kimkat0116k Llith o Landyssil. Welsh Gazette 1901.
22-05-2017

 

● kimkat0001 Home Page / Yr Hafan www.kimkat.org

● ● kimkat1864e Gateway to this Website in English / Y Fynedfa Saesneg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2003e.htm

● ● ● kimkat0997e Index to texts in Welsh in this website / Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0977e.htm

● ● ● ● kimkat0116k Y tudalen hwn

 

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delw 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llith o Landyssil.

Gwion Bach.

 

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 1901.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delw 4665)

 

23 Chwefror 1901. (4249)
28 Chwefror 1901. (4247, 4248)
7 Mawrth 1901. (4245, 4246)
14 Mawrth 1901. (4239, 4240)
21 Mawrth 1901. (4230, 4236)
28 Mawrth 1901. (4227, 4228)
4 Ebrill 1901. (4232, 4233, 4234)

 

 

 

 

None

(delwedd 4249)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 23 Chwefror 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Pan ddoith y traen aeth Nansi a fine wrth gwt y Piwpil Titcher gan i fod e'n dipyn o sgoler, a phwy ddoith miwn da ni'n pedwar ond bugel Bancybwci ag ail was Blantir, ag ni fuon nhw fowr o drwbwl i ni gan fod hwn wedi prynu whip newy a phymtheg o bethe melyn ar i chos i a slash o gron morfil iddi. Ges i ofan shwrne y tyne fe lygad un o hono ni mas wrth bod e'n treio clatshan hi yn y traen. Wedi i ni ddangos ticedi yn Llanpumpsent dyma Nansi yn dachra dangos y presante i ferch ioia'r Go fer, ac yn gweyd na fuse fowr o hwyl ar grwt hena'r Cnwc gan ma cylleth odd e am gal o'r ffaer ond na cheise fe ddim un da'i dad rhag ofan yr eithe fe i naddy dy Sul, wath rodd e fel pwer o blant gwlad a thre yn gorffod credu fod naddu a whiban ar ddy Sul yn wath na phechod y dyn a'r baech drain. Ma pobol uniongred Llandysil, fel i brodir yn mhob man, yn treio cal da'r plant i gredu ma rhw ddelwe Sant y Geg ddylse nhw fod o ddachre'r Sul i'w ddiwedd ac on pae fod y plant yn cal pryd o gocls ne wy whiad i frecwast, ne dwmplin ne droli geirch i gino a thamed o baste rywbo i de ar y dydd Gorphwys fuse nhw'm am weld dou ddy Sul yn yr wthnos[.] Rhwy ddy Sul os blwyddi mowr nol, pan own i yn gorffod mynd i'r Cei yn y bore bach i hol mistres nol gan fod y tywy a dyn yn werthfor ar hyd yr wthnos fe nath mistres i fi fynd i'r Ysgol Sul ne “rhag cwili i fi” a weles i'm ariod shwd glas a'r clas odd crwt y ty lle odd mistres yn lodgo ynddo - un yn byta fale haner prifio a'r llall a phers glasa'r gerddi, ond i goroni'r cwbl dyma mi yn tynu erfinen fel 'ch pen chi o'i dailcoat, ac yn dachre rhanu a byta, ac nid rhyfedd nad odd dim blas ar hanes y Pharisead nag ar beth odd sponiad yn weyd am werth y geinog Iddewig yn'n harian ni. Ond pan own i'n mynd adre mi weles beth gwath  byth - plant pentre Shiffft yn whare marbles ar y Saboth, a neb ond plentyn amell i rwyn hen ffashwn yn ofni dim; wn i ddim be sy'n wir ond rodd mister llyne'n gweyd wrthw i ma Arminied yw Calfinied Pentre Shifft; pan ddoithon ni i'r tunel dyma Nansi'n dachre partoi ac yn cyni canwll fach. “Beth wyt ti'n neyd a hwna, los fach,” mynte fi. “O cal gole'n y tunel” mynte  hithe, wath rodd hi'n dywell ’no bore heddy ar hyd dydd, shwt ma hi yno erbyn hyn wyt ti'n feddwl.” “Wyt ti'n wath na'r hen feniw fach ny odd yn cynu'r ganwll i whynu'r cenin ar ole dydd; hwth mas hi,” a mas cas hi fynd.  Rodd hi’n naw or gloch arno ni yn Llandysil, a wedyn rodd tair milldir i'r Cnwc.

 

WION BACH.

 

 

 

 

xxx

 

 

 

 

None

(delwedd 4247)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 28 Chwefror 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Erbyn i ni gyrddad Pontweli rodd hi'n haner awr wedi wyth o'r gloch, a ro hyny’n haner nos yn ngolwg Nansi, wath ma pobol y Cnwc fel pob ffarm a dim drych arni nhw yn mynd i'r cwat pan fo'r geir yn myn'd i'r glwyd, a wir fe weles i, pan own i’n wns ’no. a wedi i fi fadel sach hyny hen iar gotshin china a'r bacse mowr na, yn amal iawn ar hyd y clos co wedi i bob creadur dwy trod arall fynd i gysgu; wn i'm pam odd hi mor dawel os nad am i bod hi’n lloglog iawn, ne falle bod hi'n meddwl achub cyfle ar i brodyr a'i chwiorydd plyfog a chal rhw ymyl wedi iddi nhw fyn'd i orphwys, wath rw i'n credu fod rheswm i gal da giar, a ma shwr o fod amell i iar yn debyg i bwer iawn o ddynion, uniongred a chamgred, yn iwso’r rheswm 'ny i dreio mynd dros ben rhai sy 'pyn bach yn mwy gwirion na nhw, ne falle wedi cal i melldithio a chrugyn o'r bumed gyneddf, sef y peth ’na ma cymint o son am dano fe dy Sul pan fo dynion mowr y sponiade ’ma yn cal ple bach, nen partoi ar gyfer ryw ‘ddispiwt' mewn rhw gwrdd neu gili – “yr hwnco na” odd yn cal i serio a heiarn poeth slawer dy, ond nawr sy’n cal i berswadio fod yn ddistaw gan dinc y geinog, “y be'ch chi'n galw  na”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 4248)

-   cydwybod, dyna fe o'r diwedd. Dw i ddim yn gyfarwydd iawn â’r  gair yn y nillad bob dy, a ma drwg sgifenu dy Sul os dw i'n cofio'n iawn wath peido gneyd y peth hyn a'r peth arall dy Sul, a pheido neithi'ch danedd, na gwaeddi iei iei ar ol hen wr, os na fuse fe'n streglyn, odd y pechode mowr o'n i'n dreio gofio gynt, a rywffor ne gili ’rown i'n ffeili'n deg a cofio beth odd yn iawn a pheth nad odd yn iawn dy Sul, ond rown i'n cofio'r ail yn sweet yn enwedig os buse rhw allt yn y golwg a'r peth cynta ddoithe i'n meddwl i oedd dwy arth yn gofalu am bob hen wr moelyn. “Fe fydd yn bilgen Amos cyn bo ni gatre” mynte Nansi, a phan welodd hi lampe newy'r pentre “ma beth yw llosgi gole'n ofer, os dim cwili arni nhw ma amser gwilad wedi dachre arna'n wir; ond ma rheswm o wilad, fuse da ni ddigon o waith lladd buwch, toddi gwer, a gweitho canhwylle ta ni'n dirion, ne wei ne droi dafe 'sdoi haner nos “fel hyn.” Whare teg i bawb dodd Nansi'm pell o'i lle, gan fod lampe'r hewl newy'n golwg, a rodd Nansi'n ffeili diall fod ise cymint o lampe lle nad odd dim stryt, ond wydde hi ddim fod ise goleu 'no rhag ofan i chi fynd yn sownd ne foddi ar dir sych yr hewl newy - pwy ryfedd fod gwyr y cel heirns ma yn brochgai ar y llwybyr, a wydde Nani ddim fod golygfeydd - na beth ma'r beirdd ma'n weyd ma'n nhw'n weld o Ben Codfol onte fe -ie golygfeydd crand godre y gerddi yn werth eu dangos ar hyd nos os na fuse gole loiad da hi.

 

WION BACH.

 

....

 

 

None

 

(delwedd 4245)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 7 Mawrth 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Fe hebrwnes i Nansi gartre'n saff drw'r tewydlwch ar bwdlacs ond rodd rhaid myn'd bob cam ne fuswn i'm gwerth 'nhalen, ond rown in eitha bolon myn'd sach hyny am ragor nag un rheswm wath fe fuse pobol y Cnwc wedi mynd ir gwelie gyd cyn i ni gyrddad no a fe fuse Nansi shwr o neyd tamed o swper i fi cyn gadael ag nid peth bach odd hyny wath fe fuse mam druan wedi cysgu mis cyn gwele hi fi a peided neb a beio Nansi am weitho swper i fi ar i cost nhw wath rodd digon o de yn y tebot i neyd swper i ddeg - dy ’nhw byth yn gneyd rhw olchan o de yn y Cnwc - ag os ath hi i hol llath heb dynu wmed dodd hyny ddim yn rhw golled fawr iawn; fel y gwyr pawb ma hi'n bleser da ffermwyr caredig yr ardaloedd hyn gal rhoi basned o lath i ddyn nabyddus am ddim er y coste fe geiniog a dime i chi sha'r trefydd mawr na. Dos dim ise i fi weyd wrthoch chi mod in berffeth gyfarwydd ar llwybre obitu'r Cnwc wath fe fues i'n was ’no unwaith a thyna nghamol i odd mistir a mistres am gwpwl o fisodd ar y cynta ac ron nhw'n rhico yn mhob man nad odd Wion Bach i gwas mowr nhw byth yn mynd ar “gered nos” ag nad odd dim un ffwdan byth i gal e o'r dowlad yn y boreue ond cyn Glame fe fuodd yn dipyn o storom ’co gan fod y gwr a'r wraig wedi dachre specto ma hen rog odd y gwas mowr a bod Nansi ag ynte yn euog o un o'r pechode mowr. Os ych chin cofio mi wedes i wrthoch chi o'r blan rwbryd ma'r pechod gweitha 'ngolwg rhai o bobol hen blwydd Llandyssil odd i hen grwt ty bach fynd i dreio merch ffarm a nawr dyma fi yn gweyd ma'r un nesa at ny yw “caru'n ty.” Wn im a os rhai o'ch darllenwyrs chi heb fod yn gwbod both yw meddwl hyny. Gwas a morwn yr un lle yn caru, dyna beth yw e. Clwes i un dyn unwaith yn gweyd i fod e'n synu'n bod ni'n rhoi rhw enw fel hyn ar hyny wath, medde fe, “fe alle dynon dierth feddwl fod rhai crits a chrotesi yn y plwydd yn caru rwle heb yn ty.” Eitha gwir a gwath na hyny fe fusen yn eitha iawn wath fel ma mwyaf y syndod ma caru ar y towladydd heb farw mas eto'n deg yn mhlwydd Llandyssil.

 

 

 

 

None

 

(delwedd 4246)

W i'n gwbod am sawl un nawr, ag rw i'n hela cymint a alla i o glonc y lleill a phan ga i henwe nhw'n weddol gryno mi hela i rester o honi nhw i'r “Welsh Gazette.” Son yr own i am y “caru'n ty” ma a rna hwn yn ol barn rhai o'n hesbonwyr gore ni ma yw y “phechod [sic] gwreiddiol” ma cymint o son wedi bod am dano fe. Fe fuodd mistir yn giwt iawn i ffeindio mas 'n bod ni'n caru'n ty wath ron ni fel pob un arall euog o'r un pechod yn gorffod bod yn slei iawn wrthi ond dyma fel y ffeindiodd e mas. Dyn weddol ifanc odd mistir pryny a rodd e'n hyfed cawl a byta'i fwyd i gyd hefyd o ran 'ny gyda ni'r gwasathynion ag heb ddachre mynd i'r ford fach - mistres ag ynte fel mistir llyne, ac fe sylwodd fod Nansi'n llanw’r cawl a'r cenin ag yn rhoi ciltyn o gaws tewach i fi na i neb arall a rhw fore dyma Nansi'n llanw boled iawn o gawl llath ar trolis circh i gyd a thyma mistir yn cydio yndi. “O,” mynte Nansi, “Wion y gwas odd i fod i gal hona.” “O,” mynte ynte, “os gneith hi les i'r gwas ffeili diall lladdith hi'r mistir” a thymi fe'n dachre pitsho miwn i'r ffiol ar cawl ag mi ddrychodd Nansi arna i a mi dryches ine arni hithe a fe gochodd Nansi ac fe goches ine. Howyr bach, dyw hyny ond megys ddo a ma o ar hyny nawr dros ddoinaw mlyne. W i fel tawn i'n clwed rhai o blantach yr oes hon yn gweyd miwn syndod “Doinaw mlyne ag heb briodi to”! Ma plant nawr yn priodi gyda'u bod nw'n cal cot a britis a dysgu smoco shigarets, ond ma amell un yn para'n weddol bach o gall wath fe basodd priodas neis iawn ma pwy ddiwarnod ond plant rhen ddynion bach ma nad os da nhw dim ffado cal crys ar i cenfe sy n mroi priodi “cyn bo nhw'n gall.” Rown i wedi meddwl dibenu a siwrner ffaer y tro dwetha – “ma hi'n llawn bryd” medde pwer o hot och chi ond gobeithio boch chi’n galler gweld pethe pwysicach na'r ffaer yn helyntion y plwydd, ond rhaid i mi weyd hyn 'to mod i'n grac ofnadw pan weles i mod i wedi cal cam fel ma amell i ddyn mowr Parlament 'co drw fod rhwyn wedi newid tipyn ar rw air yn y llith dwetha. Son nes i am ddirwn dafe ond ma’n rhaid towli beth wedodd Nansi am losgi gole'n ofer, lladd buwch a gweitho canhwylle a’r dirwn byd y tro nesa.

 

WION BACH.

 

xx

 

 

 

 

None

(delwedd 4239)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 14 Mawrth 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Odi chi'n y ngweld i'n gwella i scifeni Mr Gol wath fe ddylswn neid gan mod i yn rysgol ucha nawr oddi ar Ffaer Wenog. Dim ond rhw gwarter bach o yscol odd pobol slawer dy yn gal a wi'n i gweld nhw yn scolers da iawn 'fyd. Dyna Deio Ffinant nawr fe allith fwrw cascen o fenyn miwn wincad dim ond iddo fe gal Y redy reecner a'r spectal a phenshil mowr sar a thamed o bapir gwyn, ond rwffor ne gili dw i ddim yn dod yn mlan yn dda o gwbwl allswn i feddwl a barni o wrth y cwestiwne ges i da un o'r P.C's ’ma pwy ddwarnod “Shwt wyt ti'n dod yn mlan sha'r yscol na”? ”Weddol bach” myddwn ine. “Wel” mynte (short hornyn odd e) “Beth yw watch yn Gwmrag”? Gorffod i fi roi fyny ond fe dreies ddod mas o honi drw weyd wrtho “Gofynwch chi i figel bach Banc y bwci, fe ddala i a chi fod e'n gwbod nid dim ond beth iw watch yn Gwmrag ond hefyd beth iw hi yn y gwreiddiol.” “Ches i ddim awr o yscol ariod” mynte'r P.C. “ond awrlais yw watch.” Treia to. Beth yw “clock” yn Gymrag? Gorffod i fi gau ngheg wedyn wath fe wyddwn ma' cloc ma pawb yn i alw e ffor hyn ond P.C's a beirdd. “Wyt ti'n gildo” “Gildo” mynte fine ond haner minid ’na gloc mowr odd wrth ben rhyw blas yng Nghafyrddin - plas tebyg i Alltrodyn co ond wir wn i'm beth yw en Gymrag.” Wel wn i ddim beth i chin neyd sha’r ysgcol na nei tawn i wedi cal ych manteision chi ond oriawr yw clock.” Wedi synu tipyn at wybodeth mor fowr mi scifenes nhw lawr a thyna shom ges i pan es i adre a gweyd wrth mam ag iddi hithe ddachre'n ame i a gweyd ma oriawr odd watch shwr a ma awrlais

 

            

 

 

 

None

(delwedd 4240)

odd cloc, ond wedi drychyd yn y llyfyr Sysneg a Chwmrag, mam odd yn iawn a'r “Parish Cownsilor” yn rong. Fe roiodd mam grigin mowr o rhw eire felni i fi wedyn fel bocs, blwch: caretsh, cerbyd, steshon, gorsaf, grat alch lamp, llusern a ma peth whant arna ine dreio mynd ar y paris tro nesa nawr, ond ma peth ofan arna i nad w i ddim yn diall digon o Sysneg to nag yn gwbod digon o'r gyfreth ond ffeili diall na cha i fendyg “Llyfyr y Gyfreth” da rhwyn o'r plwydd ond falle fod un i gal da nhw i sach hyny ne beth odd yn y box mowr ny weles i un o'r Cownsil yn gario ar i gefen os tipyn bach nol. Ches i ariod shwt ofan a ges i rhw ddwy ne daer blyne nol nos manco ar bwys cware Pantolwen wrth ddod adre o Clwb y Cilgwyn odd yn bwgwyth cal i i radi. Fe gwrddes a dyn a rhw faech mowr ar i gefen e a thyma meddwl i yn rhedeg nol ar unwaith at amser dwyn defed a'r crogi am ’ny a fe feddylies ar y nghyfer ma dipyn o arian clwb ond fe nes mas ar ol ny nad odd no ddim byd ond bocs y Paris Cownsil yn mudo. Falle fod rhai och darllenwyrs chin ffeili diall pwy ise gwbod y gyfreth sy arna i cyn bod yn eilod or Paris Cownsil. Wel shwt gallwn i ddiall beth fuse'n nhw'n neid ta nhw ise hala llythyr at y barister o rhwbeth fel hyn yndo fe “passed unanimously that a application will be made to the revising barrister” yn galw sylw at yr arian mowr ma'r Longhorns yn dalu am neid y list o foters wrth i cydmaru nhw a phobol y plwyddi bach “according the members of voters on the Registrar.” Allwn i byth diall rhwbeth fel hyn a whare teg i fi w i'n credi na ddiallodd y barister ddim o hono fe ’fyd.

WION BACH.

 

 

........

 

 

 

None

(delwedd 4230)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 21 Mawrth 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Nes i ddim ond safio peido cal cawell da Nansi pwy nosweth am na fuswn i wedi gwneyd rhwbeth am dani hi yn y llith diwetha, a heb law ny mod i'n dachre myreth a pholitics y plwydd ag yn son am y short a'r long hours, ond wedi i mi sbonio iddi ma dim ond gweyd yr hanes yn deg nes i, ac nad own i ddim yn credu dylse mynwod ddod miwn i bolitics o gwbwl, fe ges fyn'd miwn da hi, wath ystyr cal cawell ne gal cwd yw fod “gwr caru” 'n cal i droi ’nol a ynte wedi cytuno i fyn'd yno ar criws. Fe ffeindies i mas yn go glou ma nid dim ond fi odd o dan yr ordd yr wthnos hyn ond fod yr “Hen Gardi” wedi troseddi Nansi a'i mistres yn enbyd drw weyd fod Twmi'r Go yn ffitach i fod ar y Paris na gwr y Cnwc, a ma nhw yn credi ma rhw Shorthornyn o Landyssul yw yr Hen Gardi. ’Na synu ma nhw yn y Cnwc fod Shorthornyn fel yr Hen Gardi a Longhorn fel Wion bach yn cal ysgrifenu i'r un papyr, wath Longhorn yw gwraig y Cnwc Longhorn yw Nansi a ma rhaid i fine beido bod nol ne “onite” fydd hi arna i. Mi roiodd Nansi a fine driniad hanswm i'r Hen Gardi am iddo fe barchi Twmi'r Go a'r Padis, wath do'dd dim cymint o ofan dim byd arna i pan own i'n grwt slawer dy na Phadi, yn enwedig rheiny odd a thents da nhw sha cware Gwmul co. ’Na rai eger yw'r Padis ma a dos gen i na Nansi fowr o ffydd ynddi nhw wir “i chi” os dywed y pregethwyrs ma. Pam na fuse rhw Gymro sy gento fe gystled llygad am y geinog a'r un Gwyddel yn gneyd tipyn o fwstwr. Fe fuse'r Padis i gyd, ond rheiny sy heb anghofio y stancie yn eitha bolon i Balfour roi mwff ar bob Sais a Chymro yn y Parlament ta fe ddim ond addo cal arian Protestaniaid y wlad hon i dalu am ddysgi Pabyddiaeth i'r Padis druain. Nawr am dipyn o bolitics y plwydd hyn ’to te. Ma hi wedi bod yn amser lecsiwne brwd ma yn ddiweddar

 

 

None

(delwedd 4236)

ond fe amcanodd fynd yn ffril iawn arno ni leni a fe ddylse pob un o bobol y plwydd fod yn falch iawn o'r tri chrwt sy wedi ei hala hi yn lecsiwn sha'r pentre co am gadw i fyny enw da yr hen blwydd am lecsiwna brwd. Fe allse un o honi nhw dynu nol gan i bod nhw mor gyfarwydd a'i gili, a beth neithen ni am lecsiwn. Dyna beth w i wedi gynghori pob un fues i yn whleia ag e, i neyd yw rhoi fot i bob un o'r tri. Dyna beth sy'n drueni, na fuse y Counsil ma nhw ise fynd iddo fe ’pyn bach yn fwy o graff, a na allsen nhw neyd tipyn o waith heb law siarad. Wyddoch chi beth ma ise arno ni gal rhw Gounsil newy yn Llandyssil ma - rhwbeth yn debyg sy da nhw yn y Cei co, ond ma rhaid fod cymint a hyn o wahaniaeth rhyngto fe a ‘Local Board' y Cei fod rhaid iddo fe gal rhwbeth i neyd heb sgrechen a gwaeddi yn y ty ar sein, fel Sein ty tafarn. Fe ath yn dro bach cas iawn ar ddou o fois y Gweithe na yn y Cei llyne wrth glywed y pledo ar swn ar bwys y Post fanco. “Dere fewn Shon,” medde un wrth y llall, gel gleshad ond pan awd miwn, beth odd no ond Cwrdd y Local Board. Ma'n rhaid i ni ’ma fwrw'r droil yn dda fyd cyn mynd mi wn am “Urban Counsil” ne falle eith hi'n fethiant arno ni fel ar dre fowr Castell-newy, a byddwn ni'n begian ar y dynon mawr na sy'n Llunden i'n helpu ni ddod mas o afael yr Urban Counsil fel dynon y dre sy'n cadw'r wyrcos a thamed o farchnad foch bob dy Gwener. Na beth rhyfedd na allse Castell newy gadw Urban Counsil ond ma nhw siwr o fod yn halfor iawn wath ma ty tafarn co dyst bob yn ail ddrws, a ma'n debyg i bod hin hawsach i neyd heb y Counsil nag heb y cwrw.

 

xxx

 

 

 

None

 

(delwedd 4227)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 28 Mawrth 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Rw i teimlo fel amell i ddyn yn y sosiety nad os gen i ddim byd neillduol i weyd, ond, fel ynte, mi dreia fod a digon o wmed gen i ich cadw chi am ychydig iawn o amser a thipyn o “rhwbeth” fel ta “rhwbeth” yn brion i neyd y tro i ddynon ereill ond fod rhaid cal rhwbeth neillduol i fi a rhai tebyg i fi sy'n cadw'n mlan am rw ugen minid er nad os da ni ddim byd neillduol i weyd ne i’w sgufeni. Y peth cynta sy gen i neyd heddy yw gweyd i bod hi'n ddrwg iawn da fi mod i wedi anghofio gweyd un peth o ochor y Cei y tro dwetha sef i bod nhw wedi cal carretsh peder whul newy ar gost y Llywodreth i gario Jones y Meil ai llythyron o Landyssil iddi nhw a thyna un pert yw e hefyd a rhw lythrene melynion mowr ar i ochor e ond maln bryd newid y sein nawr ne falle ffeinith gwr y got las y brenin am beido rhoi sein iawn ar i gart. Gofaled pobol y Cei rhag ma nhw geith dalu’r ffein a thyna lanastra fuse hyny i bobol gynil Llanllwchaiarn wath ma hin wir am bentre bach y Cei “ma megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awrhon” a ma hin eitha tebyg fod y rhest o'r anod yn wir hefyd “ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd” a hawdd gen i gredi buse pobol y Cei i gyd, ond rhw gwpwl o'r rhai mwya penefer ’no, yn barod a bod yn glochyddion i gyd a gweyd “Amen.” Mi glwes bod bechgyn y Local Board yr hwrni'n gas am mod i wedi gweyd nad y'n nhw'm wedi gneyd dim gwaith a nhwnte wedi hadel rhw hen gritsach ddod a dwr ir lle ar gost i hunen. Ta'r Llywodraeth yn talu fuse dim ots ond nesed poced a bowyd yn y Cei ag yn Llandyssil hefyd o ran 'ny. Ma ise dwr glan yn y Cei a ma'i ise fe arnon nine yn LIandyssil a ma mwy oi ise fe yn Llandyssil na'r Cei wath ma clefydon cas wedi bod yn hedfan drw stryts Llandyssil yn ddiweddar.

Dyn[a] i chi y teiffoid na dos dim dowt ma dwr afiach

 

 

 

None

(delwedd 4228)

yw un o'r achosion gweitha mas i ddod a hono i'r ty, ond wedyn be wath os dyw hi yn drws nesa ond iddi beido dod i'ch ty chi. Fuse dim ots da pobol y wlad ta hen dacle'r pentre yn trengi i gyd o'r teiffoid ond iddi nhw gal peido tali treth ond ma rhaid iddi nhwthe feindio wath ma'r teiffoid yn gwybod y ffordd mas i'r wlad yn ffamws. Wir ma'n ddrwg gen i orffod cyfadde fod llawer o bethe digon annymnnol i lygad dyn, ag i'w drwyn e'fyd, i'w gweld yn amell i dwll neu gornel, ac o ran 'ny ar ochr y stryts yn Llandyssil. Gwachlwch chi na welith dyn y baw nhw; fe all e ddod heibio drw rhw ddigwyddiad ne gili er fod dag e fwy o waith na all e 'neyd sha cefen rhai tai sha Castell-newy' co, a gweyd y gwir wrthoch chi ma cymint o faw yn Llandyssil a alle un dyn ofalu am dano heb son am y rhest o'r Iwnion. Ma'n dda i ni fod y Teify ond allith y Teify ddim rhedeg lan i Stryt y Ffynon ag i ardal Penwalce a ma gormod o ofyny [sic; = ofyn] iddi hi ddringad Lon Letty - whare teg i'r ben Deify. Ma rhaid i fi weyd hyn am y Cei fod i stryts nhw yn lanach lawer na rhai Llandyssil a ma “pob morachyn” yn gwbod ’ny am dani nhw'r haf, ond ma nhw llawn cystal yn y gaua, wath mi gweles nhw a'n llyged 'nhunan pwy ddwarnod pan ges i fendyg ben Gaseg y Ddol i hol llwyth o sgadan rhw nos Wener, gael rhoi ffest i'r plwydd ma dy Sul ag i fine gal gneyd ceiniog fach wrth ny. Ond ma dwr y Cei yn shompol a ddaw dim drych ar y Cei byth fel lle gal mynd i ddwr y mor, hyd nes daw dwr co o rwle. Son am gael reilwe co ma nhw a nid rhy fedd wath y G.W.R. fuse'n talu. Rw i’n siwr fod pob un wedi sylwi fod prinder dwr yn y Cei, wath pob ha w i wedi bod yn y Cei am ddwarnod, ma sten fowr o dan “bistyll William Peinter” a ma’r dwr sy'n dod o'r trath yn amal yn heigio, medde nhw, a nefolion daearolion a thain ddaearolion bethe, ond beth yr ots sy ma'r Cei yn mlan na Aberayron a thyna bob-peth yn iawn. Faint gwell yw Llandyssul? Cewch wbod tro nesa.

WION BACH

 

xxxxx

 

 

 

None

(delwedd 4232)

Welsh Gazette and West Wales Advertiser. 4 Ebrill 1901.

 

Llith o Landyssil.

 

Rown i wedi meddwl rhoi hanes dwr Llandyssil i bob tre yn y byd ac i bob pentre mas o'r byd fel y Cei a Chastellnewy ond mi ges shwt swn da Nansi pwy nosweth am son am gal dwr i'r tai i borthi diogi hen daelir pentre nes ma arna i ofan i weyd fowr o ddim am y matar dan sylw y tro hyn ond gweyd fod ffynon Benbont yn debyg i ffynon trath y Dole yn y Cei, ond bod lawer rhagor o hwyed yn waco obiti ffynon Penbont, a bod llyn fowr o ddwr na fuodd e byth yn ffres wedi amser y diluw yno ir hwyed a'r gwydde gal golchi trad ta digwydd iddi nhw gwmpo ir ffynon. Weles i'm un o'r pethe 'ny odd yr hen bregethwyrs yn alw yn 'hwyaden fach' yn y Cei ariod ond ar ddiwarnod regeta pan odd Mr Daniel Hywel a Penpwll parti yn mofiad am breis. Ma sawl plwmp i gal da nhw yn y pentre, ond gan ma preifet concerns y'n nhw gyd ond “plwmp Debra" dos gen i ddim byd i neyd a nhw, ond mi alia i weyd hyn na leicswn i ddim hyfed dwr o un plwmp yn y pentre heb roi berwad yn iawn iddo fe nghynta - i'r dwr wi'n feddwl nid i'r plwmp. Dim ond dou beth sy gen i'n erbyn ffynon Dyssul a 'na beth yw rheiny fod y ffynon yn rhy lawn yn y geua - ma'r plant yn shwc-shac-stil wrth hol dwr yn y geua, a ma hi'n rhy gynil yn yr ha pan ma ise mwya o ddwr. Dyna'r peth arall fuse Tyssil Sant wedi gneyd cwpwl o wyrthie wrth y ffynhon fel galle pobol

 

 

None

(delwedd 4233)

Llandyssil neyd rhw dipyn o arian fel pobol Treffynon wrth dwyllo dynion a'u “haner nhw'n mhen boer" i ddod ’no gal gwella riwmitis a gowt. Ma arna i ofan nag os dim posib i sgilo i gan fod cymint o'r hen Sosinied na yn y plwydda ma nhw'n gwadu'r gwyrthie lwch chi; ond falle creden nhwnte yn y gwyrthie ta ni'n galler gneyd tipyn o elw wrth 'ny fel ma pobol Abarystwyth yn credi yn y milisha bach, a phobol Treffynon yn ffynon Gwenffrewi ne'r dynion 'ny odd yn credi nad odd hi ddim yn iawn i dalu ugen swllt yn y bunt o ddegwm ond bod hin berffeth deg i dalu ond cal bod yn rhydd a'r ddoinaw swllt. Ma da fi rai pethe o ochor ’rhen ffynhon, ta dim ond i bod hin lle i gritied a chrotesi i gwrdd a'i gili pan bo nhw'n dachre cari. Dos dim theater i gal yn Llandyssil ond ’da'r eglws nos Ndolig a Chalanhen, a felny ma'r hen ffynhon yn gorffod gyneyd y tro fel "man cyfarfod." Na betb rhyfedd yw dyn; rhyfedd shwt hen gof gwael s'dag e. Win cofion brion am Betty Maslan pan odd hi'n groten o forwn yn y Winllan yn gadael i steno am gwarter cyfan, ochor isha'r claw a mynd am wac i'r wlad ’da clerc Shop y Jones; nid a'r clerc priododd i ond gan fod John gwr Betty Maslan, yn y gweithe falle na welith e ddim o'r glonc fach hyn ag oi gneith e os dim ots wath fe fuse hyny yn dangos iddo fe ’i fod e wedi trechu'r clerc a ma hyny yn dipyn o glod iddo fe gan fod y clerc fel rwi'n cofion dda bron “bwrw'i fogel” am Betty pryny. Nid rhw bwer o dyni fuodd a'r Nansi cyn i'r son fynd mas am yr arian mowr sda hi yn y banc ag am y tri-phar blancedi ma hi wedi enill yn y Cnwc ond fe garies i ar Foryn Banc Shon Cwilt yn ffaer Glnungeia, a mwyach all neb ddim mystyn i fys ata i a gweyd ma ffeili cal neb arall odd Nansi; ond dyma beth own i am weyd am Betty Maslan w. Ma da hi ferch fowr - Marged Jane yn yr ysgol winio a ma hi yn mrig

 

 

None

(delwedd 4234)

y nos yn mynd i hol dwr bob dy, ond dy Sul, a ma'i mham yn synu ble ma Marged Jane mor ddeir yn dod nol ar dwr a dyw hi'n specto dim byd am y clercs erbyn hyn. Ma Marged Jane yn groten stansh iawn ag os da hi ddim help bod y clerc yn tolach tipyn iddi. Fuse mwy o ofan clerc arna i in sefyll i am Nansi na neb wath ma nhw'n dysgu bod mor ffromil tu ol ir cownter a ma nhw'n galler cal rhw bresante mowr i'w cariadon scarffs a brotchis a phob prafri yn y byd ond dos dim llawer o wahaniaeth gen i mwy am fod Nansi'n rhy hen i un prentis o'chon. Ma son am oedran Nansi yn dwyn in nghof i y papyr glas mowr ddoith in ty ni ag i bob ty arall hefyd sach'ny. Fe gas mam a fine ofan pan welson ni'r papyr glas o dan drws wath mi feddylion ni ar unwaith ma swmons odd e am rhwbeth a fe fuodd mam dyst a lleten wrth feddwl am "Wion Bach” yn cal mynd i Gafyrddin i hyfed cawl dwr a throi rhod ond yn go gloi fe ffeindiodd sgoler yr ysgol ucbha ma rhwbeth o wrth y Llywodreth odd e. Ma ofan papyr glas arno ni - rhen gwntry lumps ma wath ma rhai nad y nhw'n gweld papyr glas ond bob deng mlyne. Rodd Piwpil Titsher bach St. Firaid yn gweyd wrthw i pwy ddiwarnod am whipper-in Sgwl Bord enwog Llandyssil. Fe ddoith miwn ir ysgol un diwrnod a thyma fe'n gofyn am bapyre gal rhoi notis i rw rieni i hala i plant ir ysgol. Fe gas dipyn o'r papyr gwyn gore na, ond pan welodd y whipper-in y papyr gwyn dyma fe'n gweyd “Fachgen rhowch bapyr glas i fi fe geith pentre Blanbwber i gyd ofan papyr glas." Fe gas beth odd e am ond pan welodd e sgrifenad y sgwlyn mynte fe Na hen sgrifenwr gwael i chi achan." "Wel, wn i ddim” meddir sgwlyn “ma'r spector yn y nghamol i stil pam ych chin meddwl fod hin sgrifenad wael." “Wel rw i'n galler diall hon acban” mynte'r whipper-in a mi ath yn grac pan welodd e'r sgwlyn yn wherthin.

WION BACH.

 

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː /

ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ ẅ Ẁ £

---------------------------------------

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_115_llith-o-landysul_0116k.htm

---------------------------------------

Creuwyd / Created / Creada: 23-05-2017

Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 23-05-2017

Delweddau / Imatges / Images:

---------------------------------------

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


CYMRU-CATALONIA