kimkat0339k Priodir Plant. Beriah Gwynfe Evans. 1898. "Mrs Griffiths," myntwn i fel na, "rown in dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn Tynywern."

04-11-2017


● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0331k
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_priodi-r-plant_1898_cyfeirddalen_0331k.htm
● ● ● ● ● kimkat0339k Y tudalen hwn
....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delw 0003j)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 

Priodir Plant

Beriah Gwynfe Evans
(Papur Pawb. 1898)


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



a-7000_kimkat1356k
Beth syn newydd yn y wefan hon?


---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delw 6665)

 

RHAN 2

PENNOD IX. - TE YN TANYBRYN.

PENNOD X. - SLYNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

PENNOD XI. - SELFISHNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

PENNOD XII. - IMPIDENS MRS GRIFFIS, TANYBRYN.

PENNOD XIII. - JEST DISHTRIWAR FONET!

PENNOD XIV. - DALA SALLYN CARU.

PENNOD XV. - HALA OFAN AR DIC Y CASTELL.

PENNOD XVI. - FFYSTO MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

I fynd yn l i Ran 1 (Penodau I-VIII):

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-1_0338k.htm

I fynd ymlaen i Ran 3 (Penodau XVII-XXIV):

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-3_0340k.htm

 

 

 

 


None
(delwedd B0905a)

(Papur Pawb. 26 Mawrth 1898). Pennod 9.

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD IX. - TE YN TANYBRYN.

 

"Shwd i chi, Mrs Jones bach? mynte llaish tu ol ifi, nes ifi jest neido maes on nillad.

 

Rown i yn Tanybryn, welwch chi, fel y gwedes a wrtho chi yn y bennod or blaen, ar lodes y forwn wedi credu mai rhyw ladi ddierth own i wedi dod i roi tro am i mishtres, ac wedi nhroi i mewn ir parlwr goreu tra byse hin mynd i weyd wrth i mishtres. Rown innau, yn ddigon naturiol, welwch chi, wedi cymryd montais oi bod hi wedi troi ei chefen, i godi ir glass uwchben y mamplish, er mwyn cael gweld os oedd y monet in gwmws ar y mhen, waeth rown i wedi nodo ar hwn ar llall or rhai oedd wedi bowo neu neyd cyrtshi i fi ar y ffordd, a wyddwn i ddim na allse hyny fod wedi halar fonet fach oi lle.

 

Felny, fe godes i ir glass gyda bod y forwn wedi troi ei chefen, er mwyn cael gweld shwd oedd y fonet ar y mhen i, waeth licswn i ddim, wrth gwtrs, i Mrs Griffis neyd sport am y mhen i fel gnaeth hir tro hyny etho i ir cwrdd ar hen diced hyny yn sownd ar gefen yn shaced i.

 

Ond allswn i yn y myw weld yn blaen yn yr hen lass. Doedd e ddim yn hen lass chwaeth, o ran hyny, ond mewn dull o sharad, glass newydd oedd e, doedd dim rhyw lawer iawn ddar pan brynws Mrs Griffis e. Ac un or hen lasses ffashwn newydd yna oedd e, un or rheiny chi wyddoch, sy a shelffi bach ar i ochre fe i gyd, overmantels mae nhwn u galw nhw. Does gen i gynnyg iddyn nhwn hunan; well gen i o lawer y pierglasses mawr yna, fel sy gyda ni yn Nghwmllydan, a lle gallwch chi weld ych hunan yn blaen, nar hen rhai hyn, lle maen rhaid i chi hwilo spel cyn gallwch chi wbod pun ywr glass i chi a pun yw glass yr ornaments. Tipyn o hen ffrwmp i gyd oedd gwaith Mrs Griffis yn mynu un felny.

 

Wel, gan ta pun, rhwng fod yr hen lass yn un mor anhwylus i fi weld, a bod y veil gen inne o hyd lawr dros y ngwyneb, a finnau, fel gwyddoch chi yn anghyfarwdd pryd hyny a gwishgo veil - dynar tro cynta rioed i fi i wishgo un - allswn i yn y myw a gweld yn hunan yn blaen. A dyma fi yn codir veil lan i fi gael gwell golwg ar y fonet cyn dese Mrs Griffis miwn, myntwn i, ond fel rwyn gweyd wrtho chi, y peth cynta glywes i oedd llaish tu ol ifi yn gweyd:

 

"Shwd i chi, Mrs Jones bach?

 

A phan neidiais i rownd, jest a sgrechen gan ofan, dyna lle roedd Mrs Griffis yn sefyll jest tufewn ir drws.

 

Hware teg iddi, wedws i ddim byd am mod in dryched yn y glass; ond fe gymres ir blaen arni trwy weyd:

 

"Rown in dryched ar ych ornaments chi, Mrs Griffis," myntwn i. "Mae ornaments bach neis ymbeidus gyda chi, yn y ngwir i."

 

"Na, does dim byd neillduol yndy nhw felny; hen rhai bach digon comon y nhw," mynte hi,

 

 

 

None

(delwedd B0905b)

(Papur Pawb. 26 Mawrth 1898). Pennod 9.

Ond wedws hi ddim gair yto, os gwelwch yn dda, am y monet nan mantle i!

 

Jealous oedd hi, wrth gwrs, rown in gallu gweld hynyn nobl, ag un llygad yn nghau. Rwyn ffaelu a deall yn hunan beth ywr hen jealousy dwl yna sy mewn rhai pobol. Fydda i byth yn teimlo felnyn hunan, a rw i bob amser yn gweyd mai arwydd o feddwl bach iawn yw rhyw hen jealousy dwl felny. A rwyn siwr os byse bonet a mantl newydd felny gyda Mrs Griffis, yn enwedig os bysen nhw y fath rhai hanswm an rhai i, y gwedswn i rywbeth wrthi am danyn nhw, a hynyn go glou fach hefyd, credwch chi fi; ond wedws madam ddim gair oi phen am denyn nhw tra bues i yn y ty. Mor od mai rhai pobol, ontefe, nawr?

 

Down i ddim wedi hala i weyd mod in dod na dim byd, waeth rfiyngto chi a fi, rown i am ddala Mrs Griffis heb yn wbod, a chael gweld shwd le oedd yn Tanybryn pan nag oe nhwn dishgwl neb dierth. Ond fe ffeiles y tro hyny, hefyd, gan ta beth oedd y rheswm. Falle, dyn a wyr, ei bod hi yn dishgwl rhyw un y pyrnawn hyny, a rheiny heb ddod, Waeth pan ishteddson ni lawr i de, roedd pobpeth mor deddi a, phe bae yno bartoians mawr yn mlaenllaw.

 

Roedd hin cymryd arni, hefyd, nag oedd dim partoiians o gwbwl - ond fe wn i well.

 

"Pam na fyse chin hala gair bach i weyd ych bod chin dod, Mrs Jones?" mynte hi, pan yn arllwys y te. "Fe fyse ni wedi trio partoi rhywbeth i chi wedyn. Ond fel mae hi, rhaid i chi gymryd beth ddaw, yn blaen fel mae e gyda ni, welwch chi."

 

"Pidwch gweyd dim gair, Mrs Griffis," myntwn i. "Mae pobpeth yn ddigon da gyda chi i fi, rwyn shiwr o hyny."

 

A rown in gweyd beth own in feddwl, hefyd; nid fel Mrs Griffis. Ei hen ffordd wrdrwg hi oedd gweyd dylswn i fod wedi hala gair i weyd, er mwyn iddi hi gael amser i wneyd partoians. Roedd gyda hi dishen, a tharten, a chramoethau, a phics, a bara menyn plank, a dou neu dri short o jam, a wn i ddim beth i gyd. A maen rhaid i fi gyfaddef fod pobpeth yn i flas gyda hi; allswn i ddim fod wedi gneyd y pethau lawer gwell yn hunan - a does dim ishe gweyd rhagor na hyny.

 

Dw i ddim yn gwadu na fyse cystal gen i pe bae pethau ddim quite mor daclus gyda hi y diwrnod hyny. Nid fod gen i un hiten at y fenyw chwaith, waeth does dim gen i; ond fyse dim yn ddrwg i gyd gen i chwaeth i allu ei dala hi y tro yma fel dalws hi fi rhyw dro. Fe ddaeth, welwch chi, yn sly bach i Gwmllydan, heb hala i weyd un gair, a hyny ar amser digon stresol. Rown i wedi gadael i Lisar ail-forwn fynd ir cae i wasgaru tail, waeth roedd y gwrywod yn meusa, a finnau yn gorfod towlu ati. A gan fod y golchi ar ol gan Madden, y forwyn, fe etho i i roi llaw o help iddi yn y twba golchi. Ac os y chi yn y fan yna, pwy ddese hibo, a chnoco wrth y drws pan own i yn y gegin fach yn golchi gyda Madlen, ond gwraig Tanybryn. Wyddwn i, wrth gwrs, ddim mai hi oedd hi, neu fyswn i ddim Wedi rhedeg ir drws fel gnetho i. Ond pan glywes ir cnoco wrth y drws, dyma fin mynd yn hunan i weld pwy oedd yno. Down i ddim am adel i Madlen fynd, waeth

 

 

 

 

 

None

(delwedd B0905c)

(Papur Pawb. 26 Mawrth 1898). Pennod 9.

 

mae merched, fel gwyddoch chi, mor od; falle, byse hi wedi sefyll fan ny yn clebran dyn a wyr faint, a ngadel innau i slafo yn ei lle hi gydar golchi. Felny, bant a fi shar drws, an ffroc wedi i chodi am y nghanol, am llewys wedi torchi fyny heibo mhenelin, ar suds golchi ar y mreichie i gyd. A dynar fath ddrych oedd arna i, os gwelwch yn dda, pan agores ir drws, a phwy welswn i fan ny mor binc a phei bae hi newydd ddod maes or bambocs ond Mrs Griffis, Tanybryn. Wel, wyddwn ddim beth y wedswn i, i weld yr hen bishyn wedi nala i felny am unwaith, a shwd ddrych arna i. Ond gwaeth nar cwbwl, fe wyddwn nag oedd gen i ddim byd yn y ty yn ffit i roi o flaen dyn dierth. Doedd dim cwiddyl arna i, meindwch i, ei bod hi wedi nala i uwchben y twba golchi. Doedd dim ods gen i ei bod hin cael gweld y mod in gwbod y ffordd i witho cystal a neb, a fues i ddim nol o weyd hyny chwaeth, meindwch i.

 

Ond roedd yn gas gen i nag oedd gen [i] ddim byd yn y ty yn ffit i roi ar y ford, waeth allswn i ddim pido cisho gyda hi ddod mewn, ac wedi dod mewn i bido cisho gyda hi aros i de - a fe wyddai hi hynyn brion, rwyn shiwr o hyny, er ei bod hin cymryd arni nag oedd hi ddim wedi meddwl aros i de, a mai dim ond jest galw wrth fynd hibo oedd hi.

 

Ond fe netho i dipyn bach o dost, mor neised a dostws hi erioed, rwyn shiwr o hyny, - a roedd hi ei hunan yn gorffod cydnabod hyny. Ond doedd dim or pethau fel licswn i gweld nhw i visitors, ac yn enwedig i Mrs Griffis, Tanybryn. Ond dyna shwd y buodd hi.

 

Ry chin deall nawr pam licswn i fod wedi ei dala hithau rhywbeth yn debyg - ac nid dim un hiten sy gyda fi tuagati hi.

 

Ond fe ffeiles. Waeth, fel rwyn gweyd wrtho chi, roedd pobpeth gyda hi ir tipyn fel pe bae hin gwbod mod in dod. Ac onibae fod y forwn wedi nghamsyned i am ryw lady fawr pan gnoces ir drws, fe fyswn in credu ei bod hi wedi dod i wbod rywffordd neu giddyl mod in meddwl dod ynor diwarnod hyny.

 

Ond fe rhois i hwsfa fach neis iddi cyn i fi fynd oddiynor nosweth hyny, fel cewch chi weld.


(Iw barhau.)

 

 


None
(delwedd B0906a)

(Papur Pawb. 2 Ebrill 1898). Pennod 10.

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD X. - SLYNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

Fe fysen well gen i i beidio adrodd beth gymrws le rhyngto i a Mrs Griffiths, Tanybryn, ar ol te y dwarnod hyny, wath fydda i byth yn lico gweyd yn ddrwg nac yn fach am neb. Ond rwyn cofior hen hweddel "Y gwir a saif," a chan y mod i wedi dechreu ysgrifenu hanes y pethau gymrws ler pryd hyny, run man i ti ddibenu, hyd yn nod os bydd rhaid i gymeriad Mrs Griffiths ddioddef o achos hyny. Chi welwch mai nid y mai i yw e fod Mrs Griffiths wedi dangos beth oedd hi - a beth yw hi yto o ran hyny - ond ei bai hi ei hunan, a does gyda hi neb ond hi ei hunan i ddiolch am fod pawb nawr o hyn mas yn gwbod ei hanes hi drwy "Bapur Pawb" gystal ag y gwn i en hunan.

 

Wedi gweyd cyment a hyna i chi gael deall shwd mae pethaun bod, rwyn teimlon fwy rhydd yn awr i fynd mlaen i weyd wrtho chi yn onest beth gymrws le y prydnawn hyny yn Tanybryn.

 

Wedi clirior ford, ac ir forwn fynd ar llestri te mas, fe feddyles mai goreu po gyntaf byswn in gweyd y neges. Waeth down i ddim wedi mynd i Danybryn heb neges, credwch chi fi; fydda i byth yn mynd i unman heb neges o ran hyny, a chymerswn i ddim llawer am roi lle ac achos i Mrs Griffiths i weyd fod gwraig Cwmllydan yn gallu halai hamser i hewcan ar hyd tai cymdogion heb im math o neges.

 

Felny dyma fin dechreu arni gyda bod y forwn wedi troi ei chefen.

 

"Mrs Griffiths," myntwn i fel na, "rown in dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn Tynywern."

 

"Os dim byd mas o le yco os e?" mynte hithau.

 

"Or anwl nagos! Dim trwy wybod i fi, hyny yw, dim byd newydd, ta beth. Ond chi wyddoch y drafferth mae nhw ynddo fe yco."

 

"Gwn, gwn, wrth gwrs," mynte hithau. "Ond rown in meddwl fod hyny wedi cael ei setlo erbyn hyn."

 

"Setlo, wir! Na setlir ddim ohono tra byddan nhw yn Tanybryn rwyn ofni."

 

"Wel! wel!" mynte hithau, gan godi ei dwylo ar ei harffed. "Rown in gobitho fod yr hen fusnes hyny drosodd erbyn hyn. Fe wedws Tomos wrtho i pan rois ir hanner can punt iddo fe dydd Sadwrn diwetha byse hynyn setlo Davies, yr ocshwner."

 

Wel, gwyddoch chi beth! Wyddwn i ddim beth y wedswn i!

 

Dyna lle rown i wedi dod i Danybryn i sharad am drio gael gyda Mrs Griffiths, i roir lle i fyny i Tomos a Siwsan, a dyma fi nawr yn cael clywed am y tro cynta fod rhyw drafferth yn nghylch arian arni nhw, yn Tynywern!

 

Ond gwelwch chi mor sly oedd Mrs Griffiths. Fel gwedes i, wyddwn i ddim byd am fod dim trafferth felny ar Tomos; fe

 

 


None
(delwedd B0906b)

(Papur Pawb. 2 Ebrill 1898). Pennod 10.

wyddwn, wrth gwrs, ei fod e wedi cael tipyn bach o waith i gael y rhent diwetha at eu giddyl, wrth fel gwyddoch chi mae prisiau anifeiliaid a phobpeth wedi bod mor afresymol o isel fel mai eitha job yw i ffarmwr druan gasglur rhent; yn wir, o ran hyny, onibai fod Cwmllydan gyda ni am y talse fe, fe gesen ninnau fwy na digon o waith i gwrdd ar rhent ar talau a phob galw syn dod ar ffarmwr o bryd i bryd, er mod i yn gneud y goreu o bob cinog, ac wrthin hunan yn hwyr ac yn foreu, y cynta lawr yn y boreu ar diwetha i fynd ir gwelyr nos. Yn wir, onibai mod in rowso tipyn bad). arni nhw yn y boreuau, fe fyse rhai ohonyn nhw yn aros yn y gwely yn dil i gwala hyd hanner dydd am wn i.

 

Felny fe wyddwn i fod yn rhaid ei bod hin ddigon tyn ar Tomos a Siwsan yn Tynywern, ond feddylws y nghalon i ddim i bod hi cynddrwg a hyny arni nhw fod yn rhaid iddi nhw fenthyca arian i dalu dyled ocshwn.

 

A beth oedd yn gwneud y peth yn waeth or hanner i fi oedd mod in gwbod mai fi, mewn ffordd, oedd yn gyfrifol am fod Tomos wedi prynu yn yr ocshwn hyny. Doedd dim o Tomos am fynd yno i hunan, ond gan taw hen ffrynd i fi oedd gwraig y ffarm - Cefnbrith, chi wyddoch, lan sha ardal Llanfynydd fforco - fei perswades i e i fynd.

 

"Ac os gweli di rywbeth yn mynd am y talai fe, fyddi di ddim gwaeth o brynu tipyn bach, a ti nei les ir oeshwn hefyd," myntwn i wrtho fe.

 

Roedd Siwsan yn clywed y sharad.

 

"Wir, mam-yn-nghyfraith, mynte hi. "Mae Tomos yn stresol ymbeidus, ac os nag i chin gwasgun embed, fe fysen well gen i iddo aros gatre."

 

"Oh, arosed e ai greso," myntwn innau, gan godi i hwilo am y monett yn nghegin Tynywern cymrws y sharad le, welwch chi. - "Arosed e ai greso," myntwn i fel na, "ond maen embed o beth, Siwsan fach, fod dyn yn goffod bod wrthi o ddechrer flwyddyn iw diwedd hi na all e byth ffurdo mynd am ddwarnod mewn shawns, a phan bydd en gwbod y licse i fam iddo fynd er mwyn gwneud cymwynes a hen ffrynd iddi. Ond dyna beth w in sharad! Beth yw ffrynd i fam i Tomos? Mae gydag e ffrynds erill erbyn hyn."

 

A fe gitshes yn y monet i gael ei rhoi hi am y mhen.

 

"Be chi in neud, mam-yn-nghyfraith?" mynte Siwsan, gan gitsho yn string y fonet. "Ewch chi ddim oddyma cyn te yn y ngwir i, neu fydda i ddim bolon i chi, dyna chi. Ishteddwch lawr, fe dacla i de mewn wincad."

 

"Na newch, Siwsan fach, ddim ar y nghownt i," myntwn i. "Os yw hi mor stresol arnoch chi fel na all Tomos fynd i ocshwn Cefnbrith ar y nghaish i, rwyn siwr fod gyda chithe reitach gwaith, y merch i, na mynd i bartoi te i bob rhyw un ddaw hibor ty."

 

Roedd Tomos wedi codi ar ei draed erbyn hyn, ac wedi mynd i ddrychad maes trwyr ffenest, ai gefen arno i.

 

Rhyw hen dric bach yw hyny mae e wedi ddysgu gydai dad, welwch chi. Dyna shwd bydd Dafydd yn gneud yn amal iawn. Os bydda in diclaro am rywbeth neu giddyl, yn llen ateb i yn wyneb-agored, fe godith a

 

 

 

 

 

 



 

 


None
(delwedd B0906c)

(Papur Pawb. 2 Ebrill 1898). Pennod 10.

fe eith i ddryched mas drwyr ffenest, heb weyd falle "bw" na "ba," ond sefyll fan ny fel delff. A fel bydd natur y cyw yn y cawl, welwch chi, mae Tomos wedi dysgur un tric gan ei dad.

 

Ond rwyn nabod y ddau yn eitha da, a rwyn deall mor blaen a phe bai nhwn sharad beth sydd yn eu meddwl nhw. Mas natur penwan mae nhw pryd hynych dou, ond eu bod nhwn trio pidio dangos i fi, welwch chi.

 

Mas natur gyda Siwsan mynta oedd Tomos, welwch chi, am ei bod hi wedin nghroesi i, a fe welws Siwsan hyny hefyd yn brion, wath dyma hin newid ei chan, ac yn gweyd: -

 

"Dewch, mam-yn-nghyfraith, wir, ishteddwch lawr, a fe drefnwn in rhyngto ni an giddyl i Tomos gael mynd i ocshwn Cefnbrith."

 

Mae hen ffordd fach neis ymbeidus, welwch chi, gan Siwsan, a rw innaun un go rwydd in nhroi, fel gwddoch chi, ac fel gwydde Siwsan yn nobl, a felny fe ishteddes yno, nenor anwl, i gael te gyda nhw, a wir, hware teg iddi, roedd pobpeth yn ddigon neis gyda hi hefyd, dim ishe gwell.

 

Ond fel rwyn gweyd wrtho chi, fe ath Tomos ir ocshwn i Cefnbrith, a fe nath ffwl o honoi hunan yno.

 

Chi wyddoch shwd mae gwrywod mewn ocshynau, lle ca nhw lymed bach am ddim. A roedd gwraig Cefnbrith wedi dodi licer yn helaeth yn y faril gwrw ir ocshwn, ac un o wendidau Tomos ni yw ei fod en ffond o ddropyn bach. Wel, ta beth, dyna shwd buodd hi, roedd y cwrw ar licer yn rhydeg yn yr ocshwn fel dwr, a fe fynws Tomos ni ei shar or ffrwd, ar diwedd fu, ta beth, iddo fe brynu lot o hen drangwns nag oe nhw ddim gwerth braidd i hala i mhoyn nhw oddyno - neu o leia fy wedws yr ocshwner fod Tomos wedi eu prynu nhw. Falle taw do fe, falle na ddo fe, waith cetyn blagard a mwy na hanner rog yw yr ocshwner hyny, ac os dim dowt gen i na chymrws e fantais ar Tomos i ddodi i enw fe lawr fel prynwr am y pethau oedd en ffeilu cael pas arni nhw i neb arall. Ond gan ta pun am hyny fe ddaeth bill bach neis i Twm druan, am yn agos i drigen punt, ac am bethau nag oe nhw ddim yn werth cwarter hyny.

 

Nawr dymar arian ocshwn oedd Mrs Griffiths, Tanybryn, wedi dalu dros Tomos, yn sly fach, heb weyd gair wrtha i nes own i yno gyda hi ar de y dwarnod hyny, fel rwyn gweyd wrtho chi.

 

Welsoch chi beth mwy sly erioed yn eich bywyd? Pan na fyser fenyw, pan glyws hi fod Davies, yr ocshwner, yn bwgwth dodi Tomos yn y cwrt, pam na fyse hi yn dod ata i ac yn gweyd wrtha i, ac os oedd hin moyn rhoi, neu roi menthyg hanner can punt, pam na fyse hin gweyd wrtha i ei bod hin mynd i neud hyny? Dyna, fysen reit fyse hyny. Ond na! Roedd yn rhaid iddi hi fod yn sly yn hyny, fel yn mhobpeth arall, welwch chi, a gwneud y peth yn ddishtaw bach, ai gadw e orwtha i cyd a galse hi, a cheswn i ddim gwbod am dano fe yto am wn i onibai iddi hi ddigwydd ei brathu hi pan ddechreues i sharad am Tynywern. Gwedwch chi os nag oedd peth felny yn ddigon i hala un sant mas natur.


(Iw barhau.)

 

 


None
(delwedd B0907a)

(Papur Pawb. 9 Ebrill 1898). Pennod 11.

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XI. - SELFISHNESS MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

Wel rw i wedi dangos i chi slyness Mrs Griffiths, Tanybryn; gadewch i fi weyd gair yto am i selfishness hi. Rhaid i chi fynd yn agos iawn at rai pobol cyn u nhabod nhw. Ac un or rheiny yw gwraig Tanybryn neu run oedd yn wraig yn Tanybryn yr amser w in ysgrifenu yn ei gylch e; maer fenyw fach sydd yno nawr yn un fach brion - trwy mod i wedi bod yn dryched tipyn bach ar ei hol hi. Ond am Mrs Griffiths, Tanybryn, tipyn o job oedd i chi i nhabod hi. Nid pob un oedd yn ei nhabod hi - a nid pob un allse chwaith. Chi allsech feddwl na thoddsai ddim or menyn yn ei phen hi gan mor ddiniwed oedd hin dryched. Ond shengwch chi ar i throed hi, dyna i gyd - a chi gewch weld!

 

Ond twlled hi pwy dwyllo hi, rown in nabod yr hen ladi yn bur dda cyn i fi fynd i Tanybryn y dwarnod hyny; ond er cystled own in ei nhabod hi or blaen fe ddetho iw nhabod hin well y dwarnod hyny nag erioed or blaen - a thipyn o job oedd hyny.

 

Rw i wedi towlu unwaith neu ddwy ei bod hin ddigon hardup ar Tomos ni a Siwsan, Tanybryn, yn Tynywern. Hen le digon gweithgar yw Tynywern, fel y gwyddoch chi, llawer o dir gwlyb a gwrthwyneb haul yndo fe, ac yn gofyn fod dyn wrthi yn gyson o foreu tan nos o ddechreur flwyddyn iw diwedd hi, er mwyn cael dou pen y llinyn yn nghyd yn oilyn bach. Dw i ddim yn gweyd nag oedd peth bai ar Tomos. Fe withiff Tomos ni fel ceffyl pan bo fen lico, - ond rhaid gweyd y gwir does dim cymaint o stic yndo fe ag sy yn i fam, mae en tynu mwy ar ol ochor ei dad, welwch chi. Ond wir maer hen le yn Tynywern yn ddigon i dori calon dyn - os na fydd e yn ods nar cyffredin; ac er nag w i ddim am geseilo dim ar Tomos, fues i eriod yn un i godi llawes y plant, eto i gyd rhaid i fi gydnabod nag own i ddim yn synu rhyw lawer fod Tomos yn gwneud ambell i fws ohoni yn awr ag eilwaith, fel y gwnaeth e yn yr ocshwn hyny, chi wyddoch. Roedd bai arno fe os dim dowt, a rw i yn cydnabod fod e, a dw i ddim yn trio gweyd mai ar Siwsan, y ferch-yn-nghyfraith, yr oedd y bai, er, falle, gallse hi wneud yn well mewn rhai pethau.

 

Rown i wedi dechreu hinto o bell i Mrs Griffiths beth own in feddwl yn nghylch pethau yn Tynywern, pan oe ni ar de, a chydan bod ni wedi dibenu, a dyna shwd daeth yr hanes mas, welwch chi, am ei thric sly hi gydar hanner can punt hyny rhows hi fentyg i Tomos ni, heb weyd gair wrtha i yn nghylch y peth. Ond nawr fe feddyles fod yr amser wedi dod i fi i dynu pen ar y peth.

 

Felny dyma fin troi ati, a mynte fi: -

 

Oh, ie, yn nghylch Tynywern, Mrs Griffiths."

 

"Ie," mynta hithau, gan esgus tynu briwsionyn bach oddar ei ffedog shidan ddu.

 

 

 

 

 

 

 



 

 


None
(delwedd B0907b)

(Papur Pawb. 9 Ebrill 1898). Pennod 11.

Rown i wedi bod yn meddwl yndw in hunan fod Rhagluniaeth yn rhoi llawer gwell byd i ambell un nai giddyl. Meddylwch nawr am wraig fferm yn gwishgo ffedog shidan ar brydnawn dwarnod o waith fel ny nawr. Ond fe gnoies in nhafod i bido gweyd dim y pryd hyny, gan fod gen i fusnes arath mewn llaw - a rown in cofio hefyd am y fantl ar fonet ar veil oedd gen innau, a down i ddim am roi lle iddi hi droi arna i fel gnelsai hi mewn mynyd tai hin cael y tipyn lleia o gyfle.

 

Ond gwelwch chi shwd atebws hi fi.

 

"Ie," mynte hi yn dawel fach fel na, heb gymryd arni ddim byd, a fel ny yn y ngorfodi innau i ddod maes ar hyn oedd gen i.

 

Ond os oedd hin meddwl y gallse hin nhroi i orwth y mwriad fe gamsynws i chwstwmer o gryn dipyn bach hefyd. "Ie," myntwn i, "sharad oe ni amboutu nJnhw yn Tynywern. Hen le digon trafferthus iw witho yw Tynywern, fel gwyddoch chi."

 

Ie," mynte hithau wedyn, yn esgus tynu blewyn oddar lewys i blows, lle nag oedd dim blewyn i gael ne fe fyswn i wedi sylwi arno fwy na thebyg. Dw i ddim yn dyall yn hunan beth sydd gan fenywod o oedran Mrs Griffiths i wishgo blowsus o gwbl. Mae nhwn brion i hen grotesi bach os licwch chi, ac i wragedd ifenc - mae un gyda Jane ni yn Lletyr Ywen, ac mae yn ei gweddu hin nobl hefyd. Ond am fenyw o oedran Mrs Griffiths maen beth arall. Ac i feddwl am dani hi yn gwishgo blows shidan fel ny, doedd dim synwyr yndo fe.

 

Rwyn shiwr mai er mwyn tynun sylw i at y flows yr oedd hin esgus tynur blewyn hyny bant oddar y lawes, a dyma hin gweyd: -

 

"Mae gyda chi flows bach neis, Mrs Griffiths," wath gan fod gen i rywbeth ishe i weyd wrthi fysen debyg o godi i gwrych hi, fe feddyles byswn in tynu llaw dros ben ci drwg yn nghynta, welwch chi.

 

"Os," mynte hi. "Mae gen i olwg fawr ar hon. Presant orwth Siwsan yw hi, geso i ganti ar y nydd ben plwydd, yr wthnos ddiwetha."

 

Ond meddylwch nawr am Siwsan! Mynd i hala i harian fel ny ar amser pan oedd hin ddigon caled ar Tomos, i gwr, mor galed nes oedd en gorffod benthyca hanner can punt oddar i fam-yn-nghyfraith, heb weyd gair wrth i fam! A Siwsan yn y cyflwr hyny yn mynd i roi blows shidan yn bresant i fenyw fel gwraig Tanybryn oedd a digon o fodd gyda hi ishws! Gwedwch chi os nag oedd gyda hi ffitach gwaith i wneyd ai harian na shwd beth hyny.

 

Wyddwn i ddim beth y wedswn i, ond fe wedes gyment a hyn: -

 

"Oh," myntwn i, "maen dda gen i ddeall fod gan Siwsan ddigon o arian yn i phoced i hala ar ryw gwafers fel na maen ddigon tyn ar Tomos gan ta pun, a dyna beth own in dod yma yn ei gylch e heddy fwya."

 

"Ody Tomos wedi bod yn achwyn wrtho chi, Mrs Jones?" mynte hi gan edrych yn y ngwyneb i.

 

"Oh, nag yw," myntwn innaun sych fach. "Mae gan Tomos le arall i fynd i arllwys i gwdyn heblaw dod at i fam i hunan fel gellsid dishgwyl i ddyn wneud."

 

 

 


None
(delwedd B0907c)

(Papur Pawb. 9 Ebrill 1898). Pennod 11.

"Pidwch ag achwyn dim am hyny, Mrs Jones," mynte hithaun nol. "Fe gesoch chich arbed rhag talu drosto, gadewch iddo."

 

A dyna beth geso i fel baw in nannedd, welwch chi, am y mod i wedi hinton ffein y dylse Tomos agor i feddwl wrth i fam yn lle wrth ryw un dierth fel Mrs Griffiths, Tanybryn. Ond fel y gwedes i wrth Dafydd nir nosweth hyny wrth adrodd y stori, ac yntaun trio amddiffyn Mrs, Griffiths. "Beth allwch chi ddisgwl gan ddonci ond cic? - a fe gas Dafydd lond i ben. Wn i ddim pwy oedd en feddwl oedd y donci, pun ai fe ai Mrs Griffiths, a does dim llawer o ods gen i chwaith; ond fe gas e lond i ben ta beth, a fe drows ar yr ochor arall yn y gwely, ac fe ath i gysgu fel dormws.

 

Ond doedd hi ddim lawn mor rhwydd dodi stop ar Mrs Griffiths, Tanybryn, ag yw e ar Dafydd ni. Ond fei hatebes in ddigon parod.

 

"Oh," myntwn i, "falle fod y rhai sy ddim yn gorffod advansor arian yn teimlo llawn cyment falle ar rhai sydd. Ond mae gen i beth pwysicach i sharad yn i gylch en nawr na ryw hanner can punt bach o gownt ocshiwn."

Wel dyma hin gwynu i chi, a fe welais y mod i wedi rhoi ergyd iddi, a doedd dim o hynyn ddrwg i gyd gen i chwaith.

 

"Beth syn bod ynte?" mynte hi.

 

"Hyn syn bod," myntwn innau. "Maen rhaid iddyn nhw madel o Tynywern."

 

"Sonson nhw ddim gair wrtha i bod nhw wedi cael notis," mynte hi.

 

"Sonies innaur un gair am notis, am wn i," myntwn innau, waeth rown i am boeni tipyn bach arni, waeth roedd yr hanner can punt hyny, ar dull sly oedd hi wedi gymryd yn eu cylch nhw yn aros ar bilen y mola i o hyd, welwch chi.

 

"Os dim o chin gweyd fod Tomos am fynd bant ir Merica! mynte hi gan godi ar i thraed.

 

"Y mowredd anwl, nag w i yn shiwr!" myntwn innau, waeth roedd cyment o ofan arna i ag a allse fod arni hi i weld Tomos yn mynd bant i Merica, a roedd e wedi son unwaith neu ddwy byse fen gallu i gneud hin well yn y Merica nag yn y wlad hyn. Ond rhois i ddim cefnogaeth eriod iddo feddwl am hyny.

 

"Beth wyt tin lapan, fachgen," fyswn in weyd wrtho fe pan fyse fen son am fynd i Merica. "Bachan neis wyt ti i fynd i Merica, ond te fe? Fentra i byddi di dipyn bach yn barotach i ddod nol unwaith yr ei di yno nag wyt ti yn awr i fynd yno. Wyt ti wedi anghofio Wil Cwmdows gwlei? Roedd golwg net arno fen dod nol or Merica, ond doedd e? Heb ddim cerpyn ar i gefen e just iawn! A fe licset ti fod fel ny, licset ti? Merica, wir! Gofyn iti son am Ferica!

 

Dyna shwd gefnogaeth gas Tomos gen i bob amser byse fen son am fynd ir Merica yn y nghlyw i. Ond wrth glywed Mrs Griffiths yn gweyd fel na, fe ddechreues i feddwl falle fod rhywbeth yn bod na wyddwn i ddim byd am dano fe, a fe benderfynes i fynu cael y cwbwl maes ar unwaith.
(Iw barhau.)


 

 

 


None
(delwedd B0908a)

(Papur Pawb. 16 Ebrill 1898).

 

PRIODI R PLANT; sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XII. - IMPIDENS MRS GRIFFIS, TANYBRYN.

 

Doedd dim ohono in mynd i adael i Tomos ni fynd ir Merica os gallswn i stopo fe, a fues i ddim nol o weyd hyny wrth Mrs Griffiths chwaith.

 

"Wel, wn i ddim wir," mynte hi, gan smwtho i ffedog shidan wedyn. "Wn i ddim wir. Fe fysen ddigon annodd gen innau weld Siwsan yn mynd ir Merica, ond falle gnelsen nhw hin well yno nag yn y wlad yma, a dyna beth ddylse bod gyda ni mewn golwg, wrth gwrs."

 

Wyddwn i ddim beth y wedswn i, i glywed y fenyw yn sharad felny mewn gwaed oer am halai merch i hunan, heb son am y machgen i, ir Merica.

 

Na," myntwn i. "Maen rhaid i ni hwilo am ryw ffordd arall u cadw nhw yma."

 

Ie, ie," mynte hi. "Ond shwd mae gneud hyny, dynar cwestiwn."

 

Ac os dy chi yn y fan yna, fe dynws hancitsher poced mas oi phoced, a fe sychws gornel i llygad - os nad esgus llefen oedd hi, alla i ddim gweyd am hyny.

 

Ond fe weles i nawr shawns i ddod ar peth oedd gen i yn mlaen yn llwybrus.

 

Y ffordd u cadw nhw yma," myntwn i, gan esgus droi cydyn on ngwallt nol tu ol i nghlust. "Y ffordd u cadw nhw yma Mrs Griffis yw cael gwell lle iddyn nhw."

 

Digon rhwydd sharad am gael gwell lle," mynte hi, "ond ffindor lle, dynar pwnc. Fe wyddoch yn nobl fod yna ddwsen yn cisho am bob un aiff yn rhydd."

 

Os, os, maen eitha gwir. Ond y peth ag e yw hyn - ellid dim perswado rhywun i wneud lle rhydd ar gownt peth fel hyn."

 

Fe edrychws yn y ngwyneb i, ond wedws hi ddim. Wedyn dyma fin mynd yn mlaen.

 

Hen le trafferthus ymbeidus yw Tynywern, fel gwddoch chi, yn ddigon i dori calon par ifanc fel Siwsan chi a Tomos" - own in enwi Siwsan yn nghynta yn bwrpasol. "A maen embed o beth tori calon par ifanc fel na pan yn jest starto u bywoliaeth."

 

Stroc dda oedd hona hefyd, neu felly own in deimlo ta beth, a dyna pam gwedes i hi, wath fydda i nemor byth yn sharad heb ystyried beth w in weyd.

 

Ond wedws hi ddim byd wedyn, ond roedd hin llyncur cwbwl fel ny hefyd, cofiwch chi.

 

Fe ddylse par ifanc fel na cael mwy o le i sweio nag sy yn Tynywern," myntwn in ymhellach. "Mae digon o fynd yn Siwsan tae hin cael hanner hware teg; ac er taw fi syn i weyd e mae Tomos yn gystal bachgen a garnodd eriod rwyn siwr o hyny. Ond pwy shawns sy ir naill nar llall yn Tynywern gwedwch chi."

 

Dyna beth oedd Siwsan yn weyd pan yn gweyd fod Tomos yn son am fynd ir Merica, medde hi or diwedd.

 

Merica wir! Fe roia i Ferica iddo fe pan gwela ie! [sic; = i e] Na! Diolch ir mowredd!

 

 

 

 


None
(delwedd B0908b)

(Papur Pawb. 16 Ebrill 1898). Pennod 12.

does dim ishe iddyn nhw fynd ir Merica tra bo tiroedd i gael yn y wlad yma! Ishe fferm well, a fwy o size, tir da, tir llafur a thir blith, sy arnyn nhw - a rw in camsyned yn fawr os na allwn ni rhynti ni an giddyl ffindo lle felny iddyn nhw, a hyny Wylhengel nesa ed!

 

Fe edrychws yn syn yn y ngwyneb i am funed, a dyma hin gwenun fwy serchog nag y gweles i hi ers llawer dydd.

 

"Ond beth neiff y rhai sy yn y ffarm fawr hyny nawr, Mrs Jones?" mynte hi.

 

"Oh! meddwn innau, "waeth rown i wedi stydior peth mas, welwch chi. Dyna Tynylon, welwch chi, yn hen le bach twt i wala, yn lle bach prion i rywun ffurdo pido slafo rhyw lawer. A wir, fel gwddoch chi, Mrs Griffis, dyw dyn ddim yn dod i lico slafon fwy fel bo fen mynd yn henach."

 

"Mrs Jones," mynte hi, gan godi oddar y stol, a dod i ishte ar stol arath ar bwys yn ochor i, a tharo i llaw os gwelwch yn dda ar yn ysgwydd i." "Mrs Jones," mynte hi, "rwyn ofni mod i wedi arfer meddwl yn rhy galed am dano chi."

 

"Synwn i ddim," meddwn innau, ond yn ffaelu deall beth oedd genty chwaith. "Ond os dy chi, nid chi ywr unig un sy wedi gwneud cam a fi, mynta."

 

"Ond wir, Mrs Jones, rhaid i fi weyd y gwir wrtho chi, chredes i eriod or blaen ych bod chin meddwl cyment am gysur Tomos a Siwsan.

 

"Fe allsech feddwl yn brion," myntwn in sych fach.

 

"Ond rwyn gweld nawr mair gair garwan mlaena sy gyda chi, Mrs Jones, a bod ych calon chi yn i lle."

 

"Odi wyn gobitho! myntwn innau, ond yn ffaelu deall o hyd beth allse fod gyda hi yn ei phen.

 

"Fyswn i byth yn meddwl am dano chi, Mrs Jones," mynte hin mhellach, "y bysech chin towlu cyment a hyna arno chich hunan yn nghylch y plant."

 

"Oh," myntwn innau. "Tae gyda chi gyment o blant a sy gen i, ac wedi arfer meddwl a threfnu a ffwdanu cyment yn u cylch nhw ag w i, fysech chin synu dim llawer mod i wedi trio trefnu rhywbeth fel hyn er lles Siwsan a Tomos."

 

"Ie," mynta hi wedyn, "ond meddyliwch am roi eich lle i fyny a mynd i fyw i le bach fel Tynlon wedi arfer mewn lle mawr."

 

"Oh, dyw hyny ddim gormod o beth lle bo cariad at y plant," meddwn innau.

 

"Ond beth wnaiff y plant erill?" mynte hi.

 

"Pwy blant erill?" gofynais innau. "Wyddwn i ddim fod dim plant gyda chi ond Siwsan."

 

"Nage, nage, nid y mhlant i, ond eich plant chi, Mrs Jones, Sally a Florrie, rwy in feddwl."

 

"Sally a Florrie!" myntwn i. "Beth yn nenor anwl sy a wnelon nhw ar cwestiwn?

 

"Ond fe fydd yn hwith iawn iddyn nhw," mynte hithau wedyn.

 

"Na fydd yn hwith yn y byd iddyn nhw, am wn i," atebais innau. "Rwyn ffeulu gweld pwy gonsern yw e iddyn nhw o gwbl."

 

"Goreu i gyd os na fydd e," medde hithau. "Ond ofni own i a gweyd y gwir, byser

 

 

 


None
(delwedd B0908c)

(Papur Pawb. 16 Ebrill 1898). Pennod 12.

 

merched yn ei gweld hin fwy hwith na chi i fynd o Gwmllydan i Dynlon."

 

"Beth y wedsoch chi!" myntwn i, bron ffeilu credu nghluste.

 

"Gweyd mod in ofni byse Sally a Florrie yn ei theimlon fwy hwith na chi i fadel o Gwmllydan i le bach fel Tynlon."

 

A nawr y deallais i slyness yr hen greadur. Roedd hi wedi bod yn esgus meddwl mod in gweyd yr ese Dafydd a finnau o Gwmllydan er mwyn gneud lle i Siwsan a Tomos! A finnau, wrth gwrs, yn meddwl am iddi hi fynd o Danybryn!

 

"Y mowredd anwl!" myntwn i gan neido ar yn nhraed. "Chlywais i ddim shwd impidens eriod! Odd chin meddwl towlu y dylse Dafydd a finnau fynd o Gwmllydan fenyw!

 

"Ai nid hyny oe chin ei feddwl i" mynte hi, yn cochi fel y gwaed.

 

"Wel, nage e, wrth gwrs! Awgrymais i ddim byd fath beth! Gweyd own i y gallsech chin nobl fynd o Danybryn i Tynlon - fyse fe ddim yn llawer o dowlad i chi dim ond ych hunan."

 

Wel, fe gilws y gwrid coch oi gwyneb hi, a fe ddaeth fel y galchen - eitha arwydd ei bod hi wedi cael ei chynhyrfu drwyddi.

 

"Oh," mynte hi. "Rwyn ddiolchgar anghyffredin i chi, Mrs Jones, am fod mor garedig a threfnu musnes i drosto i. Ond os nag yw en wahaniaeth mawr geno chi maen well gen i drefnu mywoliaeth yn hunan, diolch i chi."

 

A dyma hin canur gloch, ar forwm yn dod mewn.

 

"Mas Mrs Jones yn moyn ei bonet ai mantl," mynte hi wrth y forwm, er nag own i wedi gweyd dim gair am danyn nhw - ond mae rhai dynon mor od, welwch chi.

 

Wrth gwrs, etho i ddim i weyd wrth y lodes am bido dod a nhw - rown i mor barod i fynd odd yno, credwch chi fi, ag oedd Mrs Griffiths i gael y ngwared i. Rw in gwbod y ffordd i fod cuwch cwd a ffetan a Mrs Griffis pryd myn hi, hi all fentro hyny, druan a hi!

 

Ond meddyliwch am impidens y fenyw!

 

Yn dishgwl i Dafydd a finnau roi Cwmllydan fyny iddi merch hi, os gwelwch yn dda! Hy!

 

A wyddoch chi beth, rown i gyment mas natur yn mynd odd yno, nes yr anghofies wishgor veil nol dros y ngwyneb, a dyna lle roedd hi yn hofran yn y monet i a golwg neis arna in mynd nol drwyr pentre.

 

A hyny i gyd o achos impidens Mrs Griffis, Tanybryn.

 

Danco hi!

 


(Iw barhau.)

 

 


None
(delwedd B0909a)

(Papur Pawb. 23 Ebrill 1898). Pennod 13.

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XIII. - JEST DISHTRIWAR FONET!

 

Dyna chin gweld rhywbeth nawr ych hunan o slyness, a selfishness, ac impidens Mrs Griffiths, Tanybryn. Ambell waith iawn fydda in mynd mas natur, ond rwyn cyfadde i fynd mas natur penwan y pynawn hyny. Meddylwch am y fenyw ofnadwy, gystal an nhroi i mas or ty am ddim ond mod in meddwl am les i phlentyn hi ei hunan. Waeth, wedir cwbwl, plentyn Mrs Griffiths, Tanybryn, yw Susan, y merch-yn-nghyfraith - fel mae gwaethar modd iddi hi, druan bach! Rwyn meddwl beth pe bai gan Tomos fam fel sy gen Siwsan. Dyna lle byse amser!

 

Wedi i fi gyrhaedd gatre, fues i fawr o dro cyn newid yn nillad, ond rown i wedi cynhyrfu cyment, welwch chi, nes i fi anghofio brwshor mantl ar fonet au dodi nhw gadw on llaw. Rwyn arfer gneyd hyny stil hefyd; ond netho i ddim o hynyr prydnawn hyny, a dynar gwir, a dyna ddigon i brofi mod i wedi cynhyrfu hyd waelod y nghalon - ac nid heb achos chwaith, fel ry chin gallu gweld yn nobl ych hunan erbyn hyn. Ond os do fe, fe geso i dalun ddigon prid am hyny. Roedd Madlen wedi cymryd montes, welwch chi, ar y mod i maes y prydnawn hyny i fynd i lanhaur parlwr gore, a phan detho i nol o Danybryn, roedd hi newydd ddybenu sgubor llawr. Doedd e ddim wedi cael eitha sgubad felny or blaen os tipyn bach, a felny, wrth gwrs, roedd llawer o luwch yn yr hen garpet a phobman, a hwnw i gyd wedi codi ir awyr wrth i sgubo fe. Ond ystyries i ddim byd o hyny, welwch chi, ond miwn a fi fel bollt ir parlwr gore pan ddois i gatre, a bant ar fantl ar fonet fan ny, au towlu nhw ar y ford, a mas a fi, gan geued y drws ar yn ol, ac ir parlwr bach i gae1 newid y ngwn, waeth ar yr hol wrth gefen drws y parlwr bach rwyn cadwr gwn fydd gen i yn y prydnawne, - mae yn fwy cyfleus, welwch chi, nai ddodi e yn y dreiars nol ag yn mlaen o hyd. Fues i ddim wincad wrth hyn, a nol a fi ir gegin.

 

"Madlen," myntwn i; "ble maech mishtir?"

 

"Maes ar y ceie, am wn i," mynte Madlen "Fe aeth mas oddyma ar ol te, gan ta pun, a weles i byth mohono fe."

 

"Odi chi wedi tynur hufen?"

"Odw, fe netho i hynyn gwmws ar ol te."

 

"Wel, mae ishe i chi fynd i droir caws ar y garet ynte, dw i ddim yn hido am fynd i ddringad y steire yna heno."

 

"Meddwl mynd i ddybenu yn y parlwr own i, mishtres," mynte hithe.

 

"Fe all y parlwr aros, all y caws ddim," myntwn innau; a bant a hi heb un gair yn rhagor.

 

Mae merched mor od, welwch chi! Tyse fawr gen i iddi weyd wrtha i i bod hi ar hanner glanhaur parlwr, ac yn aros ir lluwch gael setlo cyn mynd i dynur lluwch

 

 

 


None
(delwedd B0909b)

(Papur Pawb. 23 Ebrill 1898). Pennod 13.

 

yno. Tae hi wedi gneyd hyny, fe fyswn innau, fase ddigwydd, wedi cofio am y monet an mantl i yno, ac wedi mynd iw cael nhw mas cyn byse nhw rhyw lawer gwaeth. Ond na, wedws hi ddim gair oi phen, ond bant a hi ir rwm caws, a bant a finnau amboutu rhyw fusnes arall.

 

Ond bore tranoeth, pan etho i i mewn ir parlwr gore i moyn rhywbeth, dw i ddim yn cofio yn awr beth, y mawredd anwl! Fe gredes fod y mantl ar fonet wedi dishtriwo am byth! Fyse fe ddim syndod yn y byd tyswn i wedi ffainto yn y fan gan y fath olwg oedd arnyn nhw!

 

Roedd y fantl yn gyfer o luwch gwyn bob tamed, ar fonet yn ymddangos ar y cynta ddim llawer gwell. Ry chin gweld, roedd y lluwch wedi dishgyn heb hido dim byd pun ai ar y fantl, ai y fonet, neu ar y ford ar llawr y byse fen dishgyn.

 

Fe gredes bod nhw wedi dishtriwo am byth.

 

Nawr, rwyn gadel arno chich hunan i weyd os byse gan rywun rywbeth i weyd wrtha i tawn i wedi mynd mas yn streit, a rhoi i Madlen ddwl y rowsad gore ar pryd pena o dafod gas hi eriod yn ei bywyd. Dyna oedd hin haeddu gael, a dyna falle ddylse hi gael; a dos dim dowt gen i nad dyna gese hi pe bae hi gyda Mrs Griffiths, Tanybryn, yn lle gyda fi.

 

Ond dw i ddim yn un wyllt yn nhymher felny. Er mod in gweld ac yn gwbod yn eitha da mai Madlen oedd wedi dishtriwon monet an mantl i, etho i ddim i gadw dim row a hi; wedes i ddim gair on mhen wrthi.

 

Fe glois y drws arna i, a fe gymres y brwsh dillad or dror, a fe beinses a fe beinses wrth y fantl am yn agos i awr o amser, nes i fi ei chael hi yn anghyffredin o dda, ac ystyried a wedyn, fei plyges hi, ai dodes hi gadw yn y dror lle rwyn cadwn nillad parch gore. Wedi cael y fantl yn oilyn bach, fe ddechreues ar y fonet, gan ofni yn y nghalon fod honon shwr o fod wedi dishtriwon lan. Ond falle na chredech chi ddim, doedd hi ddim!

 

Dyma shwd oedd hi wedi digwydd, i chi gael gwe1d nawr fel mae peth bach weithe yn dylanwadu ar beth mawr. Rown i, pan rois ir fonet ar y ford, wedi dod nol o Danybryn, wedi towlur veil, neur fall, on llaw ar ei hol hi ar y ford. A fel roedd gorer lwc, fe ddigwyddws ir hen fall gwmpo dros flowers y fonet, a gan taw fall go dew oedd hi, roedd y lluwch ran fwya wedi sefyll ar hono yn lle ar y fonet; ac wrth godir fall yn ofalus, fe weles deni nag oedd dim llawer ar y fonet; ac wrth gymryd brwsh soft, an hancitsher poced, a sychu a brwshon ofalus, os y chi yn y fan yna, fe gesor fonet hefyd ddim llawer gwaeth.

 

Ond does dim diolch i Mrs Griffiths, Tanybryn, am hyny! Oi rhan hi, ac o ran Madlen hefyd, fe fysen mantl an monet oreu i wedi dishtriwo am byth. Fe ddishtriwodd y veil fel nag oedd hi ddim ffit i wishgo, ar un peth yn gwmws gallser fonet ar mantl fod wedi dishtriwo, ar ol i Polly, merch-yn-nghyfraith, roi un i fi, a Hughes, mab-yn-nghyfraith, y llall - a hyny i gyd, welwch chi, dim ond am mod i wedi treio gwneyd cymwynas a Siwsan, merch-yn-nghyfraith,

 

 


None
(delwedd B0909c)

(Papur Pawb. 23 Ebrill 1898). Pennod 13.

trwy dreio gael Tanybryn iddi hi a Tomos, y mab.

 

Ond chredith neb ond y rhai sydd wedi bod trwyr drafferith eu hunain gyment o bethau sydd raid i fam-yn-nghyfraith ddiodde, hyny yw, os bydd hi fel fi, yn gydwybodol, ac am wneyd y goreu dros ei phlant-yn-nghyfraith.

 

Meddylwch chi mawr shwd beth neis fyse hi pe bai Mrs Griffiths, Tanybryn, yn meddwl cyment am Tomos ni ag own i am Siwsan, i merch hi! Fe fyse wedin nghwrdd i rhagor na hanner y ffordd pan ddechreues i son am iddi hi roi Tanybryn fyny i deulu Tynywern. Dyna fysen reit iddi hi neyd fyse hyny, a dyna fyse hithaun neyd tai hi fel fi yn meddwl am y plant yn lle am dani i hunan.

 

Ond yn lle hyny, gwelwch chi beth wnaeth hi.

 

Cynta i gyd, cymryd arni nghamsyned i, ac esgus meddwl mod in meddwl rhoi Cwmllydan fyny i Tomos a Siwsan

 

Peth neis iawn, ontefe, fyse i fi wneyd hyny! Towlu mywoliaeth in hunan on llaw er mwyn gwneyd lles iw merch hi! Na, madam! Er cyment o olwg sy gen i ar Siwsan, merch-yn-nghyfraith, allse neb ddishgwl i fi roi Cwmllydan fyny er mwyn gwneyd lle iddi hi; a tipyn o impidens gwr drwg oedd i Mrs Griffiths awgrymu dim shwd beth o gwbwl!

 

Wrth gwrs, roedd en beth gwahanol hollol y peth own in awgrymu iddi hi.

 

Dyw hi ddim fel fi, yn fenyw streifus, wrthi yn hwyr a boreu. Mae hin lico cymryd i phleser yn y prydnawnau - ond shwd mae hin gallu gwneyd hyny mewn hen scrongol o le fel Tanybryn, rwy in ffaelu deall.

 

Ond fe allse gymryd i phleser yn nobl yn Tynlon, fel rown i wedi meddwl gweyd wrthi tawn i wedi cael dybenun stori wrthi. A gwelwch chi mor neis fyse hi arni fan ny. Dim gofal ffarm fawr arni, na dim yn y byd; lle bach twt, jest digon at i hishe, a digon o amser ar i llaw hi i fynd a dod pryd mynai hi, a gallse fod yn hala hanner i hamser yn yr hen gatre gyda Siwsan a Tomos, os licse hi.

 

Ond na! Yn lle hyny, towlu a thascu wnaeth my lady yn Tanybryn, a chael yr impidens i awgrymu gallswn i roi Cwmllydan fyny; ac am na neswn i hyny, dangos y drws i fi, os gwelwch yn dda! Dyna shwd un yw gwraig Tanybryn (gynt), mam Siwsan, y merch-yn-nghyfraith.

 

Ond fe ddois i fyny a hi, pidwch a becso! Oh, do! Nid un i gymryd hwampen felny heb dalur pwyth yn ol w i, peided hi a chamsyned! Ac fel cewch chi weld, fe ddes i fyny ar hen ladi wedyn! Or anwl, do!

 


(Iw barhau.)



 

 


None
(delwedd B0910a)

(Papur Pawb. 30 Ebrill 1898). Pennod 14.

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)


PENNOD XIV. - DALA SALLYN CARU.

 

Ry chin gwbod erbyn hyn mai dyn od iawn yw Dafydd ni. Dos dim dal yn y byd arno fe. Wyddoch chi yn y byd mawr ble cewch chi e. A dyna shwd ceso i er nosweth hyny pan detho i nol o Tanybryn.

 

Doedd dim son am dano fe amboutur ty. Fyse fawr gen i i fod e wedi aros yn ty tra roedd Madlen yn glanhaur parlwr gore mas, ta beth. Ond weles i rioed shwd beth an gwrwod ni. Os bydd tipyn bach o lanhaun mynd yn mlaen yn y ty, fe fyddan nhwn siwr o gadwn ddigon pell. Mae gweld bwced a dwr llawr yn ddigon i neyd i Dafydd ni hwilo am i hat; a mae en ffoi am i fywyd os gweliff e frwsh gwyngalchu.

 

Fe allse dyn feddwl byse hin ffitach i fod e wedi aros yn y ty y pyrnawn hyny, fel y gwedes i. Ond na; dim danjer! Roedd gwbod fod Madlen yn mynd yn nghyda glanhaur parlwr yn ddigon iddo fe, a bant ag e ai hat ar i ben.

 

Ond wyddai neb ble roedd e wedi mynd chwaith.

 

"Own in meddwl mai dod i gwrdd a chi, mishtres, roedd e," mynte Madlen, pan ofynes i ble roedd e.

 

"Shwd gwydde fe ble roun i?" myntwn innau, gan feddwl ei dala hi.

 

"Oh, roun in meddwl ych bod chi wedi gweyd wrtho fe, fel arfer, cyn mynd," mynte hithau yn ol. Hen un sly yw Madlen, a fe fyswn in i newid hi Clangeua nesa onibai ei bod hin un fach dda good gydar blith.

 

Ond ta beth, dyna shwd y buodd hi, a wyddai neb ddim byd ble roedd Dafydd, welwch chi. Fe etho innau mas, gan dawlu hen hat fach mynych wisgo ar y mhen, a shawl fach ar y ngwar, rhog cael anwyd, a mas a fi i daro mhwys am fyned ar fwlch y clos, waeth roedd hin brydnawn biwtiffwl.

 

Ond fe flinais i cyn bod yn hir i sefyllan fan ny, a fe etho am wac fach ar hyd y lon, gan feddwl mor od oedd Mrs Griffiths, Tanybryn, na fyse hin rhoir lle fyny i Siwsan a Tomos. Yn syden fe welwn ryw ddou fach yn dod ir golwg mewn tro yn yr hewl, ac yn dod shag ata i. Roe nhwch dou au gwynebau tuar llawr, a felny welson nhw ddim ohona i. Ond fe nabyddes nhw, neu o leia un ohonyn nhw, ar y wincad. A pwy debygech chi oedd hi?

 

Sally ni, os gwelwch yn dda!

 

Ie! byth nad elw i or fan yma, Sally ni oedd hi!

 

A dyna lle roedd rhyw hen grwt, debygswn i, gyda hi, ai law am i chanol hi, ac yn closon ymbeidus.

 

Nawr rwyn ystyried mai dyledswydd rhieni yw cadw llygad ar ol y plant. o ddiffyg hyny, mae llawer or potsh sy yn y hyd [sic; = byd] yma wedi cymeryd lle. Rw i wedi trio ngore i ddryched ar ol yn plant ni hyd yn hyn, maer Mawredd yn i wbod e, a diolch ir Mowredd does dim un ohonyn nhw wedi rhoi gofid i ni eriod - a nid pob mam a all weyd hyny. Ond rwy in lico gweyd y gwir

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0910b)

(Papur Pawb. 30 Ebrill 1898). Pennod 14.

 

welwch chi, a rw in teimlo nawr wrth dryched nol ar ein hanes ni, Dafydd a finnau, oddar ethon ni gynta at ein giddyl, mod i wedi gneyd yn shar yn ddigon difai shag at y plant, gan ta pun. Pun a ody Dafydd nin gallu gweyd yr un peth, dw in gweyd dim; fe all e aped drostoi hunan. Rw in aped drostw in hunan wrth weyd fan hyn nawr na ddaw e byth yn yn erbyn i na netho i ddim o rhan fel mam ir saith plentyn sy gyda ni. Fe fentra i weyd onibai hyny na fyse nhw ddim cystal off heddy ag y mae nhw - pump ohonyn nhw wedi priodi, ac wedi priodin dda hefyd, ac yn ei gneyd hin nobl i gyd ond Tomos; a fe nese Tomos hin nobl hefyd onibai am selfishness Mrs Griffiths, Tanybryn, yn mynu cadw lle mawr felny yn i llaw i hunan, yn lle ei roi e, fel dylse hi, i Siwsan a Tomos Falle mai nid fi ddylse weyd hyny, ond mae pawb yn gwbod hyny, dos ddim un plant un ffarm yn yr holl gylchoedd yma wedi cael eu magun fwy gofalus nac wedi gneyd yn well gydau giddyl nan plant ni.

 

Ac nid wrth u cadw nhwn segur au tolach nhw byth a hefyd chwaith, cofiwch chi. Or anwl nag e! Dw i ddim yn cydfynd o gwbwl ar rhai hyny syn mynu slafo eu hunain ir bedd cyn eu hamser er mwyn arbed y plant. Na! Nid dyna shwd ddysg mae mhlant i wedi gael. Mae pob un ohonyn nhw wedi cael gwbod beth yw gwitho mor gynted byth ag roedd digon o hyd yn eu coesau nhw i wneyd rhywbeth. Gan ta beth ellir weyd am danyn nhw, mae pob un ohonyn nhw yn gwbod y ffordd i weitho, gystal ai mam - a dos dim ishe dim gwell na hyny, rwyn shiwr o hyny! Rwyn gweyd bob amser fod yn well i ffarmwr i gael cant yn i wraig na chael cant gyda hi. A mesur pethau felny, fe gas Dafydd ni lawer o gannoedd pan gas e fi, a fe gas pob un om mhlant-yn-nghyfraith i fargen dda wrth briodi un on mhlant i.

 

Wel, pan weles i Sally ni, ar hen grwt hyny ar yr hewl fanny o mlaen i yn dod i gwrdd a fi, roedd yn rhaid i fi neyd y meddwl i fyny ar unwaith beth i wneyd. Fe fyse llawer un, Mrs Griffiths, Tanybryn, er enghraifft, mynta wedi mynd yn mlaen dwp yn eu cyfer, ac wedi tarfur boy falle cyn cael gweld pwy oedd e; a fe fyse ambell un arall, falle, Dafydd ni er engraipht, wedi troi i gefen a bant ag e ffordd arall, fe pe taw fe fyse wedi gwneyd rhywbeth i fod a chwilydd am dano.

 

Ond un i fynd yn mlaen dwp yn ei chyfer w i, ac nid un i droi nghefen ar neb wn i am danyn nhw, w i chwaith. Na. Rwyn trio cadwn meddwl yn y mhen goreu galla i.

 

Felly fe netho in meddwl fyny mewn hanner wincad. Jest gyferbyn a fanny, roedd yno fwlch yn mynd ir cae ar y llaw dde, ac er taw hen un digon cas oedd e iw ddringo, yn enwedig i fenyw, fues i ddim fawr o dro cyn mod i dros i ben e, ac yn cwato tu ol i lwyn oedd yn digwydd tyfu mas wrth fon y clawdd jest yn y fanny. Fe rapes dipyn bach o odre nress wrth neyd hyny hefyd, er na welais i ddim o hyny ar y pryd. Fe geso le bach nobl gallswn i gael golwg ar yr hewl, a fe allswn gydgerdded a nhw or tu fewn ir cae heb iddyn nhwn ngweld i.

 

 

 



 

 

None

(delwedd B0910c)

(Papur Pawb. 30 Ebrill 1898). Pennod 14.

 

Fe glywn y sharad yn dod yn nes, a roedd y ddou yn nghanol ple mawr am rywbeth neu giddyl, a fues i ddim yn hir cyn dod i wbod am beth chwaith.

 

Pan ddetho nhw at y bwlch, dyma nhwn aros, ac yn troi ato, a fe gredes ar y cynta eu bod nhwn mynd i ddod mewn. Ond ddetho nhw ddim, trwy drugaredd.

 

"A ry chi wedi prynur lle ynte? mynte Sally, gan bwysoi braich ar yr halsen ucha.

 

"Odw," mynte fe, "neu o leia mae nhad wedi i brynu e, a mae hyny jest yr un peth."

 

Fe bipes round i gael golwg ar ei wyneb e, a phwy oedd e ond mab Y Castell, mab gwr oedd yn berchen gwaelod ei ffarm ei hunan, a honon un or ffermydd goreu yn yr holl ddyffryn - ac yn berchen lle bach neu ddou arall gyda hyny. Roun i wedi bod yn meddwl lawer gwaith leicswn i weld un on merched i yn briod a mab y Castell, er mai chydig oun in feddwl dese hyny byth i ben chwaith, wath mae nhwn well off na neb yn y cwmpasodd yma.

 

Ond roedd Sally ni, welwch chi, wedi ei fachu en reit i wala!

 

Fe ddealles i hyny cyn pen fawr amser wrth glywed eu sharad nhw. A dw in synu dim at hyny chwaith, wath mae Sally jest yr un spit ag own i yn ei hoedran i, y lodes smarta, lana, oreu, fwya dengar i dull, o neb welsoch chi erioed.

 

"Ond y drwg yw," mynte fe, "shwd edrychiff eich mam ar y peth. Rwyn credu gallswn i gytuno a Tomos yn go rwydd, a dw i ddim yn credu ceswn i lawer o drafferth gydach tad. Ond peth arall yw tacloch mam."

 

"Ie," mynte Sally. "Job cynil ymbeidus fydd son am y peth wrth mam, wath mae gyda hi olwg ifnadw ar Tomos. Ond y Mowredd anwl, Dic, dyco nhad yn dwad. Neidia ir cae am dy fywyd. Dyma fi off."

 

A chydar gair dyma Dic y Castell yn neidio dros ben y bwlch ir cae, ac yn cwato lawr yn mon y clawdd yr ochor arall orwtha i ir llwyn draen, a finnau na wyddwn i ddim beth y nelswn i!

 

(Iw barhau)





 

 


None
(delwedd B0911a)

(Papur Pawb. 7 Mai 1898).

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD XV. - HALA OFAN AR DIC Y CASTELL.

 

Dyna chi le neis i fenyw rispectabl i gael ei hunan, ontefe nawr?

 

Dyna ller own i yn cwtsho lawr yn nghysgod y llwyn bach hyny wrth fon y berth, er mwyn i Dic y Castell a Sally ni beido ngweld i, a dyma Dic, fel y gwedes i, yn neido dros ben yr halsus ac yn cwato lawr yr ochor arall ir llwyn iddo fynte gael cuddio o ffordd Dafydd ni oedd yn dod ar hyd yr hewl shag adre.

 

Beth nelse chi nawr ta chi yn yn lle i? Dyna chi bos, os mynwch chi, a phos syn gofyn dyn call i ateb e, credwch chi fi!

 

Rwyn dychmygu pe byse Mrs Griffiths, Tanybryn, fanny yn yn lle i, byse hi, fasa digwydd, wedi sgrechen dros yr holl le pan neidws Dic fel milgi dros ben y bwlch ac at y llwyn ller own in cwato.

 

A nawr ystyriwch chi shwd byse hi wedyn.

 

Fe fyse Dic, wrth gwrs, wedi choeso hi am i fywyd i rywle or golwg - a alle byse hynyn goodbye i Sally ni feddwl dim pellach am fab y Castell.

 

Ond nid un fel ny w i, os gwelwch yn dda. Oh nage!

 

Ac heblaw hyny, fe fyse Dafydd ni wedi clywed y stwr, a wedi troi at y bwlch, a ngweld i fan ny, a dyna lle byse rhaid gneud stori i hwnw wedyn.

 

Dyna shwd botsh nelse Mrs Griffiths, Tanybryn, or peth, fasa digwydd. Ond fel y gwedes i, nid un i golli mhen ar bob rhyw blit w i. Na, rw i wedi dysgu dipyn bach yn od i hyny rwyn gobitho!

 

Wel, peth arall allswn i fod wedi gwneyd fyse cwaton dawel fan ny heb weyd gair, na phrin tynun anadl, a falle byse Dic ddim wedi ngweld i. Fe fyse hyny, maen wir, yn well dipyn bach, na neido lan fel ffwl fel gnelse Mrs Griffiths, Tanybryn.

 

Ond ry chin gweld taw ni wedi gwneud hyny fe fyswn wedi colli peth arall digon pwysig. Rown i am gael gweld pwy mor bell oedd pethau wedi mynd rhwng Dic a Sally.

 

Dw i ddim wedi byw ir oedran hyn - er nag w i ddim yn hen, chwaith - ac wedi priodi pump o blant yn llwyddiannus a hapus yn y byd yma, heb ddod i wbod gwerth gair yn ei bryd. Mae un hwp fach yn yr amser right yn fwy o werth na llawer o hwpo a phwno bryd arall, a roedd rhywbeth fel pe bai en gweyd wrtho i mair amser i roi hwp fach i fusnes Sally oedd hin awr.

 

Wel, mae gweld eisieu gneud peth yn golygu i fi ei wneud e. Dw i ddim yn un or rheini syn gweyd "Fe licswn wneud y peth hyn, neu "Fe ddylswn wneud y peth arall." O na; os bydd ishei wneud e, i wneud e am dani! Dynan egwyddor i. A dyna shwd gnes ir nosweth hyny!

 

Hen job gynil ymfbeidus oedd hi hefyd. Roedd ishe peido tarfu Dic i ddechreu

 

 

 

 


None
(delwedd B0911b)

(Papur Pawb. 7 Mai 1898). Pennod 15.

 

roedd ishe gadel i Dafydd ni fynd hibo heb specto dim, yn beth arall; a roedd ishe citsho yn ngholer Dic, a dod i ddeall shwd roedd pethaun sefyll rhyngto fe a Sally ni yn beth arall.

 

Ry chin gallu gweld nawr fod job o mlaen i na allse ddim pob un gitsho yndo fe.

 

Ond fe gitshes i, credwch chi fi!

 

A phan bydda i yn citsho, dw i ddim yn gollwng y ngafel nes bo i wedi cael yr hyn w in moyn!

 

A nawr i fi gael gweyd wrtho chi shwd y gnetho i.

 

Fe gwates i fan ny am y mywyd nes i fi glywed swn traed Dafydd nin mynd hibo, a trwy lwc rodd cysgod y llwyn yn ddigon tywyll, an nress innan digwydd bod yn dywyll hefyd, fel na welws Dic ddim tipyn ohono i. Roedd en rhy fishi yn watsho Dafydd nin mynd hibo i feddwl dim am bwy oedd yr ochor arall ir llwyn orwtho fe. Ond rown i an llygad arno fe o hyd, ac yn gofalu bod yn barod i symud pan ddeser amser. A fe ddaeth yr amser, cyn bo hir.

 

Gyda bod Dafydd ni wedi mynd hibo, dyma Dic yn codi i gal mynd at y bwlch, ai ddwylo yn i boced, ac yn dechre hwiban yn ddistaw bach wrthoi hunan.

 

Ond down i ddim yn bwriadu iddo fe gael dianc fel ny, dim danger os gallswn i. Fel ny beth netho i gydai fod en troi ei gefen, ond codi yn ddistaw bach ac ar flaen y nhraed ar ei ol e nes own i wrth i ochor e.

 

"Felly wir!" myntwn in uchel. "Dyma beth neis i fam i weld, ontawe nawr!"

 

"Diwc anwl!" mynte Dic - ond taw nid diwc wedws e chwaith, a fe rows sponc yn i fraw, nes i fi gredu byse fen mynd fel bollt drwyr berth.

 

Ond nelse hyny ddim mor tro i fi wedyn, welwch chi. Rown i am gael tori ple ar boy, a down i ddim am gollir siawns oedd e wedi roi yn yn llaw i.

 

"Rwyn synuch clywed chin iwso geire fel na, Richard Davies," myntwn i. "Beth wedsech tad tae en ych clywed chin iwso geire fel na!"

 

Ond trio dangos own i, wrth gwrs, wath fe wyddwn in brion mai tyngwr a rhegwr ofnadw oedd hen wr y QCastell wedi bod, ac yn para hefyd, o ran hyny, os byse rhywbeth yn ei gynhyrfu e yn ods nar cyffredin. Ond rown i am ddysgu Dic shwd i fehafio pan byswn i yn y golwg ac o fewn clyw ta pun.

 

"Mrs Jones, bach!" mynte fe wedyn, pan gas e amser i weld pwy oedd yno. "Chi sydd yna! Dir! Dyna start geso i! Rown in mynd am wac fach yn groes ir caeau, welwch chi, a welais i un tipyn ohono chi. Shwd mae nhw gatre, a shwd maer ddwy Fiss Jones."

 

"Dos di i ddysgu dy famgu i odro hwyaid, machen i, os lici di," myntwn i. "Ond paid ti a meddwl y gallu di nhwyllo i, was i?

 

"Dir anwyl, Mrs Jones fach!" mynte fe. "Dos dim ohono i am ych twyllo chi, na dim shwd boeth. Ond nawr rwyn cofio mod i heb ddibenu ar anifeiled gatre yco, a rhaid

 

 

 


None
(delwedd B0911c)

(Papur Pawb. 7 Mai 1898). Pennod 15.

i fi fynd. Nosweth dda i chi, Mrs Jones."

 

"Gan bwyll, was i," myntwn innau, gan roin llaw ar fwtwn i got e pan oedd e am droi bant. "Gan bwyll, was i. Rw i am gael gair bach neu ddou gyda chi, was i, cyn ewch chi oddiyma. Rwyn gofyn i chi yto, Richard Davies, ody chin meddwl fod hyn yn beth neis i fam i weld yr amser hyn or nos.

 

Ond fe driws y boy drac arall nawr.

 

"Odi mami yma, Mrs Jones?" mynte fe. "Wyddwn i ddim i bod hi."

 

"Gad ti dy lap, Dic, os wyt tin gall, a der di i nghwrdd i yn blaen pan w in rhoi cynnyg teg i ti, machgen i," myntwn i, waeth rown i am ddangos iddo fe mod in ffit i gwrdd ag e, ac ar yr un pryd down i ddim am i darfu e bant.

 

Mae nhwn gweyd wrtha i fod y rhai syn pysgota samwn yn Nhowy gyda gialen a bach pysgota, yn gorffod bod yn ofalus ymbeidus ar ol bachur samwn na thorith e ddim or lein, a diengyd wedir cwbwl.

 

Wel, rwyn credu gwelswn i bysgotraig ffamws, wath rown i ar y ngwyliadwriaeth o hyd gyda Dic rhag ofon iddo ynte dorir lein a dianc wedi i fi fachu e fel hyn.

 

Fe welws Dic i fod e yndin saff i wala, a dyma fen gneud y goreu or gwaetha.

 

"Oh danco shwd beth! mynte fe, gan fwrw i hat ir clawdd.

 

Ond fe gitshes man [??yn y man] yndi hi oddar y llawr, a fe syches hin ofalus an ffedog, a fei rhois hin ol iddo fe gan weyd: -

 

"Rhaid i chi ofalu am ych dillad yn well na hyna, machgen i, neu fynd i gerdded rhyw lwybr heblawr un syn arwain i Gwmllydan, credwch chi fi."

 

Wel dyma fen hwerthin.

 

"Too bad, Mrs Jones, yn y ngwir i, too bad!" mynte fe, a, ffeilu pido hwerthin hefyd. "Ry chi wedi nala in deg ych gwala. Ond paswch hibo i fi, Mrs Jones. Ry chin gwbod beth yw dynon ifenc, a ry chin cofio shwd oe chich hunan yn ych amser. Fe glywes nhad yn gweyd lawer gwaith mair foyess bena oedd en nabod oe chi pan yn ferch ifanc."

 

"Dyna ddigon o dy snecs di, Dic," myntwn inau - er mod in siwr i fod en gweyd eitha gwir hefyd. "Nid dod yma i wrindo ar dy spengs di w in, machgen i, ond moyn cael gwbod gen ti beth wyt tin neud gydan merch i mas fel hyn ar hyd yr hewlydd yr amser hyn or nos?"

 

Roedd hyn yn dod a phethau i glos cwarters, fel mae nhwn gweyd, ond rown in benderfynol oi chael hi mas gydag e ar ol dechre.
(Iw barhau.)


 

 

None

(delwedd B0912a)

(Papur Pawb. 14 Mai 1898). Pennod 16.

PRIODI R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD XV. - FFYSTO MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

[sic; = PENNOD XVI]

 

Rown i wedi specto wrth glywed y siarad rhwng Dic y Castell a Sali ni gallse fod yn y fusnes yma rywle ffordd i fi mas or helynt gyda, Mrs Griffiths, Tanybryn, a ffordd falle i fi i ffysto hi wedir cwbl i gyd. Ond rown in gweld gyda llaw byse rhaid i fi feindon hits gyda Dic, wath mai tipyn o natur llyswen yn y teulu - neu roedd yn i dad slawer dydd, ta beth. Wedes i ddim wrtho chi am dad Dic yn dod i gnocor ffenest yn Plasbach, pan own in ferch ifanc, a mor daer buodd e am gael ty y nosweth hyny, a mor ddwl bues innau i wrando arno fe, a mynd lawr i agor y drws iddo fe.

 

Roedd Davies y Castell yn fwy o fatch o dipyn bach na Dafydd Jones, Cwmllydan; ac er mod in carun dyn a Dafydd, pryd hyny, fe fues in ddigon dwl i agor y drws i Davies y nosweth hyny, a gadel iddo gael ty, a fe fuodd hyny jest iawn a thorir llinyn rhwng Dafydd a fi. Os dim dowt gen i, pe bawn i dipyn bach yn llai llygad agored nag own i pryd hyny, byse Dafydd wedi ngadel i a phriodi merch Glynmawr - Mrs Griffiths, Tanybryn, wedi hyny. Roedd hi fel gwyddoch chi yn dwlin lan ar Dafydd -a dyna un rheswm pam mai cyment o hiten genty hi arna i byth wedyn. Ond dyn ai helpo hi; Hi gwrddws ai matsh pan gwrddws hi a fi!

 

Wel, pe bai Dafydd wedi ngadel i pryd hyny a mynd i Glynmawr, fe fyswn i, welwch chi, rhwng dwy stol heb un, waeth, fel gwyddoch chi, priodi rhywun arall wnaeth Davies y Castell wedi cwbl; a dyna pam w in gweyd fod pwer o natur llysywen yn y teulu neu fyse fe byth wedi slipo o ngafel i.

 

Ond dyna ddigon ar hyna. Nid hanes Davies y Castell a fi, ond hanes Dic, mab Davies, a Salin merch innau sy gen i ishe i adrodd wrtho chi nawr. Ond dyna pam rown in son am y peth oedd am fod Dic yn gweyd fod i dad yn gweyd mai "boyess ofnadw" own in ferch ifanc, ac am mod innau wedi gwneud y meddwl i fyny na chese Dic ddim wharer un tric a Sali a wharodd tad Dic a mam Sali. Rown i wedi tyngu pan ddealles i fod Davies y Castell yn myned i briodi rhyw un heblaw fi wedir cwbwl, y byswn i fyny ag e rywbryd neu giddyl; ond cheso i ddim cyfle i neud hyny hyd nawr, a rol cae1 y cyfle down i ddim yn debyg o adael iddo slipo on ngafel i wedir cwbwl.

 

Wet, nawr, fe fyse llawer un yn "talur hen hwech" i Davies y Castell drwy neud i Sali dwyllo Dic fel gnaeth Davies a finnau. Falle mai hyny fysen reit i neud ag e. Ond dos dim dial yn yr un croen a fi, fel gwyddoch chi; a felny fe benderfynes i fannyr funed hyny i beidio dial felny ar Davies y Castell am i hen dricis e slawer dydd.

 

Pob peth yn nobl yw son am ymweled ag anwireddau y tadau ar y plant, ond beth

 

 

 

None

(delwedd B0912b)

(Papur Pawb. 14 Mai 1898). Pennod 16.

 

allse Dic, poor fellow, help am ddrygioni i dad? A fe gofies am y gair syn son am faddeu ir gelyn, a phentyru cols coch ar i ben e, wrth hyny. Felny fe benderfynes innau fod fyny a Davies y Castell, nid wrth stopor fatsh rhwng Dic, i fab e, a Sali ni, ond wrth i halia hin fatsh a gwedwch chi os gallswn i neud dim byd yn well na mwy taliedd a Christionogol na hyny.

 

"Nawr, was i," myntwn i wrtho fe. "Well i ti fod yn blaen am shwrne, ag ateb y nghwestiwn i. Beth oe tin moyn ffor hyn gyda Sali ni?"

 

"Chi wyddoch yn nobl, Mrs Jones," mynte fe, gan hanner hwerthin. "Chi wyddoch mai caru oe ni."

 

"Ie, ie," myntwn i, "ond mae caru a jocan caru, was i; a rw in moyn cael gwbod pun oe tin neud, machgen i."

 

"Mrs Jones," mynte fe, "tawn i byth yn cyffro or fan yma, down i ddim yn meddwl jocan a Miss Jones, a rown in meddwl sharad a hi i ben heno pryd cese nhad ddod i Gwmllydan i sharad a Mr Jones a chithe."

 

"A meddwl sharad netho chi, iefe, was i?"

 

"Wel, rown i wedi dechreu pan ddaeth i thad ir golwg, a bant a Sali fel bollt."

 

"Ie, a bant a rhyw un arall dros ben y jwmper ir cae," myntwn i. "Ond gan eich bod chi wedi dechreu sharad a Sali chi gewch ddibenu a fi, machgen i. Ond rw in moyn i chi ddeall ar y dechreu nad w i ddim mynd i gellwair dim a chi, ac os wyt tin meddwl, Dic bach, y gallu di hware trics a Sali neu a fi, rwyt ti wedi camsyned dy ddelar, machgen i!"

 

"Na, byth na chyffra i, rwyn eitha sirws," mynte fe; a rown in gweld wrtho fe fod e hed.

 

"Or goreu," myntwn i. "Pob peth yn nobl. Wel, nawr, ynte, shwd y chin meddwl gneud? A sposoch bod chich dou yn cael mynd at eich gilydd, shwd y chin meddwl byw? Mae ffermydd yn brin ymbeidus!

 

"Odyn, ma nhw, fel mae gwaethar modd," mynte fe.

 

"Allwch chi ddim mynd a Sali ir Castell tra boch tad ach chwarorydd gatre," myntwn i wedyn.

 

"Dim yn rhwydd," mynte fe.

 

"Dim o gwbwl," myntwn i, yn eitha penderfynol. "Pan brodith ych chwarorydd pobpeth yn nobl; ond mae un wraig yn ddigon ar un aelwyd."

 

Wedws e ddim, ond cnoi i winedd.

 

"Wel," myntwn i wedyn. "Run man i chi weyd y cwbwl, gan ych bod chi wedi dechreu, was i."

 

"Dos gen i ddim rhagor i weyd," mynte fe gan droi i wyneb bant.

 

Rown i wedi specto or blaen, ond rown in teimlon go shiwr erbyn hyn.

 

"Falle wir! myntwn i. "A mae cwilydd arnoch chi, was i, i weyd wrth ei fam ych bod chi wedi prynur lle dros ben. Tomos, Tynywern?"

 

"Wel, tawn, in marw? mynte fe. "Shwd wr drwg detho chi i wbod hyny, Mrs Jones?

 

"Paid ti hido dim byd shwd detho i i wybod," myntwn i. "Rw i yn gwbod, a mae hynyn ddigon ar hyn o bryd, debygswn

 

 

 

 


None
(delwedd B0912c)

(Papur Pawb. 14 Mai 1898). Pennod 16.

 

i. A dw in synu dim am fod cwiddyl arnat ti, Dic, i gydnabod wrtha i dy fod ti wedi prynu lle y mab i."

 

"Oh, na, wir, fair play, Mrs Jones, hware teg, nawr, fair dws ar funcoes i!" mynte fen anesmwyth.

 

"Wel, beth sy gen ti i weyd? Odw i ddim yn gweyd y gwir, gwed?"

 

"Odych, ry chin gweyd y gwir, mewn ffordd, ond nid prynur lle er mwyn hala Tomos bant oedd yn amcan i, ond fe ddaeth siawns i fi gael y lle yn fergen, a fe prynes e am y talse fe yn nobl hefyd."

 

"Er mwyn cael gostwng rhent Tomos, mynta?" myntwn i.

 

"Na, nid hyny gyment chwaith," mynte fe, gan grafu i ben.

 

"Well, beth ynte?"

 

"Oh danco! Os oes rhaid i fi weyd wrtho chi, dyma fe: Fe glywes ryw son fod Tomos am fynd bant ir Merica, a fe feddyles on byse fen mynd gallse Sali a finnau fynd i Tynywern."

 

"Oh!" myntwn i. "Wel, gwrando ar un gair bach weda i wrthat ti, Dic, a dyma fe. Os aiff Tomos ni ir Merica, ti elli dithau weyd good-bye wrth Sali hyd mynot ti, waeth chei di byth mohoni tra bydda i byw, na wedyn chwaith os galla i!"

 

"Wel, mae Tomos yn saff i wala ynte," mynte Dic. "Fe dowla ir fargen fyny fory nesa."

 

"Na nei," myntwn i wedyn. "Sa di at dy fargen, a rho di notis i Tomos i madel Wylhengel."

 

"Beth sy gyda chi nawr. Dw i ddim yn deall, mynte fe, gan edrych yn hurt.

 

"Dyma sy gen i, Dic," myntwn innau. "Gna di fel rw in gweyd wrthat ti. Dibena dir fargen. Rho di notis i Tomos. Paid gadel i neb wbod fod dim yn bod rhwng Sali a tithau. Does neb yn gwbod, os e?"

 

"Neb ond Sali - a chithe a finnau," mynte fe.

 

"Or goreu. Nawr ynte, ar ol rhoi notis i Tomos, cymer gyfle i weyd wrth Siwsan dy fod tin meddwl priodi - ond paid a gweyd sha phwy, a bod yn rhaid i ti gael y tir Wyi Hengel. Ond dy fod tin folon, rhenty Tynlon i Tomos yn lle Tynywern. A ti alli weyd gyda llaw, bod Tynlon yn lle bach iawn i bar ifenc fel Tomos a Siwsan, ond gnelse fen brion iddi mam, Mrs Griffiths, Tanybryn. Ac os licse Mrs Griffiths rhoi Tanybryn i Tomos a Siwsan, a mynd i Tynlon i hunan, byset tin folon i hyny, ac y gneset ti rywbeth rhesymol i gwrdd a Tomos yn y mater er mwyn rhyddhaur ffordd."

 

"Mrs Jones! mynte Dic. "Wel, i jaist ariod; weles i ddim general tebyg i chi, naddo yn y ngwir i. Dw i ddim yn synu dim fod Sali mor glefer!

 

A dymar hen ffwl yn towlu i fraich am dana i, ac yn rhoi wad o gusan mawr i fi cyn mod in meddwl dim beth oedd en mynd i neud!

 

"Cer ona tir hen ffwl!" myntwn i gan rhoi gwth iddo fe ir clawdd.

 

Howyr! Beth syn bod yma? mynte llais or hewl, a dyna lle roedd Dafydd ni, os gwelwch yn dda, yn edrych dros ben y bwlch arno ni!


(Iw barhau.)



 

Sumbolau:

a A / / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / : / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /

ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / /
ɥ
ˡ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-2_0339k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 04-11-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHATS NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait



Free counter and web statsStatistics for Welsh Texts Section / Ystadegaur Adran Destunau Cymraeg