kimkat0350k Llith y Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1919.

22-11-2022







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llith y Tramp.

Y Darian. 1919.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

 

O newyddiadur ‘Y Darian’ (Aber-dâr). 

 

09 Ionawr 1919

.....

27 Chwefror 1919

...

06 Mawrth 1919

13 Mawrth 1919

27 Mawrth 1919

.....

03 Ebrill 1919

10 Ebrill 1919

17 Ebrill 1919

24 Ebrill 1919

...

01 Mai 1919

08 Mai 1919

15 Mai 1919

22 Mai 1919

29 Mai 1919

...

05 Mehefin 1919

12 Mehefin 1919

26 Mehefin 1919

....

03 Gorffennaf 1919

10 Gorffennaf 1919

17 Gorffennaf 1919

24 Gorffennaf 1919

.....

07 Awst 1919

14 Awst 1919

28 Awst 1919

...

04 Medi 1919

11 Medi 1919

18 Medi 1919

.....

02 Hydref 1919

09 Hydref 1919

(16 Hydref 1919 - englyn)

23 Hydref 1919

30 Hydref 1919

...

06 Tachwedd 1919

13 Tachwedd 1919

20 Tachwedd 1919

27 Tachwedd 1919

...

04 Rhagfyr 1919

11 Rhagfyr 1919

18 Rhagfyr 1919

25 Rhagfyr 1919

.....


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6501) (09 Ionawr 1919)

Y Darian. 9 Ionawr 1919.

Llith y Tramp.


Mishtir Golycydd,— Ma'n ên bryd i finne gal ticyn bach o hofod i wed y'mhanes yn y DARIAN. Wn  i ddim yn iawn be sy arna i'n ddiweddar. Wi felswn i ddim yn timlo 'mhunan mor dalentog ag own i'n harfadd a bod. Ma rhai'n gwed taw isha dropyn o blac  an wheit sy arni i nawr ag yn y man, a rhai erill yn bwgwth hala at Dafydd y Crydd i wed wrtho fe am ddangos i finawid i fi, a rhai erill wedin yn gwed wrthw i am ddechra cymryd dileit mwn polhitics a byse hynny'n rhoi ticyn o leiff ynnw i. Wel rw i at y'n rhyddid i neud fel bydda i'n leico, a nid pawb all wed hynny. Ma’r byd 'ma weti mynd yn od iawn yn ‘y meddwl i a phawb bron yn gorfod gneud a gwed a scrifennu fel bydd rhywun arall yn leico. Wei os y^n nhw'n leico gneud felny arnyn nhw ma’r bai.

Ry'ch chi'n cofio mod i wedi bod yn gneud ticyn a pholhitics un hatag. Fi rows Mishtir Stanton yn y Parlament gyntaf, a ry'ch chi'n gweld erbyn hyn  i fi roi e yno'n ddicon saff a na all neb roi noc owt blow iddo fa. Odd rhai'n gwêd y dylswn i fynd i sefyll yn i ochor e yn y lecsiwn ddywetha, ond mi wyddwn i'n iawn nag odd dim isha. Dishefon ni'n bridd a chalch, pwy reswim odd dod a dyn bach gwan, ysgawn, fel Tom yn erbyn hannar tunnell o ddyn fel Mishtir Stanton. Dim ond un y clywas i am dani sy'n fwy na Mishtir Stanton, a honno yw Siân dunnell o'r North. Mi fu Mishtir Stanton yn garetig iawn wrth Tom, hefyd, yn gatal iddo ddwad gartre'n sâff  at 'i wraig  a'i blant. Mi allse fod weti i fyta fe, i ond bachan ffein yw Mishtir Stanton.

Pan geith Berdar hyd i rywun gwell na Mishtir Stanton, dim ond iddyn nhw roi hanner gair i fi, mi rhoi i fa yn y Parlament iddyn nhw, ond dw i ddim yn mynd i wasto nhalent ar ryw bilcots.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6502) (09 Ionawr 1919)

Gan mod i wedi dechra ar bolhitics, ma raid i fi gal gwed ticyn bach o'm meddwl wrth Mishtir Llewelyn Williams hefyd. Ma fa weti hacto'n hatroshws at Mishtir Towyn Jones. Os odd a'n colli i set, pamsa fa'n "lei down and sei nyffin" ys gwetws Shekspiar, a nid galw henwa câs ar ddynon rispectabl. Odd galw "gwas bach y gegin" a "Mary Ann" yn y papura ar ddyn fel Mishtir Towyn Jones ddim yn deilwng o'r Llew mawr on i wefi arfadd a meddwl odd Llewelyn. Rhag i gwiddil e. Os neb yn gwpod yn well nag e fod gwahanieth mawr rhwng "gwas bach" a "junior lord," a pheth arall ma Mishtir Llewelyn Williams yn gwpod nag os dim cegin yn y trysorlys. Ma lle da ym mynwes Apram a ma Mishtir Towyn Jones yno a Mishtir Williams yn timlo just run fath a hwnnw yn y lle pôth ond nag yw a ddim cweit mor obleijin.

Wel dyna ddicon am bolhitics. Mi ges i Nadolig detwydd iawn ym Mhen-purlip yma a mi fuws merched Rhydlewis, fel arfadd, yn deyrngar iawn i fi. Fe ddethon a phishis o dwrcis a gwydde yma o bob man a phwdin fel mynydd mawr. Fyswn i'm hunan ddim wedi gallu byta'i annar a mwn wthnos, a rhag iddo fynd yn wast mi fynnes barti o feirdd yma nos ar ol y Dolig. Dyma'r rhai ddath ynghyd: Tomos ap Tomos y Gof, Dafydd ap Rhys Jones, Daniel ap Tomos Nanty, Ioan Glyndwr, Ben ap Dafydd o Gwmbarre, Enoc ap Tomos, lago, ap Rhys y Cyfrwywr, ac yn olaf ond nid y lleiaf Gwilym Geri. Daeth llythyrau orwth lu erill yn datgan eu gofid a'u colled na allent fod yn bresennol.  Fel hyn y canws Ben ap Dafydd:

Dyma ni o urdd yr awen,
Wedi cwrddyd yma nghyd,
I gael eto noson lawen
Gyda phennaf Dramp y byd;
Ac i'w helpu i fwyta'i ginio,
A'i gynghori i gymryd mate.
Gwyddom oll yn dda fod arno
Lygaid llawer merch fach nêt.

A dyma finne’n aped fel hyn:

“Not for Joe—pe cymrwn un
Fe gefnai'r lleill yn fuan;
A'r merched yn fy ngharu i gyd,
Gwell gennyf fyw fy hunan."

“Amen," mynte Tomos ap Tomos, "ma'r Tramp yn gall yn i genhedlaeth."
TRAMP. 

 

 

 

.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0762a) (27 Chwefror 1919)

Y Darian. 27 Chwefror 1919. Llith y Tramp.

























Llith y Tramp. Mishtir Golycydd.— Mi ddigwyddws tro rhyfedd pan own i'n dod o Rhyd-lewis. Own i'n meddwl cerad bob cam i Bertawa, ond pan own i'n paso gat stesion Henllan, odd y trein yn barod i starto mas, a dyma un o gwmni'r relwe yn galw arna i - hyri hyp old man! a bant a fi a miwn i'r trein. Pan ddes i Gaerfyrddin dyma nhw'n gofyn i fi am dicat. Mi wetas i nag odd gen i ddim un a nag own i ddim weti meddwl cwnni un chwaith, taw un o gwmni'r lein odd wedi galw arna i i gâl lifft pan own i'n paso Henllan. Nhw dreison neud ticyn bach o row a bwcwth lot o bethach, ond ffacs ar stwbwrn things, ys gwetws Twm o'r Nant. Mi gymres y trein o dre Dyfnallt i Bertawe, tre'r Mabinogion, a mi ges hyd i siop Talnant yn Waterloo Street, a miwn a fi. Mi welws Talnant ar unwaith mod i fel fynte'i hunan yn rhywun a mi ddisgwlws yn syn arni i. Ry'ch chi'n sâff, mynte fe, ar ol dishgwl arna i am dicyn, wath rw i'n gweld y DARIAN yn ych poced chi. Weti iddo ddishgwl ticyn wetin dyma fesur petar lein mas fei bwlat:

“Rhyw wr o nôd, o ddoniau'n llawn!
Mi fentra bunt mewn arian —
Mi fyta'n het, os nad wy'n iawn,
Mai chwi yw Tramp y Darian."

A mynta finna, yr un mor sytan:

Yr y'ch yn iawn, fy Nhalnant hoff,
Myfi yw Tramp y Darian;
Oes cadair yma i grwydryn cloff?
Mae'ch het yn sâff a'ch arian.





 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0762b) (27 Chwefror 1919)



A dyma siglo llaw dair gwaith gan mor falch on i o weld y'n giddyl. Dewch i mewn i'r sanctwm yma i orffwys, mynta Talnant, a miwn a ni i gwtsh bach sy gyta fe wrth gefan y stop. Rhowch ych pwys lawr ar y gatar yna, a wir i chi theimles i ddim mor gartrefol ariod. Mi fu raid i Dalnant druan fynd a ngatal i. Ma fa'n catw shwd stwff da yn y stop na cheiff e ddim muned o lonydd na fydd rhywun isia pyrnu rhwpath o hyd. Tra fu e'n gwerthu pethach, mi ges inne gyfle i ddishgwl obothtu, a welas i ariod gymint o bethach mwn lle bach a sy yn sanctwm Talnant. Ma yno stôf a than ynddi, llyfra hen a diweddar a chanol oed yn Gwmrag a Sysnag, dwy bib, pwtsh baco a'i lond e o Franklyn, jwg a llaeth, menyn, sepon, siwgir, pen ag inc, bocsis o deis a choleri, tepot, twls shafo, maniwsgribts, dau  gwpan te, comic pepars, cyllyth a ffyrc, magasins, pictiwrs, ffrimpan, tribana, plât, hannar torth o fara, a ’dwn i ddim beth i gyd. Welas i ariod cymint o ddarpariath ar gyfer corff a meddwl mwn lle mor fach.

 

Own i ddim weti bod wrtho mhunan yn hir na chlywn i ryw fardd yn dod i'r siop ag yn gweyd i brofiad mwn mesur petar lein fel hyn:

“Coryn gwyn gan y mynydd - yr awel
Yn rhewi'r awenydd;
Ni chwyd un uchedydd,
A dyna son am dân sydd."

Dishgwlwch pwy' sy yn y sanctwm, mynta Talnant, a phwy y'ch chi'n feddwl ddath miwn? Neb llai na Gwyrosydd, pen telynegwr Cymru. Ma fa'n galw yn stop Talnant bron bob dydd er mwyn i iechyd a ma fa'n gneud mesur petar lein wrth ddod yn y tram a phetar wrth fynd gartra os gall a. Mi fydd yn dda ganddyn nhw yn y Mownt, yn enwetig y Parch. John Phillips, gIywad bod golwg hoyw a thywysocadd ar Gwyrosydd o hyd a'i awan a fel bwrIwm y nant. Fel hyn y canws a i Dalnant un diwrnod:

"Melys yw rhoddi moliant—i awdur
Mor hudol a Thalnant;
Hynaws wr, tri chwarter sant,
A'i foethau byth yn fethiant.”

Mhen ticyn. mi ddath dyn o'r enw Morlais miwn a mi wetws Gwyrosydd wrtho fa, a phwynto at y stôf: Ishteddwch fanna, a heb feddwl beth odd a.'n neud mi isteddws ar ben y tan. Tepig iawn i fardd, ynte. Own i'n disgwl yn siwr y bysa fa'n catw mwstwr ofnatw, ond wherthin am ben i hunan nath a fel gwr bynheddig. Wrth gwrs isteddws a ddim yno'n hir, odd well dag e iste ar waelod y stâr. Gwetwch wrth y printars yna am roi "i barhau" fan hyn a taw siop Talnant yw'n hadres i nawr. Mi ddylswn weyd mod i weti câl galwad daer ac unfrydol iawn i Gaerffili.

 

 

 

 

 

F9798_y-darian_06-03-1919_llith-y-tramp_191001
(delwedd F9798) (06 Mawrth 1915)





Y Darian. 6 Mawrth 1919.

LIith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Golycydd,—Yn 'Bertawa own i pan sgyrfennes i ddwetha, a 'rown i wedi trenfu i aros mish yno, 'blecid ma hi'n meddwl taw hi yw prif ddinas Cymru, a rwy i'n dala fod i chleim hi mor gryfed a chleim unrhw dre arall ac yn gryfach he'd; a miwn pyblic resepshwn o'dd y Gymdithas Gymrag yn drenfu i fi Dy Gwyl Dewi 'rown i'n mynd i setlo'r cwestiwn, a chyhoeddi taw 'Bertawe o'dd prif ddinas Cymru o hyn i m'as. Ond gorffod i fi adal yn sytyn, a fel hyn y buws hi. 'Rodd y'n landledi i newydd fynd ma's, a rown inne'n clasgu'r llithie wy'n hala i'r DARIAN, i ddod a nhw ma's yn llyfyr mor gynted ag y daw papur dicyn yn chepach. Hanas y nheithie i drw'r Sowth fydd yn y llyfyr. Fues i ddim ond unwaith yn y North a'riod. Fe licwn i fynd yno eto, he'd, ond 'dwy ddim yn meddwl fod Casnodyn yn folon i fi fynd, ne fe fyse weti ngwa'dd i cyn hyn. 'Rown i weti ca'I lot o Iythyron yn began arno'i ddod a llyfyr ma's, ond rwffor ne giddil 'rown i'n oeti o hyd, ond pan weles i yn y DARIAN rhw fish yn ol fod Wil Ifan yn mynd i ddod ma's a llyfyr arall, fe setlws hynny'r cwestiwn. A fe weles he'd yn y DARIAN fod y pyrdyddion yn hala ordors am dano fe miwn pyrdyddieth, a fel'ny y dylen nhw. Fe ddyle pyrdydd ordro popeth miwn pyrdyddieth, ne wa'th iddo fe bido a bod yn byrdydd. Pan ma' fe'n pyrnu pâr o scitshe gwaith, os bydd dwy go's 'dag e, fe ddyle ofyn am danyn nhw miwn mesur petar lein, ond cofiwch chi 'dwy ddim yn gweid y dyle fe dalu am danyn nhw yn y mesur hynny. Talu am danyn nhw isht a dyn arall gita John Bradbury. Ond fe wetws Dafydd y Crydd wtho i os cetyn yn ol, pan o'dd e'n tapo'n scitshe parch i, nad yw pyrdyddion yn rhw lawer o withwrs, a barnu wrth y scitshe gwaith ma nhw'n byrnu. 'Rwy'n diall fod Wil Ifan ishws weti cal ugeinie o enwe. We!, Iwc dda iddo fe, weta i; ond chi, boys a'r tocins, pidwch a'n anghofio inne, a halwch ych enwe i, "Tramp, Offis y DARIAN, 'Berdar," a 'rwyn addo

 

 

 

F9799_y-darian_06-03-1919_llith-y-tramp_191001
(delwedd F9799) (06 Mawrth 1915)



printo yn y llyfyr bob petar lein fydd yn i ordro fe. Hanner coron fydd prish y llyfyr. Dou swllt yw prish llyfyr Wil Ifan, ond wetny ma' 'na lot o wast mewn barddonieth, a ma' rhai'n dala'n gryf taw wast i gyd yw e, ond weta i ddim o hynny am byrdyddieth Wil Ifan. Ond i ble'r etho i? Rwy'n timlo isht a Myfyr Emlyn, fod ynnwy' "duedd crwydro," a dyna sy'n cyfri, spo, mod i weti mynd yn Dramp. O ia, gweid own I’mod i weti gorffod gadal 'Bertawa'n sytyn. Pan own i'n dishgwl dros y mhapure, dyma rat- tat-tat ar y drws, a dyna ble ro'dd y dyn bach smarta "welsoch chi ariod, a mynte fe'n gwmws, ac ar dorri 'wynt, heb "Good-mornin' “:

"Jordan, Parc y Deri, w i, a 'rwy weti ca'l telegraff o'dd wrth agent Cwnsilor Howells, Caerffili, yn gweid fod yn rhaid i chi fynd ar unwaith. Ma fe'n onfi y bydd hi’n lecshiwn wyllt yno. Dyma'r telegraff: Send the Tramp here by first train; keenest contest looming - Salathiel.

"Fe glwes i chi speechan yn y City Hôl pwy ddwetydd Satwn, myntwn i, a fe nethoch yn biwr digynnyg. Fe wetsoch beth o'dd ishe'i weid, a fe'i gwetsoch e'n net he'd. Bendith y mame ar ych pen chi, a'ch sort, weta i.

"Thanciw," mynte fe, a bowo'n Iedileic. “Ma tren yn mynd o High Street sha Chaerffili miwn bothti hanner awr. Fe af i ddishgwl am tacsi."

"Ma'n rhaid i fi aros nes daw'n landledi yn ol i fi gal talu am yn lodgin, ta beth.”

"Cer'wch chi i ddoti'ch hunan yn barod, ac os na fydd hi'n ol, fe gewch adal yr arian ar y ford, a notyn bach gita nhw. Pidwch a bod yn hir, 'blecid fe fydda i'n ol a tacsi miwn pum munud.”

A phan o'dd Mr. Jordan yn ffarwelo a fi yn y Steshon, mynte fe –

"Good lyc I chi, newch ych gore i gal Cwnsilor HoweIls 'nol i'r Cownti Cwnsil, 'blecid dos neb ond y chi all i ddoti e miwn. A ma'n rhaid i ni i gal e'n ol, wath y fe yw'r eulod gore sy gita ni."

And so say all of us. TRAMP.

 

 

None
(delwedd B0767) (13 Mawrth 1919)

Y Darian. 13 Mawrth 1919.

Llith y Tramp.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, Fe gyrheuddes dre'r Caws, a'r Cawci, a'r Castell yn saff. Wrth roi nhiced lan fe ofynes i'r portar ble rodd Celyn yn byw. Fe yw Sgyrfennydd Cymdeithas Cymreigyddon Caerffili, a rown i'n meddwl cal nosweth o lodgin 'dag e, os odd yn bosib. "I don’t know," mynte'r portar. "Ask that gentleman. He is Mr. John Williams, Inspector of Nuisances, he knows everybody." "Began y'ch pardwn, Inspector Williams, gwetwch wrtho i ’ble ma' Celyn yn byw. Tramp y DARIAN w i." "Dyndishefon i! Gna' siwr. ’Rwy'n mynd hibo'i dy e nawr. Fan 'na ma Celyn yn byw. Dwetydd da i chi nawr. Fe ga'ch clwed chi yng nghwrdd Cwnsillor Howells heno.” Fe gnoces wrth y drws, a'r pyrtydd i hunan apedws. Dyn tal, tene, cul, "length without breadth" ys gwetws Huw Clyd, y bardd. Ta fe weti cal i eni'n Sisnig, Longfellow fyse'i enw e. Bardd wet'ny, i'chi'n gweld. "Y chi yw Celyn?" "Ia, ma'n debyg. Pwy ga'i weid ydych chi?" "Tramp y DARIAN. Ga'i nosweth o lodgin ma' heno, nes bo fi yn cal amser i ddishgwl am le?" "Cewch, nenw'r taid, os gofynnwch am dano fo ar bennill o gywydd, a hwnnw ar arddull y Gogynfeirdd." ’Dwy ddim yn siwr pwy o'dd e'n feddwl wrth y Gogynfeirdd, ond wy'n cretu he'd taw breed speshal o feirdd isht a Cawcwn y Castell i'w nhw. A myntwn i ar unwaith,

I Dramp, os wyt ti drwmpyn,
Rho wâl dda, rho wely, ddyn."

"Cym in," mynte fe, "mi wela ych bod chi 'O'r un waed ar awen wir.' Mrs. Jones, ma'r gwr diarth ma isho noson o lodgin am heno. Allwch chi roid o i fyny am y nos?" "Celyn bach, ydach chi wedi gwirioni, deudwch ? Yr unig ‘spare bed’ sy gen i ydy'r lein ddillad. Os licia fo gysgu ar hono, ma iddo, fo bob croeso. A be wn i pwy ydy o. Hwyrach y gall o gael lodgin hefo Herbert Kenfin, Ty Twll, neu Emwnt Mathro, Twll y Rhedyn." "Tramp y DARIAN yw'r gwr diarth, ac y mae on medru gneud pennill o gywydd, a mae o wedi dwad i Gaerffili i yrru Cownsilor Howells yn ei ol i'r Counti Cownsil.

“Rhoswch i ga'l ’paned o de efo ni. Mae Celyn a finna yn mynd i'r c'warfod heno. Yn reit sicr i chi y mae agent Mr. Howells wedi trefnu lodgin i chi. Mae'r Crier wedi bod o gwmpas yn deud am y C'warfod, a fod Tramp y DARIAN i areithio. Dowch ymlaen at y bwrdd."

Fe ethon yn tri sha'r cwrdd, a. wedi mynd i'r stag, fe introdiwswd yr Henadurs J. E. Evans, Cardydd, Hopcyn Morgan, C.B.E., Cherman y C. Cownsil, a Dr. T. H. Morris, Cherman yr Ediwcashon Comiti, ac erill i fi, nad wy'n cofio'n henwe nhw nawr. 'Ro'dd y tri dyn mawr hyn weti began am gal dod sha'r cwrdd yn y Marcet Hol i weld shwd ddyn iwsffwl (?) yw Mr. Howells ar y Cwnsil. Whara teg iddyn nhw am ddod, nenwetig i Dr. Morris, waith ma fe shwd ddyn bishi, ’blecid ma dynon Tylorstown shwd bobol dost. Ma'r infliwensa ne'r mymps arnyn nhw bob dydd. Fe ddath Dr. Morris i Caerffili i weld fod iechid Mr. Howells yn ffit i wmladd y lecshiwn, a fe ddath a dau focsed o No. 9 Pills 'dag e. Rwy'n dishgwyl ar Dr. Morris isht a Luc 'y physicwr annwl’ a'th gita Paul i weld i fod e'n ffit i wmladd i a'r anifeiled yn Ephesus, a fe dda'th Dr. Morris i weld fod Mr. Howells yn ffit i wmladd a'r anifeiled yn Caerffili, gita hyn o w'anieth taw Methodus yw Dr. Morris, a Wesla o'dd Dr. Luc, yn ol Adam Clarke. Fe sharadws pawb yn ffamws, ond yn speech i gorddws y crowd Wyddwn i ddim mod i weti cpwla [sic; = cwpla] nes bod y crowd yn canu "For he's a jolly good fellow." Ar ol y cwrdd fe alwd comiti ar ol i gisho nghal i i aros yma, ffor gwd, i fod yn pyblic orator i'r dre ar salari o £200 y flwyddyn a war bonus. Ma’ demtashwn yn fawr. Wn i ddim beth ni i yto, ond ni rosa yma am dicyn, ta beth, ’blecid ma yma shew o bethach yn galw am yn sylw i. Ar ol y lecshwn ’rwy'n bwriatu cynnal imparshial incweiri ar gyflwr y Gymrag yn y dre, a gwaith Cymdithas y Cymreigyddon, a'r welcom ma'r DARIAN yw gâl yma. '’Blecid rwy'n gweld wrth ohebieth Herbert Kenvyn, Megfam a Emwnt Matho, nad yw pethach ddim yn reit; ac os na chai ngalw odd'ma, fel y ces i o 'Bertawa, falle a i lan i'r Aber a Senghenydd, a wetny draw i Bedwas a Tretomos i weld shwd ma' pethach yno.

Maddeuwch fod yn llith i mor hir y tro yma cheso i ddim amser i sgyrfennu'n fyrrach. Bore 'ma fe geso yr O.B.E. oddiwrth Lloyd George am y gwasanaeth wy'n neud i ngwlad. Sticwch chithe ati, ’blecid ma gita fe lot o honyn nhw ar ol yto. Falle cewch chithe un.

TRAMP, O.B.E.


 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd J6543a) (27 Mawrth 1919)

Y Darian. 27 Mawrth 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, - Rwy'n ishws a chynt weti gweid wrthoch chi shwd y detho i o 'Bertawa mor ddisymwth, i fi ga'l yn hala gita Cwnsilor Jordan, Pare y Deri i yrru'r Cwnsilor Howells yn ol i'r Cownti Cwnsil dros etholeth Caerffili. A fe dodes e miwn "with a thympin majoriti." Fe withes yn galad, 'blecid wsnoth cwmws o'dd 'da fi at y gwaith, ond fe gnetho fa fel wy'n neud popeth y citcha i yndo; Fe draddodes bothtu ucian o areithie, a phob un yn polished, a fe apedes gannodd o gwestiyne o bob sort. A bob nos weti mynd sha thre i'n lodgin own i'n timlo ishta pyrgethwr ar ol cwrdd mawr— yn washd owt, a rodd y riacshon yn ddesprad. Fe dderbynies ddwseni o delegraffs, llythyron a phost cards oddiwrth olata'r Cownti Cwnsil, ac erill, yn diolch i fi am neud beth netho i, a fe fuon yn glondid mowr i fi yn y ngwendid ar ol y lecshiwn. Ond beth i chi'n feddwl, mai Mr. Salathiel, agent Cwnsilor Howells, yn gweid a bothtu 'r lle nawr taw fe dotws e miwn, a fe'i hunan halws i moin i! A prwff arall mai fi dotws e miwn yw mod i weti cal seind otograff portret o'r Cwnsilor yn i ddillad he!a, ac, ar gefen i gaseg hela. A fe glwes nithwr fod y Cownti Cwnsil weti paso ishws i hongad yn llun i yn y Cownti Holl wrth ochor llun Mr. Blandy Jenkins, a bod nhw'n mynd i ofyn i'r bachan dynnws yn llun'i i'r DARIAN i neud llun speshial o hono i. Ta beth, ma'n dda da fi mod i weti rhoi Mr. Howells miwn gita shwd fajoriti mowr. 'Rodd hi'n gwiddil i'r Lebor Federeshon ddod ag un mor bitw mas yn erbyn shwd eulod da sy'n neud i waith mor onest, ac yn Gymro a radical mor iach. Gobithio'u bod nhw weti dysgu gwers 'da fi. Rhw sprigyn o Sais weti cal 'chydig o idias miwn pamfflet cinog yn meddwl y gall e fanigo Cymru! Fe ginta i chi weld yn y papure fod y Cownti Cwnsil weti i neud e'n Halderman ishws, a falle i chi weld, he'd yn un o bapure Cardydd fesur peter lein iddo fe. Ond rhag ofan nag ych  chi ddim weti weld e, blecid ellir ddim dishgwl i chi i weld popeth, er mor weid awec  i chi. Dyma fe:—

 

Alderman! Well, dear me!—I greet you

With great hwyl, yes really!

I feel glad, I'm in full glee!

You be gallant, by golly!!

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6543b) (27 Mawrth 1919)

Ma' gwanol farne gita golwg ar pwy sy' weti neud e. Ma' rhai'n gweid ta Celyn na'th e. Ond sdim o ti'n cretu hynny, wa'th naiff Celyn ddim byd yn Sisneg, os gall e i neud e'n Gymrag, a dyma marn inne. Fe wetws e i hunan wrtho i taw cabledd i'n iwso'r Mesur Salm a'r Mesur peter lein, englyn y galws e fe, i neud barddonieth Sisnig. Ma erill yn gweid ma Herbert Kenfyn na'th e, ond i fod yn onfi rhoi i enw wrth fe rhag ofan i Celyn gwnni symons arno fe am y swllt drwg rows e y nghlasgad y Cymreigyddion bothtu fish yn ol, a dyna w inne'n gretu, he'd. Fe fydd yn dda 'da chi glywed, wy'n siwr, mod i'n gwella o'r nerfos riacshion weti'r wsnoth galad o reithio yn lecshiwn y C.C, a mod i'n dechre cwmni mas. Ma' Dr. Thomas, a ma fa weti bod yn garetic wrthw i pan own i'n dost, weti bod a fi ishws am ddwy ddreif yn i fotor car, unwaith rownd i Eclwshilan, a nol trw'r Groes Wen. Fe a'th a fi miwn i fynwent y Groes, a fe fuon yn sefyll wrth fedde Ieuan Gwynedd, Caledfryn, Gwilym Elian, a'i frawd Carnelliau, Gurnos, a lot o rai erill llai enwog, a fe dda'th rhw hireth bidur drosto i. Ar ail dro fe a'th a fi rownd i Fynydd Caerffili, a fe ddanghosws i fi fferm Craig yr Allt, a ffermydd erill, ble bu'r "Eglws Symudol" yn addoli cyn setlo lawr yn y Watford yn 1662 Fe dynnes yn het wrth fynd hibo Watford, blecid fe wetws y Dr. ma' yn y capel bach y sefydlwd y Gymdeithasf Fethadustedd gita Williams, Pantycelyn; Daniel Rowlands, Llangeitho, y ddau Wesle, ac erill. A fe dynnes yn het wetny wrth baso'r Watford Fawr ble'r o'dd Grace Price yn byw, ac o ble priotws G. Whitfield yng Nghapel Martin. Fe ddanghosws y Waun Waelod i fi he'd, ble y ganwd ac y macwd Dafydd Williams, ddechreuws y “Royal Literary Fund," sy'n helpu llenorion tlodion, isht a fi. Wn i gawn i dicyn ma's o honi, tawn 'n apelio? A fe wetws y Dr. ma' yn Waun Waelod y ma’  Emwnt Matho, sy'n sgyrfennu i'r DARIAN nawr, yn byw. 'Dwy ddim yn ddicon cryf i neud yr incweieri yr wsnoth nesa, felly, os byw ac iach fe a am dro bach sha'r Aber a Senghenydd, a wetny sha' Betwas a Thredomos.

TRAMP, O. B. E.

 

 

 

.....

 

 

A picture containing qr code

Description automatically generated
(delwedd J6544a) (3 Ebrill 1919)

Y Darian. 3 Ebrill1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd.—Down i ddim yn ymglwed a chynnal yr incweiri yr wsnoth ddwetha, 'blecid 'dwy ddim weti dod i'm lle yto, a ma'r doctor yn gweid na ddwa'i ddim am dicyn. Fe etho lawr yn slachtar wrth roi Halderman Howells miwn ar y C.C. Ond wy'n geino bob dyd nawr. Fe nath Mrs. Peters i fi fynd i aros fel gest i Maes y Coed, wa'th o'dd hi'n onfi nad own i'n cal whara teg i wella yn y Model Lodgin Hows. "Ma'n rhaid i chi ddod sha'n ty ni,” mynte hi, "blecid alla i ddim rhyteg lawr yma bob whip stitch i ddishgwl shwd ych chi'n dod mla’n. 'Ro'dd William ni'n gweid nithwr y bydde hi'n warth i Garffili, ac yn gollad i Gymru, i'r Sowth ta beth, i adal dyn isht a chi i farw o ishe dishgwl ar i ol e." Wel, 'nenw dyn, gan fod Mrs. Peters mor da'r ac mor biwr, fe etho; ond os ych chi yn y fan 'na, mor gynted ag y cyrhaeddes i Maes y Coed fe ffeintes reit off isht a merch ifanc weti ca'l proposal sytyn. Ond fel lwcws hi ro'dd Dr. Thomas miwn yn drws nesa, a fe'i galwd e miwn. "O's da chi dropyn o frandi yn y ty, Mrs. Peters, y Thri Star yw'r gore, os dos e." "Brandi wetsoch chi, Doctor? Nagos, wir, ddim dyferyn. Fe etho a'r dropyn dwetha o'dd yn y botel sha shoshial y British Women pwy nos 'ma. Y peth 'gosa at frandi sy gen i yn y ty yw paraffin - fynnwch chi lymed o hwnnw iddo fe?" Ta beth cheso i ddim brandi, a rwy'n onfi na cha i ddim 'da Mrs. Peters, ta pwy mor amal y ffeinta i. Fe ga ddicon o garedicrwdd ond dim brandi. Ma hi'n siwr o neud British Woman o hono i cyn gadewai Maes y Coed. Pwy ddydd 'ma ar ol brecwast fe a'th Mr. Peters a fi miwn i dy Evan Griffiths, just yn gro's i'r hewl, iddo fa ga'l introdycshion i fi. A ro'dd e'n falch i ngweld i. A rown inne'n falch i'w weld ynte, hed, 'blecid ma Herbert Kenfyn weti gweid cymint am dano fa yn y DARIAN. Yn i Feibi, yr Hyfforddwr a'r DARIAN y ma' Evan Griffiths yn pori, a ma gra'n y borfa fras ar i ened a'i feddwl o. Gobitho w i y gwelliff e'n waff, wath ma fa weti bod yn itha shimpil, medda fe.

 

Odd'ar y torrws y'n iechyd i lawr yng Ngharffili, 'rwy weti bod yn hala dwetydd gita Mr. Joseph Morgan, sy'n briod sha Mair Taliesin, merch Taliesin o Eifion, bardd Cadar Ddu, Wrecsam. Gita Mait ma'i gadar, a 'rown i am i gweld hi. Fe ofynes a gelwn i ishte yndi. Rhyntoch chi a fi own i'n meddwl tawn ni'n ca'l ishte yndi y delwn inne'n fardd i allu neud barddonieth ar Fesur y Petar Lein, 'blecid ma' nhw'n gweid os ishtwch am nosweth yng Nghadar Idris y byddwch yn brytydd ne' ma's o'ch sensis — a wa'th i chi p'un — erbyn y bora. Ond er i fi ishte yndi drw'r dwetydd thimles i ddim byd yn ots nag arfar. Ond falla. taw drw'r pen ma'r peth ma' nhw'n alwn awen yn dod i ddyn. Ta beth, dda'th hi ddim i fi wrth ishte. Fe ddanghosws Mair i fi lot o bethach erill o'dd yn blonged i'w thad. Un ohonyn nhw o'dd ffoto lled fowr o Ceiriog miwn ffram bert, ac ar gefen y ffram yn itha pla'n yn sgrifen Ceiriog, y pishin hyn:

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6544b) (3 Ebrill 1919)

 

“Gyfaill i'm mynych gofiaw
Hwda lun ar gledr dy law;
Gwylia rhag colli'r gwawl-Iun,
Ac hwda fy lIaw gyda fy llun.
J.C.H."

 

Fe ddanghosws i gwishg ma hi'n wishgo yn yr Orsedd i fi hed, y wishg berta a weles i ariod. Fe licwn i ta Moelona yn i gweid hi. 'Rwy'n siwr y mynne hi un 'run shwt a hi. Fe alla'i gwishgo hi nid yn unig yn yr Orsedd, ond pan fyse'r Ysgol Sul yn troi mas acha dwarnod Te Parti. Fe hales i ddwetydd hapus gita Mr. Morgan a Mair Taliesin ar u heulwt gysurus. Ma nhw'u dou yn w'ithgar 'da'r Cymreigyddion yn y dre mynte' r Cadirydd wrtho i.

 

Wrth fynd sha thre i Maes y Coed fe alwes yn y Polis Steshon gita Hinspector Griffith i ofyn nele fe'n helpu i hala'r symonsis ma's i'r witneson sy i mddangos o mla'n i yn yr incweiri. Ma'r Hinspector yn un o'r dynon piwra gwrddas i ariod, ac yn Gymro o'i ben i'w drad, a 'dyw i ben a'i dra'd e ddim mor agos at u giddil a phen a thra'd Tafwys. Fe wetws yr Hinspector i hunan wrtho i pan ma' fa'n cal anwd yn i dra'd i fod e’n cymryd wsnoth i drafulu lan i'w ben e. Ma' fe weti addo'u hala nhw ma's bob un, a fe ro's list o enwe iddo, a mynte fe, “fe hala i blisman hed i gatw ordor yn Festri Windsor Street. 'Oblecid ma rhai o'r dynon sydd ar y list ma yn rhai mwstrog i gwala." ’Rwy ishws weti setlo sha Mr. J. D. Hughes i ddod i gymryd shorthand notes o'r drafodeth i gyd. Fe yw shorthand riter gore Cymru. Ma' fa'n gallu sgyrfennu'n ffastach nag o'dd Mr. Towyn Jones yn pyrgethu slawer dydd ar "Cerbydau Ammunatib." A ma fa weti addo dod os bydd e weti gwella, a wy'n gobitho y bydd e.

 

Ma Mr. J. R. George weti cisho 'da fi i roi e miwn yto ar y Bord of Gardians. Ond 'dwy  ddim yn gweld fod ishe i fi fratu'm nerth i'w roi e miwn, blecid ma fa'n mynd miwn wrth i bwyse. Ar ol i fi gwpla'r incweiri fe fydda'n cwnnu mhac o Garffiii, wa'th ma llefydd erill yn gwiddi am dana i ishws, fel y gwelwch chi, er fod Mr. Jones, Y Twyn, weti began arna, i aros i ddoti'r ardd[d] iddo fe. Be sy ar y dynon, otyn nhw'n meddwl taw labrwr w l?  ‘Pam na ddotwch chi hi ych hunan?" myntwn i. "A gweid y gwir wrthoch chi," mynte fe, "ma palu'r ardd yn hala nghefan i'n dost, ac yn cwnnu cyrn ar y nwylo i. A pheth arall, hed, rwy'n llawar mwy agorad i bechu yn gwitho'n yr ardd na phan yn y stydi. 'Dwy ddim yn cydweld a'r sboniwrs sy'n gweid taw dweyd fala nath y'n rhieni cynta i bechu, 'blecid ma'r hanas yn gweid yn bla'n taw palu'r ardd o'dd Adda, ta beth, a. ma gita fi adnod i brofi mhwnc, 'Pam yr wyt ti?'

 

A ma lot weti cinnig dicon o waith i fi dorri co'd tan, a chario glo miwn, ond gita "Llyw a brenin yr holl beiriannau" yr w i'n ennill y mara chaws. Ar ol i fi roi report yr incweiri i chi'r tro nesa wy'n dishgwl telegraff oddwrthoch chi i weid i ble rwy i fynd nesa. Rwy'n onfi y bydd rhaid i fi i fynd sha Paris i'r Peace Conference cyn y daw trefan acha pethach. Gwetwch chi os ych chi ishe i fi fynd.

TRAMP, O. B. E.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6545a) (10 Ebrill 1919)

Y Darian. 10 Ebrill 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Dyma fi yn hala i chi dicyn o hanas yr incweieri gynhales i yr wsnoth ddwetha yn Festri Windsor St. Interim Report yw'r enw iawn arno fe. Mr. J. D. Hughes tynnws e mas i fi o'r shorthand notes gymerws e o'r drafoteth i gyd. Fe fydda i'n hala'r full report i Arthen pen ddaw e'n barod, 'blecid ma Arthen yn dwli ar reports. Ma'n well 'da fa gal report na chal cwnnad yn i salari. Yn y man hyn y dyIswn i ddiolch i bawb rows help i fi i neud y gwaith. Alia i ddim enwi pob un, ond ma'n rhaid i fi enwi Hinspector Griffiths, a Cadirydd y Cymregyddion, fe nethon y gwaith calad yn rhwydd i fi. Fe alwd ar lot o witneson, a fe eglures inne amcan yr incweieri, a beth own in ddishgwl gal gita phob un — y gwir, a’r gwir i gyd, a dim ond y gwir. A fe ceso fa, hed, whara teg iddyn nhw. Y cynta i gal i alw mlan odd Evan Griffiths. "Evan Griffiths, ma'n dda 'da ni ych bod chi'n gwella, ar ol bod yn dost. Rych chi weti neud sopyn dros y Gymrag yn y dre. Be sy gita chi i weid am bethach yma?"—  Evan Griffiths: "Thanciw am ych geire caretig, syr. Dim ond un peth sy'n y mlino i nad yw'r DARIAN yn cal y syport ddyle hi gal yma. Dyna i chi Mr. J.R. George, Hinspector J. Williams, a Mr. D. Thomas; y cynta'n busnes man pwysig, a Gardian; yr ail yn pyblic hoffishal; a'r trytydd yn reido yn i fotor car bob dydd, yn pyrnu un copi o'r DARIAN rhyntyn nhw. Gwlatgarwch dime'r wsnoth w i'n galw shwd beth a hwna." Tramp, O.B.E. "Eitha, reit, Mr. Griffiths. Gobitho y diwycia nhw. Ma 'da nhw ddicon o le, ta beth. Ma nhw'n gweid taw y rwm fwya'n y byd yw'r rwm for imprwfment. Falle y roi spring cleaning iddi ar unwaith. Hinspector Griffiths, galwch ar Mr. Jones, y Twyn, a Mr. Bromley Edmunds, trysorydd y Cymregyddion, ymlan, 'blecid ma'r un charge yn erbyn y ddou. Odi hi'n wir nag ych chi'ch dou ddim yn whilia gair o Gymrag sha'ch plant ar yr

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6545b) (10 Ebrill 1919)

 

eulwd? John Harris, Windsor Street, sy'n i weid e." — Mr. J. N. Jones: "Odin wir i wala am dano i, ta beth." — Mr. Edmunds: "Ac am Penrhos, hed." — Tramp, O.B.E. "Otich chi'n addo gwella'r scandal ma?” Mr. J.N. Jones: Fe whilia i sha Mrs. Jones a'r ol a'i sha thre." Mr. Edmunds: "A finne, hed. Ond ma da finne gwyn yn erbyn John Harris." — Tramp, O.B.E. "Oti John Harris ma, Hinspector? Galwch arno mlan. Mr. Harris, ma'r trysorydd yn gweid ych bod chi weti esceuluso lot o gwrdde'r Cymregyddion y geua dwetha. Oti hynny'n wir?" - John Harris: "Oti'n wir i wala. A fe weta racor wrthoch chi, 'dwy ddim yn meddwl mynd sha'r cyrdde nes bo'r pwyllgor yn pyrnu blanced i gatw'r stof sy'n twymo'r festri ma'n gynnes. Ma hi'n ddicon i sythu dyn yma'n y geua." — Yr nesa i ddod ymla'n o'dd Mr. J.R. Evans. Tramp, O.B.E. "Y chi yw Mr. Evans, sbo?" —J.R. Evans: "le, siwr, un o honyn nhw." — Tramp, O.B.E.: “Siwr iawn. Ond Mr. Evans, y pyrgethwr wy’n feddwl.” - J.R. Evans: "Ie, siwr, un o honyn nhw." — Tramp, O.B.E.: "Ond gwnitog Tonyfelin wy'n feddwl?" — J. R.. Evans: "le, dyna pwy'n w i." Tramp, O.B.E, "Shwd ych chi weti llwyddo i gatw mas heb ddarllan un papur o flan y Gymdithas, Mr. Evans?" J.R. Evans: "Dysgu 'da Tafwys nes i. Dyw ynte ddim weti darllen un. A ma fe yma ariod.” -  Tramp, O.B.E. "Galwch ar Tafwys ymlan, at once. Shwd ych chi heb ddarllan papur i'r Gymdithas, Mr. Jones?" Tafwys: "Yn hyn o beth rwy'n debig iawn i chi, syr. Wna i ddim, os galla i beido." — Tramp, O.B.E.: "Mr. Evans, os da chi ryw awgrymiade ynglyn a'r Cymregyddion, ac a'r Gymrag?" J. R. Evans: "Wel, o's, un ne ddou. I gadw diddordeb y Gymdeithas yn fyw drwy'r haf, fe ddylid cael ambell wibdaith i leoedd o nod ym mywyd Cymru, a chael y bobl ieuainc i ddod gyda ni. A pheth arall, fe ddyle'r Gymdeithas i drefnu dirprwyaeth i fynd at ein Cyngor Trefol ynglyn a rhoi enwau Cymreig ar ein hystrydoedd." — Tramp, O.B.E.; "O'r gore, gobitho y bydda i'n aros yn Ceiriog Stryd pan ddwa'i 'ma nesa. Mr Nicholas, beth sy 'da chi i weid, 'blecid ma'ch enw chi lawr fel un o'r witneson?" - Mr. Nicholas: "Caish sy ’da fi am i chi neud incweieri arall ar ol i chi gwpla hon, i drio

 

 

None
(delwedd J6545c) (10 Ebrill 1919)

 

ffindo ma's pwy yw Herbert Kenfyn a Emwnt Matho, blecid ma Henry John yn gweid o bothtu'r lle taw fi yw'r ddou. A ma dynon yn cretu Henry John, wath ma fa'n dishgwl shwd ddyn respectabl." Tramp, O.B.E.: "Rhwng gwyr Pentyrch a'u giddil, weta i. Falla fod Henry John yn reit, ddim yn amal ma fe'n rong. Galwch ar Mr. Pryce Evans ymlan. Mr. Evans, os 'da chi rwbeth i weid heb neud speech fowr?" — Mr. Pryce Evans: "Os ych chi'n moin speech o gwbwl 'da fi, rhaid iddi fod yn fowr, wath 'dwy ddim yn delo miwn pethach bach. Mae un peth licwn i awgrymu i fod e'n cal i neud ar unwaith, sef amalgameto'r Cymreigyddion a'r Trades and Labour Council, er mwyn cael y Gymraeg i fewn i Gynadledde'r Gwithwrs. Gwneud rhywfath o Coalition Government o'r ddwy er mwyn i nifer fawr o'r gwithwrs i wybod fod y fath iaith a'r Gymraeg. Mae'n gywilydd i lu o fechgyn Cymru, sydd ar bwyllgorau gweithfaoI, fod rhyw fechgynnach o Saeson yn dod yma i'n cymoedd gan ddefnyddio'r gweithwr Cymreig i ddyrchafu eu hunain, a diystyru ein neilltuolion a'n delfrydau. Mae’n rhaid amalgameto." — Tramp, O.B.E. "Mr. Evans, speechan ych chi nawr." Mr. Evans: "Begio'ch pardwn, Mr. Tramp. Os ca inne'r O.B.E. am areithio y ca i e. Rwy'n ffond iawn o gael rhoi pwt o areth bob amser. Tramp O.B.E. "Hinspector, gof'nwch i Miss Rowlands, B.A., fydd hi mor garetig a dod ymlan. Ishtwch lawr, Miss Rowlands. Ma'n dda da fi glwed ych bod chi mor withgar gita phopeth da yn y dre, 'nenwetig da'r Cymregyddion. Pwy hint ellwch chi roi shag at gwnnu'r hen iaith a'r hen arferion Cymrag i fwy o sylw." — Miss Rowlands: "Fe garwn roi un awgrymiad, sef ein  bod ni'r merched, a'r gwragedd, yn gwisgo'r hen wisg a'r het Gymraeg, ar dydd Sul, beth bynnag, i ddechreu; a phan y byddwn ni'n priodi, priodi yn yr hen ddull Cymreig. Os oes priodi i fod i mi, mynnaf briodas Gymraeg, a gwisg Gymreig fydd fy ngwisg briodas." Tramp, O.B.E. "Yn ol pob hanas, fe fydd y bachan nilla'ch calon a'ch llaw chi yn lwcus i wala, Miss Rowlands." Rown i weti meddwl madal a Charffili'r wsnoth hyn, ond ma tri ne betwar o witeson pwysig ar ol yto. Ond rwy'n cwpla'n ddiffal y tro nesa, and "seek fresh fields and pastures new." Fe welwch fod y Seisneg yn dechra citcho yndo inne ma. TRAMP, O.B.E.

 

Hol Notiad. - Mae gyta fi lond sach o goresbondans a mesura petar lein o Sefn Sistars, Porth, Habarwmboi, Ffestiniog, het setra, ag yn u plith nw ma "The White Lily,' sef llyfr diwetha Toriel. Ma'n depig gen i taw dyma'r llyfyr fu'n achos i'r Haleis ennill y rhyfal yn y diwadd. Ma fa'n llyfyr gwreiddiol iawn, gwreiddiol o wreiddiol ys gwetws Tafwys am Emwnt Matho.—

Tramp, O.B.E

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J6546a) (17 Ebrill 1919)

Y Darian, 17 Ebrill 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

YR INCWEIERI. (Parhad.)

 

“Hinspector, arweinwch Miss L. M. Roberts ymlan yma, os gwelwch chi yn dda. Thanciw. Ishtwch lawr, a dodwch ych hunan yn gartrefol. Ma'r Cadirydd parchus yn rhoi'r gair gora i chithe am witho da'r Gymdithas. Pwy help ellwch chi roi i fi i neud y riport 'ma i Arthen?— Miss Roberts: "Fe garwn yn fawr petai Pwyllgor Undeb y Cymdeithasau yn trefnu Cynadledd mewn gwahanol ganol fannau i ymdrafod a'r hyn ellir wneud o blaid y Gymraeg yn yr Ysgolion o dan Fil Addysg Mr Fisher. Hefyd, fe garwn, drwy'r DARIAN, apelio at holl Gymdeithasau Cymraeg y Dywysogaeth i ymysgwyd o blaid cael personau ar y Cynghorau Sirol sydd mewn llawn gydymdeimlad ag Addysg ar linnellau Cymreig. - Tramp, O. B. E. "Thanciw, Miss R. Fe fydda i'n yndarleino'ch awgrymiade chi a inc coch. Hinspector, galwch ar Mr. W.J. Thomas, Rhydri, ymlan. Mr. Thomas, beth yw'ch meddwl chi ar y mater?" — Mr. W.J. Thomas: "Os ych chi yn y fan 'na, ma'n ddrwg da fi weid, o's da fi ddim meddwl i ga’1

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6546b) (17 Ebrill 1919)

 

oddar wy'n reido motor beic. Ond os daw'r petrol dicyn yn chepach, fe a i a'r Gymdeithas am owtin yn y side-car i ben Cefn Onn yn yr haf. A ta beth yw prish y petrol, fe fydda'n falch i gal myned a chi o Gaerffili dydd Sadwrn nesa." - Tramp, O. B. E. "Thanciw, Mr. Thomas, ych chi'n itha trwmpyn, w! Galwch a'r Mr. Miles ymlan, nawr. Fel un o ffyddlonied y Gymdeithas, be sy 'da chi i weid, Mr. Miles?" — Mr. Miles: "Un awgrymiad yn unig, a dyma fe, ein bod ni'n annog yr Undeb i symud y Llywodraeth i neud Dy Gwyl Dewi yn Banc Holide." - Tramp, O.B.E. "Dyma'r awgrymiad gore w i weti gal oddar drecheiad yr incweieri. Ond, Mr. Miles, 'dych chi ddim yn gofyn dicon. Dyna licwn i gal, Banc Holide bob yn ail ddydd, a N'dolig rhyntyn mhw. Fe yndarleinia i awgrymiad ymhunan yn drwm a inc coch. Rwyn dwli ar y syniad. Ych chi'n gweld, ma'r eidia yn neid off a shew o'r cwestiyne sy'n blino'r Meinars Ffedareshon nawr, whech awr y dydd, het-setra. Gobitho y derbyniwch chi'n  eidia i, Mr. Miles, ma hi yn ych siwto chi a finne yn well na'ch un chi. Celyn, fel Ysg. y Gymdithas, be sy dach chi i weid? Fe ddyle fod lot da chi." — Celyn: "Mi fedrwn i ddeyd llawar, ond ddeyda i ddim rwan, ond y mod i wedi treulio fy het wrth hel pres casgliad c'warfodydd y Gymdeithas. Mae'r wraig yn deyd y dyla'r Pwyllgor brynnu het newydd i mi; ac os gwna fo, het 'velour' leiciwn i gael. Rwy'n foddlon gwneud dau neu dri dwsin o englynion am dani."  — Tramp, O. B. E. "Os cewch chi het newydd 'da nhw, Celyn, rhowch yr hen i fi, 'blecid ma honno'n well na r un sy da fi, Sul, gwyl a gwaith. Ond os na chewch chi, iwswch fwced i glasgu yn y cwrdde'r gaea nesa. Hinspector, ble rych chi, arweinwch Megfam ymlan yn ych steil ore. Ishtwch chithe lawr, Megfam, a dodwch ych hunan yn gymffordus. Ma'n dda da fi gwrdd ar ledi sy weti neud "Plant y Pentre." Rych chi ishws weti neud gwasaneth mawr i Gymru. Fe dreia i gal yr O.B.E. i chithe, hed. Towyn sy'n u catw nhw yn i lodgin yn Llunden. A fe glwes fod y Llwotreth yn

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6546c) (17 Ebrill 1919)

 

 

 

mynd u gwerthu nhw 'at greatly reduced price' gita'r 'surplus war material.' Ta beth, ma'n dda da fi'ch gweld chi. Ma nhw'n gweid ych bod chi'n dishgwyl shew'n well oddar ma Mr. John nol o Ffrainc, a ma'n hawdd da fi gretu." — Megfan: "Thanciw am ych compliment. Ma'n dda da finne gwrdd a chithe, wath rwy'n diall taw bachan bach o Berdar ych chi. Ia, calad i wala odd rhwto mlan pan odd William yn Ffrainc. Ond wyddoch chi, Mr. Tramp, ma hi'n gletach arna i nawr oddar ma fa weti dod sha thre,  'blecid ma fa weti mynd shwd filitarist. Ma fa weti troi'r hen dy yco yn  farracs. Ma fa weti arfar commando cymint yn Ffrainc nes ma fa weti neud 'conscripts' o'r plant a finne. Ac os na fydd nobs y dryse weti u polisho bob bora nes bo fa'n gweld i wyneb yn dyn nhw, 'detention' yw hi yco!” — Tramp, O.B.E. "Ma'n ddrwg da fi drostoch chi. Trowch yn C.O. Dyna'r unig waradicath. Ond be sy da chi i weid ar fater yr incweieri ma?" — Megfam: "Fe licwn i allu troi bob eulwd yn Gymdeithas Cymreigyddion. A rhaid cal hyn cyn y daw llewyrch acha petha. A wy am awgrymu i'r Pwyllgor i acor Cymdeithas Cymreigyddion y Plant yng Ngharffili y gaea nesa, fel sy miwn llefydd erill. Ma dicon o athrawon, athrawesau, ac erill i'w scwto hi yn i blan. Ond rhaid dechre ar yr eulwd, cretwch chi fi ne bido." - Tramp, O.B.E. "Them's my sentiments,' hed. Dewi Aur, doed e mlan, nawr. Shiglwch law, Dewi, Ma'n ddrwg da fi i fi ffili mynd lan i'r Aber, 'blecid wy'n bownd o adal Caerffili dy Satwn. Ond dwy ddim yn pryderu dim wath ma'r Aber yn saff yn ych carc chi. Ma'n dda da fi gal cyfle i'ch nabod chi. Wy'n gwpod am ych enw chi ys blynydde, drw'r DARIAN, ac yn ffond budir o'ch barddonieth chi, nenwetig ych mesura petar lein. Yndyn nhw ma'r cydseinied yn clecan isht a cawod o geser acha to Ty Cwrdd sinc. Beth ych chi'n pido dod a llyfr bach mas? Ma'n dda da fi'ch cwrdd chi. Ond, diar mi, own i'n dishgwl ych gweld chi'n catw'ch gwallt shew'n hirach nag ych chi'n neud; ag own i'n dishgwl gweld whiscers hir da chi, isht a odd 'da Abraham slawar dydd. Ych

 

 

 

 

None
(delwedd J6546d) (17 Ebrill 1919)

chi'n dishgwl mwy fel Colliery hoffishal na bardd. Dyna fel ma'r prydyddion just i gyd nawr. Myn hyfryd i, allwch chi ddim gweld y gwanieth rhwng bardd a Undertaker y dyddie hyn. Dewi, wy'n disgwl ca'i rwpeth da chi gwerth i'w roi yn y riport." — Dewi Aur: "Diolch yn fawr i chi am bopeth ddwetsoch am dana i. Falle dwa i a llyfr mas o dicyn i beth, ac os dwa i, i chi y cyflwynai e. Gobeitho y cawn ni'ch gweld chi yng Nghwrdd Blynyddol y Cymreigyddion yn yr Aber, mis Mai nesaf: Os dewch chi gyda fi y byddwch chi'n aros. Ond beth ma Megfan yn boddrach o bethtu'r y Gymraeg ar yr aelwyd beunydd a byth, a finne'n gweid ar hyd y blynydde mai ar yr ysgolion y ma'r bai i bod hi wedi cilo; a thrwy'r ysgolion y ma'i chal hi'n ol. Troi'r aelwydydd yn Gymdeithase Cymreig, yn wir. Troer yr ysgolion yn gynta, ac fe dry'r ysgolion yr aelwydydd. Gobeitho na fydd raid i mi bregethu'r bregeth yma mwy. Ffarwelwch, nawr, Mr. Tramp, ma'n rhaid i mi fynd i ddal y tren." —Tramp, O.B.E.: "Gwd bei, Dewi. Falla'y dwa i sha'r Aber i'r Cwrdde yn mish Mai."

 

Fe gwples yr incweieri gita'r diolchiada arferol i'r witneson, y Polis, a phawb. A rwy weti gwpla y Nghaerffili dim ond ysgwd y llwch oddar yn scitcha. a fe na hynny bora Satwn nesa. Fe gess sopyn o garetigrwydd yma, ond dim tychyn o gaws Caerffili trw'r amsar. O ble y sgrifena i nesa? "Wait and see."

 

TRAMP, O.B.E

 

 

Text

Description automatically generated with low confidence
(delwedd J6547a) (24 Ebrill 1919)

Y Darian. 24 Ebrill 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Rwy'n sgyrfennu heddi o Lanfapon. Fe weta wrthoch chi shwd y aetho i yma. Fe alws Dafydd Niclas, Register, Llanfapon, gita fi yng Nghaerffili i gydymdimlo a fi fod yn iechyd i weti torri lawr. Yn y DARIAN y gwelws e'r hanas. Fe yw y Censor o dan y D.O.R.A. sy'n registro pob un sy'n dod a mynd o'r byd a'r bywyd yma ym mhlwy Llanfapon, a bachan piwr digynnig yw e hed. Mynte fe, "Rhaid i chi ddod sha'n ty ni i recriwto'ch iechyd am dicyn. Ma dicon o ffresh air yn Llanfapon, a dicon o groeso da'r wraig a finne. Ac os ych chi'n Faptis fe gewch frecwast yn y gwely bob bora, a ta pwy enwad ych chi, fe gewch groeso calon yco, 'blecid ma Tramp isht a chi yn fwy nag enwad. Fe welas yn y DARIAN fod Mr. Thomas, Rhydri, weti addo mynd a chi i rwle. Fe alwa da Thomas nawr i weid wrtho

  

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6547b) (24 Ebrill 1919)

fe am ddod a chi lan yn y seid car dydd Satwn nesa. A fe gewch lonydd i sgyrfennu yn yn ty ni." A felny buws hi. Wrth gatw'r incweiari yng Nghaerffili fe ath y nghorespondans i ar ol yn fudir. Ma da fi lot i'w hapad, a'r cynta yw Halaw Sylen. Fe geso bishin bach pert odd wrth yr Halaw, acha mesur petar lein. Henglyn yw'r enw reit arno fa. Wy'n synnu ticyn na fysech chi, Mishtir Golycydd, weti nghorecto i, os och chi'n gwpod yn well. Fe ddylsech chi fod yn gwpod, a chithe'n Olycydd y papur gore y Nghymru. Fe weta i wrthoch chi mas law shwd detho i i wpod. Wei, fe geso henglyn odd wrth Halaw Sylen, a ma fa'n un ffamws hed, ond fod ticyn o leibel yndo fe. Dishgwlwch arno fa, a darllenwch a isht a cyfrithwr, ac nid fel bardd –


"Aer y stryd a'r ystradau,—yw y trist
Dramp, budr iawn ei garpiau;
A'r odiaethwr i'w deithiau
Hynod hoff gyda'r tren dau."

Lled dda, onte fa? Ond welwch chi'r leibel sy yndo fa? Ond chwnna i ddim leibel ar yr Halaw, blecid ma bardd yn bownd o weid isht a ma’r awan yn i gynhyrfu a, ne wath iddo fa bido a bod yn fardd. Dyw'n llun i ddim yn neud whara teg a fi nawr. A gweid y gwir wrthoch chi, yn second hand y pyrnes i a. Dw'i ddim yn fudir na miwn carpiau. Pan own i'n gwitho i roi roi Halderman HowIls miwn yn y C.C., fe geso mhelto'n ddesprad a 'lecshion eggs," nes ath y nillad i dicyn yn ———; a phan welws Mr. W. Williams, Castle Street, y mhicil i, fe ath o bothtu i glasgu i gal shewt newydd i fi o'r top i'r gwilod. Fe hala i lun newydd i chi weti i fi gal un, a phyrna i ddim un second hand yto. Fe sgyrfennes inne henglyn i'r Halaw, a dyma fe –


Halaw Sylen, weli how silly - to say
That I seem most dirty!
I'll say, man, when you'll see me –
"You're a toff, yn wir, Taffy."

Fe sgyrfennes i'n Sisneg wath do's neb yn fardd os na all e neud henglyn Sisneg. Fe weta wrthoch nawr shwd

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6547c) (24 Ebrill 1919)

y detho i'n fardd. Yn lled whaff ar ol bod yn ishte yng Nghatar Taliesin o Eifion, yn nhy Mair ei ferch, fe deimles rhyw gosi barddonol ar yn ysbryd i, rodd e isht a ffefar, rhyw ishe neud henglyn o hyd, a ffili. Or diwadd dyma fi at Celyn i ofyn iddo fa i’n neud i yn fardd. "Ych gneud chi'n fardd, y dyn," mynte fa. "Lol botes, allaf fi mo'ch gneud chi'n fardd. ‘Poetae nascitur, het cetra." "Gwetwch ych meddwl yn Gymrag, w, i fi gal ych dial! chi, yn lle clebran German.” "O'r gore, mi wna," medda fa. "Rhaid i fardd i gal i eni, nid i wneud." "Y ffwlcyn twp," myntwn i, "otych chi'n gweid nad w i ddim weti cal y ngeni, a finna'n whilia sha chi?" "A pheth arall," mynte fa. “Ydach chi'n meddwl y gwnawn i fardd o Dramp, tawn i'n medru. Rhoi'r awen i Dramp i fynd o gylch y wlad i glera. Gwarchod pawb!" "Beth ych chi'n bothrach, dyn, wetas i ddim byd am ladd cler. Ishe neud henglynion w I Ond gwd bei am byth i chi a'ch het. Thrwpla i ddim rhacor arnoch chi."

 

Just yn y man 'nf [sic; ’ny] fe gwrddas a Dewi Aur yn dod o'r Banc, a fe wetas wrtho fa beth own i'n moin. "Allwch chi'n helpu i, Dewi, 'blecid ych chi yn fardd."

 

"Galla, siwr," mynta fa. "Cerwch at Dr. Thomas, a gofynnwch iddo am ordor i fynd at y Cemist i gal poteled o stwff na nhw'n alw yn "Nectar." Cymrwch ddwy llond llwy gawl bob nos am naw nosweth, ac ar y nawfed nos dotwch y'ch trad mewn dwr a mwstard. Bore trannoth fe fyddwch yn gallu neu[d] henglyn isht a fi. Wetny halwch at Eifionydd am 'ffugenw yn rhaff i'w gynnal,’ ac am iddo arrango i’chl urddo yng Ngorsedd Corwen.

 

"Thanciw, Dewi," myntwn i, "fe na i fel ych chi'n gweid." A fe netho, a dyna shwd y detho i'n fardd. Ond sgyrfenna i ddim at Eifionydd am ffugenw, 'blecid allwn i ddim i ddarllan o  [sic; a] ta fa yn sgyrfennu nol ato i. Wy i’n apelio atoch chi, y mhartnars i gita'r DARIAN, am ffugenw pert fydd yn yn siwto i. Hoi, gwd bei i gyd, boys.

TRAMP. O.B.E.

 

Hol-notiad. — Fe apeda Gwynorig y tro nesa. A ma llyfyr Toriel gita fi, hed, yn aros i'w rifiwo. Ma Dafydd Niclas yn i ddarllen a nawr. "Epoch-making book” ma fa'n i alw fa.


.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6548a) (01 Mai 1919)

Y Darian. 1 Mai 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Fe wetas wrthoch chi'r wsnoth dwetha fod y nghorespondans i weti mynd dicyn ar ol tra buo i'n aros y Nghaerffili, a mod i'n aros am spell yn Llanfapon, fel gest Dafydd Niclas, Registar, a chess [sic] i ddim mwy o groeso ariod, ac on bai am y rashions feddelwn i mor dew a mochyn yma'n whaff. Ma Mishtir Niclas yn pyrnu'r DARIAN oddar odd e'u grotyn, a ma fa'n ddyn a cretyn [sic; = chetyn] o oetran arno fe'n awr; a whara teg iddo fe, ma fa'n helpu shew arna i i apad yn llythyron, ond wy'n gorffod apad rhai mhunan. Fe geso lythyr neis odd wrth fachan bach o'r Porth, a lot o henglynion. Gwynorig yw i enw prydyddol e, a ma fa'n enw bach net. Os dim ots beth yw i enw arall e. Dyw dyn ddim yn risponsibl am i enw bedydd, yr enw ma'i dad ne'i fam yn roi i Mishtir Niclas, os bydd o weti cal i eni ym mhlwy Eclwshilan; ond y dyn i hunan sy'n dewish i enw barddonol. A ma'r enw ma amball un yn ddewish yn dangos i fod y mor dwp a sledg, a mor ddi-[sic]  ddifarddonieth a phlisman weti trigo. Ond ma Gwynorig yw enw bach piwr. Gwynorig-prytydd yr orie gwynon. Wel, gobitho y cewch chi sopyn o orie gwynon yng nghwmpni'r awen. Wi'n timlo shew'n sgawnach ta beth, oddar y nath Dewi Aur fi'n fardd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6548b) (01 Mai 1919)

 

Dw i ddim yn hala llythyr Gwynorig i'r DARIAN, blecid wy'n gwpod na allwch chi ddim ffordo lle i bopeth, ond wy'n hala'r henglynion, wath rw i, isht a chithe, yw cisho neud y ngore i roi leg yp i ddynon ifinc sy heb gal llawar o fontishon. Rhaid cripian cyn cer'ed, a dos neb yn gwpod hynny'n well na chi a finne. Gorffod i chi a finne gripan sopyn cyn i ni ddod i ger'ed fel i ni'n cer'ed heddi; ac fe drochson shew ar yn dillad hed wrth gripan, ac fe drochas i lot ar ddillad dynon erill hed.

 

Ond nawr w i weti dod

Yn gryf uwchben y nhrod,

Dwy'n prisho ble wy'n myned

Na ble rwy weti bod.

 

Dyna mhrofiad i i'r T. A sticed Gwynorig ati a fe ddaw ynte i dimlo isht a wi'n timlo nawr. Wel, wel, i ble'r etho i! W i weti trampan ymhell odd wrth y nhestun. Ond dyna, Tramp w i, on te fa. Henglynion Gwynorig odd da fi miwn llaw, a dyma nhw i "Llun y Tramp": -


Doniol yw y llun a dynnwyd - inni
O'n hannwyl Dramp-broffwyd;
Hwn yn llon fel llun ein Llwyd,
A welir ar bob aelwyd.

Ei dorri a wneir o'r DARIAN, - a chaiff
Groeso chweg ym mhobman;
Oriel a ffram o arian
A ga fyth mewn amlwg fan.

Mi roddas charge i'w enlargo - a bydd
Ar ben y piano;
Daw mwy o swyn o'r Doh, Me, Soh,
O law dyn o'i weld yno.

Ma Lloyd George yn pyrnu'r DARIAN. Rodd e'u arfadd pyrnu'r "Threepenny Edition o'r Daily Mail" hed, ond dywe ddim nawr. A fe fydd yn falch i weld fod Gwynorig yn gweid fod i lun e isht a’u llun i. Ma rhwpath yn depig yndyn nhw, hed, dim ond i chwi ddishgwl arnyn nhw, ond own i ddim weti i weld e mhunan, nes i Gwynorig i alw'n sylw i ato. Myn hyfryd i, ma nhw'n henglynion

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6548c) (01 Mai 1919)

ffamws, otyn wir! Ond odd da chi destun da, a ma cal testun da yn shew o beth. Ond disgwlwch ar yr henglynion Sisneg ma halws e i fi :-—

Your photo is a rare feature,— indeed
A down right good picture;
This Black and White will quite cure
People who cadge the paper.

Ma na gic cas yn i gwt e - "People who cadge the paper." Cadgers y DARIAN sy'n i chal hi, a sarfo nhw'n reit. 'Dos da fi ginnig i cadgers ymhunan; a dodd da'r Gwaredwr, hed, ginnig iddyn nhw. Fe lefarws ddameg yn erbyn Cadgers, dameg y Deg Morwn; fe ginta'ch bod chi weti  i darllen hi. Y morwnon ffol yn cadgan oil oddar y morwnon call. A  fe greta i taw cadgan u lampe o nhw weti neud hed. Ma rhai yn byw acha cadgan, a fed gadgan dicyn o grefydd i farn, os gallan nhw, ond fe gan' nhw dicyn o job i neud hynny fel ma'r ddameg yn cisho dangos. Tawn i'n byrgethwr fe nelwn i brecath ar "Cadgers Crefyddol,” a fe'i pyrgethwn hi isht a Boanerges. Fe ro i'n llun yn wobor i'r bardd haliff yr henglyn gore i fi ar "Y Cadger." Y cyfansoddiata i fod miwn llaw yn offis y DARIAN miwn pythewnos. A fe gewch drio yto, Gwynorig. Thanciw fawr am ych henglynion pert acha testun pert, ac am y cic i cadgers y DARIAN. Fe werthinws Mishtir Niclas nes odd e'u Ilefan wrth i ddarllan e. Halwch amball i bishin hed i Ab Hefin, ne fe aiff yn jelos mod i'n mynd a'i jobyn e. A dyw'r Golycydd ddim ishe jelosi rhynt alota staff y DARIAN a'i giddil.

TRAMP, O.B.E.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6549a) (08 Mai 1919)

Y Darian. 8 Mai 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Yr wsnoth hyn i ma gita fi'r pleser o gyflwyno llifir anfarwoI Toriel, “The White Lily," i sylw darllenwrs y DARIAN. Oddar y rifiwes i ych llifir cynta chi, syr, "The Bloodstained Toothpick," yn yr Hibbert Journal flynydde'n ol do's dim un llifir weti ctcho yndo i isht a'r "White Lily." Ma'n gwestiwn da fi a os no lifir arall mor boblogaidd ag e, ond falla bod y Rashion Book, hed. Un set speshial obothtu'r llifir, o standpoint y rifiwar, yw fod yn rhaid ei ddarllen e cyn gallu i rifiwo fe'n iawn; a pheth arall yw fod ishe scolarship a sens i neud whara teg ag e. Rwy weti potshach sopyn sha rifiwo llifra yn y blynydde dwetha, ond own i ddim yn ymglwed i gymryd y risponsibiliti o rifiwo'r "White Lily" i gyd y mhunan, a beth netho i ond apwynto "bord of rifiwars,” er mwyn neud whara teg a Toriel ac a darllenwrs y DARIAN, a dyma'u henwe a'u cwalifficesions nhw, Herbert Kenvyn; ma Mr. Kenvyn yn M.A. (Oxon and Lond.); ac ar ol cal i ddegree fe ath am "past graduate course" i Clark's College i neud "research work." Ar ol cwpla hwnnw fe sgyrfennws dreuthawd, thesis ma fe'n i alw e, ar "The Diary of Emwnt Dhu, the Pre-historic man. With Annotations, Glossary, etc.,” a fe gas D.Lit. am dano fa. Dafydd Niclas, Register, Llanfapon. Yr unig cwalificeshion sy gita Mr. Niclas yw common sens anghomon, a rown i'n timlo fod ishe ticyn o hwnnw ar rifiwar. A finne yw'r trytydd. Fe feddyles ofyn i Bera a Sam yr Halier i ishte ar y bord, ond fe gofies yn gwmws nad yw'r naill na'r nall ddim yn diall Sisneg. Dyma sylwata Mr. H. Kenvyn, M.A., D.Lit.:- “Wele lyfr o'r diwedd Cynnyrch Athrylith wynias llenor profedig! Y mae'r mater drafodir mor feistrolgar gan yr awdur dysgedig". sef bywyd cymdeithasol dyn yn ardaloedd Dulais a Mellte yn y cyfnod cyn-hanesyddol, yr anhawddaf o'r holl ddyrysbynciau, eto o faen llewyrch treiddiol ei athrylith uchelryw diflanna caddug yr oesoedd bore hyn fel tarth o flaen yr haul, a gwelwn gyn-frodorion yr ardaloedd uchod yn byw eu bywyd beunyddiol ger ein bron yn hollol agored. Ac

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6549b) (08 Mai 1919)

wrth syllu arnynt yng ngoleu gwyn athrylith Mr. Toriel Williams ebychais, "Wel wel, mor debig i frodorion Dulais a Mellte heddyw ydynt!" Gwreichion Athrylith yw pob brawddeg o'r gyfrol, ac y mae'r Ilenor diledryw yn feistr ar y grefft o ysgrifennu. Gan gymaint ei fedr cuddia r medr mwyaf mewn symlrwydd swynol. Nid talent ddisglaer yw golud y llenor hwn ond Athrylith greol. Rhedeg yn gyflym a didrwst ar gledrffyrdd osodwyd i lawr gan eraill wna Talent, ond gwneud ei ffordd ei hun wna Athrylith. Yn ol mympwy ei ewyllys ei hun y rhed meddwl Mr Williams, a hynny gyda chyflymder aruthrol nes "synnu, pensyfrdanu dyn." Gallwn roi engreifftiau o ugeiniau o frawddegau na cheir eu bath mewn llylrau safonol eraill yn yr iaith Saesneg, ac o eiriau cyffredin na sillebir megis ag y silleba athrylith Mr. Toriel Williams hwy. Diau y cyhuddir of "of murdering the King's English," ond beth yw hynny i Athrylith! Y mae rhywbeth yn arddull ein hawdur na cheir mohono hyd yn oed yn R.L. Stevenson; ac y mae'r dieithrwch hwnnw nodwedda E.A. Poe yn toddi'n ddofdra diniwed yn ymyl iasau annaearol y “White Lily," campwaith athrylith Mr. Williams. Y mae'r awdur amryddawn yn ogystal a bod yn hynafiaethydd a nofelydd o'r radd flaenaf, hefyd yn athronydd sylwgar, fel y dengys ei gyffyrddiadau drwy’r gyfrol a chwestiynau dyfnaf Moeseg. Mae'n demtasiwn gref i mi i roi amlinelliad o honi, ond ni fydda hynny deg a'r awdur. Pryner y gyfrol. Swllt yw e phris, ond faint yw ei "gwerth!”

 

O.N. – “Dylai Golygydd y DARIAN, y Tramp, neu oreugwyr Seven Sisters ymgodi ar unwaith i apelio at y Royal Society of Antiquarians i'w wneud yn aelod o'r Gymdeithas ddysgedig honno'n ddiymdroi, ar gyfrif teilyngdod hynafiaethol y gyfrol. Dyna rifiw Dr. Kenvyn, M.A. Fe gewch yn un inne a Dafydd Niclas yr wsnoth nesa, os byddwn ni'n dou'n fyw ac iach.

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Notiad. - Fe synnes gryn dicyn nad odd neb o Staff y DARIAN yn yr "honours list." "Parch i'r hwn y ma parch yn ddyletus" odd hi slawar dydd, ond nid fel'ny y ma hi nawr, myn hyfryd i!

 

 

Letter

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd B0441) (15 Mai 1919)

Y Darian

Mai 15, 1919.

Llith y Tramp.



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



Mishtir Golycydd, - Yr wsnoth hyn rwyn hala i chi rifiw Mr. Niclas, Llanfapon, o’r “White Lify.” Ond cofiwch chi, er taw fi apwyntws y bord, dw i ddim yn dala mhunan yn risponsibl am olygiata’m cyd-aelota ar y llifir anghyffretin sy weti bod o dan searchlight yn barn ni’n tri. Ma pob un weti cal perffaith ryddid i sgyrfennu fel odd e’n dewish. Heb racor o bilo wye dyma sylwata Mr. Niclas - ”Yr odd yn dda da fi fod y Tramp weti gofyn i Dr. Kenvyn i ishte ar y bord of rifiwars, am i fod a’n scolar, ac er mwyn i’r Lily i gal pob whara teg i wascar i pherarogl, fel y gwetwn ni. Dw i ddim yn cydfynd a phopeth ma’r Dr. dyscedig weti weid am y ‘White Lily.’ Ond wetny falle taw fe sy’n reit, a finna sy’n rong. Ta beth am hynny, fe ddarllenas i’r llifir betar gwaith, a rodd y ‘White Lily’ yn mynd yn wynnach bob smac, ac fel y gwetas i o’r blan, ma’r llifir yn epock-making book. Pan ddechreuas i ddarllan e’r tro cynta fe wetas wrth y Tramp mai ‘The Red Cabbage’ ddyla’r enw fod; ond weti darllan ymlan fe welas fod yr enw’n reit i wala - ’White Lily.’ Fel y sylws Dr. Kenvyn yn ddecha budir, ma na lot o arbennigrwdd yn perthyn i’r llifir, ond y peth dynnws fwya o’n sylw i odd i naturioldeb e. Dyma ychydig o engreiffte o’r peth wy'n gisho weid. wy’n gisho weid. Fel ych chi’n gwpod, Mr. Gol., ma’r llifir yn mynd a ni yn ol sha’r amsar y torrws y ffirm gymrws y contract i gwnnu Twr Babel, a ma Toriel yn gweid wrtho ni shwd on nhw’n byw pyrt hynny yn ardaloedd Dulais a Mellte. Fe etho reit miwn, gita Toriel yn yr llifir, i cave tad a mam y ‘White Lily', a ma pictwr yr awdur o’r rw^m, y parlwr odd a allwn i feddwl, mor naturiol a up to date a tawn i yn ych parlwr chi, blecid fe ginta fod parlwr da chithe fel sy gita ninne. Ma’r pictwr mor ‘true to nature,’ os gwetws Mr. W. Brian slawar dydd, fel yr own i’n dishgwl gweld warmin pan, llunia Christmas Evans, Lloyd George, y Tramp, O. B. E., a sampler o waith y ‘White Lily,’ yn hongad ar y wal. Wetny, run ni’n cal snapshot o fachan a merch ifanc yn caru, a hynny filodd o flynydda nol, a gita llaw, dyna pwy on nhw Emwnt Ddu a’r White Lily. A shwd ych chi’n meddwl on nhw’n caru? Run shwt a ninne’n gwmws. On bai mod i’n gwpod yn well, fe allwn i dyngu taw atrodd hanas Mrs. Niclas a finna’n caru slawar dydd - fel buon ni dwla - y ma Toriel yn y llifir. Unwaith yto,


 

 

A picture containing scatter chart

Description automatically generated

(delwedd B0442) (15 Mai 1919)



dyna’r enwe odd ar bobol yng Nghymru ganno’dd a milo’dd o flynydda’n ol - Shon, Evan, Emwnt, Jacky, Jimmy, Idwal, Lily, Cati, Enid, a Pali. Mor naturiol a up to date, on te fa? Meddylwch wetny am u whara nhw. Shwd on nhw’n whara sha Ystrad Fellte fil o flynydda cyn geni’r Apostol Paul? Run shwt yn gwmws a ma plant Llanfapon yn whara’r funud ma o flan yn ty ni - Ring a Ring o Rosy a Hide and Seek. Wel, dyna fi weti gweid dicon i ddangos mor naturiol a up to date yw pictwr Toriel o fywyd yn Mid- Glamorgan filodd o flynydda cyn bildo Castell Caerffili. Ond er y mod i weti dwli ar y llifir, yto pidwch chi a meddwl mod i’n cretu popeth ma Toriel yn weid yndo fe. Nagw, o dicyn hed, blecid yn Pen. II. ma fe’n rhoi hint lled blaun fod dynon slawar dydd yn byw ar ben coed yn gystal ag miwn caves. Ma’n hawdd da fi gretu fod pobol Sefn Sisters a llefydd erill yng Nghymru yn byw miwn caves pan odd tai’n brin, a rhenti'n uchel, a’r howsin problem heb i daclo fel ma nhw’n mynd i daclo fe’n awr; ond byw ar ben coed isht a brain? Nonsens i gyd! Shwd on nhw’n gallu cwnnu tai ar ben coed? Ac ar ol u cwnnu nhw, shwd on nhw’n mynd a’r celfi lan iddyn nhw - gwetwch cysan drors? A shwd on nhw’n cario glo lan? Meddylwch wetny am Emwnt Ddu, ne un o’r boys erill ma Toriel yn enwi yn y llifir, yn mynd sha Bertawa ne Gastell Nedd acha dwetydd dy Satwn, ac yn mynd sha thre weti ifed ticyn ar y mwya, fel ma dynon dwl yn neud ar ol mynd o dre, shwd y ffinde fa’i lodgin, a shwd ele fa lan ar ol i ffindo fa? A shwd odd y tai’n dala gwynt y gaea? Rwy’n siwr u bod nhw’n dai drafftog! That won’t wash, Toriel! A fe ddigwddes weid wrth Clochydd Llanfapon beth odd Toriel weti sgyrfennu am ddynon yn byw ar ben coed, a mynta fa, ‘Dw i ddim yn napod Mr. Toriel, blecid chlwas i ddim son am i enw e cyn nawr. A ta pwy yw a ma fa’n eitha reit, blegid ma un lle bach ar bwys Llangrallo, yn y Fro, ma nhw’n galw Pencoed arno fe, am fod pobol yn byw ar ben y coed slawar dydd. A ma nhw’n gweid fod Penycoed, yn Shir Drefaldwn, hed. Falle fod Casnodyn yn gwpod am dano fa.’ Ond alla i ddim cretu Toriel na Chlochydd Llanfapon. Ond ma’r ‘White Lily’ yn llifir anghomon. Pyrnwch e, bob Jac.

Ma Mr. Niclas weti mynd a’r gofod bob tamed, fel nad os da fi ddim lle i weid y pethach odd ar y medwl [sic; meddwl] i am y “White Lily.” Ma lot o boints nad yw Dr. Kenvyn na Mr. Niclas weti twtch a nhw, a fe geso lot o dociwments odd wrth Toriel sy’n dangos fod yr hanas ma fa weti atrodd mor ddrychynllyd o dda yn wir bob gair, y licwn i neud sylw o honyn nhw, ond os dim lle; ond ma’n rhaid i fi gal gweid mod i’n gobitho y gnewch chi’ch gore, Mr. Golycydd, i gal Toriel yn eulod o’r Royal Society of Antiquaries, ma’r case yn dilwng, cretwch chi fi.

TRAMP, O.B.E.

Hol-Notiad. Ma “Merch o’r North weti sgyrfennu ato i. Fe’i hapedaf hi mor gynted ag y galla i.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6550a) (22 Mai 1919)

Y Darian. 22 Mai 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Fe halws Merch o'r North lythyr neislanghomon i fi pw ddydd. Ond pidwchchi, syr, a meddwl mod i'n encyrego merched ifinc i sgyrfennu ata i, blecid dw i ddim. Wrth ddarllan yr ‘arweiniad i miwn' idd i llythyr fe gretas taw closo mlan ata i odd hi'n gisho neud, a fe ddishgwles yn Almanac y Milodd i weld odd hi'n flwyddyn naid leni, ond wrth lwc dyw hi ddim. Ond weti darllen bant am dicyn fe welas taw hamcan y llythyr odd rhoi infiteshion i fi lan sha'r North i ddoti pethach yn reit yno. Dos dim dowt yn y meddwl i nad os shaw o bethach yn y North, fel yn y Sowth, ag ishe'u doti nhw'n reit, a taw fi yw'r boy i'w doti nhw'n reit, ond wetny alla i ddim a bod ymhobman. A wir, w i weti cal ym shiomi'n fudir yn Casnodyn, blecid fe halws ata i i weid i fod e'n watcho pethach yn y North, ond allwn i feddwl nad yw e'n watcho dim ond y tywydd. Ma'n ddrwg da fi, Ferch o'r North, na alla i ddod sha'r North just nawr, blecid yn y lle cynta, wn i ddim yn iawn ble ma'r North, rhacor na'i fod e yn rhwle o bothtu Aberdaron. Yn ail, wy'n onfi na chelwn i ddim passport nes bo'r Germans wedi signo'r Amoda Heddwch. Yn drytydd ac yn ola, wy'n onfi y celwn i annwd yna, blecid a chlasgu wrth fel y ma Casnodyn yn cintach ar y tywydd, ma hi'n o'r ne'n bwrw glaw wastod yn y North. Ond yto, cofiwch chi, dw i ddim yn gweid na ddwa i lan ar ol i fi ffindo mas ble ma'r North, ac ar ol i Lloyd George i ddod a, phethach i fwcwl mas yn Ffrainc.

 

Dicyn yn ol fe fu'r Ferch o'r North miwn cwrdd yn grondo ar ferch ne wraig o Gymras yn darlithio'n Sisneg i gynulleidfa Gymrag ar "Hen Gerddi Gwerin," a ma hi'n gofyn y marn i ar y pyrfformans. Wel, fe weta wrthoch chi'n gwmws, er mod i'n ledis man,

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6550b) (22 Mai 1919)

tawn i yn y cwrdd fe brotestwn yn erbyn y fath ffrwmp, er taw merch ne wraig odd yn darlithio. Ma'r wlad weti laru ar yr hen starch a balchter Sisneg. A fe weta racor, camouflage yw shaw o'r sel dros Gymru a Chymrag miwn cwrdd a chynhadledd, ond ma eithriada, cofiwch. Yng nghenol y ffroth a'r ffrwmp ma'r hen iaith annwl yn marw o ishe'i whilia hi. Nid fireworks cynhadledd unwaith bob whech mish sy'n mynd i gatw'r iaith yn fyw, ond i whilia hi bob dydd. Lwc dda i chi, Ferch o'r North, i neud ych gora dros y Gymrag.

 

Falla'ch bod chi’n cofio, syr, yn ym sylwata ar y Cadger rw fish yn ol i fi gynnyg ym llun yn wobor am yr henglyn gora iddo fa. Ych chi'n gwpod hed, taw ticyn yn ifanc w i fel bardd, ond w i'n ddicon o brytydd i wpod p'un yw'r gora. Fe ddath pump o gyfansoddiata i law ar y testun barddonol ddewishes i. Own i'n  dishgwl sopyn o henglynion odd wrth brytyddion gora Cymru, yn enwetig gan fod shiawns i ennill gwobor mor anghomon, a rown i weti trenfu i'r Arch Ddedwydd i'w  beirnatu nhw. Ond do's dim ishe. Ma'r henglyn i'r Cadger heb gal i neud yto.

 

Gwynfab: Dwy boteled o Nectar yfes i cyn dod yn fardd, ond rhaid i chi i yfed dwy filiwn. 'Dewch yr awen yn llonydd, da chi, a thriwch ych llaw a'r sgyrfennu sboniad ar y Datguddiad.

 

Afanydd: Ma hwn dicyn yn well. Yto ma hwn yn bratu'r acen, yn torri'r mesur, ac yn proestio.

 

Robin Goch: Ma lein gynta Robin yn rong, wetny os dag e ddim siawn[s] am yn llun i.

 

Tel Bach a Llais o'r Graig: Fe allwn i feddwl taw'r un prytydd sy weti neud y ddou henglyn, a'r Robin Goch, hed. Ond ta, pun. Llais o'r Graig yw'r gora o'r lot. A fe gaiff ym llun i. Haled i Offis y DARIAN am dano fa, a chofied i hongad a ar y wal yn y parlwr, ne ar ben y piano. Dyma'r henglyn:

 

Cadger, ysgeler sgwlyn - yw y gwr,

A hen gyb i'w wreiddyn;

Isel ddelff, rhy sal o ddyn

I  racswr yw y rhecsyn.

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Notiad. – Ma  Cave Man weti hala ata i barhau'r rifiw o'r "White Lily" am wsnotha. Alia i ddim yn siwr, blecid 'tempus fugit' mynte Dr. H. Kenvyn, ta beth ma fa'n feddwl wrth hynny.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6551a) (29 Mai 1919)

Y Darian. 29 Mai 1919. Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, -

Pan own i'n cynnal incweiari yng Nghaerffili fe addawes fynd lan sha Abertridwr i weld shwd o'n nhw'n sgwto mlan yno - i weld pwy odd yn gwitho da'r Gymrag, a phwy odd yn nuthur dim ond spowtan — ond fe dorrws yn iechyd i lawr, a isht a phyrgethwr Methadus, gorffod i fi dorri nghyhoeddad, a derbyn gwahoddiad caretig Mr a Mrs Niclas, Llanfapon, i Bryn Tirion i ricriwto'm iechyd. Rwy ishe mynd sha Chaerdydd a Phontypridd yn dost, blecid ma na bethach yn y ddou le ag ishe dishgwl miwn iddyn nhw yn druenus. Ond ma Mrs Niclas yn gweid na cha i ddim mynd odd ma cyn cal pryd o datws newydd o'r ardd, a llath enwyn. Fe halws Mr. Emwnt Ddu, Sefn Sisters, gwpwl o bowndi o datws had cynnar iawn, y white Lily, yma, a fe fyddan yn ffit i'w tynnu o bothtu'r Sulgwyn. Ond ta beth am hynny, fe etho sha Cwrdda Mowr Undeb y Cymdithasa Cymrag. Wy'n ffond budir o gwrdda mowr o bob sort, ta pw mor fach fyddan nhw. A chyn i fi gwmpo a thorri ngho's a chraco'n llaish, rown i'n trampan shaw sha chwrdda mowr. Fe ballws Dafydd Niclas yn deg a mynd da fi yn gwmpni, blecid acha dwetydd dy Satwn ma fa'n shafo, a gorffod i fi fynd wrth ymhunan gita'r train yn lle cerad yn gros i'r mynydd. Weti dod mas i'r stryt y peth cynta welas i odd "Croeso i'r Tramp, O.B.E." weti i brinto acha fflag fowr a'i hongad yn gro's i'r sgwar. Dyna dimlad hyfryd ddath drosto i pan ddarllenes i y moto. Wrth y ty cwrdd Methadus fe fformwd prosesion isht ag anglodd, a off a ni lan shag Eclwshilan, ac i'r fynwent at fedd William Edwards, y pontwr a'r pyrgethwr, a dyna ble rodd Brynfab ymhlith y beddau, ond yn i ddillad a'i iawn bwyll, er taw prytydd yw e, yn weitan am danon ni. Ar ol canu hym Pennar, a "Rhyfelgyrch Cymru Newydd" Brynfab  fe areithiws bachan bach o'r Aber, A.J. Williams, yn biwr diginnig ar Twm Cilfynydd. Ar i ol e fe ddarllenws Tawelfryn bapur anghomon ar rai o ddynon mowr plwy Eclwshilan. Yn wir i, fe wetws yn bert am Shon Cent. Ond shwd anghofiws e weid y peth mwya nath y dyn mowr hwnnw 400 mlynedd yn ol, sef hala Cawcwn plwy Eclwshilan i gyd sha Chastell Caerffili —dyna, all e, mwy na finna, ddim cofio popeth. Ma'r Bute yn meddwl ta fe bia'r Castell, ond ma fa'n camsynad, y Cawcwn pia fa. Dyrna'r hanas, a ma fa'n itha gwir, ne halwn i ddim o fa i'r DARIAN. Rodd te parti a chwrdd atrod yr Ysgol Sul yn y Twyn, Caerffii, a fe ofynws y crwt i'w ewyrth—blecid i ewyrth cwnnws a  - os cela fa fynd sha'r te parti - "Pwy sy'n mynd i. watcho'r cawcwn pan fyddi di yn cwnnu dy gwt sha Chaerffili, licwn i gal gwpod?" mynta'r hen foy. "Os ca i fynd sha'r te parti, fe setla i'r cawcwn cyn starto," mynta'r crwt. "Off a ti, te; ond cofia di ddod  nol yn gynnar." "Habracadabrah!" mynta fa ar dop i laish dair gwaith.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6551b) (29 Mai 1919)

A dyma'r cawcwn yn hedfan o bothtu iddo fa. "Habracadabrah; Castell Caerffill!" mynta fa wetny dair gwaith, a dyna'r cawcwn yn hedfan da'i giddil sha'r Castell, a dyna ble ma nhw odd ar hynny, a fe a'th Shoni sha'r te parti. A  ma'r hanas yn gweid, hed, ta yn y te parti hwnnw y tastws a dishen gyrans gynta ariod. Fe ddylswn weid ta Shoni Cwmtridwr odd e'n cal i alw pan odd e'n grotyn. Fe wetws Mr. D. Rhys Phillips wrtho ni am glasgu pob hanas allwn ni gal o bob cymdocath, a dyma fi weti dechra. Ar ol i Tawelfryn i gwpla fe adroddws Dewi Aur bishin hir o gywydd i Mr. Cent, a roddd e'n sparclin. Piti mowr nad odd y gwr bonheddig yn fyw i glwad a. Rodd e'n dda! Wetny fe awd miwn i'r eclws  a fe areithiws y ffirad ar hanes yr eclws ond cofiwch chi, wishgws a ddiin o'i smoc wen. Dyn piwr diginnig yw ffirad Eclwshilan, a fe areithiws yn net hed. Ond ma da fi ddou gomplaint yn erbyn yr areth; yn gynta, arath Sisnag odd hi. Pwy ishe arath Sisnag odd, a ninnau'n Gymry bob jac? Arath Sisneg yng Nghwrdda Mowr Undeb y Cymdithasa Cymrag — dyn dishefon i mryd!! Ai fel hyn y ma cadw'r iaith Gymrag yn fyw? Yn ail, wrth son am registars yr eclws, soniws e ddim fod Christmas Evans weti prioti sha Mary Jones, o Shir Fon, yn Eclwshilan, pan odd e'n wnitog yng Nghaerffili. Ta pwy briotws yn Eclwshilan, Christmas odd y mwya. A dim gair o son am hynny! Fe fuo i whant a chwnnu i weid hynny wrth y gynullidfa, ond own i'n onfi y celwn i symons am frowlan tawn i yn cwnnu. Ar ol dod mas o'r eclws fe ethon lawr sha ty cwrdd Nazareth i'r gynhadledd. Ond ma'n rhaid i fi dynnu miwn a rhoi hanas y cwrdda erill yr wsnoth nesa, os byw a iach.

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Notiad. — Fe welsoch fod Allan o'r Ogof yn rhoi infiteshion i fi ddishgwl miwn i rw beth sy mas o le yn Sefn Sisters. W i weti dodi'r enw lawr ar y llifir, a fe ddwa, os galla i. Ma fa hed yn achwn fod Dr. Kenvyn, M.A., yn i rifiw o'r White Lily, yn neud cam a phobol y dyffryn. Ma Dr. Kenvyn yn ddicon ffit i aped drosto i hunan. A barnu odd wrth lythyr Allan o'r Ogof, fe allwn i feddwl fod y Dr. dysgetig yn itha reit, blecid wmladd a'i giddil odd pobol Dulais a Mellte yn neud slawar dydd, a dyna ych chi'n neud nawr, ond fod rhai o honoch chi'n fwy slei o bothtu hi nag odd ych cyndada. Fe wyddoch pw sy gen i yn y meddwl; a gofnwch, drosto i, i Gadirydd y Trades and Labour Council i ddoti'r ddwy atnod hyn yn fater i sharad arno yn y cwrdd nesa, Phil. ii., 3, 4. A phob eulod i'w dysgu nhw cyn mynd sha'r cwrdd.

 

 

 

 


.....

 

 

None
(delwedd B0629a) (5 Mehefin 1919)

 

Y Darian. 5 Mehefin 1919.

Llith y Tramp.



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



Mishtir Golycydd, — Weti dod lawr o Eclwshilan fe etho’n gwmws i’r Gynhatladd, a rown i’n falch o gal shiawns i ishte lawr, wath own i weti blino’n fudir.
Dw i ddim mor nimbil ar yn nhrod ag own i cyn i fi dorri nghos, a blaw hynny w i’n mynd ar yn oetran nawr. Pan etho i miwn i’r ty cwrdd rodd Mr. E. T. John yn y gatar, ac Arthen a Mr. Jenkins, B.A., yn catw cwmpni iddo fa ar y staj. Down i ddim weti gweld Mr. Jenkins oddar y priotws a, a wir i, golwg chep geso i arno fa, fel ta fa’n ffili dod dros distempar y prioti ma. Rodd Arthen yn dishgwl yn biwr. Dyna shwd un yw Arthen, fe aiff e drw, o dan, neu dros bopeth. A gobithio w i y daw Ab. mas o law, hed. Fe draddotws Mr. John arath nêt, a rodd yn dda da fi i chi i phrintio, hi yn y DARIAN. A fe nath y Gynhatiadd yn iawn i’w neud a’n Gadirydd yr Undeb am flwyddyn arall, er i depiwteshon o “oreugwyr yr Undeb, fel y gwetwn ni, yn cal i arwen gan Brynfab, i ofyn i fi i gymryd yn nominato’n Gadirydd. Mynta Brynfab, wrth introdiwshio’t depiwteshon, “ryn ni am i chi i fod yn Gadirydd am y tro nesa, blecid ma’r Undeb yn depig o fynd sha Shir Bemro, a fe gewch shiawns i dowlu gema o flaen y “moch.” Ond os dim cymhwystera Cadirydd yndo i. Fe glwas i Dewi Fychan yn gweid ta tri “nod angen” Cadirydd da yw, “to look sunny, to talk honey, and give money,” a be siwr yw a, dw i ddim yn ddigonol i’r pethach hyn. Ma’r dyn iawn da ni yn y gatar, a fe nath i waith yn ffamws. Ond wrth fynd hibo fe licwn i weid gair bach wrth y Pwllgor Gwithol sy’n trenfu rhaclan y Gynhatladd. Da chi, pidwch a wasto’r amser gita rhyw ffrits o gwestiyna. Fe drulwd prynhawn y Gynhatladd ddwetha i ddegymu, mintys, anis, cwmin, a shibwns y gellid u setlo nhw bob un miwn deg munad. Briwo glo man a seuthu sgwibs odd lot o’r sharadwrs yw neud, ar fencos i! Yn ol y marn i un item fawr odd ar y rhaclen, sef ar fod “iaith a diwylliant Cymru yn sail i’r cynlluniau a baratair gan Awdurdodau Lleol yn ol Deddf Addysg, 1919,” a rodd bump a’r gloch ar yr Athro Ernest Hughes yn cal cwnni i roi’r matar o’n blan ni. Ac ar ol bod lan ar ben Eclwshilan am ddwy awr, a dwyawr arall yn y Gynhatladd, rodd yn stymog i yn holi ble odd y nannadd i. Fe wetws y gwr bynheddig bethach pwysig, a hynny o dan anfontishon mowr, blecid rodd rhai’n mynd mas, erill yn darllen y teim tebl, ac yn dishgwl ar u watches, nenwetig y rhai odd a watches our da nhw. Fe ddylsa’r Pwyllgor fod weti trenfu awr ne racor ar ddachra’r Gynhatladd i drafod. y Inatar, a bod yn barod a rhwpath i'r Cynrychiolwr i fynd sha thre i’w Gymdithasa. Beth geson nhw i fynd sha thre? Cartridge a sgwib shells gweigon! Allwch chi fentro beth w i’n weid wrthoch chi, os ta ffrits o gwestiyna sydd i gal u trafod ffrit o Undeb fydd da ni. Wrth drafod materion mowr ma’r Undeb yn mynd i dyfu'n rholyn. Otych chi’n meddwl fod dynon mowr y genedl yn mynd i wasto arian a amsar i weld fireworks ”cinog a dima? Otych chi’n meddwl mod i, Dr. Kenvyn, ac erill o’r un seis a ni, yn mynd sha Shir Bemro i fratu hannar awr i ddatla pun a “mai” ne “taw” sydd i fod miwn penderfyniad, gaiff i dowlu i

 

 

None
(delwedd B0629b) (5 Mehefin 1919)

 
fasged rhwun ne gilydd, a pun a’i pump ne whech sydd i fod o bob Atran ar y Cyngor? Os nad os gan yr Undeb rwpath mwy i’w drafod, wath iddo fa i gau i gilleth. Fe ddylsa’r Cyngor fod a rhw gynllun yn barod i’w gyflwyno i’r Gynhatladd, i gyfarwyddo’r Cymdeithasa shwd, ac ymheth i gyd-weithretu a’r Awdurdodau Lleol. A dyna’r Home Riwl Bill dynnws Mr. E. T. John, a rhai erill odd yn i helpu e, fe ddyle gair fynd o’r Undeb i’r holi Gymdithasa i wasgu arnyn nhw i gisho cal Mr. John i’w hardalodd i sponio’r Bill, a dangos gymint o’i ishe fe sy a’r Gymru, Run ni’n mynd yn genedl o gwiblars yn fast, ac yn mynd sha cholladicath bywyd cenedlithol dan gwiblain. Gobitho na ddiciff y Cyngor ddim wrtho i am sgyrfennu modd hyn. Ma ishe nrwstro yn lle whara plant a spowtan ffroth o Undeb i Undeb. Ma’r llanw Sisneg yn cwnwi’n [= cwnni'n] uwch ar bordars Shirodd Morgannwg a Mynwe o hyd, a ninna’u fidlan. Weti i’r Gynhatladd gwpla fe’u gwahoddwd ni gyd, odd weti dod o bishin o ffordd, i’r Festri i enjoyo te Croeso Cymry Cymrag Abertridwr, a fe gawd “blowout” biwr. Rodd pob un ar i ora yn neud y dynon diarth yn gartrefol. Fe fues i just a chinnig fod yr Undeb i fynd i Abertridwr y flwyddyn nesa yto. Dyna enjoyment geso i wrth y bwrdd te wrth watcho shwd odd erill yn enjoyo’u hunan. Wrth y fwrd ar ymhwys i yr odd Megfam, Mrs. Dr. Abel Jones, Meiriona a Mr. Pryce Evans, B.A., yn whilia drwyddi draw, a Meiriona yn holi Mr. Evans os odd y Tramp yn yr Undeb, ac os yn bosibl cal introducshion iddo fa; a rodd Mair Taliesin a’i hotograff album yn holi ac yn whilo am dano fa iddo fa i dorri i enw yn i halbum hi. Fe gatws Mr. Pryce Evans Megfam a Meiriona i whilia nes i’r te gwpla, cyn iddyn nhw gai hannar dicon, a dyna odd i amcan e. Ychydig feddylia Megfam, Meiriona a Mrs Abel Jones mod i’n ishte ar u pwys nhw, ac yn clwed y cwbwl wetson nhw. Mrs. Abel Jones, fe fydd y Tramp yn falch iawn o’r ffroc cot sy dach chi. Fe welas y pregethwrs E.G. Davies, Ifan Thomas, Tom Jones, J.R. Evans, Llwchwr, W.I. Jones, Dewi Fychan, a lot erill own i’n nabod, ond cheso i ddim shiawns i wilia hsha [= sha] nhw. Arhoses i ddim i’r cwrdd nos blecid odd y mynydd o mlan i i fynd sha Llanfapon. Os byw a iach fe af sha Shir Bemro’r flwyddyn nesa.

       

HOL-NOTIAD. W i weti cal comiwniceshion odd wrth swanc o Lunden, fe gaiff yn sylw i, falla’r wsnoth nesa.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B2049a) (12 Mehefin 1919)

Y Darian. 12 Mehefin 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, - Fe dderbynes henglyn i'r Cadger o Lunden - o Lunden, mindwch chi, nid o Berdar. Wyddwn i ddim fod neb yn Llunden, blaw Elfed a John Bull yn gallu nuthur henglynion. Ond henglyn Sisneg odd a, un shwt, a dos dim o'r un shein ar un Sisneg ag sy ar yr un Cymrag. A blaw i fod a'n Sisneg rodd a’n rhw ddweddar yn dod miwn, blecid rodd bachan arall ishws a chynt weti cal yn llun i. Trenu, J.W., hed, na fysech chi weti hala fa miwn pryd, blecid wyddoch chi ddim beth allsa ddicwdd. Pan own i yn Eton School, un top lein yn yn copi bwcs ni odd, "Procrastination is the thief of time." Dysgwch chi’r geire, J.W., fe nan les ichi, er ta Sisneg i'n nhw. Dyma fe:

 

Cudgel the DARIAN — cadger, — yes, you kill

The skime, ’tis no murder;

Or, by Jim, tell him or her –

"Now pop to buy the paper.” - J. W.

 

W i'n lico'r ddwy lein fleina'n fudir. Ma na rwpath tarawiatol yndyn nhw. Ma'r ddwy ola yn sofftach o dicyn. Ych chi'n gweld, J.W., mod i wedi altro ticyn arno fa. Dodd a ddim cweit yn reit yn beth ma Ab Hefin, a Brynfab o'i flan a, yn alw yn gyrch, a rodd y lein ola dicyn yn glwc, hed. Un peevish yw Ab Hefin os gweliff a rwpath mas o le acha henglyn, er mindwch chi dos dag e ddim i nuthur a'n llithia i. I'r golycydd w i'n risponsibl. Ond ta beth i chi, fe ddihunws ych p. card chi shaw o hen gofion odd yn slwmran yn y part hwnnw o hono i ma Dr. Kenvyn yn alw yn subconscious. Fe fuo i yn Llunden unwaith w, ond ma blynydda odd ar hynny, hed, a fe weta wrthoch chi shwd etho i lan shag yno. Rown i a Dai Bifan, yn ddou slipyn ifanc, yn gwitho ar shar yn Lefel Twm Shon Shams, a fe gwplws yn talcan ni. A mynta'r gaffar wrthon ni un dwarnod, "Fechgyn, ma'n ddrwg da fi nad os da fi ddim lle i'ch doti chi am dair wsnoth, ne fish. Cerwch am dro sha Llunden, boys, i weld yr Ecsibishion, blecid ma da chi ddicon o docins, wath ych chi weti ennill arian mowr ma, a dych chi ddim weti hala nhw ar oferadd, isht a lot o'r ffylied sy'n gwitho ma, yn slafo'n galad i ennill ticyn, a u rhoi nhw wetny i'r tafarnwrs. Cerwch lan sha Llunden, boys, a phan ddowch chi nol fe fydd talcan yn ych dishgwl chi. Mynta Dai nol wrtho fa, "Dyna am beth on ni'n whilia wrth gal whiff fach, just nawr. Run ni'n dou weti pendrafynu mynd sha Llunden ar ol i ni gwpia'r talcan ma, a falla rhoswn ni yno i starto ne byrnu gwaith llath, blecid ma lot o foys shaw twpach na ni'n dou weti nuthur ffortiwn miwn gwaith llath yn Llunden. Ac os rhoswn ni yno, dim rhacor o ripo top, torri pwcins, a sefyll cogs, i'r ddou fachan hyn. Fel Dic Whittington, run i'n mynd sha Llunden i weld y byd, ac i

 

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with low confidence
(del
wedd B2049b) (12 Mehefin 1919)

 

whilo am ffortiwn, ond sdim o ni 'n mynd a hen gwrcyn da ni isht ag ath Dic, a sdim o ni'n mynd i gered yno, hed."

 

"Alright, boys. Ac os newitwch chi'ch meddwl dowch nol, a fe gewch waith da fi. Otych chi weti cal hanas lodgin?"

 

"Otyn, siwr, ma Perkins y plisman, weti gweid ble cawn ni lodgin teidi gita witw rispectabl yn 14 Park Lane, W. Ma fe weti bod yn blisman yn Llunden, fel ych chi'n gwpod."

 

Fe gyrhaeddon Paddington yn gynnar, a fe gymron gab o'r steshion i Park Lane. Hewl steilish yn rhytag lawr da ochor Hyde Park, a tai mowr crand yw Park Lane.

 

"Dishgwl yma, Dai," myntwn i wrth y mhatnar, "ma Perkins ne'r cabby weti nuthur camsynad, allwn ni ddim ffordo lodgo man hyn, ta faint o docins sy da ni, blecid ma lodgins yn siwr o fod yn brid miwn shwd hewl grand, a ma dowt da fi a otyn nhw'n cymryd lodgers o gwbwl. W i'n folon rhoi dou swllt ne hannar coron y nos am le teidi, ond dim rhacor, myn brain i.”

 

"Gad i ni drio, ta beth," mynta Dai, a dyma fa at y drws i ganu'r gloch, a miwn bothtu wincad dyma'r dyn smarta welas i ariod yn apad - cot a chwt, britchis pen lin, sana silc, a gwallt gwyn, er taw chap gweddol o ifanc odd a. "Iss the missus in?"

 

“The missus? What d'you mean, my man?”

 

"Wel, the missus of this house, off cours! Me and my butty, what is standing on the pavin by there, have come to the Ecsibishion, and we do want neis lodgin. Mr. Perkins, the plisman, did give us this adres."

 

"D'you know that this is the town house of the Dowager Countess of Marmalade? Someone has been pullin your leg. Be off to Sefn Dials, you'll get lodgin there."

 

Fe nath Perkins ffylied o honom ni, ond fe geson ni fyw i neud ffwl o hono ynte. Fe geson lodgin teidi yn Bloomsbury. Ar ol gweld yr Ecsibishion i gyd a'r pethach erill sy i weld yn Llunden, fe ethon i ddishgwl am le i starto gwaith llath. Weti dishgwl lot o bothtu yn bob part o Lunden, fe ffindon mas nad odd hi mor hawdd neud ffortiwn ag odd hi slawar dydd, achos fod y water-rate weti cwnnu mor ofnatw yn y blynydda dwedda, a hed, rodd yr Hinspectors yn watcho, fel cath yn watcho lIygotan; ac os na bydden nhw yn cal “decwm cil dwrn" handswm bob mish, ron nhw'n clecan. Ond y peth gwitha odd da Dai a finna yn erbyn y gwaith llath odd i m ffili dysgu gwiddi "Milk-O"!

 

Un dy Satwn fe ethon sha Amstead Eath 1 ddysgu gwiddi, achos bod hi'n dawal no, a fe fuon yn gwiddi drw'r dydd, ond pan on ni'n cal whiff, nes on ni weti crycu — a dyna ffor cracws yn llaish i. Y nos Sul wetny fe ath Dai a finna sha Capal Jewin, i ni gal bod yn acos at Ffair Jewin - rhw fath o gwrdd undeb yr enwata odd yn cal i gatw bob nos Sul ar ol y cwrdd whech, ond odd pyrgethwrs a blaenoried ddim yn mynd iddo fa. Ma'r cwrdd weti marw nawr, wy'n diall, a' dyna'r peth gora nath a. Wel, ta beth, fe gwmpws Dai i gysgu yn y cwrdd — un drwg am gysgu yn y cwrdd odd a ariod. A phan odd y pyrgethwr yng nghenol i hwyl, dyma Dai yn gwiddi mas ar dop i laish, "Milk-O!" nes odd y capal yn cyrnu! Chwnnws Dai ddim o'i ben nes i'r cwrdd gwplo, a rows a ddim yn y clasgad, a fe ballws aros i'r ffair. Ar yn ffordd sha'n lodgin o'r capal, mynta Dai, "W i'n mynd sha thre fory, blecid w i weti gwiddi 'Milk-O' am y tro dwetha."

 

Dyna'n fyr hanas Dai a fi yn Llunden. Ond falla y dwa i lan yto'r haf ma, ond ddaw Dai ddim. Ma Dai yn managar gwaith glo mowr nawr, a rw mna yn

 

TRAMP, O.B.E.

 

 

None
(delwedd 5665) (26 Mehefin 1919)

Y Darian. 26 Mehefin 1919.

Llith y Tramp.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dy Gwener cyn y Sulgwyn fe dderbynes lythyr o Landrindod, odd wrth wr bynheddig sydd yno ar i holide, yn gofyn i fi fynd lan shag yno am bythewnos, a’i fod a weti spêco rwm i fi yn y Pymp Hows, yr hotel fwya swanci yn y lle mwya swanci yng Nghymru, a fe halws John Bradbury i dalu’r train shag yno. Fe halws y llythyr fi i stwmp, blecid down i ddim weti breddwyto am shwd beth. Ma’n wir i fi neud tro bach caretig ag e pan odd hi’n galad arno fa yn mish Eprill dwetha, a dodd neb arall allsa i nuthur e ond y fi, ond own i’n dishgwl dim am hynny, blecid “dygwch feicha’ch giddil” mynta’r Apostol. Rodd yr hen ddynon slawar dydd yn arfar gweid fod nuthur daioni yn talu, a ma fa, hed, blecid dyna shwd y detho i yma. Bora dy Satwn rown i’n ffarwelo a Llanfapon, lle y ceso i groeso calon. Rodd Mrs. Niclas yn llefan yn dost wrth weid gwd bei, a weti i fi fynd mas o’r golwg fe ddalas inna mhunan yn sniffan, a rodd lwmpyn mowr weti cwnnu yn llwnc Dafydd Niclas, a fe ffilws weid dim - a ma fa shwd glebryn hed - fe ffilws weid “newch hast yma yto,” isht a ma fa’n weid wrth y mama pan ma nhw yn mynd ato fe i registro’u plant. Bendith arnyn nhw u dou, weta i. Fe dderbynas infiteshion y gwr bynheddig caretig am fagad o resyma, ond yn benna, cal cyfla i fod yng Nghynatladd fowr yr Hôm Riwl i Gymru. Rodd gita fi resyma erill, a falla cewch chi nhw cyn y dwa i odd ma. Yr own i yng Nghynatladd Caerdydd alwd i setlo cal Sgyrfennydd i Gymru, a rodd yn dda da fi i’r Cyng. Jordan o Barcyderi, ac erill, i droi’r bordydd ar fatar y Sgyrfennydd yn y Gynhatladd honno, blecid own i’n timlo fod ishe mwy o drafotath nag ellid roi miwn un cwrdd, a fe licas y syniad o gal Cynhatladd fowr o gynrychiolwrs o bob Pyblic Bodi i drafod y matar yn i holl agwedda. Ond wyddoch chi, syr, rown i’n dowto Llandrindod fel lle i gynnal y Gynhatladd, blecid lle i drulo holide, h.y., lle i ifed Saline a Sulphur, i whara pela a golff, i smoco a nuthur dim byd, yw Llandrindod. Slawar dydd, pan own i’n gallu ffordo, fe fues yn tynnu sha’r Confenshions yno, a dyna fel own i’n timlo bob amsar yndyn nhw, fod y pethach mowr ysbrydol yn dimando mwy o sylw na ma dyn yn allu roi pan ma fa ar holide. A gweid y gwir wrthoch chi rown i’n onfi na chela’r matar mowr o Hôm Riwl i Gymru ddim o’r sylw a’r drafotath ddyla fa gal gita dynion ar holide, ond whara teg iddyn nhw fe nethon yn lled dda, nenwetig rhai o honyn nhw. Rodd yno gwplach on Haelota Seneddol ni weti dod i’r Gynhatledd, i gal gweld shwd odd y gwynt yn whwthu, ma’n depig. Miwn cwrdd mor bwysig fe ddishgwlech iddyn nhw i fod yno bob jac, ond on nhw ddim. Os blynydda, nawr, ma hirath dwfwn yng nghalon yn cenedl ni am gal trenfu i thy i hunan, yn lle bod John Bwl a’i fys ymhob peth sy’n blongad i ni, ond ma na rw ymraniada i a thimlada drwg-dypus, yn stopo’r genedl i fod yn unol yn i chaish, a blaw hynny ma selfishness rhai dynon uchelgeishol sy’n cisho troi popeth i’w montish u hunen, yn rhwstro’r genedl i gal beth ma hi’n moin. Whara teg i ni sdim o ni byth yn ffraeo sha’n cymdocon, ond fe fraewn [= ffraewn] sha’n giddil o fora tan nos; ond ma rhw obath nawr y gwelir y gwahanol

 

 

None
(delwedd 5666) (26 Mehefin 1919)

bartïon yn marcho da’i giddil sha Gwlad Canaan Hôm Riwl. Pan gwplws y Gynhatladd fe dimlwn yn bod ni’n gwpod ble y safwn ni, a beth yw’n hisha ni. Or blan wyddan ni ddim beth on ni isha, blecid odd un yn gwiddi am y peth hyn, ar llall yn llefan am y peth arall. Un arwdd dda odd fod pob Pyblic Bodi, a phob plaid wleidyddol, yn cal i riprisento yn y Gynhatladd; ond alla i ddim gweid, hed, u bod nhw’n “gytun yn yr un lle,” heb neb yn tynnu’n gros, blecid own i’n gallu gweid fod y naill blaid yn watcho’r nall, yr whole-hoggers yn catw llycad ar blaid y Sgyrfennydd i Gymru; a feisi-fersa, a fe wetws Harglwydd Faer Cardydd wrth Towyn am geuad i ben. Meddylwch o brysur nawr gweid wrth Towyn o bawb am geuad i ben! Ma Towyn miwn cynhatladd isht a ci hela ar ol canddo, gita i ben ar acor, a’i dafod mas, blecid dyna shwt ma fa’n anatlu ac yn sento'i sglyfath.

Fe rows yr areithwrs olwg gysurus i fi ar Hôm Riwl yn i pherthynas a gwahanol agwedda’n bywyd cenedlithol, wrth weid u barn ar beth ddyle Cymru ofyn am dano. Rown i mhunan yn timlo ma Llewelyn Williams odd top y tepot. Ma’n drenu i fod a mas o’r Parlament. Gobitho w i y gofyniff etholwrs y Swansea East iddo fa i ddod i lanw’r set honno sy weti mynd yn wag drwy farwoleth Mr. T. J. Williams, ac y dishgwla fe a Mr. E. T. John ar fod yr Hôm Riwl gawn ni yn siwto Cymru. A fe licwn weld y Gynhatladd, ne’r Pwllgor Gweithol, yn cwnnu ati i stwmpo’r wlad o Gardydd i Gargybi, i syporto’r caish am Sgyrfennydd a Hôm Riwl, mor gynted ag y gellir, gan fod y Gynhatladd weti gallu cyd-weld ar beth sy isha ar Gymru.

Weta i ddim rhacor nawr blecid ma’n rhaid i fynd i wishgo ar gyfar cino. Ble ceso i yn dres siwt? Fe weta wrthoch chi. Mor gynted ag y clyws Brynfab mod i’n mynd sha Llandrindod, ac yn mynd i lodgo i’r Pymp Hows Hotel, fe rows fencyd i un e fi yn y funad, ond fe wetws wrtho i am findo pido i seimi hi. Falla sgyrfenna i dicyn o hanas Cynhatladd yr Eglwyswrs yr wsnoth nesa, os bydda i byw ac iach, a fe ddylwn fod a finna’n lodgo yn Llandrindod. TRAMP, O.B.E.

HOL-NOTIAD: “Skunk” ac nid “skime” ddyle fod y gair yn henglyn W. i’r “Cadger.”

....

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6552a) (03 Gorffennaf 1919)

Y Darian. 3 Gorffennaf 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Fe ddylwn weid wrthoch chi yn y llith ddwetha i'r Llandrindod District Cownsil, drwy'r cadirydd, wrth roi croeso i Gynhatledd yr Hôm Riwl, gynnig pishyn o dir i fildo Hows of Comons Cymrag. Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid i ni gwnnu un yn rhwle. Otych chi yn gweld drw'r peth? Neud Pentre'r Dwr yn brif ddinas Cymru! Beth weta Dowlish, Aberystwth, Cardydd, Bertawa, Carnarfon, a'r Tumble, am y City of Saline yn cisho dwcid y ddinasfraint odd arnyn nhw? Ond fe ddotas i sprag yn u whil nhw, blecid weti'r cwrdd gwpla, fe etho at y gwr bynheddig a fe wetas wrtho fe taw yn Treorci ma'r Hows of Comons Cymrag i fod, wetny fydd dim isha i lefydd erill i gwmpo mas a ffreuo sha'i giddil. Pan oedd y Prins of Wels yn y Rhondda pw ddydd, fe a'th lan sha Treorci i ddishgwl am le i fildo Hows of Parlament, a fe fficsws acha pishyn, ond fod tip mowr arno fa nawr. Ma'r Pyblic Bodi mwya go ahed yn y byd, y Rhondda U.D.C. weti addo i'r Prins i shiffto'r tip lan sha Clytach Vale i neud allotments, a ma diaconied Noddfa, Treorci, yn folon rhoi mencyd y Festri am ddim i'r Parlament Cymrag i galw'i gyrdda nes y daw'r Hows of Comons newydd yn barod, dim ond iddyn nhw dalu am y gas, ac am i scrwbo hi mas bob wsnoth. Fel'na ma pethach yn sefyll nawr. Fe fydd da'r Parlament Cymrag lot o waith i neud, a miwn lIe ble ma gwaith yn cal i neud y dyla fa fod. Treorci yw hwnnw. Llandrindod, yn wir i! Glwsoch chi am rwun yn mynd sha Llandrindod i witho? I gal i witho ma pob un yn mynd shag yno. Dyw'r Prins a finna ddim weti pendrafynu yto p'un a fynnwn ni Hows of Lords i Gymru ar ol i ni gal Hôm RiwI. Y ffact am deni yw nad os da ni ddim llawar o stoc i starto Hows of Lords Cymrag, blecid dos gita ni ond y peth nesa i ddim o rial aristocrasi — dynon dwad yw aristocrats Cymru just i gyd. Er fod yna ugeine o filodd o bobol yn byw yn y Rhondda, yto dw i ddim yn meddwl fod yno un aristrocat o wad coch cyfa yn y lot i gyd, a w i'n onfi na fydda Hows of Lords ddim yn llwyddiant mowr yn Treorci. Ond os daw'r Prins i fyw i'r Rhondda, fel ma fa'n bwriatu, blecid fe fuws yn dishgwl am waith yn Pwll y Cymer, da Mr. Griffiths, a ma fa weti cal jobyn yn gaffar haliers nos, falla gallwn ni starto Hows of Lords yn Treorci. Gwetwch bod ni'n starto acha scêl fach, da diaconied y capeli, miners' ledars, a gaffars y gwaith, ma defnyddia lords yn lot o nhw!

 

O Gynhatladd Hôm Riwl fe etho i Gynhatladd yr Eclws, a fe enjoyes ymhunan yn biwr, a fe ddysgas rai pethach yno. Rodd shwd drefan acha popath, a'r Cadirydd yn fishtir ar i waith. Fe etho i stwmp i weld shwd lot o leygwrs yno, h.y., dynon heb fod yn ffeiradon, a arwdd dda odd i gweld nhw'n cymryd rhan mor flinllaw yn y Gynhatledd. Er fod popath

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6552b) (03 Gorffennaf 1919)

 

yn mynd ymlan yn smwdd, yto, mindwch, dodd pawb ddim o'r un feddwl acha popath, nenwetig o bothtu'r "fixity of tenure," ond yr odd y timlata gora rhynt y pleidia. Wrth fynd hibo, fe licwn i roi gair o gyngor i'r ffeiradon - trystwch y lleygwrs. Ma'r Eclws yn dechra pennod newydd yn hanas, a'r bennod ora o ddicon, hed. Wrth drampan o bothtu'r wlad w i'n gweld shaw, ac yn clwad ticynnach, ac w i weti dod i napod lleygwrs yr Eclws, a'r enwata erill, yn lled dda, tryswch nhw, ma nhw yn ffrindia i chi. Rhowch bob cefnocath iddyn nhw, nawr ar y start, wath allwch chi ddim mynd ymlan hebddyn nhw, blecid ma nhw yn diall busnes gityn yn well na chi, a fe ddylan fod. Rhodd rhai yn y Gynhatladd dicyn yn onfus, os na chelen nhw les i bywyd ar y lifin, na allen nhw ddim gweid y gwir i gyd wrth y bobol; a fe wetodd un fod pyrgethwrs yr enwata erill yn ffili gweid y gwir i gyd achos i bod nhw'n dependo ar y bobol. Dw i ddim yn byrgethwr ymhunan, ond w i'n nabod y Big Four yn lled dda, a sdim o fi'n napod un pyrgethwr, gwerth i halen, gita'r un o honyn nhw, sy weti ffili, a w i weti bod yn whilia sha lot, o byrgethwrs pob un o'r petwar enwad, a ma nhwnta yn gweid yr un peth. Os bydd y pyrgethwr yn bihafio, ac yn byw, cretu, a phyrgethu y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, fe gaiff bob whara teg i byrgethu holl gyngor Duw. Ond os yw e yn troi'r pwlpid yn "coward's castle" i belto'r bobol, fe gaiff stop gap, a fe ddyla gal. Trystwch y lleygwrs, a trystwch y Mishtir Mowr, a fe gaiff yr Eclws Esgobol Gymrag fendith ore'r Nef. Fe licwn i petai yr Archddecon Griffiths a Llawdden yn fyw nawr. Ymhellach ymlan falla gweta i pwy fydd Archesgob cynta yr Eclws Gymrag, a hed, pwy fydd Prif Wnitog Cymru, a falla af fi mor bell a rhoi enwa'r Gyfarment Gymrag gynta, ond dishtawrwdd nawr. Y tro nesa w i'n bwriatu rhoi hanas fy nhramp i'r Barri i Wyl Cyhoeddi'r Steddfod. Ma'n ddrwg da fi fod yn amsar i adal Llandrindod jyst a dod i ben. Ma da fi un cysur mawr wrth feddwl am madal odd ma, fydd dim un bill ar y mhlat brecwast i bore'r ymadawiad. TRAMP, O.B.E.

 

 

None
(delwedd J6553b) (10 Gorffennaf 1919)

y fanar yn rhu fach i'r proseshion, ne fod y proseshion yn rhu fowr i'r fanar. Fe fynne Dafydd Niclas bledo sha Brynfab a finna taw Arthen odd weti cymryd mencyd un o antimacassars Mrs. Evans o'r parlwr am y dwarnod, ond dodd Brynfab na finna ddim yn i gretu a. Rodd hi'n fanar fach bert iawn, ond i bod hi'n rhu fach i'r proseshion. Y peth gwnnws y nghalon i yn fwy na dim odd gweld shwd sopyn o brytyddion. Fe etho i stwmp, blecid wyddwn i ddim fod gita ni shwd lot. Wyddwn i ddim fod rhacor o brytyddion na'r rhai sy'n I byw ar Eulwd y Beirdd gita Ab Hefin, a boys ffamws yw nhw hed. Fe shioncas yn fidur pan welas i shwd griw o honyn nhw. A myntwn i wrth Brynfab, wrth ddishgwl arnyn nhw: "Ma Cymru fach yn olreit tra bydd hi'n gallu cwnnu prytyddion isht a rhain. A rych chi, Brynfab, weti neud mwy o wasanath i'ch gwlad drwy fagu prytyddion iddi, na ma Lloyd George weti neud drosti yn y Parlament, pob parch iddo fe. A ma'r gwaith mowr nethoch chi am 40 mlynedd drw'r DARIAN yn cal i gario mlan yn dilwng da Ab Hefin." Ma'n Halota Seneddol ni'n meddwl taw nhw sy'n dala Cymru wrth i giddil. Druan o honyn nhw! Allan nhw ddim catw'u hunen wrth i giddil, heb son am gatw Cymru. Fe ath Cymru mlan am gannodd o flynydda, cyn bod gita ni Alota Seneddol. Pwy sy weti catw'r tan Cymrag i losgi ynghalon y genedl? Y prytyddion, a neb arall. A dewch i ni o hyn i mas dalu mwy o sylw i'n prytyddion, a llai i'n Halota Seneddol. Tra bydd gita ni brytyddion, isht a sy gita ni nawr awn ni ddim dros y rails. Ond cofiwch chi, dodd pawb yn y proseshion ddim yn brytyddion. Rodd yno sha 50 o blismyn, a dos dim barddonieth i fi miwn plisman; a rodd y District Cownsilors yno yn u silk hats, ac i fi dos dim barddonieth miwn Cownsilor, na silk het, er fod "ei thegwch yn werth wheigen" — pre-war price. Wel, dyna'r proseshion i chi, a rodd a'n broseshion gwerth i weld. A ma clod mawr yn ddyletus i Arthen am drenfu a mor dda. Dodd dim un hitch o'r dechra i'r diwadd. Fe gwplws y proseshion wrth yr Orsedd, a fe gwpla inna yn yr un fan, a fe rof hanas yr Orsedd yr wsnoth nesa.

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Notiad. - Rodd yn dda da fi weld fod Dafydd y Crydd weti cal i ddimobiliso. Yr own i weti clwed i fod e yn Germani yn tapo scitsha i'r Armi of Ociwpeshion. Ma'n dda da fi i I fod a weti dod sha thre. Stic to the last now, Dafydd.

 

 

A picture containing letter

Description automatically generated
(delwedd 6535a) (17 Gorffennaf 1919)

Y Darian. 17 Gorffennaf 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd,  — Fe gwplws proseshion cyhoeddi'r Steddfod yn y Parc, wrth yr Orsedd. A dyna'r lIe reit i bob proseshion i gwpla-wrth yr Orsedd. Mynta Brynfab wrth Dafydd Niclas a finna, "Dewch chi'ch dou miwn yma gita fi." A miwn a ni'n tri i ring fowr rownd, isht a ring circus. Y peth am synnws i yn od odd fod pawb y tu fiwn a tu fas i'r ring, yn nabod Brynfab, ac yn bowo iddo fa. Ma'n wir fod amball i fam odd weti bod yn byw ym mhlwy Eclwsilan yn nabod D.N. fel Registrar, ac amball i Gownsilor ddodwyd miwn ar rw Gownsil ne giddil, heb yn anghofio inna, ond rodd pawb yn nabod Brynfab, a phwy ryfadd ag ynta weti bod yn magu prytyddion am 40 mlynadd. Ma gita fa fwy o ddileit i fagu prytyddion nag sy gitag a i fagu lloi a ebolion. Pu'n sy'n talu ora iddo fa, wys?

 

Dyma fi weti mynd i grwydro odd wrth y matar odd da fi dan sylw, ond dyna, Tramp w i. Tu miwn i'r ring rownd fowr rodd diddag o gerrig hir weti u dodi ar eu penna yn y ddiar, a gwr ne was, ne ferch ne wraig, yn sefyll wrth bob un o honyn nhw. Fe ofynas i D.N. i sponio'r ring rownd a'r cerrig i fi, a mynta fa, "Fe fydd circus yn dechra mas law. Fe fydd dyn yn canu corn, a fe gewch weld y dynon ar gwracadd na sy miwn gwishgodd od - clowns ma nhw yn u galw nw — yn neido i ben y cerrig uchel yco, ac yn downso 'jig y gannwll,' ar dyn teneu yco - Eifionydd ma nhw yn i alw a — yn canu'r accompaniment ar y big drum. Wetny fe neir y clasgad i chi shag at gal siwt newydd."

 

"Ffarnws," myntwn inna, "a gwetwch wrthyn nhw taw 'silver collection' yw a i fod. Ond beth ma'r diddeg carreg hir yco yn olycu?"

 

"Bachan, w, sdim o chi'n gwpod? Fe ddylach chi fod weti whilo miwn i bethach cyn dod yma, blecid ma dyn yn dwp iawn os na fydd a'n gwpod beth yw pethach. Fe weta wrthoch chi. Ma nhw'n cynrychioli deg llwyth Isrel. Gannodd a milodd o flynydda'n ol fe ath deg o Iwythi Isrel ar goll yn sytyn iawn — dim ond diddeg odd ar y start - a chlywd dim siw na miw am danyn nhw, a wydda neb i ble yr ethon nhw. Fe adfertishwd, a fe halwd i bob polis steshion ymhob gwlad, ond no gwd. Flynydda'n ol fe startwd Cymdithas i neud ail gaish i'w ffindo nhw. A fe Iwyddws. A ble ych chi'n meddwl y ffindws hi nhw? Yng Nghymru. Ni'r Cymry yw'r deg llwyth ath ar goll! A dyna ma'r cerrig yco'n olycu."

 

Ma pawb yn gwpod fod D. N. yn getyn o Sgrythyrgi. Myntwn i wrtho fa wetny, "Y deg llwyth yw'r Cymry, ond ma na ddiddeg carrag yn y ring rownd.

 

"Os siwr," mynta fa, "a ma'r ddwy garrag arall yn cynyrchioli y Jews sy'n catw ponshops, gwerthu pictwrs, etc., yng Nghymru."

 

 

Scatter chart

Description automatically generated
(delwedd 6535b) (17 Gorffennaf 1919)

"Jew, Jew, dyna sponiad! mynta Brynfab.

 

"Nage, nage, Mr. Nicolas," blecid yr odd Dr. Herbert Kenvyn weti dod aton ni erbyn hyn. "Y mae'ch hesboniad yn anghywir. Cynrychiola'r deuddeg carreg ddeuddeg arwydd y Sidydd. (Twelve signs of the Zodiac). Yr oedd yr hen Gymry gwiwgof yn gryn seryddwyr, ac ystyr seryddol sydd i'r cerrig hyn. A dyma yw barn ystyrbwyll Morien a Toriel hefyd."

 

"Nonsens!" mynta Brynfab, gan ddishgwl yn gas ar D.N. a'r Dr., a chwnnu i laish. "Otych chi weti colli'ch sensis, boys?" A mynta fa wrth Kenvyn, "Rych chi, chaps y coleca a'r digris, yn meddwl ma gita chi y ma dothineb a gwbodath yn byw, ac ma gita chi y byddan nhw farw. Ych chi'n crampo'r Steddfod a phopath i'ch dwylo'ch hunen, ac yn scwto'ch ffiloreg ar bobol. Cofiwch chi taw'r werin bia'r Steddfod, ac os na chatwch chi'ch lLe, fe gewch chi fynd. Fe all y Steddfod neud y tro hebddoch chi yn well nag y gellwch chi neud heb y Steddfod. Pidwch chi a gadal i fi weid yn gas wrthoch chi yto. A phidwch chi, y Tramp, a grondo arnyn nhw, ne fe ewch yn ddwlach nag ych chi'n awr. Dyma yw ystyr y diddeg carreg -cynrychioli diddeg sir Cymru - Cymru gyfan yn yr Orsedd. Otych chi'n diall nawr?"

 

"Thanciw, Brynfab, ond w i 'ddim yn diall yto. Diddeg carreg sydd yma, a ma petar sir ar ddeg yng Nghymru. A shwd ma Cymru gyfan yn yr Orsedd a dwy sir mas?"

 

"Petar sir ar ddeg yng Nghymru!! Ble buoch chi'n dysgu Giograffi, licwn i wpod? Y n yr Iwniversiti, spo. Diddeg sir sydd yng Nghymru. Whech yn y North, a whech yn y Sowth. 6 a 6 — 12, onte fa, Dafydd Niclas?"

D.N. "Wel, ia, be siwr."

 

Y Tramp: "la, whech sir sy yn y North, w i'n gwpod, blecid fe halas at Casnodyn i ofyn, a fe wetws i bod hi'n bwrw glaw, ne yn oer yndyn nhw rownd abowt. A ma whech yn ddicon i'r North, hed, ond ma gita ni wyth yn y Sowth ac os ych chi'n ama, cowntwch nhw."

 

"Na, cowntwch chi, nhw, blecid w i'n gweld ych bod chi'n scolar."

 

"Reit i'w ar—Sir Berteifi, i Sir Bemro, 2; Sir Garfyrddin, 3; Sir Fasyfed, 4; Sir Forgannwg, 5; Sir Frychinog, 6; Sir Fynwa, 7; Sirhowi, 8."

 

"Wel, clywch y dyn, chi sy'n reit! Ma'n rhaid i fi gyfadda nad own i ariod weti u cownto nhw, mwy nag w i weti cownto'r bwtwna sy ar yn wasgod i, ne ddannadd y grib sy da fi'n cribo ngwallt. Fe fydda i'n fwy gofalus o hyn i mas, a w i'n began ych pardwn chi o wilod y nghalon; a fe fydda i'n cwnnu'r matar yng Nghwrdd y Beirdd nesa, a fe ro notis o motion i Eifionydd heddi. Ma'n dda gita fi fod gita ni ddwy sir yn fwy nag sydd yn y North. Tawn i heb gwrdd a chi yma heddi fyswn i ddim yn gwpod. Os dowch chi sha Chorwen fe ddwa i a'ch ces chi am ffugenw o flan y Beirdd — a grondwch, cofiwch fod shêc down i chi yn yr Hendre, pryd y licwch chi, a dim ar y lein dillad, hed, isht a gesoch chi da Celyn yn Carffili slawar dydd, a fe gewch 'am an eggs' i frecwast bob dydd. Cofiwch chi ddod. Gwd bei nawr. Ma'r Archdderwydd n galw arno i i annarch yr Orsedd.

 

Y TRAMP, O.B.E.

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated
(delwedd J6534a) (24 Gorffennaf 1919)

Y Darian. 24 Gorffennaf 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, - Fe ddala i na wetwch chi ddim acha tri chynnyg-ar-hucan i ble'r etho i o'r Barri, blecid braidd y galla i gretu mhunan mod i weti bod yno. Ond ma'r ffact yn ffaith, fe fuo i yno. Yn ble? Yn Undeb yr Indipendied yn Pontypridd! Fe wn i'n gwmws beth wetwch chi pan glywch chi, "Saul gita'r proffwydi." O'r gora. Fe fysa'n well i'r gwalch hwnnw ta fa weti aros gita'r proffwydi; a w inna weti pendrafynu cal mwy o'u cwmpni nhw o hyn i mas. Shwd etho i Undeb yr Indipendied a finna'n Wesla? Fe weta wrthoch chi. Rown i ar yn ffordd sha T-- ond, dyna, weta i ddim nawr i ble, blecid w i am ddishgyn i'r lle mor sytan a huddug i gawl Shir Bemro. Pan own i'n mynd i miwn i'r Bont pwy gwrddas i ond Mr. Tegryn Phillips, Hebron, Shir Bemro.

 

"Halo," myntwn i, "beth ych chi'n neud ffor hyn, otych chi yma ar ych hynimwn? A phwy odd y ledi welas i yn troi odd wrthoch chi cyn i chi ddod ymlan ata i; Mrs. Tegryn Phillips, sbo? Wel, llongyfarchiata, old boy. 'Tis never too late to mend.'

 

"Nage, wir," mynta ynta, "worst lyc, nid Mrs. Phillips, ond Mrs. Tywi Jones (Moelona) oedd y ledi. Ma Undeb yr Annibynwyr yn dechre'r prynhawn yma, a ma Moelona yn annerch y plant am 5,30. Ta ble ych chi'n mynd, torrwch ych shwrne a rhoswch i'r Undeb. Ma'r dynon piwr ble'r w i'n aros weti gweid wrtho i os lica i ddod a rhwun i gysgu da fi, fod pob croeso. Mafonwy oddi [sic; odd] i gysgu da fi, ond ma fe wedi mynd i Landrindod i weld beth wel e. Fe gewch gysgu da fi, ond i chi bido cico na dwgyd y dillad. Fe fynna i dicadon bwyd i chi. Dewch i glwed Moelona heno."

 

"Otych chi'n meddwl fod croeso i fi?"

 

"Wes, croeso, wes."

 

"Wel, shwd ma Moelona yn sharad yn yr Undeb a hitha weti prioti gwnitog Baptis?"

 

"Pam lai? Wrth brioti'r Parch. Tywi Jones, dodd hi ddim yn priodi enwad y Bedyddwyr, nac wrth briodi Gol. y DARIAN yn priodi pob hen lanc sy'n i derbyn hi."

 

Ac os ych chi yn y fan na fe etho i'r Undeb, a fe glywas Moelona yn annarch y plant yn gampus. Dos dim isha i fi fynd dros y program, blecid ma darllenwrs y DARIAN ishws weti cal yr hanas yn gyrno yr wsnoth dwetha. Fe licwn neud sylwata ar yr areithia, papura, a phregetha glwas i yno, ond do's dim amsar gita fi, na lle gita chitha.

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6534b) (24 Gorffennaf 1919)

 

Fe fuas yn Iwcus i gwrddid acha gwr bynheddig, actws yn "guide, philosopher, and friend" i fi gan y mod i'n ddiarth i'r Undeb. Fe ath Ffrwdwen a finna'n bartnars mawr y dwthwn hwnnw, blecid w i yn i enwi a heb na blan-ddod na ol-ddod. Dos dim isha "Parch. "Mr. na "Lewis," ond Ffrwdwen, a ma pawb yn gwpod pw sy gita chi. Y mae pob ychwanegiad at Ffrwdwen yn tynnu oddiwrtho.

 

"Nawr, Ffrwdwen," myntwn i, "w i'n gwpod beth yw Synod y Weslead, Confocashiwn yr Eclws, a Hendurieth y Methodus, ond beth yw Undeb yr Annibynwrs?"

 

"Wel, yco, nawr, be ma fe'n boddran i ben gyda chwestiwn fel hwn, ac ynta'n Wesla? Fe allwn siarad fel rhaeadr am hanner awr ar natur cyfansoddiad yr Undeb, ond beth fydda fe well, Wesle yw e, ac Undeb yr Annibynwyr yn Annibynol y bernir ef. Rhaid iddo fe ddod yn Annibynwr i ddeall Undeb yr Annibynwyr, a dw i ddim yn rhoi ngair y dealla fe yr Undeb wedyn. Ma yma gannodd lawer o gynrychiolwyr rheolaidd, ac ambell un afreolaidd, ond nid y nhw yw'r Undeb. Ma Cynhadledd a Chynghor, ond nid y nhw yw'r Undeb. Ma crosdynnu a jelosi yn y Gynhadledd a'r Cynghor, ond nid yw hwnnw yn effeithio dim ar undeb yr Undeb. Ma canfaso a wire-pulling, ond nid yw hynny yn tycio dim ar yr Undeb. Odi e'n deall yn awr?"

 

"Os mai sha fi ych chi'n whilia, ma'n rhaid i fi weid nag w i'n diall dim o be chi'n gisho weid."

 

"Wel, yco, gronded e yto te. Ma Undeb yr Annibynwyr yn beth cyfrin dychrynllyd. Ma fe fel ufelai yr awyr, do's neb yn i weld e, ond yma, pawb yn i deimlo. Ysbryd ac nid trefniant yw'r Undeb. Odi e'n deall, nawr?"

 

"Dim rhithyn myn hyfryd i."

 

"Wel, gronded yto te. 'Dos dim ishe lodgin ar yr Undeb, er fod rhai beirniaid yn gweyd ma yn Llandrindod ma fe'n byw, a 'dos dim ishe ticadon bwyd ar yr Undeb run shwt a chi a fi; odich chi'n diall nawr?"

 

"Diall, nagw. Ac os nag ych chi'n pyrgethu yn blaenach nag ych chi'n cisho sbonio'r Undeb i fi, sdim o fi'n gwpod shwd ma dynon yn ych diall chi. Ble ma'r Undeb, a beth yw a, dyna w i isha wpod."

 

“Wel, yn wir i, os nad yw e'n dwp, ma fe'n hwyrfrydig o galon! Ble ma'r Undeb? Beth yw'r Undeb? Ma rhai yn gweid mai yn carpet bag O.L. ma fe; a ma rhai o'r farn taw D.M.D. yw'r Undeb. Y cwbwl wed a i wrthoch chi yw 'bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun.'

 

"Thanciw fawr, Ffrwdwen, er nad w i darned callach o beth ych chi weti weid."

 

Dw i ddim weti gweid hanner y pethach sy yn y meddwl i geso i yn yr Undeb, enwa'r bobol gwrddas i yndo fa, na'r clecs geso i. Falla gna i'r tro nesa. Ond y ma Undeb yr Annibynwrs, ta beth yw a, isht a Conffrens y Wesleas, Undeb y Baptis, a Cymanfa'r Methadus, a Confocashiwn yr Eclws, yn allu rnowr, a ma dynon weid awec yndo fa, hed. Pob lwc iddo fa. TRAMP, O. B. E.

 

.....

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd 6537a) (07 Awst 1919)

Y Darian. 7 Awst 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Falla taw'r ddigwddiad mwya fu yn ymhanas i yn ddweddar odd ishta i dynnu'm llun yn sefyll wrth goedan gropwns ar bwys Bryntirion, ty Dafydd Niclas. Y dwarnod cyn i fi madal a Llanfapon, mynta Mrs. Niclas wrtho i, "Wn i ar y ddiar shwd ma madal a chi. Fe gymhennas i sopyn ar Dafydd ni am infeito tramp yma, a fe wetas yn lled blaum wrtho fa i fod e'n ddicon o dramp i fi. Mindwch chi, wetws a ddim wrtho i'r pryt hynny ych bod chi'n O.B.E. Gita llaw, allech chi ddim cal O.B.E. i Dafydd ni wath ma fa weti registro cannodd a milodd o blant ariod, a un i Brynfab, hed, blecid ma Dafydd a fynta shwd bartnars. Fe fydda Brynfab yn fwy o anrhytadd i'r O.B.E. na'r O.B.E. iddo fe. Ta beth, os na allwch chi gal dou, pidwch cymryd dim un, nela un ddim ond creu jelosi, ta pun ohonyn nhw cela fa, a licwn i ddim iddyn nhw i oiri shag at i giddil 'bron ar derfyn eitha'r daith’. Treiwch beth ellwch chi neud. Ond dyna own i'n mynd i weid, dyw Bryntirion ddim weti bod yr un ty odd ar y dethoch yma. Ma Dafydd weti altro, er whara teg iddo fa, dodd gita fi ddim llawar o le i achwn fel sy gita shaw o wracadd bach a rw inna weti altro, ond o'r blan dodd gita Dafydd ddim lle i gintach ar i fargan; a ma'r gath weti altro. Y gwir am deni yw ma Bryntirion yn llond i enw nawr a wn i ddim shwd ma byw ar ol i chi fynd odd ma. Yn y ngofid fe halas i hol Mr. J. H. Phillips, Tre'rcawcwn, i ddod shag yma i beinto'ch llun chi, i fi gal rhwpath i ddishgwl arno ar ol i chi fynd, a w i'n i ddishgwl a lan bob munad. Cofiwch ddishgwl yn neis pan fydd e'n ych peinto chi." A gita fod Mrs. N. yn cwpla whilia, dyma David Thomas, chauffeur Dr. Thomas, Tre'rcawcwn, yn drifo'r hartist at y drws. Un piwr digynnig yw'r Dr. Ma fa mor barod gita'i fotor car ag yw e gita'i binswrn dannadd. "Dewch i gal dishglad o de cyn ishta i dynnu'ch llun," mynta Mrs. N., wath all neb smeilan yn neis ar stymog wag — alla i ddim, ta beth." A felny buws hi. Ar ol te fe geso nodi i bwyso ar y goedan gropwns, a'r hartist yn ishta'r ochor arall i'r hewl yn y'n scetcho i. "Dishgwlwch dicyn yn fwy serchus, w," mynta'r hartist. "Ma'n rhaid iddo fa gal dou beth os ych chi am gal yr ecspreshion iawn ar i wynab e, Y DARIAN a whiff fach," mynta D.N. a fe ceso nhw. Fe dynnwd ym llun i, a dyma fi i holl ddarllenwrs y DARIAN. A ma pob un sy yn y napod i, a weti gweld y llun, yn gweid i fod e yr un gewc a fi. Ys gwetws Tanymarian am i lun e, "Yn shiwr mae bron a shiarad." A fe fysa yn shiarad on ba i fod e'n smoco, ac yn darllan y DARIAN.

 

 

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd 6537b) (07 Awst 1919)

 

Otych chi, syr, yn gweld y smeil angyladd sydd ar yn wynab i yn y llun? Darllan llith ymhunan w i'n neud. Ma nhw'n gweid wrtho 'i fod pob sgyrfennwr yn cal mwy o blesar  wrth ddarllan i bishyn i hunan na phishyn neb arall, a taw fe sy'n cal y pleser mwya. Licwn i wpod beth yw barn Dafydd y Crydd a Brynfab ar y mater. Ond ta beth am hynny, mynta Mrs. Niclas wrth ym hen gyfaill, wrth weld y smeil ar y ngwynab i, "Dafydd, pam nad os gwen ar ych i wynab chi wrth ddarllan ych Beibl isht a sy ar wynab y Tramp wrth ddarllan y DARIAN?"

 

W i'n falch anghomon o'm llun, a w i'n ddiolchgar i Mr. J.H. Phillips am i neud a, blecid own i weti cal dicon ar yr hen lun. A gweid y gwir wrthoch chi, un second hand odd a pan geso i a'n newydd, a dyma shwt y ceso i e. Yn waff weti i fi ddechra dileito i sgyrfennu i'r DARIAN, fe ddechruws dynon hala ato i am yn llun, a dodd da fi ddim un i gal, a heblaw hynny, allwn i ddim ffordo cabinet photo i bawb odd yn cisho, blecid dodd da fi ddim tocins i sparo. Y merched a'r gwracadd odd yn y mhoeni i fwya. Ma da fi lythyron odd wrth Megfam, Mair Taliesin, a rodd hi isha otograff photo ohono i; Meiriona, a fe sgyrfennws hi acha scented paper, a ma fa'n smelo yn neis heddi; a w i'n cretu i Moelona hed i hala ato i, os w i'n cofio'n iawn. A ma da fi lythyr hir odd wrth Mrs. Rees, Penlanlas, Rhydlewis, yn began am un iddi gal i hongad a ar y wal yn y parIwr, rhynt llun Mr. Rees a hitha dynnwd pan on nhw ar u hynimwn yn Llambed. Fe hales un mowr iddi hi blecid gita hi ceso i'r dillad sy am dana i yn yr hen lun, a Mr. Rees withws y scitcha sy' ar y nhrad i yndo fa. Wrth gwrs, on nhw ddim yn ffito o dicyn, ond wetny sadlar yw e, nid crydd, ag o scitsha sadlar, on nhw yn rhai da. Ma'r Parch. Halderman W. Griffiths, Maenygroes, yn dala hyd heddi ma dweyd yr het odd ar ben bwpach y brain netho i. Ond ma fa'n camsynad, blecid dos dim pen gita bwpach brain, fel y dyla fa wpod ac ynta'n Halderman. Gita Mrs. Griffiths y ceso i'r het, a fe fu o wasanath mowr i fi am flynydda.

 

Myn hyfryd i, w i'n falch budir o'm llun newydd i'r DARIAN, blecid os dim isha i neb mwy i hala ato i am yn llun.  Falla naiff y prydyddion dicyn o farddoniath ar y mesur Petar Lein i'n llun newydd i.

 

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Notiad. — Own i weti meddwl sgyrfennu rhacor am Undeb yr Annibynwrs yn Pontypridd, ond ma'n llun newydd i weti mynd a'r lle a'r amsar i gyd. Falla y sgyrfenna i air y tro nesa, blecid ma lot o bethach ar y meddwl i.

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd 6536a) (14 Awst 1919)

 

Y Darian. 14 Awst 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Gan mod i dycyn yn fishi ar ym holides, yr oedd yn dda da fi ych bod chi weti trenfu gita Dynfallt a'r ddou fachan arall i fynd da chi sha Corwen i sgyrfennu hanas y Steddfod i'r DARIAN. Rown i'n onfi y bysech chi'n cisho da fi i fynd Ian shag yno i sgyrfennu'r hanas fel y netho i a hanas yr Orsadd yn Barri. Gita llaw, syr, w i weti timlo ticyn fod Dafydd y Crydd yn cisho gan y beirdd i gwnnu leibel arno i am beth sgyrfennas i o bothtu'r Orsadd. Sdim o fi'n cofio nawr beth sgyrfennas i am yr Orsadd, wath ma ticyn oddar hynny, ond ta beth sgyrfennas i fe stica i ato fa, blecid sgyrfennas i ddim ond y gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir; a'r gwir a saif, on te fa, syr? Cwnnu leibel ar y Tramp! Ta Dafydd yn gyfrithwr, ne dwrna, isht a ma Casnodyn yn i alw a, fe fyswn yn gwpod i fod a'n hard yp, ag isha pluo'r beirdd arno fa. Pwr Dafydd, sdim o fa'n napod y beirdd, y beirdd sydd yn feirdd yn wir w i'n feddwl, a nid adarn y "plu benthyg." W i'n cyfadda i fod a yn napod y rhain yn gystal ag ych chi, syr, yn napod llwytyn y to, a ma fa yn u pulfio nhw'n biwr hed, nes ma fa just a chal dicon o bluf i neud gwely pluf i Jones y ffeirad. A lwc dda iddo fa i'w plufo nhw bob un nes y bo nhw'n borcyn noth. Ma fa'n neud cystal gwasanath i'n genedl ag wrth dapo scitcha, ond ddyla fa ddim rhoi rhynt y beirdd a'i giddil, blecid w inna'n fardd, a dos dim un plufyn bencyd yn y nghwt i, hed, Dafydd. Dos dim arian i'w wasto acha cyfrithwrs gita beirdd. "Meibion Duw" yw'r beirdd - y beirdd iawn, a nid beirdd Grades I., II., III. Dafydd y Crydd. (A Dafydd, w i isha i gyhoeddi bloc list o feirdd y Tair Urdd yn y DARIAN). "Meibion dynion" yw pawb arall, plant y ddaear, a dyma i chi adnod i brofi mod i'n gweid y gwir, isht ag arfar, "A'r ddaear a roddes Efe i feibion dynion." Peth arall sy'n neud i fi obitho na naiff y beirdd ddim cwnnu leibel arno i yw taw rhai pigog budir yw nhw. Os dechreua nhw ffraeo sha'i giddil, dos neb yn gwpod ble cwplan nhw. Ond am un peth dimlas i yn Undeb yr Annibynwrs ym Mhontypridd yr own i'n meddwl sgyrfennu'r wsnoth hyn, hed, pan ddachruas i, oni bai fod Dafydd y

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 6536b) (14 Awst 1919)

 

Crydd weti upseto ticyn bach arno i. Fe ddysgas un peth yno na anghofia i byth mo hono fa, a ma fa weti bod yn glondid mowr i fi, a fe all fod i chitha, syr, a dyma fe, nad os neb yn fowr miwn popath. W i'n napod "hoelon wyth" yr Annibynwrs, a'r enwata erill, yr ucian mlynadd dwetha, wrth u clwad nhw'n pyrgethu miwn cyrdda mowr, a rown i'n falch  i'w gweld nhw yn yr Undeb, a rown i'n dishgwl taw nhw fysa'n cico'r bel yn y Cynhadledda, ond agorws dim un o honyn nhw i big miwn dim un Cynhadladd, i gymint a chynnig eilio pendarfyniad. Pam? Dyna pam, allsa nhw ddim nid dyna'u mawradd nhw. Dynon erill odd yn spowtan yn y Cynadledda, a whara teg iddyn nhw, on nhw'n spowtan yn ffamws, hed, er nad own i ddim weti clwad son am danyn nhw o'r blan. Miwn cwrdd mowr y mae un yn sheino, a miwn cynhadladd y ma'r llall. Arall yw gogoniant cwrdd mowr, ac arall yw gogoniant cynhadladd. Nid yw pob mawradd unrhyw fawradd, a fe ddyla hyn fod yn gysur i ni. Peth arall am synws i yn fudir yn yr Undeb odd fod mor lleied o ddoctoried gita'r enwad. Fe wespwd wrtho i nad os gita'r enwad parchus dim rhacor na hannar dwsin yng Nghymru i gyd, a nad odd dim ond un yn yr Undeb. Ddyla petha ddim bod fel hyn, blecid allwch chi ddim dishgwl Undeb, na enwad first clas, heb Ddoctoried. Ma nhw'n rhoi shwd urddas acha pethach. Fe ofynnas i Ffrwdwen shwd odd e'n cyfri fod mor lleied a D.D.'s gita'r Annibynwrs? A mynta fa, "Pam ma fa'n holi, odi e ddim yn gwbod nad os gida ni ddim diwinyddiath, wetny os dim isha Doctoried." A dw i ddim yn meddwl fod yr enwata erill yn well off yn y clas hwn o ddynon mowr. Ond dos dim dowt yn y meddwl i mhunan nad y rhyfel yw'r achos o'r prinder. Alle'n pyrgethwrs ni ddim cal passports i fynd sha'r Merica i moin D.D., ne unrhyw deitl fydda nhw isha, a rodd yr Iancis yn rhw fishi yn hala shots a shells sha Ffrainc yn ystod y rhyfel i foddrach gita traffic y teitls. Ond nawr ma'r rhyfel weti cwpla, fe allwn weld y D.D.'s yn dod yto fel slawar dydd, wetny fe fydd gita ni ddicon o Ddoctoried ac ar ol i ni gal dicon o Ddoctoried fe fydd gita ni ddicon o ddiwinyddiaeth, blecid fe naiff y doctoried y ddiwinyddieth fel bo' isha. Allwn ni ddim cal gormod o ddoctoried i'r enwata, o'r hyn leia dyma farn y

TRAMP, O.B.E.

 

 

 

A picture containing letter

Description automatically generated
(delwedd J6532a) (28 Awst 1919)

 

 

Y Darian. 28 Awst 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd,—Bothtu bythewnos yn ol yr own i ar yn ffordd sha Threharris, ac yn whysu'n bermanu wrth drampan, a phwy nalws i yn i fotor-car ond Mishtir Richard Jones, Timbar Marchant, Trecawcwn, a dyma fe'n whythu corn i fotor pan welws a fi, ac yn whythu i gorn i hunan yn uwch na hwnnw —

 

"Hoi! Gwelwch yma'r dyn, y chi yw Tramp y DARIAN, on te fa? Y chi fuws gita ni yn dodi Halderman Howells miwn ar y Cownti Cownsil, ac yn cynnal yr incweirari yn y dre yco. Wel, jwmpwch miwn i'r car yma. Otych chi'n mynd run ffordd a fi?"

 

"Thanciw fowr, Mishtir Jones. Sdim o fi'n gwpod a otyn ni'n dou yn trafeilu'r un ffordd nawr a'i pido; ond os nad ych chi weti altro cryn dicyn yn ddweddar, ma lle mowr i onfi nad ym ni'n dou yn tynnu sha'r un man, ond ta ble'r ych chi'n mynd, fe ddwa i gita chi heddi er mwyn y reid yn y motor-car, tawn ni'n gorffod cered nol bob cam."

 

Ma Mishtir Jones yn un o'r dynon piwra gwrddas i ariod, a phwy ryfadd, blecid Cardi yw a, a dyw calon Cardi ddim mor galad a'i gaws e o getyn, ne gofynnwch chi i Euroswydd.

 

"I ble ych chi'n mynd, Mishtir Jones, modd i mor ewn a gofyn?"

 

"W i weti pyrnu co'd Shir Drefaldwn bob stic, a w i'n mynd lan i drenfu i torri nhw lawr, a dod a nhw sha thre. Ac os licech chi i fi gatw ticyn o ruddyn derw'n bren coffin i chi, fe fydd yn blesar gita fi neud, wath fe fydd co'd coffine yn brin iawn pan fydd isha un arnoch chi; ne falla'ch bod chi'n meddwl cal ych rhosto ar ol i chi farw, a dodi'ch llutu miwn bocs matches wetny."

 

"Wel, nagw wir. W i'n cal dicon o'n rhosto'r tywydd twym yma, heb gal yn rhosto ar ol i fi farw; ond gwetwch, oti Shir Drefaldwyn ymhell odd yma?"

 

"Wel, bachan w, dyna dwp ych chi! Sdim o chi'n gwpod taw yn Shir Drefaldwn ma'r North yn dechra?"

 

"Dreifon te, Mishtir Jones, blecid ma'n dda da fi mod i'n cal shiawns i fynd sha'r North miwn shwd steil, a chita'r fath gwmpni respectabl. Fel y gwetas i rwbryd o'r blan, fuas i ariod yn y North, a wyddwn i ddim yn iawn ble rodd a. Dewch i ni fynd sha'r Steddfod cyn dod nol, a fe alwn gita Casnodyn, wath ma fe'n byw yn y North. Ond os dim ymbrel na macintosh gita ni, a ma Casnodyn yn gweid i bod hi'n o'r ne'n bwrw glaw rownd abowt yn y North."

 

"Y dyn filan, os da chi ddim ffydd yn Rhagluniath, gwedwch. Dyw'r Bod Mowr ddim weti rhoi'r North i fyny'n llwyr, hed, er mor ddrwg yw hi. Os taw hinffidel ych chi jwmpwch mas o'r car ma rhag ofon i fi gal brec down am gario hinffidel."

 

"Hinffidel! Nage siwr, w i'n cretu isht a chitha. Ond ble ych chi'n mynd i ddodi lan heno? Ma da fi ffrindia yn Aberhiw a shaw o lefydd erill. Dyna un o honyn nhw, gwnitog yr Annibynwrs."

 

"Otych chi'n napod Mr. Jones? Fe'ch dreifa i chi sha'r Manse, a fe alwa am danoch chi miwn pythewnos, a dyna shiawns i chi i weld y wlad."

 

 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd J6532b) (28 Awst 1919)

 

A felny buws hi. Aberhiw yw'r pentra perta welas i ariod. Ma i pobol Dowlish yn brago taw u lle nhw yw'r perta yng Nghymru, a ma'n nhw'n son am neud y tips yn barc i dynnu fisitors o'r Rhondda shag yno. Ond ta Dowiish yn gweld Aberhiw fe gaue i ben am byth miwn cwiddil. Yn Aberhiw y buws Ieuan Glan Geirionydd yn yr ysgol, ond dodd neb yn y pentra yn gwpod dim am Ieuan. Fe allsech feddwl y bydda pob un yn brytydd miwn lle mor bert, ond cheso i ddim cymint a chysgod cwt drychfeddwl barddonol da neb yn y pentra. Pam ma dynon y mynydda moelon yn fwy byw u meddylia na dynon y dyffrynoedd breishon a phert, gwetwch? O Aberhiw fe geras drw ddyffryn pert Manafon i'r pentra o'r un enw, ble buws Gwallter Mechain yn ffeirad slawar dydd, ond dodd neb yn gwpod dim am dano ynta. Ond fe gwrddas a hen ddyn wrth ddod nol o fod yn gweld y rectori, a fe wetws e wrtho i iddo fa glwad i dad yn gweid y bydda yr hen brytydd yn gallu dodi ysbrydion i lawr pan fydda nhw yn rhy ddrwg, drw u dala nhw a'u dodi nhw miwn poteli a'u corco nhw. Yn Manafon yr odd Penfro, fuws farw rw flwyddyn a hannar yn ol, yn gwinitogaethu, a ma'i enw e yn fyw ac yn annwl hyd yn hyn. Dyn ffein oedd Penfro, a phrytydd da, hed. O Manafon fe dynnes am Llanfaircaereinion, a fe etho'n gwmws i weld Llwydiarth Mon. Ma Llwydiarth yn brytydd piwr, ac weti ennill Catar Powys. Rodd a newydd ddod nol o'r Steddfod, ac yn llawn o honi. Yn Corwen rodd a'n lodgo yn yr un ty ag Arthen, ac yn ol Llwydiarth Arthen odd y dyn mwya bishi yn y Steddfod. Rodd e'n cwnnu bob bora bothtu betwar ar gloch.

 

"Beth odd e'n cwnnu mor fora, a fynta ar i holides?"

 

"O," mynta Llwydiarth, "cwnnu odd a i glasgu mushrwms i'r beirdd i frecwast. A rodd i lygad a'i glust gita phopath. Welas i ddim shwd ddyn bishi ariod."

 

“Felly'n siwr, myntwn inna, "dewch chi sha'r Barri y flwyddyn nesa, a fe gewch chi weld risylt prysurdeb Arthen yn Corwen. Clasgu awgrymiata shag at Steddfod y Barri odd a yn neud, ellwch i fentro'ch pen. Ma fa weti pendarfynu neud i Steddfod e yr ora fu ariod. Y dyn y bydd son am dano fe ar ol Steddfod y Barri fydd, nid bardd y Gatar, hyd yn oed ta'r Tramp fydda hwnnw, ond Arthen. Ma Llwydiarth weti addo dod sha Barri'r flwyddyn nesa, os bydd a byw ac iach, a thocins yn i boc a. Ar ol madal a Llwydiarth fe etho mor belled a Dolgead Hall i weld hen batnar arall own i'n napod slawar dydd, Tom Jervis, ond odd e'n rhw fishi yn paco'i bortmanto i fynd sha Llandrindod i ddishgwl am wraig i whilia llawar sha fi. O Lanfair fe etho sha Dolannog, Pontrobert, etc., i weld Dolwar Fach, cartra Ann Griffiths, a'i Chapel Coffadwrithol. Fe dimlas rwpath yn cripan drosto i bob tamad pan ô'n i'n sefyll o flan y ty fferm bach dicon cyffretin, a fe dynnas fy het o barch i'r ferch fwyaf ei hathrylith fagws Cymru ariod. Fe welas y capal, a ma fa'n un bach net, a llunia Ann Griffiths, John Hughes, Roberts, a Davies weti u cerfio ynddo fa. Fe dimlas fwy wrth sefyll o bothtu Dolwar Fach nag a dimlas i yn y Capal Coffadwrithol. Fe adroddas bob hym o waith Ann Griffith allwn i gofio, a w i'n gwpod sopyn o honyn nhw. A rown i'n cisho dychmygu am Ann yn i gneud nhw ac yn i gweid nhwn rhibin wrth Ruth, heb feddwl fawr fod y nefodd yn clasgu hyma i saint Cymru i'w canu gita hwyl. Rown i weti meddwl galw gita Mishtir Gittins, Dolannog, ond netho i ddim, blecid own i'n meddwl y gofyne fe i fi witho ticyn iddo fa, a ma'r doctor weti gweid wrtho i am bido gwltho ar un cownt. Ymhen y pythewnos fe gwrddas a Mishtir Richard Jones a'r motor-car, ac off a ni sha thre, h.y., fe a'th Mishtir Jones sha thre. Os dim tre gita fi, ne fyswn i ddim yn

 

TRAMP, O. B. E.

 

TRAMP NEWYDD Y “DARIAN.”

“Tramp” y DARIAN a ail anwyd – ei wedd
A’i wisg oll newidiwyd;
Yn ei henaint unionwyd,
Yn ir a llon hen wr llwyd.


Ffynnon Taf.
E. PHILLIPS.

 

 

 

.....

 

 

A picture containing letter

Description automatically generated
(delwedd J6531a) (4 Medi 1919)

 

Y Darian. 4 Medi 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, —

 

Acha prytia w i weti bod jyst a danto sgyrfennu i'r DARIAN. Bob tro y cwrddwn ni ma Herbert Kenfyn yn dannod i fi nad o's neb yn darllan ym llithia i ond fi mhunan, a chitha, syr; a na fysach chitha ddim yn u  darllan nhw oni bai ych bod chi'n bownd o neud fel Golycydd; a phe celach chi'ch dewish, y bydda’n well da chi shafo gita dwr or a heb sepon bob wsnoth na darllan ym llithia hi. Ma'n anodd da fi gretu ych bod chi weti gweid shwd beth. Ond ta beth rodd yn dda gita fi am lythyr Talog yn y DARIAN ddwetha. Ma fa'n dangos yn blaum fod Herbert Kenfyn yn rong, a fe gwnnws y ngalon i'n fidur. "Unsolicited testimonials" ma nhw'n galw pethach isht a pishyn Talog. Sylwoch chi beth odd a yn weid? Fe wetws fod y'n llithia yn cynnws holll ragoritha Sub Rosa, Mark Twain, Lemon, Dafydd y Crydd, Douglas Jerrold, Casnodyn, Jerome K. Jerome, Josh Billings, Daniel Owen, hetcetra. Wrth  gwrs, enws a ddim o'r dynon hyn i gyd, ond wetny, w i'n darllan miwn i'r llythyr, yn ogystal a darllan mas ohono. Ddarllenas i ddim byd mor felys os cetyn. Own i'n timlo harogl y llythyr ishta sniff o Ho de Colone, rodd e'n reffreshin anghomon i'w smelo, ond falla ddim mor saff i'w lyncu. A dyna'r Mesura Petar Lein odd yn dechra'r llythyr, yr on nhw at y nhast i i'r dim. Os dim o fi weti gweld hawdl Corwen, ond allwn i feddwl nad os dim gwell henglynion yn honno i'r "Prolfwyd" nag sydd yn nou henglyn Talog i fi, blecid ticyn o broffwyd w inna, ond mod i yn un o'r 'proffwyti byrion.' W i'n rhoi pwys mowr ar testimonial Talog am mai odd wrth brytydd y daw. Thanciw fowr, Talog. A dyna i chi Fesur Petar Lein Mishtir Phillips, Ffynnon Taf, i Llun Newydd y Tramp, wetny. Ma fa'n gampus. Yn henglynion Talog a Phillips ma'r cynghaneddion yn newydd, hachog a chryfion, a'r syniata yn sheino o

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6531b) (4 Medi 1919)

hathrylith yr awen. Ffamws, boys! Wrth gwrs, alia i ddim profi i Herbert Kenfyn oddwrth henglyn Evan Phillips i'm Llun i, i fod e'n darllan ym llithia, ond y clasgad naturiol w i'n dod iddo yw hwn, gan i fod e'n dishgwl ar y'n llun i i fod e, hed, yn darllan ym llithia i. Bachan piwr yw Evan Phillips, hed. Sdim o fi yn i napod a yn y cnawd, ond fe wespwd dou beth da am dano fa wrtho i, sef i fod e'n neud i ora dros y DARIAN yn Ffynnon Taf, a'i fod e'n wmolch drosto yn y ffynnon enwog sy yno bob dydd o'r flwyddyn. Mr. Berry, Gwaelod y Garth, wetws wrtho i, a ma fe'n ddramodwr diail. Ac os yw a, pwy ryfedd fod i awen a mor raenus.

 

Wetny, fe dderbyniais ddou henglyn i'm Llun Newydd odd wrth J. W., Llunden, a dyma nhw:

 

Adyn hyll wrth goeden wyw, — un o wael

Wehilion dynolryw;

Heibio hwn a pob benyw,

Amheua pawb ai'r 'Tramp' yw.

 

Ai'r hagr 'Dramp' ynte'r gwr drwg - yw y llun

Uwch y 'Llith,' atolwg?

Ah! gwel yr euog olwg

Yn ei wedd a than ei wg!

 

Dyma ddou henglyn drychynllyd, on te fa, o ddifri! Ma nhw'n gryf, w i'n cyfadda, ond cryfdwr col tar yw a, myn hyfryd i! Yr unig beth sy'n reit a da yn yr henglynion yw'r gynghanedd, popath arall sy yndyn nhw o'r drwg y mae. Ma fa'n gweid y mod i'n sefyll wrth 'goeden wyw.' Nagw ddim, blecid ma cropwns arni hi leni, mynta Dafydd Niclas, Llanfapon, a fe pia'r goeden, a fe plannws hi fel coeden blwmwns. Ma fa'n gweid y mod i'n 'wehilion dynolryw.' Falla caiff J. W. glwad odd wrth y nghyfrithwr i am y lein hon. Ma'r ddwy lein ola'n rong, blecid ma'r gwracadd o bothtu fi isht a cler yn y basn shwgir. Pan sgyrfennws e yr ail henglyn fe allwn i feddwl taw yn y lwcin glas ac nid ar y'n llun i odd e'n dishgwl. Ond pwr J.W., w i'n madda'r cwbwI iddo fa, wath yn Llunden ma fa'n byw. Ma reids y petar blynedd dwedda weti neud i nyrfs e'n shitrws. Rodd yn dda da fi ddarllan i fod e'n mynd sha Llandrindod. Fe fydda i'n dishgwl cal rhwpath gwell odd wrtho fa ar ol iddo fe fynd sha thre.

 

Yf y dwr, a chofia di

Yn dy dud, fod yn deidi.

 

TRAMP, O.B.E. 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6530a) (11 Medi 1919)

 Y Darian. 11 Medi 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, —  Os nag w i'n twylio mhunan, os cetyn mowr yn ol fe ddarllenas sylw beiddgar anghomon o eiddo Dafydd y Crydd, Toriel, ne rywun arall o sgyrfennwyr mowr yr "o's ola hon." Yn siwr i chi dw i ddim yn cofio just nawr pwy nath y sylw; ond ma fa yn itha tepig i un o sylwata mowr Dafydd y Crydd ar i ora. A chan nad w i'n cofio pwy bia'r sylw, beth sy gita fi i neud ond rhoi beniffit of the dowt i Dafydd. Ond ta beth, os nad w i'n cofio'r hawdur, w i'n cofio'r sylw, a dyna sy'n bwysig, nid cofio'r pyrgethwr, ond cofio'r brecath, a dyna ble w i'n sefyll wrth ishta i sgyrfennu'r sylwata hyn. Dyna oedd y sylw, fod rhai cannodd o filiwna o bobol yn y byd, ond fod y rhan fwya o honyn nhw yn ffylied. Rych chi, syr, yn gweld fod dou osotiad yn y sylw. Yn gynta, ma fa'n gweid fod rhai canno'dd o filiwna o bobol yn y byd, a dos dim dowt nad yw a'n reit i wala, hed, blecid ar ol dechra meddwl a chownto, w i'n i gretu a. Ond peth arall yw gweid fod y rhan fwy o honyn nhw'n ffylied. Ma lle i ama'r ail osotiad. Falla i fod e'n reit, a falla nad yw e. Shwd ma Dafydd yn gwpod licwn 'i wpod. Un peth yw rhoi gosotiad pendant lawr, ond peth arall yw i brofi a, on te fa, syr? W i weti sylwi, Mishtir Golycydd, wrth drampan o bothtu'r wlad, fod rhai dynon yn llawar mwy pendant a dogmatig na'i giddil. Dyna i chi air Cymrag piwr. Nawr, y funad hon, y daith a i meddwl i. Fe fydd Syr John Morris Jones yn downsan gan lawenydd pan wel e fa, blecid w i'n gobitho y galwa Bera i sylw fe ato. A chofied e taw fi sy weti i neud e, a nid y fe. Dogmatig! A os a fynno galwetigitha a phendantrwdd a dogmatigrwydd? Witha, w i'n cretu i fod. Ma dou ddosparth o withwrs, cryddion a barbwrs, os gallwch chi alw cryddion a barbwrs yn withwrs, yn notetig am u pendantrwdd. Alla i ddim sponio, ond felna w i weti ffindo'r crydd a'r barbwr. Ta pryd af fi i shop y barbwr ar yn nhramp o fan i fan, a mor gynted ag y dachrua'r barbwr yn wablo i, ma fa'n siwr o neud rhw sylw dogmatig am rwpath ne giddil, fydd yn y mhrofoco i ddatla ag e, ond tawn i yn acor y mhen fe gwnna ginog yn rhacor arno i am fyta'i wablin e. A ma fa

 

 

 

 

 

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd J6530b) (11 Medi 1919)

 

wetny yn y nrensho i a'i bendantrwdd wrth gitcho yn y nhrwyn i, isht ag odd mamgu yn neud i ifed castor oil slawar dydd. A ma cryddion yr un mor dogmatig. W i'n galw'n amal gita Dafydd i dapo, ne i roi cwpwl o  hoelon, yn y'n scitcha i, a mor siwr a mod i'n galw yn y ticyn gweithdy sy gitag e fe ddaw rhw sylw pendant mas fydd yn setlo'r matar o dan sylw, ta beth fydd a; a dyw hi ddim yn saff cros ddatla ag e, er mod i'n gwpod i fod a'n rong, blecid falla taw stico'r mynawyd yn y —ond fe'i gadawa i a yn y man na nawr gita gweid fod rhai ffylied yn y byd, ta beth am y rhan fwya o'r boplocath, blecid fe gwrddas ag un o honyn nhw pw ddwarnod. Otych chi'n cofio i fi weid fod Mishtir Richard Jones. Trecawcwn, weti pyrnu co'd Shir Drefaldwn i gyd, a'i fod e'n mynd i'w torri nhw lawr bob stic, a mynd a nhw sha thre? Pan ddarllenws dyn o Shir Drefaldwn, sy'n gwitho yn y Cwtch, ym llith i, fe sgyrfennws ato i i weid wrtho i am stopo Mr. Jones i dorri cod u perllan nhw. Gorffod i fi hala yn ol at y dyn i weid wrtho fa nad odd Mishtir Jones ddim yn meddwl cwmpo'r co'd fala, co'd plwmwns, co'd gwsbris, co'd cyrens, a'r co'd cidna bins sydd yn y Shir.

 

Gita Ilaw, gesoch chi'r ffon halas i i chi gita Herbert Kenfyn, pan odd a'n mynd i weld i fotryb sha Berdar pw ddwarnod? Y fi torrws hi, y fi naddws hi, a fi peintws hi. Own i'n meddwl y galla hi fod yn handi iawn i chi fel gwnitog, golycydd, a gwr gwraig. Gita'r ffon halas i, os ych chi weti i chal hi, fe allwch setlo lot o gwestiyna pwysig yn yr eclws, yn yr offis, ac ar yr eulwd, miwn byrr amsar. Pidwch chi bod ag ofan i hiwso hi, nenwetig sha'r offis. Danghoswch chi i bawb taw chi yw'r mishtir.

 

Fe sgyrfennws Hervey lyfir ar "Myfyrdodau ymhlith y bedda," a rodd mamgu slawar dydd yn neud i fi i'w ddarllan a iddi hi, a fe sgyrfennws Deon Swift wetny ar "Myfyrdoda ar Go's Brwsh." Welwch fel ma un peth mowr yn arwan i beth mowr arall. Pan gaf finna am'sar fe sgyrfenna, inna "Myfyrdoda ar Ffon.” Gobitho y cewch chi fyw'n hir i neud pob iws o'r ffon fydd isha arnoch chi, yw dymuniad calon y

TRAMP, O.B.E.

 

[Daeth Kenfyn a'r ffon yma'n ddiogel. Llawer o ddiolch. Mae'n siwr y bydd o wasanaeth mawr yn y cylchoedd a nodwch, yn enwedig ar ol i rai weled yr awgrymiadau.—Gol. ]

 

LLUN NEWYDD Y TRAMP, O.B.E.


Spiwn ddull ei spon ddillad, - enwog wr,
Mae'n cynnyg am gariad;
Y ffarier a'r het ffeirad,
Yw top y De, - teip o'i dad!
Port Talbot. D.D

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwdd J6529a) (18 Medi 1919)

 

Y Darian. 18 Medi 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Yr wsnoth ddwetha rodd y bachan yna o Shir Gar, sy'n sgyrfennu o dan y ddwy lythyren sy weti citcho yn i giddil, yn gweid taw, "Welas i mo'ch enw chi ymhlith y petwar a thrician!” gan feddwl, wrth gwrs, Jystished newydd Shir Gâr, yw'r shiarad sy wedi bod rhwng pob dou. Piti mowr na fysa'r awdurdota weti gallu ffordo stretcho ticyn yn rhacor i'w gneud nhw'n ddeg a thrician, er mwyn u cal nhw i'r un nymbar a'r scolars hynny slawar dydd gyfieithws y Beibil o'r Hebrag i'r Groeg, a hed, i'r un nymbar a'r Sanhedrim Iddewig, blecid mae Jones, y ffeirad, yn gweid taw deg a thrician odd u nymbar nhw, wetny fe ellid u galv nhw yn Sanhedrim Shir Gâr. W i n siwr y gallen nhw ffindo whech arall yn y Shir a chymint o gymhwystera Justished yndyn nhw ag sy yn rhai o'r petwar a thrician ddewishwd, ta'r Adfeisori Comiti yn mynd a detectifs i whilo, a dishgwl am danyn nhw gita searchlight. Pan own inna ar dramp drw'r Shir yn ddweddar, dyna odd y whilia rhynt pawb ar y hewl, yn y ffair, shop y go, gwaith tin a'r talcan glo - y petwar a thrician, a wir i chi rodd rhai yn gweid pethach cochon am ddewishad rhai o honyn nhw. Sdim o fi'n napod pob un o'r petwar a thrician, felly weta i ddim am y rhai nad w i'n napod. Ond w i'n napod lot o honyn nhw, a ma bagad o nhw yn meddu pob cymhwyster i'r Fainc Farnol, a fe fyddan yn anrhytadd iddi. Am rai o'r lleill sy wetu u dewish, ma nhw'n bownd o neud y Fainc yn fwy barnol fyth. Dw i ddim yn gwpod am un cymhwyster i fod yn Jystished yndyn nhw, os yw J.P. yn rhwpath blaw dymi, a fe ddylai fod. Rhyntoch chi a fi a Dafydd y Crydd, ma'n gwestiwn da fi pun a all rhai o honyn nhw whilia a ddarllan Cymrag ne Sisneg yn reit. Mindwch chi, ma nhw'n ddynon piwr diginnig, o gymeriad glan gloyw, a dos neb all bwynto bys atyn nhw, ond heb un cymhwyster i fod yn Jystished. A ma llawer o holi beth odd amcan y dewishad. Ta beth odd a, nid am nad odd u cymhwysach nhw i gal, blecid w i'n napod shaw o ddynon o safla, synwyr, profiad, a gwybodath, fydda yn fwy o anrhytadd i'r Fainc nag a fydda'r Fainc iddyn nhw, dynon sy weti gwasnaethu'r pyblic am flynydda, ond os dim o nhw ymhlith yr etholedicion. Pam? Gwetwch chi, os gwyddoch chi. W i weti clwed rhesyma yn cal u rhoi, ond weta i ddim o honyn nhw, nawr, ta beth, blecid w i isha mynd at rwpath arall sy'n galw am y'n sylw i. Ond o ddifri, nawr, otych chi ddim yn meddwl fod yn bryd i ni i gal Spring Cleanin ar amball rwm sy'n blongad i rai o'n Hawdurdota Gyhoeddus ni? W i'n cofio clwad Herbert Kenfyn yn atrodd stori am hen fachan o'r enw Hercules - Hercules beth dw i ddim yn cofio, nawr. Rodd y brenin Augeas yw catw 3000 o gyffyla. a rodd

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwdd J6529b) (18 Medi 1919)

y stapla heb u glan[hâ] er's deg mlynadd ar hucian, a fe gyirws Hercules at y jobyn ar gontract, a fe addews gwpla'r job mewn dwarnod a fe gatws at i air, hed, a fe gwplws y gwaith cyn amsar te. A wyddoch chi shwt y gnath a? Fe drows ddwy afon, yr Alpheus a'r Peneus, i rytag drw'r stapla, a fe'u golchwd nhw'n lan miwn bothtu wincad. W i'n rhw “ddirgel gretu," ys gwed pyrgethwrs 'n henwad ni, fod isha troi afon fowr Pyblic Incweiari i miwn i amball stapl sy'n perthyn i rai o'n Hawdurdota ni yng Nghymru ag isha'u glanha nhw'n ddesprad. Fe licwn i'n fudir ta Dafydd y Crydd yn citcho yn y matar, isht a nath Mishtir Hercules, a'i drafod a isht a trafotws a Brytyddion y Plu Benthyg. Ma rheiny weti mowlto bob un odd ar y bu Dafydd yn u trafod nhw, fel nad os da nhw ddim un plufyn i fynd i Peni Readin. Ond os na naiff Dafydd ma'n rhaid i fi gynnal Incweiari isht a nes i yn Ngharffili slawar dydd.

 

Fe welas henglyn arall i'm llun newydd i gan D.D. yn y DARIAN ddwetha. D.D. pw enwad yw e, wys? Nid y'n henwad ni, blecid os da'r Wesleaid yng Nghymru ddim un D.D. just nawr. Tecwyn fydd y nesa, w i'n meddwl. Ond ta beth am hyny, ticyn yn benagored w i'n timlo'r henglyn. Dw i ddim yn siwr iawn beth ma fa'n feddwl — a dyna fel w i'n câl y rhan fwya o'n D.D.'s ni. Mynta fe, "Top y De, a teip o'i dad!" Cweit reit. Teip o bwy ddyla mab fod ond o'i dad? Ond w i'n timlo fod yn y lein hint fach gita golwg ar pwy ma fa'n feddwl yw nhad. Nid y fe yw a, machan i! Ma'r D.D. yn reit am yr het yn y lein, "Y ffarier a'r het ffeirad," blecid gida Jones, y ffeirad y cas Dafydd y Crydd hi, a fe rhows hi i fi am i bod hi'n rhy fowr iddo fa. Rych chi'n gallu gweid wrth i lythyra fe taw pen sobor o fach sy gita fe. Ma D.D. yn itha rong pan yn gweid y mod i'n "cynnyg am gariad." Beth wyr D.D.'s am gariaton! Tawn i'n dewish fe allwn gal wegan ymhob lle w i'n mynd iddo, ond nid ar y lein yna ma nileit i.

 

Dyna od, ma'r Saline yn effeithio ar rai dynon yn Llandrinod! Meddylwch o brysur, nawr, am lot o ddynon call yn ishta lawr yn y Pymp Rwm i gisho dyfalu pwy yw y tramp! Un am roi'r anrhytadd i'r Archdderwydd. Dyw Dyfed ddim am anrhytadd "plu benthyg," er iddo fe weid ar y Maen Llog yn Corwen y bydda'n well dag e fod weti sgyrfennu un o'm llithia i na bod yn hawdur y Gwyddoniadur Cymrag! Yr odd erill yn gweid taw chi yw y Tramp. Fe wyddoch chi’n well, er ych bod chi'n trampan shaw cyn i chi brioti. Yr odd erill, wetny, yn gweid taw rhywun arall yw a. Y rheiny sy'n reit, rhywun arall yw y TRAMP, O.B.E.

 

 

.

.....

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J6538a) (2 Hydref 1919)

 

Y Darian. 2 Hydref 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Pan netho i y 'flyin visit' i Shir Gar yn ddweddar, i gal gweld os odd y pethach wetws ‘OE’ am y petwar a thrician yn reit, y mwriad i odd cysgu nosweth ne ddwy o dan grongdwd OE, os odd cronglwd dag e. Ond cretwch chi fi ne bido, fe ffilas yn lan a'i ffindo fa, er i fi holi pob plisman, postman, pyrgethwr a gemcipar yn y Shir am dano fa. Dyna beth od, dodd neb yn i napod a. Mindwch chi, ma repiwteshon dyn sy'n sgyrfennu i bapur o safla'r DARIAN, sy'n cal i ddarllan bob wsnoth yn Downing St., a'r Hows of Lords, miwn picil ofnatw, pan ma pob un o'r gwahanol hoffishals w i weti enwi yn gorffod cyfadda nag i'w nhw ddim yn i napod a. Ta plisman ne byrgethwr yn gweid nad odd a ddim yn y napod i, fe wetswn wrtho fa'n ddiseremoni, a hynny yn Sisneg hed, "Not to know me argues yourself unknown." Ond dos dim dangar i neb weid nad i'w a ddim yn y napod i, na Dafydd y Crydd, o ran hynny, blecid ta chi yn gofyn i un o blant yr ysgol bob  dydd pwy yw y Tramp fe wetsan yn gwmws wrthoch chi ta fi yw a. Y dydd o'r blan fe wetws Mishtir Gladstone Rees, B.Sc., Hed Mastar Ysgol Ora Shir Forgannwg, taw un o'r test cwestions miwn genaral noledge yn yr iecsam ddwetha odd "Pwy odd Tramp y

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd J6538b) (2 Hydref 1919)

 

 

DARIAN?" A fe apedws pob un yn reit ta fi odd a. A dyna shwd ma Dafydd y Crydd a finna weti dod mor atnabyddus, ma'n llunia ni ar dop pob llith a sgyrfennwn ni'n dou, er fod Dafydd yn rhw droi i gefyn [sic; gefen, gefan] yn y llun ar i ddarllenwrs, ond wetny, falla i fod a'n dangos i ochor ora iddyn nhw, blecid ma Dafydd, fel pawb o honon ni, yn cretu miwn troi'r "best side to London." Ond ta beth i chi, fe glyws Dyfnallt mod i'n whilo'r Shir am "OE" er mwyn cal "shec down" am gwpwl o nosweithu, ac yn ffili cal gafal arno fa, a fe halws teleffon wire i fi i fynd sha Charfyrddin, fod yn y dre dri lle yn barod i nerbyn i gita breiche agorad, set y Jail, y Goleg, a'r Seilam. Fe halas yn ol ato fe'n gwmws i weid nad own i ddim yn ddicon drwg i'r cynta, yn ddicon da i'r ail, na dicon dwl i'r trytydd, ar hyn o bryd. Ond gan mod i isha gweld Dyfnallt fe etho sha Charfyrddin, a fe geso nerbyn yn dilwng o'm hunan gita’r prytydd a Mrs. Owen. Y musnes i gita Dyfnallt odd setlo o bothtu Edinbro. Fe sylwoch i fod a racor nag unwaith yn "Colofn y Celt," a cholofn ffein anghomon yw hi, hed, a fe wetas wrtho fa am bara mlan i'w sgyrfennu hi tra bo fa byw, yn gwawdd pawb yng Nghymru i fynd sha'r Pan-Celtic Conffrans i Edinbro. Rown i am gal gwpod da Dyfnallt shwd odd a'n bwriatu mynd sha'r Conffrans. Os odd a'n meddwl cered shag yno, yr awn i dag e. "Bachan, w, cered" mynta fa. "Otych chi'n gwpod ble ma Edinbro?” Mi wn y mod i'n fachan a thicyn o fynd, ond rych chi'n camsynad yn fowr, nid yn y nhrad i y ma'r mynd." Myntwn inna, "Pidwch chi a dishmoli mynd y trad blecid ma'r Sgrythyr yn gweid, "Mor weddaidd ar y mynyddodd yw trad y rhai sy'n efengylu." "Cweit reit," mynta Dyfnallt, "ond dyw nhrad i ddim yn ddicon gweddaidd i gered sha Edinbro; a ma arno i fwy o ofon gweddustra'n scitcha na gweddustra nhrad.” “Wel, ffarwelwch nawr te,"  myntwn inna. "Ma'n ddrwg da fi na alla i ddim dod da chi gita'r tren, blecid w i'n dicwdd bod yn brin o rifets just nawr, os gwetws yr hen 8ûwldiwr yn Rhys Lewis. Ond dw i ddim yn pryderu rhyw dwryn nad alla i fynd i'r Conffrans pwysig gan ych bod chi'n mynd, blecid rych chi'n siwr o roi yn acos cystal riport o hono fa a tawn i yno mhunan. Nawr, Mishtir Golycydd, cofiwch chi roi dicon o le i riport Dyfnallt o'r Conffrans, ta chi'n gorffod gatal ym llith i mas am wsnoth ne ddwy. Dyna i chi ostyngeiddrwdd a hunan-aperth gwlatgarol, onte fe nawr! Falla dishgwla Dafydd y Crydd ar ol y DARIAN am wsnoth, i chitha i gal mynd sha Edinbro, blecid fe ddyla Golycydd y DARIAN fod yno. Ma'n ddrwg da fi nad alla i ddim dishgwl ar i hol hi pyrt hynny, wath w i ishws weti addo mynd i helpu Ap Noah i gwnnu tatws. TRAMP, O.B.E.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6539a) (9 Hydref 1919)

 

 

Y Darian. 9 Hydref 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — W i'n darllan y DARIAN odd ar pan own i'n grotyn bach bitw ddim mwy nag esgid Dafydd y Crydd - a bei thy bei, welas i ariod o Dafydd a phar o scitcha decha am i drad. Watchiwch chi beth w i'n weid wrthoch chi. Cryddion yw y rhai mwya annipen o bothtu u trad a welsoch chi ariod. Rhyw slaps ma nhw'n wishgo. A fysa fa damad yn fwy teidi o bothtu i ben arall hed, on bae fod Jones y ffeirad yn rhoi het iddo fa nawr ac yn y man. A fe alla Ifan Phillips, Ffynhon Daf, fentro'r wyth punt, ar hucian ennillws a yn rasus Henffordd (fe fydd da fi racor i weid am hyn mas law) os ticyn yn ol, os gweliff a bar o scitcha teidi am drad Dafydd, taw rhywun arall pia nhw. A fe brofa i beth w i'n weid. Os cetyn yn ol rodd cwrdda mowr yn Tabor, y capal ble ma Dafydd yn whythu'r organ, a chan mod i weti dicwdd mynd i'r gymdocath yn gynnar yn yr wsnoth fe bendarfynas aros yno i gal clwad y pyrgethwrs. Ac er mwyn bod yn deidi fe halas ym scitcha at Dafydd i gal u tapo, a'n nhrowsar at Morgan y Tilwr, partnar Dafydd, y bachan na sy'n neud y Mesura Petar Lein iddo fa. Fe addaws y ddou y celwn i'r scitcha ar trowsar yn ol wetu u cwiro cyn dy Sul, a gorffod i finna aros yn y gwely drw'r wsnoth. Fe ddath dy Sul, fel ma fa'n arfar dod, ond ddath dim o'r scitcha na'r trowser. Fel dicwddws hi gorffod i wr y fenyw fach ble'r own i'n lodgo fynd shar gwaith y bora Sul hwnnw, a mynta'r fenyw fach wrtho i pan yn dod a mrecwast i i'r gwely, blecid allwn i ddim cwnnu, “Ma Sam ni yn gorffod mynd sha'r gwaith heddi, a fe ellwch chitha gal mencyd i drowsar a'i scitcha parch a i fynd sha'r cwrdd mowr y bora a'r prynawn, wetny fe gewch glwad y ddou byrgethwr, ond mindwch chi ddod sha thre i de, blecid ma'n rhaid i Sam ni u cal nhw heno." A felny buws hi. Ond myn hyfryd i, beth ych chi'n feddwl welas i? Dafydd y Crydd am scitcha i ar i hen drad, syn troi mas isht a bysedd hen gloc Emwnt Matho ar ucian munad weti diddeg, a Morgan y Tilwr a nhrowsar i am i hen goesa meinon, a'r ddou yn waco sha'r cwrdd mowr, os gwelwch chi'n dda! Ar fencos i, fe spoilwd y dwarnod i fi. Dyna Dafydd a Morgan i chi. W i'n cyfadda u bod nhw'n gallu sgyrfennu, a neud henglynion yn biwtiffwl, ond dou declyn budir i'w nhw! Ond nid am denyn nhw own i'n meddwl sgyrfennu'r wsnoth hyn, hed. Gair bach sy gen i at Ifan Phillips, y prytydd, o Ffynhon Daf. A chofiwch chi ma Ifan Phillips yn brytydd, "o'r un waed a'r awen wir," ys gwetws Tomos Bartley. Ond ma bardd o stamp Ifan Phillips yn apt o neud

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6539b) (9 Hydref 1919)

 

 

 

camsyniata. Dicyn bach yn ol, ma'n depig, iddo fa i alw yn Offis y DARIAN ar i ffordd sha thre o rasus Henffordd. Fe ath e a'i bartnar  sha'r rasus, a fe berswadws rhyw bwcmecar y ddou i roi dwy bunt ar geffyl odd yn rhytag, a fe ennillws y ddou wyth punt ar hucian yr un. Fe gyfaddefws y prytydd nad odd a ariod weti gamblo o'r blan, a w i'n i gretu a, blecid os yw'r prytydd yn rhwpath, ma fa'n eirwir ac yn onast. Tawn i'n byrgethwr fe gishwn ddangos fod gamblo'n bechod, a fe allwn neud hynny'n rhwydd er nad w i'n byrgethwr, a ma'n ddrwg da fi weld bechgyn Cymru yn cwmpo i hen bechota'r Seison. Ond fel prytydd w i'n sgyrfennu. Odd ar y gnath Dewi Aur fi'n brytydd isht ag e i hunan pan rows e'r resait i fi i yfed Nectar, w i'n timlo'n anghomon dros y prytyddion, nenwetig os gnan nhw rwpath mas o le, ne os gweta rhwun gelwdd am denyn nhw. Yr unig geffyl w i'n folon i brytydd i neud dim byd ag e yw Pegasus. Ceffyl ag adenydd, ac yn hedfan sha'r nefoedd. W i'n ddicon bolon i chi, roi'ch arian acha unrhyw geffyl sy'n rhytag, neu'n hedfan, sha'r nefoedd. Ac os nag ych chi yn y nghretu i, whilwch chi, a fe ffindwch mas taw miwn direcshiwn arall y ma rasus John Bwl.

 

Y camsynad arall ma'r prytydd caretig weti neud yw cretu taw'r Golycydd yw'r Tramp. Ma da'r Golycydd ishws ddicon i apad am dano fa heb roi drwg na da y Tramp ar i gefan a. Brytydd annwl, dishgwlwch ar ym llun i unwaith yto. Pob parch i'r Golycvdd, ond fu a ariod, a ddaw a byth, mor hanswm a'r Tramp. Dw i ddim am friwo timlata Moelona wrth weid peth fel, hyn, ond y gwir yw'r gwir, weti'r I cwbwl, a'r gwir a saif. Fe ddath y prytydd a ffon gollan biwr i'r offis i'r Tramp — a rwy weti i chal hi, a thanciw fowr am deni, fe fydd yn shaw o help i fi, wath dw i ddim yn mynd yn iangach, fel ma gwitha'r modd - a phan welws boys yr offis chap tal, sgyrnog, a ffon fowr yn i law a yn dod miwn, dyma nhw yn i baglu hi hiltar sceltar i bob man, a ddethon nhw ddim nol y dwarnod ni, blecid fe gretson fod y dyn diarth yn mynd i gymryd "direct acshion." A ma nhwnta'n bwcwth "direct acshion" am fod y gaffar weti cropo hannar tyrn arnyn nhw am rytag sha thre miwn ofon y prytydd. Dyndishefoni! Dos dim isha i neb ofni prytydd, ffon ne bido. Fe halws y prytydd farddoniath neis iawn gita'r ffon, a dyma fe, a gita hyn w i'n cwpla. W i isht a phyrgethwr, w i'n lico cwpla gita phishyn o rytyddiath, os galla i: _

 

I ofal Gol. y DARIAN,
Mi roddaf ffon o gollan,
Fel byddo'n amddiffynfa gref,
I'r Tramp yn Hydref oedran.

Mi welais yn ddiweddar
Rai'n lliwio'r Tramp yn hagar:
Pe gwelai'r lliwiwr liw ei hun,
Ni wnelai lun mor sgelar.

Mae'r Tramp yn eitha' trwmpyn,
Yn wr o ddoniau dillyn;
I'r sawl wna englyn o liw'r tàr,
Rhoed ffôn ar wàr y sgelffyn.

Rwy mor siwr o neud a mod i y

TRAMP, O.B.E.

Hol-notiad. — Chaiff Dafydd y Crydd ddim dianc yn ddisylw am beth wetws a am dano i yr wsnoth ddwetha. A fe fydda i isha'r DARIAN i gyd i fi mhunan yr wsnoth wetny — yr  adfertisements a chwbwl, i apad Ilythyr agored Herbert Kenvyn. A ma sopyn o bethach erill ar y meddwl i. Allwch chi ddim dod a'r DARIAN mas ddwy waith yr wsnoth?

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6581) (16 Hydref 1919)

Y Darian. 16 Hydref 1919.

TRAMP Y DARIAN, O.B.E.

Cadw oed ger y goeden, — y byw Dramp

O dre sy'n cael hamdden;

Y bib ddwg i'w wyneb wên,

Ymofyna am feinwen.

Talgareg. AP DULAS.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6540a) (23 Hydref 1919)

 

Y Darian. 23 Hydref 1919.

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir A. Kenvyn, Ysgweiar,—

W i'n timlo mod i'n bownd o nuthur sylw o'ch llythyr i fi yn y DARIAN ddwetha. Rodd a'n llythyr biwtiffwl, ac yn y mhleso i i'r dim, a fe'i darllenas a lot o witha isht a darllan Salm, a dw i ddim weti cwpla cal blas arno fa yto. A w i'n lico "llythyr agored" yn embyd. Rhyw gico'r post i'r parad glwad odd ych amcan chi, ond te fa nawr? A chretwch chi fi ma nhw'n siwr o glwad, hed. Ma da fi barch mowr i chi, achos ych bod chi'n Gymro, ac yn gallu sgyrfennu Cymrag mor biwtiffwl, a chitha weti bod off yn y gwletydd pell am shwd lot o flynydda. Beth ta Dafydd y Crydd yn gallu sgyrfennu cystal Cymrag a chi, fysa dim byw dag a. Mi fysa a'i fynawyd yng nghrwpar Syr John Morris, Sam yr Halier, a finna, bysa wir. W i'n ych hetmygu chi hed am ych bod chi weti dod ymlan yn y byd ma. Fe wespwd wrtho i ych bod chi'n werth cannodd o filo'dd, a'ch bod chi weti neud pob cinog yn y pum mlynadd dwedda gita llonga, a'ch bod chi'n rhoi'ch "swllt las" ymhob cwrdd sydd gita'r Cymregyddion yn ych tre chi. Meddyliwch o brysur, nawr, dyna beth yw dod ymlan! Bachan bach o Gymro, weti cal i eni heb gymint a chrys ar i gefan, yn werth canno'dd o filo'dd! W i'n ffond o honoch chi, hed, am ych bod chi'n blongad i'r enwad hwnnw ma nhw'n galw Iconoclasts arnyn nhw. Ond fel dyn o dast w i'n ffaelu diall ffor ych chi ddim yn lico'n llun newydd i, dyn, blecid ma fa run gewc a fi'n gwmws. W i am i ddarllenws y DARIAN i gal syniad reit shwd un w i o hyd, fel ma'r blynydda'n mynd dros y mhen i. Ma blynydda oddar y tynnwd ym hen lun i, a ma dynon yn altro gita'r blynydda, a ma lIunia, isht a almanacs, yn mynd mas o ddet yn waff iawn. Dw i ddim isha misledo'r pyblic mod i'n ifancach nag w i. W i'n sylwi fod rhai o'n dynon mowr ni pan ma nhw'n cal u llunia yn y papura a'r cyhoddiata mishol, yn hala hen lunia dynnwd er's ucian mlynadd. Twyllo'r pyblic yw hynny, a dyw a ddim yn reit. Ma'n llun i yn dangos shwd un w i heddi. Rych chi, Mishtir i Kenvyn, yn ych llythyr yn son am ryw Dodo, George Borrow, ac erill. Wn i ddim byd am yr un o honyn nhw. Ta chi yn enwi rhwun o'r Beibl, Taith y Pererin, ne'r Tadau Methodistaidd, mi fyswn yn gwpod pwy sy da chi, ond gan ych bod chi'n mynd tu fas i ngwybodath i, alla i ddim gweid a otych chi'n reit ne bido. Gita golwg ar brif gaish ych llythyr biwtiffwl chi, sef mynd sha Charffili unwaith yto i ddoti pethach erill yn reit yno. Fe welas rwun ne rywrai yn sgyrfennu yn y ddwy

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6540b) (23 Hydref 1919)

 

 

DARIAN ddwetha, ac yn achwn nad odd pethach ddim fel y dyla nhw fod yn Nhre'rcaws. Ma'n ddrwg da fi glwad, blecid own i'n cretu mod i weti setlo popath am byth yn yr Incweiari fowr gynhallas i yno. Ma'n ddrwg da fi na alla i ddim dod sha Charffili, jyst nawr, ond mindwch chi, dw i ddim yn gweid na ddwa i, ac os dwa i, fe ellwch chi fentro y gna i rai yno "to toe the line," ys gwedwn ni. Rown i'n ffili diall shwd odd Mishtir Salathiel weti dod i wpod am yn enw i pan halws a'r teligraff i'm moin i o Bertawa, blecid rodd Ifan Griffis weti gweid wrtho i nad odd a ddim yn pyrnu'r DARIAN. Rodd yn dda da fi glwad i fod a weti cal i apwynto'n sgyrfennydd Cymdithas Ryddfrydol Cymru, a w i yn i longyfarch a, gwetwch wrtho fa; a gwetwch wrtho fa, hed, os yw am i'r gymdithas i fod yn rhwpath blaw enw, fod yn rhaid iddo fa ddarllen y DARIAN yn ofalus bob wsnoth, yn ogystal a chyhoddiata Cymrag erill, er mwyn iddo fa i gal gwpod ble ma fa'n sefyll miwn perthynas ag anghenion a delfryta'r genedl. Nid ym mhapura Sisneg Cymru y ma timlo pyls y genedl. All neb fod yn Gymro miwn ysbryd a thimlad heb fod yn Gymro miwn iaith, ac ar lenyddiath Gymrag y ma magu gwlatgarch a chenedlitholdeb Cymrag. W i'n dala o hyd na all neb fod yn Gymro llawn heb ddarllan y DARIAN. Rych chi hed yn achwn fod y gas yn brin, a'r gole'n dlawd, yn nhre Carffili. Dw i'n synnu dim, ma'r gas yn y bobol, ac nid yn y metars, a phwy ryfedd fod y gole'n dlawd, a'r dre'n dywyll, dim ond rhyw hannar cant o'r DARIAN sy'n dod iddi bob wsnoth! Fe ddyla tri cant ddod bob wsnoth atoch chi. Fe gelech ddicon o ola wetny. Beth ta'ch Cymregyddion chi'n neud ticyn yn y lein yna.

 

Rych chi, hed, yn cisho da fi i alw hibo'r Parch. J. N. Jones a'r Bonwr Idris Davies, cadirydd a sgrifennydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, i'w dihuno nhw o'u cysgadrwdd, fel y galwont y Cyngor at i waith. Fe weta wrthoch chi'n gwmws shwd w i'n timlo gita golwg ar hyn. Dw i mhunan ddim yn lico cal y nistyrbo nes mod i weti cal y nepyn mas, a licwn inna ddim distyrbo'r ddou fachan piwr ych chi weti enwi. Watshwch chi fe ddihuna'r boys, mas law, o honyn nhwy'u hunen, a fe ddihunan nhw'r Cyngor wetny!

 

Pwy wetws wrthoch chi'r, dyn, nad w i ddim yn blongad i eglwys gaeth na rhydd? Own i'n meddwl fod pawb yn gwpod taw Wesla w i. Rwy'n cretu miwn syrthiad odd wrth ras, ac yn gweld rhai na sy'n cretu'r athrawiath yn syrthio odd wrth ras rownd abowt, gwitha'r modd.

 

Madduwch i fi am sgyrfennu llythyr mor hir atoch chi, dodd da fi ddim amsar i sgyrfennu llythyr byrrach. TRAMP, O.B.E.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6564) (23 Hydref 1919)

 

Y Darian. 23 Hydref 1919.

 

TRAMP Y DARIAN.


Tramp tirion. glan, a gonest yw,
Dan  wenau ffawd o hyd yn byw;
Rwyf yn difyrru f’hun yn lân,
Bob wythnos bron o flaen y tân.

Wrth ddarllen llith y teithiwr blin
Wrth fôn y goeden arw grin,
A'r DARIAN yn ei law yn shwr,
Yn wen i gyd, dalentog wr.

Crydd Dewr y Mynydd Du.

Gwynfe.

 

 

 

A picture containing text

Description automatically generated

(delwedd J6541a) (30 Hydref 1919)

 

Y Darian. 30 Hydref 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, Fe ginta i chitha, fel finna, ddarllan beth wetws Dr. Voronog — a  myn hyfryd i, dyna i chi enw! Pam na ddodiff y fforinars enw ar i giddil y gall dynon u gweid nhw’n iawn, isht a ni'r Cymry? Ma pob un, ta faint o scolar yw a, yn gallu gweid John Jones - yn y papura sha pythewnos yn ol, i fod a weti ffindo ffordd i nuthur hen bobol yn bobol ifinc, drw dorri pishyn o'u cnawd nhw mas, a dodi pishyn o gnawd mwnci nol yn i le fa. Ma'r matar yn un pwysig iawn, a fe ddyla fod gita ni rwpath i'w weid arno fa, a fe ginta fod darllenwrs y DARIAN, a chitha, yn dishgwl i fi weid rhwpath, blecid os na sgyrfenna i, pwy naiff. Ond sdim o fi'n gwpod yn iawn beth sgyrfenna i, blecid ma shwd lot i'w weid pro et con — Latin yw hwnna, a phidwch chi a'i scratcho fa mas, blecid ma fa'n itha reit mynta  Herbert Kenvyn, y fe dysgws a i fi. Gan mod i'n dicwdd bod yn aros yn Glan yr Annell gita'r gwrbneddig, Mishtir E. T. Griffiths, yn un o'i shwtin parti a, pan ddarllenas i sylwata Dr. Voronoff, fe ofynas iddo fa i nreifo i yn i fotor car sha Llandrindod i fi gal consylto Dr. Thomas, Trecawcwn, odd yno'n ricriwto'i iechyd, gita golwg ar i fi fynd o dan oporeshion Dr. Voronoff. Fe ddylwn weid ma Dr. Thomas yw Noctor i odd ar y torras i lawr slawar dydd wrth roi Halderman Howells miwn ar y Cownti Cwnsil.

 

"Doctor," myntwn i, "gan mod i'n mynd ymlan yn ddiogal ar ym oetron, otych chi'n gweid y dylwn i fynd o dan opereshion Dr. Voronoff. Beth ych chi'n weid?”

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6541b) (30 Hydref 1919)

 

 

"Otw be siwr," mynta fa, "a cherwch ar unwaith, hed, a gwetwch wrtho fa mod i'n gweid am stico cwt y mwnci, a nid gland, arnoch hi, a dyna chi yn dragwyddol ifanc, blaw bod yn f----.”

 

Fe adawas i y Doctor miwn disgyst blecid fe welwn i fod a weti bod yn Rock Park Spa yn yfad yn drwm y bora hwnnw. Wn i ddim pwy bart o'r mwnci wetws a wrth Mishtir Griffiths am gymryd, blecid fe ballws wed wrtho i. Wi weti pendarfynu na yfa i ddim rhacor o foddion Dr. Thomas fe farw'n gynta!

 

Fe wetws rhw ddyn mowr slawar dydd bod dyn weti dod o'r mwnci, ac wrth weld antics amball un, ma'n hawdd da fi gretu; ond ta beth am hynny, ma hi'n dishgwl yn depig iawn nawr yr awn ni i gyd yn fwncis mas law os yw dysgeidiath Dr. Voronoff yn reit. Gan y bydd y mater yn cal i drafod yn y C'yrdda Mishol, a'r Cyrdda Cwartar, ac yn y Parlament hed, ¡ blecid fe fydd yn rhaid i'r Gyfarment nuthur sylw o hono fa, na i ddim ond twtch ag a, jyst i acor llycad y wlad. Ma na fontishion ac anfontishion yn y peth. Meddylwch am y nghes i mhunan. W i weti mynd ymlan getyn miwn oetron, a weti bod am flynydda meithon a nghwt yn y dwr, fel y gwetwn ni. Nawr w i miwn posishiwn lled dda, ac weti dringad dicyn yn uchel fel jyrnalist a pyblic man; ond yn ol y drefan fowr, fel ma hi nawr, fe fydd yn rhaid i fi sychy "llyw a brenin yr holl beiriannau” mas law. Fe fysa’n neis iawn i fi gal ucian mlynadd yn rhacor i enjoio ffrwyth ym llafur calad, ac i wasnuthu nghenetlath. Dyna un fontish. Meddylwch wetny mor brin yw'n dynon mowr a da ni, a'u bod nhw'n marw cyn yn bod ni'n barod i'w sparo nhw.  Y fath fontish fydda cal u catw nhw am ucian mlynadd arall. Dyna Lloyd George, ma pob un o ddarllenwrs y DARIAN yn barod i lywo i fod a'n ddyn mowr. Oti, ma, fa, a fe weta racor, ma fa'n ddyn da, hed. Peta'r Brenin Mowr isha mish o ffyrlo, dw i ddim yn gwpod am neb alla gario'r consarn ymlan ond Lloyd George.  Miwn ffordd o whilia, dyw a ddim ond ifanc, yto ma nhw'n gweid wrtho i i fod a ishws yn hen ddyn. Ma'r ffact yn ffaith na allwn i ddim ffordo'i golli a am flynydda meithon. Y fath fontish fydda cal i gatw a am ddeg mlynadd ar ucian yto, ond chawn ni ddim o hynny os nad all rhwun i berswato fa i fynd at Dr. Voronoff i ddoti pishyn o gnawd mwnci yndo fa. Ma rhai yn gweid fod dicon yndo fa ishws. Dyma i gyd weta i, peta mwnci cyfan yndo fa, wetny fe fydda'n fwy o ddyn na'n hannar ni. Byw byth y bo fa, weta hi, mwnci ne bido.

 

Meddylwch yto shwd help i glotion i gal bywoliath fydda magu mwncis, blecid fe fydda. isha shwd lot bob blwyddyn. Chaiff clotion ddim catw moch, ond fe gelen gatw mwncis, a fe alla'r rhai sy'n catw cwn nawr gatw mwncis yn u lle nhw.

 

 

 

A close up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J6541c) (30 Hydref 1919)

 

 

 Fe allwn i enwi dwsin o fontishion erill ond ma'n rhaid i fi symud ymlan i sylwi ar rai o anfontishion y peth, a  dyma un o honyn nhw. Os bydd dyn weti nuthur i ora i fyw fel y dyla fa am dri ucian a deg, ne petwar ucian mlynadd, a chisho cal erill i nuthur yr un peth, ma'n bryd i hwnnw i gal promoshiwn, blecid ma fa weti nuthur i "bit." O’r ochr arall, os bydd a weti bratu tri ucian a deg, ne racor, o flynydda, gan adal hen dawch cas ar i ol, ble bynnag yr a fa, ma'n bryd i scrapo fa i'r domen, a diolch fod gita’r Brenin Mowr domen i'w sort a.

 

Meddylwch yto am gesis isht a hwn. Dyna Dafydd Niclas, Llanfapon, yn talu grot yr wsnoth o Shiwrans ar fywyd Brynfab, odd ar y buws a'n dost slawar dydd. Wrth gwrs dyw Brynfab ddim yn gwpod fod Dafydd weti i inshiwro fa. Ma fa ishws weti talu miwn sopyn yn fwy nag a gaiff a mas, ta Brynfab yn cau i gyllath fory. Meddylwch, o brysyr nawr, fod Brynfab yn mynd miwn am slishan o gnawd mwnci — a slishan fach fitw fydda isha i neud Brynfab yn Methuselah — faint o docins baco olycai hynny i Dafydd Niclas, blecid ma fa'n smocwr trwm. Dyna'r unig beth y clwas i Mrs. Niclas yn achwn arno fa. Wetny, dyna Dafydd y Crydd. Ma Dafydd yn dod o dulu lled apal, er i bod hi'n ddicon teit arno fe i gal dou pen y llinyn at i giddil, heb son am roi cwlwm dolan fowr arno fa. Ma Dafydd, os blynydda, yn dishgwl am gal mynd i scitcha hen ewyrth iddo fa - yn lle gwishgo'r scitcha i a'm sort, fel ma fa'n nuthur nawr. Beth ta'r hen ewyrth yn mynd miwn am bownd ne ddou o'r mwnci, a byw am ucian mlynadd yn rhacor! Beth ddela o Dafydd, pwr dab!

 

Unwath yto, meddylwch am yr old age penshionars. Pob un o honyn nhw yn byw am ucian mlynadd yn hwy na nawr! Ma'r rhaid i'r Gyfarment i gitcho yn y broblem. O ble i ni'n mynd i gal arian i'w catw nhw, a chaniatau i bod nhw'n werth i'w catw! Otych chi'n gweld seriwsnes y peth. Fe ddylach chi, syr, sgyrfennu lidin articl ar y matar i Lloyd George, i gal i ddarllen a, blecid ma fa'n darllan y DARIAN, a ma'i hol i arno fa, hed.

 

A dyna'r Howsin Problem. Ma hi'n ddicon drwg nawr, fe fydda'n fwy seriws wetny. Ar ol ystyriath fanwl w i'n dala'n gryf fod yn chepach i ni dorri bedda na chwnnu tai.

 

Fel clasgad odd wrth yr hyn a wespwd, w i'n gweid os otyn ni yn mynd i fapwshiatu'r peth, y dylan ni drenfu ne apwyntio Tribunals i setlo pwy sy i fynd o dan yr opereshion, a phwy sy i bido mynd, blecid allwn ni ddim ffordo gatal i bawb fynd, ne dyma ble byddwn ni yn o's oesodd, ac os w i miwn ordor, wy'n cynnig nag i ni ddim yn mhyrath a threfniata'r Brenin Mowr.

 

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Nbtiad. - W i'n sylwi fod lot o lefydd yn dishgwl am dano i. Ma gita fi shaw o heyrns yn y tan, ond fe ddwa i hibo i chi i gyd mas law. W i weti darllan henglynion Hap Dulais a Halaw Sylen, a w i jyst a dysgu'r ddou henglyn ar y nghof. Hyd hynny, brytyddion, byddwch bethma.

 

 

 

.....

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd B2164) (6 Tachwedd 1919)

Y Darian. 6 Tachwedd 1919.
Llith y Tramp.




 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, - Ma picil y byd ma jyst a’n hala i yn benwan, oti myn hyfryd i! A w i’n siwr fod Lloyd George, hed, yn timlo’n gwmws isht a w inna’n timlo, blecid yn yr un lein y ma fe a finna’n gwitho, gita hyn o waniath mowr, i fod e’n cal £5,000 y flwyddyn o hur, blaw ofar teim, a finna’n cal - ond cystal i fi bido gweid, rhag ofon iddi fynd yn streic yto. Gita mod i weti dodi un peth yn reit, a chitcho miwn rhwpath arall, dyna’r peth cynta i lawr yn slachtar. Own i’n meddwl mod i weti dodi “trefn a dosbarth,” ys gwetws Mishtir Kenvyn, ar bopath yng Ngharffili, pan fuas i yno slawar dydd, a dodi’r cwbwl yn daclus yn llaw Hinspector Griffiths, ond fe gas yr Hinspector yr Hinffliwensa, a fe ath popath yn shang di fang yno, fel y gwelsoch chi odd wrth y llythyron ymddangosws yn y DARIAN. A dyna jobyn da fod y DARIAN i gal, ne fyswn i ddim yn gwpod fod pethach miwn shwd stat yno. Pan ddarllenas i y llythyron o bothtu Cymregyddion Carffili rown i’n dicwdd treulo haff holide gita Dafydd y Crydd. J.P., ar yn ffordd sha Llansamlet, a gorffod fi i ofyn iddo fa am fencyd y teliffon i hala at Mishtir Richard Jones i ddod i’m moin i sha Charffili. Fe halas at Dr. Thomas, hed, i nghwrdd i yno, i dimlo pyls yr hen Gymrag. ac at Mishtir R. R. Morgan i ddod i sgyrfennu i hwllys i mas, blecid wrth don y llythyron, rodd hi’n mynd i gico’r bwcad. Ma gita’r hen ledi lot o broparti, hyd yn o’d yng Ngharffili. A fe ro’s ordars i’r Hinspector i hala symonsis i bersona neilltuol i nghwrdd i yn Festri’r Cymregyddion, ac i Mishtir J. D. Hughes i sgyrfennu verbetim riport miwn short- hand, a’i dransgreibo fe wetny i fi i gal i hala fe i’r DARIAN. Felny buws hi, a fe gwrddws pob un a fi yn y Festri. Ar ol gweid cwpwl o eire pwrpasol i’r amgylchiad pwysig, fe ofynas i’r Hinspector os odd y witneson yno i gyd.

“Otyn, syr,” mynta fa.

Tramp, O.B.E.: Arweinwch y “Gymraes” ymlan yn gynta, te, Hinspector, a phidiwch a’i handlo hi’n ryff, er i bod hi weti trin rhai o aelota mwya delicat y Gymdithas yn ddicon trwsecwl.”

Hinspector: Ma’r Polis weti ffili cal gafal yndi, syr, er yn bod ni weti whilo pob twll a chornel ymhob Lodgin Hows sy yn y dre. Ma gita ni amcan pwy yw hi, ond ma isha rhacor o efidens cyn citcho yndi hi.

Tramp: O’r gora, Hinspector. Galwch ar Mishtir Herbert Kenvyn, Ysgweiar, ymlan, te. Thanciw. Beth sy da chi i weid, Mishtir Kenvyn, mwy nag ych chi weti weid ishws. yn y DARIAN?

H. Kenvyn: Hyn yn unig, syr, fod rhyw surau cas yn eplesu yn ei stymog hi. A phan gaiff yr Inspector afael arni, cynghorwn ef i fynd a hi at Dr. Thomas yn ddioed, a bydd yn hyfrydwch gennyf danysgrifo swllt las tuag at y draul o’i gwella.

Tramp: Celyn yn nesa. Thanciw. Mistir Celyn, citchwch yn swllt las Herbert Kenvyn, a disgwlwch i bod hi’n olreit. Fel cyn-sgyrfennydd y Gymdithas beth wetwch chi?

Celyn: Fod cyfansoddidad a gweithrediada’r Gymdeithas yn hollol werinol. Sut, yn eno’r dyn, y mae cal gafal ar Gymry pypyr i gwarfod i ddewis swyddogion, a thynnu rhaglan, ond drwy hysbysiad yn y capeli Cymraeg a Saesneg. Nid oes raid bod yn Anghydffurfiwr i fwynhau breintiau’r Gynideithas, eithr j yn unig teyrngarwch i’r Gymraeg. Ac os nad yw’r “Gymraes yn mynychu lle o addoliad Cymraeg, gan ei bod mor eiddigus dros yr iaith, os nad oes


 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd B2164b) (6 Tachwedd 1919)

rwystr cyfreithlon yn ei hatal i addoli’n Gymraeg, tawed, rhag cywilydd,

Tramp: Ffamws, Celyn! Dyna’i deyd hi! Hinspector, y Parch. J. N. Jones nawr, os gwelwch chi’n dda. Thanciw. Mishtir Jones, er nad yw’r “Gymraes” yma heno, yto fe lica gal gwpod pam nad yw’r persona ma hi’n enwi weti cal ishta yng Nghatar y Gymdithas? Ma hi’n darllan y DARIAN. Gwetwch wrthi.

Parch. J. N. Jones: Syr, os yw’r “Gymraes” yn aelod o’n Cymdeithas, y mae eisoes yn gwybod. Os nad yw, ymaeloded, a chaiff wybod.

Tramp: Piwr digynnig, myn asgwrn i! Megfam yw nesa, Hinspector. Istwch lawr, Megfam. A chi sydd weti sgyrfennu “Plant y Pentre.” Ma’n dda da fi gal shiawns i’ch nabod chi! Shiglwch law, dyn! Rych chi’n getyn well Cymraes na’r “Gymraes” arall na, ta beth. Beth sy da chi i weid?

Megfam: Fe allwn i weid sopyn, fel y gwyddnch chi, tawn i ond dechra. Ond alla i ddim trysto mhunan pan ma rhwun, a honno’n “Gymraes,” yn taflu slwdg ar y Gymdithas sy mor annwl gen i. A pheth arall ma meddwl i’n rhw lawn o’r ddadl sydd i fod rhynto i a Mr. Pryce Evans ar Tach. 14. Fe gaiff e gystal cotan gen i ag a gas e ariod, a fe gas e rai tost gita’i dad, slawar dydd. W i’n gallu wado’n gas, ne gofynnwch chi i Will ni, ne Dewi Aur!”

Tramp: Rhynt gwyr Pentyrch a’i giddil, weta i. Hinspector, y Parch. J. R. Evans, Cadirydd y Gymdithas. Mishtir Evans, llongyfarchiata i chi fel llywydd Cymdithas mor enwog. Meddylwch mn ych blaenoriaid, blecid ych chi miwn olyniath apostolaidd, fel w i’n diall. Ma’r “Gymraes” yn gweid taw pyrgethwr Sisneg ych chi. Oti hi’n gweid y gwir?

Parch. J. R. Evans: Nac ydyw, syr. Mae’r tystion geirwir ydych wedi holi eisoes wedi profi fod yna lawer o terminological inexactitude yn ei llythyrau bustlaidd. Pregethwr Cymreig wyf, ond fy mod iwso geiriau Seisneg yn yr hwyr.

Tramp: Y Parch. Pryce Evans, nawr. Hinspector. Thanciw. Mishtir Evans— ond Hinspector, beth yr hancyffo ma sydd ar ddwylo Mishtir Evans?

Hinspector: Megfam odd yn gwirio wrtho i na ddela hi ddim i roi efidens, os nad own i’n rhoi hancyffs ar ddwlo Mishtir Evans, achos rhw ddatl sydd i fod rhyntyn nhw yn y Gymdithas.

Tramp: Typad nad mysl ddylach chi roi arno fa te. Ma llawar yn barnu y dyla fa fod weti cal i fyslo os llawar dydd! Ond Mishtir Evans, “Gymraes” isha gwpod shwd y cesoch chi Gatar y Gymdithas, a chitha’n wnitog Sisneg?

Parch. Pryce Evans: Yr un modd yn union ag y cawsoch chwithau, syr, yr O.B.E. — teilyngdod — teilyngdod, syr!

Tramp: Hinspector, gwetwch wrth Tafwys am lifo shag yma, a mindwch ych tra’d! O’r gora. Ond dyn di shefon i, own i’n meddwl fod rhacor o honoch chi na hyn! Beth sy gita chi i weld am brecath Sisneg Elfed yn ych cyrdda chi?

Tafwys: Yn herwydd hynny, ac i’r Cymreigyddion i fanteisio ar ei ddyfodiad i’n gwyl bregethu i agor y Gymdeithas am y gaeaf, fe yrrodd “Ymdeithydd” a’r “Gymraes” at Mr. J. H. Thomas i alw ar yr y rheilffyrdd i ddod allan a’r streic y nos Wener cyn ein cyrddau, fel protest yn erbyn pregeth Seiseg Elfed. Teimlaf y dylai’r wlad gael gwybod gwir achos y streic gostiodd iddi £10,000,000. Yr “Ymdeithydd” a’r “Gymraes” sy’n gyfrifol, ac fe ddylid eu gorfodi i dalu pob dimai yn ol i’r Ganghellor y Trysorlys.”

Tramp: Hinspector, mindwch chi u bod gneud, a galwch ar Mishtir A. Jenkins, B.A., ymlan. Mishtir Jenkins, ble ma’r “Ymdeithydd” a’r “Gymraes”? Os oes rhywun yn gwpod, chi yw hwnnw.

A. Jenkins: Gwn, yn burion. Fe aeth y ddau i ffwrdd i’r Rhydri i ladd llygod ffrengig wythnos y Rat Catching Campaign, a ma nhw’n bwriadu priodi cyn dod yn ol, a ma nhw isha i’r Gymdeithas roi te croesaw iddynt ar en dychweliad o’u mis mel.”

Ar ol diolch i’r witneson, ac i’r Hinspector, a Mishtir J. D. Hughes, am u gwasanath, a phaso fot o gidymdimlad a Ifan Griffis yn i afiechyd, fe ymnellduws yr Hinspector, Mishtir Hughes, a finna i neud yn riport ar chargis y “Gymraes” ac “Ymdeithydd” yn erbyn Cymdithas Cymregyddion Carffili, a dyma fe — Fydg!!

Hol-Notiad.—Yr wsnoth nesa fe fydda yn Llansamlet (D.V.). Haliwch y nghorespondans i i Parcyderi, yn enwetic bopath fydd weti i seino gita, “John Bradbury.” Ma Halderman Jordan weti hala ato i i ddod i droulo wsnoth ne ddwy ato fe. Odd yno y sgyrfenna i nesa, ma’n lled depig.

 

 

None
(delwedd B2160) (13 Tachwedd 1919)

Y Darian. 13 Tachwedd 1919.

Llith y Tramp.


 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Golycydd, - Fe fydd yn glondid mowr i chi glwad mod i weti setlo pethach unwaith yto yng Ngharffili; a chan fod yr “Ymdeithydd” a’r “Gymraes” weti prioti, ac weti bod yn treulo wsnoth o fish mel yn Rhydri yn y Rat Killing Campaign, a ennill costa’r briotas, a’r hynimoon, wrth ladd llycod, dos dim dangar iddyn nhw gwnnu rhacor o hen grach ar Gymdeithas Cymregyddion Carffili. O hyn i mas, os bydd isha cwnnu crach arnyn nhw, a fe fydd ,blecid ma fa yn u gwad nhw, a hen weddal Sisneg yn gweid, “What’s bred in the bone, etc.” ond pidwch chi a mindo dim, crafu i giddil nan’ nhw, ta beth, felna w i weti gweld partion ffreullyd ar ol prioti. Ond er u bod nhw, drw’u llythyron i’r Dalian, weti upseto nhrefniata i gita golwg ar fod yn Llansamlat yr wsnoth dwetha, yto w i o wilod y nghalon yn dymuno iddyn nhw “Mani hapi rityrns of ddy de,” a beth alla i weid yn rhacor? Ma Mishtir Daniel Evans, Adferteisment Centractor, a Whythwr Organ y Twyn (pro. tem.), hed yn dymuno’r un peth iddyu nhw, a fe halws y pishyn hwn o brytyddiath i fi i’w roi a yn y DARIAN:

“Yr ‘Ymdeithydd’ a’r ‘Gymras,’
Un yw’r ddou o hyn i mas;
Os dicwdd i’r ‘Ymdeithydd’ farw,
Y Gymras fydd wetny’n witw.”
Daniel Evans a’i cant.

Wrth gwrs, alla i dim i brofi a, ond w i’n cretu’n howld ffast ta Celyn, Elfryn, ne n ast ta Celyn. ne Kenvyn, nath y pishyn i Daniel, blecid pa mor sofft bynnag yw Daniel, ma fa yn ddicon call i bido plago dynon a phrytyddiath. W i weti cal y’n llwyr argoeddi y bydda’r hen fyd ma yn “fit for heroes to live in” ta ni’n cal gwarad o’n prytyddion a’n politishans. Ta beth, ar ol cwpla ngwaith yng Ngharffili, fe startas off sha Llansamlat gita Mr. Richard Jones yn i fotor car. Fe wetas wrthoch chi, getyn yn ol, i Mishtir Jones byrnu holl god Shir Drefaldwn, ond y cod fala, cod cyrans a gwsbris, a’r cod cidnabens. Nawr, ma fa weti pyrnu pob coedan sy yn Llansamlat, Birchgrove, Treforis a Landwr, a fe wyddoch chi, syr, shwd ardal goedog yw hon. Pan wetws Mishtir Jones wrtho i beth odd i negas e yn Llansamlat a’r cylch, fe etho i stwmp, a fe widdas mas ar dop yn llaish yn Sisneg, “Woodman, spare the trees-” “Arbetwch y cod,” myntwn i, “er mwyn y brain, llwytod y to, J.J., Eilir Mai, Gwilym Bedw, Crymlyn, Ap Perllannog. Gwyrosydd, Gwerllannydd, a’r a adar erill, ‘tw niwmeros to menshion,’ sy’n canu mor felys rhwng colfenni cod yr ardal.” A phan ddetho i dicyn bach yn fwy i mhunan, fe ofynnas iddo fa’n seriws os nad odd a’n meddwl i fod a’n mynd i spwylo gwaith y Brenin Mowr wrth dorri cod yr ardal? “Blegid,” myntwn “ych chi’n gwpod yn gystal a finna fod y llefydd hyn yn ddicon salw ishws, heb i chi i fynd i’w gneud nhw’n wath. Dim yn amal y bydda i yn dablach dim a Natur, ond os dicwdd i fi drio’n llaw, er mwyn imprwfo ticyn ar waith y Brenin Mowr y bydda i’n gneud, ac nid er mwyn i spwylo fa isht a chi. Myn hoson i, bob tro w i’n paso drw’r llefydd hyn w i’n timlo fel ta’r Brenin Mowr web colli i law ar nuthnur ardal bert, ne fel ta Fa weti towlu’r ardal at i giddil o’r spariwns odd dag ef ar ol weti cwpla’r gwaith o nuthur Cymru.”

“Dyna ble, ych chi’n camsynad,” mynta Mishtir Jones yn ol wrtho i, “imprwfo gwaith y Creawdwr Mowr w inna’n mynd i neud. Ma’r holl god sy’n Treforis, Landwr, etc., yn cwato’r glaswallt a’r blota odd wrth yr howl [sic; = houl], a w i’n mynd i dorri’r cod lawr, wetny fe gaiff y blota a’r houl shiawns i smeilan ar i giddil, beth nag u nhw’n gal nawr. Ac ar ol fi fynd a’r cod sha thre i gyd, w i’n mynd i bresanto’r Corporeshwn a hannar tynnall o hata clofars, i’r prytyddion ych chi weti enwi, a’r rhai nag ych chi wpti emri, i gall cered yn u slippars o forocco cochon, yn lle cered yn y slwdg, fel ma nhw’n gorffod nuthur nawr, pwr dabs! A hed, rhoi shiawns iddyn nhw i gatw cwningod, gan fod u rashiwns cig nhw mor brin. Dyna mhlan i.”

“Falla’ch bod chi’n reit i feddwl am y prytyddion, er ta ‘nesesari efils’ i’w nhw, yn ol y marn i. Ond grondwch, ma na bethach erill sy’n peri lot o ofid i fi pan feddyla i am y rât ych chi’n torri’r cod i lawr drw’r wlad i gyd. Rych chi’ch hunan weti gweid wrtho i na fydd dim un goedan yng Nghymru, ond cod fala, cyrans, gwsbris, a cidnabens, miwn pum mlynadd, nag yn y byd, yn ol y rât ma nhw’n cal u torri lawr nawr. Odych chi’n darllan, ac yn cretu’r Beibl, Mishtir Jones?”

“Ma’n ddrwg da fi orffod cyfadda nag w i ddim yn darllan cymint arno fe ag a ddylwn i o getyn mowr. Ma’r Ledgar, y Banc Bwe, a’r trampan o bothtu’r wlad i whilo am god i’w torri, yn mynd a’n amsar i i gyd, ond w i’n i gretu e bob gair. A’r hyn sy’n bwysig i chi a finna yw, nid yw bod ni’n i ddarllan a, ond y’n bod ni’n i gretu a, a w i yn i gretu a bob gair, otw wir.”

“O’r gora, Mishtir Jones. Gan ych bod chi’n cretu’r Beibl, os nad yn i ddarllan a, beth sydd i ddod o’r hen ddiar yma ar ol iddi fynd rownd abowt i’r houl am y tro dwetha?”

“Holi o’r Rhodd Mam ych chi, gwetwch? Ma hi i gal i scrapo, be siwr.”

“Cweit reit. Ond shwd ma hi i gal i scrapo?”

“Drw gal i llosgi, spo. ‘Y ddiar a’n dan a’i thrysorau.’ Dyna i chi atnod ar y pwnc i ddangos mod i’n gwpod y Meibl.”

“Ond shwd gall y Brenin Mowr roi’r ddiar ar dan, a chitha a’ch sort weti dwcyd y cod i gyd? Ma’n bryd i chi ac erill, y côl ownars mowr yma, ddechra dishgwl mas beth ych chi’n nuthur. Ma nhw ar u gora yn cwnnu’r glo, er mwyn cal difidends. Fydd dim scrap o lo i gal mas law. Meddylwch yto, ma difidend grabars nawr yn drilo ar ol yr oil, ac yn pwmpo i chalon hi. Ma’r ffact fod y Brenin Mowr weti cwato’r glo a’r oil ym mherfadd y ddiar yn gweid wrtho i i fod a’n meddwl catw peth er mwyn rhoi’r ddiar ar dan ar nos Satwn y byd. Ond ma dynon trachwantus nawr, isht a gwelas i blant, pan y bydda’r fam weti troi’i chefan i fynd i’r shop, yn mynd i’r pantri i whilo am y jam, ac yn i fyta fa i gyd, yn mynd i bob twll a chornal o’r greadigath i whilo am rwpath allan nhw droi’n ginog. Watchwch chi beth w i’n weid wrthoch chi, pan ddaw’n bryd i roi’r ddiar ar dan, fydd yma ddim stic o bren, na chnepyn o lo, na pheint o baraffin, i starto’r bon ffeiar. Na fydd wir!”

“Wirionedd i, ych chi weti gweid pethach seriws - Own i ddim weti dishgwl acha pethach yn y gola yna.”

“Otw, w i’n gwpod mod i, a fe weta r-- ond, halt, dyma Parc y deri, a’r Halderman a Mrs. Jordan ar y drws yn dishgwl am dano i. Gwd bei, a meddylwch am beth w i weti weid wrthoch chi.

TRAMP, O.B.E.

 

 



None
(delwedd 2158) (20 Tachwedd 1919)

20 Tachwedd 1919.

Y Darian.

Llith y Tramp.

  


 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, -

Fe geso dderbyniad crosawgar gita’r Halderman a Mrs. Jordan, pan etho i miwn i Lansamlat. Hen groeso Cymrag sypstanshial, heb ddim ffrwmp, ffal di ral, na la-di-da Sisneg o bothtu fa at ol. Y ddou garetig yn trio shiglo llaw sha fi yr un pryd, ac yn gweid am yr ucha fod yn dda da, nhw ngweld i, a rown i yn u cretu nhw. Fe ginta fod dynon cyn hyn weti gweid wrthoch chi, fel ma nhw weti gweid wrtho inna, fod yn dda gita nhw ych gweld chi, etc., a chitha’n gwpod ar yr un pryd ta gweid celwdd on nhw, nag on nhw yn huto dim mwy am danoch chi nag yw Satan yn huto am y dwr sanctadd. Ond nid dyna groeso Parcyderi. Otych chi’n sylwi nad yw’n handreitin i ddim mor coparplêt a biwtiffwl ag arfar yr wsnoth hyn. Yr Halderman a Mrs. Jordan sy weti bod yn ysgwd y mraich i nes ma hi mor stiff a handl pwmp, ac yn gwascu’m llaw hi nes ma hi’n shwps. Fe geso embroceshion gita Dr. J. Lewis Jones i rwto yndyn nhw, a ma nhw shaw byd yn well nawr. Myn asan i, fe geso’n ysgwd i a ngwascu nes odd pob tamad o sheines odd yndu i weti gorffod scedadlan. Dyna i chi groeso, dyn! Rodd y tan mowr yn y grât yn craclan croeso, y tecal ar y pentan yn canu croeso, y gath ar y ryg o flan y tan yn grwnan croeso, a’r ford o dan lwyth o ddanteithon yn gronan croeso! Rodd popath o bothtu Parcyderi yn grosawgar. Wrth y ford pan yn enjoio’r croeso cynnes fe scapws ochenad o wilod y nghalon i heb yn wpod i fi. “Beth sy’n bod, dyn?” mynta Mrs. Jordan. Fe wetas yn onast ta meddwl yr own i y licwn i ta Dafydd y Crydd, J.P., a Morgan y Tilwr, dou hen bartnar i fi, gita fi yn Parcyderi i gal shar o’r croeso own i’n enjoio. “Ia wir!” Ond feddylas i ddim am denyn nhw pan on yn hala atoch chi. Halwch atyn nhw u dou a gwetwch fod gita ni ddicon o le, a dicon o groeso plân Cymrag. Halwch atyn nhw,” mynta Mrs Jordan. “Wy’n onfi fod y ddou dicyn yn fishi jyst nawr, yn nuthur dillad a scitcha newydd i Lord Mêr, a Corporashiwn y Rhicos,” myntwn inna. “Shwd grefftwrs yw’r ddou,” mynta’r Halderman, “ma Dafydd yn gallu sgyrfennu’n llawn cystal a’r Athro Gwyn Jones, a Morgan yn gymint o fishtir ar y Mesur Petar Lein a’r Archdderwydd, a dyna pam w i’n gofyn shwd grefftwrs i’w nhw. Hutwn i ddim roi ordor fach iddyn nhw, os gallan nhw nuthur shewt o ddillad a phar o scitcha decha.” “Wel, gan ych bod chi weti gofyn, fe weta wrthoch chi’n onast. Llenorion yw’r ddou, a nela’r un o honyn nhw ddim stich o waith byth onibai u bod nhw’n gorffod. Ma Gwen yn gorffod cwato’r tacla sgyrfennu odd wrth Dafydd, pan ma par o scitcha isha’u tapo, ac am Morgan, ma Shuan yn gorffod i gwnnu a i ben y ford bob tro y daw jobyn bach i’r ty. Ond a chonsitro ta llenorion yw nhw, ma nhw’n gystal crefftwrs a neb allwch chi gal. Ma un peth anghomon yn Dafydd y Crydd, dos dim isha i chi i fod yn barticular, fe allwch wishgo’r esgid dde am y drod whith, a’r esgid whith am y drod dde, neu versi-versa, ma nhw’n rifersibl, fel y gwetwn ni. Am Morgan, shwd y gweta i - Tilwr odd Dewi Havhesp, on te fa? Wel, ma nhw’n gweid i fod e’n gystal tilwr a’r hen Ddewi annwl, ac yn well ar y Mesur Petar Lein. Wrth gwrs dyw a ddim yn siwr bob amsar o nuthur dwy gos ych trywsar chi run hyd. Ond dyw hynny nac yma nac yco, blecid fe ellwch nuthur fel y gnes i. Otych chi’n gweld y britchis yma sy am dano i nawr? Morgan nath hwn i fi. Fe alwas i sylw e at y ffaith fod un gos i fi dicyn yn hirach na’r nall, odd ar pan gwmpas i slawar dydd, a’i thorri hi, a chraco’m llaish. Os ych chi yn y fan na, fe nath y gos hir i’r trowsar yn fer, a’r gos fer yn hir. Gorffod i fi i hala fe nol, a gweid wrtho fa am dorri’r gos hir i’r un hyd a’r nall, a neud y trowsar yn fritchis, a dyna shwd w i’n gwishgo britchis.”

“Os ta dyna shwd grefftwrs yw’r ddou falla ta cystal pido son am ddillad na scitcha nawr. Ond halwch at y ddou a gwetwch wrthyn nhw i ddod yma i aros am sbel tra fyddwch chi yma. Ma gita ni batch mowr i’r ddou fel llenorion Cymrag. A ma’n depig ta fel llenorion yr aiff u henwa nhw i lawr i’r cenhedlaethau o Gymry sy yto heb u geni.”

“W inna’n gobitho hynny, hed, ne druan o’n repiwteshion nhw!”

Ar ol cwpla te, myntwn i wrth ym host i a’r hostes, “Esguswch fi ma isha rhytag mas am dicyn bach arno i.”

“Os dim mynd mas odd yma i fod heno,” mynta’r Halderman. “W i weti trenfi gita’r Parch. T. C. Lewis i ddod yma i gann’r delyn, a Eilir Mai i ganu penhillion o waith Ap Perllannog, a chwpla’r noswath lawan gita seance. Ma Mishtir Dawkins, Birchgrove, yn agent dros yr adran Gymrag a’r byd ysbrydol. Fel medium ma fa’n cal comiwniceshions odd wrth lenorion Cymrag ymatawedig bob wsnoth, mor regilar a ma’r DARIAN yn dod i Lansamlat. Beth ych chi’n moin mas heno?”

“W i isha mynd draw at Mishtir J.B. Jordan i moin ticyn o faca. W i’n reit mas.”

“Os dim isha i chi, blecid ma fa ishws weti hala cwartar o’r best ‘Darian Mixture,’ a hannar dwsin o long peips i chi. A fe fydd yma i hunan jyst nawr.”

“Wel, dyna drwmpyn! Ond w i’n bownd o rytag i riporto i Dr. Jones mod i weti dod, i gal gweld oti nyrfs i’n ddicon cryf i ddal seance. Beth taw’n ni’n torri lawr, a bratu’r cwrdd, a hala ofon ar ysbrytion y prytyddion sy weti manrw.”

“Os dim isha i chi i fynd i weld Dr. Jones, hed, wath ma ynta wedi addo dod yma mor gynted ag y gall a adal y syrgari. Dyw Dr. Jones ddim yn cretu miwn sprydeciath, a ma fa’n mynd i watcho na fydd Mishtir Dawkins yn whara sleit of hand. W i’n dishgwl y cawn ni ‘amsar da’ ma heno. Ond isht, dyna gnoc ar y drws! Ma nhw’n dechra dod.”

Ma’n rhaid i fi adal hanas y noswath lawan a’r seance hyd yr wsnoth nesa.

TRAMP, O.B.E.

Hol-Notiad. - W i weti cal prytyddiath odd wrth W.LI., Tredegar, a Dewi Cwm Cedni, Cross Hands. W i’n hiraethu am ofod ac amsar i roi sylw i’r ddou brytydd piwr. W.L1., w i’n meddwl rhoi tro sha Thredegar mor gynted ag y galla i. Ond o Lansamlat w i’n’ mynd sha Hirwaun. Ma gen i gyhoeddad neu’ ddou yn Shir Bemro hed. Dw i ddim yn’ gweud enwa’r llefydd nawr, er mwyn i’r holl Shir i ddishgwl mas am y nyfotiad i. Ond na fi’n gweid nawr, ddwa i ddim sha Cross Hands nes bo chi Dewi yn rhoi enw Cymrag ar y lle. Dyn di shefon i, fe allwn feddwl ta yn y North of Ingland ych chi’n byw!

Hol-hol-Notiad. Mi ddath yr infitesiwn yma o Dowlais gyda weiar lass orwth Talog: “Nid bychan o beth yw bod gwr fel chi’n mynd i bob man ac yn esgeuluso’r lle pwysicaf yn Iwrop. Oni welwch yn dda i ddod yma ar frys, bydd raid i chwi wynebu’r canlyniadau.” Mi ddwa i i Dowlais, syr, ond i chi ofalu bod yna ddicon o waith tan pan fydda i yna.

 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd J6516a) (27 Tachwedd 1919)

Y Darian. 27 Tachwedd 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Yr odd yr Halderman weti gwadd nobiliti, a gentri Llansamlat bob jac i nghwrdd i yn Parcyderi noswath y seance, a fe’n hintrodiwswd nhw i gyd i fi Dw i ddim yn cofio'u henwa nhw i gyd nawr, a jobyn da, ne fe ela'm llith i isht a List of Fotars, yn enwa i gyd. Ond yn u plith nhw yr odd y gwnitogion J.H. Parry, T.C. Lewis, M.G. Dawkins, Dr. J.  Lewis Jones, J. Jordan, Dewi Chwefror, Gwyrosydd, Eilir Mai, y Counsillors Rees, Morris, Richards a Henry, Ap Perllannog, Gwerllannydd, y Scwlyn E. H. Thomas, John Dafis;, Lewys Martin, Gwilym Bedw, hetsetra. Fe halws Canon Griffis air i weid fod yn ddrwg dag e na alla fe gal i ben yn rhydd i ddod i gwrdd a fi, am i fod e mor fishi jyst nawr, ond yn gobitho y gallwn i ffordo amsar i droi miwn i'w weld e cyn matal a Llansamlat. Fe fydda’n siwr o neud, blecid ma fa'n stiwdant mowr o'm llithia i, a ma'n well dag e'r DARIAN na'r Church Times. Rhw fath ar droin-rwm meetin odd y cwrdd, ond nad odd dim ledis yndo fa. Rodd yr Halderman yn onfi yr ela nhw i sterics yn y seane a bratu'r noswath, felly fe catwd nhw mas. Fe sharatws yr Halderman yn biwtiffwl wrth weid beth odd dipan y cwrdd, sef rhoi croeso i fi i ardal enwog Llansamlat. Fe wahoddws y gwnitogion i'r cwrdd er mwyn i'r seance i gal bod yn itha rispectabl, ac i gatw'r prytyddion odd weti dod yno rhag mynd yn rhw ewn ar y sbrydioii ddela i whilia yn y seance. Ar ol cwpla sharad fe alws ar Mishtir T. C. Lewis, gwnitog y Methodus, i ganu'r delyn, a fe nath i waith yn athronyddol, mynta Mishtir Parry, a fe ganws Eilir Mair gita'r tannau yn lleddf a llon, nes odd pawb yn llefan a wherthin drwddi draw. Mishtir Martin rows y geira mas i ni gal joino yn y chorus. Wetny fe ofynnas fe i'r Halderman gelwn i weid gair bach cyn mynd at y seance.

 

"Wel, cewch, be siwr," mynta fa, "blecid ych cwrdd  chi yw'r cwrdd."

 

Fe ddiolchas i'r Halderman am drenfu i fi i gal cwrdd: a shwd lot o byrgethwrs, cynghorwrs, doctoried, a dynon erill iwsffwl yn u cylchodd, a phrytyddion, er nad own i'n gwpod yn iawn beth odd prytyddion yn dda, ond wetny ma'r Creawdwr mowr weti creu lot o greduried erill nad w i ddim yn gwpod i beth y crewd nhw. Ma Dafydd y Crydd yn y llyfir mowr sy gitag a ar i hannar ar "Ddirywiad," yn profi ta gweddillion rhw greduried mowr odd yn y byd cyn Adda yw nhw. Ond rwffordd, ma'n well da fi gretu ta ecin rhw greduried mowr sy i fod yn yr oes euradd yw nhw. Ta beth rodd yn dda gita fi i gweld nhw, blecid ma nhw’n betbach diddorol. Ond rodd yn well da fi weld Mishtir J.B. Jordan na'r prytydd gora odd yn y cwmpni. Enwa i ddim o hwnnw, wath ma pob un o honyn nhw nawr yn meddwl ta fe yw a.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6516b) (27 Tachwedd 1919)

Fe ddiolchas i Mishtir Jordan am y ddou gwartar o'r DARIAN MIXTURE halws a i fi. Gita mod i'n ishta lawr dyma Mishtir Parry ar i drad, ac yn gofyn caniatad yr Halderman i ddarllan pishyn o brytyddiath odd y diweddar annwl Ap lonawr weti nuthur i  Mishtir Jordan fel hartist, a dyma fe:


"Pwy yw hwnnw nad yw’n caru
Gweld ei ddarlun Neb mi wn.
Pwy yw hwnnw all ei dynnu?
J.B. Jordan o Lwyncrwn.
Wyr ein plwyf, a phlwyfi eraill,
Gwyr y wlad a gwyr y dre,
Dewch, cefnogwch ein hoff gyfaill,
Yr arlunydd J.B.J."

Gita i Mishtir Parry ishta lawr dyma'r hannar dwsin prytyddion odd yno ar u trad, a phob un yn dechra carthu i wddwg, ac yn acor i bapur.

 

"Ishtwch lawr, boys," mynta'r Halderman. "Ma'n flin da fi nad alla i ffordo amsar i chi i ddarllan ych prytyddiath ar ol i chi aros ar lawr drw'r nos nithwr i'w neud e, heb fynd ag amsar y seance, a chatw'r sbrytion i weitan. W i'n diall wrth  yr hen gath u bod nhw'n hofran o bothtu'r lle ma nawr. Fe licwn, hed, allu gofyn a'r hen wariar Gwyrosydd. Ond ma Gwyrosydd yn gwpod o'r gora tawn i'n galw arno fe, y bydda'n rhaid i'r cilogod erill ma gal canu. Ond triwch Ap Hefin, falla'i fod e'n hard yp am y stwff ych chi'n delo yndo fa. A nawr fe awn ymlan at y seance, er nad os da fi ddim amcan beth yw seance. Ond os lica i hi fe gynnica i yn y Cownti Cownsil meetin nesa yn bod ni yn cal un yno unwath y mish. Fe naiff Dr. Morris midiym ffamws acha pinsh, blecid ma fa’n itha cyfarwdd a sbrytion o bob sort, a Saunders yn depiwti midiyin. Dos dim un o'r Lebor Membars yn ddicon sbrytol i neud midiym na depiwti. Nawr te, otych chi’n barod, Mishtir Dawkins? A mindwch ta’n Gymrag ma'r interfiws i gal i cario mlan yma heno. Sdim o ni'n diall dim ond Cymrag yma. Otych chi'n clwad? Nawr te, wadwch bant!”

W i'n gweld, Mishtir Golycydd, fod yn rhasd i fi gatw'r fyrbetim riport o'r Seance nes bo’r' wsnoth nesa, a dyna na i, wy n cretu.

 

TRAMP, O.B.E.

 

 

 



.....

 

 

Scatter chart

Description automatically generated
(delwedd B2151) (4 Rhagfyr 1919)

Y Darian. Rhagfyr 4, 1919

 

Llith y Tramp

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Yr odd yr Halderman yn winad isha mynd ymlan at y Seance, a mynta fa'n wyllt i dempar, "Mishtir Dawkins, otych chi'n acos pared, fe alla i weid odd wrth yr hen gwrcyn ma sy'n grwnan mor ddrychynllyd fod Parcyderi'n llawn o sbrytion ishws. Sdim iws i ni u catw nhw i weitan, blecid falla bod gita. nhw mygegments erill heno. Otych chi'n barod? Mwstrwch dicyn!"

 

Mishtir Dawkins: Otw i'n itha parod. Weitan i chi w i. Scwlyn Thomas, paswch y ford fach na i fi, blecid hi yw y risifer; a chofiwch chi, y prytyddion yn enwetig, fihafio pan fydda i'n whilia sha'r sbrytion. Nawr te, Mrs. Jordan, rhowch y gola mas, os gwelwch chi'n dda.

 

Mrs. Jordan: Rhoi'r gola mas wetsoch chi? Na ro i no’r [sic;= mo’r] gola mas, yn siwr i chi. Pwy isha rhoi'r gola mas sydd? "Plant y goleuni" sy yma heno, bob un o honon ni; a w i'n gobitho nad os dim un o honon ni yn delo dim a "gweithredodd anffrwythlawn y tywyllwch." (John Dafis, y Tramp, Lewis Martin, Dr. Jones, T. C. Lewis, a J. H. Parry, gita'i giddil, "Dw i ddim, ta beth.”) Pam na allwch chi fynd ymlan heb roi'r gola mas. Os taw sbrytion da sy ma, os dim isha iddyn nhw onfi'r gola, blecid o wlad y goleuni ma nhw'n dod; ac os sbrytion drwg i'w nhw, dos dim o'u hisha nhw yma o gwbwl, ac os dwan nhw yma, fe’u wada nhw mas ar pocar ma, nà fi'n gweid wrthoch chi nawr.

 

Mishtir Dawkins: Ma caritor y sbrytion ddaw yma heno yn Grade I ., Mrs. Jordan, a dos dim isha i chi onfi o'u plecid nhw. Ond ma'n rhaid i fi gal y gola mas, wath ma sbrytion yn ddynion shei bidur. A gora y bo dyn mwya shei yw a, ac os nag ych chi yn y nghretu i gofynnwch chi i Dr. Jones, ne gwell fyth i Gwilym Bedw. A pheth arall pam w i isha i chi roi'r gola mas yw rhag i chi gal ofon. Petai'r prytyddion sy yma heno yn gweld ysbryd noth lymun, falla elan nhw mas o'u synhwyra, a ma nhw yn ddicon dwl ishws. Beth ych chi'n wed, John Dafis?

 

(Gwilym Bedw: Ta ysbryd yn ych gweld chitha, Mishtir Dawkins,fe gela ffit; ffit nad alla Dr. Jones ddim o'i dynnu a mas o honi, wy'n siwr.)

 

John Dafis: Os ma rhai o honyn nhw'n ddicon dwl, mor ddwl a gallan nhw fod a chatw mas o'r Seilam. Dyna Gwilym ma, rhwng i brytyddiath, i Soshialath, a'i Niw Thiologi, nenwetig i Niw Thiologi, ma fa'n niwsans.

 

Dr. J. Lewis Jones: Rych chi'n itha reit, John Dafis. Ma un o honyn nhw u hunen weti gweid fod na dri o ddynon weti u taro ar un brwsh, a fe ddyla fa fod yn gwpod. Dyma i eire fe –

 

“Y lloerig ddyn, y carwr brwd, a'r bardd,

Ych oll yn gyflawn o ddychymyg byw.

Gwel un - y gwallgof — fwy o ddiafliaid nag

A gynnwys uffern; tra y carwr wêl

Ddrych Helen deg mewn wyneb hagraf liw;

A llygad llym y bardd, yn chwarae mewn

Godidog nwyd, a flachia o'r nef i'r llawr;

A thra'i ddychymyg eilw'n fyw i fod

Fyrdd o ddieithriol bethau, delwir hwynt

Gan ei ysgrifbin chwim, a dyry le

Ac enw i'r diddim, anweledig rith."

 

Dyna i chi gystal Sertifficat of Liwnasi a dim allech chi gal, a hwnnw weti i sgyrfennu gita un o honyn nhw u hunen. Allwn i ddim sgyrfennu un cryfach y mhunan. Fe allech u hala nhw i gyd i Benbont arno fa.

 

Halderman Jordan: Doctor, rhowch gopi o'r Sertifficat na i fi, blecid w i ar y Seilam Commiti yn y Cownti Cownsil. Ac os na fihafia nhw isht a dynon rhesymol, off ca nhw fynd. A fe fydda u hala nhw i gyd sha Penybont yn ddwarnod da o waith y Riconstrycshion. Beth ych chi yn feddwl?

 

Mishtir Dawkins; Beth ych chi yn mynd i neud a'r carwr? Ma ynta'n un o’r tri lloerig. Otych chi yn mynd i'w hala ynta sha Penybont? Sarfwch y tri yr un fath..

 

Dr. Jones: Na, os dim isha. Ma’r bardd yn ddiobaith. Am y carwr, fe ddaw e idd i sensis ar ol prioti, fel y cewch chi weld pan briotwch chi, Mishtir Dawkins. Temporari Ineaniti yw cês y carwr, ond, wrth gwrs, ma rhai yn wath na'i giddil.

 

Mishtir Dawkins: O’r gora, te. Os gwelwch chi'n dda droi'r gola off nawr, i ni gal mynd mlan a'r seance.

 

Dr. Jones: Na, pidwch chi, Mrs. Jordan, blecid w i isha watcho’r prosidins in lled glos. Man of Seiens w i, a rhaid i fi gal gola Ac os yw sprytegiath yn Seiens, dos dim isha iddi hitha i onfi'r gola.

 

Mishtir J. B. Jordan: W inna weti dod ar camera yma i dynnu snapshots o'r sbrytion i neud picture post-cards i'r Tramp i fynd a nhw o bothtu'r wlad i'w gwerthu. Wy'n siwr y nela fa shaw o docins. Ma'n rhaid i finna, gal gola.

 

Mishtir Dawkins: Otych chi'n rhoi'r gola mas, Mrs. Jordan?

 

Mrs. Jordan: Shwd y galla i roi'r gola mas a shwd lot o brytyddion yma, weti clwad beth ma'r Doctor weti weid am denyn nhw heno, u bod nhw'n liwnatics ? Blaw beth w i weti ddarllen yn llithia Dafydd y Crydd u bod nhw'n dwcid ideas. Ma lot o silfar spwns a phethach erill da fi o bothtu'r rwm ma. Ac os yw nhw yn dweid ideas, beth sy'n u stopo nhw i ddweid silfar spwns? Ro i ddim o'r gola mas tawn i heb weld ysbryd byth, a shwd lot o dacla irrisponsibl yn y ty. Petawn i'n gwpod u bod nhw cynddrwg chela nhw ddim dod yma heno.

 

Halderman Jordan: Wath i n'i roi'r gola mas, blecid aiff Mishtir Dawkins ddim ymlan heb hynny. Fe weda i beth nawn ni. Fe gaiff dou o'r Cownsillors ma ecsamino pocedi'r prytyddion ar ol i'r seans i gwpla, isht a ma nhw yn examino'r coliars i gal gweld os piba a matchis yn u pocedi nhw yn mynd lawr i'r pwll.

 

Mrs. Jordan: O’r gora te.

 

Ma'r Golycydd yn gweid nad os dag e ddim lle i'w sparo i roi hanas y Seance yr wsnoth hyn. Wel, os dim i neud aros hyd yr w wsnoth nesa, a dyna nawn ni.

 

TRAMP, O.B.E.

 

Hol-Notiad. - W i weti dodi Dowlish i lawr ar y Naiari. Dyma'r llefydd sy arno fa nawr — Hirwaun, Shir Bemro, Tredegar, a Dowlish. Môr tw ffolo.

 

 

 

Scatter chart

Description automatically generated
(delwedd 5690) (11 Rhagfyr 1919)

11 Rhagfyr 1919

Llith y Tramp


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, - Pan wetws yr Halderman fod dou Gownsilor yn mynd i whilo pocedi’r prytyddion ar ol cwpla’r seance, fe folonws Mrs. Jordan i roi’r gola mas; ac ar ol cal y caniatad fe drows Mishtir Dawkins, gita cryndod yn i laish, a sobrwydd yn i wmad, at y prytyddion am y tro dwetha i fegan arnyn nhw i fod yn sifil, a phido insylto’r isbrytion ar un cownt, “blecid fel w i weti gweid o’r blan,” mynta fa, “ma nhw shwd bethach sensitif. Cofiwch chi, nid lecshiwn meetin Syr A. Mond yw hwn. Os tampith y ford fach ma dair gwaith o lied, dyna arwdd fod y sbrytion yn barod i neud comiwniceshions. Seilans, nawr. Dyma fi off.”

A gita’i fod a’n cwpla whilia fe ath off rniwn trans isht a merch ifanc miwn dawns yu mynd i ffeint eligant, nes y cadd Dr. Jones dicyn bach o ofon. Miwn bothtu funad, a’r rwm mor ddishtaw a’r bedd, dyma Mishtir Dawkins yn torri mas i ofyn miwn llaish gaffar haliers –

“Spwcs, are you there?”

Yr Halderman: Cymrag, Mishtii- Dawkins, ne ma fi’n troi’r gola lan, spwcs ne bido.

Dewi Chwefror: Dewch i’r Mishtir Spwcs whilia Sisnag, Halderman, os yw’n well dag a, blecid ‘run ni gyd yn diall Sisnag yma, dim ond Gwilym Bedw a’r gath.

Cownsilor Rees: Dewch ych mwstwr, boys cofiwch beth wetws Mishtir Dawkins am y sbrytion. Rhowch whara teg iddyn nhw.

Ap Perllannog: Hisht! Dyna’r ford fach yn tampan.

Mrs. Jordan: Nage wir. Y forwn odd yn pocan y tan yn y gecin.

D. Thomas: Ma isha poco Eilir Mai, hed! Otych chi ddim yn i glwad a’n whwrnu! Gwernllannydd, rhowch bocad iddo fa, blecid ma ticyn o’r pocar yndoch chi.

Gwernllannydd: Na, whara teg i Eilir, hed. Nid fe sy’n whwrnu nawr, ond y gath sy’n grwnan.

Y Scwlyn E. H. Thomas: Ma’r Spwcs yna nawr, ta beth, blecid ma’r ford fach weti tampan. Order now, boys.

Mishtir Dawkins: Oti, ma Spwcs yma, a, ma fa’n gweid fod Gwydderig yn hala’i gofion at Gwyrosydd.

Gwyrosydd: O’r hen Gwydderig annwl! Un o englynwrs gora Cymru. A fe allsa nuthur hymn hed, a’r peth byw ynddi hi. Gwedwch wrth Spwcs mod i’n holi shwd ma fa, a beth ma fa’n neud, nawr.

Mishtir Dawkins; Ma’r Spwcs yn gweid na fu a ariod yn well na ma fa nawr. A run peth ma fa’n nuthur ag odd a yn neud yn Brynaman.

Gwilym Bedw: Beth odd Gwydderig yn neud yn Brynaman, Gwyrosydd? Ar y glo odd a?

Gwyrosydd: Dim byd ond neud englynion fyrst clas.

Grymlyn: Gofynnwch i Spwcs os oti a’n napod Ceiriog. Y fe yw mhrytydd i, boys. Licwn i wpod beth ma fe yn neud nawr, blecid w i’n siwr i fod a’n nuthur rhwpath. Alla fe ddim bod yn segur.

Mishtir Dawkins: Ceiriog yw traffic manager y Light Railway o Uranus. i Jupiter, a ma fa wrth i fodd. Ond, hisht, ma yma rw brytydd arall isha rhoi comiwniceshion. Dw i ddim yn i napod a yto, blecid ma fa’n rhw bell off, ond ma fa’n dod shag yma. W i’n cretu taw Gurnos yw a. Ta beth, un t---

Gwilyml Bedw: O’r Gurnos ag e! “For he’s a jolly good fellow. For he’s a j---

Gwernllannydd:

A gofid myn dy gyfarch,

Ca’ dy ben, y cyw di barch”

Mishtir Dawkins: Ia, Gurnos yw a. Os da un o honoch chi rwpath i’w ofyn iddo fa?

Parch. J. H., Parry: Fe leiciwn i wybod be ydi farn o am y beirdd newydd yma?

Mishtir Dawkins: Prytyddion weti cal stroc o’r parlys i’w nhw, mynta fe.

Parch. T. C. Lewis: Beth yw barn y prytyddion sy weti croesi am rai o honyn nhw, otyn nhw’n Gristnogol?

Mishtir Dawkins: Nagyn, mynta fa, paganied i’w nhw. Dynon anianol yw nhw: ond dyn ysbrytol, a phlentyn y nefodd yw y prytydd reit. Os dim o ni yma yn u cydnapod nhw’n brytyddion.

Ap Perllannog: Beth yw barn Gurnos am y rheiny sy’n iwso’r hen eire nad yw’n hannar ni yn gwpod beth yw u hystyr nhw, os yw nhw u’ hun yn gwpod ?

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5691) (11 Rhagfyr 1919)

Mishtir Dawkins: Ma un o’ch poetau chi’ch hunen, Morgan Teilwr, weti gweid. u bod nhw isht a’r wadd. Ma nhw’n scrapin ym mhridd y geiriaduron am hen eire sy weti marw yn lle hedfan i’r nefodd i whilo am ddrych feddylia byw. Da y gnewch i rondo ar Morgan, er taw teilwr yw a. Ma fe’n broffwyd, fel pob gwir fardd. Os da rhywun rwpath arall i ofyn i’r Spwcs?

Dr. Jones: Os wir! Ma un peth ar y meddwl i os, ticyn. Licwn i wpod yn fidur, sawl ysbryd all ddownsian ar flan corcscriw heb ddamshel ar drad i giddil? Fe fu, meddylia mowr y Canol Oesodd yn ffagach shaw gita’r broblem. A ddarllenas i ddim u bod nhw weti ffindo mas. Fel man of seians ma’r matar yn blino ticyn arno inna. Gofynnwch iddo fa.

Mishtir Dawkins (yn dawal am funad): Ma Spwcs weti mynd, Doctor. Rych chi weti i insylto fa!

Dr. Jones; Dodd dim isha iddo fa fod mor dytchi. Ma dynon weti dod i’r Syrgari yco a gofyn llawar cletach cwestiyna i fi. Dewch i fi ddod at y ford fach i ofyn iddo fa.

Mishtir Dawkins: W i’n siwr na apediffa ddim o chi, blecid ych chi ddim yn cretu, ac am nad ych chi’n cretu, allwch chi ddim hala’ch hymwybyddiath (y conshios selff) i gysgu, a chatw yr hisymwybyddiath (y sub-conshios, ma Mishtir Lewis, yn i galw hi) ar ddihun. Ma Spwcs weti mynd am heno’n reit i wala.

Mishtir J. B. Jordan: Brain ariod i Doctor, rych chi weti bratu’r noswath i ni! Rodd da fi lot o bethach i ofyn, a rown i weti rneddwl cal snap-shot o Spwcs, cyn i fod a’n mynd. Ond ma hi’n tw lêt nawr. Ma fe weti mynd!

Cownsilor Richards: Rodd â’n shabi i fynd cyn gweid gwd neit. Ond gan i fod a weti mynd, wath i ninna fynd.

TRAMP, O.B.E. 

 

 

 

Letter

Description automatically generated
(delwedd 9978) (18 Rhagfyr 1919)

Y Darian. 18 Rhagfyr 1919.

 

Llith y Tramp.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Fel y gwetas' i y tro dwetha fe gwplws y Seance yn sytan ishta huddug yn cwmpo i gawl, a, fe gwnnws y Spwcs i gwt ac off ag e heb gymint a gweid "gwd neit" wrtlion ni; a ma'r bai' i'w sharo rhynt yr Halderman, Dr. Jones, a Mishtir Dawkins. Ddyla'r doctor ddim gofyn shwd gwestiwn iddo fa, blecid ma Mishtir D. T. Thomas, Glasfryn, o'r farn nad os dim corcscriws ym myd y Spwcs. Ma D.T. yn lienor da, a weti talu lot o sylw i sbrytion a corcscriws, a ma fa'n siwr o fod yn gwpod, a w i o'r un farn ag e. Falla hed, fod mwy o fai ar yr Halderman nag ar y Doctor, blecid yr odd a weti rhoi ar ddiall i'r Spwcs ta Syr Olifar Lodgj, ne Syr Conan Doil, fydda'r midiym yn seance fowr Parcyderi, ta beth, dyna beth wetws yr hen frawd Mishtir Martin wrtho i, a ma fe'n Spiritiwalist mowr ar y slei, mynta, nhw wrtho i. Ond dos dim dowt nad ar Mishtir Dawkins yr odd y bai mwya, blecid fe hefalychws Syr Conan Doil fel midiym mor berffath nes twyllo'r Spwcs. A mindwch chi ma'r dyn sy'n gallu imiteto ne twyllo Spwcs yn dicyn o chap. Ac os nad odd Syr Conan Doil yn gallu i weid a o'r blan, fe all i weid a nawr ar ol i Mishtir Dawkins i dwyllo'r Spwcs, "Himiteshion is ddi sinsiarest fform of fflateri."

 

Yr oedd yn dda da fi ddarllan llith Shon Siams, LIansamlet, yn y Darian. Dyna'r peth gora o'r holl bethach da odd yndi, nesa at y'n llith i mhunan. Un mistec bach odd yn llith Shon, sef i fod na'n cretu fod y prytyddion yn gas i'r Tramp. Dyw nhw ddim, blecid ma nhw’n dwli arno fa isht a cath ar fwstard. Dim ond rhyw sewdihwmffwch isha a D. G., Rhondda, sy'n cretu i fod a'n brytydd, sy'n gas wrtho fa. Ma Eilir Mai yn brytydd, a fe ddyla ymhwedd mwy a'r Awan na ma fa. Darllenwch yto i Fesur Petar Lein e i fi, ma fa'n dilwng o'r testun, a'r awdur mwyn. Wel  dyn! Eilir Mai. Ond am D. G. Rhondda, dos dim mwy o farddoniath yndo fa nag sy miwn  plisman weti marw. Ac am Ap Hefin yn gwiddi 'Campus' uwch ben shwd agolch, dos, dim isha i neb i golli i dempar, blecid ma Ap yn un o'r dynion piwra yn nhre Aber- Darian, ond i fod a'n apt o golli i ben os caiff a gynghaneddion idd i bleso fa. Welsoch chi'r Mesura Petar Lein halas i i Ap Hefin a'r D. G. Rhondda? Ron nhw yn ddrychynllyd o wherw. Shwd y gnetho i nhw dw i ddim yn gwpod. A beth wetws yr Ap am y'n rhai i? Run peth ag a wetws a am sothach D. G. Rhondda, "Campus." Ro i ddim i thenciw am ddyn sy'n gwiddi gita'r cwn a'r sgwarnog. Ond otych chi yn gwpod beth ddigwddws i Rhys Meigen weti iddo fa neud 'Cyff Cler' o D. Ap Gwilym? Os nag ych chi, whilwch miwn, blecid ma'r un peth yn mynd i ddigwdd i D. G. Rhondda ar ol iddo fa ddarllan y mhrytyddiath. W i'n watcho Deth Colym y "Rhondda Gaset" bob wsnoth, a w i'n synnu na fysa rhwpath am dano fa weti 'mddangos  cyn hyn. Rhaid fod bywyd cath yndo fa. Ond dynon tyff i'w prytyddion.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 9979) (18 Rhagfyr 1919)

W i'n siwr, hed, y gnaiff llith Shon Siams, a henglynion Eilir Mai les mowr i Crymlyn isht a nethon nhw i fi. Pan ma amball un yn mynd yn dost w inna'n mynd yn dost, a phan ma un arall yn mynd yn dost w i'n mynd i deimlo'n ifancach, a sgownach yn gwmws. Ma na gannodd o bobol yn dost achos fod Crymlyn yn dost, a ma'r cannodd yn dechra gwella am i fod, ynta'n gwella. "Chear yp," Crymlyn annwl. "Ysbryd gwr a gynnal ei glefyd;" mynta Selyf — w i'n gweid Selyf yn lle Solomon, er mwyn pleso Bera, Sam yr Halier, a'r criw yna. Ma mwy o'ch hisha chi a'ch sort yr ochor yma na'r ochor draw. Sticwch i wella.

 

Yr wsnoth hyn rown i weti meddwl rhoi ticyn o hanas y cwrdd mowr gynhalwd yn y City Hall, Llansamlat, i'm hanrhydeddu i, ond ma'n rhaid i fi i adal a tan yr wsnoth nesa, am fod gita fi beth pwysicach yr wsnoth hyn, blecid ffirst things ffirst yw hi gita fi, a dyma fe, ma diwadd y byd i ddod ar Rhag. 17eg. Ac os  daw a, ma lle i onfi na chaiff darllenwrs y Darian ddim darllan y llith hon. Ond ta shwd y daw hi w i'n mynd i chwpla hi, wath dw i ddim yn lico gatal pethach ar u hanner, diwadd y byd ne bido. Nid y fi, na Old Moore, ond Proff. A. F. Porta, Merica, sy'n i weid a. Ma, na rwpath ma fa'n alw yn cataclysm yn mynd i sgubo'r byd o fodolath ar y det uchod. Own i'n meddwl yn wastod taw enw Latin ar lysewin i neud te llysa at bôn yn y stymog odd catactysm. Ma'n depig fod yna dwll mowr wedi mynd  yn yr houl, dicon mowr i gladdu’n byd ni, a bod pob sort o gases yn fflamo mas o hono fe am gannodd o filoedd o filitiroeidd i'r awyr! Tybad mai o'r twll hwnnw yr odd y Germans yn cal u gases?  Ta beth, ma’n amlwg nawr ta mynd i gal i gaso, a nid i losgi, y ma'r hen fyd ma. Ond  dyna sy'n od, fod diwadd y byd i ddod acha dydd Merchar, a nid acha dydd Satwn, blecid ma dydd Merchar yn haff holide miwn shaw o lefydd. Allwn i feddwl y bydda dydd Satwn yn well dwarnod, wath fe fydda'n cwpla'r wsnoth yn ddecha. Ond os yw a'n mynd i gwpla ar yr 17eg, na i ddim achwn, blecid dw i ddim yn un o'r rheiny sy'n cintach ar drefniata Rhagluniath, ond fe licwn, hed, ta'r diwadd yn cal i bospono nes bo hi weti Ndolig am y mod i’n dishgwl bagad o Grismas Boces, a fa golla rheiny os digwddiff a ar yr 17eg, ond wi'n itha bolon os felny ma hi i fod. Y peth mowr i chi a finna yw bod yn barod, wetny dim ots pun ai ar ddydd Mercher ne ddydd Satwn, cyn ne weti Ndolig, y daw a. Ond ma'n rhaid i fi i gal gweid na w i ddim yn lico'r bobol ma sy'n cisho mynd miwn i garpad bag y Brenin Mowr. Ma rhyw grancod yn torri mas bob rhyw hyn a hyn i weid fod diwadd y byd ar y dêt a’r dêt, a ma lot o bobol fach sofft yn u cretu nhw. Byw fel y dylan ni, a neud y'n gwaith, yw'n busnes ni. A dyna w i’n mynd i nuthur. Ar ol i fi gwpla yn Llansamlat, fe â sha Hirwan fel w i weti promisho. Ac os na, ddwa i sha Hirwan fe fydd y bobol yn gwpod beth sydd weti digwdd. TRAMP, O.B.E.

 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd 5688) (25 Rhagfyr 1919)

Y Darian. 25 Rhagfyr 1919.

Llith y Tramp.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd,

Rwffor ne giddil own i’n ffili cretu fod diwadd y byd i fod ar y 17eg fel y gwetws Proff. Porta y bydda fa. Ond mindwch chi, dw i ddim yn gweid taw am y mod i’n ffili cretu y pidws e ddod. Chretsa’r tada annuwiol yn amsar Noah ddim o’r hen batriarch pan odd a’n gweid wrthyn nhw fod y byd yn mynd i gal i foddi, ond fe ddath y diluw, cretu ne bido. Be siwr, wyddwn i ddim pun a ddela fe ne bido, a’r peth gora allwn ni neud odd bod ar y seff seid, a rhoi gwpod i ddarllenwrs y DARIAN beth odd yr Ianci weti weid. Ond nawr, gan fod yr hen fyd weti cal rhw gymint o ecstenshion, fe a i mlan a ngwaith fel arfar, er i fod jyst a hala’m resigneshion miwn i chi pan ddarllenas i beth odd yr Ianci yn weid. Ma’n dda gita fi fod y Brenin Mawr weti llwyddo hyd yn hyn i gatw’r Iancis rhag gwpod y cwbwl. A w i’n gobitho yr awn i gyd - sgyrfenwrs a darllenwrs y DARIAN, ati i fyw, a neud y’n gwaith yn well nag ariod. Bod, a byw’n iawn, yw’n braint a’n dyletswydd ni, on te fa?

Wel, gan y’n bod ni i fynd ymlan yto am rw getyn, yr wsnoth hyn fe ro dicyn o hanas y cwrdd mowr gynhalwd yn y Siti Hal, Llansamlat, i roi pyblic risepshion i fi. Ma’n depig i Corporeshiwn y ddinas, mor gynted ag y gwelws a’m llun i yn ffenast Mishtir J. B. Jordan - a dyna ffor dath e i wpod y mod i yn gest yr Halderman a Mrs. Jordan, Parcyderi - i bendarfynu’n unfrytol, y Lebor membars a chwbwl, i roi’r Ffridom of ddi Siti i fi. Ond wyddwn i damad am hynny nes i fi fynd sha’r cwrdd. Wrth frecwast un bora mynta’r Haldorman wrtho i, "Pidwch chi neud un engejment am heno blecid ma Mrs. Jordan a chi a finna yn mynd i gwrdd pwysig yn y Siti Hol heno. Fe fydd y Lord Mer, a’r Corporeshiwn, ond y ddou eulod sy’n gwitho’r nos, y Jystished, gwnidogion, ffeiraton, a’r prytyddion yno yn llu mowr iawn.” “O’r gora,” myntwn inna. Holas i ddim beth odd natur y cwrdd, wath fe gretas taw cwrdd blynyddol Cymdithas y Beibla odd a, a fod Crwys yn aritho. A whara teg iddo fa ma fa’n gallu arithio’n ffamws ar y Beibl. A rown i’n falch ofnatw fod y dynon enws yr Halderman yn arfar mynd sha Cwrdd Cymdithas y Beibla yn Llansamlat. ‘Wei dyn, Llansamlat” myntwn i wrth y mhunan. A fe licwn i’n fidur i weld dynon blanllaw miwn pob tre a gwlad yn neud yr un peth. Wyddoch chi beth, syr, dyna un ffor sy gen i o farnu picil crefydd miwn ardal, y sylw nia Cymdithas y Beibla yn gal gita’r dynon sy’n blanori miwn pethach cyhoeddus bywyd cymdithasol. W i weti bod miwn llefydd cyn hyn pan fydda cwrdd tepig o ran pwys i fywyd gora’r bobol yn cal i gynnal, a dim un o’r rhai sy’n cymryd arnyn nhw fod yn flanoried cymdithas yndo fe. Galwch bwllgor i drenfu ticyn o Fflowar ne Catl Sho, a fe fyddan yno’n smoco a bragawthan am oria! Ond wi weti cilo odd wrth y matar. Pan ath Mrs. Jordan a’r Halderman a finna miwn i’r Siti Hol, rodd hi yn cramd, a’r staj yn Ilawn o’r gentri a’r nobiliti, blaw y rhai enws yr Halderman. A gita’n bod ni ar y staj dyma’r milodd ar u trad ac yn dechra canu “For he’s a jolly good fellow,” a fe joinas inna, blecid own i’n cretu ta’r Halderman o’dd gita nhw miwn golwg; a fe sylwas fod yr Halderman hed yn canu nerth i ben. A myntwn i wrth y mhunan, “Ma’r Halderman yn meddwl taw i fi ma nhw’n canu, ond ma fa’n nuthur mistec, blecid dyn diarth w i.” Pan stopws y canu fe gwnnws Y Lord Mêr ar i drad i weid beth odd amcan y cwrdd, a shwd anrhytadd odd yr Halderman weti roi ar Llansamlat drw’n infeito i yn gest i Parcyderi. Wetny fe ddechruws y mrago inna, a shwd wasanath own i’n nuthur i ngwlad, a na chela Carpentier na Jimmy Welsh, ddim shwd risepshwn gita dynon Llansamlat. A fe shiaratws yn biwr am spel hir. Ar ol y

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5689) (25 Rhagfyr 1919)

 

 

Lord Mêr fe shiaratws y Corporeshiwn i’r pwynt, heb wasto geire. Ond falla taw arath fwya’r cwrdd o areithia mowr odd arath Canon Griffis, yn profi mod i yn olyniath Abram, “blecid,” mynta fa, “Tramp gita Capital T. odd Abram.” Fe gitchws y syniad isht a gliw, a fe clenshws y gwnidogion i gyd yr heidia ymhellach. A fe alla i weid hyn am wnidogion Llansamlat, a bob enwad, ma nhw’n gwpod u Beibl. Ar ol y proffwydi ddath y gyfrath yn i grym, a dodd dim bloeshgni ar i thafod hitha, yn enwetic y ddou J.P. newydd, Dr. Lewis a Cownsilor Richards. Ma’n dda gita fi nawr mod i weti sgyrfennu at Lord Northcliff a Mishtir H. Botomli o bothtu nhw. Ond y prytyddion nath hewl o honi hi. Chlws neb shwd brytyddiath haruchel ariod, shwd hyd a lled, uchter a dyfnder! Gan fod y prytyddion yn mynd i gyhoeddi’r farddoniath yn llyfir y “Nghyfres y Lili” ar ol i hala fe i gystadlu am £25 yn Steddfod y Barri, weta i ddim rhacor yn awr. Ar ol yr holl spowto campus fe ddethpwd at waith mowr y cwrdd, sef cyflwyno Ffridom of ddi Siti of Llansamlat i fi, a chan fod yr Halderman weti cal i omrod gan i dimlata i areithio, fe ofynws y Lord Mer iddo fa i neud y presenteshion, a fe nath hynny miwn steil, a gitag urddas. Yr oedd y dociwment miwn cascet weti i gnuthur o’r bloc tin gora yn gwaith tin y gymdocath, a hinscripshon pwrpasol arni hi, a’r Mesur Petar Lein yma weti i daclu o dano fa,

 

Rhemp o dwr yw Tramp Darian, - a glyw
Ein gwlad, eitha bachan
O’r pen hir i’r pin arian,
Yn lleufer ter, llifa'r tan.

Fel popath arall, fe gwplws y cwrdd ar ol i fi weid cwpwl o eire gora gallswn i o dan yr amgylchiata, ac yn bermanu o whys, a lwmpyn mowr yn y ngwddwg i, ond ddim cyn i Mishtir Richard Rees gynnig y’n bod ni yn hala fot o gidymdimlad at Crymlyn yn i gystudd, a’n dy- [sic] dymuniad am iddo fa gal gwella’n waff. Ta Crymlyn yn iach y fe fysa ar y blan yn diddori’r cwrdd.

 

Rodd yr Haldermati weti hala i moin Dafydd y Crydd a Morgan y Tilwr yno, heb yn wpod i fi, a’r ddou i gysgu yn Parcyderi y noswath honno. Ar y ffordd sha thre fe ofynas i Dafydd beth odd a’n feddwl o’r Mesur Petar Lein. Mynta fa, “Ma Morgan a finna yn gwpod y cwpwl am hwnna, a fe wetwn i hanas a wrthot ti ar ol i ni gyrradd Parcyderi. Y peth licwn i gal gwpod yw beth wyt ti’n mynd i neud a’r hen focs tin yna, a phwy les naiff y Ffridom of ddi Siti i t?” “Llawar ymhob rhyw fodd,” myntwn inna. “Bachan w, wyt ti ddim yn diall! W i nawr yn Ddinesydd Rhydd o ddinas Llansamlat, a fydd dim isha i fi dalu am ddim o hyn i mas. Meddwl di, nawr, fe fydda i isha shewt newydd jyst nawr, a ma Morgan yn cwnnu prish desprad am shewt, a dyw a ddim yn shiwr o ffito dyn bob amsar. Dyna shwd un yw Moc, fel wyt ti’n gwpod. O hyn i mas fe alla fynd at y Teilwr gora yn Llansamlat, a ordro shewt o siwparffein cloth, a gweid wrtho fa am hala’r bill i’r Corporeshiwn. A felny gita phopath arall fydda i isha! Wyt ti’n gweld nawr? Odd Lloyd George yn sgyrfennu ato i os ticyn yn ol i ddiolch i fi am y’n llithia, a fe wetws yn i lythyr, nad odd a weti talu am werth dima o ddim odd ar y cas e y Ffridom of ddi Siti of London. Dyma’r peth gora ges i ariod. Meddwl yto - ond dyma ni i yn Parcyderi.” TRAMP,  O.B.E. 

 

.....


Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith
δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †

« »

DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN / THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_1919_0350k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 07-10-2019, 02-08-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source:
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats (Y Wenhwyseg / el dialecte gwentià / Gwentian)