kimkat0314k Yr Acen yn Gymraeg. J. Lloyd Jones. Y Geninen. 1913.

29-08-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0314k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 

 
Yr Acen Yn Gymraeg.
(J. Lloyd Jones. Y Geninen. 1913)





 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

 

(delwedd B0386)

Yr Acen yn Gymraeg. J[ohn]. Lloyd Jones (1885-1956). Y Geninen. 1913.

 

O GYFNOD i gyfnod ac oes i oes parhâ’r ieithoedd llafar i newid; ac nid yw’r Gymraeg yn eithriad i'r rheol. Edryched rhywun ar ddalen o’r Mabinogion, a gwel gwahaniadh sydd rhwng Cymraeg y Canol Oesoedd a'n hiaith ni'n yr ugeinfed ganrif. Dyma engraifft o frawddeg yn Llyfr Gwyn Rhydderch yn Chwedl Iarlles y Ffynnon: - “A gwisgaw a oruc ymdanaw ac escynnu ar y march a mynet ymdeith.” Yn Nghymraeg y dyddiau hyn darllenai fel hyn: - “A gwisco am dano a wnaeth, ac esgyn ar y march, a myned ymaith." Nid arferir rhai geiriau mwy, a newidiodd eraill eu ffurf: ac oherwydd y dengys gyflwr cenedl, yn wladol, yn gymdeithasol ac yn fasnachol, benthycir gwiriau’n barhaus o'r ieithoedd cylchynol. Megis y trosglwyddwyd buttery ac attorney o’r Saesneg ac y tyfodd bwtri a twrnai ohonynt, felly hefyd y cymerwyd schola a pontem o'r Lladin pan feddiannodd y Rhufeiniaid ein gwlad, ac y deilliodd castell, yscol a pont ohonynt. Yn hanes y Gymraeg cafodd aml i allu ddylanwad ar ei dadblygiad a'i thyfiant; ac un o'r rheini, a'r mwyaf o honynt, yw'r acen y gellir olrhain ei heffeithiau ar hyd y canrifoedd ac sydd cyn gryfed heddyw ac erioed.

 

 

 

(delwedd B0387)

Pan leferir, gollyngir yr anadl allan o'r yscyfaint trwy y freuant; a chynhyrchir seiniau gan gynhyrfiad y llinynnau lleisiol neu gyffyrddiad ac ataliad yr anadl yn ngwahanol rannau y genau a'r froenau. Pan  gynhenir p yn y gair pan, atelir yr anadl gan y gwefusau: a'r gwahaniaeth rhyngddi a b yn y gair ban ydyw cynhyrfiad y llinynnau lleisiol yn yr olaf, tra yn nghynhaniad yn y gair mam, er yr atelir yr anadl gan y gwefesau,  gollyngir hi allan trwy'r ffroeau. Mae'n y geill yr anadl ddyfod allan heb ei hatal na'i nhewid mewn unrhyw fodd: ac wrth yscrifennu dyma [a] ddynodir gan y llythyren h. Anghenraid yw cael rhyw gymaint o ner[th] neu rym i ollwng yr anadl allan ac i gynhyrchu pob sain; eithr tuedd iaith yw graddoli neu amrywio a gwneuthur un sill yn gryfach na'r rhai o'i deutu; mewn geiriau eraill, ei hacennu: a'r hyn yw acen mewn gair ydyw pwyslais mewn brawddeg. 

 

 

 

(delwedd B0388)

 

Yn yr ymdrech i acennu neu bwysleisio, tueddir i wneyd hynny ar draul y sillau a'r geiriau cylchynol, a pheri i'r rheini wanhau neu ddiflannu. Gwelir hyn yn eglur yn y geiriau dyma, dyna, dacw, a ddeilliasant o wel di yma, yna, acw; ac yn y frawddeg a glywir yn am] ar lafar gwlad, decini, a saif am mae'n debyg gin i, — yn gywirach, mae'n debyg gennyf i. Cymharer ymhellach traid, a geir yn ngweithiau Morgan Llwyd, i., tud. 103, am nid rhaid; a dath o ddim a glywir ar lafar gwlad am nid aeth efo ddim.

 

Yn Nghymraeg y rheol ydyw acennu'r sill olaf ond un mewn gair: ac oddieithr y rhagenwau personol myfi, tydi, etc. , a geiriau fel cyhyd yr acennir eu sill olaf oherwydd dylanwad y ffurf syml hyd, neu cyset, rhyset a geidw'r acen Seisnig, nid oes ond ychydig o eithriadau nad yw'r sill olaf, a acennir, yn ganlyniad uno dwy sill. I'r dosparth hwn y perthyn sarhâd = sarha-ad, parhäf = parha-af, mwynheir = mwynhe-ir, caniatewch = caniate-wch, Cymraeg = Cymra-eg, crynhoi = crynho-i, ymdrown = ymdro-wn, dileu = dile-u (o'r Lladin dêle-o), etc. 

 

 

 

(delwedd B0389)

Yn y mwyafrif o eiriau Cymraeg collwyd y sill a'u diweddai yn eu hen ffurf; a phan oeddent yn gyflawn discynnai'r acen ar y sill sydd yn awr yn olaf. Er engraifft, cymerer y gair trindod. Benthyg ydyw o'r Lladin trinitâtem; ac yn yr hen Gymraeg ei furf ydoedd trindawd. Gwelir effeithiau'r acen yn niflaniad yr ail a'r bedwardd sill o'r gair Lladin; a phrawf y ddwysain yn y gair Cymraeg fod yr acen ar y sill ddiweddaf; ond pan symudwyd yr acen ymlaen i'r gyntaf, trôdd aw yn o. Cymharer taro: taraw-af, gwrando: gwrandaw-af, gwirion: -iawn. Y gwirionedd syml ydyw fod dadblygiad seiniau yn wahanol mewn sill gyda'r acen ac hebddi; a dyma achos y gwahaniaeth sydd rhwng llaw a llofrudd, brawd a brodyr, tlawd a tlodi, a rhwng y ddwy sain sydd i'r llythyren y; er engraifft, yn Ynyd, a ddaw o'r Lladin initium, “dechreu," ac a olyga, 'n y frawddeg Mawrth Ynyd, “ddechreu'r Grawys." Yr un sain sydd i’r ail y ac yn byw: ac oherwydd mai hon yw'r sain a glywir ymhob gair unsill oddieithr geiriau fel yn, yr, fy, dy, nad acennir mohonynt mewn brawddeg, dyna brawf pellach mai ar y sill sydd yn yn olaf y safai'r acen gynt.

 

Wedi disgrifio'n fyr yr acen a'i sefyllfa mewn gair, bwriadaf fanylu ychydig ar y cyfnewidiadau a bair, yn arbennig, ar lafar gwlad, ac sydd yn eglur ac amlwg i bawb. Er mwyn cywirdeb, cymeraf yr engreifftiau o'm tafodiaith i fy hun, a glywir yn Nolyddelan a’r amgylchoedd.

 

 

 

(delwedd B0390)

l. EFFEITHIAU'R ACEN AR GYDSEINIAU.

 

Mae cydsain yn gryfach o flaen yr acen nac ar ei hôl; a gellir amgyffred y gwahaniaeth wrth sisial y gair llall, neu gymharu d yn dawn ac yn tad. Hyn a gyfrif am y gwahaniaeth sydd rhwng brenin a brenhinoedd, cennad a cenhadwr. Perthyn nh yn wreiddiol i'r ffurf unigol a lliosog: ac yn yr hen Gymraeg llythyrid y cyntaf yn breenhin, breinhin a brenhin; eithr llithrodd nh am n o flaen yr acen  Y gydsain fwyaf tueddol i golli yw f: a chydac eithriadau fel sy am sydd pan nad acennir ef mewn brawddeg, hi'n unig a gollir pan saif ei hunan yn niwedd gair unsill neu liossill: a dichon fod a wnelo natur y llafariad ryw gymaint å'i cholli. Engreifftiau ydynt mewn gair unsill: - Co = cof, go = gof, plu = pluf, ffa = ffaf (Lladin faba); ac mewn gair lliossill, ara = araf, gaea = gaeaf, cyfri = cyfrif, difri = difrif, digri = digrif, ucha = uchaf, pentra = pentref, sioddefa = dioddef, etc.

 

 

 

(delwedd B0391)

Pan ddiflanna'r cydseiniau eraill, maent yn un o ddwy neu dair yn niwedd gair lliossill. Er engraifft: -

 

L: Perig = perigl, posib = posibl, mwsog = mwswgl, chwibanog = chwibanogl.

 

R: arad = aradr, Dwalad = Cadwaladr, cebyst = cebystr, fenest = ffenestr, palad = paladr, garddwn = arddwrn, huan = haearn, diath = diarth (dieithr), ewyth = ewyrth (ewythr).

 

T: cyfaill = cyfaillt:—

 

“Nid gofwy a'i gyfaillt,

Nid neithior arf barf mab aillt."

 

Arian = ariant, ugain = ugaint, absen = absent, presen = present, dyffryn =  dyffrynt (dyfr-hynt), Morgan = Morgant.

 

W: arddel = arddelw:

 

"Cael ymadrawdd hawdd a hi,

Ymarddelw serch bum erddi."

 

Cyflwr = cyflwrw, cefnder = cefnderw (cyf-nai-derw), cyfnither = cyfnitherw (cyf- nith-derw), syber = syberw.

 

Mewn gair unsill erys y seiniau hyn, e.e., pobl, gwystl, gvydr, rhwystr, gwellt, cant, delw, derw. Dymunaf grybwyll un gair arall yn y cysylltiad hwn, sef cystal, a welir yn y Myfyrian yn y ffurf cystadyl. Mae'n eglur mai dyma wreiddyn cystadlu, cystadleuaeth, ac yn debyg mai cystaddl y cynhenid ef ar y gyntaf ac i dd golli'n y sill olaf heb yr acen a newid i d yn cystadlu. Seiniau hir a pharhaol yw dd ac l; ac oherwydd fod cydseiniau'n wannach

 

 

 

(delwedd B0392)

 

(DARN AR GOLL)

 

 

 

gair lliossill a'i chaledu neu ei cholli o flaen ac flaen l ac n. Cymharer gwadn a leferir yn gwaddan yn Neheudir Cymru: ac, fel engreifftiau o galedu dd yn niwedd gair, diffod a glywir am difodd ar lafar gwlad, gormod = gormodd:—

 

"Dolur gormodd a'm doddyw."

“A'n prynodd er gormodd gwerth."

 

Machlud = ymachludd: -  

 

“Y mae gvely i'm gelyn

Lle’r ymachludd deurudd dyn."

“Ymachludd gloyw Forfadd glaer.” 

 

 

 

(delwedd B0397)

2. EFFEITHIAU'R ACEN AR LAFARIAID.

 

Crybywllwyd eisoes am y gwahaniaeth a wna'r acen yn nadblygiad llafariaid: ac ni ddyfynnir yma ond engraifft neu ddwy i ddangos cyfnewidiad a welir ar lafar gwlad. Mewn gair trisill cymer llafariaid y sill gyntaf yn aml y sain y; e.e., cyboli  =  caboli, cyffylau = ceffylau,  tywelach = tawelwch, tynuo = teneuo, tyfarnau = tafarnau, pysychu = pesychu, pydylli = padelli, mylynu = melynu. Ceir yr unrhyw gyfnewid pan oedd yr acen at y sill sydd yn awr yn olaf; e.e. cynnwrf = Llad. conturbo, Cystennin = Constantinus, syberw = superbus, myfyr = memoria, cystwyo = castigare, dyblyg = duplicem. Effaith yr acen a ddiscyn ar yr ail sill yw gwanhâd llafariaid y sill gyntaf; a gellir amgyffred hyn yn y gwahaniaeth sydd rhwng diog a diogi, ac yn yr engreifftiau a ddyfynnir isod o sillgoll.

 

 

 

 

(delwedd B0393)

3. EFFEITHIAU'R ACEN AR Y DEUSEINIAU.

 

Yn niwedd gair lliossill cymer y deuseiniau a enwir isod furf y rhan neu'r sain gyntaf ohonynt ar lafar gwlad:

 

Ae – a; armal = armael, diffath = diffaeth, hirath = hiraeth, cyrradd = cyrraedd, gadal = gadael, gwahaniath = gwahaniaeth.

 

Ai – e: budda = buddai, goglas = goglais, bigal = bugail, Llundan = Llundain, tamad = tamaid, llwyad = llwyaid, dysclad = dysclaid.

 

Au – a: anga = angau, ama = amau (ameu), cena = cenau, gora = gorau, cythraul = cythral.

 

Yn y tafodieithoedd y lleferir e am a'r sill olaf ynddynt, clywir e am y deuseiniau hyn. Cymharer y geiriau canlynol o weithiau Morgan Llwyd: -

 

Hireth, i., 101; gadel, i., 139; anifel, i. , 66; dyscled, i., 140; cythrel, i., 11, 60.

 

Pan saif dwysain y sill a acennir o flaen llafariad ymddengys i mi y diflanna'r rhan gyntaf ohonni'n yr engreifftiau a ganlyn:

 

Ae = eu  - u: cuad = caead, cluar = claear, gua = gaeaf,  gruan = graean, huan = haearn.

 

Aw - w: rwan = rawan = yr awran: - 

 

“Ar bob allawr yr awran

Y gwneir cost o'r gwin a’r can.” D. Nanmor.

 

Ei = yi = i: llia = lleiaf, siat = seiat, trio = treio, cria = carreiau.

 

Eu = yu = u: cnuan = cneuan, dechruad = dechreuad, lluad = lleuad.

 

Yw — w: Hwal = Hywel, Pwal = Pywel, llwath = llywaeth (llaw-faeth), twallt = tywallt, cwan = cywen, dwad = dywed; ac, oherwydd newid f i w, dyfod.

 

Mae tuedd yn wy^ i droi'n  w weithiau yn sill gyntaf gair deusill, e.e.,; chwdu = chwydu, chwthu = chwythu, gwbod = gwybod; a chymharer gwrthiau Morgan Llwyd, i., 6, 94: a dichon mai hyn yw achos y ffurfiau canlynol oherwydd colli'r sill gyntaf: - Twllwch = tywyllwch, llwgu = llewygu, wllys = ewyllys (hwyllus, Morgan Llwyd, i., 5), twchu = tewychu, twnnu = tywynnu. 

 

 

 

(delwedd B0394)

4. EFFEITHIAU'R ACEN AR Y SILLAU CYLCHYNOL.

 

Dywedwyd eisoes mai un o effeithiau'r acen ydyw peri i'r sillau cylchynol ddiflannu. Y llafariaid a gollir yn amlaf ohonynt: ond weithiau diflanna'r cydseiniau hefyd. Mewn gair a gynnwys fwy na thair sill, gellir dywedyd fod dwy acen, prif-acen ac ad-acen. Saif y brif-acen ar y sill olaf ond un, a'r ad-acen yn gyffredin ar y sill gyntaf; e.e., yn y gair cyfeiliorni, cyf- a dderbyn yr ad-acen, ac yn gweledigaethau ar gwel- y disgyn; a phan gollir llafariad neu sill o air o'r fath hon, o'r sill neu sillau rhwng yr ad-acen a'r brif-acen y diflannant, oherwydd y rheol i'r ddwy a acennir aros. Gwelir hyn yn y geiriau Cristnogol = Cristionogol, perthnasa = perthynasau, cymdogion = cymydogion; a sylwer fel y collwyd yr ail sill yn y geiriau canlynol a fenthcwyd o’r Lladin: - trindod = trinitatem,  bendith = benedictio, undod = unitatem. Mewn gair trisill, y gyntaf a gollir. Engreifftiau: - 

 

 

 

(delwedd B0396)

[a] Sillgoll o flaen yr acen.

Deryn = aderyn: -

 

“Deryn oedd min dwy a nant

Yn dysgu beirdd a desgant.” – D. ab Gvilym.

 

Nabod = adnabod, fala = afalau, goriad = agoriad, larwm = Saes. alarum: -

 

“A’r ddaear roddai larwm

Gan riddfan yn druan drwm.·  - Tegid.

 

Lusan = elusen, meuthun = amheuthun, mharu = amha.ru, larg = alaru, mynadd = amynedd, nialwch = anialwch, nelu = anelu, ffedog = arffedog, difar = edifar, twrnai = Saes. attorney, brigo = barrugo, Dwalad = Cadwaladr, clennig = calexnig, Clama = Calanmai, cnwylla = canhwyllau, cria = carreiau, cliagwydd = ceiliogwydd, clwyddog =  celwyddog, clandro, clander =  Saes. calendar, cloman = colomen, crana = coronau, cradur = creadur, clymu = cylymu, cnua = cynhaeaf, cnebrwn = cynhebrwng, cweirio = cyweirio, cwilydd, cwylydd (Morgan Llwyd, i., 102) = cywilydd, steddfod = eisteddfod, cnegwath = ceiniogwerth, dwrnod = diwrnod, dwaetha = diwethaf, tebol = atebol, deyd = dyweyd, dwared = dynwared, polas = eboles, dafadd = edafedd, hedydd = ehedydd, scidia = escidiau, Stiniog = Ffestiniog, Lerpwl = Liverpool, gleini = goleuni, gwlâu = gwelyau, foty = hafoty, mhela = ymhela, sanna = hosannau, smonath = hwsmonaeth, snwyro = synhwyro, moga = mamogau, scodyn = pysgodyn, symol = rhesymol, sigo = ysigo.

 

Pan gollir llafariad cyfleir cydseiniau weithiau nad ellir yn hawdd eu cynhanu, a newidir un ohonynt; e.e., cwarfod = cyfarfod, scwarnog = yscyfarnog, dwyno = difwyno, spianog = chwibanogl.

 

[b]. Sillgoll ar ô1 yr acen.

 

Digwydd hyn yn amlaf mewn gair deusill. – cans = canys, cym = cymer, tyd = tyrd, tyred, mynd = myned, gweld = gweled; ond cymharer oma, oddma = oddiyma, bwtri = Saes. buttery, cwmni, cwmpni (Morgan Llwyd, i., 101) = Saes.  company. Daeth y gair olaf, dan ddylanwad yr acen Gymraeg, ar y sill olaf ond un,  a thyfodd yn cwmpeini.

 

Credaf imi bellach ddangos digon o effeithiau'r acen i brofi ei bod yn un o'r galluoedd pwysicaf yn nadblygiad a hanes y Gymraeg; ac ni phrofaf amynedd y darllenydd drwy ddyfynnu rhai o'r engreifftiau dirif o fyrhad brawddegau yn ein hiaith, a bair gymaint o anhawster i ddieithriaid a ddymunant ei dyscu a'i llefaru.

Dulyn.

J. LLOYD JONES.

 

....

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_150_yr-acen-yn-gymraeg_j-lloyd-jones_1913_0314k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 29-08-2017
Adolygiad diweddaraf: 29-08-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait