kimkat0188k Llith y Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dr or Darian. 1915.

22-11-2017


● kimkat0001 Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0346k Y gyfeirddalen i Lith y Tramp
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_cyfeirddalen_0346k.htm
● ● ● ● ● kimkat0188k Y tudalen hwn


 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llith y Tramp.

Y Darian. 1915.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356kBeth syn newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

 

O neywddiadur Y Darian (Aber-dr).

 

22 Ebrill 1915

27 Mai 1915

17 Mehefin 1915

24 Mehefin 1915

01 Gorffennaf 1915

08 Gorffennaf 1915

22 Gorffennaf 1915

21 Hydref 1915

 

 

 

None

(delwedd 5890A) (22 Ebrill 1915)

22 Ebrill 1915

Y Darian

Llith.y Tramp.

 

 

Mr. Gol., - Dyw e ddim yn fontesh i chi bob amsar fod un gs i chi'n fyrrach car llall.

Ma fa'n golycu ticyn o yps and downs yn y byd yma. Win gobitho pan ga i'n atgyfodi y

ca i 'nwy gs fel on nhw cyn i'r hen feniw yna yn Llandeilo, mam Alis, dorri un o honyn nhw i fi. Mi ganws un bardd unwaith, a nid bardd safonol odd a cofiwch, fel hyn:

 

"Huw Huws y goes fechan a'r llall yn goes fawr,

Sydd yma yn gorwedd yng ngwaelder y llawr;

Pan gyfyd i fyny ymhlith [yr] holl saint,

Fe fydd y ddwy goes wedi tyfu'r un faint."

 

Odd rhyw lob yn y "Darian" ys tro nol yn gofyn ble odd y'n beirdd cenedlaethol ni. Wel dyna un o honyn nhw iddo fa. Wi'n mentro gwed wath gen i beth wed Morgan Huws y tilwr na gwr y ty lle on i o'r bln, fod awdwr "Huws Huws y goes fechan yn fardd cenedlaethol. Beirdd cenedlaethol Cymru yw rhai sy'n gwneud pethach anfarwol, pethach y'ch chi'n difyrru'ch giddyl a nhw, a phethach sy'n catw'r haul ar ych gwymad chi o hyd. Wi'n ffeulu gweld shwd gall bardd safonol fod yn fardd cenedlaethol, wath os neb yn darllan nag yn adrodd i waith a, os na fydd ar rywun isha cysgu'n dost. Cofiwch chi dw i ddim yn ama na all fod dyfodol i'r beirdd safonol mwn rhyw fyd ar ol hwn pan fydd gan ddynon amsar i fynd drw'u hawdla a'n [sic; = au] pryddest nhw, ond ma poeni gyda nhw mwn bydlle nad yw dyddia'n blynyddoedd ni ond deng mlynadd a thrican ar gyfartaladd yn ormod. Ma raid i ni gal rhwpath i'n cynnal ni ar hyd y daith. Ma gen i ryw syspisiwn hefyd taw'r pethach sy wedi bod o help i ni yma fydd fwya poblocadd yr ochor draw hed. Fydd well i'r beirdd safonol a beirdd tywyllwch y fagddu edrych ati wath yn ol i ffrwytha yr adnabyddir hwynt. Ond dyna on i'n mynd i wed wrthoch chi ma Huw Huws y goes fechan wedi bod o gysur mawr i fi yn y'n yps an downs, ag i lawar erell y gwn i am danyn nhw sy a'u coesa heb fod yr un hyd. Ma'r gan fach swynol hyn wedi rhoi ticyn o opath i ni y gallwn ni ddishgwl ymlan am rwpath gwell pan ddaw hi'n sgrech arnon ni yn y pen blan yna.

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5890B) (22 Ebrill 1915)

Fel gwetas i yn y wasg ys tro nol on i wedi meddwl cal shiwt o ddillad newydd yng Nghwmparc, ond fe ddath u hisha nhw arna i'n gynt nag on i wedi meddwl. Dodd y dwr y cwmpodd gwr y ty a finna iddo yn y'n llith o'r blan ddim yn rhyw lan iawn a nath a ddim lles i'r dillad fel gwyr pawb yn dda sydd wedi dicwdd cwmpo i le tebig u hunen. Ond dos dim un drwg yn ddrwg i gyd. Ys gwetws yr hen wraig o war Llandeilo slawar dydd, wel, wel, os lloscws y ty ma gyta ni ddigonedd o lutu i'r ardd nawr. Mi gas y tilwr job gen i'n gynt nag on i'n meddwl. Mi halws y nghoesa i fa i dicyn o bemblath wrth 'y mesur. Fe wetws fod un gs yn hirach na'r llall gen i. Chlwas i neb yn gwed hynny o'r blan mynta finna. Naddo, mynta fynta mwn stwmp. Naddo, mynta fi, gwed ma nhw i gyd fod un yn fyrrach na'r llall. Beth bynnag i chi, heb ymhelaethu os gwetws y beirniad, pan ddath y shiwt i law a finna'n rhoi mhunan miwn yn y trowsis a nghoesa i yn y coesa odd yn apad 'u hyd nhw yn y trowsis newydd, rodd y trowsis yn ceuad y tu ol i fi. Wyddwn i ddim a odd y tilwr yn meddwl newid y ffasiwn ne beido, ond on i ddim am fod mwn ffasiwn ar ben y mhunan. Mi es lawr o'r llofft i gal gweld a alla gwr y ty ne'r wraig roi rhyw ola i fi ar y matar. Mi dyfares i neud hynny hed wath mi fu'r wraig bron mynd i ffits. Onbai'n bod ni wedi colli'r teliscop y nos o'r blaen mi fysa'r gwr wedi mynnu gweld os odd y planeta'n gwed rhwpath ar fatar fel hyn. Dodd dim un o'r ddau yn cofio gweld trowsis felny gan neb yng Nghwm-parc o'r blan. On inna'n teimlo taw peth go letwith fysa trowsis yn ceuad, y tu ol i chi. Mi wisges y nghot fawr drostw i a mi es ag e am dana i at y tilwr. Nid trowsis fel hyn on i wedi feddwl gal, mynta fi wrtho. Mi ddishgwlws yn dwp arna i nol a mlan lan a lawr. Wi'n cofio, mynta fi, am bregethwr wedi mynd i fyw i dy newydd, a odd a'n meddwl y byd o hono fa, ond odd un bai arno, rodd drws i ffrynt a yn y talcen, ond pia'r trowsis hyn wedi hala'n ffrynt i i nghefan i. Ond heb ymhelaethu yto, mi welws ble'r odd y drwg; rodd a wedi cymysgu'r ddwy gs. Ar ol i ni gonsylto a'n gilydd ni bendarfynson taw'r peth gore fysa opereshon fach a'r goesa'r trowsis. Wedi gneud hyn mi ddath idd i le. Ma gen inna shiwt nawr erbyn daw'r tywydd dicyn bach yn well. Wi'n clywad yr hewl fawr yn dechra galw arna i. Dyw a ddim yn bleserus iawn i labro'r nos pan y'ch chi clywad yr atar bach fp canu pan y'ch chi'n mynd i'r gwaith. Ma'n dda taw rhyw hannar dwsin o atar sy yng Nghwmparc, tysa yma gor o honyn nhw fysa yna ddiwadd ar labro'r nos ys tro. Ma yma ddwy ne dair bran yn dwad witha ma rheiny'n fwy o help i chi fynd lawr i'r pwll run fath a ma'r beirdd safonol yn help i chi fynd i dir angof.

 

TRAMP.

 

O.N. Ar ol i fi roi adres Erys Parc y Cwm yn y "Darian," rw i wedi cal ceisiata am i fi feirn'atu mwn tair steddfod a rhwng yr arian wi wedi sefyll wrth labro'r nos a byw'n giwt a'r arian ga i am feirniatu, a dyw rheiny ddim yn ecstrafagant iawn, rw i'n gweld galla i fyw am whech mis heb witho dim. Lwc owt nawr am ddod a'r beirdd idd 'u sensis. Dw i ddim llawar o fardd y mhunan, ond mi wn i shwd idd i rhoi hi iddyn nhw. Dyw rhaglan yr Eisteddfota ddim mas yto, a wn i ddim yn iawn beth fydd y testyna, ond rw wedi dechra ar 'y meirniatath yn barod. Wi'n gobitho bydda i wedi penderfynu ar ffugenw erbyn hynny. Tramp.

 

...

 

 

 

 

None

(delwedd 5496) (27 Mai 1915)

 

Y Darian.

27 Mai 1915

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol., - Ma Dafydd y Crydd yn treio gneud ffugenw i fi, ond fysa'n well iddo ddala mlan i neud scitsha a chlocs. Rw inna nawr wedi taro ar ffugenw i Dafydd, a rw i am i eneinio fa'n Dafydd y Crafwr. Ma fa am yn hala i i'r Seilam ag am dorri nghos arall i. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed fod Dafydd yn suwr o fod yn perthyn i'r hen Sian Landeilo. Dyw Dafydd ddim yn fardd nag yn feirniad. Ma fa'n gwed nag odd llawr a bydd ddim yn hodli. Wel nag o'n; down i ddim am iddyn nhw hodli. Ma fe'n gwed hefyd nag odd Apram, Isac a Japog ddim yn cario poteli o ser yn u poceti! Ond yw Dafydd yn smart, ne'n treio bod, ta beth? Falle nag yw e ddim yn gwpod nag odd y Three Star ddim wedi i nvento yr amser Apram, ne mi fysa'n suwr o gatw potelad o hono yn y tent erbyn bysa rhywun yn dost. Gwin o'u nhw yfad yr amser hynny, medda'r Eryr yma.

 

Ma Morgan y tilwr wedi gneud cawl o mhennill i wrth i gyfeithu fa, a ma Eryr Parc y Cwm yn gwed yn brysur y dylsa Morgan a Dafydd gal u rhoi yn y stocs - Dafydd am i anwybotath a Morgan am leibal ar Apram Isac a Japog. Er mwyn cael rhwpath i hodli a seen ma fa wedi llusgo canteen i fesur petar lein ag yn gwed taw trampo i whilo am le i gal cwrw odd tri dyn mowr yr Hen Orchwylath. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed y dylsa fod cwilydd ar y ddau. Ond dyna thal hi ddim o'r ffordd i fi wasto amsar ar y ddou hyn.

 

Wel mi fuas i lawr yn Byrtawa. Mynd i Steddfod y Cymdeithasa Cwmrag on i ŷn y Sentral Hl, a mi fydd gen i lot i wed am danyn nhw

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5497) (27 Mai 1915)

yno y tro nesaf. Mi alwas heibo i Dafydd y Crydd, ond odd a ddim yn y ty. Odd e a Morgan Huws y tilwr wedi mynd gyda'r plisman a rhyw ddyn i'r Seilam. Wrth ddwad gartre mi glwes shwd buodd hi arnyn nhw. Pan ethon nhw miwn i'r Seilam mi wetws y dyn odd ddim yn gall wrth fishtir y lle Dyma fi wedi dod a'r ddou ddyn yma saff i chi, syr. Cymrwch ofal o honyn nhw. Ry'ch chi'n suwr o gal lot o ofid gyda I nhw.

 

Y d-d-dyn ofnadw, medda Mor- gan Huws.

 

Fe yw'r dyn sy ddim yn gall, medda Dafydd.

 

Fe chwerthinodd y plisman, a mi chwerthinodd y dyn odd ddim yn gall am ben y ddou, a wydda'r mishtir ddim pwy rai o honyn nhw i gymryd miwn.

 

B-b-b-bardd w i, medda, Morgan Huws.

 

Fe fu hyn bron a setlo tynged Mor-gan.

 

Ma rhai'n disgwl am scitsha gen inna, medda Dafydd, a mi dynnws y binewyd mas o'i boced, a rodd hynny'n ormod i'r mishtir a mi ordrws I roi'r ddou dan glo. Erbyn hyn, rodd y plisman wedi cal amsar i sbonio, a mi ddiallodd y Mishtir, a mi wetws wrth Dafydd a Morgan fod yn dda iddyn nhw fod yna un dyn cyfrifol gyta nhw ne na elsa nhw ddim gartra'r noswath hynny. Ma Eryr Parc y Cwm a'i wraig a finna wedi paso ft o gydymdeimlad a Dafydd a Morgan yn y perigl a'r brofedicath y buon nhw ynddi, ond ar yr un pryd yn datgan ein barn yn onast na fysa fa ddrwg yn y byd iddyn nhw fod miwn am wsnoth ne ddwy. Mi baswd y ft yn unfydol, on i wedi meddwl rhoi'r englyn nes i i Alis y tro hyn, ond os gwetsoch chitha, Mr. Gol., mi ddaw yn y nesa.

 

Y TRAMP.

 

....

 

 

 


None
(delwedd 5475) (17 Mehefin 1915)

Y Darian

17 Mehefin 1915


Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd. Welas i neb ariod yn mentro gwed cymint o bethach yn i anwybotath a Dafydd y Crydd. Fe wetws mod i wedi mynd i gwrdd ag Alis y'n hen gariad i pan o'n i Byrtawa. Nawr tysa Alis a finna wedi prioti fel buon ni'n meddwl gneud, fysa pethach yn wahanol iawn. A tysa Dafydd y Crydd yn gwpod y cwbwl, fe fysa'n gwpod fod Alis yn Ffrainc pan on i yn Byrtawa. Odd Alis wedi gweld y'n adres i yn Bwlchyclawdd View Terrace, a mi halws lythyr neis ata i'n gwed i bod hi weti joino'r Red Cross ag yn mynd mas i nyrso rhai sy wedi u wowndo wrth ymladd dros eu gwlad. Mi gollas i lawar o ddacra wrth ben y llythyr hyn, a rw i'n mynd i gatw fa'n ofalus.

 

Mi gofias am ddedwyddwch

A fu ym mora s,

Ac am yr helynt werw

Pan dorrodd Sian fy nghs."

 

A thysa Dafydd y Crydd wedi cl anap fel ces i falla bysa'n haws i drafod a. On i'n timlo'n falch fod Alis wedi mynd i wasanaethu i gwlad a mi nes i fesur petar lein iddi, a mi gwetas a wrth Eryr Parc y Cwm. Mi welws yr Eryr y gellid gneud y petar lein yn englyn. Wyddwn i ddim o'r bln beth odd y gwahaniath rhwng englyn a rhyw fesur petar lein arall. On i weti canu

 

 

 

 


None
(delwedd 5476) (17 Mehefin 1915)



Y mae Alis annwyl heno,

'N mhell o'i gwlad mwn estron dir;

Minna'n hiledd yma'n wylo,

Dagra gwaed rwy'n gwed y gwir.

Diaist i, medda'r Eryr, gnewch englyn o hono. Beth yw'rgwahaniath, meddwn inna. Wel, mynta fa, mwn cynghanedd ma swn cytseiniad yn clecian. Gnewch y lein gynta yna fel hyn, nawr

 

Alis annwyl sy heno.

 

Odich chi'n gweld y point, medda fa fel ma "lisan" mwn un fraich yn apad "lsyhen yn y llall. Ma hwnna'n fwy tepig i whislan na chlecian meddwn inna. Ond dodd a ddim gwahaniath am hynny, medda'r Eryr, tra fasan nhw'n apad y naill y llall. Nawr am y circh, medda fa. Wel am y dyn, meddwn inna, dos dim isia circh ar Alis. Na ond ma'i isia fa ar yr englyn, medda'r Eryr, a dyma fo fel hyn:

 

Alis annwyl sy heno, a'i hoff rudd

Ar dir Ffrainc yn brwydro;

A minna'n llwm, ow drwm dro

Mewn alaeth yma'n wylo.

 

Ma mwn englyn, medda'r Eryr, bladur a chirch ag estyll. Wn i ddim ble mae e'n n cl nhw yn y byd. On i'n gofyn iddo os taw siarad mwn damhegion odd a. Na terma barddol y'n nhw, medda fa. Ond down i ddim fawr callach, a rodd well gen i'r petar lein fel n nhw gen i cyn u gneud

 

 

 




 

 


None
(delwedd 5477) (17 Mehefin 1915)

nhw'n englyn. A gwed y gwir i chi ma arna i ofan gweld Dafydd y Crydd yn dwad am u traws nhw. Criadur sgeler yw'r Crydd. Ma'r englyn hyn yn y marn i'n rhy depig i'r pethach ma Morgan Lewis y tilwr yn neud. Ma fa'n dwad a phopath i neud hodl ag wrth hynny'n gneud codl. Falla bo chi'n cofio am y "canteen." Ma'n depig gen i fod Dafydd a Morgan yn gyfarwydd iawn a lle felny, ond ticyn o cheek odd dod ag Apram Isac a Japog i hodli a hwnnw.

 

Ma Dafydd yn benwan holics achos mod i wedi cal mas iddo fe a Morgan fod yn y Seilam, a fod y dyn on nhw'n atal yno yn gallach na nhwch dau gyta'u giddyl. Ma Dafydd yn treio gwed iddo fod yn Hundab y Cymdeithasa, ond mi ddylsa gal i gymryd lan am ffols pritensis. Fu a ddim yno, ne mi fysa'n gwpod beth odd yno. Siarad trw'i het ma fa, medda Eryr Parc y Cwm. Ma fa'n gwed bydd yr Hundab yn Sais mwn pymtheg mlynadd. Ond tysa fa yn yr Hundab i hunan fysa fa ddim yn gwed hynny. On nhw'n dechra doctora rhai odd a'r dolur Sysnag arnyn nhw. Mi rows merch fach o Berdar gwpwl o bils cenedlaethol net i rai, a rw i'n suwr fod Tom Matho wedi llyncu un o henyn nhw.

 

A ma'n depig fod tipyn o'r dolur ar y dyn on nhw'n galw Lleufar arno fa, a sa chi'n gweld y Dafydd Preis yna o Byrtawa yn rhoi moddion tonic Cymru iddo fa. Fu raid i Lleufar lyncu, nid ds fach neis, ond llond potal, a wi ddim yn suwr beth ddath o'r botal. A ma arwyddion fod y cwpwl yn gwitho er daioni. Mi fysa'n dda gen i sa Dafydd y Crydd yno. Mi nethe les iddo fa, a fysa dim isio iddo wed cymint o bethach sy ddim yn unol a ffeithia, ys gwetws yr Eryr yma. Y'ch chi'n cofio i fi gl gwahoddiad i Glydach yn y "Darian" ys ticin yn ol gan W.J.R. Treni mawr na fysa gan y bachgen hyn ffug enw, ma fa'n fardd ag yn fab i fardd. Cofion at Eryr Parc y Cwm. Fues i ariod yn timlo mor sff a phan on i yn i gwmpni fa.

TRAMP.

 

.....

 

 


None


(delwedd 5478) (24 Mehefin 1915)

Y Darian

24 Mehefin 1915

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol., Mi ffarwelias i a Eryr Parc y Cwm yn Byrtawa, a wir i chi gwaith anodd odd hynny. Hen dderyn ffein yw'r Eryr. Y peth dwetha wetws a wrtho i odd: Fydd drws y ty yco'n agored i chi, Dramp annwyl, unrhyw amser, a gobitho bydd yna le cynnes yn ych calon chitha i Bwlchyclawdd View Terrace. Mi apetas inna mwn petar lein fel hyn:

 

Gwel, Eryr hoff, fy nacra,

Ymatal nid yw'n hawdd,

Ar ol y difyr oria

A gawd ger Bwlchyclawdd.

 

Ma'n depig, medda'r Eryr yto, fod dishgwlad mawr am danoch chi yng Nghwmtawa, a rych chi'n cofio i un o atar erill y "Darian" roi awgrym fod y teliscop a'r tent gollson ni ymhlith y ser ar y fythgofiadwy noson honno wedi disgyn yn rhywla tua Tharran Gwyddon. Mi wela i fwy o isia'r pethach hynny nawr ar ol ych colli chi. Os cewch chi hyd iddyn: nhw halwch air. Reit o, mynta i finna, a chofiwch fod atar Cwmtawa wedi'ch infeito chitha am dro, os cewch amsar dewch i roi tro am danon ni. Wedi i ni wed gwd bei saith gwaith yto, fe ath yr Eryr a mi es inna. Mi es i gyta'r tram car a mi landes yn Ynysforgan. Yno mi welas y cynel a mi feddylas y bysa lle tawelach i dramp gyta glan hwnnw nag ar

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5479) (24 Mehefin 1915)

y ffordd. On i ddim weti climercan ymhell na welwn i ddyn bach yn etrych arna i felsa fa'n meddwl taw jerman spei mwn disgeis on i. Dyma fa mlan ata i ag yn cewcan ar y nghos i ag yn y'n llyced i bob yn ail. Tramp y "Darian," mynta fa, o'r diwadd yn syten, ma dy gerddediad yn dy gyhuddo. Fysa fa ddim iws i finna watu, ne mi fyswn yn gneud peth fysa heb fod yn unol a ffeithia, ys gwetws Eryr Parc y Cwm. Mi ddialles taw mishtir y cynel odd y dyn er na wetws a ddim o hynny i hunan. Mi wetws y dyn wrtho i fod disgwlad mawr am dana i yng Nghlytach a fod gohepydd y "Darian wedi trefnu prosesiwn mawr o feirdd Cwmtawa i ddod i gwrdd a fi, a bysa'r bras band yn canu o'n bln ni a chwrdd croesawu'r Tramp yn yr Asembli Hl, Pentra Malwod. Wel, mi fues i jest a chl ffit, ag yto on i'n timlo'n ddiolchgar iawn i'ch gohepydd parchus a beirdd Cwmtawa am y nghyfrif i'n deilwng o'r fath anrytadd. Gyta hyn rodd bd, steilish yn dwad lan ar y cynel, a mi drefnws y mishtir a'r captan i fi gl lifft yn hwnnw er mwyn arpad y nghos i. Rodd y cynel a'r hewl yng ngolwg i giddyl, a mi halws mishtir y cynel ryw grwt bach i'r hewl i wed wrth y beirdd a'r band am droi nol, a hwthu'r cyrn a chnoco'r drwm gymint a gallan nhw a cherad yn yr un rt a cheffyl cynel am fod y Tramp yn mynd yn y bd. A dyna brosesiwn odd hwn, fi a'r mishtir a'r captan a'r criw yn y bad a'r band a'r beirdd ar yr hewl. A rodd hi'n well felny i fi o lawer. On i'n cl

 

 

 

 

 

 

 

 



 

 

 

None

(delwedd 5480) (24 Mehefin 1915)

y miwsic i gyd heb ddim o'r lluwch odd ar yr hewl.

 

Dyma ni wrth Hewl-y-bont Street, mynta mishtir y cynel, mi landwn ni fan hyn. Wel dyna enw mynta fi. Ie, mynta mishtir y cynel, ma fa'n frawd i Clydach-on-Tawa, yn arwydd sicr o'n dirywiad cenadlaethoi ni'i Cymry ac o aneffeithiolrwydd cyfundrafn addysg y wlad. Mi es i trw Hewl-y-bont Street i'r hewl fawr. Pan welws y Gohepydd fi dyma fa'n towlu i het i'r awyr a'r beirdd i gyd yn gneud yr un peth ag yn gwaeddi, "Tramp y Darian ffor efar. Yna ni ethon gyta'n giddyl ymlan i H1 fawr Pentra-malwod. Yno mi ges introdycsiwn i feirdd dirifeti. Ond welas i ddim cwrdd mwn shwd le o'r bln. Rodd yno fordydd hir a lot o shorta o ffid arnyn nhw a photeli o bob lliw a llun, achos fod y tywydd dicyn yn sychetig a'r beirdd weti llyncu lot o luwch. Mi gyhoeddws rhywun fod yno ddiod yn siwto pawb, y templars a'r twmblars, ag am i bob un ddewish pun fynsa fa. Mi fuws hyn bron arwan i dicyn o rifoliwshon. Odd rhai'n treio gwed fod y geira yn rifflecto ar y Tramp a hynny ddim rasol iawn mwn cwrdd croeso. Cyn i ddim annymunol iawn ddicwdd mi gotws Alfa, a mi wetws gwpwl o eira gyta nerth a dylanwad fel hyn: Yn enw'r beirdd a'r bobloedd ac er mwyn anrhytadd y gwr o fri sy weti dod i'n plith, na wnelar ei gwrdd croesawu yn gwrdd croesi. Islaw urddas beirdd yw ymryson ynghylch geira. Gadawer hynny i rai sydd a'u traed yn y pridd. Cofier mai beirdd ydym, ac nad ddylasa geira a dramgwyddant ddynion o radd s fod yn I rhwystr i feirdd:

 

Templars a'r twmblars byddwch yn ffri,

Yfwch y peth fo'n cytuno a chi, Alltudiwch y croesi gwaela'n bod, Unwn mewn croesaw i Dramp o nod.

 

 

 


None
(delwedd 5481) (24 Mehefin 1915)

Mi etholwyd bardd cenedlaethol o'r cylch i'r gatar. Rodd y spitshis i fod after dinnar i gyd. Rodd yno deligram a llythyra wedi dwad nes on i'n ffaelu napod ymhunan. A gwed y gwir i chi on i ddim yn suwr pun a fi na rywun arall on i. On i'n onfi byse raid i fi gwpla'n stori run fath a hwnnw odd yn gwed i hanas yn mynd lan mwn balwn at y ser a'r planeta, a'r rhai'n grondo arno a'u llyced a'u ceca'n acor. Ond pan on i'n paso'r lleuad, medda'r dyn, mi saethws yr hen dorrwr Sapath sy'n byw yno ata i, a mi fyrstws y balwn. Shwd buws hi wetin? mynta rhywun odd yn grondo. O mi ddihunas i, medda'r dyn. On inna'n ofni taw dihuno byswn inna a taw gweledicath odd y cwbl. Ond ma'r peth yn rial, ne dw i ddim wedi dihuno yto. Mi fuodd yn dicyn o ddatla ynghylch riporto'r cwrdd, ond yn y diwadd mi ddiseidwd mod i i riporto'm hunan, na alia neb neud yn well. Rodd llawer o brygethwrs cyrdda mawr, mynta nhw, yn gneud hynny, a pham na allwn inna neud yr un peth a nhw.

TRAMP.

...

 

 

 

None

(delwedd 5491) (8 Gorffennaf 1915)

Y Darian. 8 Gorffennaf 1915.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, Os yw'r fwyalchen yn gwed y gwir mi fuws yna rai pethach yn y nghwrdd croesawu i na wyddwn i ddim am danyn nhw. Wi'n cofio clywad swn canu ond on i'n tw ffar gon i wpod pwy odd yn canu, ond wi'n timlo'n ddiolchgar iawn i Telorydd a Myfyr Baran os buon nhw yno ag os canson nhw. Dw i ddim yn meddwl rhyw dwryn o gn Gwilym Cynlais i'r Tramp chwaith. Dyw hi ddim yn trw tw netshar os gwetws y bachan yna ma Clydach Tomos yn darlithio arno. Ond dyna un rhyfadd yw bardd, a rodd Gwilym druan yn meddwl y bysa'n athrylith i'n disgleirio mwy dim ond rhoi racs am y nghorff i, a bysa nhalant i'n lanach dim ond rhoi baw ar y ngwymad i. On i ddim yn dost, chwaith, pan ddes i yma, ond odd isha rwpath i hodli a Chlytach a mi wetws Gwilym "Doed yn holliach. Trics of the tred yw pethach fel hyn, a rw i'n sylwi fod Morgan Lewis y tilwr yn gneud pethach tepig, os yw Dafydd y Crydd yn i riporto fa'n iawn. Ma'r Crydd wedi llyncu polyn achos i fi fod mor garetig a dangos iddo fa'i anwybotath. Dyna'r diolch y'ch chi'n gal yn y byd yma. Ma fa wedi darllan mwy o lyfra nag w i wedi weld o datws, ond wedi u darllan nhw ma fa. Dyw a dim yto'n gwpod y gwahaniath rhwng "Alis" ac "Allies." Pwy sens yw gwed ma'r Allies sgrifennodd ata i. Ond dyna ma atnod fel hyn ar y pwnc yn rhwla

"Chwyd y Crydd byth yn uwch na'i lapston.

Odd dim isia iddo fe wed fod yr hen Sian Landeilo a fynta'n bartnars. Ma pawb yn gwpod hynny!

Dyma le iawn sy yng Nghlytach yma. Odd yma steddfod mwn tent dydd Satwn, a mi enjoies i mhunan yn grand a rw i'n mynd i wed yr hanes y tro nesa; odd yno litl biwtis o bob man ag onbai mod i wedi cal llythyr orwth Alis, wel, mi fyswn i dros y mhen a nghlusta. Mi welas fishtir y cnel o bell, ond wn i ddim beth odd y matar arno fa odd a'n dishgwl felsa'r doctor wedi gwed wrtho am neud i wyllys. Ne falla'i fod a wedi colli yn y Steddfod, beth wn i.

Wi wedi cal lot o lythyra yn y'n infeito i i lefydd erill. Mi ddath un o Fforestfach fel hyn: Diar Tramp, Wil yw ceindli onor ys with a fisit. Dder ar meni hiar hw wd leic to see what yw ar leic."

Ddath llythyr arall o Gwm Garw fel hyn :Tramp y Darian, Diar Syr, Wi ar dei-in tw see yw at ddi Garw. Feri himportant bisnes. Ywars triwli."

A llythyr arall o Gwmbychan fel hyn: - Mr. Tramp, We ar hinfeteret consiwmars of ywar prodycsiwns in ddi Tarian. Wi haf meni things tw tel yw. Ddei wer owt a hyntin hiar ddi oddar dei, and thei ct a litl sheep dog insted of the blwmin ffocs.

Beth ma'r tacla'n sgrifennu Sysnag fel hyn i gyd. Mi af fi am dro i'r Garw r wthnos nesa am noswath ne ddwy a mi weta'r hanas ar ol hanas y Steddfod, a Chraigcefanparc a Threforus. TRAMP.

 

 

 

None

(delwedd 5492) (8 Gorffennaf 1915)

BYGWTH Y TRAMP.

Mishtir Golycydd,

Y mae geni gwyn pwysig aruthrol i ddwyn ger eich bron. Y rheswm mod i'n i dodi e ger eich bron chi yw hyn. Yn ol dim ag wy i'n deall o'r gyfrath, mai chi sy'n gyfrifol am bopath sy'n ymddangos yn eich papur; ac yn awr heb fynd o gylch y llwyn mi weta i beth sy geni. Y mae rhyw un o dan yr enw Tramp" wedi bod yn scrifennu ich papur chi yr wythnos ddiwetha, ac wrth neyd hynny wedi gneyd lot fawr o ddrwg i fi. Mi explaina i y cyfan i chi, Mishtir Golycydd. Nawr y mae y Tramp wedi gwed i fod e wedi dod i fanc y cnel ar bwys Pont Ynysforgan (mae hyna yn olreit so far) ac i fi ofyn i'r captan roi lifft iddo yn y bad. Wrthotas i ddim lift i neb os bysa fa'n deidi. Mae yna yn reit eto. Ond dyma lle mae'r drwg yn dwad miwn. Mae'r Tramp wedi boddran cyment am y lifft nes mae'r son wedi myrid i gluste'r High Athorities. Ma cwmni'r cnel yn derbyn y Darian er pan ma'r Tramp yn ysgrifennu iddi. Nawr cofiwch hyn, Mishtir Golycydd, dyw'r bate ddim i fod i gario pasingars, yn enwetig tramps. Dim ond gwds ma nhw i fod i gario. Ac yr wy i wedi dod i lot fawr o fwstwr o achos hyn, a dw i ddim yn gwpod yn y byd lle cwpliff e. Mae yn ddicon posib ma'r sac gaf i, a ma'n rhy ddrwg i fi gal y'n stopo o achos rhoi lifft i dramp; ond efe sy wedi neyd y cawl i gyd ac y ma'n rhaid iddo fe i yfed e'n nawr. Yr wy i wedi bod yn wilia gyta llawar o'r dynion mwya pwysig yng nghwm y Jacks beth sy ore i neyd yn y mater achos ma'n job i yn y balans, ac y mae lot fawr o'r dynion hyn yn gwed -wedi iddi nhw ddarllen y "Darian" i fod e'n ges o slandar. A dyna o nhw n adfeiso i fi odd hyn, ac am i fi neyd e ar unwaith Engago Lord Balaclafa i gymryd y ces mwn llaw. Yr wy i'n nabod Mynyddfab yn dda, ac y ma'n siwr o ddod yn drwm arno fynta hefyd achos taw fe odd y Cadeirdd yn Croesawi y Tramp i Clydach. Fe fydd mor tw ffolo i ddilyn os na ddaw apolodgi.

MISHTIR Y CNEL.


...

 

 

 

None

(delwedd 5501) (22 Gorffennaf 1915)

Y Darian. 22 Gorffennaf 1915.

 

Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd,

Dicyn yn arw buodd hi arna i ar y ffordd i'r Garw. On i wedi'n shiglo nes on i'n ynconshws bron yn y bws sy'n mynd o Dreforus i Berafan, a chyn i fi ddod ata mhunan yn iawn fe fu raid i fi ddiffendo mhunan. Son am non-assistans, wir, pwy sens yw hynny. Odd yno ryw fachan cloff, didalant, wedi cal i gyhuddo, mynta fe, taw fe odd Tramp y Darian, achos fod un gos iddo fynta'n fyrrach na'r llall. Ma raid fod y rhai odd yn i gyhuddo fa'n dwp iawn os on nhw'n dishgwl im nhalant i yn nhrad y criatur hynny. Fuas i ddim llawar gwath o'r beltan rows a i fi pan ddes i lawr o'r bws, ond rw i'n suwr na fydd arno fa ddim isia iwso'i ddyrna ar ddynon talentog yto ar ol y peth gas e gen i. Os dim raid i ddyn, am i fod a'n dalentog, odda i bob sothach fynd yn rhy ecar arno fa. Falla bydd hyn yn hint i rywun arall hed.

Odd hi'n lled hwyr nos Fawrth arna i'n cyrradd i Bontycymar, ond trw lwc mi gwrddes a Mr. Holderman Sandars, a dyna fachan caretig odd a. Mi ffeindws lodgin i fi gydag un o'r gwidwod bach glana welsoch chi ariod, a mi ges i le ffyrst clas yno hed. Rw i wedi promis i'r witw fach hyn taw i Bontycymar y bydda i'n dod pan fydda i'n

 

 

None

(delwedd 55032) (22 Gorffennaf 1915)

setlo lawr i labro'r nos am dri mis y geua nesa fel arfar. Dydd Merchar mi es i whilo am y Darian,' a wedi cerad obothtu dicyn mi ddes i siop bapra dyn o'r o'r [sic] enw Mistar Fox - dyn o dalant ag amynadd mawr sy'n byw yn y Garw. Gwd mornin, syr; feri ffein mornin," mynta Mr Fox, a rodd ynddo ddicon o sens i ddishgwl yn y ngwynad i a nid ar y nhrad i fel ma rhai dynon didalent yn neud. Wleuwch Gwmrag, Mistar Fox, mynta finna, ry'ch chi'n un o Gymrodorion y Garw, a ma fa'n weddus i chi'n anad neb i barchu'r hen iaith. Fi yw Tramp y Darian." Wel, bendigetig, cant a mil o groeso i chi," mynta Mr. Fox; ishteddwch." Gyda mod i'n ishta dyma'r Bwtshwr i fewn, dyn dicyn yn feirniatol i olwg yw hwn ag yn dishgwl yn ofalus cyn bydd a'n rhoi'r drod nesa lawr a mi sefa yn hir ar un gos cy[n] rhoia fa'r drod arall mwn twll.

Y pwnc odd yn pwyso ar feddwl y Bwtshwr odd y Prins o Wels Ffynd a'r Local Relff Ffynd. Mi wetas i nag on i ddim yn napod Mr. Prins o Wels na Mr. Local Reluff. Ar ol iddo sbonio mi ddialles beth odd gytag e, ta rhyw ffynds odd y ddou hyn wedi starto. Wi'n cretu dim yn y Prins o Wels Ffynd mynta fa, ma hi'n depig i ffynd ecsploshwn. Ma nhw'n gwaeddi am arian a ma arian yn llifo miwn. Ond dyw'r arian ddim yn cal i hala i gyd, ma nhw n catw lot fawr o nhw pan fysa'n dda i lawar u cal nhw. A ma nhw'n gwed fod lot o ffynd y Prins yn mynd yn gyfloca i offishals. Local reluff i fi, a phawb i ofalu am rai sy mwn angan gartra.

Erbyn hyn odd lot wedi dod yno i byrnu'r "Darian," a dyma un on nhw'n

 

 

 

None

 

(delwedd 5503) (22 Gorffennaf 1915)

galw Shoni arno fa yn clapo cefan y Bwtshwr ag yn gwed wrtho fa - "Da iawn, sens bob gair. Wi'n gwpod am fenyw fach odd isa help, a mi ath un o Bwyllgor y Prins o Wels ati, a mi dynnodd rolyn bapur gymint a chyfrath Moses o'i bocad a mi ddechreuws i holi hi, nes odd y fenyw fach wedi cal ofan ag yn dechra onfi'u bod nhw'n i chym- ryd hi fel German spei, a dyw hi ddim wedi bod yn dda iawn byth oddar hynny. On i'n gweld un arall o'r enw Dafydd yn partoi i geg i wed rhwpath. Wara teg, mynta fa, ma'n ddicon awdd i ti Shoni wilia'n dwp ar dy gyfar. Ond eiddo Cesar i Cesar o gwetws y proffwyd. Ma arian y Prins o Wels wedi u clasgu gen y wlad a sopyn o ddynon wedi gneud aparth i rhoi nhw, a dyw a ddim yn deg u rhoi nhw heb infestigesion i hanas y rhai sy'n u cal nhw, a fysa rhai sy'n u rhoi nhw'n cal u syrtjarjo. A rodd ffynd y Prins a'r waith yn helpu ag yn gwasgaru trugaredda cyn i Local Reluff ddihuno.

Betar bi widdowt tham, os s incwisisiwn i fod, mynta'r Bwtshwr. Dyma ryw fachan o goliar yn gwed fod lot yn yr hyn odd Dafydd wedi wed. Dodd ffynd y Prins o Wels, mynta fe, ddim yn gwitho fel dylsa hi. On ni'r gwithwrs yn talu wech chinog yr wsnoth at ffynd y Prins er mwyn helpu'r rhai odd mas o waith a rhai odd yn ffeulu cal glo dan ddwy bunt y dunnell, a ninna'n i dorri fa am ddouswllt y dunnell, ond on ni'n ffaelu cal arian mas pan fysa isia, a mi jacon ni ddi lan. Pwy sens odd talu miwn a chal dim mas. Ma rhwpath yn yr hyn wetws y Bwtshwr hed, mynta'r bachan o goliar yto. Ma yna lot o arian ffynds wedi cal u cloi lan. Mi weta i hyn, os clasgu arian at rwpath, nhw ddylsan gal u hala at y rhwpath hynny.

Odd yno un o'r enw Morgan heb wed dim, a dyma fynta nawr yn gwed dy'ch chi ddim yn gwpod bois beth ma pwyllgor y Prins o Wels ffynd yn neud. Beth am y milodd punne ma nhw wedi roi i'r rhai odd mas o waith ag at y Red Cross a'r Ambiwlans? Otich chi'n gwed nag yw rheiny ddim yn deilwng o'u cefnocath ni? Os dim un o chi'n gallu apad. Wi'n gwpod taw ar ol y cwymp y'n ni'n byw, a dyw'r Pastwr Rysal yna ddim wedi dwad a'r mil blynyddodd i ni fel odd a'n addo. Os ewn i i ffeindo beia ar bopath mi fyddwn i gyd cynddrwg a'n giddyl a gwath hefyd. Ie, mynta Mistar Fox, os ewn ni i aros nes byddwn ni wedi'n perffeithio cyn gneud dim, mi fydd y Germans yma'n gynt nag y'n ni'n feddwl. Beth ych chi'n wed Tramp? Rwy' run farn a chi, sir, myntwn inna, a mi hala i hanas y cwrdd i'r Darian. Ond mi weta i hyn wrthoch chi i gyd yn ych gwymeta chi. Rw i'n teimlo dros y fenyw fach hynny on nhw'n holi cyn rhoi help iddi! Cyn byswn i'n gwed y'n hanas er mwn help neb mi fytwn y'n het, tawn i byth o'r fan yma. (Hiar, hiar.)

TRAMP.

 

 

 

None

(delwedd B2271) (21 Hydref 1915)

21 Hydref 1915. Y Darian.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd,-

Fel gwetas i o'r blan, mi fuas i yn Hundab y Baptis yn Hewlyfelin. Dyw'r pethach hyn ddim llawar yn y'n lein i fel y'ch chi'n gwpod, ond odd Parcwyson yn gwed y dylswn i fynd yno i glywad yr Hedgar, a mi es, a dyna un o'r pyrfformsis gora w i wedi weld yto. Ar ol yr hintrodycsiwn, dyma'r Hedgar i'r platfform, a mi synnas i dicyn. On i wedi meddwl fod pob Hem Pi yn ddyn mawr, tew. Dim ond Mapon a John Williams wi'n napod o henyn nhw, a ma nhw'n ddynon sybstanshal. Rw i'n napod Mishtir Stanton hed, a ma fynta wedi treio am yr Hem Pi. Ond dishafoni'n bridd, ys gwetws Dewi Chwefror, dyw'r Hedgar ddim mwy na rhyw wan thyrd o Mishtir Stanton. Fe wetws yr Hedgar dicyn bach yn neis iawn am Keir Hardie, ond wedi iddo gwpla gwed hyn, fyswn i'n meddwl fod rhywun wedi twtsh a rhyw spring yn rhwla, a dyma fa'n neido 'nol a sefyll yn streit, i drd a'n glos idd' u giddyd [sic; = giddyl], a'i ddwy law a lawr wrth i ochra fa. Yna, dyma un fraich yn saethu lan, a dyma'r llall lan a honno lawr, y peth perta welsoch chi ariod! Dyma fa'n bwrw un law ymlan yn streit a'r Hall nol. Dyma'r ddwy law mlan gyda'u giddyl yto a fynta'n downso ticyn. Dyma'r ddwy law lan ag yn dwad lawr felsa fa'n treio bachu rhwpath yn yr awyr, a felny buws a am hannar awr. Odd yno ryw fachan blewog o'r North yn ishta yn y'n ochor i, wedi dwad yno'n "ddeligat" medda "fo," a mi ofynnws i fi Be oeddach chi'n feddwl o'r arath?" Jawcs i myntwn i feddylas i ddim am rondo ar yr arath. Dishgwl ar y perfformans a watsho'r springs yn gwitho bues i a rw i'n rhoi'r ffyrst preis iddo fa'n hunfrytol.

 

Ma'n ddrwg gyta fi wed fod Parcwyson pan w i'n scrifennu wedi gorffod mynd i Llundan i weld doctor. Rw i'n gobitho daw a'n nol i'r Parc yn iach heb fod yn hir, wath ma fa wedi bod yn help mawr i fi, ag os gneiff tri mesur petar lein bach fel hyn ryw les iddo fa dyma nhw:

 

Tyrd yn dy ol, Parcwyson,
I hen rodfeydd y Parc,
A chaniad yn dy galon
A'i swvn fel nodau larc.

Ma'r adar yn dy erfyn,
Cwnhingod o un fryd,
Yn synnu, neno'r brenin,
Ble rydwyt ti gyhyd!

A phwy a wyr na chlywi
'R Fwyalchen ar ei hynt,
Ar frig rhyw bren yn canu
Ei nodau per i'r gwynt.

Dyma'r llythyr ges i o Cwmbwrla: -

Annwyl Mr. Tramp, - Dw i ddim yn gwpod a otich chi'n catw map o'ch teithia ne bido. Os otich chi, fe ddylsach farco Cwmbwrla arno fa, a dyw Abartawa ddim ymhell o Gwmbwrla. A ma nhw yn y ddou le hyn yn teimlo bo chi wedi iselhau ticyn arnyn nhw wrth beido galw yno. Yn lle hynny dyma chi'n mynd off acha whew i Lansamlat gyta Dewi Chwefror. Mi fuo inna yn gwitho yn Brigro, a fel odd y Giaffar Rhys yn gwed odd yr Hen Bwll yn smatic witha a phan ddetho i odd yno rodd ticyn o brown teitus arno hed. Ma'n syndod fod y giaffar i hunan yn catw mor iach a golycus. Ond dw i ddim yn mynd i'ch blino chi, annwyl syr, a hanes y mhunan, a 'dos arna i ddim isia dwad yn enwog fel chi, rhag ofan i fi golli mhen. Ond ma lot o bethach yng Nghwmbwrla allach chi whilo mas, tasach chi ddim ond dwad yma a'r wyntyll yn ych llaw. Fe ofaliff y Dewi, Cwmbwrla, yna ma Dafydd y Crydd yn son am dano, a finna ffeindo lle piwr i chi i lodgo yma. Cofiwch fod Cwmbwrla'n sentar i Abartawa a'r cylch. Yr eiddoch, yn dishgwl am danoch chi, Dafydd Domos, 207a Cae-brics, Cwmbwrla.

 

Ma llythyra wedi dwad i law orwth Fachan o Dredecar, Bardd y Stac, Gwilym Cynles, Eryr Parc-y-Cwm, ag orwth Alis y'n hen gariad a'r witw fach o Bontycymar.

TRAMP.

 

 

....

Sumbolau:

a A / / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / : / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / /
ɥ
ˡ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_0188k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf /
Latest updates / Darreres actualitzacions: 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait


Freefind:
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHATS NEW?


CYMRU-CATALONIA