kimkat0221k Catiau Cwta Catwg. Y Darian. "Cas yw'r gwirionedd yn y lle na charer," medd yr hen ddiareb.

10-07-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0221k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Catiau Cwta Catwg.
(Y Darian).

(Cynhwysa ddarnau o dafodiaith Morgannwg a Gwent,
neu’r ‘Wenhwyseg’).


 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

None

 

(delwedd 5759)

 

Y Darian.

19 Mai 1916.

Catiau Cwta Catwg.

 

"Cas yw'r gwirionedd: yn y lle na charer," medd yr hen ddiareb, ac anawdd ydyw anghofio camweddau'r gorffennol, er mor faddeugar y dichon i ddyn fod. Yn canlyn wele bennill a gyfansoddodd rhyw brydydd yn Sir Aberteifi yn agos i hanner can' mlynedd yn ol pan oedd rhai o'r bobl  yno am eu bod yn digwydd bod yn Rhyddfrydwyr cydwybodol yn cael eu troi allan o'u tai a'u tiroedd gan y perchnogion Ceidwadol dialgar, a phan y cauwyd i fyny mewn un plwyf hyd yn oed y capel Anghydffurfiol:

 

"Shon bach o Benrhiw Road, Weles i shwd beth erio'd!

Cnwd o borfa'n tyfu'n las

Ar y ffordd i Foddion Gras!”

--

Ymddengys fod “whisky” a "brandy” yn cael eu hyfed yn dra helaeth mewn rhai parthau o Gymru flynyddau lawer yn ol - mwy felly, efallai, nag yn y dyddiau hyn, oherwydd fod y Llywodraeth yn ddiweddar, o achos y Kaiser a'i ryfel melldithiol - ond "bendithiol," fe ddichon, yn yr ystyr yma - wedi gorfod dodi trethi drom ar y gwirodydd hynny. Fel hyny ceryddodd yr hen fardd, Llwydfryn Hwfa, Gogledd Cymru, un o'i gymdogion oedd yn hynod am ei syched a'i ymroddiad i'r gwlybyrod tanllyd a enwyd: -

 

"Fe losgaist dy fol a whisgi - cysgaist

Uwch cascen o frandi!

Ddiwrnod tost ddaw arnat ti -  Hêl esgyrn i'w hail-losgi!"

-–

Gwir y dywedodd rhywun - "Pe byddai i'r holl 'starch' sydd yn wynebau rhai pobl gael ei gymeryd oddi yno a'i roddi yn ein crysau y byddai llai o gwyno am yr olchwraig." Un o'r bobl hynny oedd y "gwrthwynebwr cydwybodol” a glywais yn crochlefain rai dyddiau yn ol yng nghlyw ei gymdogion. "Yr wyf, wrth lwc, yn ddeiliad rhydd o wlad rydd, ac yn sefyll fel dyn ar graig ddiysgog rhyddid i bob barn a chydwybod dda.” "Nac wyt, yn wir, fy machgen mawr i," atebai ei grydd, yr hwn oedd yn ei wisg nlwrol a newydd ddychwelyd gartref o Ffrainc yn glwyfedig, "Yr wyt yn sefyll ar wadnau esgidiau na thalaist ti na neb o'th dylwyth erio'd am danynt!" Bore drannoeth yr oedd y crydd mor lwcus a derbyn 10s. 11d. mewn "postal order” am yr esgidiau, ac yr oedd y swm yn llesol iawn iddo ef a'i deulu ar y pryd.

--

Gan gofio'r hen ddiareb yn ddibaid, sef "A fynno glod bid farw," byddai ambell fardd neu lenor doeth yn yr oesoedd gynt yn hytrach na gadael ei gymeriad yn hollol yng ngofal ei berthnasau neu ei gyfeillion yn gofalu mewn pryd ddarparu y beddargraff a chwenychai. Dywedir fod y diweddar Mr. Jonathan Reynolds (Nathan Dyfed), Merthyr Tydfil, yn un o'r i doethion barddol hynny, a'r beddargraff a wnaeth iddo'i hun yn 1848, flynyddau lawer cyn iddo fynd o'r byd yma, oedd hwn: -

"Sut am a fu? Ust! dyma fedd -  Nathan.

Nwythus fardd, o duedd

Go dda, go ddrwg, gwawd, gwg, gwagedd,

Fu'i reolwr hyd farw, a'i wledd."

 

A gerfiwyd y geiriau ar ei garreg fedd nid wyf yn digwydd gwybod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5760)

 

A ydyw yn wir fod y llinellau a gofnodir isod wedi cael eu gweled yng nghladdfa'r Methodistiaid ym Myddfai, Sir Gaerfyrddin, flynyddau yn ol? Os ydyw, gallwn fod yn sicr na chyfansoddwyd hwynt erioed gan Sarah ei hunan, pwy bynnag oedd hi, a pha mor enwog bynnag oedd hi fel cantores. Dyma'r llinellau fel y clywais eu hadrodd, os ydyw fy nghof yn dal yn gywir: -

 

"Cyrhaeddodd Sarah fyd

Y gwaredigion,

A chanu mae o hyd

I Frenin Seion;

A medra'r gân mor glir

Nes tybia rhai, yn wir,

Ei bod hi yno'n hir

O flaen angelion!"

--

Mawr y wybodaeth ydym yn [g]allu gasglu o hen ganeuon am helyntion y byd a'i bobl yn y gwahanol gyfnodau y denwyd y prydydd parod i'w darlunio hwynt mor syml i oesoedd lawer ar ol hynny! Er engraifft dengys yr hen bennill Canlynol y clywid ei ganu yn fynych yn ardaloedd gwledig Cymru yn yr hen amserau fod galwad fawr am ferched bochgoch a gweithgar ein  gwlad yn Llundain i chwynu gerddi'r "gw^yr mawr" yno, am fod y bobl hynny eu hunain yn rhy anneallus, yn rhy ddiwyd, neu yn rhy ddiog i gyflawnu gorchwyl mor syml: -

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

 

(delwedd 5761)

 

"Mi âf i Lundain G'lanmai,

Os byddaf byw ac iach,

Ni safa'i ddim yng Nghymru

I dorri 'nghalon fach;

Mae arian braf yn Llundain,

A swper gyda'r nos,

A mynd i'r gwely'n gynnar

Gan godi'n fore'n glos.”

--

Dywedir a fynner am feiau neu ddiffygion deiliaid amrywiol yr Unol Dalaethau, y mae eu crefyddwyr yn sefyll mor uchel ag eiddo unrhyw genedl arall ar wyneb y ddaear, os nad yn uwch, ynghyd a'u gwybodaeth eang am leoliad, daearyddiaeth, a hanesiaeth swynol Tir Sanctaidd Palestina, neu wlad Canaan, sydd yn awr, yn anffodus, yn dioddef oddiwrth anrhaith ac erchyllterau rhyfel melldithiol y Kaiser a'i gw^n annwn! Y mae o leiaf ddau reswm da yn cael eu rhoddi am eangder neu ragoriaeth gwybodaeth ein perthnasau o'r ochr draw i'r Werydd yn y cyfeiriad yna. Y cyntaf ydyw fod lluaws o eglwysi'r Talaethau yn caniatau i'w gweinidogion dalu ymweliad a Phalestina, ac yn dra haelionus yn dwyn yr holl draul. Yr ail reswm ydyw am fod y gweinidogion hynny ar ol dychwelyd gartref yn llwythog o fanylion ychwanegol a gasglwyd yn bersonol ganddynt yng Ngwlad yr Addewid, yn arfer dysgu o'u pulpudau ddaearyddiaeth Feiblaidd i'w cynulleidfaoedd, ac egluro hynny drwy gymorth darlunlenni nes argraffu y wers yn fwy dwys ar feddyliau'r gwrandawyr. Pa bryd y ceir gweled eglwysi Cymru a'u gweinidogion yn gwneud cymaint o ddaioni a hynny i'w cynulleidfaoedd hwy?

--

Po gofynnid i rywun heddyw at bwy y cyfeiriai "enaid proffwydol" un o'n cyn-feirdd mor hyll yn yr englyn canlynol, yr wyf yn sicr yr atebai'n gywir ac yn ddibetrus mai at Satan, neu y Kaiser, fel y gelwir ef yn fwyaf cyffredin yn awr: - 

"Cawrywiad ddofn a ofnwn, - daw ellyll

A dwylla fil-miliwn;

Wele freiniawl faer annwn - 

Du fwli hyf dieifl yw hwn!”

 

Ond i chwi ddodi'r darlun erchyll yna i hongian ar fur eich ystafell wely, gyfferbyn â'ch wyneb, chwi fyddwch yn sicr o fynd i orffwys yn y nos, a chodi bob bore cyn toriad y wawr heb ofyn am oleu canwyll, nag olew, na nwy, na thrydaniaeth, a byddai'r fath gynhildeb yn help mawr ar hyn o bryd i symud y Satan, fel y mae  yn y cnawd, oddiar wyneb y blaned hon am byth!

--

Eto, pe bae mab lladronllyd y Kaiser, sef y Tywysog Coronog, yr hwn sydd wrth ei fodd pan y gwel efe yn y tai neu'r eglwysi glociau, llestri arian, a'u cyffelyb, gwerth eu meddiannau, yn medru darllen Cymraeg, a phe chwenychai gad y Beibl yn yr iaith honno, naill ai fel anrheg neu fel yspail, pa un o'r gwahanol argraffiadau, hen neu, ddiweddar, a fyddai'n debig o ddygymod a'i "gydwybod" bach ef? I ateb y cwestiwn fy hunan, anturiaf ddweyd mai yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1546, oblegid yn hwnnw yn hollol ddifwriad, yn ddiameu, gadawyd allan o'r Deg Gorchymyn yr wythfed, sef "Na ladratta!" Os oes copi o'r Beibl hwnnw yn meddiant rhyw sefydliad neu berson yng Nghymru, gobeithio y cedwir llygaid craffus a gwyliadwrus arno yn ddibaid, yn ogystal ag ar y "Tywysog Coronog," os digwydd i'r arch-leidr ddyfod yn agos atom i "wydd-gamu” am ychwaneg o yspail!

--

Y mae'r englyn canlynol a gyfansoddodd Twm o’r Nant i ryw greadur hynod o hagr a phechadurus a welodd ef cyn llosgi "coke" yn debig i ryw raddau i'r yspeilgi uchod gyda'r eithriad o'r enw a'r gwaith, a'r ffaith waradwyddus fod y "Tywysog Coronog" eisoes yn “eiddo y diafol" (ei dad) er pan y ganwyd ef: - 

 

"Tân uffern wyt yn ei hoffi - yn sicr,

Mae'r 'sharcoal’ yn poethi;

Oni newidi di, Nedi,

Eiddo y d---l fyddi di!"

 

 

 

....

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_135_catoiau-cwta-catwg_0221k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 10-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 10-07-2017
Delweddau: 
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait