kimkat3523k Y Conffrens. Wil Sledgwr. 1896. The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. Hurrah! O'r Dowlais ag e! Beth wedwch chwi, gwyr Merthyr nawr wn i? Dyma dwtch i chi yn Brynmawr!

03-11-2020

● kimkat0001 Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3465k Y Conffrens: Y Cyfeirddalen 
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm
● ● ● ● ● kimkat3523k Y tudalen hwn
....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003j)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website


TAFODIAITH MERTHYRTUDFUL
(Y Wenhwyseg)
Y Conffrens
Wil Sledgwr
(Merthyr Times. 1895, 1896)
1895. Rhan 2: Gorffennaf-Rhagfyr.

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guesthook:
http://pub5.bravenet.com/guesthook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

.....           

Map

Description automatically generated

(delwedd 9338f)

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm Y Wenhwyseg - y prif dudalen

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm El dialecte güentià del gal·lès - la pàgina prinicipal

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_1004e.htm Gwentian dialect of Welsh – the main page

(O “Newyddiaduron Cymru Arlein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)”. Mae’n debyg bod 13 o benawdau o’r “Conffrens” yn y Merthyr Times yn 1894, ond nid yw’r rhifynnau o’r flwyddyn honno wedi goroesi, gwaetha’r modd)


04 Gorffennaf 1895: G3956a, G3956b, G3956c
25 Gorffennaf 1895: G3967a, G3967b, G3967c

01 Awst 1895: G3961a, G3961b, G3961c
08 Awst 1895: B1104a, B1104b, B1104c

22 Awst 1895: B2102a, B2102b, B2102c
29 Awst 1895: G3960a, G3960b, G3960c

05 Medi 1895: G3963a, G3963b, G3963c
12 Medi 1895: G3964a, G3964b, G3964c

03 Hydref 1895: G3965a, G3965b, G3965c
10 Hydref 1895: G3966a, G3966b, G3966c

14 Tachwedd 1895: G3962a, G3962b, G3962c
21 Tachwedd 1895: G3968a, G3968b
28 Tachwedd 1895: G3969a, G3969b

....

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3956a) (04 Gorffennaf 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

4 Gorffennaf 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Dan. — Dyma hi etto, boys. Chewn i ddim llonydd i fynd mlan. Mae'r Dowlais Reporter yn rhuo yn ofnadw etto. Ond mae e yn mynd yn wanach, wanach bob tro. Mae'n wir fod gydag e ddigon o eire at law, ond dos dim digon o sense yn y llythyr dywetha yna i lanw gwniadur ddime.

 

Wil Sledgwr. — Wel, fechgyn, dwy i ddim yn cyd- fynd a codi sledge ddwylaw i ladd pryfyn; a pheth arall, mae'r lecshwn ar bwys, dos dim amser i golli nawr i sylwi ar rhyw gorgwn bach di fanners yn cyfarth. A gweyd y gwir dyw ymosodiadau y Dowlais Reporter ddim yn werth i wasto powdwr a shots atto fe, ond os i chi yn mofyn mynd yn mlan i weld beth yw sylwedd ei lythyr e, peidiwch a delo dim ag e yn bersonol, dim ond yr argument yn unig, a bydded pob un o honoch chi mor fyr ag sydd bosib, waeth mae gyda ni bynciau pwysig i ddod o flan y Conffrens nawr.

 

Joe. — Ma ni wedi gweyd nad yw hi dim yn deall y Conffrens. Mae hi wedi gweyd o'r blan bo ni yn dweyd bod connection rhynto hi ag Eisteddfod 1892 yn Dowlais; ma ni wedi replyo i hwna na dim ni dim wedi gweyd shwt beth, taw wlia am Eisteddfod yn future o'n ni. The fact is this, boys; ma rhaid i ni hala rhywun i ddarllen a explaino Conffrens iddi bob wthnos; fel me ni wedi gweyd o'r blan, ma hi'n gweyd hefyd bod hi yn demando apology wrthon ni, a hefyd ma hi gweyd, “it would have been vain to expect it from such a quarter." Tyna consistency onite? Y ni dyle cal apology oworthi hi wrth right, ond gadwn ni hi llonydd hys bod hi wedi dod i dyall y Conffrens.

 

Dai. — Mai e wedi gweyd fod yr areithwyr yn Nghwrdd Blynyddol y Disablement yn ergydio at y Conffrens. Darfu i ninau droi hyny nol ar awdurdod un ag oedd yn gwrando yno. Yr wthnos ddiwedda mae e yn enwi Ald. Evan Lewis a Mr. Isaac Lewis fel rhai oedd yn cyfeirio yn bendant at y Conffrens. Ond rw i wedi bod yn sharad a till o'r boneddigion mae e wedi enwi, ag ma hwnw wedi dweyd yn bendant nad oedd e ddim cyfeirio at y Conffrens o gwbl, ond at fasnachwyr yn Merthyr, a taw mistek y Dowlais Reporter oedd dweyd y fath beth ond peth hawdd pasio iddo fe, am mae yn Gwmrag odd y rhan fwya o honyn nhw yn sharad, a bod yntau ddim yn ddeall yn dda beth odd gyda nhw mewn llaw.

 

Harri. — Own i yn arfer meddwl fod pob Reporter yn supposo i ddeall y siaradwyr mewn cyfarfordydd er mwyn rhoi reports cywir yn y papure.

 

Phil. – Dyna bert mae e yn esgus atteb challenge Wil Sledgwr. Mae e yn gofyn y cwestiwn, “Was he foolish enough to imagine I would run away from such as he?" Nid ei hala fe i redeg off oedd amcan Wil, ond ei gal e i ddod i gwrdd ag e. Ond gwarchod anwyl, rhedeg off nath e mor belled byth a galle fe, a troi nol wedyn a wavo £20 a mofyn i Wil ddod i gwrdd ag e ar y Gambling Line. Mae e yn mofyn cal rhoi ei gonditions ei hunan lawr, ag yn gweyd ar yr un pryd fod e'n cymryd challenge Wil i'r lan. Mae e'n gweyd yn un man caiff Wil ddewis ei destun, ag mewn man arall taw examiner sy i roi testun ar y pryd. Dyna gyssondeb, onte?

 

 

 

 

 

 

None
(delwedd G3956b) (04 Gorffennaf 1895)

 

 

Nat. - Mae eu gweyd daw e i gwrdd a Wil Sledgwr, a gweyd wedyn taw cilo off neiff Wil. Dyna nonsense onte? A mofyn i Wil i roi £20 lawr, a mae e wedi gweyd o'r blan taw “loafer yw Wil, a dyna ffolineb onte yw meddwl gall loafer roi £20 lawr ar Gambling.

 

Ned. - Mae e yn brago yn anghyffredin bod y Philharmonic wedi cal 6d. mas o Wil Sledgwr ar nos Sul. Pun ai owrth Wil neu o wrtho fe ceso nhw fwya y noswaith hyny? Pun ai owrth "Loafer" neu “£20 Bouncer" enillodd y côr fwya trwy'r rehearsal?

 

Twm. — Y chi'n son am loafer! Ond nid dyna beth yw Wil nawr; mae e wedi cael ei deitlo yn “irresponsible nobody, grovellor, nondescript, croaking ignoramus, babbler, mud-thrower, cur, mongrel, cats-paw, illiterate vilifier, loafer, bardd talcen slip, fugle man, iconoclast." Ag ar ol rhoi pedwar-ar-ddeg o deitlau ardderchog fel yna i Wil, swm y cwbl ar y diwedd yw: "Only a coal weigher." Dyma hi ar y diwedd. Mae e yn meddwl ei fod e'n glever iawn ond whare teg iddo, mae e wedi bod yn glever i wneyd ffwl o hono ei hunan, ag mae e wedi profi nawr fod y dyn wrong gydag e mewn llaw, ag mae e wedi mynd mas o'n gafel ni. Poor fellow, mae e wedi mynd yn hollol anobeithiol i wneyd dim daioni ohono; yr oeddem yn meddwl pan y dechreuodd ymosod arnom ei fod yn mynd i wneyd gorchestwaith. Ond druan o hono, y mae wedi mynd i'r tywyllwch eithaf, a phob ergyd i y mae yn ymdrechu roi yn troi nol i'w niweidio ei hun.

 

Mocyn. — Beth i chi'n feddwl am y frawddeg ddywetha sy gydag e yn i lythyr am yr enw da mae Dowlais wedi golli? Mae e yn cyfadde fod "enw da" wedi bod i Dowlais mewn cerddoriaeth. Pwy wedd wrth yr arweinyddiaeth y pryd hwnw? Ah! Mr. Reporter, ai nid ydych wedi tynu y ty ar eich pen eich hun, a methu lladd yr un Philistiad? Ai nid ydych wedi gosod eich troed yn y fagl, a'r pry a geisiech rwymo yn hollol rydd? Do, fe fu enw da i Ddowlais gyda Dan Davies. Cofiwch chi, dwi'n dweyd dim yn fach am Harri Evaus. Bachan yn iawn yw Harri, a rwi'n sicir y bydd e'n leader ardderchog, ac y cwyd o Ddowlais eto yn ol i'r hen safle. Pob llwyddiant iddo, medda fi.

 

Wat. — Wdw i wedi darllen hanes am ddyn un tro wedi mynd mas i ddirmygu dynion neillduol, ond fe ddewisodd y Bod Mawr asen i sharad ag e; ag ma gyda ninnau ddynion hefyd yn dirmygu a gwawdio, ar peth goreu wy'n feddwl allir neyd yw engago donkey i gwrdd a nhw.

 

 

 

 .

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3956c) (04 Gorffennaf 1895)

Jim. — Ma rhai personau eisiau dysgu manners iddyn nhw yn dost hefyd, ag fe leicswn i roi cyngor iddin nhw i ddarllen y tair adnod olaf o'r 2 benod o ail lyfr y Breninoedd cyn bo nhw yn mynd mas etto i basio remarks ar ddynion wrth ei pasio nhw ar yr heol.

 

Hen Simon. - Dyna ddigon nawr fechgyn, gadewch y pethau yna yn llonydd, a dewch i ni gal meddwl am bethau sydd yn fwy pwysig na hyna nawr. Yr wyf fi wedi clywed am rai o honoch yn dechreu myned i ryw back parlours mewn tafarnau i gynllunio ar gyfer yr etholiad nesaf, ac wedi penderfynu taw'r ymgeisydd rydd fwyaf o arian a chwrw yn yr adeg yr etholiad sydd i gael eich cefnogaeth chwi. Os oes pethau fel ynau [yna] yn myned yn mlaen, y mae yn rhaid eu dinoethi. Fechgyn anwyl, deffrowch at waith. Y mae Bwrdeisdrefi Merthyr ac Aberdar wedi arfer bod yn uchel yn syniad y wlad, ond ma nhw ar y down grade er ys rhai blynyddoedd nawr; ac ai tybed fod gwirionedd yn y si fod ystrywiau ar waith i ddwyn ymgeiswyr er mwyn tynu i lawr y mwafrif Rhyddfrydol er rhoi mantais i Dori i fyned i fewn? A ydyw i bosibl i Dori fyned fewn yn y bwrdeisdrefi byn? Ydyw, os yw yr hyn a ddywedi yn wirionedd; a pha beth fydd y canlyniad? Yr etholaeth bwysicaf yn Nhymru heb bleidlais o gwbl yn y Senedd. Os dewch i wybod am ystrywiau twyllodrus i'r perwyl hyny, dinoethwch hwy ar unwaith, gan nad beth fydd y canlyniadau. Dichon y bydd yn rhaid i rywrai ddioddef, ond fe fydd yn anrhydedd i ddioddef er mwyn arbed yr etholaeth rhag mynd i'r fath drybini annaele. Diameu genyf fod genym ddynion etto o'r stamp i wneyd merthyron, a sicr yw dim ond i rywrai ddechreu dod i'r ffront y bydd canoedd yn barod i ddal eu breichiau i fyny a mwy na'r cwbl fe fydd gwirionedd o'n tu, a bydd y gwirionedd yn sicr o lwyddo yn y pen draw. Darfu i Elias un tro ddigaloni a chlirio i ogof, gan gredu ei fod wrtho ei hun yn ymladd dros y gwirionedd ond yr oedd wedi camsynied; cafodd sicrwydd fod yn aros etto saith o filoedd heb plygu gluniau i Baal. Ymwrolwn ninau, a safwn dros y gwir, a pleidiwn y dynion hyny a gynrychiolant eu hetholwyr, ac nid troi ac ymostwng i rhyw glic Llundeinig. Yr hyn sydd yn gwneyd drwg dirfawr yn mhob cylch yw y clics yma; gwyddoch y fath ofid a chamdrinaeth ydyn fel gweithwyr yn gael yn Dowlais a Merthyr. Hefyd y mae clics Llywodraeth i'w cael, a dewch i ninnau gael cefnogi ymgeiswyr a ymrwymant i bleidio ac amddifyn hawliau eu hetholwyr, acnid ymostwng yn wasaidd i wasanaethu Clics Llywodraeth. Dyma fi yn tewi, a gofalwch, ie, gofalwch, beidio ymollwng ac anghofio'r ffaith mae dynion ydych.

 

Dros y Conffrens,

WIL SLEDGWR.

Text, letter

Description automatically generated                                                                              
(delwedd G3962a) (25 Gorffennaf 1895)

 

 

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

25 Gorffennaf 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Dan. - Wel, boys, dyma’r lecshwn fawr wedi paso, a ninnau yn cwrdd heno etto heb neb o honon ni wedi cal pen coch na black eye, ag i goroni'r cwbl wedi returno'r ddau hen fember gyda majority crand.

 

Harri. - Ie, wir, ond truenu mawr fod Allen Upward wcdi cal ei adel mor isel ar y poll. Dyma fachgen rhagorol, ag fe nelai fember yn iawn tae e ddim ond cal mynd mewn, ag mae ddrwg iawn gyda fi na fyse fe mewn gyda D. A. Thomas. Ond chas e ddim whare teg o gwbl. Fe drows y tide mor ofnadw yn ei erbyn e ar ol i'r crys, “A seat in danger” ddod mas. Roedd e yn mynd yn mlan yn ardderchog, a hyny heb ddim committees na chanvasso dim, dim ond dependo ar ei deilyngdod ei hun; ond dydd Sadwrn, ag o hyny hyd y lecshwn, roedd y tide yn troi, a rhai o'r rhai ag oedd fwya drosto fe yn troi gyda'r sitting menbers rhag ofn byse'r Tori yn mynd mewn rhwng y ddau.

 

Phil. — Sitting members, yn wir: Nonsense o’r mwya. Roedd y Ty wedi tori'r lan, a din nhw ddim yn sitting members o gwbl, ond candidates o flaen y borough, a phigo'r candidate gore ddylen ni neyd, ag fe stices i atti hefyd i bleidio Allen Upward a D. A. Thomas hyd y diwedd.

 

Jim. — Wel, wir, netho i ddim o hona, ta beth pan gwedodd e nad oedd e ddim yn mynd i roi watches aur ag arian off fe droes i nghefn arno.

 

Dic. — Wel, ar count cal typyn o change fe etho i yn Dori y tro hyn ta beth. Ag wir fe ddaeth ein dyn ni yn mlan yn ardderchog hefyd. Oni bai i'r Liberals i stico fe fyse wedi mynd i mewn o'ch gwaetha chi i gyd, a fe stickson ni blumbo iddo fe ar gount reduco votes i Liberals, iddo fe i gal shawns i fynd miwn.

 

Phil. — Fechgyn, own ni wedi clwed or blan fod Dic wedi mynd yn durncoat, ac heb ddim lol wy'n cynyg i fod e yn cal ei esgymuno o'r Conffrens.

 

Da. - Eilio'r cynygiad.

 

Cad, — Pawb sydd dros hyny i arwyddo. (Oll yn codi dwylaw). Wedi pasio yn unfrydol. Falle daw Joe yn mlan i roi penill ymadawol iddo.

 

Joe. —

 

Ar Dic y dirty turncoat cas

Rwy'n mynd i basio'r sentence

Crynho dy bac a cera mas I

O gwmni “Boys y Conffrens.”

 

Rhyw ail wyt ti i'r Judas gynt,

Wnaeth werthu'i feistr ffyddlon,

Ti droest yn round fel ceiliog gwynt

I werthu d'egwyddorion.

 

Y smoking concerts gyda'u mwg,

Y canu gwag a'r nonsense,

A'r drinks a gest a'th wnaeth rhy ddrwg

I aros yn y Conffrens.

 

Cadd Judas gynt rhyw faint o ras

I fynd i grogi'i hunan,

Yn lle bod fel rhyw ellyll cas

Yn poeni pawb yn mhob man.

 

Ond dyma ti roi troi dy got

A gwerthu'th egwyddorion,

Am stuff ith wneyd yn drunken sot

Unfit i gwmni dynion,

 

Yn mofyn aros gyda ni,

Sy'n pleidio truth and prudence,

Ac am dy cheek nawr dyma fi

Yn mynd i baso'r sentence.

 

Y'n awr at once cer mas o'n plith

A'th fwg, a'th ddrinks, a'th nonsense,

A phaid dod nol i'n cwmni byth

Heb brawf o true repentance.

 

Twm. — Well done, Joe, wyt ti yn gaino fel bardd ac fel Cymro bob dydd. Ond gwelsoch chi'r Merthyr Express yr wythnos hon, boys? Ma nhw yn ei gweyd hi yn arw am y rhai oedd yn pledio Allen Upward; ond fe allwn ni feddwl dylen nhw fod yn ddiolchgar fod Allen Upward wedi dod mas, onte

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated                                                                              
(delwedd G3962b) (25 Gorffennaf 1895)

fyse dynion ddim wedi sticko cymynt gyda D. A. Thomas a Pritchard Morgan, a rhoi cystal majority iddin nhw. Ag ma well “Polouious” a'i git i beido gweyd gormod, onite fe gymerwn ni eu hachos nhw i'r lan.

 

Mocyn. - Wyn credu bydd i lecshwn ddywetha yn lle i rai members hefyd i sticko yn well yn y Parliament o hyn i mas. Trwy fod Merthyr yn cal hawl i hala dau fember i'r Senedd mae yn deg i ni hala dau fember hefyd. Wnaiff member a chetyn ddim o'r tro i ni; ond gobeithio y bydd i'r members i ni wedi hala mewn y tro hyn i sticko attendo a dadleu dros eu rights ni, ac ufuddhau i bleidleisio yn ol teimlad y borough, ac nid yn ol eu mwmpwy en hunain.

 

Wat. — Chydig iawn o ddiwygiadau glown ni yn y Senedd nesaf etto rwy’n ofni. Mae’r Tories yn mynd a fi yn glwt y tro hyn; nid dim ond yn Lloegr, ond yn Nghymru hefyd. Dyna Penfro, Caerfyrddin, a Llanelli, Abertawe, South Glamorgan, a Chaerdydd wedi colli eu gogoniant, a gellir ysgrifenu “Ichabod” uwch eu penau. Rhyw Weinyddiaeth gymysglyd iawn yw hi yn mynd i fod: Toriaid ac Undebwyr yn ffurfio y cabinet; ac fe fydd y gorden yn llaw Joe Chamberlain. Ffarwel i lawer o’r mesurau i ni wedi bod yn hir ddisgwyl am danynt. Dyna Home Rule i'r Iwerddon, Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad i Elwys Loegr yn Nhymru, Employers Liability Bill, Local Veto, &c. Ffarwel am 10 mlynedd, beth bynag, a thyna Dy yr Arglwyddi yn ddiogel am dymor etto. Ond dyma Ned yn dod dan ganu. Mae e wedi cael rhywbeth yn “Efail y Gof.” Gwrandewch arno, boys:

 

Ned —

 

Rol diodde'n hir dan loesau blin

Hen ddeddfau celyd a dilun

Mae pobl Cymru yn gytun

Yn dechreu llawenychu.

 

Yn lle cyfreithiau gwag dilan,

Cawn wneyd rhai newydd spon bob un,

Yn pleidio hawliau dyn fel dyn,

A chaal “Home Rule i Gymru.”

 

Yn lle i'r tirfeddianwr mawr

Bentyru golud fel mae 'nawr,

Mae'n rhaid i’r gwr ddod ris i lawr

A’r tlawd fyn’d risiau fynu.

 

Yn awr mae amgylchiadau'r ddau

Oddiwrth eu gilydd yn pellhau,

Caiff pethau felly'u gwastadhau,

Pan geir “Home Rule i Gymru.”

 

Mae ambell un mewn llawer man

Yn casglu cyfoeth mawr i'w ran,

Trwy wasgu’n galed ar y gwan,

Ai llethu i druenu.

 

Ond ha, ni pheri hyny'n hir,

Cyfiawnder a deyrnasa'n wir,

Ac heddwch ffyna trwy y tir,

Pan geir “Home Rule i Gymru.”

 

 

 

Text

Description automatically generated

                                                                              
(delwedd G3962c) (25 Gorffennaf 1895)

 

Mae Ymneullduwyr Cymru am

Gael gwaredigaeth lwyr o’r cam

O dalu degwm i'r “Hen Fam”

Sy'n esgeuluso'i theulu;

 

Ni chaiff offeiriad Eglwys Plwy'

Ei bum cant, ac efallai fwy,

Am weini i hen wraig neu ddwy

Pan geir “Home Rule i Cymru.”

 

Ffarwel i orthrwm, trais, a sen,

Caiff Cymru etto godi'i phen,

Bydd rhyddid gyda’i faner wen

Trwy Walia yn teyrnasu.

 

Nid Sais sy’n gwawdio’n hanwyl iaith

Na Scotyn balch, na Gwyddel chwaith,

Ond Cymry glan gant wneyd y gwaith

Pan geir “Home Rule i Gymru.”

 

Shoni. — Wel, Ned, wyt ti yn mynd yn mhell ofnadw heno. Ble wyt ti yn cal lle i gredu y pethau hyn?

 

Ned. — At awdurdod Joe Chamberlain.

 

Shoni. — Joe Chamberlain yn wir!

 

Ned. - Ie, Joe Chamberlain; i’ch chwi yn cofio fod e wedi gweyd na joine fe ddim a un Government byth os na fyse dros gal Dadgyssylltiad ar un waith, a bod y Liberals yn rhy slow gyda'r gwaith. A nawr mae e wcdi joino a Government trwy fynd yn un o'r cabinet, a chwedyn ar ei eire fe i hunan mae gobaith da am Ddadgysylltiad.

 

Frank. — Ond wyt ti'n gwbod fod e yn erbyn “Home Rule.”

 

Ned. — Ond i chi yn gwbod pan bo ni yn neidio am y pella bo ni yn mynd nol yn mhell i starto rhedeg i gal speed, a nerth i neidio yn mhellach na rhai oedd o'n blan ni; a falle bod Joe wrth gilo nol ar bwnc yr “Home Rule,” yn mynd nol i gal speed i neidio'n mhellach na “Home Rule” i Ireland, ond neidio mlan i roi “Home Rule” i Gymru hefyd.

 

Wil Sledgwr. — Wyt ti yn gweyd pethau rhyfedd heno, Ned. Allwn ni ddim ai llyncu nhw ar hyn o bryd, ond gobeithio bod di yn dweyd y gwir, er hyny. Mae'r amser yn mynd yn mlan, a gwell rhoi fynu nawr gan obeithio y try pethau allan yn well nag yw y rhagolygon ar hyn o bryd.

 

Dros y Conffrens,

WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3961a) (01 Awst 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

1 Awst 1895.

 

Fred. - Fe leicswn i weyd gair i ddechreu heno. Ma gyda fi charge yn erbyn Wil Sledgwr nad yw e ddim yn reporto'r Conffrens i'n plesio ni. Mae e ormod am gael ei ffordd ei hunan, a reportith e ddim ond beth fydd gyda'i dasto ei hunan. Ac am i fod e mor independent, wy'n cynyg nad i'n ni ddim yn mynd i subscribo dim at i gadw e mlan fel ysgrifenydd y Conffrens o hyn i mas. Ac os ca i'n ffordd i'n hunan dyna fel ma hi yn mynd i fod hefyd.

 

Frank. — Beth wyt ti yn roi at i gadw fe mwy na finne, leicswn i wbod. Wyt ti yn gwbod o'r gore nag wyt ti ddim mwy na finne yn talu dim bid atto fe, wath din i ddim wedi cal ein enrollo fel members o'r Conffrens. Outsiders yn dod nna yn achlysurol i ni, fel wyt ti yn gwbod, a ma dy waith di yn son am beido talu at Wil Sledgwr yr un mor ddisense a phe byse labrer na dipwr rubbish yn gweyd na thalan nhw ddim at gadw checkweighers os nag i'n nhw yn supporto Pritchard Morgan.

 

Dai. – Dyna fe, boys, gadewch rwbeth fel yna yn llonydd nawr, a dewch i ni gal sharad am rwbeth arall. Pwy sy yn mynd i enill yn Llanelli wni?

 

Shoni. — Wel, ma well i ni adel hwna yn llonydd hefyd, a gadel i'r beirniaid i weyd hyny, waeth i ni yn gwbod am rai mae eu sense nhw i gyd yn size eu dyrnau nhw, a’u gwybodaeth nhw ngrym eu muscles nhw, a chwedyn ma pwnc y corau yn rhy ddangerus i ni neyd dim ag e nawr.

 

Jim. — A gadel pwnc y corau naill ochor ynte, pwy sy yn mynd i enill y gader y tro hyn?

 

Harri. — O rhyw hen bregethwr mi gynta. Y chi yn gwbod bo nhw, gwyr y broad cloth, yn pwsho'n hunain i’r front yn mhob man, a dos dim shawns i neb arall os na fydd e yn favourite gyda nhw, ag mai yn bechod anfaddeuol os torith rhywun mas o'r groove ma nhw yn troi yndo fe. Ma nhw just a'n hala i i gredu weithe taw dyna'r pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan yw meddwl a barnu yn wahanol iddyn nhw.

 

Joe. — Ma shew o wir yn y peth wyt ti yn gweyd. Y nhw sy'n formo'r inner circle, a ma hi typyn o trieg i'r chair neu'r crown i slipo mas rhynto nhw i rhywun arath. Pob respect iddon nhw gweda i mor bell a ma nhw deservo fe, ond dyw e dim right bo nhw fel rhyw lot o emperors yn mynd i rulo pob peth fel se dim dynon call i cal yn y byd ond i nhw. Ma nhw bothran o hyd am y Pope of Rome, ond ma gyta ni lot o minor popes hefyd, ta nhw dim ond cal y chance. Pan bo ni yn darthen y “Welsh Gossip” neu “Wales Day by Day” yn y daily papers, dos dim son am neb just os na fydd reverend o blan neu initials wrth cwt i enw fe, ond ma ni proud iawn o un peth bod Wil Sledgwr wedi cal diploma nawr. Os os rhai wedi reduco total y teitls ma nhw wedi rhoi iddo fe lawr i bod yn un o'r “Wretched little gang of Nobodies,” ma'r un sy'n writo “By the Way” yn y Merthyr Times wedi galw “Mighty Wil Sledgwr” arno fe, a ma “mighty” just cystal a “reverend.” Hefyd gall Wil nawr rhoi D.D. ar ol i enw, ma fe wedi cal y teitl na gyda prominent man mewn public meeting in a public hall pan oedd over a thousand people present, a fel ma chi gwbod ma D.D. yn signifyo lot, among other things ma fo signifyo “D---l Dwl.” Tyna honour i Wil nawr fydd cael rhoi D.D. ar ol i enw! Bydd chance iddo fe nawr i bod yn adjudicator mewn Isteddfods, yn conductor public meetings, a chairman concerts mawr, wath ma teitls yn mwy o help i dyn dod yn popular na abilities by far hefyd.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3961b) (01 Awst 1895)

 

 

Sami. — Wel, Joe, wyt ti wedi cal leshans i sharad heno, ond gad i fi weid gair nawr. Wdw i wedi bod lawr yn y wlad ar i'n holideis, ag fe gwrddes a hen bartner i ti no; wedd e wedi colli gariad, ag wen ni yn teimlo drosto fe ag yn treio'i gysuro fe. “Tut, paid hido,” medde fe, “fe rois i gystal cwpwl o regfeydd iddi hi a gas hi ariod.” “Regest ti ddim o heni wrthi os bosib,” meddwn inne. “Na,” medde fe, “wen i wedi mynd ddoi led cae o wrthi cyn hyny.” Ag wen i yn meddwl am hyny wrth ddarllen am rhywun yn mynd i un o bapyre Cardydd i drin yr iaith sy yn un o bapyre Merthyr. Fyse hi ddim yn ffitach iddo fe ddwad mas i ysgrifenu ar hyny yn y Merthyr Times, i chi'n meddwl?

 

Ned. — O, ma hyna just yr un peth a ma rhywrai sy yn erbyn y “Conffrens.” Ddewan nhw ddim mas i'r papur yn i'n herbyn ni, ond dewch chi iddyn nhw gal mynd i rhyw room naill ochor, a dyna lle ma nhw yn pitcho mewn iddi hi slogo'i chalon hi arnon ni wedyn, ag yn i'n galw ni yn “Wretched little gang of Nobodies” ag yn y blan, ond treiwch chi i cal nhw mas i'r gole!

 

Eik. - Na, ma’r hen foys yn i watchan hi na ddewan nhw ddim mas i'r gole, Fel gwedodd un o'u leaders i nhw wrtho i un tro, pan odd e yn trin y “Conffrens,” fe wedes i wrtho fe os oedd y “Conffrens” yn gwneyd cam a nhw am ddod mas yn y Times i gwrdd a ni. “Ah,” medde fe, “dyna beth i chi'n mofyn, rhen foys? Mofyn i ni ddod mas i ga1 gneyd sport am ein penau ni iefe?”

 

Dan. — Ma hyna yn dangos bod i hachos nhw yn wan iawn cyn bo nhw yn lwo gollwn ni neyd sport am i pene nhw. Dyna destun cân onte fe, boys? Nawr Joe, dere mlan.

 

Wil Sledgwr. - Dyna ddigon, boys: dropwch hi nawr: rych chi yn mynd yn rhy bell: ma digon hawdd gwbod bod Hen Simon yn dost ag yn ffaelu bod yma; ond os nag yw e yma, dyma fi yn rhoi'r damper arnoch chi, ag yn cyhoeddi fod y Conffrens yn tori lan am heno, a thama fi yn packo'r tools lan ag yn mynd i roi tro am “Betti Ffowc.”

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR, D. D.

 

O.Y. — Dyna stroke sy yndo i nawr, Mr. Golygydd, wedi cal teitl mor grand! Wy just bod yn rhy falch i nabod neb nawr. — WIL.

 

 

 

Text

Description automatically generated


(delwedd B1104a) (08 Awst 1895)

 

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

8 Awst 1895.

Y CONFFRENS.

 

Ianto. — Welsoch chi beth odd gyda Joe Hamersmith wrth ben drws ei shop yr wythnos ddywetha boys? “Politics are strictly prohibited in the Smithy this week.” Ma ishe i ninne neyd run peth yn y Conffrens hefyd, waeth ma'r Lecshwns wedi paso i gyd nawr, a fel ma'r adnod yn gweyd, “Ofer dadl wedi barn.”

Joe. - Ma ni proposo bo ni gadel y canu mas hefyd, wath ma ni gweld nad yw hi dim use i ni brago, na bounco, na challengo dim nawr. Gallwn ni gweyd nawr run peth a dyn wrth cneifo mochyn, “Great cry, but little wool.” Ma ni cofio, pan oedd Dan Davies gyda ni bod Dowlais yn prominent iawn yn y musical world. Wedd dynon y pryd hyny, os bysen nhw yn writo yn y papyre am Madam Patti yn i galw fe “Madam Patti, y Craig y Nos, near Dowlais. Ond nawr diw enw Dowlais dim gwerth i mentiono fe, a bydd hi trick i ni cal llythyr yn Dowlais mwy, os na bydd e wedi cal i rhoi ar yr envelope, “Dowlais near Merthyr.” A trw bod hi wedi troi mas fel mai, ma rhaid i ni cadw music mas o'r Conffrens mwy, hyd bo success yn dod i ni etto; trusto na bydd hyny dim yn hir iawn, ag y gallwn ni cal y chance etto i gario leader y Dowlais Choir o'r station dros y public street a cal procession crand gyda hi, hefyd. Ond os wedi colli gyda music, ma ni with pleasure yn congratulato bachan o weithwr o Dowlais ar i success yn yr Isteddfod, Mr. David F. Davies, Berry-square. Tyna bachan bach o collier, a bachan neis yw hi hefyd, bachan ma pawb sy yn nabod hi yn ffrind iddi; fe gweithodd i ffordd lan i cal scholarship yn yr University, a ma hi wedi paso i examinations yn grand at the end of his term. Mai credit bod bachan o weithwr wedi dod mas mor excellent, a dyma hi etto wedi enill prize o £5 yn yr Isteddfod, and the only one i cadw enw Dowlais lan, a ma ni wisho pob success iddi hi etto yn y future.

Hugh. — Felly finnau hefyd, a thyma fi yn ceisio rhoi fy nymuniad mewn penill —


Llongyfarchwn David Davies
Plentyn llafur, Cymro glan,
Hir oes iddo a phob llwyddiant
I fynd etto yn y bla'n;
Heulwen Ffawd fo arno'n gwenu
“Fynu'n uwch” y byddo'i nod,
Hyd nes byddo wedi cyrhaedd
I ben pinacl uchaf clod.

Un o honom ni yw Dafydd,
Un a fagwyd yn y lle,
Un sy'n mynd i fynu beunydd,
Rhoddwn iddo dair Hwre.

Oll. — Hip, hip, hip hwre, &c.

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B1104b) (08 Awst 1895)

 

Hen Simon. — Wel fechgyn, mae yn dda iawn gyda ti fod yma, gyda chwi heno etto, a'ch clywed yn siarad mor barchus am un o'ch cydweithwyr sydd wedi ymddyrchafu mor uchel. Gobeithio y bydd hyn yn symbyliad i chwithau i ymdrechu. Fechgyn anwyl, cymerwch gyngor gan henafgwr profiadol sydd yn dymuno eich lles. Dilynwch ei esiampl. Yn awr yn nhymor ieuenctyd yw yr amser goreu i chwi os am enill safleoedd pwysig yn y byd. Ieuenctyd ydyw y tymor goreu i droi y meddwl i'r sianel iawn. Ieuenctyd yw y tymor goreu i'w droi i'r llwybr sydd fel y goleuni yn disgleirio fwy fwy hyd ganol dydd. Os trown yn ol i chwilio tudalenau hanesiaetb, a bywgraphiadau enwogion, cawn fod y rhan fwyaf o honynt wedi cyflawni eu gorchestion yn ieuanc. Nid oedd Alexander Fawr ond 33 mlwydd oed pan fu farw, wedi gorchfygu yr holl fyd adnabyddus. Gorchfygodd Buonaparte Itali pan yn 25 oed. Bu farw Raphael pan yn 37 oed. Enillodd Luther Germani at y Diwygiad Protestanaidd pan tua 35 oed, a dechrcuodd Melanethon ei amddiffyn pan yn 21 oed. Dechreuodd Whitfield a Wesley ddiwygiad y ganrif ddiweddaf pan yn fyfyrwyr yn Rhydychain, ac yr oeddent wedi cynhyrfu rhanau pwysicaf Lloegr cyn eu bod yn 24 oed. Cafodd Byron ei hun ar ben pinacl uchaf anrhydedd llenyddol pan yn 24, a chyfansoddodd Goldsmith rai o'i brif weithiau pan yn ieuanc iawn. Yr oedd Golyddan wedi pasio ei M.D., ac wedi cyfansoddi ei arwrgerdd “Iesu” (prif ddernyn ei oes) pan yn 23. Gallasem enwi Eben Fardd a lluaws ereill pe bai amser yn caniattau, and y mae yr engreifftiau a nodwyd yn ddigon.

Joe. — Oud ma rhaid i ti considro, Simon, bod poverty yn stumbling block ar ffordd gweithwrs i dod mlan a gneyd mark fel yna. Ma fe wedi cadw lot lawr, a byse wedi cal honour o cal i claddn yn Westminster Abbey, ta nhw cal fair play; ond yn lle hyny wedi cal y claddu mewn desolated spot mewn rhyw country churchyard heb cymynt a careg i dangos i bedd nhw. A galler gweyd am denyn nhw run peth a gwedodd Thomas Gray, yr English poet:


Perhaps in this neglected spot is laid
Some heart once pregnant with celestial fire;
Hands that the rod of empire might have swayed,
Or wake to ecstacy the living lyre.

But knowledge, to their eyes, her ample page,
Rich with the spoils of time, did ne’er enroll;
Chill Penury repressed their noble rage,
And froze the genial current of their soul.

Beth ma ti gweyd am hwna Simon?

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B1104c) (08 Awst 1895)

    

Hen Simon. — Wel, nid wyf fi yn amheu dim nad yw tlodi wedi cadw llawer un yn mro dystawrwydd. Mae yr anfanteision a ddygir ganddo yn ormod i lawer un i'w gorchfygu. Cleddir ef dan y tonau, a sudda i waelodion môr anghof. Ond o’r ochr arall, os bydd dyn yn feddianol ar ddigon o benderfyniad a’i dyfalbarbad i orchfygu yr anhawsderau sydd yn nglyn a thlodi, gellir dweyd fod manteision yn deilliaw oddiwrtho. Y mae tlodi yn un o'r prawfion goreu at ddyn ieuanc, ac y mac genym engreifftiau gogoneddus i'r cyfeiriad yna eto. Meddyliwch am y diweddar Arlywydd Garfield) yr hwn a ddyrchafodd o'r caban coed i’r Ty Gwyn. Dyna Richard Savage, yr hwn oedd mor dlawd fel yr oedd yn gorfod casglu darnau budron o bapyrau ar hyd yr heolydd i ysgrifenu ei fcddyliau arnynt. Bloomfield, y bardd Seisnig, oedd fab i deiliwr tlawd. Alexander Wilson oedd wehydd tlawd, ond a ddeallodd y llwyth adaraidd yn ol eu lliwiau a'u maintioli yn gyflawn. Andrew Fuller oedd fab i dyddynwr. John Buuyan oedd fab i dincer, a bu yn dilyn y grefft ei hun am flynyddoedd. William Carey oedd grydd dinod. Ond does dim eisieu pentyru engreifftiau, ac nid oes genyf ddim yn well heno na'ch cynghori i ddarllen hanes dynion da fel y rhai a enwyd. Teifl hyny ysbrydiaeth u’ch calonau, a ffurfiant ynoch benderfyiad i fod yn rhywbeth, a phrofa yn eglur fod yn bosibl cyrhaedd y graddau uchaf o hunan-ddiwylliant a gwybodaeth trwy lawer o rwystrau.

Hugh. — Ardderchog, Simon, yn wir dyna sylwadau bendigedig. Hanes torcalonus yw hanes bywyd llawer o'r dynion galluocaf. Ddarllenasoch chwi lythyr Joe Hammersmith yr wythnos ddiweddaf am Goronwy Owen? Yr oeddwn i yn teimlo i’r byw wrth ei ddarllen, beth bynag, ac hefyd yr oedd yn dwyn i'm cof am fardd arall a gafodd waethaf y byd, sef Twm o'r Nant, yr hwn a ganodd Farwnad iddo ar y pedwar mesur ar hugain. Rhoddaf engraifft neu ddwy o honi: —


Llong oedd e garie'n gywren — bell drysor
O bwyll draserch awen;
Gronwy graff, haul-braff, hwylbren
A llyw’r beirdd, llew aur ei ben.

Ca'dd awen burwen yn berwi, — a than
Doethineb Duw ynddi;
Seraphin, roes er hoffi,
Farworyn yw henyn hi.
Afiaeth goleddwr, Ow! Ow! fe'th gladdwyd
Piler iaith wreiddiol, Ow! pa le y'th roddwyd?

I fwth ogof angau fe'th gyfyngwyd,
Dan do dir estron, d'awen di rwystrwyd;
Och! fwyn Ronwy, na chyfranwyd — it' fedd
Rhyw fynwent Gwynedd, ar faint a ganwyd.

Phil. —Wel! Wel! Twm o'r Nant oedd hwna iefe? Own i wedi arfer credu taw rhyw ffwl o fardd oedd Twm, ond nawr rwy a chwant cal rhagor o'i hanes e, a chan i bod hi yn mynd yn ddiweddar heno, fe garwn i gynyg i gal tipyn o hanes Twm o'r Nant y tro nesaf, os i chi, boys. yn cydweld.

Felly y cydunwyd.

Dros y Conffrens,

WIL SLEDGWR, D.D.

O.Y. — Mr. Golygydd, dyna falch wy ar y Diploma newydd. Wy just a mynd i rhoi nhw o flan i'n enw yn lle ar i ol e, gyda cymynt wyn feddwl am denyn nhw. – WIL.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated


(delwedd B2102a) (22 Awst 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

22 Awst 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Mocyn. — “Circumstances alter cases,” onite boys? Ag mae rhaid i ninau roi fyny heno i gael rhagor o hanes Twm o'r Nant, fel own ni wedi meddwl, a'i bosbono fe hyd rhyw amser mwy cyfleus. Rhaid mynd miwn heno at bwnc y Registro yma, waeth dyna fel wy yn gweld y Political Parties yr wythnosau hyn. Run ninau wedi bod mor fyshy gyda nhw yr wythnos ddywetha yn chwilio am y voters colledig, nes bo ni yn ffaelu cwrgd [sic; cwrdd] a'n gilydd fel “Conffrens” o gwbl; a chan bo ni wedi cwrdd heno beth ta ni yn cal tipyn o beth ma'r gwyr tai cwrdde ma yn alw yn gwrdd eglwys ar bwnc y backsliders o'r Conffrens. Ag nawr Wil wy yn galw arnat ti alw eu henwau nhw mas.

 

Wil Sledgwr. — Y cynta sy gyda fi alw yw Wat. Dw i ddim wedi weld e os cetyn.

 

Sami.- — Wdw i wedi weld e sawl gwaith, a bo tro pan bo fi yn gofyn iddo shwt mai e, atebith e ddim o hono i, ond codi ben a gneyd rhyw hen dagell fowr r'un peth yn gowyr a dafad yn Clefyd y Pwd. Ond byse fe ddim ond ateb fel arfe[r] fysen i ddim yn gwbod dim bod e wedi pwdi.

 

Twm. Wel, fe gweles ine fe un noswaith hefyd, a fe ofynes i yn serchus reit iddo fe, “Shwt mae heno, Wat?” Ond atebodd e ddim nol, ond cwni i ben lan, a cau'i chops yn gwmws fel se fe wedi cal y lock-jaw; ag off ag e heb ddishcwl arna i, ag yn dalai hunan mor stiff a byse fe wedi llyncu pocer.

 

Cad. — Ma rhaid i ni apwyntio dau i fynd i sharad ag e.

 

Wil Sledgwr. — Y nesa sy gyda ni yw Shoni. O dear, ma Shoni wedi mynd i rhyw gyffwr rhyfedd iawn. Mae e wedi laru yn deg ar y “Merthyr Times.” Mae e yn ffaelu dyall ffor ma'r Editor yn gadel i shwt fwnci o sgrifenwr a Joe Hammersmith i hala dim miwn i'r “Times,” wath mae e yn ysgrifenu mor ddibwynt, medde fe, a “Bachan Ifanc” y Darian;” ag odd e yn gweyd wedyn am Wil Sledgwr taw dyn drwg yw e, nad yw e ddim yn amcanu at ddim yn y byd ond ymosod ar personalities o hyd. (A fe wedes i wrtho fe nag oedd e ddim yn dyall y “Bachan Ifanc,” na “Joe,” na “Wil,” ag nag own i ddim yn gweld dim yn bersonol gyda Wil un amser, ond trin egwyddorion o hyd. Ag os odd personau yn cal eu clwyfo, ta nid bai y Conffrens oedd hyny. Doedd dim eishe i neb wisgo'r cap os nag odd e yn i ffito fe.

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B2102b) (22 Awst 1895)

 

 

Joe. — Gnetho ti gweyd eitha reit wrthi hi. Ond ma gyta fi charge yn erbyn tair o members. Ma nhw wedi tynu disgrace arno ni, a weti troi mas yn “nondescript loafers,” a tyma nhw: Phil, Jack, a Ned. Odd cousin i Phil a Jack yn priodi yr wsnos dywetha a barmaid y Broomstick Arms, ag odd uncle iddo nhw weti dod lawr o England rhwle i'r wedding; a tyma nhw wedi tynu Ned gyda nhw, a off a nhw. A tyna lle buon nhw enjoyo, a cyn dod nol tyma nhw yn mynd at rhyw gentleman arall a gweyd bo nhw blongid iddi hi hefyd, a bo nhw wedi cal present crand gyda Unde D---, a bo nhw erfin cal rhwbeth gyta hi hefyd. Ond ceso nhw dim yno, dim cymynt a talu train fare nhw nol. Ag ma nhw yn meddwl nawr bod y cousin yn dod i catw tafarn yn Bryn Mwg, a ma nhw gweyd gnan nhw uso influence i cal y Conffrens i cwrdd yno.

 

Dan (yn canu). - O, Joe, the boat is going over.

 

Hen Simon. — Wel, fechgyn, mae yn ddrwg iawn gyda fi glywed am ymddygiadau anheilwng y Conffrens. Dwy i ddim yn synu dim i glywed am Phil a Jack, waeth dyna eu hen arfer nhw. Ond yr wyf wedi cael fy siomi yn aruthr yn Ned. Bachgen tawel hollol ddiddrwg yw e wedi arfer bod, ac o’r braidd yr wyf yn gallu credu am dano y tro hwn. A phan y caf gyfle arno byddaf yn gofyn y cwestiwn iddo, “A hudwyd tithau hefyd?” Yr oeddwn yn meddwl pethau gwell am dano; ond dyna, tebyg yw fy mod wedi cael fy siomi ynddo, a rhaid credu fod y cwmni gwleidyddol drwg y mae wedi syrthio iddo yn ei niweidio, a’i fod yntau druan ar y Down Grade. Ond dewch i ni gael treio ei adenill eto, er ei gael yn ol i'n plith. Ond fechgyn anwyl, carwn wasgu un peth at eich meddyliau. Peidiwch byth ag ymosod ar neb o'r tu cefn. Os oes genych rhyw gyhuddiad yn erbyn unrhyw un o’r Conffrens, ewch atynt yn bersonol a dywedwch wrthynt yn eu gwynebau, fel y gallont gael cyfle amddiffyn eu hunain. Llwfrgwn yw y sawl a ymosodant ar neb o'r tu cefn. Dyma'r cynghor rwy am i chwi gofio bob un o honoch. Os byddwch wedi gweled rhai o'r bechgyn wedi troseddu, cofiwch y ffaith mai dynion ydynt fel chwithau; ie, fel y dywedodd y bardd:

 

“Brodyr o un bru ydym.”

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B2102c) (22 Awst 1895)

 

Cofiwch taw hen arferiad dlawd yw cnoi a thraflyncu eich gilydd, ond ewch at y troseddwyr, ac os methwch eu hadenill trwy ymresymu a hwy ar dir teg a rhesymol, yna dewch a'n hachosion o flaen y Conffrens. Creadur i ymresymu ag ef yw dyn, a cham mawr ag unrhyw un yw ceisio ei guro a'i bardduo yn ei gefn.

 

Ianto. — Well done, Simon, mae rhyw sense gyda ti o hyd. Rown i yn teimlo yn ofnadw yr wythnos ddywetha wrth weld llythyr blagardaidd un o gynghorwyr Merthyr mewn papyr newydd Toriaidd. Peidiwch chi meddwl taw Tori w i achos mod i yn darllen papur Tories, ond wy yn leico profi pob peth, a treio dala yr hyn sydd dda. Mae yr ysgriblwr hwn wedi gadael papyrau poblogaidd Merthyr, a hela mewn i rhyw bapyr bach o Pontypridd i ymosod mewn ffordd flagardaidd ar rai o fechgyn Dowlais. Ffwl fyddai unrhyw ddyn a elai i godi corff marw o'r bedd, a mynd ag e i gornel y fynwent i wado fe am nad oedd e ddim wedi bleso fe. Gan fod pwnc y dwr wedi paso, a bod rhaid i ninau dalu am dano, gadewch i ni gal dwr glan nawr, ag alla i ddim a godde gweld neb yn rhedeg a treio towli baw a llaid a llaca iddo. Os talu am ddwr glan, gadewch i ni gal dwr glan. Os yw ffrwgwd y Water Bill wedi marw, gadewch i ni gael ei gladdu e, ac ysgrifenu “Rest in Peace” ar ei fedd e.

 

Harri. — Gadewch i ni gael newid ymadrodd nawr boys. A wyt ti Wil yn mynd i dderbyn y teitl ma Joe Hamersmith yn roi i ti yr wtlinos ddywetha.

 

Wil Sledgwr. — Wel wdw i ddim yn dyall beth mae e yn feddwl wrth roi teitl i fi, pun ai o barch mae e yn ei hinto fe, ynte odi e yn meddwl bod hi yn bryd i ti roi'r ffidl yn y to, a meddwl yn ngwni i ar y shelf naill ochor ru'n peth a ma nhw yn gneyd a gwyr mawr wedi mynd nad i'n nhw ddim yn dda i ddim. Rwyn gwrthod, Mr, Joe, i gal i'n nghwni i'r Peerage, wrth cha i ddim bod yn mysg y Commons wedyn. Wy yn mofyn cal bod yn instrument defnyddiol tra bo fi yn cal yn ngadael yma, ag nid i'n rhoi i mewn cage yn y British Menagerie. Free lance wy yn mofyn cal bod, ac nid ornament yn yr useless chamber. Rwy am gal gweyd un gair wrthoch chwithe, fechgyn. Pan bo chi yn sharad yn y Conffrens, byddwch yn ofalus beth i chi yn weyd, fel na bo eishe i neb o honoch chi hala ar i'n hol i bore trenoth i ofyn beth wy wedi reporto, waith i'n ffordd i'n hunan fyna i fel reporter. Dos dim ots gyda fi faint o niwed wna i i'r Conffrens, a dos dim ots gyda ti ddim taten taw ni yn cal i'n nhroi mas gyda chi, a gorfod mynd i edrych am job i rywle arall. A cofiwch nawr, dyma ti yn rhoi adnod i chi ar y pwnc: “Meddyliwch ddwy waith cyn dweyd unwaith,” a chofiwch hefyd taw'r peth sy i fod dan sylw y tro nesa yw yr Annual Turn-out sy i fod yr wythnos nesa.

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR, D.D.

 

O.Y. — Rwy yn mynd i roi'r teitl i gadw mewn drôr ar ol y tro hyn, rhag ofon i spwylio fe, hyd nes bo lecshwn yn dod eto. — WIL.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3960a) (29 Awst 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

29 Awst 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Phil. — Dere mlan yn rhwydd, Wil, ma llythyr yn waitan i ti ar y ford.

 

Wil Sledgwr. — Dyma fe hefyd, boys, a mae e wedi cal i addresso yn grand hefyd —

 

To the Right Honourable

Wil Sledgwr, D.D.,

Lord Jilyfalog of Dowlais Top.

 

Dan. — Beth yw e, public neu preifat?

 

Wil Sledgwr. — Public.

 

Oll. — Mas ag c ynte.

 

Wil Sledgwr. — Gosteg yn y llys ynte. Dyma fe: —

 

Twmpyn Gwyddon,

Awst 23ain, 1895.

 

FY ARGLWYDD, Rhynged bodd i'ch urddasolaf ac ardderchocaf Arglwyddiaeth i dderbyn oddiwrthyf y gân ganlynol, ar Fesur “Wmffra Huws.” Cefais fy nhemtio i'w chyfansoddi ar ol darllen llythyr y “Bachan Ifanc" yn y Darian yr wythnos hon, yn yr hwn y mae yn cyfeirio at yr anghyfartaledd rhwng cyflogau y "sowdjwrs" cyffredin a'r "officers,” a chan nad wyf yn gwybod cyfeiriad y "Bachan Ifanc." Yr wyf yn ei danfon I chwi gan obeithio y bernir hi yn dcilwng o gymeradwyaeth y "Conffrens,” ac yr anfonwch hi i'r Merthyr Times, fel y gallo y “Bachan Ifanc" gall [gal] cyfleustra i'w gweled. Crcdwyf ei fod ef fel pob dyn call arall, yn darllen eich gohebiaethau aruchel a chlasurol yn y newyddiadur hwnw. Meddaf yr anrhydedd o fod, fy Arglwydd, y mwyaf ufydd a’r mwyaf gostyngedig wasanaethwr i'ch Arglwyddiaeth.

 

CROPYN EITHYN.

 

PA LE MAE EIN RHAN?

 

Ar ddydd yr etholiad mae cynhwrf a swn,

A llawer yn rhedeg oddiamgylch, fel cwn,

Ar ol yr etholwyr, i'w cymell i’r lan,

I roddi eu pleidlais, a gwneuthur eu rhan.

 

Rol cael y dyfarniad ac enill y dydd,

Bydd pawb am yr uwchaf yn bloeddio yn rhydd;

Ond daw cyfnewidiad mawr yn y man,

Pan ddeuaut i ofyn, “Pa le mae ein rhan?”

 

Aiff rhai o'r ringleaders i gwrdd a'r gwr mawr,

Bydd yntau yn cashio yr arian i lawr;

Ac yna'n llechwraidd hwy ant i ryw fan,

I drefnu yn ddirgel, pa faint yw eu rhan.

 

Hwy ront eu pum punnoedd o'r neilldu yn rhwydd,

Gan wenu'n galonog wrth wel'd y fath lwydd;

Ond dacw'r rhai ereill yn dyfod i'r lan,

Gan uchel grochfloeddio, “Pa le mae ein rhan?”

 

A hwythau'r llwynogod, yn orlawn o dwyll

Ofynant am osteg, a chydig o bwyll,

Fod gobaith eu helw yn myned yn wan,

Caent bedwar o sylltau, a dyna eu rhan.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3960b) (29 Awst 1895)

 

 


Ond ow! dyna gynwrf! rhyw newydd fel hyn,

Syn peri i'r bechgyn i deimlo yn syn,

Eu lleisiau ddyrchafant yn uwch, uwch i'r lan,
“O'r gethern dwyllodrus, pa le mae ein rhan”?

 

"Ni fuom yn gweithio o foreu hyd hwyr,

Er cael yr etholwyr i fyny yn llwyr,

A rhedeg oddiamgylch nes myned yn wan

A'n crysau yn wlybion, a ble mae ein rhan?

 

"Collasom ni hefyd ddiwrnodau o waith,
O herwydd cael anwyd mewn tywydd mor llaith, A gwawdir ni’n arw yn mhob man,

Fel ffyliaid gwallgofus, a ble mae ein rhan?

 

“Bwriadem yn sicr gael mis o ddwr mor,

A chan nad oedd genym ni godaid yn stor,

Gobeithiem gael cymorth i'w chwyddo i'r lan,
Ond ow’r siomedigaeth! pa le mae ein rhan?

 

“Y ni gadd gyflawni y bryntwaith i gyd,

Y ni wnaeth wrthsefyll y storm ar ei hyd,

Y ni gadd y dirmyg a'r gwawd yn mhob man,

Y ni wnaeth y cwbl, ond ble mac ein rhan?”

 

“Y bosses ymffrostgar sy'n derbyn y clod,

Ar rhai fu’n gwneyd leiaf gadd bum punt i'w côd,

A ninau yn methu cael pum swllt i'r lan,

Wel, teg ydyw gofyn, pa le mae ein rhan?"
Ow! fargen mor sâl!
Ow! fargen mor sâl!

Bod "sowdjwrs” yn derbyn mor lleied o dâl.

 

CROPYN EITHYN.

 

Shoni. — Wel, myn brain, boys, ma hona yn dda, a chan ein bod ni wedi meddwl siarad am y turn out geso ni, ma gyda fi gân ar tune y “Mochyn Du," wy wedi neyd i'r lot o hono ni ath i Bont Nedd Fechan. Wrth gwrs, ma Joe yn mynd i neyd cân i'r lot ath i

Ystradfellte ar ol cal yr hanes yn llawn pwy oedd y rhai gwmpodd i'r afon wrth gario'r merched yn gro's wrth ddod nol o'r caves. Ond dyma nghân i yn barod, a fe cana i ddi os joinwch chi i gyd yn y chorus: -

 

Ar rhyw foreu yn ddiweddar,

Gwelwyd torf o ienctyd hawddgar,

Mewn llawenydd yn dod allan,

I fyn'd ffwrdd i Bont Nedd Fechau.

O mor llon yr oeddem ni,
O mor llon yr oeddem ni,

Ar ein taith i Pont Nedd Fechan.

 

Wrth siop ddillad roedd dau gerbyd

Wedi dyfod i'n cymeryd,

Llanw rhai a wnawd yn union,

Paub yn teimlo'n ysgafn galon.
O mor llon, &c.

 

Yn y cyntaf gyda'r dreifar,

Yn ymddangos fel dan gaffer,

Yr eisteddai dau o'r bechgyn

Yn gysurus anghyffredin.
O mor llon, &c.


Oddi fewn roedd tair o ferchcd,

Wrth eu gwenau gcllid gweled,

Bod hwy'n teimlo’n gysurus,

Gyda’r cwmni llon dyfyrus.
O mor llon, &c.

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3960c) (29 Awst 1895)

 

Torf o fechgyn ydoedd yma,

Pawb yn canu am y llona,

A Wil Sledgwr, clerk y Conffrens,

Yn eu plith yn siarad nonsens.
O mor llon, &c.

 

Yn yr ail roedd glan rianod,

’Nghyd a'r carver gyda'i briod;

Hefyd gwelid ambell fachgen,

Yma’n llon yn nghwmni'i “wedgen."
O mor llon, &c.

 

Yma roedd ein lidar medrus,

Bron a dotio gyda'r ledis;

Ei brif ymdrech ef o'r cychwyn

Ydoedd cadw rhain i chwerthin.
O mor llon, &c.

 

Roedd y nen yn dra chymylog

Yn arwyddo diwrnod gwlawiog,

A chyn cyrhaedd pen y mynydd

Cafwyd amryw o gawodydd.
O mor llon, &c.


Ond yn mlaen yr aem yn llawen

Hyd nes dod i bentref Hirwen,

Lle'r aroswyd rhai mynydau,

Am refreshment nol yr eisiau.
O mor llon, &c.


Oddiyno gwnawd ail gychwyn

Hyd ffordd noethlwm dros y Comin,

Nes dod lawr i ddyffryn ffrwythlon

Pawb yn teimlo'n llon eu calon.
O mor llon, &c.

 

Trwy Glyn Nedd yr aem dan ganu,

Pawb a'u lleisiau'r [lleisiau'n] dal heb grygu,

Nes cyrhaeddyd ein harosfan

Yn nhawelwch Pont Nedd Fechan.
O mor llon, &c.

 

Mewn yn gryno awd i’r gwestdy,

Lle roedd byrddau wedi'u trefnu;

Dacw'r bechgyn yn llawn gwenau

'N cario'r bwyd i fynu'r grisiau.
O mor llon, &c.

 

Dacw'r merched mewn hwylusdod

Nawr yn hulio'r byrddau'n barod;

Yntau'r carver parod medrus,

Dorai'r hams i fynu'n ddestlus.
O mor llon, &c.

 

Daeth yr alwad, “Bwyd yn barod,”

Pawb ar unwaith sydd yn dyfod;

Ac mae'r merched oll mor serchog

Nawr yn bwydo'r rhai newynog.
O mor llon, &c.

 

Yma cafwyd gwledd ragorol,

Pawb yn cael eu gwala'n hollol

Roedd yr ymborth o’r rhagora,
Oddiwrth frawd o Balaclava.
O mor llon, &c.

 

Yna ar ol llwyr ddigoni,

Aethom allan i bleseru;

Yn llechwraidd ai'r cariadon
Oddiwrth y cwmni’n union.
O mor llon, &c.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3960d) (29 Awst 1895)

 

 

Ond fe welodd rhai yn addas

I fyn'd mlan i "Quar y Ddinas;”

Awd yn mlaen hed neb yn llwfwr

Hyd nes dod at bydew dwfwr.
O mor llon, &c.

 

Fe aeth rhai i dreio codi

Chydig bach o'r dwr i fynu;

Dyma floedd yn treiddio'r dyffryn,

Hyd nes llanw pawb a dychryn.

O'r fath arswyd gawsom ni, &c.

 

“Beth oedd yma," gwraig yn galw,

Ac roedd ami olwg arw;

“Off a chi, y sêt aflonydd,

Ni biar pwmp, gadewch e'n llonydd."
O'r fath arswyd, &c.

 

Ar ol gwella o effeithiau

Screch fu bron a hollti'r creigiau,

Aethom mlaen mewn modd hamddenol

I weld golygfeydd arddunol.
O mor llon, &c.

 

Ar ol syllu a rhyfeddu

Ar ol y golygfeydd o'n deutu,

Dringo lan i ben y creigiau,

Disgyn wedyn i'n hystlysau.
O mor llon, &c.

 

Gweld yr afon yn ymgolli

Yn y creigiau wnai ein synu,

A'i gweld etto, yn mhen amser,

Yn ymgodi yn y pellder.
O mor llon, &c.

 

Y mae yma rhyw aruthredd,

Effaith rhyw gynhyrfiad rhyfedd,

Barodd i hen esgyrn anian

Gan y cynhwrf dori allan.
O mor llon, &c.

 

Ond rhaid gado'r lle rhamantus,

A dod nol am ymborth blasus,

Ac yn swn “Hen Wlad fy Nhadau”

Rhaid yw cychwyn tuag adrau.
O mor llon, &c.


Ond rhaid credu'r dwediad hwnw,

“Nad yw'r melus heb y chwerw:”

Mae'r gwlawogydd yn cynyddu,

Ninau nawr yn dechreu gwlychu.
O mor llon, &c.

 

Y mae’r gwlaw yn dod yn drymach,

Ninau'n mynd yn wlypach, wlypach,

Mae'r ceffylau yn diffygio,

Gan y daith, a’r gwlaw’n eu curo.
O mor llon, &c.

 

Pan gyrhaeddwyd nol i Ddowlais,

Y mae pawb yn dal y. fantais,

I fynd tua'r tai yn union,

Er mwyn tynu’r dillad gwlybion.
O mor llon, &c.

 

Ond er gwlychu gan wlawogydd,

Cawsom bleserdaith ysblenydd:

Pawb o'r "Conffrens” sy’n dymuno

Am ei bath yn fuan etto.

O mor llon yr oedden ni, &c.

Ei bath yn mhob peth ond y gwlaw, cofiwch.

 

Wil Sledgwr. — Well done, Shoni, dyna gân ddesgrifiadol o'r daith. Os ceson ni ein glychu, fe fuon ni yn mwy lwcus na'r lot arall; gwlychu wrth ddod sha thre geson ni. Fe ffaelson fod gyda’n gilydd i gyd ar y turn out, ond beth tan ni meddwl am gal swper heb fod yn hir? Ond fe adewn y mater heno, am ei bod hi yn mynd yn ddiweddar.

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3963a) (05 Medi 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

5 Medi 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Shoni. — Wel, fechgyn, run i wedi bod yn son yma am gael typyn o hanes “Twm o'r Nant.” Rwy wedi clwed show o storyhais am dano eriod, pun a odyn nhw yn wir na beidio. Mae un o honyn i nhw rhwbeth yn debyg i hyn. Fe wedir i fod Twm un tro yn gorwedd lawr ar bwys cae iawn [sic; = llawn] o wenith, a bod rhyw ffeiriad wedi dod heibio, a hwnw yn meddwl cal y trecha ar Twm, fe wedodd: -

 

“Dyna foreu braf dymunol,

Y mae'r haul yn gwenu'n siriol,

Pob peth o'm cylch sy'n hardd ei lun

Ond bywyd dyn annuwiol.”

 

Ond dyma Twm i'r lan ar unwaith. ag yn ei atteb e fel hyn: —

 

“Dyma gae o wenith gwrol,

Sydd yn tyfu fynu'n raddol,

A’r ddegfed ran gaiff fyn'd i ma's,

I gynal gwas y diafol.”

 

Mocyn. — Doedd Twm yn fawr iawn o ffrynd i'r ffeiriadon, a doedd y ffeiriadon ddim yn ffrynd iddo yntau hefyd. Fe glwes innau i fod e un tro wedi cwrdd a ffeirad, a fe ofynodd hwnw iddo fe beth oedd ei farn e am a gwahanol enwadau. “O,” medde Twm, “dyna marn i ar y cwestiwn. Ma'r Indipendiaid yn crynhoi'r defaid at i gilydd, y Wesleyaid yn gofalu am denyn i beidio cwmpo a thori coesau, y Methodistiaid yn pigo rhai gore mas o henyn nhw, y Baptist yn golchi nhw, a'r ffeiradon yn cnifo nhw i gyd.’

 

Sami. — Fe glywes innau stori am dano fe hefyd, pan oedd e lawr yn rhyw bart o Shir Gâr yn halio cwed; bod e wedi meddwi, ac yn cysgu yn rhondyn yn claish y claw, a bod rhewin wedi dwad atto fe a gofyn iddo fe, “Helo Tomos Edward, chi sy man hyn?” a dyma yntau yn ei atteb e fel hyn: -

 

“Thomas Edwards yw fy enw

Ond “Twm o'r Nant” gwna cant fy ngalw.”

 

“Wel Thomas Edwards bach,” medde'r dyn, “Shwt dethoch chi i’r shôp hyn?” O,” medde ynte nol yn y fynyd: -

 

“Y brandi coeb godymodd gant

Rows ergyd teg i “Twm o’r Nant.”

 

Hugh. — Llawer iawn o chwedlau sydd wedi cael eu deyd am yr hen gymeriad rhyfedd, a llawer iawn o ddirmygu sydd wedi bod arno, yn enwedig gan offeiriaid, ac y mae llawer heddyw yn ceisio cadw cyfansoddiadau penigamp y cawrfardd hwn o afael y werin am fod ei chwaeth yn rhy iscl, meddent hwy. Ond y gwirionedd am dani yw hyn: yr oedd Twm yn elyn anghymodlawn i Ddefodaeth Eglwysyddol, a sectyddiaeth benboeth, ac yr oedd bob amser ar ei eithaf yn dinoethi twyll a rhagrith. Dyfynaf benill neu ddau allan o gan faith o 20 penill sydd ganddo ar “Ddallineb Eglwys Loegr.”

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3963b) (05 Medi 1895)

 

Y seremoniau sy ar eu 'menydd,

Yn llygru'n llawn ei dawn a'i dennydd,

Hi aeth o Fabilonaidd lanw,

Fael anfuddiol fel yn feddw,

Hi ydyw 'sywaeth Laodisea

Eglwys ddioglyd.

Llyn tro ehud, yn llawn traha;

A'i bugeiliaid aeth (os gweli)

Yn fleiddiaid creulon,

Neu gwn mudion, di-rwymedi.

 

 

Y gweinidogion mawraidd dioglyd,

Sydd yn cynnwys Eglwys waglud;

Eisiau edrych at y winllan,

Mae chwyn ac efrau'n codi allan;

Eiriau gweithwyr ffyddlon dyfal,

I'r cynhaua;

Ond mae rhain yma mor anaml;

Crist a'i nerth i ni'n gynorthwy,

Hebddo genym,

Diau'r ydym'n anghym'radwy.

 

Nid mewn sect na pharti o ddynion,

Offeiriadau nac esgobion;

Gwyr y cwrdd na neb sy'n cerdded,

Mae Eglwys onest heb gamsynied;

Ond lle bo Crist i'th wir oleuo,

Dos a disgwyl,

Galon anwyl, a glyn yno,

Na orphwys ddim ar un cyflawniad,

Heb iawn wirioncdd,

Effro, i'th cyrredd, o ffrwyth cariad.

 

Dyna tri phenill i chwi, fechgyn, a dichon fod pethau fel yna wedi tynu llawer o elynion i Twm. Gwir yw ei fod yn arfer iaith noeth, yn galw pobpeth wrth ei enw mwyaf cyfarwydd. Nid oedd Twm yn perthyn o gwbl i'r pregethwr hwnw a osodai uffern allan “fel y lle hwnw nad oedd gweddeidd-dra ddim yn caniattau iddo ddweyd ei enw.” Na, galwai ef bobpeth bob amser with ei enw adnabyddis, ac felly hawdd i'r rhai ag oedd yn cael eu blino gan ei syniadau oedd codi'r cri fod ei chwaeth yn isel. Cofiwch nad wyf fi ddim yn cymeradwyo pobpeth yn hanes Twm. O na, pell iawn wyf o hyny; ond ei weithiau gorchestol, trueni ydyw na fyddai y wlad yn gwybod rhagor am danynt. Ond os darfu llawer ei anwybyddu nid felly y gwnaeth pawb. Nid yw fel llawer o brif lenorion y genedl wedi cael ei adael yn hollol ddisylw, heb gymaint a chareg i nodi “man fechan ei fedd.” O na; os byth y digwydd i chwi fyned i fynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych, cewch weled ei fedd faen ac arni y canlynol wedi ei gerfio: - “Here lieth the body of Thomas Edwards, of Nant, the Cambrian Shakespeare, with his wife and four of his daughters. Died April 5, 1810, aged 71.” Ar yr ochr arall i'r maen, y mae y geiriau “Llyma y Claddwyd” i'w gweled, wedi ei cerfio ganddo ef ei hun; bwriadu ei gorphen hyd at osod y dyddiad i lawr; ond torwyd ei hoedl cyn hyny. Oddifewn i'r Eglwys y mae maen mynor wedi ei osod i fynu er coffadwriaeth am dano gan Gymdeithas Cymrodorion Dinbych, ar yr hwn y mae y ddau englyn canlynol i'w gweled: —

 

Gair da roi i gywirdeb - yn benaf;

Ni dderbyniau wyneb;

A rhoi sen i drawsineb,

A'i ganiad yn anad i neb.

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3963c) (05 Medi 1895)

 

Er cymaint oedd braint a bri — ei anian
Am enwog farddoni,
Mae'r awen a'i hacen hi,
Man tawel yma'n tewi.

Joe. - Ma ni ddim gweld dim bysnes gyda hi I smallo church at all. Ma ni cretu bod hi quite right i ni cal talu tithes at y Church, a mai right i'r State i backo hi lan, ta dim ond y temporal good ma hi gneyd, heb son dim byd am y spiritual. Ma chi cofio faint costus hi i ni amser y strike bach hyny i ca'l soldiers, ma a gweled hi mor handy ma hi i'r State a dishcwlwch faint o expense bydd e safio i'r country yn y long run.

Hen Simon. - Mae'n ddrwg gyda fi dy alw di i order, Joe. Waeth wyt ti ddim yn dyall y pwnc heno. Mae'n rhaid ti gyfarwyddo mwy a'r Gymraeg cyn y deui i ddeall beth sy gyda ni heno. A rhag ofn i chwithau, fechgyn, gamsynied fod Twm yn elyn i grefydd, wrth fod e'n trin Defodaeth, fe adrodda i ddau benill i chwi o un o'i garolau, i ddangos i chwi beth oedd syniadau Twm am grefydd: -

O ceisiwn, cariwn ffrwythau cariad
Mewn gwir amlygiad llwyr;
Gwyliwn ado'r dydd enwedig,
Mewn rhyfyg yn rhy hwyr
Wele'r cariad pur yn curo
Wrth ein drysau — ond nawr ymdrwsio,
Na baem ni'n gwrando ar Grist;

O! deuwn ato, rhag am I’n attal,
Na's gwrendy yntau ninan'n anial.
Ar ddydd ein treial trist.

Tra galwer heddyw ni gael heddwch,
O! deuwch at Fab Duw;
Yn rhad, yn rhad, mae'r gwir anrhydedd,
Yn rhwyddedd i bob rhyw;
Mac pob rhyw buraidd fraint yn barod,
Nid oes ond ufudd eisiau dyfod
I'w dy cyfarfod ef,
Sef i'r wir eglwys filwriaethus,
Yr hon sy'n raddus anrhydeddus,
Yn orfoleddus nef.

Credwyf fod hyna'n ddigon heno, hyd nes y cawn gyfle i ddychwclyd at y pwnc etto.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd G3964a) (12 Medi 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

12 Medi 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Joe. — Wel, boys, ma chi wedi insuIto ni awful last week, ond ma ni yn mynd i watchan y first chance heno. Odd da chi dim bysnes i exposo ignorance ni o Welsh subject, a cofiwch chi ma ni yn mynd i rhoi song heno a'r subject ma ni wedi cal personol experience yndo fe a cewch chi dim chance i galw monkey twp arnon ni heno, a tyma fe: —

 

Boys y Conffrens mynd o cartre,

Dest a boddi,

In the brakes to Ystradfellte,

Dest a boddi;

When we started in the mormng,

Yr oedd nature fel mewn mourning,

A'r cwmwle gyd were weeping,

Peth ma rhai yn galw raining,

Dest a boddi;

And the party now were vexing,

Dest a boddi.

 

Roedd y merched gyda'r bechgyn,

Very happy,

Yn enjoyo'n anghyffredyn,

Very happy;

Roe'n i gyd yn deg-a'r-ugen,

Un o rhain yn dod o Llunden,

Ond er starto'n hynod llawen,

Fe gawd lot o achos llefen,

Dest a boddi,

Cyn gwcld Dowlais lan drachefen,

Dest a boddi.

 

Paswyd Hirwen a Phenderyn,

Dechre gwlychu:

Roen ni nawr yn bexo sopyn,

Dechre gwlychu;

Ond mewn gobaith gnele gliro,

Mlaen o hyd yr oen yn dreivo,

Hyd nes gnethon ni arrivo,

Wrth y ffarm lle'r oen i stopo,

Dechre gwlychu,

Lle'r oedd menyn da i'n suito,

Dechre gwlychu.

 

Yn y bore fe afalson

Fod yn drefnus,

I gael cig a bara ddigon,

Dyna drefnus;

Ond er mwyn cael bod yn ddeche,

Menyn hefyd oedd yn eisie,

Ac fe brynwyd (cywch y geirie)

Bedwar pound o'r menyn gore,

Dyna drefnus,

Er cael feedo'n dda o gartre,

Dyna drefnus.

 

 

 

 

 

 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd G3964b) (12 Medi 1895)

 

Ar ol i ni fwyta'n hearty,

O'r danteithion,

Rhaid oedd mynd i mas 'da'n gyly',

Fel cariadon,

Ond cyn bo ni'n mynd i starto,

Roen ni wedi llwyr arrango,

I fod genym ddigon etto

Erbyn bysen ni'n returno,

’N llon ein calon,

Ar ol bod trwy'r lle'n enjoyo

’N llon ein calon.

 

Ffwrdd a ni yn llon ein calon,

Gyda'n gylydd,

Heb ddim trafferth dros yr afon,

Gyda'n gylydd;

To the caves yr oen yn marcho

Fel rhyw Stanleys yw [sic; = yn] exploro

Am rhyw dair awr buon ni yno,

Mewn rhyfeddod yn enjoyo,

Gyda'n gylydd.

Nes daeth’r amser i returno,

Gyda'n gylydd.

 

We came back i lan yr afon,

O'r excitement!

Buon ni dest a tori'n calon,

O'r excitement!

Roedd yr afon wedi cwni,

Fel nad oedd dim modd i'w chroesi,

A dim pont i fyned drosti;

Ag mae’r merched bach yn gwaeddi

O'r excitement!

Ac mae’r bechgyn dewr yn crynu,

O'r excitement!

 

Yma buwd am awr mewn study,

Bron a danto,

Ffaelu gwbod ffordd i groesi,

Bron a danto;

Ond daeth dodge i fewn i'n pene,

Off a'r sgitche, lawr a'r sane,

Torchi trousers lan i'r coese,

Cwni’r merched ar ein cefne,

Bron a hurto;

Off trwr afon fel ceffyle,

Bron a hurto.

 

Dyma splash, splash, splish, splash wedyn,

Bron a boddi;

Un o'r boys ar lawr yn rhondyn,

Bron a boddi;

Tra mae'r wedgen hyd ei haner,

Yn y dwr yn fawr ei phryder,

Ac yn gwaeddi, "Wb, wb, murder,"

Second Johnstown's great disaster,

Bron a boddi;

O what shall I tell my mother?

Bron a boddi.

 

Un ar ol y naIl sy'n cwmpo,

Bron a boddi;

Gan y tonau'n cal eu twmlo,

Bron a boddi;

Ond ar ol cael bob o wlychfa,

Fe gyrhaeddodd y diwedda

Fynu'n ddiogel i ddiangfa;

Nawr am redeg mewn modd llipa,

Bron a boddi,

Tua'r ffermdy am y cynta,

Bron a boddi.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3964c) (12 Medi 1895)

 

 

Nawr am fenthyg dillad sychion,

Dyma drwbl;

Ond ni feddai'r ffermdy ddigon,

Dyna drwbwl;

Ac yn ngwyneb peth fel hyny,

Bu rhaid hongian rhai i fynu,

Yn y simne fawr i sychu,

Tra mae'r lleill yn mynd i daclu,

Dyna drwbwl,

Bwyd yn barod rhag newynu,

Dyna drwbwl.

 

Ond nid hyna ydyw'r cwbwl

O'r helbulon;

Fe ddaw trwbwl ar ol trwbwl,

Blin helbulon;

Pan oen ni i mas yn brwydro,

Mewn i'r Room fe slipodd Carlo,

Ac o'r menyn gwnaeth ein slopo,

Ninnau nawr heb ddim i feedo;

Blin helbulon;

Rhaid yw prynu four pounds etto,

Blin helbulon.

 

Tuag adref gwnaethom ddyfod,

Bron a boddi,

Trwy y gwlaw mor wlyb a physgod,

Bron a boddi;

Cawsom anwyd, buom yn gorwe’,

Yn y gwely am ddiwrnode,

Rol ca'l anwyd ar y siwrne;

Ac os gwnewch chi wrando'n geirie,

Un o'r cwmni,

Nid awn mwy i Ystradfellte

I gael boddi.

 

Dai. — Wel, Joe, mae dy wynt di yn lled hir heno, ag wyt ti yn son am yr ofan a'r arswyd ar lan yr afon, ond wir roedd just cymynt o ofan arna i i fod yn y brake wrth baso'r tro yna yn nghyfer yr hospital yn ngwaelod Pendarren. Mae yn beth ofnadw i feddwl bod shwt dro byr ar yr hewl fawr lle ma cymynt o draffic, a mae yn drueni mawr na fyse'r District Council yn cymeryd at straitno'r pishin yna ar un waith.

 

Phil. — Y peth fyswn i yn ei gynyg yw hyn, sef straitno'r hewl o gyfer y Musical Hall lawr. Fe fydde hyny yn rhoi mwy o scope, a fyse ddim llawer o ddanger i brakes a busses i daro yn erbyn ei gylydd wedyn.

 

Harry. -Wel, fe weda i wrthoch chi beth fyse'n mlan i, boys. Mynd lawr yn strait o gyfer shop Mr. William Harris, a mynd mas yn strait i'r hewl o dan y Cae Mawr, a dyna bishin o hewl gwmws braf gyda ni o Pendarren lawr i Bont Morlais wedyn; a fe fyse yn gneyd off a'r man danjerus lle mae'r busses yn slipo ar dywydd rhew rochor isha shop Mr. Harris; waeth fydde dim tro na wedyn.

 

Wil Sledgwr. — Fechgyn, mae yn rhaid i ni adel y fusnes yna yn llonydd heno, a chal nosweth gyfan i drafody mater. Mae gyda ni llefyd i alw heibio'r llwybr i'r lan o'r Cwm, sy a chymaint o son wedi bod am dano yn ddiweddar. A mae hen lwybr arall hefyd yn galw am sylw, sef y llwybr sy i fynd o'r Cwm i'r lan i hewl y Pant. Treiwch alw heibio i gweld nhw yr wythnos nesaf i ni gal dod a nhw o flan y Conffrens nos Sadwrn, os na ddaw rhwbeth arall ar ein ffordd ni, waeth mae'r swper i fod bethawnos i heno, a fe fydd digon o waith gyda ni y pryd hyny.

 

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3965a) (03 Hydref 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

03 Hydref 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Dan. - Nawr Wil Sledgwr, dere di nawr. Beth yw'r tricks shimpil ma wyt ti wedi neyd a ni? Hala mas fod i'n swper ni i gal i bosbono hyd rhyw amser cyfleus arall, heb gonsulto dim a ni o gwbl, ag heb rhoi dim au [sic; un] rheswn dros hyny, a chwedyn yn myn'd off i enjoyo dy hunan sha Birmingham a Manchester am dair wthnos o amser, a hyny heb roi dim un notice i ni o gwbl ar gount i ni gal fixo neb yn dy le di. Ag wedi bod nawr am bythawnos heb un count o'r Conffrens yn y Times. A dyma ti yn dwad nol mor ben-uchel a giraffe, ag yn cymryd mantesh i bownsan na allwn ni ddim mynd yn mlan hebddot ti. Nawr, boys, a odyn ni yn myn'd i gal i'n ffwlio fel hyn ragor gyda Wil? Wdw i yn credu bod hi yn llawn bryd i droi e dros y drws, ag fe ddangoswn ni pun a gallwn ni fyn'd mlan hebddo fe neu beido. Ma ma gystal bechgyn ag ynte, rwy shwr o hyny, a mae yma fechgyn all ysgrifenu gystel ag ynte, wy'n sicr.

 

Wil Sledgwr. — Pwy i'n nhw, leicswn i wbod.

 

Dan. - Fe allai i neyd e am dy ddanedd di pryd y mynot ti, ag wdw i yn cynyg, boys, bod Wil Sled[g]wr yn cal y dirty kick out heno, a'n bod ni yn dewish ysgrifenydd yn i le fe.

 

Wil Sledgwr. — Fechgyn, dos dim hawl gyda chi’n nhroi i mas heb roi notice i fi mlan llaw. Y fi yw Clerk y Conffrens, a dw i ddim yn mynd i roi lan i bleso neb o honoch chi. Ag wy yn siwr ta chi ddim ond i'n newid i, byse'r “Conffrens” farw cyn pen fawr iawn o amser. A beth mae rhyw hen hwiligogan a hwna yn foddrach?

 

Cad. — Dos neb yn eilio cynygiad Dan, a chwedyn mae gynyg e yn cwmpo i'r llawr.

 

Oll (ond Dan). — Hear, hear, hwre!

 

Dan. - Y set y felldith fel ag i chwi! Dyma fel i chi yn acto atta i nawr ar ol i chi addo'n backo i fawr i droi Wil mas, a'n supporto inne i gyd y jobyn. I chi ddigon i'n hala i fynd a pheidio tywyllu drws y “Conffrens” byth mwy. A ma'r hen Editor yn ffwl parod bod e'n gadel llythyron shwt hen yolop a Wil i ddod mas yn y papur o gwbl.

 

Joe. — Bundle him out (ac allan y cafodd fyn'd yn ddiseremoni).

 

Harri. — Dyma ni wedi cal dipyn o ddistawrwydd etto, ag fe leicswn dypyn bach o explanashon ar y gân yna i'r “D.D” ddath mas yn y yr wthnos dywetha.” Beth yw huna [sic; hwna]? Ai typyn o take off o'n parchus sgrifenwr ni am fod e wedi cal teitl o “D.D” yw hi?

 

Wil Sledgwr. - Nage, nage, peidiwch chi camsynied. boys. Wy wedi darllen y gân yna o'r blan os blynydde: wy'n credu bod dros 20 mlynedd oddiar pan gwelais i hi gyntaf, ag mae awdwr y gan yn ei fedd er ys dwy flynedd. Cawr fardd a phregethwr odd e, ag fe allse fod wedi cal “D.D.” ei hunan tae e ddim bod dewish. Ond rodd e yn ddigon call i beidio i trachwantu mewn teitlau, ag fe gyfansoddodd y gân

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3965b) (03 Hydref 1895)

 

wrth wel'd fod cymynt o bregethwyr yn myn'd mas am drip i Mertca, ag yn dod nol yn mhen mis neu ddau wedi cal teitle, neu wedi prynu nhw. Mae yn handy iawn i ryw rai sy'n ambitious am deitle, a dim digon o sense yn i pene nhw i henill nhw, os gallan nhw fynd mas i Merica. Ma nhw yn gweyd fod teitle yn cal eu gwerthu yn cheap iawn yno. A trw bod Mrs. Hamersmith mor awyddus am deitl, fe fyse yn taro yn splendid iddi hi i fyn'd mas am dro. Ma nhw yn gweyd wrtho i gallse hi gal teitl bach nêt am bum punt, a galle hi gal pigo un am ddeg punt, a falle gnele newid air dypen o les iddi hefyd i gwella hi o’r Unionist fever sy yn ei blino hi, yn enwedig ta hi yn mynd am dro heibo'r Salt Lake City.

 

Joe. — Ma ni quite willing i Mrs. Hamersmith i cal teitl, ac os nag yn ei leico cymryd y trouble i myn'd i Merica byswn i bolon rhoi titl o “H.S.T.” iddo fe that in “Hammer Smith's Tormentor.” Ag os na bydd e satisfied ar hwna i dilyn yn mlan wetyn a U V W X Y Z, &c., a dyna digon wetyn.

 

Ned. – Wel wir, ma rhai boys yn glever iawn i gal title hefyd. A dyna glever ma nhw i advertiso i hunen wedi cal nhw! Fe an ar hyd y wlad i adrodd rhyw lot o storyhais dan yr enw o ddarlithio, a dyna le bydd cyhoeddi am hyny yn y papyrau perthynol i’w henwad nhw wedyu. Fe geir gweld rhyw res o hanesion tebyg i hyn: —

 

“HANESION CREFYDDOL.”

 

Cwmtatws. - Nos Wener diweddaf bu y Parch. Penchwiban Jones, D.D., yn traddodi ei ddarlith orchestol ar “Dirgeledigaethau Naid Chwanen” yn y lle uchod. Yr oedd y lle yn orlawn, a'r darlithiwr yn ei hwyliau goreu.

 

Pantyglosen. — Nos Sadwrn diweddaf bu y Dr. Penchwiban Jones yn gwefreiddio llonaid capel o wrandawyr astud trwy draddodi ei ddarlith benigamp a diguro ar “Dirgeledigaethau Naid Chwanen.” Traddododd hefyd dair o bregethau grymus ac effeithiol y Sul canlynol. Gallwn sicrhau fod y Parchedig Ddoctor yn un o r darlithwyr a'r pregethwyr goreu yn Nghymru.

 

Pwllygrechi. – Cawsom y fraint ar pleser o wraudo y Parch. Penchwiban Jones, D.D., yn traddodi darlith ar “Dirgeledigaethau Naid Chwanen” yn y lle uchod nos Lun diweddaf. Dyma y ddarlith oreu a glywson erioed. “Melus moes etto.”

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3965c) (03 Hydref 1895)

 

 

Blaenpica. — Nos Fawrth diweddaf breintwyd y lle uchod a phresenoldeb yr pregethwr hyawdl, yr ysgolor gwych a r darlithydd enwog, y Dr. Penchwiban Jones a chadwodd gynulleidfa enfawr yn yr hwyliau goreu am ddwy awr o amser tra yn traddodi ei ddarlith orchestol ar “Ddirgeledigaethau Naid Chwanen.” Ymadawodd pawb wedi ei llwyr foddloni, a chan ddatgan eu dymuniadau am ei glywed yn fuan etto.

 

Brynbrwyn. - Bu yr adnabyddus Dr. Penchwiban Jones yn y lle uchod nos Fercher diweddaf yn traddodi ei ddarlith ryfeddol ar “Ddirgeledigaethau Naid Chwanen.” Yr oedd y lle yn orlawn, y darlithiuwr ar ei uchelfaunu. a gallwn sicrhau fod Doctor Jones yn y rhes flaenaf fel darlithiwr. Cafwyd elw da, a lles meddyliol. Eglwysi Cymru, mynwch ei glywed.

Parkyffwlbart. - Nos Iau diweddaf oedd adeg hir- ddisgwyledig yn y lle uchod, am fod Doctor Penchwiban Jones i fod ki ddarlithio ar “Ddirgeledigaethau Naid Chwanen.” Yr oedd y eapel eang wedi ei orlanw, a chanoedd yn gorfod troi nol o ddiffg lle. Clywson lawer am alluoedd Dr. Jones o'r blaen, ond ni fynegwyd ddim o'i haner.

Dyna fel y mae mewn aml i newyddiadur enwadol y dyddiau hyn, a phe bae rhagor o nosweithiau yn yr wythnos, caem ragor o hanesion sebonllyd o'r fath hyn. A thyna sydd yn hynod fod yr hanesion yn dilyn un ar ol y llall mor rheolaidd, ag yn dod o wahanol fanau hefyd.

Jack. - O falle ta ti yn cal gweld yr Editor falle galle fe weyd wrthot ti taw yr un handwriting sy ar yr hanesion i gyd.

Ianto. - Wyt ti ddim am hinto os bosib, bo nhw yn hala hanes am denym nhw ei hunain, wyt ti? Rhag cwylydd i ti Jack, bo ti yn meddwl mor isel am ddynion mor respectable.

Frank. — Falle bo nhw yn ffaelu cal neb arall i canmol nhw, a chwedyn beth sy gyda nhw i neyd ond canmol eu hunen?

Wil. – Gan bwyll, fechgyn. Time's up. Dewch i gal mynd.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

O.Y. — Carai boys y “Conffrens” weled “Cân y D.D.” yn ymddangos yn gyflawn. — W.S

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3966) (10 Hydref 1895)

 

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

10 Hydref 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Phil. Wel, fechgyn, wdw i ddim wedi bod yn sharad dim yn y Conffrens os typyn nawr, ag wdw i yn meddwl fod yn reit i fi gal gweyd i'n meddwl heno. Wdw i yn un da iawn i dynu plans, os byddai i yn meddwl dewa i i dypyn o sylw wrth hyny; waeth i'n ambition mwya i yw dod i sylw gymynt a galla. I'n motto uwcha i yw popularity, ag wdw i wedi bod yn meddwl am blan nawr i gal typyn o popularity etto. Fel i chi yn gwbod fod gryn colliers Dowlais nawr yn plwy Gelligar, a’r plan sy gyda fi yw fod Conffrens i fod yn plwy Gelligar i’r gweithwrs yno i gal trafod i bysnes i hunen. Pwy sense yw dod a bysnes gweithwrs y Tunnel, Fochriw, a [Bedlinog?], i Dowlais i trafod nhw? Yn plwy Gelligar ma nhw yn gweithio, a dyw e ddim peth right i ddod mas a’u bysnes nhw odd'no. Beth i chi, boys, yn feddwl am hyna?

 

Jack. — Ma'r plan run peth a ti dy hunan yn gwmws. Rhyfedd mor anghysson a dy hunan wyt ti! Pwy ddiwarnod oet yn brago nad oes neb wedi gneyd mwy na thi dros Trade Unionism, a dyma ti nawr yn mofyn cal separation rhynt gweithiwrs o dan un cwmpni. Rhyw hen geiliog gwynt wyt ti yn galler troi fel mynot ti.

 

Tom. — Cymer di bwyll. Dvw Phil ddim wrtho'i hunan ma lot o gweithwrs yn eredu run peth ag e, ag wy i yn un sv mynd i upholdo fe hefyd.

 

Ned. — Os oes rhai mor dwp a mynd i foddi hunen, dyw hyny ddim un rheswm dros i ni fynd i grogi'n hunen. Dewch i ni gal dala at beth sy'n right, a nid dim ond hyny, ond ma sense y majority y gweithwrs i hunen o'n hochor ni hefyd. A beth 'ma rhyw hen Shoni newydd ddod fel hwn yn feddwl wrth dreio’n riwlo ni, pan mae naw o bob deg o'r bobl dros gadw at y plan sy wedi cal i dynu mas o'r blan? Dewch i ni gal stico at i'n principles, boys.

 

Ianto. — Nawr, boys, dropwch hi nawr, a peidiwch mynd i drin eich gilydd fe yna, onite chi ewch yn wath na members y District Council a'r Guardians gyda'u gilydd.

 

Shoni. — Newid ymadrodd, boys. Mae eishe arna i gael atteb i'r cwestiwn hyn gyda chi. Own ni wedi diall taw 1s. 6d. oedd pris y swper i fod, ond nawr wy'n deall bod hi i fod yn 1s. 10½d. Beth yw’r grot a dime extra yma i fod?

 

Twm. - O, mae grot a dime extra yna i dalu'r expense extra sy'n mynd arnom ni.

 

Dic. – Pwy expenses extra sy i fod? Ond i ni yn cal y Long Room am ddim ond beth fyddwn i dalu yn y peth fyddwn ni i yfed, ag ma 1s. 6d. yn clirio expenses gwr y ty, medde fe, a phwy expenses erill sy i fod?

 

Twm. – O expenses y Committee i chi n gweld. Y peth i ni fel committee wedi setlo ma rhaid i chi gwmpo mewn iddo fe.

 

Joe. — Na, ni dim bound, a ma ni wedi suffro gormod gyta lot o self-elected legislators. But no more, lads. Motto ni yw, "Down with the House of Lords"; a nawr boys, be ready to fight.

 

Twm — Os fel na mae yn mynd ym mlan te, cymer hyna (yn rhoddi ergyd i Joe).

 

A dyma hi yn rally-balw ar unwaith, ac ymladd drwyddi draw am gryn amser; ond y pwyllgor gadd y gwaethaf, a gwireddwyd y dywediad mai "Trech gwlad nag Arglwydd."

 

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3967a) (14 Tachwedd 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

14 Tachwedd 1895 .

 

Y CONFFRENS. Ned. — Poor Simon! Dyma fe wedi ei gladdu! Llawer gwaith bu e yma gyda ni yn cynghori ac yn ein hyfforddi ni fel tad yn cynghori ei blant. Ond dyma fe wedi myn'd i “ffordd yr holl ddaear," ys gwetswn nhw, a chawn ni ddim o'i gwmni e yn y Conffrens byth mwy.

 

Phil. - Twt, nonsense; son na chawn ni ddim o gwmni yr Hen Simon byth mwy! Wdw i yn ffaelu dyall beth yw yr hen ffolineb yna sy gyda chwi. Troi a throi yn yr un hen grove o hyd! Mae'r Hen Simon nawr mewn ffordd y gall e fod gyda ni yn well nag erioed o'r blaen. Ag fe alla i weyd i fod e yma gyda ni nawr o ran ei ysbryd.

 

Jack. — Helo! Beth yw hyna! Wyt ti wedi mynd yn ysbrydegwr, wyt ti?

 

Phil. — Wdw, a fe weda i wrthoch chi taw cyfundrefn fendigedig yw ysbrydegaeth hefyd.

 

Sami. — Ysbrydegeth! Beth yw hyny, te? Odi e rwbeth yn debyg i beth wen i yn glywed pan wen i yn grwt bach yn y wlad, slawerdi o byyty ysbrydion, Cwn Bendith y mame, Jack y Lantarn, Gwrach y Rhibyn, Canwyll Cyrff, a rhyw beth fel ni?

 

Twm. — Y yolop dwl, fel ag wyt ti! Wyt ti mas o'r cwestiwn altogether. Beth wyt ti'n gisho lapach am hen fwciod yr hen amser gynt? Ysbrydegaeth i ni feddwl.

 

Sami. - O wen ni ddim yn gwbod wir, wath weles i ddim ysbryd ariod.

 

Phil. - Na, wel neb arall ysbryd hefyd, hyd nes y byddo fe wedi cael ei ysbrydoli, a'i gael i agwedd meddwl priodol i ddal cymundeb ag ysbrydoedd hen ffryndiau ymadawedig. Mae'r ystafell yma yn llawn o honyn nhw yn awr. Rwy i yn eu gweld nhw yma, a dim ond i chwithe ymsancteiddio chi ddewch chithe i gweld nhw hefyd. A chofiwch hyn: system fendigedig yw Ysbrydegaeth. Mor fendithiol yw hi i deulu gyda'u gilydd, neu falle bydd ymwelwr neu ddau o amgylch y ford, a phob un a'i ddwylaw ar y ford ag yna, ar ol i bob un ddod o'r un meddwl yn un a chyttun o'r un deisyfiad, ac fel prawf bod pob un o'r un meddwl fe fydd y ford yn symud ac yn atteb cwestiyneu. Neu fe ellir ffurfio cylch ar yr aelwyd, a phob un yn cydio yn nwylaw eu gilydd, ac yn canu emynau neu chantio salmau ac yna fe fydd un o'r cwmni, efallai mai merch ieuanc fydd hi (does dim gwahaniaeth pwy) yn colli pob ymwybyddiaeth o honi ei hun ac yn dweyd allan, "Y ti yw Henry Jones."

 

Joe. — What? Merch ifanc gweyd taw fo yw Henry Jones! A ni dim clwed such nonsense ariod!

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3967b) (14 Tachwedd 1895)

 

 

Phil. — Ie, ond cofiwch hyn: nid y ferch fydd yn siarad, ond fe fydd ysbryd Henry Jones wedi cymeryd meddiant o'r ferch ac yn siarad trwyddi, a rhyw ffrynd anwyl fydd gydag e yn y circle, fe geir clywed gydag e yn mhle, ag yn mha state y mae e yn bresenol. Fe rydd oleuni ar lawer o bethau tywyll y gorphenol; fe eglura y presenol, ag fe esbonia lawer o bethau mewn perthynas i'r dyfodol.

 

Charley. - Allow me to say a few words in regard to Spiritualism. It is a grand system. The undeniable proofs I had have thoroughly converted me to the faith of Spiritualism. Talk about Religion? What is Religion? Religion is nothing but a sham; it's mockery. But, thank God! I found the true light at last, the light of Spiritualism, not the rotten Spiritualism of centuries ago, but the Spiritualism of the present day, and the Spiritualism of the future.

 

Dai. - Wel, os yw Ysbrydegaeth y fath gyfundrefn fendigedig, beth be baem ni yn treio cael prawf o honi, a threio cael ysbryd yr ·Hen Simon" nol i gael clywed sut mae e wedi ymdaro, a chal cyngor neu ddau gydag e gyda golwg ar y dyfodol?

 

Phil. — Wel run i yn ormod o rif i fod o gylch y ford i gyd ond deued rhai ohonoch chi sy'n credu ynddi yn mlaen, ac eistedded y lleill i lawr yn dawel. Nawr fe fformwn o gylch y ford, ac fe ganwn emyn ar y mesur 8-7-4.

 

Yn canu: —

 

Aros bum am faith flynyddau

Mewn caddugawl d'wyllwch mawr

Ymbalfalu rhwng y rhygnau,

Am gael gweled toriad gwawr;

Chwilio conglau,

Am oleuni'r byd a ddaw.

 

Ond rhyw allu anweledig

Ddoeth i dynu'm traed yn rhydd;

Fe'm harweiniodd o'r caethiwed,

Nawr rwy'n gweld goleuni'r dydd

Ysbrydegaeth

Fydd fy nghan o hyn i maes.

 

 

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated
(delwedd G3967c) (14 Tachwedd 1895)

 

Gwir gyfundrefn fendigedig

I ddyddanu'r enaid gwan;

Holl fendithion datguddiaethau

Y gorphenol rydd i'm rhan;

A dirgelion

Y dyfodol droetha'n glir.

 

Yn ei breichiau gwnaf ymorphwys,

Mewn peryglon o bob rhyw;

Bydd ysbrydoedd fy nghyfeillion

O fy nhylch i'm cadw'n fyw;

Gwnant fy ngwylio

Fel na ddelo niwed im.

 

Ni wnaf wrando'r hen ffug chwedlau

Gan wrageddos sydd i'w cael;

’R oll a ddysgwyd gan ein tadau,

Nid yw hyn ond sothach gwael;

Ysbrydegaeth

Fydd yn bobpeth i mi mwy.

 

Phil. — Wel, fechgyn, nid oes un cyffro etto, a fe ganwn emyn arall ar hen Alaw Gymreig adnabyddus.

 

Yn canu etto: —

 

Nawr o gylch y bwrdd yn unol,

Ar hyd y nos,

Mewn gwir deimlad Ysbrydegol,

Ar hyd y nos

Deisyf'r ydym o un galon

Am ymweliai hen gyfeillion,

I roi i ni rhyw newyddion,

Ar hyd y nos.

 

Tyred ysbryd, tyrd yn fuan,

Ar hyd y nos,

Ac eglura'th feddwl allan,

Ar hyd y nos

Trwy y bwrdd dos i egluro,

Pa fodd'r ydwyt yn ymdaro,

Yn y byd yr wyt ti ynddo,

Ar hyd y nos.

 

Phil. - Ust fechgyn! Y mae yn dechreu symud, ac yn ol rhifedi y curiadau galwaf allan y llythyrenau i ffurfio geiriau. Gofalwch beidio symud eich dwylaw. Pwy sydd yna? — D-i-a-f-o-1.

 

A thyma hi yn scram am y drws am y cyntaf, gan adael y Bwrdd a'r Ysbryd ar ol.

 

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G39
68
a) (21 Tachwedd 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

21 Tachwedd 1895.

 

Y CONFFRENS AC YSPRYDEGAETH.

 

ANWYL WIL SLEDGWR, - Mae'r Conffrens wedi bod yn ymdrin a llawer o faterion daearol a thymorol o bryd i bryd yn bur ddiddan, ac o'r diwedd, fel pe wedi dihysbyddu a phenderfynu holl faterion y byd hwn, eto nid yw fel Alexander Fawr yn wylo am fyd arall i'w orchfygu, ond efelycha Arthur Fawr y ford gron; neu'n debycach fyth i Saul, Brenin Israel, yn ymofyn cyngor gan Samuel; ac yn ebrwydd pwy ddaeth ond Tywysog Llywodraeth yr Awyr, nes en dychrynu a dychryn mawr. Wel, mae yn dda genyf i gael ar ddeall fod y Conffrens yn dechreu chwilio i gyfrinion Ysprydegaeth; mae lle i obeithio yn awr y daw pob dirgelwch i'r amlwg. Ond och! mae yn wir ddrwg genyf hefyd am ganlyniadau eich eisteddiad cyntaf. Arferwn feddwl yn uchel am y Conffrens, ond bellach rhaid i mi addef fy mod wedi fy siomi o'r ochr waethaf am ei gymeriad; canys onid yw yn wir “Mae adar o'r un lliw ehedant i'r un lle?” A phwy ond y Diafol a ddaeth yno i'w llon-gyfarch yn eu lle goreu? O! chwychwi o ychydig ffydd, sut na fuasech yn sefyll eich tir a gwneyd yn ol y gorchymyn, “gwrthwynebwch ddiafol ac efe a ffy oddi wrthych,” ac nid troi eich cefnau mor gowardaidd o wydd yr hwn oeddech wedi ei wahodd? Pe baech wedi aros am dipyn bach efallai y caech ar ddeall mai eich hen gyfaill Simon oedd yno wedi'r cyfan, ac nid y cyfaill arall. Os gellwch rhyw bryd eto groni digon o wroldeb i eistedd yn gylch i'r un dyben, cofiwch yr addewid a roddwyd unwaith i'r dysgblion. - “Lle y byddo dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno y byddaf yn y canol yn eu bendithio.” Profwch yr ysprydion, ie, profwch bob peth, a deliwch ar yr hyn sydd dda. — Ydwyf,

 

IAGO BRAWD SIMON.

 

 

 

 

 

 Text

Description automatically generated
(delwedd G39
68
b) (21 Tachwedd 1895)

 

 

SYR, — Crefaf am ychydig ofod i ddweyd gair yn fyr mewn perthynas i'r hyn a ymddangosodd yn Y Conffrens yr wythnos ddiweddaf. Gwyddwn o'r blaen fod cryn dypyn o feiddgarwch yn perthyn i fechgyn “Y Conffrens,” ond ni freuddwydiais erioed eu bod yn feddianol ar y fath ryfyga haerllugrwydd ag a ddangoswyd ganddynt yr wythnos ddiweddaf. Dyma hwy yn awr wedi myned i fewn mewn agwedd gellweirus a gwawdlyd i gylchoedd cysegredig Ysbrydegaeth. Ond dyna! “Fools rush in where angels fear to tread.” Rhyw gwmpeini o fechgyn anwybodus yn ceisio efelychu y gyfundrefn fwyaf pur a sanctaidd ar wyneb y ddaear! Pe gwyddent ddim am dani, ni fuasent mor rhyfygus a cheisio dynwared dim o honi er mwyn ei gwawdio. Ni ddylai neb feiddio gwneyd dim ag Ysbrydegaeth, heb fod ei serchiadau wedi eu nefoleiddio, a'i anianawd yn gyd-dymeredig ag ysbryd sancteiddrwydd y byd tu draw i'r llen, a'i fuchedd a'i ymarweddiad yn cael eu rheoleiddio gan ddylanwadau pur y byd ysbrydol. Clywais am ryfyg “Wil Sledgwr” yn codi i fynu i wrthwynebu egwyddorion “Ysbrydegaeth” mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Assembly Room yr Oddfellows' Hall bythefnos yn ol, ond dyma gyrhaedd climax ei haerllugrwydd yr wythnos ddiweddaf. Diameu genyf y byddai y bodyn hwn yn teimlo pe byddai rhywun yn gwawdio y gyfundrefn y mae ef yn gefnogi. Felly yr ydym ninau yn teimlo i'r byw pan y gwelwn rhyw chwiwgwn afreolus difenydd yn gwawdio y gyfundrefn sydd mor agos at ein calonau ni ein hunain. “Hands off, gentlemen.” Peidiwch rhyfygu rhagor i estyn eich dwylaw bryntion at gyru allor gysegredig Ysbrydegaeth, rhag ofn y bydd y canlyniadan yn waeth nag y carech iddynt fod. A chotiwch yr adnod hono sydd yn y llyfr yr ydych chwi yn sylfaenu eich cred arno, “Gwnewch i ereill fel yr ewyllysiech i ereill wneuthur i chwithau.”

 

Nid af i wastraffu amser y tro hwn gyda'r giwaid hon, ond carwn roddi rhybudd iddynt i fod yn dawel, a gofal am ei busneseu hunain, “Rhag digwydd iddynt beth a fyddo gwaeth.”

 

YSBRYD TWM MORGAN BWCCI.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3969a) (28 Tachwedd 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

28 Tachwedd 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Joe. — Here we are boys. In hot water once more. Ta beth ma ni try our hands arni ma ni shwr o cal opposition. Gnetho ni treio bod yn Spiritualists i cal Hen Simon nol i cal gwybod gyta hi ffor ma nhw delo a hi yn y Better Land, a cal advice gyta hi ffor i mynd mlan; ond tyma Black Prince yn dod i hala ni rhedeg off. And the following week dwy letter yn y Times yn blagardo ni am bod mor impudent a mockan y grand system of Spiritualism, Ond written nhw beth ma nhw leico, mwya gyd ma ni gweld a clwed, mwya gyd ma ni credu run peth a'r dyn gwedws, “All mediums are impostors, and all who believe them are fools."

 

Jack. — Wel, i gal mynd at y llythyron. Mae "Iago brawd Simon," mewn arddull fawreddog, yn dweyd ein bod ni yn debyg i Saul, Brenin Israel, yn ymofyn cyngor gan Samuel. Wel, mae'r Ysbrydegwyr yn gneyd llawer iawn o'r hanes yua i brofi Ysbrydegaeth, ag yr wyf fi yn credu, os mae rhyw beth yn debyg i hyna yn Ysbrydegaeth, mai cyfundrefn felldigedig yw hi, waeth mae arfer dewinaeth yn cael eu gondemnio yn mhob man yn y Beibl.

 

Dai. — Mae "Iago Brawd Simon" yn ei lythyr yn gofyn paham na fuasen yn sefyll ein tir pan ddaeth y diafol attom. Wel, wir, fe fuon ni yn hen gowards ofnadwy hefyd.

 

Ianto. — Ond cofiwch chwi hyn, fel glywais i un medium yn dweyd ei fod e wedi cael dioddef llawer o herwydd bod dan ddylanwad ysbrydion drwg, a'r rhai hyny yn niweidio ei gorff yn druenus, a hyny o herwydd fod dynion drwg yn y circles, yn commando ysbrydion drwg i ddod yno, i gymeryd meddiant o'r medium a'i gamdrin e. Felly fe nethon ni y peth goreu allsen ni dan yr amgylchiadau.

 

Beny. — Wel, dyna gyfaddefiad ofnadwy. Mae hwna yn hunan-ddynystriol i Ysbrydegaeth. Yr wyf fi wedi arfer dweyd mae o dan ddylanwad rhyw berson yn y circle mae'r medium, a thyna'r medium yna wedi dweyd fod dynion drwg yn gallu dwyn ysbrydion i'r lle. Felly dyna fe wedi cyfaddef fod y medium mewn modd anuniongyrchol o dan ddylanwad electricity y dynion drwg a fyddo yn y cylch.

 

Harri. — Os yw'r medium yn gwybod y dirgelion mae e yn honi ei fod, paham na fyddai yn gwybod mae ysbrydoedd drwg sydd yn dod, ac yn ei hosgoi.

 

Sami. — Y chi yn in hala i gofio nawr am ddyn wen nhw yn galw Levino arno yn mesmeriso dynion yn Merthyr. Wedd eyn rhoi canwylle in i dwylo nhw, a gweyd ta loshin we nhw a rhoi winwns yn dwylo rhai erill a gweyd taw fale we nhw a dyna stico i byta nhw we nhw. Ag a odych chi am weyd taw rhyw ddynion o nerves gwan fel na yw mediums, bod dynion erill yn galler i handlo nhw i weyd beth fynon nhw?

 

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd G3969b) (28 Tachwedd 1895)

 

Joe. — Ma ni proposo bo ni yn gatel mesmerism a'r conjuring tricks sy gyta nhw a cymryd nosweth cyfan i hexposo nhw, a beth ta ni dishcwl tycyn bach ar y second letter, gyta Ysbryd Twm Morgan Bwcci." Ma hi fel se hi hinto ta lot o fools ignorant ag impu- dent i ni.

 

Mocyn. — Ydy, ag mae e yn galw ni yn "Chiwgwn afreolus difenydd” hefyd. Ond cofien nhw nad i'n ni ddim mor ddiffigiol yn ein menydd blan, nes mae'r menydd ol yn gallu llywodraethu yn gyfangwbl drosto fe. A pheth arall peidien nhw camsynied eu bod ni mor anwybodus nad i'n ni ddim yn gwbod gwahaniaeth rhwng circles a chyfarfodydd ereill. Ond beth ta'n ni yn cal gyda Wil Sledgwr mewn perthynas i'r hyn ma'r llythyr yn son am ei ryfyg e.

 

Wil Sledgwr. — Wel down ni ddim wedi meddwl son am gyfarfodydd yr Ysbrydegwyr hyd nes i “Ysbryd Twm Morgan Bwcci" i ddechreu. Ond gan ei bod hwy wedi dechreu mae perffaith hawl gen innau i ddilyn. Rwy wedi bod mewn tri o'i cyfarfodydd. Aeth y cyntaf heibio yn dawel. Yn yr ail gofynais amryw ofyniadau, a siaradodd pawb ohonynt yn foneddigaidd. Yn y trydydd gofynais un gofyniad. (Yr oedd genyf amryw yn barod), ond yn lle ei atteb ymosodwyd ar fy nghymeriad personol, ag yr oedd adnod yn dod i fy meddwl. "Yr hwn sydd ddibechod tafled yn gyntaf garreg atti." Bernais y byddai yn well i mi beidio ymddarostwng i daflu cerrig yn ol, rhag wrth hyny y gallwn dori rhai ffenestri.

 

Fred. — Dy servo di yn reit. Dodd dim busness gyda thi i ofyn dim iddynt. Cofia di taw lle ma gas yn crynhoi mae y peth goreu i neyd ag e yw peidio mynd a safety lamp yno, ond mynd a goleu noeth ar unwaith i gael ei glirio fe off.

 

Alf. — Ond beth am safety y person fydd yn cario gole noeth, garwn i wybod.

 

Wil Sledgwr. — Wel, fechgyn, run ni yn dechre mynd oddiwrth y pwnc, ag mae'r amser yn mynd yn mlan; gwell i ni derfynu, a dod yma yn gynar nos Sadwrn nesa; mae gyda ni ddigon o waith o'n blan am gwpwl o fisoedd nawr.

 

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

Y Gyfeirddalen: Y Conffrens, Merthyr Times, 1895, 1896: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm

xxxx

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www[].kimkat.org[]/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895_rhan-2_3523k.htm

 

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.

Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 12-10-2020, 21-12-2017, 04-11-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Wellz-Katəlóuniə) Wébsait



Free counter and web stats Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg