26-05-2018
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg
yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0299k Y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
10 Medi 1896 10-09-1896
24 Medi 1896 24-09-1896
.....
01 Hydref 1896 01-10-1896
08 Hydref 1896 08-10-1896
15 Hydref 1896 15-10-1896
22 Hydref 1896 22-10-1896
.....
05 Tachwedd 1896
05-11-1896
12 Tachwedd 1896 12-11-1896
diddelwedd; testun i’w gywiro J7845
19 Tachwedd 1896 19-11-1896
.....
10-12-1896 diddelwedd; testun
i’w gywiro J7887
17 Rhagfyr 1896 17-12-1896
.....
11 Chwefror 1897 11-02-1897
....
|
|
(delwedd 5939) (10 Medi
1896) |
10-09-1896 Tarian
y Gweithiwr. 10 Medi 1896. PENTAN
SHON IEFAN. MISTR
GOLYCIDD, - Rw i wedi bod yn meddwl shaw yn ddweddar am hela pishin bach i'ch
papar chi, ond dw i fawr o sgolaig - cheso i fawr o fontesh eriod i ddyscu,
ne wi'n meddwl y galswn i yn nêt; ond ma llawar o'r dynon sy'n prynu'ch papar
chi fel fina, wedi cial 'i macu yn Shir Forgianwg ag w i yn siwr y dialla nhw
fi yn biwr. Holo! beth odd hwna nawr? - “Ag
w i yn siwr Y
dialla nhw fi yn biwr." Ma
felsa tinc yr hen Dwm Hywal Ll’welyn yn y ddwy line yna, dyn. Fe odd y'n
bardd ni yn y cwm hyn yn yr hen amsar. Ond yn wir, heb yn wpod i fi y dath y
ddwy line yna; pidwch a chretu mod i yn fardd. Ma
peth ofnadw o'r TARIAN yn dod i'n cwm ni, a fi weta i yn blaim yn ych gwynab
chi - dos fawr o ddim iddi gial yndi bothti Cwm Rhondda, a dw i ddim yn diall
pam, achos fe wyddoch chi gystal a neb na dos dim cwm yn y byd - wn i ddim am
y North Pole, ma Nansen (own i'n meddwl ta meniyw odd hwn, cyn i Shon Iefan
weid ta gwr-ne-was odd a) wedi bod yn trio mynd yno, ond fe ffaelws; ond wi'n
siwr nag os dim cwm yn y ‘byd' mor enwog a'n cwm ni. Os
ych chi'n moyn pwlla glo, dewch i'n cwm ni. Os ych chi'n moyn gweld llond lle
o ddynon o bob sort, dewch i'n cwm ni. Os ych chi'n moyn gweld Rhyfrydwrs
reit, dewch i'n cwm ni - waniff dim un Tori ei drwyn i miwn yma. Chi wyddoch
ta yma ma'r ciantwrs gora yn y byd; boys y cwm hyn faeddws y byd yn Chicago
a'n boys ni nillws yn Llanelli: a nhw fuws yn cianu i'r Prins yn Abarystwth,
heb walu dim am Windsor Castle, a llefydd felni. Yma
lle ma Mabon yn byw, a ma ganto dy ffamws nawr hefyd; a falla dych chi ddim
yn gwpod ta bachgan wedi ei gwnu yma yw ‘Wmffra Huws.' Ag er ta un o wyr
Berdar yw Caradog, yma odd e'n byw
pan faeddws i gôr a'r byd i gyd yn y Kristal Palas. Ych chi'n gweld nawr ma
nid rhwpath yw'r cwm hyn, ond cwm gwerth galw cwm arno: ag yn y diwadd, mawr
cy---liad [= cythreuliad] ych chi'n weid am dano yn
ych papar. Wn
i ddim beth ddela o hanom ni on'ba Eos Hafod - bachgan ffamws; dyn yw e. Yr
w i wedi setlo a chwpwl o fechcyn y lle ma i hela amball i bishin bach i'ch
papar chi; nid news am y cwm, ond
yn hanas ni'n hunen. Ma
twshgid o honom ni yn cwrdd a'n giddil mwn efil gof yma. Shon Iefan bia'r
efil, a ma'r hen ddyn yn doti blocs bach ar y pentan i ni gial ishta bothti'r
tan, a chretwch chi byth shwd le ffamws ywa, dyn: ma ticyn o bopith yn cial i
walu yno, a ma fa'n drueni asswidis na fasa chi'n hela riportar yma weitha.
Rych chi'n hela riportars i'r concarts a'r tepartis ma bothti'r wlad i weid
yr hanas, a dos neb yn i darllan nhw ond y merched sy'n tendo a'r bechgyn
sy'n cianu ag yn atrodd. Ma
whant arno i os lawar dydd i hela, ond ma'r bechcyn ma wedi becan arno i o’r
diwedd i riporto cwrdd y pentan yn awr ac yn y man. Ma
yma dicynach o betha yn cial i trafod o dro i dro, ag os ych chi'n folon, fe
gewch chi amball i bishin o'r hanas. Gwetwch yn y TARIAN nesa, os ych chi.
Rhowch damad bach wrth gwt hwn i wed os caiff hwn ddod mas. Dw i ddim yn addo
bob wthnos, achos fel y gwetas i ishws, chesoi fawr o fontish eriod i fod yn
sgolaig -ma gen i whar yn sgleigas biwr digynig. Ond fi na i ngora. Hanar
gair eto cyn cwpla. Os bechcyn piwr gyta chi yn yr Offis? Oti nhw'n rhai
‘quick' i ddiall gwaith llaw? Dyw pawb ddim ya gallu diall gwaith llaw gystal
a'u giddil. Wi'n gwpod am fachgan yma yn gallu darllin print fel ffeirad, ond
run man iddo drio edfan a darllin gwaith llaw, achos y fi sy'n darllin pob
llythyr sy'n dod iddo orwth i frawd sy'n Affrica, ag orwth i ferch iefanc a,
sy'n byw ar Gefan Cripwr. Dotwch air bothti'r peth hyn hefyd wrth y cwt. Wel,
wi'n meddwl na wetai ddim rhacor heddi, nes bo i'n gweld beth wetwch chi,
Mistr Golycidd, bothti'r peth. Chewch
chi mo'n enw i - dim ond RIPORTAR Y PENTAN. [Bydd
yn bleser genym gael hanes Cwrdd y Pentan o dro i dro, mor amled ag y gall y
Riportar ddanfon, a gofod yn caniatau. Mae croesaw bob amser i Gwm Rhondda yn
ngholofnau y DARIAN Parthed y "gwaith llaw," pobpeth yn iawn. Ar
waith llaw yr ydym ni yn byw. Ac y mae yn y Swyddfa Gymry glân o Forganwg, -
GOL.] |
|
|
(delwedd 5938a) (24 Medi
1896) |
24-09-1896 Tarian y Gweithiwr. 24 Medi 1896. PENTAN SHON IEFAN. MISTR GOLYCIDD. — Trw bo chi wedi rhoi shwd reso
i fi yr wthnos cyn y dwetha, dyma fi'n dod yto. Own i yn meddwl rhwffordd
orwth yr hanas a glywas i am danoch chi, y bysach chi'n depig o lico cial
gair bach oddyma. Pan welws y bechgyn ma'r pishin mwn print yn ych papyr chi,
nenwetig y tamad bach odd wth y cwt, dyma nhw'n dechra clappo dilo, a chico'r
twls odd ar y pentan nes bo'r lluwch yn cwni fel cwmwl i lycid pob un odd
yno; ac yn wir, yr odd Shon Iefan i hunan mwn hwyl diginig; fe drows gornal
yr hen ffetog letar tifiwn i'r llinyn, ac fe neidws i ben yr eingon fel
crotyn pymthag od. Fe fydda cystal i fi falla i ddarlunio ‘Cwrdd y Pentan' i
chi nawr, fel bo chi'n diall i'r blewyn shwd le sy'ma. Weta'i ddim wrtho chi
beth yw enw'r lle, rhog ofan y bydd hyny yn anfontesh i ni yto: ag w i wedi
penderfynu pido hela pob pishin o'r un Post Offis bob tro, ond i newid nhw
trw'r Cwm ar yn ail; ag fi'ch diffeia i chi i'n ffindo ni mas, er ta golycidd
ych chi. Pidwch chi meddwl ta o'r lle i ni'n byw y postas i'r pishin dwetha. Wel nawr ta am deni. Fe wetas o'r blan ma cwmpni
bach yn ni o fechcynach yn cwrdd a'n giddil mwn efil gof. Shon Iefan bia'r
efil; ag ar y Pentan acha blocs bach o gôd ini'n ishta; a d'yn ni byth yn
cwrdd ond yn y dwetydd. Nid ‘gwyr y gloran' y'n-ni gyd; ma yma un bachgan o
Berdar: fe ddath yma rhwla sha dechra'r flwyddyn hyn; d’od i etrych am waith
achos bo'r pwll odd e'n arfadd gwitho yndo ar stop. Wi'n meddwl yn siwr ta
Nantmelyn wetws e odd enw'r pwll. Falla’ch bod chi yn gwypod am y lle. Ag rym
ni yn cial tipynach o hanas Byrdar tro hwn; a pidwch chi synu os byddwn ni yn
cripo arnoch chi’r snakes yn y'ch tro! Ry'n ni cial clywad shaw o'ch trics
chi trw hwn. Ma fe'n mynd sha thre pob pythewnos i weld 'i fam, a dos dim i
wêd wrtho am hyny, wath dw i ddim yn meddwl shaw'r byd o'r bechcyn sy'n
anghofio mama fu'n u macu nhw. Yn wir, bachgan piwr diginig yw hwn. Fe wetws
gynta wrthon ni shwd ddyn oech chi. O'en ni wedi arfadd meddwl taw rhyw ddyn
mawr, tal, tew, a gwallt hir, cwrlog, a hwnw mor dduad a'r fran. oech chi;
ond ma fe'n gwêd taw un bach gweddol o fyr — bothti hyd Wm. Evans 'ma - clerc
Mabon - a'ch gwallt chi'n tynu at y sandy 'ma; ag yn i gatw'n lled grop yn ol
ar y gwecil, ond fod Q.P. lled fawr gyta chi: a'ch bod chi’n cerad yn sharp bob
amsar. Wel os taw un shwd byr y'ch chi, yr y'ch chi'n wanol iawn i beth own
i'n meddwi bod chi. Fe fydd yn well i fi bido gweud i enw fe, rhag ofan i rai
o'r snakes i dynu gormod ar i glusta fe, am gario ambell i glec fach fel hyn
i'r Pentan. |
|
|
(delwedd 5938b) (24 Medi
1896) |
Ma yma fachgan arall - o Shir Bemfro - un doniol
ofnadw yw hwn — ma fe'n shew o giantwr; a chwedi enill llawar swllt fach o
dro i dro. Fi ginta'ch bo chi wedi clywad gwyr Shir Bemfro yn whilia? On'd
y'n nhw'n smala? Dodd dim shwd beth ai ddaill a, ar y dechra: wyddwn i ar y
weddal beth odd a'n whala am lawar o flwyddyn wedi iddo ddod 'ma ond wi'n
diall y ran fwya o bobpith ma fe'n wêd yn awr. ‘W-es,' medda fe am ‘ôs;
‘mini’ am mynydd; ‘W-en bach' am ôn bach. Yn wir, yr odd a iddi glywad yn
smala, digninig [= diginnig] ar y start. George Morris yw’i enw fa, ond Shors
yw'r enw ma fe’n gial ar y Pentan. Fi weta un stori fach am dano. Jest yn
gwmws wedi iddo ddod yma, rodd e un noswith yn y Bull - ar nos Satwn arian
(yr odd e'n arfadd lico diferyn bach ar y mwya); ag ma'n depig fod y cwmpni
yn cianu ar yn ail yn y taproom — a fynta gyta nhw; ag o’r diwedd fe ddath
tro Shors. Ma rhyw ffashwn gyta dynon yma i alw 'moch' ar wyr Shir Bemfro —
dim byd medda Shon Iefan on am bo nhw'n cwni shaw o foch yn y shir; on ta
beth dyma Shors ar i drad, ag odd rhyw fwstwr bidir yn y rwˆm ma'n depig, a dim
shwd beth a chial dishtawrwydd iddo ddecha; ond dyma rhyw lencyn cnacsog yn
gwaiddi gymint ag a alsa'i berfadd a: ‘Hey! silence in the pig market
piease!' Hawyr bach, dyna le fyn'no! Ond fe resolvws Shors yndo'i hunan y
funad hyny i seino dirwast; a whara teg iddo, ma fe wedi dala'n deetotal
byth. Chi wetwch amcan wrth hyn shwd fachgan yw Shors. Wetyn, ma yma fachgan o Gefan Cripwr — James yw'i
enw — ond ‘Shemsin Twrbil' y'n ni yn i alw fa, achos fod ganto shaw o gewc am
neud prydyddiaeth, yr un peth a'r hen ‘Shemsin Twrbil' odd yn byw oslawar
dydd. Wi’n lico prydyddiaeth yn fidir ym hunan; ma clywad Shimsin yn i dirwn
hi mas ar y Pentan yn hela rwpath drwyddo i bob tamed. Dyma beth nath e bwy
noswith yma, mor rwydd ag ma'r glaw yn disgyn yr wthnosa hyn: — 'Pe whilsid Cymru'n gyfan, Am gwmpni mwyn a dyddan, Ni chelsid siwr, mwn unrhyw shir Ddim neb fel gwyr y ‘Pentan.' Shon Iefan yn 'i ffetog – Ma fel rhw hen dywysog, O'r dyddiau gynt pan odd y'n gwlad Heb fyn'd dan drad gormesog. Ryn ni yn byw yn ddiddig Yn nghwmpni'r awen lithrig; Do's dim fel Triban am i swyn I'r Cymro mwyn, mynyddig. Beth ych chi'n feddwl am hwna, Mistir Golycidd?
Cretwch chi ii, w 'i felswn i'n speclo [= sbecto] y daw Shemsin yn llawar o
fachgan. Ma rhwpath yn i brydyddiaeth a sy'n coclish yn nheimlad i. Wel wir, rhaid i fi' ddi gatal hi, rhag ofan i fi
golli'ch greso chi yn yr Offis. Os byddai byw yr wthnos nesa, fi dria gwpla
hanas y bechgyn. Rych chi wedi cial pwtyn bach am un o honom ni ishws: — Y Bachan o 'Berdar, Shors Morris, a Shemsin Twrbil. Ma gen i dri yto: - Rhysyn y Gwaudd. - deryn bidir yw Rhysyn. Jack
Price - Ilaw diginig yw hwn Jack hefyd. Shon lefan - a mishtir y cwmpni i
gyd; ond am dano i'm hunan - y cwbwl gewch chi glywad yw ta fi yw RIPORTAR Y PENTAN. |
|
|
(delwedd
5940a) (1 Hydref 1896) |
01-10-1896 Tarian y Gweithiwr. 1 Hydref 1896. PENTAN SHON IEFAN. MISTR GOLYCIDD, — Fi wetas on' do fa, yr wthnos
ddwetha, y bysswn i'n cwpla gweid bothdi’r bechcyn yr wthnos hyn. Pan welws y
bechcyn y pishin dwetha, do nhw fawr bolon mod i'n gwed i hanas nhw fel hyn,
yn enwetig Shors, achos i fi wed stori'r cianu yn y ‘Bull.' Whara teg iddo,
odd a ddim yn gias iawn— dim ond rhw gintach bach 'ma. Rhysyn y Gwaudd. — Wi'n siwr na welsoch ciii ddim
neb elsa hibo i Rhysyn yn rwydd iawn. Ma fe’'n hen scolar, wedi gweld y byd o
bothti yn fwy na'r cyffretin; a gweid y gwir, hwn y w'r teclyn pena o'r
cwmpni. Fe gias i facu mewn ty fferm bach yn y cwm ma - gwaudd odd i dad;
dyna ffor ma fe'n cial ei alw'n ‘Rhysyn y Gwaudd.' Ma’r hen ddyn wedi gladdu
os blynydda, a ma'n depig ta deryn bidir odd e, fel ma Rhysyn yn ‘chip of the
old block,' os dim dowt. Tasa gen i amsar fi wetswn rai o dricsis yr hen ddyn
wrtho chi; ond fi ga gyfla rhwpryd yto falla, pan bo llai o hast arnoi nag
sydd heddy. Rodd Rhysyn yn grotyn drwg echrytus - wi'n i gofio fa'n biwr;
dodd fawr o waith yndo 'riod. Dilyn y cwn hela, a rhw jobs felni odd i
ddelight mawr a — yr un peth a'i dad o'i flan. Ma ticyn o atal arno wrth
whilia, a ma rheiny yn wyilt ofnadw 'u natur, fel rheol. Wi'n cofio clwad am
dano yn myn'd off gyta'r cwn i rhwla sha gweilod y shir, y nos o'r blan, a
rodd y lle yn lled bring iddi nhw i gyscu yn y tafarn lle ro nhw'n aros. Ta
beth, i gwrdd a'r 'pwsh,' fe ddotws gwr y ty gwpwl o welya mas as y dowlod,
ac amsar 'stop tap,' dyma'r bechcyn odd yn mynd mas yn gofyn i Rhysyn, ‘Wyt
ti'n dod, Rhysyn?' 'Dod i b'le?' 'ba Rhysyn. ‘Dod i'r dowlod,' mynta nhwnta.
A 'ba Rhysyn, 'Beth g-g-g-gebyst ych chi'n meddwl w i -ph-ph-pheasant?' A
miwn ar hen bentan mawr odd yno bu Rhysyn trw'r nos. Fe ffaelws i dad a'i
blycu at waith yriod; fe driws shaw o betha i gyd; ond dodd dim rhwytab i
Rysyn gytag un short o waith. Fe fu gyta lampman am getyn, ar ben un o'r
pylla ma; ond pan sa fwy o isha Rhysyn, pella i gyd odd e! Rodd y Lampman yn
gorffod i ddoti fe'n sownd wrth chain - chain am i gos e; a dyna'r unig
ffordd iddi giatw fa wrth law. Y diwadd a fu i'r gwalch listo gyda'r
Regilars. Ond dyn i helpo nhw, fe ath Rhysyn drw'r drills i gyd — cario'r
'napsack,' ar y wheel, dark hole, a'r petha na i gyd yn didy, a dim modfadd
nes yn mlan ar ol y trainin i gyd. Fe helwd a sha thre a discharge ganto, ag
wi'n siwr, yn ol pob cownt, i bod nhw'n falch i gial i warad a. Am lawar o flwyddyn wedi iddo returnio, fe fu'n
yfad yn drwm arswidis; ond - i bido rowndo'r hanas i gyd — fe drows yn dotal.
Fe seinws i bido yfad rhacor, a fe ddychreuws fynd sha'r capal, a chretwch
chi byth shwd fachgan da, a phiwr, ag useful yw a byth wetyn. Ond ma fe'n para'n witty o hyd, a rhwng i wit a
a'r atal ma sy arno, y'n ni’n cial shaw o sport ddiniwad ganto. Jack Price. — Dyma gyw arall tepyg iawn mwn
llawar o boints i Rhysyn. Rhyw greatur cnacsog yw hwn a shaw o dalant yndo.
Gof wrth i grefft, a ma'n depyg i fod a'n bydolwr grand. Ma ganto ddou brize
o Shaw y shir am bydoli. |
|
|
(delwedd
5940b) (1 Hydref 1896) |
Ma fe'n byw i scemo rhyw gnacsa byth a hefyd. Fe
alswn i ishta am lawar o wthnos i neud dim ond i atrodd i dricsis e. Pan own i'n grotyn yn nhre' gyta mam, wi'n
cofio'n net i fod Jack wedi myn'd sha'r mynydd gyta fi i glascu rhetyn i i
ddoti dan y moch, ag fe gariws Jack dair ne betar coeled sha thre. A 'ba mam
wrtho ‘Jack, pan ddaw'r hwch ma a moch bach, fe gai di un o'r perchyll am
helpu ———— ni' (weta i mo'm henw). Wel, mhen cetyn, fe ddaeth y moch bach — 11 o
honyn nhw, a fe ddath Jack yn i dro i ercyd y mochyn bach odd mam wedi
bromish iddo. ‘Mae'n rhy iefanc i dynu orwth i fam yto, Jack,'
ba hi - dera ma mewn pythewnos to.* Wel, fe ddath yr amsar, ag fe ddath Jack,
on' dim son am y mochyn yn dod i glawr. O’r diwadd, beth nath y gwr drwg ond
dod shag yco a phishin o bren hir ganto, a lot o glai a shavins o'r shop sar odd
ar bwys yno; ag fe ddotsa damed o glai ar flan y pren, a shavins yn hwnw:
wetyn dyma fe at dwll odd yn y wal (ffor odd y iar yn arfadd mynd pan odd
twlc y moch yn dwlc ffowls geny ni), a dyna lle odd y gwalch yn estyn y pren
miwn nes bo un o'r perchyll yn acor i ben, a miwn ag e iddi wddwg a, a mas
a'r pren gan atal y clai ar ol — a thrw'r ffordd hyn, fe dacws dri o honyn
nhw right away! A phan odd a'n loado at y pedwerydd, dyma mam yn dicwdd dod
mas, ag fe i dalws a wrth y cnac ‘Jack felltigetig, ba hi, 'beth wyt ti'n
gisho neud?' .’Ych sarvo chi am bido catw'ch promish,' ba fenta! O cato m!
dyna Ie fu no. ‘Minda di — na nei di ddim cwmpni o Jack Price ddim racor,' ba
hi (hi fu bron mynd yn slip arnoi i weid yn enw nawr), ‘ag os ta fi wel di'n
whara gyta fe, fe fydd dy escyrn di gwinecu'n dost ar ol yno.' A dyna job odd
catw off, wath own ni'n lico'i drics e'n ddesprad. 'Run peth odd e'n y cwrdd wetyn. Wi'n cofio itha
da pan oen ni'n grots yn cianu olto yn y capal; oen ni'n ariadd ishta ar
dro'r galllary yn y set o'n blan ni odd merched yn ishta — ag odd ffashwn
gwishgo shawls pryd 'yny. Yn nghefan set y merched odd twll — clwm y pren
wedi dod mas o'r astall — a dyma lle'r odd Jack yn fishi un nos Sul yn tynu
tamed o shawl Lizzie Williams trw'r twll, a chwedi cial pishin diocal
drwyddo, dyma fa'n tynu sciwar mas o’i boc, ag yn i gwan hi drw'r shawl, nes
odd Lizzie hold fast wrth y set, a phan sa hi’n trio cwni i ganu, alsai ddim
cyffro, ag wrth blwco a phlwco, hi fu bron a thacu yn y capal! Yn y wir ‘clipper
all' odd Jack. Wrth gwrs, ma fa'n fachan mwn oetran nawr: ond dyw'r hen
gnacsa ddim wedi i atal e yto. Ych chi'n gweld, Mist. Golycidd, os dim gofal
aiff cwmpni'r Pentan byth i isheldar yspryd tra bo bechgyn fel hyn gyta ni. Pring gwerth i fi ddechra hono bothti Shon Iefan.
Fe fydd e'n ddicon am un pishin i hunan, a chwetin fe ddwa rownd iddo fe tro
nesa. Pidwch a gwyllta cyn hyny yw caish Riportar y Pentan. |
|
|
(delwedd
J7798a) (8 Hydref 1896) |
08-10-1896 Tarian y Gweithiwr. 8 Hydref 1896. PENTAN SHON IEFAN. ARMEINA AR Y PENTAN. MISTR GOLYCIDD, — Wn i ddim ffor ma'ch gwynepu
chi’r wwthnos hyn, achos ma raid i fi dori 'ngair bothti Shon Iefan. Ma'n
gias gen i feddwl na fyswn i wedi cwpla ‘tynu llunia' bechcyn y Pentan (os
dywad Rhysyn) erbyn hyn; on chi wyddoch nag w i ddim wedi arfadd shaw i
scyrfeni i bap'ra fel hyn. Own i wedi meddwl yn ddidowt i wêd bothti Shon
Iefan y tro hyn, i chi gial gwpod shwd ddyn yw Mishtir y Cwrdd; on ma lle
bidir wedi bod ar y Pentan yr wthnos ddwetha ma, ag os dim use i fi feddwl am
bido gwed peth o'r hanas, felly, yr w i yn becan ych pardwn chi i ngatal i'n
rhydd orwth Shon Iefan — ne
'i 'lun’ a y dylswn i wêd —achos ma fe'i hunan i fod i ffigro yn y cownt hyn.
Fi ginta'ch bod chi wedi clywad rhwyn yn gwed, ne
wedi darllan ych hunan falla, bothti'r Armeniaid ma sy draw sha Twrci. Dyna
gyd yw'r glepar y dwyrnota hyn gyda ni yma, lle ag fe ddath yn bwnc i'r
Pentan, achos cofiwch chi ma pynca'r dydd yn cial 'u trafod yn ddiseremoni
yma. Ma'r hen champion Gladstone wedi bod wrthi yto,
fei y gwyddoch chi, a fe dalws cwmpni'r Pentan yn nhrain i sha Liverpool i glywad
yr hen ddyn, a dod a riport yn ol iddi nhw o bob gair a wetws a. Nid ticyn
bach o jobyn odd peth fel hyn - ond ma cof da gen i yriod; fi adroddas y Salm
Fawr i gyd un waith acha tro pan own i'n grotyn, a fi ddetho a'r petha
pwysica odd ganto yn ol i'r bechcyn. Falla chretwch chi ddim, ond ma'n eitha
gwir, rodd y boys yn clapo'u dilo wrth ym nghlywad i llawn mor wylli a byssa
nhw yn Liverpool yn Hengler's Circus. Dyna le mawr, dyn! Hawyr bach, dos gyta
ni yma yn y cwm hyn ddim byd iddi dwtch a! A dos gyta chitha ddim he'd yn
Berdar yn ffit i ddala gola i hwn. Fuo i ddim mwn ‘circus' yriod o'r blan;
ond sa pob circus gystal a hon, fe fysa'n werth i ddynon i fynd iddi nhw.
Cato pawb! Dyna le bidir yw Liverpool! Ma fa lawar fwy o le nag o'n i'n
meddwl i fod a. On tyna, rhaid i fi bido dechra gwed bothti Liverpool, ne
dyna lle byddwn i! Wel, own i'n gwed wrtho chi, fe ddetho sha thre,
ag fi wetas hanas y consarn i gyd ar y Pentan, a whara teg i'r bechcyn, oen
nhw'n glysta i gyd! Ar ol i fi gwpla gwed, dyma Shon lefan yn dechra:
‘Grand Old Man' yr Efil. Dyna dret, clywad hen of a'i wallt e'n wyn, a rhwla
sha'r un oetran a'r hen Gladstone, yn whilia ar y pwnc hyn! Treni na allan ni
byrswado'r hen ddyn i fynd bothti'r lle i areithio ar y mater hyn; wyddoch fe
nelsa i wallt dyn on sefyll ar u pena nhw ag fe dynws ddwr o lycid pob un o
honom ni pryd hyny. Chlwas i ddim shwd beth yriod, a wi wedi gweld a chlywad
shaw o bryd i giddil. Beth dynws yr hen of mas odd cwpwl o gwestiynau
ofynws y bechcyn iddo. Do nhw'n gwpod y peth nesa i ddim bothti'r peth, a
dodd dim dishcwl hefyd, achos dyna'r bai wi’n weld yn y dynon sy'n whilia yn
y cyrdda ar Armenia, di nhw ddim yn gwed dicon am y wlad, a'r dynon, a'r
Sultan, a'r ffordd ma'r Armeniaid yma'n cial 'u trafod, bycswn i ta beth. |
|
|
(delwedd
J7798b) (8 Hydref 1896) |
A dyna lle'r odd Shon Iefan yn grand, fi wydda
bopith am a petha hyn i gyd. ‘Gadewch i ni ddechra ar y wlad. Shwd wlad yw hi,
Shon Iefan? Chlywas i ddim gair o son am dani o'r blan, a fi glywas son am
bob gwlad bron, pan own i gyta'r fyddin yn Aldershot,' ebai Rhysyn y Gwaudd. A dyma'r hen gapten yn dechra dirwn hi mas am y
wlad. ‘Wel,’ ba fa, 'os dim dishcwl ych bod chi'n gwpod
llawar, achos dos fawr o son am betha fel hyn yn y speeches yn ni'n gial, a
ma hyny'n gollad bycswn i. Gwlad biwr yw'r wlad. Ag yn ol pob cownt, mae'n
wlad bert fidir mwn rhai parta. Dyw hi ddim yn anhepyg i Gymru, on bod hi'n
llawar yn fwy o size, wrth gwrs. A mae'n wlad enwog ofnadw. Ma son am dani yn
y Beibl -felly chi welwch i bod hi'n hen. Nid rhw wlad fach ifanc yma, fel Merica.
Ma'r sgleigon mwyn yn gwed ta yma oedd gardd Eden, lle dechreuws Adda'i fyd,
a fi alswn i feddwl fod y Diafol heb fyned o’r wlad oddiar y bu a'n trippo'r
hen Adda, druan; ag os dim dowt ma fe wedi cial gwledd wrth wel'd yr
Armeniaid yn i chial hi fel hyn. 'Yn y wlad hyn ma mynydda uchal; dyna un ma pawb
o hanoch chi yn gwpod am dano drw hanas - yr Ararat. Beth wyddot ti Jack am y
mynydd hyn?' eba Shon Iefan, ‘O,' ba Jack, ‘ma'n depyg ta yma lle y landws yr
hen Noah gynta ar ol bod ar voyage fawr y Diluw.' ‘Eitha reit, I ba Shon
Iefan, 'on dy fod ti, Jack, yn i wed a mwn ffordd smala digynyg.' ‘Ma nhw'n gwed ta amsar y Diluw y ffurfiws y
gwythiena glo yn y ddaear, a ma dicon o Ie ag our hefyd, ta fatar am hyny, yn
y ddaear yn Armenia, ond i fod a heb i witho, achos nag os dim calon gen y
dynon bach i neud dim. Dos dim mentar mwn dynon sy'n cial i gwascar lawr byth
a hefyd.' ‘Gyta llaw, Shon Iefan,' eba Rhysyn, ‘shwd ddynon
y'n nhw?’ Dyma fa'n troi ato i ag yn gofyn, ‘Welast ti rai
o honyn nhw yn Liverpool?' ‘Do, ba fina. ‘Wel, gwed shwd ddynon oen nhw,' ba fe, ‘achos
pan bo dyn wedi gweld rhwpath a'i lycid i hunan, ma'n hawddach gwed am dano.'
Fina wetas gora galswn i. ‘Dynon gweddol dal odd
y ddou welas i: gwallt du, llycid duon, gwynab hir melyn a thrwyn iawndda cam
- ddim yn anhepyg i'r Italians ma, ond 'u trwyna.' ‘Well done,' ba Shon,
‘dyna waith da,' a dyna ddicon ar y mater.’ ‘Gwetwch, Shon Iefan,' ba Shemsin, ’os brenin
arnyn nhw?' ‘Dyna'r felldith i gyd,' ba Shon. ‘Nawr ma Rwssia
a Persia a'u bysidd yn rheolath y wlad, a Twrci. Wrth gwrs, Twrci sy a'r shar
fwyaf o lawar. Dim ond ticyn bach o'r tir sy gan y ddwy arall. ‘Nawr y Sultan yw Ymerawdwr Twrci, a dyw e ddim
ond — wel, y gwir am deni, Satan ddylsai enw fe fod, ac nid Sultan.' ‘Wel, enw dyn,' ba Shors, ‘beth gynllwn sydd
ganto yn erbyn yr Armeniaid?' ‘O dim ond 'u bod nhw'n Gristionogion, fel nina,'
ba Shon. ‘Nawr, un o wyr Mahomet yw'r
Sultan, a chaiff dim neb ddilyn Iesu Grist ganto fe, os gall e. Ag oen nhw yn
dilyn Iesu Grist fel cenedl o leia 400 o flynydda cyn bo son am
Fohametaniaeth, a chwedi'r cwbwl, dyma nhw'n cial 'u herlid yn [?wath] na
chwn a chatha yn 'u gwlad 'u [?hunan]. 'Ma'r cythral hyn wedi lladd yn ystod y flwyddyn
ddwedda ma rhwla sha [?150,000} o'r dynion diniwad hyn - am ddim os dwad
dyn.' 'Wel, ma'n rhaid i fod a'n ddyn desprad,' ba
Shemsin. 'Dyn?' ba Shon. 'Pidwch a'ng insulto i wrth i alw fe'n ddyn. Dyw
a ddim ffit iddi alw'n ddyn! Ma fa'n wath na chythral. Tysa fe wedi cial i eni a'i facu, a chwedi byw am 3000 o
flynydda yn Gehena, fysa'r corgi dieflig byth yn wath!' |
|
|
(delwedd 5942a) (15 Hydref
1896) |
-
15-10-1896 15
Hydref 1896 Tarian
y Gweithiwr PENTAN
SHON IEFAN. ARMENIA
AR Y PENTAN. (Parhad
o’r rhifyn diweddaf.) ‘Meddwlwch,
fechcyn, am dano yn rhoi orders iddi filwyr i neud beth fynsa nhw a'r dynon
hyn a'u gwracedd! Dyna lle 'ro'n nhw'n myn'd o dy i dy – yn tori clusta a
thrwyna a thafota dynon off; gystal a lladd dyn ddwsan o witha, sa hyny'n
bosib! Fe ddotsan garn o ddynon rhwng rhestri o goed, ag yna yn arllws
casgened o oil ar y cwbwl, ag yn
rhoi tân yndi nhw nes bo cols y coed ag escyrn y dynon yn un cymysgfa fawr
fel toman luti. ‘Ma'n
depyg hefyd 'u bod nhw'n claddu rhai dynon hyd 'u gyddyca, ag yn giatal i'r
bleidded ddod a byta'u pena nhw off yn glir gyta'r llawr!' ‘Wel
hawyr bach!’ eba'r bechcyn, ‘os dim shwd beth a rhoi stop ar nyn [sic; =
hyn]? ‘Stop!’
ba'r hen batriarch, ‘ma'n gwy[dd]il i ni fel gwlad na fysa ni wedi mynd yno
os cetyn â Fleet Lloegar gyta ni.' 'Fe
fysa'n ffitach fod Lloegar wrth i gwaith yn helpu'r Armeniaid. Ma nhw wedi
promish hyny os blynydda 'nol, a fe ddyla gwlad, fel dyn, gatw'i gair.’ ‘Ond
dyna fe, fechcyn bach, beth dal i glepran fel hyn. Beth sy gyta Lloegar i wed
wrth Twrci, pan bo hi hunan yn Affrica yn lladd natives y wlad hyny, dim ond
am 'u bod nhw am giatw'u gwlad Doed milwyr Lloegar sha thre, a golched y wlad
i dwylo, i gial dilo glan i drafod y Twrc. ‘Gyred
hi y Twrc i ebargofiant, i dippo fe i'r môr fal oen nhw'n gwneud a'r
Armeniaid ma. Ma'n llawn bryd i gial i wared e. Dyw e ddim ond boddar i bawb
o hyd. A rhannad y gwledydd y wlad rhyngti nhw a'n gilydd. Wn i ddim beith
wnaiff Salsbri nawr, wedi gweled teimlad y wlad, ag ar ol speech Gladstone.
Ma'n bryd iddo acor i lycid, a'i galon, a'i ben i wed rhwpath wrtho ni, ne fe
aiff y byd i ddowto fod ganto fe dicyn o olwg ar y Sultan cythreulig. Dw i
ddim yn cretu fod dim partnars yna, cofiwch chi; on ma isha iddo ddangos i
fod e'n iach ar y pwnc. A fe licswn i glywad beth fu rhyngto fe a'r Czar bw
ddwarnod ma.' ‘Off
ag e', weta i ta beth,' ba Shon. ‘Ia, off ag e oddar y ddaear; ma'r byd yn
drewi gen i waith a, ag ma Armenia yn debycach i Slaughter House na dim
arall, os lawar dydd. A 'swn i yn cial ym mhlan, fe wetswn i wth Ewrop, ‘All hands upon deck,' ag os na folona nhw, fi
droiswn at Loegar, ‘Cera, fel Elias, wrth dy hunan i gatw whara teg i'r dynon
clawd hyn.' Dyna
chi ‘speech,’ Mistr Golycidd! Nid yn amal y clywch chi shwd beth a hona. Odd
y bechgyn i gyd wedi mynd mor ansemwth [sic; = anesmwth] ar y Pentan a thysa
nhw yn ishta acha tân! A ba Rhywyn y Gwaudd, - ‘Fechcyn,
wi'n folon mynd mas fory nesa i saethu'r filan, os daw rhwyn gyta fi.' Ag
wedi i bob un weid i feddwl, dyma Shemsin yn dirwn penill bach mas: 'Rwy'n
cynyg os ca'i eilydd, Fod
Ewrop, rhag ei ch'wilydd Yn
popi'r Twrci yn y fan, A'i
ranu rhwng 'u gilydd. Am
dano fo, rhen Sultan – Wel,
rhowch e'n saff mwn ffetan, I'w
dawli'n garn, y llipryn llwm, I'r
llyn o dân a brwmstan! (Loud
Cheers.) Yr
odd pawb yn cydwel’d a ‘bardd breiniol y Pentan.' Fe
geso i ‘strict ordors’ i hela hanas cwrdd y Pentan ar Armenia i miwn i'r
TARIAN, a dyma fe. Fe fydda'n gwiddil i'r byd i bido gwpod am araeth Shon Iefan.
Wi'n siwr y bydd llawer yn lico cial ‘llun’ Shon Iefan nawr at ol y pishyn
hyn. Wel, fe ddaw mor gynted ag y ca'i gyfla. Ych chi'n gweld yn bod ni ar y
Pentan yn mynd mlan gyta'r os, ac yn cial clywad am brif bynca'r dydd. Fe
gawn weld beth naiff Lloegar nawr ar ol speech Shon Iefan a phenillion
Shemsin. Fe fydd yn od gen i os na ddaw rwpath o henyn nhw. |
|
-
|
(delwedd 5942b) (15 Hydref
1896) |
Fe
ddwa’r wthnos nesa yto, os byw ag iach, a fe gewch hanas y trip i Liverpool
rhyw dro heb fod yn hir. Ond d'os dim amsar heddy. Cretwch chi fi, d’os dim
un calon yn twymo mwy at yr Armeriaid na chalon RIPORTAR Y PENTAN. - MISTR
GOLYCIDD, - Wel yn eno dyn, ffor bu arnoch chi? Beth gesoch chi i atal shwd
bishin mawr – a hwnw’r pishin gora o ddicon o’r Riport heb i brinto? Ych
chi wedi i gneud hi’n o’r diwadd! Wi’n
ych gweld chi witha pan bo chi'n ffaelu cwpla pishin yn yr un wthnos, yn doti
‘I'w barhau’ wth i gwt a: on dos yma ddim son am ddim shwd beth wrth gwt hwn.
Ond ys dywed Shemsin pan welws e fa, - ‘Ma’n
cwpla mor bwt A
chi heb un cwt!' Fe
fu lle bidir yma pan welsen nhw'r TARIAN dwetha. Do nhw ddim folon at all na fysa diwadd speech Shon
Iefan, a dou benill Shemsin Twrbil i miwn; ag oen nhw'n barod i fwrw y bai
arno i, ta fi odd yn rhy ddioclyd i scyrfenu'r cwbwl; a wi'n gobeitho y
gwetwch chi beth odd yn bod, achos y fi sy'n dal y bai a’r tafod i gyd. Mawr
y gesso fa ma beth odd y rheswm; roedd Jack Price am dawli nag odd dim dicon
o lythrena yn yr offis gyta chi iddi gwpla fa; a Rhysyn Gwaudd yn gweid ych
bod chi wedi gorffod mynd i ryw anglodd ne rwpath, a'i atal ar i hanar –
achos nag odd dim o’m enw i wtho fel arfadd; ond dyna ddywad Shon Iefan -
"ma nhw siwr o fod wedi colli’r ddalan ddwetha helast ti miwn, wel
di." 'Nawr, p’un sy'n iawn o rhain? Gobeitho
byddwch chi'n beccan pardwn y Pentan fel bo petha'n ishta'n biwr yto; ag i
giatw mhen ina’n rhydd. Wel, cwmint a hyna 'nawr ar y pen hyn - ys dywad y
pregethwr. Ma'n
anodd gwpod am beth ma gwed wtho chi'r wythnos hyn; achos ma cwmint o bynca
wedi bod dan sylw'r “Pentan." Ma
clepar digynyg sha pen-ycha'r cwm ma bothti dewish doctor - ma gyta fi air
bothti hyny iddi wed - ond gan fod y matar wedi cial i dawli gan y colliars
[sic] fe'i tawlwn nina fa am dicyn bach. Wetyn
ma lle bidir ma ar hyn o bryd bothti lecshwn y Shool [sic; = School] Board.
Pidwch a rhyfeddu os clywch chi fod mwstwr hefyd cyn y diwadd. Dyw Shon Iefan
ddim wedi gwed’i feddwl yn blaim iawn yto; ond ma fe wedi tawli hint neu ddou
y'n bod ni'n mynd i gial batl ofnadw ma cyn cwpla. Wedi i ni gial “speech”
Grand Old Man yr Efil fi cewch chitha hi: os ych chi yn promisho i doti ddi
miwn i gyd ar unwaith. Fe
weta chi, beth sydd wedi bod yn bwnc clepar ofnadw ar y Pentan ddwetha i gyd
- y son sy wedi dod bothti Lord Rosebery. Fe helws lythyr at Shon Iefan i wed
na alsa fa ddim ledo'r parti ddim racor, tra bo dynon fel Shon Iefan yn
meddwl yn ots iddo fe bothti Twrci. Elsoch
chi'r TARIAN yr wthnos ddwetha iddo fa? Ffor ddath e i wpod am farn Shon
Iefan? Ond i gwpla'r cyfan fe ddath rhyw fachan shag yma ddo, i wilia sha
Shon Iefan a'i holi bothti hyn a nall: a fe dynws rhyw giardan fach mas o'i
bocad, a ma'n depig fod hono’n gwed ta Riportar rhyw bapyr Sasnag odd y dyn.
Own i yno ar y pryd – a fi wetas i wtho yn blaim ta fi odd Ripertar pobpeth odd Shon Iefan yn i wed: ond werthin nath
e felswn i yn ddim wrth i ochor e! Bora
ma fe ddath papur gyta'r ail bost i Shon a fe ddangosws yr hen ddyn y papur i
fi; a dyma beth sy yndo mwn llythrena mawr – -
|
|
|
(delwedd 5942c) (15 Hydref
1896) |
LORD
ROSEBERY'S RESIGNATION. Interview with Shon Iefan, Esq. Pan
welas i hwn, wyddwn i ar y weddal beth wetswn i! Dim ond ddo odd y bachan yma: a dyma'r glepar fu rhyngto a Shon i gyd ar
y papur cyn pen cwpwl o oriau, ys dywad dyn. Ma nhw lawar yn fwy cwic na chi. W
i wedi bod yn trio cyfieithu peth o'r interview
i Gwmrag: a fe gewch dicyn bach o honi i ddoti yn y TARIAN. Ma fe'n dechra – “Ar
ol i mi gyraedd yr Efail lle gweithia yr hen wron Shon Iefan, mi a euthnm i
fewn, a gofynais i fachgen oedd yn digwydd pedoli ceffyl ar y pryd, os oedd Mr Iefan ger llaw - atebodd yntau ei
fod, a dangosodd i mi ddrws yn myned o'r lle pedoli i'r Efail: ac yno wrth ei
eingion a'i lewys wedi eu torchi nes datguddio breichiau cyhyrog, a morthwyl
yn ei law, pwysai ar yr eingion, gydag un droed i fyny ar y pren sy'n sail
i'r eingion: ymddangosai yn batriarchaidd: gwallt hirlaes yn gorweddd yn
fodrwyog ar ei war, barf hir yn cuddio ei frest, dau lygad byw treiddgar -
eithaf enghraifft o Of Cymreig: yn wir, yr oedd arno olwg ramantus. “Euthum
ato, ac wedi ysgwyd llaw a dangos iddo fy ngherdyn, gofynais iddo a gawn
ymddiddan ag ag [sic] ef am ychydig ar y cyfwng gwleidyddol presenol - fod y
wlad yn edrych am ei farn?" Atebodd
yntau – “Ar bob cyfrif." “Diolch
yn fawr, Mr Iefan," ebe finau. Gofynais
- "Beth yw eich barn am ymddiswyddiad Rosebery?” “Dim
ond beth oeddwn yn ddysgwyl” ebe yntau. “Ar
ba dir" - gofynais drachefn. "Wel,” ebe fe – “ar lawer tir. Yn un
peth nid yw Harcourt ac yntau yn cyd-dynu fel y dylent. Peth arall, mae
mwyafrif y blaid Rhyddfrydol yn erbyn arweinydd o Dy'r Arglwyddi, oc [sic; =
ac] yn ddios Harcourt yw dyn y bobl. Nis gall Rosebery lai na gweled hyn, ac
y mae yn edrych am gyfle i ymddiswyddo er's llawar dydd – ac o'r diwedd dyma
gyfle wedi dod." “Pam
yr ydych yn meddwl ei fod yn gwneud cyfle o'r adeg bresenol - nid ydych yn
gwybod ei farn - nid yw wedi traethu eto?” gofynais wedyn. “Eithaf
gwir," oedd yr ateb, “ond gwyddoch fod gan y Rothschilds arian mawr ar
fenthyg yn Twrci - ac y mae Rosebery yn perthyn i'r Iuddewon goludog hyn -
dyna ddigon: tynwch y casgliad bellach." “Beth,
feddyliech chwi, fydd effaith yr ymddiswyddiad ar y blaid Rhyddfrydol?” “O!”
ebe fe, “ei chadarnhau, daw'r pleidiau at eu gilydd. Mae Rosebery yn ddyn
egwyddorol yn ddiau. ac yn foneddwr galluog, ond y mae ei hoffder mewn
rhedegfeydd ceffylau, yn ei wanhau yn marn y wlad. Dyma chwi yn awr, ar bwnc
Armenia, ble mae wedi bod cyhyd? Mae pawb o bwys ond efe, wedi dweyd eu barn
yn ddiduedd. Ond gwelaf wrth y papurau ei fod ef wedi cael digon o amser i
osod ei enw i lawr am tua 80 o redegfeydd ceffylau am y tymor sy'n dod. Nis
gall dyn fel hyn fod yn allu moesol
cryf mewn unrhyw blaid wleidyddol. A rhaid i olynydd Gladstone fod yn gryf yn
y pwynt hyn. Mae'n ormod o'r dydd bellach i arweinydd Rhyddfrydol allu gwneud
gwaith gwirioneddol tra mae yn cymeryd llaw mewn difyrion mor niweidiol i foesau a nerth cenedl ag yw “Gambling y Race Course.” Dyna
gwmint a gewch chi heddy. Fi geso i help i gyfieithu hwn gan fachan bach sy'n
byw drws nesa – ac yn gwpod shaw o Gwmrag. Dyna
farn Shon Iefan bothti Rosebery yn lled blaim on-te-fa? Wel,
rhag ofan i'r pishin hyn fod yn rhy hir dyma fi yn gatal y pen ar y ford. Ma
bechgyn y Pentan yn hela'n cofio [sic; = cofion] at fechgyn yr offis fil o
witha. Yr
eiddoch a'i drad yn dwym a'i galon yn gynes. RIPORTAR
Y PENTAN. October
9th. |
|
|
(delwedd
J7885a) (22 Hydref 1896) |
22-10-1896 Tarian y Gweithiwr. 22 Hydref 1896. PENTAN SHON IEFAN. Octobar 16th, 1896. SHON IEFAN O DRE. Mistr Golycidd, - Chi welwch yr “hedin” hyn fi
ginta; a fi fuo i yn meddwl cymryd 'whiff' yr wthnos hyn, achos fod yr hen
ddyn o dre; wath dos fawr o hwyl a threfan ar y Pentan pan nag yw e ymalle.
Pobun yn clepran llwr (llwr’) 'i gyfar beth benag ddaw iddi feddwl a — dyna'r
drefan sy ma 'rwthnos hyn. Ond alswn i ddim pido hela un gair bach, he'd, yn
fwya particilar bothti'r picshwr pert ma ddotswch wth ben y riport dwetha.
Chi gnethoch hi o'r diwadd! Wi wedi meddwl lawar gwaith y dylsa fod racor o
bicshyra yn y'ch papar chi, achos ma nhw'n tynu sylw os dim dowt. Ond wetyn
gatwch i ni gial rwpath yn acos iddi le. Pidwch a chretu fod gen i ddim yn
erbyn y llunia dwetha 'ma; ma nhw'n itha piwr mor belled a ma nhw'n mynd. Wi'n cofio pan own i'n grotyn fod plant yr yscol
yn tynu llunia, ag yn 'u dangos nhw i'r Mishdir; a ma gen i gof am Sammy
Ty-fry yn tynu llun buwch a mochyn, ag o'n nhw mor depig iddi giddil ganto,
fel 'rodd yn rhaid doti o denya nhw — 'This is the pig,' a 'This is the cow.'
Beth wi'n trio hela ato yw hyn - ddylach chitha ddoti o dan y picshwr newydd
'ma — ‘This is not Shon lefan, nor the Pentan. Beth gesoch chi i hela'r tynwr llunia shag yma
heb weid i fod a'n dod. Fyssa ddim llawar o waniath gen i i weid ble ry'n
ni'n byw sa chi'n doti gair wth gwt y pishin yn y Tarian achws na wyddoch chi
mo'n address i; nawr fe ddath y bachgan shag yma, ag fe gias afal mwn rhyw
‘Efil Gof,' gan feddwl ma yno odd Shon lefan; ond nid efil Shon yw hon - efil
bachgan o Sais yn ish i lawr 'n y cwm yw hi. Dicon hawdd hawdd i chi wel'd ta
Sais yw'r bachgan sy'n sefyll wrth yr eingon - orwth i dorad e. Dyw a ddim yn
troi 'i wallt fel |
|
|
(delwedd
J7885b) (22 Hydref 1896) |
Cymro. Peth arall, dyn iefanc yw hwn; ma Shon
lefan dros bedwar ucian! Os ych chi'n moyn llun y Pentan, a'r bechgyn yn
ishta yn 'u llefydd ar y blocs, gwetwch yn blaim, a fi gewch a. Pidwch ag
anghofio ta yn y dwetydd y'n ni yn cwrdd - a d'yn ni ddim yn gwitho gyda
Shon; yr amsar gora i gial giefal arnon ni fydd ar ddydd lun Mabon — os na
fydd Steddfod yn rhwla, ne gwrdd politics. Wel, fel y gwetas i ar y dechra. dyw'r hen ddyn
ddim yn dre'r wthnos hyn - fe gias i alw off yn sytan bitir nos Wenar dwetha.
Chi wddoch mwn shwd bicil ma'r Rhyddfrydwrs yn awr, achws fal-lal Rosebery;
wi'n gwed o hyd, a fi weta yto, fflinab [= ffolineb] odd doti youngstar fel
fe yn brif wynitog yn lle Gladstone. Ma isha dyn iach, cryf, mwn oetran, at
beth fel hyn, ag os dim dowt nag odd e'n rhy iefanc at y gwaith. Ond dyna own
ni yn myn'd i wed - fe helws Gladstone 'delegraph' at Shon lefan yn becan
arno 'i ddod lan i'r Castall ato fa am dicyn bach, os nag odd a'n fishi iawn.
Falla nag y'ch chi ddim yn gwpod - ma'r ddou hyn
- y ddau ‘Grand Old Man,' yn bartnars diginig os blynydda lawar, Shon lefan
sy'n gneud ‘bwelli' yr hen Gladstone i gyd. Tebyg iawn ych bo chi wedi gweld
llun Gladstone yn cwmpo pren mawr; ma fe'n sefyll yn Ilewysh 'i grys, a'r
fwall yn 'i law. Wel, Shon Iefan nath y fwall yna. Ma'n likely fod Gladstone
wedi clwad ta un da bidir yw Shon am awch; a fe ddath rhyw ddwyrnod i'r efil
ato, ag fe ordrws hanar dwsan o fwelli, & rheiny sy ganto byth. Pan gwrddws y ddou hen gawr pryd hyny, fe ethon i
bleto a'u giddil bothti rhw bwnc, a mawr odd yr hen Gladstone yn acor i
lycid! Dodd a riod ddim wedi bryddwyto fod cymint o dalant a gwybotath yn
gorwadd o dan gap hen fachgan o of, nes iddo gwrdd a Shon lefan a byth wetyn
ma nhw fel dou frawd A dos dim dowt nag odd gen Shon Iefan law mwn shaw o'r
'Bills' ddath Gladstone i'r wlad ag os bydd rhwpath mas o le ar y ‘Libral
Parti,’ hela moyn Shon lefan ma'r hen ddyn mwn winc, i gial wilia sha fa; a
llawar gwaith ma fynta wedi mynd, a gatal twymad ar 'i hanar. |
|
|
(delwedd
J7885b) (22 Hydref 1896) |
A dyna b'le ma fe'r wthnos hyn ac os dim dowt na
fyddan nhw wedi doti rhywun yn lle Rosebery cyn dod yn ol, a wedi gwed
rhwpath wth y Sultan he'd cyn cwpla. Fel o'n i'n gwed wrthoch chi - fe startws sha
Hawarden nos Wenar dwetha (Octobar 9th), ag odd a'n meddwl yn siwr i fod yn
ol cyn hyn ond fel y gwddoch chi, fe ddigwyddws tro bidir yno bora Sul
dwetha; yr oedd Archesgob Caergaint yno he'd gyta Shon, a fe fu farw'n sytan
yn yr eclws; a fe dawlws hymy beth os dim dowt mas o'r ger. Wn i ddim yn y
byd pryd daw'r hen ddyn nol nawr. Rodd Macws (gwraig Shon) yn gwed wrtho i
nithwr fod Shon wedi hela sha thre i fofyn 3 cholar glan, a 'sham' (dim ond
dou oedd gento off), a fi allwn feddwl wrth hyny na ddaw a ddim shag yn ol
dicyn ta beth. Roswch chi yn amyneddgar am gwpwl o ddyrnota yto,
a thebyg iawn y down ni mas o'r trwpwl presenol bothti Rosebery. Wyddoch chi beth glywas i yn ddiweddar? Wei, fi
glywas fod Rosebery yn Iled depyg o brioti un sy'n perthyn yn lled acos i'r
Frenhinas, a ta hyny odd y rheswn i fod e'n tawli'r 'leadarship' lan. Synwn i
damed nag yw hyn yn wir. Wth gwrs ma fe'n witwar os llawar dydd, fel y
gwyddoch chi. A mae pawb yn gwpod ta Tori yw'r hen wraig Victoria; a fysa dim
use iddo fe fod yn Libral wetyn. Fi wetas y stori hyn wrth ‘Shemsin,' a ba fe fel
arfadd mwn ‘wincad llycad llo:’ Gobitho wi os oti Y teclyn ar brioti, Y sticiff ato — 'gwell a gwaith,' Ac nid fel y g'nath a'i barti! ‘Shemsyn' yw e o hyd. Wel, weta i ddim racor o
secrets heno — ond os byw ag iach 'r wthnos nesa, fe gewch hanas Shon lefan o
dre. Hyd hyny. gwych y b'och. RIPORTAR Y PENTAN. |
|
|
(delwedd 7833a) (5 Tachwedd 1896) |
05-11-1896 Tarian y
Gweithiwr. 5 Tachwedd 1969. PENTAN SHON IEFAN. SHON IEFAN WEDI DOD YN OL. Mistr Golycidd, — Diolch am 'yny! Odd! bechgyn y
Pentan wedi mynd mor ddigalon a gieir ar y gwlaw - dim byd ond achws fod yr
hen gaptan o dre; a fe fydd ticyn o fywyd a chlepar yn mynd ymlân yma nawr am
spel ta beth. Falla'ch bo chi'n amswn oblecid nag odd dim
pishin wedi dod oddyma'r wthnos ddiwetha. Wel, pidwch a chretu ta dim yn ych
erbyn chi na'r papyr - nag yn erbin bechcyn yr Offis odd y matar. O! nace,
nace. A phidwch a meddwl y'n bod ni wedi cial yn ‘insulto' gen y picshwr
ddotswch chi o honan ni y tro dwetha. Werthin bidir sy wedi bod yma am ben
hwnw a chyta llaw, ma'n gystal i fi wed nawr ag yto — fe ddaw llun right o
honan ni shag yna ma's law, ar ol i'r dyn gwpla popith yn ddecha. Own ni'n son smitin am fechcyn yr Offis - wyddoch
chi - ma boys y Pentan yn toncach rwpath am gial
picnick' rhyngti nhw a nina 'rhaf nesa, os byddwn ni byw — jest i ni gial
dod i napod y'n giddil: a lle piwr diginig fydda Craig y Llyn, ne Pen Pych, i
fynd iddo, welsa neb o honan ni yno ond mas o amball i fucal a'i gi.
Meddylwch am y peth. A fysa ni ddim yn gwed dim yn erbin Wmffra Huws, Esq., i
ddod gyta ni; achws wi'n specto fod e'n gwpod shaw am fynydda top y Cwm ma -
os nag w i'n camsynad yn ofnadw. Ond fe gewn amsar i whilia bothti'r peth hyn
yto. Wel. chi welwch fod yr ‘hen gawr' wedi dod sha
thre: a ta pwy mor falch odd Macws 'i wraig iddi wel'd a d'od, dodd hi fawr
falchach na fi – achws - a gwed y gwir yn onast, 'dos 'da fi fawr o ddim iddi
wêd os na fydd e a'r boys i glywad 'i farn a am hyn a'r nall Wedi fi glywad i fod a wedi dod, dyma fi shag yno
i'r ty ato, a dyna lle rodd Macws yn holi'r hen foy bothti ‘Hawarden Castle,'
lle ma Mr Gladstone yn byw wyddoch — dyna enw'r ty sposo. ‘Odd bonat newydd gyta Mrs Gladstone y tro hyn?'
ba hi wrth Shon. 'Macws fach,' ba fenta, 'beth wyt ti'n feddwl?
Dodd gyta fi ddim amsar i etrych ar foneti a rhyw fril frals fel'ny; a down i
byth yn gwel'd hi ond pansa ni'n byta bwyd; wath fe a fyna odd gyta'n giddil
trw'r amsar.' 'Gyta pwy oet ti'n cysgn?' ba hi wetyn – ‘cest ti
wely d' unan y tro hyn?’ ‘Naddo,' ba'r hen ddyn; ‘odd gwelya'n bring yno
achos fe glywast fod yr Archesgob yno he'd gyta fi — a'r wraig wth gwrs.
Wed'ny gorffod i fi shifto gyta Gladstone — cysgu’n dou. Wth gwrs, odd
montesh fel'ny i fi whilia mwy. A mawr y whalu odd gyta ni am spel ar ol
myn'd i'r gwely. ‘O!' ba hi wetyn; ‘beth gest ti i hela sha thre
am goleri? — fasa fa ddim llawar i'r forwn olchi colar ne ddou i ti - ne pam
na 'sa ti'n gofyn am fencyd colar neu ddou gan Mr Gladstone?' 'Macws, Macws!' ba Shon. 'beth wyt ti'n feddwl w
i? Falla 'i fod e fel fina'n bring i hunan.' ‘O wel!' ba Macws mwn syndod, gan yscwd 'i phen,
gystal a gwed: ‘Wath byw mwn castall na rhyw dy^ arall.' Dyma fyna nawr yn para i gateciso Shon yn lle
Macws. Odd y peth wedi taro yn y mhen i os dyrnota i neud fel ma'r Saeson yn
gwneid, i ‘interviewo' Shon pan ddelsa fe sha thre a dyma fi at y gwaith. A
dyma fi nawr, Mistr Golyciddd, yn mynd ymlan yn ol style y paqpyra Sisnag. Yr
w i yn moin i chi ddoti mwn llythrena mawr y geiria hyn — 'SHON IEFAN INTERVIEWED ON THE BURNING QUESTIONS
OF THE DAY.' Ma'n od gen i os na naiff peth fel hyn les bidir
i'ch papar chi. Ma gen i air bach arall iddi wed bothti'r DARIAN cyn cwpla.
Wel nawr i gial mynd ymlan a'r Interview, fi ddechrenais i holi Shon os cias
a anwd wth drafaelu. ‘Naddo,' ba fynta; ‘wi'n ofalus iawn bothti gatw nhräd
yn dwym yn y train yn wastod — nenwetig wth fynd shwrna bell.' |
|
|
(delwedd 7833a) (5 Tachwedd 1896) |
GLADSTONE. 'Shwd odd y Grand Old Man o
ran iechyd?' ¡ ‘O ffamws,' ba Shon. ‘Odi a'n cerad llawar 'nawr?' ‘O oti, fe gerson dwshged i gyd,' ‘Odi fe'n cwmpo côd o hyd?' ‘Oti — ma gen i fwall yn y bag 'na iddi durio iddo fa
'nawr.' ‘Shwd gymrws a farwolaeth yr Archesgob?' 'Wel, yn dda diginig, a chownto.' ‘Beth odd y pwnc
odd e'n moyn y'ch barn chi arno 'nawr?’ 'Wel,' eba fe ar ol aros am
getyn bach heb wed dim, ‘bothti Ledarship y
Parti.’ ‘Wel, daethoch chi i
ryw drefan?' ‘Wel, dos gen i ddim
lwans i wed ffor bu hi rhyngto ni. Fe setlson
i atal popath fel ma fa am dicyn ta beth.' ‘Os rhyw ddowt pwy gaiff y swydd?’ ‘Nag os am wn i; dodd e na fyna'n gwel'd neb yn well na'r sawl sy nawr - Syr William Harcourt — on dy'n ni ddim wedi cwpla yto. ‘Beth ma fe'n feddwl o Rosebery nawr?' ‘O - dos gyta fi ddim hawl i wed hyny ond dos dim dowt
nad yw'r hen ddyn wedi cial i dwylio yndo fe.' ‘Ddaw e 'nol i arwain yto? ‘Nol, na ddaw byth! Fi wetas wtho am synu ar i fywyd na nelsa byth
shwd beth - a dyna wetws ynta nol — Pidwch a gofitio, Shon bach - w i wedy rhoi good bye i bob gwaith cyhoeddus swyddogol.' ‘Clywsoch chi am Pritchard Morgan yn cynyg 'i set
iddo fa?' 'Twt twt, dwli i gyd! Byw ar rw drics felna ma hwna - rwpath i giatw i enw fe yn fyw o flan y wlad.' Fi welas wth hyny nag odd Shon
Iefan ddim yn meddwl llawar o'ch membar chi, Mistr Golycidd; ag etho i
ddim i holi rhacor arno bothti’r peth. Felly,
ma'n ddicon tebyg y cewch chi giatw'ch
membar yto, ag na fydd I dim isha i heb o honoch chi i lefin ar 'i ol a am getyn ta beth. Ar ol hyn, fi ddetho nes i dre dicyn - fe ethon i whilia bothti LECSHWN BWRDD YSGOL Y CWM HYN
(YSTRADYFODWG). ‘Beth yw'ch meddwl chi,' ba fi, 'am y'n Board
newydd ni?' 'Wel,' ba fa, gan gymhwyso yn
i giatar, a thawli un gôs drws y llall, ‘ma fa'n Foard lled
dda alswn i feddwl, wir. Bron yr un rai y'n nhw y tro hyn a'r tro o'r blan.
Ma dou o'r hen aelota mas, wi'n diall. Trueni am un o nenyn nhw — achos odd a'n ddyn useful diginig bothti'r
buildin, &c. Od' dos dim byd iddi neid — ond mynd ymlan. Ma dou beth wedi'n nharo i'n
fidir gyta'r lecshwn ddwetha ma. l.] - Ma'r Eglwyswyr wedi ffyrnico
at waith, ag wedi dechra wmladd yn open; wrth gwrs, ma nhw ddicon ar ol; ond
wath i ti beth, naiff a ddim o'r tro i nina'r Ymneillduwyr i
gysgu wel di. Os dim dowt na cheson nhw galon achos iddi nhw gario'r vote
hyny bothti'r Bil Addysg dwetha — hwnw gias i gladdu gen Sir John Gorst ar ol i Sir
William Harcourt a'n boys ni o Gymru 'ma i ladd a. U'n o'n boys ni o Gymru yw
Sir Wiliam nawr he'd wth gwrs. Ond w i'n gobitho
na 'na nhw ddim tric mor gowardaidd a hwnw
y tro nesa daw Bil y Toriaid dan ’u sylw
nhw. 2.] - Peth arall:
Ma'r Collars at law’r Managers o hyd! Dw i yn gwed dim yn erbyn y Managers - ond beth oen nhw'n gatal William Evans i mas? Pam na fysa nhw'n sharo ticyn? Os dim use iddi nhw whalu bothti undeb a hawlia wrtho i pan nag y'n
nhw'n sefyll dros eu dyn. Gormod o'r hen ysbryd
cynffona ma sy’n ’u plith nhw o lawar i mhleso i
ta beth. Wi’n lico gweld nhw'n ymladd 'to a man' o ochor ’u dyn.' Wedi iddo gwpla ar y pwnc hyn, fi dynas y TARIAN dwetha mas o mhocad, a ba fi wtho – ‘Gryndwch Shon ar hwn,' a
fi ddarllenas y pishin sy yndo gen WMFFRA HUWS. Beth ych chi'n feddwl am hwna?' ba fi. Ffamws, Ffamws,
Ffamws! ba fe dair gwaith. Odd ’i isha fa'n
dost. Whare teg iddo, ma fe'n fachgan plaem bidir — un fel'ny odd 'i dad o'i flan a; own i yn i napod ynta ddar odd a'n grotyn. Gwed wth
Olycidd y DARIAN mod i'n gwed ‘Amen' gyta phob
gair ma Wmffra'n sgrifenu. Nawr dyna ddylsa fod, wel di, gento yw 'Colofn y Marwolaethau.' a 'Clolofn y Priodasau,' a ‘Cholofn Cyfarfodydd,' — ac nid pob un yn hela pishin c'yd a chôs caib am bawb
a phopath.
Fel hyn ‘nawr - JONES. — Medi 11eg, bu farw William Jones, 3, Bridge Row, Trealaw. yn 67 oed. Dyn da,
colled i bawb ar ei ol. Claddwyd ef Medi
14eg, yn Lledr Ddu. Rwpath fel yna nawr - dyna lawn dicon. Wmffra! Diolch i chi machgen i
am weid y'ch meddwl. Gobitho oltriff hyn y diffyg. Ag yn wir, fe gewch ddod i
Bicnick Pen Pych pan ddaw a. Cofion gora at bawb - y Golycidd, Boys yr Offis, a gwr y Gatar Wellt. Yr eiddoch, RIPORTAR Y PENTAN. |
|
|
(12
Tachwedd 1896) |
12-11-1896 https://newspapers.library.wales/view/3118258/3118262 PENT AN SHON" IE FAN. I RIPORTAR Y TIMES Mistr Golyeidd.- Yn
wir i ddyn dwy ddim yn gwpod ffor ma plycu i scrifenu i bapar b-ich Cymrag
fel y DARIAN yr wthnos hyn Wi wedi cial cyaig amswn oddiar helas i'r pishin
dwetha i'ch pa- piir chi. Wiln sposo fod y p-ipra Sasnag drw'r wlad yn watcho
am rhw dicyn baoli o glepar bothti Gladstone o rhwla-fel gvvelas i gatha ar
'n watch am lyco 1 Fe ddath TARIAST mas dwetydd dydd Mawrth, ag erbin uos
Perchar o:> Id prif bapra Llyndan wedi cwnn'r cownt bothti Gladstone -a'r
Interview -jest i gyd 'Sa nhw'n i giatal hi ar 'yhy, sa gen i ddtai Hawar
iddi we 1-ond wyddwn i ar y weddal nes bo rhywun yn <^ ioco wth y'n drws
ni b tra dydd Iou — owu i'n dicwdd bod yn secur y dwyrnod hyny, ddi.a gwaith,
ag own i d;?im wedi gwisgo 'nillad dwetydd odd gen i j< ■ oin bach ar y twlc moch isha'i
neid, ag wth liivnw own i wedi bod Shwnad ath at y drws—a fe giywswn laish
main rhw Sais yno. 'Ho ho,' ba fi wth ym j hunan beth yw hwn?' Un o wyr y
clyba ma -ne bacman—ne ddoctor Ilysa, ne rwrpath o'r short,'ba fi. Ond
dyuaa'r dyn i tniwn, ag yn estya ciariian fach i fi—fyna wetas wtho am ishta
yn y giateur fawr, a felni y bu. Dyina both odd y giardan MR. ORVILLE SHANKS,
The 'Tj-¡nes,' London. Wyddwn i ddim beth wetswn i A dvirta fe 'n dechra tori
pie a fi yn y fnn,:»d, ond alswn i ddim gwed i fod a'n ots o eon hefyd—ond
dyna beth odd yn y raeoso i odd—beth odd y dyn yn moyn a fi? Mhen ticyn bach
eba fe wrtho i (yn Sy-mag wth gwrs), Obi yw Riportar y Peatan, on-te-fa?' Wei
fi atho'n hurt! Pwy gynllwn sy wedi bod yn gwed hyny wtho fe own i'n faadwl.
Ag heb fyud yn 01 na'n mlan fi ofynas iddo fa: 'Pwy wetws uyny wtho chi?' Ag
erbin spio, rodd y dyu w -di cierad pob efil gof frrw'r cwm, nes iddo j,tal
;ihon Iefan, a 's'dirn lowt na Shon wetws yn ddi- feddwl wtho am dano i; ond
fi sharsas i a, odd a ddim i aoor 'i big wth neb lle own i'n byw, a whara teg
iddo, fe bromishws i atal popath yn y man 'nn. Br>,th ych chi'n meddwl odd
e'n mofyn, Mistr Goiycidd? Fi ginta'ch bo chi'n gwpot—a syn- wn i ddim nag i
chi'n dechra crynu hefyd— ond dyna. fe, er mwyn peidio whalu hwnt ag yma:
'Will you join the Times,1 ba fa, 'you are the very man we want,' Own i'n
ffaelu'n glir a diall beth odd y dyn yn ri feddwl; ond wedi iddo wed ta papar
Sasntig odd y Times ma, own i'n gweld trwyddi wetinyn biwr. Fe ginicws arian
bidir i fl am hela cownt y Pentan iddi bapar e: ag odA a'n gwed bod Interview
fel odd yn y TARIAN gen i yr wthnos ddwetha gistal a tail o buna iddi nhw
Hawyr bach, fi etho rawn stwmp pan ddywed a hyn A fyna pwr fEelo yn cial dim
yn scrifenu bob wthnos f Gan bwyll, Riportar O ble y gwllaf fi ddanfon '• ac
yn gwybod y byd ble'r u"wc' ac I -0: -a ¡ie, a baesach » u<ji race,
na gwatu In egwydd- „ Dos gen i fawr o gewc ar y Saeson, on' ma gen i lai ar
y Tories 'ina; ma nhw'n wath na Saeaon o la war! A fi alia i roi ngair i chi,
Mistr Golycidd, fod lle lled drwscwl yma cyn y diwadd. Ond y n —ay wedi cial
y nghwni ar bwys Shon lefan, yr hen Uymro pur, a'r Rhyddfrydwr gola, twym, yn
mynd i droi nghot at y Saeson a'r Tories? Hold a bit! Na. ii scrifena i'r
DARIAN amddirn cyn hyny-er i fod e. Mr Shanks, yn cinig arian ffamws am y
gwaith. Nawr, dyna gyd yw'r peth—achws fod Shon Iefan a Gladstone shwd
baitnars, ag yn gwpod i feddwl e ar bob pwnc. Ond cofiwch chi, Histr
Goiycidd, wi'n teimlo 'n fyry independant nawr ar ol c;al y cynjg hyn a fe
fydd yn gofyn i chi giatw poke y nghap i'n gwmws o hyd o hyn i mas, a gofaln
pido gneid llawar o branks, raag ofan i fi wed wth Mr Shanks; ond fi ginta
tod yr hint yn llawn dicon i duyn owic fel chi. |
|
|
(delwedd 6237a) (19 Tachwedd 1896) |
Tarian y Gweithiwr. 19
Tachwedd 1896. PENTAN SHON IEFAN. GWYR
MAWR ECLWS LOECAR AR Y PENTAN. Mistr
Golycidd. — Tawn
i 'mond yn gallu scrifenu popith welas i, ac a glywas i, ag a feddylas i rwthnos hyn, fyssa son am ddim yn y Darian ond am y Pentan. O fe licswn sa
dim ond pen decha y dyn 'ny scrifenws hanas Tomos Bartley yn mynd i r Bala,
gen i - ond pwy use whalu, dyw a ddim, a dyna ben ar y
cwbwl. 'Sdim iddi neid ond dod ag e mas ‘dwmp-di-damp' gora gallai. Fe
hintas rwthnos ddwetha fod Shon wedi gwôdd shag yma rai o'r gwyr bleina sy gen yr Eclws i
whilia ticyn bothti pwnc arian yr yscolion. Wel, fe ddath lot o henyn' nhw. Y ddou
Archesgob—York a Canterbury, Esgob Hereford a Esgob Llanelwy, Lords
Cranbrook, Cranborne, a Cross. Fe
ddethon yma ddydd Mawrth sha chenol dydd — ag odd 'ma barotoians ar 'u cownt nhw. Ta beth, i'r ty at Macws geson
nhw ddod gynta. Hi fyssa'n drêt i chi weld
Macws a'i thy dydd Mawrth - odd y petha gora mas! Llestri nag oedd ddim wedi
eu tynu o'r cwbwrt cornal os deugian
mlynadd am wn i! Y Pembroc Table - hona sy a dwy atan genti — wedi cial 'u acor.
Cadeiria rwm ffrynt i gyd mas yn y gecin, a Ilian mor wyn ag eira Pen Pych ar y ford - a My Lords yn 'u llewish gwynon yn ishta'n eitha cartrefol rownd i'r ford. Odd Macws yn 'i dillad gora - gwm du, wedi cial i bino'r Ian yn ol, ffetog wen o'i
blan, turn-over fach blod ar 'i gwar hi, a chap du a rhibana glas ar 'i phen hi. A fu 'riod o'i glanach
hi mwn scitsha! ‘Dewch
at y ford hawyr,' ba hi wrth My Lords, ‘a
bytwch fel sa chi yn nhre - dos fawr o gymjees gyta ni, ond ma creso i chi
iddi gial a ffor mae a yma, Nawr ych chi'n cial dicon o
betha crand yn nhre, a fi feddylas y byssa
'tatws wedi berwi trw'r pil, a llath enwyn, yn dipyn o newitiach i chi. Nawr dewch — bytwch fel sa whant
arnoch chi." A dyna lle 'rodd My Lords
yn panu ar y "tatws trw'r pil." felsa nhw'n Irishmen i gyd. Whara teg iddyn nhw am dderbyn
pobpeth fel o'u nhw yn 'i gial a; a gobitho g'nan run peth pan gan nhw eu Education Bill yn ol o'r Senadd - y cymeran nhw fa mor folon ag oen nhw'm cymeryd
cino hen ffashwn Macws Shon Iefan. Wedi
i Esgob Llanelwy ddoti ei gillath a fforc ar y plat — wath fe odd y dwetha'n cwpla - ag fe fytws yn harty he'd — dyma'r hen gaptan yn cwni o'i giatar. ‘Wel nawr,' ba
Shon Iefan, 'os ych chi gyd wedi cial ych gwala o fwyd, fe ewn mas i'r Efil nawr - ma mwy o le shaw yno na sy 'ma, a fe fydd yn well
gen Macws gial yn gwarad ni nawr, iddi gial llonydd i olchi'r llestri, a chymeni ticyn ar y lle 'ma, cyn delo ni noi i gial dishglad o de cyn bo'ch chi'n mynd at y train.
Gwishgwch y'ch heta, a dewch mas ffor hyn — drw'r bac 'ma’ Mas
y dethon nhw, ag i'r efil, a fi alswn feddwl nag odd y rhan fwya o henyn nhw wedi gweld efil gof o'r blan. A fi nidws y rhai mwya gwishgi o henyn nhw i ben y
Pentan yn wir, a fe eisteddson yn dwt ar y blocks. Hi fyssa yn dret i chi
wel'd |
|
|
(delwedd 6237b) (19 Tachwedd 1896) |
‘Y GWYR MAWR
AR Y PENTAN!’ a'r
hen gaptan. Shon lefan, yn ishta ar big yr eingon, ag Archesgob York wth i ochor a. ‘Wel nawr, fechgyn,' ba
Shon, 'beth yw'r holl glepar ma sy bothti'r wlad y dyrnota hyn? Own i'n
meddwl, wedi claddu'r Bil
dwetha ma, y celsan ni lonydd gyta chi bellach - yn enwetig wedi i chi weld fod y wlad mor selog a Mrs yn
ych erbyn chi.' A
dyma nhw gyd yn pego ar York i atab Shon: a mynta fa: ‘Fel hyn, Shon
Iefan,' ag yn cwni oddiar i
ishta; ‘chi wyddoch fod ysgolion yr Eclws wedi mind yn glawd bidir y blynydda dwetha ma. 'Dos dim shwd beth a chial dicon o arian iddi cynal nhw'n didy, a rhoi'r dysc y lician ni i'r plant - fel odd hi flynydda nol, pan oech chi a fyna'n grots
bach. Yn ni'n ffaelu'n glir a chatw petha i fynd yn depig i beth ddyla nhw fod; a'n penderfyniad ni yw ........ llywodraeth
am roi tipyn o b........ setlo i fecian am
g..... addysg y plant.' ‘Piwr diginig yn...... yn
meddwl y cewch....... wedi
ffaelu cial pedwar swllt o'r blan? Canterbury
(to be): ‘O! fel hyn’ Shon. Gofyn wechswllt y pen at bob plentyn yn y
'Bord Scwls,' a’n hyscolion ninna - fydd hyny yn ddicon teg!' Shon
lefan: Pwy ddywad wrtho chi fod y Bord Scwls yn mofyn help?' [Dim atab].
‘Holt!'
eba Lord Cranborne; ‘pwy sens sy mwn peth felni? Fyddwn ni damed nes
ymlan os can nhw 'run peth a ninna! Ma nhw i rhwla o'n
blan ni nawr, a fe fyddan yn gwmws yr un peth wetyn, os ta felna ma'i fod.
Nace, nace, 6s. i ni, a dim iddi
nhw - dyna fel daw hi daro.' Shon
Iefan: Mab Salisbri ych chi machgan i, onte fa? Ag ych chi'n ddicon tepyg i'ch tad. Gelyn y Bord Scwls yw e, a fi wela ta chip of the old block' ych chitha. Ma fe wedi gwed yn ddicon plaim, sa fe ddtm ond yn gallu u gwascu nhw mas o
fodolaeth — y bassa hyny yn ddicon o nefodd iddi galon a. Ma gento fe lon'd i ddilo i drafod y gwledydd pell ma nawr - fe fassa'n well iddo drio achub yr Armeniaid na lladd y Bord Scwls: a gwetwch wrtho mod i'n gwed hyny.' Dyna bilsan lled fawr
i hwnw — ag yr odd y gwalch yn corn-dacu shaw wth drio i llyncu hi. 'Wel,' ba Shon wetyn; ‘sposwoh fod y Llywodrath yn gwrthod y wechswllt
ma, beth yw'r cynllun wet'yn?' Canterbury
(to be): 'Cwni trethi ymhob man Ile ma'r yscolion ma idd u
cynal nhw.’ Shon
Iefan: 'Piwr digynyg! Odych chi ddim yn cretu, Dr
Temple, fod dicon o faich ar y trethdalwyr ishws?
[Dim atab]. ‘Eto.' Odych chi'n barod i'r trethdalwyr gial llaw yn rheoli’ch
yscolion chi — os bydda nhw'n talu? Nawr, fe wyddoch fod yr Eglwyswyr yn cial
mynd ar y Scwl Bord -ma dou wedi mynd i miwn yma ys tair wthnos yn
ol. |
|
|
(delwedd 6237c) (19 Tachwedd 1896) |
Canturbury:
‘O na: y'n ni am giatw'r ffrwyn yn yn dilo ni'n hunen.' Shon
lefan: Ffamws mechcyn i'n wir! Dyna'ch syniad chi am gyfiawnder, iefa?
Beth wetsa Mrs Temple (os oes un i
gial), sa hi'n talu morwn, ag yn y diwadd ddim
yn cial hawl i wed wrthi am wneud fel hyn ne
fel arall. Ne gwetwch fel hyn, i fod yn fyr ~ Mrs Temple yn talu'r forwm, a Macws ni yn i
gaffro hI. Na, machgan i, gora gyd pwy gynta y tawelwch chi'r rhwbish yna i'r gob. Un gofyniad yto - Pam na helwch
chi'ch plant i’r Bord Scwls? Ych chi'n cyfadda fod gwell athrawon yno, a gwell
dysc; a'r un whara teg i bawb -clawd a chyfoethog.' Lord
Cross: ‘That would be the greatest blow possible on the
Church of England.' ‘Dyna,' eba
Shon 'dyna'r giath mas o'r cwdyn yn y diwadd. Dos dim fel
bod yn onast. Dyna sy gyta chi'r tacla wth wraidd y cwbwl. Nid dysc y plant sy'n ych blino chi, ond dyfodol
Eclws Loegar! Ofan sy arno chi yr aiff y plant yn
Ymneillduwyr! Rych chi fel y dynon hyny slawar
dydd yn erlid yr Apostolion, 'am fod gobaith eu helw yn myned
i golli.' Macu Eglwyswyr yw'ch pwnc chi, a dyna ffor
ych chi'n anfolon i neb fusnesau yn y'ch
yscolion chi. O! ‘r tacla mên shwd ag ych chi. Own i'n meddwl gofyn racor o gwestiyna i chi, ond i beth ewn ni i fratu
amser. Ma gen i bedwar dwsan o dools maswnied iddi sharpo nawr — dycco nhw ar y Pentan - dynon sy'n helaethu Bord
Scwls y lle 'ma, a fe dâl y ffordd yn well i fi sharpo rheina na chlepren rhacor a chi ond w i
am wed gair ne ddou yto, cyn bo ni'n mynd i weld beth gewn ni gyta Macws yto,
cyn bochi yn matal. Dyma nhw — I./ Dyw
a ddim yn deg i chi gial arian y wlad at y'ch use i ddyscu crefydd Eclws
Loegr i'ch plant. A tyssa chi, My Lords, yn diall y'ch Beibla, fe welsach nag yw a ddim yn iawn yn ol egwyddor
y Gair. Rhydd ewyllys yw egwyddor y Mishtir Mawr, II./ Os
ych chi yn moin arian o ddwylo'r werin, rhaid i'r werin gial llaish ffor ma rheiny i gial i
trafod. III./
Os os gwir isha arian arnoch chi, triwch berswadio
gwyr mawr yr Eclws i ro'i bothti |
|
|
(delwedd 6237d) (19 Tachwedd 1896) |
hanar
cwartar yr arian ma; nhw'n hela ar rasis cwn a cheffyla, i helpu'r Eclws i ddod mas o'r trwpwl ma. IV./ — Pidwch a fforso'r
penderfyniad newydd 'ma ar y Llywodrath, wath cial ych maeddu newch chi yto.
a fe ewch yn sport i'r byd. Erbyn
b'o Shon wedi cwpla'r speech hyn,
oen nhw i gyd yn etrych ar ’u gilydd am y
llipa, fel lot o ieir ar y gwlaw! A dim rhyfadd, wath fe geson hi fel cawod o wlaw tarana. Ond whara teg
iddyn nhw, doen nhw ddim yn etrych yn gias ar yr hen of, a wi'n siwr 'u bod
nhw'n teimio sa nhw' mond yn cial Shon Iefan o'u hochor nhw, na hitsan nhw ddim i ymladd y byd! Gyta
hyn, dyma Macws yn dod mas at ddrws yr efil, ag yn gweiddi, ‘Dewch nawr, hawyr, i gtal dishglad o de cyn bo
chi'n matal Dera nawr, Shon, ma'r te ar y ford yn weitian.' A miwn a nhw i
gyd. Ag yn wir, odd Macws mor fishi a nhwnta, a chwedi gneud cyslad dou blated o ffrois a welws
Ilycid dyn ariod. A fi alswn i
feddwl na thastson nhw ddim
ffrois o'r blan, wath odd yno ddim ffroisan ar ol
erbyn bo nhw wedi cwpla; ag
odd Canterbury (to be), rhwng i fod e dicyn bach yn
nervous, a whant bwyd arno, yn sâm i gyd o glust i
glust! Dodd
gyta nhw fawr amsar i ddala'r train - amsar i gial
swil bach ar ol lluwch yr efil, a saim
y ffrois. A dyna ddywad York wrth Macws ar y glwyd wrth fatal: ‘Ma'n well gen i'ch ffrois chi, Mrs Iefan, na speech y'ch mishdir,' ag odd e'n siwr o fod yn gwed y gwir hefyd. Ma
Shon lefan am i chi, Mistr Golycidd. i wed yn ych papar wth bob Libral yn y wlad dynu'r rhwd oddar yr arfa - achos ma brwydr i fod. Librals! be ready!! Yr
eiddoch, wrth fodd i galon, RIPORTAR
Y PENTAN. P.S.—Run
peth a'r merched ifinc i gyd. Bothti'r llun.
Own i ddim yn meddwl y bassa fa'n d'od i'ch llaw chi'n ddicon cynar i'r papar dwetha, ond fi
wela iddo dd'od. Dodd yr hen gaptan ddim yn folon i ni dynu lun a, a dyw e ddim yn gwpod am hwn. Nid cwmpni'r Pentan yw'r bechcyn sy'n ishta ar bwys y
Pentan, ond gwyr y papyra Sisnag ma - odd wedi d'od iddi weld a rhyw ddwyrnod; a
bachgan o'r lle 'ma gymerws ‘snap shot' o henyn
nhw fel oen nhw ar y pryd, Ond dyna'r Pentan, a dyma Shon
Iefan; a'r unig beth sy isha nawr yw meddwl y'ch bo chi'n gwel'd y boys ar y blocs. R.
P. |
|
|
|
10-12-1896 d .£' PENTAN SHON IEFAN. CWRDD
OYMYSG. I MISTR GOLYCIDD,-Oech ch4n ffaelu dial], fi giata, ffor na chesocn
chi aiv bach yr wthnos ddwetha orwtho i. Wei, fi wets i chi'n gwm- wa chwd bu
hi. Cheson ni nemor i ddim o gwiapni'r hen gaptan ar y Pentan, achos fod
Mu»ws wedi bod yn dost. Ma. hi'n ciai &mba]I i bwi bach sharp nawr ag yn
y man o rwpathll nw hi'n i alw yn 'Brown Titusdw i idimyn gwpod 08 taw hwna
yw'r enw iawn hefyd. Rodd 6hou yn gwed wtho i taw wedi cial gor- tnod o
excitement odd hi pan fu Gwyr mawr vr Eciws yma pwy ddwyrnod, ac wrth gwrs,
ma hitiia yn mynd ar i hoefcyaji mawr i gial liawar o fuss fel hyny. A dos
dim dishevel lai pax styrion ni i bod hi wedi giatal i phedwar utian. On
whara teg i'r Gwyr mawr fu yma, pan glyws rhai o henyn nhw fod Macws yn dost,
fe belson ffowlin bach ffamws iddi; a fe nath Shon lymid o giawl nice i'r hen
wraig, a dyna'r path cynta gymrws hi oddar odd hi'n ciatwlr gwely. -.cos83
Oen ni'n cwrdd fel arfadd, a fe feddylson tra bo Shon yn ffaelu dcd, y bysan
ni'n cintw owrdd bach i ni'n hunen am dro mwn shawns. A fi ethon ati ar unweth
i bico ciadeirydd, a fe bieson Jack Price, a fe folonws ynta ar y tyler- a'n
bod ni gyd yn gwneud rhwpath—vhoi speech ne gianu, ne woo stori ne rwpath
ddel- sa i'n meddwi ni. Dyma Jack yn cymryd i le ar yr eingion- dyna le y
cadeirydH o hyd, a dyma fe yn an- erch y Pentan rwpath fel hyn,- Anwl
Gyd-Bentanwyr (Loud Cheers). Cat- wch (.ni'ch clapo na sbo'r diwadd,
'sgwelwch chi yn dd (louder cheers). Fiwelanagosdim use gwed wthto chi (near,
hear). Ma'n dda gen i gial fy noti mwn lle mor bwysig a hwo, pan gofion ni
pwy sy'n arfadd bod 'ma (cheers). Wi'n gwpod gietal a neb o honoch chi nag w
i dddm}? £ ilanw lle Shon Iefan, a ta fatar am hyny, llanw lle 'munan w i, a
nid i le fe (clywch, clvwch). '-Ma'n d(-pig fod y cymdeit-haea ma sy both-
ti'r wiad yn ciatw cyrdda Gymrodorion, a Llen- orion, aBeirdd, &c., yn
cynal amball i gwrdd ma7r Saeson yn i alw yn Members' Night (loud cheers).
Dyma sy fod yma heno wi'n dta.N (bonder cheeis). Wel, weta i ddim racor nawr,
rhag ofan i chi nend cam a ch dilo wth glapo fel hyn (rene ved cheers). Wi'n
gialw nawr ar I Rliysyn y Cwandd i weid ticyn o hanas yr Army wthta ni (very
lond cheers). Wedi i'r Pentanwyr gwpla clapo, fe gwnws Råysyn as i draed, a
fe nath speech ddoniol ofnadw, a mawr y sport gawd ganto. Atrodd sto,ria am y
soljwrs odd e; ag yn wir oen nhw'n smala diginig hefyd. Dyma un :— Wi'n
cofio,' ba Rhysyn, pan own i mas yn Waterloo (?) rodd hi wedi mynd yn wmladd
gwyHt rhwng y French a mina—ag fe ddath Boin Shell o rwla, ag fe draws fachan
o bart- nar i fi yn i stymog nes i fod a'n rhetig y llawr, a phan etho i a
bachan arall ato, rodd a'n gor- wadd heb damad o grys am dano—y cyfan wedi
eial i hwthi off. Fi weison dwryn o rw- path fel dillad nes hwnt bothti
ganllath. a dymn li yno—a dyna lle odd i got a a'i grys a a thu fiwn i'r
cwbwJ, dyna lle odd stymog y baohan! 'D/mani'n myn'd a'r bachan ar garlam i
dent y doctor, a dyna'r gwaith clevra welas i 'n fy mywyd. Fe ddotws y doctor
stymog letar newydd yndo fa, ag fei gwiniwa a i'r lan -a bora tranoth yr odd
y boy yn ol yn i le yn y ranks yn un tamad gwath nag arfadd (loud laughter).
y nesa wi'n gialw,' eba'r carleirydd, yw Shors Morris, R.S.O., i roi can.
Wi'n meddwi mod i wedi gwed o'r blan wthto chi fod Shors yn giantwr. Ma gento
laish ft I eos. Ag yn wir, 1e gianws yn ffamws. P'as Gogerddan odd y gâ-n-i
atab stori'r soljv. r odd Rhysyn wedi bod yn atrodd. Yr y'n ni wedJ cial
sport bidir gyda Shors yn ddiweddar. Fel hyn Mae a wedi bod am y ilwyddyn
ddwedda ma yn studio eeixMorigth yn giaJad. A fe nath don pwy ddwyrnod, ag
ie'i halws ni slia L]ynd;m l gial gwpod faint odd hi o'i lle. Ma'n depig fod
shaw o wyr cianu yn Llyndan on ta bebb. i fod yn fyr, fe helws y dynon hyn
fythyr yn ol i Shors, a beirniadaeth ar y don, ac ar gias y llythyr odd
address fel hyn Goorge Morrip, Epq., 20. Wind Street, Poitre, R.S.O., Rhondda
VaHey. Pan welws Shors yr R.S.O. yma ar y llythyr, fe gretws ar unwaitb taw
teltl am y don odd « —wedi cial ei roi gan awdurdodau'r College. Dymafe,' ba
fa wth ei wraig, wedi dod o'r diwadd. K.S.O.—hyny yw, Royal Society of I
Organists f A mawry lle sy wedi bod yma Ma yma son am gial Banquet iddi
longyfarch e ar i ddyrchafiad, ag y'n ni'n meddwi gofyn i Dr Parry i Syr
Alex. McKenzie i ddod shag I yma i'n heipn ni iddi urddo fe a fe fydda i yn
dishcwl i chi roi hanar y DAEIXVN yr wthnos hyny at riporto'r cwrdd A* ol i
Shors gianu, y nesa i gial i alw odd Shemsin Twrbil, Bardd y Pentan.
'Gyd-Bentanwyr,' ebe Shemsin. 'Dw i ddim am tod yn anufudd, am
hviiywincwi-iii ar y nhrad, er fed damprwdd mawr aruo i i II gwni ar ol y
cewri sy wedi myned o mlan i. Os ticyn bach o amsar yn ol, fi ddygwyddas
tIraeo sha Gwen, a fe fu gofid tost arno i both- ti'.¡. peth befyd. Ond wedi
i'r stori hibo, fe ddotas yr hely'nt ar gan, a fi adrodda hono wtbto chi, cs
bcach chi (go on, go on!). Wei, o'r gova. Y testyn yw- |
|
|
(delwedd
J7644a) (17 Rhagfyr 1896) |
17-12-1896 Tarian y Gweithiwr. 17 Rhagfyr 1896. PENTAN SHON IEFAN. MISTR GOLYCIDD, - Fi wela'ch bo chi yn whara'r
wic a fi unweth yto. Ffor collso chi'r step yr wthnos cyn y dwetha? Own i
wedi hela mwn pryd fel arfadd oddyma; ond fi wela ych bo chi wedi dod i mas
yn y diwadd. Wi'n gobitho wedi i'r flwyddyn newydd ma ddod
miwn y cewn ni hanas y Pentan ma mas yn gysed bob dydd Iou. Fe fu gesso bidir yma be odd y dwetha wedi bod
cyd. Ag rodd gwahanol farna am hyn fel am scheme D A Thomas. Rhai yn meddwl
mod i wedi anghofio rhoi stamp ar y llythyr; a rhai yn meddwl nag gyta chi
ddim lle tidi iddi ddoti fa miwn; a rhai yn beio'r postman. Gyta ni yma odd y Postman creulona's blynydda
'nol! Fe gatsa lythyr i chi yn i bocad am wthnos ne bythewnos A dodd dim use
i chi wed gair wthto - ac fe odd hira'i dafod. Tacla ewn bidir yw gwishon y
frenhinas i gyd bron. Dyma nath hwn un tro a Shon lefan. Yr odd llythyr i
ddod orwth fab Shon o Awstralia (fe gewch glywad stori bywyd y bachgan hyny
rhwbryd yto). Wei, rodd Shon yn erfyn y llythyr hyn fel tae acha dydd Mawrth
— yn ol yr amsar arfeddol - ond dim son am dano. Dydd Mawrth mhen wthnos, dim
son! Cyn diwadd yr wthnos, dyma Shon yn gialw ar y postman ar i waith a'n
passo drws yr Efil, ag yn gofyn iddo, ‘Dai, os gen ti ddim llythyr o
Awstralia i fi?' ‘Wn i ddim,' ba Dai, ‘fi whila nawr i wel'd.' Dyma fe'n gwân
i ddilo iddi boceti, ag o'r diwadd; dyma lythyr Shon lefan yn dod mas! Mor
ddu a'r pentan! Erbyn spio ar y cias, odd y llythyr wedi dod pan odd Shon yn
dishcwl. ‘Wel, Dai gynllwn!' ba Shon, ‘beth gest ti i giatw'm Ilythyr i yn dy
bocad fel byn?' ‘Pwy waniath yw a?' ba Dai, ‘Ych chi’n gweld, Shon, os os
news drwg yndo gora gyd pwy hira bo fa cyn dod i'ch llaw chi, ac os os news
da yndo, fe ddal iddi giatw heb fyned yn wath.' Beth i chi'n feddwl am hwn, Mr Golycidd? Wi'n
gobitho nag os gyta chi mwn lle enwog fel 'Berdar ddim o short Dai'r Postman.
Ble ma’r llun hefyd - llun y Pentan? Dyw a ddim
wedi cial i hongad ar wal y DARIAN os llawar dydd. Os nag i chi'n mynd iddi
ddoti a i Ian yto, bydd yn well i ni i gial a nol, iddi fframo fa! Ma Shors
Morris, R.S.O., wedi fframo cias y llythyr ddath o Llyndan, fel bo'r
stifficet ar gial, medd efe, iddi blant a'i wyrion i gial i weld a o lycid 'u
hunin. MACWS. Tebyg iawn ych bo chi'n dishcwl clwad rhwpath am
Macws — shwd ma hi'n gwella o'r pwl dwetha. Wel, ma'n dda gen i wed i bod
hi'n gwella'n biwr y dyrnota dwetha ma; ma hi'n cwni bob dydd, ac yn picach
ticynach o fwyd hefyd. Yn wir, ma’r pwl dwetha ma wedi doti wthti'n fidir,
ond mae'n cwni, a chwetin ma Shon wth i fodd dim ond i chial hi i'r cornal. Fi dros i i miwn yco nithwr, a dyna lle rodd hi'n
fishi iawn yn pico resins a churrans. ‘O fi wela,' ba fina, ‘ych bo chi'n
meddwl am gial ticyn o dishan wyla leni yto?' ‘Tassa ni heb," ba hitha,
dyma'r tro cynta i Shon a fyna fod hepthi, ag i’n ni gyta'n giddil nawr yn
tynu'n glos am drician mlynadd! A wi wedi i gneud hi munan bob blwyddyn
hefyd,' ba hi, gyta balchder digynig. I ble ych chi’n mynd N'dolig nesa Golycidd, a mod
i mor ewn a gofyn? Yma ddelsach chi ddod i weld Macws a Shon Iefan yn 'u
bwthyn bach — mor lân, mor hapus chontented ag unrhyw ddou ddyn ar y ddaear.
Pan bo nhw wth fwyd, ma genti nhw ford rownd fach, dicon iddyn nhw'ch dou, ag
y ma nhw'n gallu tynu hono mor acos i'r ten a mynwn nhw pan bo hi'n dywydd
scelar o ôr. Yn y nos, ma nhw yn mhobi gornal – bobl giatar fawr. Shon yn
darllin, a Macws yn gwau ne'n gwinio - ag fe all ddoti defyn mwn nytwydd
nawr, er mor hen yw hi. Os gwetwch chi y dewch chi shag yma'n amsar y gwyla
nesa, fi ddwa i gwrdd a chi, a fi gewch reso gora ‘gwyr y gloran,' a ma
hyny'n shaw iddi wêd. Os dewch chi, pidwch a chretu taw chi yw'r dyn
enwog cynta ddath i'r cwm ma. Gwddoch chi pwy fu ma'r wthnos hyn? — |
|
|
(delwedd
J7644b) (17 Rhagfyr 1896) |
SIR CHARLES DILKE. Y'n ni yma yn hen gyfarwdd a fe bellach, a dos
neb wi yn ffondach o'i glywad a na Syr Charles, wath ma rhwpath gytag e
hablaw swn bob amsar. Pan welws Syr Charles nag odd Shon lefan ddim ar y
platform fel arfadd, fe ofynws i Mabon, ‘Ble ma Shon lefan, bachan? Peth od
nag yw e yma?’ A fe ddywad Mabon am Macws, a tawn i heb gyffro pwy ddelsa
shag yma at Shon bora tranoth ond y ddou M.P. ag rodd Shon a'i ben yn y papar
ar y pryd yn darllin speech Syr Charles. Ma'n depig iddyn nhw fynd dros lawar
o betha i gyd — bothti'r Ledarship, a'r Bil Addysc Newydd, ag -Armenia, a
Soudan, &c., ond alia i ddim reporto beth wetwd achos own i ddim yno -
own i yn y gwaith, a dw i ddim fel ma rhai riportars yn gwed hanas cvrdda,
&c,, heb fod yno. Gan hyny, wi'n gwed good-bye' wth Syr Charles yn y fan
hyn. Gwyddoch chi beth sy wedi nharo i yn ddiweddar?
Dyma fe - 'FOD BERDAR YN MHELL AR OL YR OS.' Dw i byth yn clywad nag yn darllin fod dynon
enwog fel Dilke a Lloyd George, a Tom Ellis yn dod yna i areithio i chi, er
cymant yw'r gweiddi sy am 'Sweet 'Berdar.' Beth yw'r mater? Fe licswn i wpod.
Ma'r bechcyn yna yma ‘bwt bat' o hyd; a mawr y lles ma nhw yn i neud. Licswn
i ddim tawli un slur ar ych Membar chi, wath wi'n cretu i fod e yn fachgen
ffamws, a ma gento bwll mawr yn y cwm hyn, ag y ma fe ar i ora gyda'r
gweithwyr o hyd, er ta mishtir yw a; a gwed y gwir fe sy wedi starto'r scheme
newydd ma i gial gwell arian i'r colliars; ond dyma sy'n od na fassa fa'n
mynnid mwy o'r ‘big guns' ma i ddod i whilia ar bynca'r dydd sha chi! A fi etho'n hurt pan welas i'r pishin yna gen y
bachan sy'n ych gialw chi yn Fishdir y DARIAN (fi alswn feddwl nag yw e ddim
wedi cial fawr o yscol, mwy na fynna) — y pishin hyny yn gwed bod isha starto
Cymdeithas Cymredorion ne rhwpath yn y line hyny yn Berdar. Wel, wel! Wyddwn
i ddim beth wetswn i! Sa hen feirdd a chantorion Berdar yn cwni pena ag yn
gweld shwd annhrefn sy yna, a dim dowt gen i na ofynsan nhw i'r Brenin Mawr
am gial les newydd ar 'u bywyd er mwyn gwasteti petha, ag i neud un cynyg yto
i giatw Awen a Chan 'u gwtad yn fyw. Cwnwch at ych gwaith rhag cwiddil i chi!
Ma gyta ni gymdeithas gryf yma ar y Tan os blynydda,
a diolch am deni. Ma gwyr y Bont ar ol cysgu'n hir, wedi dihuno. A wi'n
meddwl, os nag w i yn twyllo munan fod gen Wmffra Huws gwmint o shar a neb yn
y gwaith hyn. Os nag ych chi yn cwni at ych gwaith fel dynon, fe ddewn ni
oddyma ne rai o wyr y Bont i starto Branch newydd gyta chi. Ma isha dyscu'r os sy'n cwni am yr hen fechgyn
odd yslawar dydd, a fe dal y ffordd iddyn nhw wpod mwy am reiny a llai am
drash y Saeson. Wel, ma rhaid i fi dewi, ne falla diciai rhai o'r
gwyr mawr; ond dicied nhw ne bido, gwir yw gwir pun ag ych chi yn i lico fa
ne ddim, ag un o egwyddorion meibion y Pentan yw helpu pob amcan da, wath ym
mhwy gwm yn y byd y bo fa. Nos da. Yr eiddoch yn ddiwenwn, RIPORTAR Y PENTAN. Nos Wener, Rhag. 11, 1896. |
|
|
...
|
|
(delwedd G3818) (11 Chwefror 1897) |
11-02-1897 Tarian y Gweithiwr. 11
Chwefror 1897. PENTAN SHON IEFAN. Y RIPORTAR
MAS O’I GOF. MISTR GOLYCIDD, — Shwd ych chi os lawar dydd?
Gobitho'ch bo chi mwn gwell hwyl na fi ta beth. Nid yn amal w I yn mynd was o
nghof, ond fi etho ddo wadi dod sha thre o Llyndan. Nid at y ngwraig cofiwch etho i o nghof — ma hi a fi
yn diall yn gilydd yn ffamws, y'n ni wedi byw pac o flynydda gyta'n gilydd
erbyn hyn — heb un ffra riod! Falla chretwch chi ddim o hyny, wath ma dynon
mor barod i ‘jidgo' dynon erill wthti nhw'u hunin. Ond dyma'r gwir. Ma gistal i fi wed wthto chi beth sy'n bod. Fi geso
‘delegraph’ o Merica os cetyn bach yn ol, orwth Golycidd papar a elwir y ‘New
York Herald,' yn gofyn i fi am fynd sha Llyndan, ag i'r Hows of Commons i
riporto shwd odd hi'n mynd ymlan gyta Lord Penrhyn pan odd e'n cial i alw i
‘gym-tw' gen y Parlament bothti'r cwerydd slats sy gento yn Bethesda. Own i'n ffaelu diall ffor oen nhw yn hela ato ond fi
ffindas mas ta gwaith Shon Iefan odd hyn; oen nhw wedi hela ato fe am
recommendo rhywun iddi nhw, a wi'n sposo i'r hen gapten y'm enwi i wthti nhw.
Wel fi fuo mwn dowt ofnadw pun sw ni'n mynd ne bido,
ond own i'n gweld cyfla ffamws am drip i Llyndan heb yn wpod a i fi'm hunan,
a fe setlas i fynd. Nawr, own i wedi addo'n siwr i chi y bysswn i'n hela
hanes y Pentan yn amal leni; ag er mwyn ciatw ngair, fi setlas a Jack Price I
gymryd y'n lle i nes deiwn i'n ol, a fe bromishws, a phan ddetho i nol, a
gweld y TARIAN am y ddwy wthnos ddwetha ma, wyddwn i ddim beth wetswn i! Dyna
pam wi mas o nghof — ag os dim ryfeddod, ond nag os a? Win lico dyn triw ta beth; ond dyna fel mae o hyd —
allwch chi ddim trysto'ch brawd bron! Fe wetws Longfellow air shwd hyn
unweth, ‘Serve yourself, would you be well served, is an excellent adage,' a
dyna fel mae nawr, os na newch chi'ch gwaith ych hunan, wel -----! O'R PENTAN I SANT STEPHAN. Dos gyta fi ddim hawl i hela'r riport i chi — fydd
gwyr y New York Herald ddim yn folon, a dos dim isha, wath ych chi wedi gweld
dicon yn y papra Sisnag am dano, ond fi weta air shwd le sy no. Fi startas o'r cwm ma sha Chardydd, ag odd yno i
Llyndan, ag odd Sali (ngwraig i) wedi rhoi shawl fawr lanan i fi ddoti am y
nglina y train i giatw anwd off, wath odd hi'n bidir. Ag odd gen i dicyn o
fwyd hefyd. Fi etho i a mocs a'n chack gyta fi, a thicyn o fara chig yn y
bocs, a llond y chack o de, a wir rhwng y bwyd a'r dillad extra ma own i'n
gyffwrddus net. Wedi cyrradd, y peth cynta odd cal lodgins piwr, a
fi feddylas am Mason (y'n membar ni), a dyma fi i'r Hows of Commons, a fi
gnocas wth y drws ffrynt, a fi ofynas i blisman mawr os odd Mabon miwn. ‘Wn i
ddim,' ba fa. ‘Cerwch mlan ffor na nes bo chi'n dod i Hall fawr, a holwch
fanni.' O'r gora, mlan a fi trw rhyw arches crand ofnadw; a mhen cetyn fi
ddetho at y lle. Holi wetyn. ‘Send a card in,' medda rhyw blisman tew wthto
I, a fi sgrifenas bwtyn bach at Mabon, a mhen cetyn mawr, dyna Mabon yn dod.
O! sa chi mond gweld Mabon a'r hen blisman tew ma ochor yn ochor! Dyna bar!
Yr arswd anwl! Ond fod y plisman dicyn yn dewach. Pan wetws Mabon fi, ‘Holo bachan,' medda fa, ‘o ble
dethot ti yma?' Fyna wetas y cwbl wthto fe. Wyddoch chi beth, eitha fachan
yw'n Membar ni. ‘Wel nawr, Mabon,' ba fi, ‘ble ma cial lodgin piwr heb fod yn
bryd iawn?' A fe ath a fi i le bach ffamws ar bwys y Ty, fel na bo llawar o
ffordd i gerad nol a mlan. |
|
|
(delwedd G3819) (11 Chwefror 1897) |
Wetyn, y peth nesa odd cial
Ile i ishta i riporto, ac fe geso hwnw Ian ar y llofft. Ma'r Ty y peth tebyca
welsoch chi riod i
dy cwrdd, a setis felny
yndo — ond lawr ar y llawr ma'r Membars i gyd yn ishta. Ond welas i ddim shwd lot o dacla difanars yn y
mywyd. Ma nhw'n ishta bob shap yn y byd, a’u heta ar 'u pena — rhai yn cyscu
a rhai yn clepran a’u gilydd pan bo dyn ar i drad yn gweid speech. Odd
cwilydd arno i iddi gweld nhw. Ond pan oen nhw yn mynd mas ne ddod miwn, sen nhw yn
tynu 'u heta wth baso ciatar y Speakar. Fe yw'u mishtir nhw, a phan ma fe yn
gweiddi ‘Order, order,' ma nhw'n gorffod tewi fel lot o blant bach! Ma'n dda
rhywun yn fishtir ar y tacla. GRYNDO'R BIG GUNS! Fi glywas shaw o'n bechcyn ifenc o Gymru — Wm Jones
a Lloyd George ag erill. Bechcyn ffamws i gyd — clod i Gymru. Oen nhw'n
whilia Sisnag fel sa nhw wedi cial 'u cwni yn Lloegar! Own i'n anghofio
weitha i sgrifenu, ag fi glappas yn nilo — ond dyma rhyw fachan tal yn dod
ato i, ag yn gwed os bysswn i yn clappo yto y byssa fe'n y nhroi i mas. Tw
bad na chela dyn glappo pan odd whant arno. Oen nhw — gwyr y Ilawr — yn cial
clappo a gweiddi faint fynsa nhw ; ond dyna fel mae, ochor i'r gwyr mawr o
hyd! Dyna Balfour ar i drad. Weles i mo fe o'r blan. Dyw
e ddim yn depig iddi ewyrth Salsbri. Un tew fel Mabon yw Saisbri, ond bach
tena fel Tom Ellis yw Balfour — gwddwg main a phen lled fawr, ag yn whilia'n
lled dda, ond fod ticyn o ddamprwdd arno'r noswith hyny. Pwy ryfadd, pan odd
y'n boys ni wedi bod wthti o'i flan a? O'r diwadd, fe ddath noswith i gial y Bil Addysg, a
mawr y dishgwl odd am dano. Y lle
yn llawn! Jest fel mae yma gyta ni pan bo ‘cwrdd mawr' mewn capel. DYMA BALFOUR AR ‘U DRAD, a mawr y clappo odd drw'r lle gan y Tories. ’Dyw'r Librals a nhw ddim yn ishta gyta'n gilydd. Ddyla nhw ddim hefyd, y tacla diras fel ag u nhw. Dyna
lle'r odd a wthi fel pregethwr! ag yr odd ‘tri phen' ganddo iddi brecath, fel
sy gen y'n precethwyr. Y'ch
chi wedi gwel'd i brecath a, wi'n siwr; am hyny, af fi ddim i atrodd dim wtho
chi. Ond fe gwnws Arthur Acland ar i dra'd ar ol Arthur Balfour; a wyddoch
chi beth odd hi'n grand iddi glywad e'n briwa speech Arthur Balfour! Fe'i
tynws hi'n ribana orth i gilydd! ‘A. A.' (ARTHUR ACLAND), AC ‘A. B.' (ARTHUR
BALFOUR). Rhyddfrydwr o'i gopa i'w draed yw ‘A. A,' Ond Tori bach rhonc yw ‘A. B;' Mae'r cyntaf yn treio cael pethau i'w Ile, A'i waedd yw ‘Cyfiawnder i'r llu:’ Ond amcan ‘A.B,' yw cadw'r ‘llu ' lawr, A chodi'r ‘ychydig' i'r Ian: Mae bennydd yn llanw pocedi'r ‘gwyr mawr,’ Drwy ddwyn o bocedi'r dyn gwan. I lawr ag ‘A. B.’! I’r lan ag ‘A. A.'! Dyna'r ffordd, fechgyn, Daw'r byd iddi le. Dyna farn ostyngedig RIPORTAR Y PENTANN, o’r N.Y.H. NOS WENER, Chwefror 5ed
1897. |
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: Æːæːā
ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ
ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ
ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ
aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ
ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_145_pentan-shon-iefan_0299k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 17-08-2017
Adolygiad diweddaraf: 04-05-2018 17-08-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant
una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You
are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait