kimkat0214k Y GOLLED I BLANT CYMRU NA BYDDAI EU RHIENI YN SIARAD CYMRAEG AR YR AELWYD. TARIAN Y GWEITHIWR. 1899.
20-06-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ●
● ● kimkat0204k Y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia |
|
27 Ebrill 1899. (Rhan 1)
4 Mai 1899. (Rhan 2).
11 Mai 1899. (Rhan 3)
...
|
|
(delwedd 5619) |
Tarian y Gweithiwr.
27 Ebrill 1899. TRAETHAWD
AR "Y GOLLED I BLANT CYMRU NA BYDDAI EU RHIENI YN SIARAD CYMRAEG AR YR
AELWYD." Buddugol
yn Nghyfarfod Adloniadol y Tabernacl, Hirwaunt. Nadolig, 1898. Fy
ngwlad! Fy ngwlad! Deffro! Paham y mae
y cyfrwng sydd wedi cadw dy fywyd ar hyd y blynyddoedd yn wrthddrych anmharch
genyt heddyw? Clust-ymwrandawed dy rieni ar lef colledion eu plant yn
gwaeddi, ‘Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch.' Amddifedir dy blant, Gymru
anwyl, o'u breintiau aruchelaf gan y rhai anwylaf ganddynt, os yn ymwybodol
i'r ystyr a ganlyn: - Y GOLLED
ADDYSGOL, Y mae
rhieni Cymru yn ddigon goleuedig i fawr chwenych a dymuno i'w plant dyfu yn
wir ddysgedig ond nodweddir hwynt a difaterwch anfaddeuol pa fodd i'w gwneud
felly. Beichir meddyliau rhai a syniadau gwag, ffol, a chyfeiliornus, am wir
ddysg. Boddlonir eu dyheuadau aruchel (?) pan fedr eu plant fratian eu
Saesneg rywsut, rywfodd, gan daflu llaid diystyrwch ar ogoniant y Gymraeg.
Teflir y Gymraeg yn ysgymunbeth oddiar eu haelwydydd, ac y mae clywed y rhai
hyn yn aflafareiddio eu lleisiau, a'u gweled yn anffurfio eu hwynebau wrth
geisio meithrin croesaw i'r estronaeg, yn ddigon i godi cyfog ar bost
llidiart derw. Gwneir cam a phlant ein gwlad mewn ystyr addysgol wrth hyn.
Profa ffeithiau sicr perthynol ag addysg yn y tir mai y plant hyny feddant y
parch at, a'r wybodaeth ddyfnaf o'r Gymraeg, ydyw etholedigion mabwysiedig
dysg yn Nghymru. Paham? Anhawdd rhoddi atebiad cyflawn. Y mae gan y Gymraeg
ei chyfrinion fel pob peth gwir fawr. Ymgorphora ynddi yr ysbryd sydd wedi
ysgogi y genedl ar hyd y canrifoedd, ac anhawdd dadansoddi ac egluro ysbryd
ar dudalenau. Dywed awdurdodau ieithyddol fod y Gymraeg yn cynwys yn agos
gynifer o wreiddiau ag a fedr y tafod dynol eu hyngan. Rhydd Tegai fod 317 o
wreiddiau i'r Gymraeg, ac y mae taflen gyferbyniol Dr Puw yn rhoddi syniad
lled glir am ei safle yn mhlith prif ieithoedd y cyfandir. Gwreiddian yr
Almaenaeg 31, y Saesonaeg 38, y Ffrancaeg 39, y Roeg 44, y Lladin 45, yr
Hebraeg 64, y Bersiaeg 122, yr Arabaeg 148, y Gymraeg 223. Gwel y sylwedydd,
oddiwrth y daflen uchod, a chaniatau nad yw yn berffaith gywir, nad y Gymraeg
yw y distadlaf o honynt. Gan hyny, cadwed y Cymro hi yn etifeddiaeth. Cynwysa
y Gymraeg lawer o eiriau tebyg i'r ieithoedd hyn, ac am hyny, croga wrth ei
gwregys allweddau i'w dirgelion hwynt. Y mae y Gymraeg mor naturiol i'r Cymro
a'r dwfr i'r pysgodyn. Dysg y plentyn Cymreig iaith ei genedl yn hawddach a
chyflymach na'r un iaith arall, oblegyd fod ei natur dyner yn cyfateb
cyfansoddiad yr iaith. Profa ystadegau arolygwyr ein hysgolion dyddiol, fod y
plant hyny lle y rhoddir addysg Seisnig trwy eglurhad y Gymraeg, yn dringo yn
sicrach a rhwyddach i fanau addysg elfenol. Esiampl deg a theilwng i brofi
hyn yw hanes ysgol Aberhosan, hyd yn nod pan oedd teyrnwialen ormesol y
‘Welsh Not' yn ymestyn dros ein tir; er yr haerllugrwydd hwn, beiddiodd y
Gymro parchus, Rhys J Huws, egluro addysg Senisig [sic; = Seisnig] a Gymraeg,
a'r canlyniad fu, i'w ysgol fod yn uwch yn safon ei haddysg na'r un o fewn y
rhanbarth. Profir yn ddiamheuol fod y plant Cymreig, y rhai dderbyniant eu
haddysg trwy gymorth y Gymraeg, |
|
|
(delwedd 5620) |
yn meistroli
y Saesneg yn nghynt, hyd yn nod na'r Saeson eu hunain, Rhaid fod colli eu
hiaith yn golled bwysig i blant Cymru ynte? Y profion a nodwyd sydd wedi
gwneud ymdrechion pleidwyr a noddwyr addysg ein gwlad yn ddiflino, er sicrhau
addysg yn y Gymraeg yn yr Ysgolion Byrddol. Gwelodd rhai proffwydi o gyff
Baal fedd y Gymraeg, ond blagura heddyw fel y lawryf. Cryd y genedl yw yr
aelwyd. Nodweddion a chymeriad ein haelwydydd sydd yn penderfynu teilyngdod y
genedl. Ystyried rhieni Cymru y golled wnant i'w plant wrth feithrin hen
fympwyon gwasaidd, trwy alltudio y Gymraeg o'u clyw. Cri mawr yr oes yw,
swyddogion llywodraethol Cymreig i Gymru. Y mae yn hanfodol iddynt ddeall ein
hiaith er gwneud cyfiawnder yn eu meddyliau eu hunain a ni; ond os y
diystyrir y Cymraeg trwy beidio siarad ar yr aelwyd Gymreig, pa le y megir
Cymry? Amcan addysg yw cymhwyso dynion i fod o wasanaeth i'w cyd-genedl a
dynoliaeth, ac wrth fod rhieni Cymry yn cadw eu plant mewn anwybodaeth o'r
Gymraeg, cloant ddrysau swyddau yn eu gwlad eu hunain yn eu herbyn, a cholled
arianol trwy hyny, gan osod plant eu hunain yn nghyd a'r genedl, yn agored i
ymddygiadau annghyfiawnder a thraha estroniaid anwybodus o'n iaith a'n
harferion. Trwy ddefnyddio y Gymraeg yn gyfrwng i dderbyn addysg Saesnig, y mae
plant Cymry yn gallu gwneud yr hyn ddysgir ganddynt, yn eiddo iddynt eu
hunain, a braint yw hon na ddylid ei diystyru, oblegyd i'r graddau y gwnant
eu dysg yn eiddo, y mae eu gwir lwyddiant; tra mewn anwybodaeth o'r Gymraeg,
y mae yr hyn ddysgir ganddynt yn beth gwrthddrychol tuallan iddynt eu hunain,
ac nid yn ddysgeidiaeth wirioneddol. I gyrhaedd addysg glasurol y mae
alltudio y Gymraeg yn golled fwy. Cariai yn ei llaw oleuni tanbaid a chlir
i'r clasuron Groegaidd a Lladinaidd. Ieithoedd meirwon yw y rhai hyn, mewn
ystyr, yn wir, ond i'r efrydydd am ddysg safonol, llenwir hwynt a bywyd, ac i
gyrhaedd pinacl y clasur, rhaid wrth efrydiaeth ynddynt. Gan fod y Gymraeg yn
cynwys geiriau yn mron yr un seiniad, ac yn gyfystyr a'r ieithoedd hyn, y mae
yn arweinydd naturiol a sicr i'w dysgeidiaeth hwynt. Tyf y plant yn fodau
gweithredol mewn cymdeith&s, a thyf eu colledion gyda hwynt. Pan
ddeffroant i'w cenadaeth fel dynion, cant deimlo anwybodaeth o'r Gymraeg. (I
barhau). |
|
|
(delwedd 5621) |
Tarian y
Gweithiwr. 4 Mai 1899. TRAETHAWD
AR "Y GOLLED I BLANT CYMRU NA BYDDAI EU RHIENI YN SIARAD CYMRAEG AR YR
AELWYD." Buddugol yn
Nghyfarfod Adloniadol y Tabernacl, Hirwaunt. Nadolig, 1898. [(P]ARHAD.) YN GOLLED
YN EU BYWYD CYMDEITHASOL. Bydd
ysbryd y Celt yn holi am bob un o honynt. ‘Mae y
gwr llwm o gariad - na boffa Amddiffyn
ei fam-wlad? Marw yw
ei gymeriad, A'i dda fron
sy' nawdd ei frad.' EMRYS. Y plentyu
yw tad y dyn ar yr aelwyd y plenir egwyddorion llywodraethol dyfodol ei
fywyd. Natur syniadaeth yr aelwyd sydd yn penderfynu nodwedd ei feddwl. Y
pethan a ddysgir i'w diystyru ar yr aelwyd fel rheol, a ddiystyrir mewn oed.
Seisneg yw trafnidaeth masnach y byd, ond nid am ei bod yn ystwythach na'r
Gymraeg. Gwaaeth y Saeson, yn eu rhyfeloedd gwaed-sychedig, enwau iddynt eu
hunain, a meddiansant safle uchel yn mysg cenedloedd y ddaear, ac ar gyfrif
eangder eu cysylltiadau masnachol, a'u clod mewn rhyfel, y siaredir eu
hiaith. Nid ydym yu ceisio taflu y cysgod lleiaf o ddiystvrwch arni, ond na
fydded i rieni Cymru wneud gloddest i'r Seisneg o elfenau melus bywyd y
Gymraeg. Anwybydded Cymru ei phlant o freintiau ei hiaith, gesyd hwynt mewn
cyflwr traenus fel personau unigol, a chenedl y dydd a ddaw. I ladd yr iaith,
nid oes modd sicrach na thrwy ei chadw allan yn llwydrew esgymun. Anadl
ysgogiadau pob cenedl dan haul yw eu cymdeithasiad a'u hynafiaeth, a'u
hedmygedd cofleidiol o'u delfrydau (ideals.) Yr ergyd mwyaf deifiol i fywyd
Cymru fydd tori y llinyn euraidd gysyllta ei phlant a'u cyndeidiau, yr hyn
geisia rhai o'i rhieni heddyw. Y mae adnoddan cynaliol bywyd ein tadau yn rhy
dda, ac wedi costio yn rhy ddrud, i'w chladdu mewn anmharch. Y mae hanes y
Gymraeg ei hun, a'i dylanwad ar fywyd y genedl, yn fewnol ac amgylchiadol, yn
fil rhy gysegredig i ymdygiadau calonau oerion edmygwyr a meithrinwyr
estroniaith. Wrth ymddygiadau diystyrllyd a gwrthun o'r natur hon, plenir yn
nghalonau ein plant hen deimlad gwasaidd, a'u colled fydd ni theimlant o fewn
dydd o'u bywyd, ymwybyddiaeth o'u hannibyniaeth. Cyll ein plant en
personoliaeth i raddau mawr pan gollant y Gymraeg. Os credir mai ebargofiant
yw lle y Gymraeg, ar bob cyfrif rhodder chwareu teg iddi farw, tyner dwylaw
llofruddiog oddiwrthi. Sugna y plant wersi oddiwrth ein hymddygiadau at yr
iaith, ac ystyriwn natur y rhai hyn pan ymgorfforont yn weithredoedd
cyhoeddus yn eu bywydau. Trwy y
Gymraeg yn unig y dichon plant ein gwlad gymdeithasu a hanes ein gorphenol.
Cynwysa ein hanes yr ymdrechion di-ildio hyny o eiddo ein tadau i ymryddhan o
afaelion haiarnaidd gormes, er ein gwneud ni yn feibion rhyddid. Cyfoethogir
ein hanes o'r chweched ganrif hyd heddyw ag esiamplau gwynion o ymgais i
ymddadebru o gysgadrwydd anwybodaeth. Trwy y Gymraeg yn unig y dichon plant
ein glad gynal dyheadau eu heneidian sychedig o'r ffynonellau hyn. Os cyll
Cymru ei hiaith, byddwn fel cenedl wedi ei llyncu gan genedloedd ereill y
ddaear. Trwy y Gymraeg yn unig y gallwn ddadblygu ein nodweddion neillduol. Ymgorffora y nodweddion hyn yn
ein llenyddiaeth er yn foreu yr unig
ffordd i gadw y genedl Gymreig yn fyw, a'i gwneud i gyflawni ei chenadaeth i
ddynoliaeth yw, trwy wneud pob aelwyd yn fagwrfa i'r Gymraeg, a phob teulu yn
dwr iddi rnag ymosodiadau. Colled na chyflawnid byth i bob Cymro, fyddai cloi
oddiwrtho hen draddodiadau melus, arwrol, a |
|
|
(delwedd 5622) |
moesol ei
dadau. Llyfeirid ei ysbryd ehedfyw, ei awen feiddgar, a'i grebwyll treiddiol,
gan gyffion estronaeg, rhaid i ysbryd y Cymro gael y Gymraeg i deimlo nwyf ei
fywyd, yn hualau estroniaith ymlwybra fel colomen wedi tori ei hadenydd.
Gwreiddia y Gymraeg yn natur y plentyn Cymreig, a cham anoddefadwy wna ei
rieni ag ef pan yn gwthio iaith estronol iddo, gan gladdu gwir fywyd ei
natur. Pe collai y Cymro ei iaith, byddai ei natur farw yn ganlyniad
anocheladwy, ac ni fyddai iddo fwynhad mewn bywyd o gwbl, byddai yn rhy
ddynwaredol (Artificial) o lawer. Rhaid cael Cymro Cymreig i ganu wrth edrych
ar yr Wyddfa yn penwynu ar ei gorsedd, a Chader Idris yn rhychiog ei chefn
gan ymosodiadau canrifoedd, wrth aros am Frenin Cymru. Y glust Gymreig a glyw
alawon ei chorneint, corawdau ei rhiadrau, a pheroriaeth brefiadau y defaid;
y llagaid [sic; = llygaid] Cymreig wel wir aruthred ei chreigiau, a'i
mynyddoedd fel tywysogion yn tyfu tua'r nefoedd Gwneled rhieni ein gwlad eu
rhan i'r genedl trwy beidio colledu en plant. Yn mhell y bo'r dydd pan ffyno
gwaseidd-dra y Cymry. Nid ydym am bregethu unieithedd i'r Cymry, ond ar bob
cyfrif Cymraeg yn gyntaf. Y mae mor gyfoethog o adnoddau defnyddioldeb a
bywyd ag un iaith sydd ar dafod dynolryw. Un o'r colledion truenusaf fyddai
amddifadu ein plant o'u hen lenyddiaeth. Trioedd doeth yr hen dadau sydd yn
llawn arabedd a doetnhineb moesol. Eu diarhebion chwaethus serenant ein
tudalenau. Llenwir ein hyhafiaeth a thlysineb traddodiadol cyfuwch ei safon
ag sydd mewn unrhyw iaith. Nid yw'r hyn oll ond argraffiad o'u nodweddion
meddyliol fel cenedl! llama calonau mewn edmygedd pan gyfarfyddant a hwynt,
tynant gyfaddefiadau godidog o'u gwerth oddiwrth genedloedd creill. Dylanwad
y pethau hyn sydd wedi arwain cymdeithas Gymreig i'r safon bresenol, a dyma
yn unig a'i cwyd i foesoldeb teilwng o'i chrefydd, a diogelwch bythol. Ni
fydd yr ymwybyddiaeth o'r colledion crybwylledig o herwydd alltudiad y
Gymraeg ond bychan yn ymyl lin o nodweddion. Y GOLLED
GREFYDDOL. Un o nodweddion pwysicaf y Cymry yw yr addoliadol; amlyga hon ei
hun mewn modd neillduol o'u hanes boreuaf. Ariana dudalenau ei holl
hynafiaeth. Dylanwada yn ddwfn ar ein hymwneud cymdeithasol. Mynai y Cymro
cyntefig addoli. Sychedai ei enaid mawr am Dduw; dichon na chafodd y gwir yn
gynar. Y mae yr addoliadol yn we-edig yn ansawdd y Gymraeg. Nid oes un iaith,
o ran ei hansawdd, fedr roddi y cyfleusderau sydd yn y Gymraeg i ddadblygu y
nodwedd hon. Arweinia ni yn ei llaw i gymdeithas allorau yr hen Dderwyddon,
ar y rhai y gorphwys y cyfaredd mwyaf breuddwydiol. Natur grefyddol y Cymro
sydd yn cyfrif am gyfleusderau ei iaith. Mynegodd yn foreu ei deimlad
addolgar yn mherseinedd cleciadau y gynghanedd. Pan yn amddifad o grefydd
ddatguddiedig, creai grefydd iddo ei hun ymegniai i ffurfio cyfundrefnau
Duwinyddol, ac hyd heddyw, nid oes ysbryd crefyddolach o fewn y cyfanfyd na'i
eiddo; ond dylem gofio mai y Gymraeg fu yn gyfrwng i'w ddadlygu a'i feithrin.
Pasiwyd mesurau yn gwahardd ei harfer, gyda'r amcan o'i difodi, gan wahanol
freninoedd Lloegr, a dywed yr hen ficar, nad oedd un y cant yn darllen
Cymraeg yn 1630. Nid oedd neb, yn ol tystiolaeth hanes, yn meithrin mwy o
atgasedd at y Gymraeg na'r Cymry eu hunain ar hyd yr unfed ganrif ar bymtheg,
ond yn niwedd y ganrif, torodd gwawr ar Gymru, cafodd ‘Feibl y Gymraeg.'
Rhoddodd y Gymraeg fywyd newydd i'r Beibl, ac yntau fywyd newydd iddi hithau.
Rhoddodd datguddiad wir rhyddid i lenyddiaeth y wlad. Goreurir y rhan fwyaf
o'i llenyddiaeth, wedi hyn, a'r Cristionogol. Y mae naws enaid y Beibl yn
llifo drwy ein llenyddiaeth uchaf. Y mae y cydgord cyfaddas hwnw sydd yn
angenrheidiol i dyfiant bywyd yn bodoli rhwng natur ein crefydd datguddiedig
ag ansawdd ein hiaith, a rhwydd y gallwn ddweyd nas gall un fwynhau perffaith
fywyd heb y llall. Yr oedd athrylith yn
dysgleirio yn ymadroddion y Cy,ro er ei fabandod, ond y Beibl rhoddodd
i hon ‘dragwyddol heol.' Y mae yr ymdriniadau a phynciau meddyliol sydd yn
ein hiaith yn deilwng o fywyd bythol. Car y Cymro athron- iaith. Teimla flas
a mwynhad wrth gyfuno meddyliau. Colled na wnelid i fvny byth fyddai
amddifadd y Cymro o'i neillduolion
meddyliol. (I'w
barhau.) |
|
|
(delwedd 5623) |
Tarian y
Gweithiwr. 11 Mai 1899. TRAETHAWD
AR "Y GOLLED I BLANT CYMRU NA BYDDAI EU RHIENI YN SIARAD CYMRAEG AR YR
AELWYD." Buddugol
yn Nghyfarfod Adloniadol y Tabernacl, Hirwaunt. Nadolig, 1898. (PARHAD.)
Cysegrodd
awen y genedl ei hun i Dduw yn ngoleuni y Datguddiad. Ymgynygiai dori drwy y
llen ar hyd y blynyddoedd, ond yr oedd tywyllwch y nos a gwendid ei llygaid
yn ei gwneud yn aflwyddianus. Breuddwydiai yn ddi-ildio. Yn yr adfywiad hwn,
magodd adenydd, ac eheda hyd heddyw fel colomen i gysegr y sancteiddiolaf;
rhydd ei thraed ar fanau y nefol wlad, a dwg ddail yn ol yn dystiolaeth i'r
ddaear isod. Drychfeddyliau gloewon, yn llawn duwioldeb, wedi eu gwisgo yn
ngogoniant dysglaer coethder y Gymraeg. Swyna gleeiadau cydseiniaid y Gymraeg yr enaid i'r mwynhad
melusaf. Y mae areithiau prif arwyr rhyddid yr oesau a fu yn llosgi rhwystrau
o'u blaen. Meithrinodd y Gymraeg wladgarwch y Cymry i wres digon eirias i
ffrydio eu gwaed hyd wyneb y tir, er gwneud i egin rhyddid dyfu ynddo. Pan
gyll plant Cymru eu hiaith, collant yr unig allu sydd yn eu meddiant i sugno
gwersi bywyd ein Llewelyn ddewr, a'n Glyndwr. Y mae ysbryd arwrol araeth
Glyndwr i'w filwyr, yn fil rhy bwysig i Gymru ddibrisio. Ni phregethaf ‘Cymru
i'r Cymro,' ond Cymraeg iddo ar bob cyfrif. Tystiolaethai Julius Ceasar am
wladgarwch y Cymry ydynt brofion diymwad o gyfaddasder y Gymraeg i ddadblygu
yr elfen hon. Nis gall gwedd aruthrol ein Gwalia ddangos ei hun yn mydr yr
iaith estronol, Gwywa ein derw cadarnaf yn ngafaelion estronaeg. Nis gall
melusgerdd Gymreig fyw yn un hinsawdd ond yn ngofal y Gymraeg. Pa iaith dan
haul mor gyfaddas i Riangerdd a hi? Ymgorffora y serchiadau ynddi. Nid oes un
iaith yn y byd yn rhoddi y cyfleusderau sydd ynddi i osod allan y serch yn ei
ddwysder. Pe collai y Cymro hi, collai lawer o dynerwch brwd ei natur. Elai
yn fwy materol ei deimladau, oblegyd pan ballo pobpeth dyfu, rhaid iddo wrth
ddeddf farw. Os collir y Gymraeg, cyll y genedl ei chenadaeth i'r byd,
oblegyd dyma yr unig allu fedr ei dwyn i eglurder. O herwydd ein cariad fel
cenedl at fiwsig, y mae ein hiaith yn llawn melodi a pherseinedd. Tyn athrylith gerddorol y Cymro sylw y byd
gwareiddiedig. Y mae ei dylanwad ar yr enaid
dynol yn nefoleiddio |
|
|
(delwedd 5624) |
ei natur.
Canu Cymreig esyd y galon ar dan, a chanu Cymreig dyn ddagrau yn hidl. Yn
nghyda’r gyfaddasder sydd yn y Gymraeg i'r hyn a nodwyd, yn y pulpud y mae ei
gwir ogoniant. Y mae y Gymraeg a Gwaed y Groes wedi ymbriodi yn rheolaidd a
chyfreithlon, a phechod yw yr ymgais o eiddo rhai o rieni Cymru i'w hysgaru.
Y mae ynddi ystwythder i'r hyawdl, perseinedd i’r clust cerddgar, tynerwch
i'r lleddf ei ysbryd, mawredd i'r barddonol ei ddychymyg, a choethder i'r
clasurol ei chwaeth. Y galluoedd hyn mewn ymarferiad achosodd ddiwygiadau
byd-adnabyddus Cymru yn gydfynedol a dylanwad ysbryd Duw, y rhai sydd wedi
dyrchafu ein daear megys hyd y nef.
Trwy ei chyfaddasder hi y gallodd hen Gymru uniaith gael syniad boddlongar am
dadoliaeth dyner a gofalus Duw, am Frawdoliaeth a chydymdeimlad y Mab, yn
nghyda'r maddeuant dderbynir trwy ei Iawn. Mae y Gymraeg wedi bod yn gyfrwng
i arwain canoedd i fro'r gogoniant, yn rhinwedd ei chydgord a chenadaeth yr
efengyl. Ymgorphora ein nodweddion cenedlaethol yn ein crefydd, a chredwn mai yn ein crefyddolder y gorwedd
ein cenadaeth i'r byd. Clustfeinia Ewrop heddyw ar y pulpud Cymreig.
Ysgydwadau ei diwygiadau sydd wedi palmantu llwybr rhyddid crefyddol i ni. Y
mae ysbryd y Protestant yn gryf yn y Cymry - teimla ei bersonoliaeth ei hun
yn llosgi ynddo, ac y mae yn barod i aberthu pobpeth er ei hamddiffyn. Dywed
un o ddiarhebion ei wlad er yn foreu, ‘Teg i bob dyn ei farn, ac i bob barn
ei llafar.' Colled i dosturio wrth feddwl am dani, ac i'w gochel yw colli ein
hiaith. Syrth ein gwlad i annghof bythol, awn yn wrthddrychau gwaseidd-dra
heb annibyniaeth fel cenedl, heb lenyddiaeth, heb farddoniaeth, heb
Gristionogaeth Gymreig - heb ddim ond y dynwaredol. Na choded yr haul yn
Nghymru ar fedd y Gymraeg. Y dydd y cleddir hi, cleddir neillduolion y
genedl. Gwywa gogoniant ein crefydd dan ddwylaw estroniaith. Syrth ein
hathrylith fel clwyfedig ar y maes. Teimla ein hawen gyffion carchar, a'n
hysbryd ymwybyddiaeth pererin digartref. Teimla y pulpud ddwylaw dyeithr
trawsfeddiant. Syrth yr hwyl Cymreig i'r bedd heb obaith adgyfodiad i fywyd.
Ystyried rhieni ein gwlad y golled wnant nid yn unig i'w phlant, ond i
genedloedd y cyfandir trwy esgymuno y Gymraeg oddiar eu haelwydydd, gan
geisio ei lladd. Tystiolaetha Ruskin, llenor mwyaf clasurol, awdurdod
ieithyddol, a meddyliwr dyfnaf yr oes, o blaid y Gymraeg. 'Na ato Duw i'r
Gymraeg farw,' meddai; ‘Y Gymraeg yw iaith miwsig. Nid oes unrbyw athrylith
yn perthyn i’r Saesneg.' Deffroed rhieni Cymru o'u cwsg breuddwydol. Planer
iaith, neillduolion, a chrefydd Gymreig yn eneidiau tyner y plant, fel y
tyfont yn Gymry teilwng o Wlad y Gan, ac nac annghofied mynyddoedd ein gwlad
ganu, ‘Oes y byd i'r iaith Gymraeg,’ gan gofio y cydgana YSBRYD Y
CELT, (Sef Rees
M. Rees, Tabernacl, Hirwaun). |
....
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ
ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ
ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_131_y-golled-i-blant_0214k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 20-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 20-06-2017
Delweddau:
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r
Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait