kimkat0087k Ymgom
William a Dafydd – sgwrs yn nhafodiaith Gwent ym y Tyst Cymreig. 2 Hydref 1868.
09-06-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg
yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0087k Y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
Mae’r stori i weld ar wefan
Newyddiaduron Cymru Arlein. Yn y
pen-draw gobeithiwn dacluso tipyn ar y testun a’i gywiro.
http://newspapers.library.wales/view/3674236/3674238/6/
WILLIAM%20MCCOY
YMGOM WILLIAM A DAFYDD.
William a Dafydd yn siarad
a'u gilydd am gyfarfodydd cynhyrfus yr wythnos ddiweddaf. William wedi myned i
dy Dafydd y drws nesaf i gael whiff, a siarad am helynt y frwydr fawr
etholiadol.
DAFYDD: Wel, William, shwd i chi eno. Dewch y mlan i'r cornal ma. Own, Mari
fach, gad i William ishta fana.
WILLIAM: Hi ni wedi cal wthnos both gydar lecshwn ma rwthnos yn. Buoch chi yn
un o'r cwrddi ?
DAFYDD: Do fi fuo yn y Temperance All nos Lun, yn nghwrdd gwir Mr Bruce. Buo
chi, William ?
WILLIAM: Naddo, wir; ror arno i isha mind i dy'r cridd i gwirom esgid waith;
ond fi fuo yn nghwrdd Mr Fothergill yn Dowlas nos Fercher. Fi glywas shew o son yn y gwaith am y cwrdd nos Lun.
DAFYDD: Wel, fi glywas hina son anghomon am gwrdd Dowlas. Fi weta hi shwd gwrdd
odd nos Lun, a chi wetwch chitha shwd gwrdd odd nos Fercher, ac wetyn mi gewn
wpod y cwbl.
WILLIAM: O'r gora gewch chi ddechra, Dafydd, achos taw nos Lun odd y cwrdd
cynta, a chwetyn fi weta ina am nos Fercher.
DAFYDD Wel, o ni wedi clywad shew o son am y cwrdd odd i fod nos Lun dros Mr
Bruce, ac rodd whant arno hi i fod yndo. Wel, bothdu anar hawr wedi saith fi
etho, ond erbyn mod i wrth yr All yr oedd y lie jest yn llawn. Fi sbectas fod
rwpath i fod y noswaith ono ta beth. 0 ni yn ishta mlan jest wrth y platffor, a
medda un odd yn ishta wrth 'mochor i�Dishgwilwch ar y crots a'r dynon ifanc yco yn llanw y
galari, a gwelwch y. dyn yco sydd o'u blan nhw hwnco yw i gaffar nhw yn Pentra-
back, ac ma nhw wedi gorffod dod yma eno i neid mwstwr i drio stopo y cwrdd,
achos ta enw Mr Bruce yw o. Wel, ta beth, dyma y cwrdd yn dechra. Mr Stephens,
y druggistar, yn y gatar, ac yn wir fe wetws pwpwl o eire yn net anghomon, yn
hoi y meddwl i, a dyma fa yn galw ar Mr Tomos, gwnitog y Saison. Bron y gair
cynta wetws a dyma nhw yn dechra gweuddi, Ie, ie, nace, nace, a chico a chlapo.
Weitha, 'rodd an cal tipyn o lon- idd, ond wedin dyma y mwstwr mawr. Pan odd an
gweud enw Mr Richard, wrthi 'rodd pawb yn gweuddi wre ond pan y bysa fan yn
gweud enw Mr Bruce, dyna rai yn gweuddi wre, erill yn gweu- ddi, Mas ag e, mas
ag e. Yn diwadd fe ishteddws Mr Tomos lawr, a'r dynon yn gweuddi, yn hissan, ac
yn cico trad; welso chi shwd beth 'riod. Or pawb yn gweld yn haws taw y crots
yn y galari a gwithwrs Mr Fothergill odd yn gwneid y mwstwr, ac fe wetodd y
cydeirydd wrthi nhw bod nhw yn chwara game y gallsa doi i chwara hi Wel, wetyn
dyma Mr JAMES, y cyfreithwr, ar i drad. Chi wyddoch taw dyn Bruce trwyddo yw
James. Os dodd hi yn ddrwg gita Mr Tomos, rodd i yn saith gwath gita Mr James.
Wedi iddo weud cwpwl o eire yn awr ac yn y man, gorffod iddo ynte gwpla. Ond
chliwso chi shwd beth bron 'riod ag ambell stroke or an rhoi. Ar hoi yny fe
ddarllenws y cydeirydd lithyr oddi-, wrth Mr Howalls, Hynysgoi, yn gweud na
allsa fe fod yno fel odda wedi haddo. Ar ol hyny fe ddath Mr GEORGE MORGAN, stone-cutter,
a dyna sport geso ni gita fe. Rodd a fel mwntibank ar y plat- ffor, ac yn
diwadd fe retws o un pen i'r platffor, ac fe gwmpws ar ei gefan yn fflat, a'i
drad o dan y ford, a gweuddi, Dyna fi miwn yn gynta, myn d- Trio dangos Mr
Bruce a Mr Fothergill yn retag ras i'r Parlament ora wrth yny. Yr nesaf oedd Mr
SAMUEL JONES, o'r Cefan. Odd yn ddrwg geni weld Mr Jones yn cal i wrthnebi,
wath dyn bach neis a thawal angyffretin yw Mr Jones ond fe fu yn ddicon call i
bido bod yn ir. Yn awr dyma un o wyr Fothergill yn mynd i'r platffor; ond achos
i fod a wedi trio stopo y sharad- wrs o'r blan, chas ynta ddim sharad yn awr, a
lawr cas a find. Wel, ta beth, yn diwadd fe ddotws y cydeirydd y penderfyniad
i'r cwrdd, ac fe gunws lot angyffretin i dwylo, ac fe gunws, lot efyd yn
herbyn; yny yw, ichin gweld, lot o ddynon Fother- gill. A thyna fel y cwplws y
cwrdd od-da welas i riod.
WILLIAM: Wel, beth odd dynon Fothergill yn moin yn ngwrdd Bruce ?
DAFYDD Oh, i chin gweld, i gal sturbo ac i drio stopo y penderfyniad i basso,
achos ma nhw yn hawr yn gweld ta rwng Bruce a Fothergill y ma y frwydir.
WILLIAM Dyna fi nawr yn cal sponiad ar y cwrdd nos Fercher yn Dowlas.
DAFYDD: Wel, ia. Nawr, William, dewch i ni gal tipin o anes hwnw; chi allwch
ohi hadrodd anes yn well na fi, ond fi wetas i gora gallswn i.
WILLIAM: Hwn ni ddim, Dafydd, am yny efyd, ond fi weta ina gora galla i.
DAFYDD: Betti, ro weld y box bacco na i fi; fi gymra i whiff nawr tra bo
William yn gweid y stori.
WILLIAM: Wel, fi etho lan i Dowlas, i chin gweld, bothtu saith o'r gloch. Dodd
y cwrdd ddim i ddechra nes dodd hi wyth. Wrth find i'r lan drw'r hewl fawr, own
ni'n gweld peth anghomon o ddy- non diarth yn cered ar yd yr hewl. Mi ofynas i
Dai Wil Shon Tomos�' Beth yw'r oil ddynon ma, Dai ?' 'Widdoch chi ddim,'
medda fa. 'Na hwn i,' meddwn ina. 'Oh, fi weta i chi,' medda fa. 'Ma cwrdd
lecshwn gynta Fothergill yn School- room eno, ac ma fa wedi dod a bothtu wech
cant o'i withwrs a'i gaffars gita fa, a ma fa wedi gageo spcsal tain i find a
gwir Bymant ta thre eno arhol y cwrdd. Wel, fi etho at y School-room. Odd y lie
bron wedi llanw, ond fi sewetas i miwn i'r pen pella, i gael Ile cyfleis i
glywad. Bothtu cwarter wedi wyth dyma Mr Fothergill ar y stage, a aner cant ne
drigen o'i bleidwyrs gyta ge, a reini gid o Byrdar a Merthyr, wath ma nhw yn
gweid nag os dim OATH yn voto gita ge yn Dowlas. Ond ta beth, i gal dod at y
pwnc, on te, Dafydd.
DAFYDD la,, ia, William; cerwch chi mlan (pwff, pwff.) Dere a llymad o ddwr ma,
Mari fach (pwff' pwff.)
WILLIAM: Wel, dyma Mr Overton yncymrydy gatar. Fe wetws gwpwl o eire i acor y
cwrdd, ond rodd yn awdd gweld bod row i fod cyn diwadd. Fe alws ar Mr
FOTHERGILL. Dyma fa ar i drad ac yn dechra seboni gwyr Dowlas, ond dim flo.
Achos i bod hi mor dwym, medda fe, fe dynws i got lawr, ac yn lIe wish i gris y
bu o wetin yn siarad. Yn wir, fe gas lonydd yn lied dda efyd. Tipyn bach weithe
o hissan, &c. Fe gwplws ta beth. Dyma y cydeirydd yn galw. Mr W. GOULD. Pan
ath Gould i'r lan, dyma hi off, gweuddi, sgrechari, whislo, ochain, a wchan fel
hwch a haid o foch bach-elapo, cico, &c. Chliwso chi shwd beth riod. Mr
Gould, hun o brif ddynon y Chartis yn Merthyr, yn cuni ddwylo isha iddi nhw
stopo. Na, dim; mlan a. nhw, nes o'r diwadd i Mr Gould orffod ishta lawr eb
weud un gair. Wedi iddo fe ffeili gal siarad, dyma Mr C. GRIFFITH, gwnitog y
Bedyddwyr yn Mer- thyr, ar i drad. Fe gunws feltasafaemprwr; daeth yn mlan at y
ford mor stiff a phocar, ac fel sa fa yn gweud, Nawr, fechgyn, y fi iwch dyn
chi.' Ond fe gamsynws. Os odd hi yn ddrwg o'r blaen, rodd hi yn gant gwath
nawr, sa le. Oh, ni chlywas i shwd fwstwr a row riod. Dyma y parchedig yn
cymeryd glased o ddwr oddar y ford, ac yn i yfad o, gan feddwl y basa yny yn
diffodd y tan mawr. Ond, dim yn llwyddo. Gorffod iddo ynte ishta lawr, a chas a
weud dim gair.
DAFYDD: Bravo, bechgyn Dowlas (pwff, pwff.) Dynai thalu hi iddi nhw am nos Lun.
WILLIAM Wel, ia. Stopweh, Dafydd, dw i ddim wedi cwpla yto mar gora nol.
DAFYDD Began pardwn, William; allswn i ddim pido, wir. Bechgyn ffamws yw
bechgyn Dowlais na efyd. Cerwch mlan, William (pwff, pwff.)
WILLIAM Wel, nhw welson nawr nad odd dim hiws yn byd i drio passo penderfyniad,
na chisho gan neb i sharad dros Fothergill, a thyma Mr Fothergill a'i ddynon
mas o'r room yn nganol y mwstwr rhyfedda a'r spree fwya welso chi riod. Wel, ta
peth. Wedi i wyr Dowlas gal y room iddi nhw inan, dodwd cydeirydd arall, wath
odd yr en hun wedi mind. A dyma gwrdd ffamws wetyn. Y bechgyn yn sharad fel
dynon efyd dros i hegwydd- orion, ac yn diwadd dyma benderfyniad yn cal ei
gynig a'i basso, taw Mr Richard a Bruce odd i dynon nhw i find i'r Parlament.
Cariwyd y pen- derfyniad eb un llaw yn i erbyn a. Dyma wre dair gwaith i
Richard a Bruce; a dyna ddiwaddy cwrdd doniol yn Dowlas.
DAFYDD: Wel, wir, ma petha fel hyn rhi ddrwg efyd. Pam na naiff Mr Fothergill
stopoi ddynon i ddod gyta ge fel hyn i bob man, a'i stopo nhw i sturbo ewrdda
dynon erill; wath fe all fentro fod o yn gwneid mwy o ddrwg iddoi inan nac o
les.
WILLIAM Gadewch iddi nhw, Dafydd, i ymladd a'i giddyl�Bruce
a Fothergill�ma Mr Richard yn saff gita ni. Ag own ni yn licoi
clywad nhw yn euro dwylo yn Dowlas pan y basai henw a yn cael i ddweud.
DAFYDD O nhw run fath nos Lun yn y Temperance All. Ond dodd y crots ar v galari
ddim yn gwpod i gwers yn dda, wath o nhw yn dechra catw mwstwr witha pan y bysa
henw Mr Richard yn cal i weud; a sa chi ddim ond yn clywad i lidar nhw yn
cymeni pryd hyny; ac yn gweud, I Stopwch, stop- weh, enw Mr Richard yw hwna.'
WILLIAM Wel, wir, raid i fi find i'r ty efyd. Noswaith dda chi gyd. Noswaith
dda chi, William dewch miwn riw noswath yto. O'r gora.
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō
ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ
iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ
ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ
ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә
ʌ ŵ ŷ ẃ ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_109_ymgom-william-a-dafydd_1868_0087k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 18-04-2017
Delweddau:
170419_Y-TYST-CYMREIG_02-10-1868_YMGOM-WILLIAM-A-DAFYDD
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r
Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait