kimkat0358k Shoni. Tarian y Gweithiwr. 8 Awst 1918. Yn nhafodiaith Gogledd Morgannwg, sef ffurf ar y ‘Wenhwyseg’.

23-08-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0358k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Shoni
(Tarian y Gweithiwr. 8 Awst 1918.)

(Yn nhafodiaith Gogledd Morgannwg,
sef ffurf ar y ‘Wenhwyseg’).



 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

 

(delwedd 5969A)

-          

Y Darian.

8 Awst 1918.

 

Shoni.

 

(Stori yn Nhafodiaeth Gogledd Morgannwg).

 

GAN T. MORGAN, SKEWEN.

 

R'own i yn byw yn Dowlish pan oedd lot o son am gwnad prish ymhlitli y coliars. Yr oedd pydlars yn gwitho yno pryd hynny, ond d'odd dim son gyta nhw am gwnad prish. Yr odd un o  nhw, ta beth, yn gwpod mwy na'r cyffretin. R'odd Shoni wedi dod i wpod fod gento awlia a dodd dim cwiddyl arno i weud hyny. Fe gwrddws un diwarnod a phydlar arall, a dyma'r ddou yn myn'd i wilia a'u giddyl am y  cwnad prish. "Bachan, bachan, mynta Shoni, "ma'r hen goliars yna'n myn'd i gal cwnad prish yto. Fuo i yn u mitin nhw dydd Satwn dwetha yn Merthyr, a ma nhw wedi setlo fod dou swllt y bunt o gwnad i fod yto." "A ma nhw'n siwr o'i gâl a," mynta Wil, "oblecid mae Mapon gyta nhw yn y Parlament.” "Beth ti'n wilia," medde Shoni, "beth sy gyta Mabon i neud yn y Parlament. Nid yno ma nhw'n setlo pethach fel hyn. Ond wyt ti dim yn meddwl, Wil, fod yn llawn bryd i ni gâl cwnad prish yn awr?" "Bryd! oti'n hen bryd, a gan mai ti yw y bachan calla yn y gwaith, cwn y matar 'eno a 'chynnyg cynyciad bod nina i gâl cwnad prish 'efyd." Y noswith 'yny fe baswd fod Shoni a dou erill o'r bechgyn calla yn y gwaith i fyn'd i wilia a'r Mishtir. Bore dydd Llun, dyma Shoni a'r ddou erill yn mynd lan i dy'r Mishtir. Cnocodd Shoni'r drws, a pwy ddath i'r drws ond y gaffar. "Be sy'n bod, fechgyn?” mynta fa. "Isha gweld y Mishtir. "Na i ddim o'r tro, fechgyn?" mynta'r gaffar. "Na, mae'n rhaid i ni gal gweld y Mistir yngylch cwnad prish. "Roswch chi, fe weta i wrth Mr Tudor nawr." "Dewch miwn, boys," mynta Mr Tudor, fel un oedd yn diall beth odd u necas nhw, ac yn a arwan nhw i room ardderchog, a trw'r ffenas ro' nhw'n gweld gardd y Mishtir yn llawn o'r pethach o nhw yn u lico, sef winwns, shilots, &c. "Boys, boys" mynte Twm Shirgâr, "dyma ardd! Welwch chi'r winwns yco; dyna neis fydda rhaina gyta bara chaws a pheint o gwrw dwy." Cyn i Twm gwpla brago'r ardd dyma'r Mishti yn dod i mewn. "Wel, yn wir, syr, ma gyta chi ardd ardderchog ta pun. Welas i ddim shwd winwns eriod,” mynta Wil. “Os, ma gardd biwr 'ma,” mynta Mr Tudor, "cerwch mâs a picwch faint fynoch chi o'r pethach ych chi'n lico." Wedi i'r tri gal llond cot, "Wel, boys," mynte Twm, "dyma fishtir piwr ond tefa, y gwir am deni, alla i ddim bod o'r wynab i ofyn i fishtir fel hyn am gwnad prish." "Bachan, rown i'n meddwl run peth a ti," mynta Wil. Gan fod dou yn fwy nag un, gorffod i Shoni roi [ff]ordd, a bant a nhw heb neud u necas hyd y dydd hwn. 'Dodd dim Undeb i gal gan y gwithwyrs harn y pryd hynny, a fe ddarfyddws y peth. Fe gâs Shoni shwd gwiddyl nes iddo fatal a’r lle, a mynd i witho dan Mr Fethergill yn ’Bernant. Mhen blwyddyn fe ddaith yn ol i D----- ac fe gas jobyn i ddreifio cart rwbish dan y Local Board. Rodd Shoni erbyn hyn yn cal ei ystyried yn ddyn parcbus budur. Daeth y meddwyn yn sobor, ac yr odd a'n câl ei alw yn John yn awr, ac nid Shoni. Un diwornod rodd John yn myn'd dros yr heol a fe welws lot o ddynion gyta'u giddyl, a beth odd yno ond dou ddyn yn ymladd. Rodd un o nhw yn hen ffrind i John, a fe welws John fod hwnnw'n cal 'i wado'n gas. Rodd a'n teimlo'n ofnadw, ac rodd dicon o want arno i dynu 'i got i lawr. Ond fe gollwd John yn sytan. Bora wetyn, fe gwrddas i a John ac fe ofynas iddo, Ble cilast ti ddo, John? fe welas di yn y batl, ac fe dy gollas di yn sytan." O," mynta John, "down i ddim yn lico gwel'd Ianto'n cal i wado mor gas, ag fe etho i, oblegid rown i'n teimlo Shoni'n dod yn ol." Pan ddath John i flongo i'r cwrdd dodd a’n gwpod dim bron am deni. Fe dorrws diwiciad mas yn yr eclws odd a'n blongo iddi, ac ar un nos Wener fe ofynnws y gweinitog i John ddechreu’r cwrdd. "Na, dim diolch i chi, Mr Dafis, diolch i chi am y cynyg run peth." “Dewch chwi mlaen, John," mynte'r gweinidog, "fe gewch chwi j bob cydymdeimlad." "O'r gora," mynta John, "fe'i thria hi, taw path. Os isha roi gair mas i ganu, Mr Dafis? Dim ond un emyn sy gen i. Ro nhw’n arfadd i ganu a yn y gwlnosa 's lawer dydd. Shwd ma'r lein gynta nawr?

 

 

 

 

 

(delwedd 5969B)

 

(Crafu 'i ben). O ie, dyma fe:

 

‘Mewn coffin cul y caf fi fod, Heb allu symud llaw na thro'd; A'm henaid bach lle mynno Duw, Am corff yn fwyd i bryfed byw.'

 

Ond yw a'n emyn neis?” Rodd pawb yn fwy parod i werthin nag i weddio cyn i John gwpla'r emyn, a dyma'r gweinidog ar unwaith yn rhoi emyn arall mas — "Mi af at borth y Nef &c." Fe sticws John i ddod mlân, ond fe deimlws yn ddigynnyg unwaith mewn cwrdd gweddi. Fe ofynnws William Shon iddo ddechra'r cwrdd. Wedi iddo ddarllin pennod fe wedws William wrth un arall, "Dera'r ’mlân i darllin penod.” "Pwy isha," mynte'r brawd, "ma John wedi darllin.” "Dera mlan i ddarllin," mynte'r hen frawd, a gorffod iddo neud, ac wedi cwpla, "dyna," mynte William, "dyna beth yw darllin." Er i John deimlo ticyn bach ddiciws a ddim, ond fe benderfynws wella fel darllenwr. Fe ddath yn mlân ac yn mlân nes iddo gàl ei ddewis yn ddecn. Rodd a'n gryf iawn dros ddiscyplath. Rodd clerc yn yr offis wedi torri rheol yr eclws ac fe gynicws John i fod a'n câl ei dorri mâs, ac felly y bu.

 

Bora LIun rodd John a'i gart yn myn'd i lawr drwy Union St., a phwy ddela i'r lan ond y clerc. "Chi nethoch hi'n deidi nithwr yn y capal na, hen ddyn yn dreifo rwbish bothdu'r hewl yn 'y nhorri i mâs," mynte'r gwr ifanc. "Ie shiwr," mynte John, "cera miwn i'r cart 'na."

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_146_shoni-1918_0358k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 17-08-2017
Adolygiad diweddaraf: 17-08-2017
Delweddau: 
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait