|
|
(delwedd
J7571a) (23 Ionawr 1915)
|
Aberdare Leader. 23 Ionawr 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod y Byd a'r Bettws wedi acor i llyced i weld fod shwd gonshans gyta'r
Mashistrates Brigade i nithir private meetin i stopo heefad yn Sweet Berdar a
o 10 o'r gloch y nos hyd 7 y bora.
Fod miloedd o’r Snecs yn cretu y bysa’n
well pe bysa nhw wedi clirio'u selars I hunen gynta cyn shoto cerig
o'r glass house, a rhoi shawns I’r Grocers' Brigade i werthu wishgi yn lle
Welsh Ham.
Fod rhai yn meddwl ta’r clyba gaiff hi weitha, serch fod y Librals yn dotal
ar y Sul, a gwynepa hir genti nhw wrth ddarllan y Divorse Carckasis ar y Dydd
Sanctadd a wilo am stops a diveedhends, a wetin ishta a gwep whech trodfadd
yn y set fawr!
Fod pawb yn gwed fod isha wara teg mwn bysnas, ond pwy fysnas i neb yw a i
drio cnoco dyn lawr pan bydd sychad arno? Os bydd sychad ar Lord Skitsha
Melyn, ma fa'n gwed, “Hanjelina, hand me the jug," er bod hi'n gwartar
wedi deg; ond pan bydd Shoni GIo Afan yn gweiddi, "Mari, dera ddrink, er
mwyn Cesar," fe gaiff apad, “Ca dy fox, y wepla bonafidee cwrw coch.
shagawyti, ne fe alwa'r plisman!"
Fod sopyn yn cretu ta nid y rhyfal yw’r gwr drwg, ond y dynon drwg sy’n y
rhyfal, a mas o ge ed. fel gwetws lolo Morganwg yn blaem ed, sef, "Kill
a Welshman if you dare, I'll always find 'Fresh' in Berdare, A casgan fach
so good and pure, is always welcome I
am su[r]e; but if the Kaiser said it's TEN, always shout, 'Mae Cymru’n BEN!”
Fod erill yn cretu ta dim ond sham yee-total yw'r Mashinistrates, achos
|
|
|
(delwedd
J7571b) (23 Ionawr 1915)
|
ma shars gyta rhai o henyn nhw yn y
strongs, etc., a’r weaks' water, etc.. a r dry shinsheer. a'r white
bottle with a white lappel who walked from the year of the tair caib -1777 - pan startws yr Hen
Gownt, O! fendigedift goffadwriath, h.y., cyn i bydlers Bernant droi’n glêr!
Fod application wedi ca! i nithir i atal General Dwr y Mor, 2 Brigade
Terrace, Gadlys, Aberdare; Lifftenant Von Tip Shindries, 8 Achapryndawn
Satwrn Villas, Pentresamwn, a Cyrprel Dram Wag, 1 Casgan Vach Manshons, Hewl
y.Gwynt, Cwmdar, i fynd vel depewtashon velvet at Lord Kitchener, er cal
lwans i gwni bantamalion o'r Snecs i gwpla’r rhyfal cyn bydd yr hen gownt yn
ddue. All applicants to send their names in at once to ensure everlasting
success to: — Syr Packman Newydd, Mild
Ale Mansion. 1 Kitchener Road, Via Llunden Fach, Aberdare, England.
Fod Sherman y Committee, gan fod a wedi tori i fys, i gal compensation a chab
i fynd i'r bank; ond cyn fod a'n mynd, fod dou witness i showo nag os dim
fforin blyd yndo, a gweld na shafws a ddim o'i hunan gyta Sherman Raze oddar
cas a i eni, a bod a i sefyll rownd cyn stop-tap tro nesa!
Fod pawb wedi cal ffit, yn enwetig y
ratepayers bach innosent, i weld offisars coleri stick-up — rai o heni
nhw — yn cal cwnad o £25 y year at yr hundreds ma nhw wedi cal o'r blan, a'r
pwr dabs y collars, y scubwrs, y
packmen, a'r sandwishers yn gorffod talu extra am sepon, extra am de, extra
am ryfal, extra am ddwr y mor, extra am rent, extra am faccwn i fwnccwn, a
gwath na'r cwbwl, suffro y snubs mwya
am gal dicyn o hen gownt sy just a lladd y PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd B2207a) (30 Ionawr 1915)
|
Aberdare Leader.
30 Ionawr 1915
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod isha dynon, dynon, a dynon o hyd, mydda Kitchenar; a isha arian, arian,
ac arian o hyd, mydda'r Snecyn, achos, mydda'r ola, “Sdim dynon heb arian, a
os na alla'r Llywodrath roi gwell trowsis i sowjdwrs Masydre ddath nol o'r
ffrynt, bydd y Germans ar y blan yn y trenchis, a becso mawr ar ol Mocyn
Huws!"
Fod erill yn cintach ac yn wthu isha na bysa waitin room yn Cwmbach Stesion,
a bod sopyn o bwr dabs yn gorffod ishta ar y railins, a gatal y packages a'r
portmantos i hongad wrth y lampost! Odd son slawar dydd ta relwe slow am
reforms odd yr hen Daff; ond Duw dishefoni, ma'r "G.W.R." yn waeth
na'r Hen Wr, a'i ddacki ed!
Fod un mistake bach câs, mydda nhw, yn y "Clywedion" dwetha, ond
sdim gwella ar d---l y wasg - mae yndi o hyd fel tacla'r hen gownt, a yndi
bydd a ed nes bo'r Editor wedi tyfu'n ddicon o ddyn iddi riwlo fa.
"Printers' devils, beware! or else there'll be a scare."
Fod prishodd popath wedi cwni cymint fel nag os dim dicon o arian i gal i
dalu am denyn nhw - a shecks, shecks, shecks du a choch sy'n cal'u trafod
bron ymhob man ond districts yr hen gownt, a ma rheiny nawr yn dwindlo lawr
just i zero, a below freezing point, os na fydd influence dychrynllyd a
charitor diamheuath gen y poor applicant, a'r peth gora i nithir, medda nhw,
yw cymysgu cymint byth a allwch chi gyta'r managers, editors, overmen, firemen,
foremen, moneymen, a phob Men erill ond y WOMEN!
Fod y dyn werthws dou fascedat o gokes i'r fenyw fach yn y Gatlys yn haeddu
cal i grocki! A dyna gonshans, chargo grot yr un am denyn nhw pan elsan
nhw'ch dou miwn yn deidy i'r ddwy bocad wasgod lleia 'nawd gan y sweaters
ariod! Sdim rhyfadd fod y Gyfarmant yn galw committee at y cost of living yr
wthnos hyn, a ma isha i Faer Tresamwn, a'i Ddewpity o'r Gadlys, i alw Cokes
Committee ed!
Fod y Censor sy'n cal cig mochyn via Penderyn yn gwed fod talant y Packman
Newydd yn gwaethycu, a bod gormod o'r "Mild" yn rhytag lawr sha'r
Nile! ond sdim son faint gerws Syr Johnny Walker o Bernant i'r Feeder Fach,
na faint gas a mas o'r streshar inventws a i gwrcld a Capon Jenkins! Old
birds live long, but "clers" live longer, for its a long way from
the German Eagle to the Gooseberry Bush, and much further to Cydweli!
|
|
|
(delwedd
B2207a) (30 Ionawr 1915)
|
Fod y Cownsil yn wasto arian bidir wrth roi gola ar y top a neb yn rido!
"Wel," mydda Sam Cols, A.C., "when I learnt Solffa, I knewed
nothin about Hold Noshashun, but if there is a HUN about it I'm in for the
b—, let him be in Heligoland or Cwmdare! Watch a Welshman if you dare. We
were Ffresh before the Burton, you're time's up if not a Briton! And if
that's a great mistake, let 'em ride in Shoni's Brake; ride a mare or horse
in town, fight the FOE, and OWN your OWN!!!
Fod y Senedd mor llawn o Soshals pwy noswath, fel gorffod i'r Packman Newydd
sefyll i sythu yn y Lobby heb un vote nag un cydymdeimlad iddo, achos fod a
ar y look-out am dicyn o hen achos fod a ar y look-out am dicyn o hen gownt,
a gwath na'r cwbwl, dyma getin o Haristockrasi yn cwni ac yn gwed — No Class
— a fina, wara teg, wedi passo'r Classes i gyd! Ond dyna, ffaelas baso’n ffireman, paso'n hitshar, na chario oil i
rytag y trams; ond to [= ta] beth, er mod i wedi acor list i gwni rigmant
Haristocrat w i ed (full blud) o Benybont i Braman — yn ol hanas - and shure
shot till the death. No Germans need apply.
Fod bwyd wedi cwni, soldjws wedi cwni, Pont Tresamwn wedi cwni, Leader wedi
cwni, Ffresh wedi cwni, trwyna wedi mestyn, a chaws Caerffili'n brin, ond
diolch i'r nefoedd, ma talant yn 'Bernant, a'r Hen Gownt eto heb ladd y
PACKMAN NEWYDD.
N.B.—Next Week (Wthnos Nesa), er mwyn i'r Bantamalions ddiall — o Benderyn i
Braman -pryd ma'r Brigad i gwni — Full List of Promoshinums with or without
Old Count, to appear in parade. No hotels allowed, but no money barred. Ful
llist shure appeerin. No degs with cords allowd but marrid men preffard! -
O.H.M.S. (Signed) P.N.
|
|
|
(delwedd
J7569a) (6 Chwefror 1915)
|
Aberdare Leader. 6 Chwefror 1915
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod rhyfeddota pena'r byd ar ddod i'r golwg, a dynon a mynywod. odd yn gas
genti nhw weld 'u giddyl ar hewl Bernant a hewl Cwmbach, yn awr just dod fel
y ci a'r mochyn - nace, nace, mistake — fel yr oen a'r llew.
Fod list yr honars wedi cyradd y local Hedcwartars, a fel hyn ma nhw'n
dishgwl ar ol cal i stico ar y plancedi a'r wala lle nag os tai byw na shiccins:
WAR AND FIGHTING HONORS.
(By Special Command from the Front.)
1. — Lifftenant Von Shindris, V.C. on top of his brest, and the real Welsh
Goose (guaranteed) every Xmas Eve from Pendarren (?) for the term of his
hexistmg life. The title to fall and die with him. Secret (he nearly killed
the Kaiser.) — Private.
2. - Capten John Mons Jones (Ap Ypres), 3 Waterloo Mansions, for bravery in
Caemarydwn years ago, and subsecently in Dixland, for not losing his leg nor
betraying his trench nor his wine-tray to the Shermhun, 2 acres of Patagonian
land (freehold) and 9 galwn due for life of best ale in ty, garanteed by
Zamzivnski Zamivels, and triwly delivard regilarly and yearly on the 1st day
of Janivary, as aforesaid.
3. - Private Siams a la Trwmpyn, Second Maesydre Bantamaliwns (3rd Brigade),
for resciwing 2 men of the Cwmdar Bantalimon from destruction, and describing
the Germans in such a detestable and despicable manner that he himself was
even singled out for slaughter by a whole army of 30,000 Billion Germans, and
who is not ded yet - he to receive Aberdare Public Park for life and his
hares after the U.D. Council have finished using it. If something befalls
him, the Workhouse is at his command in the meantime.
4. - Cyrpral Twm Taran, for keepin up the Pembrokeshire Pigs, and saying he
do know that Snecs "can't spake or writin" Welsh, and for wishin
the Kaiser dead and also standin drinks rownd (without owld cownt) to the
Welsh Corpse Committee, 2 Mansions for life in Tresamwn (not lodge houses), 1
patch of land, and 315,105,200 half-pints, and bye law, if he do not
accomplish that, as aforesaid, his ancestors, heirs, and belongings to have
the remaining fflagons. - R.I.P.
|
|
|
(delwedd
J7569b) (6 Chwefror 1915)
|
Fod list arath wedi dod i'r Local War Offis, ond fod a mor llawn o enwa a
Soshals a Librals a Tories, fod yr awrthowritis yn ffaelu gweld pwy isha
taclu enwa'r Soshals ar y ffrynt pan ma cymint o'r Stocrasi wedi cwmpo wrth
ddala'r cleddy! A mydda rhyw getin o gaffer o'r Cwm: "The political
hatchet is buried for all the war time." "Yes," mydda'r hen wr
odd ar i bwysa, but your tyrantical, bownsical, aflanastical, brwmstanical,
and Germanical old hatchet is beginning to get blunt, and it's a long way to
Timperhary to sharp it! And there are other axes to grind."
Fod rhai yn achwn yn fidir bod mynywod bach a mama'n gorffod talu'r pacages
yn y post ofiis, a un hen wraig, pwr thing, yn gwed, "This is my last
shillin in the world, and I am sending my dear boy a shirt and a cake."
A phan glywws rhywun odd yn yr offis hyny oddiwrth yr hen wraig wrinclog,
druan, fe wetws: “All men at the front should be treated as MEN soldiers -
not as poachers or paupers."
Fod sopyn yn gwed y cwpliff y rhyfal cyn startiff Pwll y Gadlys neu'r pylla,
o ran hyny. y Pasc nesa; ond fel gwetws yr Hen Backman, "Ma pethach yn
dishgwl yn lled dywyll, fel yr hen gownt." Sdim dowt fod isha iddo fe
ddod mas o'i hen blisgyn, a chwni rijmant. a phractiso ar dips Llwydcoed, gan
fod General Glo Man, gynt o'r Mount, a Maer Tresamwn (yr hwn sydd newydd
symud i'r Tudor Mansions) yn gwed fod openin nate i'r Zampallinions yn
Llwydcoed i bracteiso, ond 'does neb mor benderfynol as mor ffyrnig, ac yn
barod a'i holl nerth i ymladd rheiny, croded pawb neu beidio, na'r PACKMAN NEWYDD.
N.B. — Wthnos Nesa, diwadd List yr
Honars a hanas y Beirdds. — P.N.
|
|
|
(delwedd
J7570a) (6 Chwefror 1915)
|
Aberdare Leader. 13 Chwefror 1915
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod diwadd y List of Honars yn cwpla fel hyn: —
No. 2,4567,8910, 1st Batt. Royal Welsh, viz., Private John Salamanca Jones,
to be rised up to a full lifftenancy, but not to go home so often without
leave (via Swansea). — By Order, C.C.
No. 1, 2nd Batt. Cwmbach Welsh, 4 viz., Private Shinkin Bwlet, for scaring
Zampallins and closing canal to all sambarines, to have a patch of Merthyr
Mountain, 100 yards square, a freehold house, and shooting and fishing rights
within the Snec's Dominions. - By Order, C.C.
No. O½, 100th Bantam Welsh, viz., Private Milltir Milgwn Heliwr, for racing
into the firing line and saving six wounded comrades, to receive the V.C. and
the warmest thanks of a grateful nation, and to be carried showldher high
from Llyndan Fach to Llyndan Fawr. — By Order, Commander-in-Chief.
Fod pawb yn cretu nag os dim hanar y sowdjwrs sy wedi dangos dewrder di-ail
ar y maes wedi cael beth desarva nhw, a ta ffafrites hwnt ac yma yn unig sy
wedi cal super-hamitation a homoneritees, etz., etz., ac fely y ny blan.
Fod isha Inspector newydd yn nhre’r
Snecs, a llyced yn i ben a ed! a beth I chi'n feddwl, Mr. Gol., shwd fath neu
ddiscription o Inspector ma sopin yn moyn? Wel, "Inspector of
Loafers," nid tortha cofiwch; ond wy yn suggesto "Inspector of
Sponjars!" Beth wetiff y Grand Committee am hyn, mae'n anodd gwpod, ond
dicon tepig y bydda nhw'n layo rhwpath heblaw papyr a cigars ar y ford!
Fod y local Von Tairpris wedi methu cal ond unpris, a jobin da ed, achos pe
bysa fe mond cal i ffordd, bysa rhaid i bawb whilo am dy i fyw yn y lleuad os
na nela nhw byrnu gento fe wedi cal bentig stabal gan ei lordship.
|
|
|
(delwedd
J7570b) (6 Chwefror 1915)
|
Fod prish monshonstramwns bwyd a pethach i heefad mas o bob conshans, nes ma
sopin wedi mynd i gretu ta dim ond y money-lenders, y pom-shop, a'r mortarmariam
sy'n mynd i achub y Snecs rhag comito seesawside yn y Cwrt Bach, os na a
nhw'n Bantamaliwns i gyd cyn Gwyl Dewi.
Fod isha croci'r mountebanks, fat public feeders, sofrin-grinders, poor
people's food risers, a'r rack-renters; a ma Special Committee, dan
presidensy General Fairplay, i gwrdd am 3 o'r gloch y bora yn y Farchnad, yr
wthnos nesa, i basso verdict sawl un sydd i gal public execution yn Victoria
Square, cyn bo'r collars yn mynd i'r gwaith, a swn yr hwtar 6 yn cyhoeddi fod
y death sentans is passed!
Fod gwath cwestiwn na'r cwbwl heb gal i setlo gen yr Amazons, a hwnw odd
ffordd odd y Washer Mawr yn mynd i acto, ond gan fod shwd gwmanfa o wyped yn
hongad ar y tops, son am rhyfal ar y slants, a phydlers 'Bernant i gyd wedi
trico, a baro'r dyn gollws i watsh hour — nid our (English) (Web- ster
Dictshonerry) ar hewl Bernant, Mashar a Washar sy'n mynd i enill y dydd, ond
fe fydd yn deit dishefoni rhwng y DDOU DDYN MAWR a'r un dyn bach! Good old
Jack! Hope you'll win another watch! P.S. — You've already won a good old
wench!
Fod pob dyn call yn gofalu pido cal hen gownt, ond beth am y dyn wetws ta
nonsans odd dechra nos Lun, a fynta heb ddima yn i bocad? Degrees are not
decreed! but owld cownt goes on for ever, why? Because there is an attempt on
the life of the PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd
J7605) (27 Chwefror 1915)
|
Aberdare Leader. 27 Chwefror 1915.
Clywedion
Dyffryn Dar.
Fod pethach yn etrach yn go dywyll arno ni nawr, mydda nhw, achos fod Wilhelm
Von Geesar (Ap Mwstash) wedi hala notice i'r Snakes i wed nag os dim racor o
German Sausage na black na blomm bwdin i ddod miwn i stesions y pentra ar ol
yr 18th of February!
Fod sopin yn gofyn beth yw'r rheswm
fod dynon a mynywod yn supporto fforinars pan alla nhw gal yr un stwff
gen y natives. Wel, wara teg ed, ma rhai fforinars (nid Germans) yn gwerthu'n
chepach beth dychrynllyd, mydda nhw, na rhai o'r money-mongers gas 'u geni ar
y patches. A os yw'r Snecyn yn moin lesyn mewn cheapness, sdim isha iddo fa
gerad 5 milltir o'r Shop Glocs!
Fod pob shopwr yn trio excuso'i hunan trwy wed fod y mershant wedi cwni'r
prish achos y war; ond mae sopyn o gelwdd yn cal i wed gen rai o'r rhai mwya
digonshans, achos os yw prish yr ham wedi cwni, a'r bara, etc., ma'r blackin
'run peth, mydda nhw, a'r halen ed, am wn i.
Fod sopin ed yn cwni'u trwyna ar y marshareen a'r fforin meat; ond dyna yw
arfer y dukes, y lords a'r ladies a gwyr y skitsha melyn a'r rhai gas 'u cwni
ar lath enwyn yn lle 'i roi a i'r mochyn. Fel gwetws y Duke of Abercorn,
“High life below stairs never brings the poor good hares, but he who starts
to run away may come to be an heir some day."
Fod y Soshals a gwyr "stop-the-war" wedi climbo lawr dicyn bach, ac
os gallwn ni gretu Bili Shon Bwmp, cyn-orator yr Highellpee, bydd y cranks i
gyd wedi cal 'u convarto i goman sens cyn diwadd y rhyval, a gwyr Shir
Bembro, Abernant, Ca Davies, y Gatlys ac hyd y nod Masydre anwar, wedi dod i
ddial giddyl, ac i fehavio'n deidi "heb neb yn tynu'n groes."
Fod bywyd newydd neu "lês" newydd i gal i roi i 'Bernant, trwy fod
y P.D.'s wedi pyrnu, mydda nhw, y pylla, a sdim dowt y bydda nhw'n bildo
Sineema sha marka'r Half-way, fel bydd dynon, mynywod, a phlant yn cal ticyn
o flas y Fethergill Days, pan odd glo am ddim ar y tips, a loshyn hir yn
ddima'r llath!
Fod y Riportar yn gwed ta yn 'Bernant y bydd y Revival nesa', ond revival mwn
beth? Ma fa'n rhy giwt i wed hyny, achos dicon tepig ta isha advertiso ticyn
ar yr hen le sy arno fa - lle sy nawr a dou hextreems yn byw yndo fa:
Snobvilladom Mansions yn cynwys yr haristocrasi, a'r Dramlo Cwrt yn cynwys y
coliararsi!
Fod mwy o frawdoliath i gal i notiso nawr mwn cwmni ymhob man oddar startws y
rhyfal, ond mwn amball i fan lle ma bombastyn sy wedi gwishgo shute milisha
falla ddwywaith yn byw — math o Von Timprish sy'n gwpod mwy am ffagots a
green peas nag yw a am Sambourines a Zempallins!
Fod lot yn protesto o hyd yn erbyn prish uchal bwyd a'r "comparity small
wages” (chwedl -) sy'n riwlo yn y
gymdocath; ond ta faint brotesta nhw am brish uchal pysgod, ham, a chwrw,
para i gwni wna nhw o hyd os na stepiff y Cownsil neu'r Gyfarmant miwn yn
deidy, a thrio stopo'r hen gownt, fel y ceisia y PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
|
|
(delwedd 5546) (26 Mehefin 1915)
|
Aberdare Leader. 26
Mehefin 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod sopyn yn cretu fod y Packman Newydd wedi cwmpo yn trenshes yr Hen Gownt,
ond ma nhw'n camstako'n ddychrynllyd, achos ma tri achos gento i ddod mlan yn
y cwrt bach nesa, a un o heny nhw (censored) am shawl goch sha marca Cwmbach!
-
Fod sharad bidir ed am y wasters sy'n wacco bythti'r dyffryn, ac yn
"shirko" (ta beth yw hyny) rhag sefyll i shawns yn erbyn y German
sawsage a'r German gasbags, German snipes (nid tripes), a'r German bands odd
yn arfar wthu gwynt a glaw o ochor Cwmdar, a Braman weitha. Fel gwetws yr
anfarwol Clerwyson: -
“Fight fair, fight full,
Be a real John Bull!
If you cannot fight at all,
Then you must be very small;
But if you can, then well you might
Put the Germans all to flight."
“Gettin rid of German gas
Helps us to be what we was;
Killing Huns is mighty task,
So don't drink too much from cask!”
"Pawb sy'n heefad, pawb sy ddim,
Dylan fod yn drue i'r dim,
Rheini sy yn pallu mynd
Cerad i gythral a nhw!"
(Clerwyson a'i gant - Passed by Shiswrn - 1915.)
-
|
|
|
(delwedd 5547) (26 Mehefin 1915)
|
Fod Sarjant John Cwtyn wedi cal ordar or War Offis i roi riport packmen y
Districk am y Slackers, Slowers, Wfftichi's, Beccanwrs (nid Buckaneers), Backanwrs,
a'r Slowhanders sy'n y dyffryn heb joino'r colors, a dyma'r list ath lan at
Kitchener: —
War List.
Slackers / Cwrw Campacity / T.T.'s
Cwmbach 4¼ / 500 / 1½
Braman 1,000 / 2,000 / 2½
Bernant 5 / 16½ / 3
Snaketown 2,000 / 10,000 / 35
Tresamwn 25 / 125 / 2
Heolyfelin 60 / 400¾ / 15
Cwmdar 8 / 75 / 100
Llwydcoed 1¼ / 18¼ / 18
(Signed) JOHN CWTYN, S.G.W.A.B.
-
Fod llawer iawn o sharad am y dyn gollws i ffon yn y parc, a sa fa'n gall
bysa fa ddim yn trio cusanu merch ifanc odd yn werthin ac yn winco ar Twm
Tirydail odd a'i gamera dan y goedan. Fel gwetws Longfellow : —
“Love, aye love, causes many a strife,
But what is worser than an old man with white hair trying to get a wife!”
Copyright. —(Edition I., Vol. 2.)
|
(delwedd 5548) (26 Mehefin 1915)
|
Fod rhyw fachan o Shir Bembro, ar ol darllan y War List ar Hewl y Gatlys, yn
gofyn yn ddiniwad right i un o scolars Ysgol Comin beth odd significashwns
neu cwalamificaswns y llythrenu mawr (S.G.W.A.B.) odd ar ol enw Sarjant Shoni
Cwtyn. “Bachan," mydda'r gwalch, “sa ti mond dishgwl yn y Dickshonaree,
ma fa i weld yn bleim, indeed, "Soldjwrs Gone War Ala Bant.'
-
Fod scandal y Snecyn driws brioti dwywaith wedi sinco dicyn, ond ma teimlad y
ferch gas i thwyllo heb sinco, a thafota'r gwracadd cyd a thrwnc yr eliffant
am shoto'r twyllwr i ganol llond ca o Jack Johnsons, lIe nag os smel na dram
na drink, na gopath cal un gyta wink, ond pawb yn ymladd nerth i ddwrn, nes
llosgi'r Jermhans yn y ffwrn!
-
Fod gwyr dwr y mor, y lords, dukes and ladies, o Lunden Fach i Bont Tresamwn,
yn gwed nag os dim blow out i fod leni, ond os galla nhw gal dicon o hen
gownt i gwni'r gwynt, dicon o ffrils a ffrals, scitsha melyn, shitan a shams,
siwts a gwascoti gwynon, fe fynan i cal nhw, war or no war, ar gefan llytan y
PACKMAN NEWYDD.
[N.B. - Cownts closed. Latest List and War News in next edition. — P.N.]
|
|
|
(delwedd B2248a) (17 Gorffennaf 1915)
|
Aberdare Leader. 17
Gorffennaf 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod y bardd o Seymour Street gynt (nid Ab Hevin) yn myfyrio'n ddwys un noson,
a dyma fel yr ymfflamychodd ar Y MEDDWL DYNOL.
"Pe bawn mor fawr a chyrhaedd awyr,
Neu ddal y mor a'm llaw fy hun,
Fe gawn fy mesur wrth fy meddwl,
A'r meddwl ydyw maint y dyn."
Nid drwg o jobin fysa i Gommittee Room 3 i urddo'r bardd am bedair llinell
mor dda.
Fod rhyw ddyn a chwilsyn yn i glust yn rhytag
fel dyn gwyllt i'r Cwrt Bach, ac yn gweiddi nerth i geg, cyn bod y bwm
odd wth y drws yn cal i anal, "Pwt John Ffrwdamws Notpay, 3 Ballhead
Terrace, in cwrt of symans redimans- mwni for 6s. 9d., and quick for it
too," ac yr odd i fwstash a fel gwrych mochyn, a'i lyced yn bwljan mas
fel "Gas y Keisar.” - Reuter, via Cilog Sant Elvan. Passed, but in
memory and keeping. [= ar gof a chadw]
Fod llawar yn cretu nag os dim hawl gyta Jew i fyta cig moch, na dyn tew i
nithir sport o ddyn tena, ond pan bydd Welsh Jews yn byw ar bwys i giddyl, ma
un yn jelws o'rllall, pun a fydd a'n dena neu yn dew, yn apal neu yn dlawd,
or as good as they make 'em in Sheffield, when sovereigns are not in the
field. Fel gwetws Mr. Sarsapillamws:
"If you deal, deal honest
In the country which is free-est —
Deal with men who 'are' real men,
And then the Bwm will ceiad i ben."
Fod Cawr Mona wedi anfarwoli 'i hunan heb fynd i'r orsadd na'r Steddfod
Genhedlaethol trwy gyfansoddi y penill canlynol, a'i ddarllan a ed yn y
presentashwn yn nghlywadicath yr adnabyddus Ap Amal, Snuffwyson, Csidyrfab,
Corcinwr, Weflebin, Dawdawfat, Stuartin, Ap Snifflyn, Packinfab, Ap Heefad, a
John North (nid y bocswr). –
"To wife you have a husband you will be,
We'll call you William Mawr, not Kaiser or Bawbee;
But to a man, now, William, I say this,
Stand by your wife, and then she will you kiss.
'I fod neu ddim i fod' all Welshmen shout,
And what can prating fools fall out about?
So now in handing you a presentation fair,
Be a true Snake—don't run down Sweet 'Berdare;
And when you die we'll wish you best of all –
That in a cask of cwrw ffresh you didn't fall!"
|
|
|
(delwedd B2248b) (17 Gorffennaf 1915)
|
Fod Ap Smartyn a'i drowsys plethog yn ffeilu diall commissiwns yr Undab, a
mydda fa yn ddicon sheeki yn No. 3 Room y Parlamant Newy: — "What for
you think man's wife to be? If she walk down behind me, wasn't I leadin? Free
country we are, and we gotten to find we not fall into trenshes, trowsis or
no trowsis, skitsha melyn, mild, nor hen gownt!" a dyma Ap Amal yn rhoi
yr arwdd mwya smala i'r crowd fel cas pawb ffit o werthin, ond yr Hen Backman
odd yn cymryd snisyn yn y cornal i drio stydo pwy ffordd odd gornestu a
Mynydd yr Hen Gownt! — Special (via back of White Elephant), unknown to
Keisar.
Fod sopyn yn cretu y daw conscripshan yn mlan mwn byr amsar, achos ma
Register newydd i ddod mas i bob crwtyn, dyn, a menyw i ddoti lawr beth yw i
hoetran nhw, p'un a os danadd ne wallt genti nhw, faint o amwnishwns allan
nhw nithir, a beth ma nhw'n fyta, a falla beth ma'n nhw'n heefad ed. Ond
dyna, weti'r cwbwl, ma'r pantry yn handy o hyd, a sdim lowans i'r plisman
fynd miwn mani i weld faint o ddiod fain heefws Mari Cwmgors na Leiza
Caedraw, etc.
Fod rhai o'r tenants sy'n byw sha marca Masydre yn achwyn yn fidir ar waith y
Cownsil yn pallu altro'r drains, a gatal y dwr i lifo miwn i'r celeri fel
fflud fawr Noah, a erill yn gwed ta achwyn ma'r gwithwrs nag i nhw ddim wedi
cal dicon o gwnad. Wel, ma yr officials yn cal cwnad tragwyddol bob dwy
flynadd, tra ma'r pwr dabs sy mas ymhob tywydd yn gorffod bod yn satisfied ar
yr Irishman's promoshun — 2½d. yn y bunt, a'r gaffer yn enjoyo'i £250, £300,
.£500. £800, a £22,000 a year am roi dicon o cheek i ddynon tlawd!
Fod sopyn yn gwed nag i nhw ddim yn mynd i’r wlad na dwr y mor leni, ond ma
na gwpwl o lords and dukes yn meddwl hala cwpwl o sofrins sha Byrtywa a'r
Mwmbwls os na fydd y Parlamant (ac yn enwetig Room 3) yn ishta yn rhy hir, ac
yn blocko'r ffordd. Gan fod dicon o waith gen i i glascu'r hen gownt, mae'n
dishgwl yn dywyll iawn a diopath ed ar y
PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd J7556a) (14 Awst 1915)
|
Aberdare Leader. 14
Awst 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod yr holidays wedi passo yn rhyfadd o leeb, a rhai yn gwed fod hi wedi bod
yn leeb tufiwn ed, a sdim rhyfadd, achos dyma fel y canodd Bancwetfab ar ol
slipo ar y steps: -
“Dyma le cythreulig, cythrwm,
Lle ma dynon fel mwn codwm;
Cerad lan a cherad lawr,
A sinko i sal orthrwm!"
Fod un arath o whelith y gwallt hir wedi bod yn galivantan obothti'r sands yn
Nhresamwn, ond yn ddicon disamwn yn dod sha thre sha marc stop newydd y
Parlament, yn canu fel hyn: —
"I drink a peint when I feel feint,
And sometimes drink too many,
But when I'm sick and want a peint
My trowsis pockets' empty;
But now, beware, you Snakes of Dare,
You slackers bold and cheeky,
Old Count still lives just off the square
And gives good peints quite tidy!"
Fod erill yn gwed y bydd stop hen gownt yn Snakeland ar fyrder, 'run peth a
fydd hi yn Nghaerdydd, Casnewydd a'r Barri, a ta'r peth gora all y Snakes
nithir cyn y drasticashun fydd wheelo'r forenaff's a'r fflagons ar ffrwst i'r
selars a'r pantries cyn bod shells Lloyd George wedi wthi'r tafarna bach neis
i gyd yn ffradachmins, er mwyn i'r Rechabiniaid i gwni dandelion tents o
Gwmbach i Ricos!
Fod rhyw hen gatach yn gwed nag os dim sens mwn dyn yn gwishgo mwstash cruman
a phen plastar fel y Ceisar, ond y peth gweitha all dyn wishgo, yn ol cownt
leefir y Packman Newydd, yw dyn (neu rwpath tepig iddo) yn gwishgo llond cart
neu gwtyn o hen gownt i fynd i ddwr y mor, a chloi'r drws ffrynt a'r back yn
erbyn y rent collector, y milkman, a'r bwm, heb son am y death-club-man a'r
Smelgwns! Wara teg ed, ma rheina i gyd yn handy weitha, ta faint o waeddi “y
ni, y ni, a'r ni” tragwyddol sydd yn Nghomittee Room 3 y Parlament Newydd!
|
|
|
(delwedd J7556b) (14 Awst 1915)
|
Fod sopyn o sharad obothti'r dyffryn am y Registar Newydd sy ar gal i
ddraffto mas, a bod ofan bidir ar rai o'r ffeinthearted pwy ffordd tacla nhw
lawr 'u cwamalificashon ar y papyr, ond fel hyn y bydda i yn i seino fa:
Register for War.
Under Compulsion of His Majesty's Government.
Name—John Packman Jones. Age, 37. Born — Cwtycenin, Parish of Shir Bembro.
No. of children, 5. Wife, yes. Occupashon, Clasgin Hen Gownt. Nationality,
yes, full of Welsh. Ability, yes to knock door 105 times before answer, stood
85 black eyes, walked 45 miles in 1 day and 1 night, drink 4 pints and 1 meal
bara chaws a winwns. Character, yes, never been in jail. Other remarks,—yes,
great-grandfather killed in Batl of Waterloo, grandfather saved a horse from
drownin, father killed a snake, and mother saved her life by running away
from a bull.
Are you ready to fight? — Well, yes, sir, if you please in the next war.
Initials — J.P.J.
“God Save the King."
Fod rhai yn gwed i bod hi'n hawdd i ddod mas o'r ffeitin sponsibility mond
cwni'r oetran, doti sopyn o blant miwn, a gwed fod un goes yn fyrrach na'r
llall, a rhai o'r bysedd ar goll, etc., etc., etc., dim ond bod yn giwt yn y
fysnas, a taclu lawr, for home defence, with poker and tongs," etc., ond
ma'r specimen uchod yn ddicon plaem i'r voters i gyd.
Fod sopyn yn cretu y daw y rhyfal i ben yn gynt sa pob un yn neid
ddyledswydd, a phido brago y gnelsa fe'r peth hyn a'r peth arath, ac yn nthir
dim yn y diwadd, nac hyd y nod roi dima yn y war ffund, ond yn ishta lawr i
recommendo ac i adveiso erill beth i nithir, yn bildo hen gownt pianos,
dillad, jewelry, celfi, shina a shams ar gefan llytan y — PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd 5757a) (28 Awst 1915)
|
Aberdare Leader. 28
Awst 1915
Clywedion Duffryn Dar.
Fod y Byd a'r Bettws yn gwpod o'r diwadd o'r diwadd nad yn Germani y ganwd
llewod, nac yn Abernant y magwd llycod, ond fel gwetws Cawr Mona: —
“Dyn fo a'i drowsis yn lled dyn,
Fe fyniff gwrw lle y myn,
Ond dyn all roi y packman lawr,
Ei le nid edwyn ar y llawr!
Chorus Dewch 'ma mwy amal, etc."
Fod cawr arall mewn llawn maint wedi cyradd y Parlamant yn lled ddi-seremoni,
a mydda fa: Fe daetho lan o Gardydd
gyta'r Ecsbress heb un stop ac heb ddangos y dicat, ond pan arrivas i yn
Mhonty-typridd dyma hen fachan a throwsis rib yn gwaeddi mas, “Show
ticat!" Beth nath y cawr ar unwaith odd ond cwni i ymbrela, a gwed wrtho
yn lled smart ed, “I come from Harriplane, to inspect T.V.R. dividings and
multiplyins, and if you can't find first-class you will be out-class!”
"Oh!” mydda'r rhibyn, “pass on, but don't come here tw amal!" Shwd
beth yw bod yn riportar, onte fa, heb ofni Sherman na Shwrnaman, boed gyta fa
drowsis rib neu flancad packman.
Fod Room No. 3 mor orlawn o'r Hempees fel odd gorffod i'r Speekar pwy noswath
waeddoi mas, “Hold on! we wants half meshurs! Stand back! Don't be
pressipation, we will win the war! Don't waste sofrins, because 8 million
Russianers are comin out with full murdar in their hans to stand for what
never you nor I everd seen. There is 22 million japs behind em! Merica is
comin, Llundain Fach is comin! Abernant is comin, and myn j—1, every membar
of No. 3 is comin. Come mwy amal! God Save the King." Dath y riportar
mas wetin, achos odd y wire, y pocer, a'r tongs yn waitin — pethach yn rhy
aml!!!
|
|
|
(delwedd 5757b) (28 Awst 1915)
|
Fod rhyw fembar yn holi “Ble odd y Baltic?" “Wel," mydda
well-inffirmed membar, achos odd a'n fembar ed, “Taro un odd hwna, bachan, ar
Glock y Shermans, achos erbyn bydd a wedi taro DOU, byddwn wedi cal dicon o
gawl cenin a nerth calibaraidd a Chawrmonaidd i ladd a difodi pob skinflint
o'r Hunanwysion a gododd Pharo mwn ca ariod!" “Beth wetyn?" mydda
rhyw getin o aelod cheeky o Benwain. “Oh, dear! you dirty dog," mydda
Risiart y 3rd o Benybont, “if you want honer, have it, but if you want
plessur, come to Sands Byrtawa, where the sun is shinin gold and the
landladies shovelin in!” Ond fel gwetws Ap Amal, “Wara teg, ma Risiart y 3rd
wedi catw peth o'r gold o'r sands!" a mor gynted a dath y gair mas o'i
wefus a ma drinks round i'r Parlamant basws y mesur i gal streit register, er
gwaetha lwc tlawd y tri cetin bashelors odd yn ishta a gwefla sych wrth ochor
their majesties married, but barred men!" Fel gwetws yr Hen Backman -
“I love the company, I stick to men —
Men without fear, men who say when,
We can with all our might say, 'Then
Shall we with all our strength, like men,
Proclaim, ‘Mae Cymru byth yn ben."
Cwplwd y chorus, “Dewch ma fwy aml," drwy i'r Speaker waeddi gyta'i
drwyn coch, "Time's Up!" a hyny cyn fod yr Hen Gownt yn dod miwn i
bocad gwag y — PACKMAN NEWYDD.
Passed by Censor via Cwmbach Road.
|
|
|
|
|
(delwedd 5758a) (4 Medi 1915)
|
Aberdare Leader.
4 Medi 1915.
Clywedion Duffryn Dar.
Fod achos y fasnach lo a'r crefftwrs a'r gaffars a'r middlemans mor bwysig,
fel braidd nag yw a yn towli'r rhyfal i'r shade, a dynon dwl yn gweiddi
streic, streic, streic o hyd ond purion peth, mydda nhw, fydda rhoi eitha
strocad ar ben y rhai sy'n sgothan felly, neu i pacco nhw mas yn y trenshes i
sefyll cnocs Von Clock, os yw hwnw yn fyw.
Fod whech turn am bump yn swno'n grand digynig, ond 4 turn am 10 w i yn gal
yn amal, a llawar tro dim ond 1 am 12, ond y ni, ni, ni pia hi o hyd, a rhaid
wetin, wth gwrs, i'r "gods" fod yn dawal, a chlappo ar ddiwadd yr
arath, a chauad 'u box!
Fod Shakespear wedi gwed canodd o flynydda'n ol, “Put money in thy
purse," a ma sopin dychrynllyd wedi nithir a ed, o amsar John Gambo
Jones, 1012, i amsar Lord Gold Jones, 1915. Wrth etrach yn y Dichsonary of
Wages ac yn acos i fil o flynydda, ceir yno y cownt hyn :—
Wages Bill.
Date. Name and occupation.
1012 - J. Gambo Jones, halier, 1s. 3d. per week.
1112 — John Cwnad, helper, 2s. 6d. per week.
1212 - John Uwch Jones, gaffar, 5s. per week. Stim cownt wetin spo'i
1815—John Mason Jones, £1 1s. per week.
1915 - Lord Gold Jones, manager, £1,000 per week.
Fod hi'n deg, mydda nhw, yn ol y Sliding Scale yna, i bob coliar teidi gal
himinam o 6/8 y dydd, achos ma pob cetin o gyfrithwr yn sharjo 6/8 am wed pwy
ffordd ma'r gwynt yn hwthi, a hynny heb fentro'i fywyd na throchi i wymad
glan. Fel gwetws Columbuswyson:
“Po fwya o arian fydd dynion yn moin,
Mwya i gyd fyddant yn gweiddi am goin;
Ond os gofnwch chi iddynt i helpu pwr dab,
Edrychant yn snoblyd - yn wath na Macnab!"
|
|
|
(delwedd 5758b) (4 Medi 1915)
|
Fod y Snecs, mydda nhw, wedi listo yn dda digynig, ond fod sopin o slackars
ar ol eto; ond wait a bit, bydd y Scrutinamiters yn pico'r mwnishan men mas
o'r Register Mawr un o'r dwarnota nesa, a dyna lle bydd crocodil tears amsar
bydd y speshals yn rytag hibo Cwmbach Docks a'n un hanwl i yndo. Wel, fydd
dim shwd beth a winwnsin i gal am fish, nes bydd y speshal dwetha wedi myn'd,
achos ma'r gwyr wynwns i gyd yn ymladd er mwyn cal racor, wara teg.
Fod sopin dychrynllyd yn gwed nag i ni ddim yn gwpod dim beth sy'n mynd mlan
yn y ffrynt; a ta sopin o gelwdd sy'n dod mas yn y papyra. Ond ma un peth yn
sicir, fel gwetws John Smart, "i ni'n gwpod net beth sy'n mynd mlan yn y
back, a sopin o bethach cwilyddus ed, sefa ddim ond dynon yn cusanu gwracadd
soldjwrs sy bant." Wel, felna mae spo. Fel gwetws Napoleon: —
|
|
|
(delwedd 5758c) (4 Medi 1915)
|
When soldiers fight by day and night
For freedom and their country,
Their fair ones revel in the sight
Of dandies bold and cheeky;
But when the war will end some day,
And Tommy comes home winking,
What ho! there'll be a mighty play -
'Twill last some time, I'm thinking!
Fod rhai o'r lords a'r dukes wedi dod 'nol o ddwr y mor heb enjoyo cystal ag
arfar, a sdim rhyfadd ed - odd dim cymint o gregyn heddwch obothti leni, a
llai o wascoti gwynon a scitsha melyn, ond dicon o wefla mawr a wep gen rai
cyd a thrwyn Shon Gorff. Fel gwetws Copernicus: —
“When the wind blows fair in Sweet 'Berdare,
You'll get sweet maids in plenty,
But when it blows from old Cwmdare
'Tis better to stick to Sketty!"
Fod amsar gwell i ddod, mydda Maer Tresamwn, ond mae a'n hir iawn yn dod, er
y brags mawr sydd am y bont, y beach, a'r summer walks obothti'r sandfields.
Ar ol i'r Maer gal freedom y city, falla bydd shawns i fi gal yn nghwni yn
"halderman," mas o drybini yr hen gownt, ac i gal rhyw short o enw
gwell a mwy genteel na'r PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd 7568a) (11 Medi 1915)
|
Aberdare Leader.
11 Medi 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod hewlydd cae Maesydre wedi cal 'u gwishgo yn bert ofnadw dydd Llun, ar
ddychweliad un o ddewrion y gad o'r ffrynt, a fe gas right royal welcwm ed,
ond y trueni odd fod rhai o'r fflags odd yn hongad mas o'r fath nas galla neb
weyd pwy nashwn odd hi'n represento - felsa nhw wedi bod yn Twrciland neu
rhyw land arath odd yn ddiarth i'r Snecs.
Fod torad bidir ar y merched, o'r part ucha yn y Parc ar y Sul, a chwpwl o'r Shonies yn trio
gnithir sport o'u dresses ond no go oedd hi, achos ma'r merched, wara teg
iddi nhw ed, up-to-date mwn dresses a manners, peth na ellir gwed am y Shoni
Hoys rheglyd a brwnt geir yn scwinto obothti'r ardal yn amal.
Fod sopyn yn gwed nag yw'r stori ddath mas fod y wlad yn fwy sobor oddar
start y rhyfel nag y buodd hi ariod, yn nonsans—fod bechgyn sydd just a enill
dwpwl beth ow'n nhw'n arfer, yn awr yn colli yn fynych i gal extra spree, ac
nad yw hynny yn arwdd o sobriety. Fel gwetws Dal Spanner Fawr. “Ma gento ni
'nawr ddicon i neyd i dynu'r blacklegs miwn i'r Ffederashun, talu'r war
prices, 1/4 am faccwn, 2g. yr un am wyau, a chwnad rent, etc., heb son am yr
hen gownt sy'n ddue i'r packman; a gadewn rhwng gwyr Pentyrch a Phengam i
fatlo mlan fel y dewishan nhw." Ar ol yr arath swishws rhywun y gair mai
un o freed Penderyn, ac nid o Gardiland, yw'r Spanner Fawr.
Fod swagro digynig gyta'r dresses gwynon ar ddiwadd yr wthnos, a wfft shwd
draffarth odd gen rai o heni nhw wth fynd lan i steps y dwbwl deckar, fel sa
Lady Tytop neu Lady Tresamwn wedi troi mas i byrnu cabitshan neu goes mochyn,
a'i hala nhw sha thre gyta'r motor.
|
|
|
(delwedd 7568b) (11 Medi 1915)
|
Fod achwyn bidir ar y shecks brwnt ma'r ladies yn gal i dalu'r shop a'r
bwtshwr, etc., a bod cwiddyl ar rai iddi cario nhw, achos i bod nhw mor ddued
a'r black, a dim ond y ffigwr iddi welad. Wel, du neu wyn, bysa milodd o
fenywod bach teidi yn falch i gal cwpwl o henyn nhw, hyd yn nod sa nhw'n
rhacs ed, achos ma'r Bank of England yn safe, os nad yw Clwb Dwr y Mor!
Fod partoians mawr ed, wrth son yn awr am deni nhw, am starto Royal Saving Club yn y Rumanwhisky Arms Hotel, i
ddechra nos twco fala. Chairman, J. Myfi'n Witness, M.E.; vice do., A. Esteem
Dwy, Y.H.; treasurer, John Pocedwyson Jones', A.C.; trustees, D. Not Affraid,
Noah Get Moore, Wm. Cabynllecerad, ac Abram Talcanderin. Secretary, Iestyn ap
Ffwlscap, 4 Aberbratish Row, Ffoundry Town, to whom all applications for
membership must be addressed. No swearing allowed. No fforinars need apply.
Fod y Germans caretig ac anwl wedi gnithir cynig arath i sinko a boddi'r
passengers a'r crew diniwad; ac wrth glywad hyna, mydda un, “Ffordd gebyst
gall dynon sharad neu feddwl am streico pan ma'n gwlad ni mwn perygl?"
Ia, dyna fe pob un a'i farn; ond dyna'r gweitha wetin, ma shwd wmbredd o
ddynon a dim barn genti nhw ond barn y gaffar, sefiff hwnw ddim o flan canwll
ddima!
Fod y mynywod yn gwaeddi am Gonscripshan dros y lle i gyd, a dyna shap fydd
arno ni fydd ar ol wetin. Mynywod yn blismen, yn undertakers, yn
lamplighters, yn fwtshwrs, yn town-criers (dyn helpo ni), yn fwms (dyn helpo
ni), yn rate collectors, tafarnwrs (ma rhai o nhw 'nawr ed, y rhai anwl!), ac
yn backmen!! O'r arswyd anwl, dyna ddiwadd truenus i'r PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd 7547b) (25 Medi 1915)
|
Aberdare Leader. 25
Medi 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod galwad mawr am withwrs o bob math yn y dyffryn, ond fod rhai yn gallu byw
heb witho, a pha fodd nid oes neb ond y detectives a'r spies yn gwpod. Falla
ta membars y Secret Service i nhw mwn disgize o ran dim a wyr y Snecs bach
innosent!
Fod siarad a dadla dychrynllyd o hyd miwn a mas o'r Parlamant o gylch pwy
sydd wedi lladd fwya o Shermans — y Rwssians, Ffrench, neu'r British? Ond
dyna ddwl ma dynon — i nhw ddim yn cownto fod y Belgians wedi lladd mwy nag i ni'n feddwl, a rhoi check ed ar y
raswrs ceffyla tin a phren odd yn rhytag trwy'u gwlad nhw, er mwyn i'r
British a'r Ffrensh gal anal i roi naid i'r ffrynt, a ma nhw wedi dala'r
ffrynt ed, achos mae'n llawn bryd i'r Keisar dynu'i fflag “Fi a Dllw" i
lawr nawr, gan iddo ffaelu cal brecwast yn Paris, a chig moch Penderyn yn
Llunden, a bod y son mas ed ta black bread ma boys Berlin yn byta, a falla
fod hyny yn arwydd ta yn y Black Hole fydd 'u diwadd nhw!
Fod y Byd a'r Bettws wedi acor i llyced i weld o'r diwadd fod Soshals yn fwy
call nag oedda nhw'n arfar bod, ac er syndod i wyr Pentyrch a Llunden Fach,
ma rhai o heni nhw'n advocato Conscripshan! Ond dyna'r secret mas, mydda nhw,
sef os bydd Conscripshan bydd mwy o le i ddwcid yr ochr hyn a'r ochor arath
i'r clawdd — i nhw ddim yn gwed dwcid beth, cofiwch chi, syr (Mr. Gol., neu
stim ots-beth yw'ch enw chi, mond bod yn iach ar y war side a'r bonas ed),
ond twcid fydd hi, ac os twcid, twcid yn onast, wth gwrs, yn lle doti dwr yn
y llath ar y sly am 3 o'r gloch y bora!
Fod rhai o'r sowldjwrs odd yma ar leeff y diwarnod o'r blan yn gwed taw
Conscripshan ddaw hi cyn dydd Calan, er bo shew yn gwed fel arath ond yn ol y
mwyafrif, mydda Dr. Knowall, yr aiff hi yn y Senedd, er y gall y Cabinet, yn
ol barn Ap Llyffan, basso military act mwn bythti shiffad (os ych chi'n diall
beth ma hyny yn golygu) — 24 hours sposo. Ta betn, conscripsnan neu ddim
conscripshan, ma'r voluntary wedi acto'n ardderchog - yn well na'r
expectations.
Fod sharad mawr gan bawb eto obothi'r Zeppelins sydd wedi bod yn trafaelu
dros y mor i diriocath Lloegr, a lladd menywod bach a phlant a rhai dynon ed.
"O, gwaith Sweet William yw hwna," mydda lanto Tydraw, "er
mwyn dangos y galla hala ofan arno ni; ond dyna'r diawst o ge, pam na aliff
Sweet William i Navy mas o'r Canel i hala ofan ar y British Monsters sy'n
swiman yn y mor? Na, ma'n well genti nhw sefyll tu ol i'r poison gas, a wthu
hwnw mas o'r tecil tins sy'n cal i gnithir yn ngwaith Krupp."
|
|
|
(delwedd J7547b) (25 Medi 1915)
|
Fod sopyn yn gwed fod isha i ni i gyd i dynu lots pwy sy fynd mas, ond neb sy
a fwy na 12 o blant, £100 o hen gownt; 12 mish o lath; 6 mish o rent,
blwyddyn i'r death club man, a dan 5 trodfadd o uchder, os nag y myniff a
joino'r Bantams er cal gwarad o dafod y wraig a gwitho turn extra i gal bonet
newydd iddi.
Fod y coliars wedi cal cwnad arath o 3/9 y bunt, mydda'r papyr, a bydd dicon
gen y "ni" i frago am dano am un dydd a blwyddyn. Wel, wara teg ed,
ma nhw wedi cario'r dydd, a ma nhw'n haeddu wages da ond pwy gythrwn o
gyfiawnder sydd mewn gnithir millionaires o un dosbarth o weithwyr, a gatal
erill i suffro'r high prices ar wages bach? Pwy atebiff? Un gopath mawr sy
gen i yn awr yw y caf fwy na 6c. o hen gownt o hyn i mas, a falla wetin y
bydd shawns gwneud millionaire o'r PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd B2193) (09 Hydref 1915.)
|
Aberdare Leader.
09 Hydref 1915.
Clywedlon Dyffryn Dar.
Fod Ripotar yr Aminishons yn gwed fod 900,000,000,000,000 o shells wedi cal i
nithir ym Mhrydain oddar pan darws Von Klock un o'r gloch y bora, ond fod
isha 'nawr, mydda Lloyd George, 2,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000
cyn fod y cloc yn taro dou, achos dyna'r amsar y bydd holl hooters y Dyffryn
yn hwthu sand y mor i froena’r Germans nes bo nhw'n ffaelu gweld y gwaniath
rhwng German Silver a phishyn tair o bocad John Bull!
…
Fod yr hen ddywetiad fod isha 9 dyn i nithir teilwr yn hen stori lled dda,
ond ma 67,000,000 (miliwns, cof- iwch) o Germans wedi nithir Kaiser, mydda
John Tradfflat Samboreen, a throwsis teidi iddo wishgo ar hen gownt, ond fel
ma gwaetha'r modd, yn yr un trowsis mae a o hyd, yn rhytag rhwng yr East a'r
West yn gwishgo medals ar ei frest; ond fel y gwetws Shon Seidyr:
“At last the Kaiser's met the men,
Who will not let him rest ‘is nen,'
Until gwlad Germany is beat
And the Emperor in jail."
P.S.—Odd ffeilu ffindo odl i gwpla.
…
Fod wraig John Deccon Jones yn ffaelu diall na bysa Ffederation y Pregethwrs
yn talu am 'u lodgin nhw tra bo'r parlament a'r cyrdda mawr yn ishta, ac yn
gwpod fel ma prish yr ham wedi cwni i 2/6 a pound. A dyna Ile bydd y doctor
divinity a'r B.A. a'r B.Z. yn ishta yn y parlwr cysegredi yn i slippars, Ile
na fentrws un lodger na phackman yn i fywyd, yn enwetig rhai a thrad mawr fel
Soshal!
…
Fod rhai yn gwed 'u bod hi'n well, fel ma'r Scrythyr yn gwed, i roi nac i
dderbyn ; ond myn hosan i, derbyn ma'r pregethwrs ed o amsar Adda hyd 'nawr;
yn enwetig wythnos 'y sassiwn, y gynadledd, y gymanfa, cwrdd cwartar, a phob
cetyn o gwrdd sy a isha pregethwr yndo fa, fel sa nhw'n seintiau, neu fel y
Pab. O, na, nid fel pab ed, achos ma hwnw wedi cal i biclo yn y Vatican, a
dim shawns gento i fynd i'r jug and bottle, os nag os gento wine-cellar, a fe
gynta fod. Wel, pob Iwc i'r Bed-yddrwrs i nithir Iles ymhlith y Snecs!
…
Fod yn whith gan lawer glywad am farwolaeth Keir Hardie. y dyn wishgws i gap
pan ath a miwn i'r Senedd y tro cyntaf. Dyn od iawn odd y dyn, a hynododd ei
hun ed, a pha un a fydd yr I.L.P., y parti startws a, fyw yn hir, amsar a
wed. Heddwch iddi Iwch a nawr ar ol y fatl dwetha.
"Keir Hardie's gone at last to rest;
And let us hope he's with the blest.”
…
Fod y Shermans yn i chal i right and left gyta venjans, a jobin da ed, er
mwyn cwpla'r rhyfel, fel y gall mwy o hen gownt ddod miwn i boceti'r
PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd 8163) (23 Hydref 1915)
|
Aberdare Leader.
09 Hydref 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod shew o foddar trw'r dyffryn ynghylch pwy gaiff i ddewish i lanw lle Keir
Hardie yn y Parlamant mowr, a rhwng argiwments y Soshals neu'r Highelpees, y
Librals a'r Tories, heb sou am yr Hindependants, etc., gallsech feddwl fod
ffair Llangyfelach wedi atgyfoti, a phawb a'i wynt yn ei ddwrn i weld y
Showman!
Fod sopyn yn gwed nag os dim isha mynd mas o'r district neu'r sir i bico
membar, neu gandidate, ddylswn wed, er fod rhai o'r mwncwns wedi bod yn hela
mor bell a Scotland. Gwetws un bachan teidi o goliar o Gwmdar y gnelsa
Stanton gystal M.P. a phaged o nhw, ond dyw e ddim yn uchal ar steps yr
Highelpees nawr achos i fod a'n Britisher, ac wedi matal a'r cranks a'r
Pro-Germans.
Fod erill yn gwed yr ymladda'r Librals a'r Tories, a dyna lle bydd hi wetin -
four-corner-fight - a dyna bicil fydd hi os enilliff y Tori, a'r rest i gyd wedi
cal 'i swampo, a John Catchvote Jones yn y gwtar! Wel, rhwng gwyr Pentyrch a
Phenywaun a'u gilydd: y ceffil a enilliff fydd yr un blaena, sa fa mond trwch
blan trwyn, ond a os isha lecshwn? Ma rhai yn gwed y dylsa'r Librals a'r
Tories gymryd spel yn y constanstensy spo'r rhyfal wedi cwpla, a gatal i'r
real Labar Parti gal walk over fach deidi, gan fod y workin men yn y
majority. Shwd waith?
Fod lle twym dychrynllyd yn Room No. 3 ar droion i'r pwr bachelors sy'n treio
dala'u pena lan yngwyneb y cymbwlets sy'n cal i gellwn ati nhw. Gallsa un
feddwl, wrth sharad rhai o'r “NI” tragwyddol, ta yn y manger fel ci bach wedi
cal i chaino lan, y dylsa'r pwr bachelor fod, a byw ar esgyrn sychion a
leavings y gwyr priod mawr a chestog sy'n sharad am listo a chwni plant i
listo, a nithir dim'u hunen ond sgothi, brawddecan, ffrotho a ffyrnico, nes
bo'r gwelydd a'r to, debycsa amball un, just a chwmpo yn dwmbal dambal ar y
ticanters!
Fod mwy o frawdgarwch, er hynny, wedi cal i gyffroi yn mhlith y Snecs, er
dechreuad y rhyfel ofnadwy presennol, nag erioed - mawr a bach, cyfoethog a
thlawd, gaffers a gweithwrs, grocers a thinkers, packmen a phublicanod - ie,
un ac oll yn gytun yn shiglo llaw (a gatal y cranks mas, to be shure) ac yn
gwaeddi nerth y cega, "To arms!" A diolch, ma'r mwnishuns yn dylifo
gyta'r boys i'r ffrynt ed, fel nag os isha i neb i ddemshcin yn ddigonshans
ar y gwirionadd a'r bachelors bach sy'n helpu i gatw'r nation yn fyw drwy
helpu'r gwracadd i dalu'r rhent a rhoi skitsha i'r plant pan mae'u gwyr nhw i
gyd yn stocko'u harian yn nghlwb dwr y mor!
Fod sopyn yn gwed fod deffroad yn cymrvd lle o blaid y Gwmrag, ac fod rhieni
'nawr yn mynd o ddifri i ddyscu a sharad yr hen iaith anwl, ar yr aelwyd ac
mewn cymdeithas, yn fwy nag ariod, a mae'n llawn bryd ed. Arno ni ma'r bai -
y rhai mwn oetran, er nag w i ddim ond 38, a llond ty o blant, a rhoias i
na'r wraig ddim lodgins i Ddic-Shon-Dafydd na Somerset ariod, er fod rhai o'r
moch from little England beyond Wales wedi treio cal entrans lawar tro, ond
no good - dim yn tycio dim shwd gabbage vn tyfu! Fel gwetws yr anfarwol Iolo
Morganwg: -
Touch a Welshman, if you dare,
Ancient Britons as we are;
We were men of great renown
Ere a Saxon wore a crown.
Fod sopyn o scandals wedi cropo lan o dop i waelod y dyffryn yn ddiweddar -
shameful digynyg ed, ac os na altriff y giwaid pechadurus mwn bythti shiffad,
byd hanas dychrynllyd i ddod mas yn yr "Aberdare Leader," gwath na
un edition o'r Shibwns and Lettis, gan y
PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd 5773) (30 Hydref 1915)
|
Aberdare Leader
30 Hydref 1915
Clywedion Dyffryn Dar
———
Fod hi wedi dod yn shibwns ar y slackers o'r diwadd, achos fod Lord Darby
wedi gwed "Come on" wth bob enad o dan 65, a bod sopyn wedi rytag
off o Benwaun, Penderyn, Cwmdar a Chwmnantyrhwch, er mwyn lando yn Irishland fel agents dros Welsh Cig
Moch, achos nag os dim gorfotath i listo yn ngwlad Patrick.
-
Fod siarad bidir anghyffretin pwy sy fod yn fembar dros Ferthyr ac Aberdar yn
y Parlamant Mowr, ond fod y rhan fwya yn gwed y gneiff Stanton gystal aelod a phaced o gwacs, a gwell ed.
Wel, ma hyd y nod gwyr Shir Bembro yn lico fa, os nag yw gwyr Cwmdar yn gallu
cytuno a'r Bristols, etc., a phawb yn gwed ymhob rester y casglas i'r hen
gownt fel hyn:—
“Stanton is our man to-day,
He's the man who wants fair-play;
Germans may come and Germans may go,
But Britons go on for ever."
–
Fod meetin mowr wedi bod yn ninas Tresamwn i electo'r Mayor erbyn y 9th of
November yn y Guildhall, Ochor-yr-Afon
Parade, W.C. Fel hyn odd y votin:
Votes:
John Samwn Jones, A.B.S 9¾.
Wm. Wascotwen Williams, X.Y.Z 8¼
Jaboc Highelpee McHugh, A.S. 1
J. Samwn Jones declared carried, and all Associated Beer Shifters to be in
procession at 3 prompt, via Suspension Bridge, en route to Guildhall Banquet.
-
Fod debate fowr ofnatsan yn y Guildhall pwy noswath rhwng yr haldermen a'r
aelota common p'un a allsa dyngarwr fod yn wladgarwr, neu wladgarwr fod yn
wladgarwr heb fod yn ddyngarwr? A fe dowlwd snap cas i Shon Llycad y Ginog
gan getin o halderman heu halierman, neu beth bynag ma nhw'n i alw a, sef na
allsa neb odd wedi meddwl ar arian a thirodd, a thalu 2/6 yn y bynt, fod yn
wladgarwr, dyngarwr, sowdjwr na sant, ac na allsa fa un teyrnas tuhwnt i'r
coffin, os na bysa fa'n sefyll rownd!
…
Fod sopin yn gwed y dylsa cyfrath y treto ddod i rym yn ninas y Snecs, fel
mae wedi dod mewn fforce yn Llyndan, Cardydd, Caedraw, Ca Davis, Penwaun, a
Phenderyn, etc., er mwyn lles y good shorts ac afles y boleiau mowr sy mor
amal ar daith, ac yn lwco i gwrdd a miliwnaires just ymhob street, hewl a
gooley, ac yn bowo, salambo ac yn blinco mor serchus a theilwr ar ddydd Llun
wedi talu’r hen gownt ar nos Satwrn!
…
Fod y pregethwrs nhwnta ed yn fishi dychrynllyd yn casglu recriwts ar hyd y
dyffryn ys cetin, a bod lot yn gwed i bod nhw yn teimlo pinsh y rhyfal, a
sdim rhyfadd fod rhywun yn gofyn yn y seiat pwy noswath os odd y pregethwrs
a'r ffeiraton yn cal war bonas? Apedas ina os nag o nhw'n cal mwy na'r
Packman Newydd, Duw a'u helpo nhw a Dafy Dafi!
…
Fod sopin o achwn gen y coliars achos stop trucks a stop gwaith. a bod un
would-be odd yn gwpod y secrat, mydda fe, yn gwed ta scheme odd hi gen y
mishtri i roi shawns i fechgyn a dynon i Iisto! Wfft i shwd nonsanse
digrefydd. Y mishtir yn risko'i ddividend er mwyn y Llywodrath! Dos dim shwd
gabbage o'r sort yn tyfu'r ochor hyn i Glawdd Offa, nac ochor arath ed, hyd
yn nod sa radium neu lectric lamps wth y miliwn yn cal i rhanu mas I r nashwn
i wilo am deni!
…
Fod isha saethu y middlemans sy'n gnithir ffortsiwn mas o'r glo, ac yn
gorfoti witw fach dlawd i dalu 2s. am gant o lo pan odd isha skitsha yn dost
am i thrad i a bonat newydd ar i phen
i, a mish o rent yn ddue ami, a shwd beth a hwna mwn Christian Country! Dyna
odd i achwyniad tost hi, a gofnws i fi ala'r hanas i chi, syr, fel falla bydd
rhai o aldarmens y Guildhall yn acor 'u calona ac yn acor list iddi — list
arian gyta enw'r maer ar y top am £5, neu ala bar o skitsha neu dynall o lo
iddi, nawr fod y tywydd yn dechra oeri, a phrish y bwyd a phopath wedi cwni.
(All contributions thankfully received. Address, Witw No. 1, Box 10, Leader
Office, Aberdare. Cheques to be crossed "Tresamwn Royal Bank," No
connection with the Coppernative.)
-
Fod pawb yn gobitho na ddaw Conscripshun i fodolath, ac y daw’r Japs mas
drosto ni, yr Iancis, y Chinese, y Askimows, y Northmen a’r Cardies
altwgeddar i feiddu y Germans, yr Awstrians a r Bulgars cyn Yndolig. So be
it. Bysa hyna yn pleso'r
PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd
J7560a) (13 Tachwedd 1915)
|
Aberdare Leader. 13 Tachwedd 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod nyth y cacwn wedi towli y Miners' Agent off y rails -- wel, nid cacwn,
ond Pro-Germans ddylent gal i tacu bob un gen six-foot sausage, a'u hongad
wetin am un dydd a blwyddyn o ben Suspension Bridge Tresamwn.
Fod shew yn shiglo achos derbyn notis welcwm Lord Derby i fynd dan y colors
ond stim isha iddi nhw, achos single men sy isha gynta - toffs cinog a dima a
skitsha melyn o Gwmbach i Hewlyfelyn — rhai sy'n lercan a brygawthan o
Benwaun i Aberaman, heb nithir dim ond whilo wedjan.
Fod y Bishop newydd i gal i urddo yn y Guildhall ar y 19th, y Maer yn y
gatar, ac Ap Seidyr, Ap Wamal, Cestwyson, Rhawfab, Dishgwlwyson, Northinfab,
Clwbfardd, a Gentlemenfab wedi addo i'w escorto yn i robes. Fel hyn y canodd
Ap Sebon iddo ar un amgylchiad: —
"The Bishop a merry Bishop will be,
For he sang so glorious—it's his way, you see;
But when his voice thunder'd one night with full glee,
He frightened the bards and all the 'Ni! ni!'
Fod atar bidir yn dod lawr o'r top amball dro—ma nhw'n gwpod size dyn, size
gwthien lo, size packman, size Soshal, a size peint ed, ond dim o gwbwl am
size 'u hunen, ac mae speshal meetin o ddelicates, ambassdors, a
represantives yr holl stituwants i gwrdd noswath yr 18th i setlo pwy short o
fombardment sy fod ar y Royal Ffroth Brigade.
Fod y recriwtins wedi bod yn gryf iawn yr wthnos ddwetha - dou deilwr, 1
tincer, 6 counter-jumper, 1 prainter, 3 paintars, 35 o goliars, un lampman, 6
cetyn gaffars, 2 blisman, 2 fwtshwr, 1 packman, 4 hossler, 3 Chardi a 2
Northman wedi jooio'r 5th Welsh, a phaged o fantams rhy amal i'w henwi. For
further particulars, apply to Ap Amal, Royal Recruiting Office, 2 Kitchener
Terrace, Foundry Town.
|
|
|
(delwedd
J7560b) (13 Tachwedd 1915)
|
Fod sopyn yn gwed y bydd amsar drwg yto ar ol y rhyfal, ond mae'n amsar
"nate" nawr ta bath, mydda nhw, yn enwetig os yw tickat pay Shoni
Slatin, 2 Cwmrhiwtyn Terrace, yn right, yr hwn odd fel hyn: —
Sunlight Colliery Co.
Date, Oct. 31, 1915.
Coal Worked. £ s. d.
Monday (1 dram, 21bs), etc. 0 3 11
Tuesday (2 drams, 41bs.) 0 6 12
Wednesday (4 drams, 5lbs.) 1 14 14
Thursday (5 drams, 1 lb.) 2 4 13
Friday (4 drams, 51bs.) 1 14 14
Saturday (3 drams, ½lbs.) 1 6 18½
£7 13 10½
Deduct: -
Doctor 0 0 1
Federation and War 0 0 3
Train 0 0 8
Hospital. 0 0 1
Drinks 0 1 6
Powder and Soap 0 2 6
Expenses £0 5 1
Total Wages £7 8 9½
Signed, Twm Cetin Gaffer.
Fod notises arath iddi gweld ed hwnt ac yma obothti'r shopa, yn gwed fel hyn
(nid fel Lord Darby): “Join our Xmas Club for Gooses, Ganders, Whiningans,
Whyards, Plum Plwdins, Twrcins, Welsh Hams (not from Ireland via Penderyn),
guaranteed without smell pysgod. Join now to avoid the crush. Choose what you
like, eat what you like, and pay what you like." A fel gwetws John
Skin-the-Goat Philpot, fe gelsa un lond bola am whech wth joino clwb mor
genuine—pay and eat what you like.
Fod sopyn yn etrach mlan am amsar gwell, shwgir chepach, gwell cownsil, llai
o glepar, mwy o ffordd i gerad ar y pavin, hotels teidy i ladies ishta lawr
gyta back entrance, extension nos Satwrn, cwmpad yn mhrish y ffreid fish a
gin, train and tram fare to all war ladies, etc., etc., etc., and too further
to mention. Bysa'r reforms hyna yn gwitho'n nate os relsa nhw a rhacor o hen
gownt miwn i walet wag y PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd 7561) (27 Tachwedd 1915)
|
Aberdare Leader. 27 Tachwedd 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod yr amsar wedi dod i'r Voters i gyd i ddoti X ar y papyr, sef ar gyfar yr
enw gora, dydd Iau. Un membar aiff miwn, a wetin, gall neb daclu cross i'r
ddou; a gora pwy gynted y bydd i bob copa walltog foto'n deidy dros Stanton
cyn wyth o'r gloch, neu bydd rycshons wath na Kilkenny.
Fod atar clefar iawn yn perthyn i'r Highelpees, a bo nhw'n haeru mai nhw yw
political leaders y nation-ie, i ledo'r gweithwrs i fuddugoliath ymhob ystyr
—mwn gwaith, capal a chartref, ac hyd yn nod i ddangos y ffordd i Kitchener i
foxo, a Asquith i scrifenu, a Lloyd George i wara marbles yn lle gnithir
mwnishons i ladd mwrdrars.
“Dynion da a dynion drwg
Sy'n ymladd nawr yn y mwg;
Ond pan ddaw y dewrddyn mas
Cilio wna'r corachod mas!"
Fod isha gwa'd newydd ar y platfform, a llai o'r “Ni sydd reit,"
"Grondwch ar Noni," "Nyni sy wedi acor llyced y
gwithwrs," etc., etc., a gwath na'r cwbwl, yn gweiddi, “Sa pob dyn yn
gall fel NI bysa dim rhyfel, a'r Highelpees yw saviwrs y byd!" Wei, ma
nhw'n ffeili savio lawer o'u parti rhag joino a'r Librals, clwb dwr y mor, a
chlwb y rhacs, ta beth.
Fod pob dyn call o Bernant i Bersheba yn gwed ta showder to the wheel yw'n
gwaith ni gyd fel nashwn nawr, ac nid taclu sprag yn wheel fawr Chariot
Civilization fel ma rhai yn treio nithir, er stopo fa i gyradd pen
fuddugoliaethus ei daith ofnadw.
Fod Spiritualist o'r pentra wedi cal wireless i wed shwd bydd y result, a
dyma fe: —
Votes.
Real Labour Membar. 1,500,000
Highelpea 2,150
Majority. 1,497,850
(Signed) Gaffer y Votes.
Fod pawb yn ofni clywad cnoc y Recriwtin yn dod at y drws, yn enwetig y
youngsters, young married men, y ladidaws, a'r mashers. Wel, sdim byd genti
nhw i wed ond rhoi apad plaem, fel, gwetwch, "Not very well to-day,
sir,” "My wife got the'measles, sir," “I am gaffar pwll glo,
sir," “Clear out or I'll catch in the poker!" neu ryw apad bach
teidi felna, a bydd y Recriwtin Offisar yn falch i skedadlan.
Fod Maer Tresamwn lan iddi glysta mwn gwaith lesciwn, a'r Guildhall yn llawn
literature, pop, a wynwns, i helpu rhai i lefan pan bydd angladd yr Highelpea
yn passo. Os enilliff Stanton y tro hwn, bydd y boddhad mwya gas y maer er's
slawer dydd, ac yn enwetig i'r PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd
J7563a) (18 Rhagfyr 1915)
|
Aberdare Leader. 18 Rhagfyr 1915
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod y byd a'r Bettws, Patagonia a Phrwsia, yn cretu mwn heddwch amsar y
gwyla, ond ma rhai o'r Snecs yn gwed na fydd dim heddwch byth yto, achos fod
yr Highelpees wedi tyngu yr ymladda'n nhw hyd anga achos y cam a'r fflorad
shocin geso nhw'r lecshwn dwetha, pan setlws y coliars i roi Stanton ar ben y
poll.
Fod Sgweier Wirepuller Smut, I.L.P., yn gwed ar g'oedd ta cal i ledo i'r
slaughter gas y votars i gyd fel defad ne foch, a nag os dim inch o ddaioni
mwn Libral, Tori, Swell, na Thincer, ac mai'r dynion calla yn y byd, a'r rhai
sydd wedi dod a'r reforms mwya i'r dosbarth gweithgar yw yr anwyl Highelpees
sy'n hwsi ddydd a nos, er mwyn lles y werin, “a nhw'u hunen," wth gwrs.
Fel canws Wil Ci Du: —
“All is fair in love and war,
And sometimes in the 'lection,
But Highelpees indeed were sore When Stanton wallop'd Winston!"
Fod pawb yn satisfied nawr ar betha fel passodd nhw, ond y cranks sy rhy dda
i'r byd hyn, a thrueni mawr na fysa nhw yn joino'r Salvation, neu yn cal i
hala gyta'r Highelpee Special Express yn straight i'r nefoedd, a chal bopo
edishon o'u papyr, 'The Red Rag,' i ddarllan ar y ffordd, lle bo nhw'n etrach
mas trw'r ffenast ar broperty dynon erill.
Fod partoians am Yndolig iddi weld o Gwmbach i Gwmdar, ac o Benderyn i
Benrhiwceibar, ond y peth sy'n bexo pawb yw y prishodd shocin ar lo, bwyd,
bacco a blawd, shwgir a shibwns, cigars a scatan, ham a wyau, whishgi, a
chasgeni bach. Dath Mari a bil yr wthnos i Wil sha marca stop-tap nos Satwrn,
a dyma fe: —
|
|
|
(delwedd
J7563b) (18 Rhagfyr 1915)
|
Goods and Sundries.
Debtor to John Dear Jones, General Dealer and Provider.
£ s. d.
Ham and eggs 1 10 1½
Tobacco, soap and sugar. 0 18 2½
Bread, butter and things 0 19 11½
Bottle of whiskey and tea 0 15 4
Sundries 2 0 0
Total £6 3 5½
A phan welws Wil y bil, fe ofnws beth odd y "shindries" na, a'r
apad gas a odd ta pethach mân o nhw too numerous to mention. "Wel,"
mydda Wil, “fe gei di a fina fyw ar gig bant a marsharine a diod Adda'r
wthnos nesa, achos y rhyfal." Odd hwna'n apad smart, ed, i strafangans y
gwracedd.
Fod popath yn cal i nithir nawr “achos y rhyfal," and beth ma sopyn yn
ffeili diall yw shwd ma'r upper class yn cal shwd enjoyment, ordro pethach
fel arfar, y motor yn dod a nhw i'r drws, a'r carrier yn bowo'n ishal i'r
snobs, a just a chusanu'r pavin mwn gwaseiddiwch. "Wel," mydda'r
dyn o'r Pentrip, “achos ta NI sy'n cynal nhw - ni y gwithwrs, ni y labrars,
ni y coedwrs, y shaclars a'r riders ni y firemen a'r foremen, bankers a
hostlers, coliars a choblars - ia, y NI, a ddim yn cal hanar i pay nhw!"
(Cheers dychrynllyd yn y Guildhall, sposo, yn ol cownt y cetin riportar.
Fod son am re-union arath mwn golwg ymhlith y stiwdants, y beirdd, y caeta
[?] beirdds, cantwrs a chetin cantwrs, etc., a bod y Bishop, gyta chonsent y
Lord Mayor, yn hala invitations mas fel y gwynt. Gobeitho y daw un yn saff
hibo'r Zeps i ddwylo'r PACKMAN NEWYDD.
|
|
|
(delwedd
J7562) (25 Rhagfyr 1915)
|
Aberdare Leader. 25 Rhagfyr 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
Fod lliaws yn gwed fod gormod o ffuss gyta'r mynywod obothti'r shopa, a'r
merched ed, i byrnu ar gownt Yndolig, pan ma milodd o bwr dabs yn y ffrynt ac
yn y trenshis heb fod yn acos i un shop ond shop bowdwr Ion Von Magnel a'r
vons bach sy'n helpu a i gatw amsar yr hen Von Klock.
Fod llawar yn gwed ed y dylsa ni estydio economi 'nawr fod y rhytal yn costi
shwd lot, ond beth ma'r Cownsil yn hito am hynny? Cwni wages ma nhw o hyd, ac
ar ol cwni wages, cwni pensioners i enjoyo'u bywyd am byth yn Mharc Dumffrees,
y Graig, a Pharc Mawr yr Aristocrats, yr ochor draw i'r cloc!
Fod economi yn beth piwr digynyg i individul iddi stydio fa, ond pan ma n dod
yn buplic cwestion, dyw a o ddim pwys, yn ol cownt y gwypodions, achos ma
dicon o goin gen y ratepayers tra pariff unrhyw barc, a ma son y bydda nhw'n
berchan ar Barc Fethergill heb fod yn hir, heb son am yr Hospital a phylla a
gwitha Abernant.
Fod sopyn yn gofyn os yw a'n wir fod stop-tap i fod ar yr Yndolig a'r Boxin,
ond dath cownt mas yn y "Daly Spalpeen" i wed fod perchenocion y
seleri bach neis odd yn Jaypees wedi trio'r dodge, ond fflatws y jobin,
achos, fel gwetws Twmi Shirgaer, “Odda ddim yn promonobublico," ta beth
yw hyny, os nad "free house."
Fod wleia mawr am y gwyla, ac y mae'n anodd gwpod pun ai y rhyfal ne'r gwyla
sy fwya amal ar wefusa'r werin, tra na fydda'n nhw'n heefad neu fyta, wrth
gwrs, achos ma rhaid i'r Snecs fyw gystal a'r Germans yn Berlin, a ma nhw'n
well 'off, mydda nhw, achos “black bread” yw hi mas yco, mydda Twmi'r Crydd,
Dai Post, a Jack Teiliwr, achos ma nhw'n darllan y leadin papers of the day.
Fod erill yn gwed y bydd cystal blow out yn y Guildhall eleni a fuws ariod,
ac yn well na phan gafws Twm Dinefor i nithir yn faer, a chender Dic Turpin
yn High Cwnstabl, amsar odd Mari Lwyd Lywan yn clasgu at y cwrw bach, a'r
chorus dwetha yn cal i ganu, “We won't go home till brecwast!"
Fod pethach yn etrach yn "go likely,” ys dywed Twm Tebot, sha'r pentra,
oni bai am rai o'r lords, dukes, a'r ladies sy'n swagran hibo ar y pavin a'r hewl,
gan feddwl ta nhw bia r cwbwl achos i bo nhw'n ratepayers yn Respectable
Mansions, Golden Terrace, Sober Villas, a Champayne Avenue, lle ma'r casgis
bach a'r cobered fflagons yn cael i delivro by airship at 12 midnight, pan
bydd y Shoni Hoys i gyd a Maer Tresamwn yn snoran!
Fod pawb yn gofnid iddi gily, “Ble ma dy Hamlet di?" ys gwetws Wil yr
Atroddwr, a mawr y banter sy rhwng gwyr y top a natives Cwmbach a Chwmdar am
gonshripshan, compulshon, scame Lord Derby a scame y slackers, nes ma dyn yn
falch i scwto nes ymlan yn y crowd i weld both yw prish y twrcis, y Welsh
hams o Benderyn, a'r latest from Irishland, etc., ac i ddymuno "Yndolig
Lawen i'r Snecs a'r Sowdjwrs," cyn marca'r stop, yr un fath a'r PACKMAN
NEWYDD.
|
|
|