kimkat3782k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn
nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1915.
17-05-2023
Gweler hefyd / Vegeu també /
See also:
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....
(delwedd J7058b)
.....
.....1915
07 Ionawr 1915
14 Ionawr 1915
28 Ionawr 1915
.....
04 Chwefror 1915
11 Chwefror 1915
25 Chwefror 1915
.....
11 Mawrth 1915 11-03-1915
.....
22 Ebrill 1915 22-04-1915
.....
27 Mai 1915
.....
10 Mehefin 1915 10-06-1915
.....
01 Gorffennaf 1915
15 Gorffennaf 1915
.....
19 Awst 1915
26 Awst 1915 26-08-1915
....
09 Medi 1915
30 Medi 1915
.....
21 Hydref 1915 21-10-1915
.....
02 Rhagfyr 1915
16 Rhagfyr 1915
|
|
(delwedd 5725a) (07
Ionawr 1915) |
07-01-1915 Y Darian. 7 Ionawr 1915. 0
Shop Dafydd y Crydd. Mishtir
Golycudd, — Rwy i wedi bod mewn trwpwl mawr oddar pan scrifennas i o'r blan,
ac wedi cal shoc nes yw'm nyrfs yn yfflon jibaders. Fe ddath yma ryw ddyn i'r
shop i moyn par o lasa. Y dyn oda welas i ariod. Rodd a'n etrych mor sobor a
dyn newydd gladdu 'i fam. Dyn gweddol dal, bothtu deugan o'd, a'i wallt yn
hir, wedi'i gropo yn y gweiIod fel barcod ty to gwellt. Rodd Morgan Lewis y
teilwr yno, a thrw help Morgan rwy'n gallu rhoi lawr yr hyn gymrws le ar y
pryd. Meddai'r dyn, "Rhynged bodd i chwi roddi i mi bar o gareuon
esgidiau." "Par o lasa chi'n feddwl," myntwn inna. "Ie,
os nad ydych yn deall teithi'r Omeraeg yn ei phriod-ddull cysefin,"
meddai'r dyn. "Ble chi'n byw?" myntwyn i wetyn. “Yr ydwyf yn cysgu
yn Hafod y Gan ar y Ton, ond yn byw ar lechwedd heulog Parnasus, yn yfed
dyfroedd tryloewon helicon, ac yn cyfrinachu a'r duwiau ym mhalas grisial
Apollo," meddai'r dyn. Erbyn hyn fe allswn feddwl fod dwr yn rhytag lawr
dros y nghefan i, a'r gwallt own i wedi golli yr ucan mlynadd yn cwni fel
brwyn ar y mhen. Fe gretas fod y dyn wedi cilo o'r Seilam, a dyw dyn felni
dim yn ffit i fod a'i drad yn rhydd. "Be – Be - Beth i chi'n feddwl am y
rhyfal 'ma," meddwn i wrtho. "Y cymhelri mwyaf yn hanes y
cydfyd," medda'r dyn. "Yn sicr ddiameu, fe ddylai'r Caisar gael ei
ddad-gymalu, a'i daflu dros y wal ddiadlam yn fwyd i gwn annwn." Dyn
dishefon ni! Chlwas i shwd' beth ariod, myntwn inna. O-o-oti chi'n fardd?
"Ydwyf," medda'r dyn, "yn fardd wrth Fraint a Defawd Beirdd
Ynys Prydain a chorn olew yr Awen wir. Ar fy ffordd yma, myfi a ymfflamychais
yr englyn hwn. Y mae digon o dan yn ei baladr i losgi cyfandir, a digon o rym
yn ei esgyll i ysgubo byddinoedd arfog i'r Pegwn Gogleddol – . |
|
|
(delwedd 5725b) (07
Ionawr 1915) |
"Hen ddieflyn ddaw i aflwydd - yw William, Ei hela ga'n ebrwydd; A o'i blas ar ebol blwydd A'i Von Klwc ar gefn clacwydd." Wedi towlu'r englyn ar y cowntar a rhoi'r par lasa yn i boced,
mas ag e, ag rodd yn dda gen i i weld a'n mynd i fi gal hanal. 'Rown i bron
mynd i ffit, ond rodd Morgan Lewis y teilwr yn i ddou ddwpwl yn wherthin fel
ffwl. Allswn i wed dim ond etrych yn hurt ar ol y dyn, ac wedi crynhoi
'mhunan at 'i giddyl, fe ofynnas yn grynetig, "Morgan, wyt ti'n
fyw?" Ar ol pang arall o wherthin, fe gwnnws ar 'i drad, a'i ddwylo ar i
ochra, fel dyn yn y pliwris. "Wyt ti'n meddwl," meddwn i "fod
y dyn 'na yn i sensis?" "Wn i ddim," medda Morgan, "ma'n
depig i fod a'n fardd. Son am beryclon y trenshes. "Not in it," ys
gwetws Wil Smith. Os yw'r dyn hyn ymhob man fel odd a yma, ma llawn cymint o
isha trenshis yn y Cwm ag sy'n y ffrynt. Wyddoch chi beth, os taw rhyw swagar
fel hyn sy'n gneud bardd, gwell gen i fod yn ddyn, ne'n grydd, ne'n bacman.
Wn i dim a oti'r englyn yn iawn ne beido, os taw englyn yw a hefyd. Gall fod
yn hir a thoddion o ran dim a wn i. Fe allwn feddwl fod rhyw glec ynddo, ond
falla dyw a ddim yn y Pedwar Mesur a Ucan. Rwy'n cretu 'mhunan fod gomrod o hamro ar y Keisar, er
cynddrwg yw a. Mae a'n haeddu cal ’i ladd fwy nag unwaith, ond creulondab yw
wado ar ddyn, a'r Bron Ceitas ishws yn treio'i dacu. Ma cyfrath Lloigar |
|
|
(delwedd 5725c) (07
Ionawr 1915) |
yn erbyn hynny. Ar ol paso sentans ar ddyn i gal i groci, os
aiff y dyn yn sal ma nhw'n gneud 'u gora idd 'i wella, er mwyn cal y plesar
o'i weld a'n hongad. Wn i ddim beth sy'n cal 'i gyrradd wrth flagardo dyn yn
i gefan. Ma'r dyn am roi'r byd yn i le ta fa'n cal 'i ffordd, ond dyw'r byd
ddim yn cretu taw wrth ladd hen ddynon, gwracadd, a phlant y ma hynny i ddod
i ben. Beth sydd wedi dod o'r Von Clwc sy'n englyn yr idiot fu yma'n
pyrnu lasa? Dos dim son am dano ys ticyn. Fe odd top y tepot pan odd y
Germans yn dod lawr i Paris. Von Clwc odd popath ar y dechra. Ond wedi i'r
teid droi, mae a fel wi clwc yn ddicon di son am dano. Y clasgad naturiol yw
i fod a wedi i ladd, ne wedi cal y sac am gilo'n ol. Ma'r gyfarmant wedi gneud tro smart yn yr Aifft, trwy hala'r
Kidif o bothtu i fusnas. Mae a'n fwy na hanner Twrc ac yn llai na hannar
call. Fe fysa'n well iddo dynnu Pharo yn 'i ben na thynnu John Bwl. Os odd y
dyn yn ddicon dwl i sefyll yng ngola'i hunan fe ddyla gal i dransporto o'i
wlad a thwllwch yr Aifft ar 'i ol. DAFYDD Y CRYDD |
|
|
(delwedd J7516a) (14
Ionawr 1915) |
14-01-1915 Y Darian. 14 Ionawr 1915. 0
Shop Dafydd y Crydd. Mishtir
Golycudd, — Lled
debig y'ch bod yn cofio'r sylwata nes i'r wythnos o'r blan ar y bardd fu
yma'n pyrnu lasa. Chi wyddoch taw mesur trad dynon yw 'ngwaith i, ond fe
fentras fesur pen hwnnw, ac ma'r dyn wedi dicio'n ddisprad. Ma pawb yn 'i
napod a ar yr hewl, ac yn gwed wrth 'u giddyl, “Dyna'r dyn neidws dros y wal
ddiadlam." Y peth cynta na'th y scelffyn ar ol gweld y 'Darian' o'dd
hala pennill i 'mlagardo i, a dyma fe: — “Lledrwr
o deulu lladron — yw y crydd, Yn
gwneud crwmp uwch lapston, Dyn
anwadal, bal i'r bon, Gorchwyliwr
gwrych a hoelion." Glywsoch
chi shwd beth ariod! Pwy latron sy'n 'y nheulu i fe leicwn wpod? Fe fentra
'ngwddwg fod 'y nhylwth i, o Seimon Barcer i lawr, gystal a dim sy'n hanas y
penbwl hyn. Fe ddath yma fachan bach o Flanycwm i'r Shop, ag fe ddangosas y
pennill iddo, a fu a ddim pum munad cyn talu'r gwalch yn ol yn 'i goin 'i
hunan fel hyn: — “Beth
yw bardd, yn boeth y bo, Baw
o ddyn heb ddihuno; Enllibwr,
o ben llabwst, Heb
awch i'w dôn, bwch y dwst; Afradlon
ofer edlych, Bwgan
brain i'w begwn brych; Gwr
isel heb ei grasu, Clai
dwl, ac yn ddwbwl ddu; Cynhenfawr
ffwlcyn ynfyd, A
chnwbyn balch yn boen byd." 'Dyw
pob bardd ddim mor ddwl a hyn, ond allsa neb dynnu gwell pictwr o'r hwtwch fu
yma'n pyrnu lasa. Ond ma gen i asgwrn i bilo ag e'r wthnos hyn; ag rwy'n
meddwl 'i exposo fa o flan y byd. Ma’n hen bryd gneyd hynny a rw ragamwffins
fel hyn. Fe etho gyta Morgan y Teilwr i Steddfod Carmel dydd Dolig. Ro'dd 'no
breis am englyn ar y pwnc, “Beth ddaw o'r Keisar." Fe ddarllenws y
beirniad y gora yn 'i feirniatath, a phwy ddath lan i moyn y preis, ond
bachan y lasa. Wedi clwad y pishyn, fe whisbrws Morgan yn 'y nghlust i, “Rw i
wedi clwad hwnna o'r blaen yn rhwla." Y bora wetyn, fe ddath ag e yma
mwn print, a dyma fe: - |
|
|
(delwedd J7516b) (14
Ionawr 1915) |
“Gaisar
gwgus, i'r gegin — o'i balas Daw'r
boliog anhydrin; Gan
ofid bydd gynefin A
'bara Iawr' yn Berlin." Ma'n
ddicon tepig taw rw fardd o Byrtawa na'th yr englyn, oblecid yno ma nhw'n
gwerthu "bara lawr." A dyma'r dyn o'dd yn 'y ngalw i'n lleidir yn
'i bwt o e[n]glyn. Fe glwas Jones y Ffeirad yn gwed fod dyn yn gweld 'i depig
ymhob man, a taw lleidir weidiff leidir gynta. Whara teg i'r beirniad, Llew
Hirfwng, allsa fe ddim help. Dyw e ddim yn hollwybotol mwy na rhw lew arall.
Meddylwch am y dyn yn brago 'i fod a'n yfad o ffiol "Helicon," ac
yn dwcid englyn dyn arall o dan 'i drwyn. Ma'n nes gen i gretu taw Barlycorn
o'dd a'n feddwl. Fe ddyla'r pwyllgor hala Brown y plisman ar 'i ol, a mynd ag
e i'r loc yp yn streit. Ma dwcid gwaith dyn arall yr un peth a dwcid dafad.
Pe galla gwir y cwils ffeindo mas fod y dyn yn 'i sensis, a gwaitht calad
fydda hynny, fe ddyla gal 'i dransporot i jail Byrtawa i fyw ar "fara
lawr." Anamal
byddai i’n mynd i leoedd fel hyn, a falla bydda i'n fwy anamal o hyn' i mas.
Dyma beth yw troi Ty Cwrdd yn acof llateron. Do's dim Steddfota yn Eclws
Loigar, a phe bysa'r dyn a'th a'r englyn yn gwpod cymint am y Pader a'r Credo
ag am dyfu gwallt, fysa fa ddim wedi mynd i shwd bicil. Rodd Morgan y Teilwr
yn cynnip, a byswn i'n arfar beto, fe fentrwn bar o scidia taw fe na'th 'i
englyn bob lein. Fe o'dd yr ail, ac oni ba'r cil bwt, fe fysa'r gora. Dyma un
Morgan: - “Synnwyr
cyson a'r Caisar — f’ai ei roi Ef
a'i wraig mewn daear; A
bwrw dom o Byrdar, I
hau ceirch ar eu carchar." Yn
ol 'y nhast i, hwn yw'r gora, o gymint ag yw "bara circh" yn well
na "bara lawr." Ma'r cynta'n folon ar starfo'r Keisar, a dyw hynny
yn dda i neb; ond ma Morgan am 'i roi a mwn daear, a chwni crop ar y tir, ag
ma hynny'n broffit i ddynon tlawd. Ond Llew Hirfwng oedd y beirniad, a do's
dim dowt nag yw a mor onest a'r dydd. Dyw i ddim yn meddwl y dangosiff bachan
y lasa 'i wynab am getyn ar ol hyn, a'r peth gora all a neyd fydd cneifo'i
wallt, a mynd yn showdwr. Rhaid i fi fecan pardwn Brynfab am goeddi petha fel
hyn, heb iddo fe gal tynnu 'i frwsh drostyn nhw, ond ma Morgan y Teilwr yn gwed
'u bod nhw'n well na hannar y stwff ma fe'n baso. DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J7513a) (28
Ionawr 1915) |
28-01-1915 Y Darian. 28 Ionawr 1915. 0 Shop Dafydd y Crydd. Mishtir Gol., - Diolch i gaffars y "Darian" am symud
y Lemwned fu ar 'i ffrynt mor hir. I fi, ro'dd y patsh sgwar hwnnw yn depig i
blastar cwt ar dalcan dyn glan. Ar ddalan arall, ro'dd llun dyn o'r enw Uric
Acid, a'i law wr [sic; ar] 'i gefan, ac ma pob sens yn gwed taw ar bwys hwnnw
y dyla'r Lemwned fod. Fe fydda i'n leico gweld gwynab iach heb un spotyn arno
— gwynab y bydd pawb yn cwmpo mwn cariad ag e ar yr olwg gynta. Dw i'n gwed
dim yn erbyn y Lemwned. Dos dim dowt nag yw a'n stwff splendid ar dywydd poth
yn yr haf. Fysa Ap Hefin byth yn mynd yn ajent i beth comon, a lled depig
iddo yfad llawar glasad o hono wrth neyd y pennill sy ar y lebal. Fydda i
byth yn 'i dreio fa yn y gaua heb swmbwl yndo. Scyswch fi am fysnesa fel hyn
yn ngwaith dynon erill. Mae'n mynd yn lecshwn wyllt yn ochor Byrtawe a Chastallnedd, a
pheth dicon diflas yw hynny pan ma pawb ar 'u gora yn treio dala'r Keisar.
Treni fod Brynmor Jones yn gatal y Parlament, ond all neb feio dyn sy'n cal
cwnad. Bachan da yw Brynmor — chip o'r hen floc, a libral gorff a llewish.
Dyn smart odd 'i dad o'i flan, i ond piti iddo fynd i'r nefoedd yn Sais. Fe
drows at y cenhedlodd cyn i Gymru ddihuno, am fod gwell porfa'r ochor arall
i'r clawdd. Yr hyn sy'n rhyfadd yw i ddyn odd yn byw dan ras gwni ei fab dan
y gyfrath. Lled depig fod gwell porfa dan y gyfrath hefyd na sy dan yr
efengyl. Ma gwr y cwils yn ennill mwy mhen blwyddyn na phyrgethwr mwn o's, pe
cai a fyw cyd a Methiwsalem. Ond fe gaiff 'i dalu'n dda yn atgyfodiad y rhai
cyfion, os gall a gyrradd yno heb starfo. Dos dim siwrans fod hynny'n aros y
rhai sy'n byw dan y ddeddf seremoniol, ne'r hen oruchwyliaeth. Ond bachan |
|
|
(delwedd J7513b) (28
Ionawr 1915) |
clyfar yw Brynmor, ac er fod llawar o lediath Sysnag ar 'i
dafod, ma fa'n Gymro i gyd o dan 'i ddillad. Mawr lwc iddo weta i yn 'i swydd
newydd i gospi pechaduriad. Ma lle i ofni fod gwyr y West yn mynd i neyd mes o honi wrth
ddewish dyn yn 'i le. Yn ol 'y marn i, camsynad mawr odd boddro gyta
Masterman. Pwy sens yw pwsho fforiner yn fembar dros Gymru? Ma gormod o hyn
wedi bod yn hanas y wlad, a dyma sy wedi'n catw 'nol mor hir. Os bydd Sais
wedi dod i dicyn o sylw, rhaid i bob Cymro dynnu het iddo. Dos dim dowt nag
yw Masterman fel i enw yn ddyn ffyrst clas, ond fe ddyla'i dylwth ffeindo set
iddo heb fynd dros y clawdd at ddynon na sy'n perthyn iddo. Ma'n hen bryd
rhoi stop ar ryw gynffona fel hyn. Rwy'n cofio nonsens fel hyn o'r blan. Pan dowlwd Harcot mas,
ag ynta yn y Cabinet, yr odd yn rhaid i un o'r parti Cymrag reseino er mwyn
iddo gal 'i le. Ma'n wir taw Sais odd hwnnw, Mr. Warmingpan, ne rwpath tepig.
Pan ath Harcot i'r nefodd, os taw no 'r ath a hefyd, ni geson Gymro iawn yn
'i le yn Tom Richards. Dyna fel y dyla petha fod, nes cal Hom RiwI i Gymru,
a'r Parlament yn Byrdar. Dyn o'r lle ddyla gal y set, ac nid rhyw stwmpyn o'r tu fas yn
gallu clebran wrth y llath. Pe ba'n bosib torri bysadd rhw hanar dwsin o
weiar pwlars, fe ddela petha idd 'u lle. Dyma'r dynon sy'n spoilo'r cawl
ymhob trafotath fel hyn. Ma rhain yn wa'th na'r Ger[m]ans, ac yn bla ar y
wlad. Fe 'nath Morgan Lewis y teilwr benill i'r clic: - "Wrth ganu'n iach i Frynmor, Mae llawer am ei sedd; Ond dwli ddaw o gyngor Y clic yng Nghastellnedd; |
|
|
(delwedd J7513c) (28
Ionawr 1915) |
Fe ddylid pacio bwndel O'r "wire pullers” mên, A'u gyrru dros y channel I gyd mewn aeroplane." Pan fo'r comiti'n cwrdd, ma'r plans yn barod, fel nag yw a o
un dipan i fi a'm short i wed dim. Fe fysa'n dda gwpod faint o fwrw penna
'nghyd sy wedi bod rhwng y clics hyn. Dyw hynny ddim yn deg nag yn streit
fforward o Iawar o ffordd. Rw i'n ffeilu dyall pwy isha mynd tu fas i'r cylch
sy i whilo am fembar. Fe alla dyn feddwl taw'r cwalifficeshon mwya yw bod yn
perthyn i blwyf arall. Ma tri ne bedwar wedi cal 'u henwi ishws, nad o's fot
gen un o nhw yn y distric. Dwli mawr yw hynny 'bycwn i. Howyr bach, os nag
yw'r part hyn o'r wlad yn gallu macu dynon cwmws, fe ddylan gal bod heb neb.
Ond ma gomrod o wir yn y peth glwas i Jones y ffeirad yn wed, dos dim parch i
broffwd yn 'i wlad hunan. Pwy synnwr yw cario dwr dros afon, a gwell dwr o'r
hanner wrth ddrws y ty? Chi, fechgyn y gweitha tin a'r gweitha harn, mynnwch
ddyn o'ch plith eich hunan, dyn yn y'ch dyall, ag yn un o honoch, a gofalwch
am Gymro o galon ag o dafod. Dicon hawdd cal dynon o bob nashwn i sefyll pol,
odd'ar pan ma'r membars yn cal 'u talu mor dda. Ma'r swydd yn werth cynnig am
dani, ond dyw llawar sy'n cynnig ddim yn werth y pres nag yn werth 'u cal. DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J7512a) (4
Chwefror 1915) |
04-02-1915 Y Darian 4 Chwefror 1915 0 Shop Dafydd y Crydd. Mishtir Gol,— Rwy newydd fod yn Porthcawl, a welas i shwd gawl
ariod. 'Rhyn ath a fin yno o'dd, cal ordar am ddeuddag par o scitsha i'r
comishon offisars sy'n drilo'r recriwts. Fe gollas y train diwetha nos Satwn
gwaetha'r lwc, ag yno buo i hyd fora dydd Llun. Welsoch chi shwd bedlam o le
yn y'ch bywyd. Ma Cwm Rhondda yn Biwla land wrth ochor Porthcawl, yn enwetig
ar y Sul. Fe etho i'r eclws yn y bora, — rhaid i fi fod yr un peth mwn lle
diarth ag yn nhre. Riwling pashon strong in deth. Ro'odd cwpwl o recriwts yn
y cwrdd, ag 'ro'dd yn dda gen i 'u gweld nhw, ond cheso i fawr bendith yno,
am fod y cwbwl yn Sysnag. Wn i ddim shwd ma'n bosib i'r Brenin Mawr achub neb
dan brecath Sysnag. Wedi dod, mas, 'ro'dd y lle fel ffair - motor cars, a
motor beics yn gwau trwy 'u giddyl, cannodd yn whara golff, bechgyn a merchid
yn caru liw dydd gola; erill wedi yfad rhwpath cryfach na choffi, ac yn tyngu
ac yn rheci nes o'dd y creigia'n duo gan gwiddyl. Fe gretas i mod i wedi
disgyn yn Sodom. 'Ro'dd yn dda gen i gal i mynd odd'no bora Llun, ag fe
ofalas beidio etrych nol rhag ofan i fi fynd i'r un picil a gwraig Lot. Fe glwas ddarllin yn y Daily Mail ne'r Daily Liar, dos dim
llawer o waniath pun, fod y rhyfal yn costi dros filiwn o buna'r dydd i
Loigar. Os taw'r collwr sydd i dalu yn y diwadd, dyn helpo'r Keisar os caiff
a'i wado. Ma'n dda i ni taw Lloyd George sy'n catw'r pwrs. Ma'r dyn bach
hynny'n gallu coino arian wrth y dynall, a pho fwya fydd a'n hala, mwya i gyd
mae a'n gal. Fe fysa Balffor a Bonar Lo wedi mynd i weilod y cwtyn ys llawar
dydd, a'u dwylo'n ddwfwnyn mhocad y tlawd. Dos dim dowt nag yw'r Gyfarment yn cario petha mlan mor gynil
ag sy'n bosib, ond camsynad yn ol 'y meddwl i o'dd bod yn rhy byrticilar am
ddynon tal i'r Army. Rwy napod bachan bach o Gilfach Goch gas 'i wrthod am 'i
fod a fodfadd yn rhy fyr -bachan smart
ar 'i ddwrn, ag ma hynny'n llawar mwn taro. Ond 'ro'dd dicon o blwc, yndo, ag
fe nath dro pert digynnig mhen diwarnod ne ddou. Fe dda'th tri o'i bartnars
o'dd wedi paso ato i dreio 'i dyfu, a dyna lle buon nhw yn tynu wrth 'i drad
ag wrth 'i sgwydda, ac yn 'i rowlio fa'n ol a blan, fel gwelsoch chi wraig yn
gneyd rowly powly, a phan gynicws a wetyn, ro'dd a hannar modfadd dros y
marc. Nid barddoniath yw hyn, ond gwir bob gair. Mae a'n awr yn y ffrynt, ac
wedi lladd cricyn o'r Ger- |
|
|
(delwedd J7512b) (4
Chwefror 1915) |
mans. Ma'n depig taw tadcu'r Keisar o'dd yn rhoi mwya o bwys
ar hyd showdwr. Ro'dd yn rhaid i hwnnw gal pob un bothtu dwylath o hyd yn y
man lleia, ac os bysa fa’n dairllath, gora i gyd. Fe allwn i feddwl fod
llawer mwy o fontish gan ddynon byr na rhai tal, ac ma Kitjiner wedi ffeindo
hynny mas erbyn hyn. Yn un peth, di nhw ddim yn gystal shot i'r gelyn. Peth
arall, dos dim isha torri'r trenshes mor ddwfn i ddynon bach ag i byst
telegraff. Ma hynny'n spario llawar o drwpwl. Meddylwch wetyn am yr ennill
i'r Gyfarment. Dos dim isha cymint o frethyn i neyd dillad i ddyn byr ag i
ddyn tal, ac ma llawar yn achwn 'u bod yn ffeilu cal dillad am fod y brethyn
yn bring. Dos dim isha hannar cymint o letar i neyd scitsha. Fe wn i trw
brofiad fod trod dyn tal yn fwy na throd dyn byr. Unwaith eto, ys gwetws
Jones y ffeirad, fe wna llai o welya'r tro. Fe allwch roi dou ne dri o rai
bach yn yr un gwely, pan ma'r dyn tal yn cysgu o gornal i gornal, ac yn mynd
a'r gwely i gyd. Wedi etrych ar betha fel hyn, ffor and against, rw i'n cretu
fod y dafol yn troi'n deg o ochor y dynon byr. Fydd dim cymint o alw am hyd ar ol hyn. Fe welas yn Porthcawl
yr hyn ma nhw'n alw'n Bantams. Crots heb lawar o hyd na lled. Y peth tebyca
welsoch chi 'rioed i gilocod bach yn dechra canu. Os can nhw ddicon o fwyd,
fe fyddan wedi macu plyf mhen pum mlynadd, ac yn ffit i gal 'u lladd.
Gobeitho byddan nhw wedi canu llawar cyn hynny o salma gwell na
"Tiparery." Enw an ffowlyn bitw bach yw Bantam, ac ma'n depig fod
cilog Bantam yn fwy dewr na'r brid o gilocod sy'n cal 'u treino i ymladd.
Synnwn i damad na fydd rhain yr un peth, os can nhw dicyn o bowdwr yn 'u
bwyd. Wedi i fi ddod nol o Porthcawl, ag atrodd yr hanas i Morgan y
teilwr, fu a ddim shiffad cyn gneud pennill iddyn nhw. Ma awan barod gen
Morgan, a mae a'n siwr o daro'r hoelan ar 'i thop bob tro: — Mintai wrol mewn taro - ant i'r ffrynt At wyr Ffrainc i frwydro; Dewrion brwd o werin thro, A'r crytiaid yn recriwto. DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J6568a) (11 Chwefror
1915) |
11-01-1915 Y Darian. 11 Chwefror 1915. O Shop Dafydd y Crydd. Mr. Gol., — Rhaid i fi roi ar ddyall i'r beirdd taw i Brynfab ac
nid i fi y ma nhw i dderecto'u gwaith. Odd'ar pan ddechreuas i goeddi amball
benill, ma nhw'n hala'u barddoniath yma'n fwndeli. Ma hyn yn niwsans mawr i
ddyn mwn bysnas. Nid mwn telyna w i'n delo, ond mwn scitsha. Welsoch chi shwd
beth ariod, ma bron cymint o benillion yn y Shop y dyddia hyn ag sydd o
hoilon, ac ma nhw i gyd yn panu ar y Keisar pwr ffelo. Ma'n od gen i fod y
dyn yn fvw. Does dim posib dyall llaw amball un, os taw gwaith llaw i nhw
hefyd. Rw i bron cretu taw gwaith trad yw 'u hanar nhw. Beth yw'r rheswm fod
llaw prytydd yn fwy clymsy na rhwun arall? Fe glwas fod y bachan sy'n gwerthu
cenin yn y North wedi hala llawar printar i'r Seilam. Ma hyny'n beth sober,
ac os yn wir fe ddyla gal byw ar genin am ucan mlynadd. Dw i ddim yn meddwl
fod a'n un o'r lot hyn, oblecid clasgu hata cenin iddo'i hunan yw gwaith
hwnnw, ac nid 'u rhoi nhw i ddynon erill. Do'dd hi ryfadd yn y byd i'r hen
brytydd Eryr Craig yr Hesg hala'i host card yn ol, a gofyn iddo sgrifenu'n
Gymrag ac nid yn Lladin. Alla i ddim gneyd pen na sowdwl o hanar y scriblach
hyn, ond ma ges lled dda gen Morgan y teilwr. Dyma un: "Dwl Eryr i'n dolurio — yw'r Caisar, A'r casaf am flingo; Ond er ei nwyd erwin o, 'Llew' blewog all ei bluo." Falla taw'r hyn ddylwn i neyd fydda hala'r bwndal i gyd i
Brynfab, ond mwy na thepig fod gyta fe dynelli ar 'i law'n barod. Idea dda
fydda'u coeddi nhw i gyd yn un llifir, a rhoi copi i bob un sy wedi listo, ag
yn barod i gario dryll dros 'i wlad. Treni mawr fod drychfeddylia mor ola yn
cal 'u catw mwn twllwch. Ma'r bechgyn wedi stydio'n galad, ac wedi colli
llawar noswath o gysgu wrth neyd 'u gwaith, ond mawr y lleiad sy'n dod i'r
golwg ar ol 'u paso a'u camol gen y golycudd. Transportashon ffor leiff yw hi
ar lawar o nhw ar ol paso'r Cwrt uwcha. Mwy na thepig fod y bechgyn wedi
blino dishgwl i'w pishis dod mas, ag yn meddwl ca nhw well whara teg yn y
Shop. Rwy'n cofio clwad Robin Ddu yn gwed y dyla pob englyn fod a bach yn 'i
gwt. Do'dd gen i ddim ges beth o'dd a'n feddwl, ond rwy'n dyall nawr ar ol darllin
hwn – |
|
|
(delwedd J6568b) (11 Chwefror 1915) |
"Hen Eryr annaerarol — yw'r Caisar, Bwrcaswyd gan ddiafol; Ond mae'r 'Arth' anosbarthol Yn rheibio'n awr ei ben blan." Fe fu llawar o son am y Crown Prins ar ddechra' rhyfel. Fe
o'dd yn gofalu am lefft wing y Germans. Ma'n depig taw catw pen hwnw nath i
Von Clwc gilo'n ol i'r man lle ma fa'n awr. Ticyn yn wyllt yw'r Prins, a mwy
o dash yndo nag o sens. Crotyn wedi mwy na hanar 'i spwylo. Wn i ddim llawar
am dano, ond os yw a'n depig idd 'i bictwr yn y papra, mae a'n etrych yn
ddicon hurt - silly bily na ddyla fynd ymhell o olwg 'i fam. Pan gwmpiff y
Keisar, dyn helpo'r wlad os daw hwn yn ben. Ma rhw brytydd yn y bwndal hyn yn
son am anlwc felni. Dos neb fel prytydd am ddarllin penna. Fe all weld trw
ben i'r "biwtiffwl shor" sy'r ochor arall. Fel hyn mae a'n camol y
Prins ar ol croci'i dad – “Broliwr heb wawr o heulwen - yw William, Ddymchwelir i'r domen; O'i ol daw'r deyrnwialen I'r Crown Prins a'r coryn pren." Ma'n dda gen i fod petha wedi dod i shap ag i fwcwl yn Byrtawe
a Chastellnedd. Mr. J. J. Williams wedi cal majority. Fe wydda pawb o'r
dechra taw fe o'dd y dyn. Rwy'n falch erbyn hyn i fi alw sylw at y matar bythewnos
yn ol. Fe glwas flan gair taw dyna drows y dafol, a
bod y clics i gyd wedi cal ofan "merch y crydd.” Synwn i flewyn na cha i
fesur trod y membar newydd pan ddaw a i wpod hyn. Fydda hyny ddim yn corypt
practis, mwy na phyrnu het gen deilwr o'dd o'i ochor. Ond nid er mwyn own i'n
sgrifenu, ond o brinsibl. Ma rhywrai wedi dysgu yn y fysnas hyn taw trech
gwlad nag arglwydd. Y ffolineb mwya'n y byd yw padlo yn erbyn y llif. Mawr
lwc i T.J. ac i gadeirydd newydd y Parti Cymrag, Syr Herbert Roberts. Dyma benill
o waith bachan bach o Flanycwm i'r fuddugoliaeth: — Ar ddwli torrodd heulwen,—ac i'r gad Y ceir gwr di-amgen; Clwc a sal yw y clics hen Am sgornio Maesygwernen." DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J6566a) (25
Chwefror 1915) |
25-02-1915 Y Darian. 25 Chwefror 1915. O Shop Dafydd y Crydd. Mishtir Gol., — Plan da iawn odd fformo Undab y Cymdeithasa Cymrag,
a'u cal at 'u giddyl i gyd-weitho, ol hands upon dec. Gobeithio gallan nhw
gario'r gwaith ymlan heb fynd yn glics fel pob Undab arall. Wn i ddim am
gymint ag un nag yw y clefyd hyn yn dod miwn ag yn disffigro gwyneb y
gymdeithas fel ol y frech. 'Ro'dd "Clic y Bont" yn ddicon
respectabl, ag yn falch o'r enw. Do'dd y clic hwnnw ddim yn cymryd arno fod
yn ddim arall. Fe nath lawer o les yn 'i ddydd wrth gatw'r byd yn 'i le, heb
ddim ond lemwned yn ysbrydiaeth at y gwaith. Ond ma relic hwnnw wedi darfod,
er collad fawr i'r Gwd Templars, "Requiescat in pace," ys gwetws y
Gwyddel wrth gladdu'r mochyn. Do's dim drwg mwn clic os na fydd a'n eimo at
ddim arall. and pan gewch chi gymdeithas a'i phrif ddynon yn gweitho i
ddwylo'u giddyl, ag yn pwsho'i ffryndia i'r ffrynt ddaw dim llawar o fendith
o honno. Dw i ddim yn hinto fod yr Undeb newydd yn gneyd hynny, ond yn galw
sylw y rhai sy ar y blan i dreio catw'r ysbryd drwg mas. Argol dda yw fod
Lleufer yn y gatar. Ma fe'n napod pob short o gythreuliad, ag yn gwpod ble
ma'u rhoi nhw, ag fe ddyla gal yr un hawl yno ag yn y Cwrt. Os llwyddiff yr Undeb hwn, tepig na fydd fawr o isha
Cymdeithas yr Iaith Gymrag wetyn. Fe fu honno'n gneyd twshged o les slawar
dydd, ond do's fawr o son am dani nawr, ond mwn amball bicnic yn yr haf. Fe
dda'th yma gomyrshal trafilar i'r Shop pwy ddiwarnod, ag 'ro'dd a'n gwed
taw'r un parti o'dd yn y picnic o flwyddyn i flwyddyn. 'Down i ddim wedi
sylwi ar beth fel hyn nes iddo fe gwnni'r bleins. Ond 'rwy'n gweld nawr y
gall comyrshal trafilar wed llawar o wir. Pwy sens yw galw'r un rhai i
gario'r picnics hyn ymlan bob haf? Oti bywyd Cymru'n dependo ar rw hannar
dwsin o chwilgrots o'r un standard? Fe all dynon mor ddwl a gwaddod weiddi,
"Ois y byd i'r iaith Gymrag," os ca nhw'u talu'n dda am hynny.
Fysa'n dda gen i wpod faint ma'r picnis hyn yn gosti. Dyw gweithwr hur yn
prisho fawr fod y gwaith yn talu os caiff a'i docyns. Faint ma pob un o'r
Parti hyn yn gal am ddrablitho a darllin papra mor sych ag asglod? Fe fuo i
yn un o'r picnics hyn yn Byrtawe flynydda nol, a chlwas i shwd beth ariod. Fe
gretas y byswn i 'n rhewi er 'i bod hi'n genol haf. 'Do'dd dim un o nhw'n
ddim patsh i'r hen Jones y ffeirad yn |
|
|
(delwedd J6566b) (11
Chwefror 1915) |
darllin 'i brecath. Fe etho i mas, ar hanner y cwrdd, ag i'r Mwmbwls,
i ryndo'r gwylanod yn dysgu Cymrag idd 1i giddyl. Am faint o flynydda ma
rhain wedi cal'u leso i nevd v iob hyn? Ma cannodd o ddynon gora'r wlad wedi
slafo dros Gymru cyn geni'r crotsach hyn-dynon o dalant a dawn, yn ymladd
batls di-ildo, heb gal cinog ariod am hynny, ond wedi hala cannodd o buna i
dreio cwni'r hen wlad yn ei hol. Faint o aberth ma gwyr y picnics hyn wedi
neyd? A all rhwun bwynto mas wladgarwch di-dal yn perthyn i'r rhain? Dw i
ddim yn erbyn picnics, ond rwy yn erbyn galw'r un band o hyd i ganu iddy nhw,
a gwell bands o'r hannar yn y wlad yn cal'u sgorno. Fe wn mod i'n gwed petha
plain, ond ma ngwad i'n berwi odd'ar pan fu'r comyrshal trafilar yma.
Gobeithio'n fawr na chaiff Undeb y Cymdeithasau Cymrag ddim driffto i dir fel
hyn. Ma'n depig fod atgyfodiad Owen Glyndwr i gymryd lle'r flwyddyn hyn, ac
ar blatfform yr Undeb ma'r udgorn i gal i ganu. Wn i yn y byd shwd gorn sy
gyta nhw, pun a corn gafar, ne gorn hwrdd. Fe glwas son am gorn gwlad mwn rhw
Steddfod. Gwell peidio canu hwnnw, ne falla taw Iolo Goch atepiff. Ma dicon o
brydyddion yn y wlad ishws. Rhaid cofio galw'r dyn wrth'i enw rhag ofan i
bawb gwnni. Ond beth yw'r enw reit? "Glendower," medda'r Sais.
"Glyndwr," medda'r Cymro. "Glyn Dwr," medda'r Keisar. Fel
dyn cyfarwdd a phwyntrhedyn cryf, ag yn gneyd scitsha i bara byth, ma'n well
gen i'r hen steil Glyndwr. Ma pob bardd sy'n werth'i halan yn siwr o fod o'r
un farn. Ma cymint o waniath rhwng Glyndwr a Glyn Dwr ag sy rhwng derwen a
dail bysadd y cwn. Ma pawb yn teimlo fod Genaral di droi'n ol yn y gair
Glyndwr, ond ma Glyn Dwr yn gneyd i ddyn feddwl am un o'r Bantams welas i yn
Porthcawl. Galwch y dyn wrth enw ag asgwrn cefan iddo, ac nid rhw lyswan o
enw fel Glyn Dwr. Dw i ddim yn meddwl yr arddeliff yr hen wron shwd lasdwr o
enw pan ddaw a'n ol. Owen Glyndwr ffor efar. 'Dy' nhw ddim wedi setlo yto pwy
sydd i ganu'r corn. Lled depig taw Arthen ne Matho. Piti na alla nhw gal corn
a doi big iddo, fel y galla'r ddoi whythu'r un pryd. Pob llwydd i Owep
Glyndwr. DAFYDD Y CRYDD, |
|
|
(delwedd 5701a) (11
Mawrth 1915) |
11-03-1915 Y Darian. 11 Mawrth 1915. 0 Shop Dafydd y Crydd. Mishtir Gol. - Ma dydd Gwyl Dewi wedi paso y flwyddyn hon yto,
a phawb wedi "dathlu”, ys gwetson nhw rinwedda'r hen Sant. Gwnawd hynny
mwn llawar dull a llawar modd, rhai trw de, erill trw gino a shampein. Wyddwn
i ddim o'r blan fod Dewi Sant yn leico shampein. Lled depig taw dyna'r rheswm
fod cymint o swn poteli yn y "dathlu." Fe geso i dicat gan Eryr Pen
Pych am i fi goeddi englyn iddo ys ticyn yn ol. 'Ro'dd y gino'r werth tri a
whech, cawl ar blat, sgadenyn wedi'i ferwi, cig eidon, ffowls a ffwdin ar ol
hynny. Eitha ffest. Ond yr hyn o'dd yn y mlino i yn fwy na dim o'dd swn tapo
poteli mwn cwrdd i gofio am Sant. Ma'n wir nag w i ddim yn ditotal ymhunan,
ond fydda i byth yn yfad potal gyfan gyta chino hyd nod ar ddydd yn Dolig.
'Ro'dd yr Eryr yn gwed taw Saeson a Chymry am unwaith yn y flwyddyn o'dd rhai
mwya sychetig yn y ffest, ac na welsa neb olwg arnyn nhw to hyd Gwyl Dewi
nesa. Y casglad yw, 'u bod nhw fel camelod yn yfad dicon iddi 'u catw nhw i
fynd am flwyddyn. Ond peth cas iawn i saint fel ymhunan o'dd clywad reports
ar bob llaw, a chyrcs poteli'n tasgu o bothtu'i ben. Fe gretas i mod i wedi
mynd i'r ffrynt, a bod y Germans yn bombardo'r lle. Falla fod shampein yn
help i gatw gwladgarwch yn fyw, ond gwell gen i ddyn sy'n gallu caru ei wlad
heb swmbwl y 'sprydion hyn. |
|
|
(delwedd 5701b) (11
Mawrth 1915) |
Fe gynicws y cadeirydd iechyd da i'r brenin a'r holl frenhinol
deulu, ac fe ddangosws yn glir 'u bod nhw'n dod o deulu Dewi Sant, a bod
tywysog Cymru yn comando'i ridjment yn Gymrag. 'Ro'dd dynon y shampein erbyn
hyn wedi mynd yn ffrantic wyllt, yn gweiddi "hear, hear," ac yn
ffystio'u plats gwag fel band o dymbarins. Chlwas i shwd gynhalath ariod.
'Ro'wn i wedi mynd i stwmp, ac fe ofynnas i'r Eryr, "Oti ni'n saff
'ma?" "Twt," medda tynta, "dyw hi yto ond dechra
gwawrio." Ar ol i'r cadeirydd ddarfod, dyna bob un ar 'i drad, a'i a'i
las yn 'i law, ac yn gweiddi "Y brenin," "The King,"
"The Royal Family," ac fe drawodd rhwun "God save the
King," bothtu hannar milltir ne racor yn rhy ychal, a dyna fel y cwplws
y llith gyntaf. "Ma'n bleser gen i nawr," mynta'r Cadeirydd, “i alw
ar Ficar y Plwyf i gynnyg y tost nesa, Dewi Sant." Fe na'th y Ficar'i
waith yn dda iawn whara teg iddo, ond fe rows 'i drod yndi wrth son am robo'r
Eclws na'th Dewi Sant yn ffeirad. "Dim politics," medda rhwun yn y
pen draw, ond fe a’th y Ficar ymlan at beth arall heb gymryd arno'i fod a'n
clwad. Fe wydda pawb fod y sylw wedi 'i dowlu dros y rails, ac iddo golli'i
brecath. Treni o’dd hynny ag ynta'n pyrgethu am y tro heb bapur o'i flan.
Gomrod o eira Sysnag o'dd gan y Ficar, a mynd i diwn y Litani yn'i
beroreshon. Ond y peth gora'n cwrdd o'dd y delyn a chanu penillion. Ddyla dim
un Gwyl Dewi fod heb y delyn. Rwyn cofio clwad Llew Llifio'n canu,
"Waeth gen i glywed band o gwn, os na cha i delyn Cymru." Pan o'dd
Llew Llifio yn'i breim, 'ro'dd yn werth mynd ucan milltir i ryndo arnon canu
gyta'r tanna. Fe allsa'r hen Lew ganu penillion ar bob alaw Gomrod o ganu
“Pen Rhaw” sy'r dyddia hyn, nes yw bron mynd yn Ben Mwrthwl. Gan fod y delyn
yn dod yn ol, dewch a'r alawon i gyd yn ol gyda hi. Ar ddiwedd y cwrdd hwn fe
adroddws yr Eryr y penillion hyn – Gwyl Dewi dan glod awen - Gwyl enwog O loniant di-amgen; I brydydd y bydd yn ben, Os cewch whisky a chasgen. |
|
|
(delwedd 5701c) (11
Mawrth 1915) |
Goludog Wyl gwlad y gerdd, — Gwyl talent, Gwyl telyn a chyngerdd; Heibio daw i Walia werdd, Gyda'i bancwet i bencerdd. Gwyl canu, Gwyl y cennin, — da i fyd Ei defodau cyfrin; A thry Fawrth a'i arwaf hin Fel di-hafal hud Hefin. Gwyl felys, Gwyl o foliant, — i lan swydd Eilun serch diffuant; Mewn rhyw emyn o ramant, Hawdd yw son am Ddewi Sant. Pan dawodd yr Eryr, fe feddylas i fod y plats yn mynd yn
yfflon jibaders. Yr o'dd pob potal yn wag erbyn hyn, a phob un o'dd y tu ol
iddy nhw'n llawn hyd 'u gwddwg. Lled brin y gwydda rhai o nhw'r gwahaniath
rhwng Eryr a dryw bach. 'Ro'dd y rhai mwya stwrllyd yn gwishgo daffodils, a'r
lleill yn gwishgo cennin. Dw i'n hito dim am y daffodils ar ddydd Gwyl Dewi.
Gwell gen i'r geninen. Hon heb ddim dowt od'dd ar got Dewi Sant. Heblaw
hynny, mwn cwrdd sydd a mwy na'i hannar yn gawl, ma pob sens yn gwed taw
cennin ddyla fod yn hwnnw. Ma gwynt cennin yn fwy iach na gwynt balchder, a
do's neb ond dandis a ffopsach am ei newid. Ond ma'r matar yn awr wedi'i
setlo, a'r ddraig a'r geninen ar got of arms y Welsh Gards. O hyn i mas, do's
dim ond y geninen i fod yn y golwg ar ddydd Gwyl Dewi. DAFYDD Y CRYDD |
|
|
(delwedd 5889a) (22
Ebrill 1915) |
22-04-1915 22 Ebrill 1915. Y Darian. Mishtir Gol., — Yr wthnos o'r blan I fe ddath dou fardd a dyn
i'r Shop, ag fe fuon yma am bothtu ddwy awr. Yr odd y tri yn pitsho miwn i'r
Tramp fu'n berwi reis yn Cwmparc. Fe welas lawar o dramps o bryd i bryd, ond
dyma'r un mwya di-glem am neyd bwyd a welas i ariod. Rwy'n cretu mhunan i fod
a'n frawd i'r bachan fu'n pyrnu lasa gen i scetyn yn ol. Lodjar odd hwnw hed,
ag fe glwas flan gair iddo gilo'n ol dros y "wal ddi-adlam” heb setlo'i
gownt yn y Ton. Rwy'n napod hwn yn ddicon da, ag mae a'r un gewc a'i frawd.
Yn ol y marn i, fe ddyla pob tramp gal mynd i'r Seilam ne i'r ffrynt. 'Dyn
nh'n fawr proffit i gryddion na theilwried. Fe ddyla bachan Cwmparc wpod fod
gwaniath mawr rhwng berwi reis a berwi tatws. Ma reis fel startsh yn moyn
elbo rwm. Peth dicon danjeris yw i ddyn dreio bod yn fenyw. Y lwc fwya'n y
byd na lyncws gwr y ty a'i lodjar y reis yn sych, a lemwned ar ei ol, nes.
mynd mor dew a das wair. Fysa hynny ddim yn fontish i ddyn sy'n byw mwy na
hannar'i amsar ar yr hewl. 'Do'dd dim cymint o ots am wr y ty, oblecid 'ro'dd
e wedi inshiwro'i fywyd, ond 'dyw hynny ddim yn lein tramps. Ma gen y tramp
hwn well ges am neyd pennill na berwi reis, a ma hynny fel reis yn gneyd i
ddynon wyddo. Dyna pam ma'r bachan yn moyn ffugenw. 'Dos dim posib iddo gal
gwell enw na hwn Eryr Pwdin Reis. Ma hwn yn enw bach pert digynnig. Alla'r
bachan sy'n gwerth Cenin yn y North byth ffeindo gwell. Fe dreias i neyd
pishyn iddo fe a'i reis, a rwy'n siwr fod y lein gynta'n un dda, achos, fe
welas un depig iddi gen Dewi Estyll. O! deffro Awan, tyrd ymlan, A bydd yn lodas neis, A rho dy help i 'nuthur can I Eryr Pwin Reis; Bu'r Eryr gwyllt a gwr y ty Yn spwnjo yn y gegin, Ac fe fu'r ddou yn ddicon hy I dreio berwi pwdin, A berwi bu am banner awr, Nes ath y llestri'n yfflon, A thyngu na'th yr Eryr mawr Fod anga yn y crochon. |
|
|
(delwedd 5889b) (22
Ebrill 1915) |
Scyswch fi am dreio'm llaw ar farddoniaeth. Dyma'r pishyn
cynta netho i ariod, ond rwy'n meddwl dala mlan os ca i fywyd a iechyd. Ma
Morgan y teilwr wedi gwed lawar gwaith pe byswn i wedi stydio y rheola, y
byswn i'n fwy na matsh i lawar bardd Corniog a Chadeiriol. Fe glwas pan own i'n grotyn nag o's un drwg yn ddrwg i gyd. Ma
llawar o wir yn hynny. Nid drwg i gyd yw rhyfal mawr y dyddia hyn, a weta chi
pam dos dim dowt nag i ni'n dechra ar y Mil Blynyddoedd. Ma'r Brenin wedi
seino dirwast, ag ma pob dyn loyal yn siwr o ddilyn y Brenin. Ma'n wir nag w
i ddim yn dotal ymhunan, ond fydda i byth yn yfad ond pan fydda i dan annwd,
a nid arno i ma'r bai mod i'n cal annwd mor amal. Ond rhaid gneyd 'run peth
a'r Brenin ta fa'n gwishgo 'i grys tu fas. Clefyd y Brenin ma nhw'n galw
hynny. Flynydda'n ol, fe ath y brenin Etwart o dan opereshon, ac fe glwas
ddoctor yn gwed fod milodd yn Llyndan wedi treio mynd yn sal, a demando'r un
opereshon, er 'u bod nhw mor iach a'r cricsyn. Rwy'n cofio Victoria, mamgu'r
Brenin George, yn gwishgo crinolin am y tro cynta. Dos dim isha gwed pam, ond
i hynny ddicwdd ychytig cyn geni un o'r plant. Cyn pen hannar blwyddyn 'rodd
holl fenywod y wlad yn gwishgo crinolins, pun a fysa argol am fwy o deulu ne
beido. Jobin da fod brenin Lloigar wedi dod yn ditotal. Bysa fa'n peido smoco
hed, fe fysa pawb ond Keir Hardie yn gneyd yr un peth. Dw i ddim yn cretu mwn
mynd mor bell a hynny, oblecid ma pob doctor sy'n 'i sensis yn gwed fod baco
yn disinffectant, ac fe fydd mwg yn siwr o fod yn fontish i iechyd y Mil
Blynyddodd. Wn i ddim faint o “Irish," "Scotsh,"
"Shampen, a "Stowt” sy yn seler y brenin, ond fe ddylan gal 'u
symud 1 gyd dder and then. Gora po bella fo sprydion drwg o'rwth dyn sy'n treio
byw'n dda. Gobeitho naiff a ddim yfad ar y sly, ne mae a'n siwr o ddod i
hobl. Ma dicon o sothach meddwol yn cal 'u hyfad yn Lloigar bob
blwyddyn i nofio'r Ffleet oddi'yma i'r Dardanels, a ma mwy o sybmarins yn y
Lantic Oshan hyn na ma neb yn feddwl. Cenedl yn llyncu mor! Y peth gora sy
gyta ni i ddangos am y gost yw carchara a mynwentydd. Ma stwff rhyfal yn mynd
yn bring, ac ma'r Gyfarment wedi ffeindo mas taw'r achos am hynny yw fod
cymint o ddynon ar 'u spri, yn lle bod gyta'u gwaith. Fe wetws Lloyd George
lot o wir pwy ddiwrnod am y rapscaliwns sy'n hala mwy o'u hamsar mwn tafarn
nag wrth 'u dyledswydda. Dos Does neb ond Keir Hardie yn anfolon i glwad y
gwir, ac ma fe wrthi'n blagardo'n wath na phic pocet. Fe wyr pawb ond
gwaddod, fod milodd ar y spri bob wthnos yn lle bod gyta 'u gwaith, a ma
nhw'n ddicon anodd 'u trin heb i neb gwni 'u llewysh nhw. Dos dim gwell
ffrynd i'r gweithwr na Lloyd George yn yr Hows of Comons nag yn un Hows
arall, ac mae'n tw bad fod rhyw grancod yn ei flagardo am dreio gwella'r byd.
DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
|
27-05-1915
|
|
|
|
|
|
|
|
Na, dw, i ddim wedi joino yto, ond rwy'n ddicon parod y dyddia
hyn. Wyddoch chi beth, ma'r Germans ’na'n haeddu cal'u seithu bob jac, a'u
towlu'n fwyd i gwn. Ma mwy o ddynoliath mwn blaidd o'r cod na sy yn y rhain.
Dyna fel w i'n teimlo pun a reit ne rong yw hynny. Ma busnas y Lusitania yn
ddicon i droi pob dyn yn y wlad yn showdwr. Rodd cendar i'r wraig yco yn
injiner arni, a dos dim son am dano. Dos dim dowt nag yw a yn y gweilod, os
na chas a'i ladd wrth'i bost. Ma tri o blant bach ar'i ol, a'r wraig bron
colli ei sensis. Fe fuo i'n ffeilu cysgu am dair noswath ar ol darllin yr
hanas, ag fe netho gwpwl o englynion i drychinab y. Lusitania. Falla coeddwch
chi nhw yn y Darian. |
|
|
(delwedd J7853a) (10
Mehefin 1915) |
10-06-1915 Y Darian. Shop Dafydd y Crydd. Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Gol, — 'Rwy'n gweld fod y bachan cloff sy'n Iodjo yn Cwmparc yn para i bitsho
miwn i fi, ond dw i ddim yn meddwl tynu nghot ato, onte fe fydd yn fwy cloff
nag yw a'n awr. Fe fuo inna yn Ffair y Cymry yn Byrtawa, a phan ddetho i nol,
fe glwas fod rhw glymercyn wedi galw yn y Shop, ond dodd neb yno ond Ned, y
bachan sy a'r esgid yn 'i law yn y pictwr. “Shwd i chi heddy?" mynta'r
dyn yn y drws, “oti Dafydd y Crydd miwn?" "Nag yw," mynta Ned,
“ma fe wedi mynd i Byrtawa i fesur trad Arthen, a'r Welsh Batalion sy o dan
'i gomand. Pwy ga i wed[i] i chwi? 0 ble 'chi'n dod? I ble 'chi'n mynd gan
mod i mor ewn a, gofyn." “Fi yw
Tramp y Darian," mynta'r dyn. “Ma Dafydd wedi addo par o glocs i
fi." “Ma dicon o'u isha nhw arnoch chi," mynta Ned.
“Ishteddwch," ag fe ishteddws ar y fainc a lot o gwyr crydd arni. Mhen
bothtu gwartar awr, fe glwa rw dramp yn canu Ton y Botal ar yr hewl, ag fe
neidws ar 'i drad mor sybyrthol, a bothtu drodfadd sgwar o bart ol'i drowsis
ar y set, fel lebal ar garpet bag. "WeI diawst, ma golwg bert arnoch chi
nawr," mynta Ned. “Gwell i chi newid a'r boy 'na sy'n canu ar yr
hewl." Wel, dyma beth bidir," mynta'r dyn. "Y Crispyn cythral,
pam na fysa chi'n gwed fod cwyr crydd ar y set? Dyma bicil i fynd i Ffair
Byrtawa, a fina wedi addo cwrdd ag Alis cyn dod nol. Os gweliff hi fi yn y
shap hyn, fe fydda'n fwy tepig o gal 'i throd hi na'n llaw. Gwetwch wrth
Dafydd y caiff a dalu compenseshon i fi gal trowsis newydd. Rodd hwn yn werth
gini pan geso i a uncan mlynadd yn ol." A bant ag e dros yr hewl fawr, a
thwryn o blant yn 'i ddilyn. Allswn i ddim peido wherthin wrth glwad Ned yn
atrodd yr hanas, a'r peth ddath i meddwl i odd pwt o englyn ddysgas i pan yn
grotyn —
Wrth
'i weld a'n gloff heno, ag wedi colli patsh mor fawr o'i drowsis, fe gretws y
plant fod German sybmarin wedi bod ar 'i ol, ac wedi 'i dorpedo, ag fe ath y
son mas trw'r holl le. Bora dranoth, fe welas mwn dou bapyr Sysnag -
"Exciting rumour. Another criwswr torpedoed. Attack on a tramp by a
German submarine." Rodd yn hanas yn gwed taw yn Star Bord y cas y tramp
ei daro. Ma'n depig nag odd dim "Three Stars" ganto ar y pryd, ond
fe welws lawar o stars ar ol yr ergyd. |
|
|
(delwedd J7853b) (10
Mehefin 1915) |
Ma
fa'n achwn fod Morgan Lewis y teilwr wedi gneyd cawl o'i blanc fyrs petar
lein. Fe ddyla ddiolch iddo, oblecid rhwng y “cawl" a'r “pwdin,"
chas a ddim shwd ffest ariod. Ond chlwas i ddim am neb o'r blan yn gneyd cawl
o asglod. Caredicrwdd mawr yn Morgan odd rhoi ticyn o marjarin yndo i roi
llycid i “gawl dall." Ma Scwl Mastar y Ton yn gwed fod gwell blas o'r
hanar arno nag sy ar y gwreiddiol, ac mae hwnw'n gwpod y gwaniath rhwng cawl
a chawl. Ond dos gen i ddim amsar i foddro gyta pheth fel hyn, oblecid ys
gwetws Jones y ffeirad, nid ar gawl na phwdin y bydd byw dyn. Ro'wn
i wedi meddwl gwed ticyn am y Cwrdd Mawr yn Byrtawa, ond ma'r Tramp wedi mynd
a'r hyn i chi'n alw'n "ofod" bron i gyd y tro hyn. Dodd dim ,cymint
o fwyd i ened yno ag sy'n Eglws y Plwyf. Y fendith fwya geso i yno odd cal
mesur trad Arthen a Matho am bar o Welinton bwts - rhai dicon llytan i
wishgo'r trowsis tu fiwn. Bydd het fflat a phlufyn gyta'r rhai hyn yn 'u
gneyd nhw'n tip top genarals, tepig i Harri'r Wythfed. Ma'r Undab yn bywcth
gwneyd gwyrthia, a gobeitho llwyddiff a'n fawr i gatw whara teg i bopath
Cymrag. Gormod o glebran sy mwn cyrdda fel hyn, a rhy fach o practical work
ys gwetws Wil Smith. Ma yspryd proffwydoliath wedi bod yn y nilyn i yn
ddiweddar, ac yn gwed y bydd yr Undab Cymrag yn Sais twt cyn y bydd a'n
bymthag od, ac yn meddwl mwy am bicnics na dim arall. Dyna hanas rhai
Cymdeithasa Cymrag erill. Os bydd un Sais yn perthyn i'r Clwb, yn enwetig os
bydd a'n dicyn o Sgweiar, rhaid troi popath yn Sysnag wetyn er mwyn hwnnw.
Dos dim ots am dano i a'm short sy'n dyall dim ond Cymrag. Dyw hyny ddim yn
deg o getyn o ffordd. Ma'n wir fod llawar Cymro wedi colli iaith ei fam, ond
mwn cwrdd Cymrag, fe'i hunan ddyla gal diodda, ac nid y dyn sy'n ei chatw.
Cariwch yr Undab ymlan yn Gymrag fechgyn, ac os bydd Sais yn dewish clwad 'i
lais, ag yn brago fod cendar 'i dadcu'n Gymro, gwetwch wrtho am fynd i
bicnics Cymdeithas yr Iaith Gymrag am ddeng mlynadd, a falla bydd a'n gwpod
erbyn hyny y gwaniath rhwng bara chaws a bara lawr. Fel y gwetws Eryr Pen
Pych –
|
|
|
...
|
|
|
Y
Darian
|
|
|
|
i'r Cymar, ag yn cario'r post trw'r cwm cyn bod
son am railway yn uwch na'r Ddinas. Gan fod gytag a lawar o waith cerad, fe
brynws gart a mwlsyn, ag fel dyn piwr, rodd a'n cario pob math o drimins dros
ddynon erill yn y cart bach, nes odd a'n depig i'r llenllïan welws Pedr. Fe
gwrddws a thramp un diwarnod, a mynta hwnnw, "Oti chi'n cario racs
Shon?" "Otw, neida miwn," mynta Shon. Dro arall fe gwrddws ag
e wetyn, ag fe ofynws yr un cwestiwn, "Oti chi'n cario racs heddy?"
I "Ddim pob short, catw di draw,” mynta Shon. "Fe glwas taw cendar
i fachan cloff Cwmparc odd hwnw, a bod y tylwth yn byw ar yr hewl o
genhedlath i genhedlath. |
|
|
|
|
...
|
|
|
15-07-1915 Y
Darian |
|
|
|
|
|
|
|
|
.....
|
|
|
19-08-1915 19
Awst 1915. Y Darian.
|
|
|
|
|
|
|
(delwedd J7844a) (26
Awst 1915) |
26-08-1915
J7844 Y
Darian. 26 Awst 1915. Mishtir
Gol. Ma Ilawar o 'ddadla wedi bod yn y Shop ar ol Steddfod Bangor, a ma'r
englyn wedi 'i dynnu'n jibarders. Rw i'n dyall mwy am hoilon a lletar nag am
godl a chynghanedd, ond rwy'n dyall fod mwy o farddoniath mwn clocsan nag yn
yr englyn petar lein gas y preis. 'Dyw'r Hir a Thoddion fawr gwell yn ol barn
Eryr Pen Pych a Morgan Lewis y teilwr. Ma nhw wedi'i dynnu a'n yfflon racs
oddiwrth 'i giddyl. Ma'n depig taw fel hyn odd y ddwy lein gynta – "Alawydd
breiniol a hedd y bryniau Yn
llanw'i delyn, yn llunio'i diliau." Pwy
sens all fod mwn "llanw telyn"? Ma llanw twbyn yn triw tw netshar,
ne, yn ol y Tramp, llanw peint a llanw potal. Ond ma "llanw telyn” mor
ddwl a llanw giwgaw. A o's rhwun y tu fas i Goledge Bangor yn ddicon o sglaig
i wed beth yw "llunio diliau"? Llunio yw cal peth i shap. Beth yw
cal shap ar ddiliau? Fe fysa diliau melys, ne ddiferion diliau, yn synwyrol,
ond ma "llunio diliau” yn lletwith ar ucan. Ma Dewi Cwmbwrla'n gwed fod
y lein – "Rhedai
iaith enaid ar hyd ei thannau," mor
hen a'r delyn, ac ma rhwun yn amsar Twr Babel ganws "Iaith enaid ar ei
thannau." Ta beth am hynny, y mae'n ddicon llwyd, ond falla na wydda'r
beirniad ddim fod shwd lein ar gof dynon sy heb gal Coledge. Ma Eryr Pen Pych
yn gofyn cwestiwn ar lein arall – "0
ddawn ei fysedd yn fyw o iasau." Pun
a' iasa oer ne dwym odd y rhai hyn? Dyw'r dyn ddim yn gwed pun o'r ddou, ond
falla nag os dim ots pun. Y lein ddwla'n ol Morgan y teilwr yw'r un ddwetha:
- "Yn
gloewi'i thelyn a gwlith ei haeliau." Rodd
Morgan wedi arfar meddwl taw o lycid dynon odd dagra'n dod ag nid o'u haelia.
Tepig taw glychu'r delyn ma'r bachan yn feddwl, ond fod y dwr yn dod o'i
dalcan yn lle o'i lycid. Ond ma leisens gan fardd i wed nonsens, a leisens
gan feirniad hed i wed fod hynny'n farddoniath newydd. |
|
|
(delwedd J7844b) (26
Awst 1915) |
Ma
beirniatath un o feirniad y Goron wedi dod mas, ag mae cyd a mish pump. Falla
caiff rhwrai amsar i darllin hi ar ol i'r rhyfal fynd heibo. Petha dicon
cyffretin o'n nhw i gyd, ma'n depig, ag rodd Eifon Wyn yn dala'n stiff am
atal y wobor. Dwli mawr, yn ol 'y meddwl i, yw gatal y beirdd yn rhydd i ganu
ar y testyn fynnon nhw. Rodd bothti ddeg ar ucan yn cynnig, ond ma Eryr Pen
Pych wedi ffeindo mas taw hen stwff o'n nhw i gyd ond dou, sef yr un gas y
Goron, a'r bachan ddewishws "Het" yn destyn. 'Chanws neb ariod o'r
blan bryddest ar "Het,” a rw i'n cretu mhunan taw hwn ddylsa gal y
wobor. Wn i ddim pun na het silc ne Jim Crow odd hi, ond ma llawar o dalant
mwn het pan fo pen bardd ynddi, yn enwetig os na fydd a wedi colli'i wallt.
Os gwir y chwedal, ma comiti Abarystwyth yto yn rhoi testyn y bryddast yn
rhydd. Dos dim yn cownto am hynny, ond fod y comiti'n rhy dwp i ffeindo
testyn newydd. Ma'n od iawn fod lot o sgolars fel sy'n Bangor ag Abarystwyth
mor ddiglem am ddewish testyna. Yn awr, rhag ofan i'r un hen betha ddod miwn
y tro nesa, ag i fachan yr Het hala'i bishyn am ail gynnig, rwy'n syjesto
"Bonnet” yn destyn y Goron i Abarystwyth, a "Chap Nos" ne
"Welinton Bwt" i Benybetw'r flwyddyn wetyn. Fe glwas taw rhagoriath
y bryddast ora 'leni odd cwni gotra cymdeithas, a dangos gwarth 'i noethni i
fachgyn a merched ifinc. Ma rhwpath yn fforin yn y style yn ol y dyfyniata,
ag yn gneyd i ddyn feddwl am John Masfield. Dyna farn Morgan y teilwr. Yn
ol yr Athraw, ne Athro, beth galwch chi a, petha sal drychynllyd odd miwn am
y Gatar. Dim ond pedwar odd yn cynnig, a thri wedi gofalu am blufyn at liw'r
dwr. Os |
|
|
(delwedd J7844c) (26
Awst 1915) |
yw'r
feirniadaeth yn iawn, catar wag ddyla fod yno. "Eryri" odd y
testyn, a dyma bena y rheffyn gas y Gatar: — (1) LIiw Llwyd; (2) Lliw Coch;
(3) Lliw Gwyn. Caton pawb! Glywsoch chi shwd beth ariod? Fe alla dyn feddwl
taw mwn Drepar Shop odd y bachan yn canu. Tepig na wydda'r bardd na'r
beirniad nag yw gwyn yn lliw, ta fatar am hynny. Ond beth sy fynno lliwia a'r
Eryri'n fwy na rhw fynydd arall? Fe nelsa rhaniad shwd hyn yr un tro i Graig
Trewyddfa ne Gwm Rhyd y Ceirw. Ta beth fydd testyn y Gatar y flwyddyn nesa,
dicon hawdd cal tri lliw arall yn benna: gwyrdd, glas, a melyn. Meddylwch fod
"Lapston" yn cal 'i roi'n destyn, ag fe fydda hwnw'n destyn newydd,
ond fe fydda'n fwy newydd o lawar, dim ond rhanu'r testyn yn dri lliw. Dos
dim ots pwy liw, brown, broc, ne scarlat, fe fydd ar y testyn, dim ond cal y
gair Lapston miwn unwaith ne ddwy. Os bydd hynny'n anodd fydd a waniath yn y
byd, dim ond rhoi'r testyn ar y top i'r beirniad gal dyall ar beth i chi'n
canu. Gora gyd, mynta Eryr Pen Pych, po bella byddwch chi o'rwth y pwnc. Os
canwch chi ar y testyn, chi fyddwch yn stêl. Os canwch ar bopath ond y
testyn, chi fyddwch yn newydd. Ma peth arall newydd yn yr awdl ora, sef yw
hynny, ys gwetws Twm o'r Nant, mae ar yr un mesur, Hir a Thoddion, o'r dechre
i'r diwadd. Ma hynny'n bownd o fod mor monotonos a darlith Athro mwn coledge.
Falla taw'r cywydd byr, petar sill, fydd yr awdl nesa i gyd. Dyma shampl o'r
mesur hynny: - "Gwacsaw
gocsach Fe
fydda cal mil o linella ar fesur bach fel hyn yn siwr o fod yn beth newydd.
Ond rhaid gofalu spelo'n iawn, a whilo am ddicon o hen eiria nag o's neb yn'u
dyall nhw, er mwyn bod yp tw the marc. Os daw'r boys yma'r wthnos nesa, cawn
racor o hanas y Steddfod. DAFYDD
Y CRYDD. I |
|
|
.....
|
|
(delwedd B2544a) (9
Medi 1915) |
09-09-1915 Y
Darian. 9 Medi 1915 Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Gol., — Ma'n
ddrwg iawn gen i na ddath y boys i'r Shop mwn pryd yr wsnoth o'r blan, i fi
gal hala report i'r Darian. Ond nid arno i ma'r bai fod y milodd sy'n darllin
y'ch papyr clodwiw wedi cal 'u shomi. Fe glwas flan gair pwy ddiwarnod, gen
un ddyla fod yn gwpod, fod llawar o ddarllin ar y pishis w i'n hala miwn.
Erbyn etrych, a dechra meddwl, dyw hynny 'n od yn y byd, oblecid ma pawb yn
leico clwad beth sy gen Eryr Pen Pych, a Morgan Lewis y teilwr i wed ar
byncia'r dydd. Y gwaniath rhyngo i a llawar sy'n sgryfennu i'r papra newydd y
dyddia hyn yw, mod i'n reporto'r gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir, so
help me God, ys gwetws y Caisar, tra ma ereill yn reporto celwdd wrth y
llath, ag yn cal cinog y lein am hynny. Ta chi'n meddwl am y rhyfal; am bob
hanar gwir sy'n cael 'i wed, ma tynelli o gelwdd yn dod mas, a'r celwdd mwya
gola sy'n cal 'i gretu gynta. Ma englyn petar lein Dewi Pandy'n eitha gwir – Celwdd
sydd ymhob calon, — a chawliach Elwir
yn newyddion; Celwdd
fel pac o hoilon Geir
o dir, ac ar y dón. Ond
'rwy' wedi ffeindo mas fod y byd yn leico change, ag wedi syrffetu ar gelwdd.
Fe glwas fod dynon yn crowdo i ddarllin y pishis w i'n sgryfennu, ag yn rhoi
mentyg y Darian idd 'u giddyl. Dyw hynny ddim yn onarabl o dicyn o ffordd. Fe
ddyla pob un byrnu'r papyr, a rhoi cinog am dano. All neb ddishgwl i fi gal
'y nhalu tra bo spwnjan fel hyn yn mynd ymlan. Pyrnwch y papyr rhag cwiddyl,
yn lle'i handlo fa o'r nail i'r llall am ddim. |
|
|
(delwedd B2544b) (9
Medi 1915) |
Oddar
pan alwas i sylw at englyn y Gragan, ma'r beirdd wedi hala bwndwl mawr o grecin
cocs i'r Shop, ond dw i ddim yn meddwl gneud sylw o'u hanar nhy [nhw]. Fe
ddyla'r tacla wpod taw nid gwerthu rhython yw ngwaith i, ond gwerthu scidsha,
docs, a legins. Dw i ddim yn mynd i droi'r establishment yn Ffish Shop i
bleso neb. Ond ma Morgan y teilwr yn gwed fod perla yn rhai o'r crecin hyn,
ag y dyla nhw gal'u dangos yn wynab haul a gola leuad. Dyma un ddath yma o'r
North, a'r enw sy wrtho yw Llew Fflint-
“Lloches
heb hanes pinagl, - a'i sylwedd Mor
salw a thriagl; A
physg di lun heb un bagl Yma
erys mewn miragl." Fe
glwas son am Lew Tecil, a Llew Llifio o'r blan, ond wn i pwy'n y byd yw hwn.
Ma'n dipig fod "miragl" fel triagl ar 'i fara. Fe fuo i'n holi
Jones y ffeirad beth yw miragl. Wydda fe ddim, ond fe ffeindws mas mwn rhw
Almanec, taw'r gair Sysnag am wyrth yw a, wedi cal 'i sgriwo'n Gymrag, am nag
yw gwyrth yn ddicon clasical i ddynon wedi cal coledge. Os y'ch chi'n moyn bod yn fardd
newydd, rhaid i chi droi parables yn parablau, wonders yn wonderau, miracles
yn firaglau, mountains yn mountenau, a fountains yn ffountenau. Diawst y
myto! dyma Gymrag. Ma petar lein Eos Trimsaran wedi 'i deall hi — Y”n
y dwr, gragen dirion, — mae'n syndod Mewn
sandau a gwymon; A
chelir yn ei chalon Firaglau
wonderau'r don." Dyma
un arall orwth Alarch Llynfi, Cwm Ocwr. Wyddwn i ddim o'r blan fod Alarchod
yn canu, dim ond wrth farw. Gobeitho nag yw'r deryn hyn ddim wedi rhoi'r sgrech ddywetha. Piti mawr fydda
hynny, ag ynta'n canu mor bert. Fe ddyla
Alarch wpod rhwpath am grecin, ma'i wddwg a'n ddicon hir i cwnu nhw
o'r gweilod. Ond falla fod mwy o wybotath gen wylanod, sy'n ecsploro mor a
thir. Ta beth am hynny, dyma bishyn y deryn gwyn - Miragl
o galon moryn, — nwydd y don, Newydd
dy pysgodyn; Adail
malwod liw melyn, A'r
clo'n dal miraclau'n dyn." 'Rwy'n
sposo fod yr Alarch yn cownto'i hunan yn fardd dwbwl newydd, gan fod y miragl
ganto ddwywaith. Ma |
|
|
(delwedd B2544c) (9
Medi 1915) |
unwaith
yn fwy na dicon yn ol ym meddwl i. Fe ddath yma un arall o Shir Gar. Dos dim
enw wrtho, ond y post marc yw Brynaman. Dicon hawdd geso pwy bua'r gocsan hyn
- “Lluesty
tywyll oyster — yw'r gragen Rhag
rhwygiad y dyfnder; Nawdd
grand yn nydd gerwinder Yw
crwn dwlc y rhiain der." Os
odd hwn yn y competishon, fe ddyla fod ymhell ymlan ar gownt y gair
“riain." Ma hwn yn air sy'n ennill lot o farcs fel miragl. Tepig taw'r
oyster ma'r bachan yn feddwl wrth y "rhiain" hyn, a mae a'n gystal
enw ar oyster ag ar ferch un diwarnod.
Dw i ddim yn leico'r gair am ferch ifanc. Pan own i'n caru a Gwen slawar
dydd, fe netho lawar englyn bach pert iddi, ond "rian" own i'n 'i
galw hi'n wastod. Fysa Gwen yn dyall yn y byd beth fyswn i'n feddwl wrth'i
galw hi'n "rhiain." Ma'n dda gen i na iwsas i ddim o'r gair ariod,
ne falla bysa Gwen yn troi ar 'i sowdwl, ag yn 'y ngatal i. Ma Morgan y
teilwr wedi darllin y Gramar newydd, ag wedi ffeindo mas fod "ain"
yn troi'n "edd" yn y pliwral, fel hyn, celain, celanedd; atsain,
atsanedd damwain, damwanedd. Dyn di shefo ni! Glywsoch chi shwd higldi-pigldi
ariod? Falla fod hyn yn reit yn y Llatin, ond mae a'n ddicon lletwith yn
Gymrag yn ol ym meddwl i. Fe
ddath yma un arall o Lanelli, o waith Meudwy'r Mwsg. Enw od i ddynon
cyffretin fel fi. Fe glwas son am Fardd Cwsg, ag ma llawar o nhw yn y byd
yto, ond ma hwn ar ddihun - “Cegin
yn cau ac agor - i friglwyd Firaglau
y cefnfor; Cref
anedd, caer o fynor, I
grancod a malwod môr." Alla
i ddim sylwi ar racor o'r bwndal hyn, a fydda fa ddim yn deg a Brynfab, ag
ynta'n fishtir ar feirdd y "Darian." Ma'r boys yma wedi gwed petha
smala iawn am Eryri'r lliwia, ond ma'r crecin cocs yma wedi mynd a gomrod
le'r tro hyn. Scyswch fi am gatw'r petha hyny hyd y tro nesa. DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
|
30-09-1915 Y
Darian. 30 Medi 1915.
|
|
|
|
"Acw
ar gwrr y Graig Wen, |
|
|
|
Son
am fachan y Cenin. Not in it, ys gwetws Browning. Fe welas Dewi Cwmbwrla'n
rhoi winc ar Morgan y Teilwr, ag vn gofyn i'r gwr diarth – |
|
|
|
malwod,
ond howyr bach, nid ar falwod y bydd byw dyn. Newitwch yr ymadrodd. Ma'n well
gen i wynt lletar a chwyr crydd, na gwynt pysgod heb weld dwr ys dwy flynadd.
Ewch ymlan, Eryr, a beirniatath owdl y lliwia, i ni gal gweld beth sy yn
honno. Pwy isha cintach sy ar ol pob Steddfod, a threio gneyd mas nag o's un
englyn yn werth'i halan. Rod y beirnied yn siwr o fod yn gwpod beth o nhw
bothtu, ag yn dyall geira fel 'miragla,' heb isha sponiad, na whilo hen lyfra
heb un clawr. Darllin mlan, Eryr, i ni gal ticyn o hanas Eryri llwyd - goch -
wyn. Hagen, rhaid i fi wed yto, nag yw gwyn yn lliw o gwbwl. Rwy'n cofio'r
net i fi ddysgu hynny yn ysgol yr Eclws yn Llangyfelach pan yn grotyn. Ond
falla fod sgleigon sy'n gweld miracla mwn crecin cocs wedi ffeindo mas fod
gwyn yn lliw. |
|
|
|
carreg,
caregau; caseg, casegau; maneg, manegau; asgell, asgellau; taten, tatenau,
etc. Gwell na Gwyl y Pebyll fydda Gwyl y Pabellau, a gwell na Gwlad y Menyg
Gwynion fydda Gwlad y Manegau Gwynion." |
|
|
(delwedd B2272a) (21
Hydref 1915) |
21-10-1915 Y
Darian. 21 Hydref 1915. Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Gol., — Ma ugeina o lythyra yn dod yma i ddiolch i fi am reporto'r hyn sy'n
cymryd lle'n y Shop, ag ma'r postman yn cretu mod i wedi troi'n recriwtin
offiser. Dyw hynny'n od yn y byd, oblecid ma Ilawar o'r llythyra wedi cal'u
selo a wacs coch, sy'n gyffretin o rwth y Gyfarment. Heblaw hynny, dos dim
diwadd ar y pishis ma'r beirdd yn hala yma, yn gwed'u barn ar byncia'r dydd.
Os bydd dicwdd i chi, Mr. Gol., fod yn bring o ddefnyddia, gwyddoch ble i
droi. Ma gen i ddicon o stwff i lanw'r "Darian” am flynydda. Dw i ddim
yn meddwl gneyd iws o fawr o nhw os na fydd galw. Ond ma 'ma fachan o Gwmtawa'n
becan am goeddi'r ddou englyn hyn: -
|
|
|
(delwedd B2272b) (21
Hydref 1915) |
Rwy'n
dyall fod Eryr Pen Pych wedi dicio'n bwt wrth J.J. Rodd ganto olwg fawr arno,
o’r blan, a bachan da yw a hed yn ol ym meddwl i. Ond fe fysa'r Eryr yn meddwl
llawar mwy am dano, pe bysa fa wedi rhoi'i drod lawr fel Eifion Wyn. Ble rodd
asgwrn cefan y dyn ar ol gwed peth mor blain a hyn? — "Onid yw'r testyn
wedi ei adael o'r neilldu bron yn llwyr? Methwn weled fod yr Eryri yn ddim
mwy na hoel i hongian wrthi awdl ar liw. Gallesid cael yr un lliwiau ar
fynyddoedd eraill, ac ar fill o bethau heblaw mynyddoedd. Yr unig beth sy'n
dwyn Eryri i'n cof yw ambell fan fel Bwlch y Saethau a Moel y Cynghorion, fel
pe wedi eu llusgo i mewn yn awr ac eilwaith. Un
atnod yw'r geiria hyn, o bennod o gwestiyna sy'n bwrw'r pishyn cromatic mas
o'r gystadleuaeth fel peth anheilwng o'r wobor. Gryndwch yto ar y geirie hyn
— "Methwn weled fod yr Eryri yn ddim mwy na hoel i hongian wrthi awdl ar
liw." Bobol annwl! Ma'r feirniatath yn atal y wobor, a'r weindin yp yn
rhoi'r Gatar. Shwd ma J.J. yn sponio peth fel hyn? Os nag yw dyn yn werth'i
halan, dyw a'n ddim ond nonsans roi'r un hur iddo a dyn yn dyall 'i waith.
"Meddylwch," mynta'r Eryr, "mod i'n gneyd awdl i Stac fawr
Llanelli, ag yn rhoi'r Eryri'n destyn iddi. Fysa dim yn isha ond cal dicon o
hen eiria nag o's neb yn 'u dyall nhw, a gofalu spelian yn ol y ffashwn
newydd i neyd y Stac yn enw'r Eryri'n deilwng o'r wobor. Dos dim un awdl yn
glasurol y dyddia hyn os na fydd hi'n llawn o eiria fel hyn - ceyrydd, crud,
rhom, efô, deurudd, rhiain, macwy, llatai, lletwad, etc. Ma "geneth” yn
stêl, ond ma "rhiain" yn newid lliw'r cwbwl, er taw'r un peth yw'r
ddou o dan 'u dillad. "Rwy'n
onfi'n fawr," mynta'r 'Eryr, "fod clefyd y 'sillafu’ wedi rcitsho
yn J.J., a'i fod a fel bechgyn y colega yn mynd i roi mwy o bwys ar spelo nag
ar y peth byw. Mae a'n condemnio 'hyf,' fel un o walla arswydus y blynydda
diwedda. Tepig taw 'hy' sy'n iawn. Beth am hyfdra a hyfder? Faint pertach yw
'hydra' a 'hy-der?' Mae a'n dod lawr ar 'euraidd," am fod yr Athro wedi
gneyd hynny o'i flan. 'Euraidd,' mynta fe sy'n iawn. Wrth gwrs, rhaid troi
'ariannaidd’ yn 'ariannaid’ ag alcannaidd yn alcannaid. Pert digynnyg!” |
|
|
(delwedd B2272c) (21
Hydref 1915) |
"Dylid
cofio bellach," mynta'r bardd mwyn, "nad yw'r Gymraeg yn gofyn y
fannod o flaen enw afon, y Dywi, etc." Ond
sawl gwaith y bu e dros "Yr Iorddonen” heb y fannod? Dyna fel ma pawb yn
gneyd yn Sysnag a Chymrag. Y Nile, yr Euphrates, y Ganges, y Danube. Ma enw'r
Danube yn y papra bob dydd, ond byth heb y fannod. Ond os gwed rhwun "Y
Fenai,” rhaid ei snwbo heb wpod pam, ond fod rhwun arall wedi ordro hynny.
Crach-feirniatath ma'r Eryr yn galw rhw wibetach fel hyn. Coll mawr un yn
galw briallu yn "friall." Fe ddyla'r dyn gal 'i dransporto. Ma un
arall wedi rhoi "awyr” a "myfyr" i apad 'i giddyl. Tepig nag
yw hynny ddim yn iawn. Pam? Dos neb wrth wed "awyr" yn ei swnio fel
"hwyr." Sylwad pob un arno'i hunan, ag fe wel fod y bachan, ta pwy
yw a, yn reit, a'r beirniad yn rong. Dyma ddwy lein oddar got Morgan y
teilwr, o waith mab y Justice Coch, saith cant o flynydda'n ol, ag
"awyr" a "syr" yn reimo – "Poni
welwch chwi'r haul yn hwyliaw —'r awyr? Poni
welwch chwi'r syr wedi syrthiaw?" Ond
beth yw sgleigon da os na allan nhw ddangos fod y byd i gyd o whith hyd 'u
dyddia nhw. Rhaid i chi gofio taw barn yr Eryr w i wedi roi o'ch blan chi. Dw
i'n gwpod fawr am betha fel hyn y mhunan. DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J6603) (11
Tachwedd 1915) |
11-11-1915 Y
Darian. 11 Tachwedd 1915. Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Gol., - Ma gen i asgwrn i'w bilo a'r Barcud o Graig y Nos. Pan ofynnws a i fi
am ganiatad i goeddi pishyn o'i bryddest i'r miragla, ro'wn i'n dyall taw yn
Gymrag ag nid Dutsh odd a wedi sgrifennu. Dicon hawdd gweld 'i fod a wedi
stydio'i feirniad. Plufyn at liw'r dwr yw peth fel hyn. Dyw hynny ddim yn deg
o getyn o ffordd. Falla'i fod a'n glasurol, ond does neb ond Emäod, Biäod, a
Brogäod all'i ddyall. Ma'n depig y bydd y beirniad yn troi gwyn'i lycid i'r
nefodd, ag yn gwed dyma Gymrag a grân arno. Cymrag dilediath y Cynfeirdd, a'r
Ceginfeirdd, o Daliesin Ben Bwrdd i lawr i Iolo Fardd Glass. Mae mor ystwth
a'r fanag, a mor eglur a miraglau. Ma'r Barcud a'i lycad yn'i ben, ag yn
gweld getyn ymhellach na'i big. Fe geso lythyr bora ddo orwth fachan o Gwm
Garw, yn achwn nag yw e ddim yn dyall y petha newydd 'ma, ag yn diolch i
fechgyn y Shop am barchu synnwr dynon cyffretin. Ma fa wedi treio gneyd
englyn dwy lein, ag un arall yn betar, ag yn gofyn i fi o's i nhw'n reit. Ond
dw i ddim yn cownto mhunan yn fishtir ar betha fel hyn. Ma Morgan y teilwr yn
gwed 'i fod a'n cynnyg yn lled dda, ag y dyla fa gal dod mas i ddangos
teimlad dynon heb gal coledge at y nonsans "newydd" sy'n cal 'i
goeddi. Fel hyn ma fe'n gwed 'i farn "I
wneud pill nwch dirnad pawb, Rhaid
disgyn wrth draed esgawb. Beirdd
Cymru, gwaelu mae'u gwaith — a'u hanglod Mewn
englyn amherffaith; Hel
miragl yw eu mawrwaith, O
ddull hurt, heb ddeall iaith." |
|
|
(delwedd J6603b) (11
Tachwedd 1915) |
Fe
addawas yr wsnoth ddywetha ddod nol at fysnas yr "angylion" yn y
"Darian." Ma Eryr Pen Pych am groci pob lleidyr, ond dyw cyfrath
Lloigar ddim yn lwo hynny. Bywyd am fywyd yw hi yma. Fel y gwetas i o'r blan,
ma dwcyd meddyla yn beth mwy cyffretin na ma llawar yn feddwl, ond ma
benthyca angylion yn beth newydd. Yr un yw'r prinsibl mwn benthyca angylion a
benthyca cabbage, ond o fynd miwn am dani, gwell cymryd y gora. Beth wyt ti'n
wed, Morgan? "Y
peth w i'n wed yw hyn, fod mwy o chetath mwn Steddfota nag sy mwn clwb
gamblo. Slawar dydd, pan nag odd petha'n cal'u coeddi, rodd hi'n wath nag yw
hi'n awr. Rwy'n cofio crotyn ifanc yn derbyn gwobor am gân, ag yn mhen
blynydda wetyn, fe goeddwd y gân yng ngwaith y beirniad. Be wetwch chi am
hynny? Peth dicon cyffretin yw rhoi ticyn o baint ar waith dyn arall, a'i
gleimo wetyn fel ei waith 'i hunan. Fe glwas ffeirad yn gwed rw dro,
'Cyfieithwch brecath o'r Gymrag i'r Sysnag, ag yn ol wetyn o'r Sysnag i'r Gymrag,
dos dim un cythral all 'i napod hi.' Ma llawer o'r trics hyn mwn cystadlu. Ma
'beirdd cadeiriol" mor amal a dail bysadd y cwn. Parots yw mwy na'u
hannar nhw. Pan fo chi'n darllin rheffyn o bryddast, dicon hawdd gwed ble
bu'r prytydd yn pori". "Diawst,
Morgan, rwy'n cretu dy fod yn reit," mynta Dewi Cwmbwrla. "Dos dim
isha mynd ymhellach na'r 'Geninen' lle dalwd yr Angel i ffeindo mas dy fod yn
iawn. Rwy'n cofio fel sai ddo, pan own i'n stydio'r ffordd i fod yn fardd, i
fi ddysgu englyn yn yr Ysgol Farddol, ar 'Gusan.' Dw i ddim yn cofio pwy odd
'i bua fa, ond dyma fe — "Dyfeisiad
i wefusau — yw cusan Ac
asydd teimladau; A
serchnod hynod rhwng dau Gariad,
a sel eu geiriau." Pan
ddysgas i'r englyn, ro'wn i'n ifanc ag yn dicyn o fflyrt. Amsar cusanu odd hi
pyrny, ag ma'r englyn ar 'y nghof i byth. Nawr, yn yr un 'Geninen,' ne
Shibwnsyn, ag y dalwd yr Angal, ma Cusan gen rwun arall, ag mae a fel cusan
wedi'i ddwcyd oddar ferch heb fod yn folon. Mae a'n annuwiol o depig i’r un
sy'n yr Ysgol Farddol. Ma'r syniata yn gwmws yr un peth, a'r un wisg hed am y
ddou, ond fod bwtwn ne ddou wedi cal'u gwnio ar lewysh yr un dywetha. Welsoch
chi ariod ddou efill yn fwy tepig. Ma peth arall yn cymryd lle'n y Steddfota
bach 'ma, a ddyla gal sylw, sef yw hynny, ys gwetws Iolo Morgannwg, gneyd
pishis i ddynon na sy'n gwpod mwy am farddoniaeth na phen lletwad. Faint o
rain sy'n ffigro fel ser, heb neyd lein ariod? Falla gall Alfa ne Ap Hefin
bwynto rhai o nhw mas. Oto a ddim yn bosib dala'r angylion porcyn hyn? DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J6570a) (02
Rhagfyr 1915) |
02-12-1915 Y
Darian. 2 Rhagfyr 1915. Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Gol., — Ma llawar o scrifennu'n y papra Sysnag am y tâl ma pyrgethwrs yn gal
am dreio .gwe l la'r byd, ag rwy'n gweld fod y clefyd wedi citsho yndo
chitha, ag r'ych chi'n gwed llawar o sens, whara teg i chi. Ond am y llythyra
sy'n dod mas yn y papra bob dydd, dyn a'u helpo nhw. Byswn i’n byrgethwr, fe
fysa arno i gwidfyl o'm swydd, ag fe watwn y grefft. Rwy'n rhyfeddu fod o
hurtwch yn cal'i goeddi ar fatar mor ddelicat a hwn. Dyw manijars y papra
Sysnag yn hito dim mwy am byrgethwr nag am dderyn to, ag ma'n ddicon plain
taw dodj yw introdiwso'r cwestiwn i helpu'r papyr i fynd. Ma lot o hyn yn
cal'i neyd am fod y byd yn ddicon dwl i gal 'i gario bant gan bob short o
senseshon. Pwy ots gan y tacla, hyn ta pyrgethwr, teilwr, ne grydd yn starfo,
os gallan nhw gal cwpwl o docyns yn fwy wrth goeddi celwdd wrth y llath. Fe
ddyla pob pyrgethwr sy wedi rhoi interfiw i reporters ar beth fel hyn, gal
coron yr wsnoth o gwmpad prish. Rwy'n teimlo'n fawr dros y pyrgethwr druan,
er taw Eglwyswr w i fel y'ch chi'n gwpod. Mistec odd troi cefan ar yr Hen
Fam, a hitha'n folon i'r anwyl gariatus frodyr i neyd fel mynsan nhw. Ma'n
depig fod y rhyfel yn gwed ar salary llawar proffwd yn y gwahanol Enwata, ond
chlwas i ddim fod un ffeirad yn achwn. Ma hur hwnnw wedi cal'i fficso gan ddynon
yn gwpod'i werth, a phe ba neb ond y clochydd ag ynta yn yr eclws, mae a'n
reit am 'i fara shaws sic; = chaws] a'i lemwned. Ond ma'r pyrgethwr yn
dependo ar y clasgad, a rhaid iddo gatw pob Shoni Hoi yn bles, ne fe fydd y
bocs yn annuwiol o ysgawn. Fe glwas am byrgethwr Sentars unwaith yn hala'i
het rownd ar ddiwadd y cwrdd, ond fe ddath nol yn wag, ag medda fynta,
“Diolch i Dduw am gal fy het yn ol." Ma dynon all ryndo precath heb dalu
rhwpath am deni, yn ddicon dibrinsibl i gatw'r het a'r tocyns. Ma
gen i barch mawr i'r Sentars, a nhw yw'r cwstwmars gora sy gen i. Ond rwy'n
ffeilu dyall na fysan nhw cyn hyn wedi trenfu rhw ffordd respectabl i gynnal
pyrgethwr, yn lle'i atal at drugaradd y rhai allan gau safn yr ych sy'n
dyrnu, ys gwetws y Gwr Doeth. Dw i ddim yn hinto taw ych yw y pyrgethwr, ond
ma llawar o fustych ddin [sic; = ddim] gwerth'u lladd yn gryndo arno, ag yn
byw ar'i borfa. Dos din [sic; dim] sens mwn cwni dyn i'r pulpit, a'i hala i'r
coledge i ddysgu Groig, a Llatin, ag Ebryw, a dishgwl iddo fyw wetyn ar lai o
hur na labrar sy mor ddi dalant a rhaw. Dyw a ddim yn fishtir arno'i hunan, a
chaiff a ddim bod yn fishtir ar neb arall. Rhaid iddo byrgethu cymint ar y
clasgad ag ar ffordd y bywyd, er mwyn catw'i hunan o'r worcos. Peth shimpil iawn
yw hynny i ddyn a chanto hawl i fyw. Dyw hi ddim yn fyd esmwth arno |
|
|
(delwedd J6570b) (02
Rhagfyr 1915) |
o
dicyn o ffordd. Ma ganto lawer dafad ungorn i dreio'i dofi, a llawar bwch gafar
yn watsho cyfla i roi twpad iddo. Os na thyniff a'i law dros gefan amball
ddreinog, fe gaiff glwad yn led smart, “Ni sy'n 'i dalu a." A ta chi'n
etrych ar gownt hwnnw ar ddiwadd y flwyddyn, falla taw hannar coron fydd ar
ol'i enw - bothtu ddima'r wthnos. Dyw hi'n od yn y byd fod llawar pyrgethwr
ifanc yn troi'n ol i'r Eclws, a pheth sy'n odach yw na ba'u hannar nhw'n
troi. Ro'wn i wedi meddwl gofyn i Morgan y teiliwr am bishyn o brydyddiaeth
ar y mater. Ma fe'n ddiacon yn Carmel. Ond dos dim un o'r boys wedi galw yn y
Shop yr wsnoth hyn, ag rw i wedi gneyd cwpwl o englynion o waith 'y mhunan.
Yr anlwc yw, na fysa'r bechgyn yma i etrych drostyn nhw. |
|
|
(delwedd B0477a) (16
Rhagfyr 1915) |
16-12-1915 Y
Darian. 16 Rhagfyr 1915. Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Gol, — Wn i ddim beth ma Brynfab yn feddwl wrth ofyn 'y marn i ar gynghanadd.
Dw i ddim yn cownto mhunan yn athority ar rw gabildi fel hyn. Ma'r boys 'ma
wedi gneyd 'u gora i roi idea i fi am y Mesur Caeth, ond dw i ddim wedi mynd
ymhellach na'r "gair crych," ag ma hwnnw yn niwadd y lein gynta.
Hwy'n gwpod mwy am bladur nag am ''baladr," a mwy am asgwrn nag am
"asgall." Ma nhw'n son hed am rw "gyhydedd." Fe glwas
lawar gwaitn am yr houl yn croeshi'r cyhydadd, ond ma llawar cyhydadd gan y
beirdd na chroeshodd houl drosto ariod. Alla iddim gwed mod i'n fishtir ar un
mesur, ond y Mesur Hir, y Mesur Byr, a'r Wyth Saith a grot. Tepig mod i'n rhy
hen erbyn hyn i fynd miwn i betha mor ddwfwn heb foddi. Dw i ddim fel y Tramp
yn gallu nofiad fel whiad trw bob dwr. Ma nhw'n gwed os na adysgiff dyn fod
yn fardd cyn cyrraedd ucan ôd, y rhaid iddo fod yn folon ar fod yn ddyn o
hynny mlan. Rwy'n onfi taw sarcasm, ys gwetws Wil Smith, odd gofyn i fi wed 'y
marn ar betha pyslin fel hyn. Ma'n wir mod i wedi coeddi llawar englyn o
waith Morgan y teilwr, Eryr Pen Pych, a Dewi Cwmbwrla, ag erill sy'n hala'u
pishis trw'r post, ag ma gen i ges lled dda. am ideas, os nag w i dyall
cynghanadd. Os yw Wil Smith yn iawn, hen dro shimpil yn Brynfab odd rhoi shwd
glowtan i fi wrth baso. Holo,
Morgan, ti sy' na? Dera miwn. Ble ma'r Eryr? Ma fa ar y ffordd, Dafydd, ond
wedi troi miwn at y barbwr i shafo. Fydd a ddim yn hir. Ho
ho, fe glwas am eryr yn cal 'i blufio lawar gwaith, ond chlwas i ariod o'r
blan am un yn cal 'i shafo. Gobeithio daw a oddno heb golli'i ben, ma’r hen
Mac Gregory'n ddicon ryff. Ma arno i isha caI y'ch barn chi i gyd ar beth ma
nhw'n alw'n Gynghanadd Gyndynog. Rhwpath fel hyn yw'r shampl sy gen Brynrab — |
|
|
(delwedd B0477b) (16
Rhagfyr 1915) |
“Gweled
epol yn yfad llath.” Nage,
nage, Dafydd. Nid "epol," ond "llo" welws y bardd; ag nid
"cyndynog," ond cadwynog yw enw'r gynghanadd. Ro'dd hi'n gynghanadd
smart cyn y diluw, ond fe ffeilwd 'i chal hi miwn i'r Arch gyta'r creduried
erill, ag fe foddws yn acos i Dir larll. Fe fuwd yn excafeto'n ddiweddar, fe
ffeindwd esgyrn yr hen ladi yn y lle ma nhw'n alw yn Dwmpath Diwlith. Ma'n
depig na fu dim gwlith ar y spotyn hynny ys dros bump mil o flynyddodd. Y
clasgad yw, nag yw nefodd na daear
wedi colli dagra ar ol y Gynghanadd Gadwynog. Ro'dd ganti whar o'r enw Braidd
Gyffwrdd. Hen ferch a dou lycad tro yn etrych orwth'u giddyl, yn rhy salw i
gal cariad, ag fe fu farw'n hen ferch weddw, heb un dant yn 'i phen. Dos neb
ond Morien, a dyn o'r enw Suddas yn gwpod lle claddwd hi, ta fatar am hynny.
Dwy hen whar barchus o nhw yn 'u dydd, ag yn byw ar y plwyf. Dyma lun y ddwy,
wedi cal 'u tynnu pan odd Noa hyn grotyn — Gweled
llo yn yfed llaeth, Gweled
buwch uwch y twbyn. Dw
i'n gweld dim yn extra, mwn peth felna, Morgan. Yn ol ym meddwl i, ma llawn
cymint o farddoniaeth mwn 'epol' ag sy
mwn 'llo,' ag ma fa'n uwch'i brish mwn ffair. Bachan, fe alla i neyd dicon
o'r short yna heb ddysgu'r grefft:
Beth
wyt ti'n wed, Eryr? Rwyt ti'n hen gamster ar betha fel hyn. Weta
chi, Dafydd, dos dím mwy o gynghanadd yndi nhw nag sy mwn cos caib. Ma nhw
mor ddi ganu a chwdihw wedi cal annwd, ag mor farw a'r hoelion odd ym mhedola
meirch Pharo. Rwy’n ffeilu dyall beth sy ymhen amball ffwlcyn o fardd, yn
treio whythu bywyd i hen sgerbyda fel
hyn. Pe ba rhw fwciod o'r short hyn yn werth
u catw, fe fysan wedi cal lle yn yr Arch gyta cholomenod, a chilocod,
deryn y gwair, a’r shigli gwt, ond don' nhw’n dda i ddim ond i neyd disgord
yn y cor, ag fe geson’ fynd i’r gweilod fel ieir heb ddyscu nofiad. Dos neb
ond bardd newydd yn treio byw ar glasga esgyrn, a'r peth mwya newydd yn hwnnw yw gneyd ‘i hunan yn
hen cyn macu pluf. |
|
|
(delwedd B0477c) (16
Rhagfyr 1915) |
Iolo
Mon, beth i chi'n wed? Nid yn amal i chi'n galw. Gnewch y'ch hunan yn ewn.
R'ch chi'n gyfarwdd a phob short o linella, ag yn ddyn o awan barod. Wel,
ydwyf yn fy mlodau, yn fab o nwyf heb wanhau. F' awdurdod i yw yr Athro. Beth
bynnag ddeydiff o, dyledswydd pawb ydy 'mostwng. Mae o'n credu yn yr
atgyfodiad, ac wedi paratoi utgorn i alw llinella meirw o'u bedda. Mae'n wir
mai corn hwrdd sy gynno fo, ond pan y chwyth, mae'r greadigaeth yn siglo, a'r
meirw'n cyfodi. Os ydy o'n deyd fod y llinella hyn yn gywir, ac y dylid eu
harfer, rhaid fod hynny'n iawn, oblegid efo ydy'r oracl ar betha fel hyn. Os
deydiff o nad yw proest yn broest, ac nad yw gwall yn wall, mae o'n deyd
hynny fel Athro, ac nid oes hawl gan neb i'w ameu. Hwrach nad oes gynghanedd
yn y llinellau hyn, ond nid dyna'r cwestiwn, rhaid — “Stopwch,
stopwch," mynta Dewi Cwmbwrla, "chlwas i shwd nonsans ariod.
Gwyddoch chi lle ma Llanshawal? Ewch yno gynta galloch chi. Os w i'n dyall
ffilosoffi cynghanadd, dyw rhain ddim yn yr un byd a hi. Ma cynghanadd fel
popath arall wedi mynd ymlan gyda'r byd, ag yn fwy perffath yn awr nag ariod.
Mae wedi bwrw sothach yr oesodd tywyll i'r clawdd, ag fe ddyla y rhai sy'n
dadla dros betha gwallus gal mynd i'r clawdd ar eu hol. Dyna marn i." Mae'n
mynd yn hwyr, noswath dda, fechgyn. DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
....
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ /
i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄
/ ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ
/
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀
ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ ,
Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ
Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ
ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ
ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ £ gyn aith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen
ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig
/ Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1915_3782k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022,
18-09-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru
Arlein.
---------------------------------------
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la
Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats |
…