|
|
(delwedd 6567a) (11
Medi 1919)
|
Y
Darian.
11 Medi 1919
Siop Dafydd y Crydd.
Mr. Gol. – Fe ddath Wil Smith y Sais sy'n dod i'r siop yma'n ol o Gorwen.
'Dyw Wil ddim wedi arfadd a bod yn llawer o Eisteddfodwr. Rasus ceffyla a
bocso a gamblo a gweyd celwydd mewn ffordd barchus a thwyllo a lladrata'n
gyfreithlon yn ol y gyfreth mae e'i hunan wedi neud yw petha mawr bywyd Sais,
a gneud y Brenin Mawr yn was bach iddo i gadw'i frenhinoedd pun a fyddan
nhw'n werth 'u cadw ne beido. Os bydda i'n cwrdd a Sais a fyddo'n ddyn gyd a
bod yn Sais, rw i'n tynnu'n het iddo'n barchus, oblecid, ys gwetws y Tramp,
mae e wedi gneud gorchest. Ma hi'n fwy anodd i Sais fod yn ddyn nag yw hi i
neb arall. Mae e wedi whara'i gardia mor dda nes mae e wedi mynd yn ben y byd
a wedi canu cymint o'r emyn hynny:
I am monarch of all I survey,
My right there is none to dispute
From the centre all round to the sea
I am lord of the fowl and the brute."
Mae'r Sais wedi canu hwn mor amal nes mae e wedi mynd idd i waed e, a dall e
ddim edrych arno'i hunan fel rhyw ddyn arall. Mae'n haws i Sais fod yn bopeth
nag yn ddyn, a druan o hono, 'dos gyd ag e mo'r help. Ond os ceiff Sais ras a
synnwyr mi all ddod yn ddyn da iawn. Un felny yw Wil Smith. Mi ddechreuws
ddod i'r siop yma pan odd e'n grwt, a ma gobeth o Sais os ceir hyd iddo'n
grwt, a mi welodd ar unwaith, os odd e i fwynhau breintiau Siop Crydd y bydde
raid iddo fe ddysgu iaith y Siop, a mi dysgodd hi, a mi welodd bod yr hen
Gymro'n ddyn ac yn ddyn go dda, a taw nid yr un petha odd yn denu bryd y
Cymro ag odd yn cael sylw'r Sais. Mi ddath Wil yn y man i gydnabod nad y Sais
odd y dyn gore i lywodraethu ar genhedloedd erill, yn enwedig pan ma'r
cenhedloedd erill yn well nag e'i hunan fel ma hi'n digwydd bod gan amlaf.
Mae e nawr wedi dod i'r casgliad na ddyle dim un genedl lywodraethu ar genedl
arall o gwbl.
|
|
|
(delwedd 6567b) (11
Medi 1919)
|
Ond fel y gwedas i fe ath Wil Smith i Eisteddfod Corwen, ac os odd e'n ac os
odd e'n Gymro go dda'n mynd yno, rodd e'n dod yn ol yn barod i wadu na fu a erioed
yn Sals. Rodd e wedi teimlo yno bod y rhyfel rhwng Cymru a Lloegr, Cymro a
Sais, Celt a Thiwton yn mynd ymlaen o hyd a bod arfau miniocach na'r cledd yn
y frwydyr hon, a mae yntau'n barod i sefyll gyd a'r Cymro a'r Celt yn erbyn
yr holl fyd. Mi fydd y Cymry'n annheilwng o honyn u hunen, medda Wil Smith,
os cymra nhw'u gochfygu yn awr. Mi ddyle pob Cymro, medda fe, siarad Cymraeg
ymhob man, a'i siarad hi'n uchel ac yn hyglyw, nid felsa arno fe ofan i neb
glywed i lais e, ac heblaw hyn mi ddylse a mi alle neud i bob Sais yng
Nghymru ddysgu Cymraeg hefyd. Odd llawer o betha wedi tynnu sylw Wil yn y
Steddfod, ond alla i ddim son am u banner nhw'r tro hyn. Un o'r petha hyn odd
Iolo Morgannwg. "Iolyn Morgannwg" own i'n arfadd a meddwl odd i enw
iawn e. ond ma Wil wedi'n rhybuddio i taw Iolo yw e i fod o hyn mâs. Fel hyn,
medda Wil, y canws Gwili yn yr Orsadd a'r dagra yn i lygad e felsa fe'n nesu
at Orsedd arall a Dyfed yn sefyll o'i flaen e ar y Maen Llog, ag yn nodo ei
ben felsa fe'n gweyd “hm" neu "Amen":
Rhysedd.
"Os ca Iolo loes calon — a'r hen Buw
I Ei droi'n bel yr awron,
Gwelaf y dydd sydd i son
Am Rysedd y Morusion."
Mesur petar lein arall a gawd gan Will ar y Maen Llog odd hwn os yw Wil yn i
gofio fe'n iawn:
"Mae'r awen glos yma'n y glaw
I dy odl sy'n ddihidlaw,
A gwirion cynnig araith
I oer lu ar ddaear laith."
Mae gan Wil feddwl mawr o Wili am i fod e wedi gneud petar lein mwn cyn
lleied o amser, mae e'n siwr o hyn am na wydde Gwili y byse hi'n bwrw glaw
cyn iddo fe godi, a dodd e ddim wedi dihuno'n iawn nes iddo glywed y Corn
Gwlad. Rw i bron meddwl, er hynny, taw nid rhagorieth yr Eisteddfod a wnaeth
Wil Smith yn Gymro mor selog yng Nghorwen, ond clywed rhyw ferch fach berta
welodd e ariod yn canu alawon Cymaeg mwn capel yno. Rw i bron a chredu tyse
honno'n digwydd bod yn Scotch mai Scotchman fyse Wil yn dod adre.
DAFYDD Y CRYDD.
|
|
|
(delwedd 5649) (2
Hydref 1919)
|
Y
Darian. 2 Hydref 1919.
Siop Dafydd y Crydd.
Mishtir Golycydd,-
Pan alws y Tramp yn y Siop pwy ddydd, 'rodd yn ddicon hawdd i ddyn tywyll weld
i fod a'n jelos am y mod i wedi cal y J.P., ag ynta wedi ffeili. Ond nid arno
i 'rodd y bai, ag i gatw petha'n reit, fe rois yr het odd gen i'n spar yn
bresant iddo. Fe all ddishgwl par o scitsha yto pan ddaw'r lletar dicyn yn
chepach. Rwy'n cretu taw Jones y ffeirad fu'n gweitho drosto i. Ma fe'n gwpod
y ffordd i dynu'r weiars yn well na phyrgethwr Wesla. Fe dala'r ffordd i'r
Tramp gwmpo o rwth ras a dod i'r Eclws. Dyw hi ddim gwath ar ol i
Disestablisho. Fe glwas yr Hesbog yn gwed y dydd o'r blan fod yr annwl
gariatus frodyr wedi wado'r Sentars i hewl. Gwetwch wrth y printar am ofalu
peido camsynid yr hewl am air gwath. Ma'r Eclws ar gefan'i cheffyl er gweitha
picnics Llandrindod. Yn ol ym meddwl i, ma nhw wedi scothi lot o glwdda am yr
hen Fam, a dyma hi wedi cwni, a'r wialen fetw yn 'i llaw, ag yn 'u whipo nhw
reit ond lefft. Ma'r bachan gollws 'i set yn Llanelli Shir Gar yn treio
taro'r bai ar Lloyd George, ag yn gwed'i fod a wedi gwerthu'r Sentars am
fasned o gawl, fel y ffwlcyn y clwas i Jones y ffeirad yn son am dano.
Nonsens i gyd. Ma'r Eclws wedi gneud mwy na neb i gatw caritor y wlad, ag
oniba'r ffeiraton, fe fysa'n rhaid i ni fyw ar bop a lemwned fel ma Merica'n
mynd i threio hi. Ma peth felny'n ddicon am fywyd gwlad.
Holo, Morgan, ti sy 'ma? Dera miwn. Ma'n dda gen i dy weld ti. Beth sy'n bod?
Rwyt ti'n dishgwl yn llwyd ag yn dena. Ond fuot ti ariod yn dew mwy na rhw
deilwr arall. Bachan, fe alla dyn feddwl nag wyt ti ddim yn cal dicon o fwyd.
Fe fyswn i wedi hannar starfo mhunan oniba mod i wedi cwni mochyn. Tepyg taw
owns o 'fenyn wyt ti’n gal fel pawb erill. Rhaid i ti gal pishyn o'r mochyn
'ma i fynd sha thre, onte ti fyddi mor fain a dy nodwydd cyn bo hir.
"Wel, Dafydd, fe weta chi beth sydd wedi hapno. Rwy wedi bod yn boddro
mhen gyta barddoniath y boys newydd 'ma, ag wedi ecorddi nhipyn menydd nes yw
a wedi mynd yn gaws. Welas i ddim shwd Gilboa ariod. Rwy wedi pyrnu pob
dic-shon-harry allwn i ffeindo, ag rwy bron mynd yn fancrapt. Son am Euclid!
"Not in it," ys gwetws Wil Smith. Rwy wedi bod trw Euclid, a thros
Bont y Mwlsyn heb ddolur pen. Ond oddar pan w i wedi dechra ar y farddoniath
newydd, rwy'n syffro orwth y tictalarw^, ag ma'r doctor yn gwed taw rhyw
short o maliria yw a wrth drafod esgyrn a gladdwyd yn amsar y diluw, a dos dim
posib gwed pun ai esgyrn dynon, ne gwn a chathod i nhw. Ma gen i ddeuddag
dic-shon-harry ar y ford, a chlywson nhw ariod son am lawar o'r geiria a
ffeindir gen y crotsach hyn. Chi wyddoch, Dafydd, mod i'n weddol cw^l, ag nag
w i ddim wedi arfadd iaith haliars at 'u ceffyla, ond rhaid i fi lwo mod i
wedi rhegi llawar yn Gymrag a Sysnag wrth whilo miwn i hen betha newydd yr
wsnotha diwedda hyn. 'Dy nhw ddim yn gwpod hynny yn Tabor, onte fe fyswn ar y
carpet yn lled depyg. Mor bell ag w i'n dyall, y cwbwl sy'n newydd gen y boys
hyn, yw'r hyn sy'n hen. Ond 'dyw dod a hen datws i'r farchnad ddim yn 'u
gneud nhw'n datws newydd."
"Rwy'n dy ddyall di nawr, Morgan, wedi dod lawr i fyd y tatws. Wn i yn y
byd beth oet ti'n feddwl wrth Bont y Mwlsyn. Fe glwas am Bont y Gwr Drwg,
Pontyberem, a Phontsticyll, ond wn i ddim am Bont y Mwlsod. Fe leicwn gal
spesimen o'r bardd hen sy'n galw'i hunan yn newydd."
|
|
|
(delwedd 5650) (2
Hydref 1919)
|
"Fe
fydda'n ddanjerus gneyd hynny, Dafydd, os nag y'ch chi wedi inshiwro'ch
menydd. Rhowch yr esgid 'na lawr, a gryndwch dyma'r style:
"Miragl" ar gorn maharen, - a "phali"
Ar ei ffolog dalcen;
'Eddi' 'ffaeth' yn 'llawdd' i'w phen,
A'i gwegil yn goeg, 'hagen.'
"Owmal" sy'n od o gymen, - oer a chlwc
Yw'r "achlân" di awen;
Mawr yn wir am "riain" wen
Yw gwanc hogiau "wnc" "hagen."
Gwely "miwail" ga'm hawen,- yn yr "oed,"
Dyna "rhwyl" Ceridwen;
Glafr a ladd ''seriglfriw" len, -
Llifogydd hyllaf, "hagen."
"Telediw," tail hwyaden, - ar lwybrau
"Labrinth" ar y domen;
"Germain" hir, a "gwrm" y nen,
A giwgaw yn "llaig," "hagen."
"Gwen, rhed ar unwaith i moyn plisman, ma'r dyn 'ma wedi colli 'i
sensis. Dyndishefo ni! Glywsoch chi shwd beth ariod! Rhaid fod menydd y pwr
dab wedi cal'i gorddi'n gaws. Pwy sy'n responsibl am beth shwd hyn? Fe ddylan
gal'u cosbi bob jac. Ma nhw'n cosbi dynon am werthu bwyd sy ddim yn ffit, ag
fe ddyla rhain gal jail ne seilam. Ma'n ddicon plain fod pen y dyn wedi
hollti, ne fysa fa byth yn son am "hagen" yn niwadd pob pennill.
Dos gen i ddim ges beth yw'r testun, heb son am ddim arall."
"Y testun," Dafydd, yw "Tywyllwch yr Aifft," a felna'n
gwmws ma'r Bardd Newydd yn canu."
"Diawst, Morgan, rwyt ti ar dy destun ta beth yn reit dy wala. Ta ti
wedi bod yn yr Aifft, a chorco potelad o'r twllwch hynny, fysa ti ddim yn fwy
ar y pwnc. Cymar gyngor gen i, Morgan, paid a boddro dy ben i whilo am ideas
mwn twllwch. Rhwpath i Pharo odd y twllwch, a chofia'n bod ni'n byw betar mil
o flynyddodd ymhellach ymlan na hwnnw. Ma'r rhai sy wedi dysgu'r boys o whith
yn gweld 'u camsynad erbyn hyn, ag yn'u leddro nhw nol i ola dydd. Pob lwc
iddyn nhw weta i."
DAFYDD Y CRYDD.
|
|
|
(delwedd B2162a) (6
Tachwedd 1919)
|
Y
Darian. 6 Tachwedd 1919. Shop Dafydd y Crydd.
Mishtir Golycydd, Pan ddath Morgan y teilwr yma nos Iou, fe wetas wrtho'n
lled handy, fod gen i asgwrn i bilo ag e. "Beth sy'n bod?" mynta
Morgan. "Wel," myntwn "wyt ti ddim wedi gneud englyn petar
lein i lun y Tramp yn y DARIAN, ac ma pawb trill wedi gneud, yn ddynon a
theilwried. Rown i wedi meddwl fod y Tramp a titha'n dicyn o chums, ag mai ti
fysa'r cynta i gamol y pictwr. Fe ddylat neud, i fod ‘yp tw dêt.'"
"Becan pardwn,” mynta Morgan, "rwy'n cwmpo dan 'y mai. 'Rw i wedi
bod yn lled absent meinded yn ddiweddar, ag fel cath yn whatsho sprydion yn y
twllwch. Dewch a phisyn o bapur i fi, Dafydd." Wedi cal hwnnw, fe
fficsws i lycid ar y seilin, fel dyn mwwn trans, a wedi lot o ryw gapers, na
wyddswn i yn y byd beth o nhw da, fe nath englyn petar lein dder and dden, a
dyma fe: —
Dyn gwywedig dan goeden, —gwr moesgar
Am whisci a thablen;
Un yw a'i bib yn ei ben,
Rôg segur yn rags, hagen.
Fe bostas yr englyn i'r Tramp right off, a bora dydd Sul, pan own i ar starto
i'r Eclws, dyma lythyr o rwth y Tramp a stamp cinog arno, ac mynta'r postman,
"Thri hepans tw pay.” “O ble mae a’n dod?," myntwn i. "O
Cwmrhydycwrw,” mynta’r post-man. Pam na fysa'r clymhercyn cythrwm yn rhoi
dicon a stamps ar lythyr? Fe’m halws i i lot o drafferth, oblecid allsa'r
postman ddim newid papur punt, a dodd gen inna ddim arall i gal ond pishyn
tair, ag rown i wedi catw hwnnw i roi yn y clasgad. Rodd Jones y ffeirad wedi
gwed taw silfar colecshon sydd i fod yn yr eclws o hyn i mas. Ta beth am
hynny, dyma'r pishyn odd yn y llythyr:
Hen deiliwr yn llawn dwli, - ar y ford,
Ac mor fain a milgi;
Un effro'i ddawn, ffwrdd a hi,
A'i ddannedd yn barddoni.
Tramp, O.B.E.
|
|
|
(delwedd B2162b) (6 Tachwedd
1919)
|
Pwy ddath miwn ar y pryd, and Eryr Pen Pych, newydd ddod nol o Rwsha lle ma'r
Bolshafins yn catw cymint o row. Ma'r Eryr wedi cal i ddi-mob-i-leiso, ag fe
gewn lawar hanas y Bolsafins ganto bob yn dicyn. "Rw i'n mynd i'r
eclws," myntwn i, "galw yma yn y prynhawn, i gal seiat fach yn lle
mynd i'r ysgol." Ag fe ddath, a'r teilwr gydag e. Ar ol cal y lemwned
i'r ford, fe ofynas i'r Eryr beth odd a'n feddwl am y ddou englyn. "Ma
coll 'rhy depyg' yn y ddou," mynta'r Eryr. Sposib! "Ma'r un coll ymhob
lein yn y ddou," mynta'r Eryr wetyn. "Dyna gelwdd," mynta'r
teilwr, ac os gwetyd di hynny yto, fe dy sodra di wrth y wàl yna." Gan
bwyll fechgyn, ma'r gora'n gneud llawar slip. "Fe wn fod y glec yn
lawn," mynta’r Eryr, "ond ma'r ddou yn rhy depyg i wir." A
dyna hi'n laff dros y !le, ag fe ddeallws Gwen fod bryd dod miwn a 'dose'
arall o lemwned. Allwch chi weyd wrtho i beth yw'r teitl sy ar ol enw'r
Tramp? "Dafydd bach, ma hynny mor ola a'r dydd," mynta'r Eryr.
"Order of the British Englyn." O, gwed titha hynny.
Glywsoch chi'r letest? Beth yw hynny? Ma deputashon wedi bod gyta'r Tramp yn
gofyn iddo am sefyll pol a Mond yn y lecshwn nesa. Dos neb arall medda nhw
all i fwrw a mas. O rwth Dewi Cwmbwrla dath y stori, ag ma'n depyg iddo glwad
o'r hed cwarters, mynta'r Eryr. Dyw'r Tramp ddim yn cretu miwn Colishon
Gyfarment. Gomrod o golishon sy yn y Senedd, ag ma nhw wedi dysgu pawb i fynd
i golishon a’i giddyl. Ma'r peth yn cal i gatw'n ddishtaw, nes cal ffeinal o
rwth y Tramp. "Cato
|
|
|
(delwedd B2162c) (6
Tachwedd 1919)
|
pawb,"
mynta'r teilwr. "Gwd old Tramp," myntwn inna. "Os aiff a miwn
i’r Ty, fe fydd yno gelficyn pert digynyg," ebe'r Eryr. "Ond ma nhw’n
gwed taw gomrod o Dramps sy yno'n barod." Allwn ni ddim ffwrdo colli'r
Tramp, a dicon tepyg na all ynta ddim ffwrdo bod yn M.P. Beth yw pedwar cant
a hanner yng nghenol sharpers Llyndan? Dyw pedwar cant a hanner ddim yn
ddicon i dalu am cabs a thaxis, oblecid fe fydda rhaid iddo drampo fel gwr
byneddig, ag nid fel fe'i hunan. Fe fydda'n rhaid iddo gal cigars yn lle
baco, a Blac and White yn lle pop, a'i rigo lan ffrom tip tw to, ys gwetws
Wil Smith. Naiff hi ddim o'r tro iddo fynd a het, ail law i’r Hows o Comons.
Ma'n wir y galla rhywun roi present o het silk iddo, yn fwy o sport na dim
arall. Fe glwas i Kier Hardy fynd yno a chap ar i ben, pig nol a plan, a
chlwm ar y top, ag fe halwd dicon o silk hats iddo i gatw shop. Fe ddyla
Member of Parliament o bosishon y Tramp gal dwy fil yn y man lleia, a'i
drafeling expensis, first class, a theithio third. Fe fydda rhyw sens yn
hynny. Fel ma petha'n awr, dos fawr iawn o encyrejment i ddyn tlawd gynnyg am
un post and post clwyd.
Pob llwydd i'r Tramp i gamp gwell,
A bwydydd yn ei badell.
|
|
|