kimkat3785k Shop Dafydd y
Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1918.
22-12-2022
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....
(delwedd J7058b)
.....
.....1918
25 Gorffennaf
1918
.....
07 Tachwedd 1918
|
|
(delwedd
J7510a) (25 Gorffennaf 1918) |
Y Darian 25 Gorffennaf 1916 Shop Dafydd y Crydd. Mishdir Gol. — R w i am gâl ych caniatad chi
i gico nyth cacwn, y tro hyn. Y cacwn yw'r beirdd cadeiria Steddfodol a ma
hi’n llawn bryd câl whalfa arnyn nhw, a gneithir iddyn nhw symud ymlan at
rwpath arall ys gwetws yr Awdwr pan oedd a'n sgrifennu at yr Hebreaid. Onibae
fod cenhedloedd erill dicyn yn dwp a ddim yn gwpod y'n hiaith ni fyse beirdd
Cymru yn gneud y genedl yn laffin stoc i'r byd. Mi fuws adag pan odd i beirdd
hi'n anrhytadd i Gymru, a falla bod rhai o honyn nhw felny o hyd, ond fel
cenedl ma nhw wedi dirywio'n ddigynnig, ag os an nhw'n mlân fel ma nhw'n awr
nhw fyddan cyn yr el y genhedlath hon heibo'n ddim gwell na band o gwn, a
rheiny'n gwn hela wrth gwrs. Cofiwch chi taw am feirdd yr Eisteddfota rw i'n
wilia nawr, a falla bod ymhlith y rheiny gymint a allwth chi gownto ar
benna'ch bysadd o ddynnon rispectabl. Ma 'na genedlaetha arall o feirdd sy'n
anrhytadd idd u gwlad. Ma lot o feirdd y DARIAN a beirdd papyra erill felny.
Dyna'r cocosfeirdd sy a gwen ar ei gwynep 'n wastadol a fel llycid y dydd yn
troi o hyd gyda'r heulwel [sic; = heulwen]. A dyna farnadwyr yr ardaloedd, ma
nhwytha wedi tywallt olew a balm ei hawen fach i friw calonna'r milodd ac
wedi rhoi darn o anfarwoldab mwn ffram a ddarllenir gyda hyfrytwch ac
anwyldeb gan rai ar hyd ei hoes. Ond beirdd yr aml gadeiria y byswn i'n
leicio rhoi cic dda idd u nyth nhw. Mi fu Morgan y Tilwr a finna'n treio
llunio enw i roi ar y rhai hyn a thicyn o job odd hynny, a mi ffaelson ni gâl
gwell hwn: |
|
|
(delwedd
J7510b) (25 Gorffennaf 1918) |
"URDD Y SYCHED AM I GADAIR.” Cwestiwn mawr arall y buon ni'n treio diseido,
arno odd pwy fysa' ni'n roi yn yr urdd. Rodd Morgan yn dala'n gryf, gan taw
deuddeg llwyth odd yn Israel y dylsa deuddeg cadair fod yn suffisient i bob
bardd rispectabl, a beth bynnag a fyddo dros ben hyn o'r drwg y mae ys gwelws
Charles o'r Bala. Roeddwn inna'n cretu, gan fod deuddeg sir yng Nghymru, a
Sir Fynwe'n gneud un yn ecstra pan fydd hi'n gyfleus, y gallan ni lwo i fardd
ennill deuddeg cadair - am bob sir a’r gadair genedlaethol i sefyll am Sir
Fynwe i neud tair ar ddeg. Rodd Wil Smith yn gweld hyn yn feri risnabl a mi
rows y tilwr miwn i ni. Fel hyn ma pethach yn sefyll nawr pob bardd, os gall
a, i ennill deuddeg catar ag yna i fynd am y gatar Genedlaethol, ne ddim. Os
bydd a wedi ennill mwy na chatar am bob sir, ag yna'n para i dreio am gadeira
y galla crots bach u hennill nhw ma fa'n |
|
|
(delwedd
J7510c) (25 Gorffennaf 1918) |
mynd yn otomaticali i "Urdd y Syched
am Gadeiriau. I roi sel ar y peth yng ngwyneb haul a llygad goleuni rw i'n
gorchymyn i'r Archdderw ne'r depiwti Cadfan i goeddi hyn ar y maen llôg yng
Nghastall Nedd ag yn dymuno ar i Syr Owen M. Edwards, os bydd a yna, i
eilio'r cynhyciad widd e fenjans. Mi wetws Syr Owen yn Steddfod Abarystwyth y
dylsa'r beirdd gymryd holide am bymthag mlynadd, os yw Morgan y tilwr yn
cofio'n iawn, a chysegru'r amsar hynny, i neithir pethach ar gyfar plant
Cymru. Ond chymrws dim un o honyn nhw ddim dwarnod o sbel, na nath dim un o
honyn nhw ddim pishin i blant ond rheiny, odd wedi arfedd gneud. daioni. Pwy
reswm y'n bod ni'n clywed o hyd am feirdd ucan catar, beirdd deg catar ar
hucan, beirdd hanner can catar, beirdd whech ucan catar, beirdd saith ucan
catar, and so on. Ma rhain wedi a damnio eisoes ys gwet's Wil Helm yr ail, ag
i Germani at hwnnw y dylsa nhw fynd i gyd yn lle bod ar hyd y wlad fel llycod
mawr yn bwyta'r coed i fyny a neb arall yn câl siawns. Ma Morgan y tilwr yn
gwed wrtho i am roi gair ar y diwedd ma fod urddas yr Eisteddfod yn hawlio
symud ar unwaith yn y mater a ma fa'n gwed hefyd y taliff i fi am nuthir par
o sgitsha gora alla i idd u rhoi'n wobor i'r bardd a neith yr englyn gore i
Urdd y Syched am gadair, a'i ddarllin ar y Maen Llôg yng Nghastell Nedd.
Cofiwch chi taw nid jôc yw hyn. Mi gymra i ddyfarniad yr Archdderw ne'r biwti
Cadfan ar y gore, a dim ond i'r bardd hala mesur i drôd fwya i fi ne hen bar
o sgitsha i ofal Swyddfa'r DARIAN mi ddaw'r par sgitsha gora fu am i drad e
ariod nol bei rityrn iddo mor gynted a câ i amser idd u gneud nhw. DAFYDD Y CRYDD. |
|
|
(delwedd
6569) (07
Tachwedd 1918) |
Y Darian. 7 Tachwedd 1918.
|
|
|
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ /
i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ
Ȳ /
MACRON + ACEN
DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́
ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ
Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO
ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ
uː / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith
δ δ £ gyn aith
δ δ £ U+2020 †
«
»
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ
with acute accentː ʌ́
Shwa ag acen ddyrchafedig
/ Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN / THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1918_3785k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022. 07-10-2019, 02-08-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source:
---------------------------------------
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats (Y Wenhwyseg / el dialecte gwentià / Gwentian)