|
|

(delwedd B0433a) (25 Ionawr 1917)
|
Y Darian.
Ionawr 25, 1917.
Llith y Tramp.
Mishtir Golycydd, - Mi
gretas i unwaith y bysa hanas y’n angladd i wedi bod yn y “Darian” cyn hyn, a
chitha a'r darllenwyr i gyd yn eich galar. A wir i chi mi fydda i yn teimlo
weitha wrth ddarllin hanas “marwolaethau a chladdedigaethau” fod marw yn beth
da iawn. Rw i'n credu tasa ambell un dim and gwybod faint sy'n câl i wed ar i
ol a, y basa fa wedi gnend ticyn o hast i fynd mâs o’r byd yma'n gynt.
Cofiwch chi nawr os dicwdd i fi farw rwbryd y bydd
Paragraff bach, twt,
yn ddicon i chi roi ar y'n ol i, er mwyn i chi allu catw lle i rai
erill wêd dicon am rai sy'n llai enwog na fi. Ond rw i'n crwydro, fel arfadd,
ys gwetws y pregethwr wrth i destun.
Wedi i fi fod yn enjoio'm hunan am rai dwarnota yng Nghaerdydd mi glywis fod
Arglwydd Rhondda wedi pyrnu ffyrmament a rhwpath arall. Wyddwn i yn y byd
mawr beth odd ffyrmament, nes i fi ofyn i Ifano. Ma fe'n dicyn o sgolar mwn
Cwmrâg, a mi wedws wrtho i taw “wybren” odd ffyrmament. Yr argian fawr, mynta
finna wrtho 'mhunan, os yw Arglwydd Rhondda wedi pyrnu'r ffyrmament, ni gawn
well tywydd o hyn mâs, ma fe'n ddyn o fusnas ag yn gwpod shwd i neud pethach
yn iawn. A rodd yn ddicon amlwg i bawb fod rhywrai wedi bod yn mismanedgo'n
ofnadw yn offis Ap Caw’n ddiweddar. A ma'r tywydd yn awr wedi dwad yn nes idd
i le na buodd i ys blynydde. Wedi meddwl ticyn mi ddath
Heidïa go dda
i 'mhen i fel ma nhw'n dwad weitha. Mi feddylas y byswn i'n treio’r “Western
Mail” i gyhoeddi. Arglwydd Rhonddia'n Lord of the Ffyrmament, a fel ôn nhw'n
gwed yn y Wêls dê bei dê, dyma ôn i 'n neud yn y Swyddfa pan ddigwyddws y
trychinab. Mi ês i miwn trw'r drws a ôn i’n synnn gweld lle mor steilish yno. Wedi fi ofyn am yr heditor, dyma ryw ferch
fach yn gwed wrtho i am ddwad ilan yn y lifft gyda hi; a wir, mi fyswn i'n
leico mynd lan yn uwch o lawar gyda hi. Yw wil ffeind him in ddi heditorial,
mynta hi pan on i'n mynd mas o'r lifft, a mi ddangosws y ffordd i fi trw ryw basedj culach na’r llwybr sy'n mynd i le
gwell. Thanciw, mai diar, mynta finna, a mi gwnnes y'n het iddi a mi fues
bron a chwmpo wrth neud. Mi ges hyd i'r heditorial. Dw i ddim yn gwpod a odd
yr heditor yno ne beido, ond odd yno lot o snyb heditors yn gwitho gyment a
gallsen nhw a dim amser gyda nhw i ddishgwl ar neb.
|
|
|

(delwedd B0433b) (25 Ionawr 1917)
|
Shentl Men,
mynta fi o'r diwedd, ai
haf brôt yw e good heidïa, “Heidïa,” ebe un o honynt, a “Heidia” ebr y llall.
“Ddi heidia,” ebr dau neu dri o honynt. “Ai'm blowd!” ebr un arall, elsa
nhw'n synnu fod neb wedi mentro dod a “heidïa” dda i offis y Western Mail.
“Hw âr yw,” gofynnai un. “Tramp y Darian,” mynta finna. “He wants mynni,” ebr
un. “Hi is a blwmin burglar,” ebr y llall. “No,” mynta finna, “Lord Rhondda
has bot the ffyrmament, and ai want yw tw get ddi gyfarment tw mâk him lord
of it.” Ond os do fa dyma snwbyn i fi a dyma basged at y mhen i, a dyma nhw’n
cwnnu a finna’n mynd fel brân mwn storm ag yn erbyn rolyn mawr o bapur fel
melin forter, a dyma hwnnw’n troi a dyma gwmp mawr yn y llwybyr cul a dau neu
dri o dano fa. Dw i ddim yn siwr sawl hacsidental deth o dan y cwmp hynny,
ond rw i'n gobitho fod yno rai wedi i châl hi. Drw drugaredd mi gês dicyn o
flân arnyn nhw, ond wrth ffeulu catwr corneli yn y pasedj mi gas ’y nghorneli i ddi’n lled ddrwg, ag ar y stryt
y ces i’m hunan yn sybconshys. Fu
Dyn Talentog
ariod yn nes i dosturio
wrtho'i hunan na buws i adeg honno. On i'n ffeulu symud, a motor car mawr yn
dwad ymlan ar y pryd, a ôn i'n meddwl yn siwr y bysa fa'n mynd dros ’y mhen
i, a wir on i'n teimlo ar y pryd yn ddicon bolon iddo fa nghwpla i o mhoen.
Ond pwy odd yn y motor car ond Arglwydd Rhondda. “Y machgian mawr i,” mynta
fynta, “pe sy wedi dicwdd i ti?” Mi wetas inna'r hanas wrtho fa, a mi
ddishgwlws yn ffyrnig at offis y Western Mail, a mi wetws y bysa yna
“nashynal disaster” arall ar ol hyn. “Ma nhw wedi gneud disastar budur arna
i, ta beth,” mynta finna, “’dos dim grym i symud llaw na throed yndo i, a ma'n nerfs i wedi 'u
shatro. Ddwa i byth yr un fath ag own
i cyn i fi fynd i Offis y Western Mail.” “Paid a malio dim blewyn,” mynta
fynta, “ma gen i stwff i dy wella di,” a dyma fa’n tynnu tin o Sanatogen mas
o' i boced. “Cymer di hwn,” mynta fa, “a mi fyddi'n gallach dyn, a mi fydd dy
nerfs di fel steel. Dim ond i ti gymryd hwn fe ddoi di i deimlo tod y tywydd,
run fath a theyrnas nefodd, i radda pell o’r tu fewn i ti.” A gwir wetws a,
rw i'n teimlo'n fwy talentog o lawar, a'r groes [sic; = goes] ferr sy gen
felsa hi’n tyfu ticyn bach, ac os tyfith y llall synnwn i ddim na ddaw’r
ddwy’r un hyd yto. Odd yn dda gen i gyrradd Treharris, a gweld Ceiriosydd yn
y'n aros i ar y stesion mor siriol a ma'i enw fa'n awgrymu.
TRAMP.
|
|
|

(delwedd J4243)
(14 Mehefin 1917)
|
Y
Darian.
14 Mehefin 1917.
Llith y Tramp.
DRAMA
RESOLFEN.
Mishtir
Golycydd, - Fel gwetas i wrth och chi'r tro dwetha wi'n hala'r ddrama i chi'r
tro hyn, a ma son yma ishws am i rhoi hi ar y stêdj,
cyn i gweld hi, wath ma pawb yn gwpod bydd hi'n dda fel po path ma Fred Tomos
a finna'n neud. Nawr te am dani.
Yr Hact I.
Golygfa 1. — Yn y Cae
Tatws.
[Y Tramp a Fred yn
ymgynghori ar ben tomen o gerrig bron cymint o Thwr Babel; Mari Jones a golwg
foneddicadd a phwyllog arni'n dod i'r cae ag yn dishgwl o'i chwmpas, yna'n
mynd at Fred a'r Tramp.]
Mari Jones: Bora da i
chi'ch dou.
Tramp: Bora da i chitha,
Mari Jones.
Fred Tomos: Bora da,
Mari Jones.
M.J. (yn troi at y
Tramp) Rw i'n gweld ych bod chitha wedi dod i witho yn y cae tatws, run fath
a ni i gyd.
T. (yn synn ag yn
ffrom) Gwitho wedsoch chi. Dishefoni'n bridd a chalch, os gwetws Dafydd y Crydd,
fi'n gwitho! Na, wedi dod yma w i gynghori Fred yma i bido bod mor ffol a
gwitho fan hyn, ta beth.
M.J.: Mi welas yn y
Darian nag ych chi ddim yn credu llawer mwn gwaith.
T. Na dw i'n cretu dim mwn
gwitho, a wi'n mynd i gretu llai o hyd. Dyw dyn ddim wedi i neud i weitho.
M.J. Otich chi'n
cretu'r peth y'ch chi'n weyd nawr?
T.: I gretu fa! Otw.
Witha i ddim stroc byth ond o'n anfodd.
F.T.: Rych chi'n cretu
mwn bod ar streic o hyd 'te?
T.: Dim shwd beth 'y
machgen mawr i, ma streico'n wath na gwitho.
M.J.: Wel sboniwch ych
geira.
T.: Wei, fel hyn,
fonesig fwyn, ys gwetws Talnwnt, Bertawa, wth sgrifennu am ryw ferch ifanc,
dim ond i ddyn beido gwitho fydd dim isie iddo fynd ar streic.
M.J.: O! Beth y'ch
chi'n feddwi o'r geira hynny, "Satan finds some mischief still for idle
hands to do."
|
|
|

(delwedd J4244)
(14 Mehefin 1917)
|
T.: Celwdd bob gair y'n
nhw. Ma'r geira yna'n depig iawn i adnota Dafydd y Crydd. Ma rheiny i gyd yn
sefyll ar 'u penna, a wi bron yn suwr taw Dafydd yw awdur y geira yna. Ma
nhw'r un fath yn union a'r pethach ma fe'n neud. 'Sa fa'n gwed fod Satan wedi
twyllo dynon a'u hala nhw i witho a streico a mwrdro 'u henen a'i giddyl pan
ddylsa nhw fod yn enjoio'u hunen, mi fysa'n acos idd i le.
F.T. Dramp annwl, mi
wyddwn ych bod chi 'n ddyn o dalant,
ond feddylas i ariod ych bod chi'n gymint o fishtir ar athrawieutha amryw a
dieithr. Dicon pring wi'n cretu'ch bod chi'n cretu'r peth y'ch chi'n weyd.
T.: Rw i'n i gretu fa
bob gair. Ma gweulodion y modolath i hefyd yn tystio 'mod i'n iawn, a nad yw
dyn ddim wedi neud i witho. Rhywrai erill sy'n hala dyn i witho, a phan ddaw
dynion yn ddicon call withan nhw ddim, a mi fydd Satan a'i gang heb elw, a
nhw fyddan farw o'r colaps a mi fydd dynon byw'n hapus.
F. T.: Wel, Mari Jones,
beth y'ch chi'n feddwl o syniata Tramp y Darian?
M.J. Wn i ddim beth i
feddwl o honyn nhw. Os y'n nhw'n iawn, ma'r Tramp o flan i oes, filoedd o
flynyddodd. Ond os w i'n cofio'n iawn, ma fynta wedi bod yn labro'r nos un
amser.
T.: Wara teg, nawr,
Mari Jones, dyw hi ddim yn deg dannod hen bechota. Odd y nhalant i ddim wedi
datblygu'r pryd hynny. Dw i ddim wedi gneud stroc o waith byth er pan
ddechreues i sgrifennu.
M.J.: Ma Golycydd y
Darian yn talu'n dda i chi, felly
T. Na, wara teg iddo fynta,
dyw a'n talu dim i fi, ond ma rhai erill yn talu'n dda i fi. Dyma bar o
sgitsha ar y nhrad i nawr, sgitsha para byth, ges i gyda'r Cynghorwr pan ôn i
yn y Sefn Sistars am roi ticyn o hanfarwoldab arno. Fues i ariod mor hapus na
mor suwr o ddicon o bopath ag w i ar ol dechra iwso ticyn bach o sens.
|
|
|

(delwedd J4245)
(14 Mehefin 1917)
|
F.T.: Otich chi ddim yn
cownto fod sgrifennu'n waith?
T.: Nagw, plesar yw a a
ddyla neb neud dim yn y byd yma, os na fydd a'n dewis i neud a ag yn i neud a
wrth i blesar. Ma'n atnod yn rhwla: "Beth bynnag sy dros ben hyn o'r
drwg y mae."
M.J.: Beth newch chi
o'r adnota hyn? "Teilwng i'r gweithiwr ei gyflog"; "Y neb na
weithio na fwytaed chwaith."
T. Wn i ddim pwy nath
yr adnota yna, ond ma nhw'n profi'r peth wi'n wed wrthoch chi. Wrth gwrs os
bydd dyn wedi gwitho mi ddylsa gal gwerth i waith, ond anamal iawn ma fa'n
cal hynny. Ma'r rhai sy'n i hala fa i weitho'n cal mwy na fa am neud dim.
Ma’r atnod arall yna'n riferro at rai sy'n hala rhai erill i weitho er mwyn
iddyn nhw gal byta mwy na sy isie arnyn nhw. Ne felny"bydda i'n sbonio
pethach, ta beth. (Mari Jones yn wincio ar Fred.)
F.T.: Gwreiddiol iawn!
Ond dyma'r Hemployar yn dod.
Hemployar: Bora da.
Y lleill: Bora da, bora
da.
M.J.: Ry'ch chithe wedi
dod i witho ar y rhandir, ys gwetws y Wylan?
H.: Nag w, nid heddy rw
i'n gwitho, ond ar y Sul fel bwy'n galli addoli wrth balu.
(Distawrwydd synn am
ennyd.)
T.: H'm.
H.: Y pwnc mawr y
dyddia hyn yw gorchfygu'r Germans; ag ar y cae tatws y rhaid gwneud hynny. Ma
gydach chi lot o gerrig yna Mr. Tomos, ma'n drueni na ellid gneud i rheina
ddisgyn yn gawod ar ben y Germans.
F.T.: Dyw e ddim llawer
o wahaniaeth gen i ar ben pwy'r ân nhw, phoena i ddim rhagor gyda nhw. Dyma
alotmant i ryw un fysa'n leico'i gal a.
H.: Faint y'ch chi'n
dalu am hwn Mr. Tomos?
T.: Talu, taiu, talu,
beth wetsoch chi ddyn?
H.: Wel, fysa fa ddim
yn deg i neb roi tir am ddim.
T.: Talu! On i'n meddwl
taw fan hyn o'ch chi'n ymladd a'r Germans. Os rhaid talu am dicyn o dir i
ymladd a rheiny? O'n i'n meddwl bysech chi'n cal ticyn o dir i sefyll arno i
ymladd a rheiny am ddim. A ma raid i chi dalu am y tir y'ch chi'n ymladd am
dano? Wel, jiw, jiw, tynnwch y cyrten yna lawr.
|
|
|