kimkat0295k Y Dieithryn. 1922. D. T. Davies. Drama un act yn nhafodiaith Morgannwg, neu’r ‘Wenhwyseg’.

26-01-2021
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0295k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Y Dieithryn.
D. T. Davies. (Y Llenor, Cyrol 1, 1922)

(Yn nhafodiaith Morgannwg a Gwent,
neu’r ‘Wenhwyseg’).

 


 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

 

None

(delwedd 5907) (tudalen 87)

87
Y DIEITHRYN.
DRAMA MEWN UN ACT.

Cymeriadau:

Y FFERMWR,
EI WRAIG,
Y DIEITHRYN,
IANTO'R BUGAIL.

[GOLYGFA: Cegin fermdy ar ben un o fynyddoedd Morgannwg. Yr aelwyd ar y chwith a bwrdd mawr gerllaw; bwrdd bychan wrth ochr y mur ar y dde. Drws ar y chwith ac un arall tua'r canol yn y cefn•]

Y WRAIG: Ma Ianto'n ddweddar iawn heno, ondywa?

Y GWR: Oti ma-fa, ma'r defid dicin yn drafferthus nawr.

Y WRAIG: ’Dych — chi ddim cretu fod yr hen
ŵr yn rhy ffiletig i fod mas acha bob tywydd nawr?

Y GWR: Ffiletig oti, ond dyna, gita'r defid y mynn a fod. (Yn gwrando.) Dyma fa'n dod.

Y WRAIG: Ma na rywun gita fa. Rwy fel tswn-i'n clwad s
ŵn dou geffyl.

Y GWR (yn clustfeinio): Rwy inna hefyd. Y ma 'na ddou geffyl.

Y WRAIG: Dyna nhw'n aros o flân y ty.

Y GWR (yn codi ac yn symud tua'r drws yn y cefn): Pwy all fod 'na? (Yn agor y drws.)

Y WRAIG: Pwy sy 'na?

Y GWR (yn syllu allan): 'Dos 'ma neb.

Y WRAIG. Be' chi'n gisho wed! Ond glwsoch chi sŵn trad ceffyla?

Y GWR: Wel am do; fe clwsoch chitha nhw hefyd.

Y WRAIG: Do; s
ŵn dou geffyl yn tynnu at y ty.

Y GWR: 'D os 'ma neb nawr, tapûn.

Y WRAIG: Neb!

87

 

 

None

(delwedd 5908) (tudalen 88)

88


Y LLENOR

Y GWR: Na dyn na cheffyl: a ma na drwch o niwl ar y mynydd. (Yn cau'r drws a dychwelyd i’r aelwyd.)

Y WRAIG: Ma na rwpath ryfadd iawn yng1y^n â'r hen
ŵr, rwpath annaturiol, yn enwetig y mishodd dwetha ma. Garw na fysa fa'n — .

Y GWR: Nawr nawr, pitwch â wilia felna. Fydd a fawr o dro, druan ag e, cyn yn gatal ni.
Rwy'n erfyn i gâl a, unrhyw ddwarnod nawr, yn gorff marw ar ben un o'r cripa na.

Y WRAIG: Ma fa bron â nrysu i tapûn. Rych chi'n gallu cysgu mor drwm, a 'dych chi'n clwad dim, ond fe fuas i ar ddihun bron drw'r nos nithwr.

Y GWR: Odd a'n clepran?

Y WRAIG: Odd, a mawr odd i helbul a.

Y GWR: Beth odd a'n wed nithwr?

Y WRAIG: Wilia gita hi odd-a, fel arfar. “O'r gora, nghrotan-i," mynta fa, “rwy'n dy glwad di. Paid â gofalu, fe fydda i yno — bydda, bydda, fe af fi i gwrdd ag e."

Y GWR: Druan â Ianto; dyna beth sy ar i feddwl a o hyd.

Y WRAIG: Gwetwch yn wir, otych-chi'n cretu i fod a'n gallu chlwad hi?

Y GWR: O ble y gall-a i chlwad hi, a hitha yn i bedd ys hannar can mlynadd!

Y WRAIG: Wn i ddim, chlwas i sôn am neb a garws ferch gymant ag y gnath Ianto. Falla fod cariad mor fawr yn i helpu a i chlwad hi'n wilia o'r byd arall.

Y GWR: (yn swta): Wel ma'n rhaid genni fod y byd arall yn acos iawn inni, wath lan llofft ma fa'n i chlwad hi.

Y WRAIG: Falla fod y byd arall yn acos iawn i rywun fel Ianto. (Yn gyfrous.) Clywch, dyna sŵn ceffyla unwaith eto!

Y GWR (yn gwrando): Yr un s
ŵn yn gwmws ag o'r blân.

Y WRAIG: Ma na ddou geffyl hefyd.

Y GWR (yn clustfeinio): Poni fach Ianto yw un ohonynhw. (Yn Codi.)

Y WRAIG: (yn ofnus, gan gydio yn ei fraich): 'Roswch funad; pitwch acor y drws.

Y GWR (yn ymysgwyd o'i gafael): Pwy isha i fi bito acor y drws sy? Dyna nhw'n aros o flân y ty.

88

 

 

None

(delwedd 5909) (tudalen 89)

89

Y DIEITHRYN

(A'r GWR i agor y drws a syll allan. Yn union, gwelir y DIEITHRYN yn nesu ac yn sefyll ger y trothwy.)

Y DIEITHRYN: Maddeuwch ifi am aflonyddu arnoch yr adeg yma o’r nos. Fe gollas y ffordd ar y mynydd yn y niwl ac onibai am yr hen fugail yna, wn i yn y byd sut y bysa hi arnai.

Y GWR: Ma na groeso calon ichi ddod miwn, ddyn diarth.

Y DIEITHRYN (yn dyfod i mewn): Diolch ichi.

Y WRAIG (yn wresog): Gadewch ifi gymryd ych cot fawr chi.
Rych chi'n siwr o fod yn 'lyb diferu; ma na hen niwlan gas gita hi heno. Na'n wir, rych chi wedi achub yn dda iawn. (Yn ei helpu i ddiosg ei got fawr.)

Y DIEITHRYN: Diolch ichi, wraig fach. Un rhyfedd iawn yw'r hen fugail yna. Rown i wedi colli'r ffordd yn lân yn agos i Garn Moesau; fe wyddwn fod Craig-y-Llyn gerllaw ag odd ofan arnai i symud rhyw lawer, a dyma fe'n dod ar y nhraws i o ganol y niwl. “Dilynwch fi," medde fe — a ches i ddim gair arall oddiwrtho, er holi a holi.

Y GWR (yn gwenu); Naddo, feginta — 'dyw a'n gallu clwad dim.

Y DIEITHRYN: Yn fyddar, ai-e?

Y GWR: Fel post.

Y WRAIG: Ond tsa fa'n gallu gweld ych wynab chi, fe'ch diallsa chi. Ma fa'n gallu darllin gwefusa.

Y GWR (yn trefnu cadair iddo ar yr aelwyd): Fyddwch chi cystlad a dod ymlân, os gwelwch chi'n dda. Ishteddwch.

Y DIEITHRYN (yn eistedd): Diolch. 'Dos genni ddim symiad eto ble'r wy. Rhywle uchlaw Aberdâr, ai-e?

Y GWR: Y dyn dyshefo ni, rych chi filltirodd o’r manny! Rych chi'n llawar nes i Gwm Rhondda.

Y DIEITHRYN (yn syn): Cwm Rhondda!

Y GWR: Wei, am ia.

Y DIEITBRYN: Beth yw enw'r fferm yma, ynte?

Y GWR: Nythybarcud.

Y DIEITHRYN: Nyth - y – (yn methu, ac yn pwyso'n ol yn drwm yn ei gadair fel pe mewn llewyg. Rhed y GWR ato.)

Y WRAIG (yn gyffrous): Beth sy'n bod?

Y GWR: Estynnwch y botel fach na ifi. (Estyny WRAIG y botel iddo oddiar y dreser gerllaw.)

89

 

 

None

(delwedd 5910) (tudalen 90)

 

90

Y LLENOR

Y WRAIG: Ma fa wedi câl ffit.

Y GWR: Nagyw, nagyw — yr oerfal a'r gwlybaniath odd yn ormod iddo fa. (Wrth y DIEITHRYN). Cymrwch ddiferyn o hwn. (Yn gosod y botel wrth ei wefusau.)
Un diferyn bach eto, dyna chi. (Dadebra'r DIEITHRYN ac eistedd i fyny.)

Y DIEITHRYN: Ma’n ddrwg genni'ch blino chi fel hyn.

Y WRAIG: Pitwch â son, pitwch â sôn.

Y GWR: Ia'n wir, pitwch â sôn. Lwc o’r mwya Odd i'r hen fucal gâl gafal arnoch chi. Rodd hi'n ormod i ddyn o'ch oetran chi i fod mas acha noswath fel hon.

Y WRAIG: Otych chi'n teimlo'n well nawr?

Y DIEITHRYN: Yn llawar gwell, diolch ichi, yn llawar gwell.

Y GWR: I ble roch chi'n bwrw i pan gollsoch chi'r ffordd?

Y DIEITHRYN: 'Down i'n gneud dim ond cymryd tro ar y mynydd.

Y WRAIG: O ia.

Y GWR: A mod-i mor ewn a gofyn, nid dyn o’r gwmdocath hyn ych-chi, iefa?

Y DIEITHRYN: Na, brodor o — brodor o Sir Aberteifi wy-i.

Y WRAIG (yn gwenu): Cardi, iefa?
Fysa neb yn meddwl 'ny — rych chi'n wilia rwpath yn depig i ni.

Y DIEITHRYN: Falla'n wir — rwy'n cymryd tipyn o ddiddordeb mewn tafodiaetha.

Y GWR: Rych chi'n gyfarwdd â'r mynydda ma hefyd?

Y DIEITHRYN: Wel na, ma nhw bron yn hollol ddiarth ifi.

Y GWR: O, meddwl on i, wrth ych clwad chi'n sôn am Garn Moesa a Chraig-y-Llyn.

Y DIEITHRYN: Rwy'n dipyn o hynafiaethydd — wedi darllan llawar am hyn a'r llall. Dod o Ben Pych rown i pan gollas i'r ffordd.

Y WRAIG: Pen Pych iefa? Tsa hynny'n fatar ifi, beth sy 'no?

Y GWR: Fe wn i. Fe fuoch yn rhoi tro am Hendra'r Mynydd.

Y DIEITHRYN: le, ie — dyna lle buas i.

Y GWR: O ma na hanas mawr i Hendra'r Mynydd. Ag ych chi'n lico hanas hen betha?


Y DIEITHRYN: Ydw — pob hynafiaetha, caneuon gwerin a hen straeon.

90

 

 

None

(delwedd 5911) (tudalen 91)

 

91

Y DIEITHRYN

Y GWR: Glwsoch chi sôn am Nythybarcud o’r blân?

Y DIEITHRYN: Wel na, 'd alla i ddim dweyd mod i'n cofio, ac eto, ma na rwpath ar y meddwl i. (Cyfyd y GWR ac â i gongl i gyrchu Beibl mawr.)

Y WRAIG: Mynd i droi at y ford rôn ni pan ddithoch chi miwn. 'Dos gita ni ddim ond ticin o fara menyn a thamad o gaws. Gaf i ferwi cwpwl o wya ichi?

(Dychwel y GWR â’r Beibl yn ei law.
Daw IANTO i mewn yr un pryd ac â ar ei union at y bwrdd bychan ar y dde heb sylwi ar neb.)

Y DIEITHRYN: Na, ddim diolch ichi.

Y GWR: Fynnwch chi damad o ham ne gig? Mochyn halltson ni'n hunan yw a.

Y DIEITHRYN: Na, fynna i ddim, diolch ichi — fe gymra i gwpanad o de.

Y WRAIG: Ifwch chi fasnad o lath twym? Ma genni lymad yn barod ar y pentan.

Y DIEITHRYN: Wel yn wir, gan i fod a'n barod, fe gymra i ddiferyn o lath twym.

(Egyr y GWR y Beibl a thynn bapuryn allan.)

Y GWR: Sôn am Nythybarcud ôn-ni, ontefa. (Yn estyn y papur.) Welsoch chi honna o’r blân?

Y DIEITHRYN (yn edrych ac yn darllen): “Llofruddiad Nythybarcud."
Naddo, ag eto ma genni rhyw gof am yr enw.

Y GWR: Mwy na thepig. Ddeugan mlynadd yn ol — a racor — honna odd un o faleti mwya poblocadd Cymru — " Llofruddiad Nythybarcud." 'Dodd na ddim ffair o Gaergybi i Gaerdydd nag ôn-nhw'n canu honna'r amsar hynny.

IANTO (yn edrych i fyny): O'r gora, merch-i, o'r gora. Otw, otw, rwy'n dy glwad di.

(Y GWR a'r WRAIG yn edrych ar ei gilydd yn syn.)

Y DIEITHRYN (yn gyffrous): Beth ddwedodd e?

Y GWR: Pitwch sylwi dim arno fe. Ma fa'n clepran yn amal ag e'i hunan felna.

Y WRAIG (yn sobr): Dyna'r tro cynta ariod ifi glwad a'n gwed dim yn y gecin, a ninna yma.

Y GWR: Wel am ïa, ontefa, dim ond pan y bydd a wrth i hunan ma fa'n clepran fel reol.

91

 

 

 

None

 (delwedd 5912) (tudalen 92)

 

92

Y LLENOR

Y WRAIG: Ddewch chi at y ford nawr, os gwelwch chi'n dda?

Y DIEITHRYN: Diolch ichi.

(Dwg y WRAIG fasnaid o laeth a gesyd ef o flaen IANTO. Er mwyn tynnu ei sylw, dyd ei llaw ar ei ysgwydd, ac yna syll yntau i’w hwyneb.)

Y WRAIG: Dyna lwc i chi gâl gafal ar y dyn diarth.

IANTO: Lwc, wetsoch chi mistras?
(Yn ysgwyd ei ben.) Na — dyna fel odd hi i fod.

Y DIEITHRYN: Beth ddwedodd e?

Y WRAIG: Felna odd hi i fod, mynta fe.

Y GWR (wrth y WRAIG): Gadewch iddo. (Wrth y DIEITHRYN.) Ma’r hen
ŵr, druan, wedi dechra drysu ys blynydda, a gwath wath ma'n mynd bob dydd. Fe wetsoch ych bod chi'n lico hen straeon; wel, fe fentra i mywyd na chlwsoch chi ariod hanas tepig i Lofruddiad Nythybarcud. Dyw 'r hyn sy yn yr hen gân na yn ddim at yr hyn ddigwyddws wetyn. Ma na dros hannar can mlynadd nawr oddiar -

Y WRAIG: John, falla nag yw'r dyn diarth ddim am glwad hen hanas felna.

Y DIEITHRYN: O fe garwn i glwad yr hanas.

Y GWR: Rodd na ddou fachgan yn moyn caru â motryb i fi — whâr y nhad. Bid siwr, crotan ifanc odd hi, ucian ôd, a chrotan irfeddu, mynta nhw.

Y WRAIG: Tynnwch chi atoch chi, os gwelwch chi'n dda.

Y GWR: Ia, ia — fynnwch chi damad o gaws?

Y DIEITHRYN: Na, dim diolch ichi.

Y GWR: Gomar Williams, mab y Wern Fawr, fferm yr ochor draw i'r cwm odd un ohonynhw, a Ianto gwas Nythybarcud, gwas nhadcu, lwchi, odd y nall.

Y WRAIG: Ond cofiwch, y gwas ath â’i serch hi.

Y GWR: Cymrwch chi bwyll, nawr, ifi gael gwed yr hanas yn iawn. Ia, y gwas odd i chariad hi. Fe nath Gomar i ora glân idd i hennill hi, ond Ianto odd y dyn.

IANTO: Ia, ia, nghrotan i — yn gwmws fel y gwetast ti.

(Syll y DIEITHRYN ar IANTO.)

Y DIEITHRYN: A phwy mae e'n siarad?

Y WRAIG: Clepran â hi, ma fa.

Y DIEITHRYN: Y hi, pwy yw hi?

92

 

 

 

None

 (delwedd 5913) (tudalen 93)

 

 

 

93

 

Y DIEITHRYN

Y GWR: Gewch chi weld nawr pwy yw hi.

Y WRAIG: 'Dych chi ddim yn cwrdd â'ch llath; falla nag yw a ddim wrth ych bodd chi?

Y DIEITHRYN (yn esgus bwyta): Mae'r llath yn rhagorol, diolch ichi.

Y GWR: Tapûn, wedi i Gomar ffilu â'i châl hi — beth nath a acha un nos Sul, ond i lladd hi.

Y DIEITHRYN: Fe'i lladdodd hi!

Y GWR: Do; yn y man hyn ar yr aelwd lle'r ych chi'n ishta nawr.

IANTO; Hir yw pob aros, hir yw pob aros, ond ti odd yn iawn, ia, ia, nghariad i, ti odd yn iawn.

Y WRAIG: Beth yn y byd sy arno fa heno?

Y DIEITHRYN: Ydi e'n ych clwad chi nawr?

Y GWR: Dim gair, dim mwy na'r marw. Nid fel hyn odd yr aelwyd prynny. Lle tan hen ffashwn odd ma, ond pan priotas i — fe wyddoch shwt ma'r gwracadd ifenc yma, odd yn rhaid cal rwpath mwy up-to-date. Gorfod i nhadcu gwnni carrag fawr yr aelwyd, rodd na olion gwad arni, a 'dodd dim shwt beth a'i châl hi'n lân.

(Try r DIEITHRYN oddiwrth ei fwyd, fel pe ar fethu eto.)

Y WRAIG (yn cyfeirio at y DIEITHRYN): John — pitwch gwed racor.

Y GWR (yn codi): Ma'n ddrwg genni. 'Dôn i ddim yn meddwl –

Y DIEITIIRYN (yn troi atynt eto): O, 'dos dim a fynno'r hanas ngwaeledd i. Fel 'r och chi'n dweyd, falla mod i dipyn yn hen nawr i grwytro ar hyd y wlad fel hyn.

Y WRAIG: Wel yn wir, 'dwy i ddim am ych poeni chi, ond 'dych chi'n byta dim.
Ma genni fara cyrch yn y pantri, fynnwch chi damad o fara cyrch?

Y DIEITHRYN: Ddim diolch ichi; mae'r bara menyn yma yn flasus iawn.

IANTO: O’r gora, nghrotan i, o'r gora; paid gofalu dim, fe wna i yn ol d'orchymyn di; gnaf, gnaf, yn gwmws fel wyt ti'n gwed.

Y DIEITHRYN: Rhyfedd ynte — a 'dyw a'n clwad dim?

Y WRAIG: Dim gair.

93

 

 

None

 (delwedd 5914) (tudalen 94)

 

 

 

94 Y LLENOR

Y GWR: Falla bod yn well ifi dewi nawr?

Y DIEITHRYN: Na, na, ewch ymlân â'r hanas, os gwelwch chi'n dda.

Y GWR: Fe lwyddws Gomar i gilo, a os ych chi yn y man na, fe ath Ianto ar i ôl a.

Y WRAIG: Fe whilws amdano ymhobman.

Y GWR: Do, fe fuws Ianto'n crwytro ar hyd y byd am ucian mlynadd er mwyn dial i gariad.

Y DIEITHRYN: Lwyddodd e?

Y GWR: Naddo; fe ddath nôl sha thre, a'i wallt yn wyn fel yr eira — yn ddyn dwy a deugain ôd, a neb ohononi yn i napod a.

Y DIEITHRYN: Bobol annwl, - beth oedd hanas Ianto yn y diwadd?

Y WRAIG: I hanas a! Ond dyma fe man hyn. Y fe ddath â chi yma heno.

Y DIEITHRYN (bron wedi dychrynu): Ai dyna Ianto?

IANTO: Ia, nghariad-i — hir yw pob aros — ond ma'r diwadd yn y golwg nawr.

Y DIEITHRYN: Druan ag e. Siarad â hi y ma fa?

Y WRAIG: Ia.

Y GWR: Welas i ariod ohono fa cynddrwg â heno. (Cyfyd ac â ato.) Beth sy'n bod heno, Ianto?

IANTO: Dim byd, mishtir.

Y GWR: 'Dych chi ddim yn teimlo'n dda?

IANT0: Y fi? Otw, rwy'n teimlo'n hyfryd iawn heno, yn dawal iawn y meddwl heno. O ia'r dyn diarth – (yn troi at y DIEITHRYN) — Ma'n ddrwg iawn genni, syr, yn ddrwg iawn, wnewch chi fadda ifi, ond odd genni ddim bwriad i aflonyddu dim arnoch chi.

(Cwyd y DIEITHRYN ei law, ac ysgwyd ei ben. A'r GWR yn ôl i’w le.)

Y DIEITHRYN: Ydi e wedi bod yma byth oddiar hynny?

Y WRAIG: Oti, ys deng mlynedd a’r ucian. Yma odd i galon a, lwchi.

Y GWR: Do, fe ddath nô1 ma yn fucal at y nhad; odd a'n gwmws fel un wedi gwirioni.

Y WRAIG: A dim ond un peth odd ar i feddwl a.

Y DIEITHRYN: Ie?

94

 

 

 

None

(delwedd 5915) (tudalen 95)

 

 

 

 

95

Y DIEITHRYN

Y GWR: Odd a'n teimlo'n siwr y delsa Gomar nôl rwpryd ne'i gilidd.

Y DIEITHRYN: Wel wel — ddaeth e?

Y GWR: Do do. Faint sy oddiar 'ny nawr — deuddag mlynadd ontefa?

Y WRAIG: I 'r gaea nesa.

Y GWR: Fe'i cawd a, un bora, wedi rhewi mas manna ar bwys y ty.

Y DIEITHRYN: Pwy nabyddodd e?

Y GWR: O, Tomos i frawd, odd Tomos fyw prynny, a rhyw un ne ddou odd yn i gofio fa.

Y WRAIG: Bid siwr — odd amsar mawr wedi mynd hipo.

Y GWR: Odd, odd — a rhan fwya wedi anghofio'r cyfan amdano tapûn, - fe’i claddwd a'n ddistaw yn hen fynwant y plwyf.

Y WRAIG: 'Dych chi ddim yn cwrdd â'ch bwyd. Gaf fi grasu tafall o fara i chi?

Y DIEITHRYN: Na — ddim diolch ichi.

Y GWR: Ifwch chi lasad o gwrw?

Y DIEITHRYN: Ddim, diolch ichi. Fydda i byth yn cwrdd â diodydd meddwol, ond fe garwn i ddiferyn o'r brandi yna eto, os gwelwch chi'n dda.

Y GWR: Cymrwch chi — a phob croeso. (Y DIEITHRYN yn yfed.)

IANT0: Nage, nage – nhariad-i – paid â nghanmol i – i ti ma'r diolch, ia, i ti ma'r diolch.

Y DIEITHRYN (yn syllu ar IANTO): Druan ag e! Ag ’ron nhw'n hollol sicr mai Gomar odd y dyn gawd wedi rhewi?

Y WRAIG: Odd pawb — ond Ianto.

Y DIEITHRYN: Dyw e ddim yn credu?

Y GWR: Nagyw. Fe fynnws i weld a 'lwchi. “Nid Gomar yw hwnna," mynta fa wrtho i, “nid Gomar yw hwnna."

Y WRAIG: Ma fa'n i erfyn a nôl bob dydd.

Y DIEITHRYN: Yn disgwyl o hyd.

Y GWR: Oti, druan — dyna, am wn i, sydd wedi i gatw fa'n fyw cyd.

Y DIEITHRYN: Yn para i fyw er mwyn dial!

95

 

 

 

None

(delwedd 5916) (tudalen 96)

 

 

 

 

96

Y LLENOR


Y GWR: Wel na, dwy i ddim yn cretu fod rhyw lawar o ddial yn i feddwl a nawr.
Bid siwr, ma fa wedi mynd yn hen ag yn filetig ag yn llawar mwynach a mwy tawal i ysbryd nag odd a.

Y WRAIG: Erbyn meddwl, fe fuoch chi ar bwys y Wern Fawr heddy, hipo i ddrws y ty.

Y DIEITHRYN: Do?

Y GWR: Wel am do, hefyd. Otych chi'n cofio croesi rhyd fach a phompran ar y llaw dde ichi?

Y DIEITHRYN: Ydw.

Y WRAIG: Y Wern Fawr odd y fferm man'ny ar y bryn, lle macwd Gomar Williams.

Y DIEITHRYN: Felly'n wir.

Y GWR: A wedi ichi fynd mlân rhyw ddou led ca, rodd y fynwant yn y golwg lle claddwd a. (yn clustfeinio, ac yna wrth y
WRAIG.)
Ma'r un fach yn llefan.

Y WRAIG (yn gwrando): Oti ma hi. Wnewch chi f’esgusoti i? (A’r WRAIG allan ar y chwith.)

Y DIEITHRYN: Ai teulu Gomar Williams sydd yn y Wern Fawr nawr?

Y GWR: Na, dos na neb ohonynhw'n fyw nawr, am wn i. Fe dorrws i fam i chalon prynny, a buws i dad fawr amsar cyn i dilyn hi. Wetyn odd na ddou frawd a whâr, bob un wedi mynd. Tomos odd y dwetha. Na, rodd y tylwth yn gwmws fel tsa nhw wedi'u
rhipo.

IANTO: O'r gora, merch i, rwy'n clwad. Bydd di wrth law, cofia nawr.

Y DIEITHRYN: Druan a Ianto — druan ag e! Wel, dwedwch, p'un yw'r pentre agosa ifi fynd iddo heno?

Y GWR (yn syn): Ewch chi ddim odd'ma heno?

Y DIEITHRYN: Af yn wir, dallwn-i ddim meddwl ych trafferthu chi -

Y GWR: Pitwch sôn am draffarth. Ma ma wely ichi, a phob croeso, - os cymrwch chi ni fel ag yr ni.

Y DIEITHRYN: Diolch yn fawr ichi, ond fe fydd yn well genni fynd, os gwelwch yn dda. Oes yna hotel lawr yn y cwm?

Y GWR: Otych chi'n benderfynol o fynd?

Y DIEITHRYN: Ydw, gyda llawar o ddiolch ichi, yr un pryd.


96 

 

 

None

(delwedd 5917) (tudalen 97)

 

 

 

97

 

Y DIEITHRYN

Y GWR: Wel ma na le da iawn wrth otra'r mynydd hyn — a hewl o’r gora bob cam yno, hynny yw, os ôs raid ichi fynd.

Y DIEITHRYN: O ie, diolch ichi — mynd wnaf i.


Y GWR: O’r gora, fe gaiff Twm y gwas ych heprwng chi bob cam.

Y DIEITHRYN: Diolch yn fawr ichi.

IANTO: Otych chi wedi trin trod y gasag heno, mishtir?

Y GWR (yn codi): Nagw Ianto, a ma hi'n bryd idd i thrin hi hefyd. Ma'n well ifi nithir 'ny nawr ar unwaith.

Y DIEITHRYN: Falla byddwch chi cystal â dod â'r poni i fi gynta?

Y GWR (yn symud tua'r drws): Fydda i fawr o dro gita'r gasag, a fe ddwa i â'r poni yma i'r drws atoch chi. (Yn amneidio â'i ben i gyfeiriad IANTO.) Mynnwch air gytag e. Fe wiliff yn itha synhwyrol, cofiwch. (Egyr y GWR y drws a syll allan.) Wel, dyma beth nag wy-i ddim yn cofio i weld ariod o’r blân.

Y DIEITHRYN (O'r aelwyd): Ie?

Y GWR: Y niwl yn cwnni'r amsar hyn o’r nos. Ar ôl shwt drwch ag y geson ni heno, fydd a byth yn arfar cyffro cyn y bora.

Y DIEITHRYN: Mae Rhagluniaeth o'm hochor i heno.

Y GWR: Y ma hi'n wir. Fe fydd yn ola leuad cyn pen fawr amsar. Fydda i fawr o dro. (Yn mynd, gan gau'r drws.)


(Cyn gynted ag y diflanna'r GWR, cydia'r

DIEITHRYN yn ei got fawr, a gwisg hi. Cyfod IANTO o symud yn araf tua'r drws. Yna try, gan syllu i gyfeiriad y DIEITHRYN. Safant ill dau gan edrych yn fud ar ei gilydd am dipyn.)

IANTO: Ag wyt ti wedi dod o’r diwadd, Gomar.

Y DIEITHRYN (yn ceisio ei lywodraethu ei hun): 'Dwy-i ddim yn ych diall chi.

IANTO (yn nesu, gam neu ddau): Wyt-ti damad gwell o watu d'hunan i fi.

Y DIEITHRYN (yn symud cam tuag at IANTO): Rych chi'n camsynied, frawd bach.

IANTO: Camsyniad! Nagw. (Yn estyn bys at wyneb Y DIEITHRYN): Ble cest ti'r graith na sy ar dy wynab di? Gwinadd pwy fuws manna!

97

 

 

 

None

(delwedd 5918) (tudalen 98)

 

 

 

98

Y LLENOR


(Gesyd y DIEITHRYN ei law yn gyflym ar ei gern, a gwelir ef yn colli ei hunan-feddiant.)

IANTO: Dyna, dyna, machgan i, 'dos dim raid iti ofni. Naf i, druan, ddim niwad iti. Ishta lawr am funad. Rwy i am gâl gair genti — dyna i gyd.


(Eistedd y DIEITHRYN yn llesg mewn cadair tua chanol y llwyfan gan wynebu IANTO o hyd.)

IANTO: Fuast ti yn y Wern Fawr heddy?

Y DIEITERYN (yn amneidio): Do.

IANTO: Druan a ti. Ma nhw i gyd wedi mynd. Fuast ti yn y fynwant?

Y DIEITHRYN: Do.

IANTO: Ma'r byd wedi dy gladdu di, Gomar. Falla ta felna ma hi ora. (Yn edrych i fyny.) O’r gora, y merch i, dyma ni gita'n gilydd o’r diwadd. Glwast ti ddi, Gomar?

Y DIEITHRYN (yn ysgwyd ei ben): Naddo.


IANTO: Dyna iti beth ryfadd, ontefa? Rwyt ti'n gallu clwad pawb arall, 'dwy inna'n gallu clwad neb ond y hi. Y nghrotan i yw hi, ’li di, y nghariad i — 'dos na neb arall pia hi. Ma golwg raenus arnot ti, Gomar. Wyt ti wedi dod mlân yn y byd?

Y DIEITHRYN (yn amneidio): Rwy'n ddyn cyfoethog.

IANTO: Ia 'r wyt ti. Ble buast ti — Merica?

Y DIEITHRYN: Ia.

IANTO: Ble 'no?

Y DIEITHRYN: New York.

IANTO: Fe fuas i yno, ond chlwas-i ddim amdanot ti. Fe fuast yn Scranton hefyd?

Y DIEITHRYN: Do.

IANTO: Geso i beth o dy hanas di 'no, ond yn ym myw y gallwn i ddod o hyd iti. Blynydda tywyll odd rheiny, Gomar. 'Dodd na ddim yn y nghalon i ddydd a nos am ucian mlynadd ond dial. Wyddost-ti, fe weddias ar Dduw — do, gannodd o witha, i f’arwan i atot ti. Bryd arall, 'ron i'n barod i werthu'm hunan, gorff ac enaid, i'r cythral, dim ond ifi gal gafal arnot ti. Ond nid felny odd hi i fod, 'li di.

Y DIEITHRYN: Diolch i Dduw am hynny.
98

 

 

 

None

(delwedd 5919) (tudalen 99)

 

 

 

99

Y DIEITHRYN


IANTO: Ia, ia, machgan i, ond fe ddylsat ddiolch iddi hi, hefyd.


Y DIEITHRYN: Iddi hi!


IANTO: Ia, iddi hi. Ar hyd y blynydda y buas i ar d'ôl di, ôn i'n teimlo, ta ffordd y troiswn i, fod na rhywun yn rhwystro a chamarwain. Yn amal iawn, pan y byddwn i ar dy sotla di, dyna fi'n dy golli di dan y nwylo. On ni'n diall dim prynny, cofia — ond dyna pwy odd 'na — y hi!


Y DIEITHRYN: Y hi!


IANTO (yn wresog): Nid er dy fwyn di cofia, ond er y mwyn i! Fi odd i chariad hi, di, y fi i chariad hi heddy. Wyt ti'n gweld, tswn i wedi dial arnot ti, chelswn i byth mo’i chlwad hi, byth i gweld hi, na byth fynd ati wetyn, ag odd hi am ifi gâl dod. Tapûn, fe geso i ryw dwymyn ne'i gilydd, fe gollas y nghlyw, a 'dodd genni ddim i nithir ond dod sha thre. Shwt fywyd gest ti?


Y DIEITHRYN: Bywyd ffoadur am flynyddoedd. Nid yn unig yn ffoi rhag cosb cyfraith, ond yn ceisio ffoi rhag euogrwydd cydwybod. Ymhen amsar, fe ges wena'r byd, fe gasglas gyfoeth. Ond er yr holl arian, 'dodd dim modd prynu llonyddwch.


IANTO: 'Dwy-i ddim yn diall hannar yr hyn wyt ti'n wed, ond cer di mlân, ma hi'n grondo.

 
Y DIEITHRYN: Ron i'n teimlo o hyd, ac yn fwy fwy y blynydda dwetha, fod na rwpath yn y ngalw i nôl ma.


IANTO: Yn dy alw di'n ôl wetast-ti? Dyna hi, 'li di, 'rwyt titha wedi chlwad hi, er na wyddat ti ddim o hynny.
Y hi odd yn galw.


Y DIEIHRYN: Y hi!


IANTO: Ia.
Pan ddetho i'n ô1 ma. (Yn edrych i fyny.) O'r gora, merch-i — cymar bwyll, cymar bwyll (yn gwenu). Glwast ti ddi ddetho i nôl ma, odd yr ysbryd dial yn para yn y nghalon i, a 'rodd hitha'n clepran a finna'n diall dim. A grondo nawr, dyma iti beth ryfadd, mwya i gyd on i'n gisho i dial hi, gwanna i gyd odd y blys am ddial yn mynd, a fel odd y blys yn gwanhau, on inna'n dod idd i diall hi'n well.


Y DIEITHRYN: Ag wyt ti'n i diall hi nawr?


IANTO: Yn weddol iawn, rhan fynycha, a wyddost ti un o’r petha cynta ddiallas i?


Y DIEITHRYN: Na wn.
99

 

 

None

(delwedd 5920) (tudalen 100)

 

 

 

100

Y LLENOR


IANTO: I bod hi wedi madda i ti.


Y DIEITHRYN (yn ddwys): Wedi madda!

IANTO: Ia machgan i (yn edrych i fyny.) Glwast ti? Dyna fi wedi gwed. (Wrth y DIEITHRYN.) A wyddast ti beth ddiallas i nesa?


Y DIEITHRYN: Na wn i.


IANTO: Bod yn rhaid i finna fadda iti, a dyna f'hanas i hyd yn ddweddar iawn, cisho dod â'm hunan i fadda iti. Fuas i am ucian mlynadd yn whilo amdanoti ar hyd y byd er mwyn dial, ond rwy wedi bod am fwy na hynny ar hyd yr hen fynydda ma, yn y niwl a'r glaw a phob tywydd miwn ymdrach galad i fadda i ti.


Y DIEITERYN (yn cod:): Ianto!


IANTO: Cofia, fyswn-i byth wedi llwyddo onibai amdani hi.


Ond dyma fi heno, yn gallu gwed yn rhydd (yn estyn ei law): Gomar, o y nghalon, ac yng ng
ŵydd Duw, rwy wedi madda iti. (Gafaela'r DIEITHRYN yn ei law.) Dyna, dyna, nghrotan-i, — glywi di ddi Gomar?


Y DIEITHRYN (yn ysgwyd ei ben): Beth ma hi’n wed?

IANTO: 'Dyw hi'n gwed dim, ond ma hi'n wherthin ag yn llefan.

Y DIEITHRYN: 'Dalla inna wed dim… 'dos genni ddim ond diolch… dim ond diolch.

IANTO: 'Dos raid iti, machgan i, 'dos raid iti. Iddi hi ma'r diolch. Dyna nghariad-i, dyna fi wedi catw at yr amod. Pryd ca i ddod nawr? Beth? Glwast ti ddi Gomar? (Yn llawan) Rwy'n câl mynd ati cyn y bora… cyn y bora!


Y DIEITHRYN: Ianto, Ianto!


IANTO: Dyna, dyna, machgan i, 'dos raid iti lefan o'm hachos i, fyddi ditha fawr o dro cyn dod aton ni. (Yn cydio yn ei law.) Shwrna dda iti nawr.


(Ceisia'r DIEITHRYN ddywedyd rhywbeth, ond metha. Ymlwybra fel un dall i gyfeiriad y drws, gan ei agor.
Gwelir ef yn pwyso yn erbyn y post ac yn anadlu'n drum. A IANTO yn ô1 i’w gadair.)


IANTO (yn gwenu); Cyn y bora, Cyn y bora!

(Ymddengys y wraig ar y chwith, a phan wêl y DIEITHRYN wedi gwisgo'n barod i ymadael, brysia ato'n syn.)

 
Y WRAIG: 'Dych chi ddim yn mynd!
100

 

 

None

(delwedd 5921) (tudalen 101)

 

 

101

Y DIEITHRYN

Y DIEITHRYN (yn ceisio ei feddiannu ei bun): Ydw, rwy'n mynd nawr.

Y WRAIG: A finna wedi partôi gwely ichi. (Gwelir IANTO fel pe yn syrthio i gysgu.)

Y DIEITHRYN: Diolch yn fawr i chi, ond ma'n rhaid ifi fynd nawr.

Y WRAIG: Ma'r niwl wedi cilo!

Y DIEITHRYN: Ydi — diolch i Dduw, ma'r niwl wedi cilio.

Y GWR (tuallan): Wel ma hi'n noswath hyfryd wedi'r cwbwl.

Y DIEITHRYN: Ardderchog — bendigedig!

Y GWR (wrth y drws): Fyddwch chi fawr o dro yn mynd; fe ddaw'r gwas i’ch heprwng chi.

Y DIEITHRYN: Diolch yn fawr i chi'ch dou am y'ch croeso a'ch caredigrwydd.

Y WRAIG: Pitwch â son.

Y GWR: 'Dos raid ichi, 'dos raid ichi.

Y DIEITHRYN (yn ysgwyd llaw ir ddau): Wel, noswath dda ichi.

Y GWR: Noswath dda.

Y WRAIG: A shwrna. dda, hefyd.

(Y DIEITHRYN yn mynd. Clywir ei s
ŵn yn ymadael. Symud y GWR a'r WRAIG gam neu ddau ar ei ôl nes mynd o olwg y gynulleidfa.)

Y WRAIG: Cofiwch alw os byddwch chi'n dicwdd mynd hipo.

(Clywir y DIEITHRYN yn ateb, eithr yn annealladwy. Yna gwelir IANTO yn cyffro ac yn neidio yn hynod o egnïol ar ei draed.)

IANTO: Ia, nghrotan-i, ot-ti'n galw? Beth
nawr? O’r gora nghariad annwl i, dyma fi'n dod (yn symnd tua'r canol) rwy'n dod… rwy'n… (syrth yn ei hyd ar yr aelwyd.)

LLEN.

D.T.DAVIES.

NODIAD. Gofynnir tâl o hanner gini am ganiatâd i chwarae'r ddrama hon.

Danfoner ceisiadau at Educational publishing co., 55 and 57, Penarth Road, Cardiff.

101

 

-           

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_143_y-dieithryn_0295k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 10-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 21-01-2021. 12-08-2017, 10-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?



Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yûu äa-r víziting ə peij frôm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats (Y Wenhwyseg / el dialecte gwentià / Gwentian)