneddig, a iaith gytta fa fel ma nw yn i wilia yn Llundan. 'Maw' w i, a 'Paw' wyt ti. Dera sha'r ty, Tomos bach.'

 

‘Aw,' mynta Twm, yn poeru'r bilsen bacco mas o'i ben, a yn tynu cillath o bocced i wascod i dori pishyn o bastwn onan eetha trwchus. 'Aw, weti anghofio en iaith y bwthyn tô gwellt otti fa? Ble ma fa Nanny?’

 

‘Yn ishta yn y parlwr gora,' mynta Nanny.

 

I ath yr en gwppwl i ddreckshwn y ty, a ma Twm i miwn i'r parlwr. Ma Dick ar i drad fel jack-i-jumpar.

 

‘Ow do Paw?’ mynta fa. ‘Ow do governor?'

==

 


(delwedd
5136) (tudalen 26)

26 Y PARTIN DWPWL.


I greiddws Twm un bonclust iddo nes i fod a ar i yd ar y llawr, a wettyny ma'r pastwn onan i gefan a, yn swno'n depyg i amsar spring cleanin'.

 

‘Nhad, nhad anwl!' mynta Dick, ' Peedwch a'n lladd i!’

 

'Da machan i,' mynta Twm, 'Wy ti'n eetha quick ar beeco Cwmrag i'r Ian. Cn ar di drad, a ishta ar yr en gatar freecha. Sdim yn well na phastwn onan i deutro [< tendro??] bachan sy weti colli i Gymrag.'

 

Faint ishtws Dick, os neb yn gwpod, wath odd y pastwn onan yn depyg i'r sepon na ma nw'n weyd am dano - 'Leaves a good impression behind.'

 

Sa'r German ma, a phob German arall, a Will y Bwtchwr o Berlin, a'r chap na ma nw yn i alw fa yn Von Turpantine, yn cal eetha dose o bastwn onan, i netha les i nw. I cân i rwy ddwyrnod. Cân cretwch i fi.

 

Mlan a Ni'n Doi a'r prisnar; o ni a'n Ilicced yn acor; sa fa on treio wara i dricks, i fyssa yn ddobbino arno ar mencos i. On dim fears, odd y bachan yn eetha balch i fod a'n fyw.

 

‘No me strafe Englan',' mynta fa. 'Look Kaisar, ach, say Gott strafe Englan'!'

 

‘Paid a beccso bachan diarth,' mynta Dai, ‘Let's see that papar mun.'

 

I gitchws Dai yn y pishyn pappar, a i ddishgwilws arno.

==

 


(delwedd
5137) (tudalen 27)

Y PARTIN DWPWL.

 27

 

'Wel Shoni,' mynta fa, Ma wn yn cappo poppath. Dishgwl bachan.'

 

'Otti wir ddyn,' myntwn i, 'On shwt wy ti'n mynd idd i ddiall a?'

 

‘O, i gaiff my nabs ma sponio'r German langwidge,' mynta Dai. ‘I ni'n ddiccon o scolars i wpod pwy sy'n blino stwmog Will o Berlin. I fydd pittwr o Ni'n Doi yn y pappra ar ol 'yn allu fentro.

 

Ma odd ar y pappar, amall i air weti blotto mas gan y dwr a'r slwdge yn y trenches: -

 

'KAMARADEN.'

 

'ICH RATE DIR... ...ENTDECKEN ...SHONI MORGAN UND DAI JONES... ..BESONDER...... UN JEDEN PREIS.'

 

'Ma beth cystatlu ar bishyn eb atalnota yn y cwrdd bach wech cheenog, Shoni,' mynta Dai. 'Dere bachan diarth, sponia'r German ma. Wot's this mun?’

 

I ishteddson y'n tri, a ma'r boy yn dychra, a w i boun' o weyd i fod a'n styffaglan Sysnag yn dda diginnig: -

 

‘Kameraden’… Comrades.

 

'Right O,' mynta Dai.

 

'Ich rate dir.'…l advise you.

 

‘Na laish Will o Berlin, Shoni,' mynta Dai:

 

'Entdecken'… to discover.

==

 


(delwedd
5138) (tudalen 28)

28 Y PARTIN DWPWL.

'Shoni Morgan und Dai Jones.'

 

'Ma wnna'n eetha plaen,' mynta Dai.

 

'Otti otti,' myntwn i, 'Ni'n Doi sy'n beccso Will.'

 

'Besonder ...Especially.'

 

‘Go on Cock-Robin,' mynta Dai.

 

Odd na diccyn weti i flotto ar ol ‘Besonder' on awdd gwpod i regettiad a.

 

'Un jeden Preis’….. at any cost.

 

Ma'r pishyn i gyd, —

 

'Comrades, I advise you to discover Shoni Morgan and Dai Jones especially... ...at any cost,'

 

'Thenkyw old chap,' mynta Dai, 'an now we'll make a move.'

 

Off a ni.

 

'Diccon tepyg fod Will o Berlin yn cretu on iddo gal gafal yn Ni'n Doi y bydd lando yn Mryttan on rwy wara plant,' myntwn i.

 

'Thenkyw William for the warnin',' mynta Dai, 'but Ni'n Doi ave booked a bed in the Red Cow in Berlin. I ni'n doi yn ry ên i Will.'

==

 


(delwedd
5139) (tudalen 29)

Y PARTIN DWPWL. 29

 

Y DRYTTYDD SHWRNA.

 

‘AR ASCWRN Y'N CEFAN.'

 

MA'R shwrna ma yn starto a thwscid o sêrs. Pam ny? Wel, i gewch wpod jest nawr.

 

I wetws y Pêr-ganietydd, fel ma'r ffeeraton a'r prygethwrs yn i alw fa, fod y sérs yn apal i wilia. Ma nw, wir ddyn. Ma'r rai 'yn yn wilia yn ddiccon uchal, on i chi glustfeeno. Odd Dai, ar ddiwadd y shwrna o’r blan a diccyn o duadd at ormottiath.

 

'I ni'n doi yn ry en i Will,' mynta fn. 'No fears, my boy, dyw Will o Berlin ddim weti cal gafal ar fachan ddiccon apal i shapo cannon i ddrilo twII trw Shoni a finna. We are alive an kickin. Ottin, ottin, — .'

 

Ond -

 

Na strokan eetha îr, ma lot yndi efyd. Rwpath o bothdi'r pappar na ddarllenws y German odd yn gweyd fod 'Reward' mas gytta My Nabs am y'n dala Ni'n Doi. Wel, ddalson nw ddim o ni, on i ddalws rwpath ni, ar mencos i, a'r rwpath wnnw odd — gas! I geson dwtch bach o’r gas, a'r peth diwetha w i yn i gofio yw Dai yn gweiddu, —

==

 


(delwedd
5140) (tudalen 30)

30 Y PARTIN DWPWL.

 

‘Shoni Oi.'

 

I atepas i, —

 

'Dai Oi.'

 

Ar ol 'yn i ath poppath yn dywyll fel sa chi colli gola yn ngenol 'en waith, a ffeelu i thrackan i sha'r twll cloi. I neggws y gas ni, a i ethon ar y'n penna i wlad y bryddwyton. Fel o ni'n arfadd i thoncan i yn oratorio Samson.

 

Total eclipse! No gun, no moon, no stars,

All dark amid the blaze of noon.'

 

Pan ddiunson ni i fuon jest cal bobo ffit. Yr arcol, na le glân, a na grottesi pert na welia bach twt, a na ddishtaw odd pob un o’r crottesi bach yn cerad! I agoras y'n Ilicced, bippas o bothdi, - wir ddyn i gochas diccyn pan ddath crottan bert diginnig at ochor y gwely; i dreias sbwffo men dan y dillad, on — no go.

 

'Wel,' mynta'r grottan, 'Ow are you numbar seven?’

 

I wyrthinas a i atepas, —

 

‘Wel, my dear, it as come to somethin' that Corporal Shoni Morgan as come down to be only a numbar.'

 

I wyrthinws y grottan, on wetws i ddim.

 

Miwn ticcyn i glywswn laish. Dai odd no.

 

'Shoni Oi,' mynta fa. 'Bachan, ti sy na? Ma le bachan! Ottin ni yn un o Three-atars Cardydd?

 

==

 


(delwedd
5141) (tudalen 31)

Y PARTIN DWPWL. 31

 

Ne walla ma te-parti Yshgol Sul sy ma. Beth ti'n gretu, Shoni?’

 

I drows y grottan a i wetws yn eetha sharp, —

 

‘Numbar six, you must not talk.'

 

I dynnws Dai i gyrna miwn fel malwotan ar ol i chi ysgwd dwrnad o alan ar i phen i, a ma'r tro cinta i fi weld Dai yn ffeelu attab, i geiws i fox glatch. Off a'r grottan yn shigglo i chwt, a wrth i bod i yn mynd eebo i allsach gretu fod shop druggistar yn passo. I ddath nol, miwn ticcyn, a bobo ddishglud o beef tea; i ddotws rwpath fel neeshad bock o dan ên Dai a finnu, a mynta Dai, —

 

‘Ma i Shoni! Myn yffryd i, ma i. Ma ni'n ol yn ‘fabies' unwath ytto yn gwishgo bibs; allu fentro y cewn ni bobo rattle yn y'n deelo i gal ynjoymant trw'r diwetydd.'

 

‘Miss,' myntwn i, ‘Wot is this place, an ow long an my butty on me been ere?

 

‘This is a Ospital,' mynta'r grottan, 'an you ave been ere four days? You were both badly gassed, but the doctar says you will be convolutions in about a week or two.'

 

O ni'n diall ma yshtyr ‘convolutions’ odd rwpath o bothdi y'n bod Ni'n Doi yn peeco Ian diccyn, ne ar wellhad. Odd no lot o boor dabs yn gorwadd, rai weti llyncu gas, rai a'u breecha yn fwlats i gyd, rai yn cerad o bothdi ar fflnna baccla. Ospital odd i ar

==

 


(delwedd
5142) (tudalen 32)

32 Y PARTIN DWPWL. 

 

mencos i. A 'yn i gyd o achos fod Will o Berlin a'i ben weti mynd yn ry fawr idd i het.

 

Y noswath ni ma'r doctor yn dod, bachan eetha clyfar mynta nw: i fuws yn pippan ar dafota Dai a finna, a fi gwnnws y'n calon ni pan wetws a — 'You are gettin on all right my lads,'

 

‘Thenkyw Ser,' mynta ni.

 

‘We shall be convolutions in a week,' mynta Dai, yn ettrych fel sa fa weti llyncu dickshonary, a wnnw yn gwascu diccyn ar i stwmog a.

 

'You will be convalescent, at least I ope so,' mynta'r doctor yn wyrthin nes odd i ribs a yn cnocco yn erbyn i giddil.

 

On, bachan clyfar odd a, a weti gneyd ryfaddota o ar odd a yn yr Ospital. Ma'r doctors yn glyfar. W i'n cofio darllan am cheppyn yn Llundan odd yn jofadd yn ddychrynllyd gytta pôn yn i ben. I ath i gonsulto spessialist, i gas i eggsamino yn eetha pyrticilar.

 

'I am sorry,' mynta'r spessialist, 'You are in a bad way, Sir, I am afraid I will ave to take your brains out in ordar to make a clean job of it. I am afraid I will ave to brush some cob-webs away.'

 

‘Right O,' mynta'r bloke, 'as long as you promise to cure me.'

 

'I'll do that,' mynta'r doctar.

 

I ddotws y doctor y boy ar y couch, a chympohir

==

 


(delwedd
5143) (tudalen 33)


Y PARTIN DWPWL. 33

 

odd a'n cyscu o dan effaith y gas. I dynnws y doctor i fenydd o mas, a i dotws a ar y ford yn barod i ddychra spring cleanin. Ma gnoc wrth ddrws y surjary, off a'r doctor, a mas y sefws a am bothdi cwartar awr. I ddath yn ol. Y mowcedd anwl! Odd y dyn weti cherad i, o weti gatal i fenydd ar ol ar y ford. Wel, i fu'r doctar jest mynd a chollad arno. On i gatws y secrat, a i ath i wilo am berchan y menydd ar yd streets Llundan. Y men bothdi wthnos ne racor, i spottws y bloke yn acos i'r Ouses of Parlamant. I weiddws, —

 

‘Oi, oi, come ere mun, I ave got your brains on the table in my surjary.'

 

‘All right,' mynta'r boy, yn ddiccon digonsarn, 'Keep em there: I shant want 'em any more, for I am now a Membar of Parlamant.'

 

Na'r story, on walla ma celwdd yw i, on ma lot o stwff i neyd gwirionadd yndi efyd, a jidgo o wrth anas rai o’r Membars sydd yn cal 400 y flwyddyn.

 

'For the past,' mynta un o nw yn Nhy y Cyffretin os diccyn bach yn ol, 'we may sum up everything in one sentence, the blunders of our politicians have been retrieved by the heroism of our aviators.'

 

Na Sysnog a diccyn o bolish arno on tefa?

 

Twt, twt, mlan a ni. Wmladd sy i fod nawr, a ma raid i Ni'n Doi ddyscu diccyn o sense i Will o Berlin,

 

==

 


(delwedd
5144) (tudalen 34)

34 Y PARTIN DWPWL.

 

cyn bo'r shwrna ddiwetha yn barod i fynd i'r screens.

 

I ddath yn amsar cysgu cympohir, on odd llawar i boor dab yn gronan gan i bôn. On sa chi'n clywad y crottesi — y nurses — yn wilia geira o gysur i gwnni'n calonna ni. Odd o'n drate wir ddyn!

 

Odd a'n worth talu am dickat am gal mynd miwn idd i clywad nw, odd ar mencos i. Odd na un, — wel — oni bai am Maggie Elen — itswn i ddim llawar cal onno'n wraig, a w i'n gwpod fod Dai dros i ben a'i glusto miwn cariad a i. Yr arcol, sa chi'n gweld gwynab Dai pan odd onno'n dod eebo.

 

'Dai,' myntwn I, -

 

Ffarwel i Mary Catherine dlos,

Ffarwel i Maggie Elen, —

 

'Cistal i ti stoppo cewcan ar y grottan.'

 

'Alla i ddim peedo, bachan,' myntai Dai. 'Ma'r criatur bach pert mor llawn o opath. W i'n cretu so dyn yn cal i lifo yn i annar y byssa 'on yn gweyd, -

 

‘Cheer up, lad, you will soon be all right.' '

 

'Gopath,' myntwn i. ‘Na beth od y w a; fe sy'n catw'r byd ma gytta'i giddil: allwch chi ddim sponio beth yw: rwpath idd i deemlo yw a. Ma Dai a finna a gopath y dewn ni nol yn fyw ar ol croppo locsis Will o Berlin. O ottin. On am Will, poor dab, wn i ddim beth i weyd o bothdi fa. W i'n ffeelu

==

 


(delwedd
5145) (tudalen 35)


Y PARTIN DWPWL. 35

 

gweld fod gan My Nabs opath am ddim on free board an lodgins yn Sant Elena,'

 

'Gopath,' mynta Dai, yn ishta yn i grys ar ochor y gwely. ‘Gopath! Bachan, testyn i fyrddoni Gopath, rwpath i'r boys a'r gwallt îr i fflashan i meddylia arno.'

 

'Ia figinta Dai,' myntwn i, 'on dyw beth wy ti yn i weyd ddim yn gneyd y mattar yn fwy gola.'

 

‘Odd rwy fardd Sysnag yn gweyd am opath rwpath fel yn, — —

 

'Ope springs eternal in the ’uman breast,

Man nevar is but always to be blest.'

 

‘Bachan,' myntwn i, ‘rwpath tebyg i'r wara ny odd gytta ni yn grots slawar dydd — Send the fool furthar - yw wnna.'

 

I gyscson fel par o gôd.

 

Y bora wettyny i ffindas fod Dai weti cwnni o mlan i, odd a'n cerad o bothdi yn i slaps pan agoras i y'n llicced, a diccon awdd gwpod ma gneyd pynnillion ar ‘Opath' odd Dai. Ar o1 brecwas i geson fynd i ishta mas diccyn, a na pryd torws y gân mas ar Dai fel rash y frech goch.

 

‘W i weti bod yn stidio'n galad o ar y di-unas i Shoni,' mynta fa, ‘Gopath sy'n elpu'r fam i shigglo'r cawall, i ofalu am y crottyn bach, idd i watcho fa nos a dydd an' so on. A fel y bydd yn dod yn enach ma Gopath yn wispran wrth glust y fam y daw y babi yn ddyn dyfnyddiol ---'

==

 


(delwedd
5146) (tudalen 36)

36 Y PARTIN DWPWL.

‘Beth os ta merch fydd y babi,' myntwn i.

'Wy ti off o ar di ben Shoni,' mynta Dai, ‘paid a wilia racor, machan bach i, os wy ti am gal ancam beth yw Gopath, gryndo ma -

'GOPATH.'

Beth yw Gopath? Babi bychan
Yn i gawall. Ble ma’r fam?
Yno’n dishgwl arno•n wyrthin,
Yn i gatw rag cal cam;
Beth yw Gopath? Beth mae'n deemlo,
Dishgwl ar y Ilicced nawr, —
Fel dwy seran yn dishgleero, —
Creta daw yn fachan mawr.

Beth yw Gopath? Dishgwl bachan
Ar y morwr yn mynd mas,
Yn i long i groesu'r morodd
Eb un scrap o ywyr las:
Ma y tonna fel mynydda,
Ma y gwynt yn qrni. – on’
Aiff i wraig sha thre yn appus,
Gopath sy yn llanw'i bron.

Beth yw Gopath? Bachan gwrol
Yn mynd lawr i dori glo, —
Tanad yno sy yn dieewdd
Nes y crynna bryn a bro:
Dishgwl ar y mynwod druan
Ar ben pwll. la, Gopath yw,
Ddath i wispran geira cysur,
Ac i weyd — "Ma’ch gwyr yn fyw."

==

 


(delwedd
5147) (tudalen 37)

Y PARTIN DWPWL. 37

Beth yw Gopath? Crottyn lysty
Ath i joino'r Welsh Brigade,
Ath i Ffrainc i gwrdd a'r Germans,
Daw a nol? Os neb a wed,
Yn y trenches ma fa’n wmladd,
Weti gyfro'i gyd a gwâd,
Gopath sy yn gweyd caiff bippan Cympohir ar dy i dad.

Beth yw Gopath? Os dim ancam
Gan My Nabs, - Will 0 Berlin,
Peth tepycca - Jack-i-lantarn
Sy yn ewcan ar bob bryn:
Yna yw Gopath Bill y Kaisar,
Cistal iddo fynd sha thre, —
Ma'in “all up," aiff Dai a Shoni
I gloi “tap" i Opath e.

'Wel done Dai,' myntwn i. 'Wy ti weti cwnni'r blinds o ar y'n Ilicced i. Yr unig fai w i'n gâl yw di fo ti'n gofyn y cwestshwn — Beth yw Gopath – yn ry amal.’

‘Ma di edication di, Shoni, weti cal i escilisso,' mynta Dai, " Bachan, na style y beirdd newydd.' Pan ma'r chaps ma a line yn ry fyr, ma'r dodge ma, gytta nw o ofyn y cwestshwn."

‘Sa ti'n gneyd Englyn,' myntwn i, 'i fyssa yn diccyn o class, - short an' sweet — pultum in oarvo, fel ma'r B.A.'s yn gweyd.'

‘Wel,' mynta Dai, ‘W i weti teemlo rwpath od ar y'n chest i os diccyn; i gretas ar y start ma twtch o'r

==

 


(delwedd
5148) (tudalen 38)

38 Y PARTIN DWPWL.

 

insuggestion odd a, on nawr w i bron cretu ma englyn odd a yn treio flindo'i i ffordd mas. Ma fa, —

 

GOPATH.

 

Gopath yw rwpath roiff ryppydd, - o ddydd

I ddod ar ol dwetydd, —

“Angor” i gatw'r rengydd

Yn y ffôs, - ia, Ilicced Ffydd.

 

'Dai bach, myntwn i yn eetha gysseited, 'Wy ti'n gamstar ar bob short o fyrddoniath, i innilli di gatar cyn diwadd di ôs. Ma son am Opath yn y'n ela i i goßo am ladi fach ar un o stémars y Mississippi yn America.'

 

‘Beth o bothdi onno?’ mynta Dai.

 

'Wel,' myntwn i, ' Storm ofnatw ar y Mississippi, pawb weti mynd i styrrics; y tyrrana yn ruo, y mellt yn fflashan, y gwynt yn roaro, a'r mor yn berwi fel twbin golchi: y Ilong yn dywnso fel sa collad arni; y plant bach yn screchan, y dynion a'r mynwod yn ettrych yn wyllt; on, — odd y fenyw fach yn ryttag o un i'r nall, —

 

‘Cheer up,' myntai i, 'it will soon be all right.'

 

On' gwath odd petha'n myna, nes, o’r diwadd, i ath yr en gaptan i unan i anobeetho. Ma'r fenyw fach i lan atto fel shotshan, —

 

'Captan, captan,' mynta i, ‘don't give up 'opin'. Look, look! There's a bit of blue up there.'

 

I drows yr en foy, a i ddishgwilws ar y fenyw fach odd mor llawn o Opath.

 

==

 


(delwedd
5149) (tudalen 39)

Y PARTIN DWPWL.

 39

 

‘Madam,' mynta fa, 'I know there is a bit of blue up there in the sky, but yscuse me, madam, we are not goin' that way until the boilar bursts.'

 

On gwella i Ni'n Doi. Ma Dai a phishyn o'i grôn off o ar i gose wîth, a w inna yn anatlu fel ga'r Brown Titus eb y ngatal i altogethar.'

 

‘If you are careful an don't get a chill,' mynta'r nurse, ‘you will soon be effarvessant (ne rwppath o'r short). You are not goin to pop off this time.'

 

‘Thenkyw Miss,' myntwn i. 'We 'ope to be singin' the duett — 'All's well soon.'

 

On bai i Dai fynd mas i ewcan gormod, i fyssa Ni'n Doi weti dychra welto diccyn ar Will cyn 'yn. I geson aros i'r twtch o inslammation gas Dai i glirio off. Wel, goo'bye i'r Ospital, a thenkyw fawr i bawb, y doctors a'r nurses, on, angofiwn ni ddim o'r Gas am dro. W i yn i ddeemlo fa nawr, fel sa chi'n gweyd, yn dod sha dreckshwn y trench! Ni'n Doi odd y cinta bron i dasto'r stwff, a i fuon yn eetha acos i'r boundry rwng y marw a'r byw. W i'n cofio cal gas gytta dentist wrth dinny dant, on, yr arcol, odd wnnw rwpath fel wilbar wrth ochor trackshon injin miwn cymariath. I ddath ar y'n penna bron eb yn wpod. I etho i yn y ngrwmp i'r trench. W i'n cofio mod i'n shotto mreecha o bothdi, a i fi glywad llaish Dai yn gweiddu, ‘Shoni, dera mas o na bachan.'

 

Shwd na laddws y stwff ni w i ddim yn gwpod

==

 


(delwedd
5150) (tudalen 40 )

40 Y PARTIN DWPWL.


 

On i Ni'n Doi yn all right nawr, a'n gwinepa sha'r trenches, on yn ettrych diccyn yn felyn fel sa ni weti cal twtch o'r yallow jandars.

 

A nawr ta Will o Berlin a'r Crown Prince, - un o’r ddoi, - i fydd na wichlad fel swn lladd mochyn pan gorddiff Dai a Fi a'r racsach.

 

 

Y BETWARYDD SHWRNA,

 

“A'N GWINEPA SHA BERLIN."

 

Pan bo chi'n darllan yr 'eadin' — A'n gwinepa sha Berlin — i chi'n barod i wispran — ‘Ottich spo!’ Wisprwch chi beth wisprwch chi ma fa'n fact; ma'n gwinepa ni sha Berlin, a ôs dim troi yn ol i fod nes y bo ni'n landed yn y Red Cow, yn y street ma'r Sossinjers yn i galw yn Unter-den-Linten.

 

Ble o ni? la, ia, na’r cwestshwn. O, dod mas o’r Ospital o gwmpni y crottesi. la, ia, a ôs dim cwilydd arno ni i gyfadda fod diccyn o irath arno Ni’n Doi ar i ol nw. On' ble i ni? la, ia, na gwestshwn ma yn diccyn yn anodd roi attab straigh[t]away. Ble i ni fel gwlad. ontefa? Na i chi yn i feddwl. Gydewch i ni fel gwlad gonsitro ticcyn. Ble i ni efyd?

 

==

 


(delwedd
5151) (tudalen 41)

Y PARTIN DWPWL. 41

 

pishyn ma yn depyg dychrynllyd i ‘Oli Pwnc.' Pwy yw’r ‘efe’ ma? mynta'r prygethwr.

 

'In three weeks,' mynta'r pappar na ma nw'n i alw fa yn John Bull. Ma rwpath mawr i ddicowdd miwn tair wthnos. Gobeetho fod a, ottw Wir ddyn, wath licca Dai a Finna ddim i'r Germans neyd gwacar 0 Ni'n Doi. A gweyd y gwir, ma un dose o Gas a bothdi deg bwlat yn ddiccon i ddyn cyffretin.

 

Ma odd Will o Berlin yn weyd yn ol pappra Germany, a ma farn cheppyn o Gymro. Wrth gwrs dyw’r iaith ddim mor glassical a iaith Ni'n Doi, on' cistal i ddoti fa miwn fel y dath a mas o'r ffwrn: -

 

Y KAISER YW'R MESSIAH!

 

‘Fel engraifft o wallgofrwydd Germani yn y rhyfel bresenol nid oes dim mwy tarawiadol na'r dull yn yr hwn yr edrychir gan bapurau Germani ar y rhyfel fel un sanctaidd, ar y Kaiser fel danfonedig Duw, ac ar yr erchyllderau yn Belgium a Ffrainc, fel gwaith y Kaiser yn cyflawni ewyllys Duw! Wele engreifftiau o'r rhyfyg gwallgof yma.

 

Dywedir i'r Kaiser fyned i Synagog yr luddewon yn Lodz. Yno ymaflodd yn Rhol y Gyfraith a gedwir yn mhob Synagog, ac wedi ei agor, trodd at y gynulleidfa gan ddywedyd wrthynt, —

‘Myfi yw y Messiah. Danfonwyd fi gan Dduw i'ch achub.'

==

 


(delwedd
5152) (tudalen 42)

Y PARTIN DWPWL.  42

 

Fe gofir iddo wrth anerch ei fyddin ddweyd, —

 

‘Yspryd yr Arglwydd a ddisgynodd arnaf am mai myfi yw Ymerawdwr Germani. Myfi yw yr offeryn yn llaw y Goruchaf: Ei gledd a'i gynrychiolydd Ef ydwyf fi! Gwae y neb a wrthwyneba fy ewyllys.'

 

Mewn papyr wythnosol yn Germani cafwyd a ganlyn, —

 

‘Pan gyrhaedda Ilu eneidiau milwyr dewr Germani a laddwyd yn y rhyfel hwn i'r Nefoedd, adunir hwynt a Bismark, Moltke, a'r dewrion gynt. Yna cyfyd yr Hen Fritz oddiar ei orseddfainc aur, a seinir yr udgyrn aur, a bydd holl lu y nefoedd yn ‘present arms' i'r dewrion hyn ar eu hymddangosiad yn y nef.'

 

Gellid deall Mahometaniaid yn dysgu ffwlbri ynfyd o’r fath. ond buasai yn anghredadwy am Gristionogion onibai ei fod yn argraffedig mewn du a gwyn.

 

'Wel,’ mynta Dai, a'i ben ar acor, 'na beth fydd turn out, bachan. Cistal ordro Mabon's Day i gal gweld y carda ma yn cwrdd a'u giddil.'

 

‘Eisht Dai,' myntwn i, a arswd yn crippan dros ascwrn y ngefan i, 'Eisht bachan.’

 

‘Wel, eisht ne beedo,' mynta Dai, 'ma Will o Berlin yn coeddu i fod a'n Gristion.'

 

‘Cristion myn yffryd i,' myntwn I, ‘os ta Cristion yw Will o Berlin w i'n mynd i starto clwb newydd. Enw'r clwb fydd — 'The Anciant Ordar of Rapscal-

 

==

 


(delwedd
5153) (tudalen 43)

Y PARTIN DWPWL.  43 Chaiff Will a'i Fab, na neb o’r breed, ddim isvns. qualifyo i fod yn fembars, Wath i fydd y clwb yn ry ryspectableä dderbyn neb o’r short. Sa well da fi ddoti Charles Peace a Crippyn yn cilota men. cos i.

 

Ble i ni ytto? ' mynta Dai, yn wthi mwg mas trw'i drwyn, Ble i ni fel gwlad?

 

‘Yn eetha saf allu fentro, slow an' shure yw i. On' beth o ni'n gleppran o bothdi fa?’

 

‘O bothdi Will a'r nefodd,' mynta Dai. ‘On, ettrych ma Shoni, wy ti'n gwpod beth w i'n gretu, wel, y bydd rai o’r cythreuliaid yn y signal hox yn weeto i switcho Will 'off the main line' er mwyn iddo fynd at i gendar y jafol.'

 

‘Bachan, Dai,' myntwn i, 'Wy ti yn ry ffrath, wyt wir ddyn!’

 

Ta-ran-ta-ra! Ta-ran-ta-ra I

 

Na'r cornats yn roi arwdd, a raid i Ni'n Doi atal rwy rigmaroles o bothti Will a'i blans i gwrdd a'i gendar yn Ilonydd, a symyd mlan gytta'r boys i ddrecshwn y trenches. Mlan a ni i'r stashion, a dim on' swn consarteenas a mouth organs odd i glywad. Ma lot miwn miwsic i gwnni calon dyn, ôs wir ddyn, on' w i fawr o warwr, dim byd i fraggo o bothdi fa, on' sa cistadleeath miwn wara giwga w i'n cretu y neswn i struggle a'r venjance i ddod mas yn nillwr. Giwga yw'n ffansi i, a ma giwga yn gofyn

 


(delwedd
5154) (tudalen 44)


44 Y PARTIN DWPWL.
diccyn o gymshwn idd i wara, a doti diccyn o sense yndo.


W i'n cofio yn y — — , pan odd armonians yn dychra pocan i penna i miwn i'r tai cwrdda, odd na lot o fechgyn a chrottesi miwn cappal a want cal i elpu'r canu, on' odd doi ne dri o'r ’ên chaps yn gweyd nag odd dim eesha yrdigyrdi yn Nhy Dduw.


Gweyd ne beedo, i brynson armonian eb yn wpod i'r ’ên chaps, a i gas i smygglo i'r ty^ cwrdd yn ddishtaw bach nos Satwrn. I ddath bora dy' Shul, a i ellwch fentro fod yr ’ên foys yn barod i neyd rwpath cryfach na pheswch pan glywso nw'r sw^n diarth. Wetso nw ddim, odd yr ’ên foys yn depyg i berrot y sailor — 'not a great speakar but a terrible thinker. '


I ddath nos Lun, nos y Cwrdd Gweddi. I ofynws y gwinitog i Dafydd Jones i ddychra'r cwrdd.


I ballws.


‘Dewch chi, Shincyn Evan i roi gair mas i ganu.'


'Na, na,' mynta Shincyn, a'i wynab fel gwynab twrch deiar — 'Na na! Gofynwch i wnna, yr yrdigyrdi na, i ddychra'r cwrdd; i ganws yn y'n lle i
ddo, a chan i fod a'n champion ar ganu, gwetwch wrtho fa am ddychra'r cwrdd: walla gweddi-iff a yn y’n lle i eno.'

Sdim use bod fforna, ôs a? Ma miwsic yn dda, a sdim ryfadd fod y showdars yn ela sha thre yn becan am rwy short o instrumant.

 

 


(delwedd
5155) (tudalen 45)

Y PARTIN DWPWL.  45

 

Ma ni yn y train, a off ni i ---. Odd na ladi diccyn o dwtch yndi yn ishta yn y cornal, a ma Dai yn ddiccon ffrath i dafod i wilia a rwy un.

 

‘Bon jour,' mynta Dai yn Ffrench.

 

‘Dim attab o wrth y ladi.

 

'Ich Dien,' mynta Dai yn German.

 

Odd y ladi fel post clwyd.

 

‘Shwd i chi eddi,' mynta Dai.

 

Fwflodd i ddim.

 

'Wax-works, myn yffryd i,' mynta Dai. ' ‘Gad i'n Ilonydd a i gymrwn neppyn.' I gysgson.

 

I greiddson y 'Base' cympohir a, diccon awdd gwpod ny wrth swn y shells a'r fireworks.

 

'Ma ni, Shoni,’ mynta Dai. ‘Ma ni nol yn ffôs y gwaith unwath ytto, a diccyn o waith i gliro'r rwbbetch yn y'n aros ni, diccon tepyg, wath rwbbetch Germans pob coppa o oni nw.'

 

Pwy ddath i shigglo deelo a ni on Ted, o na beth odd gysseitment.

 

‘Shwd i chi boys? ' mynta fa.

 

‘First class,' mynta Dai, ‘a wyt titha, Ted, yn ettrych yn nêt bachan!

 

‘Ottw, ottw,' mynta Ted, ‘on dyw ettrych ddim yn insurance fod dyn yn all right wastod. Na gwestshwn My Nabs yn amal, mynta'r pappra; ma fa'n sefyll o flan yr officars, on' yn ddiccon pell o’r trenches, yn lletu i drad a golwg ffyrs arno, a fel sa

==

 


(delwedd
5156) (tudalen 46)

46 Y PARTIN DWPWL.

fa’n gofyn, — ‘Ow do I look?' ‘Unermesslich!’ mynta'r officars. 'Immense!' ‘Das glaube ich wohl,’ mynta Will. ‘I should think so.'

 

‘Bachan,' myntwn i, ‘wy ti Ted weti bod yn stidio Mothar Seigel efyd.'

 

'Nacw nacw,' mynta Ted, ‘on w i weti dala cymant o’r Sossinjers nes w i'n gallu jabbran lot o German erbyn 'yn.’

 

‘Wel,' mynta Dai, ‘sticca ati Ted, a gobeetho y bydd gen ti ddiccon o’r iaith i ordro bobo lewishyn yn y Red Cow pan ewn ni miwn i Berlin.'

 

‘Wy ti weti'n ela i gofio bachan,' myntwn i, ‘am Bob brawd Mari merch Pegi, pan odd e a lanto Bratttish a bachan diarth yn mynd sha thre o ffest clwb y Black Lion.'

 

'Beth yw'r anas? mynta Dai.

 

‘Wel, odd y tri,’ myntwn i, ‘yn cario full cargo, a'r streeffan yn mynd yn fwy pôth bob cam. Pan ddetho nw o flan ty Bob ma i [?ath] yn randiboo ryngo fe a'r bachan diarth. Lawr a'r cotta, a ma i off. Y clatcho gora glappws lanto i licced arno ariod. Ar ol 'roun numbar one,' ma Bob yn gofyn i lanto: — ‘Shwd w i'n dishgwl bachan?' mynta fa.

 

'Dishgwl!' mynta lanto. Wy ti'n dishgwl fel llew, wy ti fwy tepyg i lew bob ergyd. Wad mlan.'

 

Gytta'r gair ma drws y ty yn ffylan yn acor, a Jane gwraig Bob, yn needo i'r street.

==

 


(delwedd
5157) (tudalen 47)

Y PARTIN DWPWL. 47

 

'Beth sy’n bod?' mynta i. ‘Dera ma'r ffwl.'

 

‘Cero nol Jane,' mynta Bob, a'r gwad yn spoutan o'i drwyn a. ‘Cera nol o’r ffor', ma lanto yn gweyd y mod i'n dishgwl fel llew.'

 

‘Llew,' mynta Jane, yn troi i ddishgwl ar lanto yn eetha werw. ‘Llew! Ble gwelso ti lew ariod Ianto?'

 

'Yn shafts cart y boy na sy'n gwyrthu cocs Cydweli,' mynta lanto yn nessid draw o gyrradd dwrna Jane.

 

‘Bachan,' mynta Jane, mwlsyn odd wnnw.'

 

‘Mwlsyn ne beedo,' mynta lanto, ‘rwpath tepyg i wnnw ma Bob yn ettrych ta beth.'

 

‘Sdim on son am deno chi'ch Doi yn y camps a’r trenches,' mynta Ted. ‘I chi'n siwr o gwppwl o lithrenna ar ol y'ch enwa. Ottich wir ddyn. I chi'n dishgwl fel chi ddim yn cretu.'

 

‘Right O, Lifftenant,' mynta Dai, ‘i fyssat yn gapo di unan sa ti weti Ilincu cymant o gag a Ni'n Doi. I gretas i y byssa raid cwnni brattish yn stwmog Shoni i gal troi'r âr.’

 

'Do ar mencos i,' myntwn i. 'O ni’n pwffan fel injin fach Crosha, onno o ni'n arfadd cana am deni pan o ni'n grots. On, odd gopath gytta ni am y dyfotol, wath sa'r doctors a'r nurses yn ffeelu'n gwella ni, a ffeelu clirio'r gas mas o'n institutions ni, o ni weti gneyd y’n meddwl Ian i ffixo Dai a Finna miwn ca fel gas-works i roi diccyn o ola i Dinas a Yetybompren, an so on.'

==

 


(delwedd
5158) (tudalen 48)

48 Y PARTIN DWPWL.


 

'Na ffortshwn ar unwath,' mynta Ted yn wyrthin. ‘But passin' all jokes aside boys, i chi'ch doi yn landed. Ma D.C.M. yn y'ch weeto chi.’

 

‘Beth yw D.C.M.?’ myntwn i. ‘Rwpath i fytta?’

 

‘Bachan,' mynta Dai, yn lletu frest, ‘ma'n diccon awdd sponio na. D.C.M. means Don't Care Mynyffryd i. A na hanes y British showdars — dont care for nobody, i sceepwn pob German, Austrian, Bulgarian, a Thwrk, i golyw miwn ticcyn."

 

‘Dai,' mynta Ted, ‘ma di exclamation di o D.C.M. yn batant wir ddyn. Ma rwpath felna yn y'n ela i i gofio am Myrged Pen Steps pan gas i lethyr i weyd fod Dai i mab weti cal y D.S.O. I ryttws a'r llethyr i dy Mrs. Murphy y drws nesa. Un o blant Mari odd onno ti'n gwpod.'

 

‘Avourneen! ' mynta'r Irish ooman. ‘I'll brake the news to ye tinderly; poor Dai 'as been kilt entoirley. D.S.O. manes — Dai Shot Over.’

 

Ma Myrged yn dychra weppan, a off a i sha thre a'i ffetog ar i Ilicced.

 

Y bora wettyny ma lethyr arall yn dod. Odd wn yn gweyd fod Dai weti cal y D.C.M. Yr un peth a chi'ch doi. Off a Myrged i dy Mrs. Murphy yr Irish ooman, gwynab mor wynnad a shale; odd i'n siwr o fod yn cretu ma bill yr undertaker am gladdu Dai odd a. I ddotws Mrs. Murphy y spectals ar i Ilicced.

 

'An' throth an' ids grand news ye'll be gettin'. Ids

==

 


(delwedd
5159) (tudalen 49)

Y PARTIN DWPWL. 49

thrue for ye. D.C.M.! D'ye hear that? It manes — Dai Completely Mendid.'

 

W i ddim yn gwpod os yfson nw iechyd da ne beedo, on i ath Myrged sha'r ty a'i phen yn yr ar, yn shigglo i chwt fel pawen.

 

'I chi'n gwpod y latest news am My Nabs spo? Ma nw'n gweyd fod yr ên geelog yn treio cal excus i shotto'r spwnge Ian.'

 

‘Otti fa?’ mynta Dai. ‘Otti fa'n cinnig tylera?'

 

‘W i ddim yn gwpod,' mynta Ted.

 

‘Tylera ne beedo,' myntwn i, 'dyw Will ddim y short ora i neyd bargan ag e. Os dim proffit i ddelo a My Nabs. Cistal i ni roi tip iddo fa a gweyd — Give up My Nabs an' book for Sant Elena; we are not goin to ave any dealins with you an your short myn yffryd i.'

 

‘Bachan,' mynta Dai, ‘Ma Sysnag gytta ti fel raffa winwns.'

 

Ma Scout yn dod a’i anal yn i ddwrn! Beth yw i necas? Wel, ma fa, fel odd y writin ar y pappar —

 

'You are ordered to take over the trenches from the exhausted infantry. The officar (and two men) must go up to-night, and learn his way about, to show his squadron to their place to-morrow night.'

 

Salute, a off a'r Scout.

 

Wel, comrades in arms,' mynta Ted, ‘ma jobbin i dri, - Lifftnant Ted a Ni'n Doi.

 

==

 


(delwedd
5160) (tudalen 50)

50 Y PARTIN DWPWL.


 

Y BIMFAD SHWRNA.

 

‘YN NGENOL Y PANARMONIAN!’

 

I chi'n gwpod Panarmonian spo? Ma fa'n air diccon mawr i alw ‘chi’ arno. Panarmonian yw poppath yn gymyshg, poppath yn gawl i gyd. Wel, ôs dim sponio arno, raid i chi fod yn i genol a cyn y dewch chi idd i ddiall a yn iawn.

 

Myddylwch y'ch bod chi miwn gwaith arn, ne waith tin, y rols yn troi, yr injins yn pwffan, y stém yn weepan, y chains yn ratlan, y gweethwrs yn gweiddu, so on. Na amcan i chi beth yw Panarmonian.

 

Myddylwch ytto y'ch bod chi yn mynd am dro i dy^ Will mab Ann, ar ol i Will ddod sha thre o’r clwb a weti ifad i ormotadd. Be sy' no? Mari i wraig a black eye, yn screchan iwb-wb, y ford wynab i warad, y llestri yn yfflon jibbadares, y gath weti needo i ben y shelfadressar, a'r babi annar ffor' dan grât. Wel, na dwtch i chi o Banarmonian.

 

Ottich chi yn i ddiall a nawr? Walla cistal shapo pittwr arall. Myddylwch am Will a'i fab pan y ca nw i cornelu, a rwpath fel odd y bardd Sysnag yn i ddishgrifo yn dod idd i anas nw, —

 

==

 


(delwedd
5161) (tudalen 51)

Y PARTIN DWPWL. 51

'Cannon to right of them,

 Cannon to left of them,

Cannon in front of them,

Volley'd and thundered.'

 

Dishgwilwch ar Will a'i showdwrs yn ceesho dod mas o’r ring! yn treio roi ergyd i'r Ffrench; yn nesa yn cinnig pocad i Ni; yn ryttag i Roumania, yn nesid i roi leg-up i'r Twrc; yn pippan dros gwydda'r Alps i gal gweld shwd ma'r Ightalians yn gweetho; yn catw Iliccad ar y Rwssians, a --. Wel, na Will a'i foys miwn rwpath tepycca'r byd i beth ma nw yn i alw fa yn Banarmonian. Ettrych i'r dickshonary, Dai, i gal gweld os w i'n acos a bod yn right. Starta bothdi'r gair 'Pan.'

 

I bippws Dai i'r dickshonary.

 

‘Ma ma air yn dychra a Pan,' mynta Dai.

 

‘Beth yw a?' myntwn i yn consitro.

 

‘Pandemonium,' mynta Dai, ‘Dyw'r spelian ddirn yn gyssact fel ma fa gytta ti, Shoni.'

 

‘Cer mlan,' myntwn i, 'mattar o dast yw spelian yn amal. Ma'r gair na yn ddiccon acos. Beth yw i feddwl a?'

 

‘Pandemonium — the inferral regions.'

 

'la, ia,' myntwn i 'diccyn yn gryf yw'r yshtyr, on' gwed mlan.'

 

'Any noisy or disorderly place,' mynta Dai.

 

 

 

 

 


(delwedd
5162) (tudalen 52)

52 Y PARTIN DWPWL.


 

'O ni'n eetha right, Dai,' myntwn i, 'pan wetws i am Banarmonian, wath ma gwaith arn ne waith tin yn ddiccon 'noisy,' a odd piccil ty Will mab Ann yn ddicon 'disorderly,' a ma pappra'r wlad weti speko lodgins i Will an' Co. yn yr address wetast ti ar y dychra. Thenkyw i My Nabs, ma fa weti gneyd Ewrop yn Banormanian.'

 

I bacson y'n consarn i Ian, Ni'n Doi a Lifftenant Ted, a off a ni. Odd y'n ffor' ni trw dre yn Ilosci fel ffwrnas, a'r shells fel cawota o law tyrana yn weepan dros y'n penna ni. Dim neb idd i weld on y labrars yn ceebo ffor' trw'r rwbbetch er mwyn i'r cenyns gal ewl rydd i fynd i'r front.

 

On' mlan a'r anas. I ethon trw'r dre, y tân, o’r mwg yn eetha saff, a straight-away a ni i'r Infantry Brigade Eadquartars. Dyn elpo'r ewl! Odd i weti cal i retyg gytta shrapnel, on i ddethon o 'yd i cellar, a no odd yr officars yn weeto i roi tips i ni. Odd no ddiccon o le i orweddach, taligrafft a thelephone. Myn depyg fod German spies yn tori'r wires yn amal, on i gas un o’r atar i ddala, a fuws a ddim yn ir cyn matal a'r byd ma. Ma'r guides yn starto, a off a Ni'n Doi a Lifftenant Ted.

 

On' yr arcol! I gymsynws y guides y ffor', fi geson yn unen yn cerad nol i ddannadd un o'n trenches ni. Ma challenge! I weiddws un o’r guides yn ddiccon uchal trw lwc cyn i'n boys ni dano ne

==

 


(delwedd
5163) (tudalen 53)

Y PARTIN DWPWL. 53

 

fyssa gan Mishtir waith doti mwrnin' roun i lun Ni'n Doi. Sôn am narrow shave

 

Myn depyg fod y Sossinjers yn ffond o neyd tricks o’r short. Y ddath tri o nw yr wthnos diwetha yn galw y Cwmpni a'r Sarjant Major wrth i enwa.

 

'Dont shoot,' mynta'r blaggards, ‘We are a party from the – Company.’

 

I geson gawad o fwlats jest mewn pryd.

 

A gweyd y gwir i glywson y'n enwa ni — Ni'n Doi, - yn cal i galw, un noswath ys diccyn yn ol, o drench bothdi annar canllath off.

 

'Das Paar! Das Paar!' mynta'r llaish.

 

‘Da yn spâr?' mynta Dai yn ol. ‘Bachan, Shoni, allu fentro fod y sossinjers yn cretu'n bod Ni'n Doi yn catw walk lâth. I attepa'r bloke.'

 

'No mun,' mynta Dai, ‘Ni'n Doi dont keep cows.'

 

Diccyn cyn 'yn odd Dai weti cal gafal yn scrwff gwddwg German odd weti bod yn ddiccon ecar i grippan i dop y'n trench ni. Odd a nawr yn gorwadd yn y gob yn eetha dishtaw.

 

‘Oi Sossinjer, or wotevar your name is,' mynta Dai.

 

'Von Donop,' mynta'r German.

 

‘Ay, ay, I know you are 'done up,' mynta Dai, but wot is Das Paar?'

 

‘Das Paar? mynta'r prisnar, it means — The Pair.'

 

'Y Pâr, ti'n gweld Shoni — Ni'n Doi,' mynta Dai.

 

==

 


(delwedd
5164) (tudalen 54)

54 Y PARTIN DWPWL.

I fu Dai yn cwnsela a'r sossinjcr diccyn on o'r diwadd ma fa'n gweiddu — '

 

‘Unserer Zwei — Two of us.'

 

A na beth od i fu dishtawrwdd yn trenches y Germans trw'r nos, i geson ofan pan ddetho nw i wpod fod Dai Jones a Shoni Morgan mor acos. Ma odd yn pappra Germany wettyny, —

 

'Nothing to report from the West Front…’

 

I allwch chi gesso pam, spo.

 

I licces i y gair gas Dai afal yndo yn y dickshonary, y gair Pandemonium. I netho ginnig ar neyd yr 'yn ma'r Sais yn i alw yn acrostic. Ma fa, a i fu Mishtir yn polisho diccyn ar y Gwmrag: -

 

PANDEMONIUM.

 

Prwssia drahausfalch a heriodd y bydoedd;

A wstria hunanol atebodd y gadfloedd;

N ero oedd gydgod, - y Kaiser yw'r sylwedd, —

D awnsia i seiniau ei grwth o ddigasedd:

E wrop, i'w sylfaen, ysgydwyd yn sydyn,

M alais a bwriad drwg greodd ddaeargryn,

O nd, o eithafoedd y Deyrnas Brydeinig

N efoedd sy'n adsain llef gwreng a boneddig, —

‘I 'r Ian a'r Faner! Gwel byd hi'n cyhwfan,

U nwn Brydeinwyr, — pob gelyn, pob German,

M ynwn ddarostwng o heddyw allan.'

==

 


(delwedd
5165) (tudalen 55)

Y PARTIN DWPWL. 55

 

On mlan a rippo'r top a thori pwccins. Gorffod i Ni'n Doi a Lifftenant Ted aros gytta'r Infantry nes bod y nos yn tynu'r blinds lawr dros y ffenestri. Na dwtch bach eetha byrddonol on tefa. Rhaid lwo ma Dai yw'r bachan sy yn byrddoni, on ma bod yn ngwmpni bardd, mynta nw, yn depyg i lodgo miwn ty^ sy a frech y ieir ne'r mwmps yndo, ma nw gyd yn getchin, a w inna yn swffro o’r complaint weetha.'

 

Fel y canws Islwyn, i ddath — 'Y nos a'i thorf o dystion.' Do, do, i ddath y nos cympohir, a'r sêrs fel Ilicced angylion yn pippo lawr arno ni (na dwtch o’r ffevar) a ma Ni'n Doi yn dychra ryttag wrth gwt Ted fel milgi Will Ty Gwyn yn cwrso scwarnog, a amall i fwletsan yn weepan eebo'n penna ni, on i safson yn noted o dda. On peth od yw ryttug yn y nos! Sdim guess da chi ble i clii'n doti'ch trad, na ble i chi'n mynd, a chympohir ma Dai blwnsh ar i ben i nant fach.

 

I ceson a mas, on odd golwg chêp arno, yn ryttag o ddwr. On dwr ne beedo ma fflashad o’r fyrddoniath berta glywsoch chi ariod yn dod mas. I roison y necas i'r officar, a pan o ni'n cal spel cyn mynd nol i newid shift a'r Infantry, a’n aros i ddillad Dai i sychu, ma'r bardd Conundrum yn i rolan i mas. I chi gyd yn gwpod na chas Dai ddim o’r enw byrddonol 'Conundrum' yn ol Brain a Defed Beirdd Ynys

==

 


(delwedd
5166) (tudalen 56)

56 Y PARTIN DWPWI,.

 

Pryttan, on dyw e a finna ddim yn eeto cocsen am 'Frain a Defed.' Ottin ni Dai?

 

‘Nacun myn yffryd i,' mynta Dai, 'fel y gwetws y bardd o'r Ynysddu, —

 

‘Rhowch i hon dragwyddol heol.'

 

Ma i'n câl rydd trw fennydd D. Conundrum Jones. Ma'r pishyn yn y mesura câth.

 

 

ETTRYCH Y MLAN.

 

I Ni'n Doi yn dal yn dn – i ryttag,

 

Wir wy' ti fel crottyn;

Cewn sossinjers nêt wetyn

A ‘Bara Lawr' yn Berlin.

 

Am blwnsh w i ddim yn grwnshan – o nacw

Mae'n ‘neck or nout’ bachan,

W i ar y watch i roi clatchan

I Will a'i Fab gwela i fan.

 

I ddyscws Dai y gair 'nout' gyda'r Bristolians yn pwll Scotch. Ma'r englyn nesa yn doddetig iawn. Ma fa'n ffansio i fod a yn palas Will o Berlin.

 

An' Will I will thrill all through, -o’ arcol

Na ercan fydd wnnw;

‘They're Das Paar taw ni marw

Run, do boys 'ere's a randiboo!’

 

W i'n wyrthin, alla i 'elp wrtho, – y rows

A'r rasis fydd yno!

An' I spec gan Ni'n Doi spo

Gaiff y Black ‘wn i daclo.

==

 


(delwedd
5167) (tudalen 57)

Y PARTIN DWPWL.  57

 

Lawr a' r cledd! A Oes 'eddwch? Now Will

No ollicks on' lw-wch,'

Weta i — Yr en wtwch

A’i drâd gan wâd yn drwch.

 

Pob Ger-man fydd dan dwr, - a Will fydd

Yn ela fel wandrwr;

On' 'no go’ fydd ran y gwr

O 'yn i mas ta i neyd mwstwr.

 

I ethon yn ol cyn dydd i roi spel i'r boys, a i fuon yn y trenches am dri dwyrnod. Y tryttydd bora i gas Dai bishyn o'i wefus off, a os na ofaliff a, arno i ofan bydd raid cal teelwr i stitcho Dai at i giddil cyn y diwadd.

 

‘Der di Will o Berlin,' mynta fa, ‘ma lot o betha gytta ni i squaro Ian rwy ddiwetydd, i gai di wpod y chaptar an' verse bachan main.'

 

‘Twt,' myntwp i, yn sychu'r gwâd o ar wefus Dai, ' Os cwrddi di a Will y fe fydd ira'i bîg allu fentro.'

 

'I fydd na lot o gwnni 'ên grach pan y cwrddwn i,' mynta Dai, ‘O bydd, Shoni.'

 

‘Bachan, wy ti'n ela i i gofio am stori,' myntwn i, yn ceesho coolo diccyn ar dempar Dai.

 

‘Beth yw'r stori, Shoni,' mynta Dai; yn baddo'i wefus miwn pwllyn o ddwr yn y trench.

 

‘Ma i, Dai; stori am Twm Ty Top. I ath Twm Ty Top i'r byd orall, diccon tepyg ma miwn breuddwd, a fi gnoccws y drws. Ma Petr yn acor.

==

 


(delwedd
5168) (tudalen 58)

58 Y PARTIN DWPWL.

‘Pwy sy ma?’ mynta Petr.

 

‘Tomos Evans, No. 17, Queen Street -, ne fel ma nw yn y napod i — Twm Ty Top,' mynta, Twm.

 

‘O,' mynta Petr, 'Ma arno i ofan sdim lle ma i chi.'

 

'Pam?’ mynta Twm yn eetha werw. 'Pam ny?’

 

‘I ni'n gwpod diccyn gormod o'ch annas chi ma, Tomos,' mynta Petr.

 

'Ottich chi?' mynta Tom yn cnoi i wefus. 'W inna yn gwpod rwpath o'ch annas chitha, Petr.'

 

'Off a chi, ôs dim amsar i wasto ma,' mynta Petr, ‘off a chi.'

 

‘O,’ mynta Twrn yn starto off, ‘Dim amsar? Wel — Cock-a-doodle-do.'

 

'Der ma, der ma,' mynta Petr, ‘Sdim eesha cwnni ên grach; miwn a ti!'

 

A miwn, mynta'r anas,yr ath Twm Ty Top. Ma nw'n gweyd, ta beth, na cheso nw ddim clip ar Twm yn Queen Street ar ol 'yn, on' mo rai yn cretu ma newid o’r steam coal i'r 'ouse coal nath a, ne i fod a'n clascu death club. Cistal i ninna atal Will yn Ilonydd ar ol i ddala fa, a pheedo starto cwnni 'ên grach.

 

'All is fair in love an' war,' mynta Dai, yn ettrych mor ddôth a pherrot y captan. ‘Os yw Will yn wara tricks, y'n bisnas ni yw wara tricks a Will.'

 

==

 


(delwedd
5169) (tudalen 59)

Y PARTIN DWPWL. 59

'Ma gwanol farna,' myntwn i, 'Ma rai dynon yn cretu ma bod yn dynnar a Will yw dyletswdd Cristionoccion i ladd a charadiccrwdd.'

 

‘H'm,' mynta Dai, ‘Ma rwpath felna yn depyg cure for toothache; ta faint rwbi di o’r ointmant ma'r ddannodd yn para. Y fact o ge, Shoni, sa ti'n berwi Will miwn caradiccrwdd Will fydd a o 'yd. Na, Shoni, yr 'ên style i fi ar mencos i — gwefus am wefus, Iliccad am liccad, a dant am ddant.'

 

‘Eisht!’ myntwn i, 'Eisht! Ma swn mandral a raw yn acos! Beth sy 'ma? W i'n cretu fod y gossinjers yn ceebo undergroun' passage shag ato ni.’

 

I randawson. Yr argol odd y swn yn dod yn nes!

 

‘Slippa naill ochor Dai,' myntwn i. 'I watcha i yr ochor ma, a chatw di licced yn acor yr ochor na. Ma'r gweethwrs jest cal twll.'

 

Na netho ni.

 

'Mum is the word,' myntwn i wrth Dai, ‘Ergyd fel sledge ar gôpyn y cinta; i. gymra i numbar two, an' so on.'

 

Ma lwmpin o glai yn rolan wrth drad Dai, chympohir ma ben squâr un o bantnars Will yn pocan mâs. Lawr y dath tammad o bost clwyd ar i ben a, i gitchws Dai yn i golar a, a mas a ge.

 

==

 


(delwedd
5170) (tudalen 60)

60 Y PARTIN DWPWL.


‘Number One,' mynta Dai yn wispran.

 

‘Numbar Two,' myntwn inna, yn roi weltan i ben y German nesa, a mas cas a ddod.

 

Ma laish o’r tu fiwn yn gweyd, — 'Hor auf, stop!'

 

‘Rough ne beedo,' mynta Dai, 'der mlan bachan diarth.' Och, och.'

 

Wir ddyn ma numbar three yn gwan i drwyn i'r golwg, i cas i nes bo'r undergroun' passage yn ecco, a sledgo buo ni nes bo'n breecha ni yn binna bach i gyd. Oni ddath yn 'stop tap' ar welto Germans, on cyn yny odd gytta ni naw o rapscaliwns yn gorwadd fel scatan ar weelod y trench.

 

'Och, och!' mynta Dai yn wyrthin, ‘Ma durn out eetha ryspectable. Wad mlan Shoni os daw racor.”

 

Tacla ecar yw'r Sossinjers; ma nw'n cretu ma dim on' nw sy'n gwpod poppath. Walla bod nw'n gwpod diccyn, on am shinko pwll, ne ddrivo eadin' galad, ma boys Cwm Rhondda yn siwr o fod yn fwy o gamstars na nw ar mencos i. Os ma dan ddeiar ma'r wmladd i fod, cistal i Will shotto'r spwnge Ian, i naiff Dai a Finna avoc ar y Sossinjers miwn shiffad. Rwpath od yw 'Unan.' I glywas englyn pan o ni'n grottyn yn dishgrifo Unan. Islwyn wetws yr englyn wrth Mishtir, on prygethwr Baptist i gwetws a

==

 


(delwedd
5171) (tudalen 61)

Y PARTIN DWPWL.  61

 

wrth Islwyn. Englyn am ddoi fleenor a diccyn o unan yndi nw yw a. Ma:

 

Shon Matthew sy'n ymwthio — am y blaen

Y mae blys mawr arno, —

A Shon sy'n nofio,

Ynddo'i hun mae i nefoedd o.

 

Na gistal ffotigraft o Will o Berlin yn y line ddiwetha no a gas i dynu ariod,

 

‘Ynddo'i hun mae i nefoedd o.'

 

I ddath un o’r blokes idd i unan cympohir.

 

‘Merci, merci,' mynta fa, yn staran arno Ni'n Doi.

 

'Merci myn yffryd i,' mynta Dai. ‘Gâd dy lap, ne i fydd dy wynab di acha wew miwn wincad. Merci efa? On bai am di short di, a Will o Berlin, i fyssa Shoni a fi yn eetha apus yn dala mackral yn Pwllgweelod, a wettyny yn ishta yn gomposed yn cal smoke yn parlwr bach y - (sdim o’r censor yn folon i weyd yr address). Merci ar mencos i!'

 

I gwnnws Dai y polyn i roi 'finishin' stroke' iddo on' trw lwc i ddath officar eebo ar y pryd.

 

'Olo!' mynta fa. ‘Wot ave you got 'ere?’

 

‘Nine Sossinjers, Ser,' mynta Dai, yn eetha civil.

 

I wyrthinws yr officar a i wetws, —

 

‘I see. Get the stretchars. We'll ave to send you

==

 


(delwedd
5172) (tudalen 62)

62 Y PARTIN DWPWL. 

 

two to Palestine or Mesopotamia; at this rate there ont be a German left to fight with. Well done you gallant Welshmen.'

 

I garson y scrwff i'r ospital, a odd peth netho Ni'n Doi weti ddoti lawr in black an' white yn bockat book yr officar. Na apus o ni, yn wilio, yn smoko, yn ettrych nol ar rwpath weti neyd. Cofiwch chi ma tymlata gen-u-ine yn mrest dyn pan fydd a'n gwpod am rwpath gas i ddychra weti cal i gwppla, a finto yn cyrnoi i dwls i gal matal a’r gwaith am y dydd.

 

‘Somethin' attempted, somethin' done, 'As earned a night's repose,'

 

mynta Longfellow, a ma Shoni a Fi yn barod i weyd

 

'You are right bachan diarth.'

 

'Wel,' mynta Dai, ‘Na naw German yn llai i dreio lando yn Mryttan.'

 

'Ma naw o’r 'baw' ar ben,

A tolcog yw pob talcen.'

==

 


(delwedd
5173) (tudalen 63)

Y PARTIN DWPWL. 63

 

Y WECHFAD SHWRNA,

 

'SLEEPING PILLS AN' SO ON.'

 

GYTTA bod Dai yn roi finishin' stroke i'r mesuro câth ma laish yn wispran yn Sysnag. Ma beth wetws yr officar, — -

'You two cannot be spared from the trench for while: I need not tell you to be wide awake.'

 

I ddishgwilws Dai arno i, a i drychas i ar Dai. Wetwd dim, on' odd drychiad Ni'n Doi yn wilia'n uchal. Odd, odd. Short o wireless taligrafft odd y message odd yn fflashan mas o'n Ilicced ni — - ‘Na gomplimant on tefa.'

 

I geson ordars i aros yn y trench 'yd dri o'r gloch y bora. Pan odd y clock yn taro tri, - wrth gwrs byrddoniath yw wnna, wath ôs dim clocks yn y trenches — ma ni’n dychra'r attack. Wiw! Ma'r cannons yn wara ar y barbed wire am gwartar awr. Wetynny awr o shello ar drenches bleena'r Sossinjers; awr ytto ar y second line. Ma dorchi llewish ar ôl 'yn.

 

‘Rush the trenches,' mynta'r officar.

 

Ma'r drôd ora mlan! Anodd dishgreefo beth jof-

==

 


(delwedd
5174) (tudalen 64)

64 Y PARTIN DWPWL.

 

eddson ni am gannodd o latheidi; anodd gweyd sawl un o'n boys ni gwmpws yn farw ceg. On' odd dim stop i fod; rnlan a ni fel shwrna o ddrams llawn yn ryttag ar wyllt lawr i'r inclino ar ol i'r râff dori. Mlân a ni! O ni bob un weti werwi; a fi greiddson y trench cinta.

 

Odd bothdi iccan o ni yn cario bombs, odd gan Ni'n Doi bobo ddeg — deg pilsan mynta Dai, rwpath chi i galw yn 'sleepin' pills.' Pan o ni bothdi annar cleero'r trenches blân, i welson fflag wen yn shigglo yn y gwynt uwchben yr ail drench.

 

‘Bachan,' mynta Dai, 'ma i siwr o fod yn ddwyrnod golchi gytta'r Sossinjers; ma'r dillad mas ar y line.'

 

‘Otti allwn feddwl bachan,' myntwn i, on' aros diccyn bach i fydd yn ddwyrnod ‘lladd mochyn' yn anas My Nabs miwn chyttig fyneeta, bydd ar mencos i.'

 

O ni ry wide awake i'r Germans; o ni'n gwpod i tricks nw erbyn 'yn, a fi gretson ma 'dodge' odd y white flag. A na beth odd a 'efyd. I weiddas am volunteers i joino Ni'n Doi, a ma wyth o foys yn ryttag shâg attoni. I needas i ben y trench, a na lle odd y Germans fel morgrug yn gwân o bothdi, on' dim yn cinnig lwo. I dywlas gwppwl o’r sleepin' pills idd i cenol nw. Yr arcol na beth odd i chered i.

 

==

 


(delwedd
5175) (tudalen 65)

Y PARTIN DWPWL.  65

 

'Who'll jump in?' myntwn i.

 

Gytta'r gair ma ddeg yn cwmryd plwnsh o’r golwg yn y trench, fel sa nw'n mynd ar i penna i'r swmp, ar ol y Sossinjers fel milgwns. Odd y Germans yn ceesho cal gafal yn y communication trench, on' no go. W i ddim yn licco gweyd, a w i ddim yn cofio faint o’r racsach gas i cownt weti setlo, on' i alla weyd 'yn o nw'n ryttag idd i tylla fel gwiningod o flân fferats.

 

I âlws yr officar arno Ni'n Doi.

 

'Corporal Morgan and Corporal Jones I am proud of you, Take these prisnars an' 'and them over; unless we are 'ard pressed by the enemy, an' are in urgant need of you, take three cloys' rest.'

 

‘Thenkyw Ser,' mynta Dai, yn scrapin i dalcen, — 'Thenyw Ser.'

 

Ma ni, Dai a Finna — yn ishto o dan goedan fach yn ynjoyo'n unen. Y 'n gwaith ni yw smoko, gryndo ar y Marias a'r Johnsons yn canu duett draw eebo'r trenches. Dim arall gytta ni i neyd. Rwy short o olidays wrth gefan y trenches am dri diwarnod, on' teelwng i'r gweethwr i spel. Sha thre ma'n myddylia ni'n mynd, on pan yn wmladd yn y trenches ôs dim amsar i fyrddwyto. Pan yn secur ma petha yn wânol, ma'r meddwl fel so fa'n wilo am job.

 

==

 


(delwedd
5176) (tudalen 66)

66 Y PARTIN DWPWL.

Ma gneyd dim weetha yn 'ard labour i un sy'n arfadd gweetho. Na shwt i Ni'n poi yn teemlo. 'Dim,' mynta Dai. 'la Shoni. W i'n cofio cystadleuath ar neyd englyn i ‘Ddim,' a ma un dicclws y'n ffansi i, pwy yw'r awdwr w i ddim yn gwpod.'

 

Hen hosan a'i choes yn eise — a'i brig

Heb erioed ei dechre;

A 'i throed heb bwyth o’r ede,

Yna yw 'dim' — onide.


‘On' raid gatal 'dim' a wilo am rwpath,' myntwn i. ‘Ble ma'r gân fach na, gyfansoddws y bachan o Sais ny, wnnw fu'n câl scyffle a ti? Ro donc idd i Dai. A gweyd y gwir w i'n cretu i'r bachan o Lancisher ela'r story i Mishtir. Cân i, `’Dai, ar y don The Vacant Chair.' Ma'r gân yn attab yr amserodd.'


‘Right O,' mynta Dai, a chympohir ma'r top tenor yn diaspetan, fel ma'r beirdd yn i weyd. Yr arcol fi ath yr atar yn ddishtaw. Ma swn trad sha'r tu cefan. I bippas. Yr arcol odd no annar dwsan o officars weti cyrnoi. Ond odd Dai weti colli i unan yn y gân, yr odd dagra yn i licced a, a dagro yn i Iaish a. I glywas un o’r officars yn gweyd, —


‘By gad, this is the first time I've listened to a Welsh Nightingale that had no wings.'

 

‘Eetha gwir, wath 'Eos' eb adenydd yw Dai. W i siwr o fod weti ela want arno chi i ddarllan y geira.

==

 


(delwedd
5177) (tudalen 67)

Y PARTIN DWPWL. 67

 

Well, ma nw yn Sysnag. Ble câs yr officar yr idea bert dw i ddim yn gwpod.

 

'THE CLATTER OF THE CLOGS.'

 

(Ar y Dôn: - ‘THE VACANT CHAIR.')

 

You've not geen my little Jimmy?

He's my kid — just turning four,

But you ought to hear the clatter

Of his clogs upon the floor;

From the dewy dawn till evening,

Why that kid is ‘potted' glee,

Love alone could turn his chatter

Into perfect harmony.

 

He's my little boon companion,

For his mother's laid to rest;

Oh, I love to cuddle Jimmy,

As he nestles to my breast.

 

Now the sound of war was nearing,

And recruiting came apace,

Why, I wrestled with my 'duty,'

As I looked in Jimmy's face;

Who will guard my little pet lamb

If I answer duty's call?

Then a whisper came from heaven,

‘He is watching over all.'

Hush, the sounds of clogs are nearing,

Little Jimmy came along,

‘You will fight for me, my Daddie,' –

So I went and joined the throng.

==

 


(delwedd
5178) (tudalen 68)

68 Y PARTINL DWPWL.

 

‘Oh my Dad is wearing khaki.'

Shouts my kiddie to his chums,

And next morning I was marching

To the sound of Fifes and Drums.

Then away to France to slaughter

Huns that threaten Britain's shore.

As I passed I heard the clatter

Of his clogs upon the floor.

 

You will understand my feelings,

They were twisted out of joint,

But I bucked up like a Briton,

With my heart at breaking point.

 

Into trenches Huns were pouring

German shells from morn till night,

But when 'o'er the top' we scudded,

Found the blighters would not fight:

But the rattle of machine guns

Was increasing more and more,

Called to memory the clatter

Of Jim's clogs upon the floor.

 

Why the thought came as a tonic,

And my fighting turned a joy,

For the clatter seemed to whisper, '

‘Dad, you're fighting for your boy.’

 

But how soon will dear old Blighty

Come again across my view?

For I'd like to change my billet

For my Cottage, would'nt you?

Oh the glorious day is nearing,

When this horrid war is o'er,

And again I'll hear the clatter

Of Jim's clogs upon the floor.

==

 


(delwedd
5179) (tudalen 69)


Y PARTIN DWPWL. 69

Why I'll fight for dear old Blighty,

While this bliss is kept in store,

Ah! I'm sniped! What's that? – the clatter

Of — Jim's clogs — upon the — floor.

 

I awoke, and found I'd landed

In old Blighty once again,

But how oft were ‘Fritz’ and 'trenches,'

Thrown upon the screen by pain .

Said the nurse — ‘I've changed your medicine,'

As she sidled to the door,

Ah, what's that! it is the clatter

Of Jim's clogs upon the floor.

 

How I hugged and kissed my kiddie,

But my fighting days are o'er,

Now I'll live — to hear the clatter

Of his clogs upon the floor.

 

On' ma'r tri dwyrnod spel ar ben. Ma fessinjar yn i throttan i shag ato ni acha cefan ceffyl, a yn ando notyn i Dai, a ma beth odd yn scryfynetic, —

 

‘If Corporals Shoni Morgan and Dai Jones are anywhere near, send them at once to --, near --. We are in a very tight corner. If anybody can save the situation it is Ni'n Doi.'

 

Signed. — Brysgwyllt (Colonel).

 

‘All right, my man,' mynta Dai, yn stretcho i freecha a gâpo. ‘All right, Ni'n Doi will be on the double partin in a shiffy. Off you trot.'

 

Glascson y'n twls, fel ma nw'n weyd, i wetson

==

 


(delwedd
5180) (tudalen 70)

70
Y PARTIN DWPWL.

goo'-bye wrth y boys erill, a off a ni yn nrecshwn ---. Ar mencos i odd y notyn yn gweyd y gwir, tight corner, mynyffryd i, odd a. Y peth cinta notisson Ni'n Doi odd milodd o'r Sossinjers yn gwascu mlan, a'n boys ninna yn cwmpo nol o drench i drench. A gweyd y gwir odd i bron mynd yn screch ar y'n showdwrs ni. I needws Dai ymlan fel pecock. ‘Stop!' mynta fa, 'Stop!' Ma'r llaish top tenor yn ecco'r wlad. 'Ma' ên wlad y nata yn annwl i mi,” mynta Dai. Sôn am ylecktrick shock yn ffair Yetybompren! I stoppws y Sossinjers am diccyn fel sa nw weti urto. I notissws Dai ynny. ‘Carry on, me lads,' mynta Dai. I drows y'n boys ni yn ol dan ganu — ‘Tis a long way to Rhondda Valley.' A ma i off! Nol odd y Germans yn câl i sceepo fel baw o flan brwsh parth. ‘Nol a nw! Nol a nw!' mynta Dai. ‘Shovel the rwbbetch in the dreckshon of the Red Cow.' A nol geso nw fynd, gwment ag odd a bagla i gered, on', weti i'r scarmedge ddishtewi i ffinson gannodd o bantnars Will o Berlin ar i cefna yn stidio'r sêrs a'r planeta. 'Eisht,' mynta Dai,' 'ma chap acha cefan ceffyl yn dod ytto. Wir ddyn ma nw'n wâth na gweepad.'

==

 


(delwedd
5181) (tudalen 71)

Y PARTIN DWPWL. 71

 

Y SEITHFAD SHWRNA.

 

“’OW NI'N DOI SAVED THE SITUASHION, A 'SO ON.’”

 

Y ‘so on' yn ginta, ontefa.

 

Ble o ni? O, ia, bachan acha cefan ceffyl yn dod shag atto ni fel y venjance. Ni'n Doi yn roi stop ar wara'r Sossinjers. Shwd netho ni 'yn? O, dim on' dangos y'n gwynepa spo; na gyd, a'r arcol na'r penna scwar yn i iwbwban i, yn gweiddu Das Paar! Das Paar! I chi'n gwpod ma Das Paar Ni'n Doi yn iaith Will o Berlin. I escilisswch chi fi am gocclish diccyn ar y'ch côf chi weetha, wath ma dyn yn apt o anghofio lot o foreign langwedges wrth ddarllan cwmment ar y pappra, a mynd diccyn yn nervous wrth ddishgwl am yr ên bledran fwg na — y Zeppelin — i ddod i etfan uwchben shimla y'ch ty chi cenol nos.

 

I werwi Dai ôs dim ffor' yn well na dishturbo i olidays a; i âth yn weenad gwyllt pan ddath y bachan o’r notyn o wrth y General.

 

‘Ma waith Will o Berlin ytto,' mynta fa, ‘ma dyfotol eetha climercog yn weeto My Nabs. Ma weta i —

 

‘DYFOTOL WILL O BERLIN.

‘Rowch i'r ionc gart donkey, - ne scwtted

Box scatan o bothdi, —

==

 


(delwedd
5182) (tudalen 72)

72 Y PARTIN DWPWL.

 


‘'Old on Dai,' myntwn i, ‘Sa My Nabs yn câl ddewish o job ar ol y ryfal ma, w i'n cretu ma 'yn wetsa Will, —

 

‘Barrel organ, Morgan, i mi,

Ar mencos yn wir a mwnci.’

 

‘Bachan, Shoni,’ mynta Dai, yn wara'r chaw tybacco bothdi wefla, 'l ti siwr o ddod yn un o feirdd y Brain a'r Defed cyn cwppliff y scarmedge ma. Sticca ati! Ma beirdd thoroughbreds yn bring iawn yn Mryttan. Nil Referandum Shoni, wad mlan. On, ettrych ma, dw i ddim yn cretu fod mwnci weti cal i eni fyssa'n disgraso i unan wrth fynd yn bantnar an' co a Will. Ma lot o self-suspeck gan fwnci. Os Shoni!’

 

Walla ma self-ryspeck wy ti'n feddwl,' myntwn i. Walla ma fa,' mynta Dai, on' wy ti'n diall regettiad y meddwl i, Shoni, w i'n cretu fod gormod o glip gan fwnci ar i garritor i fynd i gwmpni bachan o short Will o Berlin.' Mlân a ni,' mynta Dai. A mlân etho ni.

 

Y SCARMEDGE.

‘THE BRAVERY OF NI'N DOI.' ‘THE SOSSINJERS FRIED IN THEIR OWN FFRIMPAN. ‘CORON Y KAISER DDIM GWORTH PISHYN GROT.’

 

Na diccyn o dwtch pappra Llundan i chi, mishtir, a nawr am diccyn o gownt y Scarmedge.

==

 


(delwedd
5183) (tudalen 73)

Y PARTIN DWPWL.  73

 

Poppath yn barod. I ddiiynson y bachan ddath a’r necas i Ni'n Doi, y fe odd i fod yn guide i ni. Odd yn awdd gwpod fod y nos yn nesu, a'r gwynt yn dychra weepan diccyn yn orllyd. I dynson y'n neesheti poc i mas, a fi rounson nw am y'n gwddwca. Draw, ymhell, o ni'n clywad y cenyns yn swno, rwpath tebycca'r byd i swn aid o wenyn miwn llwyn o god. O ni'n cleppran amall i air, yn tyynu plans, an so on, on' yn y twyllwch i gamsynws y guide yr ewl, a gorffod i ni i thrampo i nol am yn acos i ddwy filldir. Allsa'r guide ddim elp, poor dab, dim on catha, a goodi-oos, a chyffyla sy'n apal i weld yn y nos.

 

O’r diwadd i wynepson yn y dreckshwn right, a mlan a ni trw ên gwmydd bach cul, i Ian dros frest amall i fryn, wiw dros nant fach nawr a yn y man, a'n meddyla ni yn etfan ol a blân: - sha thre nawr, off at y'n showdwrs bach ni odd “in a tight cornar" wethyny, a fi ddath dwy line Sysnag i meddwl i. Ma nw:

 

Ye gentlemen of England,

Who sit at home at ease.'

 

Y chi yn Ngymru sy'n gallu ishta wrth y tân, mynd sha'r cwrdd, lawr i Ian y môr, myn'd sha’r gwely, a felly yn y blân, a ninna — Ni'n Doi a'r boys erill — yn gorffod i styffaglan i miwn gwlad ddiarth. Ottich chi'n teemlo'n ddiolchgar weetha?

==

 


(delwedd
5184) (tudalen 74)


Y PARTIN DWPWL. 74

Mlân a ni trw genol parth o ddrain, a'n deelo a'n gwynepa yn cal i scrapin nes y'n bod ni'n teemlo fod ‘ôl y frech' arno ni.

 

‘Eisht,' mynta Dai, 'Ma swn wrni ar y law dde ma bachan, ôs ar mencos i.'

 

I stopson, a fi gamson i ddreckshwn yr wrni. I dynnws y guide i fflashlight i mas, a beth welso ni on slashin o German officar yn cyscu o dan colfan, a'i ben yn acor fel ffwrnas fast yn ngwaith arn Nantyglo. I sefson y'n tri roun I’r bloke, on o’r diwadd i fyrstas i mâs i wyrthin: allw ni ddim peedo wir i ddyn. O ni'n ceesho meddwl shwd olwg fyssa ar wynab y boy pan fyssa fa'n acor i licced a gweld Ni'n Doi â'r guide yn i wynepu fa.

 

I ddi-unws! Wel, y mowredd anwl! Na wep nath a. Os dim diccon o iaith gytta fi i ddishgreefo'r olyccfa. Dotwch y'ch unan yn i le fa — yn di-uno o gwsg — fflashlight, fel ‘full moon' o flan y'ch trwyn chi. Nawr ta, shwd fyssa chi'n teemlo? Ffindso chi mas? Os do fa, na fel odd y sossinjer ma yn teemlo, fel sa rwpath yn crippan trw' i wâd a, -- ‘all shiver and shakes’ fel ma'r Sais yn weyd.

 

W i'n cofio anas am rwpath tepyg yn diccwdd miwn pwll glo yn acos i'r spot lle y cesa i y ngeni. Odd no deelwr yn arfadd mynd, nawr a yn y man, i gal eetha booze yn ---. Yn amal iawn odd a'n cal neppyn ar i ffor' sha thre. Pwlla balance odd y pwlla

==

 


(delwedd
5185) (tudalen 75)

Y PARTIN DWPWL.  75

 

 

Glo; i fuas yn i gorwadd ar ben y shaft lawar gwaith, yn pippo lawr trwyddo, yn wilia gytta'r itchwr odd ar weelod y pwll, pan o ni'n grottyn. Odd ddim llawar o ddwnder yn y pwlla balance, a odd y gweethwrs nos yn dod i ben y pwll bothdi doiddeg o’r gloch y nos i fytta cinno.

 

I ddethon y noswath ma, fi welson y teelwr yn cyscu yn acos i ben pwll. I gitchwd yn y boy a lawr yr etho ag e i weelod y pwll, yn cyscu o 'yd, a yn wrni fel ootar. I dotson y poor dab orwadd yn y gob. I ath y gweethwrs at i gwaith, on miwn ticcyn i ddethon nol i gal pip ar y cysgatur. I sefson roun iddo, a phob un a Iamp fach yn i gap, a’u gwynepa mor ddu a'r glo. On, yr arcol, i ddi-unws y teelwri a ma fa'n dychra staran a gâpo.

 

‘Olo! mynta un o’r coliars. 'Olo bachan diarth, pwy y'ch chi?'

 

‘Bachan bach o deelwr --,’ mynta fa mor wynnad a shalc.

 

‘Beth yw'ch enw chi?' mynta llaish cryf fel llaish dwpwl bass.

 

‘John --.’

 

I ffeelws weyd racor, wath i gwnnws lwmpin i wddwg y teelwr

 

‘Beth yw'ch gvaith chi?' mynta'r llaish dwpwl bass.

 

‘Teelwr o ni yn y byd arall, ser,' mynta fa, yn crynu

==

 


(delwedd
5186) (tudalen 76)

76 Y PARTIN DWPWL.

 

nes bod i ddanadd a'n cratchan. 'Teelwr, ser, on i na i beth bo chi foneddiccion yn licco ma. Gna wir ddyn.'

 

Odd y teelwr weti cretu i fod a weti lando yn y pwll diweelod, a i fu-ws yn gorwadd yn y gwely bythywnos ar ol y turn out ma. Ma'r anas yn gweyd fod yr excursion gas a y noswath onno weti gneyd mwy o les iddo na chant ne racor o spoutan miwn cwrdd dirwestol, fi ddath yn deelwr sobr ar ol 'yn.

 

On' beth i neyd o’r Sossinjer, odd wnnw weti câl ofan dychrynllyd.

 

‘Now goo'boy' mynta Dai, 'Keep your mouth shut or there will be a diminnendo in your 'istory.'

 

I gwnnws y German ar i ishta — yn staran — a'i ddoi liccad a fel dwy sowsar.

 

‘Wot!' mynta fa, ' Wot! Ach! Das Paar! Auf-geben.'

 

‘Beth ma fa'n foddrach, Shoni,' mynta Dai, yn wyrthin.

 

'W i fel sw ni'n cretu ma cleero diccyn ar i frest ma fa bachan,' myntwn i. ‘Ma fa weti llyncu rwppath sy weti cwnni fflem yn i wddwg a. Wot is my nabs talkin about ser? ' myntwn i wrth y guide.

 

‘Ach means alas.'

 

‘O wel,' mynta Dai, 'we is Das Parr ser.'

 

‘Auf-geben means he is ready to give in,’ mynta'r guide.

==

 


(delwedd
5187) (tudalen 77)

Y PARTIN DWPWL. 77

 

On ar mencos i odd y German ar i hyd — cyd miwn ffit. I gymson fentyg i revolvar a, a phoppath arall allsa fa i uso i ladd i unan, ne i gymdoccion; i glymson i ddeelo fa roun i'r pren, i stickson bishyn o bappar ar bren o'i flân a, a ma beth odd ar y pappar yn Sysnag: -

 

 

"Warnin! quiat! Das Paar will soon return. The guide is in the branches above your head, and ready to blow you to pishes if you try to play any tricks."

“Signed — DAS PAAR,"

 

Erbyn y bora i greiddson o fiwn bothdi 500 ne 600 o latheidi i'r scarmedge, on odd no fryn ryngo ni. Diolch am y bora! I fuo'n yn i ddishgwl a, a fi gofias atnod [ba]ch ddysgas i yn yr Ysgol Shul — 'Fel mae y gwylwyr am y bora.' Na bart o’r atnod, wilwch chi am y 'missing words.' Alla i ddim peedo doti pishyn o waith Mishtir i miwn nawr byrddoniath ar y 'Bora’ yw a. Ma fa.

 

BOREU O WANWYN.

 

O gwsg hir mewn gwisg eira — anian

Yn wenau ddeffroa,

Ac eurad chwegiad y chwa

Ei haraul wisg oreura.

 

Yn ebrwydd wele'r wybren

Fel asur yn bur uwchben,

==

 


(delwedd
5188) (tudalen 78)

78 Y PARTIN DWPWL.

 

Heb gwmwl na nifwl nawr

I ororau yr eurwawr.

 

Weithion mae’r goedwig hithau

Am yr hin yn mawrhau

Duw'r nef, --- e' dr nwyfiant

O'i breichiau yn ganghau gant.

 

O y canghau y daw cynghan

Ddidor y myrdd adar mân;

Y llydan feusydd llwydwedd

Yn wyrdd gain ac hardd eu gwedd.

 

Botyman yw'r blodau blydd,

I hud hulen ein dolydd,

Y llyn a'i wyneb Ilonydd

Yn dderbyniwr delw'r dydd.

 

Ac am orig

Clywaf ganig

Y forwynig Ion fireinwedd, -

A sirioldeb,

Wanwyn ardeb

Yn ei gwyneb — eneth geinweld.

 

Y gloew a thêg wlithyn — y rhosyn Ereswedd a'r gwelltyn

Heb os yn dangos i'r dyn — ei ddyled

I bur uned y Boreu o Wanwyn.

 

Na i chi bittwr o’r Bora, on tefa. On', ar fâs y gwâd, ma'r pittwr diccyn yn wânol, - shells an' bullets, bullets an' shells, yw'r anas no. Ma’r blôta i gyd weti spwylo, ma'r "rhosyn ereswedd" weti marw, a na'r spot i Ni'n Doi yn pippo arno nawr, ma'r wlad yn depyg i ên dip shindries.

==

 


(delwedd
5189) (tudalen 79)

79 Y PARTIN DWPWL. 

 

YR WYTHFAD SHWRNA.

 

“WRTH DROD Y BRYN."

 

Y gymylog niwlog nen —agora

I gawr y furfafen,

Y lloer â tu ol i'r llen.

‘Abrec' iach y wybren,

 

Yn wr cadarn nawr y coda, - yr Haul

Mewn rhyysg yr ymddahgosa;

I Nêr, mor dyner a da,

Wele anian benlinia.

 

Na’r fframin roun i bittwr Mishtir o’r "Bora.” Beth chi’n feddwl am dano fa? Ma llawar i fframin yn well na'r pittwr weetha, on ma'r ddoi ma yn matcho yn gen-u-ine on di nw.

 

Ma, lldwar, Shuit o ddijlad yn fwy ryspeotable dyn ne'r fenyW sy yndi. Ma llawai' shuit racsog yn fframin roun i ddyn ne fenyW o’r short ôr@. O/ Osy fel y gwetws y bardd Sysnag, —

 

Were as tail as reach the pole,

And grasp the ocean with a Span,

I would be measured by my soul, ilhe mind's

Che measure of tho

 

Eetha gwir mynyffryd i, on wâlla bod rai o no chi yn i weiddu, “Bant a'r cart! Mlan â savin the

 

==

 


(delwedd
5190) (tudalen 80)

80 Y PARTIN DWPWL.

situashion!" O’r gora, catwch y'ch gwallt. Mlan ewn ni on' i ni gal diccyn o anal. Nid myn'd i dêparti i Ni'n Doi. Rochor draw i'r bryn ma na filodd o Germans y sychetu am y'n gwâd ni; yn barod i roi amsar twym a'r venjance i ni. Liccech chi fod yn y'n lle ni?

 

I ni'n cwatto diccyn dan gessal y bryn, yn cyrnoi nerth. Beth sy yr ochor draw wetas i? Wel, dim on specto i ni; specto fod milodd o Germans ar y watch, sa ni'n gwpod faint walla etha ni diccyn yn fflat. Ma yn beth da weetha nag i ni ddim yn gwpod beth sy rochor draw i'r bryn. Beth sa'r crottyn ne'r grotten deg ôd yn gwpod beth yw'r “gofittia rif y gwlith" sy yn i aros nw fel mynydda ryngi nw a ên oetran. Wel, beth yw'ch apad chi? Beth fyssa'r anas? I fyssa'r weebotath yn omrod iddi nw, fe gwmpsen fflop o dan y pwysa cyn i bod nw yn iccan ôd. Gnesen wir ddyn. Beth sa'r bachan ifanc sy'n ceesho'i ora i ddod mlan yn gwpod faint o "ups an' downs" odd yn i aros a, wel, "down tools" fyssa'i anas a cyn starto. Na, na, ma lle gytta ni i ddiolch fod amall i fryn yn cwnni ben i gwatto'r dyfotol.

 

Ma i yr un peth gytta'r Sossinjers efyd; ma'r bryn ryngo ni. Sa My Nabs o Berlin yn gwpod pwy sy ma, fod Ni'n Doi yn gorwadd diccyn i gal cyrnoi nerth cyn roi eetha weltan iddo, i gesa Will y Kaiser ffit dwpwl powar o gonvulsions, a fe gollsen ninna'r sport

==

 


(delwedd
5191) (tudalen 81)

Y PARTIN DWPWL.  81

 

 

o gocclish ribs y bawgwns a blân y baginet. O na, gatwch i betha fod fel ma nw, cistal cwmryd petha fel ma nw'n dod, a gatal i'r mashinary byttol i fynd yn i flan, a phob un i neyd i ora i gario i brogram mas. Na'r cwppwl syniata na a’r ben, gobeetho y gna nw i amall i fachan, sy'n ffond o ffindo beia, i gonsitro diccyn cyn acor i beeg.

 

Nawr am y situashion! Nawr am y scarmedge!

 

Pan ddath i'n ddydd fe gas y Germans glip arno ni. O nw'n gwpod i'r fotfadd ble o ni, a chympohir ma'r mashine- uns yn dychra crick-crackan, rwpath tepyg i en fashine golchi a un o’r cogs weti mynd yn llapra. Odd gytta ni ddim i neyd on cwatto'n penna nes bo'r diwetydd yn dod, a arfadd diccyn o amynadd fel yr en frawd Job.

 

On dewch chi, pan ddychri-ws i fynd diccyn yn dywyll, ma i off. Wir ddyn odd y Sossinjers yn gweetho yn eetha ryspectable, on mlân etho ni dab I nillson fryn bach a na ble odd ar i penna nw. I nillson fryn bach a na ble odd diccyn o fwtchera. Ar un ochr i ni odd y boys bach brown na o India — y Gwrkhas. Na chaps i chi, na darriars bach o ddynon! Anodd peedo ettrych arni nw er fod y bwlats yn fflyan fel 'Olloway Pills o bothdi'n penna ni.

 

‘Dishgwl ar wnna,' mynta Dai.

 

I ddishgwilas, a na sight! I gwmrws y Gwrkha bach naid at y German, i bwshws i faginet a i'r Ian

==

 


(delwedd
5192) (tudalen 82)


Y PARTIN DWPWL. 82

 

a'i law with, gitchws yndo, a lawr y dâth y gillath fach odd mor sharpad a razar, a wiw, ma i'n ddobinno ar y Sossinjer wnnw.

 

I Ian a ni dros y bryn, odd ochra diccon serth gytta fa; lawr a ni wettyny i'r trenches. Yr arcol! Na lle odd screchan! Odd cwment ag odd yn fyw yn gweiddu fel ootars, a ninna yn para i glatcho arni nw.

 

‘Auf-Geben! Auf-Geben!' mynta nw. 'I give in! I give in!'

 

Lawr a'r drylla, a ma bothdi mîl o’r tacla yn needo mas o’r trench i roi i unen yn brisnars. Ble odd y rest? O, yn i chered i fel llychetan i allt o gôd, bothdi petwar cant o latheidi yn mellach mlan. I blyccws Dai ar ochor y trench, i bwyntws i ddryll, a ma i off. On ma officar yn ryttag at Dai.

 

‘Man alive,' mynta fa, ‘don't waste ammunition. We 'ave licked the Germans for the time being.’

 

 

'l dont waste ammunition,' mynta Dai yn saluto. ‘No ser yndeed, there you, for I eard that German officar ovar there sayin' — 'Bury these ten men an' take the other one to the ospital.'

 

Ma Dai yn ettrych i wynab yr officar, y pwynto'r ddryll ytto, a fe bippws yr officar trw spyin'-glass.

 

‘Got 'im!' mynta fa. Got 'im, I'm blowed. A bull's eye! That German officar's sossinjer 'as been cooked. Bravo Corporal!'

 

==

 


(delwedd
5193) (tudalen 83)

Y PARTIN DWPWL.  83

 

‘Not bad ser,' mynta Dai, yn wên o glust i glust. ‘Not bad ser, one kernal ten privats.'

 

‘Splendid,' mynta'r officar, 'You an Corporal Shoni Morgan saved the situashion; you brought us out of a very tight cornar. I am afraid there ônt be enough cannons taken from the enemy to make medals for you two. Bravo Ni'n Doi.'

 

‘Thenkyw ser,' mynta Dai, 'Thenkyw ser for the complemants.’

 

I ath yr officar o wrtho ni, i ryporta diccon tepyg, a ma Dai yn gweyd yn syttan, ‘Bachan, o ble dath yr officar i wpod ma Ni'n Doi ma! yn y'n galw ni?”

 

‘Na, beth ma dynon yn i alw yn 'world-wide reputashion,' myntwn i. 'Dera i gal spel; ma'r Sossinjers weti cal eetha dose o’r moddion odd un o ddoetors y gwaith yn y Cwm yn i alw yn ‘Dose of Quiat-me-down.'

 

I geson lonydd am y rest o’r nos, a shawns i gal neppyn, a gweyd y gwir o ni ddim pell o fod weti bleeno. Gwaith calad i'w dispatcho Germans, cretwch chi fi, yn enwetic pan bo chi'n gorffod catw y'ch Ilicced yn acor i watcho na fydd i'r Germans y'ch dispatcho chi. Fe ath y sentries on duty, a fi dreison ninna gyscu. Nid peth rwydd odd cyscu, nace ar mencos i. Odd no gilion a gweeped wrth y milodd yn y'n poenu ni. Peth cas yw câl amall i

==

 


(delwedd
5194) (tudalen 84)

84
Y PARTIN DWPWL.

gleren yn gneyd skatin-rink o’ch trwyn chi. Ma Dai, poor dab, weti colli twft bach o wallt o ar goppa i ben, a myn depyg fod y clers a'r gweepad weti cretu ma rwy short o ‘open space' odd y part wn o ben Dai Conundrum Jones, wath odd y ran fwya o'r gweepad yn cwrdd a’u gilydd no, jest i setlo'r next move.

 

Odd na wrni a recu ar yn ail yn dod o gornal Dai, a fi nath ’yn i fi gofio story am ddoi Irishman odd weti mynd am dro i Mexico. Gwlad bôth iawn, mynta nw, yw Mexico; gwlad y clers, gwlad y moskeetoes, gwlad y fire-flies a'r scorpions, a felly yn y blân; ma no ddiccon o variashions i chi starto show greduriaid.

 

Fi ath y ddoi Irishman sha'r gwely gan obeetho cyscu. On' no go, mynyffryd i. Ma'r menagerie yn dychra perfformo. Mas dâth y moskeetoes, fel Royal Drygoons, yn pranco ac yn peeco.

 

'Be jabers,' mynta Murphy, We shall be murthered Mike. Let's try under the bed.'

 

'I'm willin,' mynta Mike.

 

A o dan y gwely yr ethon nw. I gyscson diccyn, on ma'r fire-flies yn dychra parado. I ddi-unws Mike a fi gwelws nw yn etfan o dan y gwely, a ma fa yn dychra gweiddu.

 

‘Murphy, Murphy, ye can give it up! It's no use thryin' at all, at all. The moskeetoes are under the

==

 


(delwedd
5195) (tudalen 85)


Y PARTIN DWPWL. 85

bed, they are lookin for us, an every one of the little beggars is carryin' a lanthorn. We better shout Kamerad.’

 

On odd i ddim quite cynddrwg yn y'n anas ni, o na, wath fe gyscson yn rondin o'r diwadd. Y peth gora i ela dyn i gyseu yw bleeno, on peedo cal gormod o ddose. I gyscson, i ddi-unson. Yr arcol i ffindson mas ma dim on Ni'n Doi odd yn y trench! Dim swn, on swn amall i ligotan ffrenig, bothdi size cath, yn ryttag dros y'n coesa ni.

 

‘Dai,' myntwn i, ‘Ma i bachan.'

 

‘Beth sy'n bod,' mynta Dai.

 

‘Ma'r Ridgmant weti mynd a'n gatal ni bachan.'

 

‘Otti ddi, bachan?’ mynta Dai yn gapo. ‘Wel, wel, ma'r Ridgmant weti mynd a'n gatal ni. Y Ridgmant gaiff y gollad, Shoni. I weliff y Ridgmant fwy o eesha Ni'n Doi, na weliff Ni'n Doi eesha'r Ridgmant. Gad i ni gal wiff o Ringar, i elpiff ni i gonsitro diccyn.’

 

I dynson y'n peepa mas, i smokson, a na lle buo ni yn puzzlo a chonsitro.

 

‘The questshion of the 'our is this,' mynta Dai. ' 'Ere is Ni'n Doi, but ware is the Ridgmant.'

 

‘Ay, ay,’ myntwn i, ‘Ay it is wotevar, ar mencos i, Ni'n Doi are in pot of sâm, an the questshion of the 'our is, —

 

‘Ow is Ni'n Doi to come out of the pot of sâm.’

==

 


(delwedd
5196) (tudalen 86)

86 Y PARTIN DWPWL.

 

Y NAWFAD SHWRNA.

 

"MAS O’R POT SÂM:'

 

‘Ma i,' mynta Dai, yn pwffan yn ddiccon digonsarn, 'Ma beth colli gôla miwn ên waith, Shoni. Cistal gneyd move, beth di'n weyd, bachan: cistal i thrackan i sha dreckshwn y twll cloi. Wot you say John Morgan.'

 

'la, ia,' wetas i. 'Cistal gatal y lodgins ma, myn depyg, os i ni am gwppla'r ryfal. Os symeetwn ni i fyddwn yn fembars o'r 'Neutrals,' y tacla no ma Bottomley yn i blastro yn ‘John Bull.' '

 

'Clasca gwppwl o’r sleepin' pills' na, rag ofan y cwrddwn ni a amall i Sossinjer a want peeco ffra arno fa,' mynta Dai.

 

I ddiffotson y'n peepa, yn lle bo'r Germans yn câl smell y mwg. I glascson lot o’r bombs; i wetson goo' bye wrth y lodgins — y dug-out, a off a ni a'n gwynepa — wel, anodd gwpod yn iawn i ble. Mlan a ni fel catha ac [sic: ar] ol atar; faint gerson ni w i ddim yn gwpod, on cympohir ma'r wawr yn dangos i pheeg.'

 

‘I shiftwn nawr,' mynta Dai. Ma'r parish lantarn yn câl i gynni.'

 

‘Catw di licced yn acor,' myntwn i. ‘W i'n clywad

==

 


(delwedd
5197) (tudalen 87)

Y PARTIN DWPWL.

 87

 

rwpath yn depyg i swn wispran yr ochor draw i'r clawdd na.'

 

I stopson. Yr arcol, ma fachan listy yn dod o allt fach o gôd, weti gwishco miwn shuit o khaki, yn depyg i shuit un o’n officars ni.

 

‘Shoni,' mynta Dai, ‘ma officar yn dod; allu di fentro ma wilo am Ni’n Doi ma fa: wel, mynyffryd i, ma bobo wech meesh o jâl i ni, gei di weld.'

 

'Goo' mornin,' mynta fa.

 

'Goo' mornin,' mynta Dai, yn scrapin i dalcan.

 

'Lost man?’ mynta fa.

 

‘Ay, ay,' mynta Dai. 'Two lost man, Ni'n Doi.'

 

O ni'n gweld y bloke yn cewcan ar Dai, a Dai yn towli Ilicced ar y bloke.

 

‘Von lost man,' mynta'r boy miwn khaki.

 

Na i settlws i - y gair ‘Von’' — wath ma ergyd iddo yn bit i stwmog, nes i fod a ar ascwrn i gefan, a baginet Dai trw i frest a i roi'r ffinishin stroke. German odd my nabs, odd a weti strippo un o’n offcars ni ar ol i ladd a, a weti gwishgo'r shuit. Na dricks y blaggards, on' o Ni'n Doi yn ry wide-awake; o ni weti cwnni yn ry fora i my nabs. I setlws y gair ‘Von' y scempyn. ,

 

Walla bo chi sha thre yn dychra cretu ma criatur creelon yw Dai, achos i fod a'n stwffo'i faginet i frest y boy. I chi, walla, weti darllun anas ên frawd

==

 


(delwedd
5198) (tudalen 88)

88 Y PARTIN DWPWL.

 

 

enwog o brygethwr odd yn arfadd mynd idd i goeddad bob pyrnawn dydd Satwrn acha cefan ceffyl. Odd clocyn du mawr ar gefan y prygethwr, a wnnw yn fflappan yn y gwynt, pan fyssa gwynt, wrth gwrs. Odd e yn ddyn tal, tene. Odd yr olyccfa yn ddiccon i ela ofan ar yr ' 'ên foy' weetha.

 

Wel, un diwetydd dydd Satwrn, fi ddath squire y plwy yn ishta ar gefan 'untar a diccyn o freed yndo, a fi gwrddws a'r 'ên frawd. I gas yr untar ofan syttan, i ddychreiws dascu a spriwingad nes i'r squire bron câl i shifto mas o'r saddle.

 

'Am y dyn!' mynta'r squire, 'I chi yn ddiccon i ela ofan ar y jafol.'

 

'Becan y'ch pardwn chi, ser,' mynta'r prygethwr, 'Na necas i yn dod o dre y pyrnawn ma, sef i ela ofan ar y cythral trw'r dydd fory.'

 

Na sponiad i chi o waith Dai Conundrum Jones yn baginetto y German. Fi all Dai a finna weyd — 'Becan y'ch pardwn chi, dyna odd y'n necas ni pan y detho ni o dre — sef, lladd Germans. A ma un at y rest.'

 

On, mlan a ni i geesho cal gafal yn y Ridgmant. Odd ôl y ryfal i weld ar bob ochor i ni; odd a'n ddiccon i dori calon dyn, on sdim use bod a thymlata delicat ar fas y ryfal.

 

'Bachan,' mynta Dai, ‘Ma ettrych ar rwpath fel

==

 


(delwedd
5199) (tudalen 89)

Y PARTIN DWPWL. 89

 

yn ddiccon i ela dyn i'r ‘blues.' Eisht, ma pishyn o dy^ draw mynco eb i gwmpo i gyd, cistal mynd shag atto, walla cewn ni le i gâl lie down am spel.'

 

‘Right you are,' myntwn i.

 

Mlan etho ni. I greiddson y spot. Wrth i jidgo fa i allswn feddwl ma ên blâs odd pan odd ar i drâd. I ddringws Dai Ian i steps, a fi greiddws ddrws. I drows i ddishgwl nol, a fi gwnnws i ddwrn arno i. O ni'n diall y taligraffto, odd cwnnad dwrn Dai yr un Peth a byssa fa'n gweyd yn Sysnag — ‘Shoni, keep your mouth shut.' Un quick am glywad odd Dai, odd a cistal a'r Irishman odd yn sefyll o flan St. Paul's yn Llundan. Cistal gweyd y story efa? Right O.'

 

Odd Irishman weti dod i Lundun am y tro cinta, a un dwyrnod fi ath mas am walk i weld y sights, Pan odd a'n ettrych ar St. Paul's ma un o sharpars Llundan yn dod atto.

 

'Olo Pat,' mynta fa, yn clappo'r Irishman ar i gefan.

 

‘Begorra! An 'ow did ye know my name was Pat?' mynta'r lrishman.

 

‘We 'ave sharp eyes in London,' mynta'r sharpar, 'I could see your name in your face. Do you see that fly on the Dome of St. Paul, Pat?'

 

'No,' mynta Pat, 'I can't see it, but I can 'ear it

 

 

 


(delwedd
5200) (tudalen 90)

Y PARTIN DWPWL. 90

 

walkin — an' I can 'ear a London sharpar takin' my watch out of me pocket, be jabers. Take that ye spalpeen.'

 

Fi rows Pat glatchen i'r sharpar nes i fod a ar i 'yd-cyd ar y pavin, a phan gwnnws y boy i rows y gose iddi. Na shwd un yw Dai — sharp i lleced a'i glusta. I etho Ian i'r steps a na lle buo Ni'n Doi yn sefyll yn eetha dishtaw, yn gryndo wrth dwll y clo. I bwshws Dai y drws yn acor diccyn, room wâg odd no. Miwn a ni fel sa ni'n cerad yn drâd y'n sana. I randawson! Allech chi ddim y'n clywad ni yn anatlu. I dynson y'n scitsha off; odd no grack yn llawr y lofft a fi bipson I’r room ishlaw. Yr arcol! Na sight! Tri German yn ishta o flan bord odd yn plyccu gan fwyd — dwy ne dair o boteli sham-pag-ne, poteli o wiskey, so on. Diccon awdd gwpod i bod nw weti annar meddwi. I dynnws Dai i flackled mâs, a fi sgrifennws ar bishyn o bappar,

 

'Cera lawr a sefa wrth y drws, a chatw di faginet yn barod. W i'n myn'd i uso'r ddryll, walla trei-iff un o nw i cherad i."

 

I netho, a dim on jest cyradd y drws netho i cyn bo doi ergyd yn swno, a fi glywswn Dai yn gweiddu 'Ands up mynyffryd i or I'll turn you into a pepper- box. Neida miwn Shoni.'

 

Miwn y neidas i, na lle odd doi German yn

==

 

 

 

 

 

 

 


(delwedd
52ol) (tudalen 91)

Y PARTIN DWPWL. 91

 

farw ceg, a numbar three a'i freecha Ian, a'i wynab a fel cornal ty, newydd i wyngalchu.

 

‘Merci! Kamerades Merci,' mynta fa.

 

I ddath Dai i lawr o’r lofft, a fi glymson y boy a raffa; i gagson chorcyn o un o’r poteli, a fi gâs fling i'r cornal.

 

‘Dera i ni gâl eetha ffeed, Shoni,' mynta Dai, yn troi at y ford, ma ma durn out cystal a ffest clwb y Freemasons.'

 

I ishteddson, a fi fytson, on fi gâs y Sham-pag-ne lonydd. O ni'n cofio shwd effath gâs a arno ni yn nhy^ wâr Ted yn Bolougne. Ar ol câl diccon, fi dynson y'n peepa mas i ynjoyo smoke.

 

‘Bachan,' mynta Dai, 'Ma beth yw ‘Igh Life' Shoni. Chewn ni ddim gwell turn out yn dinin' room Will y Kaiser, beth di'n weyd.'

 

Na lle buo ni yn cerad roun i'r room, yn smoko fel doi lord, yn towli amall i ligetyn at my nabs yn y cornal, a phippan mas wettyny trw dwll yn y wal. Eisht! I glywson gyffyla yn gweryri tu fas, jest wrth y'n cefan ni.

 

'Ma na gyffyla yn dod o rywla, Shoni,' mynta Dai, ‘na pam ma'r cyffyla ma yn catw mwstwr.'

 

Ar mencos i, eetha right, ma gyffyla yn atab o ddreckshwn o’n blan ni.

 

Shoni,' mynta Dai, ‘Prypare to charge the enemy,

==

 


(delwedd
5202) (tudalen 92)

92 Y PARTIN DWPWL.

wath ma ma wyr cyffyla yn dod o rywla — Uhlans allu fentro.'

 

Gytta'r gair ma ddoi o’r blaggards — yr Uhlans — yn dod i'r golwg roun i dro yn yr ewl.

 

‘Catw'n gool, Shoni,' mynta Dai yn wispran.

 

‘Right you are, your majesty,' myntwn i, yn citcho yn y ddryll.

 

'I rifa i dri, a wettyny — Fire,' mynta Dai.

 

Odd yr Uhlans yn dod yn nes, a na sport odd gytta nw. Dod i'r ffest clwbo nw diccon tepyg, on' o nw i gal ffindo mas i camsynad, wath odd y lanlords weti newid. Ni'n Doi odd yn catw'r boardin-'ouse nawr. One — two — three,' mynta Dai, 'Fire!'

 

I danson gytta'n giddil a ma'r ddoi 'Uh-Ian' yn ddoi 'Uh-lawr.' Blwmp yr etho nw i'r llawr fel doi gwtin o inja-corn. Mas a Dai a finna, i gitchas yn y ddoi geffyl, a nol nw i’r stapal at i pantnars. Erbyn 'yn odd gytta ni bump o’r cyflyla perta glapsoch chi y'ch Ilicced arni nw ariod. I lyscson y ddoi Uhlan i'r ty, a na lle odd petwar o’r scamps yn gorwadd yn farw, a'r German byw yn cyscu ac yn wrni fel un o beepa egsost injine windo.

 

'Now Corporal Morgan,' myntai Dai, 'we must shift our paraffarnalia. Dera, Shoni, clasca'r elmets, y drylla an' so on.'

 

I fuon yn fishi, allwch gretu; i glascwd poppath

==

 


(delwedd
5203) (tudalen 93)

Y PARTIN DWPWL. 93

 

 

odd o use. I gâs un o'r cyffylau fod yn 'geffyl gypsy’ i gario'r tins; i glymson y German byw yn y saddle, a chyn pen wincad o Ni'n Doi a bobo geffyl — y German yn y cenol — a phobo geffyl spâr gytta Dai a finna bob ochor.

 

Off a ni, gan obeetho y'n bod ni yn i thrackan i sha dreckshwn y Ridgmant. Cofiwch chi, odd golwg eetha ryspectable arno Ni'n Doi, wath odd gytta ni bobo ddoi geflyl a annar. Gen-u-ine,' mynta Dai yn syttan.

 

'Gen-u-ine mynyffrydi Shoni.' Chewn ni ddim quad bachan. I fydd y pump ceffyl ma yn siwr o fod yn ddiccon cryf i'n tynu Ni'n Doi rnâs o'r Pot o Sâm.'

 

Y DDECFAD SHWRNA.

 

CHEERS A PROMOSHON.

 

MLAN etho ni fel "turn out," circus, ne gwppwl o gypsies yn symyd i campin ground. Allwn i ddim peedo wyrthin wrth weld y ddwy bottal sham-pag-ne yn pocan mas o boccad Dai. Odd a yn y'n ela i i gofio am bishyn o boatry fuas i yn uso attrodd yn yr yshgol-bo-dydd, rwpath o bothdi

 

“John Gilpin was a citizen

Of credit and renown.

 

==

 


(delwedd
5204) (tudalen 94)

Y PARTIN DWPWL. 94

 

Mellach mlan yn y gân ma rwpath fel 'yn

 

He carries weight, he runs a race

'Tis for a hundred pounds.

 

Rwpath yn swno fel na odd y pishyn, walla mod i'n rong, on' na fe, os sdim ots, odd Dai yn etrych yn eetha smala. Awdd gwpod y'n bod ni yn dod yn 'acos i ryw gamp ne giddil, on' pun a'n dynon ni odd no ne'r sossinjers alla ni ddim gesso ar unwath.

 

"Ma i," mynta Dai, "Watch oir ne glun bren.” Wad mlan, Shoni, sdim i neyd on risko'n gwddwca. Co bwff o fwg draw mynco, a gobeetho ma rai o’n boys ni sy na."

 

"Eetha bolon," myntwn i.

 

Ar ol tryfeilu am bothdi petar milldir, i ddethon “i dwtch" a'r scouts; i gwnson neeshad boccad ar flan baginet fel "white flag," a'r arcol pwy odd y cinta ddath i'n cwrdd ni on Lifftenant Ted.

 

"W el, mynyffryd i," mynta Ted, '”Ble i chi y'ch doi weti bod yn ewcan? Ma'r Kernal yn wthi yn wath na stack gwaith coppor. Ble chi weti bod?"

 

'Clascu racs," mynta Dai. "O ia spo, clascu racs alli fentro; ettrych ar y collecshon. Gofyn i my nabs ma; fi all 'wn attrodd story neiff i di wallt di gwnni fel gwrych mochyn. Gofyn iddo fa, naiff i di wâd di rewi dy gorpor-

==

 


(delwedd
5205) (tudalen 95)

Y PARTIN DWPWL.  95

 

ashon di, nes di fod ti yn apal i sefyll ar di drâd mor stiffad a phost clwyd."

 

 

I ddishgwilws Ted ar y Sossinjer, a wettyny ar y cambwls odd tar gefan y ceffyl.

 

'Wel, ar mencos i," mynta fa, ”Ma beth yw turn out."

 

I ddychrei-ws wyrthin fel dyn dwl. Sdim ryfadd. Ma'r list yn didy i chi fel y cwmrws Ted nw i lawr ar gefan embiloke.

 

1 German Sossinjer.

 

5 German swords, already sharpened.

 

5 German rifles in good condition and ready for use.

 

5 German elmets in good rypare.

 

b German cavalry horses — good breed.

 

2 Bottles of sham-pag-ne, in Dai's pocket, out of sight, but not out of mind.

 

Na chi rwpath tepycca'r byd i bappar ockshwn on tefa. Sa ni'n doti "credit on condition" a "ryfreshmants supplied,” wrth i gwt a, i fyssan yn teemlo y'n bod ni'n anatlu ffresh âr y Dinas. W i yn cretu y ffindwch chi mas fod Ni'n Doi weti sycuro’r "credit on conditions o’r ryfreshmants" cyn diwadd y shwrna ma.

 

Ma lot o foys y ridgmant yn ryttag shag ato ni, rai yn llewish i cryssa, rai weti annar wmolch, rai yn creepo'i gwallt, a phob un yn gweiddu "Hwre." I ddath rai o’r officars i'r

 

 

==

 


(delwedd
5206) (tudalen 96)

96 Y PARTIN DWPWL.

golwg, yn ffeilu diall, diccon tepyg, beth odd achos y randiboo. Odd y chief officer yn ceesho gneyd golwg ffyrs, on', no go, ar y mencos i.

 

"Take them into the guard-room," mynta fa wrth Ted, "I will interview them shortly.”

 

I ddotwd y German yn y quad, y pump ceffyl yn y stapal, a fi ddilynson ninna Ted i'r tent. O ni rwy gross breed rwng prisnars a dynon rydd.

 

Gobeetho fod rwpath gytta chi i weyd fel sponiad, boys," anynta Ted.

 

"Sponiad!" mynta Dai, 'Bachan, ma'r Sossinjer a'r pump ceffyl, yr elmets a'r drylla, yn ddiccon o sponiad. Beth di'n weyd Shoni? Beth di'n gleppran Ted; allwn i feddwl i bod nw'n Eiriatur Charles, Matthew Enry a sponiad Barnes weti cal i rolan yn un. Sponiad! Os diccon allu fentro, Ted."

 

"Catw di wallt, Dai," mynta Ted. '”W i weti bod yn beccso lot o bothdi chi boys; odd ofan arno i y byssa chi yn câl cwrt martial fel doi ddesertar."

 

"Desertars! Yr arcol! clyw di Shoni? Desertars mynyffryd I, cistal i back o’r boys ddilyn y'n tracks ni, on' i nw neyd cwmment o avoc a'r Germans ag y netho Ni'n Doi," mynta Dai. "Dishgwl ma Ted, os ôs cicko mas i fod i weta i wrth y Chief Officar, "Go on then, kick us

 

==

 


(delwedd
5207) (tudalen 97)

Y PARTIN DWPWL. 97

 

out, an’ lose the bloomin' war." Mâs a'r shampag-ne na, cistal ifad iechyd da i'n giddil cyn i Ni’n Doi gal fi crocu ne'i seithu. Ma dynor sy weti cal "sentence of death" yn cal i dewish i ordro beth licca nw cyn cicko'r bwccat. Tappa’r bottal ma Ted."

 

I dappwd y bottal, a fi ifson eetha lwncad y'n tri, jest i gâl beth ma nw yn i alw Dutch courage, a fuo ni ddim yn îr iawn cyn dod i wpod beth odd patrwn gweelod y bottal.

 

Ma'r officar yn dod, a dim ond jest cal amsar nath Ted i gwatto pottal numbar two. I safson straight fel doi fâr o alan o'i flân a, 'i nethon sylute,a fi geso i yr anryttadd o weyd yr anas shwd buodd i 'arno ni. Sa chi'n gweld yr officar yn gryndo; odd i ddoi liccad a yn geuad. Ma rai dynon yn gweyd i bod nw'n gallu gryndo well a'u Ilicced yn ngeuad. Na wetiff amall i fleenor yn y set fawr pan fydd a yn y cwrdd, a'i ddol liccad a fel sa nw weti câl i bwtwno; fe wetiff i fod a’n gallu gryndo yn well. Otti spo. Peedwch a'i gretu fa, wath cyscu ma fa, a weti traino'i unan i beedo wrni. la, ia.

 

On', nid cyscu odd yr officar; o na, w i'n cretu ma geuad i liccad odd a, er mwyn peedo cal clip ar wynab Dai, wath odd yr olwg odd ar wynab Dai ddiccon i ela wilbar i wyvthin.

==

 


(delwedd
5208) (tudalen 98)

98 Y PARTIN DWPWL. 

 

Yn lle y'n crocu ni, ne'n seithu ni, fe'n camolws ni.

 

“Stay, there until I call the men together,” mynta fa.

 

Mas a ni cympohir i genol y crowd: odd y Ridgmant fel ring roun i Ni'n Doi.

 

"Bachan," mynta Dai, "I ni'n siwr o fod yn mynd i wara Robby Bingo, ottin allu fentro Shoni."

 

"Eisht," myntwn i, "Paid a sportan, bydd yn sobor am' diccyn bach."

 

Fi nath y Chief Officar speech; odd y boys yn cheero nes odd lle yn ecco, a Ni'n Doi yn cochi fel dwy grottan pan yn cal cusan. Ma ddiwadd y speech.

 

"The Ridgmant will always feel proud of Sarjant Jones, of Dinas, and Sarjant Morgan, Yet-y-bompren. Now lads, give them three rousin cheers.”

 

I warws y band "En wlad fy Nata," a "See the conq'ring 'ero." A gweyd y gwir i lanws y'n Ilicced i o ddwr, a fi ddalas 'yd yn nod Dai yn gneyd wep llefan efyd. I ethon nol i'r tent yn ddoi 'ero, do ar mencos i, a dim on' weti gneyd y'n dyletswdd o ni 'efyd.

 

"Now Sarjant Morgan," mynta Dai, "We will begin the second bottle of sham-pag-ne in 'onour of our promoshion. Dera Ted tappa'r bottal."

==

 


(delwedd
5209) (tudalen 99)

Y PARTIN DWPWL.  99

 

I ifson iechyd da i Mary Catherine a Maggie Ellen – y ddwy grottan berta wishgws bâr o scitsha ariod. Beth wêta'n nw'ch dwy am y promoshion? W i fel sw ni'n gweld Maggie Ellen yn yr ardd, yn ongan dillad ar y line, a chwppwl o begs dillad yn i phen i. Yr areol! Gobeetho na lynciff i ddim o’r pegs wrth gal start pan fydd y taligrafft messenjar yn ando'r taligram idd i.

 

“Wel boys," mynta Ted, “W i yn y'ch congratilato chi. I beth y cwnnwch chi cyn diwadd y ryfal ma, sdim guess gytta fi. Cistal i finna wispran secrat bach efyd, diccon tepyg y bydda i yn Gaptan cyn y "push" nesa. Wel, iechyd da i Ni'n Doi."

 

I ethon mas ar ol cal lie down a smoke, a dim on glanhau drylla a baginets odd yn mynd mlan o flân pob tent.

 

'Bachan," mynta Dai, “Beth sy'n bod? cwrdda mawr siwr o fod yn acos. Na ffor' o nw pan o ni'n grottyn; diccon awdd gwpod pryd odd cwrdd mawr gytta'r Ecclws, ne gytta'r enwata. Odd pob un yn fishi gytta'r brwsh wyngalchi. Os nag odd y prygethu yn gatal effath er deioni ar pentra, odd cot o galch yn dod a iechyd i'r lle. Beth sy'n bod?”

 

Na gwestshwn pob un – “Wel, matey, wots up?” a na fel y buodd i am ddwyrnota

==

 


(delwedd
5210) (tudalen 100)

Y PARTIN DVVPWL. 100

 

on, dydd Gwenar, odd nob un yn clepran am yr Advance odd i gwmryd lle y bora wettyny. Odd 'neb yn gwpod o ble odd yr anas yn dod, on dod odd a. Erbyn 'bora dydd Satwrn o ni yn trenches mor dawal a Iliccod. '

 

“Wiw!" Ma un o’r mines cal i tano! Na rackets! Odd y mwstwr yn ddiccon i ollti peelen y’ch clust chi. Beth wettyny? Ma odd y ryport welas i. "It was successful, and blew up a big slice of the Prussian Guards opposite us."

 

Fi gâs favourites Will o Berlin i wthi i Golyw.

 

YR UNFAD SHWRNA AR DDEG.

 

"Y CLATCHO FFYRNICCA ARIOD."

 

Y GAIR diwetha yn y shwrna ddiwetha odd y gair "Golyw.” Nawr ta, fel ma'r ffeeraton a'r prygethwrs yn gweyd, pan bo'r brecath diccyn yn fyr, i drown i sponio, ac i alw y'ch sulw at ymyl y ddalan.

 

Golyw. Ottich chi'n gwpod o ble dâth y gair i starto? Walla naccich chi. O’r gora, cistal i fi droi yn bupil-teacher i'ch dyscu chi. Ma'r anas.

 

I wetir fod match foot-ball yn cwmryd lle,

==

 


(delwedd
5211) (tudalen 101)


Y PARTIN DWPWL. 101

bothdi cant ne racor o flynydda nol, rwng doi blwy. Plwy yn erbyn plwy odd i yr amsar 'ny, a chicco am ddwyrnod cyfan, a racor na 'ny os na fyssa un plwy yn fishtir ar yr un arall.

 

A na fel ma i i fod yn y ryfal ma, dim down tools nes bo'r sossinjers weti câl i cookan, dim “primatshure peace" fel o ni'n darllan yn y pappra. O nacos mynyffryd i! Raid doti Will o Berlin yn sâf, a'r rapscaliwns, odd yn i yssan o’n mlan; raid i'r tacla ma gal bobo dickat i fynd gytta'r train sy'n mynd i stashion Golyw. A nid week-end tickats fydda nw ar mencos i.

 

Wel, odd y foot-ball match weti dychra yn y bora bach, a mlan odd y wara yn mynd, on' odd dim gopath fod un ochor yn shapo i feiddu'r un arall, dim arcol am gwppla'r match. I ath yn byrnawn; i doddws y pyrnawn i'r diwetydd, (na dwtch diccon pert i ynnill catar farddol pn tefa? ). Cympohir i ddath y nos i dynu'r blinds ar ffynestri'r dydd.

 

Trw lwc i ddangosws y Iloiad i bôcha Iliw arian, (w i'n cretu mod i yn crippan Ian fel bardd; be' chi'n weyd).

 

On' yr arcol odd dim sôn am gwppla'r fatch! Bothdi deg o’r gloch y nos, pan odd y ddwy ochor yn wthi fel injin Crôsha, ma wr boneddig  

==

 


(delwedd
5212) (tudalen 102)

102
Y PARTIN DWPWL.

diarth yn needo tniwn i'r cenol rwng y ddoi set o warwrs, a fel odd pantnar I fi, bachan bach o Berdar yn arfar gweyd — "l gwnnws i gose a fi giccws.," a whiw! off o’r bêl trw'r awyr.

 

"Gôl yw," mynta'r dyn diarth a fi ddiflannws fel sa chi'n wthi canwll mas.

 

A "Gôl" odd i ar mencos i, wath ddath neb i wpod ble y dishginnws y bêl. Fi ath ar goll! I gas pob un o’r warwrs ofan nes o nw'n shigglo fel pishyn o afu ar blât; off a phob un sha thre, a phob un a ofan ettrych ar i bantnar.

 

Ar ol 'yn, byssa rwpath ar goll, ne rwy un weti gatal am le odd neb yn gwpod am dano, odd gwyr y ddoi blwy yn arfadd gweyd,

 

"Ma fa «wti mynd i Gôlyw."

 

Fuodd ddim un match ar ol 'yn, wath fi gretws pob poppa ma’r Gwr Drwg, yr wn a elwir Jafol a Satan, ddath i roi y ffinishin stroke i'r match; a diccon tepyg ma fa, yr '”En Foy" odd a efyd, wath odd lot o’r dynon mwya ryspectable yn gweyd fod rwpath depyg i smell brwmstan yn Ilosci pan y gwetws yr En Foy — Goo' Night.

 

Wel, ta ble ma Golyw, na bresant address lot o ffafrates Will o Berlin — y Prwssian Guards — erbyn yn; fe wthwd nw i Golyw.

==

 


(delwedd
5213) (tudalen 103)

Y PARTIN DWPWL.  103

 

Ma deepan i boppath on ôs a? A Odd deepan arall gytta ni eblaw sceepo'r Prwssian Guards  o fodolath. Y deepan wrth dano'r '”mines" odd i gal ewl rydd i'n re-inforcemants ni i ddod mlan, eb golli llawar ar fyweeta, pan y byssa i eesha nw. Am betwar o'r gloch ma'r cenyns mawr yn dychra'r consart, y quick-firers yn seithu dros y'n penna ni, a ninna'n penlinno yn y dwr a'r slwdge yn y trenches.

 

Odd rwpath fel 'yn yn ddiccon i ela collad ar ddyn; rwpath tepycca'r byd, allw ni feddwl, i deemlata tarriar bach yn sefyll o fla'n crage, a dwy ne dair o liccod ffrenig yn inside passenjars, a  finta yn ffeilu cal chance idd i screggo nw.

 

Odd wir ddyn. Anodd dishgrifo shwd o ni'n teemlo, diccon tepyg fod collad ar y'n annar ni. On bothdi iccan munad weti petwar ma ordars yn dod – “Stand by." Odd pob un yn passo'r command i'r nesa atto, a dim on cwppwl o eiliata odd yr ordars cyn cyradd y pen pella i'r trench. Na beth w i a Dai weti i fydyddio yn "Uman Taligrafft."

 

Odd pob un yn barod i waith; sdim ryfadd, wath odd yr anas weti dod fod Will o Berlin yn wabblo diccyn ar Bwlgaria, a Greece: yn promeesho lot i'r boys ma os dethe nw mas i

==

 


(delwedd
5214) (tudalen 104)

Y PARTIN DWPWL.  104

 

wmladd gytta'r Sossinjers. On diccon awdd promeesho, gneyd yw'r job.

 

Gwetwch fod Will an' Co yn ynnill, rwpath tepyg i'r ên chap yn America a'r fuwch fyssa i yn diwadd. Beth tw anas yr ên chap, mynta chi. Wel ma fa.

 

Odd na ên foy weti joino a mab i frawd i byrni buwch ar shâr miwn ffair. I ethon i doi, fi byrnson fuwch first class, un o’r black-an-tans na, os ta fforna ma nw'n dishgrifo buwch. I ethon a’r fuwch sha thre, a fi dotwd i i bori miwn câ. Shâr an' shâr alike odd i, annar a annar.

 

Y bora wettyny fe ath morwn y bachan ifanc – y nai, i foyn llâth i dy yr ewyrth. On, yr arcol, fi gâs fynd nol yn eetha andy eb ddyferyn o lath. I wetws y grottan wrth i mishtir fod i ewyrth a yn pallu roi llath, a ma'r boy off, a'i dempar weti cwnni, ma fa'n i brasgamu ddi i dy i ewyrth.

 

"Newyrth," mynta fa, "Achos beth i chi'n pallu roi shâr o’r llath? I byrnson y fuwch ar shâr, alf an alf, on do fa?"

 

“Do, John," mynta'r ewyrth, "Do, do. Ma bobo annar o’r fuwch i ti a finna. Neethwr i ishteddas i gonsitro shwd i rannu'r fuwch, a ma shwd y setlas i. Ti bia'r part blan, o’r cenol 'yd at y cyrna, ma mark o gôl tar da fi i ddangos

==

 


(delwedd
5215) (tudalen 105)

Y PARTIN DWPWL.  105

 

y boundry; o’r côl tar yn ol i flan i chwt i, y fi yw'r perchan. Wel nawr, usa diccyn o gommon sense; ma catar y ffuwch yn diccwdd bod weti i ffixo yn y'n annar i, alla i ddim elp am ynny. O‘r gatar ma'r llath yn dod i ti'n gwpod i ffindas i 'yn masy bora ma. On', os wy ti'n licco dod bob bora i ottro di ochor di, dera, gytta pob gresso, a os gottri di lath o gyrna'r fuwch, fel w i yn gottro llath o'i chatar i, wel, na, ffortshwn y'n aros ni."

 

Fi ath John sha thre yn recu fel perrot.

 

Na shwd bydd i ar Bwlgaria, a Twrci a gwletydd erill gaiff i widlan gytta Will, sa Will diccwdd ynnill, on sdim fears am ynny. I fydd y fools yn mynd at My Nabs i foyn i shâr o’r fargan, a w i'n clywad Will fel sa fa' n gweyd —

 

"Cewch, cewch — Gottrwch y cyrna boys bach."

 

O ia, on tefa, "Stand by." Yr arcol odd i'n galad sefyll fel 'yn, o ni mor stiffad a phokars. W i'n cofio ffixo'r baginet pan y clywson ni — “Prypare to charge."

 

I wetas i y geira wrth y nesa atto i, on odd y'n llaish i yn swno mor ddiarth a sa ni on' newydd i gâl a mâs o’r ponshop. Odd a ddim yn swno yn depyg i wilia o gwbwl.

==

 


(delwedd
5216) (tudalen 106)

106 Y PARTIN DWPWL. 

 

 

ddishtawrwdd! Ma'r eiliata ma'r dentist yn mynd i ettrych a wilo am y pinshwn i dynu'ch dant chi, yn llawar gwath na'r diccyn plwckan ar y'ch jaw chi wrth gal y dant mag. Yn syttan ma'r final command yn dod – “Go.”

 

Mas o ni'n dringad o’r trenches; dros ben y cwta sand; mlan a ni; lawr a ni flop i genol y baw o’r llacca. O ni'n gweld lot o’n boys ni yn cwmpo weti i clwyfo, ne yn farw; mlan, mlan a ni o fiwn bothdi deg llathad i’r Germans.

 

"Charge," mynta'r ofhcar, "Charge my lads!”

 

"Charge," mynta pob un o’n showdwrs ninna, "Charge!"

 

Odd y swn fel swn trana, a phob un o ni bron off o ar i ben i gâl gafal miwn German. '

 

'Charge, was the Captain's cry,

Theirs not to give reply,

Theirs not to reason why,

Theirs but to "do" and – “die.”

 

Na bishyn o waith Tennyson am y Light, Brigade yn ryfal y Crimea. Ma lot o fraggo weti bod trw'r blynydda ar beth netho nw, on' cretwch chi fi, un waith gâs 'yn i neyd genti nw, on' ma cistal charges a 'yn yn cal i gneyd bob wthnos yn Ffrainc a Flandars a manna

 

==

 


(delwedd
5217) (tudalen 107)

Y PARTIN DWPWL.  107

 

Erill, os wir ddyn. Nid ryttag y Light Brigade i lawr i, cofiwch chi, er ma diccyn o fistake nath i'r "Six Undred" ryttag i genol deg mil ne racor o Rwssians, a slasho'i ffor nol a – “But not, - not the six hundred." "Charge!” mynta ni — Charge netho ni a phob un yn weenad gwyllt am gal lladd German.

 

Y DDOIDDECFAD SHWRNA.

 

"AVOC AR VENJANCE."

 

Y PETH diwetha w i'n gofio ar ol y gair "Charge" odd cal clip ar Dai yn sefyll ar dop tumble-down parapet. Shwd le odd wnnw, wel rwpath tepyg i gawl cambwls, — clai, a baw, a cwta sand, a barb-wire yn gymyshg, a'u giddil, shang-di-fang.

 

I welswn ddoi Sossinjer. O nw fel sa nw'n douto beth odd praidd i neyd, pun a shotto'i breecha Ian ne pot shot at Dai a finna. Na pryd y teemlas i want troi yn fwtchwr, allw ni ddian elp, wath odd raid lladd rwy

==

 


(delwedd
5218) (tudalen 108)

108 Y PARTIN DWPWL.

 

un ne myna off o ar y men. Miwn a'r bagnet i frest un, yr un peth i'r boy odd gytta fa, a odd na ddoi weti matal ar byd ma miwn wincad. I nillson Trench Numbar One 'eb fawr colliata.

 

Poor dabs, o ni weti cnocko'r wmladd o bob German odd yn acos; odd pob un o nw fel sa'i coesa nw yn ry wan idd i cario nw. I goolson lawr diccyn, on', bwtcherach ne beedo, odd yn raid I cliro nw wath odd eesha "elbo room" arno ni, rwpath tepyg i beth wetws 'en winitog, un o’r 'ên champions, os triccan ne racor o flynydda nol. W i ddim yn cofio i ddirecshwns a, a raid i fi weyd fel y pappra – “Somewhere in Wales."

 

Odd yr ên byrerin yn claddu bachan bach; bachan tlawd odd a on' odd i byrthnasa fa yn ddiccon cyfoethog. Odd no ddim llawar o ffrenshipath ryngi nw a Dafydd achos i fod a'n dlawd. I ddath dydd yr anglodd; fi gas Dafydd fedd rwng doi o’r tacla odd erbyn 'yn mor dlottad a Dafydd, a falla i bod nw'n dlottach wir ddyg, wath o nw weti gorffod matal a'r toccins i gyd wrth farw. Na fel ma i yn wystod. Odd cheppyn yn gofyn I ên frawd o fleenor duwiol un dwyrnod – “Ble ma'r man gora i glascu diccyn o arian Shon Morgan?"

 

“O," mynta'r ên frawd, "Cera sha'r fynwant,

==

 


(delwedd
5219) (tudalen 109)

Y PARTIN DWPWL. 109

 

i blith y bedda, ma diccon i gal no on' i ti scrapin diccyn. Ma'r milionaire y[n] gorffod gatal i gash-box a'i fankin account ar Ian y bedd, mynta nw, wath fi ganws y bardd am doccins y cyfoethog fel 'yn —

 

"'Yd angau'n brin y deuant 'wy.”

 

“Wel, beth am yr ên winitog. Ma fa. Wrth gladdu Dafydd i wetws rwpath tepyg i 'yn.

 

"Cul odd i ar Dafydd trw i fywyd; cul yw i ar Dafydd yn y fynwant ma. On' fi ddaw amsar pan y bydd Dafydd yn apal i weyd wrth i byrthnasa cyfoethog "Elbow Room y --.”

 

Ma'r Censor yn eetha strick o bothdi uso geira a diccyn o rattle yndi nw, a na pam gorffod i fi ddoti strokan ar ol "elbo room." I wetws yr ên brygethwr air eetha cryf, a sa dim Censor i watcho petha, walla shocksa gair weddol gryf y crottesi a'r ladies sy'n darllan anas Ni'n Doi.

 

Wel, mlan la'r anas. Ma ordars yn dod – “Build ’ead covers, an 'old the trench."

 

I nethon 'ny trw shotto cwta sand i dop y trench, odd y Germans yn tano a'r cenyns mawr arno ni o trench Numbar Two. Na dano! I gofias am ddoi grottyn — doi frawd yn byw os blynydda nol yn acos i --. Odd y tad a'r fam weti mynd ar byrnawn dydd Satwrn i farch-

==

 


(delwedd
5220) (tudalen 110)

110 Y PARTIN DWPWL.

 

nad ---, gan atal y ddoi grottyn yn nre. Mynta Will wrth Twm, —

 

“Dera i ni gal diccyn o sport a ên farel dryll nâd."

 

"Right O," mynta Twm, "Ma diccon o bowdwr yr ên ganistær na ar y dressar."

 

I ffindwd yr ên farel dryll a'r powdwr.

 

"Nawr," mynta Will, "Dod y pokar yn y tân nes i fod a'n eetha coch, i lanwa i y barel, a der di a'r pokar idd i ddoti ar y touch 'ole, a fi fydd na bounce gei di weld."

 

Poppath yn barod, odd Will yn dala'r farel ar steppyn y drws, a'i ben mas sha dreckshwn ardd. Ma Twm yn dod a'r pokar coch, a yn i ddoti fa ar y touch 'ole, a ma bounce ar mencos i. Fi ath y barel yn gorfforol i'r ardd, a Will ar ascwrn i gefan i'r cwtch dan stârs. Fuodd a dim wincad cyn bod ar i drâd a'i ddwrn wrth drwyn Twm.

 

"Cera o na ti'r ffwl," mynta “Odd genti ddiccon o dân yr ên bokar na i dano tynnell o bowdwr."

 

Odd no ddiccon o din gan y Germans i sceepo pob coppa o ono ni i nw ddim.

 

“Ynnill Trench Numbar Two.”

 

I jofeddson am bothdi deg munad, dim racor mynyffryd i, a ma ni mas o’r trenches. I ath

 

==

 


(delwedd
5221) (tudalen 111)

Y PARTIN DWPWL.  111

 

 

Dai i gommando'r boys a'r bombs, a chympohir odd Sossinjers yn cal eetha ffeed o gyrch. Mlan a ni, yn cwtcho wrth gefan pob twmpyn bach; mlan wettyny yn cyscoti wrth gefna llwyni bach, rwpath bothdi size llwyn gwspris ne gwetwch gurrans duon; mlan trw'r cwteri, reiny ma nw yn i alw yn gommunication trenches, a weti cyradd o fiwn i ddwsan o latheidi i'r Germans ma ni'n dychra gweiddu fel swn milodd o ootars.

 

'Charge! Charge l" mynta'r oflicars.

 

I charjon, a fi nillson Drench Numbar Two. Yr arcol! Na beth odd sight! Odd gweelod y trench weti cal i bafo a Germans, phob un o nw yn "dead o." Poor dabs.

 

“Ynnill Trench Numbar Three."

 

Off ar y trot ytto i ddreckshwn Trench Numbar Three. Odd pob un yn cwmryd mantash o bob breecyn o bren i gwatto diccyn. Miwn rwy berfformance fel 'yn y ma'r bachan tene, y slimmyn main, yn dod mas yn ora. O ni'n napod crottyn, os slawar dydd, odd mor fain a nyttwdd. Wel, a gweyd y gwir, fi netha ddrychiolath ffirst class, netha wir ddyn.

 

Ar ddwyrnod tywyll o ni'n arfadd taro'r bai arno fa, i fod a'n stoppo'r oil i ddod mas.

 

'Cera sha thre," mynta'r crots erill, "Bachan, cera sha 'thre; cera i gwatto di big yn y gecin,

==

 


(delwedd
5222) (tudalen 112)

112 Y PARTIN DWPWL.

 

ne'r cwtch dan stâr, ma'r oil a chwilydd dod mas, ma fa 'weti danto tywli di gisgod di ar y llawr."

 

On, cretwch chi fi, fi netha eetha turn out fisnass y cwatto ma, be chi'n weyd. Off a ni, a fi welson dderwan fawr eb fod yn mêll, gwatson wrth i chefan i, (y fi a chwppwl o bantnars wrth gwrs, a nid y Ridgmant i gyd, i fyssa un dderwen yn close quartars I Ridgmant gyfan). Na lle y buodd diccyn o seithu, i fyssa'n werth i chi gerad petar milldir, yn drâd y'ch sana, i gal un pip arno ni. Mlan a ni wettyny fel y venjance trw'r pwlla o nw yn•i galw yn shell 'oles, pwlla dwfwn weti cal i gneyd gan y shells pan yn dishgyn.

 

Ma le! Odd no goesa yn pokan mas o’r rwbbetch, tsossinjers weti cal i claddu o dan y cwmp o nw. Beth o ni'n neyd a nw? O roi eetha blwck i'r esgid i gal gweld os odd y poor beggar yn fyw, sa fa yn dychra spriwingad o ni'n gwpod i fod a yn fyw, on — dim fears, odd pob un eetha marw. Rosson ddim yn ir, ma rwsh ytto, wath odd contrack gytta ni i gliro rwbbetch o Trench Numbar Three.

 

Ar y'n ochor dde ni i gesson glip ar lot o Germans yn gweetho mashine guns. Lawr a ni fel trucks o black pan ar i penna nw! Miwn

==

 


(delwedd
5223) (tudalen 113)

Y PARTIN DWPWL.  113

 

a'r baginets idd i brestis nw bob un, short work ar mencos i, a walla i amall un scapo, on sa chi'n i clywad nw yn becan am gal byw.

 

“Kamarades! Pas Kaput!"

 

Na o screchan, rwy gross breed rwng German a French. Ma cross breeds miwn iaith yr un peth a miwn creduriaid. Cerwch am dro i weelod Shir Bemro, a walla clyw-wch chi fam yn gweyd wrth i merch

 

“Go mâs to the gegin to fetch the sospan to berwi the cawl.”

 

Os dy'ch chi am wpod beth yw yshtyr y geira odd y Sossinjers yn weyd, cistal i fi sponio.

 

Kamerades – Comrades.

Pas Kaput — Don't do us in.

 

W I fel sw ni'n clywad y Sossinjers yn gweiddu o 'yd: Comrades, dont do us in — peedwch a'n lladd hi. On odd rai o’r rapscaliwns yn ddiccon ecar 'i seithu atto ni 'ar ol i ni ynnill trench. I seithws un o’r German officars dwll trw law Dai, on ar mencos i, nath y cheppyn 'ny ddim mwy o fistake yn i fywyd, wath, i werwi Dai Conundrum Jones, ôs dim gwell ffor' na threio cwmryd mantash arno, pan bo tymlata caretig yn dychra gweetho yn i frest a, fel berman cwrw, ne ferman total, miwn patall o dose.

==

 


(delwedd
5224) (tudalen 114)

114 Y PARTIN DWPWL.

 

Y DRYTYDD SHWRNA AR DDEG.

 

“TYNU SHA WEELOD Y PWLL.”

 

I ROWS Dai cistal peren yn môn clust y German officar ag y cas a ariod; fi gwmpws y boy ar ascwrn i gefan, a fi ishteddws Dai ar i chest a, yn ettrych mor jokose a sa fa miwn catar freecha yn room front Mrs. Jones y lodgins.

 

“Merci! Merci!" mynta fa, a na lle odd Dai yn poppan Ian a lawr bob tro odd y boy yn anatlu.

 

“Bachan,” mynta Dai “W i'n teemlo fel sw ni'n ishta ar goncertina ne goncordance.”

 

“Merci! Merci!" mynta'r Sossinjer, "I 'ave a wife an five childern at ome.’

 

“Dyn-di-shefoni! Ave you mun?" mynta Dai, “Na beth ryfadd, Shoni, gan bob un o’r blokes ma wife an five children at 'ome, sdim ots os ma crottyn pymthag ôd yw a, a dim on' diccyn o flew gwspris ar i wefus a yn coeddu fod mystash yn dod cympohir. Yr un ên story sy gytta. fa, a ma nw'n siwr o fod weti practiso gweyd y story cyn starto o dre. "Shut

==

 


(delwedd
5225) (tudalen 115)


Y PARTIN DWPWL. 115

 

up mun, (mynta Dai wrth y Sossinjer) or you will shiggle me off your bloomin stomach.”

 

On' fi gas yr ên griatur drugaredd cympohir, wath fi gwnnws Dai o ar i fecyn a.

 

“Tanks," mynta'r Sossinjer.

 

“Sit down, mynyffryd i," mynta Dai, "an dont you try any gammocks agen my nabs."

 

I ishteddws, a na lle buodd a yn ceesho scrapin y mwd o'i licced a'i wefla a chillath boc. On', cyn bo chi'n cal amsar i beswch, i welswn Dai yn pointo'i ddryll i gornal un o’r dug-outs. Armowcedd! Ma laish screchlyd, yn depyg i laish Will mab Ann yn canu "The Anchor's Weighed " yn tap-room y Star, rwy gross breed o laish, fel whistle motor-car a mouth organ mas o rypare.

 

“Merci," mynta'r llaish, "Merci! Dont shoot! Merci Kamarades I am a Christian.’

 

“Christian I'm blowed, you will require lot of spring-cleanin' to make a Christian of you my, boy," mynta Dai. "'Ands up! Forward, march.’

 

“Merci, Merci!" mynta fa.

 

“Aros di'r ên geelog,” mynta Dai, “I na i rwpath arall o ono ti miwn wincad.”

 

Ma Dai pointo'i ddryll ytto.

 

==

 


(delwedd
5226) (tudalen 116)

116 Y PARTIN DWPWL.

 

“Merci, " mynta'r boy yn nesu mlan a'i ddeelo Ian.

 

“Sit down," mynta Dai. "You are a Christian are you? Halt Christian, an give the countersign; but praps, like Will of Berlin, you 'ave forgot it, you 'ave left your Christianity on the sheffonier at 'ome. Well, Christian, I can see you are too good for this world; if you stay in it a little longer, your mastar, Will the Butchar, might spoil your carritor. Now Sossinjer go down on your knees.”

 

Lawr a fa dab ar i benlinna.

 

“Serjant Dai Jones of Dinas Cross will ---.”

 

“Merci! Merci! " mynta fa yn weppan.

 

“Well" mynta Dai, "You 'ave my symphony.”

 

“Bachan," myntwn I, "Paid bod mor dwp, pishyn o ganu yn y Sol-ffa yw "Symphony." Diccon tepyg ma sympathy wy ti'n feddwl — ne yn Gwmrag — cydymdeemlad. On' w i boun o weyd fod genti ffor' od iawn idd i ddangos a.”

 

“Walla taw a, Shoni," mynta Dai. “Look 'ere mate (yn staran i wynab y sossinjer) I am goin' to convert you, I am goin' to turn you — into Odd Sossinjer yn diall diccon o Sysnag i wpod fod Dai yn mynd idd i seithu fa, a fi

==

 


(delwedd
5227) (tudalen 117)

Y PARTIN DWPWL.  117

 

gwmpws fflop ar i wynab i genol y baw a’r slwdge miwn ffit. Odd yn dreni wir ddyn idd i weld a, odd i gorff a' n shigglo fel pishyn o afu miwn dwplar.

 

“Gad i nawr, Dai," myntwn i, “Paid a phoenu racor ar y criatur tlawd.”

 

“Eetha right Shoni," mynta Dai, "Diccon tepyg fod lot o’r showdwrs cyffretin ddim yn moyn wmladd. Ma gwyr trâd y Germans yn cal i fforso i wmladd, ma cannodd, os naccos milodd o nw, weti cal i lladd gan i officars nw unen. Ma blân baginet yn coclish di gefan di yn siwr o neyd rwy short o showdwr o ono ti. O ni'n darllan fod cannodd o’r Germans yn pallu mynd mas o’r trenches yn acos i Riga i wmladd a'r Rwssians, a fi geson i sceepo i dragwyddoldab gan i cenyns i unen.”

 

“Beth di'n geesho weyd!" myntwn i.

 

“Eetha gwir, Shoni," mynta Dai.

 

Ma'r bugles yn swno! Ma'r officars yn dod yn wêna i gyd o glust I glust. Odd y “Great Drive" weti chwpla a Thrench Numbar Three weti i ynnill.

 

“Take a little rest, my gallant men," mynta nw, "but keep your eyes an' ears open.”

 

Fi ath yr officars, a ma Dai yn troi at y pishyn afu dynol odd ar y llawr.

==

 


(delwedd
5228) (tudalen 118)

118 Y PARTIN DWPWL.

 

“Get up cock-robin,” mynta Dai.

 

I gwnnws bloke a'i wynab a fel pledran o lard, a'i ddoi liccad a yn acor fel drws back-kitchen, odd siwr o fod yn cretu fod Dai bothdi ffixo dwy atan i neyd "Angel" o ono.

 

“Down tools, any, boy," mynta Dai, "Pack your box, for we are goin' to send you both to a "Consideration Camp.”

 

“Concentration Camp," myntwn i.

 

“Walla taw a," mynta Dai, "On' ma'r enw gas i roi gytta fi yn ddiccon classical, wath ma na lawar gomrod o gonsitro bod yn y'n camps ni yn Lloegar, llawar mwy sy yn Germany o bothdi'n showdwrs ni sy yn brisnars of war.”

 

I backwd y ddoi Sossinjer off gytta'r rest, a fi orweddson ninna miwn dug-out i fytta diccyn o lwnch cyn setlo lawr i gâl neppyn bach. On' fuo ni ddim yn i'r cyn bod ar y trot, nid y Ridgmant w i'n feddwl on' Ni'n Doi. Ar ol bothdi awr o spel ma Dai a finna yn cwmryd walk trw un o’r Communication Trenches.

 

“Shoni," mynta Dai yn syttan, “Os dim trist na threi-iff rai o’r beggars ddod ar y sly i gal gweld shwd i ni. Ar mencos i bachan ma gen i idea gen-ü-ine, os wir ddyn. Beth sa ti a fi yn shinko diccyn o bwll yn y trench ma." (Raid i chi'r dyrllenwrs gofio fod rai o’r trenches fel

==

 


(delwedd
5229) (tudalen 119)


Y PARTIN DWPWL. 119

lefals o dan y ddeiar, rwpath fel y lefla i chi'n weitho: i gal gafal yn y gwythienu top.)

 

Wel, " myntwn i, "Catw'n gool."

 

“W i weti darllan yn y Standar' Three Books i bod nw yn dala llewod a chreduriad gwyllt o’r short yn Affrica wrth shinko pwlla,” mynta Dai.

 

“Ar mencos i Dai,” myntwn i, “Ma rwpath yn di ben di eblaw blawd-llif efyd. Right O. I ewn nol i ercyd mandral a raw, a fi shinkwn eetha bwll, a bobo man 'ole yn yr ochra i Ni'n Doi i gâl lle i gwatto i watcho'r Sossinjers, a chatw'r score.”

 

Nol etho ni, yn i brasgamu ddi fel doi grottyn newydd gal i gwllwn mas o’r ysgol. Fi geson bobo fandral a raw, a na lle buodd gweetho, allsa'r Navvy Brigade odd gytta John Ward ddim gneyd gwell na chwickach gwaith. Dai odd a chontrack y pwll, a finna'n shapo'r man 'oles. Fi gwplwd y contrack, i dynson y'n peepa mas, a na lle odd smoko. I ethon nol i gal golwg ar y rest o’r Ridgmant, i gal bod yn sâf y tro ma, o ni ddim am fod yn “Two Lost Man" yr ail waith.

 

I ath Dai at un o’r officars, a na lle buo nw'n cwnsela, yn depyg i grottan a'i spônar, a wir ddyn ma Dai yn mynd gytta'r officar, a men ticcyn yn dod nol a pharsal bach dan i gessal —

 

==

 


(delwedd
5230) (tudalen 120)

120 Y PARTIN DWPWL.

 

bara, a chig, a chaws, a dwy ne dair pottal o - .

 

“Dera,” mynta Dai, Ma poppath yn all right. I wetws yr ofiicar — Yes, yes, go an' try your luck, we may be troubled with a few spies. I can trust you Ni'n Doi, but, keep your ears open for your own bugles.’

 

Off a mi. A chi gewch wpod yr anas yn y llyfr nesa – ’OW NI'N DOI TRAPPED THE SOSSINJERS. Na beth licce Will go Berlin ddarllan yn i bappar y LOKALANZLIGER. — "Ow the Austro — German — Turkish — Bulgar Army trapped Ni'n Doi — the celebrated “Das Paar " from Wales.” W i'n gweld gwynepa rai o chi yn dychra mynd fel sheeten. Peedwch a beccso, dyrllenwch y llyfr nesa yn eetha cool.

 

Notyn at y dyrllenwrs, —

 

Os liccech chi ddarllan y'n anas ni 'yd y diwadd, pyrnwch lifyr No. 3 — "Y Twll Cloi."

==

 

...

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_100_y-partin-dwpwl_0123k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 27-05-2017
Adolygiad diweddaraf: 20-03-2023,
01-06-2017, 27-05-2017
Delweddau:
---------------------------------------

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Què hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats