...
|
|
|
E.P.C . Welsh Drama Series, No, 38.
COLLI AC ENNILL
Gan
W. BRYN DAYIES.
Drama mewn pum act yn nhafodiaith Gorllewin
Morgannwg.
Pennod ym mywyd teuluol a diwydiannol Cymru tua’r flwyddyn 1875.
CARDIFF:
THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD.
1920
|
|
|
|
W. Bryn Davies.
|
|
|
|
Rhaid cael caniatâd i chware’r ddrama hon. Anfoner ceisiadau at y Cyhoeddwyr.
Copyright under the Copyright Act, 1910 .
Licences granted for public performances by the Educational Publishing Co.,
Ltd., Cardiff.
|
|
|
|
I Goffa fy Mam
|
|
|
|
ACT I.
Golygfa 1— Tŷ Hen; noson ym mis Mawrth.
Golygfa 2 — Coed y Graig; Yr un noson.
ACT II.
Golygfa — Swyddfa’r Gwaith Dur; prynhawn drannoeth.
ACT III.
Golygfa — Bwthyn Nanni’r Cwar: noson ym mis Mawrth, flwyddyn yn ddiweddarach.
ACT IV.
Golygfa — Bwthyn Nanni’r Cwar: noson ddeng niwrnod yn ddiweddarach.
ACT V.
Golygfa — Tŷ Hen: noson dair wythnos yn ddiweddarach.
|
|
|
|
CYMERIADAU:
Morgan Dafydd, Tŷ Hen - Torrwr cerrig.
Nannws - Ei wraig.
Ifan - Eu mab talentog.
Mr. Gronow (Y Merican) - Brawd Nannws.
Mr. Mordecai, y Plâs - Managing Director y Gwaith Dur.
Mr. Lucas, Y Graig - Manager y Gwaith Dur.
Ruth - Ei ferch, ac anwylyd Ifan.
Mr. Thomas - Manager y Lofa.
Shanko Tŷ With - Glowr.
Dr. Peters - Meddyg.
Parch. Orwig Parry - Llywydd y Cwrdd Gweddi.
Ffrindiau y teulu.
Aelodau o’r Ddirprwyaeth.
|
|
|
|
COLLI AC ENNILL
ACT I.
Golygfa 1.
[Cegin Tŷ Hen. Disgwylia MORGAN a NANNWS ddychweliad IFAN en mab
o’r gwaith dur. Cegin Gymreig. Y ford yn barod i hwyrbryd. Y mae MORGAN tua thrigain oed, a NANNWS flwyddyn yn iau. Y cloc yn taro saith .]
MORGAN: Nannws?
NANNWS: Wel, Morgan?
MORGAN: Ma Ifan yn hwyr iawn yn dwad tsha thre, ond ’dyw e’.
NANNWS: Oti, mae e’.
MORGAN: Well i ti gwmoni ticyn ar y tân ’na, a dishgwl os oti’r cawl yn dwym.
Os gita Ifan gynnyg i gawl claear. Ond whare teg; un nêt wyt ti, Nannws, am
'nithur cawl, wath un o ferched Shir Gâr wyt ti, a ’dos neb yn gallu ’nithur
cawl ishta nhw. Os dim o’r hen gloc ’na’n heinyf, oti e’?
NANNWS: Nadi; mae e’ yn ’i le; fe ddotes e’ wrth yr hwter bore heddy.
9
|
|
|
|
COLLI AC ENNILL
MORGAN: Fe fydd Ifan weti blino. Gweitho mlân mae e’ i gael cyrnhoi arian i
fynd i’r coleg yn Llunden.
NANNWS: Ma’ ishe sopyn o arian i fynd i Llunden, ond os e’, Morgan? On’ dyw
e'n drueni na fyse gita ni ddicon o fodd idd ’i hala fe bant?
MORGAN: Trueni ofnatw. Fe wetws ysgol fishtir Cware Bach wrtho i pwy ddwetydd
y byse Ifan ni yn un o scleigon blaena’r deyrnas pe byse fe’n câl rhacor o
ddysg.
NANNWS: Mae e’ weti ennill gwopor ’nawr am draethawd yn ’Steddfod y Sceti, am
’sgrifennu rhwpeth bothti injins.
MORGAN: Ag wyt ti’n cofio fel 'nath e’r gêr ’na sy’n hala negese trw’r
gwifre?
NANNWS: A mae e’ wedi ’nithur cloc i Mr. Lucas y Manager, sy’n gallu cered am
fìwyddyn, dim ond ’i windo fe shwrne.
MORGAN: Os dim dowt taw genius yw
e’. Tynnu ar ol dy dylwth di. Dyna dy dad, wyt ti’n cofio fel y buws e’n
bratu ’i amser â’i docins i ’nithur machine
fyse’n mynd am byth. A wetyn ’ny dyna dy frawd Etw; odd whìlen yn ’i ben
ynte, hed, ond taw cyrnhoi pethach yr hen fyd ’ma, a speculeto, odd ’i wendid
e’. Wyt ti’n cofio’r smash ynglyn
â’r gwaith tin ar lan Towy. Fe â’th mâs i Galifornia i wlad yr our. Wn i, oti
e’n fyw, ferch? Fe licswn gâl gwpod.
10
|
|
|
|
COLLI AC ENNILL
NANNWS: ’Dy ni ddim weti clwed gair ers blynydde. Rhwng ’nhad a Etw — fe âth
y’n teulu ni'n llwm ’i wala. Fe gollson Llety Ffwlbert, a gorffod i fi droi
mâs i was’naethu. Ond 'dyw e’ ddim yn ’difar gita fi am hynny. Wath pe byse
hynny heb ddicwdd, fyswn i ddim weti cwrdd â ti, Morgan.
MORGAN: Eitha reit, Nan fach. Bore gwyn odd y bore y gweles i ti gynta’ yn
hen dŷ cwrdd y Cwm.
NANNWS: Gwyn yw’r llwybyr weti bod odd’ar hynny, baso ambell i gwmwl ’nawr ac
eilwaith. Ond ’w i'n dechre becso bothti Ifan. Ma arno i ofon ’i fod e’n
gweitho rhy galed. Mae e weti mynd mor dene a sgadenyn. Wn i ddim beth
’nelswn i, pe byse ni’n colli Ifan fel
y collson ni Etw bach a Siw fach.
MORGAN: Wyt ti’n gwpod beth ma’r Beibil yn ’weyd: “Ymostwng dan Ei alluog law
fel y’th ddyrchafer mewn amser cyfaddas.” Y Fe sy’n gwpod ore. Ond dyma Ifan!
Shwd wyt ti, wsi?
IFAN: Lled dda, ’nhad; shwd y’ chi?
MORGAN: Weddol, bachen, yr hen wynecon ’ma sy’n blino ticyn arno i. Mae’n
siwr o rhewi heno, gei di weld.
IFAN: Mae’n dechre rhewi ishws, ond shwd y’ chi, mam?
11
|
|
|
|
COLLI AC ENNILL
NANNWS: Da digynnyg. Wyt ti’n barod i gâl cawl? Cawl cig wedder sy gita fì
heno, a dicon o gennin a pharsli yndo fe.
IFAN: Ma’ ishe rhwpeth i dwymo ticyn arno i. ’W i jest â sythu gita'r oerfel.
Pan own ni’n dwad lawr dros hewl y Ladi Wen odd y gwynt yn ’hwthu ishta
Euroclydon. Ble ma’ son am Euroclydon, mam?
NANNWS: O, rhwle’n y Scrythur, on’d te fe, Morgan?
IFAN: Wn i ddim beth nelse chi, mam, on’bai ’nhad, wath ’i air e’ sy ‘n setlo
pob pwnc gita chi.
MORGAN: Paid poeni dy fam, wsi. Yn yr Actâu ’ma son am Euroclydon.
NANNWS: Ond beth yw e’, Morgan?
MORGAN: “Tymhestl tra nerthol ” yw Euroclydon, mynte Isaac y Bancwr pwy
Ddysul, a ma’ Isaac yn lled hyddysg yn y Scrythyre, ac yn darllen shew ar yr
esboniate diweddara’ ishta Jâms Huws, Barnes, Idrisyn, a Mathew Henry.
IFAN: Da iawn, ’nhad. Ond ’nawr am gawl Shir Gâr. (IFAN yn plygu ei ben, ac yn gofyn bendith.) Bendithia ni, ein Tad, yn
y mwynhad o’th roddion. Dysg i ni fyw ar eu pwys i ryngu’th fodd. Madde’n
bai, drwy lesu Grist.
MORGAN, NANNWS, ac IFAN: Amen.
IFAN: ’Nhad, odd Sian y Cwm yn gweyd wrtho i bore heddy, y dylswn i fynd yn
bregethwr. Odd hi’n
12
|
|
|
|
COLLI AC ENNILL
mynd i’r dre yn y bore bach, a choeled o dato, a phanas, ac erfin. A fe
garies y fasged iddi dros dile’r Graig.
NANNWS: Mae’n rhyfedd fel ma’ Sian yn dala cysled, a chario shwd goeli i’r
dre o hyd. Wedi dy glwed ti’n gweddio yn ŵylnos Josi’r Hitshwr odd hi,
fe fentra’n awr. Odd pobun yn gweyd na cheso nhw ddim shwd ŵylnos ers
blynydde.
MORGAN: Ma ishe bwro’r hen ŵylnose ’na yn ’u penne. Dy’ nhw ddim byd ond
olion Pabyddieth rhonc. ’W i weti tyngetu nag â i ddim i un o henni nhw byth,
a cofia, Nannws, os bydda i farw o dy flân di, paid a gatel iddi nhw ddod ag ŵylnos
’ma, ne fe fydda i’n grac ofnatw. (NANNWS ac
IFAN yn chwerthin.)
NANNWS: Paid rhiteg o flaen gofid, Morgan.
MORGAN: A disghwl ’ma, Ifan, paid moidro dy ben gita phregethu hyd nes y cei
di’r alwad ddi-droi-yn-ol, ishta gwetse’r hen brygethwyr ’s lawer dydd. Os
yw’r Bod Mawr am i ti fod yn bregethwr, fe ddangosiff E’ hynny’n eitha clir i
ti. Os bydd E’n galw, bydd dim ishe gofyn i Sian y Cwm na neb arall, shwd i
aped. A wst ar ddaear yn b’le daw’r alwad. Falle taw yn y ffowndri, ne’r
talcen glo, ne gorlanne’r defed — shwd ma’r Salmydd yn gweyd: “Tra yr oeddwn
yn myfyrio, ennynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.” Ond bydd di’n eitha
siwr ma’r Arglwydd sy’n dy alw di, a ma ti
sy’n câl
13
|
|
|
|
COLLI AC ENNILL
’i alw. Mae E’n galw eto, ond nid y dyn reit sy'n aped bob amser. A marca hyn
— y creadur mwya’ truenus ar ddaear Duw yw dyn weti camsyned ’i alwad. Ma
defnydd llwer diacon da weti ’i spwylo i nithur prygethwr dicon salw.
NANNWS: Grondo di ar dy dad, ’nawr, Ifan.
IFAN: Ma rhwpeth yn gweyd wrtho i taw wrth weitho’n ’nghrefft y galla i
’nithur fwya o ddaioni.
NANNWS: Fe alli ’nithur cwment o waith dros y Mishtir Mawr yn y gwaith dur, a
pe byset ti yn y pwlput, on’d gall e’, Morgan?
MORGAN: Gall, w’th gwrs ’ny. ’Nithur y’n dyletswdd, a byw’n gwmws. Bod yn dda, ac acto egwyddor — dyna
sy’n bwysig.
IFAN: Sownd i’r carn, ’nhad. Ond ma rhaid i fì ymolch a gwishgo siwt dwetydd.
Ma twysged o waith sgrifennu gita fi cyn mynd i’r gwely. Ma lythyr arall ’da
fi i hala miwn i’r Gwron Cwmrag. ’W i’n trio perswado dinon y gwaith dur i
ymuno â’r Undeb newydd o weithwyr dur Deheubarth Cymru.
NANNWS: Fe fyddi’n siwr o golli dy le yn y ffowndri os ffindiff y mishtri
mâs, a beth ’nei di wet’ny? Os dim joni o fynd yn erbyn y mishtri, os e’,
Morgan?
MORGAN: Nannws, paid â whalu dwli. Dishgwl ’ma, Ifan, os wyt ti’n cretu’n
egwyddorol yn y peth wyt ti ’n ’nithur, ac os galli di ofyn bendith
14
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
Duw arno fe cyn mynd i gysgu’r nos, cera mlân, a paid â hito am na mishtir,
na gaffer, nag un creatur arall. Os posib, os nag os gita dyn hawl i ryddid
barn a llafar mwn gwlad ole efengyl. Dir dishefon ni! mae weti mynd os nag
all dyn weyd ’i farn. Nid yn Rwssia y’n ni, os posib!
IFAN: Ma’ 'ngwad i’n berwi wrth weld shwt ma’r dinon yn câl ’u trin yn y
gwaith, ac yn câl ’u twlu i ben hewl, pan fydda nhw wedi câl anhap tost, ne
wedi mynd yn rhy hen i droi mâs cwment o waith â dinon yn 'u preim. Ag os
caiff dyn ’i ddiwedd yn y gwaith, fynycha dos ’na ddim byd o fìan ’i deulu e’
ond yr Union — y Workhouse\
MORGAN: Wyt ti’n gweyd calon y gwir, wsi. Iechyd yw unig gyfoeth y gwithwr.
Duw a’i helpo pan ddaw afiechyd.
IFAN: Chewn ni byth welliant nes bydd y gwithwyr yn joino gita’i giddyl i
fynnu ’u hiawndere ’.
MORGAN: Y jobin fydd câl y dinon i fod yn driw idd ’i giddyl.
IFAN: Ma’r lefain yn y blawd, ’nhad, a ma’ bechgyn gore’r cymydd yn
gwasgaru’r goleuni, a ’w i’n cretu’n gryf y cewn ni heb fo’n hir, Undeb cryf
o’r gweithwyr dur. Fe ddaw amser, gewch chi weld, pryd y bydd y gweithwyr nid
yn unig yn câl cyfioge gwell, orie llai, a thai gwell, ond y bydd y gweithwyr
â llais i radde yn y management. 15
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
NANNWS: Mae e’n whilia’n fendigetig, ond ’dyw e', Morgan?
IFAN: ’Ma rhai o’r dinon am i fi fod yn drefnydd yr Undeb newydd, ond os gita
fifawr cewc at y jobin. Llyfre a machines . Dyna ’nileit i; ond alla i byth
oddef i’r dinon gâl ’u damshel dan drâd. Fel ma’ pethach ’n awr, allanhw byth
fyw. Ma’ deputation yn mynd i ẁeld y mishtri fory i ddoti achos y dinon
o’u blân nhw, ac i ofynam gwnnad, a phethach erill. ’W i wedi addo siarad
dros y dinon.
MORGAN: ’W i’n falch o honot ti. Gwna di dy ddyledswydd yn onest a didderbyn
wyneb, a ma’ Rhagiunieth yn siwr o fod gita ti.
IFAN: Rhaid i fi fynd i’r llofft nawr i daclu. Ble ma’r canhwyllarn, mam?
NANNWS: Dyma fe, was.
IFAN: ’W i’n mynd mâs am wâk tsha Coed y Graig, ar ol cwpla’r llythyr — i gâl
cliro’r meddwl erbyn fory.
NANNWS: Wyt ti’n siwr ma’ dyna’r unig beth sy’n dy hala di mâs heno?
IFAN: P-a-a-m?
NANNWS: 0, dim byd. Cera mlân, a rhad arnat ti. (Ifan yn mynd maes.) Yr hen,
hen stori, sy’n newydd o hyd! Llen. 16
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
ACT I.
Golygfa 2.
[Coed y Graig. Ifan yn canu hen alaw werin.:* “ Mae’r hon a gâr fy nghalon i
Ymhell oddiyma’n byw; A hiraeth am ei gweled hi A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw;
Mil harddach yw y deg ei llun Na gwrid y wawr i mi, A thrysor mwy yw serch fy
mun Na chyfoeth byd a’i fri. Cyfoeth nid yw ond oferedd, Glendid nid yw yn
parhau.” Llais merch yn taro i mewn, ac Ifan yn sefyll yn syn. “ Ond cariad
pur sydd fel y dur f Yn para tra bo dau.”]
IFAN: Ruth!
RUTH: le fi, Ifan.
IFAN: Down i ddim yn dishgwl dy weld ti heno.
RUTH: Ifan! ♦Tudalen 16, Rhan I, “ Welsh
Folk Sowgs,” E.P.Co., Cardiff. 17
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
IFAN: Rown i weti bod yn scrifennu llythyr i’r 4< Gwron Cwmrag ” ar ran y
gweithwyr dur, ag wrth feddwl am y dyfodol own i’n teimlo braidd yn ddigalon.
Ond ar ol dod i Goed y Graig, i’r hen fan cyfarfod, diflannodd y “ Gwron
Cwmrag,” — y gweithwyr — a phopeth bron, o’m meddwl, ac heb yn wybod fe
ddechreues ganu yr hen alaw werin. A dyma ti wedi dod, a ma’r nen yn ole i
gyd.
RUTH: Odd rhywbeth yn gweyd wrtho i fod yn rhaid i fi dy weld ti heno.
IFAN: ’Roe’n ni’n dou ’r un feddwl: Gwyddost ti beth, Ruth, ’rwyt ti yn ’y
meddwl i dydd a nos.
RUTH: Ifan, paid dechre barddoni.
IFAN: Nid barddoni otw i, ar ’y ngwir.
RUTH: Wyt ti’n siwr dy fod ti’n meddwl mwy am dano i nag am y ‘ ‘ Gwron
Cwmrag, ’ ’ y llyfre, a’r machines?
IFAN: Yr wyt ti yn fwy i fi na neb na dim arall. Rhywffordd ’w i’n teimlo dy
fod ti yn agos i fi bob amser, fel angel gwarcheidiol.
RUTH: Breuddwydio wyt ti, Ifan.
IFAN: Wel, ie, ar ryw ystyr. Fel hyn — neithiwr fe geso’r henllyg mwya
drychynîlyd. Own i miwn hen ogof fawr, dywyll, yn rhywle, ac yn syten dyma’r
lle yn dechre llanw gita dŵr, a finne’n trio jengyd am ’y mywyd. Ond taw
pwy mor gloied own i’n rhiteg, odd y dŵr yn enniil arno i, a dyna lle
own i o’r diwedd mwn trap, yn ffaelu mynd dim 18
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
pellach, a’r dŵr yn cripad lan yn
uwch, yn uwch, nes odd e’ wrth ’y nghên i, a phan own i yn moci, dyma fi’n
gweiddi: 4 4 Ruth! Ruth! ” ac yn dihuno, a mam wrth erchwyn y gwely yn
tynnu’i llaw dros ’y nhalcen i, ishta pan own i’n grwtyn bach weti câl ofon y
bwci bo. Hw, ’ma arswd arno i ’nawr.
RUTH: Ma’ rhyw dynged ryfedd wedi dod â ni at ein gilydd. Byth er pan oe’n
ni’n dou yn blant, yr wyt ti wedi bod yn hero yn ’y ngolwg i. Y ti achubws ’y
mywyd i pan gwmpas i miwn i bownd y gwaith.
IFAN: ’Netho i ddim mwy na byse rhywun araîl yn ’nithur. (Ruth yn siglo’i
phen.)
RUTH: Fe wetws ’nhad pyrtynny na fyse fe byth yn d’anghofio di — a dyna odd
geiriau ola’ mam, ” Cofia am Ifan.” A mae e’ weti rhoi gwaith i ti yn y
gwaith dur, a weti gatel i ni gatw cwmpni, a phopeth yn dishgwl yn ole, ond —
.
IFAN: Ruth!
RUTH: Mae arno i ofon taw dyma’r tro d’wetha cewn ni gwrdd.
IFAN: Tro d’wetha! Jocan wyt ti. (Ruth yn siglo’i phen.)
RUTH: Nace. Ma’ ’nhad yn syten weti cwmryd yn nafus yn d’erbyn di. Fe wetws
wrtho i heddy fod rhaid i fi stopo gatw gwmpni gita ti ar unwaith. A’r gwaetha
yw, mae e’n pallu gweyd y rheswm. ’W i’n ffaelu dirnad beth sy’ weti ’i
gyffroi e’. 19
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
IFAN: Weti clwed am y deputation mae e\ a taw íì sy’n mynd i ddoti achos y
dinon o flân y mishtri.
RUTH: Dyna’r esponiad, falle. Weles i ariod o hono fe mâs o’i gof cyn heddy.
Byth er marwolaeth mam w i weti bod fel cannwll 'i lygade’, a wetws e’ ariod
air cros wrtho i o’r blân.
IFAN: Ma’ gita fi ffydd y daw pethe’n iawn yn y man. Fel y canest ti, “
Cariad pur sydd fel y dur, Yn para tra bo dau.” A shwd ma’r adnod honno o
Lyfr y Caniade’n gweyd, “ Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac
afonydd nis boddant.”
RUTH: Mab dy dad wyt ti, Ifan.
IFAN: Dyn â ffydd fawr yw ’nhad.
RUTH: Ie, dyn â ffydd yn yr anweledig bethau. Mae’r byd anweledig yn agos
iawn i finne bob amser. Falle taw achos mod i’n dwad o dylwth y shipshwns —
wath o’dd mam o deulu’r Loyells, a ma’ nhad yn gweyd 4 bod hi’n gweld pethach
rhyfedd iawn weithe. Wyt ti’n cofio clywed am ddou o grots y Pebyll yn cael
’u moci yn slant Cargynydd acha prynhawn Dy’ Sul, wrth fentro miwn rhy bell
ar ol nythod adar. Wel, y nosweth cyn ’ny fe welws mam y peth yn cwmryd lle,
yn gwmws fel y digwyddws e'. 20
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
IFAN: Beth ma’r Saeson yn ’i alw yn second sight, yn ol pob tepig.
RUTH: Pan y soniest ti gynne na alle dyfroedd ddim diffoddi cariad, a na alle
hyd yn oed afonydd ddim boddi cariad, fe gofìes am y weledigaeth ryfedd geso
i neithwr. Yr ow’n i’n edrych ar yr haul yn machlud dros y Mynydd Du, ac yn
syten, fe’th weles di, Ifan, miwn perigl mawr — ti, a thri o ddynion erill,
yng nghanol dyfroedd creulon ac yn ymladd am eich bywyd. Gwelwn chwi am amser
maith yn cadw’ch pennau uwch y don, ond pan yr oedd pob argoel o waredigaeth
bron wedi darfod, dyco rhywrai yn mentro drwy ’r llif — a — a chyda hyn,
machludodd yr haul; dihunes inne; fe ddiflannodd y weledigaeth, ac yr oedd hi
yn nos. 0, Ifan, Ifan, mae arno i ofon fod ein planed ni yn dywyll. Ma’ rhyw
ddanjer mawr o dy flân di.
IFAN: Pwff! ’W i’n cretu dim byd mwn planed. Well gita fi gretu beth ma’
’nhad yn weyd, fod ein holl amsere ni yn llaw y Brenin Mawr.
RUTH: Ond ystyria mor debyg oedd yr henllyg gesot ti a’r weledigeth geso i.
Alla i ddim peidio teimlo’n bryderus am y dyfodol.
IFAN: Rhaid gwynebu’r dyfodol gyda chalon ddewr a phenderfyniad diysgog. A
chofìa, anwylyd, beth bynnag ddaw i’n rhan — a faint bynnag o rwystrau deflir
ar ein ffordd — cofia — Dyfroedd 21
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
lawer ni allant ddiffoddi cariad. M
Cariad yw y peth cryfaf yn y byd.
RUTH: Dyn dewr wyt ti, Ifan. Pan o flân y mishtri, fory, ’w i’n gwpod y sefì di’n
gadarn dros y gwir, ac na nei di byth fradychu d’egwyddorion, beth bynnag
fydd y canlyniade. IÍAN: Fe fydd d’ymddiried cariadlawn di yn nerth i fì, ac
yn darian yn erbyn pob profedigaeth. Ond y mae y gwynt yn oer. Gad i fì dy
hebrwng di gartre f'alle am y tro dwetha. (Yr orchestra neu gôr o’r golwg yn
canu cytgan, “ Tra bo dau.”) Llen.
|
|
|
|
COLLÎ
AC ENNILL
ACT II.
[
Golygfa — Swyddfa’r Gwaith Dur.]
MR. MORDECAI, Managing Director (mewn tôn ddigofus a thrahaus): Pwy amser
ma’r deputation yn due, Lucas?
MR. LUCAS, Manager: Tri o’r gloch, syr.
MR. MORDECAI (yn edrych ar ei oriawr): Fe fyddan’ yma heb fo’n hir. Nawr,
Lucas, ’w i ddim yn mynd i sefyll llawer o nonsense orwth y deputation. Trw
Iwc, dim ond y fi sy’n represento’ r cwmpni. ’W i newydd gâl llythyr oddiwrth
Lord Pentregethin, yn gweyd nag all e’ ddim bod ’ma achos bod motion pwysig
yn dwad ymlân yn yr House of Lords ynglyn â’r íf Agriculture (Relief of
Rates) Bill.” Mae e’n gweyd fel hyn: “ As for the demands of the men } they
are monstrous. We must not concede a single one oftheir claims. Rather than
see their wages advanced a single penny, I would prefer seeing the worhs
closed down indefinitely . That would soon bring them to their senses.”
MR. LUCAS: Beth am Mr. Smith, o’r Bulwarks, syr?
MR. MORDECAI (yn codi ei ysgwyddau): Y gout. Ddaw e’ ddim. Ond mae e’ mor
benderfynol 23
|
|
|
|
COLLÌ
AC ENNILL
a Lord Pentregethin yn erbyn demands y
dynon. Fe alwes gita fe rhyw awr yn ol — arn gonsultation. Yr o’dd ’i iaith
e’ — wel — unfit for publication. Ma’ Mr. Ludvigsen mâs yn Germani yn etrych
ar ol interests y cwmpni ’no, a ma’ Mr. Trelawney yn Llunden ar gyfer yr
Epsom Races a’r Derby. Ma’ gitâ fe geffyl yn rhiteg yn un o'r rasis. Fe fydd
rhaid i fi gwrdd â’r deputation y’m hunan.
MR. LUCAS: Mae’n too bad ych bod chi yn gorffod cario’r directors erill ar
ych cefen, yn enwetig yn y crisis presennol. Mae’r dynon yn benderfynol iawn,
’m’ arno i ofon.
MR. MORDECAI: Beth sy’n rhyfedd yw — ma’r whole lot yn mo’yn cwnad — y
dwplers, y shearers, crots y cold rolls, merched y tin house — pobun. A ma’ rhyw
scrifennwr yn y ‘‘Gwron Cwmrag ” — ma’ rhyw T un yn hala marked copy i fi bob
wthnos — yn ’i gweyd hi’n nafus am dano ni. “Llais o’r dyfnder y w ’i ffugenw
e’. Os ffinda i mâs taw un o’n hands ni yw e’, look out.
MR. LUCAS: ’W i’n cretu galla i weyd pwy yw ” Llais o’r dyfnder.”
MR. MORDECAI: Pwy?
MR. LUCAS: Ifan, mab Morgan Dafydd, Tŷ Hen.
MR. MORDECAI: Beth! — lanto Mocyn Dafydd — y crwt mynnest ti gâl miwn i’r
ffowndri achos bod e’ weti safio Ruth rhag boddi. O’wn i’n meddwl 24
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
taw llyfre a machines o’dd ’i ddileit
e\ A fi glwes fod Ruth ag ynte yn catw cwmpni, os gwelwch chi’n dda! O’r ffŵl
dwl!
MR. LUCAS: 'W i wedi doti stop ar y nonsense ’na. Os dim dowt taw Ifan yw y
scrifennwr. Mae e’n gyfarwydd yn y ddwy iaith. Mae e’n darllen shew o lyfrau
newydd, a mae’n dala opiniwne rhyfedd iawn.
MR. MORDECAI: Wyt ti’n siwr ma’ lanto yw’r scrifennwr — Crotyn ifanc fel ’na?
MR. LUCAS: Otw. Mae e’ wrthi ’nawr yn scrifennu traethawd ar gyfer y
’Steddfod Gened- laethol yn Abertawe, a’r testun yw <( Perthynas Cyfalaf a
Llafur.”
MR. MORDECAI: Gair dierth i fi yw — Cyf — beth alwest ti e’, Lucas?
MR. LUCAS: Cyfalaf — Capital — “ The relation of Capital and Labour.” Dyna’r
topic mawr ym mhobman. Dyna’r leading topic yn y “ Gwlad- garwr, M yn y “
Darian,” ond y gwaetha o’r lot yw’r “Gwron Cwmrâg.” Fe allsech dyngu taw
llatron hewl fawr yw’r mishtri bob un.
MR. MORDECAI: Rhaid câl ’i v/ared e’ at once.
MR. LUCAS: Fe gewch gyfle maslaw, Mr. Mordecai, wath Ifan yw spohesman y
deputation.
MR. MORDECAI (yn nwydwyllt): Beth! Gwêd wrtho fe am gliro mâs o’r gwaith ar
unwaith. Os 25
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
yw’r deputation am ddod o'm mlân i,
rhaid iddi nhv/ gâl spohesman arall.
MR. LUCAS: Pidwch bod yn fyrbwyll, syr. Ma’ gita fi well cynllun. Genius yw Ifan
Dafydd. Mae e’n mechanical genius. Mae e’ wedi ’nithur sawl invention fach yn
y ffowndri, ac y mae y rhain wedi bod o fontesh fawr i’r cwmpni yn y wlad hyn
ac yn Germani. A ni bia’r sole patent rights! Heblaw scrifennu, mae e J wrthi
’nawr yn stydio’n galed am y Whitworth Scholarship^ ac os ’NILL
iff e honno, fe gaiff ’i ysgol am ddim, a maintenance grant. Ei amcan e’
’nawr yw cyrnhoi dicon o arian i gatw ’i dad a’i fam yn gwmffwrddis hyd nes y
bydd e’ weti cwpla yn y coleg.
MR. MORDECAI: Fe roia i stop — eternal stop — ar y “ Whitworth Scholarship ”
a’r 4 4 Gwron Cwmrâg M cyn y bydda i wedi cwpla âg e’ Ma’ dyn felna yn rhy
ddanjerus.
MR. LUCAS: Hanner muned, syr; ma’ llawer ffordd i ladd ci heb } i grogi.
MR. MORDECAI: Beth ti’n feddwl?
MR. LUCAS: EnNILL
Ifani’n hochorni Cynnyg ysgol iddo fe,
a lle fel assistant manager ar ol cwpla’r coleg.
MR. MORDECAI: Lucas, os colled arno ti? Fi yn mynd i educeto scempyn felna!
Na wna byth, aped y farn! 26
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
MR. LUCAS: Wel, fe alla i broffwydo beth fydd yn dicwdd os trowch chi Ifan
o’r gwaith. Fe fydd Ifan yn câl ’i nithur yn agent i ’r Undeb gweith wyr dur
newydd. Fe fydd victimiso Ifan y very peth i roi nerth i’r movement newydd.
MR. MORDECAI (yn meddwl am eiliad): Wyt ti’n gweld ymheil, Lucas. Ma’r
gweithwyr wedi câl ’u gwerthu o’r blân drwy brynu eu harweinydd. Every man
has his price. Fe gawn weld. Galw’r deputation miwn, Lucas. (Ifan a phedwar o
} i gydweithwyr yn dod i mewn yn hen noeth, ac yn foesgar. Mr. Mordecai yn
eistedd i lawr â’i het ar ei ben, ac yn smocio cigar.)
IFAN: Mr. Mordecai, yr wyf wedi dod yma heddy ar ran ac ar gais fy
nghydweithwyr, gan obeithio y bydd i chi wrando’n ffafriol ar ein cais. Yr
ydym yn cynrychioli pob dosbarth o weithwyr y gwaith dur a’r gwaith alcan, ac
y mae y ceisiadau gyflwynir i chwi wedi eu mabwysiadu’n unfrydol mewn mass
meeting o'r holl weithwyr. Cyn myned at fanylion ein cais, goddefwch i mi
aîw’ch sylw, syr, at sefyllfa bresennol pethau yn y gwaith.
MR. MORDECAI: Hanner muned. Falle y bydd y deputation cysled a gatel i ni gâl
gair yn breifet gynta gita’ch spohesman chi, cyn trafod y mater ymhellach.
(Ar ol cydymgynghori f y deputation yn caniatâu, ac Ifan yn aros.) 27
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
MR. MORDECAI: ’Nawr, wsi, cyn mynd miwn i achos y dynion, ma’n iawn i ti
ddiall y’n bod ni’n gwpod pwy yw “Llais o’r Dyfnder }> sy’n scrifennu i» r
‘ ‘ Gwron Cwmrag,,> ac yn codi’r gweithwyr ym mhenne’r mishtri ishta haid
o gacwn.
IFAN: 'Dos dim ofon na ch’wilydd arno i i gyfadde taw fi yw “Llais o’r
Dyfnder.”
MR. MORDECAI: Y corgi bach ishtagwyti! Yn câl dy fara a chaws gitani, câl lle
da yn y ffowndri a wetyn ’ny yn y’n diarhebu ni fel pe byse ni’n Irish. Rhag
dy gwilydd di!
IFAN: Beth bynnag y’ chi weti roi i fi, Mr. Mordecai, ’w i weti talu am dano
ddwsenni o weithe.
MR. LUCAS: Celwdd yn dy ddannedd di, Ifan.
IFAN: Mr. Lucas, ma’ch cydwybod chi’n gweyd wrtho chi ’mod i’n gweyd y gwir.
Beth am yr automatic coupler?
MR. LUCA.S: Beth sy’ ishe i grotyn tlawd fel ti i interfero ym musnes y
gweithwyr. Stica at dy wersi.
IFAN: Pwy ond y tlawd sy’n diall cwyn y tlav/d? Mr. Lucas, ych chi’n gwpod
beth yw bod yn grotyn tîawd fel fi, a pob parch i chi am y’ch bod chi wedi
dringo i fod yn fanager gwaith, ac yn ddyn o safle. Mr. Lucas, peidiwch
anghofio’r graig o’r hon y’ch naddwyd, a’r ffôs o’r hon y’ch cloddiwyd. Mr.
Mordecai, rhowch ystyriaeth ffafrioî i gais y 28
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
gweithwyr. EnNILL
i chi yn y pen draw fydd câl gweithwyr
boddlon a chymdogaeth hapus yn lle tlodi ac anesmwythter diwydiannol.
Mr. LUCAS: ’R wyt ti’n ifanc, Ifan, yn llawn 0 freuddwydion, ac yn llawn sêl
tros y dinon. Watsha di na throia nhw ddim arno ti fel y ma’ nhw weti troi ar
dy well di lawer gwaith o'r blân.
IFAN: Cwestiwn o egwyddor a dyletswydd y w hi gita fi. Cri y tlawd a’r
anghenus sydd wedi ’ngalv/ 1 oddiwrth y'm llyfre a ma’n rhaid i fi aberthu.
MR. LUCAS: Aberthu’r coleg a’r siawns i fod yn civil engineer.
IFAN: Ie, hynny, os bydd raid.
MR. LUCAS: Ifan, grondo arno i. Ma' Mr. Mordecai a finne wedi bod yn whilia
gita'n giddil. ’R y'n ni’n meddwl y dylet ti gael gwell scope i’r inventive
talent sydd ynot ti, ac y mae Mr. Mordecai, dros y cwmpni, yn barod i dalu o
dy flân i gâl yr addysg ore yn y coleg gore’n y deyrnas.
MR. MORDECAI: A mwy na hynny. ’R y’n ni yn foddlon i gadw dy dad a dy fam yn
gysurus, a rhoi lle i ti fel assistant manager o dan Mr. Lucas.
IFAN ( yn wawdlyd ): A beth yw pris yr holl ragorfreintiau hyn?
MR. MORDECAI: 0 dim byd. ’R y’n ni am i ti fynd i’r coleg yr wythnos nesa’, a
fe fydd Lord Pentregethin yn ’nithur pob necessary arrangements 29
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
gyda’r authorities yn y Royal College
of Science yn Llunden.
IFAN: Mewn iaith bîaen, ’rych chi am i fi droi yn Judas. ’Rych chi wedi
camsynied eich dyn, syr.
MR. LUCAS: Nonsensel Pwy droi yn Judas fyddi di. Pan ddewi di ’nol fel
assistant manager, fe fyddi’n gallu helpu mwy ar dy gydweithwyr. Fe fydd
clust y mishtri gyda ti, a fe elli wella cyflwr y gweithwyr mewn llawer
ffordd.
IFAN: Oti chi weti ’nithur hynny, Mr. Lucas? Chafwsneb well cyflenachi
iunionicamy gweithiwr. Cnawd o’u cnawd, ac asgwrn o’u hasgwm, a faint y’ch
chi weti ’nithur drosti nhw. Faint well yw y gweithwyr heddy nag o’en nhwucen
mlynedd yn ol pan o’ech chi yn weithwr tlawd fel finne.
MR. MORDECAI: Paid ateb, Lucas. ’W i’n aros am dy atebiaddi i gynnyg
ymishtri. Wyt ti’n derbyn y cynnyg?
IFAN: Troi’n durncoat a bradychu ymddiriedeth fy nghydweithwyr? Na wnaf byth!
MR. MORDECAI: Wyt ti’n gwpod y canlyniad.
IFAN: Câl ’y nhroi bant o’r gwaith. Allwch chi ddim ’nithur rhacor.
MR. MORDECAI: Na alla i’n wir. Aros dipyn bach. Ma rhaid i ti gliro mâs o’r
gwaith a ma’ rhaid i dy dad a dy fam gliro mâs o Tŷ Hen.
IFAN: Mr. Mordecai, actwch y bcneddwr. Am dano i’n hunan, ’w i’n barod i
dderbyn cosp arferol 30
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
pob un sy’n treio gwella 'r byd. Ond
peidiwch troi 'nhad a mam mâs o Tŷ Hen. Ma’ teulu ’nhad yn by w ’no ers
cantodd, ymhell cyn i gwmpni ’r gwaith dur brynu’r ’stât. Ma pob carreg a
llwyn yn Tŷ Hen yn gysegredig i ’nhad a mam.
MR. MORDECAI: Os nag wyt ti’n derbyn y cynnyg, ma’ rhaid i chi gliro mâs cyn
diwedd yr wthnos.
IFAN: Y’ chi’n fwy creulon na landlords yr Iwerddon.
MR. LUCAS: Meddwl, Ifan, am dy dad a dy fam yn câl ’u twîu i ben hewl yn ’u
hen ddyddie. Meddwl am y dyfodol disgler ma’ Mr. Mordecai yn gynnyg i ti, a
meddwl am Ruth.
IFAN: Y’ chi, Mr. Lucas, yn napod ’nhad yn nêt. Fe fyse’n well gita ’nhad- ’y
ngweld i’n gorff wrth ’i drâd, na ’ngweld i’n troi’n fratwr. A Ruth, —
anwylyd fy mynwes — ffordd allwn i ofyn iddi hi roi ’i llaw i fì ar ol derbyn
tâl y bratwr. Fe fyse ffrwyth y brâd yn gwahanu rhyngto ni am byth. Fe fyswn
yn dishgyn yn ’i golwg hi yn îsh na rodni penna’r gwmdogeth.
MR. MORDECAI: Pwysa’r canlyniade’n ofalus. Ar un ochor — addysg, parch,
llwyddiant; ar yr ochor arall — colli popeth.
IFAN: Colli popeth ond enw da.
MR. MORDECAI: ’Nawr, sut mae hi i fod? Wyt ti’n derbyn neu wrthod. 31
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
IFAN: Gwrthod gyda dirmyg.
MR. MORDECAI: Lucas, galw y deputation miwn. Fe wna i short work o’r corgi
bach hyn a’r deputation. (Y deputation yn dod i mewn.)
MR. MORDECAI: Wel boys, ma’r cwmpni weti rhoi ystyrieth fanwl i gais y
gwithwyr, a ma’ nhw wedi dod i’r penderfyniad nad alla nhw ddim caniatâu yrun
o ddimands y gweithwyr. Ma’ nhw wedi consulto â mishtri erill, ac wedi fhndo
mâs fod y cyfloge a’r orie gwaith yn depig i weithfeydd dur erill, a dy’ nhw
ddim yn gweld ’u ffordd yn glir i ystyried y mater ar hyn o bryd. Ma’r
mishtri yn timlo hefyd fod y gwithwyr yn câl ’u camarwain gan y papurau
wthnosol, ynenwetig y “Gwron Cwmrag” a ma’ nhw wedi câl mas taw Ifan Dafydd,
spohesman y’ch deputation chi, yw’r scrifennwr sy’n scrifennu o dan y
ffugenw, ” Llais o’r Dyfnder.” Yn blaim, dyma benderfyniad y cwmpni — gwrthod
demands y gweithwyr en hloc, a rhoi’r sac i “Llais o’r Dyfnder.”
IFAN: A dyma beth y mae y mishtri yn ’i alw’n gyfiawnder! Mr. Mordecai,
dadleuwch gais y gweithwyr yn deg. (Mr. Mordecai yn troi ei gefn.) Weî, os
mai dyna’r ffordd y’ch chi’n ymddwyn, mae’n rhaid i’r gweithwyr ddefnyddio
moddion arall.
MR. MORDECAÎ (yn wynehu Ifan): 0? a beth yw hynny? 32
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
IFAN: Streic.
MR. MORDECAI: (yn wawdlyd) Streic! Twt, twt!. ’R wy’ weti clywed ffwlbri
felna o’r blân. Fe gawn weld, yr upstart bach. Ond cofiwch hyn (gan droi at y
lleill) os dewch chi mâs ar streic — it will be a fight to the finish, boys,
and I shall win . Lucas, agor y drws. (Y deỳutation mynd allan. Ifan yn
olaf.) I F A N (yn wynebu Mr. Mordecai): Mr. Mordecai, y’ chi yn cwmryd
mantais anheg o’ch safle. Ma’ch ymddygiad chi yn hollol anheilwng o foneddwr.
(Mr. Mordecai yn cyfeirio ei fys at y drws.) Pan gwrddwn ni nesa, syr, falle
y byddwch wedi newid y’ch meddwl. (Yn mynd maes.)
MR. MORDECAI: Lucas, caea’r drẃs. Llen. 33
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
ACT III.
[
Golygfa — Bwthyn Nanni’r Cwar.]
MORGAN: Estyn y Beibil i fi Nan. Ble lice ti i fi ddarllen?
NANNWS: Darllen abothti Ein daearol dŷ o’r babell hon. M ’R Apostol Paul
sgrifennws e, ontefe, Morgan?
MORGAN: Wyt ti lawr yn y pant heno, Nan fach, ’wi’n gweld. Meddwl am Tŷ
Hen, spo?
NANNWS: Ie; shwd gesest ti, Morgan? Ie, meddwl am Tŷ Hen, ble buo ni mor
gysyrus, ble cwnson ni’r plant, ag o ble y claddson ni nhw gyd ond Ifan.
MORGAN: Ma’ atgofion cymysg — melys a chwerw — am Tŷ Hen.
NANNWS: Fe blannes lwyn rosmari pan anwd Etw, a choeden lilac pan anwd Siw
fach. Ma’ nhw’n tyfu yn y pâm blote o flân Tŷ Hen, ac yn blodeuo ’leni
cysled ag ariod. Ma Etw a Siw fach yn cysgu’n dwel ym mynwent Hafod-y=Wadd, a
dyma ni weti câl ’n twlu i ben hewl. Mae’n anodd dirnad troion Rh agluni eth,
Mor gan . 35
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
MORGAN: Gweld o ran y’n ni, Nan fach. Fe gewn y datguddiad llawn ry w
ddwarnod, ac esboniad ar y cyfan. “ Pe lladdai Efe fi, eto mi a ymddiriedaf
ynddo.” Dyna beth wetws Job, a fe gafws e’ brofì gwaetha’r hen fyd ’ma. A
wetyn ’ny, beth yw cwpwl o fiynydde o ofid ar y ddaear, pan y mae
tragwyddoldeb o fwynhad o’n blaene ni’r ochor draw. A fe gewn weld Etw a Siw
fach eto.
NANNWS: Ma’ ffydd tuhwnt gita ti, Morgan. Fe fyswn i weti torri ’nghalon ys
lawer dydd onibai dy fod ti’n gweld ochor ole’r cwmwl wastod.
MORGAN (yn rhoi ei law ar y Beibl ): Dyma ffynhonnell ’y nghysur i. Hwn, ag
emynne Williams, Pantycelyn, Dafydd William, ag Ann Griffis. Shwd ma’ dy
ffêfret emyn di’n gweyd wrth sôn am ochor ole’r cwmwl.?
NANNWS: Ie, atrodd hwnna, Morgan. Fe alli di atrodd emyn a rhoi synnwyr yndo
fe wrth ’i weyd e’.
MORGAN: Ni phery ddim yn hir Yn ddu dymhestlog nos; Ni threfnwyd amser maith
I neb i gario’r groes; Mae’r hyfryd wawr sy’n torri draw Yn dweyd fod bore
braf gerllaw. 36
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
Mi wela’r cwmwl du Yn awr yn dechreu
ffoi, A gwynt y gogledd sy Ychydig bach yn troi; Nol tymestl fawr, daw yn y
man Ryw hyfryd hin ar f’enaid gwan.
NANNWS: On’d dy* nhw’n ffein, Morgan? Ond y penNILL
d’wetha sy’n grand. Cana fe, Morgan.
MORGAN: Cana di’r *alaw; fegana inne’r bass. Y DDAU: Mi welaf oleu’r haul Ar
fryniau’r nefol wlad, Yn dangos imi sail Fy ngobaith a’m ryddhad; Fy enw sydd
ar lyfrau’r nef, Ac nid oes a’i dilea ef.
NANNWS: Fe allse fod yn wath arno ni, Morgan. Ma’ gita ni dwishged i fod yn
ddiolchgar am dano.
MORGAN: “ Mi a fum ieuanc, ac yr ydwyf yn hen, eto ni welais y cyfìawn wedi
ei adu, na’i had yn cardota bara.” A dyma ni, er bod Ifan wedi câl ei droi
mâs o’r ffowndri, a weti gorffod mynd i witho dan ddiar, yn gallu citsho’r
ddoi pen llinyn ynghyd yn od o ddeche. Lenox,” neu “ Gwladys,” o’r “
Caniedydd Cynulleidfaol.” 37
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
NANNWS: Hen dro mên odd troi Ifan bant o’r gwaith, a fynte ddim ond weti
’nithur ’i ddyletswdd. A’r dynon wetyn ’ny odd e’ wedi sefyll drostyn’ nhw,
yn troi cefne arno fe, ac yn cwmpo miwn i delere’r mishtri.
MORGAN: Whare teg i’r gweithwrs. Pan bo bara chaws dyn miwn danjer, mae’n
anodd wmladd â dim byd wrth gefen. Fe ddylse ’r dynon byrtoi ’mlân cyn wmladd
â’r mishtri. Pwy iws i boced wâg wmladd gita phoced lawn? Dyna style y byd o
itrech acha pethach, wyt ti’n gweld? Ond w i’n gweld gloewach nen o flân
gweithwyr y wlad, a fe gei di weld nad aiff ymdrech Ifan ddim yn ofer yn y
pen draw.
NANNWS: Fe íuws Ifan yn Iwcus i gâl gwaith ym Mhwll y Cape.
MORGAN: A fe fuon ninne’n lwcus fod tŷ yr hen Nanni o’r Cwar yn wâg. Os
yw gweddi’n cysegru lle fe ddylse’r tŷ yma fod yn wir deml i’r Brenin
Mawr, wath o’dd yr hen Nanni yn un o ragorolion y ddaear, ac yn wir fam yn
Israel.
NANNWS: Ma’ Ifan yn dwad yn ’i flân, hed.
MORGAN: Oti, ma’r gaffer ag ynte’n dicyn o bartners. Ma’n depig ’u bod nhw
gita’i giddyl yn yr un classis yn ’Bertwe pan o’dd Ifan yn y gwaith dur.
NANNWS: Hen waith danjeris yw gweitho dan ddiar, ond fe gei di weld y bydd
Ifan ni cyn pen llwer o flynydde yn fanijer acha pwll glo. 38
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
MORGAN: Fyswn i’n synnu dim. Fe wetws Wil Hari wrtho i na fyse fe’n synnu dim
pe byse’r gweithe dur yn darfod yn y cymydd hyn, a phwlle glo wrth yr ugeine
yn câl ’u hacor ’ma, ishta Cwm Rhondda.
NANNWS: Ond fe fydd rhaid i Ifan aros yn hir cyn paso’n fanijer — ’dos dim
llwer o shawns gita fe nawr i weitho ’i ffordd ymlân.
MORGAN: Trueni ofnatw na fyse gita ni fodd idd ’i hala fe i’r coleg. Ma prinder
arian weti moci llwer i dalënt. Shwd ma’ cyfieithiad Caledfryn o’r farwnad
Saesneg yn mynd: * * Llawer blodeuyn a enir I wrido o olwg y byd; Gwasgara ei
fwyn beraroglau Ar awyr yr anial i gyd.” (Cnoc wrth y drws.)
NANNWS: Dewch miwn.
Y MERICAN: Nosweth dda. Maddeuwch i fi am y’ch disturbo fel hyn. Wi weti
colli’m ffordd, ’w i’n geso. Fe gamsynes ar y croshewl. ’W i ar y’m ffordd i
bentre Hafod-y-Wadd i weld rhai sy’n blongo i fi.
NANNWS: Pwy alla nhw fod, Morgan. Beth yw ’u henwe nhw, syr.
Y MERICAN: Enw’n whâr yw Nannws, a — 39
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
NANNWS (yn gynhyrfus): Etw, os posib! Nid ti yw Etw, ie fe?
Y MERICAN: le, Ji yw Etw. Nid ti yw Nannws? Wel! O’r annwl! Nannws fach!
NANNWS: Etwart, o ble dethot ti. Ishte lawr. Pwy feddylse?
Y MERICAN: Wel dyma beth yw surprise pachet. Wyt ti weti altro, Nannws, fel
fìnne, ond ma’ cystel complexion gita ti a phan o’et ti yn Waunyfrân, ’s lwer
dydd. A dyma Morgan, ie fe? Weì, shwd wyt ti? Mae’n dda gita fi dy weld ti.
MORGAN: Wel, dymani’n cwrdd am y tro cynta’* Ma’n ddrwg gita fi na fyse gita
fi lle mwy stanj i roi eroeso i ti, wâth wi’n gweld dy fod ti’n câl byd da yn
rhwle.
Y MERICAN: O.K. Morgan. Nan, paid trwplu i ’nithur bwyd i fi. Fe geso fwyd yn
yr hotel yn ’Bertwe. ’Dodd dim bwyd idd ’i gâl yn y cars fel sy mâs gita ni
yn y States y wyddoch. Ond ’nawr, gadewch i fi gâl clwed y’ch hynt chi. Beth
y’ch chi’n ’nithur man hyn. Own ni’n meddwl taw yn Tŷ Hen, Hafod-y-wadd,
oech chi’n byw. MÖRGAN: Gwed wrtho fe, Nannws.
NANNWS: Na, gwed ti.
MORGAN: Wel, i dorri’r stori’n fyr — fe wetiff Nan y geire rhwng cromfache
wrtho ti ’to — i ddechre yn y dychriad. Ar ol i Nannws a fi brioti, fe fuon
yn by w yn eitha deche ag yn gallu doti ceinog fach 40
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
biwr heibo. Ond fe geso anhap i
’nghefen ysgwythyrodd,* yn Slent Cwmbach. Cheso i ddim pensen goch gita’r
mishtri, ag onibai am glwb yr Iforiaid, fe fyse’n eitha clawd arno ni.
NANNWS: Fe welson amser caled pyrtynny.
MORGAN: Fe fues fîwyddyn ar ’y nghefen, a phan codes i, own i’n glymhercyn
teg. Fe geso waith ar yr hewl, a dyna ’ngwaith i ’nawr.
Y MERICAN (yn dosturiol): Poor fellow bach. Ond beth am y plant?
MORGA'N: Weta i ddim wrtho ti am Etw gafws ’i enwi ar dy ol di, nag am Siw
fach enwd ar ol ’mam. Ma nhw’n gorwedd yn dwel yn y fynwent. Ond ma’ Ifan y
crotyn ienga’n fyw, a genius yw e’, er taw fi sy’n gweyd. Fe gafws waith yn y
ffowndri, ag odd e’n gweitho ’i ffordd ymlân i’r coleg.
Y MERICAN: Os dim byd yn well na scientific education, Morgan.
MORGAN (yn amheus): Gwêd ’ny. Ond fe âth Ifan i weld gweledigaethe ag i drio
doti ’rhen fyd ’ma’n gwmws. Fe fuws yn scrifennu i’r papyre, a fe âth yn
spohesman gita’r deputation o flân y mishtri i hawlio gwell cyfloge, llai o
orie, r ac* felly yn y blân. Y diwedd fu, i Ifan gâl y sack } ag i ninne gâl
y’n troi mâs o Tŷ Hen ar ddwarnod o notis.
Y MERICAN: Scandalous, Morgan! *Ys gwaeth yr oedd. 41
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
MORGAN: Fe deimlws Ianto’n whith ofnatw; colli ’i shawns am y “ Whitworth
Scholarship,” a’r coleg, ond ’dyw e’ ddim weti danto, er ’i fod e’ weti colli
*i le yn y gwaith dur, a weti colli y i gariad yn y fargen. Ond fe withiff
Ifan ’i ffordd ymlân.
Y MERICAN: He’s it, I rechon. Wel, Nannws W i’n geso fod ne’ er do well y
teulu wedi dwad ’nol in the nick of time. Ma J Etw Llety Ffwlbert wedi taro
oil — struch oil — beth yw e’nGwmrâg, gwedwch. Ond ta p’un, ’w i’n ddyn apal
a dicon o fodd gita fì i roi whare teg i Ifan i witho’i ffordd ymlân. Ond ble
ma’ Ifan?
NANNWS: Fydd e’ ddim yn hir, ’nawr. ’R y’n ni yn ’i erfyn e’ bob muned. Fe
ddylse fod ’ma erbyn hyn. Ond gad i ni gâl clwed dy hynt di, Etwart.
Y MERICAN: Wel, fel wyt ti’n cofìo, ar ol yr unfortunate speculation yn y
gwaith tin, fe benderfynes fynd i’r ’Merica, a fe shipes fel morwr 0 flan y
mast acha llong hwylie yn mynd o ’Bertwe 1 Baltimore. Fegeson y’n twlu ’nol a
mlân ar yr AÜantic am bythawnos a phump dwarnod i gâl bod yn exact, ac yn y
diwedd fe âth yr hen long yn complete wreck ar greigie Nova Scotia.
NANNWS: Ble ma’ rheiny, Etwart.
Y MERICAN: Yn North America . Fe foddwd bron pobun, ond achos ’mod i’n
nofiatwr da— dyna un 42
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
peth ddysges i’n nêt, ta pun, yn yr
afon Gwendreth — fe ddetho i’r lan yn fyw.
NANNWS: Fe gafws ddiangfa ryfedd, ond do fe, Morgan?
MORGAN: “ Tr Arglwydd y perthyn diangfâu rhag marwoleth.,,
Y MERICAN: Weî, âf íì ddim i atrodd am yr hard times geso i am dros thirty
years ym mhob State, o New York i’r Pacific. Fe fues yn 'y nhro yn bopeth
bron- — shoeblack } brahesman, cowboy, reporter, a prospector.
NANNWS: Rhwpeth tepig i Inspector yn y’n gwlad ni, sposo! Wel, ’rwyt ti wedi
dod ymlân.
Y MERICAN: Off the mark, wir, Nannws. Pros- pector, nid /wspector. Looking
out for something, not prying into things, Nannws. Dishgwl am gopor, ne
arian, ne our, wyt ti’n gweld. Washout o'dd hi o hyd — blwyddyn ar ol
blwyddyn — nes own i weti danto'n lân. Ond the darkest hour is nearest dawn .
Fe droiws y lwc yn syten. Un dwamod own i weti bod mâs yn Roaring Creek yn
prospecto trw’r dydd, ag yn starto ’nol i’r camp yn eitha digalon, pan y
tares i ar feiner o Felin Heli — Cymro o’r hen wlad, o'dd weti cwrdd ag anhap
tost, ag weti torri 'i giin. Fe caries e’ i’r camp a fedendes arno fenes y
gwelîws e'.
MORGAN: Teilwng o Gymro o Shir Gârî Dýna beth o’dd Samaritan! ond te fe,
Nannws? 43
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
Y MERICAN: Fe ddethon yn chums mawr, a fe ethon yn worhing partners—share and
share alike. Rhwffordd fe fuon yn lwcus diginnig o’r amser hynny ’mlân — fe
dar’son ar y richest claim in the State of Oregon — a dyma fi yn ddyn
cyfoethog, a dicon o arian i byrnu Llety Ffwlbert a Tŷ Hen, ag i roi’r
very best education i Ifan.
NANNWS: Ond beth am dy wraig a dy blant. Nid hen fab wyt ti, os posib!
Y MERICAN: le, ’Dyw’r gold fever — ydwymyn our — unwaith y citshiff hi mwn
dyn, ddim yn rhoi amser iddo fe feddwl am bethe fel ’na, ond ’w i’n awyddus i
weld Ifan.
NANNWS: Fe ddylse fod ’ma ’nawr. ’W i fel be byswn i’n clwed sŵn ’i drod
e’ — (sŵn a chyffro tuallan; Nan yn agor y drws ac yn edrych allan).
Beth yw’r mater, Morgan? Ma’r hewl yn llond o ddinon a phobun yn rhiteg
tsha’r pwll. (Nannws yn clustfeinio; sŵn a chyffro cynyddol tuallan.)
Shanko, dere ’ma; beth yw’r mater, beth sy weti dicwdd?
SHANKO TYWITH: Ma’ dŵr weti torri miwn i Bwll y Cape.
NANNWS: Oti’r dynon yn sâff?
SHANKO: Ma pobun weti ciradd pen y pwll ond petwar; a dos dim gobeth am un
o’r petwar, amo’i ofon. 44
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
NANNWS: O diar, diar! Os dim o Ifan yn un o’r petwar, Shanko? (Shanro yn
ddistaw.)
MORGAN: Dishgwl yn ’y ngwyneb i, Shanko.
Y MERICAN: Out with it, man. (Shanko yn cuddio ei wyneb yn ei ddwylaw, ac yn
siglo gan deimlad dwys.)
NANNWS: O Ifan! Ifan! Jest pan o’dd yr haul yn codi, a'r cwmwle’n cliro. 0!
shwd wyt ti'n gallu cysoni peth fel hyn, Morgan?
MORGAN': Yr Arglwydd a roddodd, yr Arglwydd a ddygodd ymaith. Bendigedig
fyddo enw yr Arglwydd. M Llen.
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
ACT IV.
[
Golygfa — Bwthyn Nanni'r Cwar. Cwrdd gweddi yn dibennu. Cenir yr emyn*: “ Y
fraich sÿn hollti'r mor, ' A throi’r Iorddonen gref, Sÿn awr yn dal y gwan I
deithio tua’r nef. Mae dtwyfol rym ym mraich fy Nuw I gadw eiddil gwan yn fyw
.” (Christmas Evans.)] PARCH. ORWIG PARRY (ar ol iddynt orffen canu): Annwyl
frodyr a chwiorydd, yr ydym wedi câl cyfarfod â’i lond oo’r nefoedd. Mae rhyw
naws nefolaidd ar bob rhan o’r moddion. Pwy ŵyr na ddyry yr Arglwydd
waredigaeth fuan i’r pedwar brawd sydd ers deng niwrnod ym mro a chysgod
angeu. Rhyfedd fel yr ydys wedi gallu cloddio mor gyflym drwy’r graig galed.
Mae’n syndod meddwl fel y darfu’r achubwyr dewr glywed sŵn curo mandreli
y trueiniaid drwy ddeugain troedfedd o graig solud. A byth oddiar hynny nid
yw y glowyr dewr *Y dôn yw “ Rhosymedre,” o “ Llawlyfr Moliant ” y Bedyddwyr.
47
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
wedi arbed dim ar eu hunain er clirio
ffordd i waredu eu cydweithwyr o'r carchar tywyll a’r perigl enbyd maent
ynddo. Y mae'r deymas, o^r Frenhines ar ei gorsedd, i lawr, yn clustfeinio’n
astud am y newyddion diweddara’ o’r lofa. Yn sicr i chi, gyfeillion, yr ydwyf
yn gweled llaw y Meistr mawr yn amlwg yn yr omchwyliaeth hon. Fe ddy wedir —
yn wir yr oedd mewn du a gwyn yn y * ‘ Gwladgarwr ’ ’ bore heddy w — y gellir
disgwyl newyddion unrhy w foment bellach am dynged y pedwar brawd. Hen arfer
y Meistr ydyw ateb cri ei bobl mewn cyfyngder, ac yr ydwyf yn hydems gredu na
fydd ein hymbil ni heno ddim yn ofer, ac yr achubir y pedwar yn iach a dianaf
. Na wangalonnwn, ffrindiau, daliwn i dynnu wrth raffau yr addewidion.
Y MERICAN: Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.,,
MORGAN: Hylo, Etwart! shwd detho ti ar draws yr adnod ’na, bachen?
Y MERICAN: Wn i ddim wir, Morgan. Fe slippws mâs, rhywffordd. Tipyn o roving
boy 'w i weti bod, a’wi weti bod ym mhell o dre miwn mwy nag un ystyr, ond
ma’r cwrdd ’ma heno yn ’nithur i fi deimlo ishta byddwn i’n aríer teimlo yn
hen dŷ cwrdd Phila, ys lawer dydd, a
MORGAN: Os yw’r hen adnote ar dy gof di, ei di ddim yn bell o dy le. 48
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
PARCH. ORWIG PARRY: Y mae eich
dychweliad chwi, Mr. Gronow, yn destun llawenydd i ni gyd, ac yn neilltuol i
Nannws a Morgan, ac os gwêl yr Arglwydd yn dda adfer Ifan yn ol i’r gronglwyd
hon, fe fydd cwpan eu llawenydd yn llifo drosodd.
Y MERICAN: Ma’ ffydd Morgan a Nannws yn siwr o gâl ’i reward. A fe 'naf fi
’ngore dros Ifan. PARCH. ORWIG PARRY: ’Rwy’n sicr y gnewch chi, Mr. Gronow.
Ond dyma Mr. Lucas. (Mr. Lucas yn dod i mewn gyda Ruth.) Sut y mae pethau yn
edrych yn awr, Mr. Lucas? Os y gwaredir y pedwar cyfaill, i chi yn bennaf, o
dan fendith y Meistr mawr, y byddwn yn ddyledus. Y mae eich esiampl a’ch
ymdrechion wedi bod o werth amhrisiadawy.
MR. LUCAS: Nid i fi, ond i Ruth y mae’n rhaid i chi ddiolch. Pan ddigwyddws y
ddamwain, fe gofiws am ryw weledigeth o’dd hi weti ’i gâl flwyddyn yn ol, a
cheso i ddim amser i gâl hanal cyn starto bant i weld Mr. Thomas, y Manager,
a châl gita fe i bwmpo’r dŵr mâs, a threio safio’r petwar o’dd ar goll.
Odd Mr. Thomas a phobun arall weti roi lan pob gobeth. Ond fe fynnes gâl fy
ffordd, a fe ddechreuwd ar y rescue work. Fe geson mâs taw yn nhalcen Bili
Shôn o’dd y petwar yn gwitho, a fe startson dwllu rhag blaen. ’R y’n ni wrthi
’nawr 49
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
ers dros ddeg dwarnod, ond w i’n
gobeithio cyn pen llwer o orie y dewn ni o hyd iddi nhw.
RUTH: ’W i’n siwr y ca nhw ’u hachub. A ’dyw awr y waredigaeth ddim yn mhell.
MR. LUCAS: Paid codi disgwyliade Morgan a Nannws, rhag ofon — Pan ddetho i
lan gynne, rhyw wechllath o’dd rhyngto ni a’r bechgyn. Ond fe fydd rhaid bod
yn garcis iawn wrth dwllu at y talcen, wath fe fydd pressure y compressed air
wrth escapo yn ddychrynllyd, a fe fydd danjer i’r dŵr sy ’nawr yn câl 4
gatw ’nol gita’r compressed air i gwnnu, a llethu'r petwar weti’r cyfan, a
chaniatâu ’u bod yn fyw. Ond ma’ Dai Bach yr Erw yn diall 4 waith, a nid
dyma’r tro cynta iddo fe fod mwn — Ond hylo! Shanko! Beth sy’n bod?
SHANKO (yn sisial yng nghlust Mr. Lucas, ac wedyn yn dweyd yn uchel): Ma Mr.
Thomos y Manager am i chi ddwad lawr ar unwaith syr. Ma’ nhw bothti dwllu
miwn i dalcen Bili Shôn. (Mr. Lucas yn mynd allan yn frysiog.)
SHANKO: O’dd Shoni Clawdd Du yn gweyd wrtho i gynne y galle fe dyngu i fod
e’n clwed sŵn canu orwth dalcen Bili Shôn, a beth y’ch chi’n feddwl oe’n
nhw’n ganu, mynte Shôni.
RUTH: “ Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau.”
SHANKO: Ie, pwy wetws wrtho chi, Miss Lucas?
RUTH: Neb. Tarwch yr hen dôn, Morgan Dafydd. 50
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
MORGAN: O’r gore. P’un e byw ne farw yw Ifan, fe licwn i iddo fe ddwad
tshathre yn sŵn hen emyn anfarwol Dafydd William. ( Cenir “ Alex -
ander." Pan yn canu’r geiriau “ yn uwch na‘r don,’’ y mae Mr. Thomas y
Manager yn brysio i mewn, ac yn codi ei law am osteg. Y canu’n distewi, a
phawb ar eu traed âgolwg gyffrous.)
MR. THOMAS: ’Nawr, pidwch â gwylltudim byd. (Sŵn “ hwre ’’ tuallan.)
MR. THOMAS (dan deimlad dwys): Ma’r petwar yn fyw! Gwetwch wrthi nhw, Doctor.
DR. PETERS (yn awdurdodol): Ma’r pedwar yn all right. Nawr, Nannws, peidwch
ffysan o gwbwl. Fe gewch Ifan i’ch poeni chi am flynydde eto. Ond er mwyn
iddi nhw gâl y treatment priodol, ma’r petwar yn câl ’u danfon i’r hospital
yn Abertawe — a mewn tair wythnos fe fyddan yn ffit i ddwad tsha thre. Ma'
nhw wedi safio’n rhyfedd. (Ruth yn cusanu Morgan a Nannws, a’r dorf yn siglo
dwylaw gyda’r hen bâr.) PARCH. ORWIG PARRY: Gyfeillion. Mae yr Arglwydd wedi
bod yn dirion iawn i’w etifeddiaeth. Iddo Ef y bo’r diolch.
Y MERICAN: Amen. DR. PETERS (yn cyfeirio at y drws yn rhybuddiol): ’Nawr,
tsha thre, bob un o honoch, a chysgwch yn dda. ’Dyw rhai o hono chi ddim weti
câl cyntyn ers dros wythnos. 51
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
PARCH. ORWIG PARRY: Cyn ymwahanu,
’rwy’n siwr, Morgan Dafydd, fod gyda chi air i daro’r amgylchiad llawen hwn,
ac i roi mynegiad teilwng i'n teimladau yn awr y waredigaeth.
MORGAN: Dros nos yr erys wylofain; erbyn y bore y bydd gorfoledd.” Llen. 52
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
ACT V.
[
Golygfa — Tŷ Hen. Saith o’r glochy nos .]
MORGAN: Ma’ Ifan yn hwyr iawn ond, dywe > . Fe wetws Ruth y byse fe gartre
o'r hospital cyn hyn.
NANNWS: Weti troi miwn i'r Graig i weld Ruth — a ma’r stori weti mynd yn hir.
Ond beth yw amser lle bo serch. Os bu dou yn caru ’i giddyl ariod, Ruth a
Ifan yw rheinny.
MORGAN: Os bu dou yn caru ’i giddyl ariod, Nannws a Morgan Dafydd yw rheinny.
NANNWS: Dos neb mor ddwl a’r hen ddwl. Ond fe fydd yn ddrwg gita fi golli
Ifan. Own i'n meddwl y celswn i gatw Ifan hyd nes croesi’r hen —
MORGAN: Gan bwyll, Nan. Paid rhyfygu. Dyma ni weti câl Ifan ’nol o byrth y
bedd. A pwy alle ni gâl yn well gwraig iddo fe na Ruth? A shwd ma’r Scrythur
yn gweyd? 11 Am hyn y gâd dyn ei dad a’i fam, ac a lŷn wrth ei wraig, a
hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. M Dyna hanes y byd, wel di, er dyddie Adda
ac Efa.
NANNWS: Mae’n rhaid boddloni, Morgan — yn enwetig gan taw Ruth sy’n ’i gâl
e’. A Morgan?
MORGAN: Ie, Nan? 53
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
NANNWS: On’d yw e’n hyfryd y’n bod ni’n gallu roi Welcome Home ” i Ifan yn yr
hen gartre.
MORGAN: Mae fel breuddwd. Dair wthnos yn ol * oe'n ni yn hen fwthyn Nanni o'r
Cwar. Dyma ni, nol eto yn yr hen gatre, a phopeth yn dishgwl yn gwmws fel pe
byse ni heb fod odd’ma ariod.
NANNWS: Fuws Etw fawr o dro yn dod â Mr. Mordecai idd ’i le.
MORGAN: Naddo. Ma rhyw fynd arswydus yn y ’Mericanied yn ol bob cownt, a ma’
Etw fel llycheden ar ’i drôd.
NANNWS: A dyma fe ar y gair. (Y Merican yn dod i mewn.)
Y MERICAN: Wel, Nan, os dim o Ifan wedi cyrradd?
NANNWS: Fe fydd ’ma whaff ’nawr. Weti troi miwn i’r Graig mae e’, lled depig.
Y MERICAN: The old, old story. Fe ballws yn deg â dwad gita fi’n y cah yn y
prynhawn. Odd yn wel! gita fe gered wrth ’i hunan, mynte fe.
MORGAN: Os wyt ti’n smart ar dy drôd, Etw, golwg byr sy gita ti. ( Y drws yn
agor, ac Ifan yn dod i mewn.)
MORGAN: Shwd wyt ti, wsi.
NANNWS: ’ Y machgen annwl i! Ond dere mlân i gâl bwyd. Wyt ti’n siwr o fod
jest â starvo. 54
|
|
|
|
COLLI AC
ENNILL
Cheso ti ddim gormod o fwyd yn yr
hospital, fe fentra i. Ma gita fi’r cawl —
IFAN: Dos dim ishe bwyd arno i ’nawr. Fe alwes miwn yn y Graig wrth baso, i
weld Mr. Lucas.
MORGAN: Hm!
NANNWS: 0, wir?
Y MERICAN: I see it now . O’r gwalch. Dyna pam y pallest ti ddod gita fi yn y
cab, ie fe?
IFAN: Fe ’nethon i fi yfed dysgled o de. Ond ’ma 'n dda gita fi ddod ’nol i’r
hen aelwd. Pan wetws f’ewyrth wrtho i, odd e’n well na moddion doctor.
Y MERICAN (yn edrych tucCr drws agored): Wonders will never cease, I guess.
Dyma Mr. Lucas a Miss Lucas a Mr. Mordecai! ( Y tri yn siglo llaw â Morgan a
Nannws. Ruth yn cusanu Nannws, a Mr. Mordecai yn siglo llaw ag Ifan.)
MR. MORDECAI: Mae’n dda gita fi dy weld ti yn dishgwl mor dda ar ol y trying
experience yn y pwll. ’W i weti dod ’ma i gwmpo dan ’y mai. ’W i weti ymddwyn
yn greulon at Ifan, a fe wetes bethe na ddylswn i. ’W i’n galw’r cyfan ’nol,
ac ’w i’n gofyn am ’i bardwn e’. (Mr. Mordecai ac Ifan yn siglo llaw .)
IFAN: Gita pob parodrwydd, Mr. Mordecai.
MR. MORDECAI: Ma’r directors am ’nithur cwment o iawn ag y galla nhw am y
camdrinieth mae Ifan weti gâl — a ma’ nhw hefyd am roi rhyw dipyn bach o
recognition am yr inventions sy weti 55
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
bod mor enNILL
gar i’r cwmpni. A ma’ nhw’n cynnyg talu am yr ysgol ore i Ifan, a swydd fel
assistant manager ar ol hynny.
Y MERICAN: Very handsome on the part of the directors, Mr. Mordecai.
MR. MORDECAI: A mwy na hynny — free gift 0 bum cant o bunne.
IFAN: Mr. Mordecai, w i’n derbyn y pumcant punne, a
RUTH (mewn llais rhybuddiol): Ifan?
IFAN: Aros dipyn bach, Ruth. Free gift wetso chi, onte fe, Mr. Mordecai?
MR. MORDECAI: Absolutely.
IFAN: Mr. Mordecai, y mae amryw o’r gweithwyr â’u teuluoedd yn dioddef hyd
heddy oddiwrth effeithiau’r streic. ’W i’n cyflwyno'r pumcant punne i’r
Distress Fund.
MR. MORDECAI: Alla i ddim dy rwystro di 1 iwso’r arian fel wyt ti’n dewis.
Ond beth am y cynnyg arall?
IFAN: Diolch i chi, Mr. Mordecai, am eich cynnyg haelionus. Ond ma’r
weledigeth geso i yn nhalcen Bili Shôn wedi dangos i fi fod rhywbeth uwch na
safle ac anrhydedd daearol a mwy dymunol nag aur ac arian. Yn y weledigeth
gwelwn Gymru ar ’i thrâd, heb lais gormeswr o’i mewn, heb neb yn dywedyd “
Tlawd ydwyf . ’ ’ Gwelwn Gymru yn cerdded at y wawr yn genedl lân, yn genedl
ddiwyll- 56
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
iedig, yn genedl rydd. Ac yr own i’n
un o’r baner- gludwyr. Fe wnes adduned, pe celswn i f’achub, y buaswn i'n
cysegru fy mywyd i hyrwyddo buddiannau uchaf fy ngwlad, a helpu hyd eitha fy
ngaliu i sefydlu ar y ddaear deymas yr Hwn fu’n weithiwr tlawd Ei hunan —
teyrnas sydd i ddymchwelyd holl elynion brawdoliaeth dyn
MR. MORDECAI (yn taro i mewrì): Ond i ddod at gwestiwn o practical politics.
Beth am gynnyg y cwmpni?
IFAN: Pwy wahanieth sydd rhwng y’ch cynnyg chi ’nawr a'r bribe flwyddyn yn
ol? Câl fy mhrynu!
MR. MORDECAI (yn taro i mewrì): Nid hynny, 'n wir, sy weti cymell y cwmpni.
Goodwill only ỳ I can assure you.
IFAN: Boed a fynno am hynny — câl fy mhrynu fuaswn i. A chyda llaw, Mr.
Mordecai, os yw’r directors am ddangos enghraifft o goodwill, gofyn- wch iddi
nhw roi i’r dynon yr hyn o’dd y dynon yn ofyn am dano pan ddetho nhw mâs ar
streic. Fe ymladdws y gweithwyr yn ddewr a rhoison nh w ddim i miwn hyd nes
yr oedd newyn yn llygadrythu arnynt. Fe gwmpson i miwn i delere’r mishtri —
fe ethon ’nol am gyflog llai nag o’r blân — ac y mae eu cyflwr heddy yn wâth
nag erioed.
MR. MORDECAI: Busnes complicated yw cwestiwn y cyfloge. Ma’ cwment o factors
i’w cymeryd i ystyrieth. Supply and demand rule the 57
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
market prices. ’R y’n ni ’nawr yn
perthyn i’r South Wales Steel and Tinplate Manufacturers * Association, a
IFAN: Dyna chi weti taro yr hoelen ar ’i phen. Cyhyd ag y bydd masnach a diwydiant
y wlad yn gyfangwbl yng ngafel cyfundrefn sy’n amcanu’n bennaf ac yn flaenaf
i bentyrru cyfo’th, heb gydnabod yn deiiwng y rhai sy’n cynyrchu’r cyfo’th —
chawn ni byth heddwch diwydiannol.
Y MERICAN: Rank Socialism.
IFAN: Waeth gen i pwy label rhowch chi a Mr. Mordecai arno. ’Dych chi ddim yn
deall fy safbwynt i. Yr ydw i mâs i wella cyflwr gwerin Cymru drwy bob
moddion cyfreithlon — a ’w i am fod yn ddyn rhydd — rhydd o bob llyffethair —
dyledus i neb — yn talu gwarogaeth i neb — ond Un.
MORGAN: Ie, paid â’i anghofio Ef.
NANNWS: Ond Ifan, ’dwyt ti ddim am ddiystyru cynnyg Mr. Mordecai!
MORGAN: Nan, paid tarfu Ifan.
IFAN: O’wn i’n gwpod y bydde chi, ’nhad, yn siwr o ’neall i.
NANNWS: Ond beth ’nei di, te?
IFAN: Mynd ’nol i’r gwaith glo. Cymhwyso’m hunan ar gyfer gwaith fy mywyd — a
phan ddaw’r aîwad, taro ergyd dros y gwan a’r diswcwr, a thynnu ’nês yr oes
aur pryd y perchir dyn nid oher- wydd ei gyfoeth a’i safle, ond oblegid ei
gymeriad, 58
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
ei wasanaeth, a’i aberth dros arall —
pryd y byddo brawdolieth yn ffynnu ledled y byd, a holl deulu dyn yn
ffrindiau i’w gilydd.
MORGAN: Da, ’machgen i.
Y MERICAN: He is an absolute enigma to me .
MR. LUCAS: ’W i’n cretu ’mod i’n diall safbwynt Ifan, ag alla i ddim peidio
’i edmygu e’. Ma’ Ifan wedi câl cynnyg heno ar bethe gwerth- fawroca’r byd,
yng ngolwg llawer, a mae e’ wedi ’u gwrthod. Ond ma’ gita fì’r pleser a’r
anrhydedd o gynnyg iddo fe y rhodd anwylaf yn ’y meddiant i. Ruth, dere ’ma.
Ifan, ’w i’n rhoi i ti y rodd werthfawrocaf ar y ddaear.
IFAN: Ruth! beth wyt ti’n weyd? Wyt ti’n foddlon gwynebu bywyd o ymdrech,
hunan-aberth, dirmyg a thlodi.
RUTH: Fe safa i wrth d’ochor di. Dy ddelfrydau di fydd fy nelfrydau i; dy
bobl di fydd fy mhobl i; a dy gadernid di fydd fy nghadernid i.
IFAN: Ein harwyddair fydd ‘ 4 Yr Oes Aur ”; ein nerth fydd y Goruchaf; ein
nôd fydd Ei ogoniant Ef; ac yna bydd ein gwobr yn fawr iawn.
MORGAN: “ Yr hwn a rodia mewn cyfiav/nder, Ac a draetha uniondeb, A wrthyd
elw trawster, A ysgydwo ei law rhag gwobr, 59
|
|
|
|
COLLI
AC ENNILL
A gaeo ei lygaid rhag edrych ar
ddrygioni; Efe a breswylia yr uchelderau; Cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa
ef; Ei fara a roddir iddo; Ei ddwfr fydd sicr; Dy lygaid a welant y Brenin yn
Ei degwch; Gwelant y tir pell.” Llen. 60
|
|
|
|
E.P.C. New List of Plays & Drarrsas
m ENGLISH AND WELSH.
NOSON O FARRUG. (R. G. Berry .) 1 j- net. post' free 1/2.
Y PWYLLGOR. (D. T. Davies.) 1/- net, post free 1 /2.
YR HEN DEILIWR. (/. L/oyd Jones.) 1 /- net, post free 1 /2.
THE GREAT EXPERIMENT. (Naunton Davies and Stanley Drewitt.) 2/- net, post
free, 2/3.
THOSE WHO WAIT. (Erwss* Cove.) 1/- net, post free 1/2.
LLWYBRAU ANRHYDEDD. (D. Derwenydd Motgän.) 2/* net, post free 2/3.
RYBECA. (Gwili.) 2 /- net, post free 2/3.
TEN SHORT PLAYS— Cyngor Plwy'— Trwbwl yn Wrecsam — Nith Dic Shon Dafydd — Ar
Leave — Natur Plentyn — Byddin y Plant — Dyfodol Plentyn — Y Milwyr ar Brawf—
Cosbi Dafydd — Yr Hen Siopwr. 2/- net, post free 2/3.
YR HEN SCWLIN. (J. Lloyd Jones.) 1/- net post free 1 /2.
DAFYDD AP GWILYM. A Romantic Cantata (Harry Evans.) Solfa, 1 /-, Old Notation
3/- net.
PLANT Y PENTREF. Welsh School Play with music. Old Notation, 4 /- net, words
only 2d. net.
Licençes for Public Performance to be obtained from
The Educational Publishing' Company, Ltd., Cardiff.
|
|
|
|
E.P.C. New List of Plays & Dramas
IN ENGLISH AND WELSH.
OWAIN GLYNDWR. Nos. 1 to 7. Short Plays for Schools. 3d. each net. Nos. 1 to
7» bound together 1 /6 net.
Y FERCH YNGHYFRAITH. (R. G. Berry.) 1 /- net, post free 1 /2 net.
HANNAH COMES ROUND. (G. J. Griffith.) 1 /- net, post free 1 /2 net.
CASTELL MARTIN. (D. T. Davies.)
FFROIS. (D. T. Davies.)
THE SECOND SON. (Dr. Naunton Davies.) 2 /6 net.
THE EPIDEMIC. (Dr. Naunton Davies.) 1 /3 net.
A MONOLOGUE FOR ME. (Dr. Naunton Davies.) 1 /3 net. *
THE C O N V E R S I O N . (Dr. Naunton Davies.) 1 /3 net.
THE SCHEMER. (Dr. Naunton Davies.) 2 /6 net.
THE ARROGANCE OF POWER. (Dr. Naunton Davies.) 2 /6 net.
THE HUMAN F
ACTOR. (Dr. Naunton Davies.) 2 /6 net.
THE CRASH. (Dr. Naunton Davies.) 2/6 net.
Licencesfor Puhlic Performance to be obtained from
The Educatíonal Publishing Company, Ltd., Cardiff.
|
....