kimkat3783k Shop Dafydd y
Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1916.
22-12-2022
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....
(delwedd J7058b)
.....
.....1916
13-01
J7773
....
13-04 1916 B2317 i’w ychwanegu
27-04 J7776
.....
01 06 1916 B2236 i’w
ychwanegu
08 Mehefin 1916
15 Mehefin 1916
|
|
|
13-01 J7773 Shop
Dafydd y Crydd. I Mishtir Gol.3— Ma'n dda gen bawb fod y brenin wedi rhoi
clenig i lot o foys Cymru ar ddechra'r flwyddyn newydd. Nid rhw sopyn o'r
petha hyn sy'n dod i'n gwlad fach ni, ond ma petha'n gwella yn y lein hyn.
Chretwch chi byth mor falch own i fod O.M." wedi cal'i neyd yn Farchog.
Wn i yn y byd shwd rider yw a, na faint o bractis ma fa wedi gal acha cefan
ceffyl. Pe ba fa'n galw yma, fe roiswn i dicyn o gwyr crydd ar y cyfrw, er
mwyn iddo gal bod yn saff ta'r march yn sheio. Fe fu'r brenin just mynd i
ddiwadd yn Ffraine, am nag odd .neb wedi gofalu am gwyr o dano. Gobeithio y
bydd "O.M." yn farchogwr da, ag y eaiff a geffyl mor gall ag e'i
hunan. Dos neb yn caru "Cymru" yn well na "O.M. na neb wedi
gneyd cymint drosti. Ma llawar yn catw mwy o fwstwr, yn enwetig os ca nhw
neyd hynny yn Sysnag, ond ma mwy o nymber one yn y swn nag o ddim arall. Fe
fysa Cymru" wedi darfod ys llawer dydd oni ba "O.M." Fe sy'n
'i chatw'n fyw. Fe fu'n Fembar of Parlament unwaith, ond dodd a ddim yn 'i
glofars yno, a fu a ddim yn hir cyn whilo am jobyn arall. Fe glwas am hen
byrgethwr o'r enw Shincyn Ddwywaith, yn gwed wrth'i eclws ar nos Sul,
"Rwy'n mynd i neyd peth a chi heno, na nath y diafol a chi ariod."
Beth yw hynny" mynta un o'r diaconied. Rwy'n mynd i'ch gatal chi,"
mynta Shincyn. Dyna nath O.M." a'r Parlament, ag fe ddylsa gal'i neyd yn
Farchog dder and then am fod mor onast. Bachan iawn yw "O.M. ag ma
"Syr Owen" yn ei weddu'n ffamws. 0 fechgyn Cymru, D.A." gas y
clenig mwya, ag ma pawb yn eitha bolon. Fe drows ynta'i gefan ar y Parlament,
a dodd un lie gwell o'i flan wetyn na'r Hows of Lords. Bachan smart yw D.A.
ag wedi gneyd llawer o waith, a mwy na, hynny o gyfoth. Mawr dda iddo weta i.
Bora ddo, fe ddath yma bisyn bach pert digynnig o Byrtawa i'r lord newydd.
Dos dim enw wrtho, ond rw i'n geso taw Crwys bia'r gan-mae hi'r un spit ag e.
Rwy'n siwr y bydd y lord newydd yn falch iawn o honi. Os canws Crwys gystal a
hyn ar Abram Lincon, dodd hi'n rhyfadd yn y byd iddo ennill yn San Ffran
Sisco. Tro yn ei le Oedd cofio D.A. A'i symud i ganol arglwyddi; Bu'n feistr
yn hir, A daliodd ei dir, Er chwerwedd dialedd a dwli. Ni chlywodd efe Ond
seiniau D.A. Pan genid yn uchel ei glodydd; Ond dim ond My Lord Yn awr yw y
chord, Drwy'r awyr yn ddifyr i Ddafydd. Bu bendith ar ben Yr hen Sguborwen,
Ni welwyd cynhaeaf melynach A medi o hyd, A gynnal y byd, Fu hanes y fusnes
a'r fasnach. Mae pentre Byrdar I gyd ar y Sgwar, Yn bloeddio hwre yn un
anthem; A chafnia y cor, Fel tonnau y mor Agennau trwy seiliau Tresalem. Bu'n
ddiwyd ar lawr America f awr, Yn hogi ei arfau rhyfelgar; Darparodd yn llbn'
Tu arall i'r don Fwledi ercosi y Caisar. My Lord, am ei lwydd, Yn awr yn ei
wydd Mae taran o fawl yn ymdorri; Ei oes a fo'n hir, A'i wybren yn glir, Yn
nefoedd a, gwleddoedd arglwyddi. Wn i ddim lord beth ma fa'n mynd i alw'i
hunan. Dyw hynny ddim wedi dod mas yto. Ma rhai'n cynnyg Lord
Sguborwen," ond naiff hynny ddim o'r tro yn ol ym meddwl i, oblecid y
danjar yw i rai dorri'r gair, a'i alw'n Lord Sgubor, fel ma rhai dynon ffol
yn galw Lord Ponty ar Lord Pontypridd. Fe fysa Lord Cynon yn enw bach net,
ond fe nela Sais hwnnw wetyn yn Lord Synon. Dyna'r nafwch gyta'r tacla sy'n ffeilu
prynownso Cymrag. Beth am Lord Morgannwg, Lord Glantaf, Lord Llanwern, ne
Lord Siluria ? Anyhow, fe ddyla gal enw a bias Cymrag arno. Ond falla bydd a
wedi dewish drosto'i hunan cyn gweld yr enwa hyn mwn print. Lwc a bendith i'r
lord newydd. [Nodiad: Wedi i Dafydd ysgrifennu'r uchod gwnaed yn hysbys mai
Arglwydd Rhondda o Lanwern fydd teitl "D.A."Gol.] Rodd llawer yn
dishgwl y bysa un arall yn dod miwn i Ordd y Marchogion, a hwnnw yw Tramp y
Darian. 0 ran hynny, fe nelsa gystal lord a'i hannar nhw. Enw bach teidy
ddicon fysa Lord Tramp. Ma pawb yn gwpod erbyn hyn taw fe rows Stanton yn y
Parlament, ag fe ddylsa'r brenin roi clennig iddo am hynny. Wn i ddim shwd
fachan fysa fa ar gefan ceffyl, am fod un gos iddo gymint yn fyrrach na'r
Hall. Peth lletwith iawn fysa gweld dyn yn brychga acha whew. Tysa fa'n peido
boddro cymint am 'i gloffi, fe fysa'n sefyll gwell shawns o'r hannar. Ond
ma'n well gen i ddyn yn gloff yn 'i weilod nag yn'i dop. Gobeitho y cofiff y
brenin am dano, pan fo fa'n rhannu honars 'i ben blwydd. Oti'r hyn ma Harfryn
yn wed yn wir am Library Byrdar 1 Sposib Rw i wedi mynd i stwmp, ag fe ddyla
gwad pob Cymro ferwi'n wyllt. Os yw'r prif ddyn yn Sais uniaith, fe ddyla'i
assistant rhag cwiddyl ddyall rhwpath am Gymru a Chymrag. Y tada, ble maent
hwy? Os yw'u plant nhw'n gallu bod yn llonydd, a'u hawlia dan drad, 'dy nhw
ddim yn werth 'u halan. Ble ma'r Cymrodorion? Beth i nhw da? Chi, gysgaduried
llwfwr, dihunwch. Coeddwch ryfal, a chanweh y'ch cyrn ta nhw'n ddim mwy na
chyrn hyrddod. Torchwch y'ch llewish, a throwch y byd wynab i warad, a
mynnach whara teg i'ch gwlad a'i phobol. Gwm siriol, mae'th wrolionwedi mynd
Ym mhell i'r cysgodion; Ac i'r lie bu cewri lion, 1 Daw ieir o Gymrodorion.
DAFYDD Y CRYDD. I I |
|
|
(delwedd B2317a) (13 Ebrill 1916) |
Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir Gol. ,— Fe wela fod Brynfab yn gofyn beth sy wedi
dod o Dafydd y Crydd. Wel, mae a'n fyw, ond wedi bod yn catw'i wely am
wthnosa. Fe etho i Byrtawa i ordro lletar a hoilon, ag fe gretas na ddelswn
i'n ol byth. Fe fuo bron sythu yn y glaw a'r eira, ag oni ba mod i'n weddol
drwm, fe fyswn wedi dysgu hedfan gyta'r gwynt. Rodd gen i' ymbrelo walbon
newydd, yn ddicon mawr i dri ar dywydd rhesymol. Ond pan own i bothtu
ddwylath o'r stashon fe ddath rhw hyrican heibo gyta'r peth mwya sybyrthol a
welsoch chi ariod, ag fe drows yr ymbrelo o whith, ag fe stripws yr holl
gonsarn off nag odd gen i ddim ond y co's ar ol. Tra'r own i'n inspector's [inspecto’r]
co's, dyna bwff drychynllyd arall o wynt yn mynd a'm het i rwla dros bena'r
tai na welas i ddi byth. Os i chi'n moyn cal ilistreshon o hyn, dishgwylwch
ar y pictwr sy'n y "Darian" ar "Beth sy mwn het?" Dyna,
fel bu arno i yn Byrtawa. Diwadd y gwt odd, i fi ddod sha thre a'm hesgyrn
wedi troi'n bipa o rew. Ma'n depig taw ar ben mynydd ma Brynfab yn byw. Ma un
peth yn ddicon siwr, dodd a ddim mas y noswath hynny, onte fe fysa fynta'n
gwpod erbyn hyn “Beth sy mwn het." |
|
|
(delwedd B2317b) (13 Ebrill 1916) |
Fe fu Dr. Short a'i assistant yn tendo
arno i am rai wthnosa, ag ma arno i whant gwed ticyn o'm meddwl am y clas hyn
o ddynon. Y gwir ag e yw, 'dyn nhw ddim yn werth 'u halan, yn enwetig
doctoried gwaith. Rwy'n cofio pan own i'n byw yn Llangyfelach, fod te llysa
Motryb Beti yn gwella pob annwd cyn pen wthnos. Rhw enwa Llatin sy ar bob
stwff nawr, ond enwa Cymrag odd ar lysa Motryb Beti - gamil, wermwnt, safry
fach, growndeifi, dant y llew, a ffa’r gors. Syrten ciwar bob tro. Ond ma'r
doctoried nawr yn catw dyn yn'i wely am wthnosa heb fod ddim ifflin gwell.
Fella fod hynny'n talu'n dda iddyn nhw, ond yn talu'n ddrwg i ddyn yn gorffod
peswch nos a dydd, fel ceffyl yn y pas. Ma'r doctor a'r cyfreithiwr yn
whara'u carda'n depyg iawn idd 'u giddyl. Rhowch chi stat yn llaw cyfreithwr,
ma fa'n siwr o hongad y fusnas nes bo'i hannar hi wedi mynd. Fe glwas unwaith
am ddoctor ag un o wyr y cwils, yn cwrdd a'u giddyl mwn mynwant, ag medda'r
cyfreithiwr wrth y doctor, “Faint o ddynon sy'n gorwadd yma wyt ti wedi'u
lladd?” A medda'r doctor nol, “Dim hannar cymint ag wyt ti wedi'u blingo'n
fyw." Ond brawd mocu yw tacu. Rwy'n cofio clwad am hen frenin odd yn byw
bothtu amsar Solomon, yn gneyd contract a'i ddoctor i dalu hyn a hyn yr
wthnos tra fydda fa'n iach, ond dim tra fydda'r doctor yn tendo arno, ag ma'r
hanas yn gwed fod yr hen frenin hynny yn gwella o bob clefyd 'mhen dou ne dri
diwarnod. Plan da odd hwnnw, ag fe dala'i ffordd yto i lawar y dyddia hyn. Y peth cynta ofynnws y doctor i fi odd, “Beth
sy isha arno i wpod," myntwn inna. Gadewch i fi weld y'ch tafod
chi," mynta fe wetyn. Twt," myntwn inna, “ma nhafod i'n reit, isha gwella'r
corff sy arno i. Os taw'r tafod sydd i wed beth sy arno i, chi gewch wpod y
complaint, oblecid wetws a gelwdd ariod." Ond ma'n ddicon plain nag odd
y Doctor na'i assistant yn gwpod yn y byd beth odd yn bod. “Inffliwensa” un
diwarnod, “Bronceitas” ddiwarnod arall, “Infflameshon" dro arall, “Seiatica”
cyn diwadd yr wthnos. Ond yr hyn odd ar syrtifficat y Clwb odd “Dyspepsia,"
ta beth yw hynny. Ond yr un moddion odd i'r cwbwl, y moddion coch sy'n gwella
pawb. Fe ddath Marcad drws nesa miwn i ngweld i un dywetydd — rodd hitha wedi
bod yn wal am dros dair wthnos, a phan welws hi'r moddion ar y mantlpis,
mynta hi, “Yr un complaint sy arnoch chi a finna. Ma'r moddion hyn wedi gneud
lles mawr i fi." Ond cyn pen pythewnos, rodd adishon yn y teulu gen
Marcad, ag fe halas i moyn y doctor ar unwaith, i newid y moddion, rhag ofan
i fi fynd i'r un picil a hitha. Y gwir ag e yw, 'dyn nhw'n dyall fawr ddim
ond am dynnu dannadd, ag wrth neud hynny ma nhw'n tynnu'r un rong yn amal.
Hit or mis yw hi am glefyd dyn byw, ond ma nhw i gyd yr un feddwl am ddyn
marw, ag yn gwed taw "heart failure" odd arno. Wel ia, depig iawn,
oblecid dyna sy ar bob dyn sy’n ffeilu byw. |
|
|
(delwedd B2317c) (13 Ebrill 1916) |
Rwy'n cofio clwad am Eirishman a'i benlin
wedi mynd yn stiff, ag fe gas ordors i faddo'i glin bob nos a whisci. Rodd y
doctor yn dod yno bob dydd, ag yn gwed'i fod a'n gwella'n splendid. Ond rodd
y Padi'n yfad y whisci, ag yn rhwto'i glin a'r botal. Wydda'r doctor ddim o
hynny, ond fe wydda'r dyn fod y whisci'n gneud mwy o les y tu fiwn na'r tu
fas. Dyma fi wedi 'nghatw'n y gwely am wthnosa i yfad dwr wedi 'i liwo, a
thepig y bydd y bil wedi cal'i liwo'n fwy coch na'r moddion. Ma peth fel hyn
yn tw bad i ddyn a'i amsar mor bring. Nid stwff y doctor 'ngwellws i yn y
diwadd, ond cordial o waith Gwen. Ma'n dreni na ba merched yn meddwl mwy am betha fel hyn, i allu doctora ticyn pan fo
taro. Chytig ma nhw'n feddwl am ddim nawr, ond am fflyrto a phrioti showdwrs. DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
|
27-04 Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir Qol.,— Pan own i'n darllin pishyn Gwili ar Beth sydd
i mi yn y byd," fe ddath Morgan y Teilwr miwn yn sytan, ag wedi ishta
lawr, a son am y tywydd, mynta fa, Be chi'n ddarllin, Dafydd 1" Pishyn
Gwili yn y 'Dal'ian, myntwn inna. Gadewch a'n y man 'na," mynta Morgan.
ii Dyw a'n gwpod yn y byd beth ma fa bothtu. Ma'n ad gen i fod dynon fel hyn
yn rhytag i'r wasg i ddangos'u hanwybotatli. Ma fa'n eymryd ffor granted taw
Morgan Rhys bia'r pennill. Dim o'r fath beth, ag fe ddylsa wpod gwell."
Ymswynwch y dyn," myntwn inna, ma'r bachan Gwili 'na'n gwpod popath, a
llawar mwy. Pwy i chi'n wed bia'r pennill 1" Fafasor Pwal," mynta
Morgan. Beth wetsoch chi 1 Afasor Pwal! Dyn o bwy wlad odd hwnnw 1 Chlwas i
ddim am i esgyrn a o'r blan," myntwn inna, ma enw od arno. Pun ne Sais
ne ddyn, ne ffeirad odd a. 1" Cymro o Shir Fasyfad odd Fafasor
Pwal," mynta Morgan, a phyrgethwr di ail gyta'r Baptis, ag fe ddyla
Gwili wpod mwy o'i hanas. Fe ganws Beth sydd i mi yn y byd' cyn geni Morgan
Rhys, a allsa neb ganu yn well yn y lein hyn, oblecid chas neb fwy o'i erlid.
Dyn mawr odd Pwal, wedi cal monteishon da, yn y Colega gora, ag yn berwi fel
crochon am wella'r wlad. Ond yr odd pob ffeirad yn ei erbyn, am i fod a gyta
chrefydd ag nid yn yr Eclws. Dodd dim un ffeirad y pryd hynny yn Gwd Templar,
ag ma'n depig fod lemwned yn brin. Mae hyna'n ddigon plaen yn llyfyr yr Hen
Ficar o Landyfri. Wrth weld y stad sobor odd ar betha, fe ath Pwal trw'r wlad
i byrgethij, ag ma'n depig fod pawb yn crowdo ar 'i ol. Ond yr odd gwyr y
gyfrath i gyd yn perthyn i'r Eclws, ag yn'i erlid fel canddo o fan i fan, a'i
gosbi fel lleidyr am wed y gwir. Fe fu yn y jail, miwn a mas, am dros
ddeuddag mlynadd, ag yn y jail yn Llyndan y bu a farw mwn stat ddicon
truenus. Dyna'r dyn ganws Beth sydd i mi yn y byd.' Pwy all feio'r dyn am roi
'i fywyd yn y penniil ? Welws a ddim ond 'gorthrymdera' nos a dydd. Fe
ddyla'r dynon sy'n rhytag y pennill lawr gal mynd trw'r un tywydd i gal gweld
shwd bydda nhw'n canu." Treni mawr," myntwn inna, odd erlid y dyn,
ond rodd a'n torri'r gyfrath, ag arno fe rodd y bai., Dodd dim busnas gen neb
yr amsar hynny i fcyrgethu os nag odd a yn yr Olyniath, ag wedi cal Betydd
Hesbog, a'i Gonffyrmo. Ddyla neb yn ol yin meddwl i gal pyrgethu os nag yw a
yn lein yr Apostolion. Galli di wed wrtho i, Morgan, beth yw'r 'parodi' ma
Gwili'n son am dano ? Oti a. o'r un bonyn a parot 1 Ma lot o barots yn y byd
'ma yn treio gwed petha'n depig i ddynon erilL Beth yw 'parodi,' Morgan?
•Ystyr "parodi, Dafydd, yw gneu d 1 sPort am ben rhwpath. Dyw parodi
Gwili'n ddim ond sport o deimlad a gorthrymdera un o'r dynon gora fu farw'n
ferthyr dros y gwir! Fe glwas am byrgethwr arall gas lawar o'i erlid yn gwed,
Trist iawn yw fy enafd hyd angeu." Wn i ddim oti Gwili wedi gneud parodi
o hwn ne beido. Ma gneud sport o deimlad Cristion yn llawn mor ddisynnwr a
hynny. Rhown 1 ddim pishyn grot am grefydd dyn o'r short. Aros di, Morgan,
whara teg i Gwili. Ma'r byd yn mynd yn'i flan, a phawb yn treio mwynhau'u
hunen, ag isha mwy ° jolifficeshon sy yn hyma'r dyddia hyn. Dos dim sens ar
ganu o hyd fel sa dyn rnwu anglodd. Ddyla neb neud hymn nawr a swn dagra
yndo. Pe ba dyn down in ddy dymps, fe ddyla ganu'n llawan er mwyn erill. Fe
allwn i feddwl taw dyna ma Gwili'n moyn. Rhwpath tepig i hyh: Fe la,ddodd
Dafydd lew, Halellwia Yr oedd yn fachgen glew, Haleliwia; Fe dorrodd ben y
cawr, Haleliwia; Mae cof am dano'n awr, Haleliwia." Isha mwy o betha fel
hyn sy'n y llyfra "yma newydd, a llai o Beth sydd imi yc: y byd."
Rhwpath i gwni calon dyn, ag nid idd 'i gwasgu'n shwps fel gwaith yr Afasor
Pwal wyt ti'n son am dano. dafydd bach," mynta Morgan, t, feddyliss,i
ariod y'ch bod chi mor dwp. Dyw dynon ddim yn gneud hyma fel gneud brics. Dyma
gamsynid rhai 6'r crots sy'n treio gneud hyma y dyddia hyn. Os nag yw dyn yn
rhoi 'i galon yn 'i bennill, dyw a'n ddim ond rhagrith a hymbyg- Allsa
Fafasor Pwal ddim canu Pop goes the whistle,' a'r cwn ar ei ol ag yn 'i
dynnu'n bishis. Dos dim un pennill mwy gonast na hwn ar lyfra Cymru. Ond
rhaid i fi fynd. Noswath dda. [ DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
|
01 06 1916
B2236 i’w ychwanegu |
|
|
|
8 Mehefin 1916 Mishtir Gol., - Pan ddarllenas i bishyn
Dafydd Gwr Nansen, a'i weld a'n trin y Tramp mor flagardus, fe etho'n ipish
gwyllt. Chlwas i shwd dafod ys llawar dydd. Rwy'n cofio clwad dwy o ferched y
Mera, odd yn gwerthu rhython, yn ffreio unwaith, ond do nhw ddim hannar mor
insyltin iddi'u giddyl a'r dyn sy'n polisho'r Tramp yn y "Darian."
Dyndishefoni! "Pom Pom” mae a'n galw'i hunan. Ystyr hynny'n y Gymraeg,
ma'n depyg, yw Tom Thymb - y bachan hynny odd yn byw mwn bocs matchis. Ma
fa'n gofyn i fi beth wy'n feddwl am y pictwr. Wel, y marn i am dano yw hyn, y
dyla'r hen wraig droi wynab y pictwr at y wal rhag cwiddyl. Beth ma'r pwr
Tramp wedi neud? Ma golwg dicon tlawd |
|
|
|
arno heb'i flingo'n fyw fel hyn. Rwy wedi
ffreio a'r Tramp ymhunan rai troion, ond do ni byth yn taro bilô ddy belt,
nag yn dicio wrth y'n giddyl. Fu neb yn fwy o bartnars ar ol i'r bowt fynd
heibo. R'ych chi'n cofio i fi yng nghenol y ffra addo par o glocs newydd
iddo, dim ond iddo alw heibio'r Shop. Dyna fel dyla petha fod. Pwy sens yw i
ddynon sy'n dysgu'r byd drin'u giddyl fel Eirish. Fe ddyla Pom Pom, a Nansen
a'i gwr gal tri mish o hard lebar am criwalty tw animals. |
|
|
|
|
|
|
|
F'awen hwylus fu'n holi - am hanes |
|
|
(delwedd
B2577a) (15
Mehefin 1916) |
|
|
|
(delwedd
B2577b) (15
Mehefin 1916) |
|
|
|
(delwedd
B2577c) (15
Mehefin 1916) |
|
|
|
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ
/ i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū /
w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON
+ ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ
/ ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄
ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː
/ e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː
ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ
/ aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ
/ £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith
δ δ £ gyn aith
δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː
[]//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋
a̋
gyn aith
δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute
accentː ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1916_3783k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022,
04-02-2018, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font
/ Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych
chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats |
…