kimkat0217k Llith y Torwr Beddau / llith y Torrwr Beddau. Y Darian.
12-06-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ●
● ● kimkat0217k Y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia |
|
...
|
|
(delwedd 5638) |
Y Darian. 15 Awst 1918. Llith y Torwr Beddau. Ar dudalan gynta'r DARIAN ma brawddeg fel hyn, "Ceisiwch,
a chwi a gewch." Dyma finna wedi cal
cyfla i ala atoch o'r diwadd. Ma'r Spanish Fflu bron a'n cwpla ni yn y
Fynwant ’ma. Galw am fedda sy' o hyd, "Bedd y tu cefn i fedd yn y
nifwl," ys dwad Islwn. Y dydd o'r blan fe gwmpws un o'r bois ’ma mewn
llewyg wrth giso acor bedd. Onibai i'r
hen Ffeirad ala dracht o win iddo, fe
fysa wedi marw. Fe ddwad y Doctor taw effaith gormod o waith odd arno fa, a
bod y Spanish Fflu wedi neido i'r bedd ato fa. Odd y Doctor yn gwed i fod
ynta mwn galwad nos a dydd, ond odd yr hen ffeirad yn gwed taw gyta fe odd y
jobin mwya pwysig - paratoi eneidiau i wynebu barn, ond fod gwaith y doctor
yn darfod yn y fynwant a'i waith ynta yn dragwyddol. Yr odd y doctor yn gwed
fod un wedi marw ddoe o herwydd byta bwyd sur; un arall cyn hynny o herwydd yfad gormod o
shampane. Y Spanish Fdu odd yn cal y bai, a'r diwadd odd beio'r doctor. A fi
wetas wth y doctor am iddo ala'r gleifion yma, bysa'r ffeirad a finna yn i
claddu nhw'n barchus. Ma llawar o gintach am fod shwd bris ar y bedda; wel,
plant Duw yw pawb a Duw bia'r daiar. Ma dyn sy'n gwitho'n galad i godi teulu
mawr yn deilwng o fedd yn ddidal, eto rhaid talu am drefan ar y fynwant,
nwmbars ar y bedda, fel y dwad Islwn: Fel na bo eisiau fora'r deffro Holi un Mair, na Martha eto Pa le dodasid ef i huno. Rhaid i’r hen glochydd gal rhwbath i fyw, alla inna ddim
gwitho am ddim; ond talu am y tir sy'n ddrwg, rhaid yw talu am lafur. Dyma’r
clochydd yn dod eto. Ordors am fedd i rywun. |
....
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ
ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ
ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_132_llith-y-torwr-beddau_0217k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 21-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 21-06-2017
Delweddau:
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r
Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait