kimkat0360k Clywedion Dyffryn Dâr. Aberdare Leader. 1916.
Ysgrifau yn nhafodiaith y de-ddwyrain – y Wenhwyseg.
02-03-2023
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● ● kimkat0199k Y Gyfeirddalen i Glywedion
Dyffryn Dâr www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_0199k.htm
● ● ● ● kimkat0360k Y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
.....
19 Chwefror 1916
.....
25 Mawrth 1916
.....
27-05
.....
01 Gorffennaf 1916
15 Gorffennaf 1916
.....
26 Awst 1916
.....
16 Medi 1916
|
|
(delwedd G3660) (19 Chwefror 1916) |
Aberdare Leader. 19 Chwefror 1916. Clywedion Dyffryn Dar. Fod sopyn yn gwed ar hyd y pentra fod mwy o ladies yn shopan nawr nag
ariod, a thicyn o style £5 yr wthnos yn rhai
o nhw ed, a wastod yn cario ymbrel neu barisol s'ai mor sych a'r desart, ond nag i ni ddim yn
diall y nacks! Dyna gownt, onte fa? Mynywod yn jelws o ladies! Fel petasa
isha passo act o barliment i stopo nhw i wishgo - nace, cario parisol neu ymbrela. Wel, bysa
nithir yr ola yn well na ercyd potal gwart ar ol cario pwn i'r pawn! Fod yn haws ddicon i hignaramws i ddemskin ar gorn ysgolheigyn balchderus
o genius, fel nath un pwy noswath yn y Corn Exchange, pan wetws a wrth un o freed
y college y dylsa ni ymladd makers a ridwrs y Zamppallins yn yr un ffordd a
nhwnta - lladd nondi-combatants (fel gwetws a, ta beth yw rheiny), babies,
gwracadd a merched, yn lle ymladd "dynon," ymhlith yr Huns. “O na,”
mydda Syr Llifir Swllt, "gadewch i ni ymladd a nhw fel Cristionogion, i
ddangos gwers i'r byd, ac i ymladd yn deg”" Wel, wetin, fe ath yn Storm
Tiberias, a odd rhai yn gwaeddi "O, catw ni!" a gorffod i'r
riportar gilo i ddala'r last post o ganol y ffroth a'r ffrwgwd! Fod y dyn gollws i ymbrel wth ddod mas o'r ddarlith yn wath off na'r dyn
gollws i gap yn shop y barbwr, achos odd gwaniath o 5s. 6d. yn mhrish y ddou,
a fel gwetws un non-Christian, fod hyny yn profi fod gwath caritors yn entro drws y capal na
entrans y barbwr. Oes, a dylai pob copa walltog sy'n gallu gweld ymhellach
na'i drwyn wpod hyny ed. Rhaid talu bob tro yn shop y barbwr, achos di nhw
ddim yn perthyn (y barbwrs) i'r Packmen's Brigade Federation, ond ma llawar
yn mynd a dod i'r capal heb dalu, mydda'r riportar. (Passed by Censor). Fod yr armlets iddi gweld nawr yn britho'r cwm fel gwyped, a phob un yn
gofyn i'r llall, "Ble ma dy armlet di?" hyd y nod sa dim ond un
goes gyta'r pwr dab, neu un fraich, trwyn fflat, dim danadd, gwallt eiraog,
crwmpyn, coesa main, un llycad, trad clwt, gwddwg byr, dim bola, a lan i
wddwg mwn hen gownt ar i ffordd i'r resarved seats yn y Goldidrome! Fod pawb, fel arfar, yn rhytag y tywydd a'r Kaisar i lawr, yn enwetig
oddar ma'r dwetha wedi gwella o'r canser, a rhai yn ffeili cysgu'r nos yn
ofni'r Zepps! Wara teg, ed, ma Shon Tarw yn dechra dihuno, a fe ddaw prish yr
ham lawr yto, er gweitha Penderyn a Chicago; fod amser gwell i ddod; gwell
tywydd; heddwch a llond cart o hen gownt gen y PACKMAN NEWYDD. 11.30 p.m. (O-Y.— Clywad fod y Kaisar wedi cal anwd newydd, a phrish yr ham wedi
cwmpo. — P.N.) |
|
|
(delwedd 5698a) (25 Mawrth 1916) |
Aberdare Leader. 23 Mai 1916. CLYWEDION DYFFRYN DAR. Fod hi'n rhyfal mwn popath 'nawr — rhwng pregethwrs a thafarnwrs,
rhwng masnachwrs a shopwrs (ma cetin o waniath rhwng y ddou, cofiwch), rhwng
armletwrs a'r slackwrs, peirianwrs a'r pinafores, tipplwrs a thee- totlwrs,
travelling drapers a phackmen a chlapgwns a chelwyddgwns! a rhwng popath, fel
gwetws Mr. Baxter y ffeirad 40 mlynedd vn ol, ma'r arwyddion yn blaen ddicon
fod y "millenium ar ddod." Fod pethach od iawn wedi dicwdd ed yr wthnos ddwetha, sef un o'r dukes
yn gorffod cal cab i fynd iddi balas, serch fod y car yn paso yno;
witw-bewitsh wedi prioti a soldjwr cyn mynd mas i'r ffrynt (ar y sly yn Offis
Merthyr); ac un o lords y skitsha melyn gamboaidd (nid Cardi) wedi treto y
parliamentary trbinamal gyta sigars a ——! Fel gwetws General Joffree —
"You never knew your lack, Monsieur." Fod pawb yn achwyn ar y prishodd yn fwy nag ariod, a swn achwyn sydd
byth a hefyd ymhlith y boys bach priod sy'n gorffod cal i galw lan cyn fod y
bwndel mawr o'r single men and bachelors yn gwynepu'r tape, neu yn gorffod
neud hyny yn ol siars neu addewid Asquith, a gair teidy Derby (nid y races) a
bod gormod o sport gen yr examiners yn y trebinamals. Pe bysa rhai o
ddoctoriaid y trebinamals yn gorffod gwynepu'r scent Shermanaidd nid ffarce
fyddai'r examination na'r interrigation, etc., etc. (Examined, etc., passed
by Censor, 10 p.m.) Fod un packman wedi scapo achos i fod a'n 41¾ l-5th o flynydda, and thri odd days
out beyond the limit, a bod Ffortywyson wedi gwed wrtho fa y bydd a miwn reit
i wala cyn y diwadd — y bydd v maxihun lan i 45, os nad 50, 60, a 70, os aiff
y Keisar i Paris, a'r dukes a'r lords i gyd i Abergwaun a Chwmfelinfach. Fod mwstwr dychrvnllyd wedi bod yn y local a'r chief parlamant
ynghylch y Zampalins, a mae'n llawn bryd ed nithir rhwpath, neu fydd dim
shawns i gysgu'r nos na chlwad yr hwtar whech yn mynd, i gal arrivo |
|
|
(delwedd 5698b) (25 Mawrth 1916) |
mwn pryd wrth y talcan, yr aing, a'r offis (y lamp-offis, wrth gwrs,
achos dyw offis y cyfrithwrs a'r bancwrs ddim yn acor spo'i 10 neu 11 eg, —
wel, sha marca smel cino ta beth). Fod erill yn achwyn fod cloc mawr St. Elfan yn pallu taro ys cetin, a
rhai yn gwed fod i dafod a wedi rhewi, erill yn gwed ta by order of the
Anti-Zampalin Committee y mae a'n dawal, a gola cloc D.A. yn cal i dowli mas
am yr un argiwment. Nonsans bidir, mydda un dyn call, yw hyn, achos fe
gelsa'r local authorities warnin mwn pryd sa rhwpath yn mynd yn wrong yn yr
awyr — y lleuad neu'r ser neu'r haul yn cal diffyg, ys gwetson nhw; neu sa
nhw mond dishgwl miwn i Almanec Moor neu y Milodd, a pheth od na bysa rhai
o'r Labars a'r I.L.P.'s ar y Cownsil wedi passo resolution economaidd i daclu
un ar y ffile fel refarense yn lle cwni wages y gaffars, a nhwnta'n gwpod fel
ma'r ratepayers heddy yn gorffod talu cymint am 10, gas, cig moch bant
Penderyn, ac hyd yn nod ddima yr un am genin Patagonia (local, nid bant). Ys
gwetws Julius Cesar, "Hael Hywel ar bwrs y good shorts." Fod hi'n amsar bidir ed nawr ar faes y rhyfal, ac os caiff y Germans
gnocad nol yn lle mynd i Paris, fe gwmpiff y rates, daw prish yr ham yn
chepach (ma’r wya wedi cwmpo acos cwnad whisgi), fe fydd demonstration a'r
band, a'r hen gownt yn llifo i fewn fel y mail i boceti'r PACKMAN NEWYDD. |
|
|
|
27 Mai 1915 lywedion Dyffryn Dar. Fod yn
amhosib i neb gerad yn gros i'r hewl, pavin na sg'war heb glwad rwpath ne
giddyl am y rhyfal ofnadw a dych- rynllyd-hyd yn nod os ewch i gornal y pare
ne barlwr y Good Patriot i enjoyo whiff a glased—fe gwniff y cwestiwn gen rai
fel ysbryd y fall o hyd, "Beth i chi n feddwl am y rhyfel?" etc.,
etc. Fod y Liccar Comtrole wedi gneud hi gyta venjans o'r diwadd—bron tacu
hanar y coliars a phob short o withwrs, mvdda nhw. Dim tretin, dim hen gownt
(dyna'r filan mwya!), dim fflagans heb gorcin, dim heefad rhy fach na gormod,
dim heefweh cyn brecwast, a dim llawar cyn swpar ed! Ma sobri by act of
Parlamant wedi dod yn letter of the law er mawr lawenydd i'r Pumpi- tarians,
y totals, y burdocks, a'r sarspar- ilians! Pwy ryfadd bod y Cristin-
delphians yn gwed fod y milliennium ar wawrio a'r I.L.P.'s yn proffwydo y
citshiff y Parlamant yn y tafarna, yr hotels, a'r briwaries, er mwyn taclu'r
proffit yn mhoceti'r gwithwrs i nithir l fvny am yr oria byr a'r hen gownt?
Fod erill yn gwed y dyla aelota'r Eiccar Comtrole Bord gal saith mlynadd am
'u hacshwn dienad, ne sefyll pyst am 8 awr yn y ffas twyma sy yn mhwll
Shepard, ac ishta wetin am wyth awr arath yn y gob i oeri i hunen, neu daccu
eyn open tap! Wth gwrs, ma dicon o glywedion yn yr awyr, ond yehydig o henyn
nhw sy'n dod yn wir, ag eithno pob count ond yr hen gownt. Fod sopyn yn
ffaelu diall y New Daily Saving Act (nid act i safio'r hen gownt ne act
Maritoriam), ond yr act i droi'r cloc 'nol awr o fish Mai i ddiwadd mish
Medi, ne mwn geir&'r awdwr, Mr. Willett ("Sunshine Producer ma rhai
yn i alw a) Daylight Saving Bill; a bod hi'n ddoniol digynyg i glywad rhai
sy'n i diall hi yn ecspleino Nor ma'i fod, a'r rheiny sy'n ffeilu diall.
"Ffwl dwl," mydda Ap Lleuad, "yw'r dyn sy'n treio troi cloc
Duw yn ol. *Os gwetws a fod 12 o'r gloch yn ddeuddag, deuddag fydd hi, a beth
ma rhyw gatach o ddynoliath yn mynd i altro gwaith Rhagluniath?" Fel
gwetws yr Hen Do-be-Shure, "You can't put sens in nonsens; the clock
will go if you put it before the hwtar or not; jnens will have suppar the
same time, and stoptappers won't go home till mornin Fod rhyw lord o
Gwmsmintan yn gwed os dota 'nhw'r cloc yn ol awr, a dyn yn dicwdd marw, bydd
farw awr cyn i amsar. "Gad dy lap," mydda Eryr Powndfflash,
"fe fydd wedi mynd i'r nefoedd awr yn gynt, a dyla pob aelod a gefnoews
v Daily Sunshine gal pensiwn am fywyd." Er yr holl drafotath, ma llawer
yn ffaelu gweld trw'r daylight scheme. Fod llawar o'r would-bees yn gwed ed
nag yw dynon heddy ddim yn ddynon—fod mynywod yn gallu llanw'u lie nhw yn
well na nhw 'u hunen-fod un she-doctor yn Aberdar yn diall mwy na'r holl
man-doctors yn y cwm. "Ffordd i ti'n gwed hyna ?" gofnws Shoni Goes
Bren i un o'r dowtwrs. "Wei," mydda fa, "fe ddyscws Efa yn
Ngardd Eden mwy o wypodath ac o brofiad na un dyn odd yn y byd yn i -h amsar,
a ma'x: wypodath genti o hyd, sa hi ddim ond gwpod faint o docins sydd yn i
drowsis a pan fydd my lord yn Dreamland!" Fod amsar gwell i ddod ar ol i
brish yr ham ddod lawr (ma'r wya wedi dechra), llai o glapgwns a spies yn y
farchnad ar nos Satwrn, gwell respect i fenywod ar y cars, yn enwetig i'r
rhai sydd ddim yn witw-bi-witshis, ac wedi gatal y wedding ring ar y
mantel-piece, y drws back heb i gloi, ac. yn talu'r rhent yn regilar heb
insulto'r packman. Wth gwrs, ma amball i censor yn y car yn hirach i dafod
nag un cownsilor tena, ond ma civility gento i roi set i lady os nag yw i
ddignity a mor fawr a ffashiynabl i dalu'r hen gownt. Notice by Licear
Comptrol Committee: -"No winks, drinks, or drives by daylight; lights
out at nine; but at moonshine make meri-y.By Order. Fod Compulshashon i ddod
yn i rym o'r diwadd, Darby or no Darby, ac amball i Joan o Gwmbach i Gwmdar
yn gwed ta melltith y Keisar yw'r felltith fwyaf; ond ta beth yw barn deidy
dar- llenwrs y "Leader" am y gost o fyw heddy, yr hen gownt yw'r
peth mwya felltigedig sy'n gorphwys ar vsgwydda'r PACKMAN NEWYDD. |
|
|
(delwedd J7548a) (1 Gorffennaf
1916) |
Aberdare Leader. 1 Gorffennaf 1916. Clywedion Dyffryn Dar. "Good miwsic sharms old pigs sometimes, But never sharms Bowldini; Because he's got the gripes, by grimes, By studdin Stabbattinni!"
"Os oes rhyw lodes dda o’r Mount Neu lan sha marca Hirwen, Sy'n rhydd o raffa cas'r Hen Gownt – Mae'n siwr o fod yn globen!"
|
|
|
(delwedd J7548b) (1 Gorffennaf
1916) |
Fod y ladies i gal i pleso o'r diwadd, yn ol pob cownt, a bod institushwn
i gal i gwni iddi nhw ar Victoria Square, a chompartment decs (international),
a settis cwshin iddi nhw ishta i drafod busnas y byd a'r Bettws, a setlo
prish yr ham a'r rhyfal, ac y bydd i dre'r Snecs anfarwoli i hunan unwaith am
byth drwy nithir cyfiawnder a'r Suffringettes a'r marionettes! PACKMAN NEWYDD. |
|
|
(delwedd B2512a) (15 Gorffennaf 1916) |
Aberdare Leader. 15 Gorffennaf 1916. Clywedion Dyffryn Dar. Fod Whishgerswyson wedi ymadael
o Faesygwaed am ddwr y mor, a whilberad o bapyr wast yn y guard's van i
gyfansoddi barddoniath yn mhlith y cocks & mussles. Fod yr Esgob or diwadd
wedi cal yr upper hand ar y Ni-mi's tragwyddol, a bod yn dda digynig gen y
frawdoliath fod yr esgobaeth wedi cal i symud i sefydlu heddweh ymhlith y
gwiberod a'r cler. Fod rhyw glepar
dibendraw gen wyr dwr y mor, a mowr y ffwdan, snortan, a screchan odd gen y
pilcwns pan gwnws yr Home Secretary lan, ar ol sychu i wishgars a'i fwstash,
i ddarllan mas list y tocins odd i gal eu rhanu rhynti nhw nos Iou, cyn
gellwn y bleiddiaid yn rhydd i fynd lle mynsa nhw ond i'r trenshes. Fel hyn
odd y certified and correct list: — Seaside Club Money
Distribution. £ s. d. Lord Scitsha Melyn 50 0
0 Duke de Cwmdara 49 0 0 Mayor of Tresamwn 48 0 0
Lord Bishop of Coppara
47 0 0 Ap Sidearra, A.C 46 0 0 Purdebwyson, Senior 45 0
0 Syr H. Phillippi
(Cantab.) 44 0 0 Coor de Corona 43 0 0 Presido Bernanto 42 0 0 Gaffarro de Glomano 41 0
0 Old Packman (P.P.G.) 40
0 0 New Packman (P. Newydd)
0 0 l½ Fod blow-out i fod ed
gen y Royal Motor Tourists, ac y bydd i'r holl draffic gal i ddala lan o'r
Gatlys i Hereford, trwy Royal Letters Patent, ar ddydd yr esgression, fel na
fydd yn saff ond i filgwns i droi mas i weld gola dydd ar yr adeg
dychrynllyd, ac y bydd y blwm in lot wedi cal i insiwro yn y death club cyn
starto! Fod pawb yn awr yn gwed
na fydd dim air raids mwyach ar ddyffryn Dar, a bod airship fawr wedi hofran
uwchben ardal y Snecs dy Llun, ac wedi partoi popath ar gyfar ymweliad y
Samppellins—hyny yw, os dangosan nhw'u trwyna sha marca Queen of the Hills;
wetin fe ellwn gysgu'n dawal hyd yr wtar whech, ond y rhai sy'n dewish stopo
lan i glwad y Nightingale a'r Eos Cathalini! |
|
|
(delwedd B2512b) (15 Gorffennaf 1916) |
Fod halibalw ofnadw yn shop
Mr. Dust Shoogar, Cwrtybelo Stores, pan alws Mrs. Gwagbwrs miwn i ordro'r
weekly goods, a gweld yr amount elephantaidd odd genti i dalu. "Aftar
you did swallow your own common vittles, you sure not to be chargin what you
betake that," mydda hi, yn ol y riportar, gan ddoti swllt a thair a dima
ar y cowntar, citsho yn i pharsal, a rhytag mas i ddala'r car odd yn passo'i
manshon hi yn Gaffar's Terrace. N.B.—Old count stopped. Fod debate y Privy
Council wedi cwmpo yn fflat ofnatsan, trwy anwybot-ath. medd rhai; trwy
stubbordiness, medd erill, ond y gwir yw, yn ol y Bishop, trwy eiddicadd a
jelosi monstronsaidd at y right honourable — hyny odd wth gwt y glepar neur
fysnas ryfadd, a mawr shwd helynt sy am bethach dibwys 'nawr fod rhyfal
mwya'r byd yn shiglo'r ddaear. Fod boys y trenshis yn
gwitho'n noble nawr, a phawb mor llon wrth weld yr Hun a'r Von Clocks a'r
Herr Bugs yn i rhal i gyta venjans gyta'r gas, y baginets, y mortars, y long
toms, machine guns, a shells atar yr awyr, nes bo'r byd a'r Bettws, ac hyd yn
nod llawenydd yn Llyndan Fach (a Llyndan Fawr especially) wrth glwad am y
Grand Offensive, a bod rhai yn ffeili cyscu am nosweithi wedi clwad yr hanas
bendigedig. Fire away, boys! Let um have it right and left, medd y Snecs, nes
bo "planca uffern yn shiglo" (chwedl Brwmstanfardd). Fod y rhai sy'n gallu
ffordo 'nawr a'u meddylia ar ddwr y mor, ond y lliaws mawr yn meddwl am yr
anwyliaid sy'n ymladd yn erbyn tyrants yr oes, ac yn gwneud 'u gora i hala
mas iddi nhw y delicacies bach alla nhw ffordo. a gatal dwr y mor i'r dukes
a'r lords a'r haristocratses, sy'n gallu cal popeth yn flasus, a chloi'r drws
yn erbyn y PACKMAN NEWYDD. |
|
|
(delwedd G3661)(26 Awst 1916) |
Aberdare Leader. 26 Awst 1916. Clywedion Dyffryn Dar. Fod petha rhyfedd iawn yn dicwdd bob dydd yn y cwm: dynion yn colli'r
last tram oherwydd extra dram, yn colli'r ffordd sha thre' achos y lights
out, a'r dwrnod nesa yn cal another on bout! Fod bygythion dirifedi yn cal eu gneud ar aelota'r Trembinambal, a ma
rhai yn gwed nag yw hi ddim yn saff iawn ar i bywyta nhw; ond beth am y
cut-throats masnachol, oti nhw yn mynd i'r nefoedd ar ol gwascu'r tlawd i'r
worcws a'r bedd? Fod Twm Tresamwn yn gwed, yn ol i size, fod bloter mor bryd a samwn, a
phwy gonshans o ddyn all chargo felna? A mydda Twm, “Bysa comparro bloter â
samwn yn gwmws yr un peth a chomparro
'jack' o bregethwr a'r Archbishop, ta beth yw hwnw." Fod son o'r diwadd fod y Suffringets yn mynd i gal vote, a dyna lle bydd
hi off wetin—mob ohenyn nhw'n i shapo hi sha'r booth, ac yn wthu a scwtan a
thynu gwallt a boneti'u giddyl nes bydd atar a gwyr bach y mwstash, toppees a
whisgars yn gorffod symud hwnt i nithir ffordd i'r peisha a'r fflownders a'r
trimmins erith ma nhw mor ffond o wishgo, a'r diwadd fydd iddi nhw gal Act of
Total Prohibishun, fydd yn wath fyth na oria byr a stop fflaggans am 8, a
dyna'r gag am byth ar ena’r coliar bach sychetig sy'n hawilio’i iawn fel
gwrbyneddig. Fod Fflangganfab yn gwed tysa'r Llywodrath yn citsho yn y tafarna a'r
hotels y bysa pure beer yn ordar of the day, cwrw ffresh and fair-play, a dim
dregs yn yr heefad ar ol i bwr dab sychetig roi ucan llwncdestyn i Gymro,
Cymru, a Chymraeg, a chwmpad prish i'r ham a'r wya, a'r Bill of Sale
included! Wth gwrs, nid pawb sy'n gallu gweld y drifft - amcan Fflaggan - fab
yw canvasso i gal yr offishaldom of beer-tester accordin to Act of Parlament,
a resino o gommittee'r Cop, lle nad oes dim i gal ond pop! |
|
|
(delwedd G3662)(26 Awst 1916) |
Fod Swedenfardd wedi enill prize yn y flowar show, a mawr shwd ffuss odd
gento i ddangos hyd i gadna beens i'r cwmpni odd wedi gweld crop gwell nag
odd gento fe yn tyfu ar y tips, ac un o ddirectors Patagonia hyd yn nod yn
gwed fod e wedi tyfu rhai cyd a llysywan n! Fe ddylsa'r criw sy'n braggo
cymint gal i alltudio i ryw blaned arath i blanto cenin a dyfent size derwa
Glynnedd! Fod y rhyfal yn dop subject o hyd, a bechgyn bach fine a dewr wedi cwmpo
odd yn adnabyddus a pharchus yn y dyffryn - rhai o henyn nhw wedi disgleirio
ed fel milwrs, ac enill distinction a honors. Dodd dim yspryd obinjectors yn
'u henad nhw, na want non-combatiment service, etc., a dod 'nol i wed sawl
bwndal o'r Huns o nhw wedi saethu pan oeddan nhw, mwn gwirionadd. yn ishta yn
y tent yn sorto bwlats, ac yn scubo'r drain o ffordd y gwageni bwyd, etc.,
etc. Fod Stanton, M.P., wedi gnithir gwaith teidi pan ofnws a beth odd y
rheswm, yn y Parlamant, fod scelffyn o German yn gallu cwni i bac yn Llundan
a mynd lawr i South Wiles i glasgu arian coliars a ebilo nol wetin a llond
pocad! Fe ddylsa fe (yr Hun, yr "hunan" brwmstanaidd) gal dwy owns
o powdard glo man cyn cyradd marca headin Twm Swil, a fe nela Twm jobin net
sha ochor y gob fysa'n well na sent Kielobant (canal dose) o fendigedig
goffadwriaeth yn nhalcan Cwmbach, lle'r odd y moch slawar dydd yn trwyno'r
tatws! Fel gwetws yr anfarwol Cromwell “There are men on the river, There are men on the sea, But Britons shall never Give in to Von Spree!" Fod achwn bidir ar acshwns y Cownsil yn chargo 2g. am drip cinog o Braman
i'r Scwar i'r gwithwrs (workmen, wrth gwrs), ac ar ddwrnod y Flower Show
gorffod i bwr dabs gerad ne dalu 2g. ar ol chwys y dydd, pan ma regilation
wedi cal i nithir i rytag y cars yn regilar (workmen's car), a phwy felldith
o beth yw chargo wetin lc. am sefyll? Dim set i ishta lawr. Pam na rytan nhw
ddou gar, neu dwbwl deccar? Oti'r gwithwr yn mynd i gal i snubbo gen lot o
would-bees clebranog na hwsws ariod? Son am iawn i showdwr yn y trenshes —
eitha right — ma isha fa'n dost, ac i'r gwithwr caled gartra ed! Fod amser gwell i ddod i'n gwlad ni a'r Allies dewr, prishodd i gwmpo,
sowdjwrs i gal penshwn, ham and eggs bob dydd yn y trenshes, i ‘extension of
limitations’, menywod i bregethu a gwitho (rhai o henyn nhw fel navvies),
doti fox o fatches am ginog, premium o £10 a year i bob gwithwr a 4 o blant a rhacor; dim hen
gownt, a dyna'r gwelltyn dwetha i ladd y PACKMAN NEWYDD. |
|
|
(delwedd 5708a) (16 Medi 1916) |
Aberdare Leader. 16 Medi 1916. Clywedion Dyffryn Dar. When women scream and shout like thunder, Men gaze and ask, "Whom are we under?" “Oh," quoth the scribe, 'tis only bluster – A LADY'S found at last her master!" |
|
|
(delwedd 5708b) (16 Medi 1916) |
“Ma'r ladies bach anwl Yn smart ac yn swil, Yn gwitho fel mwrthwl Right down and up hill; Ond skirts y menywod Rhyw ddydd losga'n fflam, A diwadd yr atnod Fydd wetyn—Salaam! Byrdwn: Tresamwn yn swil, Tresamwn yn swil, Os collwn ein ladies, Y byd aiff down hill!"
PACKMAN NEWYDD. |
|
|
----------------------------------------------------------------------------
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E
/ ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄
/ ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ
/ ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ:
/ e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ
uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ
ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ
əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
gyn aith
δ δ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_1916_0360k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 27-12-2017
Delweddau:
Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r
Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait