kimkat0222k Llith Dafydd Gwr Nansen. Y Darian. “Clyw, y llymgu baclog," ebai, “pwy ddwedodd wrthot ti dy fod yn gallu llywio bad ar y cynel?”
12-06-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ●
● ● kimkat0222k Y tudalen hwn
...
|
|
(delwedd 5763) |
18
Mai 1916. Y
Darian. Llith
Dafydd Gwr Nansen. (Parhad.) Mr.
Golygydd, - Ni
chafwyd fawr trafferth i gael y meistr a'r bardd allan, oherwydd dechreuodd y
telynor ganu “Ymdaith Gwyr Harlech" mewn double quick time, fel yr oedd
yn byfrydwch sylwi ar eu symudiadau yn y dwr dan ysbrydiaeth cerddoriaeth
swynol y delyn, ac fel y sylwyd ni fuont fawr amser cyn cyrraedd y lan, a bu
y bardd am rai eiliadau yn cadw y step yn ol ac ymlaen, a chredaf na fuasai
wedi sefyll eto onibai i Nansen mewn llais double bass waeddu “Holt."
Mae rhyw ysbryd milwrol rhyfedd wedi cydio yn y bardd er pan ddechreuwyd
brwydr fythgofiadwy y llaeth a'r wyau, ac y mae wedi cael un stripe a llun y
goron arni er dangos ei fod yn un ag awdurdod ganddo ar faterion milwrol. Os
enilla efe ragor o stripes, a thepig y gwna, bydd raid iddo gael rhagor o
freichiau neu estyn y rhai sydd ganddo yn barod, oherwydd mae y stripen sydd
ganddo yn awr bron a chuddio un fraich. Ond
gyda fod y meistr yn gosod ei draed ar "terra firma," ys dywed yntau,
i ffwrdd ag ef fel dyn ynfyd at y gwr oedd wrth y llyw, ac yn dechreu dweyd y
drefn yn o arw wrtho, “Clyw, y llymgu baclog," ebai, “pwy ddwedodd
wrthot ti dy fod yn gallu llywio bâd ar y cynel? Gollwng yr helm a dere mas;
chyrhaeddwn ni ben y daith fyth fel hyn; dere mas, dyma'r ail waith i'r bad
fynd yn sound ’da ti; dere mas, neu di, dere mas." "Na, na,"
meddai'r Llew dipyn yn spetilyd [sic; = sbeitlyd], "rw i yn deall
navigation gystal a ti un awr o'r dydd." “Navigation! navigation!"
ebe'r meistr ar dop ei lais, "dishgwl yma, ’does dim mwy o navigation yn
dy ben di nag odd yn mhen hen asen Stroud gynt. Dere mas, dere mas." Fel
y gwelwch un penderfynol iawn yw y meistr, ac yr oedd y Llew mor ’styfnig a'r
asyn a soniwyd am dano, ond yr oedd Dafydd y Crydd fel arfer a'i lygad ar ol
pobl, ac yn gweled perigl o dywallt gwaed, oherwydd yr oedd allwedd y lock yn
llaw y meistr, a chnepyn o lo yn llaw y Llew, a golwg fygythiol ar y ddau.
Ond cyfryngodd y Crydd mewn pryd, a chafwyd gan y Llew roddi y llyw o'i law,
gan fod cymaint o anawsterau mordwyol o'n blaenau; hynny yw, mud banks, a salmon
tin banks, etc., pethau sydd yn gyffredin iawn yn y rhan yma o'r cynel. Er
cael trefn gosodwyd y llyw yn llaw Nansen, ac ni chafwyd trafferth mwyach;
ond cyn cychwyn galwyd sylw y cwmni at Wil Tilwr, y Meistr, a'r Bardd, a edrychent
yn eu dillad gwlybion fel pe baent wedi bod dros eu pennau yn samplo llaeth
Portardawe. Cynhygiodd y Telynor, gan nad oedd fawr pwysau cornfforol yn
perthyn iddynt, eu bod yn cael eu hongian wrth raff y bad hyd nes byddent
wedi sychu. “Na," ebe Llewelyn Faclog, “peidiwch gwneud hynny, rhag ofn
i drigolion Ystalyfera gredu ein bod wedi dal rhai o'r Irish Rebels, a'n bod
wedi eu hongian a dyfod i'w dangos ar hyd y wlad, er fy mod yn credu yn
gydwybodol fod llawer o waed ac ysbryd y Gwyddel yn Wil Tilwr, a'i fod yn
haeddu cael ei hongian, ond gan fod cymaint o alw am bob peth sydd ar lun dyn
yn bresennol, yr wyf yn gorfod bod yn dawel rhag ofn ei golli. Barnai un o foys
Llwynbedw mai y peth doethaf fyddai
cael y Telynor i chwarae Harlech eto mewn double demi semi quavers, a gosod y
tri i gadw y step am dri chwarter awr, yr hyn a'u gwnelent nid yn unig yn
sych tuallan ond y tufewn hefyd. Ond ar hyn dyma'r Ap, y Telorydd, a'r Barbwr
yn dod i'r golwg, ac yn trefnu i roddi benthyg pobo suit sych i'r tri
physgodyn. Felly gwnawd trefniadau er ail gychwyn. Gosodwyd y ceffylau ar y
llwybr iawn, a'i cyfeiriad at Borthywawr; a chafodd yr Ap, Telorydd, y
Barbwr, a minnau y fraint o ymuno a chylch cyfrin Dafydd y Crydd & Co. ar
ganol y bâd, a chefais arddeall fod yr oil o'r cwmni yn cyfeirio at
Borthywawr. Felly gosodais fy hun yn gartrefol, am nad oedd angen ofni gan
fod y llyw yn llaw Nansen, a Meistr y Cynel yn cadw llygad ar Llewelyn Faclog
a Wil Tilwr, ac wedi eistedd yn y cylch deallais mai yr hyn oedd dan sylw
ganddynt oedd darlun tlws mewn oil painting amrywliwiog o Dramp enwog y Darian. (I barhau.) |
....
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: Æːæːā
ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ
ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ
/ ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ
ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ
əʊ /
ә ʌ ẃ
ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ
ỳ Ỳ [ә
gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_136_llith-dafydd-gwr-nansen_0222k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 10-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 10-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait