kimkat0209k Ceuffordd y Cefn Onn..
16-06-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0209k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Ceuffordd y Cefn Onn. Dewi Isan. 1873.
(Y Darian. 18 Mehefin 1916).


 

 


(delwedd 7282)

 
...

 

 

None

(delwedd 5601)

Y Darian. 8 Mehefin 1916.

CEUFFORDD (TUNNEL) Y CEFN ONN.

(Buddugol yn Eisteddfod Llysfaen, 1873).

Cryf yw'r graig sydd uwch y bryniau, Safodd yma flwyddi maith,
Fel i wylio newidiadau
Oesau'n myned ar ei taith;
Ond fe dorrwyd ei hesgeiriau
Pan oedd celf yn curo'i bron,
A'i hasennau wnawd yn ddrylliau
Er gwneud Ceuffordd Cefn Onn.

Yma gwelwyd celf a gwyddor
Wedi gwneud priodas fad,
Gyda chrebwyll dyn a'i drysor
Er gwneud gwaith lesola'r wlad;

Mae'r briodas hon mor nerthol, Cryna'r creigiau ger ei bron,
A'i heffeithiau mor ddymunol
A chael Ceuffordd Cefn Onn.

Rhaid oedd gweithio gyda llwyddiant
Chwech o flwyddi yn y graig
Cyn gallasai'r ager-beiriant
Fyned trwodd tua'r aig;
Rhaid oedd suddo chwech o byllau
Tua chrombil daear gron,
Ond er cymaint oedd y rhwystrau
Rhaid cael Ceuffordd Cefn Onn.

Llyncwyd trigain mil o bunnau ,
Oll gan yr anturiaeth fawr,
Ond er cymaint oedd y treuliau
Ceir y lle yn talu'n awr;
Am ei llesiant gwyr y bryniau
Ynt yn curo dwylaw'n llon,
Nes adseinier y dyffrynnau
Am gael Ceuffordd Cefn Onn.

Mae'r gerbydres yn ymdroelli
Lawr o Rymni tua'r glyn,
Dacw'i hagerdd yn ymgodi
Ger Caerffili'n gwmwl gwyn;
Mae hi'n gwichian mewn llawenydd,
Cana'n iach i'r Taff yn llon,
Ac adseinia dref Senghenydd
Am gael Ceuffordd Cefn Onn.

A'r gerbydres tan chwibanu
Mewn i'r geuffordd yng Ngwernddu,

Mae tywyllwch fel y fagddu
A swn tyrfau ar bob tu;
Ymhen ennyd dyna'i drwyddi,
A phob un o gynnes fron
Yn rhoi clod i Gwmni'r Rhymni
Am wneud Ceuffordd Cefn Onn.

TEITHIWR.
Sef y diweddar Dewi Isan, Llysfaen.


....

------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_129_ceuffordd-y-cefn-onn_0209k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 16-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 16-06-2017
Delweddau: 
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait