kimkat0096k Hanes Cymry Colorado. Evan Williams. 1889.
11-05-2017

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0097k Arweinfa i Hanes Cymry Colorado www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_114_hanes-cymry-colorado_y-brif-ddalen_0097k.htm
● ● ● ● ● Y tudalen hwn

 

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Hanes Cymry Colorado
Evan Williams (1889)

Y testun ar ffurf electronaidd. Fe ychwanegwyd at y testun electronaidd fapiau o swyddi talaith Colorado, ac hefyd fap o’r lleoedd y mae sôn amdanynt yn y testun.

None
(delwedd 5079)

 
……


Traethawd Eisteddfod am Gymry Colorado gan Evan Williams yw’r testun, a gyhoeddwyd fel llyfryn yn 1889.

Rhagor o wybodaeth am y llyfr yn y fan hyn:

kimkat0083k Arweinfa i Hanes Cymry Colorado www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_114_hanes-cymry-colorado_y-brif-ddalen_0097k.htm
……………….
(Isod) Colorado o fewn yr Unol Daleithau:
Fe ddaeth yn dalaith yn y flwyddyn 1877, ganrif ar ôl Y Datganiad Annibyniaeth, ac felly rhowd y llysenw the ‘Centennial State’ arno (‘Y Dalaith Ganmlwyddol’). (Map wikipedia)



(delwedd 4842)
……………….
(Map isod). Y lleoedd y mae sôn amdanynt yn y testun: Y lleoedd yn Colorado y mae sôn amdanynt yn y testun:  Alpine, Ames, Aspen, Bessemer, Black Hawk, Boulder, Brown’s Creek, Cañon City, Cardiff, Central City, Clear Creek, Coal Creek (1), Coal Creek (2) (swydd Fremont), Colorado City, Colorado Springs, Crested Butte, Denver, Elizabeth, Elko, Erie, Estes Park, Falcon, Freeland, Georgetown, Glenwood Springs, Golden, Gold Hill, Gothic, Gregory Gulch, Gray’s Peak, Gwillimville, Idaho Springs, Irwin, Jamestown, Jerome Park, Lake City, Leadville, Manitou, Meeker, Montezuma, New Castle, Prospect, Pueblo, Ralston Creek, Rockvale, Russell Gulch, Silverton, St. Elmo, St. John, Schofield, Silver Plume, Spanish Bar, Tarryall, Telluride, Williamsburg.


None
(delwedd 4903-2)
……………….

Rhan o’r map uchod: Ardal Denver
None
(delwedd 4904)

 

Rhan o fap 4903-2 uchod: Crested Butte a'r cylch

4843_colorado_crested-butte_170514

(delwedd 4843)

Rhan o fap 4903-2 uchod: Lake City a'r cylch

4845_lake-city_colorado_170514

(delwedd 4845)

Rhan o fap 4903-2 uchod: Gwillimville a'r cylch

None

(delwedd 4844)

 

……………


HANES CYMRY COLORADO. CLAWR.

History of the Welsh People of Colorado

TRAETHAWD HANES CYMRU COLORADO

O’i Sefydliad Boreuaf hyd yn Awr.

1859-1889.

TESTYN

Eisteddfod Gwyl Dewi Sant. Denver, Colo.

GAN EVAN WILLIAMS, DENVER, COLORADO.

PRIS 50 CENTS.

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN EVAN WILLIAMS. 1889.

(ALL RIGHTS RESERVED.)

=
HANES CYMRY COLORADO. i. TUDALEN TEITL.

History of the Welsh People of Colorado

TRAETHAWD HANES CYMRU COLORADO

O’i Sefydliad Boreuaf hyd yn Awr.

1859-1889.

TESTYN

Eisteddfod Gwyl Dewi Sant. Denver, Colo.

GAN EVAN WILLIAMS, DENVER, COLORADO.

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN EVAN WILLIAMS. 1889.

(ALL RIGHTS RESERVED.)

=
HANES CYMRY COLORADO. ii.

Entered according to Act of Congress in the year 1889 by EVAN WILLIAMS, In the office of the Librarian of Congress, at Washington.
………..

HANES CYMRY COLORADO. iii.

Cynwysiad.

At y Darllenydd. TUDALEN v

Map o siroedd Colorado (wikipedia):
None

(delwedd 5048)

Swydd Arapahoe 2-13

Swydd Boulder 13

Swydd Chaffee 14

Swydd Clear Creek 15-21

Swydd Elbert 21

Swydd El Paso 22

Swydd Fremont 23-25

Swydd Gilpin 26-36

Swydd Gunnison 36

Swydd Jefferson 37-40

Swydd Lake 41

Swydd Grand, Garfield a Pitkin 42

Swydd Pueblo 43

Swydd San Juan 44

Swyddi Delta, Montrose, Ouray, Saguache a San Miguel 45

Swydd Summit 46

Swydd Weld 46-48

Nodiadau Byrion am rai o Brif Gymry Colorado -

Charles, William, Denver 49

Davies, Llewelyn P., Central 50

Evans, Griffith, Estes Park 51

=
HANES CYMRY COLORADO. iv.

CYNWYSIAD.

Edwards, Melvin, Denver 52

Evans, John, Denver 52

Francis, William, Erie 53

Griffiths, Morgan, Coal Creek 53

Hughes, George N., Coal Creek 54

Hughes, Richard, Coal Creek 54

Griffiths, Griffith D., Prospect 55

Griffiths, Robert R., Denver 55

Jenkins, John G., Denver 56

Jenkins, Thomas E., Central 57

Jones, Edward, Russell Gulch 58

Parry, Robert, St. Elmo 58

Phennah, John, Erie 59

Roberts, John G., Denver, 60

Roberts, John G., Idaho Springs 60

Roberts, Lewis, Denver 61

Roberts, Thomas G., Leadville

Thomas, Morris, Denver 63

Williams, Edward W., Russell Gulch 63

Williams, John T., Erie 65

Ol-Nodion Cyffredinol 66

=
HANES CYMRY COLORADO. v.

At y Darllenydd.

Gyda’r un amcan ag oedd genym wrth ysgrifenu hyn o Hanes Cymry Colorado yr ydym yn cyhoeddi y llyfryn hwn, sef trysori ychydig o hanes ein cenedl yn y dalaeth hon.

Yr ydym yn wybyddus nad ydyw hanes Cymry y swyddi deheuol o’r dalaeth genym mor gyflawn fe allai ag y dylai fod, er hyny credwn na ddigwyddodd dim nodedig gyda Chymry y swyddi hyn.

Dymunwn ddiolch i'r cyfeillion canlynol am y cynorthwy a roddasant i ni, sef Thomas E. Jenkins, Central, John G. Roberts, Denver, a Thomas G. Roberts, Leadville.

Hyderwn y caiff y llyfr hwn dderbyniad cynes gan ein cenedl.

Yr eiddoch, yn genedlgarol.

EVAN WILLIAMS.

=
HANES CYMRY COLORADO. 1.

O’i Sefydliad Foreuaf hyd yn Awr.

Nid oes dim yn fwy dyddorol i’r hanesydd a'r hynafiaethydd nag ymchwilio i hanes ei genedl, a hyny er cael allan amser eu sefydliad cyntaf mewn unrhyw wlad, talaeth neu dref, er mwyn gweled eu cynydd yn y lleoedd hynny. Ceir fod hyn yn orchwyl anhawdd, yn enwedig mewn lleoedd newyddion, oherwydd fod y bobl yn symud mor fynych o’r naill lle i'r llall, a dyma yr anhawsder sydd yn ein gwynebu wrth ysgrifenu hanes Cymry Colorado, gan mae prospectors oedd y rhan fwyaf o honynt, ac oherwydd hyny yn symud yn lled aml, oddigerth y rhai a sefydlasant yn y camps mwyaf llwyddianus, yn mha leoedd y deuwn o hyd i rai o'n cenedl ag sydd ynddynt er ’59 a ’60. Modd bynag, er cymaint yr anhawster, mae

HANES CYMRY COLORADO. 2.

yn destyn hynod ddyddorol i ni, ac amcanwn yn nherfynau y traethawd hwn roddi crynodeb o hanes sefydliadau y Cymry yn y dalaeth mor gyflawn a chywir ag sydd modd. Sylwn ar hanes y Cymry yn mhob swydd lle y maent yn lluosog, gan enwi y lleoedd hyny, a chan adael allan y man leoedd oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol yn eu cylch.

---
SWYDD ARAPAHOE.

DENVER.
None
(delwedd 5049)

Nid oedd dim son am yr enw “Denver” hyd tua 1860. Pan ddaeth yr aur-chwilwyr cyntaf i olchi aur o Cherry creek Aururia y gelwid y lle, ac yn West Denver yn awr yr oedd y camp. Y teulu Cymreig cyntaf a ddaeth yma ydoedd Mrs. Davies a’r plant, (mam a chwiorydd Mrs. L. L. Rees.) Pasiodd y teulu hwn drwy Denver yn 1856 ar eu ffordd i Utah, ac ar ol aros yno am ysbaid, ac yn anfoddlon ar y lle, dychwelasant yn mis Mai, 1860, gan sefydlu yr ochr ddwyreiniol i’r creek, sef East

=
HANES CYMRY COLORADO. 3.

Denver yn awr. Adeiladasant log cabin ar y tir lle saif y Charpiot Hotel, ar Larimer, rhwng 15th a 16th. Mr. Butler, mab-ynghyfraith Mrs. Davies ydoedd Marshal cyntaf Denver. Ganed merch i Mrs. Butler yma yn

None

(delwedd 5080)

1860, a hon ydoedd y plentyn gwyn cyntaf a aned yn y lle. Yr oedd Mrs. Butler yn byw yr adeg hon ar Blake a 18th streets, lle saif y Centennial Hotel yn awr. Mab-ynghyfraith Mrs. Davies (Jim O’Neil) ydoedd y cyntaf i gael ei gladdu yn yr hen fynwent ar Capitol Hill ac efe a berchenogai y

None(delwedd 4827b)

tir yr adeg honno. Dywedir ar sail dda fod Mrs. Davies yn un o 21 o wragedd yn holl diriogaeth Colorado yr un amser. Cawn fod amryw o’r teulu parchus hwn yn byw yma yn awr ac yn gysurus eu hamgylchiadau. Yn mis Mehefin y flwyddyn hono daeth Evan E. Davis a'i deulu ac Evan Davis arall yma o Emporia, Kas., ac mae y blaenaf a’r teulu yn byw yma yn awr ar California Street. Er na

None

(delwedd 4828)

arosodd yma ond ychydig yr adeg hono, cawn iddo ddychwelyd yn mhen rhai blynyddau a gwnaeth ei gartref yma. Yn 1862 daeth Gov. John Evans yma i weinyddu y swydd o lywodraethwr, o Evanston,

=
HANES CYMRY COLORADO. 4.

Ill[inois]. Deallwn ei fod ef ac Abraham Lincoln yn hen gyfeillion, a dyma y rheswm yn ddiau iddo gael ei benodi i’r swydd bwysig hon. Mae John Evans yn Gymro o waed coch, cyfan, fel y dywedir. O’r amser hyny hyd yn awr mae wedi bod yn weithgar gyda phobpeth a fyddai o les i’r dalaeth, ac efe fu yn offeryn i gael rhai o’r rheilffyrdd pwysicaf i redeg i Denver.
Hefyd cawn iddo flynyddau yn ol osod allan ddarn o dir fel ychwanegiad at y ddinas, yr hyn a elwir yn Evans Addition, a’r flwyddyn hon mae wrthi yn adeiladu Office Building, wyth uchder lloft, yr hyn a ddengys, er ei fod yn heneiddio, fod ei ffydd yn cryfhau yn nyfodol y Queen City. Eiddunwn iddo hir oes i wneyd daioni. O 1860 hyd 1867 cawn amryw Gymry yn sefydlu yn Denver, ac yn eu mysg John P. Williams, Griffith Evans (Estes Park wedi hyny), L. L. Rees, Evan G. Owens ac eraill, ond ni chymerodd dim rhyfedd le yr adeg hon. Yn y blynyddoedd rhwng 1868 a 1872 daeth amryw o'n cenedl yma, yn eu plith cawn William J. Evans, Richard Hughes, Rice Morgan, R. R. Griffiths, James Thomas, John Evans, W. W. Griffiths, Hugh

=
HANES CYMRY COLORADO. 5.

Pritchard ac eraill. Prif ddigwyddiad 1872 ydoedd sefydliad yr Ysgol Sul ynghyd a chwrdd canu. Sefydlwyd yr Ysgol Sul yn nghapel y Presbyteriaid Saesoneg a phenodwyd y diweddar William J. Evans yn arolygwr. Byr fu tymor eu harosiad yn y lle hwn gan iddynt symud i gynnal eu cyrddau i gongl Holladay a 15th. Cawn fod o 20 i 40 o Gymry yn mynychu yr Ysgol a chynulliad da yn y cyfarfodydd eraill. Yr adeg hon ceid ambell bregeth, a diau mae i’r Parch. John T. Williams, Erie, y perthyn y clod o draddodi y bregeth Gymraeg gyntaf yn Denver, oblegid cawn ei fod yn dyfod yma yn fynych yr adeg hon i draddodi y gwirioneddau am y groes i’w gydgenedl. Yr oedd golwg pur addawol ar yr achos goreu am beth amser, ond tua 1874 bu farw o ddiffyg y gefnogaeth ddyladwy a gwasgariad y Cymry o’r ddinas. Daeth y panic yn mlaen ac oherwydd y cyfryw wele ychwaneg yn ymadael fel mae nifer fechan o’n cenedl a arosodd yma. Modd bynag, wedi i effeithiau panic 1877 fyned drosodd dechreuodd y Cymry ail gasglu i Denver. Tua’r adeg hon daeth J. G. Jenkins ac eraill i breswylio yma ac yn 1879 wele Lewis

=
HANES CYMRY COLORADO. 6.

Roberts ac amryw eraill yn gwneyd eu hymddangosiad. Dechreuwyd cynal cyrddau adloniadol yn bur fuan, ac yr oedd y cynulliadau yn lluosogi yn barhaus, fel y cawn, ar y 4ydd o Orphenaf, 1883, i'r Cymry gynal math o Eisteddfod leol yn East Turner Hall. Prif seren y mudiad hwn ydoedd Merlin Jones (yn awr yn Oakland, Cal.), a dygwyd y cyfan allan yn hynod lwyddianus. Cyfarfyddau y genedl Gymreig yr adeg hon yn lled reolaidd yn yr hen Good Templars Hall ar Holladay Street. Y flwyddyn hon (1883) sefydlwyd y Cambrian Society, ac yn mis Hydref cynalient eu cyfarfodydd yn Euclid Hall ar 14th Street. Daeth amryw Gymry newyddion i’r ddinas yr adeg hon ac yn eu mysg cawn D. Saunders, Evan Evans, William Edwards, John G. Roberts ac eraill. Llywydd y Cambrians bron er y cychwyn ydyw John G. Jenkins, ynghyd a Lewis Roberts yr

None

(delwedd 5081)

Ysgrifenydd. Perthyna i’r gymdeithas rai o brif Gymry y ddinas. Amcan y gymdeithas ydyw helpu rhai o'n cenedl pan mewn angen, ac mae wedi gwneyd llawer a les yn y cyfeiriad yma heblaw dwyn y Cymry i gyfyrddiad a'u gilydd. Cynelir cyrddau adloniadol

=
HANES CYMRY COLORADO. 7.

a dawns dan nawdd y Cambrians, a bob blwyddyn dathlir Gwyl Dewi mewn modd anrhydeddus, pryd y daw cynrychiolwyr o bron bob sefydliad Cymreig yn y dalaeth yma. Yn 1883 hefyd, talodd y Parch. David Saunders, Abertawe, D. C., ymweliad a’r ddinas a thraddododd bregeth alluog i’r Cymry yn nghapel y Methodistiaid Esgobol ar Lawrence Street. Daeth i feddwl rhai o'r Cymry roddi anrheg i’r gwr parchedig er cof am ei ymweliad a'r ddinas, ac aed ati o ddifrif, ac fel pob peth yr ymafla Cymry y brifddinas ynddo llwyddasant i godi digon o arian i gael ffon a phen aur gwerth $60. Disgynnodd y gorchwyl o’i gyflwyno ar R. R. Griffiths, yr hyn a wnaeth mewn araeth fer ac i’r pwrpas. Yn 1884 wele y Cymry yn cyhoeddi Eisteddfod Dalaethol Colorado, i’w chynnal yn Denver dydd Nadolig y flwyddyn honno. Aed ati o ddifrif i barotoi rhaglen o'r testynau, yr hon sydd hyd heddyw yn glod idynt [sic; = iddynt]. Disgwylid amser da, ond ow! wele y streic yn dechreu a’r mwyafrif o Gymry y dalaeth allan o waith. O'r diwedd, wele dydd cynaliad yr Eisteddfod yn gwawrio, ac fel yr ofnid, ychydig ddaeth ynghyd, a throi allan

=
HANES CYMRY COLORADO. 8.

yn aflwyddianus a wnaeth, ond nid oherwydd diffyg ymdrech ar ran y pwyllgor, ond am fod sefyllfa pethau yn y dalaeth yn isel ar pryd. Hugh Jones, Erie, oedd yr arweinydd; Tafalaw yn feirniad ar y rhyddiaeth a’r farddoniaeth: T. E. Jenkins, Central, yn beirniadu yr adroddiadau, ynghyd a Precentor Stevenson a John Phennah, Erie, yn feirniaid y canu. Llywyddion y gwahanol gyfarfodydd oeddynt Ex-Gov. John Evans, Judge Belford a Gen. Sampson. Cawn yn y flwyddyn hon i’r Cambrians ymuno mewn glan briodas gyda’r clybiau Albion a’r Caledonian, ac yn y man wele y tair cymdeithas yn prydlesu adeilad i gynal eu cyfarfodydd ar 17th a Curtis, yr hwn le a alwant yn “Union Hall,” a dyma lle y cynalia y Cambrians ei cyfarfodydd yn awr. Yn 1886 cawn y digwyddiad Cymreig nesaf yn cymeryd lle, sef ail sefydlu Ysgol Sul. Sefydlwyd hon ar y 19eg o fis Mawrth yn yr Union Hall, a chafodd gychwyniad da - tua 35 o ysgolorion, yn cael en dosranu yn 5 o ddosbarthiadau. Etholwyd Edward J. Owens yn Arolygwr, Hugh R. Hughes yn Ysgrifenydd a Mrs. Brubaker yn Drysoryddes, ynghyd a W. D. Price yn Holwr.

=
HANES CYMRY COLORADO. 9.

Yr Athrawon cyntaf oeddynt Evan B. Evans, John T. Williams, William W. Griffiths, Lewis Roberts ac Evan Williams. Mae yr Ysgol yn awr yn dair blwydd oed a golwg llewyrchus iawn arni. Mae ar gyfartaledd tua 50 yn mynychu yr Ysgol ac wedi eu dosranu i 8 o ddosbarthiadau. Wrth weled y fath lwyddiant pan sefydlwyd yr Ysgol, daeth i feddwl y cyfeillion sefydlu Eglwys yma, ac felly y gwnaed y mis Mai dilynol (1886) gan y Parch. William Charles, Dodgeville, Wis., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. D. Price, Denver. Cysgoda yr Eglwys dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd. Rhif yr aelodau y Sul cyntaf ydoedd 32, ond yn awr rhifant tua 70. Yn mis Hydref y flwyddyn hon talodd y Parch. M. A. Ellis, M. A., ymweliad a Denver a chydag ef ei ferch, Miss Emily Ellis a Miss Miriam Jehu, er rhoddi cyngerdd yma. Ar y 19eg cawn y ddwy ferch ieuanc dalentog yma yn cynal eu budd-gyngerdd yn yr Union Hall yn cael eu cynorthwyo gan gerddorion lleol. Synwyd y gynulleidfa gan ganiadau swynol Miss Ellis a chan adroddiadau meistrolgar Miss Jehu, fel y gofynwyd i'r ddwy foneddiges

=
HANES CYMRY COLORADO. 10.

ieuanc roddi cyngerdd arall, ac felly y bu; rhoddwyd un yr wythnos ddilynol yn y Second Congregational Church i gynulleidfa fawr, a chyda’r un gradd o lwyddiant a'r cyngerdd blaenorol. Cafodd y boneddigesau hyn glod mawr yn y papurau dyddiol. Y trydydd Sul yn Hydref, drachefn, cawn y Parch. M. A. Ellis yn pregethu i’r Cymry yn nghapel yr Undodwyr i gynulleidfa fawr, a Miss Ellis yn canu. Yr oedd y bregeth yn deilwng o’r gwr parchedig yn ei chyfansoddiad a’i thraddodiad. Yn y cyfamser cawn fod pethau Cymreig yn rhedeg fel arferol - y Cambrians a’r Eglwys yn flodeuog, ond yn mis Mawrth, 1887, wele yr Eglwys yn cael ei chynhyrfu oherwydd y ddawns a gynaliwyd gan y Cambrians i ddathlu Gwyl Dewi, yr hyn a fu yn offeryn nid bychan i oeri y cariad brawdol oedd yn bodoli rhwng yr Eglwys a’r Cambrians. Gostegodd y terfysg hwn, ond i gael ei adgyfodi drachefn y Mawrth canlynol (1888). Aeth yr ystorom hon drachefn heibio heb anafu neb, oddigerth ail-gyneu teimladau drwg yn y naill at y llall. Cyn hir cawn bobpeth yn myned yn mlaen fel arferol, ac yn yr haf hwn wele y

=
HANES CYMRY COLORADO. 11.

Cymry yn dechreu adeiladu capel ar Welton a 13th. Agorwyd y capel ym mis Medi canlynol trwy wasanaeth y Parchn. Dr. Moore (M. E.), Lewis (diweddar o Gymru), John P. Jones a William G. Williams, o Erie. Costiodd y tir $3,500 a'r adeilad a’r dodrefn tua $2,000, ond nid ydyw y tir wedi talu am dano eto, ac y ychydig [sic; = ac y mae ychydig] o ddyled yn aros ar yr adeilad. Y Parch. William Charles fu yn bugeilio y defaid yma am y ddwy flynedd gyntaf, ac yn awr y Parch. Thomas Miles, o Trenton, Neb., sydd yn gwasanaethu yr Eglwys. O'r adeg hono hyd y 1af o Fawrth ni chawn i ddim neillduol gymeryd lle, ond y diwrnod hwnw cawn Cymry Denver yn cynal Eisteddfod fawreddog yn nghapel yr Undodwyr er dathlu Gwyl Dewi. Credwn na welwydd [sic; = welwyd] y fath gynulliad o Gymry erioed o’r blaen wrth odrau y Mynyddoedd Creigiog, oblegid bernir fod o leiaf 600 o Gymry dieithr yn y ddinas. Llywyddion y gwahanol gyfarfodydd oeddynt Ex-Gov. John Evans, Dr. Moore a Mr. J. G. Leyshon. Arweinydd y dydd ydoedd y Parch. M. A. Ellis. Beirniaid y gwahanol destynau oeddynt Mrs. Thomas Tonge, Parch. M. A. Ellis, Prof. Vincent

=
HANES CYMRY COLORADO. 12.

Morgan, Dr. Moore, Prof. De Sollar, J. G. Smith ac R. R. Griffiths. Dyma un o’r Eisteddfodau goreu y buom ynddi erioed, ond er hyny deallwn mae troi allan yn aflwyddianus a wnaeth mewn ystyr arianol er holl lafur ac ymdrech di-ildio y pwyllgor. Modd bynag, llongyfarchwn y pwyllgor am ddwyn ein cenedl mor amlwg i sylw cenhedloedd eraill. Ceir yn y ddinas hon amryw o’n cenedl yn fasnachwyr llwyddianus, sef John G. Jenkins, yn cadw ystordy esgydiau; Evan G. Owens, yn gwerthu gynau; James Thomas, yn gwerthu oriaduron, ynghyd ag amryw eraill. Yma y bu farw y pregethwr galluog Parch. E. L. Herbert, ac yn ei farwolaeth ef collodd Cymry y ddinas un o’r dynion mwyaf defnyddiol. Yn nghapel yr Undodwyr cawn ffenestr goffadwriaethol iddo, yr hyn a ddengys fod “ei goffadwriaeth yn fendigedig” ganddynt. Cyfrifir fod yn byw yn Denver yn awr o 1,000 i 1,500 o Gymry, er, mae’n wir, na welir cymaint a hyny yn dyfod ynghyd i unrhyw gyfarfod. Dengys yr hyn a ysgrifenwyd fod cynydd ein cenedl yn y ddinas hon wedi bod yn lled gyflym, ac hefyd eu bod mewn agwedd lled lewyrchus

=
HANES CYMRY COLORADO. 13.

yma yn awr. Ein dymuniad ydyw ar fod i lwyddiant mwy eto ddilyn Cymry y brif ddinas.

-----
SWYDD BOULDER.

None
(delwedd 5050)

Deallwn fod Cymry wedi sefydlu yn y swydd hon tua 1873. Y cyntaf y gwyddom am dano ydoedd Griffith Evans, yr hwn a aeth o Denver i Estes Park yn y flwyddyn hono i godi anifeiliaid a chwilio am y "metal melyn," a bu yno am lawer o flynyddau. Yn 1877 cawn i Thos. T. Roberts (Denver yn awr) ac eraill fyned yno ato. Yn 1874, os ydym yn cofio yn iawn, torodd excitement Jamestown allan, ac ymfudodd William J. Williams ynghyd ac eraill o’n cenedl yno ac i’r ardaloedd cylchynol.

Bu y Cymry yn dra lluosog yn y swydd hon yn 1884, a'r prif sefydliad ydoedd Gold Hill, ond heddyw ni cheir ond ychydig yn y swydd o gwbl. Un adeg yr oedd yn y swydd hon tua 150 o'n cenedl yn preswylio.

=
HANES CYMRY COLORADO. 14.


SWYDD CHAFFEE.
None
(delwedd 5051)

Sefydlodd Griffith Evans (brawd Evan B. Evans, Denver) yn y swydd hon mewn lle a elwir Brown's Creek yn 1873, ac yno mae y teulu yn byw yn awr yn cadw fferm.

ST. ELMO

Sefydlwyr cyntaf y lle hwn ydoedd Robert Parry (Cynfelyn), ei ddau fab, William Lloyd, Ellis M. Jones, John Thomas a Daniel Williams. Daeth y personau hyn yma yn Ionawr, 1880, o Leadville, ac fe gawsant amser lled galed o honi am ysbaid, gan nad oedd y lle ond anialwch diffaeth yr adeg honno. Yn mhen ychydig cawn i Griffith Evans ddyfod yma o Brown's Creek i agor ystordy, a bu yma yn fasnachwr llywyddianus am rai blynyddoedd, ond daeth angeu heibio a bu farw y Cymro cymwynasgar hwn, gan adael gair da ar ei ol, a choffadwriaeth fendigedig. Cawn fod Cynfelyn yn trigianu yma o hyd, ynghyd ag amryw eraill. Bu Cynfelyn yn arolygydd rhai o'r mwngloddiau goreu yn y lle, a gelwir ef gan lawer yn "dad St. Elmo," oherwydd mai trwy ei lafur ef yn fwyaf neillduol y mae St. Elmo

=
HANES CYMRY COLORADO. 15.

yr hyn ydyw yn awr. Cawn iddo fod yn arolygydd y Mary Murphy, Tom Murphy ac eraill, ac fe drodd yr oll allan yn llwyddianus dan ei ofal. Pob llwyddiant iddo eto yn y dyfodol, medd yr awdwr.

---

SWYDD CLEAR CREEK.
None
(delwedd 5052)
---

IDAHO SPRINGS, GEORGETOWN A SILVER PLUME.

Yn 1860 darganfyddwyd aur hyd waelodion South Clear Creek, lle y saif Idaho Springs yn awr, ac wele yr archwylwyr yn prysuro yno o Gregory Gulch, ac yn eu plith lawer o Gymry, sef John W. Edwards, “arwr Missouri City," a Geo. Griffiths, genedigol o Utica, N. Y. Buont yn lled ffodus yn newisiad tir, a chawn i’r ddau fod yn flaenllaw yn ffurfiad cyfreithiau i’r mwnwyr yn y rhanbarth. Etholwyd John W. Edwards yn Judge of the Miners’ Court, a George Griffiths yn Gofrestrydd. Yn 1864 aeth Griffiths i ganlyn yr afon yn mhellach gan chwilio am aur wrth fyned, a chawn iddo,

=
HANES CYMRY COLORADO. 16.

tua 12 milldir o Idaho Springs, ddarganfod gwythienau addawol iawn, ond er ei siomedigaeth nid oedd “aur” i’w weled wrth olchi y pridd. Er ei fod yn prospector profiadol, ac wedi darganfod y mwngloddiau “Cymro,” (yn Nevadaville, ger Central City?) “Wales” a “Bangor” yn swydd Gilpin, nid oedd yn deall natur

 

None

(delwedd 4861)

ei ddarganfyddiadau y tro hwn. Gyrodd sachaid o’r mwn i Central yn ddioed, a chafodd ei fod yn gyfoethog mewn arian. Aeth y newydd hwn fel mellten dros y gymydogaeth ac wele y bobl yn dylifo i’r lle newydd, ac er mwyn anrhydeddu y Cymro anturiaethus enwyd y dref newydd yn Georgetown, a’r rhanbarth yn Griffith Mining District a’r mynydd uchel gerllaw yn Griffith Mountain. Yn 1867 cawn i’r gwr hwn (Griffiths) briodi Sarah Anne, merch y diweddar Evan Williams, Central. Collodd ei briod y flwyddyn ganlynol a throdd yntau ei wyneb tuag Utah, lle yr oedd yn bur ddiweddar. Yn 1864 cawn yn mhlith Cymry Georgetown Noah Pergerine [sic; = Peregrine], Thomas G. Roberts, William H. Pierce a’r teulu ynghyd ag eraill, ac yn 1867 daeth John G. Roberts yma at ei frawd, a cheir y ddau yn lled fuan yn gweithio yn egniol tuagat godi

=
HANES CYMRY COLORADO. 17.

capel i’r Presbyteriaid Saesoneg, a da genym ddywedyd i’w llafur gael ei goroni a llwyddiant. Yn 1870 wele R. R. Griffiths a John T. Davies (y ddau yn Denver yn awr) yn dyfod i Georgetown. Dychwelodd y blaenaf i Denver ond arosodd Davies yno am rai blynyddau. Yn y cyfamser penodwyd Davies yn sirydd. Yn 1870 dychwelodd William H. Pierce o’r dwyrain gan sefydlu ar Spanish Bar, ger Idaho Springs, a chydag ef daeth Edward Jones (Russell Gulch yn awr), Owen S. Owens, David Harris, D. Alexander, Lewis Evans ac eraill. Aethant bron oll i weithio yn y mwngloddiau cyfagos, gan lettya gyda Mr. Pierce. Mae'n debyg mai prif ddigwyddiad yr haf canlynol ydoedd y briodas ddwbl Gymreig yn y Beebe House, Idaho Springs, lle y cafodd Edward W. Williams ei glymu gyda Miss Mary Hammond a William J. Evans yr un modd gyda Laura Hughes. Yn haf 1872 ffurfiwyd cwmni yn Lloegr er toddi mwn ar y Spanish Bar, a chawn i Prof. Pierce (Argo yn awr) ddyfod yma gyda tua 12 o Gymry profiadol yn y gwaith hwn o Abertawe, D. C. Cyraeddasant y lle yn mis Hydref. W. J. Williams yn arolygydd a W.

=
HANES CYMRY COLORADO. 18.

D. Morgan yn ben-gweithiwr. Yn 1873, drachefn, daeth Rice N. Hughes (Denver yn awr), Daniel Bowen a John Morris i’r lle o Dodgeville, Wis., gan sefydlu yn Idaho Springs. Prynodd y ddau flaenaf ran mewn mwnglawdd gan John W. Edwards, a buont yn bur llwyddianus [sic; = lwyddianus] am beth amser. Yn ngwanwyn 1874 aeth rhai o Gymry Spanish Bar i helbul tra yn Idaho Springs a’r canlyniad fu rhoddi rhybudd i’r Cymry gadw ymaith o’r lle. Yr oedd hyn yn fwy na allasai y Cymry ddal, ac felly ar un nos Sadwrn aeth tua dwsin o honynt i'r pentref: daethant i wrthdarawiad a’u gelynion ar fyrder, a phenodwyd un o bob ochr i’w hymladd hi allan. Dewisodd y Cymry Evan S. Evans a’r ochr arall Ellmyn o’r enw Rueder, ond wedi myned allan a thynu en dillad gwrthododd yr Ellmyn fyned yn mlaen. Modd bynag diwedd hyn oll ydoedd i’r Cymro cywir John Hughes (Ffordd deg) gael ei drywanu gan yr Ellmyn, yn hollol ddirybudd, ac fe ddiangodd y llofrudd yn ddigosb oherwydd llwfrdra y Cymry a’u cyndynrwydd i dystio yn ei erbyn. Mae gwaed John Hughes yn gwaeddi yn uchel am i ryw Nemesis gyfodi i

=
HANES CYMRY COLORADO. 19.

ddial llofruddiaeth mor greulawn ac erchyll. Disgynodd yr ergyd hon mor drwm ar Thomas ei frawd nes effeithio ar ei iechyd ac aeth i ganlyn John yn lled fuan. Yn 1874 cawn Thomas G. Roberts yn arolygydd y mwnglawdd “Dives,” [yn Silver Plume] a John G. Roberts, ei frawd, yn arolygydd ar fwngloddiau cyfoethog G. W. Church, a’r mwngloddiau bron oll yn llawn o Gymry a Mrs. Mary Jones, o Dodgeville, Wis., yn porthi a llettya tua 40 o honynt yn Silver Plume. Yn 1874, hefyd, daeth y brodyr L. L. a Phillip Roberts drosodd o swydd Gilpin gan sefydlu masnach ar raddfa eang yn Silver Plume, a chawod eraill o Gymry Dodgeville, Wis., yn disgyn yn y lle, sef y tri brawd Edward, William a John Watkins a’u teuluoedd, ynghyd a D. Woodward, William a Thomas Davies ac eraill. Yn 1878 etholwyd L. L. Roberts yn Drysorydd y swydd, ac oherwydd hyny gwerthodd ei fasnach i Henry ei frawd, yr hwn oedd newydd ddyfod yno o Laramie. Wyo., a symudodd L. L. Roberts i Georgetown i fyw. Ar ol gorphen ei dymor fel trysorydd gwrthododd ail-benodiad ac agorodd “Livery and Feed Stables" yn Silver

=
HANES CYMRY COLORADO. 20.

Plume. Yn 1878 cawn nythaid o Gymry yn Freeland, ger Idaho Springs, a William H. Pierce yn ben-gweithiwr ar y mwnglawdd a elwid “Freeland;” y Parch. W. D. Price yn agor efail gof; Jenkin Edwards a Jenkin Roberts (y ddau o Golden) yn agor masnachdy helaeth, a chawn fod yno y pryd hwn y mwnwyr adnabyddus canlynol Griffith Gee Jones, Griffith Roberts, John D. Lloyd, Robert J. Roberts, John W. Lloyd, William Edwards ac eraill. Yr oedd John G. a Thomas G. Roberts yn arolygu mwngloddiau gerllaw yr adeg yma. Y flwyddyn hon, hefyd, sefydlwyd Ysgol Sul yma, a cheid ambell bregeth gan y Parch. W. D. Price, and wele annealltwriaeth yn cyfodi ynghylch gweithio ar y Sul, a’r Cymry yn gwasgaru oddiyno. Modd bynag, deallwn fod y Cymry yn cael cyfarfodydd dyddorol yma yr adeg hono. Cyn terfynu gyda’r swydd hon rhoddwn gipdrem drosti yn nechreu y flwyddyn hon: y brodyr Roberts, Silver Plume, wedi helaethu en masnach a sefydlu cangen yn Idaho Springs dan arolygiaeth L. L. y brawd hynaf; Evan T. Evans (Ap Deulyn) yn arolygydd ar fwngloddiau cwmni o St. Louis, Mo.;

=
HANES CYMRY COLORADO. 21.

William Edwards a William T. Phillips (Denver) yn perchenogi mwnglawdd ar Spanish Bar ac yn eu [sic; = ei] weithio yn llwyddianus; y cantorion enwog Lewis Oliver a Daniel Jones yn byw yn Silver Plume a Dan. wrthi yn canu yr "Half Bushel" nes mai Gray's Peak bron yn dawnsio, a Lewis Oliver yn canu "Hen Ffon fy Nain" yn felus a swynol dros ben. John Freeman Jones yn arolygu mwngloddiau y "Silver Age Mining Co." ac yn edrych fel pe ar ben ei ddigon pan y daw i Idaho Springs i chwilio am fwnwyr Cymreig. Foulk Williams, fel arfer, yn chwilio am fwnglawdd rhad i gwmni o "Loegr a Nebraska,” fel rhwng pob peth a’u gilydd cawn fod y Cymry yn “ehedeg yn uchel" yn y swydd hon. Bernir fod o 100 i 150 o'n cenedl yn byw yn ardaloedd Idaho Springs, Freeland, Georgetown a Silver Plume.
---

SWYDD ELBERT.
None
(delwedd 5053)

Mae amryw o'n cenedl yn byw yn y swydd hon. Mae yr oll yn amaetheyr cyfrifol ac yn wasgaredig ar hyd y swydd. Cawn i Evan E.

=
HANES CYMRY COLORADO. 22.

Davis (Denver) gymeryd tir i fyny yn agos i Elizabeth rhyw 19 mlynedd yn ol, ac mae yn amaethu yno yn awr. Bu Ysgol Sul Gymreig yn cael  ei chynal mewn un lle yn y swydd, ond deallwn ei bod yn cael  ei chario yn mlaen yn awr fel Ysgol Sul Undebol Saesonaeg. Gan fod y Cymry mor wasgaredig yn y swydd mae yn anhawdd rhoddi amcawngyfrif o’u rif.
SWYDD EL PASO.
None
(delwedd 5054)
Mae llaweroedd o'n cenedl yn byw yn y swydd hon, a hyny er’s blynyddau bellach. Mae y Cymro twymgalon John R. Jones yn trigianu yn Colorado Springs er y flwyddyn 1871, a chawn amryw Gymry yn byw yn Colorado City a Manitou. Daeth R. G. Gwillim i’r swydd hon yn 1871, gan sefydlu ar y divide, ac yn 1872 daeth Richard ei frawd yno atom thrachefn, yn 1878, cawn ei frawd arall, David, yn dyfod yno, ynghyd ag amryw eraill, ond dychwelodd David i Gymru yn lled fuan a bu farw yno. Gelwir y lle y sefydlasant ynddo yn Gwillimville, er anrhydedd i’r tri brawd a

=
HANES CYMRY COLORADO. 23.

enwyd. Mae R. G. Gwillim yn byw yma yn awr ac yn cadw gweithfa gaws. Ceir yn y lle hwn heddyw o 30 i 40 o’n cenedl yn preswylio a bron yr oll o honynt yn amaethwyr cyfrifol a llwyddianus. Yn Falcon, drachefn, deuwn ar draws teulu Cymreig o’r enw Evans yn amaethu, fel wrth daflu ein golwg dros yr holl swydd, cawn fod yma rai ugeiniau o Gymry.

--

SWYDD FREMONT.

None

(delwedd 5055)
--

CANON CITY, COAL CREEK, ROCKVALE A WILLIAMSBURGH.

Mae lluaws o’n cenedl yn byw yn y swydd hon sef yn Canon City, Coal Creek, Rockvale a Williamsburgh. Y sefydlwr Cymreig cyntaf ag y gwyddom am dano ydoedd un o’r enw Mathews, yr hwn a ddaeth yma yn flaenorol i 1870, gan gymeryd i fyny rai canoedd o aceri o dir gyda’r bwriad o sefydlu Welsh Colony, ac oherwydd hyny ymfudodd llawer o Gymry i'r sefydlad newydd, ond troi allan yn fethiant a wnaeth yr anturiaeth, ac wele y Cymry yn

=
HANES CYMRY COLORADO. 24.

gwasgaru i leoedd eraill. Cawn fod amryw yn byw yn Coal Creek yn flaenorol i 1877, feallai ddwy neu dair blynedd, oblegid cawn fod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yma y flwyddyn hono, ac ar y l3eg o Ebrill, 1879, sefydlwyd yma Eglwys Gymreig. Rhif aelodau cyntaf yr Eglwys ydoedd 13, ond heddyw, trwy lafur ac ymdrech pregethwyr galluog, rhifa yr aelodau tua 70, heblaw y gangen-eglwys yn Williamsburgh. Deallwn fod rhif yr aelodau wedi cael eu dyblu bron yn y ddwy flynedd ddiweddaf. Bu y pregethwyr canlynol yn gwasanaethu yr Eglwys, sef y Parchn. G. M. Jones, M. B. Morris, T. A. Humphreys, --- Davies, Y Parch. M. A. Ellis, M. A., ydyw y gweinidog presenol. Ceir fod agwedd lewyrchus ar yr achos goreu yn y lle hwn. Y flwyddyn ddiweddaf adeiladwyd yma dy i’r gweinidog gwerth tua $1,200, a deallwn eu bod bron wedi talu am dano. Hefyd mae gan ein cenedl yn Coal Creek gapel destlus iawn, ac yn wir dyma yr unig gapel yn y lle. Cynelir Eisteddfod yn y lle hwn bron bob blwyddyn, ac mae yn troi allan yn llwyddianus, yn llenyddol ac arianol, bron bob tro, a mawr ydyw y brwdfrydedd a

=
HANES CYMRY COLORADO. 25.

ddangosir gan Gymry yr ardaloedd hyn yn yr hen sefydliad bendigedig. Cafodd ein cenedl yn y swydd hon gryn helbul adeg streic 1884, yr hyn a barodd i amryw o honynt ymadael, ac yn eu plith rai o gerddorion goreu yr ardal, ond erbyn hyn gwelir pob peth yn myned yn mlaen "megis yn y dyddiau gynt." Cymro ydyw maer Coal Creek, a Chymro hefyd ydyw y Marshal; Cymro, drachefn, ydyw cynrychiolydd y swydd hon yn Senedd y Dalaeth eleni, sef William Phillips, ac yn olaf, ond nid y lleiaf ei glod, dyma y Cymro cywir Morgan Griffith yn sirydd y swydd er yn agos i 4 blynedd. Yma hefyd mae y llenor gwych Edward C. Roberts yn byw, ynghyd a'r doniol John L. Roberts, ac hefyd y diacon ffyddlon Richard Hughes, yr hwn sydd yn nos-wyliwr yn Senedd y Dalaeth yn y brif ddinas eleni. Felly canfyddwn fod ein cenedl yn lled barchus yn y parthau yma, a dywedir fod o 500 i 700 o Gymry yn byw yn swydd Fremont.

=
HANES CYMRY COLORADO. 26.

SWYDD GILPIN.
None
(delwedd 5056)

CENTRAL CITY A RUSSELL GULCH.

Yn gynar yn ngwanwyn 1859 cawn i ychydig Gymry adael eu cartrefleoedd yn y dwyrain gan wynebu tua'r gorllewin pell, ac yn sefydlu yn nhalaeth Colorado yn awr, mewn lle o'r enw Gregory Gulch (Pike's Peak) [sic; = ?. Sefydlwyd Gregory Gulch yn 1859 yn ystod rhuthr am aur Pike’s Peak] yn swydd Gilpin, yn eu plith yr oedd y rhai canlynol: John Edwards, John E. Jenkins {Deer Lodge, Montana, yn awr), "Jack" Thomas, Morris Thomas, E. Paul Jones, Edward Davies (Clifton, Iowa, yn awr), Hugh Edwards, Evan Williams, Evan Pritchard, ac eraill. Aeth y mwyafrif ohonynt ati ar unwaith i olchi y pridd am aur, a hyny gyda gradd helaeth o lwyddiant, ond nid heb lawer o helbul gan y tough characters oedd yn y lle yr adeg hono, ac nid anfynych y gelwid ar yr ychydig Gymry i amddiffyn eu bywydau a’u buddianau, ac mae yn dda genym groniclo y ffaith y ceid ein cenedl bob amser ar ochr Law and Order, fel y dywedir, hyd nes y cliriwyd y camp o'r oll oedd yn erbyn hyny. Yn ngwanwyn 1860 cawn fod y cwmni Thomas a Davies yn gweithio yn galed

=
HANES CYMRY COLORADO. 27.

wrth olchi yr aur, ac ystyrid hwy yn mhlith rhai o brif olchwyr Gregory Gulch. Mae Morris Thomas yn byw yn Denver yn awr, gan fwynhau ei hun goreu a ello ar elw y blynyddau hyny, ac mae Edward Davies yn amcanu gwneyd yr un peth yn Clifton, Iowa. Yn gynar yn 1862 gellid gweled sign yn Central City yn darllen: “Jones & Evans, Retail Grocers, etc.,” ac wrth holi cawn fod y cwmni yn gyfansoddedig o Richard W. Evans (brawd i'r henafgwr E. B. Evans, Denver), yn awr yn retired banker ac yn byw yn Fort Dodge, Kas., D. N. Jones, yn awr yn byw yn Eau Claire, Wis. Yn mhen rhai misoedd wele “Brenin y Menyn” yn gwneyd ei ymddangosiad yn y camp newydd gyda llwyth o'r peth gwerthfawr hwnw, ac ni fu yn hir cyn cael gwared o’i stock, a chawn ef yn parotoi i ddychwelyd yn ol gyda llawer o aur mwnwyr Gregory Gulch. Nid oedd y “brenin" hwn yn neb llai na Robert Owens, o gwmni Owens a Jones, Dodgeville, Wis., yn awr. Cawn i’r gwr hwn ymweled ar lle amryw droion gyda'i Welsh butter, fel y dywedai y mwnwyr, a hyny er lles i’r bobl ac elw iddo yntau. Tua’r adeg

=
HANES CYMRY COLORADO. 28.

yma daeth William N. Jones a Richard J. Williams yma o Cambria, Wis., gyda llwyth o bethau wedi eu codi ar ffermydd Wisconsin, er mwyn eu gwerthu i drigolion Gregory Gulch, ac wedi cyflawni eu neges cawn hwy yn dychwelyd yn ol, gan, yn ddiau, roddi gair da i'r wlad newydd, oblegid cawn yn y gwanwyn canlynol (1863) amryw yn dyfod allan o ardaloedd Dodgeville a Cambria, Wis., ac yn eu plith John G. Roberts (Denver yn awr), y diweddar Barch. O. M. Williams, David Jenkins a'r teulu, W. H. Pierce, ac eraill, ac er fod rhai o honynt yn eu beddau maent megis yn “llefaru eto”, a'u dylanwad i'w ganfod ar Gymry Colorado hyd heddyw. Cawn fod Cymry Gregory Gulch yr adeg hono, fel y ceir y Cymry bob amser, yn sychedu am gael mwynhau pethau crefyddol, ac yn mis Awst, 1863, sefydlasant Ysgol Sul, yr hon a rifai dros 30 o aelodau. Yn mis Tachwedd y flwyddyn hon cawn gawod arall o Gymry Wisconsin yn disgyn yn y lle, ac yn eu plith y Parch. Griffith Roberts (Lake Crystal, Minn., yn awr) a’i fab Thomas G. Roberts, a'r Sul cyntaf ar ol cyraedd y lle wele y Parch. Griffith Roberts yn pregethu i'r Cymry yn

=
HANES CYMRY COLORADO. 29.

nhy y diweddar Evan Williams, a pharhaodd i weinidogaethu i Gymry Gregory Gulch y mis Ebrill canlynol, yn cael ei gynorthwyo gan y diweddar Barch. O. M. Williams. Dymunwn ddywedyd yn y fan hon ei bod tuhwnt i amheuaeth mai y Parch. Griffith Roberts a bregethodd y bregeth Gymraeg gyntaf yn Colorado, a hyny yn Central, fel y crybwyllasom uchod. Yn 1864 aeth y Parch. Griffith Roberts yn ol i Wisconsin, a daeth y Parch. William Owen, gweinidog perthynol i'r Wesleyaid, allan o Dodgeville, i bregethu i'w gyd-genedl yn Central, ac arosodd yno hyd y gwanwyn canlynol. Ni pharhaodd y mwyniant hwn yn hir wedi hyny, oblegid dechreuodd y Cymry wasgaru oddiyma, ac fe aeth y rhan fwyaf o honynt i swydd Clear Creek. Cafodd y gwr da Evan Williams ei ladd yn y gwaith ar y 23ain o Fehefin y flwyddyn hon. Bu pethau yn lled dawel o hyn hyd 1870 yn mhlith Cymry swydd Gilpin, ond y flwyddyn hono wele gawod arall o'n cenedl yn disgyn yn Central o Wisconsin; yn eu plith cawn P. L. ac L. L. Roberts, teulu John R. Morgan (yr hwn oedd yno e'rs 2 flynedd yn flaenorol), Miss

=
HANES CYMRY COLORADO. 30.

Jennie Oliver (Mrs. Brubaker, Denver, yn awr), Thomas E. Jenkins, ac eraill. Wele hefyd Edward W. Williams, Edward Jones, William J. Evans, O. L. Owens a’r brodyr William a Robert Jones yn cael eu hunain yn Russell Gulch tua’r amser hwn. Ar ol sobri rhyw ychydig yn eu trachwant am y “metal melyn” a gweled “nad aur ydyw y cyfan sydd yn disgleirio” daeth eu prif nodweddion i’r golwg a chaed allan fod y rhan fwyaf yn feibion awen a chan a’n tueddiadau at y pethau mwyaf difrifol mewn bywyd. Yn 1873 wele yr Ysgol Sul Gymreig wedi ei sefydlu unwaith yn rhagor ac yn cael ei chynal yn nghapel y Bedyddwyr Saesoneg. Y Parch. O. M. Williams wedi dychwelyd o’r dwyrain ac yn myned ati i weithio fel “cawr i redeg gyrfa” a christion - yn Arolygydd yr Ysgol ac yn pregethu ddwy waith bob mis, ac yn cydsynio yn dra mynych i fyned i bregethu i ardaloedd eraill. Bron yn ddirybudd wele raglen “Cyfarfod Llenyddol, Central City, Nadolig, 1873,” yn gwneyd ei ymddangosiad, a daeth y diwrnod, ac yr oedd pawb wedi eu synu wrth weled y fath gynulleidfa o Gymry. Cafwyd cyfarfod llewyrchus

=
HANES CYMRY COLORADO. 31.

iawn dan lywyddiaeth y Parch. O. M. Williams, Cor Central, dan arweiniad John R. Morgan, yn fuddugol ar y prif ddarnau cerddorol; Cymry Russell a Idaho Springs yn cipio y man wobrwyon am ganu ac adrodd; John G. Roberts a William T. Phillips (Denver yn awr) a’r cadeirydd yn enill ar y traethodau; Edward Jones, Russell, a Thomas R. Jenkins, Central, yn enill am farddoni. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngerdd, a throdd y cwbl allan yn fwy llwyddianus nag y disgwylid. Yr oedd pawb yn gwaeddi “melus, moes mwy,” ond cyn i Gymry swydd Gilpin gael amser i gyhoeddi cyfarfod arall, wele raglen a thestynau Eisteddfod Undebol Colorado yn cael ei cyhoeddi, yr hon oedd i'w chynal yn Golden, Gorphenaf 4, 1874, ac wele Gymry Gilpin yn dechreu paratoi ar gyfer yr ymdrechfa hono; Cymry Idaho Springs, Russell, Central a Black Hawk yn ymuno er codi cor dan arweiniad John R. Morgan, yn cael ei gynorthwyo gan y Cymro ieuanc T. Lloyd Williams, (yn awr yn Oakland, Cal.) Yn mis Chwefror, wrth weled Ysgol Sul y Cymry mor flodeuog, wele swyddogion capel y Bedyddwyr yn rhoddi rhybudd

=
HANES CYMRY COLORADO. 32.

iddynt ymadael, gan feddwl yn ddiau y gallasent hwythau wneyd yn llawn cystal gydag Ysgol Sul Saesoneg, ond yn taer ddymuno ar y Cymry droi eu hysgol i'r iaith fain. Modd bynag, yn bur fuan wele anedd-dy y Cymro cenedlgarol John R. Morgan wedi ei orphen ac yntau yn gwahodd ei gydgenedl yno i gynal eu cyfarfodydd, ac felly y bu, aethant yno i gynal yr Ysgol Sul, ac etholwyd Thomas E. Jenkins yn Arolygwr a P. S. Roberts yn Ysgrifenydd a Thrysorydd. Aed ati o ddifrif i geisio cael gan yr holl Gymry bresenoli eu hunain, ac yn fuan ymgasglai y Cymry o'r pedwar lle i fwynhau gwledd grefyddol, yr hyn oedd anwyl ganddynt. Ar ol yr Ysgol defnyddid ychydig amser er ymberffeithio erbyn y frwydr yn Eisteddfod Golden. Cawn fod y Cymry wrth ben eu digon yn Central yr adeg yma, omd nid oedd tymor eu mwynhad i barhau yn hir, oblegid ar yr 21ain o Fai, 1874, torodd tan allan yn yr adeilad nesaf i dy Morgans ac ni chafodd y Cymro pur yma ond prin amser i achub ei deulu cyn i'w dy a'i gynwysiad losgi yn lludw; drwy hyn collodd yr Ysgol Gymreig ei holl lyfrau ynghyd a'r gerddoriaeth oedd i'w canu

=
HANES CYMRY COLORADO. 33.

yn Eisteddfod Golden, a chan fod amryw o’r Cymry yn llettya ar yr un heol, a hwythau ar y pryd yn gweithio, collasant eu holl eiddo, oddigerth yr hyn oedd ganddynt amdanynt ar y pryd. Llosgodd dros 150 o dai mewn tua awr o amser. Yn mysg y colledwyr cawn Robert H. Jones a Morris Thomas (y ddau yn Denver yn awr), John R. Morgans ac eraill. Pellebrodd y cantorion i’r dwyrain am gerddoriaeth, ond profodd y tan yn angeuol i’r Ysgol Sul ac ni wnaed yr un ymdrech i’w sefydlu drachefn. Daeth y 4ydd o Gorphenaf ac wele tua 50 o Gymry swydd Gilpin yn cychwyn am Eisteddfod Golden ac yn dychwelyd yn ol gyda bron yr oll o’r gwobrwyon am ganu, heblaw amryw wobrau am farddoni. Cynaliwyd amryw gyfarfodydd llenyddol yn Central y blynyddoedd hyn, ac mae yr un a gynaliwyd yn ngauaf 1877 yn deilwng o’n sylw. Llywydd y cyfarfod hwnw ydoedd y Parch. O. M. Williams; Thomas G. Roberts, Georgetown, yn beirniadu y cyfansoddiadau, yn cael ei gynorthwyo wrth glorianu y canu a’r areithio gan R. J. Roberts a John D. Lloyd. Bu cystadlu poeth dros ben yn y cyfarfod ac

=
HANES CYMRY COLORADO. 34.

aeth y peth i’r papurau Saesoneg gan lwyr anghofio mai “ofer dadl wedi barn.” Trwy hyn daeth y Cymry i sylw, ond o’r diwedd tawelodd y cyfan a neb yn ddoethach. Yn 1876 wele fwngloddiau Russell yn adfywio a’r Cymry yn dylifo yno ar unwaith. Yn fuan sefydlwyd Ysgol Sul yn y lle, gan alw ar y Parch. O. M. Williams am ambell bregeth. Cynelid y cyfarfodydd yr amser yma yn yr Ysgoldy. Yn mysg newydd-ddyfodiaid Russell yr adeg hon cawn Griffith D. Griffiths (Prospect yn awr), Henry Davies, John R. Hughes, Abraham Lewis ac eraill. Cyn hir wele yr Ysgoldy yn myned yn rhy fychan a'r Cymry yn symud i gynal eu cyfarfodydd i loft ystordy E. W. Williams, yr hwn oedd newydd agor masnachdy yma. Yn 1870 daeth Isaac a Richard Jones yma o sir Flint, a chawn fod y blaenaf yn bregethwr lleol yn Nghymru, a bu yn pregethu i Gymry Russell yn achlysurol cyn iddo ddychwelyd yn ol i'r Hen Wlad. Yn 1880 cawn i ryw adfywiad sylweddol gymryd lle gyda’r achos crefyddol yn Russell, pryd y daeth David H. Jones a Daniel ei frawd yma o Lerpwl at eu chwaer Mrs. Edward Jones.

=
HANES CYMRY COLORADO. 35.

Gwelodd Dafydd ar unwaith mae prif angen y Cymry ydoedd lle i addoli, ac aeth o amgylch i ymgynghori a'r prif Gymry; y canlyniad fu iddo alw cyfarfod cyhoeddus i ystyried y peth a phenderfynwyd yr adeg hono i godi capel. Etholwyd swyddogion yn y fan a phenodwyd Mrs. Edward Jones a Miss Lizzie Williams i gasglu, ac er i’r capel gostio dros $1,000 yr oedd pob dolar wedi ei thalu cyn ei agor, yr hyn a dystia yn uchel am gymwysderau y ddwy Lizzie at gasglu, a pha ryfedd i un ganu a ganlyn iddynt:

“Dwy enwog am eu daioni - dwy od
Am hudo doleri;
Neb yma, neb mi wn i - yn Russell
A meddwl isel am y ddwy Lizzie.”

Daeth amser agoriad y capel, a chafwyd math o gyfarfod areithio yn lle pregethu i'w agor; y Parch. O. M. Williams yn areithio ar "Gymry Russell Gulch,” a Evan B. Evans (Denver yn awr) ar "Y Ty Hwn,” ynghyd ag eraill. Abraham Lewis, John R. Hughes a Henry Davies oeddynt yr Ymddiriedolwyr cyntaf a’r rhai presenol ydynt Robert Edwards, Thomas Parry a Richard Jones. Ar ol hyn cawn fod golwg lewyrchus iawn ar achos Cymreig Russell,

=
HANES CYMRY COLORADO. 36.

sefydlog, ceir pregethu yn aml gan y Parchn. W. D. Price, Denver, John T. Williams, Erie, M. A. Ellis, Coal Creek, T. Miles a W. Charles, Denver. Cynelir cyfarfodydd llenyddol yn aml, ac fel rheol maent yn hynod adloniadol. Ceir yn y lle hwn yn awr tua 100 o Gymry, a Chymry ydyw prif fasnachwyr a pherchenogion mwngloddiau mwyaf cyfoethog y lle; mewn gair, y Cymry sydd yn "rhedeg y lle" fel y dywedir.

--

SWYDD GUNNISON.
None
(delwedd 5065)

Daeth llawer o Gymry i'r swydd hon yn 1880 ac 1881, a'r rhan fwyaf o honynt o Leadville, gan sefydlu yn Crested Butte, Gothic, Elko, Scofield ac Irwin. Y blynyddau cyntaf yr oeddynt yn dra lluosog yn y lleoedd hyn, ond pur ychydig o Gymry yma gan iddynt wasgaru i leoedd eraill yn y dalaeth. Mae ychydig o'n cenedl yn byw yn awr yn Crested Butte, ac yn gweithio yn y gweithfeydd glo

=
HANES CYMRY COLORADO. 37.

yno; yn Prospect, drachefn, cawn Griffith D. Griffiths ac Evan L. Jones yn byw, ac yn Elko cawn Richard Lloyd yn byw. Mae gair da i’r tri gwyr hyn fel dinasyddion a mwnwyr profiadol.

--

SWYDD JEFFERSON.
None
(delwedd 5057)

Er nad ydyw y Cymry yn lluosog yn y swydd hon yn awr, buont felly rai blynyddau yn ol. Yn 1862 cawn Evan E. Davis (Denver yn awr) a'r teulu yn byw yn Golden, ac yn mhen l0 mlynedd ar ol hyn (1872) cawn John L. Roberts, Caerfaban, a John Williams yn prydlesu glofa Dennis Murphy ar Ralston creek ac yn ei gweithio yn llwyddianus; amryw Gymry yn eu gwasanaeth, megis y cerddor G. W. Williams, Dodgeville, Wis., Edward Lloyd, W. Pritchard a Jeremiah Lewis. Yn 1873 daeth Henry W. Evans, y glowr enwog, allan o Pennsylvania i gymeryd gofal glofa W. A. H. Loveland, a daeth tua 12 o Gymry i’w ganlyn, ynghyd ag amryw o leoedd eraill. Yn mis Mai sefydlwyd yma Ysgol Sul Gymreig,

=
HANES CYMRY COLORADO. 38.

a’i haelodau yn rhifo tuag 20, heblaw y plant. Yn mis Medi, drachefn, daeth y Parch. John Evans (Eglwysbach) allan i dalu ymweliad a’i chwaer, Mrs. John L. Roberts, Ralston Creek. Penderfynwyd yn ddioedi [sic; = ddioed i] ofyn iddo bregethu yn Saesoneg un prydnawn Sul. Daeth yr amser penodedig a’r pregethwr, ynghyd a llonaid yr ystafell eang o wrandawyr, tri o bob pedwar honynt yn bobpeth ond Cymry. Cymerodd y pregethwr ei destyn a dechreuodd bregethu yn bur araf a’r gynulleidfa yn gwrando yn astud; yn y man wele y gwr enwog yn dechreu “gwresogi at ei destyn,” ond yn ymddangos fel pe yn llafurio dan gryn anhawsderau, ac yn anesmwyth. Cyn hir mae y gwaed Cymreig yn dechreu poethi ac aml air yn rhy ystyfnig i ufuddhau i’r tafod. Yn ddirybudd, collodd y pregethwr ei hunanfeddiant, a chyda y geiriau “ddaw hi ddim, fechgyn,” torodd allan yn ei iaith ei hun a thraddododd y gweddill o’i bregeth yn yr hen Omeraeg anwyl er syndod i’w wrandawyr. Rhaid ychwanegu iddo ddal y gynulleidfa megis ar gledr ei law hyd y diwedd. Cyrhaeddodd y newydd yma Gymry Golden yn fuan a llwyddasant hwythau

=
HANES CYMRY COLORADO. 39.

i gael addewid gan y pregethwr enwog o'r Eglwysbach i roddi pregeth Gymraeg y Sul canlynol. Y Sul a wawriodd ac wele gapel y Bedyddwyr yn orlawn - pawb yn rhyfeddu o ba le y daeth cymaint o Gymry at eu gilydd. Yn y man wele y pregethwr yn darllen y geiriau canlynol o Rhufeiniaid viii, 23, fel ei destyn: “Ac nid yn unig y creadur ond ninau hefyd y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd, &c.,” a diau i’r pregethwr galluog ragori arno ei hun y tro hwn, ac yr oedd ei hyawdledd tuhwnt i’n gallu desgrifiadol ni. Sicr ydyw nad oes yr un o’i wrandawyr wedi anghofio swm a sylwedd ei bregeth hyd heddyw. Yn ngauaf 1873 wele Gymry Golden yn cyhoeddi fod Eisteddfod Undebol Colorado i’w chynal yno ar y 4ydd o Gorphenaf canlynol; mawr oedd y disgwyliad am i’r dydd wawrio, ac yn ei dro gwnaeth, ac yn fuan wele heolydd Golden City yn llawn o Gymry o’r lleoedd amgylchynol. Y Parch. O. M. Williams ydoedd cadeirydd yr Eisteddfod a Henry W. Evans yn arweinydd; Cynonfardd yn feirniad y cyfansoddiadau; Rice Morgan, Denver, a Prof. Tyrall yn feirniaid y canu, a

=
HANES CYMRY COLORADO. 40.

Thomas E. Jenkins, Central, yn feirniad yr areithio a'r adroddiadau. Yn y man cawn William Francis, Erie, a James R. Hughes, Golden, yn fuddugol ar y traethodau; Henry W. Evans, Golden, Edward Jones, Russell, a Thomas E. Jenkins, Central, yn cael y gwobrau am farddoni, a chantorion swydd Gilpin yn cipio yr holl wobrwyon am ganu. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngerdd llwyddianus iawn.

Felly terfynwyd Eisteddfod Undebol gyntaf Colorado, a hyny yn llwyddianus. Bernir fod tua 300 o Gymry yn bresenol yn yr uchel-wyl hon. Y Sul canlynol pregethodd y Parch. O. M. Williams i'w gydgenedl yn Golden. Yn 1876 cawn i Edwards a Roberts sefydlu masnach yn y dref, ac yn yr haf dilynol agor cangen o honi yn Freeland, ger Idaho Springs. Nid oes golwg mor addawol ar bethau yn Golden yn awr ag yr oedd yr adeg hono, ac ychydig ydyw nifer ein cenedl yn y lle.

=
HANES CYMRY COLORADO. 41.

SWYDD LAKE.
None
(delwedd 5058)

Torodd excitement Leadville allan yn y flwyddyn 1879, a daeth lluoedd yno o bob rhan o’r wlad, ac yn eu plith lawer o Gymry. Cawn fod aml i Gymro wedi bod yno yn flaenorol, sef Evan E. Davis (Denver yn awr), Evan Davis (Emporia, Kas., yn awr), Richard Jones (Montezuma yn awr) ac Edward Davis, pa rai fuont yno yn 1860 ac 1862; er hyny ychydig oedd nifer y Cymry yno hyd 1879, pryd y cawn yn “ninas y cymylau” o 300 i 500 o Gymry yn preswylio. Yn y flwyddyn hon sefydlwyd yma Ysgol Sul, Cyfarfod Gweddio a Seiat, ac yr oedd golwg pur lewyrchus ac addawol ar yr oll, ond byr fu parhad y cwbl. Yr adeg hon cawn i ddau ddiacon gael eu hethol ar eglwys Leadville, ond ni pharhaodd tymor eu swyddogaeth yn hir gan fod y Cymry mor ddifater, ac oherwydd hyn bu farw yr achos Cymreig yn y lle. Yn 1880 cawn i ddwy Eisteddfod leol gael eu cynal yma, un ar Ddydd Calan a’r llall ar Ddydd Gwyl Dewi Sant; yn mhlith y buddugwyr ar y gwahanol destynau cawn Griffith D. Griffiths, Griffith Gee

=
HANES CYMRY COLORADO. 42.

Jones, John Margam ac eraill, pa rai sydd wedi gadael Leadville er’s llawer dydd bellach. Bu amryw Gymry yn arolygwyr ar rai o fwngloddiau goreu y lle, megis Evan L. Jones (Prospect, Colo., yn awr), Cynfelyn a David Jones. Mae David Jones yn un o County Commissioners swydd Lake yn awr. Hefyd cawn yma Thomas G. Roberts (mab y Parch. Griffith Roberts, Lake Crystal, Minn.) yn cadw ystordy eang ac yn flaenor yn un o eglwysi y Methodistiaid Esgobawl er’s llawer blwyddyn bellach. Ceir yn Leadville yn awr ryw 15 o deuluoedd Cymreig, heblaw llawer o bobl sengl.

 -----

SWYDDI GRAND, GARFIELD A PITKIN.
None
(delwedd 5059)
Ceir Cymy yn wasgaredig ar hyd y swyddi hyn. Yn Meeker deuwn o hyd i Owen Jones; yn Aspen cawn John R. Williams (yr hwn sydd yn un o hen sefydlwyr hynaf y lle) ynghyd ag amryw eraill: yn Penny’s Hot Springs cawn William D. Parry yn cadw ystordy er diwallu anghenion y preswylwyr.

=
HANES CYMRY COLORADO. 43.

ac yn rhan-berchenog yn rhai o fwngloddiau goreu yr ardal: yn Glenwood Springs, drachefn, cawn Thomas Williams (diweddar o Lawson, Colo., ) yn cadw ystordy esgydiau, ac yn Jerome Park, Cardiff a Newcastle cawn fod llawer o’n cydgenedl yn byw ac yn gweithio yn y gweithfeydd glo cyfagos. Arolygydd rhai o’r gweithiau yma ydyw William Morgan, diweddar o Braddock, Pa., os ydym yn cofio yn iawn. Bu ei fab farw yma yr haf diweddaf yn 21 mlwydd oed, ac yr oedd yn ddyn ieuanc hynod addawol, ond gwywodd y glaswelltyn ai [sic; = a’i] flodeuyn a syrthiodd.

--

SWYDD PUEBLO.
None
(delwedd 5060)

Mae yn y swydd hon rai ugeiniau o Gymry, llawer o honynt yn gweithio yn y tawdd-dai yn nhref Pueblo a’r amgylchoedd. Pa flwyddyn y sefydlasant yma gyntaf nis gwyddom, ond hyn a wyddom, sef fod llawer o Gymry yn Bessemer a Pueblo yn flaenorol i 1880. Bu y diweddar Daniel N. Jones yn dal y swydd

=
HANES CYMRY COLORADO. 44.

o arolygydd ar y gweithfeydd haiarn yma am lawer blwyddyn, ac er yn ei fedd cawn air da iddo gan drigolion Pueblo. Yn awr ac eilwaith ca Cymry Pueblo y fantais o wrando pregethu Cymreig, ac ar yr adegau hyny deallwn fod cynulliadau lluosog yn dyfod ynghyd.

--

SWYDD SAN JUAN.
None
(delwedd 5061)

Yn mhlith sefydlwyr Cymreig cyntaf y swydd hon cawn Thomas Williams a'r brodyr E. L. a R. Roberts. Cafodd y diweddaf ei ladd gan snowslide ddwy flynedd yn ol. Daeth y rhai hyn i Silverton tua y flwyddyn 1874. E. L. Roberts sydd yn cadw y Riverside Hotel yno yn awr. Mae yn yr amgylchoedd hyn lawer o’n cenedl yn trigianu, a daeth llawer o honynt yno o ardal Aberystwyth, D. C. Yn mhlith Cymry y lle hwn cawn y bardd J. Elerch Jones, y cerddorion Lloyd a Mason, ynghyd a llu eraill. Mae amryw o’n cenedl yn dal swyddi pwysig yn mwngloddiau goreu

=
HANES CYMRY COLORADO. 45.

yr ardal. Ceir tua 50 o Gymry yn byw yn Silverton, ac yn dra mynych cynaliant gyfarfodydd lleuyddol.

--

SWYDDI DELTA, MONTROSE, OURAY, SAGUACHE A SAN MIGUEL.
None
(delwedd 5062)

Cawn i rai o’n cenedl anturio i’r swyddi hyn yn 1875, a diau mae y ddau gyntaf oeddynt Robert Jones a G. G. Pritchard, pa rai sydd yn byw yn awr yn Ames, swydd San Miguel. Yn 1880 aeth O. L. Davis, R. W. Francis, John Lloyd ac eraill, i ardal Telluride, ac mac y blaenaf yn byw yno yn awr ac yn cadw un o’r masnachdai mwyaf yn y lle. Mae rhif y Cymry wedi cynyddu yn ddiweddar yn y swyddi hyn, ac mac bron yn beth anmhosibl myned i un camp yn y swyddi hyn heb ddyfod i gyffyrddiad a rhai o’n cenedl.

=
HANES CYMRY COLORADO. 46.

SWYDD SUMMIT.
None
(delwedd 5063)

Yn 1862 cawn i Richard Jones fyned i Tarryall, ond ni arosodd yno ond amser byr, fel yn 1867 cawn iddo sefydlu yn Montezuma, ac yr oedd yno amryw o'i genedl yn barod i'w dderbyn gyda breichiau agored, sef yr hen wr Griffith Jones (Amlwch, G. C., yn awr), Griffith Gee Jones ac eraill. Yn mhen rhai blynyddau cawn i Evan L. Jones, Griffith D. Griffiths, John T. Davies, William W. Griffiths, Daniel Davies (Minneapolis, Minn., yn awr) ynghyd ag amryw eraill, fyned yno; aeth rhai ohonynt i weithio i'r St. John ac eraill i prospectio, fel yn 1870 yr oedd rhif y Cymry yn y lle hwn yn dra lluosog, ond yn 1880 dechreuasant wasgaru oddiyno, fel erbyn hyn nid oes ond 3 neu 4 yn y lle.

---

SWYDD WELD.
None
(delwedd 5064)


Cawn i David Llewelyn, Benjamin Davies a John Griffiths ddyfod i'r swydd hon yn 1871, i sefydlu yn Erie, a'r flwyddyn ganlynol


=
HANES CYMRY COLORADO. 47.

dilynwyd hwy gan y Parch. John T. Williams a William Francis, pa rai a ddaethant yno o Bevier, Mo. Yr adeg hon dechreuodd y Cymry amlhau, fel yn y flwyddyn 1873 cawn iddynt sefydlu Ysgol Sul, ac yn mhen ychydig dechreuodd y Parch. J. T. Williams bregethu i'w gydgenedl. Yn 1875, drachefn, sefydlwyd yr Eglwys yn y Town Hall, lle y buont yn addoli hyd nes yr oedd y capel wedi ei orphen yn 1883. Blaenoriaid yr Eglwys hon yn awr ydynt William Francis a Micah Williams. Mae yn Erie dri o bregethwyr yn byw, sef y Parchn. John T. Williams, John P. Jones a William G. Williams; pregetha y ddau olaf bob yn ail Sul i gynorthwyo y Parch. John T. Williams, yr hwn, oherwydd afiechyd sydd yn analluog i bregethu yn rheolaidd. Ar yr 2il o Fehefin, 1884, cynaliwyd Eisteddfod yn y lle hwn, yr hon a drodd allan yn llwyddianus ag ystyried sefyllfa isel masnach ar y pryd. Mae amryw Gymry tra enwog yn byw yn y pentref bychan yma, yn eu plith y cerddor galluog John Phennah, yr hwn a ymblesera gyda y gorchwyl o ddysgu cerddoriaeth i bobl ieuainc y lle. Hefyd cawn amryw o'n cenedl

=
HANES CYMRY COLORADO. 48.

yn fasnachwyr llwyddianus yma, sef y Brodyr Morgans, Probert a Williams, T. Griffiths ac eraill, ynghyd a William Francis a John Rees yn rhedeg glofa y MacGregor, Davies a Jenkins yn gweithio glofa y Baker; hefyd dyna Micah Williams yn Ustus Heddwch, T. Williams, yn Marshal, Hugh Jones a John Phennah yn aelodau o’r City Council, fel cydrhwng yr oll rheda pethau yn y lle yn dawel a digynwrf; yn wir, y Cymry ydyw bywyd y lle. Mae yn Erie dros 200 o’n cenedl yn preswylio.

=
HANES CYMRY COLORADO. 49.

NODIADAU BYRION AM RAI O BRIF Gymry Colorado yn y Gwahanol Sefydliadau.

--

PARCH. WILLIAM CHARLES, DENVER.

Ganed William Charles yn Gwalchmai, Sir Fon, ac ymfudodd y teulu i Wisconsin yn 1853. Mae William Charles yn fab i’r pregethwr enwog William Charles, yr hwn a fu yn seren eglur yn ffurfafen y pwlpud Cymreig. Ymfudodd ef a’i fam i Old Man’s Creek, Iowa, yn 1864, ac yno y dechreuodd gwrthddrych y nodiadau hyn bregethu yn 1873, ac oddiyno aeth i athrofa y Presbyteriaid yn Chicago. Bu yn weinidog eglwys Bresbyteraidd Dodgeville, Wis., am lawer blwyddyn a thrwy ei offerynoliaeth ef yr adeiladwyd y capel hardd sydd ganddynt. Collodd Mr. Charles ei iechyd, ac oherwydd hyny daeth i Colorado yn 1886, gan sefydlu yn Denver, ac efe fu yn offeryn i

=
HANES CYMRY COLORADO. 50.

sefydlu yr eglwys yma. Mae iddo air da fel pregethwr a Christion, ac hyderwn yr arbedir ef i wneyd llawer o ddaioni eto yn ngwinllan ei Arglwydd. Fel hyn yr ysgrifenodd Cefni Parry yn Y Wasg am y teulu yma: “Yr oedd y Siarliaid yn genedl o bregethwyr. Clywais yr hen wr John Charles (taid Mr. Charles) a’i bedwar mab yn pregethu. Y meibion oeddynt: Hugh Charles, Tymawr, John Charles, Penhesgyn, Dafydd a William Charles, Gwalchmai. Ond William oedd seren ddisglaer y teulu a seraph tanllyd y pwlpud yn Mon.”

--

LLEWELYN P. DAVIES. CENTRAL.

Daeth Dr. Davies i’r America o Lerpwl tua thair blynedd yn ol, ac a sefydlodd yn Central. Mae yn un o gyfferwyr goreu y dalaeth, ac yn rhan-berchenog yn y “Best Drug Co.” Efe ydyw Arolygydd Ysgol Sul Russell. Mae yn brysur iawn yn llywyddu cyfarfodydd llenyddol Russell ac yn clorianu y beirdd a’r llenorion yno ar bob adeg. Nid oes ar Doc. gywilydd arddel ei wlad, a’i arwyddair bob amser ydyw “Cas gwr na charo y wlad a’i macco,” ac ni raid i’r

=
HANES CYMRY COLORADO. 51.

Cymro ofni digio Mr. Davies wrth barablu iaith ei fam yn y masnaechdy eang; na mae yno groesaw calon i Gymro a Chymraeg. Llwyddiant iddo.

--

GRIFFITH EVANS. ESTES PARK.

Mae y gwr hwn yn enedigol o Ogledd Cymru. Gadawodd “hen wlad y menyg gwynion" rai blynyddau yn ol, ac a sefydlodd yn Wisconsin, o ba le y daeth i Colorado yn 1867 gan sefydlu yn Denver. Aeth oddiyma i swydd Boulder yn 1873 ac ymsefydlodd yn Estes Park, ac yma cawn iddo fyned i helbul oherwydd i Mountain Jim, fel ei gelwid, roddi rhybudd i Evans ymadael o’r lle, yr hyn ni wnaeth, gan feddwl yn ddiau fod public domain Uncle Sam yn rhydd iddo yntau gystal a Mountain Jim sefydlu arno. Y canlyniad fu i Mountain Jim ymosod ar Evans yn ddirybudd, ond profodd yr ornest hon yn angeuol i Jim a rhyddhawyd Evans ar fyrder. Mae Evans yn rhan-berchenog yn rhai o fwngloddiau goreu yr ardal yn awr.


=
HANES CYMRY COLORADO. 52.

ANRH. MELVlN EDWARDS, DENVER.

Ganed Melvin yn nhalaeth Wisconsin, ac yno mae ei fam yn byw yn awr. Daeth i Colorado ryw 12 mlynedd yn ol. Mae Melvin Edwards yn Gymro, ond fel llawer eraill yn analluog i siarad yr iaith. Bu yn Ysgrifennydd y dalaeth am 4 blynedd a chyflawnodd y swydd er boddlonrwydd cyffredinol. Er nad ydyw ond dyn ieuanc mae wedi casglu llawer o gyfoeth.

--

EX-GOV. JOHN EVANS. DENVER.

Ganed John Evans yn nhalaeth Ohio. Daeth ei deulu i’r wlad hon o ardal Porthmadog, G. C. Nis gall siarad ond ambell air o’r Omeraeg, er hyny mae y gwaed Cymreig yn berwi trwy ei gorph. Cawn iddo sefydlu yn Illinois yn lled gynar, ac er anrhydedd iddo ef yr enwyd Evanston yn y dalaeth hono. Yn 1862 y daeth i Colorado i weinyddu y swydd o lywodraethwr, ac yma y mae eto. Mae iddo amryw blant ac enwir yr oll ag enwau gwir Gymreig. Ceir John Evans bob amser yn barod i helpu ei gydgenedl, ac mae iddo air da gan bawb.

=
HANES CYMRY COLORADO. 53.

MORGAN GRIFFITHS, COAL CREEK.

Ganed gwrthddrych y nodion hyn yn Ohio, ond ymfudodd oddiyno i Pennsylvania. Yr oedd yn y dalaeth hono amser terfysg y Molly Maguires, ac yn un o warcheidwaid Reading ar y pryd. Daeth i Colorado yn 1881 a sefydlodd yn swydd Fremont. Mae Morgan yn Gymro i'r carn, ac yn cael yr ymddiried llwyraf gan ei genedl a’r Americaniaid, ac mae ei etholiad yn sirydd awydd Fremont yn profi hyny.

WILLIAM FRANCIS, ERIE.

Ganed William Francis yn Gwarycaeau, Morgannwg, a daeth i’r Amerig yn 1871, gan sefydlu yn nhalaeth Pennsylvania, ac oddiyno aeth i Bevier, Mo. Cawn iddo sefydlu yn Erie yn 1872. Mae Francis yn Gymro aiddgar ac yn caru pobpeth perthynol i’w genedl. Mae yn un o ddiaconiaid eglwys Erie er’s llawer blwyddyn. Efe a enillodd y wobr am y traethawd ar "Gariad” yn Eisteddfod Golden City. Mae yn un o gwmni y MacGregor Coal Co. Dyma un o’r dynion mwyaf addfwyn y daethom i gyffyrddiad ag ef, a chawn air da iddo gan bawb a’i adwaena.

=
HANES CYMRY COLORADO. 54.

GEORGE N. HUGHES, COAL CREEK.

Ganed hwn yn nghymydogaeth Gwrecsam, G. C. Ymfudodd i dalaeth Pennsylvania rai blynyddau yn ol, a daeth i Colorado yn 1881. Efe ydyw Maer “dinas y glo,” ac mae pawb yn hoff o hono. Caria yn mlaen fasnach goed ar raddfa eang. Mae yn un o’r dynion goreu a mwyaf cymwynasgar ac yn Gymro i’r carn ac yn gwneyd ei oreu o blaid pobpeth Cymreig yn y lle y preswylia.

--

RICHARD HUGHES, COAL CREEK.

Ganed hwn yn Rhosymor, Sir Flint, a chawn iddo ymfudo i New Jersey yn 1867, ac oddiyno daeth i Colorado yn 1878, gan sefydlu yn Coal Creek. Mae Hughes yn un o ddiaconiaid yr eglwys yno er’s 5 mlynedd bellach, ac yn un o’r ffyddloniaid, a cheir iddo air da gan bawb yn y gymydogaeth. Cadwa ystordy yn y lle, ac fel llawer eraill o’n cenedl yno cafodd gryn draw back adeg streic 1884.

=
HANES CYMRY COLORADO. 55.

GRIFFITH D. GRIFFlTHS, PROSPECT.

Ganed y gwr hwn yn ardal Bethesda, Arfon. Ymfudodd i Vermont yn 1865. ac oddiyno i’r talaethau deheuol. Yn 1874 daeth i Colorado gan sefydlu yn Georgetown. Cawn iddo symud yn dra mynych, ond mae yn swydd Gunnison yn awr er’s 9 mlynedd, ac yn rhan-berchenog yn rhai o fwngloddiau goreu Rock Creek a Galena Mountain. Cafodd ei ethol yn Ustus Heddwch yn y swydd hon amryw droion, ac y mae iddo air da yn mhob lle y bu yn byw. Mae Griff yn Gymro trwyadl ac yn caru pob peth Cymreig. Mae yn llenor a bardd tra gwych, ac wedi bod yn fuddugoliaethus amryw droion mewn Eisteddfodau lleol, ac ar bob amgylchiad ceir ei yn barod i helpu ei gyd-ddyn.

--

ROBERT R. GRlFFITHS, DENVER.

Ganed R. R. yn agos i Pwllheli, G. C. Ymfudodd i Chicago yn 1867 gyda’i gyfaill John T. Davies. Daeth i Georgetown yn 1870 ac oddiyno i Denver yn 1871. Self-made man ydyw heb gael bron ddim ysgol ddyddiol, er hyny nis gellir ymddyddan ag ef ar bron unrhyw

=
HANES CYMRY COLORADO. 56.

bwnc nag ydyw yn hyddysg ynddo. Mae yn un o’r athrawon goreu, yn ddadleuwr da ac yn feirniad craffus. Mae yn ddewis-ddyn gan Gymry Denver i lywyddu eu cyfarfodydd a gwna hyny bob amser yn drefnus ac i’r pwrpas, ac nid anfynych y gelwir arno i areithio. Saer ydyw wrth ei alwedigaeth ac y mae yn un o grefftwyr goreu y brif-ddinas. Bu am rai blynyddau yn ben-gweithiwr i McPhee a McGinnity. Mae wedi casglu cryn lawer o gyfoeth er pan yma ac yn cymeryd gofal o’i eiddo, er hyny cawn ei fod bob amser yn barod i helpu pob achos teilwng.

--

JOHN G. JENKINS, DENVER.

A aned yn Nantgarw, ger Caerdydd, D. C. Ymfuddodd ef a’r teulu i’r wlad hon rhyw 23 mlynedd yn ol gan sefydlu yn Ohio, o ba le y daeth i Colorado yn 1872 gan sefydlu yn Canon City, ac oddiyno drachefn i Denver yn 1879. Dyn bychan o gorpholaeth ydyw, er hyny mae yn llawn o’r tan Cymreig. Efe ydyw llywydd cymdeithas y Cambrians yma er’s llawer o amser bellach. Mae pawb yn Colorado yn hoff

=
HANES CYMRY COLORADO. 57.

o “Jenkins y Crydd,” ac iddo air da gan bawb. Mae yn cadw ystordy esgydiau eang yma yn 715 15th Street, ac y mae croesaw calon i bob Cymro i’w gael yno.

 

4847c_john-g-jenkins_crydd_denver_map

(delwedd 4847c)



--

THOMAS E. JENKINS. CENTRAL.

Ganed gwrthddrych y nodiadau hyn yn Sir Aberteifi. Ymfudodd i’r Amerig yn 1864 gan sefydlu yn Wisconsin, ac yn 1870 daeth i Central, lle y mae yn awr. Cawn fod Tom yn un o ddaearegwyr goreu swydd Gilpin, ac wedi bod yn arolygydd ar rai o fwngloddiau goreu yr ardal. Mae bob amser yn flaenllaw gyda llenyddiaeth - yn fardd ac yn llenor da, ac wedi bod yn fuddugol mewn aml i Eisteddfod. Efe ydyw prif seren Eisteddfodau lleol yn y rhanbarth, a bu yn feirniad yn Eisteddfod Golden ac yn Eisteddfod Denver, 1884. Hefyd cawn ei fod yn Alderman yn nhref Central, yr hyn a ddengys fod gan drigolion y lle feddwl mawr o heno.

=
HANES CYMRY COLORADO. 58.

EDWARD JONES, RUSSELL GULCH.

Ganed “y Cymro tew a dedwydd” hwn yn Dolgellau, G. C. Daeth i Colorado yn 1870 o Bevier, Mo. Un o’r “Welsh Quartette” ydyw, sef hen berchenogion y mwngloddiau “Champion” a’r “Arizona.” Ar ol gwerthu allan, sefydlodd fasnach yn Russell, lle y ceir ef heddyw yn hynod lwyddianus. Dyn dystaw a diymhongar, bob amser yn barod i wirio yr hen ddiareb mai “cyfaill cywir yn yr ing y’i gwelir.” Y mae yn llenor a bardd tra ad-nabyddus ac yn “aiddfedawl Eisteddfodwr." Y mae yn parhau yn siriol a dirodres er y mawr glod a dderbynia drwy y papurau Saesoneg am ei allu a’i ddiwydrwydd fel arweinydd y “Welsh Choral Union.” Cawn fod awen “Iorwerth Meirion” wedi deffro o’i chwsg yn ddiweddar, ac yntau yn cipio y gwobrwyon yn nghyfarfodydd Russell.

--

ROBERT PARRY, ST. ELMO.

Brodor o Sir Ddinbych, G. C., ydyw Cynfelyn. Ymfudodd i’r wlad hon lawer blwyddyn yn ol. Sefydlodd yn Leadville yn 1879 ac oddiyma

=
HANES CYMRY COLORADO. 59.

cawn iddo fyned i St. Elmo, lle y cartrefa yn awr. Mae Cynfelyn yn ddaearegwr tra gwych ac wedi cael profiad helaeth yn y mwngloddiau. Bu yn arolygydd ar rai o fwngloddiau goreu yr ardal, megis y “Mary Murphy ” a’r “Tom Murphy.” Bu yn feirniad mewn aml i Eisteddfod, a chawn ddarnau o’i farddoniaeth yn ymddangos yn dra mynych yn y papurau

Cymreig.

--

JOHN PHENNAH, ERIE.
Brodor o ardal Gwrecsam, G. C., ydyw hwn. Daeth i Colorado yn 1880 gan sefydlu yn Denver. Yn 1883 aeth oddiyma i Alpine, Colo., ac oddiyno i Erie, lle y mae yn awr. Dyma un o gerddorion goreu y dalaeth - yn ganwr da ac yn hyddysg yn elfenau cerddoriaeth. Bu yn feirniad mewn aml i Eisteddfod yn y dalaeth. Mae yn aelod o City Council Erie. Hefyd efe sydd yn dysgu cerddoriaeth i bobl ieuainc y lle. Dyn distaw a diymhongar ydyw, a chawn iddo air da gan bawb.
 

=
HANES CYMRY COLORADO. 60.

JOHN G. ROBERTS, DENVER.

Ganed y gwr hwn yn ardal Llanrwst, G. C., ac ymfudodd ei rieni i’r wlad hon ryw 40 mlynedd yn ol gan sefydlu yn Wisconsin. Mae yn fab i’r Parch. Griffith Roberts, Lake Crystal, Minn. Daeth John G. allan i Colorado yn 1863 gan sefydlu yn Central; oddiyno aeth i Georgetown, lle y bu yn arolygydd ar rai o’r mwngloddiau cyfoethocaf. Tua 2 flynedd yn ol symudodd ef a’i deulu i Denver, ac yma y mae yn awr, ac nid anfynych y gelwir arno i lywyddu cyfarfodydd y Cymry, heblaw beirniadu ac areithio, yr hyn a wna er boddlonrwydd cyffredinol. Bu am flynyddau yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Bresbyteraidd Georgetown, a chawn iddo adael gair da ar ei ol yno fel dyn a Christion.

--

JOHN G. ROBERTS, IDAHO SPRINGS.

Ganed y gwr hwn yn Beddgelert, G. C. Wedi treulio rhai blynyddau yn Awstralia daeth i Idaho Springs yn 1872, ac yn fuan cawn ef yn adeiladu melin fawr (Concentrator) i Collum Bros. Wedi ei gorphen a’i rhedeg yn

=
HANES CYMRY COLORADO. 61.

llwyddianus am beth amser cafodd alwad i godi un arall yn Black Hawk, a phan yn codi hon cafodd freintebau (patents) gwerthfawr o Washington, a pharodd y rhai hyn chwyldroad effeithiol hyd yn nod yn y “Stamp Mills.” Daeth yn enwog fel celfyddydwr cywrain a daeth gofyn gwyllt am ei wasanaeth. Wedi hyn cawn ef yn adeiladu melyn fawr yn Lake City, San Juan, i gwmni o Loegr, ac fel arfer, trodd hono allan yn llwyddiant perffaith a dychwelodd yntau i swydd Gilpin er codi melin yn Russell i gwmni o’r Alban. Yn y man wele felin arall yn codi ei phen yn Idaho Springs; ond er rhagoroldeb y rhai hyn yr un a gododd ar Fall River, ger Idaho Springs, ydyw gorchestwaith ei fywyd. Dyn distaw a diymhongar ydyw, ond yn genius i’r eithaf.

--

LEWIS ROBERTS. DENVER.

Yn Sir Frycheiniog y ganed Lewis, ond bu yn trigianu yn Merthyr, D. C., o ba le yr ymfudodd i Colorado yn 1879 gan sefydlu yn Denver. Mae “Lewis Brycheiniog” yn Eisteddfodwr

=
HANES CYMRY COLORADO. 62.

dihafal, yn Gymro da, ac yn llenor gwych; yn siaradwr rhwydd a bob amser i’r pwrpas. Efe ydyw ysgrifennydd y Cambrians er’s blynyddoedd bellach a diau mai anhawdd fuasai cael ei well. Mae yn un o’r cadeirwyr goreu, ac yn llawen yn mysg cwmni bob amser. Mae yn hyddysg yn hanes ei genedl, yn wladol a chrefyddol.

--

THOMAS G. ROBERTS, LEADVILLE.

Ganed Thomas G. yn Racine, Wis. Mae yntau yn fab i’r Parch. Griffith Roberts, Lake Crystal, Minn. Daeth Thomas i Colorado yn mis Tachwedd, 1863, gan sefydlu yn Central. Oddiyno aeth i Georgetown yn 1864, ac oddiyno, drachefn, yn 1879 i Leadville, lle y mae yn awr yn cadw ystordy ar raddfa eang. Mae yn rhan-berchenog yn un o fwngloddiau cyfoethocaf swydd Summit. Cawn ei fod yn flaenor yn un o eglwysi yr M. E. yn Leadville er's blynyddau bellach, ac ni chlywir iddo ond gair da gan bawb.

=
HANES CYMRY COLORADO. 63.

MORRIS THOMAS, DENVER.

Un o bedwar sydd yn gwneyd i fyny gwmni Sauer, McShane â Co., Central City, pa rai sydd yn dwyn yn mlaen un o'r masnachdai helaethaf yn y Mynyddoedd Creigiog, gan y derbyniant yn flynyddol dros $300,000 am nwyddau. Daeth Thomas i Gregory Gulch yn 1859, a llwyddodd tuhwnt i’w ddisgwyliadau yn y mwngloddiau, fel erbyn heddyw cawn ef yn gysurus ei amgylchiadau ac yn rhan-berchenog yn rhai o brif adeiladau Central, heblaw y tai sydd ganddo yn Denver. Symudodd Morris Thomas i Denver yn 1884. Yn 1863 cawn iddo ymuno mewn glan briodas gyda Hannah Thomas, o ardal Dodgeville, Wis., a diau mai hon ydoedd y briodas Gymreig gyntaf yn Colorado. Mae Morris Thomas yn Gymro o’r iawn ryw, a cheir ef bob amser yn barod i gynorthwyo ei gyd-ddyn.

---

EDWARD W. WILLIAMS. RUSSELL GULCH.

Ganwyd a magwyd y bonwr hwn yn Dolgellau, G. C. Ymfudodd i’r Amerig yn 1868 gan sefydlu ger Racine, Wis. Yn 1870 daeth

=
HANES CYMRY COLORADO. 64.

i Colorado gau sefydlu yn Russell Gulch. Fel darganfyddwr a rhan-berchenog y mwnglawdd “Champion,” yn 1876, y daeth i sylw cyffredinol gyntaf, a gwerthwyd y mwnglawdd am bris uchel yn 1878, ac wele Williams yn sefydlu masnach gyffredinol yn Russell, gan sicrhau y swydd o Bostfeistr yno, yr hon swydd a leinw hyd heddyw. Yn 1886 gwerthodd yr “Arizona,” mwnglawdd cyfoethog arall, am bris boddhaol, a daeth i’r gwyneb ar unwaith fel un o ddinasyddion mwyaf craffus ac anturiaethus swydd Gilpin. Fel dyn cenedlgarol mae bob amser yn barod i hyrwyddo pob mudiad Cymreig, ac i gynorthwyo ei gyd-genedl. Pan yr oedd cwmwl “du, du, di-des” (Emrys) yn hofran uwchben Russell, a chyfalaf yn dychryn ac yn cefnu ar y lle a'r mwnwyr yn llwfr a digalon, neidiodd Williams i’r adwy a phrofodd, trwy roddi gwaith i ddegau o fwnwyr, fod ganddo yr ymddiried llwyraf yn y rhanbarth, a mawr y clod a dderbyn gan y mwnwyr am en cadw ar y gwyneb yn y cyfnod tywyll hwnw. Profodd ei fod yn deall ansawdd y mwngloddiau yn well na neb, ac heddyw cawn ef yn mwynhau

=
HANES CYMRY COLORADO. 65.

ffrwyth y cynhauaf toreithiog. Mae yn rhan-berchenog yn rhai o fwngloddiau cyfoethocaf rhanbarth Russell. Wedi ac yn gwrthod pob swydd gyhoeddus, ymfoddlona ar fwynhau ei lwyddiant gyda’i deulu caredig.

-----

PARCH. JOHN T. WILLIAMS. ERIE.

Ganed y gwr parchedig hwn yn y Twrch, ger Penycae, D. C. Ymfudodd i West Virginia lawer blwyddyn yn ol, ac oddiyno i Ohio, a thrachefn, yn 1872 daeth i Colorado gan sefydlu yn Erie. Mae John T. Williams yn “Israeliad yn wir" yn ol syniadau pawb a’i adwaena. Mae wedi gwasanaethu llawer ar Gymry Colorado yn ei ddydd, ond yn ddiweddar, oherwydd afiechyd, metha wneyd yr hyn a ddymuna dros ei Arglwydd. Mae bob amser yn barod i helpu ei genedl, a cheir iddo air da fel pregethwr a christion. Dymunwn iddo hir oes i wneyd rhagor o les.

=
HANES CYMRY COLORADO. 66.

Ol-Nodion Cyffredinol.

--

Gwelwn oddiwrth yr hyn a ysgrifenwyd, fod cenedl y Cymry wedi bod yn bur flaenllaw yn nadblygiad y dalaeth hon, ac am hyny dylent gael y clod a haeddant.

Ai tybed y rhaid i Gymry America wrido oherwydd ymddygiad y Cymry yn Colorado? Na atto Duw. Oblegid cawn fod rhai o’n cenedl yn y dalaeth yn llenwi sefyllfaoedd pwysig mewn byd ac eglwys, ac yr ydym yn credu y dylai Cymry y “Centennial State” fod yn falch o’u hanes o 1859 hyd yn awr, ac ni raid iddynt gywilyddio pei lledaenid dros yr holl fyd.

Ychydig oedd rhif y Cymry yma yn ’59, ond yn ’89 bernir fod yn y dalaeth tua 3,500 yn byw, yr hyn a ddengys gynydd sylweddol.

Cawn hefyd fod amryw o'n cenedl wedi llwyddo i fyned yn gyfoethog wrth dreiddo i

=
HANES CYMRY COLORADO. 67.

grombil y "Rockies" am y trysorau cuddiedig, a chawn llawer yn cyrchu at yr un nod.

Credwn ein bod wedi rhoddi crynodeb llawn a chywir o "Hanes Cymry Colorado" mor agos ag y mae modd.

Ein harwyddair bydded –

“I FYNY BO’R NOD,

DRINGWN LETHRAU SERTH CLOD.”

 

……………………………….

Sumbolau:
ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ /

 ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ ẅ Ẁ £

---------------------------------------

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_114_hanes-cymry-colorado_testun-e_0096k.htm

---------------------------------------

Creuwyd / Created / Creada: 10-05-2017

Adolygiadau diweddaraf /
Latest updates / Darreres actualitzacions: 10-05-2017

Delweddau / Imatges / Images: 


---------------------------------------

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait