kimkat0347k Llith y
Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1916.
22-11-2022
.....
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....
(delwedd J7058b)
.....
O newyddiadur ‘Y Darian’ (Aber-dâr).
.....
20 Ebrill 1916
.....
25 Mai 1916
.....
01 Mehefin 1916
08 Mehefin 1916
.....
03 Awst 1916
.....
28 Medi 1916
.....
26 Hydref 1916
.....
29 Tachwedd 1916
...
|
|
(delwedd
5586) (20 Ebrill 1916) |
Y Darian. 20 Ebrill 1916. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, — Ma'n dda iawn gen i weld Mishtir
Dafydd y Crydd wedi gwella ag yn dechra iwso'i sgitsha unwaith yto. Dw i ddim
yn gwpod shwd un yw fa am neud sgitsha, ond ma fa'n gallu i hiwsa nhw! A ma'n
dda gen i, sa dim ond er mwyn Gwen i wraig a, i fod a'n gwella. Siawns na
ddaw a nawr gyta'r Gwanwn. Ma nhw'n meddwl lot o Dafydd yn Whitland yma. Wel,
dala'r un peth w i o hyd yn ddirwestwr i'r carn; dim ond lemwned a phop coch
w i'n yfad. Ma'r Vet. yn para i weyd y drefn am mod i'n llyncu peth mor dena.
Ond beth sy gen i i neud ar ol precath Mishtir Morgan Jones am y ci du. Gyta
llaw fe alws Mishtir Jones yn y sgupor yma'r wthnos ddiwetha. Odd a wedi bod
yn Berdar, mynta fa, yn prygethu gyta R. B. Ma nhw'n gwed na allwch chi ddim
cretu'r prygethwrs bob amser pan ma nhw'n gwed iddyn nhw fod mwn cwrdda mawr.
Ond odd Mishtir Morgan Jones yn gwed iddo fa'ch gweld chi yn Berdar a bo
chi'n cofio ata i'n fawr, a ma raid i fod a'n gwed y gwir felny. A rw i'n
ddiolchgar iawn i chi am gofio am dana i, syr. On i'n gofyn iddo fa shwd odd
R.B. 'n prygethu. "Hardderchog, Bendigetig, Alaliwia,” mynta fa. Ma'n
dda gen i fod a wedi gwella, mynta finna. On, i'n meddwl dim llawar o hono fa
pan glywas i fa, a dw i ddim |
|
|
(delwedd 5587) (20 Ebrill 1916) |
yn cofio mod i wedi bod mewn capal byth odd ar
hynny, a mi fysa arna i dicyn o ofan mynd i glywad R.B. Sut felly, Dramp
annwyl? mynta Mishtir Morgan Jones. Wel, fel hyn, mynta finna, odd a'n wynad
ofnadw wrth bregethu ag yn bwcwth pethach cas i'r rhai fysa ddim yn cretu'r
pethach odd a'n weyd. A shwd gallswn i gretu pethach nag on i'n gwpod dim yn
u cylch nhw. Odd a'n bwcwth y'n hala ni i uffarn i gyd os na nelsan ni bopath
odd a isia i ni. Nawr dw i ddim yn gwpod dim am fy lle poeth yna,
pun a oti fa i gal ne bido. Ma rhai'n gwed nag ôs dim shwd le. Mi wetws Gwili
'slawar dydd yn y "Geninan" taw ceffyl pregethwyr odd uffarn, ac fe
"aeth”, mynta fa, "lle'r aeth ceffylau da." A mi glywas i un
dyn galluog yn gwed y dylsa Gwili fod yn gwpod achos i fod a wedi bod tuhwnt
i'r llen. Wn i ddim beth ma hynny'n olycu, os nage'i fod a wedi cal eitha
ffit a wedi gweld ym mhellach na chyrra'r wlad. Ond hyn yw hi, Mishtir Jones,
dw i ddim leico clywad pregethwrs yn wleua am y lle poeth felsa gyta nhw
awdurdod i hala'r sawl fynsan nhw iddo
fa. "Hm, hm," mynta Mishtir Morgan Jones, "mi nelsach chi
brygethwr tan gamp. Na, na, Mishtir Jones, wleua ticyn o sens a chi w i. Mi
wetws R.B. lot o bethach erill fuws yn help i fi beido mynd i rondo ar
brecath byth weti'n. Odd a'n cnoco ar ben rhyw rai odd yn ishta mwn blawd
llif, odd hynny ddim yn help i
santeiddrwydd, mynta fa. Wi ddim wedi gweld neb yn ishta mwn blawd llif, ond
tysan nhw'n gneud hynny dw i ddim yn gweld fod catar esmwth o rawn ceffyla ne
groen mochyn ddim yn fwy santadd na blawd llif. A wi'n ffaelu gweld fod mynd
i |
|
|
(delwedd
5588) (20 Ebrill 1916) |
weld drama lawar gwath na mynd i amball gwrdd mawr
fel odd a'n gweyd. Ma fa'i hunan yn treio bod mar ddramaticyddol a gall a yn
y Pulpud. Ma fa'n cnoco'r Beibil, yn dangos i ddannadd pan ddylsa fa ddishgwl
yn neis, a ma fa'n gwenu fel angal pan ma fa'n mynd i roi pigad i chi. “Stop, it, stop it," mynta Mishtir Morgan
Jones, "Dramp annwyl, rych chi'n ymylu ar gaplu hurddas." “Nacw i, Mishtir,, Jones," mynta nna. Ond
sens yw sens. Mi wetws lot o bethach erill hed, am ferchad hannar porcyn yn y
Theatres, a shwd dylsa rhai odd yn cysgu gyta'u giddyl neud. Rw i'n gwed y
gwir on i wedi mynd i deimlo'n rhyfadd iawn. Odd y bechgyn a'r merched ifenc
ofan dishgwl ar 'u giddyl pan odd a wrthi’n gwed y pethach hyn. A beth odd
isha son am danyn nhw o'r Pulpud. A mi weta wrthoch chi beth arall, Mishtir
Jones, dw i ddim yn leico clywad rhai'n gwed o'r pulpud fod dynon ffein,
caretig, cymwynasgar yn mynd i uffarn os na fyddan nhw’n cretu'r peth ma'r
prygethwr yn wed. Os ma dynon fel hyn sy'n mynd i uffarn, rw i'n mynd yno ’mhunan. Rw i'n
credu hyn y bydd dyn yn fwy tepig o fynd i le da os bydd a wedi bod yn
garetig i'r Tramp nag am i fod a wedi gwishgo silcan a cholar ci wedi i
startsho." "Hold on, hold on, Dramp annwyl, ma arna i
ofan ych bod chi'n dirywio,” mynta Mishtir Jones. “Wel, ma rhwpath rhyfadd wedi dod drostw i'n
ddiweddar er pan ges i'n argyhoeddi gyda chi, gobeitho nag w i ddim yn mynd
yn wâth nag on i. Ond rw i wedi wedi bod yn rhoi'r pethach on i’n glywad
slawar dydd at’u giddyl, a rw i felswn i'n meddwl y gallswn
gretu ticyn yn y Gwaretwr, sa'r prygethwrs yn rhoi llai o drimins am dano fa.
Wel, dyma fi wedi gwed wrthoch chi, Mishtir Jones, nes ma mhen i'n dost.
Peidwch a bod yn ddierth yn y sgupor yma. TRAMP. |
|
|
(delwedd J4241a) (25 Mai 1916) |
Y Darian.
25 Mai 1916. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,— Falla synnwch chi glywad mod i wedi
dod yn gymytog i chi unwaith yto. On i'n teimlo pethach yn lled dawal yn
Whitland yma, a mi ddigwyddas gal y llythyr hyn o Habarpennar, sef yw hwnnw,
Mowntan Hash. Ma fa'n llythyr orwth ddyn mawr henwog fel ych chi'n gweld, neb
llai na Mishtir Hywal Nedd, bardd a sgrifennwr o fri, a phregethwr a
darlithiwr heb i fath. Fel hyn ma fa:— At Dramp y Darian. Dalentog ag hathrylithgar frawd, - Wi'n ych galw chi'n frawd am mod i
mhunan yn dicyn o dramp, a ’dos neb y dyddia hyn a chwiddyl arno alw i hunan yn
Dramp, er pan ddechreuws eich talant chi ddisgleirio ar lan y 'Darian.’ Wi'n
gobitho daw'r llythyr hyn i'r sgupor yn saff. Ma gen i gais arbennig atoch,
sef gofyn yn hostyngedig a ddeuwch am dro i Habarpennar i weld y dynon mawr
sy' yma. Ma nhw'n hiraethu am danoch oll, ys gwetws yr hapostol, a ma nhw'n
teimlo dicyn yn siometig na fysach chi wedi i ffeindo nhw mas pan oech chi yn
Berdar. Ma nhw'n gwed ych bod chi wedi bod yn ddicon hir yn Whitland nawr, a
ry'n ni wedi setlo a'n giddyl i ffeindo lodgin i chi gyta gwitw fach neis
sy'n byw yn y lle yma - un fydd yn siwr o neud i gora i'ch gneud chi'n
gysurus tra fyddwch yma ag am y gweddill o'ch oes os byddwch yn dewis. Wrth
gwrs matar i chi a hitha fydd hynny. Dw i ddim ond just rhoi'r hint i chi.
Ma'r Doctor Arthur Jones yn addo dishgwl ar ol ych iechyd chi'n rhad ac am
ddim tra fyddwch chi yma. Ystyriwch ei cais, dalentog frawd, a deuwch yma. -
Yr eiddoch, hyd byth ac yn dragywydd, HYvVEL NEDD. Gwetwch chi nawr, Mishtir Gol., os
gallsa rhywun wrthod hinfitesion fel hwn? Heb ymgynghori a chig ag esgyrn neb
mi halas i air i wed mod i'n dod. |
|
|
(delwedd J4241b) (25 Mai 1916) |
Fu'r son ddim yn hir cyn mynd mas
fod y Tramp yn mynd o Whitland, a mi alws llawar yn y Sgupor yma yn 'u dacra
i fecan arna i aros, ond on i'n gwed wrthyn nhw taw nid tramp fyswn i tyswn
i'n aros. Mi halws rhai lythyra i wed fod yn drwg gyta nhw na fysan nhw wedi
galw. Odd un orwth Mishtir Rogers, Rhegwm Isaf, fel hyn: - Feri Sorri, cant cym tw su your Onor. Ai am
a feri bisi man, a man of bisnes yw no." Mi ddath un arall orwth Mishtir
Tom Llewelyn, Penrhiwgoch, fel hyn: “Ma'n ddrwg gen i bo chi'n mynd, ma'r
tywydd yn argoeli bod yn ffafriol iawn i'r daith; os nag eiff hi'n rhy dwym.
Gwres mawr ddaw ar ol y niwl yma— niwl gaea, glaw niwl gwanwn, gwynt; niwl,
haf tes. Felny odd yr hen bobol yn gweyd a ro'n nhw'n iawn! Rhwydd hynt i
chi, halwch dipyn o hanes y gweithi i fi." Odd llythyr arall orwrth Mr.
John James, Croft Cottage: “Own i'n meddwl taw nol yn y gweithi bysech chi
cyn hir. Wi'n cofio clywed stori am dri bachan o Whitland yn mynd i ben pwll
glo i ofyn am waith. ’Dos yma ddim gwaith i chi,' mynta'r gaffer. Ond hoen
nhw'n cymell yn daer iawn, a dyma'r gaffer er mwyn cal llonydd gyda nhw'n
gweyd — 'Sefwch chi nawr, falle dim ond i chi aros deuddydd ne dri y daw lle
i chi; mi ddath yma dri bachan cryf fel chithe'r wthnos ddywetha a mi ddath
cwmp mawr arnyn nhw a'u lladd nhw. Ma yna dri arall yn 'u lle nhw'r wthnos
hyn, aroswch chithe i gal gweld beth ddaw o rheiny.' Nol i Whitland odd hi
wedi'n. Ma'n ddrwg gen i golli'r Tramp. Dewch eto?" Wi'n gweld na alla i
ddim rhoi'r llythyra i gyd. Mi ddylswn weyd wrthoch chi fod Mishtir Morgan
Jones a Mishtir G. Higgs wedi bod ar swper gyda fi y noswath ddywetha cyn i
fi ddod oddyno. A dyw a ddim ond teg gweyd taw Mishtir Jones ddath a'r swper
gydag e. Pan glyws a mod i'n mynd, mi ath lawr i'r afon a mi ddalws samwn a'r
leisens newydd sy gydag a, a mi ddath a phishin o hono fa i'r sgupor yma. Ond
y wag penna yma yw Mishtir Tom Williams y Vet, o'r Stesion Hows. Mi ddath e i
gwrdd a fi ar y ffordd, a mi stwffws rwpath yn garetig iawn i mhocad i, a
beth odd a ond potelad o Blac an Wheit. Mi ddes i a'r botal heb i hacor i
Habarpennar er mwyn cal barn y Doctor Arthur Jones arni. TRAMP. |
|
|
(delwedd 5561) (1 Mehefin 1916) |
Y Darian.
1 Mehefin 1916. Llith y
Tramp. Mishtir Golycydd,
— Ma raid i fi weyd ticyn o'r hanes ffor des i'r Mowntan Hash. Ry'ch chi'n
cofio pan ddes i lawr i Whitland mod i yn yr hecspres a nag odd hwnnw ddim yn
meddwl aros yno, a finna yn ol y cyfarwyddyd yn y "Notice” yn tynnu'r
cord i stopio'r trein "in case of emergency." Mi ges i waith mawr i
perswato nhw yn y stesion i fod a'n cês o hemyrgensi i fi ddod mas yn
Whitland. Odd rhai o nhw'n wleua felsa fa ddim o bwys mynd a dyn o'i ffordd
lawr i waelod Shir Bemro. Wrth ddod nol on i'n pendarfynnu iwso nhrad. Ar
rheiny y'n ni wedi'n bwriatu i symud wedi'r cwbwl. Rw i'n cretu bysa'r byd
yma sopyn gwell nag yw a tysa yma fwy o
drad yn symud a llai o whils. Dyw dynon yn gweld neb na dim nawr pan
ma nhw'n symud, dim ond trwyna a gwyneta rhai sy'n ishta ar u cyfar nhw yn y
trein. Rown i'n weddol barod i daith nawr hed. Rych chi'n cofio i'r Cynghorwr
Mishtir Prosar o'r Sefn Sisters y'n anrhydeddu i a phar o sgitsha pan on i'n
mynd o'r Onllwyn; ma rheiny wedi dala'n dda digynnig ys gwetws gwyr Cwm Tawa,
ag yn gysurus dros ben. Wedi clywad fod y Cynghorwr wedi anfarwoli ei hun
wrth roi sgitsha i Dramp y Darian, mi benderfynws Comiti'r Cop yn y Sefn hala
par o'u sgitsha nhwytha i fi a dau bar o lasis a spesimans o lawar o bethach
erill odd gyta nhw yn y shop a chroeso i fi byrnu unrhyw beth odd gyta nhw yn
y Cop pan ddelswn ni i'r Sefn nesa. Welas i ddim llawar o neb on i'n napod
nes on i yn Llanelli. Yno mi ddath rhyw wr bynheddig ymlan ata i; odda wedi
deall mod i'n rhywun. A rhyfadd fel ma'r prygethwrs yma'n tynnu ata i'n
ddiweddar. Y Parch. Llew Morgan odd y gwr bynheddig hyn, a ta beth yw
syniata'r Weslas am y "ddynol natur," ma "natur ddynol"
go dda yn y Llew. Odd a wedi bod yn pyrgethu mwn cwrdd mawr gyta Weslas
Llanelli, a nhw ddylsan fod yn well ar ol grondo arno. |
|
|
(delwedd 5562) (1 Mehefin 1916) |
Wedi i fi
ddod i Bertawa on i'n catw orwth bawb on i'n napod, ne fyswn i byth yn
cyrradd i'r Mownt, a dicon prin y byswn i'n dod oddyno'n sopor. Mi welas gip
ar Fishtir y Cynel yno ag ar Dafydd Gwr Nansen, a'r olwg ar Dafydd druan yn
tystio taw Nansen odd o hyd yn ben. Ma dyn wedi mynd yn beth gwael hed pan yw
a'n ddim ond gwr i hon a hon, yn enwetig os taw rhyw hen griatur fel Nansen
yw honno. Chaiff Dafydd druan ddim sgrifennu llythyr i'r wasg heb iddo fa'i
seino fa fel gwr Nansan. Ma son mawr am hen gymeriad yn un o'ch dramas chi,
Mishtir Gol., a Ned Huw, gwr Sian, yw hwnnw. Ma nhw'n gwed taw Dafydd gwr
Nansen odd yr horijinal. Pan briota i Alis rw i'n siwr na fydd dim shwd
annhrefn yn y'n ty ni. Mi fydd yn dicyn o job iddi nghal i i adfarteiso
mhunan fel gwr iddi, fel ma Dafydd druan yn gorffod gneud bob wthnos. Ma rhyw
dicyn o dalant yn Dafydd, ond dos ynddo fa ddim asgwrn cefn, a ma'n dda hynny
falle, ne mi fysa Nansen yn siwr o'i dorri fa. Wedi i fi gâl cino lawn yn nhy
"Thomas Cafe," 214 High Street, y dyn yna rych chi'n gweld i enw fa
yn y "Darian”, mi gnes hi nawr am dramcar Castall Nedd. Dyma'r unig
gerbyd w i'n weld yn trafaelu'n respectabl yw hwn. Byw a ddim yn i chynnig hi
fwy na four miles an hour, a dyw a ariod wedi bwrw neb lawr wrth fynd. Pan gyrhaeddas i Gwm Nedd dyma ryw
wrbynheddig arall a golwg awdurdodol arno fa yn rhoi i law ar y'n ysgwydd i
ag yn gwed — "Tramp y Darian, tawn i byth o'r fan yma!" A phwy odd
a ond Mishtir Thomas Williams, y Scwl. A dishefoni'n brudd erbyn holi on i
wedi bod yn labro gyda'i dad pan odd a'n gontractor yng ngwaith Fforchygaran.
Wyddoch chi beth, Mishtir Golycydd, chi ddylsech gâ1 Mishtir Williams i
sgrifennu rhacor i'r "Darian." Ma fa’n Gymro o'r top i'r gwaelod, a
ma hynny dicyn yn rhyfadd mwn Scwlmastar. Rw i'n cofio i fi fod bron a chal
ffiflt [sic; = ffit] pan glywas i'n hen scwl ni ar war Llandeilo'n siarad
Cwmrag am Y tro cynta; wath wyddwn i ddim taw Cymro odd John Jones yScwl, a
odd yna dishgwl felsa fa wedi colli i ddigniti wrth neud ag yn troi i wefla
felsa faw ynddy nhw. Pan on i'n siarad a Mishtir Williams dyma ryw fonesig
siriol yn dwad heibo, a mi hintrodiwsws Mishtir Williams fi iddi. Odd hitha
yn scwl-mistras ag yn siarad Cwmrag. Odd hi'n ych napod chi, syr, ag yn cofio
atoch chi, a ron nhw’n y'n hinfeito i'n gynnas iawn i Gwm Nedd ar ol i fi
neud pethach yn streit ym Mowntan Hash. Mi dreia gwpla hanas y daith y tro
nesa. Ma Hywal Nedd yn cofio atoch chi. TRAMP. |
(delwedd B2232) (8 Mehefin 1916) |
Y Darian. 8 Mehefin 1916. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, Wedi i mi fynd ymlan dicyn yng
Nghwm Nedd mi gwrddas a dyn mawr o'r enw Stanley. Crydd yw a wrth i grefft ag
yn nabyddus iawn a Dafydd, Crydd y Darian. Mi fu raid iddo fa gal hecsamino'n
sgitsha, a odd a'n gwed u bod nhw'n rhai da digynnig. Wi'n cretu sa gen i
amsar i spario y byddwn i wedi cal lot o ddifyrrwch gyda Stanley, ond odd
raid climercan ymlan. Pan on i wedi dod i Bontwalbi, mi welswn ddyn tebig
iawn i fi 'mhunan yn dod i gwrdd a fi, a phwy odd a ond Mishtir Harris y
Baptis. “Wel, bachan," mynta fa, “ma llawer wedi gofyn i fi os taw fi yw
Tramp y Darian yn ddiweddar." Ma'r byd yma wedi bod yn galad wrth
Mishtir Harris 'run fath a ma fa wedi bod wrtho inna, ond fe ddown unna i
allu cerdded yn sionc yto ryw ddiwrnod. Fe fu raid iddo fa gal rhoi pris
potelaid o lemwned i fi, a cheisio gen i gofio galw pan fyswn i'n dod heibo
nesa. Mi alwas ar Gefan Rhigos gyda Mrs. Smith, a rodd hi'n folon i fi gal
gneud y'n lodgin ar y dowlod yno cyd a mynswn i, ond wedi i fi gysgu'n
gysurus yno am noswath ma startas yn 'ymlan yto trw Hirwan a Chwmbach i
Gefanpennar. Ma Cefanpennar yn enw dicyn mwy rispectabl na Mowntan Hash, a
ma'n depig fod beirdd a phrygethwyr mawr wedi cwnni odd yma. Odd yna lot yn
dicwdd bod ar y Golf Lines, doctoried a dynon cwrt bach a sgwlmastars a lot o
bethach erill. On nhw'n ffaeli diall pwy odd yn mynd heibo iddyn nhw dan i
faich, ond dyma un o nhw'n gwed. "Yr arcian fawr, mi wn i pwy ydi o
rwan. Tramp y Darian ydi o." A dyma fa'n rhetag i gwrdd a fi ag yn gwed,
“Ddyn annwl, rydw i wedi breuddwydio am danoch chi, a mi fuas ar lawr
neithiwr am oria yn meddwl gneud pryddast fawr i'ch croesawu chi i'r lle ar y
testyn, 'Dyfodiad y Tramp.' Dim ond wyth lein fedras i neud, a rhaid i chi
foddloni ar y rhain hyd nes ca i amsar i neud rhyw ucan pennill arall, rydach
chi'n deilwng o gant." “Diolch yn fawr i chi, syr," mynta finna,
“ond wn i yn y byd pwy sy'n wleua a fi." “Fi ydi Ap Pedr Hir,"
mynta fynta. A tysa dim ond seilin uwch 'y mhen i wi'n credu byswn i wedi
bwrw mhen iddo fa gan fel neidas i gan lawenydd, a dyma ddechra'r bryddast: “Croeso Dramp i Aberpennar, Llu sy'n disgwyl gweld dy goes, Yma hefyd mae it' gymar Wna'th gysuro ddyddiau d'oes; Boed dy gartref byth yn ddedwydd Yng nghwmpeini'th annwyl Fair, Aelwyd glyd a llawen beunydd 'Mhell o wynt y teisi
gwair.” "Mair yw i henw felny," mynta finna. “O
na," mynta fynta, “nid Mair ydi i henw hi, ond odd eisio Mair i hodli
hefo gwair am y tro." “O rw i'n gweld," mynta finna, er nag on i
ddim yn gweld chwaith. Mi wetws Ap Pedr Hir wrtho i am fynd ymlan i riporto
'mhunan ar unwaith i Mishtir Hywal Nedd, a bysa ynta'n dod gyda fi i'n
hintrodiwso i i'r widw fach lle on i'n mynd i aros. TRAMP. |
|
|
(delwedd 5606) (3 Awst 1916) |
Y Darian.
3 Awst 1916. Llith y
Tramp. Mishtir Golycydd,
- Odd Mab y
Wawr ar fai mawr i dowlu dyn ffein fel Mishtir Ap Pedr Hir i shwd bemblath, a
gan fod y gwr bynheddig hynny wedi gatal y matar i fi idd i benderfynnu, dos
dim i neud nawr ond gwed wrtho fa am gysgu'n dawal a gatal rhyngddo i a Mab y
Wawr. Y fe yw e er fod Mab y Wawr yn gwed na fu e ddim ar y Golf Lincs. Mi
ddylswn i wed hefyd fod yna un blyndar yn y'n llythyr i pan wetas i taw yn y Cownsil Sgwl odd Ap Pedr
Hir. Yn y Cowntin Sgwl ma fa, a ma honno'n uwch o lawar, mynta nhw, a'r plant
sy'n mynd iddi'n fwy o seis, a rw i am neud hapolodgi diderfyn iddo fa. Mi
wetws Ap Pedr Hir stori fach bert digynnig ar ddiwedd i lythyr, a mi glywas
hen frawd o'r Rhos yn gwed stori depig iawn iddi. Odd a'n gwed fod y Doctor
Hedwars, rhyw ddyn mawr sy'n byw yng Nghaerdydd, wedi mynd i byrgethu yng
nghapel i frawd, D. Holifar Hedwars, dyn mawr arall odd yn byw yn Shir Bemro
ag yn sgrifennu i'r wasg fel finna, a rodd y ddau yn depig iawn idd u giddyl.
Dydd Llun ar ol hynny mi ath y Doctor Hedwars mas am dro, a rodd hen frawd
o'r eglwys, odd ddim yn gweld yn dda, mas am dro, a phan welws a Ddoctor
Hedwars mi feddylws taw i weinidog odd a, a mi ofynnws iddo, “Shwd y'ch chi
heddy, Mishtir Hedwars?" A wedi iddo fa sylwi, “O sefwch chi,"
mynta fa, "dw i ddim yn shiwr nawr pun a chi ne'ch brawd sy yma; o
sgusotwch fi, mi wela nawr taw'ch brawd sy yma!" Ma'r
bachan o'r North sy'n lodgo yn yr un ty a fi wedi dwad yn fachan go dda. Ma
fa'n ddirwestwr selog byth er pan yfws
a'r botelad Blac an Wheit. ’Dyw a ddim yn moyn clywad son am whisci byth
oddar hynny. Felny ma'n amlwg fod mwy nag un ffordd i neud dyn yn ddirwestwr.
Mi fu raid cal B.A. o Whitland i'n argyhoeddi i, ond allswn i feddwl y bysa
rhoi potelad gyfan o whisci ym mola, dyn am dro cystal a dim. Ma'r bachan
o'r North hefyd yn teimlo hintrest mawr yn y Darian oddar ma'r Gogleddwr yn
sgrifennu iddi ar hoyw, groyw, loyw. Ma fa'n tystio fod y Gogleddwr wedi
gneud cawl pys o'r Sol Ffa. Ma pris y tatws, mynta fe, yn bwysicach na dim
byd arall yn y ddadl, a dyw Sol Ffa, na D.E.E., na Sarnicol ddim wedi mentro
twtsh a'r cwestiwn hyn. Os ca i wed 'y marn y mhunan ar "hoyw," rw
in cretu taw unsill odd a cyn i fi dorri 'nghôs, ond ma fa'n ddeusill odd ar
hynny, a ma'r witw fach yma'n gwed y bydd y tywydd sych a'r gwres yn siwr o
effeithio ar bris y tatws. Ma Dafydd y Crydd yn arfadd gneud popath fydda i'n
wed wrtho fa, a falla gwed a dicyn am hoyw, loyw, groyw a gneud mesur petar
lein i'r witw fach w i'n lodgo gyda hi. TRAMP. |
|
|
(delwedd 5618) (28 Medi 1916) |
Y Darian.
28 Medi 1916. Llith y
Tramp. “I'r
'Darian,' un o'r deri - yw y Tramp, Yn troi
mewn mawrhydi.” - Dafydd
y Crydd. Mishtir
Golycydd,- Llythyr
byr sgrifenna i heddy, wath rw i wedi dihysbyddu fy nerth wrth dreio gneud
englyn - y mesur petar lein yna sy'n clecian, ne'n whislan, ne beth bynnag
fydda a, a chi wyddoch fod gneud gwaith anghyfarwydd yn difa nerth dyn beth
bynnag fydd a. Feddylas i ariod y bysa cymaint o
waith i gal ambell glec idd 'i lle. On i wedi mynd lan i ochor y mynydd yma
am dro a mi welas ddraenen wen yn llawn ffrwyth cochion addfed yn y berth, a
mi nes englyn iddi fel hyn: Ddraenen
deg a'i grawn yn do, - yr adar A oedant
lle byddo; Wedi i
haul rawd ei hulio; Dyry bryd
i adar bro. Chi
welwch mod i wedi gorfod cymryd benthyg peth o englyn Eifion Wyn i neud y'n
englyn i. Rw i'n meddwl mod i wedi gneud gwaith dicyn yn fwy twt na rhyw gymysgwch fel hyn odd yn y Genedlaethol: Y Pren
Criafol. (Y
Gerddinen.) (Y Gerdinen.)
Onnen deg
a'i grawn yn do - yr adar A oedant
lle byddo; Wedi i
haul Awst ei hulio, Gwaedgoch
ei brig - degwch bro. Nawr, os
leica Eifion Wyn gâl lein ne ddwy o'n
englyn i, i wella ticyn ar i englyn e ma iddo fa roeso; falla galla hynny fod
yn help iddo i droi i ben a o Jeriwsalem. Mi fu
Andras o row yn y ty yma'r wythnos ddiwetha. Rodd y widw fach w i'n lodgo
gyda hi wedi cal gafel yn yr Inglis Rifiw ag yn darllen precath Dafydd Bern
Dafydd gan Dai Lanlas o Shir Barteifi. Pan ddath hi at un o bac hed eidias
Dai mi fflamws lan a mi dowlws y rifiw at y mhen i nes own i'n hurt reit, a
odd hi'n y'n ordro i mas o'r ty dder and dden. Pam oet ti'n dod a stwff fel
hyn i nhy i?” mynta hi, “yr hen fochyn shwd ag wyt ti.” Mi dawelws lawr pan
wetas i mod i wedi pyrnu'r rifiw er mwyn cribo ticyn ar wallt Dai Lanlas yn y
“Darian.” “On i wedi arfadd catw ty rispectabl,” mynta hi, felsa hi'n teimlo
i bod hi wedi cal baw yn i dannadd. TRAMP. |
|
|
(delwedd 5611) (26 Hydref 1916) |
Y Darian. 26 Hydref 1916 Llith y Tramp. "I'r 'Darian,' un o'r deri - yw y Tramp, Yn troi mewn mawrhydi." - Dafydd y Crydd. Mishtir Golycydd, - Pen welas i lith Mari o
Dreharris yn y "Darian" yn rhoi gwahoddiad i fi fynd yno mi deimlas
ryw anesmwythdra rhyfadd ym Mowntan Hash. A wyddoch chi beth lle digysur iawn
sy yma i ddyn o dalant fel fi. Ma nhw'n Sysnicadd ofnadw yma, ag onibai am
ryw gwpwl bach o hetholedigion sy'n para'n ffyddlon, fysa fa wahaniath yn y
byd tysa'r lle'n mynd ar dân. Os nad ych chi'n cretu'r peth w i'n wed wrthoch
chi dewch chi lawr yma gyta'r nos a mi welwch yr hewlydd yn llawn o bob math
o bethach, yn cerad yn ol a blân, yn ol a blân, yn ddiddiwadd. Ma. nhw'n mynd fel pendil cloc o un ochor i'r
llall i'r lle, heb ddim amcan yn y byd ond treulo sgitsha a dishgwl yn
wynepa'u giddl, a dishgwl yn dwp ma nhw hefyd. Ma gwanhaniath mawr rhwng y dynon ifenc nawr a
phan own i'n grwt yn Llandeilo. On nhw ddim yn gwishgo mor steilish y pryd
hynny, ond odd ticyn o sens yn'u penna nhw a chymersan nhw ddim llawer am
gerad yn ol a blân am oria i ddishgwl ar 'u giddyl a gwed nonsens wrth baso'i
giddyl. Ma'n drueni mawr am danyn nhw, ond dyna, ar u tada a'u mama nhw ma'r
bai, na basan nhw wedi dysgu ticyn o sens iddyn nhw a'u dysgu nhw i ddarllen
a meddwl ticyn a siarad iaith 'u mama. Rw i'n siwr tasa Brynfab yn dod a'i
ffust sy gyta fa yn y Sgubor i Mowntain Hash a dyrnu llond hewl o'r tacla,
taw chytig o ŷd gelsa fa i fynd gartra yn 'i sach. Penna gweigion sy
gyda nhw bron i gyd yma. Wrth gwrs ma yma ddynon da yn y lle yn gneud i
gora glas i gatw fa rhag mynd yn wath na ma fa, a ma hynny'n dicyn o job. Ma
yma brygethwrs a beirdd a scwlmastars yn gneud gwaith da digynnig, ond ticyn
o gamp fydd newid y bechgyn a'r merched ifenc sy'n Johnny Walkers ar hyd yr
hewlydd. Dos dim pwysa yndyn nhw, a ma raid iddyn nhw fynd gyda'r gwynt. Pan wetas i wrth Mishtir Hywel Nedd mod i'n mynd i
matal, mi ath mwn stwmp, a mi wetws y bysa raid câl cwrdd ymadawol i fi, fod
pob dyn mawr yn câ1 cwrdd felny. Ond odd y bysa'n well cal cynhatladd
Pontypridd drosodd yng nghynta, a bysa hynny'n rhoi ticyn o amser i'r
prygethwrs a'r beirdd bartoi i hareithia a'u hanerchiadau barddonol i fi ar
y'n ymadawiad. Yr eiddoch, etc., Y TRAMP. |
|
|
(delwedd 5592) (29 Tachwedd 1916) |
29
Tachwedd 1916 Y Darian Llith y
Tramp. Mishtir
Golycydd, - Rodd yn dda iawn gyda fi weld ym Mwrdd y Gol. yn ddieddar fod tri
ne bedwar o'n llithia i mwn llaw gyda chi. Cofiwch chi u catw nhw mwn llaw
hed. Dodd hi ddim yn deg fod Dafydd y Crydd a’r bechgyn erill yna'n cal gwed
y cwbwl am yr henglyn, a finna ddim yn cal 'y mhig miwn. Cofiwchchi gatw'n
llithia i erbyn Steddfod Genedlaethol nesa, a nid i hala nw i'r felin bapur.
Fe neiff yr hyn wetas i am fesura petar lein Byrcan-ed y tro fel beirniatath
ar yr henglynion ddaw i Gastall Nedd. Falla byddwch chi mor garetig a gwed
wrtho i i bwy flotyn ne bren byddan nhw'n canu yno. Onibai fod Dafydd y Crydd
wedi bod mor garetig a rhoi marn i am rai pethach yn i shop, fysa neb yn
gwpod mod i wedi gwed gair ar faterion tra phwysig odd yn cwnnu o Lygad y
Dydd. Ma raid i
fi wed gair y tro hyn am y Clem Edwars yna fu’n clebran yn y Parlament dydd
Mowrth dywetha. Chlwes i ddim o enw'r dyn o'r blan trw wpod i fi, ond fyswn
i'n leico gwpod a odd an towlu ata i pan odd a’n gwed fod milodd ar filodd o
arian wedi u hala yn Sowth Wels er mwyn cal gan y coliars i stopo gwitho. Odd a'n sygesto
fod yr arian hynny'n dwad o Germani. Dw i ddim yn gwpod pwy isha cwnnu rhyw
hen bethach fel hyn sy nawr. Mi ges i lot o checs orwth y Ceisar amser
dechra'r rhyfal am dynnu'r coliars mas ar streic, a mi rannas yr arian i gyd
rhwng y lebar lidars. Ond mi ddiciws Mishtir Ceisar wrtho i am i fi roi Stanton yn y Parlament; ches i ddim
rhacor o checs, a mi halws yr hen foi lythyr blagardus ofnadw ata i yn bwgwth
hala eroplens a llonga awyr i fombardo pob ty gwair a, sgupor yn yr Iwneited
Cingdom er mwyn y'n lladd i. Ond mi fydd e'i hunan wedi trigo’n hir cyn bydda
i wedi gorffen trampo. Meddwl w i fod y coliars yn lwcus iawn fod Parlament y
wlad hyn a'r Ceisar yn teimlo shwd intrest yndyn nhw. Ma'r Ceisar yn rhoi
arian iddyn nhw am beido gwitho, a ma'r
llywodraeth yn rhoi mwy iddyn nhw am weitho o hyd. Ma hi'n gwitho'n iawn felny, a. wi ddim yn gwpod pwy isha i
Clem Edwars fynd i shwd stiw. |
|
|
(delwedd 5593) (29 Tachwedd 1916) |
Mi adewas
i Dafydd y Crydd yn Bertawe. Odd a'n fishi iawn y dwarnota hynny'n hecsamino
mesura petar lein odd a wedi gal o'r North. Ma Dafydd yn aiarad cymint am
farddoniath gyda Morgan y Teilwr a Eryr Penpych, nes ma fa’n shwr o fynd yn
fardd i hunan os na feindiff a. Mi fysa
hynny’n drychineb ofnadw, wath
ma fa n grydd da iawn, a mi fysa'n resyn garw iddo fynd i iwso'i fynawyd ar
betha gwytnach na lledar. Wel rw
i'n sgrifennu'r llith hyn o Sgupor
Penygaer, a hynny yn Shir Barteifi. Dyw a ddim iws i fi roi'n adres yn rhy
fanol, am fod y Ceisar ar lwc owt am dana i. Ma Mishtir Defis wedi gneud
offis fach deidi iawn i fi yn y sgupor er mwyn i fi sgrifennu i'r Darian a
derbyn ymwelwyr. Ma lot o feirdd yr ardal wedi bod gyda fi, a ma yma hanner
llond y sgupor o fesura petar lein. Falla ceiff y darllenwyr olwg ar rai o
honyn nhw'r tro nesa. Ma Daniel Tomos y postman yma bob dydd a mai awan
ynta'n “bwrlymu” ys gwetws Alfa. I fi dilifrws a'r llythyr cynta eriod mwn
sgupor, a dyma falch odd a o’r anrhytadd. Y bardd trwma a mwya gwreiddiol sy
wedi canu i fi hyd yn hyn yw Ioan Glyndwr, a fel hyn yr ymfflamychws e pan
welws e fi gynta: - Bellach
gallaf farw’n ddedwydd, Fe ddaeth
gwynfyd i fy rhan, - Gweld y Tramp! O
fendigedig Fraint yw
hon i brydydd gwan! Cana f’awen nerth dy sgeiriau, Cana i’w athrylith gref;
Penygaer a chlod ei sgubor Bellach gyfyd hyd y nef.” Ioan
Glyndwr a'i Cant. Beirdd
eriil o fri mawr sy wedi bod yma yw Cynfelyn a Lias a Gwilym Ceri. Ma 'ma
ardal dalentog iawn. TRAMP. |
....
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ
/ i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū /
w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON
+ ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ
/ ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄
ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː
/ e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː
ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ
/ aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ
/ £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith
δ δ £ gyn aith
δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː
[]//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋
a̋
gyn aith
δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute
accentː ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_1916_0347k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 04-02-2018,
03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font
/ Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych
chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats |
…