kimkat0349k Llith y Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1918.

22-11-2022







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llith y Tramp.

Y Darian. 1918.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

O newyddiadur ‘Y Darian’ (Aber-dâr).

...

26 Medi 1918

...

 

 

 

A picture containing qr code

Description automatically generated

 

(delwedd B5418)

26 Medi 1918
 

Llith y Tramp
Mishtir Golycydd, Bachan pert y’ch chi a Mystres y DARIAN. Ma raid i fi wed yn ych gwymad chi’ch dau na fysa fa ddim llawer i chi alw gyta fi pan fuoch chi yn Rhydlewis. Rodd hi'n bwrw glaw’n ddychrynllyd bob dydd pan oech chi yma ne mi fyswn i weti dod i’ch gweld chi. Falla nag oech chi ddim yn gwpod mod i weti symud o sgupor Pengâr dicyn bach weti'r Nadolig. Odd Mishtir Defis yn achwyn fod llycod mawr ofnadw yn tynnu yno er pan own i yn y sgupor, a rw i'n cretu fod y llycod weti dod oddyno gyta fi. Rw i nawr yn byw ym Mhen Purlip a ma gen i dy i fi 'mhunan a'r llycod. Fues i ariod mor hapus ag w i nawr—dicon o fwyd a phawb yn gwpod nag w i ddim yn cretu mwn gwitho. Ma afon rhytag yn acos i'r ty, a rodd hi'n hwylus iawn pan odd y tywydd yn both i gal cold bath. Rown i'n gallu gneud fel ma'r merched yn gneud ar lan y mor, stripo yn y ty a dod nol i'r ty, i wishgo, ond nag odd gen i ddim mackintosh.

Unwaith y bues i mwn ticyn o brofedicath yn y dwr. Rown i weti neido miwn dros 'y mhen a gyta hynny mi glywn rwpath fel eliffant yn neido ar ’y nghefan i. Pan ddes i i'r wymad, beth welwn i'n dod lan ar 'y mhwys i ond Dash Dyffryn Ceri. Wn i ddim beth odd y ci bach yn feddwl odd a weti weld, ond odd yn ddicon amlwg i fod a wedi camstaco, ys gwetws y bopol ffor hyn, a phan welws a iifi, dyma fa'n rlioi sgrech ag yn mynd yn edifeiriol iawn at i fishtir odd yn pysgota yn nes lawr. Odd Dash weti meddwl falla bysa fa'n dala pysgotyn odd gymint a’i fishtir. Ta beth i chi mi gas Dash shoc ofnadw, a dw i ddim yn meddwl iddo fa ddod ato'i hunan yn iawn tra buws a'r ochor hyn, a fuws hynny ddim yn hir. Odd a ddim felsa fa'n gyfrifol ar ol y camstac hynny, a mwn ffit o absenoldab meddwl un dwarnod mi anghofiws fynd o'r ffordd pan glyws e gorn motor yn canu a Dash druan bach gas y gwaetha. Fe fuodd yr amgylchiad yn dicyn o ysbrydiaeth i'r awen yn y cyIch. Fel hyn y  canws Dan Rhys Jones, Penywern, i Dash:


Ardal Hawen gyda gofid,
Dagrau dwy« a chwerw iawn,
Glywodd farw yn ddisyfyd
Gi bach annwyl un prynhawn.
Gwyddai'r fro yn dda am dano
Fel ci ffyddlon drwy i oes;
Mhlith y cwn roedd Dash yn sheino,
Nid oedd byth yn chwyrn na chroes.
Sychwch, Mishtir Jones, eich dagrau,
Y mae Dash uwchlaw gofidiau.


Ma Ioan Glandwr yn gwed wrthw i am wed "mai mal hyn y cant ynta":


Deffro, f'awen, deffro,
Cana nawr yn wir,
Ci bach a fu farw,
Y goreu'n y tir;
Ei enw ydoedd Dash,
Aeth dan y motor—smash!
Mewn munud roedd yn hash,
A dyna ddiwedd Dash,
O Ddyffryn Ceri.
—Ioan Glyndwr a'i cant.

Mi ddylswn wed wrthoch chi fod Dafi Rhys Jones yn gymytog acos i fi. Mi fues i'n treio câl ganto fe ddod i'r dwr gyta fi. pan fyswn i’n câl bath yn yr afon, ond dim shwd beth. Fynsa fa ddim er i groci molchyd mwn afon. Ma yma ardal dalentog iawn ffor hyn. Ma beirdd yn tyfu yma fel tatws, a ma nhw'n canu fel atar yn y côd.—Yr iddoch hyd byth,
TRAMP.

 


Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_1918_0349k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 10-02-2019 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


 

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats (Y Wenhwyseg / el dialecte gwentià / Gwentian)