kimkat0086k 23-04-2017 Dŵr y Môr
– hanes yn nhafodiaith Cwm Rhondda o Bapur Pawb 27 Ionawr 1900.
27-07-2024
●
kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
●
● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
●
● ● ● kimkat0083k Y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
(delwedd J7376a) (27 Ionawr
1900. Colofn 1) |
Papur Pawb. 27
Ionawr 1900. DWR Y MOR MAWR y shiarad sydd
yn y Rhondda yn ystod y gaua am ddwr y mor a'r ffynhona. Gyta fod Nadolig
wedi paso dyma chi yn clywad y dynon ifingc yn holi gilydd gan weud "Ma
dicon o amser yto, wrth gwrs. Ble i chi yn meddwl myn'd i ddwr y mor Awst
nesa?" "Wel, wir, otw i ddim wedi meddwl yn bendant am un lle yto,
chi'n gweld. Fella yr a i i Lanfair neu Llanwrtyd leni. Wy i wedi bod yn myn'd am
flynydda 'nawr i Lanstephan (rhyngoch chi a fina mae o wedi neud i feddwl lan
i fyn'd i Lanstephan leni yto). Dyma'r shiarad
glywch chi yn fynych iawn hyd yn od yn y gaua. Cewch glywad y bobol ifingc yn
cyfeirio yn hapus iawn at yr amser da geson nhw mish Awst diwetha yn ddwr y
mor ne yn y ffynhona. Rodd Twm Roberts a
John James wedi bod yn myn'd i Lanstephan am ddeg mlynedd. Ac fe ddath idd i
pena nhw i drio lle arall am unwaith. "Wel,"
medda John James wrth Twm Roberts un diwrnod, "beth ta ti yn ala bothti
i gal chytig o guide-books i gal gwel'd os na allwn ni newid y program
leni. Ma Llanstephan yn le o'r gora, ond wir, wy i yn teimlo y licswn i - ys
gwestws Mabon unwaith miwn mitin o hallers - ma'n dda cal tipyn bach o change."
"Itha reit yn
wir, John," medda Twm, "ma'n dda neilltuol gyta fi dy fod ti wedi
suggesto shwd beth. Ble alla i ala?" "Fe fu Dai
Picrel yn yr Isle of Man yr haf diwetha a chas e ddim shwd le yn i
fywyd ariod.” "Wel, fe ala
i'r Isle of Man i ofyn am y particulars os yt ti yn dewish." "Ie, al; ac ar
ol i ti gael apad yn ol rho wpod." Fe alws Twm lythyr
off yn gofyn am y particulars. Fe fu mewn tipyn o hobble shwd odd
sgrifenu llythyr Sisnag; hefyd, odd o ddim yn gwpod at bwy i sgrifenu. Fe
glyws Dai Picrel yn gweud rhwbeth am Douglas ac fe addressus [= adresws] lythyr
i'r Maer 'no, ys gwelwch chi'n dda. Rhwpath fel hyn odd a'n darllin: No. 7, Piano Row, Cwmsgrechycoed, Near Gwdihw. Dear Mair, David
Picrel wass tel my butty John James that you got a very large watrin place
about the Isle of Man. John and me wass spoking last time about coming over
to see you (you are cousins to the Welsh I spose). Wel, you need be no shame
of John and me for we two been brought up in Sunday School, good scolars and
teetotall also. Pleas send back all particulars. With best respecs
to yourself and Mrs, Yours for ever, T. Roberts. Fe gas y Maer y
llythyr ma'n depyg achos dyma'r apad alws o 'nol:- Douglas, I.O.M. Dear Sir, Sorry that I did
not have the pleasure of knowing your friend Mr David Picrel when he was
here. I do not keep lodgers myself, but if you come without having previously
engaged rooms I shall be pleased to give you any information that I can. The
prison is always open and the bathing machines in a case of emergency. Believe
me, Yours sincerely, Mayor. Pan ddath y postman
a'r llythyr yr odd Twm yn ddicwdd bod yn y ty. Fe rytws nerth i drad a'i wynt
yn i law at John. |
|
|
(delwedd J7376b) (27 Ionawr
1900. Colofn 2) |
"Clyw
bachan," medda fa, "ma'r Mair wedi ala llythyr i fi. Darllin a,
'nei di? Ma rhyw iaith ddwfwn iawn gytag e. Allu di neud mas beth ma e'n
weud, John?" "Wel, ar fecos
i, ma hyn yn grand dy fod ti wedi cal apad o'wrth y Mair. Os ewn ni 'no 'nawr
fe ewn idd i wel'd a - ond gnewn ni, Twm." "Wrth gwrs, os
yw e yn gweud wrtho ni am alw yn y llythyr fel ag wyt wedi gneud mas i fod
a." "Beth ma fo'n
weud am prison a bathing machines a case o - beth yw'r gair 'na ban. Dw i
ddim yn lico'r suggestions na o gwbl." "O dyw'r dyn
yn meddwl dim mas o le, ti'n gweld. Felsa fa'n gweud nawr; os na fydd lle i
chi yn unman arall fe gewch le yn y carchar, ne yn y machines ar lan y
mor am noswith ne ddwy nes bod lle yn dod. Beth ti'n feddwl? Yn y bathine
machines y cyscws Dai Picrel y noswith gynta. Pan ddinws a yn y bora rodd
y tide yn dod miwn ac wedi llanw lan o dan y set. Jobyn dda iddo fa
dduno pan nath a, achos dodd dyn y machines ddim yn gwpod i fod a
'no." "Gad Dai yn y
man 'na nawr. Oti ni yn mynd i Douglas ne nagin ni ? Dyna'r cwestiwn o flan y
cwrdd, Mr Cadeirydd." "Wy i yn cynyg
bod ni'n mynd yn dou i'r Isle of Man." "Settled
ta. Oti ni yn myn'd i holi rhacor am lodging?" "Na, gad a yn
y man na.. Fe awn i Hotel ar y ffrynt 'no. Odd Dai yn gweud fod 'no le
splendid - tri a wech y dydd. Cofia, Twm, dos dim swpar yn yr Isle
o' Man." "Dy nhw ddim
yn blongo - dy nhw ddim yn gendars i'r Cymry fel 'na ta. Ma'r hen Gymry wedi
arfadd bod yn fond o swpar." "Ia, cofia di
ma'r cino yn ddiweddar 'no - bothti saith o'r gloch." "Yn y
bora?" "Paid a bod
shwd sledg." "Beth oin ni'n
gwpod ban. Ma shwd gwstwm od gyta nhw os nag os swpar yn bod 'na." "Os dyn ni yn
myn'd 'no ewn ni ddim yn shabby, rhaid i ni gal bothti ddeg punt yr
un. Dera 'nol a'r newid fel odd mam yn arfar gweud yn wastod." Doi nhw ddim wedi
meddwl am fod yn dost ar y mor. Yn nghenol y mynydda oin nhw yn meddwl dim
byd am y mor ond ar y ngair i, pan etho nhw miwn i'r llong yn Liverpool, dyma
Twm Roberts yn dechra teimlo hunan yn dost. Odd a wedi clywad cymint gan y
rhai odd ar y deck am ddynon yn dost, fe gas i daro'n sytyn iawn. Fe ath yn
dost cyn i'r llong atal y landing stage. Fe fu yn reit wetin. Pan odd
pawb yn dost ym mhob man rodd e yn gallu etrych arni nhw a phaso ambell i air
gyta'r criw. Yn y llythyr cynta anfonws Twm yn ol at i "wedjan" o'r
Isle o' Man odd a'n gweud:- "Anwl Gwen, .....Oin
i fel brithyll ar y llong pan odd pawb arath yn gorfadd ar y llawr mor wyn ar
shalc. Rodd John ar y llawr fel fflat-fish. O! rodd a'n dost. Pan yn starto
mas o Liverpool - O rown i yn dost y pryd 'ny - dyma fa yn dod ato i a
phishyn o orange yn un llaw a phishyn o lemwn yn y law arath, ac medda
fa, "Tria rhai hyn, Twm, ma'n nhw'n splendod medda'r hen ddyn 'na i
gatw'r stwmog yn reit." Twtshas i ddim a
nhw, ond rodd Jack yn pitsho miwn i fyta oranges a lemwns. Jawst i,
dyma fenta yn myn'd yn dost. A beth ti'n feddwl gas a 'nol. Tria weud wir -
"marmalade." Fe gyrhaeddws y
llong Douglas erbyn hanar awr wedi pump. Rodd golwg "shwd ych chi
heddy" ar rai o'r dynon a'r menwod odd ar y |
|
|
Papur Pawb 27 Ionawr 1900 |
llong. Oin nhw'n
etrych fel sa nhw wedi bod yn cysgu ar y cols. O, ie, fe anghofias weud hefyd
fod Twm a Jack yn gwpod enw'r hotel lle oin nhw yn myn'd i aros trwy Dai
Picrel. Ar y landing
stage dyma rhyw slebyn o fachan a rhipan coch am i het a yn citsho yn portmanteau
Twm ac yn i dowlu a acha truck bach. "Hold on,
fi bia hwna," medda fo. Fe 'drychws y chap
arno fa yn stwmp. "That iss my
bag." Ar hyn dyma Jack yn
gweud i fod a wedi dod i gario'r luggage i'r hotel. "Shwd beth yw
bod yn gaffer am shwrna," medda Twm. Wedi iddi nhw gyrhadd yr hotel,
dyma bortar yn gweud, "This way
gentlemen." Lan a nhw dros dair
star fawr. "This is your
bedroom," medda fa a lawr ag e. Rodd isha bwyd. yn
dost arni nhw'ch dou yn awr achos oin nhw yn itha gwag. "Grynda,"
medda Twm, "fel wy yn rybwlian, wy'n swno fel hen waith -- otw wir. Shwd
yt ti yn teimlo, Jack?" "O! ma hyn yn galad feddylas i eriod taw dyma fel
ma nhw yn treto dynon miwn hotels. Dim rhacor i fi ar ol heno, ta beth,"
medda John James. Rodd y parti yn
aros i Twm a Jack ddod lawr o'r llofft ond dim son am deni nhw'n dod fe rytws
y portar lan at i drws nhw. Rat-tat-tat ar y drws. "Come
in," medda llaish o rliywle. Dyma'r portar miwn,
a ble chi'n meddwl odd y ddou dderyn - yn y gwely. "Don't you
want any dinner?" "I should
think we do," medda Jack. "Why did you
go to bed, then?" "Because you
said - 'this is your bedroom.' “ Fuo nhw ddim
shiffad cyn tampo mas o'u hamock a gwishgo a myn'd lawr i gal cino. Fe
gatws y portar y secrat am ddiwrnod ne ddou, ond fe slipws mas gytag e un
noswith, a mawr y sport fu 'no achos fod y ddou Gymro wedi gneud shwd
fistake. Y diwrnod cynta
dodd dim taw ar Twm isha myn'd mas miwn bad bach i bysgota. Dodd Jack ddim
mor awchus am fyn'd, ond i bleso Twm fe ath gytag e. Fe geson fad bach net i
fyn'd, a dicon o facha a chordyn. Wedi bod yn dotir line lawr am gwpwl o
witha fe sylws Jack fod lot yn sefyll ar y lan ac yn i lachan i mas wrth
etrych ar Twm. Rodd a'n tawlir bachin heb ddim arno fa. "Bachan,
bachan, oin i ddim yn cretu dy fod ti mor dwp. B'le ma'r mwydyn?" Wel dyna hi yn
galch. Beth ta ni yn rhoi cigarette arno fa." "O! yt ti'n
myn'd yn ffast. Fe fyddi yn Ben-bont cyn fod yn hir." "Dera i ni gal
rhwyfo nol i ofyn i'r chepyn' na am faits." Fe gas dipyn o gron
macrel. Mas a nhw yto. Fe ddalws Twm dri macrelyn bach ond fe gollws rhai o'r
macrels mwya yn y mor - y mwya, sy'n myn'd yn ol o hyd - medda fa yn i lythyr
gartra. Gan nad odd dim
isha arni nhw ffindo bwyd lle on nhw'n aros fe gorws Twm standing fach
yn ochr y pier i werthu'r macrels. Rodd a yn meddwl cal cinog yr un am deni
nhw achos u bod yn itha fresh yn un peth ac achos maw e odd wedi dala nhw yn
lle arath. Fe werthws y tri am ginog yn y diwadd i ryw foy bach yn gwerthu
papyra, ac fe rous y ginog wetin i Punch and Judy. Wetsa neb ta dou
goller odd Twm a Jack yn yr Isle o' Man a pwy isha odd i neb wpod 'ny
hefyd. Wedi aros 'no am bythewnos a chmeryd trips bothti bob man dodd dim yn
spar gyta nhw wrth fyn'd ta thre. "Jobyn da,
Jack, fod y return gyta ni, ne fusa'n ddecha arno ni." |
|
|
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ
ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ
ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ
ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә
ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ
ă ĕ
ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ ẅ Ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_108_dwr-y-mor_1900_0086k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 18-04-2017
Delweddau:
Fynhonell: http://newspapers.library.wales/view/3592254/3592260/20
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r
Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait