kimkat0188k Llith y
Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1915.
22-11-2022
Gweler hefyd / Vegeu també /
See also:
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....
(delwedd J7058b)
.....
O
newyddiadur ‘Y Darian’ (Aber-dâr).
11 Chwefror 1915
.....
22 Ebrill 1915
...
27 Mai 1915
...
17 Mehefin 1915
24 Mehefin 1915
...
01 Gorffennaf 1915
08 Gorffennaf 1915
22 Gorffennaf 1915
...
02
Medi 1915
23 Medi 1915
...
21 Hydref 1915
...
2 Rhagfyr 1915
9 Rhagfyr 1915
16 Rhagfyr 1915
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb
ei gywiro
|
|
(delwedd G2082) (11 Chwefror 1915) |
Y Darian. 11 Chwefror 1915. Llith y Tramp. Mishtir Gol., — Ma gwr y ty
lle rw i'n lodjo yn ishal iawn i ysbryd, a ma'n depig gen i fod bardd yn
gallu mynd yn ish na neb arall, a hynny am i fod a'n mynd yn uwch na neb,
ne'n meddwl i fod a'n mynd yn uwch ta beth. Ond dw i ddim mor shiwr am hynny,
a ma gwraig y ty 'ma o'r un farn a fi. Fe gas i siomi, gwr y ty w i'n feddwl,
yn steddfod fawr Pant-y-crwth yn neintin hyndrad and ffortun odd hi pyrtynny.
Fe odd yr ail ora ar destyn y gatar. Odd a "ar drothwy'r gogoniant” ys
gwetws Homo Ddu, a fe fu raid iddo ishta ar y llawr, a lawr ma fa wedi mynd a
fe fydd yna dicyn o waith cwnni arno fa hed. Fe wetws y beirniad taw rhy
fach o bowdwr i apad i rif y bwlats odd y gwall mwya yn i hawdwl a, a dylsa
fod mwy o farddonol swn canons mwn cyfansoddiad ar "Frwydyr Mons.” Ap
Crychydd y Dwr o Gwm Rhyd y Glew odd y buddugol. Fe wetws y beirniad fod
gormod o frawddeca llanw yn i hawdwl ynta hed, fel "dwr gwlyb,"
"tan twym," "lloer wen," a "lleuad felen"— "Y lloer wen yn llwyr
weini Eirian wawl i'n milwyr
ni." "Leuad wen, aros heno,
A channa'i lwch annwyl
o." Mi welas i fwy nag un ferch
ifanc yn colli dacra pan ddarllenws a'r ddwy lein ola, a mi ath y lle mor
ddistaw a mynwant, a'r distawrwydd hyn odd un o'r petha gora weles i yn y
steddfod. Dyw gwr y ty ddim yn folon
ar y feirniadaeth. Fysa neb, medda fe, yn rhoi catar ond catar babi i un alla
son am ddwr gwlyb a phetha felny. Ond dos dim dowt gen i nag odd y beirniad
yn iawn wath odd gytag e lythrenna wrth i enw a rheiny wedi dwad o'r Merica. Wn i ddim shwd y bysa hi ar
i wraig a a finna yn y ty yma onibai i'r gwr ennill ar yr englyn i'r
"Gwrcyn,” a dyma fe – "Gwr y gath, go hir ei
gwyn,—yn y nos Mae'n wyllt ac anaddfwyn; A lleidr o flew llwydwyn A thad myrdd o gathod
mwyn." Fe welwch fod rhwpath yn i
ben a hed pan geiff e destyn sy'n i siwto fa. A wir ymhen wthnos ar ol iddo
fynd i'r nos wrth golli'r galar fe allws ganu: "Fe ddaeth i mi
lygedyn Yn nos fy siom i'm bwth Wrth ennill ar yr englyn I 'gwrcyn'
Pantycrwth." Ymhen wthnos wetini rodd
a'n son am ddatblygu'r pennill hyn yn bryddast odidog ar "Doriad
Gwawr." Wel mi ges i waith labro'r nos a gwaith trwm yw a hed, fyse'n
well gen i gynrychioli beirdd mewn steddfota o lawar taswn i ddim ond cal
dicon o waith. Ma'r gaffar yma sy arnom ni'n wath na'r un cwrcyn am gatw swn.
A mi weta i air am dano fa eto.—Tramp. |
.....
|
|
(delwedd 5890A) (22 Ebrill 1915) |
22 Ebrill
1915 Y Darian Llith y
Tramp. Mr. Gol.,
- Dyw e ddim yn fontesh i chi bob amsar fod un gôs i chi'n fyrrach ca’r
llall. Ma fa'n golycu ticyn o yps and downs yn y byd yma. Wi’n gobitho pan ga
i'n atgyfodi y ca i 'nwy gôs fel on nhw cyn i'r hen feniw yna yn Llandeilo,
mam Alis, dorri un o honyn nhw i fi. Mi ganws un bardd unwaith, a nid bardd
safonol odd a cofiwch, fel hyn: "Huw
Huws y goes fechan a'r llall yn goes fawr, Sydd yma
yn gorwedd yng ngwaelder y llawr; Pan gyfyd
i fyny ymhlith [yr] holl saint, Fe fydd y
ddwy goes wedi tyfu'r un faint." Odd rhyw
lob yn y "Darian" ys tro nol yn gofyn ble odd y'n beirdd
cenedlaethol ni. Wel dyna un o honyn nhw iddo fa. Wi'n mentro gwed wath gen i
beth wed Morgan Huws y tilwr na gwr y ty lle on i o'r blân, fod awdwr
"Huws Huws y goes fechan” yn fardd cenedlaethol. Beirdd cenedlaethol
Cymru yw rhai sy'n gwneud pethach anfarwol, pethach y'ch chi'n difyrru'ch
giddyl a nhw, a phethach sy'n catw'r haul ar ych gwymad chi o hyd. Wi'n
ffeulu gweld shwd gall bardd safonol fod yn fardd cenedlaethol, wath os neb
yn darllan nag yn adrodd i waith a, os na fydd ar rywun isha cysgu'n dost.
Cofiwch chi dw i ddim yn ama na all fod dyfodol i'r beirdd safonol mwn rhyw
fyd ar ol hwn pan fydd gan ddynon amsar i fynd drw'u hawdla a'n [sic; = a’u]
pryddest nhw, ond ma poeni gyda nhw mwn bydlle nad yw dyddia'n blynyddoedd ni
ond deng mlynadd a thrican ar gyfartaladd yn ormod. Ma raid i ni gal rhwpath
i'n cynnal ni ar hyd y daith. Ma gen i ryw syspisiwn hefyd taw'r pethach sy
wedi bod o help i ni yma fydd fwya poblocadd yr ochor draw hed. Fydd well i'r
beirdd safonol a beirdd tywyllwch y fagddu edrych ati wath yn ol i ffrwytha
yr adnabyddir hwynt. Ond dyna on i'n mynd i wed wrthoch chi ma Huw Huws y
goes fechan wedi bod o gysur mawr i fi yn y'n yps an downs, ag i lawar erell
y gwn i am danyn nhw sy a'u coesa heb fod yr un hyd. Ma'r gan fach swynol hyn
wedi rhoi ticyn o opath i ni y gallwn ni ddishgwl ymlan am rwpath gwell pan
ddaw hi'n sgrech arnon ni yn y pen blan yna. |
|
|
(delwedd 5890B) (22 Ebrill 1915) |
Fel
gwetas i yn y wasg ys tro nol on i wedi meddwl cal shiwt o ddillad newydd yng
Nghwmparc, ond fe ddath u hisha nhw arna i'n gynt nag on i wedi meddwl. Dodd
y dwr y cwmpodd gwr y ty a finna iddo yn y'n llith o'r blan ddim yn rhyw lan
iawn a nath a ddim lles i'r dillad fel gwyr pawb yn dda sydd wedi dicwdd
cwmpo i le tebig u hunen. Ond dos dim un drwg yn ddrwg i gyd. Ys gwetws yr
hen wraig o war Llandeilo slawar dydd, wel, wel, os lloscws y ty ma gyta ni
ddigonedd o lutu i'r ardd nawr. Mi gas y tilwr job gen i'n gynt nag on i'n
meddwl. Mi halws y nghoesa i fa i dicyn o bemblath wrth 'y mesur. Fe wetws
fod un gôs yn hirach na'r llall gen i. Chlwas i neb yn gwed hynny o'r blan
mynta finna. Naddo, mynta fynta mwn stwmp. Naddo, mynta fi, gwed ma nhw i gyd
fod un yn fyrrach na'r llall. Beth bynnag i chi, heb ymhelaethu os gwetws y
beirniad, pan ddath y shiwt i law a finna'n rhoi mhunan miwn yn y trowsis a
nghoesa i yn y coesa odd yn apad 'u hyd nhw yn y trowsis newydd, rodd y
trowsis yn ceuad y tu ol i fi. Wyddwn i ddim a odd y tilwr yn meddwl newid y
ffasiwn ne beido, ond on i ddim am fod mwn ffasiwn ar ben y mhunan. Mi es
lawr o'r llofft i gal gweld a alla gwr y ty ne'r wraig roi rhyw ola i fi ar y
matar. Mi dyfares i neud hynny hed wath mi fu'r wraig bron mynd i ffits.
Onbai'n bod ni wedi colli'r teliscop y nos o'r blaen mi fysa'r gwr wedi mynnu
gweld os odd y planeta'n gwed rhwpath ar fatar fel hyn. Dodd dim un o'r ddau
yn cofio gweld trowsis felny gan neb yng Nghwm-parc o'r blan. On inna'n
teimlo taw peth go letwith fysa trowsis yn ceuad, y tu ol i chi. Mi wisges y
nghot fawr drostw i a mi es ag e am dana i at y tilwr. Nid trowsis fel hyn on
i wedi feddwl gal, mynta fi wrtho. Mi ddishgwlws yn dwp arna i nol a mlan lan
a lawr. Wi'n cofio, mynta fi, am bregethwr wedi mynd i fyw i dy newydd, a odd
a'n meddwl y byd o hono fa, ond odd un bai arno, rodd drws i ffrynt a yn y
talcen, ond pia'r trowsis hyn wedi hala'n ffrynt i i nghefan i. Ond heb
ymhelaethu yto, mi welws ble'r odd y drwg; rodd a wedi cymysgu'r ddwy gôs. Ar
ol i ni gonsylto a'n gilydd ni bendarfynson taw'r peth gore fysa opereshon
fach a'r goesa'r trowsis. Wedi gneud hyn mi ddath idd i le. Ma gen inna shiwt
nawr erbyn daw'r tywydd dicyn bach yn well. Wi'n clywad yr hewl fawr yn
dechra galw arna i. Dyw a ddim yn bleserus iawn i labro'r nos pan y'ch chi
clywad yr atar bach fp canu pan y'ch chi'n mynd i'r gwaith. Ma'n dda taw rhyw
hannar dwsin o atar sy yng Nghwmparc, tysa yma gor o honyn nhw fysa yna
ddiwadd ar labro'r nos ys tro. Ma yma ddwy ne dair bran yn dwad witha ma
rheiny'n fwy o help i chi fynd lawr i'r pwll run fath a ma'r beirdd safonol
yn help i chi fynd i dir angof. TRAMP. O.N. — Ar
ol i fi roi adres Erys Parc y Cwm yn y "Darian," rw i wedi cal
ceisiata am i fi feirn'atu mwn tair steddfod a rhwng yr arian wi wedi sefyll
wrth labro'r nos a byw'n giwt a'r arian ga i am feirniatu, a dyw rheiny ddim
yn ecstrafagant iawn, rw i'n gweld galla i fyw am whech mis heb witho dim.
Lwc owt nawr am ddod a'r beirdd idd 'u sensis. Dw i ddim llawar o fardd y
mhunan, ond mi wn i shwd idd i rhoi hi iddyn nhw. Dyw rhaglan yr Eisteddfota
ddim mas yto, a wn i ddim yn iawn beth fydd y testyna, ond rw wedi dechra ar
'y meirniatath yn barod. Wi'n gobitho bydda i wedi penderfynu ar ffugenw
erbyn hynny. — Tramp. |
...
|
|
(delwedd 2460a) (6 Mai 1915) |
Llith y Tramp. FFUGENWA. Mr. Gol.Wn i
ddim beth i wed am Dafydd y Crydd. Ma fa'n towlu mod i'n whyddo am mod i'n
gallu gneud pennill yn well na fa, a taw dyna pam wi'n whilo am ffug-enw. Dim
ffasiwn beth, os gwetws Huw o'r North. Dos dim whyddi'n acos i fi, ond wi'n
treio tynnu ticyn ohono fe mas o rai, a falla bydd raid i fi neud rhwpath i
ddod a Dafydd idd i briotol faintioli. Arwydd fod dyn dicyn yn ddifalch y
dyddia -hyn yw fod gynto fa ffugenw. Ma fa o'r gora i siopwrs, bwtsheriad,
ocsiwniars a phethach felny i neud u gwaith yn u henwa'u hunen, ag i fcre-
gethwrs a ffermwrs os na fyddan nhw'n ddim byd arall. Ond dw i ddim yn meddwl
llawar o fardd yng Nghymru os na fydd ganto fe ffugenw, yn en- wetig nawr pan
mae enwa Cymry a Saeson wedi myned mor depig idd i giddyl. Dos yma ddim mor
Gymreig y dyddia hyn a ffugenwa'r beirdd. Ma Ma enwa'r beirdd yn dysgu llawar
o hanas a siografli'r wlad i chi, dim ond itydio nhw'n iawn. Ma nhw'n gwed
taw isha bod yn depig i Saeson sy ar y bechgyn yma sy'n rhoi u henwa'u hunen
wrth u gwaith. Dodd dim ffug- enw gyta William Shecspiar a rheina medda nhw,
a ma nhw'n galw'u hunen yn W. J. Gruffydd, yn Morris Jones, J. J. Williams,
Parry-Williams, Williams- Parry, a felly mla.'n. Gymint gwell fysa i'r rhai
hyn wishgo ffugenwa ris- pectabl. A mae Eryr Pare y Cwm o'r un farn a fi. Mae
fe'n gwed taw rhyw dicyn o wendid ddath miwn gyta phlan- ad y bardd newydd
odd pido gwishgo ffug-enw. Odd yr Eryr wedi rhagweld y cwbwl pan drows a'r
teliscop at y ser gynta, a ma fa'n mynd i wed hynny yn i almanac. Ond y
cwestiwn i fi yw cal ffug-enw i'm hunan. Ma'r afonydd a'r nentydd a'r
mynyddoedd wedi mynd i gyd,- Ma hannar y trefydd a'r pentrefydd wedi mynd.
Ma'r siroedd i gyd, a'r plwyf- ydd, a'r misodd, a'r gwyla, wedi mynd i gyd yn
ffugenwa. Ond ma Eryr Pare y Cwm yn gwed wrtho i y galla i eto gal enw o
blith ser y nef. Ma Orion a Phleiadus, ag Arturus a Mercher a Gwener a Iau a
Sadwrn a lot fawr o enwa felny i gal lan yna. Dos arna 1 ddim isha'r enw odd
Dafydd y Crydd yn roi i fi. Dyw Eryr Pwdin Reis ddim yn v enw o gwbl. Wi'n
synnu t Dafydd hed, odd a'n scrifennu felsa fa n jelws o hono i a wedi llyncu
lot o warmod lwyd cyn scrifennu. Rw i'n gobitho fod i wraig a wedi darllen i
lith a a catwiff hi i llycad arno fa. Ma fa'n galw'r awan yn lodas
neis," a ma wraig y ty yma lie wi'n lodgo yn tyngu fod gyta fa rwyn mwn
golwg, cyn bysa peth felna'n dod idd i feddwl a. Rw i wedi cyfieithu i bennill
a i'r Sysnag fel Wake up, muse, and come along And be a lassy nice, Give me
thy help to sing a song To Eryr Pwdin Reis. The Eryr wild and gwr y ty
Together went a-sp unging, And in the kitchen bold and free Had a rice
pudding boiling; For half an hour long or more It boiled, and vessels
bursting, The Eryr saw and then he swore That death was in the pudding."
—David the Shoemaker. Ma'r Eryr yn gwed i fod a'n gyfeithad da iawn, cyslad a
dim alsa neb neud o'r gwreiddiol. Dyw Dafydd ddim yn delo'n deg a'r Tramps
fel cenedl. Ma'r gardians yn gwed fod y Tramps wedi mynd i'r ffrynt bron i
gyd, a nag os dim honyn nhw ar ol ond rhai na fysa Kitshnar ddim yn u derbyn
nhw fel gnath e a fi. Ond caton pawb mi fysa Dafydd y Crydd yn i lid yn gneud
cyflafan ar y pwr dabs sy ar ol ne'n u hala nhw i'r seilam. Pan fydda i'n dod
i Byrtawanesa mi gripa i wallt Dafydd, a hitwn i ddim llawar dod a hynny o
dramps alia i gal ar y ffordd gyta fi a rhoi ticyn o waith i'r speshal
cwnstabls yna i gardo'i gron e a'i ledar e. A tysa'r tramps druen yn cal u
rhoi yn y seilam mi fysa'n fwy rispect- abl i fod miwn yno wetin na bod mas
gyda Dafydd. Ma Eryr Pare y Cwm yn gwed wrtho i am wed wrth Dafydd am
ddarllen ticyn ar i Feibil os o's gyta fa un. Os gen i ddim un ymhunan, ond
ma'r Eryr yn gwed fod yndo fa fwy o hanas tramps na neb arall, a taw tramps
yw'r rhai gora ma fa'n son am danyn nhw: Apram, Isac a Jacop bell, A bechgyn
gora'r llawr— Tramps oent hwy tra yma'i gyd, Yn gwella'r byd wrth geisio'i
well. Dyna fesur petai" lein i Dafydd, a be sy gydag a i wed nawr? Mi
ddylswn wed fod gair wedi dod am y. teliscop a'r tent.—Tramp. Privacy & Cookies Copyright
Accessibility Help About Contact |
|
|
(delwedd 2460b) (6 Mai 1915) |
|
|
|
....
|
|
(delwedd 5496) (27 Mai 1915) |
Y Darian.
27 Mai
1915 Llith y
Tramp. Mishtir
Gol., - Ma Dafydd y Crydd yn treio gneud ffugenw i fi, ond fysa'n well iddo
ddala mlan i neud scitsha a chlocs. Rw inna nawr wedi taro ar ffugenw i
Dafydd, a rw i am i eneinio fa'n “Dafydd y Crafwr.” Ma fa am yn hala i i'r
Seilam ag am dorri nghos arall i. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed fod Dafydd yn
suwr o fod yn perthyn i'r hen Sian Landeilo. ’Dyw Dafydd ddim yn fardd nag yn
feirniad. Ma fa'n gwed nag odd “llawr” a “bydd” ddim yn hodli. Wel nag o'n;
down i ddim am iddyn nhw hodli. Ma fe'n gwed hefyd nag odd Apram, Isac a
Japog ddim yn cario poteli o ser yn u poceti! Ond yw Dafydd yn smart, ne'n
treio bod, ta beth? Falle nag yw e ddim yn gwpod nag odd y “Three Star” ddim
wedi i ’nvento yr amser Apram, ne mi fysa'n suwr o gatw potelad o hono yn y
tent erbyn bysa rhywun yn dost. Gwin o'u nhw yfad yr amser hynny, medda'r
Eryr yma. Ma Morgan
y tilwr wedi gneud cawl o mhennill i wrth i gyfeithu fa, a ma Eryr Parc y Cwm
yn gwed yn brysur y dylsa Morgan a Dafydd gal u rhoi yn y stocs - Dafydd am i
anwybotath a Morgan am leibal ar Apram Isac a Japog. Er mwyn cael rhwpath i
hodli a “seen” ma fa wedi llusgo “canteen” i fesur petar lein ag yn gwed taw
trampo i whilo am le i gal cwrw odd tri dyn mowr yr Hen Orchwylath. Ma Eryr
Parc y Cwm yn gwed y dylsa fod cwilydd ar y ddau. Ond dyna thal hi ddim o'r
ffordd i fi wasto amsar ar y ddou hyn. Wel mi
fuas i lawr yn Byrtawa. Mynd i Steddfod y Cymdeithasa Cwmrag on i ŷn y
Sentral Hôl, a mi fydd gen i lot i wed am danyn nhw |
|
|
(delwedd 5497) (27 Mai 1915) |
yno y tro
nesaf. Mi alwas heibo i Dafydd y Crydd, ond odd a ddim yn y ty. Odd e a
Morgan Huws y tilwr wedi mynd gyda'r plisman a rhyw ddyn i'r Seilam. Wrth
ddwad gartre mi glwes shwd buodd hi arnyn nhw. Pan ethon nhw miwn i'r Seilam
mi wetws y dyn odd ddim yn gall wrth fishtir y lle – “Dyma fi wedi dod a'r
ddou ddyn yma saff i chi, syr. Cymrwch ofal o honyn nhw. Ry'ch chi'n suwr o
gal lot o ofid gyda I nhw.” “Y
d-d-dyn ofnadw,” medda Mor- gan Huws. “Fe yw'r
dyn sy ddim yn gall,” medda Dafydd. Fe
chwerthinodd y plisman, a mi chwerthinodd y dyn odd ddim yn gall am ben y
ddou, a wydda'r mishtir ddim pwy rai o honyn nhw i gymryd miwn. “B-b-b-bardd
w i,” medda, Morgan Huws. Fe fu hyn
bron a setlo tynged Mor-gan. “Ma
rhai'n disgwl am scitsha gen inna,” medda Dafydd, a mi dynnws y binewyd mas
o'i boced, a rodd hynny'n ormod i'r mishtir a mi ordrws I roi'r ddou dan glo.
Erbyn hyn, rodd y plisman wedi cal amsar i sbonio, a mi ddiallodd y Mishtir,
a mi wetws wrth Dafydd a Morgan fod yn dda iddyn nhw fod yna un dyn cyfrifol
gyta nhw ne na elsa nhw ddim gartra'r noswath hynny. Ma Eryr Parc y Cwm a'i
wraig a finna wedi paso fôt o gydymdeimlad a Dafydd a Morgan yn y perigl a'r
brofedicath y buon nhw ynddi, ond ar yr un pryd yn datgan ein barn yn onast
na fysa fa ddrwg yn y byd iddyn nhw fod miwn am wsnoth ne ddwy. Mi baswd y
fôt yn unfydol, on i wedi meddwl rhoi'r englyn nes i i Alis y tro hyn, ond os
gwetsoch chitha, Mr. Gol., mi ddaw yn y nesa. Y TRAMP. |
....
|
|
|
17 Mehefin 1915
Mishtir Golycydd. — Welas i neb ariod yn mentro gwed cymint o
bethach yn i anwybotath a Dafydd y Crydd. Fe wetws mod i wedi mynd i gwrdd ag
Alis y'n hen gariad i pan o'n i Byrtawa. Nawr tysa Alis a finna wedi prioti
fel buon ni'n meddwl gneud, fysa pethach yn wahanol iawn. A tysa Dafydd y
Crydd yn gwpod y cwbwl, fe fysa'n gwpod fod Alis yn Ffrainc pan on i yn
Byrtawa. Odd Alis wedi gweld y'n adres i yn Bwlchyclawdd View Terrace, a mi
halws lythyr neis ata i'n gwed i bod hi weti joino'r Red Cross ag yn mynd mas
i nyrso rhai sy wedi u wowndo wrth ymladd dros eu gwlad. Mi gollas i lawar o
ddacra wrth ben y llythyr hyn, a rw i'n mynd i gatw fa'n ofalus. Mi gofias am ddedwyddwch A fu ym mora ôs, Ac am yr helynt werw Pan dorrodd Sian fy nghôs." A thysa Dafydd y Crydd wedi câl anap fel ces i falla bysa'n haws
i drafod a. On i'n timlo'n falch fod Alis wedi mynd i wasanaethu ’i gwlad a
mi nes i fesur petar lein iddi, a mi gwetas a wrth Eryr Parc y Cwm. Mi welws
yr Eryr y gellid gneud y petar lein yn englyn. Wyddwn i ddim o'r blân beth
odd y gwahaniath rhwng englyn a rhyw fesur petar lein arall. On i weti canu –
|
|
|
|
Y mae Alis annwyl heno, 'N mhell o'i gwlad mwn estron dir; Minna'n hiledd yma'n wylo, Dagra gwaed — rwy'n gwed y gwir. Diaist i, medda'r Eryr, gnewch englyn o hono. Beth yw'rgwahaniath,
meddwn inna. Wel, mynta fa, mwn cynghanedd ma swn cytseiniad yn clecian.
Gnewch y lein gynta yna fel hyn, nawr – Alis annwyl sy heno. Odich chi'n gweld y point, medda fa — fel ma "lisan"
mwn un fraich yn apad "lsyhen yn y llall. Ma hwnna'n fwy tepig i whislan
na chlecian meddwn inna. Ond dodd a ddim gwahaniath am hynny, medda'r Eryr,
tra fasan nhw'n apad y naill y llall. Nawr am y circh, medda fa. Wel am y
dyn, meddwn inna, dos dim isia circh ar Alis. Na ond ma'i isia fa ar yr
englyn, medda'r Eryr, a dyma fo fel hyn: Alis annwyl sy heno, — a'i hoff rudd Ar dir Ffrainc yn brwydro; A minna'n llwm, ow drwm dro Mewn alaeth yma'n wylo. Ma mwn englyn, medda'r Eryr, bladur a chirch ag estyll. Wn i
ddim ble mae e'n ’n câl nhw yn y byd. On i'n gofyn iddo os taw siarad mwn
damhegion odd a. Na terma barddol y'n nhw, medda fa. Ond down i ddim fawr
callach, a rodd well gen i'r petar lein fel ôn nhw gen i cyn u gneud |
|
|
|
nhw'n englyn. A gwed y gwir i chi ma arna i ofan gweld Dafydd y
Crydd yn dwad am ’u traws nhw. Criadur sgeler yw'r Crydd. Ma'r englyn hyn yn
y marn i'n rhy depig i'r pethach ma Morgan Lewis y tilwr yn neud. Ma fa'n
dwad a phopath i neud hodl ag wrth hynny'n gneud codl. Falla bo chi'n cofio
am y "canteen." Ma'n depig gen i fod Dafydd a Morgan yn gyfarwydd
iawn a lle felny, ond ticyn o cheek odd dod ag Apram Isac a Japog i hodli a
hwnnw. Ma Dafydd yn benwan holics achos mod i wedi cal mas iddo fe a
Morgan fod yn y Seilam, a fod y dyn on nhw'n atal yno yn gallach na nhwch dau
gyta'u giddyl. Ma Dafydd yn treio gwed iddo fod yn Hundab y Cymdeithasa, ond
mi ddylsa gal i gymryd lan am ffols pritensis. Fu a ddim yno, ne mi fysa'n gwpod
beth odd yno. Siarad trw'i het ma fa, medda Eryr Parc y Cwm. Ma fa'n gwed
bydd yr Hundab yn Sais mwn pymtheg mlynadd. Ond tysa fa yn yr Hundab i hunan
fysa fa ddim yn gwed hynny. On nhw'n dechra doctora rhai odd a'r dolur Sysnag
arnyn nhw. Mi rows merch fach o Berdar gwpwl o bils cenedlaethol net i rai, a
rw i'n suwr fod Tom Matho wedi llyncu un o henyn nhw. A ma'n depig fod tipyn o'r dolur ar y dyn on nhw'n galw Lleufar
arno fa, a sa chi'n gweld y Dafydd Preis yna o Byrtawa yn rhoi moddion tonic
Cymru iddo fa. Fu raid i Lleufar lyncu, nid dôs fach neis, ond llond potal, a
wi ddim yn suwr beth ddath o'r botal. A ma arwyddion fod y cwpwl yn gwitho er
daioni. Mi fysa'n dda gen i sa Dafydd y Crydd yno. Mi nethe les iddo fa, a
fysa dim isio iddo wed cymint o bethach sy ddim yn unol a ffeithia, ys gwetws
yr Eryr yma. Y'ch chi'n cofio i fi gâl gwahoddiad i Glydach yn y
"Darian" ys ticin yn ol gan W.J.R. Treni mawr na fysa gan y bachgen
hyn ffug enw, ma fa'n fardd ag yn fab i fardd. Cofion at Eryr Parc y Cwm.
Fues i ariod yn timlo mor sâff a phan on i yn i gwmpni fa. TRAMP. |
|
|
|
Y Darian 24 Mehefin 1915 Llith y Tramp. Mishtir Gol.,— Mi ffarwelias i a Eryr Parc y Cwm yn Byrtawa, a
wir i chi gwaith anodd odd hynny. Hen dderyn ffein yw'r Eryr. Y peth dwetha
wetws a wrtho i odd: Fydd drws y ty yco'n agored i chi, Dramp annwyl, unrhyw
amser, a gobitho bydd yna le cynnes yn ych calon chitha i Bwlchyclawdd View
Terrace. Mi apetas inna mwn petar lein fel hyn: Gwel, Eryr hoff, fy nacra, Ymatal nid yw'n hawdd, Ar ol y difyr oria A gawd ger Bwlchyclawdd. Ma'n depig, medda'r Eryr yto, fod dishgwlad mawr am danoch chi
yng Nghwmtawa, a rych chi'n cofio i un o atar erill y "Darian" roi
awgrym fod y teliscop a'r tent gollson ni ymhlith y ser ar y fythgofiadwy
noson honno wedi disgyn yn rhywla tua Tharran Gwyddon. Mi wela i fwy o isia'r
pethach hynny nawr ar ol ych colli chi. Os cewch chi hyd iddyn: nhw halwch
air. Reit o, mynta i finna, a chofiwch fod atar Cwmtawa wedi'ch infeito
chitha am dro, os cewch amsar dewch i roi tro am danon ni. Wedi i ni wed gwd
bei saith gwaith yto, fe ath yr Eryr a mi es inna. Mi es i gyta'r tram car a
mi landes yn Ynysforgan. Yno mi welas y cynel a mi feddylas y bysa lle
tawelach i dramp gyta glan hwnnw nag ar y ffordd. On i ddim weti climercan
ymhell na welwn i ddyn bach yn etrych arna i felsa fa'n meddwl taw jerman
spei mwn disgeis on i. Dyma |
|
|
(delwedd B2270b) (24 Mehefin 1915) |
fa mlan ata i ag yn cewcan ar y nghos i ag yn y'n llyced i bob
yn ail. Tramp y "Darian," mynta fa, o'r diwadd yn syten, ma dy
gerddediad yn dy gyhuddo. Fysa fa ddim iws i finna watu, ne mi fyswn yn gneud
peth fysa heb fod yn unol a ffeithia, ys gwetws Eryr Parc y Cwm. Mi ddialles
taw mishtir y cynel odd y dyn er na wetws a ddim o hynny i hunan. Mi wetws y
dyn wrtho i fod disgwlad mawr am dana i yng Nghlytach a fod gohepydd y
"Darian” wedi trefnu prosesiwn mawr o feirdd Cwmtawa i ddod i gwrdd a
fi, a bysa'r bras band yn canu o'n blân ni a chwrdd croesawu'r Tramp yn yr
Asembli Hôl, Pentra Malwod. Wel, mi fues i jest a châl ffit, ag yto on i'n
timlo'n ddiolchgar iawn i'ch gohepydd parchus a beirdd Cwmtawa am ’y nghyfrif
i'n deilwng o'r fath anrytadd. Gyta hyn rodd bâd, steilish yn dwad lan ar y
cynel, a mi drefnws y mishtir a'r captan i fi gâl lifft yn hwnnw er mwyn
arpad ’y nghos i. Rodd y cynel a'r hewl yng ngolwg i giddyl, a mi halws
mishtir y cynel ryw grwt bach i'r hewl i wed wrth y beirdd a'r band am droi
nol, a hwthu'r cyrn a chnoco'r drwm gymint a gallan nhw a cherad yn yr un rât
a cheffyl cynel am fod y Tramp yn mynd yn y bâd. A dyna brosesiwn odd hwn, fi
a'r mishtir a'r captan a'r criw yn y bad a'r band a'r beirdd ar yr hewl. A
rodd hi'n well felny i fi o lawer. On i'n câl y miwsic i gyd heb ddim o'r
lluwch odd ar yr hewl. |
|
|
(delwedd B2270c) (24 Mehefin 1915) |
Dyma ni wrth Hewl-y-bont Street, mynta mishtir y cynel, mi
landwn ni fan hyn. Wel dyna enw mynta fi. Ie, mynta mishtir y cynel, ma fa'n
frawd i Clydach-on-Tawa, yn arwydd sicr o'n dirywiad cenadlaethoi ni'i Cymry
ac o aneffeithiolrwydd cyfundrafn addysg y wlad. Mi es i trw Hewl-y-bont
Street i'r hewl fawr. Pan welws y Gohepydd fi dyma fa'n towlu i het i'r awyr
a'r beirdd i gyd yn gneud yr un peth ag yn gwaeddi, "Tramp y Darian ffor
efar. Yna ni ethon gyta'n giddyl ymlan i Hô1 fawr Pentra-malwod. Yno mi ges
introdycsiwn i feirdd dirifeti. Ond welas i ddim cwrdd mwn shwd le o'r blân.
Rodd yno fordydd hir a lot o shorta o ffid arnyn nhw a photeli o bob lliw a
llun, achos fod y tywydd dicyn yn sychetig a'r beirdd weti llyncu lot o
luwch. Mi gyhoeddws rhywun fod yno ddiod yn siwto pawb, y templars a'r
twmblars, ag am i bob un ddewish pun fynsa fa. Mi fuws hyn bron arwan i dicyn
o rifoliwshon. Odd rhai'n treio gwed fod y geira yn rifflecto ar y Tramp a
hynny ddim rasol iawn mwn cwrdd croeso. Cyn i ddim annymunol iawn ddicwdd mi
gotws Alfa, a mi wetws gwpwl o eira gyta nerth a dylanwad fel hyn: Yn enw'r
beirdd a'r bobloedd ac er mwyn anrhytadd y gwr o fri sy weti dod i'n plith,
na wnelar ei gwrdd croesawu yn gwrdd croesi. Islaw urddas beirdd yw ymryson
ynghylch geira. Gadawer hynny i rai sydd a'u traed yn y pridd. Cofier mai
beirdd ydym, ac nad ddylasa geira a dramgwyddant ddynion o radd îs fod yn I
rhwystr i feirdd: |
|
|
(delwedd B2270d) (24 Mehefin 1915) |
Templars a'r twmblars byddwch yn ffri, Yfwch y peth fo'n cytuno a chi, Alltudiwch y croesi gwaela'n bod, Unwn mewn croesaw i Dramp o nod. Mi etholwyd bardd cenedlaethol o'r cylch i'r gatar. Rodd y
spitshis i fod after dinnar i gyd. Rodd yno deligram a llythyra wedi dwad nes
on i'n ffaelu napod ymhunan. A gwed y gwir i chi on i ddim yn suwr pun a fi
na rywun arall on i. On i'n onfi byse raid i fi gwpla'n stori run fath a
hwnnw odd yn gwed i hanas yn mynd lan mwn balwn at y ser a'r planeta, a'r
rhai'n grondo arno a'u llyced a'u ceca'n acor. Ond pan on i'n paso'r lleuad,
medda'r dyn, mi saethws yr hen dorrwr Sapath sy'n byw yno ata i, a mi fyrstws
y balwn. Shwd buws hi wetin? mynta rhywun odd yn grondo. O mi ddihunas i,
medda'r dyn. On inna'n ofni taw dihuno byswn inna a taw gweledicath odd y
cwbl. Ond ma'r peth yn rial, ne dw i ddim wedi dihuno yto. Mi fuodd yn dicyn
o ddatla ynghylch riporto'r cwrdd, ond yn y diwadd mi ddiseidwd mod i i
riporto'm hunan, na alla neb neud yn well. Rodd llawer o brygethwrs cyrdda
mawr, mynta nhw, yn gneud hynny, a pham na allwn inna neud yr un peth a nhw. TRAMP. |
|
|
.....
|
|
(delwedd
J6522a) (1 Gorffennaf 1915) |
Y Darian. 1 Gorffennaf 1915. Llith y Tramp. Mishtir
Golycydd, — Rw i'n mynd i riporto cwrdd croesawu mhunan y tro hyn, ond alla i
ddim riporto'r cwbwl ne mi fysa isha ecstra speshal o'r "Darian."
Mi fysa enwa'r beirdd yn mynd a cholofn gyfan, ond os gwetws Alfa nid popol
gyffretin yw beirdd a ddician nhw na chican nhw ddim os na fydd'u henwa nhw i
gyd yn y papur. Mi etholwd Mistar Ifan Jones (Mynyddfab) yn llywydd y cyfarfod,
ag ar ol rhoi y trugaredda o'r golwg a rhoi cymint odd heb dorri o'r llestri
mwn lle saff, ond y glasis wrth gwrs, odd pob un yn gofalu am rheiny, mi
ddarllenws gohepydd y Darian y llythyra a'r teIigraffs llongyfarchiatol odd
weti dderbyn. Rodd y teligraff cynta orwth Dafydd y Crydd a Morgan Lewis y
tilwr fel hyn: “Allwn ni ddim dod, a ddethan ni ddim sa ni'n gallu. Rhowch y
Tramp ar i ben blan yn y cynél." (Hm, hm, ma nhw'n ffond iawn o'r pen
blan.) Teligraff Arthen: "Oes y
byd i'r Iaith Gwmbrag. Beth yw hystyr Pentramalwod. Alwch rwpath i'r Sten.
Alia i ddim dwad i'r cwrdd; ma Sioned wedi mynd mas. Long lif tha
Tramp." (Clywch, clywch.) Teligraff Defynnog: Sori, ma'r
picnic wrth y drws." (O! O!) Gol. y Darian: Yn y
nesa." (O! Beth ma fa'n feddwl? Oti fa'n mynd i goeddi'r cwrdd hyn yn y
nesa ar ol iddo fod, ne oti fa'n mynd i ddod i'r cwrdd nesa? Ma fa mor dywyll
a'r bardd newydd.) Eryr Gwyddon: “Ar y nyth. Y'n
ni'n dishgwl y Tramp yn yr ocof." (Clywch, clywch.) Talnant (dros y Mabinogion):
"Ar grwydyr, pob lwc i'r brawd.” Dafydd Rhys Phylip o Byrtawa.—
Llythyr barddonol gen Dafydd fel hyn: Er byrrad un gos iddo, Y mae'n hen fachan ffein; A bydd tra tatws yn yr ardd Yn fardd y petar lein. O! yn fardd y petar
lein!" |
|
|
(delwedd
J6522b) (1 Gorffennaf 1915) |
Llythyr orwth E. T. John,
Ysgweiar, M.P.: “Rydw i braidd yn siwr i mi weld Tramp y Darian yn Abertawa.
Beth bynnag, mi welas yno ryw ddyn a golwg dalentog arno fo, oedd yn
ymddangos i fe tasa fo'n rhedag hefo un goes ag yn cerddad hefo'r llall.
Fasa'n dda gyno i taswn i wedi cal introdycsiwn iddo fo. Deudwch wrtho fo, os
byth daw o i Shir Fon, am alw yn Llanidan." (Banllefa o gymeradwyath.) Yn rhag mynd ag amsar y cwrdd
mi gynhicws [= cynigiodd] Perllannog fod y llythyra erill tw bi tekn as red,
a felny buws hi. Y peth nesa ar y rhaglan odd arath y llywydd, a fel hyn y
gwetws a: “Gymrotyr a Beirdd, - Ma'n dda gen i fod yma heno, a ma'n dda gen i
gal llywyddu mewn cwrdd i roesawu bardd o'r un clas a fi 'mhunan, a bardd da
digynnig yw a hefyd. Wi'n cofio pob lein o farddoniath ma fa wedi hala i'r
Darian o'r dechra cynta, a ma nhw'n dda gwd bob un o henyn nhw. Rwy'n gobitho
coeddiff e gyfrol o'i waith. (Clywch! chlywch!) Mi fysa llyfr felny'n grêt.
Wi ddim wedi bod yn llwyddiannus iawn mwn steddfota, ond rw i'n'cretu fod
amsar gwell i'r beirdd cenedlaethol gan fod Tramp y Darian wedi dechra
datla'i reits nhw, a nawr – “Mi ganaf bennill bychan A nes i gyd ymhunan, Gwn pan ddaw steddfod caf y
gamp A'r clod gan Dramp y
Darian." Nawr wi'n galw ar fishtir y
cynel," a dyma fe ar i drad mwn winc ag yn gwed: “Fe ddath y tramp mwn urddas Yn un o fata'r gamlas, A chant o feirdd ront iddo'n
awr Bu croeso mawr yn
eirias." |
|
|
(delwedd
J6522c) (1 Gorffennaf 1915) |
Yna mi alws ar Fwyalchen y
Darian, a mi ganws hitha fel hyn: “Pwy fel y Tramp mor hynod Hoff arwr ein cyfarfod Sy'n haeddu clodydd bryn a
phant A moliant Pentremalwod." Odd Gwilym Cynlais, Ap
Cledlyn, Alaw Gwyddon, a Tarennydd yno, a on nhw wedi gneud petar lein
rhyngthyn nhw'ch petwar fel hyn: “Mae mron yn Ilawn o groeso I'r enwog wr sy'n crwytro, Tragwyddol heol iddo fydd Er gwaeth'r Crydd a'i
bendro." Er mwyn arpad gofod wi ddim
wedi cofnodi y ddegfad ran o'r Clywch, clywch," a'r “O, o," a'r
“hwre” fu yn y cwrdd. Ond on nhw yno'n llond y lle. Mi ddarllenwd yno betwar
a deugan o fesura petar lein, ond on nhw i gyd ar yr un lein. Mi nawd yno
spitshis afftar dinar yn ddirifeti, ond odd pawb yn gwed yr un peth a wetws y
llywydd talentog ar y dechra, a dos dim isha'u cofnoti nhw. On i'n leico'i
clywad nhw er hynny. Odd hi'n dechra mynd yn wyr nawr, a on i ddim yn suwr i
ble on i'n mynd i lodgo, ond mi gotws mishtir y cynel a mi wetws fod captan y
bad y detho i gyta fa yn angori am y nos wrth Hewl y Bont Stryt, a fod croeso
i'r Tramp gal shar o'i gabin e am y noswath. Fu raid i finna neud spitsh ar y
diwadd, ond fyswn i weti gallu gwed yn well afftar dinar nag ar ddiwadd y
cwrdd, a wi ddim yn cofio'n iawn beth wetas i, ond ma rhai odd yn grondo'n
gwed i fi addo gwella lot ar y byd yn y cylch, rw i'm meddwl gneud hed. Mi
ganws y Templars Hen Wlad fy Nhada, er mwyn cwpla'r cwrdd yn rispectabl a mi
ath pawb gartra. Mi ddath dou o honyn nhw gyta fi drw Hewl y Bont Stryt at y
bad, ond chymerson ni ddim amsar i weld fod y bad erbyn hyn wedi angori'r
ochor arall i'r cynel, a on ni wedi cerdded ticyn trw'r dyfrodd cyn gweld
ble'r on ni a fu raid i ni oifad i ben y daith. Rodd y Captan yn joli boi, a
mi ofalws am ddillad i ni newid, a defnyddia cysur yn y cabin. Ma'r siwt
newydd ges i yng Nghwmparc wedi spwylo, a ma'r tilwr bach sy'n byw yma wedi
cal ordor am un newydd, a ma fa'n gwed y gneiff e siwt fydd yn wocin
adfertismant idd i waith a. Ma dyn o'r enw Mistar Smith y Crydd hed yn gwed y
gneiff e esgid i fi fydd yn gneud 'y nwy gos i'r un hyd, a galla i listo
wetin yn y Clydach Roial Folyntiar Treinin Cor. Ma rhai targats da iawn wedi
joino a fa'n barod. TRAMP. |
|
|
(delwedd 5491a) (8 Gorffennaf 1915) |
Y Darian. 8 Gorffennaf
1915. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, Os
yw'r fwyalchen yn gwed y gwir mi fuws yna rai pethach yn y nghwrdd croesawu i
na wyddwn i ddim am danyn nhw. Wi'n cofio clywad swn canu ond on i'n tw ffar
gon i wpod pwy odd yn canu, ond wi'n timlo'n ddiolchgar iawn i Telorydd a
Myfyr Baran os buon nhw yno ag os canson nhw. Dw i ddim yn meddwl rhyw dwryn
o gân Gwilym Cynlais i'r Tramp chwaith. Dyw hi ddim yn trw tw netshar os
gwetws y bachan yna ma Clydach Tomos yn darlithio arno. Ond dyna un rhyfadd
yw bardd, a rodd Gwilym druan yn meddwl y bysa'n athrylith i'n disgleirio mwy
dim ond rhoi racs am ’y nghorff i, a bysa ’nhalant i'n lanach dim ond rhoi
baw ar y ngwymad i. On i ddim yn dost, chwaith, pan ddes i yma, ond odd isha
rwpath i hodli a Chlytach a mi wetws Gwilym —"Doed yn holliach.” Trics
of the tred yw pethach fel hyn, a rw i'n sylwi fod Morgan Lewis y tilwr yn
gneud pethach tepig, os yw Dafydd y Crydd yn i riporto fa'n iawn. Ma'r Crydd
wedi llyncu polyn achos i fi fod mor garetig a dangos iddo fa'i anwybotath.
Dyna'r diolch y'ch chi'n gal yn y byd yma. Ma fa wedi darllan mwy o lyfra nag
w i wedi weld o datws, ond wedi u darllan nhw ma fa. Dyw a dim yto'n gwpod y
gwahaniath rhwng "Alis" ac "Allies." Pwy sens yw gwed
ma'r Allies sgrifennodd ata i. Ond dyna ma atnod fel hyn ar y pwnc yn rhwla –
"Chwyd y Crydd byth
yn uwch na'i lapston.” |
|
|
(delwedd 55032) (22 Gorffennaf 1915) |
setlo lawr i labro'r nos
am dri mis y geua nesa fel arfar. Dydd Merchar mi es i whilo am y ’Darian,' a
wedi cerad obothtu dicyn mi ddes i siop bapra dyn o'r o'r [sic] enw Mistar
Fox - dyn o dalant ag amynadd mawr sy'n byw yn y Garw. “Gwd mornin, syr; feri
ffein mornin," mynta Mr Fox, a rodd ynddo ddicon o sens i ddishgwl yn y
ngwynad i a nid ar ’y nhrad i fel ma rhai dynon didalent yn neud. Wleuwch
Gwmrag, Mistar Fox, mynta finna, ry'ch chi'n un o Gymrodorion y Garw, a ma
fa'n weddus i chi'n anad neb i barchu'r hen iaith. Fi yw Tramp y
Darian." “Wel, bendigetig, cant a mil o groeso i chi," mynta Mr. Fox;
ishteddwch." Gyda mod i'n ishta dyma'r Bwtshwr i fewn, dyn dicyn yn
feirniatol i olwg yw hwn ag yn dishgwl yn ofalus cyn bydd a'n rhoi'r drod
nesa lawr a mi sefa yn hir ar un gos cy[n] rhoia fa'r drod arall mwn twll. Y pwnc odd yn pwyso ar
feddwl y Bwtshwr odd y Prins o Wels Ffynd a'r Local Relûff Ffynd. Mi wetas i
nag on i ddim yn napod Mr. Prins o Wels na Mr. Local Reluff. Ar ol iddo
sbonio mi ddialles beth odd gytag e, ta rhyw ffynds odd y ddou hyn wedi
starto. Wi'n cretu dim yn y Prins o Wels Ffynd mynta fa, ma hi'n depig i
ffynd ecsploshwn. Ma nhw'n gwaeddi am arian a ma arian yn llifo miwn. Ond
’dyw'r arian ddim yn cal i hala i gyd, ma nhw ’n catw lot fawr o nhw pan
fysa'n dda i lawar u cal nhw. A ma nhw'n gwed fod lot o ffynd y Prins yn mynd
yn gyfloca i offishals. Local reluff i fi, a phawb i ofalu am rai sy mwn
angan gartra. Erbyn hyn odd lot wedi
dod yno i byrnu'r "Darian," a dyma un on nhw'n |
|
|
(delwedd 5503) (22 Gorffennaf 1915) |
galw Shoni arno fa yn
clapo cefan y Bwtshwr ag yn gwed wrtho fa - "Da iawn, sens bob gair.
Wi'n gwpod am fenyw fach odd isa help, a mi ath un o Bwyllgor y Prins o Wels
ati, a mi dynnodd rolyn bapur gymint a chyfrath Moses o'i bocad a mi
ddechreuws i holi hi, nes odd y fenyw fach wedi cal ofan ag yn dechra onfi'u
bod nhw'n i chym- ryd hi fel German spei, a dyw hi ddim wedi bod yn dda iawn
byth oddar hynny. On i'n gweld un arall o'r enw Dafydd yn partoi i geg i wed
rhwpath. Wara teg, mynta fa, ma'n ddicon awdd i ti Shoni wilia'n dwp ar dy
gyfar. Ond eiddo Cesar i Cesar o gwetws y proffwyd. Ma arian y Prins o Wels
wedi ’u clasgu gen y wlad a sopyn o ddynon wedi gneud aparth i rhoi nhw, a
dyw a ddim yn deg ’u rhoi nhw heb infestigesion i hanas y rhai sy'n ’u cal
nhw, a fysa rhai sy'n ’u rhoi nhw'n cal ’u syrtjarjo. A rodd ffynd y Prins
a'r waith yn helpu ag yn gwasgaru trugaredda cyn i Local Reluff ddihuno. Betar bi widdowt tham,
os ôs incwisisiwn i fod, mynta'r Bwtshwr. Dyma ryw fachan o goliar yn gwed
fod lot yn yr hyn odd Dafydd wedi wed. Dodd ffynd y Prins o Wels, mynta fe,
ddim yn gwitho fel dylsa hi. On ni'r gwithwrs yn talu wech chinog yr wsnoth
at ffynd y Prins er mwyn helpu'r rhai odd mas o waith a rhai odd yn ffeulu
cal glo dan ddwy bunt y dunnell, a ninna'n i dorri fa am ddouswllt y dunnell,
ond on ni'n ffaelu cal arian mas pan fysa isia, a mi jacon ni ddi lan. Pwy
sens odd talu miwn a chal dim mas. Ma rhwpath yn yr hyn wetws y Bwtshwr hed,
mynta'r bachan o goliar yto. Ma yna lot o arian ffynds wedi cal ’u cloi lan.
Mi weta i hyn, os clasgu arian at rwpath, nhw ddylsan gal ’u hala at y
rhwpath hynny. Odd yno un o'r enw
Morgan heb wed dim, a dyma fynta nawr yn gwed dy'ch chi ddim yn gwpod bois
beth ma pwyllgor y Prins o Wels ffynd yn neud. Beth am y milodd punne ma nhw
wedi roi i'r rhai odd mas o waith ag at y Red Cross a'r Ambiwlans? Otich
chi'n gwed nag yw rheiny ddim yn deilwng o'u cefnocath ni? Os dim un o chi'n
gallu apad. Wi'n gwpod taw ar ol y cwymp y'n ni'n byw, a ’dyw'r Pastwr Rysal
yna ddim wedi dwad a'r mil blynyddodd i ni fel odd a'n addo. Os ewn i i
ffeindo beia ar bopath mi fyddwn i gyd cynddrwg a'n giddyl a gwath hefyd. Ie,
mynta Mistar Fox, os ewn ni i aros nes byddwn ni wedi'n perffeithio cyn gneud
dim, mi fydd y Germans yma'n gynt nag y'n ni'n feddwl. Beth ych chi'n wed
Tramp? Rwy' ’run farn a chi, sir, myntwn inna, a mi hala i hanas y cwrdd i'r
Darian. Ond mi weta i hyn wrthoch chi i gyd yn ych gwymeta chi. Rw i'n teimlo
dros y fenyw fach hynny on nhw'n holi cyn rhoi help iddi! Cyn byswn i'n gwed
y'n hanas er mwn help neb mi fytwn y'n het, tawn i byth o'r fan yma. (Hiar,
hiar.) TRAMP. |
|
|
...
.....
|
|
|
(delwedd
J6520a) (2 Medi 1915) |
Y
Darian. 2 Medi 1915. Llith y Tramp. Mishtir
Golycydd, — Teimlo dicyn bach yn unig w i ar ol i Mr. Dawkins fynd i weitho
wrth y gwair i'r Fro. Gobitho na neiff e ddim niwed iddo'i hunan a daw a nol
i Dreforus yn i gynefinol iechyd. Ma fa'n depig o ddod, o ran hynny, wath ma
fa'n bwlffyn go gryf. Gan fod Motryb Nansen, Trebannos, wedi mynd i ddwr y
mor, a Dafydd y gwr yn gorffod gneud y gwaith i gyd, mi es lan un noswath i'r
Ty Gwair, nr. Clydach, i gâl y'n llythyra o'r letar bocs er mwyn arbad ticyn
ar Dafydd am dro. Yno ma'n adres i o hyd, a Dafydd yw mhostman i. Pan ôn i
yng ngwaelod Clytach mi welsom Dafydd yn dod ag yn plygu dan i faich ag yn
whysu a thuchan, a bron a chwmpo. "Wel, Dafydd
bach," mynta fi, "be sy'n bod heddy? Be sy gyta chi yn y sach
yna?" "Cyfansoddiata
Steddfod Llanlluwch sy wedi dod i chi," mynta Dafydd. "Ma yma
farddoniath, ysgrifa, a thraethota'n ddirif. Llai na'u hannar nhw ele miwn
i'r letar bocs, odd y postman wedi rhoi'r lleill ar ben y gwair." “Wel, Dafydd
annwl," mynta finna, "beth 'na i? Ma'r Steddfod mwn pythewnos, a mi
fydda i fis yn darllen y rhain i gyd." "Fydd dim isia i
chi'n darllan nhw," mynta Dafydd. "Shwd gna i
'nte?" "Smelwch
nhw," mynta Dafydd. On i ddim yn moyn gneud
mwlsyn o Dafydd a gatal iddo gario steddfod gyfan i Dreforus, a mi wetas
wrtho fa am ddod nol i dy Mishtir y Cnel i gâl gweld a fysa'r gwr bynheddig
hynny mewn hwyl i ddod a'r cyfansoddiata lawr yn un o'r bata. On i ddim wedi
i weld a er pan fu a'n bwcwth cyfrath arno i, a wyddwn i ddim yn iawn shwd
shap fysa ar i wymad a pan fysa ni'n cwrdd. Ond odd y mishtir mor serchus a'i
fystres bob tamad. "Nawr," mynta
fi, "ma lond y sach yma o gyfansoddiata steddfod, a'r cwestiwn yw shwd
ma'u câl nhw lawr i Dreforus, dw i ddim am dorri asgwrn cefan Dafydd yma, a
ma'u beirniatu nhw'n ddicon i finna." “O mi hala i nhw lawr i
chi yn un o fata'r cnel," mynte'r mishtir. |
Y Darian
(The
Shield.) 2 September 1915. The Tramp's Article. Mr. Editor. – It’s feeling a little bit lonely I
am after Mr. Dawkins went to work on the hay in Bro Morgannwg / the Vale of
Glamorgan. Hopefully he will not harm himself and will come back to Treforus
/ Morriston in his usual health. He’s likely to come, for that matter, since
he’s a fairly strong stout fellow. Since Aunt Nansen, Trebannos, had gone to
the seaside (“to (the) water (of) the sea”) and Dafydd her husband had to do
all the work, I went up one night to Ty Gwair (the Hay House / Grass House)
near Clydach, to get the letters from the letter box in order to save Dafydd
the trouble for a while. My address is still there, and Dafydd is my postman.
When I was in lower Clydach we saw Dafydd coming and stooping under the
burden sweating and grumbling and on the point of falling down. "Well, Dafydd my friend," I asked,
"what's the problem today? What have you got in that sack?" "Entries (compositions) for the Llanlluwch
Eisteddfod that have come for you," said Dafydd. "There’s an
endless amount of poetry, essays and treatises. Less than half of them would
go into the letter box, the postman had left the others on top of the
grass." "Well,
my dear Dafydd," I asked, "what will I do? The Eisteddfod is two
weeks away, and it’ll take me a month to resd all these." "There
will be no need for you to read them," Dafydd said. "How
will I do it then? " "Smell
them," Dafydd said. But I
didn’t want to treat Dafydd like a packhorse (“didn't want to make a mule of
Dafydd”) and let him carry all the Eisteddfod to Treforus, and I asked him to
come back to the Canal Master’s house to see if that noble man would be inthe
mood to take the entires down in one of the barges. I hadn't seen him since
he threatened to take me to court (“threatened law on me”), and I didn't
really know how he’d look at me (“what shape would be on his face”) when we
met. But the master was just as (“every bit“) kind (“affectionate”) as his
wife. "Now,"
I said, "there’s sackful of eisteddfod entries, and the question is how
to get them (“how is getting them”) down to Treforus, I don't want to break
Dafydd here's backbone here, and their adjudications are enough for me." "Oh,
I will send them down to you in one of the canal barges," said the
master. |
|
|
|
(delwedd J6520b) (2 Medi 1915) |
"Nawr," mynta
finna, "peth od iawn os na fydd yna sachad arall yn y Ty Gwair fory.
Erbyn fory on nhw i fod miwn. A falla bydd yna o hyn i ben wsnoth hanner
sachad o betha fydd yn rhy ddiweddar yn dod i lawr." "Nefar meind ddi
damedj," mynta Mishtir y Cnel, "mi ofalith Dafydd a finna 'u cal nhw i'r
bad fel byddan nhw'n dod i lawr ond i chi ofalu am rywun idd' u carto nhw o'r
cnel i'r Graig yn Nhreforus." "O fydd hynny'n
olreit," mynta finna, "ma wraig y ty lle rw i'n lodjo ar y Graig yn
talu dicon am fwyd i Mathias y Grosar, a mi fydd raid i hwnnw hala 'i gart i
ddod a nhw i'r ty." "Campus,"
mynta Mishtir y Cnel. Felly, bydded hysbys i
gystadleuwrs Steddfod Llanlluwch fod u cyfansoddiata nhw ar y dwr erbyn hyn,
a byddan nhw'n ddiocal yn llaw'r beirniad os na ddigwyddiff rhyw ddamwain yn
rhwla na fydd neb yn gyfrifol am dani. "Dyna hynna wedi i
setlo," mynta'r Mishtir, "ma raid i fi nawr gâl clywad stori
claddu'r cyfall Lasarws yn Nhreforus.” Mi wetas i'r stori fel ma
Risiard Huws a beirdd Treforus yn i gwed hi, a rodd Mishtir y Cnel a'i
fystres a Dafydd gwr Nansan yn wherthin nes on nhw bron hollti. Ma'r stori
fel hyn. Rodd yna weinitog yn Nhreforus ys llawer dydd-- TRAMP. [Nodiad: Dyna ddigon y
tro hwn. Cyhoeddir eich stori y tro nesaf, felly gorffwyswch am wythnos neu
ewch ati i feirniadu a cheisiwch feithrin y dalent i ysgrifennu'n fyr.—Gol.] |
“Now,"
I said, "it will be very strange if there isn't another sackful in the
Grass House tomorrow. By tomorrow they were supposed to be in (= submitted).
And maybe there will be in a week’s time half a sackful that will be too late
to come down." "Never
mind the damage," said the Canal Master, "Dafydd and I will arrange
to get them to the boat so that they come down [to Treforus] but you have to
arrange for someone to cart from the canal to Y Graig (“the rock”) in
Treforus." "Oh,
that will be all right," I said, "the lady of the house where I'm
staying at Y Graig is paying enough for food from Mathias the Grocer, and
he'll have to send his cart to bring them to the house." "Excellent,"
said the Canal Master. Therefore,
let it be known to the competitors of the Llanlluwch Eisteddfod that their
entries are now on the water, and they will be safe in the hands of the
adjudicator unless some accident
happens somewhere that no-one will be responsible for. "That's
settled then," said the Mishtir, "Now I must hear the story of our
friend Lazarus’s funeral in Treforus." I told
the story as Risiard Huws and the Treforus poets tell it, and the Canal
Master and his wife and Dafydd, Nansen’s (= Ann, Nancy) husband, of Nansan
laughed until they almost burst. The story goes like this. There was a
minister in Treforus long ago-- TRAMP. [Note: That's enough
this time. Your story will be published next time, so rest for a week or make
a start on adjudicating and try to
cultivate the talent of not writing at length (“of writing briefly”). — Ed.] |
|
|
|
|
Y Darian. 16 Medi 1915. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,—Damwen alaethus ddigwyddws i'r bad odd yn dwad a
chyfansoddiata Steddfod Llanlluwch i fi i Dreforus. Mi gas mishtir y cnel a Dafydd
gwr Nansen dicyn helynt tua Chlytach yma, ond dim byd at y peth ddigwyddws yn
nes lawr. Rodd y cyfansoddiata wedi i rhoi'n barchus yn y bad yng ngofal y
cnel dreifar, Mr. David Charles, a'r ceffyl, a ma'n eitha posib y byse popeth
wedi mynd yn iawn, ond odd cnel dreifar arall, sef oedd hwnnw, Mr. Tommy
Daniel, ynte a'i geffyl yn dwad a bad arall o Dreforus. Mi gas ceffyl Tommy
Daniel ofan mawr, a mi retws bant a bad y cnel gydag e. Rodd y ddau geffyl yn
cwrdd a'i giddyl dan bont Llangyfelach. Er mwyn rhoi hewl rydd i geffyl Tommy
mi neidws y ceffyl arall i'r dwr, a mi oifadodd yn i flan a'r bad ar i ol a,
ond mi ath y ddau fad i wrthdarawiad, a fuo nhw fawr o dro nag oen nhw yn y
gwaelod, ag yno ma cyfansoddiata Steddfod Llanlluwch odd wedi dod i law mwn
pryd. Fe fydd yn rhaid cal rhyw gontreifans arall i ddod lawr a'r rhai ddath
i law'n rhy ddiweddar. Ma achos y ddamwain yn hysbys erbyn hyn. Fe ddath
rhwpath tebig i Seplin, ne eroplen, ne rwpath lan gyda'r cnel orwth bont
Ynysforgan, a rodd a'r criatur mwya swnllyd a glyws dyn ariod, a hwnnw halws
ofan ar y ceffyl cnel. A beth y'ch chi'n feddwl odd a yn y diwedd? Wel dim
ond Motryb Nansen a Trebannos yn dwad nol o Lanstephan a'i banbocs gyta hi.
Odd hi wedi colli'r bws yn Ynysforgan o ryw ganllath, a mi ddath lawr at y
cnel, a dyna ble'r odd hi yn hannar hedfan a hannar rhetag rhwng banc, y cnel
a brig y coed, a'r banbocs ar i hol ag yn rhecu'r bws dreifar yn
ddychrynllyd, a rodd hi'n mynd i ddala'r bws yto, medda hi, wrth Bontlowrog,
ag yn mynd i dynnu Dafydd yn bishis ar ol mynd gartra am i fod a wedi coeddi
preifat letar odd hi wedi hala iddo fa yn y "Darian," a hwnnw'n
gollwng y gath o'r cwd am Dafarn Llath Llanstephan. Chemicals odd hi'n wed on
nhw'n roi yn y llath, ond ma pawb yn gwpod taw felny ma hi'n spelo
"rum," a rodd hi'r bora hyn cyn starto wedi yfad dicon o hono i gal
i hunan ar i haten. A'r olwg hynny arni fu'n gymint dychryn i bawb o
Ynysforgan i Drebannos. Ma arna i ofan am Dafydd druan, wath hen griatur
hawdd iawn i drin yw e pan . |
|
|
|
|
(delwedd J4219) (16 Medi 1915) |
fydd Nansen obothtu. Fysach chi'n i weld e'n swagro; a whyddo pan odd
Nansen yn nwr y mor, ond ma hi a'r ben arno fa am flwyddyn yto. Mi fyswn i'n
leico, clywad orwth Dafydd shwd siap odd a'r Motryb pan gyrhaeddws hi, a fant
o ddamedj nath hi wetin ar y ffordd lan. Rhaid i chi roi ticyn o ofod i fi ddelo a chorespandans y tro hynt yto.
Ma arna i ofan bydd raid i fi fynd o Dreforus er cyslad wi'n leico yma, ond
ma cymint o alwata o lefydd erill. Rw i'n onfi nawr taw chytig o opath fydd
am labro'r nos y geua nesa. Ma'r witw fach o Bontycymar yn hala ata i'n amal
i nghofio i am y'n addewid i hala'r geua yno, ond rhaid bod yn garcus gyta'r
gwidwod yma. Mae rhyw fachan o Gwmbychan, ffrind i Fardd y Stac, fyswn i'n
feddwl, wedi hala ata i i wed wrtho i am gatw draw o'r Glanna, ne bydd
milgi'n dwad ar y'n ol i. Ond os yw i am gatw'i filgi'n iach, fydd well iddo
fa i gau a yn y twlc. Ma'r Tramp yn gwpod shwd i ddelo a chwn, a shwd i ddelo
a Bardd y Stac hed. Ma bachan arall wedi hala ata i o Bontypridd i ofyn i fi ddwad yno, ag
yn cynnig lodgin i fi yn Sgupor yr Hendre, lle ma mishtir beirdd y
“Darian" yn byw. Wi ddim yn gwpod a os gyta'r bachan awdurdod ar y Sgupor
ne beido, ond falle daw hi'n handi. Mi ges lythyr arall orwth rhyw Dewi Chwefror, o Lansamlet. On i'n meddwl
taw rhyw dwll mwg a neb yn byw yno odd Llansamlet, ond ma Dewi Chwefror yn
rhoi gola newydd i fi ar y lle. Fel hyn ma fe'n sgrifennu: - Annwyl Mr. Tramp,—Rw i'n dishcwl clywad si fod y'ch anrhytadd yn dod i'r
plwy yma. Ma fa'n un o'r plwyfydd mwya enwog mwn bod, a phopol o nod yn byw
yma. Yma ma'r Henatur Jordan, tad y plwy, yn byw ym Mharc y Deri. Yma ma
Crymlyn fawr ei ddawn a'i awen yn gwreichioni. Yma ma Heilir Mai, a ma
fynta'n slebyn. Yma ma Gwilym Betw, dyn mawr arall, a thysach chi'n rhoi
ticyn o ialan fetw ar i gefan a pan ddewch chi; nelsa hi ddim drwg iddo fa.
Dishefon ni'n brudd, mi gymersa dros awr i fi enwi'r dynon mawr i gyd. A dyna
fi 'mhunan; ma Golygydd y "Darian" yn gwpod am dana i'n dda; mi
rows e gatar i fi yn Steddfod y Graig. Os bydd yn wiw gyta chi ddwad i'r
plwy, halwch hannar gair i'r eiddoch yn frawdol, - Dewi Chwefror. Wi'n sposo fod Dewi'n iawn gan bo chi'n napod a, Mr. Gol.; chlywas i
ddim son am i enw fa o'r blan. Falla taw un o'r dynon mawr hynny sy o'r golwg
yw a. Mi af fi yno iddi ecsamino fa un o'r dyddia nesa. TRAMP |
|
|
|
|
(delwedd J4219) (23 Medi 1915) |
23 Medi 1915 Llith y
Tramp. Mishtir Golycydd, — Odd bardd y Stac, Cwmbychan, yn ffyrnig achos i fi
roi dwy lein o'i gan a yn y "Darian.' Ma fa wedi newid ticyn ar y gân
oddar hynny fel on i'n syjesto iddo fa, A nawr er mwyn i shalens a i hala i
filgi ar 'yn ol i dyma fi coeddi'i gân i gyd. Fel hyn mynta un o'i ffrindia
fa, ma hi'n darllen nawr:- Boneddwr
o Gwmbychan, I hela fe
aeth allan, Ar gaseg
deneu ddu; Fe
reidiodd ar ei gaseg Hyd gwarter wedi deuddeg Heb
unwaith godi pry'. Ha, ha
etc., Heb
unwaith godi pry'. O'r
diwedd cododd lwynog Yn ymyl
ty cymydog, A'r corn
rows eitha floedd – A'r holl
fytheidd redasant, A'r llwynog
coch ddaliasant, Ond ci
rhyw ffarmwr oedd Ho, ho
etc., Ond ci
rhyw ffarmwr oedd Wrth fynd
yn ol o hela, Daeth y boneddwr tila Tu yma i
Bontrhydfen, Ond chana i ddim ychwaneg, Mi gwmpas
e a'i gaseg I'r afon dros ei ben; Hi, hi!
etc., etc., Ond os
rhaid pwt bach etc, Rhyw witw
redws ato, A
chredai'n ddigon siwr Gan nad oedd lwc ar hela, Ei fod ef
am bysgota, Y pysgod
yn y dwr! He, he!
etc., Y pysgod
yn y dwr. BARDD Y
STAC. Cwmbychan. |
|
|
|
|
(delwedd J4220) (23 Medi 1915) |
Ma fa'n
canu dicyn yn steilish hed, felsa fa'n meddwl ticyn o hono 'i hunan. Gan fod
mei Lord Bardd y Stac mor ffyrnig yn erbyn i fi fynd i Gwmbychan, rw inna'n
mynd yno. A rw i'n dwad trw Aberdar hed, Mishtir Golycydd, a os na gripa i
wallta rhai o nhw yna ma'n rhyfadd gen i. Wi'n napod shaw o'r Snecs oddar pan
fuas i'n labro'r nos yn y Bwllfa. Ond yn y cyfamsar rhaid rhoi sylw i rwpath
arall. Ma rhwpath rhyfadd wedi dwad dros yr hen Sian Llandeilo. Ma'r llythyr
a ganlyn yn siarad drosto fa'i hunan: Mei diar
hintended syn-in-lo.- Ai am send yw e pêr o stocins ffor e berthdei presant.
Ai hôp yw wil not go to ddi Garw to labro'r nos next Wintar. Ai fful feri
lonli afftar Alis go awei, and dder is sytsh e lot in ddi pepers abowt har
efri dei. Shi is mekin a grand strygl owt dder thei sei. Iwars, feri sori for
brecin iwar leg, — Shan. Nawr
gwetwch chi os nag ôs pethach rhyfadd yn dicwdd. Ma'r hen wraig wedi gneud yr
un mistec a nath Dafydd y Crydd. Ma hi'n meddwl taw Alis yw'r Aleis. Wi'n
clywad fod ticyn o gynnwrf yn |
|
|
|
|
(delwedd J4221) (23 Medi 1915) |
Llansamlet o achos y
llythyr halws Dewi Chwefror i fi, a os dim sicrwydd a gaf fi fynd trw'r plwyf
yn ddiwrthwynebiad. Ma'r henatur Jordan yn ffyrnig achos mod i wedi tynnu'r
coliars mas ar streic, ag yn bwcwth hala'r Mabinogion ar 'yn ol i, a ma
Crymlyn yn bwcwth 'y mombardo i, ond ma Heilir Mai a Gwilym Bedw dicyn yn fwy
rhesymol. Mi fynna i weld beth alla i neud o honyn nhw yr wythnos nesa.
TRAMP. At Dramp
y Darian. Mr. Tramp, — Yr wyf wedi cael mwynhad mawr wrth ddarllen dy
llithiau o bryd i bryd yn y "Darian." Pa bryd yr wyt yn myned i
roddi tro i dref Aber-y-dar. Nid yw y ffordd ymhell o dy breswylfod
presennol. Er dy fod yn ffaeledig - un goes yn fyrach na'r llall — yr wyt yn
teithio llawer trwy Gwm Tawe. Fe gei dderbyniad gwresog i "Sweet
'Berdar,” ac yn sicr y cei defnyddiau amryw o lithiau. Dere yn wir, yn fuan.
A wyt ti yn adwaen "Eryr Gwyddon" a'r "Fwyalchen"? Os
ydwyt, gofyn iddynt hwy ddyfod am dro i'r dyffryn yma. Y mae lle hyfryd i'r
Eryr yn Nharren y Bwllfa neu yn yr hen chwareli ar Ben-rhiw-Mynach. Gallai
oddiyno weled y cwm yn ei ogoniant. I'r Fwyalchen y mae lle cysgodoI yn
nghoed Pen-rhiw-Mynach neu allt Blaengwawr, lle y celai llonyddwch i byncio'i
chân swynol ac i weled ysblander y cwm. Disgwyliaf am atebiad pa awr y deui
di i Aberdar. - Ydwyf, UN O'R SNECKS. |
|
|
|
|
.....
|
|
(delwedd
B2271) (21 Hydref 1915) |
21 Hydref 1915. Y
Darian. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,- Fel gwetas i o'r blan,
mi fuas i yn Hundab y Baptis yn Hewlyfelin. Dyw'r pethach hyn ddim llawar yn
y'n lein i fel y'ch chi'n
gwpod, ond odd Parcwyson yn gwed y dylswn i fynd yno i glywad yr Hedgar, a mi
es, a dyna un o'r pyrfformsis gora w i wedi weld yto. Ar ol yr hintrodycsiwn,
dyma'r Hedgar i'r platfform, a mi synnas i dicyn. On i wedi meddwl fod pob
Hem Pi yn ddyn mawr, tew. Dim ond Mapon a John Williams wi'n napod o henyn
nhw, a ma nhw'n ddynon sybstanshal. Rw i'n napod Mishtir Stanton hed, a ma
fynta wedi treio am yr Hem Pi. Ond dishafoni'n bridd, ys gwetws Dewi
Chwefror, dyw'r Hedgar ddim mwy na rhyw wan thyrd o Mishtir Stanton.
Fe wetws yr Hedgar dicyn bach yn neis iawn am Keir Hardie, ond wedi iddo
gwpla gwed hyn, fyswn i'n meddwl fod rhywun wedi twtsh a rhyw spring yn
rhwla, a dyma fa'n neido 'nol a sefyll yn streit, i drâd a'n glos idd' u
giddyd [sic; = giddyl], a'i ddwy law a lawr wrth i ochra fa. Yna, dyma un
fraich yn saethu lan, a dyma'r llall lan a honno lawr, y peth perta welsoch
chi ariod! Dyma fa'n bwrw un law ymlan yn streit a'r Hall nol. Dyma'r ddwy
law mlan gyda'u giddyl yto a fynta'n downso ticyn. Dyma'r ddwy law lan ag yn
dwad lawr felsa fa'n treio bachu rhwpath yn yr awyr, a felny buws a am hannar
awr. Odd yno ryw fachan
blewog o'r North yn ishta yn y'n ochor i, wedi dwad yno'n
"ddeligat" medda "fo," a mi ofynnws i fi “Be oeddach
chi'n feddwl o'r arath?" Jawcs i myntwn i feddylas i ddim am rondo ar yr
arath. Dishgwl ar y perfformans a watsho'r springs yn gwitho bues i a rw i'n
rhoi'r ffyrst preis iddo fa'n hunfrytol. Ma'n ddrwg gyta fi
wed fod Parcwyson pan w i'n scrifennu wedi gorffod mynd i Llundan i weld
doctor. Rw i'n gobitho daw a'n nol i'r Parc yn iach heb fod yn hir, wath ma
fa wedi bod yn help mawr i fi, ag os gneiff tri mesur petar lein bach fel hyn
ryw les iddo fa dyma nhw: Tyrd yn dy ol,
Parcwyson, Dyma'r llythyr ges i o
Cwmbwrla: - Annwyl Mr. Tramp, - Dw i
ddim yn gwpod a otich chi'n catw map o'ch teithia ne bido. Os otich chi, fe
ddylsach farco Cwmbwrla arno fa, a dyw Abartawa ddim ymhell o Gwmbwrla. A ma
nhw yn y ddou le hyn yn teimlo bo chi wedi iselhau ticyn arnyn nhw wrth beido
galw yno. Yn lle hynny dyma chi'n mynd off acha whew i Lansamlat gyta Dewi
Chwefror. Mi fuo inna yn gwitho yn Brigro, a fel odd y Giaffar Rhys yn gwed
odd yr Hen Bwll yn smatic witha a phan ddetho i odd yno rodd ticyn o brown
teitus arno hed. Ma'n syndod fod y giaffar i hunan yn catw mor iach a
golycus. Ond dw i ddim yn mynd i'ch blino chi, annwyl syr, a hanes y mhunan,
a 'dos arna i ddim isia dwad yn enwog fel chi, rhag ofan i fi golli mhen. Ond
ma lot o bethach yng Nghwmbwrla allach chi whilo mas, tasach chi ddim ond
dwad yma a'r wyntyll yn ych llaw. Fe ofaliff y Dewi, Cwmbwrla, yna ma Dafydd
y Crydd yn son am dano, a finna ffeindo lle piwr i chi i lodgo yma. Cofiwch
fod Cwmbwrla'n sentar i Abartawa a'r cylch. Yr eiddoch, yn dishgwl am danoch
chi, Dafydd Domos, 207a Cae-brics, Cwmbwrla. Ma llythyra wedi dwad i
law orwth Fachan o Dredecar, Bardd y Stac, Gwilym Cynles, Eryr Parc-y-Cwm, ag
orwth Alis y'n hen gariad a'r witw fach o Bontycymar. TRAMP. |
....
|
|
(delwedd J6602) (4 Tachwedd 1915) |
Y Darian.
4 Tachwedd 1915. Llith y
Tramp. Mishtir Golycydd, — Rw i mwn ticyn o ffics y dyddia hyn. Wi'n ffaelu
gwpod yn iawn beth odd ym meddwl y Llaethferch yna o Smutw, pan odd hi'n
riffyrro ata i yn y "Darian." Odd a ddim yn ddicon iddi whipo
Mishtir Gwernydd Morgan, ond odd raid iddi gal rhoi ergyd llaw-whith i finna,
a gwed fod Gwernydd "mor anfrenhinol a Thramp y 'Darian'. Ne felny
deallais i ar y cynta. Mi ddes i lawr yn streit atoch chi i'r offis, a fel
y'ch chi'n gwpod chi wetsoch chi wrtho i fod y "Llaethferch" yn gwd
gyrl, a'i bod hi falla mwn cariad a fi, a taw felny odd hi'n introdiwso'i
hunan i fi. Pan on i'n mynd o'ch offis chi mi gwrddas a Mishtir Puw, Golycydd
yr "Aberdar Lidar," a mi ofynnas iddo fynta i farn ar y matar.
"Dramp annwl,” mynta fynta, "cymrwch ofal o'r merched, dy'n nhw
ddim i gellwar a nhw." Wedi i fi fynd ymlaen dicyn bach dyma fi'n cwrdd
a dyn mawr arall o'r enw Ap Hefin, a mi ofynnas iddo fynta, a mi wetas wrtho
beth odd barn golygyddion y ddou bapur pwysica yn Shir Forgannwg. Mi wetws
ynta wrtho i taw rhyw fachgan ifanc wedi mynd i dicyn o oedran odd Golycydd
yr Aberdar Lidar, a nag odd i farn a ddim yn saff iawn pan fysa merch ifanc
yn y cwestiwn. Mi wetws Ap Hefin hed fod y
Llaethferch yn ferch o safle, a na fysa fa'n un dianrhytadd i ddyn i gal cnoc
genti hi. Odd a wedi i chlywad hi'n atrodd yn Berdar, a chlyws a ddim
gwell ariod. "Mi dynnws y ty lawr yn garlibwns," mynta fa.
"Ie, mynta finna, "dyna beth w i ddim yn leico. Ma hi'n tynnu'r tai
lawr lle bynnag eiff hi. Peth od na bysa'r plismyn wedi i chymryd hi lan. Ma
hi'n suwr o fod |
|
|
(delwedd J6602b) (4 Tachwedd 1915) |
yn gneud
collad ofnatw i'r wlad. Os yna dicyn o natur Seplin ynddi gwetwch?" Mi
chwerthinws yr Ap, a mi wetws taw ymatrodd ffigyrol odd "tynnu ty lawr
am ennill cymeradwyath fyddarol y gynulleidfa. Wrth gwrs odd hyn yn newid
ticyn bach ar y cwestiwn. Ddigwyddws Banistar Trecynon ddim dwad i'r Parc ne
mi fyswn i wedi i gonsylto fynta hed. Er mwyn i'r Llaethferch gal cyfla i
egluro'i hunan dyma fesur petar lein ne ddou iddi: — Pwy wetws
wrth y Llaethferch Mod i yn
anfrenhinol? Rwy'n
frenin cofied hi, Beth
bynnag wed rhai popol. Wi'n
frenin lled urddasol A ngair o
hyd yn gyfrath; Be waeth
os mewn ty gwair Bydd
gorsedd f'ymerodrath. Mi ges i
lythyr arall orwth Mr. Jeffres, Ystradgynles, a dyna dro ynte. Ma fa fel hyn:
Diar
Mishtir Tramp, — Ai am feri sori tw tel yw ddat ai med a feri ffetal blyndar
when ai was reit to yw last teim. Yw no ai tell yw ddat mei shop is niar ddi
stesion. Ai was goin tw reit a post scrip to iwar letar tw tel yw ddat ddi
shop was niar a pyb as wel, but in mistec ai did reit ddi post scrip to ddi
rong letar, and send it to Eryr Gwyddon, and hi and ddi Fwyalchen and Barcud
Craig y Nos and Llwyd y Berth were hiar bei retyrn of post ascin ffor the
pyb.—Iwars triwli, etc. Wel dyna
dro. TRAMP. |
|
|
.....
|
|
(delwedd
F7968) (2 Rhagfyr 1915) |
Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, - On i'n gwed wrthoch chi byswn i'n hala Mishtir Stanton i'r
Parlament, a ma fa wedi mynd a hynny gytag ofarthympin madjoriti. A odd yn
bwysig iawn i fi gal a i fewn er mwyn iddo dreio catw prishodd pethach lawr.
Rw i'n gobitho catwiff a'i lycad ar brish y Blac and Wheit, nid er mwyn i'm
hunan, ond er mwyn y rhai sy'n talu am dano i fi. A sa fa'n gwed gair o blaid
Mishtir Ffranclin a Mishitr Ringer fyswn i'n ddiolchgar iawn iddo fa. Dybaco
rhain fydda i'n smoco, a mi nath y Llywotrath hen droi shabi wrth neud i fi
dalu diwti iddi hi ar ddybaco dynon
erill. Y peth rhyfedda yn Berdar yn amsar lecsiwn odd y smel neis odd
ymhob man. Odd pawb yn ffaelu diall beth
odd hyd nes iddyn nhw glwad taw'r I.L.P. odd yn câl u rhosto. Nhw fuon
o flân y tan am wthnos gyfan, ag yng nghenol y tan hed lawar gwaith a Mishtir
Bibins a Stanton a’r bachan yna o Llundan yn u fforco nhw. Odd y beirdd yn
gwed na fu dim golygfa debig o'r tu fas i uffern y Bardd Cwsg; dw i'n gwpod
dim pwy fardd odd hwnnw. Rhyw fardd, falla, sy wedi speciwleto mwn preifat
consarn a wedi cwnni busnes fach iddo'i hunan yn y lle poeth. Wel dos gen i
ddim ond gobeitho y bydd yr I.L.Piers yn well dynon ar ol bod yn y tan. Allwn
ni neud dim yn well na dymuno'n dda i bawb. On i ddim yn meddwl wrth hala Mishtir Stantan i'r Parlament
y byswn i'n dwad yn fwy enwog nag ariod. Ma nhw’n gwpod am dana i nawr yn
Berlin, a rw i wedi cal llythyr melltigedig orwth y Kaiser, y peth mwya
insyltin w i wedi gal yto. Ma fa'n darllan fel hyn: - Syr, - Yw vos a
dyrti old Tramp; yw vas sboil mei litl gêm in Merthyr and Byrdar. Vy yw vos
send ddat man Stanton tw Parlament. Yw vos fforget mei ejant vos gif yw ddi
tshec when yw vos pwl coliars owt on streic. Praps yw vos not no ddat ai am
on tramp meinself, on tramp sins last Ogyst. Ai hav not cym to Wels iet, but
ven ai vos cym it wil be bad lwc owt for yw, yw dyrti hold hidiot. Ai wil haf
yw if ai vos tw haf to blo hyp hefri hei shed in Gret Briten. So yw had betar
sei ywar prers bifor yw hiar mei canons. Iff yw vos pwt Winston in ai wd haf
med yw prins of Wêls. On i wedi meddwl delo a lot o gorasbondans y tro hyn, ond
ma'r Caisar wedi mynd a'r gofod, ond ma raid i fi roi ticyn bach o'r llythyr
ges i o'r Onllwyn orwth Mishtir Morgan Jones, Hen Dy: Barchus Bererin, - Cyfrifwn yn anrhydedd oesol i'r Onllwyn
a'r Dyffryn os gwelwch yn dda daflu llewyrch eich urddas ar y gwyllt leoedd
anghysbell hyn. Yr wyf yn taer geisio gennych ddyfod, yn arbennig gan fod
eich dylanwad mor fawr mewn etholiadau. Mae eich eisiau yma i roi rhai i fewn
a chadw eraill allan. Credaf y gall eich dyfodiad fod o fudd arbennig i fy
nghyfaill, yr Yswain Jones. Nac anghofiwch ein cais. Cofiwch hyn byddwch yn
hollol ddiogel yma. Pe deuai lluoedd y Caisar i Brydain, ni fyddai perigl yn
y byd iddynt gael hyd i'r lleoedd hyn. Dyna beth o'r llythyr; ma fa'n safonol iawn allswn i
feddwl, a dyma fachan fydd yn shiglo llaw a'r Sgweier Jones yr wthnos nesa.
TRAMP. |
|
|
(delwedd
J7056a) (9 Rhagfyr 1915) |
Y Darian. 9 Rhagfyr 1915.
Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, Wel, dyma fi
wedi cwpla ngwaith yn Berdar. Mi rois i Stanton yn y Parlament, a mi catwa i
a miwn yno tra fydd a'n byhafio'i hunan. Wi'n ddiolchgar fawn i Mishtir
Hetgar Jones am i hintrodiwso fa i'r dynon mawr yno. Wn i ddim pam ma isha
cymint o lol wrth hintrodiwso dyn i'r Senadd chwaith. Ond ma hyn yn ffact,
cretwch chi fi, pwy uwcha bydd dynon yn mynd dwla i gyd ma nhw'n mynd. Pan
fydda i mwn ty gwair, mi fydd dynon na welas i ariod honyn nhw'n dwad ata i
ag yn gallu hintrodiwso'u hunen, ag yn gwaeddi "Helo,shwd ma hi Ian
yna?" Ond os byddwch dyn wedi dod ymlan dicyn yn y byd, os dim iws i neb
ddishgwl arno fa ond trw gyfryngwr. Hen lol yw hynny i gyd yn 'y marn i. Pam
na alse Mishtir Stanton gered miwn i Dy'r Cyffretin a gwed: "Mishtir
Speecar, dyma fi weti dod. Bachan bath o Berdar w i, ry'ch chi weti clywad am
dana i gyd, a ma Tramp y Darian yn cofio atoch chi." Yn lle hynny odd
raid i Mishtir Stanton fynd trw'r dril a chal i ddysgu beth i wed, shwd i
symud a shwd i neud bow. Ma'n depig taw Mishtir Hetgar Jones fu'n dreino fa,
a rw i'n ddiolchgar iddo fa am hynny. Mi ddylsa neud rhwpath am i betwar
cant. Dyw a ddim weti gneud dim ys llawar dydd ond gofyn cwestiwn ne ddou, a
fu neb lawar callach o hapedion gas a. Ond gan i fod a wedi bod yn ffein wrth
Mishtir Stanton, rw i'n foddlon dod Berdar i weld y perfformans nesa fydd a'n
roi yno, dim ond iddo hala hannar gair i fi. Fel o'n i'n gwed yn y'n llith
ddiwetha, mi startas i o Berdar i'r Onllwyn i weld y Sgweier Jones. Mi ddes
lawr i lo lefal Castall Nedd. I |
|
|
(delwedd
J7056b) (9 Rhagfyr 1915) |
gâl y Nyth an Brecon. Odd deng
mlynadd ar hugan er pan fues i gyta'r relwa hyn o'r blan, a rodd hi'r pryd
hynny y relwa ora i Dramp welas i ariod. Rw i'n cofio dod gyta hi o Golbran i
Gastall Nedd, a mi startws o flân rhai o'r pasingars, ond odd rheiny o flan y
tren ar yr Onllwyn. Mi arosws y tren i'r hingin fynd Ian i'r Banwen i moyn
tryc o lo, a tra fuws a fan hynny mi ath y pasingars erill mas i'r mynydd i
henjoio'u hunen, a mi es inna i ryw dy i ofyn am dicyn o fara a chaws. Mi ges
gyfle i neud yr un peth dair gwaith cyn cyrradd Castall Nedd. Ag erbyn hynny
rodd y tren wedi mynd yn fawr. Rodd ynddo fa wageni calch a glo, coed a
cherrig, clai a glo man. Rodd yno hefyd fwtshwr, tair menyw'n mynd i'r dre,
petwar lodger, dou dramp heblaw mhunan, a dynon. Wi'n cofio'n iawn mod i
dicyn yn henach pan gyrhaeddas i Gastall Nedd na phan o'n i'n starto o
Golbran. Dyw'r hen dren ddim mor romantig erbyn hyn. Ma fa'n mynd ben i daith
yn strut nawr. Mi welas lot o bethach ar y ffordd, and y peth mwya
hinterestin i fi odd Ty Pwyso'r Sefn Sistars, lle ma'r bachan hynny bues i'n
rifiwo'i lyfyr a'n pwyso glo a George yn watsho na naiff a ddim cam a'r
coliars. Pan gyrhaeddas i i'r Onllwyn, mi welwn ddyn tepig iawn fyswn i'n
feddwl i desgrifiad on i wedi gal o'r Sgweier Jones, a mi es ato fa.
"Mishtir Jones iefe?" mynta fi. "Ie," mynta fynta, a dyma
fa'n dishgwl arna i o'r top i'r gwaelod. "Tramp y ‘Darian,'" mynta
fa, "ma dy gôs fer yn dy gyhuddo di. Dera miwn i'r Slôp fan hyn," a miwn ethon
ni, a mi ddaw'r hanas yn y nesa. TRAMP. |
|
|
(delwedd
J7057a) (16 Rhagfyr 1915) |
Y Darian. 16 Rhagfyr 1915.
Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, — Mi es i
Mwn stwmp pan welas i’r Slôp. Pwy feddylsa y bysa'r Onllwyn yn symud ymlan
gyda'r byd fel hyn. Ma'r Slôp yn Hotel fawr nawr, a chofiwch chi roi'r
"o" yn hir yn y gair. Ma gwr bynheddig rispectabl iawn yn i chatw
hi hed, sef yw hwnnw, Mishtir William Bowen. A wi'n cretu fod tafarnwrs yn
haeddu dod ymlan yn y byd os byddan nhw'n catw stwff gweddol o dda ag yn rhoi
ticyn o hen gownt. "Mishtir Bowan,"
mynta Sgweiar Jones, "dyma fi wedi dod a ‘Thramp y Darian' i'ch gweld
chi." "Wel, bendith Japog ar
ych pen chi," mynta fynta, "ond ma fa wedi dod o flân y blac an
wheit yto. Pan welas i yn y "Darian" fod y Tramp yn dod mi ordres
wagened o hono fa a ma fa ar y ffordd yn rhwla. Dos yma ddim ond dwy botelad
yn y ty." "Mi fydd dwy botelad yn
rhwpath i starto," mynta finna. "Rhwpath fydd a
hed," mynta'r Sgweiar Jones. Cofiwch chi nawr dodd y Sgweiar Jones ddim
yn wilia fel w i'n ysgrifennu. Ma fa'n rhoi geira llanw mewn bob cynnig. Ma
d--1 a d--it yn dwad mewn gyta fa bob yn ail air. Ma fa'r rhecwr mwya decha w
i wedi glywad ys Ilawer dydd. A ma'n shaw o beth os bydd dyn yn dileito mwn
rhecu i fod a'n gallu gneud hynny dicyn yn deidi. Dw i ddim yn cwrdd a un o
bob cant sy'n gallu gneud y job yn iawn. Mi glywas lawar yn 'Berdar yn treio
rhecu, ond odd yn gwiddyl u clywad nhw a sa nhw'n gwpod mor lletwith o'n nhw
fysa'n yn i thowlu hi Ian fel bad job. Ma clywad dyn yn rhecu felsa clocsan
ar flân i dafod a yn ddicon i droi ar stumog dyn. Ond odd Sgweiar Jones fel
gwetas i y'n rhecu'n ddecha, felsa fa ddim yn gwpod i fod a'n rhecu, a mhen
ticyn fyddwch chitha ddim yn gwpod i fod a'n gneud. A fyswn i'n meddwl nag yw
dyn felny ddim yn gyfrifol am y peth ma fa'n wed; ne os mi fydd gyta fa lot o
eira secur i roi cownt am danyn nhw. |
|
|
(delwedd
J7057b) (16 Rhagfyr 1915) |
Ond nid 'y musnas i hynny. Y
peth pwysica i fi odd fod Sgweiar Jones yn wr bynheddig o'r radd flaena. Ond
fuas i ddim yn hir yn diall fod mwy nag un gwr bynheddig yn yr Onllwyn, a
wir, mi ges mas mod i wedi cymryd un yn lle'r nall o honyn nhw. On i'n meddwl
taw Sgweiar Jones, o Blancellwan, odd gen i, and yn Ile hynny Sgweiar Dafydd
Jones, o'r Ffrynt Row, odd yno. "O pidwch a hido,"
mynta Mishtir William Bowan, "ma un o nhw cysled a'r llall a gwell
hefyd. Sgweiar motor-car yw un o honyn nhw, a Sgweiar poni a thrap yw'r nall.
A on i'n ddicon satisfeid ar y Sgweiar odd gen i. Yn enwetig pan wetws a fod
i fab yn manedging deirector mwn gwaith mawr yn Nantybwch. Ma Mishtir Bowan
hed yn un o'r cwmpni. Wi'n gobitho bydd llwyddiant mawr ar y cwmpni hyn, a na
cha nhw ddim o’u blino gan streics na hanundebiath na mass meetins na rhyw
gomplaints felny. Odd Mishtir Bowan a Sgweiar Jones yn gwed y bysan rhoi gair
mewn gyta'r manedgin deirector am iddo roi gwaith ysgafn i fi pan fyswn i'n
timlo mwn tiwn i ddechra labro'r nos. Ond dw i ddim yn addo starto am dicyn.
Dyw Tramp ddim llawar o werth os na alla a fyw ar i dalant am flwyddyn ne
ddwy. Ma lot o fechgyn a dalant yn galw i ngweled i yn y Slôp, a rhai o honyn
nhw'n feirdd ag yn ysglodion. Odd un o nhw'n gwed i fod o'n ddyledus i Dafydd
y Crydd am neud bardd o hono a nag odd a ddim yn timlo'r un fath byth er pan
ddechreuws a ddarllan llythyra Dafydd. Ma gen i lot o fesura petar lein ges
i'n gompliments gan fechgyn yr Onllwyn, a ma nhw'n gwed wrtho i am ofyn i chi
os yw rhain yn dod dan y rheol whech cheinog, y mesur. Os otin nhw ma nhw'n
mynd i acor sybscripsiwn list er mwyn i coeddi nhw. TRAMP. |
|
|
....
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ /
i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄
/ ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ
/
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀
ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ ,
Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ
Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː
//text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ
ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ
ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ £ gyn aith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen
ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig
/ Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_1915_0188k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 18-09-2018,
22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru
Arlein.
---------------------------------------
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la
Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats |
…