kimkat0200k Llith Partnar Dai. Y Darian. Tafodiaith Morgannwg. Mishdir y "Darian.” - Wedi i Dai a fi ddod mas o room y pictiwrs fe ethon miwn i room y llyfra...

31-01-2018
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0200k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Llith Partnar Dai.
 
(Y Darian. 1916.)


 

 


(delwedd 7282)

 

6 Ebrill 1916.

13 Ebrill 1916.

18 Mai 1916.

1 Mehefin 1916.

15 Mehefin 1916.

22 Mehefin 1916.

3 Awst 1916.

21 Medi 1916.

12 Hydref 1916.

 

llythrennau cochion = testun heb ei gywiro

llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

 

 

 

None

(delwedd 2025) (6 Ebrill 1916)

Y Darian. 6 Ebrill 1916.

 

Llith Partnar Dai.

Mishdir y "Darian," — Gwelas i ddim o chi yn Gardydd. On i yn meddwl cwrdd a chi ne'r Tramp yno. On i yn ych napod chi er ys blynydda, pan o'ch chi'n gwitho ar y glo yn Blanllecha, ond chwrddas i ariod a'r Tramp, am wn i, and on i wedi darllan shwd un odd a pan cęs a i shafo gan Barbwr Ystalfera, ac on i wedi darllan fod côs fyr gydag e. On i yn notiso pob un gwrddas i a chôs fyr, ond cwrddas i a neb alswn i wed ma'r Tramp odd a.

 

Fe etho i a Dai lawr yn gynnar. Fe geson ddwy awr off gyda'r gaffar; ar y "Conn” i ni'n dou yn gwitho nawr, ac o dan y drefan newydd ma fe'ch cropan chi 'nawr o oria, ond Cymro bach net yw'r gaffar, a phan wetso ni wrtho fa yn bod ni yn mynd i gwrdda'r undeb, fe wetws wrtho ni am bido gwed yn celwdd; fod cwrdda'r undab wedi bod ar Heolfelin, 'Byrder. Wrth gwrs, Baptis' yw e, ond wedi 'ni egluro taw Undab yr Iaith oddi gyta ni, fe wetws "all right," ag yn wir chropws a ddim arno ni. Ticyn o beth yw cal gaffar Cwmrag, i chi'n gweld.

 

Yn y traen chwrddso ni a neb o'n i yn napod, hynny yw, ddim o'r Cymry enwog fysa ni yn ddishgwl; odda un ne ddou yn yr un compartment a ni fe gwelson nhw weti ni, ond yn y compartment Saeson on nhw i ni'n dou. Odd Dai a fi yn ein dillad gora — shiwt bilat odd gen i, a shiwt frethyn Ilwyd odd gen Dai, a wilia Cwmrag on i a'n gilydd, a dodd neb yn meddwl spo yn bod ni yn dou yn mynd i gwrdda'r Undab. Ond fe gyraeddson Gardydd, a do'n ni ddim yn siwr ble on i fynd. "Aros, 'nawr," menta fi wrth Dai, "i gael gweld ble i ni'n mynd. On i yn meddwl mai yn St. John Hall o'dd y cwrdd i fod." "Ne ce, ne ce,” menta Dai, "yn y Park Hall, bachan," ac on i yn roi miwn iddo, ond dyma ddyn yn dod tu ol i ni ac yn gwed taw yn yr Hen Iwnifyrsity Buildings odde. "Trowch ar y dde," menta'r gwr diarth, ac fe droison, ond welson i ddim arwdd o ddim fel ni hefyd. Odd na flag fawr mas tu faes i glwyd ac arni y gair mawr "Exhibition."

 

"Man'na ma'r cwrdda," menta Dai. "Dim fear," menta fi. "Waxwork sy miwn mynna; wi wedi gweld yr hen shew na o'r blan," a mlen etho ni nes bo ni just wrth y 'Firmary, a fe gofson fod Shoni Mocyn Rhys yno, wedi dod nol o'r ffrynt wedi glwyfo, a etho'n mlen i drio'i weld a, ond ffeilson fynd miwn, a nol a ni yto, ac yn dychra meddwl nawr fod i ar ben arno ni am fynd i'r Undab, ond wrth ddod nol fe fynnws Dai fynd miwn drwy'r glwyd lle gwelson i'r flag, a wedi mynd mhellach dicyn, fe welsom stripyn o  bapur a'r geira, "Arddangosfa'r Deffroad” wedi brinto arno. "Ini siwr a fod yn right, nawr," mynta fi. "Cymar bwyll," mynta Dai, "di nhw ddim wedi deffro i gyd ma, ta beth," ond mlen etho ni, ac odd rhywun wedi scrifennu o shalc ar y board, “Room No. 8”. "Ma nw siwr o fod yn cretu taw lodgings i ni moin," mynta Dai, ond mlen etho ni ac odd y Room yn llawn, a dyn mawr tew odd ar i drad yn siarad Cwmrag, on i a Dai yn ddiall yn net. "Dyma'r cwrdd," mynta ni wrth yn gilydd. Son am draddotiata oedd y dyn. Ddeallson weti ni ta Recorder Cardydd odd a. "O catw amsar gwyr Cardydd mae a ta," mynta fi. "Ia, ia, mynta Dai, "catw i amsar nw yn y jail." “Catw amsar pen y pwll ma'r 'Recorder’ sy gyta ni, ta beth," mynta fi. Ond o'n ni'n dou yn lico clywed y dyn yn wilia a'r dorf hefyd. Mishtri ysgolion on i'n weld fwya yn y cwrdd; ambell i un welso ni fel gwithwrs no, a rhyw ffordd doni ddim yn homely iawn yno. Wedi i'r Recorder gwpla fe sefws Justice Cwm Rhondda ar i drad, a do'n i ddim yn i glwad a. "Dera, mynta Dai, "wy wedi bod o'i flan e un waith, a fe gostws y tro ni bunt i fi." "Dera i ni gal mynd." "Na, aros, bachan," mynta fi," a chyn bo hir dyma'r ddou fachan odd yn mynd lawr yn yr un traen a ni ar i trad, ac yn trafod yr iaith. "Wel, bachan, on i yn meddwl taw Saeson oedd y rhai yna," mynta Dai. "Wel i ti'n gweld mor wresog ma nhw ar bwnc yr iaith," mynta fi. "Nonsans," mynta Dai, "nonsans i gyd. Dera, dera," a rhaid odd i fi ddilyn y martnar.

 

Ethon o mynni i room arall, lie on nw'n yn dangos pictiwra, ac yn wir odd i yn werth fynd round i'r stall pictiwrs. On i yn clwad ma Tom Mathews odd wedi trefnu y room hyn, ac on i a Dai wedi gweld i ysgrifa fe ar bictiwrs yn y "Cymru.” Ac oddi yno fe ethon i room y llyfra, ond fe gewch yr hanes ny yr wthnos nesa.

PARTNAR DAI.

 

....

 

 


None

(delwedd 5582) (13 Ebrill 1916)

Y Darian. 13 Ebrill 1916.

Llith Partnar Dai.

Mishdir y "Darian.” - Wedi i Dai a fi ddod mas o room y pictiwrs fe ethon miwn i room y llyfra, ac rodd yno rhyw hanner dwsan o stalls llyfra — llyfra Cwmrag, wrth gwrs, a llyfra Sasnag hefyd. Dwy i na Dai ddim yn siwr pwy odd yn etrych ar ol y stalls hyn. O nhw yn wilia Cwmrag a Sysnag, ac o'r ddoi yn wilia mwy o Sysnag. Dyna odd yn diflasu Dai a fi odd clywad cymant o Sasnag ynganol cymant o bethach Cwmrag. Odd no ryw bregethwr yn dishgwl ar ol stall llyfra'r Ysgol Sul ac yn lled fishi hefyd. "Ma'n od," menta Dai, "na fusa fwy o lyfra canu ma?" Meddwl am yr Ysgol Gân odd Dai; wath ma fa yn dicyn o gantwr, a wara teg i Dai odd yn gwed taw yr Ysgol Gân odd y peth mwya Cymreigaidd yn y capel ma fe yn gwrando yndo, a naturiol odd i Dai feddwl y busa na fwy o bishis canu yn y Cwmrag yn cal i dangos. "Dim ond pishis i blant sy ma," menta Dai. "O ne," menta fi, "ma ma bishis i ddynon mewn 6d hefyd." Ond on i'n gweld fod yn well i ni bido dadle'n mhellach, wath odd Dai yn dychra mynd yn grac.

 

"Pwy yw hwnco, bachan?" menta fi. "O, yr hen Father yw a," menta Dai. "Hen Father y Catholics, bachan," ac wrth stall yr Ysgol Sul y bu yr Hen Father yn prynu dwrneidi o lyfra bach Cwmrag i blant bach y Paddy's. "Dyna ti," menta Dai, "os dyw e a'i short yn dychra dysgu'r Gwmrag, ma gopath am i chatw i.

 

 

 


None

(delwedd 5583) (13 Ebrill 1916)

Wel di." A dyna lle gadewn ni yr Hen Father yn chwilio am lyfra, ac odd a yn gofyn am deni nw yn Gwmrag hed, a fel ta fa wedi cal sglyfath. "Alli di fentra," menta Dai, "fe fydd plant bach Jimmy Crowly yn siarad Cwmrag heb fod yn hir."

Cyn bo ni yn mynd mas odd Dai a fi wedi colli'n gilydd. Odd ma lunie de iawn wedi tynnu gan blant ysgol. Dyna odd wedi tynnu sylw Dai odd llun yr hen Shon y Gof, menta fe, ond nid llun Shon yw a, menta fi, ond llun y "Gof Du” (Hiraethog). Wel, mynta Dai, welas i ariod ddim yn fwy true to nature, ac yn wir wedi i ni fynd trw'r llunia gytan gilydd, oni yn cytuno fod y bachan bech wnath hwna yn glefar ta beth. Set o lunia o' nhw, yn dangos y gof yn wthu'r ten, yn wara gyta'r cledd, ac yn y ffusto nes i fod a'n swch. Odd hwn yn werth iddi weld, a wedi i dynnu, menta nhw, o inc a phen. Llun bach pert arall welso ni odd llun o waith rhyw grotyn drwg, alswn i feddwl. Odd y mishdir wedi gwed wrtho fa am dynu llun ceninen yn i gap, a beth nath y boy bech ond tynnu llun het fawr, dal, ffashwn slawar dydd, a honno yn ddu reit, a fe dynnws llun rupan coch rownd iddi, a fe scwtws geninan wyrdd o dan y ripan coch mor real ag a gwelsoch ddim ariod. On i a Dai yn cytuno mai genius odd hwnnw hefyd, a fel na fe basws yr amsar yn nęt.

Fe brynws Dai a fi amryw lyfra Cwmrag; fe brynson hed bob o Gofiant i'n Hen Bartnar Watcyn Wyn. Dyna hen fachan annwl gyta ni odd hwnnw. Pan odd a yn dod lan i'r hen Gymrodorion ma, dyna falch on i iddi weld a, a'i glywad a. Dodd dim gwaniath beth odd hwnnw yn neyd, yr un odd a o hyd. Fe fu Dai a fi yn i ddilyn e a Eos Dar yn y darlithia 'ny ar "gan a thelyn," a ma Dan a'r hen Wat annwl wedi mynd erbyn hyn. A dyna le gwag sy ar i gol nhw, a be sy'n torri'n calonna ni yw nag os neb yn cwni yn i lle nhw. Fe ges Dai a finna bwl o hirath pan gwelson i i lun a yn y cofiant.

Weti i ni ddod mes o room y llyfra, fe ethon i gal te, ac fe geson de net am ryw wech chinog yr un, ond odd rhaid i ni nawr feddwl am fynd i'r cwrdd llawen am saith, a miwn a ni. Odd Dai yn meddwl taw yn y Cory Hall y bysa'r cwrdd hyn, ond yn wir i room fel long room tafarn. Yn y lle

 

 

 


None

(delwedd 5584) (13 Ebrill 1916)

o'n nhw'n galw Y.M.C.A. arno yr odd y cwrdd yn cel i gynnal, ag odd i yn llawn pan detho ni yno. Ddim hanner dicon o le, menta Dai; fe ddylsan fod yn y Parc Hall heno, ac yn wir odd Dai yn reit. Odd a yn gwrdd de ofnatw. Merched bach o Gymar, Clyncorrwg, yn canu penillion gyda'r peth ffeina glywson i ariod — canu i chwi gweld, nid bloeddio a sgrechan, ond canu mor naturiol a'r atarn. Ta pwy sy'n dysgu rhain, mynta Dai, ma fe yn diall i grefft yn biwr. Dodd dim diwadd ar glapo dilo wedi iddi nhw gwpla. Weti ni fe ddeth na set o ferched bach o Gardydd i ddawnsio, ac o nhw hefyd yn bert iawn. Odd Dai yn gwed y dylsan nhw ddawnsio i fiwsig mwy bywiog. Wrth gwrs, steppwr bach pert odd brawd Dai, sef Shoni Enoc bach, ac odd Dai yn cofio am hynny. Pwy alawon, mynta fi, i ti'n gwed y dylsa nhw gal. O, mynta Dai, "Y Tri Thrawiad," "Hela'r Scyfarnog," a "Serch Hudol," dyna'r rhai odd Shoni 'mrawd yn dawnsio iddi nhw gyda Tomos Lewis, Telynwr, yn y Welsh Harp, slawar dydd.

Peth arall odd yn mynd yn iawn yn y cwrdd hyn odd pishin mes o ddrama, "Enoc Huws," sef math o ddadl rhwng Tomos Bartlay y Crydd a hen goliar o'r enw "Sem Llwyd," a

 

 

 


None

(delwedd 5585) (13 Ebrill 1916)

dyna ddoi dderin odd y rhain. Odd pawb yn wyrthin nes bo'n nhw'n yfflon. Odd Lord Pontypridd yn y gatar, a gwelas i ddim Lord yn cal i gyffro yn fwy ariod. Fe geson arath net gyta fe hefyd ar y'n dyledswdd i gatw parch i draddodi'ata gora'n cenedl ni. Ma'n od fod y Lord a Recorder Cardydd yn wilia ar yr un pwnc, ond gallswn i feddwl fod y ddou wedi cal ffits twym o barch at betha gora'r hen wlad ac yn galw reiny yn draddodiata. Fe ganwyd hefyd benillion Cwmrag gan ferch y diweddar Eilir. Canwyd hefyd "Nant y Mynydd" gan Miss Francis. Odd y program yn un de dros ben, ond y lle mor fech, a dodd dim telyn yno. Dyna beth od, mynta Dai, fu ddim telynor de yn Gardydd ar ol yr hen Dr. Frost, a dos na ddim un i gal ma'n depig heddi, ond ma telynwrs da i gal tu fas i Gardydd; dim ond wilo am denyn nw.

Fe ddath bachan bach o wlad y wynwns i'r steg, a fe rows gwpwl o eiria i ni mewn Cwmrag de di-gynnyg. Gwed odd a fod yna linall gryf o gydymdeimlad rynto ni a nw fel Celtiaid, a moin i ni rwbo fwy ar y line hynny odd e. Odd e yn gwed fod y rhyfel hyn mewn gwirionedd wedi'n dwyn ni yn agosach at yn gilydd nag ariod. Diawch ariod, odd Dai a fi yn lico'i glwad a yn wilia Cwmrag, ac yn meddwl am lawar o "snobs" yn gwlad ni odd yn ry fawr i neud yr un peth ag e. A fel na, syr, yr alson ni y dydd Satwrn 'ny. Fe ethon sha thre yn dou yn itha sobr, ac yn cal bles ar ddarllan y llyfra on i wedi btynu. Fe brynson bob o gopi o lyfr bachan bach o Ysgol y Porth. Llyfr bach net yw hwnnw hefyd. Prynu hwnnw on i yn bresant bach i blant y fenyw lle i ni'n lodgo, achos fod y train yn hwyr y noswith 'ny, a minnau yn arfedd bod miwn yn gynnar.

Y PARTNAR DAI.

...

None

(delwedd 2243) (18 Mai 1916)

Llith Partnar Dai. I Mishdir y DtCrian,— Ma lie ofnatw wedi bod yn y'n ty ni yr wthnos hyn: Dadla mawr bob dydd ar gwestiwn acor yr halls ar ddydd Sul. Ma Dai a fi yn cytuno yn net, ond yr wthnos hyn i ni jest a chwmpo mas ar y cwestiwn hyn. Wrth gwrs, fel i chi'n gwpod: Bachan bidir yw Dai, taw ni byth o'r fan, Ma fa'n scolar lied dda, ac yn darllan shew; Un dwrnod ddeth na lyfr Sysnag i'w ran, Ac fe'i oerws a gyd ishta pishyn o rew." A ma dylanwad ar hen lyfr Sysnag ar Dai o hyd. Y mae a yn dicyn o Soshal- ist, a chi'n gwpod beth yw 'ny ond i chi. Wel, ma'r Soshals am acor yr halls, menta nw, er mwyn pregethu i daliata, ond ma gwyr y capeli am i catw nw ynge wrth gwrs oblecid y parch sy gyta nhw i ddydd Sul. Wara teg iddi nw, menta fi, ta beth. Ond din nw ddim yn neud yr iws ddyla nw o'r dwrnod," menta Dai. Dyna bora heddy, sef bora dy Sul diwetha yn y'n capel ni, i ti'n gwpod faint o ni na," mynta Dai. Wel, don ni fawr dros gant a hannar yn blant a chwbl, a ni yn eclws o bum cant." 0, odd no growd lied dda," mynta fi. xt Pwy growd da odd na," mynta Dai, pan wyn siwr ykgalsa fod na man Ilia gant a hannar arall." Ond be sy gyta 'ny neud ag acor yr halls f mynta fi. 0 hyn," mynta Dai, Yr hen Jones Shop Fawr sy'n clepran fwya am gadw'r halls yngau, ac o'i ran e fe alsan gaued y capel yn y bora hefyd, wath dyw e na'i wraig nemor byth yna." Y peth sy yn y ngwpla i," menta Dai, "yw yr angysondeb na o rwystro pop peth o ryw safle o hyd. Cadwrath y Saboth yw y cri gyta llawer pan di nw ddim yn catw'r Saboth fel dyla nhw hunen." "Ond, cofia di, Dai," mynta fi, os agorir yr hall fe fydd y shews a chwbl yn cal i dangos, wath ma pwyllgora hall y gwaith ma yn ddicon diegwyddor lawer o nhw, a hwnnw yw'r dangar mawr. Ma'r cinemas ma yn ddicon o bla, dos dim shwd beth a chal y bech- gyn na'r merched i feddwl dim byd. Gweld, gweld yw hi o hyd, ac ma'r pictwrs ma yn i spwylo nhw i feddwl. Mae llawar yn y lie hyn o'n cymdocon ni yn ala petar noswath o bob wech yn y cinema, ac wy'n siwr pe bysa'r hails ar acor y bysa nw yno nos Sul hefydl O, na, wy'n lico dy Sul fel dy Sul, a nid fel nos Satwrn." Cofia di nawr," menta Dai, dyw yr heolydd ar nos Sul wrth bo ni yn dod mas o'r cwrdda ddim yn llawer o gredit i wareiddiad Cymru. Dyna nos Sul diwetha o ni yn dod a hen wraig y mam sha thre o'r cwrdd, a dyma rhyw hurtyn o grotyn yn bwrw ar y nraws i a jest a bwrw'r hen fenyw lawr yn y man 'ny." Wy i yn lwo nad yw petha ddim fel dyla nw fod," mynta fi, ond wy ddim yn gallu cretu fod acor-yr hall yn mynd i wella pethach. Wy I yn cretu 'nawr taw dylanwad y cinemas sy'n gyfrifol am lawar o'r 'roughs' sy ar hyd yr hewl- ydd bob nos o ran 'ny." Wy i wedi gwed ys lawar dydd y dyla ni neud fwy o use o'r capeli at ganu nos Sul ar ol y brecath," mynta Dai, ne fe ddylau bido dychra'r gwas- anath nos Sul spoi yn saith o'r gloch; a fel 'ny bysa ni ddim mas spoi yn han- nar awr wedi wyth ta beth. Wy i yn meddwl y dylsa'r Band of Hope gwrdd am bump yn y festri, a'r Cor yn y Capel, a'r hen frotyr mewn dosparth Beibl- aidd, etc., etc., ac am saith o'r gloch y bysa ni i gyd yn cwrdd yn y capeli i gal y fendith ar y cwbl trw'r brecath a'r gwasanath nos Sul. Dyna marn i, mynta Dai. Wyt ti yn dicyn o brogessive o hyd, Dai," mynta fi, "a wy'n meddwl fod rwpath yn dy awgrym di hefyd. Ma hwn yn gwestiwn mawr, wel di, a sposo na setlwn i'n dou ddim o ge heno. Wy yn folon cydnapod nag yw pob path sy'n y capeln ddim a'r genuine stamp arno, ond wy'n cretu, Dai, fod safle y capeli ar y cwestiwn hyn yn safe iawn." Ma deputation mawr i fynd o flan y Cownsil ni yma ar y cwestntn yr wth- nos nesa, a ma Dai a fi yn meddwl mynd i glwad y ddadl ta beth, a fe rown wpod i chi fel Mishdir y Darian, shwd pasws petha. I ni'n dishgwl y bydd 1 yn dwym iawn na. Ma'r Soshals ar i gora, a rai tighti nw hefyd, a ma hen ym- laddwrs y capeli ma fel ta nw wedi duno, a fe fydd na fatl dda iawn, i ni'n ,doiz cretu ta beth. PARTNER DAI.

 

 

...

 

None

(delwedd 5563) (1 Mehefin 1916)

Y Darian. 1 Mehefin 1916.

Llith Partnar Dai.

Mishdir y Darian, — Fel gwetas fe eth Dai a fi i'r Cownsil i glywed y ddadl ar acor yr Halls ar y Sul. Fe ethon mes o'r gwaith yn gynar, a lan yn y "bond” cynta, a wedi mwstro i ymolch dicyn, a etrych yn weddol o deidi fe geson yn hunen wrth ddrws Hall y Cownsil, ond fe gollas i Dai. Cwrdd netho i a chwpwl o ddynon parchus o'r capeli; on i yn meddwl mynd miwn yn i cysgod, nhw, ac ar ol wilia yn hamddenol fe symutson ym mlen er mwyn mynd miwn, ond fe eth yn floc ar unwaith; odd y lle menta nhw yn rhy llawn, ond pwsho mlen netho ni nes bod y lle yn rhy dyn i symud, ac erbyn i ni gel golwg ar room fawr y Cownsil dyna le odd Dai gyda'i hen bartnars o flan gaffar y cwrdd, ac yn barod iddi spowtan i, a phan gwelws gwyr y capeli y boys hyn fe ethon yn grac-gwyllt, a dyna lle rodd tuchan a chlepar, nes y deth gaffar y Cownsil mas a throi pawb yn un dorf tu fes i ddrws y room fawr, a thrio trefnu pethach. Fe enwyd rai o bob ochr i wed ticyn, a fe ges reiny fynd miwn gynta, a chan y mod i yn napod cwpwl o ddynon respectabl o'n capal ni, fe geso fynd miwn, ond jawch ariod pan on i'n etrych round odd Dai yn ishta wrth ochr un o'r Labor members. Wedi galw petha i drefan fe agorodd y cadeirydd y cwrdd yn ddecha iawn - tipyn yn dawel odd a. Ma'n depig ma blaenor Methodis yw a, a rhai pwyllog y'n nw. Ar ol hyn fe ddechriws y fatl. Hen weinitog gyta'r Baptis agorodd y ball. Hen ganon odd wedi wmladd llawar batl o'r blan, ac yn wir fe ges wrandawiad parchus. Odd a yn twymo ac yn mynd i hwyl witha, a gallach feddwl ma mewn cwrdda mawr o chi. Yr odd iaith yr hen ganon yn iaith Gwmrag dde, er mai yn Sysnag odd a yn llefaru. A rodd yr yspryd Cwmrag yno drwy'r arath i gyd. Fe gollwyd lawer o ddagra wrth i glywad a yn dadla mor selog dros gadwrath y Saboth, a braidd nad o'ch chi yn clwad amball i Amen yn dod witha. Fe adews apel yr hen bregethwr parchus ddylanwad da ar y Cownsil. Odd a yn dret gweld Dai a'r Labor Boys yn gwrando. Odd y dwr yn rhytag lawr dros i gruddia nw, ac odd cwilydd arni nhw iwso'i nisheti i sychu i gwyneb. Odd na dafarnwr ne ddoi, a gaffars gwaith glo, odd ddim wedi clwad pregethwr slawar dydd fel ta nw wedi cal sglyfath; odd a yn dret etrych ar i gwynepa nw. Fe wetwyd wrtho i fod yna agnostics, a dychra infidels yn etrych yn swil gwala, on i yn teimlo fod yr hen weinitog wedi ennill y round gynta yn chep ta beth.

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5564) (1 Mehefin 1916)

Weti ny fe ddeth na ddou goliar i'r ring. Odd y rhain hefyd yn gwed yn dda, yn gwed o'r galon, ac yn towlu llawer ar i dilo a'u bricha ond odd yr hen foi wedi gneud shwd stroc fel nag odd dim maeddu arno fa; odd yn amlwg fod y ddou hyn a'u calonna'n reit ond i penna'n gam - on nw ddim yn gallu i gwed i cystal a'r pregethwr. Nawr fe ges y ddou Soshal i shawns, a roen nw yn ymladd yn dde. Gwed on nw am gulni rhyw rai ac ar ryddid llafar — brawddega Sysnag ddicon cyfarwdd am y "reit of free speech," "the demands of the democracy, "the growing tendency of the age," and the "proper development of the human nature." Dyna'r diarhebion oedd y boys hyn yn i gwed, ond o nw ddim yn bachu n y crowd, on ni yn teimlo fod y boys ar i gora yn trio ennill ffafwr y Cownsil, neu i ennill safle dde iddi nhw i hunen, ac odd ’ma blatform net i showo. Meddyliwch chi nawr am y Cownsil a'r Cownsillars — dynon dewisedig bob un, a golwg fawr urddasol arni nw hed - tri ne bedwar o nw yn berchnogion gweithfeydd, dou neu dri manager, J.P's, a rif lled dde o Labor members. Yr odd ma le net, fel y gwetas i, i neud show, ac wy'n siwr fod y boys hyn fel y gwetws Iesu Grist am y Pharisead 'ny "yn derbyn i gwobr," ac wrth gwrs o 'nw ar y ffordd i ennill racor dw i ddim yn synnu fod y boys hyn yn gneud y gora o'i shawns. Wedi i'r batl fel hyn i bara am awr ne racor, fe gymerodd y Cownsil at y matar, ag odd raid i chi deimlo ar unwaith fod gwell wilia wedi bod ar y pwnc nag odd nawr gyda'r Cownsil. Fe gynygiwyd math o gompromeis yno fod yr halls yn cal i acor at achosion o wir angen ynglyn a phyncia llafur. Un o'r Labor men mwya parchus ag yn J. P. gynyciodd, ond ches a ddim eiliad; fe geson rai mynyta lled dwym. Ma yma Ddoctor coch ar y Cownsil, a ma pen hwnnw i'r Soshals fel flag goch i darw, on nw ar i draws a yn y fynad, ond ma fe wrth i ddileit iddi cel nw, ac oddi yn dwym iawn rynti na witha. Fe wiliodd un pregethwr hefyd fel aelod o'r Cownsil yn barchus iawn ag yn bwyllog. Odd a yn ofalus iawn beth odd a yn i wed, ond o chi yn teimlo fod grym yn ieiria fa. Ma'r pregethwrs ma y ran fwya o nhw yn

 

None

(delwedd 5565) (1 Mehefin 1916)

gwpod y ffordd i wilia, ac odd a yn amlwg fod hwn hefyd yn cal ddylanwad.

Odd yr amsar wedi mynd ag o nw yn dychra gwaeddi "foto," "foto." Wrth gwrs odd dim fot gen i na Dai, ond o ni yn gwaeddi "foto" nawr hed. Odd na bump ne wech o'r Counsillors yn mo'yn wilia, rhai yn awyddus am neud show, ond odd i "too late," ac fe awd ati i gownto'r fots — "for and against.” Medder mishdir ’roedd mwy "against” acor yr halls. Weti ny fe ath pawb sha thre. Odd Dai dicyn down in the mouth, er nag yw a ddim yn mo'yn acor yr halls "er mwyn y boys bach i fam," ys dywedodd a, eto i gyd ma fa'n lico gweld y Soshals yn scoro. Ond scorso nw ddim y tro hyn ta beth.

--

SYMUD Y CLOC YM MLEN.

Syr, — Dyna le fu yn ty Dai bora heddi. Odd yr hen fenyw wedi gwed wrth Dai — "Gofala Dafydd droir cloc yna mlan heno" "All right, mam," mynta Dai, ond am ddeg o'r gloch pan odd yr hen fenyw yn mynd i'r gwely fe anghofiws i bod i wedi gwed wrth Dai, a fe drows y cloc mlen i hunan. Bythti awr wedi 'ny ma Dai yn dod miwn, ac yn ol orders i fam yn troir cloc ymlan. Fe fytws dicyn o swpar, ac fe eth i'r gwely. "Galwch fi bythdi saith bora fory, mam,” mynta Dai. "All reit," medde'r hen wraig, a felni bu. Dai odd y cynta lawr yn yr estar ni, ac yn mynd o ddrws i ddrws i alw ar bawb, hyd yn nod y gweinitog sydd yn byw ar ben ucha'r hewl. On nw i gyd wedi troi cloca mlen ond fe fynnws Dai i duno nw awr yn gynt na ddylsa fa, ac odd capel Dai yn arfadd acor am ddeg, ond fe fynnws Dai fynd i'r capal am wyth y bora — fe a'r boys bech. Mae a yn tyngu heno nad os neb yn yr hewl hyn wedi symud i cloca mlan ond efe.

PARTNAR DAI.

.....

 

 

None

(delwedd B2226) (15 Mehefin 1916)

Y Darian. 15 Mehefin 1916.

Llith Partnar Dai.

Mishdir y Darian, - Ddethoch chi na'r Tramp ddim draw i Gymanfa'r Iaith i Ferthyr dydd Satwrn diwetha, ac on i a Dai ar y look out am danoch chi'ch dou. Fe gesoch gollad ta beth. Odd Dai a fi oddi ar pan fuo'n ni yn Gardydd yn tyngu y bysa'n ni yn mynd i Ferthyr. Ag odd dim an stopa ni, fe withus y noswath cyn 'ny, a fe geso i fynd off yn gynnar er mwyn dala'r train un. Odd gaffars y Gymanfa wedi trefnu dechra am un, a dyw 'ny ddim yn deg. Wrth gwrs fe all gwyr a gwracedd yr ysgolion ma fynd yn net, ond rhaid i rhai fel Dai a fi golli turn ne witho mlen. Odd Dai ddim yn folon hed, ac yn tyngu mai acha turn stop y dela'r Gymanfa fod, fel bo'r colliars a'r haliars ma yn gallu dod i'r cwrdda; wath ma rhain i gyd yn lico'r hen iaith ac yn barod i ymladd drosti, a mae yn druenu mawr na chela'n nw'r shawns. Y tro hyn hefyd fe ddeth na hen foy arall gyta ni, hen fardd de iawn, sy yn gwitho yr ochr isha i ni. Fe gollws e dyrn er mwyn bod yn siwr o ddala'r traen. A bachan bidir yw'r bardd; fe enjoyws ynta i hunan yn net; gwetsa fa ddim llawar, ond odd a fel parrot y paddy yn meddwl shew.

 

Odd i bythti ddou o'r gloch pan ddethon ni yn tri i Ferthyr, a ffindson y lle mas ar unwaith lle on nw yn galw Y.M.C.A. arno, a mor gyntad a dethon ni mwn trwy'r drws fe deimlon rhwpath yn y gwynt, swn sharad Cwmrag clir. Hen Schoolmaster o Bendarran odd ar i drad, ac yn i gwed i yn iawn ar sefyllfa addysg yn i berthynas ar Gwmrag. Odd yr hen foy yn gwpod ffordd i wed ta beth, ac yn cico yn dost ar draws bwrdde addysg sirol Cymru, yn enwetig Shir Frychinog. Dodd a ddim yn siwr pun a mynd mlan ne mynd nol odd y Bwrdd Addysg 'ny, ac odd am oleuni ar y matar gan y Proffeswr Joseph Jones, o 'Bronddu; odd e yn y Gymanfa dros Shir Frychinog. Ar ol i'r Proffeswr drio rhoi golwg weddol ar bethach yn i shir e, fe sharatodd hen fishtir Ysgol Comyn Berdar yn barchus iawn ar y penderfyniad odd yn llongyfarch yr awdurdota addysg elfennol ac uwchraddol am i bod nhw yn helpu addysg Gwmrag ymlan. Y peth on ni'n tri yn deimlo, odd fod gormod o le i gwyr yr ysgolion ma o hyd, ag i Dai a fi ma shared ysgol y rhain fel sharad shop.

 

Ar i 'gol nw fe sefws un o weinidogion y Baptis o'r Cwm hyn, ar i drad yn llongyfarch yr hen wled ar y ffordd ddecha on nw wedi catw Gwyl Dewi y flwyddyn hyn, a odd am ddino gwlad y ffermwrs ma i neud yr un peth. Hen gawr yw hwn, ma fa'n cario'r tan Cwmrag gydag e i bob man, a ma Dai yn synnu fod a'n gallu bod mor dwym a fynta'n gwitho cymant yn y dwr, ond odd y bardd yn gwed ta felny' odd a'n cwni'r stęm mor uchel, a dyna fel ma cymint o fynd yn yr hen foy. Ar i ol e fe sefws Bardd o Ferthyr ar i dred. Postman glywes i yn cal i alw yn Ferthyr-fab. Odd hwn yn wilia yn ddecha iawn. Odd yr amser yn mynd, ac odd want bwyd ofnatw ar rhai o'r delicets.

 

Y matar nesa o'n nw'n drafod yn y cwrdd odd y ffordd ora i etrych ar ol y Sowldiwrs ar ol nhw ddod nol o'r rhyfal, a ma golwg ryff ar lawar o nw nawr ar hyd yr heolydd, heb ddim breicha, a choesa, a chwlffe mawr o henyn nhw'n isha. Yr Henadur William Lewis, Merthyr, odd yn cynnyg y matar hwn, ond odd dim golwg glir ar bethach nes i ryw fachan bach byr o'r West godi ar i dred ac yn clirio'r niwl i ni, ond yn amlwg bod hwn yn diall y pwnc yn net, ac fe geson ddeg myned twym cyd ag y bu hwn wrthi. Allwn i feddwl fod hwn yn Labor Member dros rhyw le bach yn y West na. Os na netho'n i gamsyned ma o Gwmtwrch odd a'n dod, a sa chi, syr, yn gallu cal hwn i wed gair drw'r "Darian” wrtho'n i ar y cwestiwn hyn fe fydda'n siwr o fod yn dreat i ni. Erbyn hyn odd pawb yn gwaeddu am de, ond odd na lawer iawn o waith i neud cyn cal te. Ar ol y sharad hyn fe nethon y casglad, a gwetwch wrth Tawenog nag odd dim un pishin tair yn y box nes y cyrhaeddws a Dai a'r Bardd a fi, dim ond cinoca, a odd Dai bron a thyngu pan gwelws a'r box. Geson i a'r bardd waith iddi gatw fa lawr; odd a moin adrodd "Can y Pishin Tair” yn y man 'ny. "Pam ta cinog yw i yn mhob casglad bron heb neb yn hito dim am yr achos, ond towli y peth shepa miwn i'r box wastod," menta Dai. "Pam, pam?" mynta'r bardd a finna.

(I barhau.)

 

 

.....

 

 

 

None

(delwedd 5595) (22 Mehefin 1916)

22 Mehefin 1916. Y Darian.

Llith Partnar Dai

(Parhad.)

Ar ol y cwrdd hyn o'n i gyd i droi mas ishta ffest clwb, ac odd Dai wedi lando, odd a'n cofio pan odd a'n troi mas gyta'i dad slawar dydd yng nghlwb yr “Hen Gymry," a odd a'n meddwl am “fand" a "marcho," a "chino," a "flags," ond pan ethon ni mas i'r hewl, fe eth yn grac wyllt, ac yn gwaeddi “Ble oedd y band?" “Ble odd y flag?" etc., etc., a fe geso i a'r bardd ddicon o waith iddi gatw fa mewn ordor, ond wara teg nawr, odd dim llawar i wed wrth Dai, fe ddyla fod na fand, ne flag ta beth, er mwyn i Saeson a Chymry claear Merthyr gel deall beth odd yn bod. Fe symudson ym mlen, a fe gerson yn lled deudu, odd na siwr o fod rhyw ddou cant yn y rancs i gyd, ond fe glywas i sawl un yn gofyn, "Anglodd pwy yw hon?" ond mlen ethon i, ta beth, lawr drw'r Heol Fawr, a throi i Heol Nant-y-gwenith, a mlan at Gapal Ynysgau, a'r man 'ny odd ty Joseph Edwards, yr arlunydd, un o'r naddwrs cerrig gora fu yn Llundain ariod, mynta'r dyn odd yn gwed am dano fa

 

 

 

 

None

(delwedd 5596) (22 Mehefin 1916)

 

wrthon i. Oddna yn gwed bod a'n yn gallu cel yr angal glana mes o'r cerrig gwynon odd a'n naddu, ac o'n ni'n tri synnu fod a wedi cel i eni mwn shwd dwll o le. O'r man 'ny fe ethon mlen i Penry Street, at dy bachan arall o Ferthyr odd yn gallu paento angylion ar bishis o ganfas. Odd Dai a fi yn meddwl witha fod y sharadwrs ma yn gwed celwdd gola wrtho ni, ond pan gofion ni ma mewn stapl y ganwyd y Gora welws y byd ma ariod, on ni yn fwy parod iddi cretu nw. A ma'r bardd yn gwed wrtho ni, “Dyw Genius," menta fe, “ddim yn cal dewish y lle myn hi, ond fe fynniff ddangos i hunan o bob man." Marcho mlan netho i weti'ny drwy glwyd fawr gwaith Cyfartha, a odd Dai. yn tyngu fod a wedi clwad yspryd 'puddler' yn galw "Dai Oi" arno fa, ond “nonsans odd 'ny," medda'r bardd, ond yn sytan dyma ni o flan estar fach o dai teudu a glan iawn. Wrth gwrs, dywetydd dydd Satwrn odd i, ac odd y mynywod bach wedi cwpla'r gwaith yn gynar, a'r lle yn etrych yn len net. Fe sefson o flan y ty bach canol yn yr estar, ac yn y ty 'ny ma'n depig y ganwyd "Joseph Parry," “Dr. Joseph Parry," y cerddor mwya welodd Cymry hyd yn hyn, mynta Dai, ac odd y dwr yn tascu o'i ddou lycad a wrth wedi 'ny. Fe ddeth na lwmpa mawr i wddwg y bardd a finna. Odd tad y bardd wedi bod yn canu shew ar y “Bachgan Dewr" a “Gogoniant i Gymru," ac odd gyta fa ewyrth odd wedi ennill sawl gwaith ar ganu "Baner ein Gwlad," a fe gofiais i am y mam a hen gor Twmi Parri odd yn canu yr anthema o waith y Dr. - “Mor hawddgar," “Pebydd yr Ar- glwydd," "Ar Don," etc., a fel na fe geson i bwl o hirath.

Wedi i'r dorf grynoi o flen y ty, fe alws y cadeirydd ar Ioan Bidir i ben y gater. Hen fachan odd hwn odd wedi lodgo gyda tad a mam y Doctor yn yr hen dy bach o ni o'i flan a nawr, a odd i yn blesar i glywad a'n atrodd y stori am fora oes y Doctor. Odd a'n sharad o galon, a than deimlata, achos odd dagra mawr yn cwmpo o'i lycad a ar y papyr odd yn i law a. Ar i ol e fe alwyd ar Tom Price i siarad ar y cerddor, fe sharatodd Tom yn fine. Odd a'n blesar iddi glywad a. Gwed odda fod y Doctor wedi eni yn gerddor, fod i fam a yn gantores dda, a bod i yn dod o Rymni, a bod ysgol gân yr Ynys- gau, a Band Cyfarthfa wedi dylanwatu

 

 

 

 

None

(delwedd 5597) (22 Mehefin 1916)

yn drwm ar alluodd cerddorol y Doctor. Fe geson hefyd racor o hanes y Paentwr, a'r Naddwr Cerrig, a hefyd am Tom Stevens y llenor mawr; ac yn wir i chi, odd y boy odd yn wilia am Tom Stevens yn gwed yn dda. Dyn mawr odd y llenor hwnnw. Withodd yn galad i gal gafal ar Hanas Cymru. Cemist odd a, a mae enw fa ar y shop nawr yn yr Heol Fawr, a wrth ddod nol fe fynnws Dai alw miwn am owns o loshin at y peswch o barch i goffa yr hen lenor enwog. Ar ol y cwrdd hyn fe ethon yn ol i'r Y.M.C.A. i gel te; ag ar y ffordd fe ffyndson mas pwy odd ar y march. Ag odd na set o fechgyn net. Odd Gwyrosydd yno, o'r Mount. On ni ddim wedi i weld a er's blynyddoedd, a odd a'n gwaeddi Amen wrth glwad Tom Price yn gwed cystal am y "Doctor." I chi'n gweld Gwyrosydd ofynodd “Ble'r eth yr Amen?" a on ni yn synnu dim i glywed e'n gwaeddu, ond o ni ddim wedi weld a er's pan odd a yn pwyso yn y Garw. Odd Seth P. Jones, Pen-clawdd ma, a John Price, Rhymni, brawd Tom; odd Gwyddonfryn ma, a Sarnicol, a bechgyn a merched bron o bob man o Shir Forgannwg. Pan dethon ni 'nol i'r room i gael te odd y lle yn flocked up. Fe ethon i gal chat gyda Boys y West. Odd Dewi Samlet yno, a phregethwrs mawr a bach o'r west. Odd Dai yn grac am introduction iddi nhw i gyd, a wara teg – “Arthen," fe ddylan gel shiglo llaw a'n gilydd. Meddylwch chi nawr am foys twym y West yn cel shiglo llaw a bechgyn cool Shir Frychinog. Fe fydda yn help i symud i gwed Cwmrag nw.

 

 

 

None

(delwedd 5598) (22 Mehefin 1916)

Ar ol y te, a the campus odd a, fe ethon mes am dro, a chal whiff a chat, gyta Gwyrosydd a'r boys erill. Mr. Telynwr oedd enw'r gwrbonheddig odd yn rhoi'r te i ni. Sais odd a, a fe sy'n dicwdd gaffro Corporation Merthyr ar hyn o bryd. Efe hefyd lanwodd y gatar yn y cwrdd llawen am saith o'r gloch, pan y ceson ni y tret o wrando cor o fechgyn bach o Ysgol Dowlais yn canu alawon a chaneuon Cwmrag yn ardderchog, a Pharti o'r Gellideg yn perfformio drama un act ar un "William," o waith bachan o Ffynon Taff. Un o'r comedies mwya chwerthinllyd welson i ariod, yn cel i acto yn dde digynnyg. W. O. Jones hefyd yn canu penillion gyda'r delyn yn dda iawn fel arfadd, a mab Laddin Gibbs y grinder yn wara'r delyn iddo fa. Fel na fe alson i ddydd Satwrn net ym Merthyr, Dai a finna a'r bardd. Dywetodd y bardd fawr, a wrth fynd nol yn y tren o'n i yn gofyn iddo, “Beth o'ch chi'n feddwl am Tom Price a'i arath?" A allach weld fod i foes barddoni fa'n llawn, a dyma wetws a: -

“Grymus gawr ymysg gwerin, Croew ei fant, cywir ei fin."

I Gwyrosydd:

“Athrylith wir, loewath ach,

Heb bosib ei hapusach."

I Sarnicol:

"Sarnicol, syr? un clws yw, Breuddwydiwr a bardd ydyw.”

.....

 

 

None

(delwedd 5605) (3 Awst 1916)

3 Awst 1916. Y Darian.

Llith Partnar Dai

 

“Paento Gwynepa.”

Mishdir y Darian, - 

Dyna'r pwnc sy wedi bod yn cel i drafod drwy ffas y gwaith ma yn ddi- weddar yw “paento gwynepa”; a fe we weta wrtho chi ffordd cwnnws y matar diddorol hyn. Ma Dai wedi joino cwmpni dramayddol, ag odd y balance sheet yn cal i darllan nos Wener diwetha, ac ym mysg y taliata yr oedd wigian am baento gwynepa. Odd Dai ar y cynta ddim yn teimlo yn folon iawn i dalu hyd nes bod a yn cal eglurad, ac yn naturiol iawn fe ddeth Dai a'r cwestiwn i'r gwaith, ac i ni wedi cal trafodath ddoniol iawn arno. Ma'n depig fod yn rhaid paentio'r gwynepa i atab y parts odd yn cal i wara gan y bechgyn a'r merched. “Meddwl di nawr,” mynta Dai, “y mod i yn wara part dyn meddw, fe fysa rhaid paento nrwyn i yn goch er mwyn gneud y part yn reit.” “Wel bysa,” medda'r boys gyta'u giddyl i gyd, wath ma nhw'n gwpod fod Dai yn di-total ronc.

 

“Ond,” medda un o'r coliars ma, “ma mwy o baento ar wynepa yn mynd ym mlan nag i ni ariod wedi feddwl. Edrychwch wrth fynd o'r gwaith yn ffenestri shopa'r cemists ma, a fe welwch chi fod y ffenestri yn aml iawn yn llawn o baent gwynepa.” “Ia, ia,” i mynta Dai, “i ferched.” 'Necen wir fe wn i fod dynion yn paento hefyd. Ma'r ôs i ni yn byw yndi yn dwyllotrus iawn; wyddoch chi ddim yn iawn pwy i chi'n gwrdd.” “Dwy i yn beio neb am baentio yn y dramodau,” mynta Dai, “ond os yw'r jobin yn cal i gario mes ar hyd yr heolydd ma, fe aiff yn ddangerus iawn.”

“O,” mynta bachan o goliar, “ma paento yn fine art. Dyna fydd y beirdd a'r cerddorion yn yn neud, paento syniata. Gwelwch chi fel ma'r beirdd yn gallu paento'r gwanol dymora yn y flwyddyn, a'r cerddorion hed. Meddylwch nawr am “Y Gwanwyn” a'r “Haf” gan Gwilym Gwent fel ma rheiny wedi paento.”

“Ia, ia, mynta Dai, “ma peth fel na o'r gora, er fod llawar o'r beirdd ma yn paento llawer o bethach na ddyla nhw, yn paento  y rhosyn a'r lili yn aml, a llawar o nhw wedi bod yn paentio'u trwyna hefyd, a paent costus iawn yw hwnnw.”

“Chwara teg i'r beirdd, hynny yw i'r gwir feirdd,” mynta'r Bardd sydd yn gwitho yr ochr isha i ni. “Ma'r gwir feirdd fel y gwir gerddor yn gynnil iawn ar baent, dyw'r gwir grefftwr byth yn splasho gormod, ond yn gynnil ac yn ysgafn iawn i gyffyrddiad; ac am baento trwyna dos na neb o'r beirdd yn euog o hynny yng Ngymru heddyw.”

“Beth am y prygethwrs ta?” mynta Dai.

“O,” mynta'r Bardd, “ma nhw wedi gwella llawar yng Ngymru. Ma llawer o nhw heddi a'u gwynepa yn cal i paentio gan nerth i syniata a'i teimla wrth weyd y gwir. Fe wn i am un sydd yn gwynnu gan i natur wrth bregethu ar bechodau i hoes, ac fe wn am lawar fydd yn cochi gan hwyl a gwres yn nraddodiad i bregetha, a lliw costus iawn i bregethwr yw hwnnw sydd yn lliwio'i wyneb a gan deimlata wrth draddodi'r gair.”

“Well done, y Bardd,” mynta Dai, i chi yn gallu defendo'ch ochr yn net, chaiff neb wed gair cas am fardd, na phregethwr na fyddwch chi yn barod i ymladd drosto. On i ddim yn meddwl bysa'r glepar yn mynd fel gneth i pan awgrymes i'r testyn. Don I ddim yn meddwl fod cymaint mewn paento gwynepa, ond dyma 'Wil Twyn Coch' yr haliar yn dod, a ma’n well i ni gatal i mana, ne fydd Wil yn i bwcwth i os dealliff y'n bod ni yn trafod lliw trwyna.

PARTNAR DAI.

 

.....

 

 

 

None

(delwedd 5602) (21 Medi 1916)

Y Darian. 21 Medi 1916.

Llith Partnar Dai.

Mishdir y Darian,-

Mae Dai yn cretu'ch bod chi wedi'n anghofio ni, ond o'n i yn gwed wrtho fa mai arnon ni'n dou oedd y bai. Ond y gwir am dano ma Dai yn chwyddo dicyn oddiar pan glywws a fod Gwili wedi atrodd am dano yng Ngymanfa'r Baptiss yng Ngwm Garw, “a ma prygethwrs erill hefyd yn lico atrodd am dano i," menta Dai. "W i yn itha bolon iddi nhw atrodd am Dai dim ond iddi nhw acto hefyd fel Dai." Dwy i ddim yn siwr nag os na lawer un yn prygethu nad i nhw ddim mor barchus o'u mam a Dai nac yn gofalu am foys bach i brawd, fel y gwneth Dai, a wara teg i Dai ma fa yn para i bregethu efengyl y gyflog ar tai, a hynny i bawb yn ddiwahan, ac nid i blaid neilltuol o ddynion. Mae Dai yn para yn fyw iawn o hyd i fuddiant y werin, ag odd yn dda gyta fa fod Gwili yn cario'r tan i ganol Cymanfa'r Garw. "A fe elli di fentro os dilyniff y boys ma Gwili, fe fydd y capeli ma yn llanw yto. Dim ond i'r gwithwr gael teimlo fod yr un parch iddo fe yn y capel ac sy i'r shopwr a'r gaffer, fe sticiff y gwithwr yn y capel fel glue.”

Oddiar pan sgrifenson ni air i chi o'r blen i ni wedi bod yn Llanstephan ein dou, ac fe eth y Bardd sydd yn gwitho yr ochr isha i ni am wthnos i'r Eisteddfod yn Aberystwyth. Ag yn Llanstephan odd Dai fel ta fe wedi cel i ollwng yn rhydd o'r jail. Fe, gyrhaeddson yma un bore ffein am hanner awr wedi deg, ond cyn cino oedd Dai wedi trio'i laish ar y platform yn y Stics; a wara teg iddo, ma fa'n ganwr lled dda ar "Mentra Gwen," "Plas Gogerddan," a "Baner ein gwlad," ac fe ganws y tair cyn dod off oddiar y platform nes bod pawb yn synnu pwy odd ’no.

Ar ol cinio eth Dai i gocsa, er cael cocs i frecwast fore trannoth; ac am whech ar ol te odd Dai yn aros am Steddfod y Stics. A wyddoch chi, Mishdir y "Darian," ma na atarn bidir yn dod i Lanstyffan, ac fel ’ny odd i yr wthnos hyn. Odd na, fachan bach o Gwmtwrch yn gadeirydd, llywydd ac arweinydd. Un bach byr odd, a dicyn bach yn gloff, ac yn Gynghorwr Sirol hefyd, a dicon yn i ben a i ffido'r Steddfod Genhedlaethol am wthnos gyfan. Odd a, yn ddicon o grwth a thelyn, ac yn cadw pawb i wherthin spo nhw yn yfflon. Fe ynillws Dai hefyd ar ganu

 

 

 

None

 

(delwedd 5603) (21 Medi 1916)

“Mentra Gwen," ag odd pob merch yn cretu fod Dai a'i lycad arni nhw pan odd yn canu, ac wrth gwrs fe eth yn ffefrat ar unwaith. Fel gwetas i wrthoch chi, lle bidir am sport yw Llanstyffan, y petha gora odd yn mynd ma odd areithio ag atrodd ystoriaus. Odd ma flaenor Methodis o Gwm Rhondda yn ennill ar areithio, a bydda neb yn meddwl am dano fe wrth i weld a ar y platform fod a ariod wedi bod yn seriws, ac yn wir odd yno bregethwrs Methodis fel ta fa wedi "let loose" am bythefnos, y nhw odd yn ennill am atrodd ystoriaus. Odd ma brygethwrs Sentars a Baptiss yn ddwl i gwala ma, hefyd, a J.P.'s a Miners' Agents fel ta nhw wedi colli y ticyn odd gyta nhw. Welsoch chi shwd le ariod am sport, pawb ar i gora i gatw melancoli i mas o'r wlad. Fe geson orsadd a steddfod ma bob wthnos, a dicon o gystadlu bob tro am ddou a thri diwrnod. Odd bechgyn galluog yn beirniatu ma hefyd. Odd na foy bach o Glytach Vale, yn L.T.S.C., yn beirniadu yn net, a School Master o Nantgaredig, mab Beriah Gwynfe Evans, yn beirniadu yr amrywiaeth gystal a'i dad, a dicon o gystadlu, a'r cwbl yn Gwmrag croew. Odd y cwpl Saeson odd ma yn teimlo out o place altogether. Fel na fe alws Dai a fi bythewnos wrth y'n bodd, yma. I ni wedi bod yn comparo notes yma; a'r wthnos nesa fe gaiff y bardd ma wed i farn am yr Eisteddfod, a chretwch chi fi, ma na bethach rhyfadd ym mocs y bardd hefyd.

PARTNAR DAI.

 

....

 

None

(delwedd 5607) (12 Hydref 1916)

Y Darian. 12 Hydref 1916.

Llith Partnar Dai.

Mishdir y Darian, - 

Fel y gwetson ni wrthoch chi, ma'r bardd ma am wed ticyn o'i brofiad ar ol bod yn Steddfod Aberystwyth. Cardi yw'r bardd, ac wrth gwrs odd a'n falch gel shawns i fyned am wthnos i'r Hen Shir, a fe eth hefyd ar ol cel pai dydd Satwrn. Fe eth i Gastallnedd nos Satwrn er mwyn cael bod ar y main line yn gynnar bora dydd Llun.

Yn y ffes waith ma sy gyta ni nawr ma pob short yn gwitho - aelota clwba, a chapeli, a swyddogion hefyd o bob short, cadeirydd clwb y Toris a diacon i'r Wesleys, Dai a fi a'r bardd, a ma hen labrar gyta ni hefyd sy wedi torri lawr, wedi bod yn giwrat yn Eclws Loegar, a phan fyddwn ni'n cal spell gyta'n gilydd ma gwahanol syniata, yn naturiol ddod i'r golwg, Dai fydd yr interviewer ran fynycha, a fe fu'n holi'r bardd y bora cwrddson ni a'n gilydd.

"Gwelsoch chi J.J. ?" mynta Dai.

 "Wel naddo," medda'r bardd, ac fe ges y'n shomi yn fawr yn hynny. Efe oedd un o'r beirniaid hefyd ar destyn y gadair, ac mae'n debyg fod yna wahaniaeth barn rhyngd.do a'r ddau feirniad arall, sef yr Athro Morris Jones a Berw."

"Pwy yw y Morris Jones ma?" mynta Dai. “Fe yw ych gaffar chi'r beirdds ma?"

“O nage," meddai'r bardd, dyw e ddim yn fwy o feistr arno ni na neb arall.”

“Wel, fe alswn ni feddwl i fod e yn lico'ch gaffro chi, ta beth. Fe sy'n

 

 

None

(delwedd 5608) (12 Hydref 1916)

gwed pwy yw'r gora'n wastod, ond taw a?"

"Wel, ie," medda'r bardd, "pan y bydd y prif athro yn beirniadu iddo fe bydd y beirdd, o barch iddo fel ysgolor a ieithydd medrus, yn rhoddi y safle  flaenaf.” "Wel,” mynta Dai, “oti e wedi ennill catar ne goron ariod?" “Wel nag ydyw, am wn i dyw a ddim wedi cystadlu." “Wel ffor ni," mynta Dai, “pwy sens yw doti referee acha batl sy ddim wedi bod mewn batl ariod i hunan?" Wel fel yna y mae, rhyw yswildod barddol sydd yn cyfrif am safle'r prif athro fel beirniad." Wel ma J.J. wedi ennill catar ne ddwy ond yw a?  Pan on i yn y ty gyta fa un tro fe wetws wrtho i am ishta mwn catar odd e wedi ennill yn Carnarfon ne rhwla." “O, ydyw," medda'r bardd, “mae J.J. yn fardd cadeiriol cenhedlaethol gwirioneddol yn ddios, Dafydd." Wel, ffordd ddiaich i chi'r beirdds yn gatal neb fynd o'i flen a ta? Mor bellad ag wy i yn gweld i chi yn acto yn hollol o with." “Wel, fel hynny y bu y tro hwn," meddai'r bardd. “A pwti neth J.J. ta, a pido dod i'r Steddfod?" "Wel nag e, nid pwdi am wn i, ond yn hytrach na chreu diflasdod, gan fod yna ddau a'u barn yn unol, a J.J. wrth gwrs yn foneddwr, fe gadwodd oddiyno." “Wel, wy i yn teimlo yn ddig ta beth na fysa fa yno yn dal ei dir fel dyn, a phido gatal i'r North men ma fynd dros i ben a."

“Dyna ffact," mynta cadeirydd  Clwb y Tories, “mor bellad ag wy wedi profi fe aiff y Northmyn ma dros ben pawb s galla nhw."

“Wel, pwy ges y gatar ta?" mynta Dai. “O, gweinidog ieuanc o enwad parchus yr Annibynwyr o Fangor." “Wel, Northman odd hwnnw hefyd ta," mynta Dai. “Wel, ia," medda'r bardd, South-man wrth gwrs odd y gora gyta J.J." “Wel nage'n wir,” medda'r bardd, can belled ag y deallais i, Gogleddwr yw y gwr hwnnw hefyd." “Wel, y Northmyn yw y beirdd gore nawr ta?" “Nage, ond y nhw a ystyrir yn ora gan ryw blaid o feirniaid. “Pwy blaid yw honno?" “O y blaid ysgoleigaidd farddonol yng Ngymru." "Pwy yw rheiny ta'r bardd?” “Wel, beirdd y prif ysgolion, a rhai hynny hefyd yw athrawon ysgolion canolraddol ac uwchraddol Cymru, bechgyn yn ddiamheuol sydd yn gwneud gwasanaeth i'w gwlad a'i hoes drwy wella iaith, ac arddull lenyddol y genedl, ond er hynny nad ydynt o

 

 

None

(delwedd 5609) (12 Hydref 1916)

angenrheidrwydd yn well beirdd, ac y mae'r bechgyn hyn a dylanwad mawr ganddynt ym mhob man bron, ac fe'u dewisir o barch iddynt fel ysgoleigion iaith a llen yn feirniaid yn yr Eisteddfodau Cenhedlaethol a Thalaethol." “O, wel wel," mynta Dai, gall dyn ddim fod yn, sglaig ac yn fardd ta?" "O, gellir," medda'r bardd, "y mae ym mhlith yr ysgoleigion hyn rhai o feirdd gora'r genedl." "Ac yn ennill yn y Steddfota hefyd," mynta Dai. “Ie, yn ennill yno hefyd." “Wel, pam na, fysa rheiny yn cal beirniadu ta" mynta Dai. "O, y maent yn eu tro, Yr oedd  y prif fardd Gwynn Jones yn beirniadu yn y Fenni y tro diwetha yn y South, pan enillodd Sarnicol." "O, collier o Ferthyr yw Sarnicol, ond te fe ?" mynta Dai. “O nage, nage," medda'r bardd, ysgolfeistr yw Sarnico1 hefyd." “Os dim coliars a beirdd i gal nawr neg os a?" "O oes," medda'r bardd, “y mae yna lowyr yn para yn feirdd o hyd, ond ychydig iawn yw eu nifer yn awr." “Gallwn i feddwl," mynta Dai, "nag os na ddim lawer o shawns i goliar nawr o dan y schoolmasters fel beirniaid a chystadleuwyr." "Nac oes," medda'r hen fardd a'i lais yn crynu gan deimlad, "wedi dyddiau Ben Bowen. Dwy i ddim wedi cwrdd a bardd dan ddaear o radd flaenaf, a thrueni mawr yw hynny. Fy marn onest i yw fod pethau fel y maent yn awr yn lladd diddordeb y lluaws yn yr Eisteddfod. Dim ond tri gynhygiodd am y gadair eleni." "Ie," mynta Dai, ar y testyn odd y bai." “O, nage. Fe wn i am dri neu bedwar o lowyr allai ganu'n dda ar "Ystrad Fflur," ond y mae y ffaith fod arddull iaith a llen yn cael ei phenderfynu gan brif-athrawon ac ysgolheigion yn lladd awydd y werin-bobl am gynnyg o gwbl." “Look out," mynta Dai, “ma'r boss yn dod, a tra bo'n ni yn gwitho ar y 'conn' ma'n well i ni fynd, ond fe fynnwn smack at y mater hyn bora fory yto."

PARTNAR DAI.

 

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ ć ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː ćː eː iː oː uː / ɥ / đ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_127_llith-partnar-dai_0200k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 09-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 31-01-2018, 03-01-2018, 09-06-2017
Delweddau:

Ffynhonell: Llyrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pŕgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait