kimkat0063k Shoni Hoi Oddicartref – cyfres o hanesion yn nhafodiaith Morgannwg ym Mhapur Pawb yn y flwyddyn 1897. “Os bydda i byw a iach, wyn byriadu myn’d ’no yr haf nesa yto.”

16-12-2020 23-00

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0083k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
SHONI HOI ODDICARTREF
(Papur Pawb, 1897)
Awdur: Cynwal (D. Cynwal Dawes, Cwm-twrch)


(Hanes yn nhafodiaith Morgannwg)

 

 


(delwedd 7282)

 

Mae’r stori i’w gweld ar wefan Newyddiaduron Cymru Arlein. Yn y pen-draw gobeithiwn dacluso tipyn ar y testun a’i gywiro, ac ychwanegu

nodion a chyfieithiad Saesneg a Chatalaneg.

-----------------------------------------------------------------------

Papur Pawb.

I YN EXHIBITION CAERDYDD. (29 Awst 1896)

B2145a, B2145b, B2145c, B2145d

Papur Pawb.

II YNG NGASTELLNEDD. (5 Medi 1896)

B2146a, B2146b, B2146c, B2146d

Papur Pawb.

III SHONI YN DOST (12 Medi 1896)

B2147a B2147b B2147c

Papur Pawb.

IV YN ABERDAR (19 Medi 1896)

G4008a, G4008b, G4008c, G4008d

Papur Pawb.

V YN ABERDAR (26 Medi 1896)

G4009a, G4009b, G4009c, G4009d

Papur Pawb.

VI YN Y LOCK-UP (3 Hydref 1896)

G4010a, G4010b, G4010c, G4010d

Papur Pawb.

VII YN BLAENLLECHAU (10 Hydref 1896)

G3802a, G3802b, G3802c, B3802d

Papur Pawb.

VIII CAEL CARIAD NEWYDD (17 Hydref 1896)

G3803a, G3803b, G3803c, G3803d

Papur Pawb.

IX
YMBARATOI I YMLADD AM ARIAN (24 Hydref 1896)

B2137a B2137b B2137c B2137d 2137e

Papur Pawb.

X PERSONOLI’R LADI WEN (31 Hydref 1896)

B2138a B2138b B2138c

Papur Pawb.

XI YSGRIF XI (7 Tachwedd 1896)

B2140a B2139b B2139c B2139d

Papur Pawb.

XII NEWID EI WAITH A’I GARIAD (14 Tachwedd 1896)

B2140a B2140b B2140c B2140d

Papur Pawb.

XIII YM MHONTYPRIDD (21 Tachwedd 1896)

B2141a B2141b B2141c B2141d

Papur Pawb.

XIV YN NEWID EI LETY (28 Tachwedd 1896)

B2142a B2142b B2142c

Papur Pawb.

XV CAEL SHOMEDICATH (5 Rhagfyr 1896)

B2143a B2143b B2143c

Papur Pawb.

XVI DYCHWEL ADREF (12 Rhagfyr 1896)

B2144a B2144b B2144c B2144d

.....
A picture containing map

Description automatically generated
(delwedd 5782b )

.....

Map

Description automatically generated
(delwedd 9338m)

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm Y Wenhwyseg - y prif dudalen
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm El dialecte güentià del gal·lès - la pàgina prinicipal
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_1004e.htm Gwentian dialect of Welsh – the main page

.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2145a) (29 Awst 1896)



Papur Pawb. 29 Awst 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF

I. - YN EXHIBITION CAERDYDD.

Un budir otw i am wel’d petha od a phetha diarth, a phetha newydd, a phetha welni. Alla i dim ’elp, wa’th dyna shwt un otw i. ’Ron i wedi clywad shaw o storiais yn ’weddar ’ma am bothdi Exhibition Caerdydd, a wetas i yndo i nunan, “Mi fyna i wel’d ’ona yto, tawn i’n gorffid ala doifish yn blue rypan i ga’l arian i fyn’d ’no.”

Ond wel tasa rw wyrth yn ’y nilyn i, fa ddechriws gwithwrs y gwaith lla’r wy’n gwitho wilia a’u gilydd am bothdi ga’l ’scurshon, a scurshon sha Cha’rdydd ’efyd, O! ron i’n tampo gyd. Rodd yn ’scurshon ni dy’ Satwrn dwetha, a wel ych chi’n gwpod, i fuo ina gyta ’i, a chan y’ch bod chi yn cynig gwobor yn “Papur Pawb” am y’n ’anas i yn yr Exhibition, a fyna yn gallid i scwenu a yn ’unan, dyma fi yn cym’ryd at y jobyn, gan obitho y byddwch ch’itha gyslad a’ch gair am bothdi’r wobor, a os y’ch chi’n drwmpwn, i fyddwch ’efyd.

“Do’s dim isha i fi weid lla’r wy’n byw wthoch chi, wath y’ch chi’n gwipod yn anas i’n net, ond am dy’ Satwrn dwetha. Welly, dyma fi yn myn’d i weid wthach chi beth welas i yn yr Exhibition. Pam dishgynas i o’r train yn stashon Ca’rdydd, bora Satwrn, rodd ’want bwyd ombeidus arna i. Rodd y mola i yn rwbwlian wel tarana’ o isha bwyd, ond rodd jest mwy o want gweld yr Exhibition arna i nag o’dd o want bwyd. Wel, myntwn i w’tho i nunan, i fyna i fara chaws, ta beth, a off a fi mewn i’r dre, a chyta mod i mewn yndi, dyma fachan o Gymro yn y maso i, on i’n napod net ma Cymro odd a. Hoi bachan, myntwn i,

(delwedd B2145a) (29 Awst 1896)


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B2145b) (29 Awst 1896)

 

ar i ol a. “Beth,” mynta fa, “Shoni Hoi, iafa?” “Ia,” myntwn i, “ond ffor’ ych chi’n y napod i?” “O!” mynta fa, dan werthin gwmint allsa fa, “ma son am danoch chi mobman.” “Walla ’yny,” myntwn i, “ond scyswch fi mod i mor own a gofyn bla ma nw’n gwerthu bara chaws ma?” “Ar y cornal, mana,” mynta fa, a off a fa dan werthin. Odd a’n werthin wel sa fa ddim anar sensis, a wy’n ffact nag oedd a ’efyd, wa’th odd a’n wilia yn lled cheeky. Ond wara teg iddo fa, mi geso i fara chawis yn reit, yn y fan gwetws e i’r dim, os nag odd e’n gall, o’dd e’n eitha’ piwr. Wedi fi ga’l y bara chaws, mi etho i ’nawr sha’r Exhibition, a’r bara chaws yn y’n llaw ga’l i fyta fo ar y ffor’. I gwrddas i a chanodd ar y ffor’ o ddynion odd yn napod i’n net, wa’th o’n i’n clywad nw’n gweid w’th gilydd w’th mod i’n ’i paso nw, “Dyma Shoni Hoi.” Ro’dd igina ’efyd o ladis bach crand ’no yn dishdwyl arna i yn ’itha ’awgar, ond don i’n napod neb ’no. Diarth o nw i fi gyd ’no. Welly, etho i ddim i dori ple, na wilia dim sha neb no, ond bant a fi yn y mla’n sha’r Exhibition. ’Ron i’n ca’l gwel’d yr Exhibition am dim ond dangos y nicat train, ond welas i laswar ’no’n gorffid talu syllta’ am ga’l myn’d miwn; a thalu wecha extra wetin, am ga’l gwel’d y peth ’yn a’r peth arath, ond thalas i ddim un wech i neb am ga’l gwe’ld dim.

Pam basa rwun yn moin wech a fi am wel’d rwpath, on i’n gweid wrtho fe, mwn botthdi dic, am gatw ’i ’en shaw nes byswn i’n moin ’i gweld hi wetin, a geso i wel’d mwy o bethach na alla i weid w’thoch ch’i ’eb dalu dim dima.


(delwedd B2145b) (29 Awst 1896)

 

 


Text

Description automatically generated

(delwedd B2145c) (29 Awst 1896)

 

Taw’n i’n myn’d i weid w’thoch ch’i am bopath welas i’n yr Exhibition, fydda’n gofyn i fi scwenu llyfir mawr cwmint a Beibil. Wy ry fishi i neid ’yny nawr, ta wyllys gen i neid a. ’Ro’n i wedi clywad shaw o frago am bothi orial y darlunia ond welas i ddim byd yn otsol yndi. Wy wedi gwel’d lawer gwell llunia yn “Peni Listreted,” a “Papur Pawb” na welas i ’no’.

’Ro’dd llunia’ o short arath i ga’l ’no ’efyd, llunia’ wedi gnithir o’r cerig gwyn’on rieny [sic; = reiny] ma’ nw gnithir cerig bedda’ o nw i ddoti ar fedda gwrbynddicions, llunia’ o ddynion ’eb ddim enidia yndi’n nw o nw, wa’th dyn’on parod o’n nw tysa nw ddim ond bod yn fyw. ’Ro’dd lot o ’en ’ff’iraton, a ’en nobsach, a rw ‘en dacla’ wel’ni, sy’n cretu ’u bod nw yn gallach na dyn’on erith, yn ca’l shaw fawr w’th ddisgwyl arnyn nw, ond wy ffili diall pwy shaw o nw’n ga’l. Tyswn i, yn berchan ar yr Exhibition, ag yn ca’l neid y m’lan yn ‘unan ’no, fyswn i’n symud yr ’en lunia’ cerig ’yny a’r ’en gnapia’ mawr o to ’yny welas i ’no o’r ffor’ i ga’l mwy o lle i betha’ erith.
Pwy shaw sy mwn ’en gerig a ’en gnapia’ o lo wy’n ga’l wel’d bopdydd? Os o’dd ’no rai ’en betha comon, i we’las i shaw o bethach ’no shwt odd yn ddicon o shaw i ch’i gwel’d nw. ’Ro’dd ’no fachines at nithir pobpeth alsach ch’i feddwl am dano fa, o’n nw wel sa nw ’n diall wel dyn’o’n. ’Ro’dd un machine ’no at nithir celfi dolis a o’dd a’n glyfar hefyd, wa’th gwelas i a yn gnithir bord fach a chatar fach mwm bothdi dic; a ’ro’dd y dyn o’dd yn gweid wtho fo am ’a gnithir nw yn ’u gwerthu nw wetin am ’wech’in’og yr un.
(delwedd B2145c) (29 Awst 1896)


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2145d) (29 Awst 1896)

Dyna beth arall clafar ombeiduis welas i ’no odd machine at neid ’baco. Pam bysa isha ’baco ar rwun, o’n nw twli dalar fawr miwn iddo fa. Ma’ Shoni y ngendar yn gweid w’tho i taw dalar pren ’baco o’dd i ’efyd, ond wy ddim yn gwbod, a wetin a i ddim i weid taw e. Beth ben’ am ’yny, ar ol i nw dwli’r ddalan miwn a doti’r machine i droi, ’ro’dd a’n gneid y ddalan y’n ’baco net, ag yn paco’r ’baco ’yny wetin mwm [sic; mwn] paur [sic; = papur] yn deidi wel shopwr, a’i dwli a mas i’r bachan yn ’anar cwartar a llyth’rena arno fa yn gweid beth odd e. ’Rodd r’wun wedi bod yn itha bishi iddi ddysgu a[m] neid ’yny, ne’ alsa fa byth neid ’yny o’i ben ’i ’unan mwy na alswn ina i neid e, wy ’n ffact. Y peth perta welas i ’no shwt odd engine fach yn gwithio ’i ’unan ’eb i neb i weid na thwtch dim a ’i; a dyna odd yn bert ynddi, ’ro’dd ’i ’n pallid gwitho dim os na chelsa ’i g’in’og. Tysa ch’i ’n roi dima iddi, withsa ’i ddim peg, achos odd i’n bownd o g’al c’in’og ne’ ddim; a pham celsa ’i g’in’og odd i’n gwitho wel y filan nes todd yn bleser i gwel’d ’i. Mi etho i i stwmp wth ’i gwel’d ’i, wath i carswn i ddi dan y ngesal i bla mynswn i’n net ’eb ddim traffarth ond beth odd ’i da wy ddim yn gwpo, ois naoa i wara a ’i ’unan, wel rw nac an’ tan bach, i chi ga’l sport. Wy wedi werthin shaw am i phen i yn penderfynu pallid gwitho am ddima; wara teg iddi ’efyd, ’ro’dd y gardan odd ar ’i brest ’i yn gweid am ddoti c’in’og yn y slot, ’i ddylsa ’i cha’l i ’efyd.

Mi alsa ’ni, wel ’aliars, yn lla wy’n gwitho ’efyd ga’l racor o brish am yn gwaith run shwt, om bysa’n bod ni mor slac Welas i ganodd o bethach erith ’no ’efyd, a odd rai o nw’n betha iwsffwl budir; ond yr unig beth ffansias i odd manjar o blan newydd, un a lla yndo fa i gatw cyrch a tshaff a dwr ar wahan, a tysa dim ond dicon o arian yn y moced i, i fyswn i yn ’i byrnu a i ddod a fa sha thre geny. T’ysa’r ceffyl wy’n ala yn ’i ga’l a, i fysa yn ddisgwl wel gwrbyneddig, a fysa mwn mish yn dewach arall.

Dyna’n ’anas i yn yr Exhibition y tro ’yn i ch’i, a os bydda i byw a iach, wyn byriadu myn’d ’no yr haf nesa yto, a fydd mwy o gountis gen i i scwenu tro nesa, wath i fyna i weld y fenyw sy’n gallid etfan ’no, a phethach erith.



(delwedd B2145d) (29 Awst 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2146a) (5 Medi 1896)

Papur Pawb. 5 Medi 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
[Ganto fa’i Unan.]

II. YN NGHASTELLNEDD.

Nawr wy myn’d i scwenu yn ’anas i ar y tramp i chi, wath i fuo i lot o fishodd off shwrne, a weta wthoch chi nawr achos beth efyd. Odd gen i drwmpan ma, a odd golwg ombeidus gyta fi erni, a odd golwg gyta itha efyd arna ina, ond odd ’i ddim yn bragian ’ny. Ond rw ddirar’nod i ddath y ngnithdar o Cwmdafad i spio’n ynt ni, ag achos ’i bod ’i’n ddiarth yn y lla, ag yn b’lo’ngo mor acos, i etho i, i waco ticyn mas gyta ’i i shawo ticyn ar y lla iddi, wel, bysa ’ithau’n gneid, tyswn ina yn myn’d sha’u ty nw i Cwmdafad. Tair noswaith fuas i’n waco i gyd gyta ’i, wath i ath ’i nol isha thra bora Satwn. Nos Satwn, wel arfadd, i etho lawr sha’r weit, a wedi ifad llymad ’no’n biwr, i etho i nawr i ddishgwl am y nrwmpan yn itha ewn, a odd i yn nishgwl i, wy’n gwpod, wath i ddath mas yn y fynad cnocas i.

Cyn i fi gal amser i weid un gair dyma’i yn gofyn, “Beth wyt ti’n moin ’ma Shoni?” “Tyna gownt ne bido,” myntwn i, “ond dod i gatw cwmpni i ti otw i, beth wyt ti’n Frenshan?” “Os dim ana i yn moin dy cwmpni di, Shoni,” mynta ’itha, “cera di i gatw cwmpni i ’ono odd yn waco gyta ti trw’r wthnos os mara [?] i mor slac a wyt ti walla yn cretu mod i.” “Boddar anwl,” myntwn i, “dyna od wyt ti’n wilia, fuas i ddim yn waco trw’r wthnos gyta ’i, tair noswath fuas i gyta ’i gyd, a mai a’n beth onatw na chelwn i fyn’d dicyn o bothdi gyta ngnithdar pan delo i spio’n ’ynt ni; a mots gen i, a wyt ti’n folon ne bido, i a i gyta ’i tro nesa yto os bydd ’i’n moin i fi ddod ’eb ofyn i ti, a pwta di ne bido.” “O cera di,” mynta ’i, dan snwffan llefan, “wy’n itha bolon i ti fyn’d gyta ’i gwmint fynot ti, a aros gyta ’i byth os myndi efyd, noswaith dda i ti, stim isha di racor ’ma.”

(delwedd B2146d) (5 Medi 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2146b) (5 Medi 1896)

Wrth i chlywad ’i’n gweid mor seriws a’i gweld ’i myn’d i droi shar ty o wrtho i, i nabyddas i nawr bod ’i wedi dicio wtho i, trw ’i pherfadd. I dyfaras i mod i wedi bod mor down planc wthi, a dyma fi’n mynd i gitsho yndi i gad i i chocso ’i a’i stopid ’i i’r ty, ond cyn i fi gael gafal yndi o’n i wedi cai weltan yn ochor y ngern genti, sto’n i troi wel cilog, ac yn clywad rw swn wel sa afon yn myn’d ibo fi. I etho i stwmp, wath on i ddim yn ddishgwl shwt beth a chyn mod i wedi dwad ata i’n unan rodd ’i wedi rytag i’r ty a chuad y drws ar i ol wip. Paul detho i, i fi’n unan, i alwas i ar enw rwun ma licswn i ddim i weld a’n dod, on i wedi mynd yn winad gwyllt, a ddiim yn gwpod pwy dric nelswn i, iddi spito ’i, ond o’n i’n ffili meddwl am un tric a wetyn ny i etho i sha thra a i’r gwely’n gwmws ’eb ddim swpar na dim byd. Yn y gwely, arosas i ’efyd, os todd i yn amsar cino dy Sul, on i o with i gyd, a odd dim isha cal yn oli gyta nad a mam arna i, a fuas i yn itha pwt a’m itha standj trw’r dydd.



(delwedd B2146b) (5 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2146c) (5 Medi 1896)



Bora llun bothdi wech ar gloch dyma mam yn galw arna i, on’ i wedi cwnu a wedi taclu’n barod i ddod i lawr. “Shoni, wyt ti’n mynd sha’r gwaith eddi?’ “Nag – w i” myntwn i. “Achos beth?
Dera, dera, ma dy dad wedi myn’d os cetyn.” “Wy’n myn’d ar y tramp.” “Ar y tramp i bla, Shoni bach, wyt ti’n myn’d?” “I Merica ne Gwmrondda, ne rwla pell arall.” “Paid a bod yn ddwl, machgan i, iwn i ba sy arnat ti, wedi ffrio a Jane nos Satwn wyt ti, a gnithir yr wyt ti o speit i Jane; ond grondo di arna i, tori dy drwyn i spito dy wymad nai di, gai di weld mod i’n gweid yn right wrtho ti; wath wy’n cofio am dy dad pam o’n ni’n caru, i ffrison acha nos Satwn a bora Llun i ath ar y tramp dan fwcwth na cheisiwn i weld a byth wetyn, ond nos Satwn cynta ar ol yny, rodd a’n cnoco wrth yn ty ni ag yn llefan y dwr yn ila wth fecan am gal i la nol. “Run shwt fyddi ditha gai di weld yto.” “Ta chi’n pyrgethu stoi bora fori allwch chi ddim yn stopo i i fyn’d,” myntwn i. “Ol right, Shoni bach,” mynta itha, “os os raid i ti fyn’d, cera i rwla wel Byrdar ne Merfchyr. Ma Merica a Chwmrondda yn ’en lefydd ry bell i ti, wath walla bydd want arnat ti ddod nol rw getyn. Ma war gen i yn Byrdar rwla, tra ti’n gallid i ffindo ’i mas, ti gelat lojin a phopath gyta ’i wel ta ti gatra. Ond ta puna i Byrdar ne bla, ai di cofia ala llythyr yn ol i weid dy fod di’n iach a chysurus a bla wyt ti wedi dechra gwitho, ne fydda yn becso am danat ti’n fudur. Dyma sofran i ti ddoti yn dy bacad, ond i fysa lawar gwell geni gal roi dwy sofran i ti am aros ’ma. Cofia bido bod yn ofar a chofia di ---” Cyn bod ’i wedi cwpla gweid on i yn batfod i start a dyma fi’n showldro pac ar yn ysgwdd ag yn gweid bora da chi mam a off a fi wel y train.


(delwedd B2146c) (5 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2146d) (5 Medi 1896)



Dyna shwt etho i mor waffad odd, lla mod i yn clywad y mam yn i acor i, tyswn i’n aros i rondo i yn llefan i dorsa ngalon i’n gata a i’n alsa i’n ry wan i gwnu mac oddar y llawr, wath dyna shwt un otw i. Trw i fi neid wel y gnetho i, a thendo mlan wetyn ’ny on i ar ben bont Castallnadd mwn petar awr ag annar yn dishgwl acha llong fawr odd yn dwad miwn ’no o rwla mell wel Scotlan’ ne rwla welni. Odd dim dicon o arian gyta fi i dalu mass sha Merica, a dim gwaith ala ar y llong i fi gal i enill a, wetyn on i’n gweid bod yn well i fi fynd sha Byrdar i ddisgwl am y motryb wel odd y mam yn gweid wrtho i am neid. ’Nawr i etho i trw’r dre sha’r steshon i gal dala’r train odd yn mynd sha Byrdar. A wth mod i’n [mynd] sha’r steshon i gwrddas a igina o ferchad odd yn napod i’n net, a on nw’n gwiddi ar yn ol i, “Hoi, Shoni Hoi. “O, ngariad i.” “Cofia ddod i ffair feli” a shaw o bethach erith.

On i ddim yn napod neb o nw a odd dim amsar gyta fi i wilia nw efyd, wath o’n i bown o fyn’d i ddala’r train; ond wedi cyradd y steshon i wetws bachan odd yn blongo i’r relwa wrtho i bod awr ag anar geni aros wetyn cyn ceswn i drain sha Byrdar. Gan fod gyta fi gw’mint o amsar i aros i etho nawr i gal gweld ticyn o bothdi a mac ar yn ysgwdd wel bysa wnw’n saff ta beth. Ar ol i fi ddishgwl yn ffenast y shop ’yn a’r shop arath am bothdi awr, i etho i miwn i rw dafarn gal peint a thamad o fara chaws, a weti ’ny nol sha’r steshon, a try byswn i’n cwnu ticat i dodas y mac lawr wth fon y peth sy bothdi’r steshon. ’Rodd raid i fi aros ticyn bach weti ’ny am y ticat achos odd i’n llad gynar, ond o’r diwadd tyma fi’n i gal a, a tyma fi’n mynd i ddishgwl am y mac i gal bod yn barod erbyn desa’r train, ond yr arcol anwl, oedd rwun wedi ddwcid a! odd wir, odd rwun wedi dwcid a!


(delwedd B2146d) (5 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2147a) (12 Medi 1896)

Papur Pawb. 12 Medi 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
[Gan ei Gentar.]

III.-SHONI YN DOST.

Mae pawb yn nabod Shoni ’nghentar, ond tos dim pawb yn napot centar Shoni chwaith; ond fi yw e, a tyma fi am y tro yn hala gair atoch chi yn ei le fa, gan obitho y caiff y llythur yma chi i gyt yn iach fel ru nina yn bresennol. A dyna pam w i’n hala atoch chi achos bod Shoni yn dost, yn catw’r gwely pan byddwn ni’n gneyd iddo fa, ac yn catw row ta ble bydd a. Ddoi mae Shoni wedi dechra sgwenu i’r papur, mae e weti cwnu’n ymbeidus iawn. Prin mae e’n etrych ar ddyn nawr, pan welith e fa, ac os gwetwch chi air wrtho fa ar yr hewl yn lle aros i gael hwilia a chi fel rodd e’n arfer gneyd, wnaiff e ddim ond pego i ben wel bysa fe am dori glo a blan i drwyn yn lle mandrel. Rown i’n gweyt wrth motryb “Gewch chi weld motryb,” myntwn i, “Mae rhywbeth yn shiwr o ddicwdd i Shoni nghentar.” “Beth gest ti feddwl yna, Dai bach,” mynta motryb, “Wel, weta i chi bopa,” myntwn i, “all e ddim catw i ben mor uchel sha’r ser yn hir heb gal cric yn i gefan ne ynta cwmpo ar i drwyn.” A gwir y wetas i hefyd, fe gas e cym down yn go glon [sic; = glou] fach. Rhyw ddiwetydd fe gwelas e yn ei choeso hi sha ty i fam, motryb ina welwch chi, gynta gallse fe, ond yn lle fod e a’i ben sha’r ser a’i gefan, wel tyse fa wedi llyncu pocar, a heb cael ei warad e, rodd e’n



(delwedd B2147a) (12 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2147b) (12 Medi 1896)



cerddat jyst yn ei ddoi ddwbwl. Ry chi’n cofio, mynta am yr hen Dafi’r Hewl? Wel, os nac ych chi, rw i. Tori cerig ar ochor yr hewl odd gwaith Dafi, a tyna shwt cas e’r enw, rw i’n cretu. Ond ta beth rhwy fot y cerig yn or, ac ynta ’nishte arni nhw, ar tywydd withe’n lyb, a phopath nodd yr hen Dafi wedi mynt mor gam fel gallsa chi feddwl fod e’n hwilo am rhwpath ar y llawr am i fywyd bob amser pan fyse fe’n cered. A rodd Shoni ’nghentar o betha’r byd, run shwt a Dafi y diwetydd hyny. Fe rytes ina ar i ol e a fe dales e wrth y drws lle ’roedd motryb yn i aros e. “Shoni bach,” mynte hi, “beth yw ’r shapsa yna sy arnat ti?” “O, mam fach!” mynte fynte, “rw i jyst a marw. Mae rhyw byrlihw tu fewn i fi, cheso i ddim fath beth ariot am wn i. Rw i shiwr o fod ar ben gewch chi weld. A fina heb anar sgwenu’r unangofiant i ’Papur Pawb!’ O, tawn i’n cael esmwythdar am dicin bach i fi gael sgwenu hwmw i ben! Fe glywes i ryw bregethwr yn gweyd fod rhyw Sais o’r enw Charles Dickens yr un peth a fi’n gwmws. Roedd e ar hanner rhyw lyfyr odd gytag e ar waith, dw i ddim yn cofio i enw fo chwaith. Ond beth oedd hyny at hyn? Beth ddaw o’r byd yr wthnos nesa i gyd os na alla i sgwenu fel rw i weti promisho i “Bapur Pawb?” “Dere di, Shioni bach,” myntwn ine, “fe ofala i am danat ti.” “Beth wyt ti’n flaban y ffwlcyn,” mynte fe, tyse ti’n gallu sgwenu ’u hanes i.” “Dw i ddim yn moyn sgwenu dy hanes di, paid a meddwl, was i,” myntwn i, “ond fe sgwena i farnad wr dy ol di gita’r plesar mwya.” Down i ddim am iddo farw chwaith, ond ’roedd i ddial e’n y’n dismoli i am mod ’n sgwenu trosto fe weti’n hala i dicin

 

(delwedd B2147b) (12 Medi 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2147c) (12 Medi 1896)



bach oddiar y plats. Ond cyn iddo allu’n apad i dyma fe’n cal pwl gwaith nag erioed, a fe nath motryb iddo fe fynd i’r gwely i gal rhoi hwcs iddo, a dyma hi’n dechra taclu ffa’r gors a hwermwnt lwyd a dyned, a col o riw bethach fel ny iddo fe. Ond fe wetas ina, “Rhoswch chi, motryb, mae gen i focsed bach o bila yn y ty yco, mae nhw’n rhai anghyffretin at y ddannodd a phon yn y cefan.” A bant a fi i moyn nhw, a nol a fi mewn wincad, a lan a fi at Shoni. “Shoni,” myntwn i, “dyma focsad o bils bychan. Rwyt ti i gymryd un bob pedair awr nes bo’r pon wedi symud. Cymra un o honyn nhw nawr.” A hware teg iddo to, fe’i cymrws hi hefyd, yn ddigon diddig. Fe etho lawr at motryb i’r gegin lle’r oedd hi’n briweddu’r te wermwnt a phetha, ond ar ganol y ple dyma Shoni yn gwichad fel porchell, ac yn jwmpo lawr dros y star wel tyse’r gwr drwg wrth i gwt e. “O’r creatur,” mynte fe, “rwyt ti weti roi gwenwn i fi!” “Beth wyt ti’n flaban, bachan,” myntwn i. “Wyt,” mynte fe, “mae’r hen bils yma yn y’n lladd i yw i’n shiwr yn gwala,” a dyma fe’n dala’r hen focs mas ata i. “Ble mae’r pils,” myntwn i. “Rw i weti llyncu nhw i gyt,” mynte fe. “Roewn i’n meddwl os odd un yn gwneyd lles mewn pedair awr, ac un arall mewn petair awr arall, byse’n well i fi cymyt nhw i gyt ar unwaith i gael gwella’n glou. A dyna oedd y ffwlcyn weti wneyd. Fe fydda i spel cyn tria i wella fo yto, rw i’n shiwr o hyny! Ond lle bo chi a phawb yn becso am dano fe, dyma fi’n hala gair yn i le fo heb yn wbod iddo fo, gan obitho caiff e chi gyt yn iach fel ry nina yn bresennol.
Fallai bydd Shoni ’n gallu sgwenu ei hunan y tro nesa.

 

(delwedd B2147c) (12 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4008a) (19 Medi 1896)

Papur Pawb. 19 Medi 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

IV YN ABERDAR.

Pwy fusnas odd gan Twm Yneutar i hala yn y’n lle i i “Bapur Pawb,” wish? Fe gaiff e glwad gen i pan ga i afal ynddo fe yr en spratgi slei shwd ag yw a. Mi fentra i na fydd dim whant arno fa ala yto. Ond dyma fi’n sgwenu’n unan y tro hyn yto.

Dyna’r peth mwya erfan welas i ’riod. Ma nw’n son am sharpars Llyndan, yn Castallnadd ma sharpars, i ddwcson y mac i mwn bothdi dic, dim ond troi ngefan jest netho i.

Wth weld yn unan yn fachan diiarth yn y lla wedi colli mac, on i jest a llefan, achos on i dddim yn gwpod beth neswn i puna mynd yn mlan lle mynd nol neswn i. On i’n gweld tyswn i’n mynd nol bysa’n ’en ddrwmpan i’n werthin am y men i, a brago trw’r lla gyd mod i’n ffili gallid byw ’epddi ’i. On i’n gweld ’efyd tyswn i’n mynd mlan na alswn i ddim byw ’eb na gwitho ’eb ddim dililad gwaith. Weti pyslo ticyn bach beth neswn i, i gofias am y motryb yn Byrdar, a fi(p) wetas yndo i’n unan, ma popath yn ol right yto, i all motryb ffindo show o ddillad gwaith i fi yto, os galla i ffindo motryb.

’Rol i fi wilia sha fi’n unan welna a neid y meddwl fynydd ta mynd ymlan on i’n neid, dyma fi yn gweld Doi fachan nes wnt na fi ar y steshon yn disgwl yn ombeidus arna i ag yn smeilan ar ’u gilydd. “Walla,” myntwn i wtho i’n unan, “ta nw sy weti cwato mac i, gal wara tric a fi, i wilia i a nw nawr ta beth, a off a fi atyn nw.” Pam ddetho i ar ’u pwysa nw, “Hoi, boys,” myntwn i, “gwelsoch chi mac i odd wth y peth yn y manco?” “Naddo, wir,” mynta fa, dan nithir gwymad mor sopor a phab, “Shwt bac odd a?” “Rodd a’n glwmpyn



(delwedd G4008a) (19 Medi 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4008b) (19 Medi 1896)

 

mawr o bac,” myntwn i, “weti glwmi mwn mwfflar coch.” “Beth odd gyta chi yndo fa?” mynta’r un arath, nawr, dan ddishgwl mor sopor a’r nall. “O! rodd gen i ynddo fa got a wasgod a thrwsis molscin, cap a doi grys, a doi bar o sana, a par o scitsha, a wip.” “O! wir,” mynta’r un cynta wiliws a fi, “rodd a’n lot o gollad i chi i golli a wir, ond os rowch chi swllt i fi, i ffindia i ych pac chi, bachan, os yw a yn y dre rwla, a fi ala i a ar ych ol chi. Bla i chi’n mynd?” “Sha Byrdar wy’n mynd, a i fydda i yn ddiolchgar ombidus i chi os gnewch chi wir, a dyma swllt i chi am yny.” “O gnaf, gnaf,” mynta fynta. “Ia, ia,” mynta’r bachan arath, wtho fa, “swllt am i ffindo fa yw ’wna, ma isha swllt arath yto, gal ala’r pac ar i ol a, ne fydd dim ’ta ti am dy drafferth.”

“Os” wir,” myntwn i, “dyma swllt i chi yta i gal i ala fa ar yn ol i.” “Diolch yn farw i chi, bachan diarth, cerwch chi i steshon Byrdar yr amser ’yn fori, i fydd ych pac ’no’n aros i chi. Ffarwel, dyma fi’n mynd i wilo am dano.” “Ffarwel,” mynta’r un arath, “ma raid i fina efyd fynd bothdi musnas,” a off a nw’ch doi. Ron i’n meddwl wth ddishgwl ar ’u ol nw, ta doi fachgan o grydd on nw, wath rodd i dillad nw’n shino gyd wel dillad crydd, ond ta beth on niw, rou nw’n ddoi fachan smart dishbrad ombeidus.

Jest gyta ’u bod nw yn troi ’u cefna dyma’r



(delwedd G4008b) (19 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4008c) (19 Medi 1896)

 

train yn dod miwn i’r steshon, a dyma finna yn myn’d iddo yn deidi. On i ddim wtho ’n unan yn y train, rodd dwy en ladi ifanc grand yn ’u shitan a’u trimins i gyd no o mlan i, a on i’n meddwl cal wilia shaw a nw cim byswn i’n Byrdar. Ron i’n meddwi gatal i nw ddechra wilia shwt. Jest gyta bod y train yn starto dyma fi’n gellwn y ffenast lawr gal bwrw men mas pam byswn i’n gweld rwpath wth y neleit, ond dyma un o nw yn gweid wtho i, “Shyt ddat windo plis.” On i’n diall ta bwcwth y polis arna i odd i. “Os dim ofan ych polis chi arna i,” myntwn i. “Os mona i yn gneid dim i chi.” “Wat?” mynta ’i, “Naca Wat yw’n enw i,” myntwn i, a wilson ni ddim a’n gilydd wetyn. On i mor standj a nwnta. Ddishgwlas i ddim racor arnyn nw, i etho i a men mas, gal gwel’d beth y welswn i, a on i’n j’oio ’n net, ost on i wth y tynal sy lan yn dop cwmnadd. Wth weld y tynal i dynas y men miwn lla mod i’n i fwrw fa yn erbyn yr ochor, ond wth i dynu fa miwn ry waff i fwras i yn ’et yn erbyn top y ffenast, ost odd ’i off oddar y men i wiw. “Wal, myn erfan i,” myntwn i, “wy weti’n witchio siwr o fod! Os aiff i mlan wel ’yn yn ’ir i fydda i’n borcyn getyn cim bo fi’n Byrdar!” a on i’n timlo’n unan yn itha clwc. Weti fi ishta yn yn lla, on i’n gweld y ddwy en lancas odd y’n ishta gyta fi ’no weti cwato’u gwymeta yn ’u nisheti pocad, a ron nw shiglo gyd, wel sa nw ar y wiars, a rodd bona’u cerna nw’n goch wel y tan. Ron in napod ta werthin am y men i weti colli’n et o’n nw ’efyd. Ron in itha gwinad ati nw, on i ’yd at yn rwto, gen mor winad on i, ond on i ddim am ddangos ’yny iddi



(delwedd G4008c) (19 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4008d) (19 Medi 1896)



nw, shwt lla bysa nw’n cal racor o sport am y men i, ren natradd main. Nawr i blycas men sha’r llawr a chwnas i mo fa lla mod i’n gwled nw ost on i’n clywad y gard yn gweddi mas “Byrdar! Byrdar O! ron i’n falch nawr mod i’n cal dishgyn orwth yr en dacla sportlyd odd gyta fi. Gyta mod i’n dishgyn ar y steshon, on i’n gweld doi bolis, a welson nwnta fina ’efyd, a dyma un o nw yn dwad y mlan ata i, ag yn gofyn: “O bla i chi’n dod?” a dyma fina’n gweid wtho fa’n right. “Bla ma’ch ’et chi,” mynta fa wetyn, weti i fi weid wtho wetyn wel buws i gyd, dyma fa’n gweid. “Ho, ho,” ag mynd nol at y nall ag yn gweid: “Popath yn ol right, Shoni Hoi.” Wal, on i’n falch i weld a’n troi bant orwtho i, wath i geso i ofan yn y merfadd i fod a’n dod i gitsho yndo i am sylto ren ferchad ’yny yn y train. I gretas i pam welas i a’n dod ata i i bod nw weti teligraffto am iddo fa ddod i gitsho yndo i pam byswn i yn dishgyn, ond netho nw ddim shwt. I etho i nawr y peth cynta i gal prynu et yn lla’r un on i weti golli, ond yr arcol anwl cim mod i weti cerad ucan llath rodd canodd o blant yn y nilyn i, a dynon a mynwod wth y deca yn dod mas o’r tai gal gweld beth odd yn bod. Weti cerad ticyn bach dyma fi’n gweld shop a eta yn y ffenast, a dyma fi miwn i brynu et. Pam ddetho i mas rodd milodd o ddynon ar yr ewl weti dod no gyd wth weld ’u gilydd, wath wydda mo’u cwartar nw mod i ’no o gwbwl wy’n ffact. I etho i stwmp wth i gweld nw, on i ddim yn cretu fod shwt lot o ddynon yn byw ’no; a lle bysa neb o nw yn ’oli dim arna i, i etho i yn y mlan trwyddi nw ost on i’n gweld ty a sein wth ben i ddrws a, a rodd llun rw griatur ar y sein, wel llew ne ddafad ne glacwydd ne filgi, wy ddim yn cofio pun. Ta beth odd ar y sein ty tafarn odd y ty, a i etho i miwn man ’ny nes bysa’r ’ewl yn clyro ticyn bach. (I’w barhau.)


(delwedd G4008d) (19 Medi 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4009a) (26 Medi 1896)

Papur Pawb. 25 Medi 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
[Ganto fa’i Unan.]

V. - YN ABERDAR. (Parhad.)

On i’n meddwl pam etho i miwn i’r tafarn ’ny yn Byrdar, na fysa ’no neb odd yn y napod i, a na fysa no neb on i’n napod a, ond cyn y mod i weti cal amsar i ishta a chnoco peint, dyma fachan on i yn napod net yn dod y mlan ata i, a yfad i fi, ag yn gofyn shwt own i, a o bla on i n dod, a bla on i’n mynd, a shaw o bethach erith.

Wel, on i’n falch omibeidus i gal cwrdd a fa ’efyd, wath on i’n cretu gwydda fa lla’r odd y motryb yn byrw a bysa fa yn ffindo gwaith ala i fi yn lla’r odd a’n gwitho achos i fod a’n gyfarwdd no a fina’n ddiarth. Weti fi yfad o’i law a, a chnoco peint yn unan a phetha’n deidi, fi wetas wtho fa ta ar y tramp o’n i, ag om bothdi ffor buws i gyd; ond cyn iddo fa gal amsar i wilia dim sha fi, dyma fachan odd yn ishta ar yn pwysa ni ’no yn gweid: - “I ffinda i waith ala i chi bachan diarth yn pwll Brown, y ngendar i yw’r gaffar no was, a i ga i bobath gyta fa was, a ta fa’n trio pallid rwpath alla fa ddim ond i fi gisho fa.” “Wel,” mynta bachan arath no, cyn i fi gal wilia dim. “I alla ina ffindio gwaith ala i chi yn pwll Morris - gwr yn war yw’r gaffer no wlw chi a phopath a wy’n gisto gyta fa, wy’n i gal a gyta fa’n wastod wlw chi, a i wilia i a fa fori am bothdi chi, os oti chi’n moin i fi wlw chi, achos wy’n cretu ych bod chi yn itha drwmpyn.” “O! oti,” mynta’r bachan



(delwedd G4009a) (26 Medi 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4009b) (26 Medi 1896)



on i n napod, mae Shoni yn gyslad trwmpyn a welsoch chi riod. Ma fa’n fachan alith bob clingcan fo gyta fa, ond iddo fa gal cwmpni bach piwr wel i ni yma nawr. Wy weti weld a fechgyn yn fychan trw’r dydd efyd lawar gwaith, ond bothdi gal gwaith iddo fa, on i’n meddwl gofyn am waith iddo fa yn run man a fi, a wy’n creti ta run man a fi lica fa gal a efyd, achos i ni’n napod yn gilydd.” “Itha gwir,” myntwn i, “ond wy’n diolch o ngalon i chi boys am ych caradigrwydd, wy’n falch omibeidus y mod i weti cwrdd a shwd lot o drwmps piwr gyta u gilydd. Ac nawr wy’n roi jwg neu ddwy er mwyn y gwmpniath.” “Hiar! hiar!” mynta nw gyd, a dyma nw’n clapo u dwylo. Bachan diarth, mynta un arall nawr, nag odd dim weti wilia fi or blan, “On i’n ych clywad chi gyna yn gweid wth ych parnar am ych motryb sy ma, wy’n napod un ma, o run man a chi, ’en fenw biwr yw i efyd, ond walla na nit ych motryb chi yw ’i shwt” “O! ia, ia,” myntwn i, “motryb yw i siwr o fod, oti chi’n gwpod lla ma ’i ’n byw?” “Otw; otw,” mynta fa, “ma ’i yn byw ar Ewl y Felin a i ddwa i i ddangos y ty i chi pryd mynoch chi.” “Ol right,” myntwn i, “i fydda i’n ddiolchgar i chi am ny.” Nawr on i’n dechra twymo, a on i’n gweld pethach yn dwad o dde i gyd, wath on i’n ngwel’d i yn i enill nw on ochor achos y ddwy jwg. On i wel brenhin gyta nw, y fi odd popath i gyd, a rodd un o nw’n gweid wtho i, om bysa ta nos Satwn naill llycad odd ’i gyta nw nos Satwn cyn’ ny, na fysa dim isha i fi dalu am un dropyn no, achos rodd y bachan dod yn y napod i weti roi shwt garitor net i fi, a os deswn i no nos Satwn nesa i fysau



(delwedd G4009b) (26 Medi 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4009c) (26 Medi 1896)

yn y moddi, wath fysa pai gyta nw, a ro nw weti ngweld i’n acto’n drwmpyn. Weti fi glywad ta ’nos Satwn naill llycad odd gyta nw ddwetha, i dalas i am cwpwl o jwgs weti ’ny, a o’n nw mor falchad arna i a bysa nw yn y ngario ar ’u scwydda. Wth yn bod ni no yn yfad, wilia ’n gilydd ag yn joio’n unen no i ath yn amsar yn waff ombeidus, on i jest ddim yn cretu fod a weti mynd mor waffad, ond on i bownd o gretu wath i ddath y tafarnwr ato ni, a dyma fa’n gweid - “Dewch boys, torwch i fynydd, ma Bruce ewti [sic; = weti] dwad eno yto.” On i’n diall i feddwl a’n net, gweid mwn gira erith odd a i bod i’n stop tap. Weti gweld i bod i’n stop tap dyma fi’n ffarwelo a’r cwmpni, a dyma nwnta yn ffarwelo a fina, ag yn shiglo dwylo a fi gyd ond y bachan odd yn dwad gyta fi i i ddangos ty motryb i fi, a dyma ni matal a’n gilydd, y fi sha thy motryb, a nwnta wel o’n nw’n lico. Weti fi gerad am spel fawr, dyma’r bachan odd gyta fi’n gweid wtho i: “Dyna’r ty, bachan diarth, a nawr wy’n ffarwelo a chi, wath wy’n ych gweld chi’n right ych gwala, ag ni gwrddwn yto, noswaith dda chi.”

’Nawr cyn byswn i’n mynd miwn i’r ty, on i bowrnd o byslo shwt on i’n mynd i nithir gal dangos i motryb shwt ffrind on i iddi. Weti i fi byslo ticyn bach, dyma fi’n gwpod ffor byswn i’n neid, a dyma ’eb gnoco na dim byd, a pham gwelas i motryb, dyma fi’n gwiddi: “Motryb anwl, wy bownd o gal



(delwedd G4009c) (26 Medi 1896)

i

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4009d) (26 Medi 1896)



cysan gyta chi nawr,” a on i’n mynd i ddoti’n llaw am i gwddwy ’i ond nawr dyma ’i yn gwiddi “Iwbwb! iwbwb!” stodd y ty’n eco i gyd. “Motryb anwl,” myntwn i wetin, “Mab Sali Hoi, ych war otw i, motryb fach,” “Os gyta fi ddim war i gal, cerwch mas, ren flagard, iwbwb! iwbwb!” Nawr on i’n clywed rwrai ar y lloft no, yn nido wel ceffyla, a fi geso i ofon trw merfadd bysa nw’n dwad lawr ag yn lladd i”, ag nawr i farnas i ta dyna’r plan gora ,i fi neid odd i cherad ’i gynta gadswn i a dyna netho efyd, ond on i ddim yn cofio tamad am y steps odd o flan y ty wrth yr ewl. On i nawr yn rytag am mowyd wth fynd dros y steps yny dyma fi’n cwmpo yn y nyd i’r ewl ston i’n gweld y tan yn fflalshis, a gweld y lla gyd weti ny yn myn’d yn dywyll wel y pitch. Wy ddim yn gwpod faint fuas i’n gorwadd ar yr ewl, ond wy’n cretu mod i weti bod no lot, wath pam d’etho i i unan rodd dynon a mynwod am bothdi fi’n dew a pholisman gyta nw no. On i’n clywad rai no’n gofyn, “Beth gas a?” a rai erith yn gofyn, “Pwyn yw a ta?” ag un yn gweld, “pwr ffelo, weti meddiyn ma fa a weti cwmpo, usht! dyma fa’n cwnu.” Gyta yny on i ar yn nrad, ar polis yn citshio yn y mraichi, ag yn gofyn i fi, “Pwyn ych chi?” Lla i chi’n aros? “Yr ych chi’n feddw, dewch gyta fi,” ag yn y nynu trw’r dynon gynto.

(I’w barhau.)


(delwedd G4009d) (26 Medi 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4010a) (3 Hydref 1896)

Papur Pawb. 3 Hydref 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

VI. - YN Y LOCK-UP, &c.

Pan odd y bobl yn citsho yn y mraich i, ag yn y nynu trw’r dynion, o’n i’n gwpod yn net ta mynd a fi i’r loc op odd a; weti ny, chas a ddim tynu llawar wtho i o gwbwl, wath o’n i’n gwpod net y byswn i ar ol bod yn y loc op am noswith, yn dywad yn fachan enwog, a bysa dynon yn wilia am bothdi fi’n bob man.

Ond wilia no bido, i’r loc op ceso i fynd yn gorn, a wy ddim yn cofio beth fuws no wetin wath i gysgas i wel sledj. Bora dronoth, rwpryd, dyma fi’n breddwyto bod yr afon sy ar bwys yn ty ni weti troi’n gwrw, a mod ina ar y noi benlin ar i phwys ’i yn pyrtoi’n inan gal i yfad i gyd, a pham o’n i’n mynd i gal yfad, dyma’r afon yn sychu wip, ’stodd dim ar ol and lluwch sych.

“Wal, myn erfan i”, myntwn i, “dyna gnac y baw,” a chyta yny dyma fi’n diuno.

Pan ddiunas i, rodd y men i jest bosto gen bo’n. R’odd un llycad i fi’n joc right a ngwymad i’n scraps i gyd; a sychad ta, rodd sychad arna i gallsach chi dorri e a chyllath.

Cyn bo fi weti cal amsar i feddwl dim, dyma’r polis yn acor y drws ag yn dwad miwn ata i ag yn gofyn i fi, “Wal, bachan, oti chi weti sopri ticyn erbyn eddi? “A beth oich chi moin sylto Mises Jones neiithwr yn i thy?”

“Wy ddim yn napod Mises Jones,” myntwn i.

“O!” mynta fynta, “i newn i chi nawr.”

A dyma fa’n gwiddi, “Mises Jones, dewch ma nawr gal gweld oti chi’n i napod a.”



(delwedd G4010a) (3 Hydref 1896)

r

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4010b) (3 Hydref 1896)


Jest gyta bo fa’n galw arni dyma ’i’n dwad miwn ata i a golwg safedj ombeidus arni, on i wth i gweld ’i, yn cretu y bysa ’i yn yn wadu i yn gata man wa’th y fenyw on i’n cretu ta motryb i odd Mises Jones.

Pan gwelws ’i fi, a gwel’d y ngolwg i, dyma ’i yn bwrw i dwy law yn i gilydd, ag yn gweid, “O! dir cato ni! O! dir catoni’m bryd, nid ’wn odd a, rwun arath odd a, ma gwymad ’wn gwmint ddwywath a gwymad ’wnw, i ’na i’n llw ar’ny.”

“Oti chi ddim yn meddwl Mises Jones,” mynta ren bolis nawr, nat ’wnw weti cwmpo sbo fa’n yr olwg ’yn wth rytag mas och ty chi yw hwn?”

“Wn i ddim wir, mynta itha, “ond os ta hwn odd a, ma fa weti cal dicon am yr ofon alws a arnai i, a wy ddim yn cretu ta hwn odd a.”

“O! dyna, dyna ’yna ar ben ta, i chi ddim yn i erlid a racor?” mynta fynta, a golwg sur arno fa wel sa fa weti colli i wetjan.

“O! nag wy wir,” mynta itha, “wath allwn i ddim bod yn y ngro’n a meddwl mod i weti gneid cam a fa, Bora da chi, ser.”

O’n i’n falch ombeidus i weld yr en fenyw yn mynd; a on i nawr yn gwpod naca motryb odd ’i, ond on i’n cretu ta en fenyw dduwiol odd ’i, wath odd ’i ar y diwadd yn dishgwl yn itha gwirion.

Weti’r ’en fenyw i fynd dyma’r ’en bolis yn gweid wtho i’n safedj, “Os i chitha am fynd ’efyd, ma coron arnoch i dalu.”

“I chi, ser, yn cwnu’n lled bryd am ych

(delwedd G4010b) (3 Hydref 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4010c) (3 Hydref 1896)



lodgins ser,” myntwn i; on i’n meddwl byswn i yn gallid coeso ticyn bach arno fa wth y mod i yn i “sero” fa; ond tyma fa yn winad gwyllt.

“Nawr, nawr,” mynta fa, “os nag i chi’n talu’r goron ’ma fi yn mynd a chi sha Chardydd ’eb ddim lol.” On in gweld nawr nag on i ddim tamad gwell o ddadla a fa. Galswn i gal gweld lodjins nag odd gyta fa am wecheinog y nos, wel on i’n meddwl gneid yn y dechra. Welni dyma fi’n tynu yr arian mas o mocad i gal i dalu fa, ond yr arcol anwl, corion a wech odd gen gyd, a dyma fi’n doti nw ar i law a ag yn gweid, “Dyna gyd sy gyta fi, ser.”

“Ma dicon a gormod,” mynta fynta. “Pidwch chi a ngatal i’ch gweld chi’n feddw yto, ne fydda i’n mynd a chi allan tro nesa. I chi’n rydd tro ’yn, dyma wech nol i chi.”

O’n i’n cretu wth y mod i’n i doti nw ar i law a, bysa fa’n roi racor na wech nol, ond nath a ddim, a i ddicias i wtho fa trw merfadd, a on i ddim am aros racor yn Byrdar na ’yd nes bysa mac i’n dwad i’r lan gyta’r train o Castellnedd.

On i weti clywad nw’n wilia yn y tafarn ta Blanllecha odd y lla gora i fyn’d ar y tramp, a on i’ weti penderfynu nawr, ta sha Blanllecha on ina myn’d a gatal y motryb a Byrdar i fyn’d sha Jerico, os mynsa nw, ond on i bown o aros gal y mac.

Odd dim want bwyd arna i, ond rodd isha peint i wella arna i’n ombeidus, a etho i gal a, a fi yfas ddoi, wath on i ddim yn gweld tair cinog yn werth iddi catw.

Wetin, trw bod i ry gynar i fi ddishgwl am y mac, i etho i gal gweld y parc, wath on i ddim weti gweld y pare o’r blan ond welas i ddim yn otsol no shwt. Rodd no ddicon o la i gerdded ag i ishta ag i moifad; os ta tyna shwt beth yw parc wfft shwt beth weta i!



(delwedd G4010c) (3 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4010d) (3 Hydref 1896)



Y peth dynws yn sylw i fwya no odd gweld doi yn, cerad gyta ’u gilydd. Bachan reit odd un o nw, ond wn i ddim beth odd y nall, rodd a’n depig i fachan ag efyd yn depig i scenas. Rodd a’n gwishgo et a thei a cholar, ag yn cario ffon a spectals, ag yn smoco shigar wel bachan, ag yn gwishgo peisha a phethach wel scenas, a wn i ddim beth oedd a. I ofynas i un bachan no beth odd ’wnw.

“O!” mynta fa, “dyna’r new woman.”

“New woman?” myntwn i.

“Ia,” mynta fynta, “y fenyw newydd.”

“Patent pwy yw ’i ta,” myntwn i.

“Wn i ddim wir,” mynta fa dan werthin, “ta patent pwy’n byd yw i, dyw i ddim weti cal i gneid yn dda, ne fysa dim isha ffon a spectals arni ta beth am y pethach erith.”

“Wal, wn i ddim, myntwn i.” ma’r inventors yn siwr o fod yn diall yn well na fi am bothdi bethach welna, a chweti ny a i ddim i wilia dim.”

Weti i fi gerad trw’r parc a phobman i ddath yn amsar i fi fynd sha’r stashon i ddishgwl am y mac, a dyma fi’n mynd shag no, a dyma fi’n gofyn i fachan odd yn blongo i’r relwa ost odd a weti dwad.

“Beth yw’r enw?” mynta fa.

“Shoni Hoi,” mynta i.

Dyma fa’n dishgwl yn od arna i, ag yn gofyn, “O bla i chi’n erfin pac?”

Dyma fina gweid wtho fa shwt collas i fa, ag am y ddoi fachan odd y ni ala fa i f’r dwarnod ’yny.

“O!” i fyna i weld nawr,” mynta fa, a off a fa.

Dyma lla buo i yn aros ag aros iddo fa ddwad a gwpod i fi sto’n i jest mynd mas o ngro’n. Rodd dicon o rai erith yn dwad ibo, a on nw’n smeilan dicon

efyd; ond on i ddim yn gweld y bachan on i weti wilia sha fa’n dwad. O’r diwadd, dyma ddyn mwn oitran yn dwad ata i, ag yn gweid wtho i, bod un o’r ddoi ’yny, ne bartnar iddi nw, weti dweid y mae i, a na wetswn i mo fa byth, ag am i fi beido dwad no yto am bothdi ddo fa.
 

(delwedd G4010d) (3 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B3802a) (10 Hydref 1896)

Papur Pawb. 10 Hydref 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF

(Ganto fa’i Unan.)

VII. - YN BLAENLLECHAU.

Dyn call odd y dyn ddath ata i or steishon. R’on i nawr run farn a fa’n gwmws bothdi’r ddoi fachan ’yny yn Castallnedd. R’odd a’n napod nw’n net’, a o nw siwr o fod weti dwcid pac arno fynta rwpryd, ond wetws a mo ’yny shwt.

Am y bachan arath ny nwyllys i aros no, ’en welpyn asan odd a, a tyswn iI ond cal gafal yndo fa mewn tafarn, i gesa fa gwpwl o welts gen i spo fa’n tychan i gyd. I dysgswn i fa i nithir sport o fachan gwirion miwn lle diarth, gwnawn ar f’encos i!

Pan a’th y dyn orwtho i, “Ma Byrdar yn lla ry od i fi aros racor yndo,” myntwn i wtho’n unan; a off a fi llawr sha Chwmaman a mwynt sha Blanllecha. Wth mod i’n mynd o no, i gwrddas i a doi fachan o’n i weti acto’n drwmpyn iddi nw yn yr tafarn noswith cyn ’ny, ond o nawr yn y maso i’n itha slei, ac yn dangos nag on nw ddim yn y napod i. On i yn i napod nw’n net, ond odd dim ots gen i am danyn nw nawr, achos dodd gen i ddim amsar i wilia a nw. R’on i bound o groishii’r mynydd sha Blanllecha cym bysa i’n nos. I groishas i no, ’efyd.

Nawr, on i weti blino, a jest yn sgrech angen want bwyd, ’eb ddim arian, a ’eb ddim lla i fynd, a ddim yn napod neb no. On i nawr yn itha ’en bwr dab, a beth on i’n mynd i neid?

“Wal,” myntwn i wtho i’n unan, “i na i wel gnath Shoni ngendar pam ath a ar y tramp, sha Merthyr, slawr dydd, i bonia i’n watsh nawr.”



(delwedd B3802a) (10 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B3802b) (10 Hydref 1896)



Off a fi i wilo am y ponshop. On i’n meddwl ceswn i ddwy ne dair punt am y’n watsh ta beth, rodd yn watsh i werth pum’ punt. Watsh on i weti gal yn clwb watshis odd i, a rodd i’n catw ’i amsar wel cloc wyth diwarnod pan bysa i’n cerad yn enwetig.

Geso i afal yn y ponshop mwm bothdi dic, a dyma fi miwn no, ag yn roi’n watch i’r dyn odd no. Weti iddo fad examino ’i, dyma fa’n gweid rwpath wtho i, ond on i ddim yn i ddiall a, wath fforinar ne Jiw odd a, a Ffrensh ne rwpath odd a’n wilia.

“Gwetwch yn Gwmrag,” myntwn i wtho fa.

“Cwmrag! Cwmrag!” mynta fynta, ag yn dishgwl arna i wel ’yrtyn. “Dim Cymrag.”

Cyn i fod a weti cwpla gweid “Dim Cymrag,” dyma fachan o goliar yn dwad miwn, a dyma fa’n gofyn i fi, “Beth i chi am weid wtho??”

“Fa sy am weid rwpath wtho i,” myntwn i.

Dyma fa’n wilia’r dyn, a dyma fa’n gweid, “Ma fa’n gofyn i chi faint i chi’n moin ar y watch.”

“Tair ne betar punt,” myntwn i, a, dyma fa’n gweid yny wth y dyn, a dyma nw’ch doi yn werthin am y men i.

Nawr fe ddotws y dyn yn watch i ar y cowntar, a off a fa draw no, a dyma fa nol wetin bothdi dic a watch our grand ombeidus yn i law, a dyma fa’n gweid rwpath, wth y bachan odd yn wilia rynto fi a fa, am spel fawr, a dyma’r bachan wetin yn gweid wtho i.

“Ma fan gweid ych bod chi yn moin

(delwedd B3802b) (10 Hydref 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B3802c) (10 Hydref 1896)

 

gormod ar ych watch nv bymthag o witha, a ma fa’n gweid gwerthiff a’r watch our na i chi am bunt pryd mynoch chi. Ma ona’n fwy o werth na’ch watch chi, betar gwaith; ond ma fa’n gweid roiff a saith a wech am y watch chi, ond iddo fa gal ych albart a’ch sel chi yn y fargen.”

Pam clywas i ta saith a wech odd an folon roi am y cwbwl, dyma fi’n y nglywad i’n oiri gyd, a whys or yn tori trosta i gyd, welswn i’n myn’d i rw dwymyn dost ombeidus no.

Weti i fi ddwad ata i unan dicyn bach, dyma fi’n gweid, ma’r albart yn werth saith a wech i unan, ’eb ddim arath wtho.

“Wal,” mynta’r bachan, “gnewch chi’ch meddwl fynydd waff, a otych chi yn derbyn i gynnyg a, ne bido, wath roiff a ddim racor i chi am danyn nw, a wy na bound o fynd.”

Nawr on i miwn ticyn o bysl beth neswn i. On i ar y planc yn lan, a ddim weti cal bwyd ddar detho i o Castallnedd, a rodd y mola i’n rwbwlian chi fa o anar milltir.

Ond cyn mod i’n cal gweid dim, dyma’r bachan yn gweid wtho i, “Nawr be chi’n neid?”

“Wal,” myntwn i, “i rod nw am saith a wech, ond i fi cal nw nol yto pam celo i arian i ddwad iddi mofyn nw.”

Dyma’r bachan yn gweid wth y dyn beth wetas i, a dyma fynta yn i apad a nol (yn Sysnag nawr), “O! cweit right, cweit right,” a dyma fa’n yn scwenu ticad a’i rod a i fi, a saith a wech gyta fa.

“Thengciw,” myntwn ina, ag off a fi.

Nawr dyma fi’n yn i ecan ’i sha’r ’otel gal peint a thamad o fara chaws, lla byswn i’n starfo.



(delwedd B3802c) (10 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B3802d) (10 Hydref 1896)

Geso nw ’efyd, wel on i moin. R’odd dicon o want bwyd arna i, galswn i fyta wilberad o fara chaws yn net ond odd gormod o gwilydd arna i i gisho racor na geso i gyta nw no.

Rodd bachan no yn ishta ar y mwys i; a on i’n i weld a’n twlu llycad arna i nawr ag y man o ’yd, a on i’n gwpod ta want wilia a fi odd arno. Rodd want wilia sha fynta arna ina, ond on i ddiim yn ewn i fwrw mwn ple a fa, achos rodd a’n ddiarth.

“Dyn diar[t]h ych chi ma?” mynta fa, mwn cetyn.

“Ia,” myntwn i, “Wyddoch chi ddim la ca i jobyn i ala ma?”

“Tysach chi ’ma fynad yn gynt, i fysach yn ishta yn gwmpni gaffar pwll No. 3. Wn i ddim lla ma fa nawr, ond wy’n i ddishgwl a nol bob mynad.”

Gyta bod y bachan y’n gweid welna, dyma gaffar No. 3 yn dwad miwn, a pam gwelws a fi, “Rwyt ti weti cal cwmpni i wela,” mynta fa wth y bachan.

“Otw,” mynta’r bachan, “bachan o ’aliar yw a yn mofyn gwaith ala.”

“Ia wir,” myntwn i, “cym bo fa’n cal gweid dim, os gwelwch chi’n dda i fi gal a.”

“O bla chi’n dwad, a beth yw’ch enw chi?”

“O Cwmcilocod, ser, a’n enw i yw Shoni Hoi.”

“Na wir alla i ddim, ma ’i ry lawn wir,” a dyma fa’n dishgwl yn gymws am spel fawr. “Ond,” mynta fa mwn cetyn, “i gewch waith labro’r nos gen i nes delo gwaith ’ala, os licwch chi.”

“Gora, wir, ser, achcs wy ar y pownsin teg, ser, myntwn i.”

“Os lodjins yn barod gyta chi?” mynta’r bachan nawr.

“Nac os.”

“Os pac gyta chi ta?”

“Nac os.”

“Ffor ych chi welna, bachan?” mynta’r gaffar.

“Dyma fi’n gweid yn ’anas ffor buws i, a nwnta’n werthin sto’n nw’n shiglo gyd, ond tysa nw yn fy lle i, fysa nw’n werthin dim.

“Wal, bachan pert ombeidis ych chi, a wir rych chi ar y pownsin efyd,” mynta fa wtho i.

“I ni bownd o drio shiffto rwpath iddo fa, Wyddoch bla gall a gal lodjins?” mynta fa wetin wth y bachan.

“Wy’n cretu,” mynta’r bachan, “galla ’i gal lodjins iddo fa gyta, motryp Margad.”

“O’r gora,” mynta fa, “fa gaiff grys a thrwsis a scitsha gwaith gyta fi.”

“Fa ffinda ina’r rest iddo fa ta,” mynta’r bachan.

(I’w barhau.)

(delwedd B3802d) (10 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B3803a) (17 Hydref 1896)

Papur Pawb. 17 Hydref 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF

(Ganto fa’i Unan.)

VIII. - CAEL CARIAD NEWYDD.

I ddetho i wpod weti ’ny ta John Jones odd enw’r bachan ’ny odd gyta’r gaffar. Bachan clyfar ombeidus odd y bachan efyd am bothdi nithir pishis o gani a phethach welni. Pam bysa rw ’en ddyn, ne ’en fenw, yn cal mynd i’r nefodd, fysa weti byw ’eb fod neb jest yn gwpod dim am danyn nw, rodd a’n gnithir y pishis o ganu mwya splendid a welsoch chi riod iddi nw. Rodd a’n gnithir pishis o ganu ’efyd am blant bach fasa’n cal mynd no, a rodd a’n gofalid doto yn y pisihis ta yn y nefodd on gyd. Bachan gwybotus budur odd a. Ond nit ’i ’anas a yw’n ’anas i.

Pam gwetws i a’r galfar bysa nw’n findo dillad gwaith i fi, i didiolchas i iddi nw’n deidi, ac i gynycas i lanw pobo lasad o wishci iddi nw wel o nw’n yfad.

“Na, na,” mynta’r gaffar, “wy ar yn start, wy’n yfad dim racor. I ala i’r forwm a rwpath wel dillad alla i ffindo’n y ty co i chi i’r lodjins, dewch am saith i ben y pwll nos yfori.”

“Ong gora, ser,” myntwn ina.

“Ni startwn nina ’efyd nawr,” mynta John Jones, “weti’r gaffar fynd. Wath os gweiliff mobryb ol diod arnoch chi, chewch chi ddim lodjins no, ma mobryb mor gros, ’wch chi, i’r ddiod ma.”



(delwedd B3803a) (17 Hydref 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3803b) (17 Hydref 1896)

 

Gyda bo fa’n gweid welna, dyma fa off, a dyma fina’n i ddilyn a, sbon i wth dy i fotryb. Weti ddo fa gnoco, dyma ’i yn dwad i acor y drws, ag yn gweid wtho’n ni doi am ddwad miwn, ag yn roi pob o gatar i ni ishta lawr.

“Na, dwy i ddim yn ishta, mobryb,” mynta fa, “dwad a lodjar newydd i chi otw i, os gwelwch chi’n dda iddi gwmrid a?”

“Pam wyt ti’n dwad a fa ma,” mynta itha, “a ti’n gwpod nag otw i ddim yn roi lodjins i ’en straglars wel ’yn, sy’n yfad ag yn wmladd, spo nw’n scraps ag yn flac eis i gyd?”

“Naca weti bod yn wmladd ma fa, motryb, colli’r ffordd nath a nithwr yn y twllwch wth ddwad shag yma, a chwmpo lawr oddar ben craig i ganol llwyn o ddrain a cherig.”

Wedi iddo fa a itha ddatla a’u gilydd welna am bothdi anar awr, dyma ’i yn gweid wtho i, - “I gewch chi la ma, ond cofiwch chi, tro cynta gwelo i waith diod arnoch chi i fyddwch chi’n cal mynd a’ch pac oddma streit. Ond i fysa lawer ffitach ych bod chi’n aros gyta’ch mam na’ch bod chi’n cerad y wlad wel ’yn.
Ma gen i fachgan yn ’unan na wn i ar ben bowyd la ma fa ’eno. Mawr yn gofid ni wth facu plant, gobitho fod y machgan bach i’n fyw ag yn iach.”

A dyma i yn llefain i chalon ’i, a dyma John Jones yn gweid “Noswith dda chi gyd,” a off a fa.

Dronoth dyma fa’n ala i wraig a lot o ddillad gwaith i fi; a chyta bo ’ono’n troi chefan dyma forwrn y gaffar yn dwad a lot arath, ost odd geni gwmint ag odd isha arna i.

Chas morwm y gaffar mynd yn y fynad achos rodd no dair meirch ifanc, i alws y reiny arni miwn ati nw i rwm arath no. Tair merch lan ombeidus odd merchad yn lodjins i, ond ’en rai sportlid on nw shwt. Rodd y



(delwedd G3803b) (17 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B3803c) (17 Hydref 1896)

 

ddwy ’ena yn ry standj i wilia dim sha fi, a pham bysa’r un lia yn wilia sha fi, wilia gal nithir sport ona i i’r ddwy arath odd i’n wastod.

Pam ath y forwm yn y nol, on i mas wth glwyd yr ardd yn i watchan ’i, wath achos on i weti ’i lico i’n ombeidus, merch smart, lan odd ’i ’efyd. Weti fi watchan spel no dyma ’i’n dwad, a pham ddath ’i ar y mwys i dyma ’i’n gofyn i fi – “Be chi’n feddwl am lla ’yn?”

“Wn i ddim,” myntwn i, “wi’n ddiarth ma yto,”

“Wsnoth sy o ar otw ina ma,” mynta itha, “un o shir Byrteifi wy o enedicath.”

“Os dim o chi weti dechra wilia sha neb ma yto ta otichi?” myntwn i.

“Wy ddim yn moin wilia sha neb,” mynta itha, a dyma i’n dishgwl sha’r llawr, ag yn cochi wel y tan dros i gwymad i gyd, a rodd i’n dishgwl run peth yn gwmws a sa ’i weti cal i tharo mwn stwmp.

“0s mona chi’n dicio wtho i oti chi?” myntwn i.

“O! nag wy naws,” mynta itha. Nawr weli gweld nag odd ’i ddim yn dicio wtho i, i welas i wrthi y mod i weti i licio ’i yn fudur, a licswm i gal wilia ticyn sha ’i, os nag odd rw drwmpyn arall gyta ’i, a’i wiriws nag odd dim neb gyta ’i, a ’i addws wth fatal bysa ’i yn wilia sha fi nos Satwn, wth y mod i’n becan lot arni, ond odd i ddim yn folon i fi roi cysan iddi fany, achos i bod nw’n pipan mas o’r ty yn lodjins i.



(delwedd B3803c) (17 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B3803d) (17 Hydref 1896)

 

Ddigwyddws dim nelltuol y diwarnod ny weti’n ston i’n barod i fynd sha’r gwaith. Weti fi newid yn dillad, a thaclu’r dillad gwaith on i weti gal, on i’n gweld bod y trwsis odd y gaffar weti ala i fi lawar gormod, a on i’n gwpod bod yr ’en ferched yny yn smeilan ’efyd am y men i.

Ond wedi cal pobpath yn barod, i startas i ddi shar gwaith; a wel gwetws y gaffar, cal mynd i labro geso i, a rodd i’n dwym aflan ’no. On i’n sychetig ombeidus no. Dim ond llond sten beint o ddwr odd gen i no, a on i weti yfad a gyd cyn anar y turn; a on i jest tacu wetin ston i’ n gatal.

Nos dronoth i etho i a dwy stenad o ddwr gen i, a on i weti meddwl ffor byswn i’n gweid os gofynsa rwun beth on i’n neid a nw. Pam etho i ben y pwll dyma’r gaffar yn bwrw ata i ag yn gofyn: “Beth wyt ti’n neid a’r ddwy sten na, Shoni?”

“Mynd a un o nw gal i yfad ’i wy,” myntwn i, “a mynd a’r llall otw i i gal dwr i oiri’r raw.”

On i am iddo gretu mod i’n gwitho wel injin.

“Os dim isha ona eno ta,” mynta fa, “ma gen i waith ala i chi eno, ma bachan o aliar weti matal oma.”

A dyna, alo geso i no weti’n trw’r oll fishodd fuas i no. Geso i fynd i ala ar bwys bachan piwr ombeidus. Fe netho ni bartnars a’n gilydd y noswith ’yny, y noswith gynta gwelson ni’n gilydd ariod. Geso i ngwawdd gyta fa efyd i ddwad lan i ben y mynydd bora dy’ Sul cynta ar ol ny gyta fa i weld batl cilocod. Rodd i gilog a, a chilog bachan arath i gal wmladd a’u gilydd no am bob o sofran yr ochor.

(I’w barhau.)

(delwedd B3803d) (17 Hydref 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2137a) (24 Hydref 1896)

Papur Pawb. 24 Hydref 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

IX. - YMBARATOI I YMLADD AM ARIAN.

Weti fi gal gwaith ala, a chal partnar piwr, a thwmpan newydd, a phopath welni, on i wth y modd i’r ticyn ’no; a dyma fi’n ala llythyr sha thre at y mam a nhad a’n whar, i weid mod i’n iach a chysurus, a bla on i’n gwithio a phopath, a mod i’n ala ngofia atyn nw lawar gwaith.

Dy’ Satwn, dyma fi’n cal llythyr nol or wthyn nw yn gweid i bod nwnta ’efyd yn iach a chysurus, ond bod y nad weti nafu ’i drod yn y gwaith dy’ Llun, a bod yn war ddim wth cysgu dim llyca trw’r wthnos gen y ddannodd, a bod y mam yn winad gwylit ag yn gweid bod rwun siwr o fod weti ’u ribo nw no. Dyna beth arath odd yn y llythyr, odd bod Jane, Tyclots (yn ’en drwmpan i) yn dost iawn yn y gwely oddiar dy’ Llun, a’i bod i siwr o farw, os na wellsa ’i. I bod nw weti nithir te gamil a rosmari iddi gal ??wei, ag weti prynu boxad o bils peils a grafal, a boxad o daffish llyngar iddi, ond i bod i’n pallod cwmrid dim o nw. A bod y doctor yn gwieid na wydda fa ddim beth odd i dolur ’i, os naca weti cwrdd a disapointment odd ’i.

Wn i ddim beth odd wnw, osi naoa rw ’en straglar o Sais odd a ddath ’i­bo i ala i ofon arni. Tyswn i ddim ond i well’d a’n gneid ny, er i bod ’i weti acto’n itha od shag ata i, i gesa fa gwpwl gen i spa fa’n tychan i gyd, fysa dim want arno fa i ala ofon ar ferchad bach weti ’ny. Odd ’i ddim yn dost o’n achos i, wath ’i unan odd weti’n ala i off.



(delwedd B2137a) (24 Hydref 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2137b) (24 Hydref 1896)



Rodd gofid ombeidus arna i nawr am danyn nw gyd; a fi scwenas i lythyr nol atyn nw i weid ’ny ’e fyd, a on i’n gweid yn y llythyr wth y mam am fynd i spio ’ynt Jane, a gweid wthi y mod i’n ala ngofio ati, a na licswn i ddim clywad i bod ’i weti marw.

Bora Llun, weti mam gal yn llythyr i, i ath i weld Jane, a dyna lla’r odd ’i yn y cornal yn itha tost, a dwy ne dair shawl am i phen; a wetws mam wthi wel o’n i weti gweid wthi am neid. Pyrnawn ’ny dyma i’n gwella ’eb gwmrid dim moddion na dim, ag yn twlu’r ’en shola, ag yn mynd sha ochor y mynydd i moin col o retyn i ddoti dan y mochyn.

On i’n nawr yn myn’d o flan yn stori. Beth bena am ’yny, gweti fi gwpla’r llythyre ’ny dy’ Satwn, a chymoni ticyn arno’n unan, dyma’r bachan, y martnar i, yn dwad no i alw am dana i gal dwad ma’s gynta fa am dro gal waco ticyn o bothdi, achos odd dim gwithio gyda ni nos Satwn. Weti ni waco bothdi am spel, dyma fa’n gofyn i fi,

“Dewch i miwn i’r ’otel am beint?”

“Na” wir,” myntwn i, “os dim iws i fi yfad dim, wath achos ar y condisihwn nag wy ddim i yfad dim wy’n cal lodjo mana.”

“Dewch miwn am botal o bop, ta,” mynta fa.

“Wath gan i lawar,” myntwn i, a miwn etho ni, a dyna lla buson ni stodd i’n amsar i fi fynd at y mromish. Tyswn i’n dewish yfad cwrw yno, i geswn y modd yno, waith odd pob un jest yn cynnyg talu am beint i fi, achos mod i’n ddiarth, ond yfas i ddim, ag i etho i at y mromish wel o’n i weti promisho. Pan etho i sha ty’r gaffar, dyma fi’n gwel’d



(delwedd B2137b) (24 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2137c) (24 Hydref 1896)

 

rwun wrth y ty, ag i gretas i ta’r gaffar i unan odd no, a on i’n y ngweld i wedi mynd ry bell nawr i gilio.

“Na chilia ’i ddim,” myntwn i wrtho’n unan, “i a i mlan nawr ato fa, i ofyn weliff a fod yn dda i fi gal “sub” gynto fa, gal towlu spo’r pay.”

Pan etho ’i mlan, a nabyddas i naca’r gaffar oddno, ta pwy odda, ag i fwras i ibo ddo fa sha at ffenast y bac, wel o’n i weti setlo, a weti fi gnoco, dyma’r forwyn yn dwad ma’s ato ’i wel odd ’i weti promisho, ond cyn bo’n ni’n cal wilia dim, dyma’r bachan arall ’ny mlan aton ni.

“Pwy yw wn sy’ da chi?” mynta ’i.

“Naca ta fi ma fa,” myntwn i, “bothdi’r ty ma gwelas i fa.”

“O, wy’n napod chi nawr,” mynta ’i wrth y bachan, “beth i chi’n moin ma ’eno yto, a fi weti gweid wthoch chi nos Ferchar y mod i weti roi ngair i fachan arath?”

“Dwad i weid wthoch chi, Miss Ifans, on i,” mynta fa, “ta i un weti cilo o ffor’ plentyn oich weti roi’ch gair.”

“Wyt ti weti dwad i weid celwdd wrthi ta,”, myntwn i. “Os bosib gadewch chi ddo fa i nwlu off achos celwdd welna, Miss Ifans,” myntwn i wetin wrthi itha, “wath itha gelwdd ma fa’n weid dyna chi, cretwch chi ne bido.”

“Pwy wetws wthoch chi ta i ’wn o’n i weti roi ngair?” mynta ’i wrtho fa.

“Fa i unan wetws wrtho i,” mynta fynta.

“Dyna gelwdd arath yto”, myntwn i, “welas i mo fa riod a’n llycid cyn i weld a fan ’yn ’eno.”

Nawr dyma fa’n winad, achos odd a’n gweld i unan yn colli’r pawl, a dyma fa’n gweid wtho i,



(delwedd B2137c) (24 Hydref 1896)

 

 

 Text

Description automatically generated

(delwedd B2137d) (24 Hydref 1896)

 
“Oni bysa ta wth dy’r gaffar i ni was, a bydda ’en fwstwr, chesach chi ddim gweid mod i’n gweid celwdd racor nag unwath, cyn byswn i’n bwrw’ch danadd chi i’ch gwddwg chi, was.”

“Os galsach chi,” myntwn i.

“Nawr, cerwch nawr ta,” mynta Misis Ifans, “ne dyma fi’n galw ar y mishtar i’ch ala chi.”

“Os dim isha chi,” mynta fa, “wy’n myn’d, a tasach chi’n cisho gen i aros, roswn ddim, wath i welas rai’n cal i diwadd ar decach lle na sy ar ych gwymad chi.”

“Ond cofia di, was,” mynta fo wetin wtho i, “’i fydda i gyta dy lycad di yto.”

“I fyddi i gyta dy lycad ditha,” myntwn ina nol, ond o’n i ddim yn gwpod pryd ’yny byswn i gyta’i lycad a mor gyntad ag o’n i.

Weti’r ’en fachan i fyn’d, dyma ’i’n gweid wrtho i, ag yn ochnido ar nail, na alsa ’i ddim wilia dim sha fi’r noswith ’yny, bod yr ’en fachan ny weti ala i “stwne i’n grac,” ond bysa i’n wilia sha fi nos drosnoth; a weti fi roi doi gysan iddi ’i, etho i sha’n lodjins.

Bora dy’ Sul, am bothdi wech o’r gloch, dyma y martnar yn dwad i ddishgwl am dana i, ag on i weti cwnu ag yn barod i start; a dyma ni yn starto ’i sha phen y mynydd lla’r odd y batl i fod. Rodd, y cilog gyta fa o tan i got. Weti ni gerad lot fawr, dyma ni’n cyradd pen y mynydd, ag yn gwel’d lot o foys no’n aros i ni ddwad.

“Nothoch chi ddim ond cyradd mwin amsar; tysach chi ddim ond ala dwy fynyd arath, i fyswn i’n cwnu’r arian.”

Rodd cilog gyta’r bachan odd yn gweid welna o dan i gesal, a’r bachan fu’n sefyll powl a fi noswith cyn ’ny am Miss Ifans odd



(delwedd B2137d) (24 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2137e) (24 Hydref 1896)

 

y bachan ’efyd, ond wetas i ddim wrtho pryd ’yny.

“Team is yp,” mynta rwun no, a dyma martnar i a’r bachan yn tw­wlu’r cilocod lawr at ’u gilydd, a dyma nwnta’n dechra pitsho miwn iddi gilydd wel doi dariar y co.

Weti nw wmladd am bothdi anar awr, dyma cilog y martnar i yn bwrw cilog y bachan dan i atan spo fa’n dishgyn noi ar i gefan yn llipa wet clwhyn, a; dyma’r rai odd yn disgwl ar y batl yn oclapo dilo wel sa’n nw mwn steddfod.

“Ma’ch cilog chi,” myntwn i wth y bachan (gal i byrfocio fa, on i’n gweid ’ny), “mor llipad a wip-shon-walbi.”

“Paid a bothrach,” mynta fa, “ne naf fi ditha wel wip-shon-walbi miwn bothdi shec.”

“Dim peth tepig,” myntwn i.

“Dod sofran lawr ta, a chwetin i triwn,” mynta fa.

“Gai di fenthig sofran i ddoti lawr gyta fi, Shoni,” mynta martnar i.

“Ong gora,” myntwn i, “i cai di ddi nol nawr jest.”

“On i’n gwpod net byswn i’n enill, wath o’n i’n itha cyfarwdd ar y ngaffls. I chi, walla’n cretu mod i nawr yn bragio’n unan; ond otw i ddim; wath nid dim ond y fi odd yn ’i weid a. Fuas i shwrna yn boxo a Wil Sambo yn y shaw a ffair Castallnedd, a odd a’n gweid wthyn nw’n no, mod i, a styriad ta bachan o withwr on i, yn gredit, wel, boxwr i South Wales.

(I’w barhau.)

(delwedd B2137e) (24 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2138a) (31 Hydref 1896)

Papur Pawb. 31 Hydref 1896.
SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

X. - PERSONOLI’R LADI WEN.

Nawr am racor o hanes y fatl.

Dyma fachan yn dwad y mlan shag ata i, ag yn gofyn i fi: “Gwddoch chi sha phwy i chi’n mynd i wmladd, bachan diarth?”

“Na wn i,” myntwn i, “a dwi a ddim ots gen i efyd.”

“Wal,” mynta fa, “sha Dic Shan, a fydd radd i chi i smarto ’i efyd, os ych chi’n meddwl cwnu’r arian, was.”

“Dim ots gen i,” myntwn i, “to fa’n Dic Shon, i bwna i beth o fa nawr.”

Erbyn ’yn, r’on nw­ ’no weti gneid y ring yn barod, a dyma Dic Shan yn bwrw miwn iddi chenol dan fwcwth a roro wel tarw.

“Nawr, Shoni Hoi, os wyt ti’n barod, dera mlan,” mynta fa.

“Ol right,” myntwn i, a miwn i’r ring a fi a bachan y martnar geno i wel andlar.

Dyma fa’n dechra nithir i shapsa o mlan i yn y fynad, a mwn ticyn bach, dyma fa’n cynyg wad ata i, ond on i ry gwic iddo fa. Dyma fi’n twlu i wad a off on llaw dde, ag yn i gyradd a nwrn with stodd a’n ddishgyn ar y y llawr wel clotasen. Welna pasws y rown’ gynta.

Pam dath i’n amsar dyna fa’n cwnu gal wmladd rown arath. “0, welna iafa,” mynta fa.

 

(delwedd B2138a) (31 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2138b) (31 Hydref 1896)



“Ia, ia,” myntwn i, “dera di mlan, ma racor ta fi gal.”

Dyma fa’n dwad, ag rodd y blac ei perta wlsoch chi riod gynta fa, a dyma fa’n dechra shaffo o mlan i wetin, ond nawr wrth i fi fod yn sculus, dyma fi’n cal clatshen yn ochor y men ston i’n gweld y sers i gyd, ag yn gweld y mynydd yn troi’n rown’ abowt wel wil.

Weti fi weld pethach yn stopo troi, dyma fi mlan yto.

“Dyna un i ti,” myntwn i, “ond wy mynd i ddangos ticyn o dwtch nawr i ti,” a on i weti mynd yn winad efyd nawr.

“Dyw bragwr byth yn gampwr, dera yto,” mynta fa.

Nawr dyma ni’n dechra ar y drytydd rown’ a on i’n watchan yn gilydd nawr wel doi leidir. Weti i ni shaffo a shaffo ar yn gilydd am spel, dyma fi’n i gyradd a yn fon i glust stodd a a’i andlar mas o’r ring yn garlibwns; a dyma nw gyd no, yn gwiddi: “Hwra! O! Shoni Hoi a fa,” a dyma’r bachan odd yn catw’r arian yn dwad a nw i fi, ag yn gwedd wtho i: “Wrwch, bachan, chi pia nw’n itha teg.”

Wy nawr bown o gamol y boys odd no, i actson wel trwmp, i roison itha wara teg i ni’n doi. Wetws dim un o nw anar gair gyd a buson ni’n wmladd, rodd pob un no mor sifil a tysa nw’n grondo ffirad yn pyrgethu, stodd y batl yn cwpla.

Weti i Dic Shan gal i fwrw mas o’r ring, dyma fa’n cwnu mwn cetyn, ag yn taclu, ag yn citsho yn i gilog, a off a fa gwmint alsa fa; ond welsoch chi ddim shwt shapsa riod acha doi.

Rodd yr ’en gilog jest mystyn i goisa; a fynta unan a’i ben acha warp i gyd; a rodd a welni mwn tair wthnos weti ny.

I ddetho yn enwog ombeidus no ar ol y
 

(delwedd B2138b) (31 Hydref 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2138c) (31 Hydref 1896)


batl yny, a rodd pob un yn gweid mod i’n wr da, ag am dano i a chilog y martnar odd y wilia jest i gyd no. Dim ond un ’en slebyn glywas i’n wilia’n fach am dana i o gwbwl, a wnw odd ’en byrgethwr y Sentars odd no. Mwn bothdi fis ar ol y batl, dyma fa’n dwad miwn i’r ty lla on i’n lodjo, a weti ishta lawr a wilia’n gall am botbdi’r tywydd a’r ’en ddyn a’r fenw a thwlu llycad nawr-ag-y-man ata, dyna fa’n gweid wtho i:

“Chi yw Shoni Hoi, oni ta?”

“Ia,” myntwn i.

“Wal, Shoni Hoi,” mynta fa, yn fawreddog, “wy’n clywad ych bod chi’n fachan drwg iawn!”

“Beth glywsoch chi, ta?” myntwn i.

“Wal,” mynta fa, ag yn widdo i unan wel llyffant, “clywad ych bod chi’n tori’r Sabbatha, trw fynd i’r lan i’r mynydd ’na, i ddoti cilocod i wmladd am arian ag wmladd ych unan am arian, a wara pic-an-tos, a -”

“Nawr, jaca ’i,” myntwn i, “beth ma’r en slebyn w. Wyt ti’n cretu nag wy ddim cyslad bachan a ti spo, achos bo ti’n taclu rw ddillad duon a chrys gwyn, a legins bricha, a phethach welni, ond sefi di ddim anar rown i fi, bachan. Wy’n cal y marchu efyd, bachan, gyda pobun, otw! Ddo, ddywetha, ceso’i gynyg i fynd yn feirniad acha cwrsin match gwingod, peth na chest ti riod, a pheth na chei di byth efyd, bachan, a beth wyt ti’n wilia?”

“Usht! usht!! Dim un gair racor; ne ma chi’n cal mynd o ma mwn mynad. Dir yn cato ni! Os dim cwilydd arno chi, roi shwt dafod a yna i’r gwinitog? Ddyla fod, gwela i.”

 

(del
wedd B2138c) (31 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2138d) (31 Hydref 1896)


Nawr, wetas ddim nol wth yr ’en fenw, wath odd ’i’n’ dishgwl yn itha safedj; a’i dwrn ar lan; ond nid ofon i dwrn odd arna i shwt, ofon odd arna i, bysa ’i yn y nwlu mas o’n lodjins, ne fyswn i’n gweid wthi am i jaco ’i efyd.

Tysa chi ddim ond gweld golwg yr en winitog, i warddsach spo chi’n shig1o; rodd i wymad a weti mynd mor wynad a shalc, ag yn dishgwl mor urtad a buwch arna i. Pam dath a dicyn bach ato’i unan, dyma fa’n citcho yn i het-bob-cam (het-bob-cam odd a’n wishco’n wastod), ag yn gweid, “Prydnawn da chi,” a off a fa.

Weti ddo fa fynd, dyma’r en fenw yn mynd i rwm arath no, ag o’n i’n i chlywad ’i’ngweid no: “Paid a llefan, scenas; nit arna ti odd y bai, pait a llefan,” on i’n clywad un arath no, yn apad snwffan. “Ddaw a byth yma yto, alwch yr hen Shoni na off; alwch a off.”

Ddiallas i ddim o’r apad, ond un gair, a wnw odd “pay.”

Ren scenas hena’ odd yn llefan no, ag yn gweid am yr ala i off. Rodd’ ’i isha cal’ y gwinitog yn wr; a rodd ’i’n cretu mod i weti distrwa i thywydd ’i, ond odd dim t’wydd gyta ’i o gwbwl, wath i briotws y gwinitog mwn cetyn weitin sha un arath a lot o arian genti.

Beth bena’ am ’yny, on i’n gwpod nawr na cheswn i ddim aros yn ’ir no, a on i’n cofio net am denyn nw’n nithir mwngci o ana i; a on i bown o nithir iw drio i gael ’u talu nw nol; ond pw dric neswn i?

Weti fi byslo spel, dyma fi’n cofio, i fi clywad nw rw noswith yn wilia am bothdi bod rwun no weti gweld y ladi wen; a bod i ofon i’n ombeidus arnyn nw. Weti fi

 

(delwedd B2138d) (31 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2138e) (31 Hydref 1896)

gofio yny, dyma bwynt yn taro i men i wel ergyd o ddryll, a dyma fi’n gwpod pwy dric neswn i.

Acha dy Mawrth odd ’yn; a nos Iau weti ’ny, rodd y tair hen scenas yn mynd sha’r cwrdd wel arfadd, a odd i’n noswith a thicyn bach o ola liad gyta ’i. Oni weti pyrtoi popath yn barod; a on i nawr yn aros yn amsar no. Pam o nw am bothdi ddwad o’r cwrdd, dyma fi’n gweid wth yr ’en fenw, “Wy’n myn’d mas am dro at Sam Lewis, Missis Morgans.”

“Gora,” mynta itha, “Pidwch ala’n ’wyr,”

“Ala i ddim,” myntwn ina, “ag off a fi.

Sam Lewis odd enw y martnar, wel chi, ag on i weti gweid wtho fa shwt on i mynd i neid i gyd, a on i weti gweid wtho fa efyd, am ddwad a sheet i wely gyta fa i gwrdd a fi i bwys bwlch y ca odd rwng ty lla’r on in lodjo a’r ewl.

Pam cr’yddas i’r bwlch, dyma Sam yn gofyn i fi “Lla buo ti, Shoni, wy’n aros i ti os cetyn?”

Yn lla ’i apad a, “Des ti a’r sheet genti?” ofynas i.

“Do, wra ’i,” mynta fy’nta.

Weti doti’r sheet am dana i, dyma ni’n doi’n mynd i gwato spo’r ’en ferchad yn dwad or cwrdd. On i’n napod nw net, cyn bysa nw’n dwad o getyn, wath o nw’n arfadd canu ima i gal catw’r ofon off. Rodd ofon popath arnyn nw, ag i rydan i farwolath o ffor llygotan.

Beth ben am yny, weti i ni’n doi aros ticyn bach dyma ni’n clywad y canu mwya ’yfryd a glywsoch chi riod.

Wth i clywad nw’n canu mor ffeinad, i fuas i jest ag anghofio gnithir y tric, ond pam on nw’n canu: “Oll yn i gyna gwynon,” jest ar y mwys i, dyma fin bwrw mas i’r ewl o’u blan nw; a dyma nw’n roi pob o screch, stodd y ddiar yn crynu; ag yn cwmpo i’r llawr wel tair ffroisan; a chyta yny on ina, a martnar, yn i cherad i wel doi filgi.

(I’w barhau.)

(delwedd B2138e) (31 Hydref 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2139a) (7 Tachwedd 1896)

Papur Pawb. 7 Tachwedd 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF

(Ganto fa’i Unan.)

YSGRIF XI.

Pam etho i nol wetin shan lodjins mwn bothdi ddwyawr, rodd y ty’n ola i gyd, ag yn llawn o ddynon a mynwod wel sa cwrdd no. Peth cynta glywas i no weti mynd miwn trw’r drws, odd un yn gweid,

“Ta pwy bena odd a, i ddylsa gal i dransporto.”

“Na,” mynta rw fenw no, “ma i dransparto ry dda iddo lawar, i ddylsa gal i groci a’i shibleto weti ny.”

Gyta i bod i’n cwpl gweid welna, dyma’r ’en fenw’n dwad lawr o’r llofft, ag yn gweid,

“Wyn cretu cewn ni catw nw tro ’yn yto.”

“Da iawn, da iawn wir!” mynta lot no run pryd.

Mynta un arath: “Rych chi’n lwcus ombeidus na chas i ffitshis i llawn afal arnyn’n nw, ne alsach i colli ’nw rwng ych dilo, wath en rai budur yw’r ffitchis.”

“Ia” wir,” mynta’r ’en fenw, “en rai cas i nw; ond wy ddim yn cretu ca nw racor o ffitshis na geso nw, wath i netho i iddi nw yfad pobo fasnad cryf o de meint, a llyngcu pobo bilsan o’r pils geso i gan Dr Jones pam o’n i yn y blast slawar dydd; a phan ddetho i lawr nawr o’n nw’n cysgu’n dawal, ag yn wsi’n neis digynnyg.”

“Da iawn, da iawn wir,” mynta nw no gyd, a rw wilia twp welna fuws gyta nw no sbo ’i weti anar nos, a fina’n grondo’n dawal arnyn nw, ag yn disgwl mor wirion a dafad, ond be’ sa ’nw’n gwpod?

Y pip cynta geso i an’ yr ’en ferchad ny wetyn, oedd nos Satwn. Dwad i gal sport am y men i’n taclu gal mynd i garu o’n nw efyd; wath o’n i byth yn ’u gweld nw, a lla pam bysa isha rw sport arnyn nw, a lla bysa nw’n cal dim, dyma fi’n gofyn iddyn nw:

(delwedd B2139a) (7 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2139b) (7 Tachwedd 1896)

 

“Pwy bryd i chi’n mynd yto i gwrdd a’r ladi wen?”

Yr arcol anwl, dyna shom geso nw, i ath gwymeta nw’n goch wel y tan, ag o’n nw’n winad gwyllt ata i o’n i’n napod ny net.

“I weta i wth y mam bod ni’n ffilu cal llonydd gyta chi,” myntiar scenas ’ena wrtho i.

“Na pitwch,” myntwn i, “jocan o’n i, o’n i’n meddwl ddim drwg.”

“Pitiwch chi a jocan a ni,” mynta ’itha, “dos mana’n ni’n moin ych jocs chi, na neb o’ch short chi,” a dyma nw offn ych tair, a welna i geso i lonydd gyta nw wetin.

Weti fi gwpla taclu, i etho i sha’r ’otel at y martnar gal potel o bop, a chal spel nes bysa ’i’n amsar i fi fynd i ddishgwl am y nrwmpan. Pam ddath i’n stop tap ll etho i wel arfadd i ddishigw’l am dani, a rodd itha ’dyd yn dishgwl i fi ddwad, waith chaso i ddim enoco cyn bo i’n dwaull i’r ffenast i weid wrtho i am ddwad miwn, a welna odd i”n gnithiir jest yn waatad oi’r deolirai. Tywydd net odd gen i. Rodd nai yn gweid i bod ’i’n blongo i wraig y gaffar, a ta achos ’yny o’n i weti cal dwad i ala’r dydd lla’r nos, a ta peth nesa geswn i odd mynd yn fishtar aliars. Wy’n gwpod dim am bothid bethach welna, ond wy’n gwpod y mod i

 

(delwedd B2139b) (7 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2139c) (7 Tachwedd 1896)



weti dwad yn ffrynd. ombeidus iddi, a itha i fina ’efyd, a o’n i weti solfo wilia ’i y noswith ’yny am brioti. Weti ni wilia sha’n gilydd am bothdi lot o bethach, ag i fi weid wrthi am dric y ladi wen, ag iddi itha weid wrtho ina am dricsis nath itha yn Caio, dyma fi’n gofan iddi’n sytan right:

“Apetwch chi un cwestiwn ofyna i chi, Miss Ifans?”

“O! gnaf, gnaf, os wy’n i wpod a, gofynwch chi,” mynta itha.

“Wal, dyna o’n i mynd i ofyn i chi,” myntwn i. “Os
 golwg gyta chi arna i?”

“O’s,” mynta i, “wy’n ffryndach i chi na neb yn y byd,” a dyma doti braich am y ngwddwg i, ag yn roi lot o gysuna i fi.

“Wal, dyna ta,” myntwn i, “ni briotwn yn gwmws os joinwch chi.”

“Na,” jocan i chi,” mynta ’i.

“Naca wir,” myntwn i, “wy’n wilia o brysur nawr.”

“O! wy ry ifangc i brioti nawr,” mynta ’i wetin, a’i llaish ’i’n orynai wel llaisha rw ’en fenw ’en.

“Fyddwch chi ddim ry’ ifanc yndolig ta,” myntwn i, “wath ma lot yto rynto ni a yndolig.”

“Walla na fydda i,” mynta i, a dyma i’n pwyso ’i gwymad ar ’y mrest i, wel rw blentyn



(delwedd B2139c) (7 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2139d) (7 Tachwedd 1896)



bach yco.

“Wal, dyna ta,” myntwn i, “ni briotwn dy Satwn yndolig, yn eclws Llanwno, ag i ewn sha Chardydd wetin, a ni drulwn yn mish mel ’no trw’r dydd, os oti chi’n folon?”

On i’n erfyn iddi apad, ond nath ’i ddim, ond werthin a chrynu gyd, wel sa’i jest sythu gen anwd. On i’n ffilu diall ar y cynta beth odd arni, ond wy’n gwpod nawr, ta weti mynd i stwmp odd i wrth feddwl y bysa i’n Misis Hoi yndolig, a naca werthin am y men oddi i, ond werthin achos ’i bod i’n falch ’i bod i’n ca’l gwr.

Beth bena am ’yny, i wellws o’i stwmp mwn bothdi dic; ond af fi ddim i scwenu beth rynto ni gyd no; dim ond am bothdi ffor ffrison ni, dyna gyd. Rych chi’n gwpod net na phr’otson ni ddim weti ’ny wel on ni setlo, achos ni ffrison, a nawr, wy mynd i weid wtho chi ffor’ ffrison ni. Rodd ’i weti gweid lawar gwaith wtho i bod ’i thad yn catw ffarm fowr yn Caio, shir Byrtifi, a ta dim ond ’i a dwy war iddi, odd o blant gyta fa. Bod ’i war ena weti priodi a bachan o was, ag iddi thad roi iddi war pam priotws ’i, werth ucan punt o ’stafell, a’r fuwch ora odd ar y ffarm, ag y bysai tha’n ca’l ’yny efyd pam priotsa itha, bod ’i thad weti gweid ’ny lawar gwaith. Weti ’ddi ddwad o’i stwmp, a wilia am bothdi byrnu’r trimins prioti: shwt fotrw, a shwt gipar, rybana, menyg, nisheti shitan, et, gwn, a scitcha, &c., &c., a shwt showt o ddillad priotas o’dd raid i fina byrnu trwsis
gola, wasgod wen, a chot ddu, lastig seid, a bowlor et, crys gwyn, a legins bricha, a stand yp collar, &c., &c. Dyma i’n gweid wtho i,

“Ar ol i ni brioti, i ewn ni sha Cio, at y nad, i ala wthnos ne bythewnos.”

“Ewn,” myntwn ina.

“Weti ’ny, ni ddew na’r ’stafell a’r fuwch nol gyta ni yma.”

“Dewn,” myntwn ina.

“Fydda i’n dwad nol yn y tren, a’r ’stafell efyd gyta fi a gewch chitha ddwad ar yn ol i a’r fnwch.”

“Ong gora,” myntwn inna’n itha sifil.

 

(delwedd B2139d) (7 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2139e) (7 Tachwedd 1896)

“Gwetwch wtho i, shwt dewch chi a’r fuwch?”

“O!” myntwn i’n itha sifil wetin, “i ddwa i a’r fuwch yn net, fi nida i ar ’i chefan ’i.”

“Beth! nido ar gefan y fuwch, wetsoch chi?” a chyta ’i bod ’i’n gweid welna, rodd i’n nido mas o ngol i, i genol y ty, wel cath o dan.

“Ia,” myntwn i, “fuas i ar gefan tarw shwrna, be sy arnoch chi?”

“Ar gefn tarw siwr? Cerwch chi ar gefan tarw yto, os mynwch chi. Chewch chi ddim mynd ar gefan y muwch i, ma pyrgethwrs a ffiraton yn blongo i fi o’r ddwy ochor, a wy ddim yn ’i gwmryd a!”

Nawr, wth i gwel’d i’n myn’d mor winad, ag yn wilia mor down plane am ddim byd, fi dwymas inna dicyn bach nawr.

“Wal,” myntwn i wthi, “trw bo chi’n myn’d i fragan a wilia, rw ein wilia fforna, ma pyrgethwrs a ffiraton yn blongo o’r ddwy ochor i fina efyd.”

“Tysa twsogion a brenhinodd yn blongo i chi chelsach ddim myn’d ar gefan ’y muwch 1

“Welna otych chi’n wilia ta, iafa?” myntwn i.

“Ia,” mynta ’itha yn ’itha standy.

“Os ta welna i chi’n wilia ta, well i ni jaco i nawr, a thwlu’r briotas yn fad job?”

“Ia, ia, jacwch chi ddi, os mynwch chi, smo chi ga’l gnithir sport ona i ta beth,” mynta i, a dyma i’n llefan wel bapa.

Nawr dyma drws y rwm yn acor, a dyma ’r gaffar yn dwad miwn, a ffon fowr yn ’i law, odd yn ddicon o bost clwyd.

“W - wyr bach,” mynta fa’n wredd, wel arfodd, “beth yw’r nois sy ma’r amsar yn o’r nos?”

“Gnithir sport ona i ma fa, mynta ’i, dan llefan.

“Naca wir, ser,” myntwn i, “weta i ffor’ odd ’i nawr.”

“Os neb yn moin dy glepar di, Shoni Hoi, ’ma,” mynta fa, “cera ma’s nawr, ne ’ma ti’n i cha’l ’i,” a dyna. fa’n cwni’r ffon.

(I’w barhau.)

(delwedd B2139e) (7 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2140a) (14 Tachwedd 1896)

Papur Pawb. 14 Tachwedd 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)
XII. - NEWID EI WAITH A’I GARIAD.

Weti’r en gaffar weid wtho i am fyn’d, a chwnu’r ffon ny, on i’n gwel’d nag o’dd dim croiso i fi aros racor ’no wetin, a thrw ’yny, etho i ddim i ddatla racor a fa, i etho i wel gwetws a. Wth fyn’d shwt, “Ffarwel Miss Ifans,” myntwn i, “ddwa i ddim ma yto sbo chi’n ala’n moin i.”

“Gora,” mynta itha, dan snwffan, “roswch chi sbo fi’n ala ta,” a welna madewson ni.

Meddwl ala ofon arna i o’dd yr en gaffar sposo. Tysa fa ddim ond ’y mwrw i o’r ffon ’ny, gesa fa weltan gen i ys bysa fa’n twmlo, wath dodd dim busnas gyta fa, ddwad rynto i a’n wedjan. Wn i ddim ffor etho i sha’n lodjins yn y byd, wy ddim yn cofio mod i weti gwel’d na chlywad dim byd.
On i weti ca’el yn sylto, ag on i’n with i gyd, a ddim yn gwpod ffor gnelswn i na dim. Dronoth, i rosas yn ty trwr dydd. On i weti ca’l ’y ngwawdd i ddwad i wel’d batl doi dariar ar y mynydd, ond etho i ddim. Bothdi naw o’r gloch nos Sul, dyma ren fenw’n lodjins yn gweid wtho i,

“Rwy mwn gofid budud [sic; = budur] trw’r dydd, Shoni Hoi, a ma’n ddrwg ombeidus geny’ bod y peth weti dicwdd.”

“Be sy weti dicwdd, ta?” myntwn i, “on in sylwi trw’r dydd bod rwpath arnoch chi’n oto nag arfadd.”

“O’s wir,” mynta itha, dan rwto ’i dilo yn ’u gilydd, wel shopwr, “ma cwniint o ofid arna i na alla i ddim gweid wthoch chi

 

(delwedd B2140a) (14 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2140b) (14 Tachwedd 1896)



faint. Fi olchas y’ch crys gwaith chi neithiwr, a dotas a ma’s ar y lein i sychu, a chyn myn’d i’r gwely i etho iddi moin a i’r ty, ond rodd rwun weti ddwcid a. Yr unig grys gwaith o’dd gyta chi o’dd a efyd, ond alswn i ddim orwtho, ma’r Mawradd yn gwpod.”

“Pitiwch a ito,” myntwn i, “ost o’dd fwy o’i isha fa ar wna nag o’dd arna i, “wy’n itha bolon iddo fa ’i ga’l a, bryna grys newydd fori.”

“Na, na,” mynta itha, “ma raid i chi fyn’d a chrys Ifan ni i’r gwaith fori yn ’i la fa, trw bod y peth weti dicwdd, ond mawr shwt beth.”

“Os mona i’n myn’d sha’r gwaith fori,” myntwn i, “wy weti ffrio a’r gaffar.”

“O! O!” mynta ’i, a dyma ’i’n dishgwl i’r tan am spel fawr, “am beth ffrisoch chi heno, dyn?” mynta ’i, mwn cetyn mawr.

“0, busnesa yn y musnes i o’dd a,” myntwn inna, a dyna gyd ga’s ’i.

’Wel gwetas i wrthi, etho i ddim sha’r’ gwaith dy’ Llun o gwbwl; rodd isha prynu crys arna i, a isha ca’l gwaith mwn pwll arath arna i efyd.

I etho i ddishgwl am waith peth cynta sha phwll No. 2, a weti ca’l gafal yn y gaffar ’no, a gweid ’y musnas, a phwy on i, a phethach, dyma’r gaffar yn gweid wtho i,

“O! ia, wy weti clywad caritor da i chi wel oliar, dewch yma fori, gewch fyn’d i ala i’r wech.”

“Wy’n fachan sy’n enill ’y ngaritor yn mobman,” myntwn i.

“Stim dowt, stim dowt,” mynta fynta, ag off a fa sha’r offis no.
 

(delwedd B2140b) (14 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2140c) (14 Tachwedd 1896)



Weti fi ga’l gwaith, a shwt gamoliath welna, on i wth ’y modd i’r ticyn yn myn’d nol sha’n lodjins ag wth fynd no i byrnas grys gwaith yn lla’r un odd weti ca’l i ddarna i nos Satwn. Fuas i ddim on lodjins wetin trw’r dydd, stodd Sam Lewis, ’y martnar, yn dwad i mofyn i ma’s am dro noswith ’ny.

Pan ddath Sam Lewis i ddishgwl am dana i, on i’n darllan yr anas sy’n gweid ffor o’dd Dalila yn wara ’i thricsis a Samson, slawar dydd, a on i’n gwel’d ’y mod i ni chal ’i run shwt a fa’n gwmws gen yn wedjan, a on i’n ffili pido colli dagra wth feddwl ’ny.

“Shoni, bachan, be sy arnat ti’n llefan welna, cwn dy galon, paid a bod shwt en fapa, bachan?”

“Smona i’n llefan, Sam,” myntwn i, “darllan yr anas galarus am Samson on i.”

“On i meddwi dy fod di, beth oit ti’n pido dwad sha’r gwaith eddi? A lla buo ti ddo?”

“Smona i’n gwitho racor mana, wy weti ffrio a’r gaffar, a wy’n myn’d i ala, fori, i No. 2,” myntwn i.

“Pait a bod yn ddwl, ro’dd a’n gofyn i fi eddi am danat ti, dera i’r gwaiith fori.”

“Na, ddwa byth,” myntwn i, “tawn i’n gorffid byta ngap!”

“Bachan, bachan, ’beth a’th rynto chi, ta?”

“Busnesa gormod yn y musnas i na’th a,” myntwn i.

“Weti bod yn ddishtaw am spel, “Dwi di ma’s i waco ticyn?” mynta fa.

“Dwa,” myntwn inna, a ma’s etho ni ston ni wth y fan buo ni’n wara’r ladi wen.

Pan detho ni fany, dyma Sam yn stopo’n sytan right, ag yn gweid wtho i,
 

(delwedd B2140c) (14 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2140d) (14 Tachwedd 1896)

 

“Gwed, nawr, i ni ddicon pell, beth fuws rynto ti a gaffar No. 3?”

A wetas i bopath, ag am bothdi ffor buws ’i rynto i a’n wedjan a phopath. Weti iddo fa gal clywadi popath i gyd welna,

“I serfast a’n right,” mynta fa, “a ma isha ti nithir rw dric a’i forwm a yto.”

“Os,” myntwn i, “ond pwy dric naf fi?”

“Cwnu wedjan newydd a speit iddi, bachan, Betsi Twm Ddwywath, partneras yn wedjan i, wyt ti gwpod.
Ma gen yr en Domos Tomos ’i thad lot o arian yn y banc, a restar fawr o dai yn Pontpridd ne rwla fforna. Ma Betsi, efyd, yn secur eb neb gyta i, ag i ddota i’n wedjan i witho tywydd i ti, ag i naiff ’ny efyd, achos ma Betsi yn indro shaaw arno ni i wilia’n gilydd.”

“Wyt ti’n folon welna, ta?”

“Otw i,” myntwm i, “wy’n itha bolon.”

“Ma consart nos Satwn nesa, yn Pontypridd, a ma Eos Cwmbwlat yn canu no, ag i ewn ninna no, ag i gaiff yn nrwmpan i ddwad a Betsi gyta ni ’no, wyt ti n wel’d?”

“O! otw ’net,” myntwn i, “cofia di neid wel wyt ti’n gweid, ta.”

“Paid di ito na i, gofala di fod yn cwrdd a’r train mwn amsar nos Satwn, dyna gyd wy’n weid,” mynta fa, a chyta ’yny ro’dd a off.

Weti fi ga’l y ticyn pay o’dd yn dwad i fi o No. 3 nos Satwn, i startas i ddi sha’r stashon ga’l cwrdd a’r train, wel on i weti setlo a martnar nos Lun cyn ’ny. Ro’dd Sam no’n aros i fi wth y glwyd.

“Ma popath yn right,” mynta fa’n ddishtaw, “fyddan yma’n y fynad jest.”

“Dera, ta,” myntwn i, “ga’l cwnu pobo dicat iddi nw, ag wth bo ni myn’d mla’n at y stashon, pwy welsan ni wilia gilydd ’no ond Dic Shan a Miss Ifans.

I etho i mwn stwmp. Pam gwelws ’i fi, i gochws wel y gwa’d, ag ro’dd Sam yn gweid ’y mod inna weti cochi wel y gwa’d efyd; ond beth bena am ’yny, i geson lonydd gen i wilia faint fynsan nw, etho i ddim nacos i nw.

“Ni gwnwn bobo ddoi dicat,” mynta Sam.

“Ia,” myntwn inna, a welni gnethon ni, a pham on i’n dwad ma’s o’r stashon, dyma Sam yn gweid yn ’y nglust i,

“Dyco nw drwa fanco, dera i fi ga’ dy introdiwso di iddi nw.”

Pam detho ni ar i pwysa nw, dyma Sam yn gweid wthi nw,

“Wy’n falch bod chi weti dwad mwn amsar; dyma martnar, Shoni Hoi.”

“Miss Jones a Miss Tomos,” mynta fa, wetin, wtho inna.

(I’w barhau.)

(delwedd B2140d) (14 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2141a) (21 Tachwedd 1896)

Papur Pawb. 21 Tachwedd 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF

(Ganto fa’i Unan.)

XIII - YM MHONTYPRIDD.

“Gad dy brangs, Sam, a phaid a wali walocs,” myntwn i, “ma’r ddwy soenas yn y napod i net; ond oti chi ferchad?”

“Otin yn net,” mynta nwnta, dan werthin.

“Rodd Sam yn gweid nos Ferchar ta un doniol o chi, ond nawr wy’n gweld yny ’n unan,” mynta Betsi, dan werthin wetin.

“O,” myntwn i, “ma Sam a fi’n ddoi drwmpyn, w chi, a ma fa’n cretu mod i’n bopath weti ny.”

Welna dechrison ni wilia gynta, ag on ni bob cam ston ni yn Pontypridd; wth weid a tysa ni’n napod yn gilydd yriod. Pam ddat’h y train dyma ni’n pedwar yn bwrw miwn i r un compartment gyta’n gilydd, wel lot o ddefid.

Weti’r train i starto, i catwas i nw i werthin bob sam ston ni yn Pontypridd, wth weid storiais am y tricis on i yn neid a, mam slawer dydd, ag am bothtdi ffor’ etho i ar gefan y tarw a phethach, o’r fath.

Pam cyriddson ni steshon Pontypridd, i ddishgynson, ag off a ni’n gwmws at lle on nw’n catw’r consart no.

“Nawr Shoni,” mynta Sam wtho i, “wyt ti’n gallid darllan; dishgwl ar papur na faint sy dalu am gal myn’d miwn.”



(delwedd B2141a) (21 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2141b) (21 Tachwedd 1896)



Rodd papur y consart yn ongad many wth y drws. Weti fi ddishgwl arno am dicyn bach, dyma fi’n darllan iddi nw: “Blan sedda, 3s; ail sedda, 2s; ol sedda, 1s; programmes 1c.” “Wal,” mynta Sam, os oti chi’n folon, ni ewn miwn i’r programes ta, achos ma nw’n gweid ta pwy bella nol bo dyn ma ffina gyd bydd a’n clywad y canu.”

“Gora,” myntwn i, “wy’n itha bo1on, os oti’r merchad yn folon.”

“Oti ni’n itha bolon,” mynta nwnta ych dwy.

Gyta bod ni’n wilia welna, dyma rw grotyn bach yn dwad y mlan aton ni a lot o bapura yn i ddilo (papur a wel sy gyta’r baletwrs sy’n canu ryd y ffira on nw hefyd), ag yn gweid: “Programes, programes, cinog vr un.”

“Aros, boy,” myntwn i, “der a phedwar o nw i fi, a dyma fa’n i roi nw, a dyma fina’n talu am danyn nw’ iddo fa’n itha onast.”

“Wedi fi rani papura’r programs rynto ni’n pedwar, i etho ni nawr gal mynd miwn, ond pam on ni’n roi’r papura i’r ddoi ddyn odd wth y drws no; “Old on,” mynta un o nw, os mo chi gal mynd miwn wel yn efyd.”

“Ond yw’r papur na’n gweid programs, cinog yr un?” myntwn i.

“Oti, oti, mynta fynta, “a dyna chi weti cal nw.”

“Dyna beth ombeidus yw peth wel’yn! Cera moin polisman Shoni; a chweti ny i gan nw’n gellwn ni miwn.”

“Nag a i, Sam,” myntwn, “geso i ddicon o ofid gyta wnw’n Byrdar, heb i fi gal racor gen yr en dacla. Os joini di a fi ni sefwn streic yn erbyn ’u en consart nw, ag i ewn waco ticyn o bothdi o speit iddi nw?”

“Joina i, mynta Sam, ag off etho ni a’n trwmps geno ni.

Weti ni gerad ibo lot o dai, a shopa, a



(delwedd B2141b) (21 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2141c) (21 Tachwedd 1896)

 

thafarna i ddethon i olwg pont fawr, Pontypridd, ma’n depig. Pont fawr, gam wel bwa dryndod odd i. Tysa ’i weti cal i lliwo’n bert, i fysa wel bwa dryndod yn gymws, ond odd ’i dd’im.

Rodd ’i weti cal i bildo wth ben yr afon Taf, a’r angcan wth i bildo ’i many, ma’n depig, odd i gal croishi’r afon drosti; ond o’s neb jest yn mynd drosti nawr, wath achos ma nw weti cwnu pont fflat arath ar i phwys ’i, ag ar ono ma’r tratins jest i gyd nawr. Rodd un peth arath no licswn i weld a efyd, a yny odd y gareg shiglo sy no; ond on i weti clywad na c’helsa neb fynd yn acos i ono ond yn drad I sana; wetin ny, wetas i ddim o bothdi ddi, achos rodd twlla yn y sana i, ag i fysa yny yn distrwa’ nywydd i’n ombeidus, w chi.

“Os nag o’s rw ryfaddota erith ma,” mynta Sam, weti dishgwl spel ar y bont, ni ewn I rwla gal pobi lasid a chal pobi wiff spo ’i’n amsar yn train ni i starto nol.”

“Gora,” myntwn i, “i ewn miwn i Benybont mana ta, achos wy ddim yn gwpod am ddim ryfaddota erith ma. Ag i Benybont etho ni, ag yno buson ni spo amsar y train weti dwad. Yfad pop on i, ag yfad gwin odd y ddwy scenas, a shandi gaff odd Sam yn yfad.

Erbyn bod i’n amsar dala’r train, on nw ych tri wedi twymo ticyn bach; ag yn y train on nw’n fudur am i fi nithir pishin o ganu i’r ddoi en fachan ny yn stopws ni miwn i’r consart, ond on i’n pallid o yd, nes bod Betsi’n gweid wtho i. “Dewch, gwnewch, a wir trw bo chi’n gallid.” Nawr on i’n gweld tyswn in pallid ar gaish Betsi byswn i’n colli ’nywydd achos bysa ’i’n dicio.

“0l right,” myntwn i, “fi naf fi englyn iddi nw, ond i Sam neid un iddi nw ar y ngol i.”

“Gora ta,” mynta fa, “wy’n itha bolon; cera mlan.”

Weti pyslo ticyn bach, dyma fi’n gweid yn englyn, a wel ’yn odd a -

I ballws y ddoi en Gardi,
Yn gellwn’ i’r programs eddi,
A sefson ninna’n pedwar streic
O speit i nw’nta am’ny.



(delwedd B2141c) (21 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2141d) (21 Tachwedd 1896)

 

Gyta mod i’n cwpla gweid yr englyn, dyma nw’n clapo ’i dilo gyd, ag yn gweid, “dyna waith da, dyna waith da!”

Weti cal dishtawrwdd, “Wel ’yn ma’n un i,” mynta Sam, a dyma fa’n gweid: -

I ddylsa’r ddoi en fflibar,
Ddangos mwy o fanars,
Na stopo pedwar trwmpyn piwr,
Wel ni, fynd miwn i’r programs.

Weti ni roi cymradwyath i Sam am englyn, dyma fa’n datla a fi ta gento fa odd yr englyn gora; a fina’n datla ma geno i odd a. Rodd ’i wedjan e yn datla gyta fa, a Betsi’n datla, gyta finna; a datla welni buson ni ston ni nol yn Blanllecha eb yn wpod i ni unen; a dyma’r train yn stopo a’r gard yn tampo miwn ato ni’n sytan right ag yn gweid “Ticats, ticats!”

Weti ni findo’r ticats ag iddo fynta iddi scraman nw on dilo ni; on ’n cal mynd miwn mwn ticyn bach weti ’ny i’r steshon, ag yn cal dishgyn i fynd lla mynsa ni. I etho i a Sam i eprwn yn trwmps sha thre, ag ar y ffor no, i setlas i a’n nrwmpan, yn bod ni yn doi yn sefyll yn driw i’n gilydd ’yd farw.

Weti ni gyradd lla odd ’i’n byw, a setlo i gwrdd a’n gilydd nos dronoth a phethach; i etho i sha’n lodjins mor llawan a chrocsyn.

Bora Sul, ar ol i fi wilo moceti, a chal ticat y scyrshon nos Satwn no, i etho i stwmp. Nawr on i’n gweld mod i weti roi y ticat geso i’n y pom am yn watch i’r gard nos Satwn, yn da ticat y scyrshon, ag on i ’yd at yn rwto gen ofid, ddim yn gwpod ffor gneswn i. Ar ol cinio, fi bwras ’i mas at Sam Lewis, a fi wetas wtho beth on i weti neid i gal i farn a ffor gneswn i gal ticat y pom nol am y ticat scyrshon. “Peth gora i ti walla,” mynta fa wtho i, ar ol pyslo ticyn, “fydda, gatal popath mana, wath achos ta ti’n mynd iddi ffotshan ’i, ta cal dy dransporto nei di am jeto’r train. Ti wddot ’yd colli’r watch.”

“Gwn, gwn,” myntwn i, “ag on i’n i glywad a’n wilia’n gall, a wel odd a’n gweid gnetho i efyd. Pam on i’n mynd nol i de sha’n lodjins, pwy ddath mas ono ond Miss Ifans y’n en drwmpan i, a dyma ’i yn y maso i wel y filan, eb weid dim, ag odd golwg “fi - dy – ladda - di,” arni efyd.

(I’w barhau.)


(delwedd B2141d) (21 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2142a) (28 Tachwedd 1896)

Papur Pawb. 28 Tachwedd 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

XIV. - YN NEWID EI LETY.

Pam etho i miwn i ty’n lodjins, i nabyddas i’n net beth odd busnas Miss Ifans no; wath on nw’n dishgwl arna i wel sa gyrna geno i, ag ddim yn gweid dim bw na ba wtho i, a wetas ina ddim bw na ba wthi nwnta. Fysa well gen i gal pryd o dafod ombeidus genti na, a chal y ngalw y mhob enwa ar y ddiar genti nw na i bod nw’n pido gweid dim wtho i. Rodd u dishtawrwdd nw ’n ala ofon trw merfadd i; achos on i’n ffili diall beth on nw’n byriadu nithir a fi, ag i ffilas i gysgu dim llycad y noswith ny trw’r nos o’u achos nw, ag on i’n cyrnu wel y ddalan efyd.

Pam on i weti taclu, a byta bwyd, ag yn barod i fynd sha’r gwaith bora Llun; dyma’r storom mish Mawrth yn tori ar y men i.

“Shoni Hoi,” mynta’r en fenw wtho i, chi yw’r en fagamwn nwya welas i riod. Fysa’n fendith fawr i’ch tad a’ch mam, pwr ffelos, a’r oll lad ran yny, i weld y claddu chi os pymthag mlynadd, dw i’n siwr. Rw griatur i chi ddylsa fod yn sown mwn tshains, ddylsach chi ddim cal bod yn rydd run man a dynon, a itwn i ddim pen pin am foin y polisman ich doti chi’n sown nawr, a na itwn?”

 

(delwedd B2142a) (28 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2142b) (28 Tachwedd 1896)



Rodd i mas o wynt gyta i bod ’i’n gweid welna, a dyna’r lla’r odd ’i’n dishgwl arna i wel teigras a’i lycid ’i wel fflama yn i phen ’i; ag yn wthu wel mecin gof, gal lot o wynt i gal gweid spel arath wtho i.

Pam cafws ’i ddicon, dyma ’i’n dechra gweid: “Y fi’n roi lodjins i chi, ia, chi, un fysa gen y racsman gwilydd i ddoti yn igart, a wnw weti ’ny, yn trio lladd yn nair crotan fach ddiniwad i, wth u bod nw’n dwad sha thre o’r cwrdd. Rog ych cwilydd chi’r en fwrddwr cas! Ma mwy o son am danoch chi na’r cron du gerws i unan, a o’s? Rodd llatron penffor, ’wel Twm o’r Nant, a Twm Shon Cati, a Dic Terpin, a Ropin Shon Criwson yn wyr bynddicions orwth ych short ch-- chi!”

On i napod net i bod ’i’n byriadu gweid tot ombeidus o pethach dychrynllid welna wtho i, tysa ’i mond gallid catw gwynt iddi gweid nw; ond rodd ’i ry winad, ag welly rodd i thecil ’i’n berwi i unan i’r tan spo fa’n sych, mwn bothdi shec. On i’n falch ta welni odd ’i ’efyd, wath on i weti cal i ofon ’i’n fudur; ag rodd y ngoisa i yn crynu dana i, wel swn i yn y cryd am wyth; ag on i’n gweid efyd na ddeswn i ddim o no byth yn fyw os roswn i racor no. Welly, weti ddi “orphan yr ail lith,” os gwetws y ffeirad, dyma i’n rythu arna i, ag yn wthu wel o’r blan, gal gweid, y trytydd llith; ond chas ’i mor shawus, wath nawr i fwras i mas ibo ’i gwmint allsa nrad i ngario i, ag on i’n mynd am mowyd efyd, dyna chi. Beth bena, cyn mod i weti rytag ucan llath orwth y ty, dyma i’n screchan ar yn ol i: - “Roswch! roswch! i chi gal ych en racs gyta chi.” Rosas i ddim, ond i ddishgwlas yn ol; a’r peth cyntai welas i, odd gweld y mac i yn cal i gico mas o’r ty wel pel ddu gen yr en fenw; ag on i’n gwpod net ta’r un peth geswn ina tyswn i’n mynd nol. Rodd yr en fenw weti bod lan yn y rwm i yn



(delwedd B2142b) (28 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated 

(delwedd B2142c) (28 Tachwedd 1896)


paco nillad in barod tra buas i’n taclu, ond wyddwn i mo yny.

Nawr, on i’n falch mod i weti dianc mwn amsar; ond rodd gofid budur arna i shwt am bothdi mac a lodjins nwydd, ag am bothdi ffor ceswn i afal yn y mac weti ’ny. I af fi sha ty Sam Lewis nawr, myntwn i wtho i’n unan, ag weti ’ny i scemiff Sam rwpath wy’n gwpod.

Weti fi gyradd drws ty lla’r odd Sam yn lodjo, “Oti Sam weti mynd sha’r gwaith?” myntwn i.

“Nag yw,” mynta Sam i hunan, “dera miwn,” a miwn etho i.”

Gyta mod i miwn, ag ishta lawr no, dyma Sam yn dishgwl yn od arna i, ag yn gofyn: - “Wyt ti’n dost eddi, Shoni?”

“Nag wy i ddim yn dost,” myntwn ina.

“Bachan,” mynta fynta, “ma rwpath od arna ti ta, os wyt ti’n dishgwl run peth yn gwmws a ta ti weti cal ofon ysbryd y gwr drwg eddi.”

“Wn i ddim am yny,” myntwn i, “ond wy weti cal ofon trw merfadd eddi.” A dyma fi’n gweid wtho fa ffor bues arna i. Weti fi gwpla gweid popath fuws i gyd na, dyma fa’n werthin spo fa’n shiglo gyd, ag yn gweid wtho i: - “0! Shoni! Shoni! Champion Blanlecha yn cilo rog ofon en fenw!” ag yn werthin gwmint alsa fa wetin.

“Nit werthin yw a, was i,” myntwn i, “ma gwell gwr na fi lawar, was i, weti gorffid i cherad ’i cyn ’yn o flan en fenw.”

Dyma fa’n werthin wetin. Cretu di’r Beibl ta? myntwn i.

“Creta,” mynta fynta, “os oti’r Beibl yn i weid a.”

 

(del
wedd B2142c) (28 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2142d) (28 Tachwedd 1896)



“Oti,” myntwn i, a dyma fi’n gweid wtho fa am bothdi Lias yn lladd wyth cant o ddynon a cha un diwarnod ag yn cilo o ffor i mam nw dranoth.

Rodd Sam weti mynd, cyn i fi gwpla gweid yr anas, i ddishgwl mor wirion a dafad; a chlywas mo fa’n werthin am y men i weti ’ny.

“Rodd tri lodjar arath yn y ty ’ny gyta Sam, ond rodd doi o nw weti mynd sha’r gwaith cyn i fi alw no; ond rodd y nall yn aros no i rondo clecs, dyna odd Sam yn weid weti ddo fyn’d ta beth.

“Wy ddim yn cretu dwa i sha’r gwaith eddi, bachan,” mynta Sam wtho weti ddo fa aros cetyn, “wath fyddwn i ddim yn drwmpyn i atal y martnar wtho i unan yn i ofid wel ’yn.”

“Na, na,” mynta fynta, ag off a fa.

“Wyddoch chi angcan, Misis Thomos,” mynta am, wth y fenw no, weti’r bachan i fynd, “bla gall y martnar gal lodjins?”

“Na wn i wir,” mynta itha, “os na chewch chi fa, gyta Misis Davies na, triwch ’i.”

“Gnewn,” mynta fynta, “ond gadwch i Mary fynd i moin pac Shoni ta os gwelwch chi’n dda i talwn ni ddi am ’ny.”

“O, caiff, caiff,” mynta, ’i, a dyma ’i’n galw ar i merch gal mynd iddi mofyn a.

Cyn bod Mary weti cal amsar i ddwad a mac i no, dyna bachan y lodjar ny, aroswch i rondo clecs, yn dwad nol o’r gwaith a golwg winad ombeidus arno. Gyta i fod a’n dwad i’r drws, dyma fa’n gweid: - “Misis Thomas, dewch a dwr wmolch i fi mwn bothdi shec.”

“Be sy’n bod,” mynta itha?

“I ath yn stop lamp arna i; ag i ddath y gaffar i ystyn i gwils arna i, isha na byswn i’n dwad sha’r gwaith yn gynt; ag i fwgwthas ina fwrw i fwstash a off am ’ny, a nawr wy bown oi cherad ’i oma.”

“Mwn bothdi anar awr weti ’ny, r’odd y bachan a’i bac ar i ysgwdd yn i cherad ’i dros y mynydd sha Treorci wel milgi.”

“Misis Thomos,” mynta Sam, wth y fenw, “I wn i nawr bla gall Shoni gal lodjins, os otych c’hi’n folon?”

“Otw i,” mynta ’i, gwetwch. “Gyta chi.”

“Gora,” mynta ’i, “dan werthin, and iddo iddo wara’r ladi wen arna i a Mary.”

Gyta’r gair dyma Mary ’n dwad a mac i no.

(I’w barhau.)
 

(delwedd B2142d) (28 Tachwedd 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2143a) (5 Rhagfyr 1896)

Papur Pawb. 5 Rhagfyr 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

XV. – “CAEL SHOMEDICATH.”

Lodijns net odd Missis Thomos yn gatw. Rodd ’i wel mam i Sam a finna, a rodd Mary efyd wel wa’r i ni, a gyta nw buas i weti’ny cyt a buas i no.

Fyswn i ddim yn u gatal nw om bysa i fi gal shomedicath.

Wel, i chi’n gwpod, i etho i garu isha Betsi Tomos Tomos; ag un nos Sul bothdi dair wthnos cyn Yndolig, i etho i iddi eprwn i, sha thre, wel on i’n arfadd gneid, os mishodd cyn’ny. Weti cyradd jest i ddrws y ty, i stopson i gal wilia a phethach.

Weti wilia pobpath am bopath, “Clywsoch chi pwy sy mynd i briodi nawr Yndolig?” mynta Betsi wtho i.

“Naddo ddim,” myntwn i, pwy?

“Miss Ifans a Dic Shan,” mynta, itha, a ma’n nw’n gweid yn bod ni’n doi yn mynd efyd.”

“I wetson gelwdd ar fencos i,” myntwn i.

“O!” mynta i, “wy mynd i’r ty ta.”

“Na, pidwch a mynd wir, Betsi,” myntwn i, “gweid on i bod nw’n gweid celwdd achos don ni’n ddim weti wilia dim am brioti.”

“Na, na,” mynta ’i’r itha sneclyd, “i chi ddim yn moin wilia am bothdi yny, i chi’n meddwl dwcid Miss Ifans oddar Dic yto, ag ych chi’n gwpod ta dim ond cwnu’ch bys sy’ isha chi.”

(delwedd B2143a) (5 Rhagfyr 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2143b) (5 Rhagfyr 1896)



“Dwy i ddim, yn i moin ’i,” myntwm i, “Chi otw i yn moin.”

“Beth i chi’n pido dwad i ofyn am dana ’i at y nhad, ta?” mynta ’i dicyn bach mwy awgar.

“Ond ddwa i,” myntwn i, “be sy arno chi?”

Yn lla ’m apad i wel on i’n gofyn iddi, dyma i’n bwrw i braich am y ngwyddwy i, ag yn werthin, ag yn gweid: - “Jocan bod yn winad on i gal gweid os todd golwg gyta chi arna I.”

Beth bena am yny, fe setlwyd cyn mynd o’r man ’ny in bod ni yn prioti mwn mish ar ol Yndolig, pwnc bysa’i thad yn folon ne bido; ond rodd i’n gwpod net, mynta ’i, bysa thad yn itha bolon i ni, ag y bysa fa’n roi ty ne ddoi i ni ar y priotas, ond i fi wilia sha fa’n ddecha. I setson efyd ta nos Ferchar on i ddwad i wilia a fa, ag weti fi ga’l pethach yn reit, i bod ’i a fi, weti’ny, yn bwrw mas am wac gal setlo pethach sha gilydd. Betsi odd yn plano i gyd, ag on i’n itha bolon iddi, ag on i’n hopo efyd gen mor falch on i, wath on i’n y ngweld i’n cal montas ombeidus.

Pam ddath nos Ferchar, dyma fi yn cnoco wth ddrws Tomos Tomos, wel swn i wth ddrws ty gwr byneddig.

“Dewch miwn,” mynta fa, a miwn etho i, a’n et yn llaw, gal dangos mod i’n gwpod beth odd manars.

Pam etho i miwn, rodd yr en ddyn yn ishta yn i gatar gefan wth y tan, a i drad ar y ffendar, ag yn smoco wel injin.
“Dewch mlan at y tan,” mynta fa wtho i, “tynwch y gatar na mlan at y tan.”

Weti fi neid wel odd o’n gweid, on i’n ishta’n gyfar a’n gwmws.
Nawr on i’n dishgwl iddo weid rwpath, ond wetws o ddim,

(delwedd B2143b) (5 Rhagfyr 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2143c) (5 Rhagfyr 1896)



ond pwffan wel injin. Dyna ffor wy mor fanol yw, i chi gal gweld naca arna i odd y bai. Weti fi ddisgwyl spel fawr iddo ofyn, ne weid rwpath, a fynta yn pallid; dyma fi’n gofyn iddo: Oti Missis Tomos yn ty? “Oti, ma’i bothdi ma rwla,” mynta fynta’n itha twp.

“Oti ­Betsi yn ty?”

“Oti, ma itha ma rwla,”

Nawr weti fi starto fa i witia, on I’n cretu bysa fa’n gneid ’ny weti ’ny ond odd a’n gneid dim ond pwffan mwy; ag wth i weld a welny i solfas i weid y musnas o ben yn unan.

“Yn enw i,” myntwn i, yw Shoni Hoi.

“Glywas son am bothdi chi,” mynta fa.

“Wy a Betsi chi yn wilia sha’n gilydd os mishodd, ag nawr ma i’n moin i fi iddi phrioti.

“Ho!” mynta fa, dan acor i lycid wel dwy sowsar fawr.

“Oti,” myntwn i, ag nawr, y musnas i ma yw dwad i ofyn i chi, oti chi’n folon?”

“0 otw i, machan i, otw i’n itha bolon, y machan i, os oti Betsi ’n moin ’ny machain i,” mynta fa weti ’ny, ond on i’n i glywad a’n wilia’n itha od.

“Oti,” myntwn i, “ag on i efyd yn dwad i ofyn i chi, beth welsach chi fod yn dda, iddi roi gyta i?”

“Wal,” mynta fa, dan wthu pwff mawr o fwg o’i ben, “ti gad Matlan i war hi, ag os nag yw yny’n ddicon i ti, wath gan i lawar ta ti’n cal Pegws i mam gyta ’i efyd.”

Wyddwn i ddim ar y cynta beth wetswn i gen y shomedicath geso i; ond dyma fi ar y nhrad mwn bothdi shec, ag yn gweyd, “Thenciw syr; o’nd trw’ch bod chi mor biwr, i gewch i catw nw ’ch tair.”

Weti fi weid welna, fi glywswn screch mwn

 

(delwedd B2143c) (5 Rhagfyr 1896)

 

 

None

(delwedd B2143d) (5 Rhagfyr 1896)



rwm arath; ond i rytas i mas, ag off a fi sha thy lodjins gwmint alswn i.

Weti cyradd ty’n lodjins, on i’n ffili ishta’n esmwth mwn unman gen y nghofid a’n shomedicath; ag yn y diwadd i etho i’r gwely gal mystyn y ngoisa i farw, eb ddim swpar na dim.

Bora dronoth, dyma Sam yn roi pwt yn ochor i, ag yn gweid – “Shoni, dera, cwn, ma ’i’n amsar i ni fynd sha’r gwaith.”

“Wy’n dost ombeidus, wy ddim yn my’nd sha’r gwaith eddi,” myntwn i.

Weti ddo ddoti law ar y nalcan i, “nag wy’t ti ddim yn dost, Shcni,” mynta fa, “rwpath arath sy arna ti; gwed wtho i beth yw a Shoni. Rw ofid sy arna ti wy’n napod net, ond taw a, was i?”

“Ia,” myntwn i mwn cetyn, “wy weti cal shomedicath.” A dyma, fi’n gweid wtho ffor buws ’i; ag on i’n llefan efyd wth weid.

“Shoni, Shoni,” mynta fa, “ti gai wedjan yto, pait tori dy galon welna, bachan.”

“Na, wilia ddim, a neb o nw byth yto,” myntwn i, “i fydda i fyw’ yn en fachan gweddw.” “Tysa gen i gwmint o arian a sy gyta thi (rodd gen i saith punt), gwddot ti beth neswn i?” mynta fa ’weti ’ny.

“Na, wn i,” myntwn i. “I eswn sha Chardydd ne Byrtwa, bachan, am wthnos ne pythewnos o spri, bachan, gal gweld y llonga a phethach; i wellsa yny di bachan wel cricsyn.”

“Gnelsa, siwr o fod,” myntwn i, “a dyna wy’n gretu na’i efyd.”

“Ia, Shoni, dyna fydda ora ti, ag i ddwa i, ar ol cal y may nos Satwn, ar dol di gal



(delwedd B2143d) (5 Rhagfyr 1896)

 

 

None

(delwedd B2143e) (5 Rhagfyr 1896)



wthnos o spri gyta ti, ag i ddwa i dy bay ditha gen i. Dera i ni gal mynd lawr.”

Mwn bothdi anar weti’r wilia yna, rodd Sam yn i starto ’i sha’r gwaith; a dyna’r tro wetha gwelas i a yn y byd ’yn.

Pam ddath ’i’n amsar y train, i startas ina sha Byrtwa yn y nillad gora, a chwmint o arian ag odd gen i yn y mocad; ond cyn i fi gyradd Byrtwa, i ath i fwrw glaw yn gwlyddus; a cheso i shifft yn y byd, weti disgyn, ond mynd i dafarn no, ys bysa’r glaw’n slaco.

Trw na slacws y glaw ddim, dyna lla buas i trw’r dydd; yn yfad pop yn dechra, ond i geso i ofon yfad pop trw’r dydd rog ofon byswn i’n llanw o wynt ag yn bosto. Dyna ffor toras i Ngwd Templar (Gwd Templars odd yn catw dirwast ar i thrad pyrtynu). Yn y pyrnawn, i ddath lot o gwmpni ata ’i no ag rodd un bachan o nw a chonsertina gyta fa; a dyna lla buws a’n i wara fa sbo ’i - Wy ddim’ yn gwpod pa mor hwyr.

Beth bena, bora dronoth pam ddiwnas i, on i’n clywad y men i jest a ollti gen bon ag yn canu efyd wel consertina.

“Os bosib os otw i weti mynd yn gonsartina,” myntwn i.

A chyta mod i’n gweid, fi glywswn rw laish ar y mwys i’n gweid: - “Wec yp man, wee yp.”

Dyma fi’n dishgwl beth oddno; a pham welas i beth oddno, i geso ofon trw merfadd. Yr arcol anwl, myntwn i, bla’r otw i! Yr own i yn y baracs gyta’r shwdwrs, a gweld y shwdwrs no yn u cota cochon alws yr ofon arna i.

(I’w barhau.)
 

(delwedd B2143e) (5 Rhagfyr 1896)

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2144a) (12 Rhagfyr 1896)

Papur Pawb. 12 Rhagfyr 1896.

SHONI HOI ODDICARTREF
(Ganto fa’i Unan.)

XVI. - YN DYCHWEL ADREF.

On i weti cysgu yn ’y nillad ’no, well on i, a phan ddetho i dicyn bach ata i’n unan, y peth cynta nethio I o’dd wilo mocete ga’l gwel’d osto’dd yn arian geny; ond ron nw weti myn’d i rwla bob clincan. I gretas unwath mod i’n ca’l gafal mwn swllt ne sofrin, a beth o’dd a ond medal y shwdiwrs. Nawr weti gwel’d y medal ny, i ddiallas i mod i weti listo, yn yn urtwch at y shwdiwrs; ond pwy ffor’ wy ddim yn gwpod. Weti fi wel’d yn arian i weti myn’d, a gwel’d beth on i weti neid, alswn i ddim pido llefan, a llefan netho efyd jest gyta buas i no. Fuws dim shwt ofid arna i riod. Do’dd colli’n wedjis ddim byd at fod gyta’r shwdwrs, achos on i’n gwpod yn net byswn i’n ca’l yn ala ma’s i’r ryfel i Spain, a China, a Rwsha, i wmladd a’r Blacs, a’r Ffrensh, a’r Irish, a phob en nashwns, ag on i jest tori nghalon ’no.

Mwn ’bothdi dri diwarnod weti fi fyn’d ’no, dyma fi’n ala llythyr at ’y mam i weid bla on i, ag i weid mwn shwt beryg on i, ag i fecan arni drio nga’l i o no. Weti ca’l yn llythyr i, dyma mam yn ’i bwrw i’n gwmws at y ffirad, i’r ffirad ga’l scwenu at y gwyrbynddicions am bothdi fi, achos i chi’n gwpod ma lot o ochor gen y gwyrbynddigions i’r ffirad. Beth bena, i scwenws y ffirad atyn’ nw am bothdi fi dros ’y mam, a dyma fa’n ca’l apad nol orwthyn nw mwn tri diwarnod – “y celswn ni fod yn rydd am un bunt ar ucan.”



(delwedd B2144a) (12 Rhagfyr 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2144b) (12 Rhagfyr 1896)

 
Weti ’ny, dyma mam yn myn’d a llyfir clascu gyta ’i trw’r oll ledydd i glascu nga’l i sha thre; ag mwn bothdi wthnos wetin, dyma’r dyn o’dd yn yn comando ni yn y barics yn gweid wtho i (ond ta’n Sysnag o’dd a’n gweid),

“Rych chi, Shoni Hoi, yn rydd. Newitwch a cherwch sha thre, a phitwch min’d o ’no yto, eb fyn’d a’ch mam gyta chi.”

Wn i ddim beth o’dd ’i feddwl a wth weid am bothdi mam, ond ta beth o’dd a, i ddiolchas i iddo am ’ny, ag welna, i geso i ddwad yn rydd orwth y shwdwrs trw ochor y ffirad. Weti fi ga’l clywad mod i’n rydd ’no, dyma fi’n twlu’r en ddillad cochion o’dd geny, ag yn taclu’n nillad yn unan mwn bothdi shec, ag mwn wincad weti ’ny, on i ma’s ar yr ewl.

Peth cynta welas i ar yr ewl o’dd gwel’d ’y nad a mam ’no yn y nishgwl i ma’s. Gyta bod mam yn ’y ngweld i’n dwad ma’s o’r barics, dyma i’n dechra tafodi a fi, ag yn ’y ngalw i’n en Satan a phethach.

“Usht, usht!” mynta nad wthi, “nit welma ma myn’d i gwrdda’r mab afradlion. Wy eddi, wel Job,” mynta fa weti’n wtho i, “pam a’th Job i gwrdd a’r mab afratlon. Shwt wyt ti, machgan i?”

“O! wy’n falch y’ch gwel’d chi’ch doi,” myntwn i, ag on i efyd.

“Wyt, wyt, fi wn,” mynta fa weti’n, “ag i’n ninna efyd yn falch, y machgan i, gal dy wel’d di’n dwad nol sha thre, ag i ni yn gnithir croiso yco efyd i ti, wel gnath Job iddi fab slawar dydd.”

“Dyw, nad, i chi gwpod, ddim fawr o Scrythyrgi, ag wedny ro’dd a’n cretu, ta

(delwedd B2144b) (12 Rhagfyr 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2144c) (12 Rhagfyr 1896)

 
Job o’dd tad y mab afratlon, ag wetas i ddim yn ots wtho, lla bysa fa’n dicio wtho i am i gorecto fa.

“Dyna’r achos beth o’dd ’y mam yn cymenu o’dd gal dangos i nad nag o’dd gyta ’i ddim ochor i fi; ond tysa chi’n ’i gwel’d i, ro’dd i’n werthin ag yn llefan run pryd - werthin am ’y mod i’n dwad sha thre, a llefan, wy’n gretu, rog ofon byswn i’n myn’d ar y tramp weti’n.

Beth bena, i etho ni, wel plant Ifan Dafydd, sha thre gyta’u gilydd gyntad a galsan ni, ag on ni yn ty ni jest gyta bod i’n twllu nos. Pam etho i sha’r drws, a fi o’dd y cynta efyd, dyma’n war yn bwrw ma’s i gwrdd a fi ag yn gweid,

“O! Shoni anwl, wy’n falch bod ti’n dwad sha thre, dera miwn.”

Gyta bod i’n gweid welni, dyma i’n citcho yn yn llaW ga’l yn nynu miwn, ag wth mod i’n myn’d miwn, fi welswn rwun yn cilio i gwato i’r cwtch dan shar.

“Pwy o’dd ona a’th i gwato?” myntwn i.

“Cera i ddishgwl,” mynta Cati’n war, dan werthin.

Nawr, dyma fi’n myn’d i ddishgwl pwy o’dd i, ag yn citsho yn ’i braich i’, ga’l ’i thynu ma’s i’r gola, ga’l gwe’l’d ’i gwymad ’i, a phwy o’dd ’i ond Jane Ty Clotas, yn gwilydd i gyd, ag yn gweid wtho i,

“Gellwn fi, lyco; gellwn fi, lyco,” ga’l jocan ’i bod i’n winad.

Fuas i jest ffili napod ’i ar y cynta, achos rodd ’i weti dwad lawar lanach na pham welas i ddi o’r blan cyn i fi fyn’d off, ag ro’dd mwy o gwilydd arni efyd.

Erbyn bod ni weti byta bwyd ’no, ag i finna weid wthi nw anas yn nramp, ag anas y shwdwrs, a phethach, ro’dd i jest yn anar nos, a dyma Jane yn myn’d i ddishgwl am i et a’i shawl, a fi gwelws in mam i.

“Shoni,” mynta mam wtho i, “cera i eprwn ticyn ar Jane sha thre; ma ’i weti bod yn itha triw i ti, ag ma ’i weti bod drod-y-mwfl (??) gyta fi’n clascu dy ga’l di orwth y shwdwrs. Cera.”



(delwedd B2144c) (12 Rhagfyr 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2144d) (12 Rhagfyr 1896)

 
“Ia,” myntwn i, “oti ddi’n folon?”

“Folon, siwr!” mynta mam “cera mla’n, bachan.

“Dewch mla’n, ’ta, Jane,” myntwn i.

Wth y nglywad i’n gweid welna, dyma i’n twlu ’i llycad ata i’n awgar right, ag yn cochi wel y tan, ag off etho ni’n doi.

Weta i ddim beth o’dd y wilia fuws rynto ni’r noswith ’yny, achos ’dyw Jane ddim bolon. Beth bena, i netho ni bartnars net, ag ni wilson am bothdi lot o bethach, a pham etho i sha thre, ro’dd pawb yn ty ni yn ’u gwelia.

Dronoth, dyma fi’n gweid wth mam,

“Mam, wy a Jane weti setlo prioti y Pasg.”

“Dyna, ti! dyna ti mynta ’i, “on i weti darllan dy blaned di; ond rondewsat ti ddim arna i, ond dyna ti nawr yn” --

“O! gadwch wir, mam,” myntwn i. “Wy’n gwpod be’ sy’ gyta chi weit net.”

“Ia, ia, wyt ti ddim yn lico clywad, ond i wetas i’r gwir wtho ti tysa ti’n grondo.”

On i’n gweld nawr na byswn i ddim gwell o ddala pen stori a ’i, ag i ga’s weid am bothdi’r planeta sto’’dd ’i weti blino. Mwn cetyn, dyma i’n gofyn.

“Y Pasc gwetas ti bod ti’n prioti?”

“Ia,” myntwn i.

“Wal, ong gora, machgan i,” mynta i,



(delwedd B2144d) (12 Rhagfyr 1896)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2144e) (12 Rhagfyr 1896)



“wy’n itha bolon, ma Jane yn scenas fach net; ond tysa ti’n prioti rwun, wel Liza Penwaenwyllt, fysa well gen i bod ti weti aros gyta’r shwdwrs.”

Pam ddaeth y Pasc ’ny i briotwis Jane a fi, wel setson ni, ag i ni’n byw gyta’n gilydd o hyd, ag ma lot o flynydda, odd’ar ’yny nawr. Wy ’n gweid un stori ga’l dangos ffor’ i ni’n byw wthoch chi yto, a ’ny wy’n cwpla.

Bothdi fish, ne rwpath o’r sliort, cyn i fi fyn’d sha Exshibishon Cardydd, on i weti dwad o’r gwaith, dyma Jane yn gweid wtho i,

“Tria weid, Shoni, pwy fuws yn ca’l te gyta fi eddi?”

“Y pacman, walle,” myntwn i.

“Cera odd’na, ren glwbyn, wilia sens, w.”

“Beth wn i,” mynta i, “pwy fuws, gwed di.”

“Sam Lewis a’i wraig.”

“Gad dy gelwdd,” myntwn i.

“Na, gwir wy’n weid, i fuws Sam a’i wraig ar de ’ma eddi, ag on nw’n oli am bothdi ti, ond on nw bown o fyn’d nol, ne fysan yn aros ’ma eno, ag on nw’n moin i ti a fi ddwad am dro atyn’ nw i ala wthnos.”

“Pwy yw ’i wraig a, ta,” myntwn i.

“Un o d’en drwmps di, Betsi.”

“Ni ewn am dro, ta, os joini di,” myntwn i.

“I ti ga’l gwel’d Betsi, iafa?”

“Beth, wyt ti’n jelws ona i?” myntwn i.

“Ti ddechriws arna i” --

Gyta’r gair, dyma mam yn y drws yn gweid,

“Neno dyn, be’ sy’ arnoch chi o yd?”

“Shoni sy’n danod y pacman i fi.”

“Usht, usht, a i ddim rynto chi,” mynta mam, “ne, walla, ta fi gaiff y gwitha.”

Werthson ninna am i phen i.

Ro’dd mam yn itha reit.

D. CYNWAL DAVIES.


(delwedd B2144e) (12 Rhagfyr 1896)



…..


Papur Pawb.

I YN EXHIBITION CAERDYDD. (29 Awst 1896)
http://newspapers.library.wales/wew/3589102/3589105

Papur Pawb.

II YNG NGASTELLNEDD. (5 Medi 1896)

Papur Pawb.

III SHONI YN DOST (12 Medi 1896)

Papur Pawb.

IV YN ABERDAR (19 Medi 1896)

Papur Pawb.

V YN ABERDAR (26 Medi 1896)

Papur Pawb.

VI YN Y LOCK-UP (3 Hydref 1896)

Papur Pawb.

VII YN BLAENLLECHAU (10 Hydref 1896)

Papur Pawb.

VIII CAEL CARIAD NEWYDD (17 Hydref 1896)

Papur Pawb.

IX YMBARATOI I YMLADD AM ARIAN (24 Hydref 1896)

Papur Pawb.

X PERSONOLI’R LADI WEN (31 Hydref 1896)

Papur Pawb.

XI YSGRIF XI (7 Tachwedd 1896)

Papur Pawb.

XII NEWID EI WAITH A’I GARIAD (14 Tachwedd 1896)

Papur Pawb.

XIII YM MHONTYPRIDD (21 Tachwedd 1896)

Papur Pawb.

XIV YN NEWID EI LETY (28 Tachwedd 1896)

Papur Pawb.

XV CAEL SHOMEDICATH (5 Rhagfyr 1896)

Papur Pawb.

XVI DYCHWEL ADREF (12 Rhagfyr 1896)

 
Sumbolau:
 
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
 MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
 
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
 
 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..

…..
wikipedia,
 scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
 
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_106_shoni-hoi_1897_01_0083k.htm

 
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada:
18-04-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions:
13-12-2017 18-04-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Newsyddiaduron Arlein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
---------------------------------------

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
 SEARCH THIS WEBSITE
---
 
Adeiladwaith y wefan
 SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
 WHAT’S NEW?


 
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
 
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats