kimkat3784k Shop Dafydd y
Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1917.
22-12-2022
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
.....
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....
(delwedd J7058b)
.....
.....1917
29 Mawrth 1917
.....
07 Mehefin 1917
14 Mehefin 1917
.....
05 Gorffennaf 1917
.....
04-10 J7774
|
|
|
Y
Darian. 29 Mawrth 1917.
|
|
|
|
Wedi
i fi sgyfennu cymaint a hyn, ,dyma Morgan y teilwr, wrth y drws, yn whis
dyferu, a phecyn mawr ar 'i gefan, ag yn wen o glust i glust. "Helo,
Morgan," myntwn i, "beth sy gen ti? Wyt ti wedi troi'n
bacman?" "Dafydd bach," mynta Morgan, "welsoch chi ariod
shwd beth. Rwy wedi cal whech pwn o datws ar ol y pishyn goeddsoch chi'r
wsnoth o'r blan - un o Shir Fycheinog, dou o Shir Gâr, o war Llandeilo, un o
Wlad yr Haf, a dou o rwth fartshant tatws o Llyndan. Ma gen i ddicon o datws
am byth. Rwy'n dod ag un cwted i chi am ddodjo Brynfab, a phwsho'r gân miwn
trw ddrws y cefan. Wyddoch chi beth, Dafydd, dim rhacor o deilwra i fi tra
paro'r rhyfal. Rw i’n mynd i fyw ar ym sens. Ma barddoni'n talu'n iawn - dim
hen gownt, a cwic returns. Ma arno i whant hala pwn i Olycydd y 'Darian,'
mae'n ddicon tyn arno, pwr dab." |
|
|
|
|
|
|
|
Meddygon
sydd ar hyd y plwy' Yn
casglu mel a thriagl; Yw'r
cawliach yn lle shwgir. Nid
drwg i gyd yw hynny;
|
|
|
(delwedd J7522a) (07
Mehefin 1917) |
Y
Darian. 07 Mehefin 1917 Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Golycydd, — Dos dim w i'n leico'n well na phwt o ffra ddiniwed fel sy rhwng
Bera a Henry Lewis. Ma nhw feI dou gilog ifanc yn scrapyn 'i giddyl, ag yn
catw golwg ar gilog twrci sy'n acto fel raffari. Os bydd un yn cal y gweitha,
ma fa'n dishgwl crawc orwrth y twrci, ag ma crawc hwnnw'n mesmereiso'n ddou.
Fuo i ariod yn enjoyo dim yn well na'r perfformans hyn. Peidwch a'u stopo
nhw, da chi, oblecid ma'u gweld nhw'n ffenso yn ddicon i neud i ieir
wherthin. "Helo,
Eryr Pen Pych, ti sy 'na? Dera miwn. Dw i ddim wedi dy weld ti ys oesoedd.
Ble wyt ti wedi bod? Bachan, rwyt ti'n mynd yn dewach fel ma'r bwyd yn mynd
yn bring. Beth wyt ti'n feddwl am y cywion yna sy'n pico'i giddyl yn y
'Darian?’ Ma'r ddou fel ta nhw wedi llyncu Gramar, ag yn teimlo orwth ddiffyg
traul. Dyn helpo'u crombil weta i. Gwaetha'r lwc, ta nhw'n lladd 'i giddyl,
fydda'r byd fawr gwell, oblecid ma nhw'n gywion rhy ifinc i neud pryd o gawl
i neb. Wyddot ti beth, Eryr, rwy'n onfi yn y nghalon fod y Gymrag yn mynd i
farw, a'r cwest ar 'i chorpws hi fydd, wilffwl myrdar yn erbyn "cilocod
y coleca," ys gwetws Morgan y teilwr. Ma pob ffowlyn os bydd ticyn o liw
ar 'i blyf, a'i big yndi, ag yn 'i thynnu'n yfflon.” . |
|
|
(delwedd J7522b) (07
Mehefin 1917) |
"Eitha
gwir, Dafydd. Wetsoch chi ariod fwy o sens. Rhaid i bawb nawr dowlu'i Gymrag
i'r domen, ag aros yn fud nes bo iaith newydd yn tyfu o honi fel o bilion
tatws. Fydd dim tatws, na phanas, na sweds i gal pryd hynny. Cloron, moron, a
maip fydd y cwbwl. Dos neb i wed gair o hyn i mas, os na fydd a'n gorect yn
ol y Gramar Sysnag dywetha sy wedi cal 'i goeddi i ddysgu Cymrag. Ma' nhw
wedi ffeindo mas fod y plant i gyd yn idiots, os na fydd y tad a'r fam wedi
dysgu Gramar. Wrth gwrs, rhaid i bawb ddysgu Sysnag yn gynta, oblecid Gramar
Sysnag yw y standard i ddysgu'r Gymrag newydd. Rhaid i chi a finna -" "Aros
di, Eryr, os oes rhaid i bawb fod yn ddishtaw hyd nes bo lotments y Scwl
newydd 'ma'n tyfu, ffordd i ni'n mynd i ddyall y'n giddyl? Welas i neb ond
amball Northman yn ffeilu' nyall i hyd yn hyn." "Rhaid
i ni gario pob transacshons ymlan trw foshwns, Dafydd. Ma nhw'n barnu fod
hynny'n well yn y pen draw na'r annuwioldeb o wed "meib" yn lle
meibion; "creig" yn lie creigiau "benyr" yn lie banerau;
"menyg" yn lle manegau; "cerrig" yn lle caregau;
"beirdd" yn lle beirddion; "iddynt" yn lIe uddlint;
"i gyd" yn lie achlan, ac felly'n y blan." |
|
|
(delwedd J7522c) (07
Mehefin 1917) |
"Cato
ni! Gwen, dos dim rhaid i ti drafferthu i bapro'r ty. Ma'r Mil Blynyddodd
wedi paso, a diwadd y byd wrth y drws! 'R'own i'n ddiniwad wedi arfadd meddwl
taw dynon, ag nid proffesors odd yn gneud iaith, ag fe glwas Llew Llifio'n
gwed fod pob iaith ag argol byw yndi yn para i dyfu. Peth dwl iawn yn ol ym
meddwl i yw gwed na ddyla dou flotyn o'r un short dyfu ar yr un gangan, ond
allwch chi ddim tynnu hynny o ben rhai sgleigon y dyddia hyn. Os bydd dou
bliwral i air, rhaid bwrw un mas, ond ma pob sens yn gwed fod dou yn well nag
un, ond lle bo'r bwyd yn bring. Beth wyt ti, Eryr, yn feddwl am eiria fel
"meib," "engyl," "ebyrth," a phliwrals o'r
short?" "Dos
dim dowt nag y'ch chi'n reit, Dafydd. Arfar gwlad, ag nid mashin sy'n gneud
iaith. Os yw bardd yn troi'n feirdd, iar yn ieir, gafr yn eifr, yn ol sgwar a
chwmpas yr un rheol, y mae mab yn troi yn "feib." Ond dos gan reol
ddim i neud a'r pwnc mynta Bera. Arfer gwlad sy'n setlo'r cwestiwn. Very gwd.
Ma beirdd y can mlynadd dywetha yn
arfer "meib," ag fe glwas J.J. yn gwed pwy ddiwarnod fod Bera 'i
hunan yn iwso'r gair yn 'i awdla gora. Tawn i'n gwpod pwy yw'r gwr fe fyswn
yn whilo mas drosto 'i mhunan. Ma'n anodd gen i gretu fod hynny'n wir, ne
fysa'r dyn byth o'r wynab i alw pawb sy'n iwso'r gair yn "anllythrennog,"
ag ynta yn yr un cwtyn. Gair ffug ma Bera'n alw "meib," am fod yr
Athro wedi gwed hynny o'i flan. Ta fa'n gwed fod "blue glas" yn
goch, fe fydda'n rhaid i'r Scwl newydd wed yr un peth. Yr hyn sy'n od yw,
taw'r un dynon ag sy'n treio bwrw "meib" mas sy'n dod a rhw cros
breed miwn, fel crwsâd, miragl, gêm, cwrbits, a phetha di-shap o'r short. Fe
ddyla gair bach mor dwt a "meib" gal llonydd heb gwni un crwsâd yn
ei erbyn." "Rwy'n
gweld, Eryr, dy fod yn dechra poethi, ag yn hedfan yn ychal. Gad hi yn y fan
'na nawr. Fe ddaw Morgan y Teilwr yma nos yfory. Falla cewn ni go arall ar y
petha hyn. DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
(delwedd J6811a) (14
Mehefin 1917) |
14
Mehefin 1917 Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Golycydd, — Trowch o'r ffordd i fi gal rhoi bothtu ddwy fodfadd o'r mynawyd1
'ma ymhen arall Cas Nodyn. Pwy fusnas sy ganto fe i bwsho'i big ryngtho i a dynon
erill? Sposib os nag yw Bera yn ddicon o ddyn i ddiffendo'i hunan heb gal
blagard o North Wels, na'r North Pol, i gymryd 'i bart. Ma'n well gen i ddelo
a Sowthyn nag a sharpar o'r North. Fe glwas y Tramp yn gwed fel hyn,
"Welas i Northman ariod nag odd tro yn 'i gwt." Yn ol pob sponiad
welas i, ma'r atnod yn eitha gwir. Dyma atnod arall d'dysgas i slawar dydd,
"Rhydd i bA meddwl 'i farn." Fe allwn feddwl nag yw Cas Nodyn ariod
wedi gweld hon, ond mae mor wir a'r atnod arall, ag fe dala'n dda' i'r dyn i
ddysgu'r ddwy ar 'i gof. Hen derm dicon hen yw "crach-feirniad. Rodd a'n
hen ag yn hurt pan own i'n grotyn, ag yn baco cowards ymhob ffra cyn geni Cas
Nodyn. Dyw hen derma llwyd fel hyn yn gneud niwad i neb. Peth dicon hawdd
fydda i finna alw Cas Nodyn yn grach-feirniad, ne'n grach-scolor, ond wna i
ddim o hynny nawr, rhag i neb wed mod i'n depyg iddo fe, a dyw bod yn depyg i
Gas Nodyn ddim yn werth i ddyn sy'n leico nodyn melys. Fe weta marn yto mor
blain ag ariod, fod y Scwl newydd yn lladd y Gymrag wrth gario petha'n rhy
bell. Dynon yn mynd yn ewn ar beryclon, ag yn mentro i ddanjar sydd yn dod i
drwpwl. |
|
|
(delwedd J6811b) (14
Mehefin 1917) |
Dyn
helpo Young. Ma fynta dan y lash am spoilo Cenin ar lotment bardd y Short
Hand. Os yw hi'n reit i Gas Nodyn i roi clowten i Young, ma'r un reit gen
inna 1 glowto rhai iangach sy'n shafo'r Gymrag hyd yr asgwrn. Cuwch cwd a
ffetan, ys gwetws Solomon. Dyw son am dransporto llythrenna dwpwl ddim yn
idea newydd. Falla na wydda'r crotsach hyn ddim o hynny o'r blan. Fe dreiws
Beriah (enw tepyg iawn i Fera) neud yr un opereshon ar Gyfaill yr Aelwyd, ond
fflat shot fu'r cwbwl, a gwath na hynny, fe fu'r Cyfaill farw o dan y
driniath. Dyna case in point, ys gwetws Jim Smith, o ochor Dafydd y Crydd.
'Rhyn sy'n od yw, taw'r dynon sy'n moyn symud y llythrenna dwpwl, sy'n dadla
dros ddyplu rhai shengal. Ebr y Cas Nodyn, "Lladdwyd llu yng Nghastell
Llangollen ddo.” Dyna gelwdd gola, ta fatar am hynny. Laddwyd neb yno ddo nag
echdo. Ond clasgu llythrenna dwpwl at 'i giddyl na'r [sic; ma’r] dyn, ne gwni
bwpach brain i gal ffreio ag e. Yn ol scrythyr Cas Nodyn, fe fysa'n well rhoi
lladdfa Llangollen lawr fel hyn, "Zajwyd zu ynghastez Zangozen
joe." Pert digynnyg! Fu Mari Lwyd ariod yn smartach. Ma'n depyg taw
pechod y llythrenna dwpwl yw catw gomrod o le, a wasto papur. Ebr y Cas
Nodyn, "Dysgwch y plant i alw x yn ch, z yn ll, j y dd, ac felly'n y
blan. Yr un fydd y swn o hyd." Wei, ie, twbi shwar, a tha chi'n galw q
yn a, a & yn b, yr un fydda'r swn wetyn. Ond y peth sy'n bert yw y
gellwch chi ddyplu llythrenna shengal heb golli amsar na wasto papur, fel
hyn, "Torrwyd hannar dannedd Harri Pennant yn gynnar ar gyrrau cynnes
Morgannwg.” Dyna naw o ddyblars nag i nhw dda i ddim ond i ddifa papur ag
inc. Os yw'r acan yn demando y rhai hyn, pam yn enw Dic Dywyll na ffeindan
nhw lythyran newydd yn lle'r dyblars hyn? Beth am nymber 2 yn lle dwy r, a
nymber 2 a'i ben i lawr yn lle dwy n ? Fe glwas Morgan y Teilwr yn gwed fod
lolo Goch, ne yn ol yr Alffabet newydd, Iolo Gox, |
|
|
(delwedd J6811c) (14
Mehefin 1917) |
yn
rhoi nymber 6 yn lle w, fel hyn "T6r6 m6y y tar6 ma6r.” Pan ddangoswd y
lein i fi, a gwed taw Cymrag odd hi, fe etho i stwmp. "Oti
chi'n 'i dyall hi," ebr Morgan. "Y
Nefodd fawr! Nag w i," ebr finna. "Wel,"
ebr ynta, "mwn Cymrag respectabl, dyma hi, 'Twrw mwy y tarw mawr.” "Mae
fel Chinese pysl," ebr finna. "Oti,"
ebr y teiliwr; ac ebr finna wetyn, "Fel hyn ma spelio o hyn i mas?"
Ac
ebr Morgan, "Dyw ‘spelio’ ddim yn air Cymrag, Dafydd." "Wel,
sillebu," ebr finna. "Nage,”
ebr Morgan, "dos neb ond cryddion yn iwso shwd air a hynny nawr. Rhaid i
chi wed 'sillafu' ne fyddwch chi ddim yp tw dêt." "Wyt'n
meddwl taw parot w i," eb finna. "Ma
lot o nhw yn y wlad," ebr y teilwr. "Rhaid
i fi gal whilia Cymrag yn ffordd y mhunan," ebr finna, "ac os o's
newid i fod rw i'n cretu taw Eifionydd ddyla gal pendrafynu ar shap y
llythrenna newydd." "Brafo,”
ebr Mogran. "Ma
rhywun isha'ch gweld chi yn y shop," ebr Gwen. "Shwd
un yw a," ebr finna. "Dyn
tepyg i Italian," ebr Gwen. "Gwed
wrtho am fynd i gusanu bawd y Pab," ebr y crydd. Synnwn
i flewyn na ddaw rhw gantwr ymlan cyn bo hir i ddemando notes yr Hen Nodiant
yn lle llythrenna lletwith y Gymrag. Crotchet yn lle a, quaver yn lle b,
semiquaver yn lle c, demisemiquavet yn lle d, ac felly'n y blan, nes mynd
trw'r cwafars i gyd. Ma llawn cymint o sens yn hynny a'r hyn sy'n cal 'i
bwsho lawr i wddwg y Gymrag y dyddia hyn. Yr wsnoth o'r blan, fe netho sylw
ar y ffolinab o goeddi popath yn Sysnag i ddysgu Cymrag, ag ma'n dda gen i
weld Bera'n pitsho miwn i'r un pwnc. Dos dim dowt nag yw Gtamar Sysnag yr
Athro yn un clyfar i stiwdent mwn college, ond dyw a dda i ddim i fi a'm
short, ag ma'm short i yn y majority o ddicon. Llwyddiant i Bera wedi dod i'r
lein iawn, a hei lwc i Gas Nodyn hed gal 'i achub. DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
(delwedd 5700a) (5
Gorffennaf 1917) |
Y
Darian. 5 Gorffennaf 1917. Shop
Dafydd y Crydd. Mishtir
Golycydd, — Fe wela fod Cas Nodyn wedi mynd i'r wal. Gwell i fi beido rhoi pocad
arall iddo rhag ofan iddo fynd dros y "wal ddiadlam" a pheido dod
noI byth. Mae a heb ddod ato'i hunan, ag yn swrddanu fel dyn yn'i gwsg. Treni
fod y dyn wedi gneud shwd ecsibishon o hono'i hunan. Pe bysa fa'n stico at
reporto'r hyn mae a'n glwad yn y North, heb fysnesa yn achos dynon erill,
fysa pawb ddim yn gwpod llai nag yw a'n fachan call, ond mwn argiwment, ma
fa'n rhoi'r show off, ag yn mynd yn ffolach na bardd, ta le. Wrth son am wed
y gwir, mae a'n son am articl na wyr a fawr am dano. Ma'r hyn w i'n ddadla yn
wir heb gair, ag ma Cas Nodyn wrth watu hynny, yn profi'r un peth o dan 'i
ddwylo. Welais i neb ariod yn fwy di-glem yn treio deffendo'i hunan. Ebr efo,
"Trwsio tipyn ar ei gwisg a wnaeth efe." Ebr y finna, "Ma
cymint o deilwried yn treio'u llaw arni, fel ma nhw'n ei lladd hi wrth y
fodfadd." Fe wn i nag yw "cilocod y coleca" yn folon Iwo
hynny, ond ma'r masses sy a'u Cymrag mwn brethyn gwlad yr un farn a finna. Os
yw hi'n anodd i blant gatw ticyn Cymrag 'u rhieni, ma'n fwy anodd iddyn nhw ddysgu
iaith newydd, a gwed taw o'r Llatin, ne o'r lleuad ma'r hannar hi'n dod. Gyta
golwg ar "Gyfaill yr Aelwyd," rwy'n dicwdd gwpod hanas yr hen
ffrynd hynny'n llawn cystal, a falla'n well na Chas Nodyn. Wedi tynnu'r
llythrenna dwpwl o'i gorpws. ag injecto rhai fforin yn'u lle, fe gitshws y
decline yn yr hen ffrynd, ag rodd a'n marw ar 'i drad. Yn wynab hynny, fe
farnws y doctoried taw gwell fydda iddo brioti a'r "Frythonas,” er mwyn
iddo gal rhwun dendo ar y pwr dab. Fe gas 'i "drwsio" yn smart
digynnyg, ond fe ffeilws gwni cariad heb dynnu'r trimins fforin odd am dano,
a'i wishgo yn'i ddillad ei hunan. Ma'n wir i rywrai bryswato'r
"Frythonas" i'w brioti yn y picil hynny, ond rodd y decay wedi
citsho mor gryf yndo fel nag odd yn bosibl 'i wella, a'r diwadd fu i'r ddou
farw a'r hen Alffabet o dan 'u pen, heb ddim epil ar 'i hol. |
|
|
(delwedd 5700b) (5
Gorffennaf 1917) |
Ebr
y Cas Nodyn, "Digrif yw gweled Dafydd yn son am 6 yn lle w fel dyfais o
waith lolo Morgannwg." Rhaid fod y dyn yn bryddwyto, ne yn y delirium tremens,
ys gwetson nhw. Sonias i air ariod am Iolo Morgannwg. "Rhaid i Gas Nodyn
ddysgu gwed y gwir, er taw Cas Nodyn yw.’ Pwy isha iddo drwplu esgyrn Iolo
Morgannwg sy? Ma'r dyn wedi camsynad un lolo yn lle un arall. Falla na wydda
fa ddim o'r blan fod mwy nag un Iolo yn hanas Cymru. Golchad 'i lycid a dwr a
halan iddo gal dihuno, ag fe wel wetyn taw yn Iolo Goch, ne Iolo Gox, y cas
Morgan y teilwr y nymber 6 yn lle w. Ag yto, ma'r dyn yn ddicon o ddelff i
wed, "Digrif yw gweled Dafydd yn son am 6 yn lle w fel dyfais o waith
lolo Morgannwg." Chlywodd a Dafydd ariod yn gwed shwd beth, a dos ganto
ddim hawl i bwshu ’i hyrtwch 'i hunan ar ddynon erill. Fe glws inna am y
Llyfyr Coch o Hergest, a'r Llyfyr Du o Garfyrddin, ond fydda i byth yn
reffyro atyn nhw i dreio twyllo dynon mod i'n scolar, ag fe fentrwn bâr o
scitsha na wyr Cas Nodyn ddim mwy am danynt nag am Lyfyr Melyn Japan, ne
Lyfyr Glas Ynysoedd Mor y De. Fe alla dyn feddwl fod y cyw Cas a di-blyf hwn
yn wybotus anghyffretin, ag yn ddicon duwiol i gal 'i gymryd i Gylch y
Gwynfyd dder and dden yn ddi rypudd. Ond dyw'r cwbwl yn ddim llawar o beth, a
dyma i chi chapter and fers o un o'i lythyra i ddangos hynny. "Nid ar
fara'n unig y bydd byw dyn,” chwedl y diafol (chwarae teg iddo). Pan
ddarllenas i'r cabledd annuwiol ag anwybotus hyn, fe deimlas whis oer yn rhy
tag lawr dros 'y nghefan, ag fe I fuo bron colli'm hanal. Fysa neb ond pagan
yn ddicon hurt i wed taw o ena'r diafol y dath y geira hyn. Dypia'r dyn odd
yn ama a odd Beibil ne beido yn Shop y Crydd. Rwy'n ffeilu dyall, Mr.
Golycydd, ffor buoch chi mor slac a gatal i shwd gabladd rhyfycus i ddod mas
yn y "Darian." Gobeitho gall y Brenin Mawr fadda iddo. Ma'n gofyn
lot o ras i grydd a theilwr i neud hynny. Y clasgad naturiol yw fod Cas Nodyn
yn gwpod mwy am gwmpni'r Gwr Du na'r Gwyn. Nid fel champion y llythrenna
dwpwl y bydda i'n etrych arno o hyn i mas, ond fel pagan wedi mynd yn ffosil.
DAFYDD
Y CRYDD. |
|
|
|
J7774 4 Hydref 1917 Shop Dafydd y Crydd. .Alishir
Golycydd,- .,1 Bachan bidir yw'r Tramp. Fe alws yma'r wsnoth o'r blan, ag fe
geso dicyn o'i gwmpni. Rodd yn ddrwg gen i na allswn i ddim rhoi'r un croeso
iddo ag arfadd, am y mod i wedi seino'r pledj yr un pryd a'r brenin, ond fe
gas gwart o lemwned horn briwd. Rodd Gwen a finna'n whilia am dano pan ddath
a at y drws, ag ma hynny'n gwirio'r hen wheddal, "Soniwch am y cythral,
fydd a ddim ymhell." Dw i ddim yn hinto fod y Tramp yn blongo i'r clwb
hynny, oblecid rw i'n gwpod gwell. Ma'r tramp yn fachan old ffast, ag nid
arno fe ma'r bai fod gwitwod yn ffreio am dano. Pan own i'n, tapo'r drytydd
botelad o lemwned, pwy ddath miwn ond Morgan y teilwr, a Eryr Pen Pych, ag
mynta'r Tramp mwn englyn tair lein: Wel, dyma gwartet, Y gora "I
bet," A welwyd gan "Lygad y Dydd." "Cwpla fa'n englyn
whech lein," myntwn inna, wrth Morgan. "Onaf gyta phlesar,"
mynta'r teilwr: Yr Eryr a'r Tramp, Prydyddion tan gamp, Y teiliwr a Dafydd y
Crydd. "Tawn i heb gyffro," myntwn inna, "dyna'r englyn perta
welas i slawar dydd. Ond pwy isha i ti'r Tramp ddod miwn a Llygad y Dydd?,
Falla dy fod ti'n un o'r rhai gollws yn Steddfod Pen Borcyn. Rodd un o nhw'n
gwed fod coes i'r blotyn. Wrth gwrs, nid ti odd hwnnw, ne fe fysat yn gwed'i
fod a'n gloff fel ti d'hunan." Na, donn i ddim yn cynnyg, Dafydd. Rwy'n
onfi taw lotry yw hi lawar pryd lie bo lot yn cynnyg. Fe glwas am un beirniad
unwaith yn rhoi'r gang i gyd mwn het, ag yn rhoi'r preis i'r cynta mas. Ond
rw i'n cretu fod Alfa wedi ffysto pawb yn eitha teg y tro hyn, a dyw Job a
Berw ddim yn ddynon sy'n beirniadu mwn het. Beth wetwch chi, boys? Rwyt ti'n
eitha iawn," mynta'r teilwr. Hollol gydolygu," mynta'r Eryr.
"Unfryd unfarn," myntwn inna. Ond wbwb! ma Gas Nodyn wedi colli, ag
yn poeri ar Job fel dyn cyn- ddeirog newydd ddod mas o'r Seilam. Dyw a'n son,
dim am Ferw, y beirniad arall, er ei fod 'run tarn a Job. Fysa dim ond
blagard pen ffordd yn dod lawr ar un beirniad, ag yn gwpod fod y nail yn
cydweld. Rwyt ti, Eryr, yn napod Berw. Oti a'n dyall rhwpath am englyn? Oti,
Dafydd, mae a'n un o'r beirnied gora fu ar y bench ariod, ag fe all neud
englynion yn'i gwsg yn well na Chas Nodyn ar ddihun. Mae a mor ychal fel
bardd a beirniad, fel na, all Cas Nodyn ei weld heb telescope hir, a rhaid
iddo ynta gal microscope dybl powar i weld Cas Nodyn. Treio cwni storm mwn
tepot ma'r dyn, i dynnu'r shein oddiar Alfa. Pwy wyt ti'n feddwl wrth y
tepot? Os taw fe'i hunan, fe fyswn i'n gwed coffi-pot, am fod ei spowt yn
hirach ag yn dduach. Dicyn yn ddiprish am dy ffigyra wyt ti, Eryr. Beth wyt
ti, Morgan, yn wed am feirniatath Cas Nodyn ar yr englyn ? Rwyt ti'n dawal
iawn. Dw i'n meddwl dim am dani, Dafydd. Dos gan y dyn ddim barn o gwbwl.
Welas i neb ariod mor ddiglem, ag mae a mor ddi awan a sgubell. Y peth gora
all a neud yw poeri, a dos dim isha rhyw sopyn o dalent i hynny. Y dyn sy heb
ddyall y gwaniath rhwng 'afonydd' I a 'bwrlwm,' fe ddyla gal electric light
yn'i garet. Mae a mor ddi farn ag mor ffol wrth gamol un ag wrth regi'r
llall. Nid yw'n gweld ergyd y "bwrlwm," ond mae "pawb a'th
gar" wedi ei diclo'n ddisprad. Dyna i chi farddon- iaeth gampus! Dyna i
chi idea grand! "Pawb a'th gar! Nath y Bardd Cocos ar'i ora ariod ddim
mwy sybleim. "Pawb a'th gar," O'r cilog i'r iar, 0 begwn y Gogledd
I waelod Shir Gar. i Ond mae mwy na "phawb a'th gar" yn yr englyn
sy'n ora gan Gas Nodyn. j Ma'r meddylia'n pyngad fel pren gropwns ym mish
Awst, ne onnen a berries cerdin arni. Dyma'r lein gynta: Swyn cann dy dlysni
cynnar." Ma hon mor hen a "gwenau'r gwan- wyn," ta fater am
hynny. Gwell i fi wed taw Llygad y Dydd yw'r testun, rhag i neb feddwl taw
i'r mushroom ma'r dyn yn treio canu. Fe fysa hon yn lein splendid i'r
mushroom, ond welas i ariod yto lygad y dydd heb lot o felyn o dan'i
amrant—lliw'r houl. ¡ Glywsoch chi ariod o'r blan rywun yn galw peth melyn yn
"swyn cann1?" Dos dim dowt nad mushroom odd yn meddwl y dyn. Beth
yw'r gwaniath sy rhwng 'swyn,' 'tlysni,' a 'cheinedd' 1 Dyna dri gair yn yr
un lein, a'r ystyr I yw hyn: Swyn cann dy swyn cynnar—ddwg swyn Y gwanwyn i'r
ddaear. Dyw hi'n od yn y byd y'ch bod chi, Dafydd, wedi mynd i stwmp, ag yn
gryndo a'ch ceg yn acor. "Eitha .reit," mynta'r Tramp. "Ond
beth am y lein ddywetha," mynta'r Eryr- "Lygad heulog y
dalar." Fe weta chi," mynta Morgan. "Fe fysa'r Athro'n gwed
fod coll cynghanadd yndi, am fod d, a h, yn y part cynta yn gofyn t, yn y
part dy- wetha, ond dyw hynny ddim yma nag yco. Beth yw ystyr y gair
"talar" ? "Pen hwnt y cae," mynta'r Tramp.
"Reit," mynta'r Eryr. "Twbi Shwar," myntwn inna. Gan
hynny, blodyn pen hwnt y cae yw Llygad y Dydd. "Dyna gelwdd gola, yn
wyneb haul llygad goleuni," mynta'r Eryr yn wyllt. "Nid blodyn pen
hwnt y cae, ond ei ganolyw Llygad y dydd. Blue bells sy'n tyfu ar y 'talar,'
yn enwetig os bydd coed ar y clawdd." Fe glwas taw Eifon Wyn bia'r
pishyn pert hyn, a bod ganto lot miwn fel ar- fadd. Fydd a byth yn folon ar
un, ag wrth gwrs, os taw lotry fydd hi, mae a'n sefyll well shawns. Os w i'n
cofio'n iawn, r'odd enw Eifon Wyn ar y pro- gram fel un o'r beirnied, ond ma'n
depyg iddo dynnu'n ol, i gal mynd i bendraw'r ca' i glasgu daisies, ond
gwaetha'r lwc, fe ddath nol a bouquet o ddant y llew a dail bysedd y cwn, gan
feddwl nag odd y beirnied yn gwpod dim gwaniath. Dyna'r* mistec ma bechgyn yn
neud—cymryd ffor granted fod pawb yn ddwl ond nhw'u hunen. Dos dim i'w
ddishgwl nawr ond i lot o Zeppelins gwni o'r North i ddropo bombs ar Aber
Gwaen, a Chwm Tawe, oblecid Eifon Wyn yw'r collwr mwya truenus o'r holl griw
i gyd. Dyw'r englyn arall, yr "ail ora," ddim yn werth'i halan. Yr
unig beth mae a'n wed yn y ddwy lein gynta yw, fod y blodyn yn "gennad
gwanwyn," ag ma hynny wedi cal'i wed gannodd o weitha o'r blan. Am y
ddwy lein arall, dyma nhw: Serenna'i dras ar weunydd, Heulog dorf, hyd lewyg
dydd." Pwy isha son am dylwth y creadur bach, gan taw fe'i hunan odd y
testun ? Y cwbwl ma'r ddwy lein yn wed yw hyn, fod "tras" llygad y
dydd, nid fe'i hunan, ond'i dras, yn serennu ar weun- ydd nes i'r dydd gal
flit! Os caiff blodyn llygad y dydd olwg ar yr englyn hwn, fe gaiff ynta flit.
DAFYDD Y CRYDD. Printed and Published for the Pro prietors, The Tarian
Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works.
19 Cardiff St.. Aberdare; in the County of Glamorgan I |
|
|
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I
/ o O / u U / w W / y Y /
ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē
/ ɛ̄ Ɛ̄ / ī
Ī
/ ō Ō
/ ū Ū
/ w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ
/ ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ:
/ e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ
uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ
ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ
əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1917_3784k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022, 26-09-2019, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n
ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats