kimkat0204k Dai o’r Fro yn mynd i Ffair y Mynydd.

12-06-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0204k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Dai o’r Fro yn mynd i Ffair y Mynydd.
(Rhondda Leader 19-05-1900).


 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

 

None

(delwedd 5589)

Rhondda Leader. 19 Mai 1900.

 

Colofn y Caneuon Digri.

--

Dai o'r Fro yn myn'd sha “Ffair y Mynydd.”

--

Yn Nhafodiaeth Bro Morganwg.

--

A'th Dai o'r Fro, 'rwy'n cofio'n dda,

Rhyw dro sha “Ffair y Mynydd;”

Ac yn ei boc, dair-punt-ar-ddeg,

I byrnu ciasag newydd;

Wrth fyn'd a dod trw'r llaid a'r baw,

Fe welws shaw o ddynon,

Ond ar i wynab nid odd gwên,

Nes cwrdd a'i hen gyfillon.

 

A rhag bod llatron - fel ma'r gair,

Yn gwylio'r Ffair a'i thwrw,

Rhows Dai ei goin i gyd dan giarc

Kiate Price, Penmarc, i'w ciatw;

Ac off ag ê trw'r lle fel dyn

Yn 'mofyn gnithur bysnas;

Fe drawws ar griatur da,

Heb isha dim ond harnas.

 

Rhyw fachan disprad iawn odd Dai

Pe bai e'n hanar decha,

Ond fel glas-fechgyn dewr ei wlad,

Yn ofni'r trad a r dyrna;

Tra'n myn'd trw'r Ffair rhwng naw a deg

Fe welws giasag felan,

A'i dwy drod flân fel eira gwyn,

A bali yn ei thalcan.

 

Ei pherchan odd hen borthmon tew,

A'i flew yn fwy na'i flonag;

Ac meddai Dai, “Wel, if you please,

Beth ydyw pris y giasag?”;

Ac off yr a'th at Kiate, wrth gwrs, 

I moin i bwrs a'i arian;

Ond hawliai Kiate gael presant da,

Ac umbarela shitan.

 

 

 

None

 

(delwedd 5590)

 

Y diwedd fu odd colli Dai,

Pe bai rhyw ots am dano;

Ond ble'r odd ê yn fawr ei swn,

Ond yn Saloon y Boxo!

“Clyw, bachan andras,”; meddwn i,

“Beth wyt ti'n meddwi'r ffwlbryn?

Pam se ti'n prynu ciasag dda,

A stwffo'th fola wetyn?”;

 

Holl ymdrech Dai odd pigo row,

Rhwng gwr Red Cow a'r porthmyn,

A d'wedai fod eu “thoro bred”

Can stiffed bron a phlocyn!

A dyna odd ei long and short,

Gneyd sport am ben bob joci;

“’Dyw'ch ciasag chi,”; medd Dai fan draw,

“Yn werth dim baw i dyni.”

 

Peth cynta gawn, ie, tawn heb ffoi,

Odd gwel'd y ddoi yn scwfflan;

Ni chymrai'r joci ei sarhau,

A Dai yn shaffo’i arian (?)

Pan stripws Dai, a'th “Twm law fawr,”;

A'i got i lawr i'r pomshop;

A ffwrdd a'i hat a'-h [sic; = a’th] Wil Fry,

I “dŷ ei ewyrth” Jacop!

 

Fe gas y joci fyn'd i g'ol,

I ganol carn o bedyll;

Os do, pan gwnws ar ei drad,

A' wâd yn llifo'n bishtyll,

Fe gnocws Dai yn nhbyd a'r wal

Nes odd e'n bagalwyni!

A'i gorffi gyd yn scraps a baw,

A dyn y shaw'n ei gwni.

 

Ac wedi codi Dai, g'lwch chi,

A'i wâd yn colli'n ymbyd,

A deall dori dwy o'i ribs,

Fe n'ath rbyw jibs dychrynllyd!

Wrth glwad pawb yn holi'n hy'

Pa fodd y bu hi arno,

Mi glyw'n e'n llefin dros y lle,

Ac dechre feintio!

 

 

 

None

 

(delwedd 5591)

 

Da'th Betsi Jones a John i gwr,

A dw'r i dawli drosto;

A chlymodd rhywun neished wen

I stopo'i ben i whyddo;

Fe weiddodd rhywun am Bolice,

Da'th hwnw'n chwys dyferu (?),

A da'th doi arall, fel doi lew,

Ar ol i'r shew ddibenu!

 

Fu bai ar Dai i roi shwd gnoc

I Moc, hen was Cluncoli;

Ta'i wath, fe'i cas hi’n ol yn dost

I gyd ar gost i ddwli;

Ochneidie'r ddoi yn brudd eu gwedd,

Tra'n gorwedd yn y ’Scupor,

A Dai yn llefin am i fam,

A Mocyn am y Doctor!

 

Da'th Moc a Dai'n lle [sic; = lled] dda i'w lle,

Om bai tafote erill;

Gwna rhai trw frad ac ystryw bron,

Elynion o ddoi efill!

A'th gwyr y “gloren” yn un haid,

Fel clymblaid yn ei erbyn;

Tra cialon pawb trwy’r Fro fel llwyth,

Am dalu'r pwyth i Mocyn.

 

Rhyw doso'r dyn wna Ffeiriau'r wlad,

Fel bâd ar “gefan shitan;”

Fu Ffair erioed, a byth ni ddaw,

Heb wario shaw o arian;

Pob punt a feddws wariws Dai,

Pe gallai gwariai chwanag;

Da'th Dai sha thre' â “phishyn grot,”

Heb hat, na chot, na chiasag.

 

N. W. 

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_128_dai-or-fro_0204k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 11-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 11-06-2017
Delweddau: 
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait