kimkat0391k Boanerges - Cofiant y Parch. Morgan Howells. Y Parch E. Morgan. Caerdydd. 1853

22-01-2018

● kimkat0001 Home Page / Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●
kimkat00391k Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delw 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Boanerges - Cofiant y Parch. Morgan Howells.

Y Parch E. Morgan.

Caerdydd.

1853


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

...

 


Boanerges. Ystyr: meibion y daran. Cyfenw a roddwyd gan Iesu Grist i’r brodyr Iago ac Ioan (Marc 3:17)
o herwydd eu tymer gwyllt (Luc 9:54)

 

Marc 3:17 Ac Iago fab Sebedefis, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges, yr hyn yw, Meibion y daran;)

 

Luc 9:54 A’i ddisgyblion ef,. Iago ac loan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias?

55 Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi.   

56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

 

 

 

(delwedd 4518a) (clawr blaen)

 


Boanerges - Cofiant y Parch. Morgan Howells / y Parch E. Morgan / Caerdydd / 1853



 

 

(delwedd 4518) (clawr blaen)

 




Boanerges - Cofiant y Parch. Morgan Howells / y Parch E. Morgan / Caerdydd / 1853

 

 

 

(delwedd 4519) (tudalen teitl)




BOANERGES
neu, Parch. Morgan Howells
Cyhoeddedig ar anogaeth cyfarfod misol Sir Fynwy
gan y Parch. E. Morgan, Caerdydd.

“Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo, a chwithau oeddych ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.”- CRIST.

CAERDYDD
ARGRAFFWYD GAN WILLIAM OWEN, HEOL-DUC.
1853


 

 

(delwedd 4520) (tudalen y wasg)

 




ENTERED AT STATIONERS' HALL.



 

 

(delwedd 4521) (tudalen y rhagymadrodd)

 




RHAGYMADRODD.

I bawb a hoffant Lyfr Duw, cyflwynir y Cofiaeth hwn am ddyn Duw, a Gweinidog Iesu Grist, hwyrach y disgyn i ddwylaw rhai sydd yn “anghynnefin â gair cyfiawnder,”— am fod a fyn rhagluniaeth y nef a bendigo coffadwriaeth cyfiawnion ar ol i'w “harenau ddarfod ynddynt.”— Codwyd esgyrn WYCLIFFE i'w llosgi yn mhen deugain mlynedd wedi ei gladdu, ond gofalodd Duw i'w ysgrifeniadau gael eu dwyn i Bohemia i'w darllen gan JOHN HUSS, er ei wneyd yn gyffeswr ffyddlawn o blaid gwirionedd yr efengyl.— Yn mhen can mlynedd yn ddiweddarach, trefnodd rhagluniaeth i LUTHER wneyd cynnyrch myfyrdodau HUSS yn destun ei fyfyrdodau ei hun, er yr edrychai arno ar y pryd fel arch-heretic drygionus, ond gorchfygwyd ei ragfarn, ac egwyddorion JOHN HUSS a ymlynasant wrtho tra y bu yn cario allan weithredoedd nerthol y diwygiad.


Edrychir ar angeu yn fynych fel diffoddydd ar goffadwriaeth y sawl a syrthio yn ysglyfaeth i'w grafangau difaol, er hyny y mae rhyw oleuni anniffoddadwy yn tywynu ar y byd o ganol tywyllwch caddugawl bedd y Cristion, fel pe mynai yr Efengyl gludo coffadwriaeth ei meirw o dan ei hesgyll nefol ei hun.— Bu farw duwiolion y Bibl, fel y'u gelwir, cyn ein geni ni, eto, yn eu cymdeithas hwy y treuliasom lawer o'n hoes. Blwyddyn i'r Sabboth nesaf y bu farw ein hanwyl frawd MORGAN HOWELLS, ond y mae yn fyw! yn fyw o ran ei enaid yn y nef! yn fyw o ran ei goffadwriaeth ar y ddaear! Er yn farw o ran ei gorff,— ac fel na chyfrifid ef yn un o'r rhai y “perir i'w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion,” penderfynwyd yn Nghymdeithasfa Penycae ar y priodoldeb o godi cofadail hanesol ar ei ol; a chan fod yr awdwr wedi boddloni i ymgymmeryd â'r gorchwyl, os na fyddai neb arall yn ymgeisydd, dygwyd yr achos i derfyniad yn Nghyfarfod Misol Blaenafon, pan y gwnaed dewisiad unfrydol o hono fel bywgraffydd.


Dymuna yr Awdwr, yn ei waith yn cydnabod aelodau y Cyfarfod Misol, am yr anrhydedd a dderbyniodd o'u llaw, i hysbysu na ddarfu iddo arbed amser na thraul er dod i feddiant o bob ffaith, a chael hysbysrwydd o bob amgylchiad ag oedd yn gyrhaeddadwy, i'r dyben o wneyd y Cofiant yn gyflawn, yn yr hyn y bu yn llwyddiannus yn mhell tu hwnt i'w ddysgwyliad; ac ar ol pryderu rhag i'r cynnyrch fod yn fyr o roddi darluniad têg, gonest, a diduedd o wrthddrych mor hynod, hydera y canfyddir ynddo olion yr egwyddorion mawrion hyny a ymweithient allan yn ei fywyd duwiol, o dan awdurdod nerthol gwir grefydd a dylanwadau ysbryd y gras.

Y mae yr Awdwr yn ddyledus i luaws o gyfeillion, yn y De a'r Gogledd, am eu llythyrau a'u hysbysiadau, y rhai fuant o fawr gyrnhorth iddo, fel y gwelir yn nghorff y gwaith; gan nad yw yn debyg y cyferfydd ond ag ychydig o honynt wyneb yn wyneb i dalu iddynt dreth o gydnabyddiaeth, dymuna arnynt dderbyn oddiwrtho, trwy gyfrwng yr anerchiad hwn, ei ddiolchgarwch gwresocaf a mwyaf diffuant. Gan adael yr holl anmherffeithrwydd, a'r ychydig ragoriaeth a all fod yn y cyfansoddiad, neb gynnyg eagusawd dros y naill na sylw mursenaidd ar y llall, y dymuna yr Awdwr daflu y pin o'i law wedi gorphen ei orchwyl; ac i ymdawelu mewn ysbryd o gydnabyddiaeth i'r Arglwydd am ei gynnorthwyo, o dan gystudd trwm, ac ar ol nosweithiau blinion gan lafur gormodol o dan y cyfryw anfanteision, i ddwyn y llyfr bychan yma i orpheniad; ac mewn gobaith yr etyb ddyben ei gyhoeddiad, o dan fendith y Nef,

Y gorphwysa,

YR AWDWR.

Caerdydd, Mawrth 16, 1853



 

 

 

(delwedd 4522) (tudalen y cynnwys)




Y CYNNWYSIAD.

PENNOD I.
BLYNYDDOEDD MEBYD AC IEUENCTYD MR. HOWELLS.
Lle ei enedigaeth - Ei rieni - Crefyddolder ei dad - Moddion addysg - Clefyd a marwolaeth ei dad.

PENNOD II.
SYMUDIAD MR. HOWELLS I'R CASNEWYDD.
Ei osodiad yno gan y Colonel Lascells — Gwrando'r efengyl — Ei argyhoeddiad hynod — Ei ymuniad â chrefydd — Erledigaeth gref — Ei symudiad i fan arall.

PENNOD III.
DECHREUAD GWEINIDOGAETH MR. HOWELLS.
Sefyllfa yr achos yn Sir Fynwy — Pregethau cyntaf — Llafurio ar hyd y Sir — Helaethiad ei derfynau — Ei ymweliad â Sir Frycheiniog — Profedigaeth oddiwrth Satan.

PENNOD IV.
CYFNEWIDIAD YN AMGYLCHIADAU MR. HOWELLS.
Agor Shop yn y Casnewydd — Gwrthdarawiad rhwng y fasnach a'r weinidogaeth — Y fasnach yn gwaelu — Profedigaeth lem — Ei ymweliad ag Eglwysi yn Sir GaerIoyw — Gofidiau yn amihau — Ymlyniad y Colonel LASCELLS wrtho yn ei drallodau — Ei egwyddor onest — Ei ordeiniad — Marwolaeth ei fam — Ei briodas —Marwolaeth ei wraig — Ei ail briodas.

PENNOD V.
CASGLIAD TUAG AT DDILEU DYLED CAPEL CASNEWYDD.
Achlysur adeiladu y Capel — Trallod yr Eglwys o herwydd maint y ddyled — Cymdeithasfaoedd De a Gogledd yn cenadu casgliad cyffredinol — Llwyddiant Mr. H. yn y daith gasglyddol — Haelioni y Cynnulleidfaoedd.

PENNOD VI.
CYMMERIAD PERSONOL MR. HOWELLS.
Ei neillduolrwydd naturiol — Adolygiad ar ei eithafion — Ei eithafion heb fod yn ŵyriad oddiar Iwybrau gwirionedd — Ei ymddangosiad personol — Diysgogrwydd ei olygiadau — Ei olygiadau yn eu perthynas a phleidlais y bobl — El dymher — Ei ddidueddrwydd — Ei onestrwydd — Ei nodweddion cymdeithasol — Ei Lythyrau at ei Blant — Barddoniaeth y Parch. W. Rees, (Gwilym Hiraethog,) Llynlleifiad.

PENNOD VII.
PENNOD VIII.
PENNOD IX.
PENNOD X.
PENNOD XI.
PENNOD XII.


 

 

(delwedd 4523) (tudalen 1)

 




(x1) “Christ is God’s great ordinance. Nothing ever has been done, or will be done to purpose, but so far as he is held forth with simplicity. All the lines must centre in HIM.”— CECIL’S REMAINS.

PENNOD I.
BLYNYDDOEDD MEBYD AC IEUENCTYD MR. HOWELLS.

Lle ei enedigaeth - Ei rieni - Crefyddolder ei dad - Moddion addysg - Clefyd a marwolaeth ei dad.

GANWYD MORGAN HOWELLS yn mis Mai, 1794, mewn tŷ a elwid y “Breach,” yn mhlwyf Saint Nicholas, yn Sir Forganwg. Enw ei dad oedd Morgan Howells, ac enw morwynaidd ei fam oedd Elizabeth Morgan. Er mwyn darlunio mor gywir ag y gellir mewn ysgrifen, y gymmydogaeth a’r man lle yr anadlodd gyntaf, ac y treuliodd flynyddoedd boreuaf ei oes, deallir fod y lle yn gorwedd ar yr ochr ddeheuol o Gymru, yn ffinio ar y cyfyngfôr, a adnabyddir dan yr enw “Bristol Channel.” Ar ei hŷd y mae y sir yn rhedeg o ddwyrain i orllewin; y trefydd terfynol ydynt Abertawy a Chaerdydd; y blaenaf yn ymylu ar Sir Gaerfyrddin, o’r tu dwyrain-ddeheuol; a’r olaf ar Sir Fynwy, o’r tu gorllewin-ddeheuol, ac yn begwn cyferbyniol i Gaergybi, yn ynys Mon. Y dref agosaf i Gaerdydd, tua’r gorllewin, yw y Bontfaen; a rhwng y ddwy dref, tua saith milldir o’r flaenaf, a phump o’r olaf, y mae y Cotterell yn sefyll, palas Syr G. Tyler, Marchog. O

 

 

 

(delwedd 4524) (tudalen 2)




(x2) fewn can llath o’r tu gorllewinol i lodge y palas, y mae coedwig fechan, yn nghanol yr hon y safai y tŷ lle y ganed Howells; ond cofied y teithydd a ddygwydd ddyfod heibio y ffordd hono, yn awyddus i weled y fan, mai ofer fydd iddo chwilio na holi neb am y tŷ, nid oes yno garnedd na chareg wedi ei adael, ond llwyn o goed yn unig.

Yr oedd ei rieni yn cadw tyddyn o dir, a elwid “tir y Breach;” perchenogent amryw anifeiliaid, ac o ran amgylchiadau, yr oeddynt yn byw, fel y dywedir, uwchlaw y byd. Bu iddynt dri o blant, sef mab a dwy ferch ; un o’r merched a fu farw yn ieuanc, a’r llall, sef Sarah, a briododd — symudodd i Fristol, ac yno bu hithau farw, a Morgan yn unig a adawwyd. Er nad oes galwad i ddywedyd llawer am berthynasau y neb a gofebir, ond o barch i henyddiaeth a rhinwedd, nid hawdd yw myned heibio i goffadwriaeth dyn, yr hwn nis gellir dweyd fod ei enw yn pydru;— od oes trosglwyddiad o newyddion da rhwng y ddau fyd;— pe gellid credu fod un o angylion y gogoniant yn dwyn y newydd i Howells, fod hyn o grybwylliad yn cael ei wneyd am ei dad, diau y byddai yn foddlawn, oddiar y credai ei fod “yn Nghrist o’i flaen ef.”

Yr oedd ei dad yn aelod eglwysig yn hen Gapel Trehill, ac elai yn fisol i eglwys Llanddiddan-fach i gymuno at y diweddar Barch. Howell Howells.*

*Nid oedd un berthynas deuluaidd rhwng Howellsiaid y Breach ag Howell Howells,— y blaenaf oeddynt frodorion, ond yr olaf yn enedigol o Ystradgynlais; derbyniodd urddau offeiriadol o dan law Esgob Tyddewi, yn Abergwili, yn y flwyddyn 1782; dechreuodd weinyddu yn Glyncorwg; symudodd oddiyno i St. Nicholas a Llanddiddan; ac yn y flwyddyn 1818, llwyr ymadawodd â’r Eglwys Sefydledig, gan ymroddi at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd o hyny hyd ddiwedd ei oes, yr hyn a gymmerodd le ar y 19eg o Ionawr, 1842, yn 92 mlwydd oed.
 
Cyfrifid Llanddiddan yn Llangeitho fach y dyddiau hyny, am mai yno yr ymgasglai y Methodistiaid o’r cymmydogaethau cylchynol i gymuno; ac y

 

 

 

(delwedd 4525) (tudalen 3)




(x3) mae adgoffad am ben mis Llanddiddan yn arogli yn hyfryd hyd y dydd hwn, ac yn adfywiad iachusol i'r hen bererinion sydd eto yn fyw yn y broydd hyn, y rhai a gyrchent yno ar y cyfryw achlysuron;— cyfarfyddent yno â'r hen offeiriad duwiol, cadarn ei gorph, yn ysgwyd ei ysgwyddau llydain, yn gollwng allan ci lais cryf, mewn ysbryd cynhes, ac o dan “eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw,” ac os na ddisgynai y gawod doreithiog ar y cymunwyr, byddai y gwlith fel gwlith Hermon yn cael ei deimlo.*

*Ni chyfrifid ef yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn weddiwr mawr iawn, ac wrth y bwrdd cymundeb byddai yn lled sicr o fod dan lewyrch y nef.

Yn mysg yr addolwyr yr oedd Morgan Howells yr henaf; ac er mai hynodrwydd y mab sydd yn dwyn coffadwriaeth y tad i fyny, wedi iddo orwedd yn agos i hanner canrif yn mhriddellau y dynffryn; nid oedd yntau yn anhynod fel dyn a Christion, ac yr oedd “gair da iddo gan y gwirionedd ei hun.” Sefydlodd ei gymeriad yn ei ofal am achos ei Arglwydd; yn mhlith pethau ereill, efe fynychaf a ddarparai wair i geffylau pregethwyr a ddeuai i Drehill; ond gan fod ei haelioni yn dramgwydd i'w wraig, gorfodid ef i fod yn wyliadwrus, rhag i ysbryd y byd godi ystorom, ac elai yn ddystaw i'r gadlas, a thaflai y sypyn ar ei gefn, ac i Drehill ag ef, a byddai rhyw un yn debyg o ddweyd cyn y cyrhaeddai y fan, “Dacw'r gwr o'r Breach yn cario gwair eto i Drehill; beth pe b'ai Bess ond gwybod?” Y mae yn debyg nad oedd y gwair a'r llywodraeth yn gorphwys ar yr un ysgwydd!


Ond er nad oeddynt yn cydweled gyda golwg ar grefydd, medrent gydosod eu dwylaw ar yr olwyn fawr oedd i droi yn mheiriant rhagluniaeth ddirgeledig i ddarparu eu mab ar gyfer byw mewn amser dyfodol, a chytunasant i anfon Morgan bach i'r ysgol, yr hyn a ellid edrych arno fel penderfyniad lled anturiaethol; er nad oedd perygl i blentyn fyned yn rhy ddysgedig o ran rhagoroldeb y moddion addysg


 

 

(delwedd 4526) (tudalen 4)

 

 




(x4) a ddarperid yn yr oes hono, eto yr oedd y cynygiad at wneud plant yn ysgolheigion yn cael edrych arno fel mawrgais hunanol ac anmhwyllog o eiddo eu rhieni, am fod ysgolheigiaeth rhyw fachgen wedi peri iddo ffugio ei enw mewn twyll, a'r ddysg fawr wedi chwythu ereill i fyny mewn balchder; y rhai hyn, a'r cyffelyb resymau, a barai i lawer gadw eu plant o dan gelwrn o anwybodaeth, gan eu cysegru i gyflwr delffaidd dros eu holl fywyd; ond rhieni Howells a farnasant yn wahanol, a danfonwyd ef i ysgol hen wraig o'r enw Margaret Lewis, oodd yn byw rhwng y Ship Court a Thresimwn. Beth pe ceisiem am fynyd neu ddwy i fwrw Howells, fel pregethwr, allan o'r meddwl;— plentyn ydoedd, edrychid arno fel y cyfryw yn troi allan boreu dydd Llun, gan hwylio ei gamrau am y tro cyntaf tua chroesffordd y Sycamorwydden, — nid ar gyhoeddiad, — yr oedd hen gapelydd Aberddawen, y Berthyn, Llanilltyd-Fawr, a'r Pil, o'i ran ef, yn gauedig; ac o ran unrhyw gynhyrfiad gwrth-babaidd a deimlai gallai BRASCHI eistedd yn dawel yn nghadair Pedr, yr unig fater o bwys ar ei feddwl ef oedd dysgu yr A. B. C. Yn mlaen y mae yn myn'd, yn un bach, meinir, gwanaidd, llwyd ei liw, a'r llyfr bach o dan ei gesail chwith, a'r fasged a'r bara ymenyn yn y llaw arall; tybiwn weled tri o wŷr yn ei gyfarfod, y cyntaf yn bryd-ddewin sylwgar a edrychai arno, gan graffu yn daer ar ei lygaid gleision, ei ruddiau teneuon, ei drwyn a'i wefusau; yr ail yn fenyddegwr a gymmerai arno ddweyd rhywbeth am y modd y dylid trin y bachgen, ond iddo gael teimlo ei ben; a'r trydydd yn athronydd dysgedig, parod i ddweyd ei olygiadau yntau; yna gofynai rhywun iddynt, “Beth a fydd y bachgenyn hwn?” Tawai y cyntaf, yr un modd yr ail, ac felly y trydydd, os dewisent eu cyfrif yn ffel; nid oedd prophwyd a fedrai drosglwyddo unrhyw syniad perffaith am dano mewn amser dyfodol. Yna gallai rhyw un ofyn pa werth oedd i'r un bach gwan drafferthu ei hunan, gan gerdded i ysgol hen

 

 

(delwedd 4527) (tudalen 5)

 

 




(x5) wraig? Ah! ni ddylid diystyru pethau bychain. Er fod dybenion yr Arglwydd, gyda golwg arno ef, yn aneglur, y mae yn dechreu fel y dechreuodd ereill a welwyd cyn eu marw yn sêr o'r maintioli mwyaf yn ffurfafen yr eglwys a'r byd;— y peth cyntaf a ddysgwyd i'r Dr. Watts a Syr Isaac Newton, oedd llythyrenau; ac er nad oedd yr hen Fargaret Lewis yn proffesu ei bod yn deall y Ffrancaeg, na dim ond ychydig o Saesonacg cyffredin, a thipyn o fedr i ddehongli y breuddwydion a barai hi i'r plant eu hadrodd wrthi boh boreu, fel y dywedir; ond er na feddai lawer ychwaneg o wybodaeth, yr oedd ganddi lythyrenau o rywogaeth cystal a ddysg¬wyd i neb erioed, ac â'r rhai hyny, wedi eu ffurfio yn eiriau, y darfu i wrthddrych y llinellau hyn, yn mhen rhai blynyddoedd, fyned allan yn enw Duw byddinoedd Israel, i floeddio am gongcwest Calfaria fryn, nes i filoedd foli o dan ddylanwad mawr ei hyawdledd anorchfygol. Yn mhen tymmor symudwyd ef o ysgol yr hynafwraig, a gosodwyd ef dan addysg offeiriad y plwyf, sef y Parch. Mr. Thomas, yr hwn a gadwai ysgol ddyddiol yn ymyl Eglwys St. Nicholas. Wedi bod yno am ryw yspaid clafychodd ei dad o'r clefyd y bu farw; ychydig cyn ei farwolaeth galwodd y Colonel Lascells,*

* Yr oedd y Colonel yn fab i'r Cadfridog (General) Lascells, gwr o enwogrwydd mawr yn y fyddin; yr oedd y Lascells hefyd yn gangen hanedig o deulu anrhydeddus HAREWOOD.

o'r Cotterell, i ymweled â'i gymmydog yn ei gystudd; a chan y canfyddai arwyddion amlwg o gyfnewidiad yn ei wedd, perswadiodd ef i drefnu ei ewyllys, â'r hyn y cydsyniodd, a bu y Colonel mor hynaws ag addaw gweithredu fel cymyn-weinydd; a diau fod caredigrwydd y gwr boneddig yn ei waith yn cymmeryd arno i fod yn dad yr amddifaid, yn gysur i ddyn a'i draed eisoes ar odre y mynyddoedd tywyll.

Ysgrifenodd y Colonel allan y llythyr cymyn, yr hwn a

 

 

(delwedd 4528) (tudalen 6)


 

 


 (x6) drefnai fod y meddiannau, ar ol marwolaeth y cymynwr, i gael eu gwerthu, a'r cynnyrch i'w osod yn y funds, a'r llôg i'w ranu yn gyfartal rhwng ei wraig, ei fab, a'i ferch; arwyddwyd yr ewyllys yn mhresennoldeb dau dyst o'r enw William Morgan a William Owen, ar y 13fed dydd o fis Mawrth, 1807, a bu farw y testamentwr yr un diwrnod, dybygid; beth bynag; profwyd yr ewyllys yn mhen deuddydd, sef ar y 14eg.*

* Gallesid hebgor y crybwylliadau uchod, ond fel yr oedd galwad i ddadbrofi y chwedl a gerddodd yn ddystaw i'n mysg wedi marwolaeth ein gwrthddrych, iddo gael ei ddwyn i fyny ar elusengarwch, a hyny o herwydd tlodi ei rieni; er mwyn sicrwydd, aethym i Landaf am yr ewyllys. o'r hon y cefais yr ystadegau uchod. Annhegwch mawr â golygwyr cyhoeddiadau a ddymunent ddwyn allan y gwirionedd ydyw eu llwytho â phethau disail.

Dangosodd y Colonel ofal mawr am y teulu, :ac am y meddiannau, fel pe triniai ei eiddo ei hun; ac yr oedd ganddo sylw neillduol ar y mab, fel y penderfynodd ei gymmeryd ato i'r Cotterell, ac yno y bu y rhan fwyaf o'i amser hyd ei symudiad i'r Casnewydd, nid fel gwas, er ei fod yn gwneyd rhyw fan orchwylion, a pharhaodd i fyned i'r ysgol ddyddiol yr un modd ag yn nyddiau ei dad.

Dangosai Mr. H. duedd cryf i fyfyrio tra y bu yn y Cot¬terell, darllenai lawer;—ond nid oedd arno arwydd teimlad o'i sefyllfa fel pechadur; ond yn hollol i'r gwrthwyneb, ymarferai â phob chwareuaeth a ddygid yn mlaen gan ei gyfoedion; ac yn holl gampiau y gymmydogaeth efe oedd y gwr blaenaf;—er hyn oll yr oedd yn cynnyddu mewn gwybodaeth .hanesol, ac yn feddiannol ar raddau helaethach o wybodaeth ysgrythyrol na 'r cyffredin o'i oed, yr hyn a barai i hên wr a arferai ymddyddan ag ef i ddweyd, “Ni waeth beth a ddywedir wrth Morgan, y mae yn gwybod pob peth gystal a minau.”


 

 

(delwedd 4529) (tudalen 7)

 

 




PENNOD II.
SYMUDIAD MR. HOWELLS I'R CASNEWYDD.

Ei osodiad yno gan y Colonel Lascells — Gwrando'r efengyl — Ei argyhoeddiad hynod — Ei ymuniad â chrefydd — Erledigaeth gref — Ei symudiad i fan arall.

Yn y flwyddyn 1810, pan oedd yn unarbymtheg mlwydd oed, gosodwyd ef o dan ofal un ———— yn y Casnewydd,*

*Y mae yn debygol iddo gael ei anfon i'r Casnewydd yn lle i Gaerdydd neu y Bontfaen, o herwydd bwriad y Colonel i ymadael â'r Cotterell, a symud i'w anneddfa yn Llundain, ar yr amser hwn, a gwelai y byddai yn gyfleus iddo yn ei ymweliadau blynyddol â Syr Charles Morgan, Barwnig, o Barc Tredegar, yr hwn oedd yn frawd i wraig y Colonel, i gael golwg ar Howells, fel yr arferai wneuthur pan y deuai i'r wlad ar ŵyliau Nadolig.

Swydd Fynwy, i ddysgu crefft Saer;— nid oedd câr na chyfaill ganddo yn y lle, ac o ran unrhyw gyfarwyddyd gyda golwg ar ei dywys yn llwybrau gwirionedd, nid oedd neb i'w osod yn mhen y ffordd, aeth yn mlaen yn ei arferion megis cynt, yn ddiofal ac esgeulus; yr oedd yn amlwg ei fod heb gyfarfod ag un attalfa i rodio yn ol helynt y byd; er ei fod wedi gwrandaw yr efengyl, a llafurio i gyrhaedd gwybodaeth yn ngwirioneddau y gair, ni wyddai eto ddim am yr argraffiadau hyny sydd yn cyfnewid yr enaid; yr oedd ganddo gydwybod, ond nid oedd yn ddeffroedig, a'i ewyllys yr un modd heb un argau i'w rhwystro yn ei gogwyddiad at lygredigaeth; fel prawf o'r anian a'i llywodraethai, nid oes eisiau ond crybwyll nad oedd neb i ddweyd gair wrtho am ffordd yr Arglwydd, nac ynddo yntau y duedd i “chwennych gwybod ei ffyrdd.” Yr oedd y teulu lle yr oedd yn byw yn ddigrefydd, ac yntau yn dawel i'w sefyllfa,— nid oedd Bibl ar y bwrdd, fel yn nhŷ ei dad, a threuliai ei nosweithiau mewn chwareu cardia, a dywedir ei fod yn gampus ar y gorchwyl hwnw, wedi ymarfer ag ef, y mae yn debygol, tra y bu yn aros yn y Cotterell.

Wedi i amryw fisoedd fyned heibio, ffurfiwyd adnabyddiaeth rhyngddo a bachgen ieuanc o'r enw William Lewis, yr hwn oedd yn aelod crefyddol gyda'r Annibynwyr yn


 

 

(delwedd 4530) (tudalen 8)

 

 




(x8) Heol-y-felin, ac yn byw gyda'i fodryb gerllaw cartref Howells. Yr oedd y gwr hwnw wedi sylwi ar ei foesau a'i arferion, ac yn teimlo awydd cryf i'w ddiwygio, a thrwy ymddyddanion personol llwyddodd i'w ennill i wrandaw yr efengyl; a'r Sabboth canlynol tywyswyd ef i Hope Chapel, i wrandaw y Parch. John Rees; *

*O dan weinidogaeth Mr. Rees bu tywalltiad anarferol yn Nghymdeithasfa Penybont-ar-Ogwr; llefarai ar y geiriau yn Gen. xxviii, 12, 13,— (Gweledigaeth ysgol Jacob.) Yr oedd hynodrwydd yn nglyn â'r amgylchiad, oddiar fod ei bregeth yn Saesoneg, a channoedd o Gymry heb ddeall yr iaith yn moliannu o dan ei weinidogaeth, y rhai a dystient eu bod yn mwynhau yr hyn a glywsant, heb deimlo un annedwyddwch o herwydd dyeithrwch yr iaith.

gŵr o enwogrwydd mawr yn Nghymru, ac un a lafuriodd gyda llwyddiant anghyffredin wedi hyny yn LIoegr. Bu yn weinidog yn Rodborough, ac am amryw flynyddoedd yn Llundain. Wedi dechreu gwrandaw yr efengyl, cynnyddodd awydd arno i fynychu y lle, dechreuai y weinidogaeth cyn hir anesmwytho ei feddwl, a dywedai ambell un, “Y mae rhywbeth ar y bachgen,” a gwir oedd y dywediad, yr oedd rhywbeth arno, ac y mae effaith y rhywbeth hyny arno heddyw mewn gogoniant; sylwyd ei fod yn darllen y Bibl yn amlach, nes colli archwaeth at bob difyrwch, yn raddol daeth yr hen lyfr yn brif lyfr ei fyfyrdod, ac aeth y cniw cardia i anghof a choll. Y rhai fuasent gynt yn gymdeithion iddo, a edrychent yn ddiflas, gan wawd-wenu arno, a'i ddirmygu; gwerthfawrogent ei gyfeillach fel cardiwr, ond pan y dangosodd duedd at grefydd, alltudiwyd ef o'u meddwl, ac nid oedd i fod mwyach ond gwrthddrych difriaeth; eto nid gwiw iddynt gŵyno, yr oedd y cardiwr wedi troi yn weddiwr — y pregethau eisoes wedi gyru bwledau bychain i'w gydwybod, ac wedi myned yn rhy ddwfn i mewn i feddygon y fall allu eu gwasgu allan; a rhag y byddai iddo sefyll o flaen cyflegriad mwy grymus, ennynodd y diafol ysbryd erledigaeth yn y teulu, gyda'r amcan o'i gywilyddio os byddai modd, a dechreuent ei ddifenwi, a'r enw newydd a gafodd oedd


 

 

(delwedd 4531) (tudalen 9)

 

 




(x9) “Morgan the Saint.” Tra yr oedd yr erledigaeth oddiallan yn cryfau, yr oedd y dymhestl o fewn yn cynnyddu, fel na orchfygwyd ef gan ddirmyg y byd. Tua'r amser hwn talodd ymweliad â'i fam, a chan fod merch ieuanc o adnabyddiaeth. iddo yn byw yn y Corner House yn y dref hon, galwodd i'w gweled ar ei ffordd adref, yr hon a sylwai fod cyfnewidiad mawr ynddo, a'i fod yn ymddangos fel dyn o dan wasgfa meddwl, er na wyddai hi am ba beth. Wedi ymweled â'i fam, dychwelodd yn mhen ychydig ddyddiau i'r Casnewydd, a'r Sabboth aeth yn ol ei arfer i Hope Chapel, a'r oedfa hynod a ddaeth yn yr hon y clwyfwyd ef; er ei fod eisoes wedi teimlo aflonyddwch o dan y pregethau, nid oedd y cyfan ond pigiadau ysgafn, mewn cymhariaeth i ddwysbigo y galon yn y cyfarfod hwn. Testun Mr. Rees oedd, “Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gynmaint.” Gosododd allan fawredd y perygl o esgeuluso iechydwriaeth, ar gyfer mawredd yr iechydwriaeth ei him, nes y canfyddai Mr. H. ei holl fywyd megis âg un olwg, a dechreuai ddychrynu, gweddio, a gwaeddi, heb olwg am waredigaeth o un man; ymddangosai fel dyn wedi anmhwyllo, a dywedai, “Gwrthodwr iechydwriaeth wyf fi! gwrthodwr iechydwriaeth wyf fi!” ac ychwanegai, “Yr wyf wedi gwerthu iechydwriaeth, yn wyneb pob cynnygiad a gefais gan fy Nhad a chan bawb.”
Yn nghanol yr aflonyddwch mawr a deimlai, nid ffoi ymaith i chwilio am dawelwch o bleserau y byd a wnaeth, ond penderfynodd lynu wrth y moddion, gan ddweyd wrth yr Arglwydd,

.........”Mi nesaf atat eto’n nes,
...........Pa les im' ddigaloni?”

Y cyfleustra cyntaf a gafodd arth i'r Cyfarfod Eglwysig, ac ni fu galwad cymhell neb i adrodd eu profiadau y noson hono; os nad oedd dim neillduol ar feddwl ereill, yr oedd yno un na welwyd o'r blaen, â chanddo bethau neillduol iawn: safai ar lawr y Capel, pryd y dechreuai Mr. Rees ei holi, a phob llygad

 

 

(delwedd 4532) (tudalen 10)

 

 




(x10) yn syllu arno, gan wrandaw yn astud ar bob gair a ddywedai mewn atebiad, yn fuan iawn disgynai rhyw deimlad o arswyd ar yr eglwys,— pa ryfedd! Yn unig dychymmyged y darllenydd ei fod yn gweled llanc ieuanc yn sefyll ar ganol y capel, yn wylo dagrau yn hidl, ac yn crio allan am ei fywyd. Wrth alw i gôf y grymusderau a welwyd pan y tröai ambell un ei wyneb i dŷ yr Arglwydd, yn yr oes a aeth heibio, addefir fod y goruchwyliaethau yn ddychrynadwy iawn, fel pe meddyliem am ddyn o dan gondemniad, y dydd o flaen ei ddienyddiad, neu am ddyn annuwiol yn marw o dan ddychrynfeydd cydwybod ddeffroedig, heb obaith am iechydwriaeth; er yr edrychai ei gyfeillion ar ddydd ei waredigaeth, pan y dattodid ei rwymau, er hyny i deimlad yr argyhoeddedig byddai y cwbl yn ddiobaith. Dyna agwedd Mr. H. yn Hope Chapel,— codai ei ddwylaw i fyny, yna edrychai i lawr, a gwaeddai allan, “I am lost, I am lost!” Yna cyfeiriai ei lygaid tuag i lawr, fel pe gwelai lengau o gythreuliaid yn barod i’w dderbyn, a gwaeddai allan yn uwch, “Hell hath enlarged herself, and opened her mouth without measure.” *

*Esaiah v, 11.

Yr ymadroddion hyn a’u cyffelyb a frawychai y bobl yn fawr; byddai pawb yn sylwi, a llawer yn wylo gydag ef, ac i gadw ychydig o drefn ar y gynnulleidfa Seisnig, yn nghanol y gwreichion Cymreig oedd yn ymdaflu allan o’r fynwes oedd yn fflam, cynnygiai Mr. Rees y Balm, cyfeiriai lygaid y truan tua’r groes, cynghorai ef i ymdreiglo ei enaid helbulus ar ddigonolrwydd yr iawn; ond ni wnai hyny y tro, gwaeddai allan drachefn, “Hell from beneath is moved.” *

*Esaiah xiv, 9

Yr oedd melldithion y ddeddf rhyngddo a’r groes, a chymylau duon Sinai fel mynyddoedd rhyngddo a Chalfaria; braidd nad oedd crybwylliad am obaith yr efengyl yn ei daflu yn mhellach yn ol, am na allai weled dim o’i flaen ond pydew diwaelod. Yn y teimlad poenus hwnw croechlefai, “I am, a lost man,” ac â’i

 

 

(delwedd 4533) (tudalen 11)

 

 




(x11) ddwylaw i fyny a’i ben i lawr, rhoddai allan lef alaethus, nes creu trydar disymmwth yn mhob mynwes, a dywedai, “I fear I shall go down quick into hell.” *

* Salm lv, 15.

Bu y cyfarfod hwnw yn destun i lawer o ymddyddan ar ol llaw, teimlid pryder nid bychan yn achos y gwr ieuanc, ac ofnai rhai rhag i wasgfeuon mor ddwys ei lethu i anobaith; ond yr hwn a’i clwyfodd a wyddai y pryd a’r ffordd i’w feddyginiaethu; er iddo gael ei gadw am dro mewn gwewyr, heb olwg am ddiangfa, parhaodd i ddyfod i bob cyfarfod eglwysig, ac adroddai ei deimladau bob tro, yr hyn a ychwanegai y cydymdeimlad tuag ato, a dymuniad am weled y pyrth yn agor i’r carcharor fyned yn rhydd.

O dan y baich trwm ymdrechai yntau fyned i mewn trwy y porth cyfyng,— teimlai fod dialedd cyfiawnder Duw ar ei ol, a rhaid oedd iddo ffoi, gan ddywedyd, “Noddfa, Noddfa;” ond gan i lawer un golli y ffordd, nes caledu y gydwybod wrth geisio ei thawelu, trwy ddefnyddio moddion anghymhwys tuag at ei adgymmodi; os bu felly ar ereill, nid oedd Mr. H. allan o berygl, rhag i’r temtiwr lwyddo yn ei ddichellion, ac iddo yntau yn y canlyniad roddi cyffroad i’w ysbrydoedd pruddglwyfus yn ol ei gyfarwyddiadau uffernol ef, gan ddef¬nyddio cryf-beirion (tonics) hudawl y meddwyn,— caniadau oferwag,— cerddoriaeth,— y cwmni llawen a’r dawns,— fel hyny y diffoddwyd argyhoeddiadau cyn hyn, a chydwybodau wedi eu deffroi unwaith a ddanfonwyd eilwaith i gwsg, cyn eu puro â gwaed a’u heddychu yn wyneb Iawn; ond trwy ras, ymgadwodd rhag ymofyn a dewiniaid y cnawd; yr oedd yr Arglwydd, mae yn wir, yn llefaru yn arw wrtho, er hyny efe a ymlynai wrth byst ei byrth ef, gan ddweyd yn debyg i Esther, “O derfydd am danaf, darfydded;”—amcanai yn dêg am ei fywyd,— yr Ysbryd ag sydd yn tywys i bob gwirionedd, a gyfeiriai ei lygaid tua theyrnas nefoedd,— credai yntau mai
 

 

 

(delwedd 4534) (tudalen 12)

 

 




(x12) “treiswyr oedd yn ei chipio hi.” Tua’r amser hwn cysegrai bob mynyd a allai hebgor, i ymneillduo oddiwrth sŵn a dadwrdd y trigolion, ac megis Isaac, elai i’r maes i fyfyrio ar ei ben ei hun. Er mai anhawdd cael allan bob man o amgylch y dref, lle y disgynai dagrau calon ddrylliog o’i lygaid; eto, gan fod y prif fan yn adnabyddus, yr hwn oedd ei fan dewisol i agor ei fynwes helbulus gerbron Duw, gweddus yw ei gofnodi, “CAE Y PARROT” oedd hwnw. Yr hyn oedd y ffigysbren i Nathanael, hyny ydoedd “CAE Y PARROT” iddo yntau. Fel hyn y mae manau heb unrhyw hynodrwydd neillduol yn perthynu iddynt, wedi myned yn fangreoedd enwog iawn. Os oedd ymneillduad yr Iesu a’i ddysgyblion i’r ardd a Gethsemane yn galw am gofnodi y lle, pa le bynag y crybwyllir am Mr. H. fel gweddiwr, nac anghofier “CAE Y PARROT,” “oblegid mynych y cyrchai efe yno,” ac y treuliodd hanner oriau difrifolaf ei fywyd,— nid am dro neu ddau, ond mynych iawn, weithiau liw dydd, pryd arall ar hyd y nos; gwelwyd ef gan rai o’r hen bererinion sydd eto yn fyw, yn cerdded tua’r fan ddegau o weithiau, yn welw ei wedd, a’i liniau yn crynu,— ar ol y cyrhaeddai y fan, ymostyngai o dan y berth, a threuliai yno hanner awr, mwy neu lai; clywid ef weithiau yn gwaeddi am drugaredd, a dychwelai a’i wyneb yn orchuddiedig gan ddagrau, wedi bod yn yr ymdrechfa â Duw.

Wedi i lawer ofyn, gyda golwg ar drallodau dirfawr ei feddwl, “A ddygir y caffaeliad oddiar y cadarn? neu, a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?” o’r diwedd darfu’ i’r hwn a fedrai “ymryson a’r ymrysonydd “ateb y gofyniad, nes i’r cadwynau ymddattod, “a’r gwas a ryddhawyd oddi¬wrth ei feistr;” ac er cadarned ydoedd ei hen orthrymydd, yr oedd iddo ef waredwr cryfach, yr hwn, yn ei hynawsedd, a’i dygodd i “rwym y cyfammod,” gan agor y pyrth pres er i “anrhaith y creulon ddianc.” Y cyfarfod eglwysig canlynol, wele yr hwn oedd yn rhwym draed a dwylaw, megis


 

 

(delwedd 4535) (tudalen 13)

 

 




(x13) newydd, yr hen euogrwydd damniol wedi ei symud, ac yntau yn ymguddio o dan aden waedlyd y Cyfryngwr; gweithiwyd y cyfnewidiad hwn arno trwy air y gwirionedd, gair a ddarllenwyd ganddo lawer gwaith o'r blaen, ond y tro hwn yr Ysbryd Glân a symudodd y llen nes yr ymddangosai yr hen adnod fel cenadwri newydd. Y gair a'i gollyngodd yn rhydd a welir yn Ioan iii, 16, “Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.”


Ymddangosai y cwbl mewn gwedd wahanol, a'r gân newydd oedd yn ei enau yn ddangoseg o gyfnewidiad ei galon, yn peri iddo foli Duw am waredigaeth mor fawr.


Wedi olrhain ei hanes hyd yma, gan amcanu dynodi pob amgylchiad o bwys, goddefer iddo gael ei gyfrif bellach yn Gristion,— yn greadur newydd,— yn ddyn yn Nghrist; hyderir na chyfrifir hyn yn bendcrfyniad rhy frysiog, ar yr un pryd y mae yn rhy gynnar i'w osod ar yr un tir ag Apèles, nid oedd wedi myned o dan yr holl oruchwyliaethau dysgyblaidd sydd yn hanfodol i filwr da i Iesu Grist eu profi.

Y mae yn rhaid i bob dyn mawr fyned trwy dywydd mawr,— nid yw croesau Cristion cyffredin yn ddigonol i gymhwyso dyn at waith y weinidogaeth, fel y sylwai y Parch. Ebenezcr Morris, pan yr anerchai dorf o bobl unwaith, “Yr ydym ni,” meddai, “yn gorfod dyoddef pethau na fuasai galwad i ni byth, ond er eich mwyn chwi.” — Er y gallai Mr. H., yn y mwynhad o'r cariad cyntaf, feddwl nad oedd ystormydd geirwon iawn i chwythu arno mwyach, a gwyro yn ei obaith o fod yr holl awelon croes wedi gostegu yn nhawelwch y dymhestl fawr; eto yr oedd yn ofynol iddo weled i ben draw yr anialwch, cyn y canfyddai y ffordd yr oedd i gael ei wneyd yn “ŵr profedig gan Dduw.” Y mae yn wir fod gauaf llym argyhoeddiad wedi myned heibio, ac addewidion hyfryd y gair fel caniadau adar y goedwig yn perleisio yn ei glustiau; ond nid oedd



 

 

(delwedd 4536) (tudalen 14)

 

 




(x14) wedi ei symud o'r byd lle yr oedd Satan yn trigo, yr hwn, er ei fwrw oddiar orsedd y galon, ac er ei droi o'r neuadd, a fodrai lercian o'r tu allan i'r cyntedd, fel pe dywedai, “Os collais y lletty, nid ymadawaf â'r gymmydogaeth; er fy nhroi o ystafelloedd goreu y tŷ, gwn y ffordd i ymosod ar y muriau; y mae trefn achub rhyngof a damnio ei enaid, ond gwnaf eto fy ngoreu i boeni ei gorff:”— felly y bu; yr offerynau a ddefnyddiodd y diafol i ymosod arno, oedd tylwyth y tŷ lle y preswyliai, fel yr awgrymwyd eisoes; gellid dysgwyl y buasai yr Abiah hwn yn wrthddrych ychydig o barch er mwyn ei grefydd, ond fel yn nyddiau y Breninoedd pan y dangosid mwy o bris gan Jeroboam a'i wraig am y ddau lô yn Dan a Bethel, na'r “peth daioni a gaed tuag at Arglwydd Dduw Israel,” defnydd cynhyrfu sarugrwydd gwatwarol, a drwg nwydau gwaethaf y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am ei welliant; yn lle ei galonogi yn y ffordd yr oedd arni, difyrent eu hunain yn y cyflawniad o bob pranc a fyddai yn debyg o'i flino, ac er mwyn ceisio llygru ei feddwl, ac attal y diwygiad oedd mor amlwg yn gweithio yn ei enaid, dychymmygent wahanol ffyrdd i ddwyn yn mlaen eu hamcanion, ac ymddangosent yn aflawen pan y methent ddyfeisio rhyw asbri newydd i'w ddrygu.

Gosodwyd ef unwaith i ymddangos fel ffŵl y teulu, yr hyn a drodd allan yn lwyr-wall, (failure). Gwahoddwyd rhyw gyfeillion yno i dreulio prydnawn, a dygwyd yntau yno, nid i fwynhau y gyfeillach, ond i Mrs. —— gael difyru ei hunan drwy ei ddirmygu; cyfarchai un o'r ymwelesau, gan watwarwenu ar Howells, a dywedai, “Dyma fe, O mor grefyddol y mae yn ceisio gwneyd ei hunan; y mae wedi myned yn dduwiol i gyd ar unwaith.” Yr oedd hyn yn brofedigaeth. yn ddiau i fachgenyn, ond er hyny ni chollodd ei le, cymmerodd galon, a chyfarchodd ei feistres ag ysgrythyr, “Nid

 

 

(delwedd 4537) (tudalen 15)

 

 




(x15)
rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, Ma'm,” ebe fe, “ond i'r rhai cleifion.” Sylwai un o'r gwragedd yn lled graffus, a chyfarchai wraig y tŷ, gan ddywedyd, “Gwyliwch beth y'ch chwi'n ei wneuthur, rhag i chwi gyffwrdd â chanwyll llygad Duw.” “Beth?” ebe Mrs. ——. “Wel,” ebe y wraig ddyeithr, “esgusodwch fi, yr wy'n credu fod y bachgen yna wedi ei fwriadu gan ragluniaeth i gyflawni rhyw waith mawr; fe allai mai y peth goreu fydd ei adael yn llonydd.” Aeth y difyrwch yn ddiflas, a cherddodd Howells allan.


Fel prawf o'r digywilydd-dra sydd mewn pechod, arferent roddi yr esgidiau iddo ar foreuau Sabbothau i'w glanhau; cyflawni yr hyn oedd yn loes i'w gydwybod wedi iddo gael crefydd, a chynghorwyd ef gan gyfaill i geisio yr esgidiau y nos o'r blaen, yr hyn a wnaeth, ond yn ofer, am mai gorchwyl boreu Sabboth yr ystyrient glanhau esgidiau. Y Sabboth a ddaeth, aeth yntau i Hope Chapel i gyfarfod gweddi saith, ac ar ei ddychweliad yr oedd crug o esgidiau yn ei aros, ond ni osododd law arnynt, ac yn gosp am ei anufudd-dod, gwrthodwyd iddo yntau ei foreufwyd; aeth am unarddeg i Hope Chapel eilwaith, i wrando Mr. Rees, a dychwelodd wedi yr oedfa mewn gobaith y byddai'r nwydau wedi dofi, ond erbyn cyrhaedd y tŷ, deallai fod y ddedfryd heb ei symud, a rhaid oedd iddo foddloni heb ei giniaw; gan nad oedd dim i'w gael y diwrnod hwnw ond bwyd ysbrydol, aeth am ddau o'r gloch i lofft y Pobty, lle yr ymgynnullai y Cymry i gadw ysgol, a daeth i feddwl ei gyfaill, W. Lewis, i fyned i edrych am dano ar ei ffordd adref o Heol-y-felin, a chafodd ef yn yr ysgol yn wael iawn ei wedd, a chwedi gwrando arno yn adrodd ei helynt, aeth âg ef i dŷ ei fodryb; yn fuan iawn daeth merch ieuanc i mewn, ac yn ddifeddwl dywedai wrth W. Lewis, “Wel, William, y mae genyt ti ryw gyfeill¬ion yn dy ymyl bob amser.” Tybiodd Howells ei bod hi yn brysur, ac aeth allan heb ddweyd dim, a chwedi chwilio am

 

 

(delwedd 4538) (tudalen 16)

 

 




dano yma a thraw, daeth i feddwl y teulu y gallai fod fel ei Feistr o'i flaen, yn y deml, ac erbyn myned yno, cafwyd ef yn gwrando yn astud ar Mr. Rees, a dygwyd ef gan ei gyfaill i dŷ ei fodryb eilwaith. Wedi treulio y dydd hwnw, o'r boreu hyd yr hwyr, mewn ympryd a gweddi, cafodd ei ymgeleddu yn dirion y noson hono, ac ymadawai boreu dranoeth wedi ei loni gan garedigrwydd ei gyfeillion, y rhai a sylwent arno yn ei drallodau, a dywedai wrth wraig y tŷ cyn ymadael, “Os yw Crist genyf, pob peth yn dda; y mae hyny yn fwy na'r cwbl sydd ar eu helw nhw.”

Yn mhen ychydig amser daeth rhagluniaeth a'i holwyn o amgylch, a chymmerodd cyfnewidiad le yn y teulu hwnw, a symudodd bob achlysur i grefyddolder Howells eu blino mwyach, a chawsant hwythau rywbeth yn nes atynt i'w gofidio nâ “Morgan the Saint.” Amgylchiad a barodd i'r Colonel Lascells ei osod gyda Mr. David Evans, i ddysgu crefft Cabinet-Maker, lle y bu fel breintwas a diwrnodwr am amryw flynyddoedd. Dangosai y Colonel ofal mawr am dano, gymmaint, fel na allai fod yn hapus i dreulio diwrnod, pan y deuai ar ymweliad i dŷ Syr Charles Morgan, heb alw yn nhŷ Mr. Evans i'w weled, a'r peth cyntaf a ofynai fyddai, “Where is Morgan Howells, and how is he?” Gwahoddai ef yn daer i ddyfod i Dredegar i'w weled yntau, ond yn ddibris o bob mantais a allai ddeilliaw iddo trwy ymwasgu at y gwr boneddig, anfynych y gellid ei berswadio i fyned; yr oedd ei dueddfryd mor sefydlog ar bethau ereill, a'i fwriad mor gryf ar yr hyn a berthynai i deyrnas nefoedd, nes lleithio ei ysbryd at yr hyn, mewn ystyr arall, a allai fod yn fanteisiol iawn iddo.

Yr oedd ansawdd ei feddwl, yn y blynyddoedd cyntaf o'i arosiad gyda Mr. Evans, yn ei anghymhwyso at bob gorchwyl, ac yn profi na allai efe ffynu fel celfyddydwr; er iddo mewn blynyddoedd diweddarach ddyfod yn mlaen yn fedrus yn ei

 

 

(delwedd 4539) (tudalen 17)

 

 




(x17) gelfyddyd, nid i'w ymdrech yn y blynyddoedd cyntaf yr oedd y cynnydd hwnw yn ddyledus. Y mae yn ofynol cael y meddwl at bob gorchwyl, neu benderfynu y cyflawnir ef yn annyben;— yr oedd ei ddwylaw ef gydag un peth, a'i feddwl gyda pheth arall, weithiau safai yn syn yn y gweithdy, gorchfygid ef bryd arall gan ddwys fyfyrdod, bryd arall syrthiai yr offer gwaith o'i ddwylaw i'r llawr, ac yno, o'i ran ef, y caent fod am dro; ac ar ol iddo ymaflyd ynddynt drachefn, disgynai y fit yn bwysig arno eilwaith, a darllenai dipyn; ac nid peth anarferol fyddai ei weled, cyn diwedd y dydd, yn hollol analluog i wneyd dim;— dyoddefodd lawer o'i wawdio o herwydd y pethau uchod, a chymmerai ambell un o'i gyd-weithwyr anystyriol fantais arno, tra yr oedd ansawdd ei feddwl duwiolfrydig yn rhwystr iddo ragori yn mhlith ei gymheiriaid. Y gwir yw, os oedd rhywbeth a fynai rhagluniaeth ag ef, nid oedd fawr arwydd ei bod wedi trefnu iddo saernio coed. Bernir am rai, y byddai yn well iddynt adael pregethu, a glynu wrth eu gorchwylion; ond fe allai mai dyledswydd yr eglwys weithiau yw tynu ambell un oddiwrth ei orchwyl, gan ei anog i gysegru ei hunan at y weinidogaeth;— gall fod yr eglwys yn pechu drwy esgeulusiad o'i dyledswydd, yn gystal â'r rhyfygwyr hyny a redant i'r swydd heb eu galw; beth bynag, mae yn ddigon eglur nad oedd dodrefn tŷ, cadeiriau mahogani, na glythau cerfiedig; cistiau aa threill-gistiau, yn bethau iddo ef dreulio ei amser yn eu cylch. Pe buasai Athrofa Trefecca wedi agor, buasai synwyr ei anfon ef yno; ond nid oedd gan y Cyfundeb, pan y cododd Mr. H., un Bethel na Jericho i anfon eu gwŷr ieuainc am addysg, er mai gweithdy o'r fath fuasai yn fwyaf cyfaddas i'w enaid mawr ef, os na buasai blŷs hil Hengist am Bregethwyr Gymreig yn amddifadu Cymru o ddyn mor ddefnyddiol; ond rhag tybio drwg am ein cymmydogion, gallwn foddloni ar un peth sydd yn ddigon sicr, “Ei ffordd sydd yn y môr.”

 

 

(delwedd 4540) (tudalen 18)

 

 




(x18) Gallesid dwyn i mewn yma ychwaneg o hanesion am yr hyn a ddyoddefai oddiwrth ei gydweithwyr, megis pan y gorfodid ef i ddadleu â hwynt ar bynciau crefyddol, ac ar ol iddo yru ei wrth-bleidwyr allan o bob lloches yn y ddadl, nes y methent wneyd dim ond digio a chwyrnu yn dost, yna erlidient ef yn druenus iawn; ond er fod y gwyntoedd yn chwythu arno o bob cẁr, yr oedd yn dyfod fwy fwy i'r golwg fel Cristion cywir, edrychid arno fel dyn cysegredig i'r Arglwydd, ac yr oedd ei bryder mor fawr ar y tymhor hwn fel na allai roddi hun i'w lygaid lawer noswaith. Dywedai Mr. Samuel Jones, yr hwn oedd â mantais i wybod, am ei fod yn llettya yn yr un tŷ, ac yn cysgu yn yr un ystafell ag ef, iddo ei weled lawer gwaith yn eistedd i fyny drwy y nos i ddarllen a gweddio; yr oedd y gorchwyliaethau hyn yn gostus iddo ef, er hyny hyfforddiadau oeddynt a'i dysgodd cyn hir i allu dweyd am yr efengyl yn ngeiriau Paul, “I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi, yn ol grymus weithrediad ei allu ef.”

PENNOD III.
DECHREUAD GWEINIDOGAETH MR. HOWELLS.

Sefyllfa yr achos yn Sir Fynwy — Pregethau cyntaf — Llafurio ar hyd y Sir — Helaethiad ei derfynau — Ei ymweliad â Sir Frycheiniog — Profedigaeth oddiwrth Satan.

Y mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio Sir Fynwy heb ragor nag un pregethwr o eiddo y Methodistiaid o'i mewn; arferai yr un hwnw, sef Mr. Edward Coslett, ddweyd mai efe oedd y pregethwr mwyaf yn y Sir; a gwir oedd y dywediad, ac nid oedd neb a farnai yr hen batriarch yn hunanol, am fod y fath sail ganddo dros ddweyd hyny. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1815, nid oedd ond ychydig o bregethwyr yn y rhandir


 

 

(delwedd 4541) (tudalen 19)

 

 




(x19) hono, a phan y byddai son am bregethwr newydd yn codi, taenid yr hanes dros yr holl gymmydogaeth, ac ni byddai modd dystewi y dadwrdd, na meddwl am unrhyw beth arall, cyn cael ei glywed; nid cymmaint oddiar syched am air yr Arglwydd, ag oddiar ysfa am newydd-beth. Mesurid a phwysid ef, nc wedi hyny byddai yn rhaid iddo guro ei ffordd yn miaen, er cadw i fyny â'r gymmeradwyaeth a fyddai iddo, neu or dadbrofi y rhagfarn a allai fod yn ei erbyn.


O fewn y flwyddyn uchod yr oedd awydd y cyfeillion crefyddol yn y Casnewydd am glywed Mr. H., a'i duedd yntau at y gwaith, wedi dyfod i addfedrwydd; nid tuedd at fod yn bregethwr, er mwyn y swydd, oedd ynddo gymmaint, ond cariad cryf at y gwaith. Gallasai fyw yn dawel heb un pnlpud, a boddloni heb yr enw o fod yn bregethwr; ond ni allasai fyw yn ddedwydd heb bregethu. Yr oedd wedi gweled y fath ogoniant yn yr Arglwydd Iesu, a'r cyfaddasrwydd mwyaf ynddo ar gyfer anghenion byd o bechaduriaid, nes dymuno gwneyd a allai i dynu ymaith y llen, fel y canfyddid ef gan ereill. Gosodwyd ei achos gerbron yr eglwys — holwyd ef — cynghorwyd ef — dywedwyd wrtho am bwys y gwaith, — yna gwrandawwyd arno yntau yn traethu ei farn a'i deimladau, fel y gwneir ar achlysuron o'r fath. Yr oedd yn y gymdeithas ar y pryd un hen frawd a wasgai arno yn lled ddwys er mwyn gwybod ei ddybenion; peth arferol yn yr oes hono fyddai drwgdybio dyn ieuanc a ddangosai duedd at y weinidogaeth, o ei fod yn ymaflyd yn y gwaith er mwyn yr hyn a alwent “bywyd segur.” Gofynid weithiau i genadwr ar ei ddychweliad o gyfarfod misol, “A oedd yno neb wedi blino gweithio, yn ymofyn gorchwyl?” Gofyniad i'r un perwyl a roddwyd ato ef, mewn dull digon byrbwyll i fwrw dyn gwan i lewygfa, a dyma fe, “Wel, frawd bach, mater pwysig yw pregethu yr efengyl! y mae perygl rhag i chwithau ruthro i'r swydd heb eich galw,-- dewch, dewch yn

 

 

(delwedd 4542) (tudalen 20)

 

 




(x20) yn awr, gadwch i ni glywed tipyn o'ch profiad ar hyn, ai nid bywyd esmwyth sydd mewn golwg?” i'r hyn, wedi i'r hen frawd ddybenu ei gyfarchiad, yr atebodd Mr. H. yn gadarnhaol, yr hyn ar y fynyd a ymddangosai yn ddyeithr, a dywedai, “Ie, bywyd esmwythach fydd hi nâ bod yn ddystaw yn hŵy. Anghenrhaid a osodwyd arnaf, a gwae fydd i mi oni phregethaf yr efengyl.” Yr oedd yr atebiad mor foddhäol, a'r “anghenrhaid” yn tori pob dadl, fel y penderfynwyd iddo gad gwneyd prawf.


Y man y traddododd oi bregethau cyntaf, oedd mewn ystafell a elwid “llofft y pobty,” ar waelod Stow Hill, gyferbyn a'r man lle yr adeiladwyd, yn mhen blynyddoedd, gapel mawr y Pabyddion; yr oedd y Cymry a fuant gynt yn ymgynnull i Hope Chapel, yr amser hwn wedi ymneilldno i'r ystafell uchod, (ac nid hir y bu Mr. Rees cyn iddo yntau ymadael i gymmeryd gofal yr eglwys yn Rodborough). Trefnwyd y cyfarfod i Mr. H. gael pregethu, ac erbyn i'r awr ddyfod i ben, dysgwylid iddo esgyn i ben y **'stol, (nid oedd pulpud yn y lle), ond mynai yntau gyfarch y bobl oddiar lawr, gan ystyried y byddai codi ei hunan i ben ystol, y waith gyntaf yn enwedig, yn arwydd o falchder ynddo; ond gan fod y cyfeillion yn awyddu am ei -weled yn sefyll droed-fedd uwchlaw y bobl, ymaflodd dau neu dri o'r brodyr ynddo, a gwthiasant ef i'r lan o'i anfodd, a chymmerodd yn destun y geiriau, “I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.” Trefnwyd cyfarfod iddo eilwaith, a darfu i un John Williams, yn nhŷ yr hwn y llettyai, ei godi i ben y **'stol y tro hwnw, yn groes i'w ewyllys, fel y tro cyntaf; ond gan fod yn rhaid iddo ufuddhau, aeth rhagddo; ei destun oedd, “Cusenwch y mab rhag iddo ddigio, a'ch dyfetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.”

Fel yna y dechreuodd, heb nemawr o ddim tu allan iddo ei

 

 

(delwedd 4543) (tudalen 21)

 

 




(x21) hun, yn fanteisiol iddo i ddal ei ffordd ymlaen; o ran ei gylch perthynasol, (yr hyn weithiau a rydd fawr gymhorth i ddyn ieuanc), nid oedd i Mr. H. ddim i'w ddysgwyl o'r cyfryw gysylltiad; nid oedd iddo dad, brawd, nac un berthynas yn y lle; yr oedd y bobl, mewn cymhariaeth, yn ddyeithr iddo ef, ac yntau yn ddyeithr i'r bobl; ond yn absonnoldeb pob cynnorthwyon allanol tuag at ei wneyd yn ddefnyddiol, yr oedd yn amlwg ei fod yn feddiannol ar gymhwysderau; nid oedd, mae yn wir, mwy nag ereill o ddysgawdwyr cenedl y Cymry, wedi derbyn uchafiant offeiriaid Carthage a'r Aipht, y rhai a gydnabyddid yn addas gymdeithion i dywysogion, ac yn mhob dyrchafiad a bri daearol yn ail i neb ond i'w breninoedd;— na, nid yw y cyfryw warogaeth yn anghenrheidiol i wir ganlynwyr yr Oen, nac yn cyfateb i'r swydd o addysgu ereill mewn addfwynder a gostyngeiddrwydd. Derbyn gair neu weinidogaeth y cymmod a gynnwysai y cwbl sydd anhebgorol anghenrheidiol;— teimlodd Mr. H. y gair hwnw “yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn ei esgyrn.” Ofer fuasai iddo droi ei feddwl at ddim arall, yr oedd y tân o fewn! Gwelwyd rhai dan ddylanwad yr hyn a elwir “Chwant pregethu” yn poeni eu hunain, ac ereill, am urddau, hyd oni chawsant swydd fwy ennillfawr, yr hyn a fu yn angeu tragywyddol i'r chwant hwnw; yr oedd yno wres, mae yn wir, ond nid oedd amgen cyffyrddiad byr ac ysgafn â'r croen. Nid felly Mr. H. Yr esgyrn — y galon — yr enaid oedd aelwyd y tân santaidd a'i gwnai mor anesmwyth ei deimlad. Chwant ydoedd na allasai cynnyg ar swydd ymherawdwr ei ladd na'i laesu. Ymweithiad fflam anfarwol ydoedd, ni allasai golud mwy na thlodi daearol ei diffodd; ni chafodd esmwythad oddiwrthi, na vent iddi, nes ymgymmeryd â gorchwylion y weinidogaeth efengylaidd.


Wedi iddo lafario ar hyd yr ardaloedd cylchynol am ryw


 

 

(delwedd 4544) (tudalen 22)

 

 




(x22) yspaid o amser, helaethwyd ei derfynau, a chafodd ryddid i bregethu yn mhob man yn y Sir lle y rhoddid galwad iddo. Afraid yw dwyn ar gof mai pregethwr teithiol, ac nid gweinidog sefydlog, a ddarlunir. Nid angel yr eglwys, ond angel yr eglwysi ydoedd. Pa gyfnewidiad bynag a gymmer le yn y drefn weinidogaethol, amser a brawf; digon at y pwrpas presennol fydd dweyd i Mr. H, ddechreu a diweddu ei lafur o dan drefn deithiol y Cyfundeb, a bod ynddo amryw gymhwysderau at fod yn deithiwr, na ellid eu hystyried yn gymhwysderau at fod yn sefydlog. Pe gellid penderfynu pa drefn yw y mwyaf tebyg i'r ffurf efengylaidd, byddai yn rhaid addef fod yr Arglwydd wedi gwneyd y weinidogaeth yn fendith yn mhob ffurf, a gellir dangos ddarfod i Ysbryd Duw, mewn modd arbenig, arddel ei air o enau Mr. H. ac ereill, er na fu eglwysi neillduol erioed o dan eu bugeiliaeth. Edrychwn bellach arno yn troi allan mewn undeb a'i frodyr, megis ag y gwnaeth Thob-adoniah mewn undeb a Semaiah, Nethaniah a Jehonathan, y rhai oeddent athrawon anfonedig Jehosaphat i addysgu trigolion Judah yn llyfr cyfraith yr Arglwydd, a gellir dweyd yn ddibetrus ddarfod i'r cyffelyb effeithiau a deimlwyd o dan weinidogaeth deithiol y Lefiaid hyny, gydfyned a gweinidogaeth deithiol Mr. H. Arswyd yr Arglwydd a ddisgynodd ar ei wrandawwyr! Y dynion y gellid ystyried eu barn o werth, a gydnabyddent ei fod yn dwyn arwyddion gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr oedd y rhai mwyaf llygeidiog o ddynion duwiol yn edrych arno fel y dylid edrych ar “was i Grist.” Os dewisir gwybod pa beth yw gwir gymmeriad pregethwr, ond odid nad yw barn y rhai hyny yn ddangoseg lled gywir. Yn wir, y mae rhagluniaeth weithiau fel pe byddai yn taflu dyn duwiol i fantol y tebycaf iddo ei hun, yr hyn a ellir ei ystyried yn amddiffyn nefol ar ei gymmeriad Cristionogol,— cerdda yr amddiffyn hwnw yn fath o gymhwysiad arno i basio



 

 

(delwedd 4545) (tudalen 23)

 

 




(x23) ddifeth yn eu clorian hwy, fel pan y gorchymynwyd y fendith ar Aser, y dywedwyd, “Bydded gymmeradwy gan ei frodyr.” Yr oedd Mr. H. felly ar ei gychwyniad cyntaf allan, nid yn gymmeradwyol gan yr eglwys fel cyfangorff, a'r naill yn penderfynu i fod yr un feddwl â'r llall, ond y rhai mwyaf addas i farnu a sylwent arno yn neillduol. Pwy allai fod a gwell mantais i ffurfio barn am dano nâ Mr. Rees? Yr oedd yn ei adnabod cyn ei droedigaeth,— wedi sylwi arno o dan argyhoeddiadau dwys,— derbyniodd ef i gymundeb eglwysig, a gwrandawodd arno yn pregethu yn Gymraeg ac yn Saesoneg. Gwnaeth ei hunan yn gyfarwydd ag ef cyn codi Haw na llef yn ei gylch.*

*Cafodd llawer o bregethwyr eu trwyddedu ar lai o brawf, megis pan ddygir achos gŵr ieuanc o flaen y Cyfarfod Misol, bydd yno ddau neu dri yn dwyn tystiolaeth ei fod yn iach yn y ffydd, a rhyw gyfaill yn ei ganmawl o fod yn ddyn bach fine a gostyngedig, yna gofynir am arwydd o gymmeradwyaeth iddo, a gwelir triugain a deg, mwy neu lai, yn codi dwylaw, er na welsant yr ymgeisydd erioed, ac yn ymddifad o’r moddion a ddylai fod ganddynt er eu cymhwyso i ffurfio barn; y gwir yw, y mae ganddynt hawl i ragor, neu nid oes ganddynt hawl i ddim; os na ellir gwneyd pregethwr, ond drwy gydsyniad aelodau Cyfarfod Misol, oni fyddai yn ddymunol i’r Cyfarfod hwnw gael mantais i brofi yr ymgeisydd, rhag, fel y dygwyddodd cyn hyn, i'r sawl a arwyddasant o'i blaid cyn iddynt weled ei wyneb, benderfynu wedi ei wrando unwaith, na chymhellent ef i'w goror mwyach, rhag tarfu y gwrandawwyr ymaith?

Pan y daeth â'i feddwl allan, yr oedd yn ddigon dealladwy, a'i feddwl oedd, mai gwell fyddai i Mr, H. daflu ei alwedigaeth o'i law, ac ymroddi yn hollol i weinidogaeth y gair. Byddai yn ofer cynnyg un fath o arnodiad ar hyn, y mae yn amlwg ei fod yn nghyfrif ei hen weinidog, yn fwy cymhwys at bregethu na dim arall, a bod y weinidogaeth yn ei olwg yn rhy urddasol i'w gwneyd yn gyfleustra at ddybenion y byd. Yr oedd golygiad mor benderfynol, o eiddo gŵr mor bwysig, yn flaenbrawf y byddai gweinidogaeth Mr. H. “yn gymmeradwy gan y saint.” Pa fodd bynag yr oedd i fyw, pe derbyniasai y cynghor, sydd ansicr; fe allai mai golygiad Mr. Rees oedd gadael hyny i ofal rhagluniaeth.


 

 

(delwedd 4546) (tudalen 24)

 

 




(x24) Wedi iddo lafurio ar hyd y Sir am flwyddyn neu ddwy, ebrwyddwyd helaethiad pellach i'w derfynau, a chafodd genad i fyned ar daith o wythnos i bythefnos.i Sir Frycheiniog, ar ddymuniad brodyr o'r Sir hono. Nid oedd y cynnulleidfaoedd a gafodd yn y daith hono ond cyffelyb i'r hyn oeddynt ar achlysuron cyffredin o'r fath, ond gadawodd y Pregethwr newydd argraff ar ei ol, fel pan y daeth heibio i'r un manau yr ail dro, yr oedd y gwrandawwyr yn llawer Iluosocach, ac mewn rhai manau y Capelydd oeddynt yn hanner llawn y tro cyntaf, yn orlawn yr ail. Dywedai un o Flaenoriaid mwyaf cyfrifol Sir Frycheiniog, yn mhen blynyddoedd wedi hyny, nad anghofiai byth yr agwedd a welodd ar Mr. H. y tro cyntaf y daeth i'r Capel yr oedd efe yn aelod ynddo, ei fod wedi gwrando cannoedd o bregethau, ond na ddarfu iddo sylwi ar neb yn esgyn grisiau y Pulpud a mwy o arwydd dyn yn teimlo pwys y gwaith, a'i fod yn edrych arno tra yn pregethu fel dyn ag arswyd tragywyddoldeb yn ei wedd. Nid oedd Mr. H. er hyny yn boddloni pawb; yr oedd “Chwant yr ysbryd,” yr hwn nis gall oddef ei well, yn cartrefu mewn calonau cenfigenus y dyddiau hyny; ac wrth weled y tyrfaoedd yn amlhau yr ail waith i wrando bachgen o'r Casnewydd, yr oedd perygl rhag iddynt fyned yn Iluosocach os byddai fyw i ddyfod y ffordd hono y drydedd waith; a dyma genfigen yn tynu allan ei chleddyf pren, “Y mae'r wlad,” ebe'r gwr, “wedi myned yn od iawn; och y fi, gwaeddi mawr gyda'r fath g— yna !” Amcanai y gwr ddifa y dylanwad oedd wedi cerdded o'r blaen; ond os oedd y weithred yn grefyddol yn ei olwg, dylasai godi yn foreuach, am fod y magdân wedi ei tharo, a dim yn well i'r ceintachwr nag ymgadw rhag i'r gwreichion ymaflyd ynddo yntau.

Er nad oedd Mr. H., yr amser hwn, fawr uwchlaw tair a'r hugain oed, yr oedd yn amlwg fod y wlad megis yn ei law; a pha ryfedd! yr oedd ei lafur diflin am wybodaeth yn

.

 

 

(delwedd 4547) (tudalen 25)

 

 




(x25) nyfnion bethau Duw, ei brofiad o nerthoedd y gair yn trin ei enaid ei hun, a'i gymdeithas agos â'r Arglwydd, yn porthi ei feddwl a defnyddiau i'w bregethau. Gosodai bob gwirionedd allan o flaen y bobl yn ei fawredd priodol; pechadur mawr a Christ mawr; darluniai ddyfnder trueni y pechadur nes y crynai ambell un fel pe safai o flaen y frawdle ar y pryd; ond byddai yn sicr o ddangos iachawdwriaeth lawn cymmaint ar ei gyfer. Arddangosai gymmeriad yr Anfeidrol yn ngorddyfnder ei ddoethineb, yn ngogoniant ei santeiddrwydd, ac yn mawredd ei drugaredd, a'r cwbl fel bara brwd ar y bwrdd, yr hyn a ganlynid ag effeithiau na ellid yn fuan eu dileu.

Buasai yn hyfryd iawn i'w deimlad ef, pe cawsai fyw ei oes allan yn y cyfryw fwynhad, ond, fel ei Frawd hynaf, “Gwr gofidua a chynnefin â dolur” ydoedd. Y dynion mwyaf agos at Dduw, a mwyaf eu defnyddioldeb i'r byd, yw y rhai a ddygant y croesau trymaf, ac a gyfarfyddant a'r profedigaethau chwerwaf; er mai gwae fydd i'r offerynau, “anghenrhaid” yw iddynt hwy. Yr oedd anghen i Paul gael ei gadw rhag ei dra-ddyrchafu “gan odidawgrwydd y datguddiedigaethau;” yr amcan oedd ei gadw i lawr, a'r ffordd i ddwyn yr amcan i ben, oedd rhoddi “swmbwl iddo yn y cnawd, cenad Satan i'w gernodio;” cafodd Mr. H. ddeall nad oedd ei hynt yntau i fod yn wahanol i'r rhai a fu o'i flaen, nes y dygid ef i ddysgwyl am ryw groes mewn cysylltiad a phob ymarferiad crefyddol; crybwyllaf am un amgylchiad hynod, a gymmerodd Ie yn y drydedd neu y bedwaredd flwyddyn o'i weinidogaeth. Aeth i Fristol i'r Gymmanfa flynyddol a gynnelid yno ar y Sulgwyn, ymadawodd a'r Casnewydd mewn gobaith y byddai iddo gael gwledd y Pentecost cyn y dychwelai, ond fel arall y bu, cafodd ddeall “fod rhwymau a blinderau yn ei aros yn mhob dinas,” tarawwyd ef yn glaf iawn, a bu yno yn analluog i symud am bymtheg niwrnod; pan yn y cystudd hwn, neu yn hytrach fel yr oedd y dolur yn llaesu yn ei gorff, ymwelodd

 

 

(delwedd 4548) (tudalen 26)

 

 




(x26) Satan ag ef â phrofedigaeth lem iawn, i'r dyben o faglu ei feddwl a'i yru i anobaith; yr oedd y diafol ac yntau wedi bod ar delerau drwg o'r dydd y cefnodd ar ei wasanaeth, ac felly y buont tra y bu Mr. H. byw, y gelyn yn ei demtio ef, ac yntau yn gwrthwynebu y gelyn, a'r tro hwn cymmerodd ei hen orthrymwr fantais arno yn ei wendid,— suddodd yntau yn ei feddwl, a'i obaith am amser a gollodd, aeth mor ddigalon nes yr ofnai ymsymud liw dydd, amheuai gywirdeb ei grefydd, ac ni allai edrych ar ei broffes amgen clamp o dwyll. Gan nad oedd golwg am waredigaeth o un man, a'r cwbl o'i amgylch yn fagddu o dywyllwch, cafodd ei demtio i osod terfyn ar ei einioes; yn y cyfwng hwn tueddwyd ef i ddysgwyl pa beth a ddywedai yr Arglwydd wrtho; yr oedd ynddo hyder gwan "na phallai ei dosturiaethau ef," yr hwn mewn cyfyngderau mawrion a drodd "gysgod angeu yn foreu-ddydd" o'i flaen. Awr sobr ydoedd hon! ond pan oedd pob gobaith yn mron wedi ei golli, daeth gair o brophwydoliaeth Esaiah i'w feddwl gyda nerth ac awdurdod mawr, a sillau yr adnod fel cynnifer o attegion wedi eu gosod yn daclus o dan ei enaid, "Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y Iluoedd, Sanct Israel." Ymaflodd yn yr enw mawr, ac ymaflodd yr enw ynddo yntau, daliodd y naill afael yn y llall heb ollwng, dechreuodd Mr. H. gryfhau, yna adroddai y gair, ac ail-adroddai ef; ac fel y dywedai wedi hyny, pan y crybwyllai am yr amgylchiad, ei fod yn derbyn nerth ychwanegol bob tro yr adroddai y geiriau rhyngddo ag ef ei hun,
"Ei enw yw Arglwydd y Iluoedd,— Ei enw yw Arglwydd y Iluoedd," nes ei adgyflenwi o'r diwedd a digon o rym i roi bloedd allan, "Wel, os Arglwydd y Iluoedd yw ei enw, pwy wyt ti, Satan? nid oes o fewn dy ymherodraeth un a fedr sefyll o'i flaen! dere yn rnlaen," ebe efe, "dere yn mlaen, Satan, â'th luoedd i gyd, dyma Arglwydd y Iluoedd yn eu gwyneb." Ymollyngodd y cadwynau, ac yntau a aeth yn rhydd. Nid oes


 

 

(delwedd 4549 ) (tudalen )

 

 






(x27) sicrwydd pa un a ddarfu iddo waeddi.Gogoniant y tro hwn, ond y mae yn ddigon tebyg mai Gogoniant ac Haleluia, allai fod yn "fyrdwn y gân."
 
PENNOD IV.

CYFNEWIDIAD YN AMGYLCHIADAU MR. HOWELLS.
Agor Shop yn y Casnewydd — Gwrthdarawiad rhwng y fasnach a'r weinidogaeth — Y fasnach yn gwaelu — Profedigaeth lem — Ei ymweliad ag Eglwysi yn Sir GaerIoyw — Gofidiau yn amihau — Ymlyniad y Colonel LASCELLS wrtho yn ei drallodau — Ei egwyddor onest — Ei ordeiniad — Marwolaeth ei fam — Ei briodas —Marwolaeth ei wraig — Ei ail briodas.


Yn y flwyddyn 1818, gan fod ei fam a'i chwaer wedi dyfod ato i fyw, penderfynodd gymmeryd tŷ yn y dref, a chytunasant i godi yr arian a adawwyd ar ol ei dad, i'r dyben o agor Shop; anfonodd at y Colonel i'r perwyl, a derbyniodd oddiwrtho y swm, yr hwn a gyfrifid rhwng tri a phedwar cant o bunnoedd; prysurodd ar unwaith i brynu nwyddau ar gyfer agor y fasnach newydd, yr hon oedd yn hollol ddyeithr iddo ef, ac yntau yn hollol anghymhwys i ymgymmeryd a'r fath ofal. Gallesid rhoddi yr arian i'w law yn gynt, neu eu cadw oddiwrtho yn hwy, o ran y defnydd y buont iddo wedi eu cael. Tybiodd ef fod pob peth i fyned yn mlaen yn hwylus, gan fod y nwyddau wedi eu prynu am arian parod, heb ddychymmygu am yr amrywiol ffyrdd drwy ba rai y gallai fod yn golledwr, a'r fantais a allai dynion diegwyddor gymmeryd ar ei ddiniweidrwydd; ond yr hyn na allai ei ragweled, ac o. ganlyniad bryderu o'i herwydd yn mlaen llaw, a welwyd o bell ac yn amlwg gan rai o'i gyfeillion; aeth un cyfaill ato y dydd y derbyniodd yr arian, ac a ddywedodd wrtho yn garedig, "Wel, frawd, yr ydych wedi cael yr arian, ond ni welwch hwynt mor gryno byth ond hyny, os gosodwch y fath swm

 

 

(delwedd 4550) (tudalen 28)

 

 




(x28) allan ar speculation mewn masnach nad ydych yn ei deall." "O'r goreu, Williams bach," ebe yntau, “'does dim i wneyd yn awr ond gobeithio'r goreu, a dysgwyl wrth yr Arglwydd." Dechreuodd arni, gan benderfynu os na allai beri i'w bunt ennill deg punt, na wnai ystorio ei arian fel y cybydd i'r coffr, a disgyn o dan y ddedfryd hono, "Eich aur a'ch arian a rydodd." Nid oedd perygl i'w arian ef gael aros yn ddigon hir yn y tŷ i gasglu rhwd, ond goddefodd iddynt
dreiglo allan drwy y drws neu drwy y fienestr, tra y byddai yntau o ran ei ysbryd yn barod i ganu,

........“Y rhan ddewisodd Man, boed hono’n rhan i mi,
.........Ac yna aed y ddaear i'r sawl a'i carant hi.”

Nid oedd modd iddo ddysgwyl cymhorth oddiwrth ei fam, o herwydd ei hafiechyd, a'i chwaer a briododd yn mhen ychydig fisoedd, ac a symudodd i Fristol i fyw, gan hyny nid oedd ganddo ond un o ddau beth, naill ai taflu y pregethu o'i law, neu yniddiried y fasnach i ofal estroniaid,— dau beth lled anhawdd,— ond gan fod rhaid gwrthod y naill neu y llall, ni bu fawr o amser cyn penderfynu; gall fod hyn yn swnio yn ddyeithr, ac y gofynir, Paham na allai wneyd y ddau, edrych ar ol y fasnach a phregethu tipyn hefyd? Cynnwysiad y gofyniad, debygid, yw, Paham na allai Mr. H. wneyd ei oreu gyda'r Siop, a gadael y pregethu yn ail beth? Paham na ymdrechai fod yn gystal Siopwr â neb yn y Casnewydd, a chyhoeddi Crist yn geidwad i golledigion, pan y byddai hyny yn gyfleus? Paham nad oedd pwyso tea a siwgr yu gydwerth â thrin gair Duw?— Os yw yn briodol i ddyn gymmeryd masnach, oni ddylai hefyd edrych ar ei hol? Nid oes amheuaeth, y mae pob galwedigaeth gyfreithlawn yn galw am ei chanlyn gyda diwydrwydd; ond yr oedd galwad Mr. H. gan ragluniaeth i fod yn Siopwr, yn beth mor amheüus â'i alwad i fod yn Saer; a gallai yr hyn oedd yn alwedigaeth i arall, fod yn

 

 

(delwedd 4551) (tudalen 29)

 

 



 
(x29) brofedigaeth iddo ef;— os collodd y ffordd, efe a fethodd yn ei symudiad cyntaf,— dylasai fwrw y draul cyn cychwyn, yr hyn a arbedasai ofidiau trymion iddo.


Yn wrthwyneb i'r hen dyb isel am rwymedigaethau yr areithfa, nis gall yr hyn a deilynga ei gyfrif yn bregethu fod yn beth mor ysgafn, fel y gellir cysylltu Iluaws o ofalon ereill ag ef; pa fodd y gall ymdrafferthu gyda phethau y bywyd hwn, mewn unrhyw alwedigaeth a eilw am holl amser a meddwl y dyn, fod yn fanteisiol iddo fel gwas i Grist, er cyflawni y swydd bwysicaf yn yr Eglwys? Gwyddai Mr. H. yn dda beth oedd pregethu, gwyddai mai nid gyru nerth traed yr anifail boreu Sabboth o ganol trafferthion hwyrol y dydd o'r blaen oedd pregethu, nac ychwaith brysio yn ol i gael blaen y byd boreu dydd Llun. "Y llef” a ddywedai wrtho, "Gwaedda," nid pan yn taro ei droed yn y warthol. Dywedir fod rhai a fedrant, ar ol gwasanaethu y byd yn ffyddlawn drwy yr wythnos, gael gafael ar y Bregeth ar y ffordd boreu Sabboth, disgynai i’r frest oddifry, a gofalai yr Ysbryd Glan i roi pregeth lawn cystal erbyn dau o'r gloch, ac un arall daclus dros ben erbyn yr hwyr; ond ni arferai yr Ysbryd Glân ddangos caredigrwydd i Mr. H. yn y ffordd hono,— clywai ef y llef yn dywedyd wrtho, "Gwaedda," y peth cyntaf boreu dydd Llun, pe na byddai cyhoeddiad ganddo cyn y Sabboth canlynol, a "pha beth a waeddaf," fyddai ei gri yntau, hyd nes y caffai bechaduriaid i waeddi wrthynt, "Pob cnawd sydd wellt," ac felly yr oedd dyledswyddau y Pulpud yn gafaelu ynddo yn mhob man, ac ar bob amser,— ni welai Iwybr i ranu rhwng dyledswyddau y weinidogaeth a gwasanaeth y byd; a thra yr oedd yn rhwym gan ei gydwybod i'r blaenaf, nid oedd ganddo ond hyderu ar fedrusrwydd ereill i gyflawni gorchwylion yr olaf; ac os na wnelent hwy onestrwydd yn nhrafnidaeth ei feddiannau, yr oedd dinystr o anghenrheidrwydd i fod, fel canlyniad anocheladwy.


 

 

(delwedd 4552) (tudalen 30)

 

 




(x30) Y mae yn rhaid addef ei fod yn ddyn anghymhwys iawn i drin y byd; ond i ba bwrpas yr ymlidir ar ol beiau y mae yr oesoedd wedi treulio allan heb allu eu diwygio? Pa mor fynych y gwelir mewn dynion mawr, a mawr iawn, arwyddion o ddiofalwch ac esgeulusdra, hyd at ddallineb, mewn materion amgylchiadol, pan ar yr un pryd yr aberthant yr oll a feddant, ie, eu heinioes eu hunain, er llesoli eu cydgenedl. Addefir fod dibrisio ei fanteision tymhorol ei hun yn wendid yn Mr. H. Dywedir ei fod wedi cymmeryd merch o un o'r Siroedd gorllewinol i'w wasanaeth, yr hon, er nad oedd ganddi un fath o gymhwysder at weinyddu yn y fasnach, eto, am ei bod yn onest a diniwed o egwyddor, yr oedd hyny yn ddigon iddo ef; y mae yn rhaid addef ei bod yn rhy onest hyd y nod i guddio ei diffygiadau ei hunan, cyn y gallai dreulio cymmaint o amser i eistedd ar y Counter, fel pe gosodasid hi yno i ofalu rhag i hwnw ffoi; ond er fod y Counter yn aros, yr oedd masnach y Counter yn cilio; treuliai hithau lawer o'i hamser mewn cyfeillach a'i hymwelasau, yr hyn a barai i Mr. Mullock, masnachwr cyfrifol oedd yn byw yn yr ymyl, ddweyd wrth Mr. H. ei fod yn golygu nad oedd y ferch ieuanc yn ateb iddo mewn un modd, ac y gallai y fasnach cyn hir droi allan yn golled iddo, i'r hyn yr atebai yntau, "Yr wyf yn credu ei bod yn onest, Mr. Mullock, ac o ran llwyddiant y fasnach, y mae yn rhaid gadael hyny i ofal rhagluniaeth y Nef." "Gwir," ebe ei gymmydog, “ond y mae yn rhaid i ninau wneyd ein rhan;"*


*Galwodd Mr. H. i ddiolch i Mr. M. wedi hyny am ei gynghor, a dyweda
wrtho, "Chwychwi oedd yn iawn, a myfi oedd yn cyfeiliorni."


ond nid oedd dim yn tycio; tra y credai fod ereill o'r un egwyddor ag ef ei hun, yr oedd pob peth yn dda. Nid oes dim amheuaeth nad oedd Mr. H. yn edrych ar y Shop fel sefydliad at wasanaeth yr achos, canys ei arch i'r forwyn oedd, na fyddai iddi wrthod rhoddi i bobl y Capel unrhyw beth a geisid ganddynt.— Buasai y Shop hon

 

 

(delwedd 4553) (tudalen 31)




(x31) yn taro yn well tua Jerusalem, ar amser y Pentecost, gan fod pob peth i fod ganddynt yn gyffredin, nag yn y Casnewydd;— dywedir fod llawer wedi cymmeryd arnynt eu bod yn Gapelyddion, dros y tymhor y parhaodd y gwynfyd hwn.

Cyn hir, gwelwyd arwyddion annhrefn ar y fasnach, tra yr oedd y perchenog yn ei fyfyrdodau, a'r “lleuad," fel y tybiai, "o dan ei draed," ac heb fod yn ymwybodol a ddiofalwch y rhai a drinient y byd drosto, yn ol yr hen ddiareb, "yr hyn ni wel y llygad, ni theimla'r galon." Byddai y cwbl yn ei Ie, ond iddo gael digon o hwyl i'w ysbryd i ganu y pennill dewisol hwnw allan o'r Dr. Watts, pennill a ganai yn fynych yn y dydd ar amserau drwy ei oes,—

..."Jesus, my all, to heaven is gone;
....He whom I fix my hopes upon;
....His track I see, and I'll pursue
....The narrow way, till him I view!"

Ond pa un ai canu ai wylo, ai llawen ai pryderus, a fyddai ei dymher, anaml y gwelid y fasnach yn ei dynu ef o'i fyfyrgell; eisteddai i fyny yn hwyr, nes llyncu yr hyn a elwir yn hwyr i fyny gan ddwy, tair, neu bedair o oriau boreuaf y dydd canlynol, a byddai caniad y ceiliog fel peth o anghenrheidrwydd i gymmeryd lle cyn y meddyliai am roi hun i'w lygaid; wedi goddef i'r amser priodol at gwsg gael ei fenthyca at ddyben arall, byddai yn arferol o fod yn ddiweddar arno cyn codi. Ei orchwyl cyntaf ar ol dyfod i lawr fyddai peri i'r drysau gael eu cloi, fel na fyddai aflonyddwch tra yr anerchai yr orseddfainc, yna galwai y teulu yn nghyd i fyned drwy y ddyledswydd deuluaidd, ac ni oddefai i ddiweddarwch y dydd, nac unrhyw brysurdeb, fod yn achlysur i esgeuluso dyledswyddau yr addoliad.


Ond er cymmaint oedd ei ymlyniad wrth ddarllen a myfyrio, cyfarfyddai ag ambell i dymhestl gref, a'i taflai i ddyryswch

 

 

(delwedd 4554) (tudalen 32)

 

 




(x32) nes y byddai yn rhy egwan i fyned yn mlaen; ond nid oes hanes iddo syrthio i'r un ffos na allai edrych i fyny at ei Dad o'i gwaelodion, a dywedyd, “O'r dyfnder y llefais arnat, Arglwydd;" ac nid oes hanes iddo aflwyddo ychwaith pan y cymmerai ryw groes drom at droed croes ei Arglwydd. Y mae griddfaniad pechadur ar Dduw yn rhoi lle i obeithio am dano, ond gwrandawiad yr Arglwydd o'i weddi sydd yn profi cyfrinach; felly yr ymdrechai Mr. H. hyd oni dderbyniai y fendith. Cyfarfu â phrofedigaeth tua diwedd y flwyddyn 1820, a effeithiodd yn fawr ar ei feddwl; adroddodd y cwbl wrth W. Lewis yr hwn oedd ei gydymmaith cyfrinachol yn mhob cyfyng-for yr elai drwyddo;
gan fod yr ystorom yn cynnyddu fwy-fwy, daeth ei gyfaill ato y boreu dydd Sadwrn canlynol, a chafodd ef yn ei wely mewn ymladdfa â'r brofedigaeth, a'r dwymyn felancholaidd yn mron a'i orchfygu; arosodd yno y diwrnod hwnw i gynnorthwyo yn y shop, fel y gwnelai yn achlysurol. Tua phump o'r gloch y prydnawn, daeth Mr. H. i lawr, yn benderfynol na allai fyned i'w gyhoeddiad y Sabboth canlynol, ac allan yr aeth i ymrodio; wedi hir ddysgwyl a chwilio am dano, o awr i awr, heb gael ei hanes, ofnwyd rhag fod rhyw ddamwain anhapus wedi ei orddiwes; ond pan yr oedd pob un wedi ymlanw o ofid, gan y teimladau mwyaf annyddan, rhwng un a dau o'r gloch y boreu clywid curo ysgafn wrth y drws, yr hwn a agorwyd mewn moment, a'r tristwch a drowyd yn llawenydd, am mai y colledig oedd yno, a derbyniwyd ef fel pe dychwelai o gyhoeddiad deufis; ychwanegwyd at y llawenydd a deimlent oddiar ei ymddangosiad llon, a phob gosgedd ar ei wynebpryd yn arddangos fod yr holl drallod wedi ei symud ymaith; nid oedd gwaith holi arno, i wybod yn mha Ie yr oedd wedi treulio cynnifer o oriau, yr oedd mor awyddus i adrodd yr hyn oedd wedi cymmeryd lle, a phe traethai hanes y gymmanfa fwyaf lewyrchus y bu ynddi erioed:

 

 

(delwedd 4555) (tudalen 33)

 

 




(x33) ebe fe, "a chefais gymundeb â'r Arglwydd yno." "Da iawn,"ebe W. L.; "ond beth am y cyhoeddiad yn awr?" "O, mi âf i'r cyhoeddiad, os caf y ceffyl at y tŷ erbyn wyth o'r gloch;" ac felly y bu, cododd yn brydlawn, ac ymddangosai yn gadarn ei feddwl, ac i'r cyhoeddiad yr aeth, fel Cristion wedi cael ychwanegol ffydd, ac yn debyg i genadwr a'i awdurdodiad wedi ei adnewyddu. Nid yw yn debyg fod nemawr o ddyn — wedi dyoddef mwy o dywydd meddwl nâ Mr. H , ond yr oedd yn un o'r dynion mwyaf sicr o ddyfod allan o bob magl, am ei fod yn ymwrthod â phob gau Iwybr er cyrhaedd tawelwch; — ei amcan gwastadol ef oedd i fod yn "orchfygwr gyda Duw." - “Yr wyf wedi bod yn mhen draw y marshes,"*

* Lle y cynnelid rhedegfeydd ceffylau yn flynyddol, ychydig filldiroedd islaw
y dref.

 
Yr oedd ymweliadau grymus ac amlwg o'r fath o fawr werth iddo, nid yn unig er mwyn symud profedigaethau a allai fod eisoes ar suddo ei feddwl, ond hefyd ar gyfer ei nerthu i wynebu ar ystormydd cryfion oedd yn ei aros. Yr oedd, tua'r amser hwn, sef y flwyddyn 1821, y fath adfeiliad arnlwg yn weledig ar ei fasnach, fel yr oedd yr hyn a ofnid o'r blaen, wedi myned yn destun siarad cyffredin, a phawb ond efe ei hunan yn darogan ei aflwydd. Heb ymwybyddiaeth o'i sefyllfa, fel yr oedd mewn gwirionedd, aeth Mr. H. i Fristol, ar ei ffordd i rai o eglwysi Sir Gaerloyw, a'r hyn a ymddengys yn ddyeithr oedd, iddo fyned â'i anifail gydag ef, er ei fod yn gorfod croesi y Bristol Channel. Pwy a ŵyr uad oedd am i bobl Lloegr gael yr efengyl am dro wedi ei chludo iddynt yn y ffashwn Gymreig? Beth bynag, yn y cyfamser galwodd trafaelwr yn ei dŷ, dros fasnachwr o Fristol, am swm dyledus am nwyddau, ond cafodd fod Mr. H. oddicartref, pryd y diflasodd yn fawr, ac nid oedd modd i'w lonyddu heb gael golwg ar y dyledwr. Dechreuad gofidiau newydd

 

 

(delwedd 4556) (tudalen 34)

 

 




(x34) oedd hyn! I gael cau y bwlch, os byddai modd, cyn yr ymagorai yn lletach, cychwynodd W. Lewis gyda’r llong y cyfleustra cyntaf, ac aeth i Gaerodor i chwilio am dano, ond erbyn hyny yr oedd gwrthddrych ei ymchwiliad eisoes wedi cychwyn i'w daith, dychwelodd yntau yn ei ol, a chafodd fod gwedd pethau yn gwaethygu; — ar gvmhelliad y Parch. Evan Jones, (yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw yn y Casnewydd,) a brodyr ereill, perswadiwyd yr un genad i fyned i Sir Gaerloyw, ac i beidio dychwelyd hyd oni chaffai afael arno; aeth yntau yn ddioedi, gan gyfeirio ei gamrau tua Wooten-under-edge, a chyrhaeddodd y lle hwnw dranoeth, ond nid oedd efe yno, a chyfarwyddwyd ef i fynod tua Tidbury, lle o gylch deng milldir yn mhellach, gan y tybid y gallai Mr. H. fod yno; ond erbyn cyrhaedd Tidbury, yr oedd newydd ymadael, ac wedi myned tua Rodborough, cartref ei dad naturiol yn y ffydd. Oddiar yr hanes a gafodd y genad yn Tidbury, ymddengys fod gweinidogaeth Mr. H. o dan lewyrch anarferol yn y lle hwnw ar y Sabboth blaenorol,— cyfrifid ef fel Angel Duw, ac eneiniad nefol yn disgyn gyda ei eiriau, ac yr oedd y cyfleustra hwn yn un rhagorol yn eu golwg i anfon y cyfryw newyddion da yn ol i Gymru, am yr hwn a alwent, "The wonderful man!" Ond ychydig a wyddent hwy am y cymylau duon oedd erbyn hyn yn ymdaenu, a'r gofidiau dirfawr oedd yn ei aros. Cychwynodd y genad drachefn, a'i wyneb tua Rodborough, gan benderfynu os na chaffai afael ynddo yno, y byddai yn rhaid iddo roddi ei ymchwiliad i fyny; ond erbyn iddo gyrhaedd y lle, er llawenydd i'w feddwl cythryblus, cafodd yr hwn a geisiai, yn nhŷ Mr. Rees.

Cychwynasant boreu dranoeth, Howells ar ei anifail a Lewis ar ei draed, a'u hwynebau tua chartref, gan farchogaeth a chlymu (ride and tie) ar hyd y ffordd, yr hyn oedd yn naturiol i ddau a gyfrifent eiddo y naill yn feddiant i'r llall; dechreuodd Mr. H. ofidio yn fawr, o'r pryd y derbyniodd y

 

 

(delwedd 4557) (tudalen 35)

 

 

 

 




(x35) newydd drwg, a chynnyddu a wnaeth ei drallod fwy-fwy fel yr ymdeithient yn mlaen. Bu llawer taith yn fwy annhebyg i ymdaith Israel yn yr anialwch, na hon, ond da oedd na pharhaodd yn hir. Cymmerasant ffordd Newnham, a daethant yn groes i'r borth, (ferry), a chyrhaeddasant Casgwent erbyn deg o'r gloch y nos, pryd yr oedd arian y ddau wedi darfod, hyd o fewn ychydig o bres. Yr oedd Howells wedi ymadael â Tidbury ar yr ystyriaeth y byddai iddo ddychwelyd y Sabboth canlynol, a'r arian oedd ganddo wrth gychwyn o'r Casnewydd wedi eu treulio naill ai mewn talu neu brynu at ei ddybenion ei hun; a'r chweigen oedd gan Lewis wrth. gychwyn wedi darfod hefyd,— nid oedd ganddynt bellach ond y dimeiau at guro eu ffordd adref, heb ddigon o haerllugrwydd i wneyd talcenau presaidd yn eu cyfyngder; ond nid oedd gwiw aros yn y dref hono, a chychwynasant gan dalu y dimeiau gweddill oedd ganddynt am gael myned trwy y dollglwyd, ac yna dechreuwyd meddwl am y nesaf,— erbyn cyrhaedd yr ail glwyd, yr oedd hono wedi el chau, a'r clwydwr wedi myned i orphwys, ac er galw gryn lawer arno, yr oedd yn cysgu yn rhy drwrn i allu codi; o dan yr amgylchiadau, nid oedd un gobaith iddynt hwylio yn mlaen gam yn mhellach ar hyd ffordd y brenin, a phenderfynasant mai gwell na sefyll yno i sythu, fyddai iddynt ddychymmygu ffordd newydd, a chroesasant y berth, gan arwain yr anifail ar eu hol, ac felly yr aethant yn mlaen nes cael gafael yn y ffordd fawr eilwaith, gan ystyried fod cwsg cyndyn y clwydwr yn esgusodiad digonol iddynt am gymmeryd ffordd arall. Nid cynt y darfu y trallod hwnw, nad oedd un arall yn cynnyg ei wasanaeth, a chofient eu bod mewn byd a myrddiwn o ofidiau ynddo, fel cenadau Job y naill yn canlyn y llall. "Y mae turpig eto, William," ebe Mr. H. '”Oes, oes," ebe y llall, ”beth a wnawn ni?" "Mi ro'f fy umbrella yn wystl," oedd yr atebiad; a phan y daethant at y glwyd, estynodd Mr. H.

 

 

(delwedd 4558) (tudalen 36)

 

 

 

 




(x36) ei umbrella i'r clwydwr hyd nes yr anfonai iddo arian y doll. Erbyn iddynt gyrhaedd ardaloedd Llanmartin, yr oedd rhwng dau a thri o'r gloch y boreu, a gorfu i Mr. H. droi i dŷ Mr. Rees, o'r Ford, yn analluog i fyned yn mhellach, a throdd ei gyfaill at dŷ tafarn, lle y bu am dro yn curo am agoriad; wedi agor iddo cyfarchwyd ef â'r rhegfeydd mwyaf ofnadwy, gan y tafarnwr, yr hwn a'i bygythiai os nad elai yn ddioed i'r gwely, yn lle eistedd i ymdwymno wrth y tân, y danfonai ef allan; i'r gwely yr aeth am ychydig oriau,. gan godi heb ddim i dalu am ei letty, a gadawodd yntau ei umbrella yn wystl am ei Ie, gan ddychwelyd gyda brys tua'r Casnewydd.


Bu yn dda i Mr. H. feddwl am y Ford, yr oedd y lle hwnw megis cartref iddo, a bu yn Adulam iddo y waith hon; syrthiodd ofn mawr arno, ac aeth yn rhy ddinerth i feddwl ymddangos yn y Casnewydd; teimlai y gofidiau mwyaf rhag i'w ofynwyr gael en colledu, a rhag i achos yr Arglwydd fyned dan warth; ond nid oedd ynddo rym nac ysbryd i ddweyd na gwneyd dim braidd, am fod y gihaint (nervous complaint) wedi ymaflyd ynddo, a'r dychrynfeydd rhag y deuai'r ceispyliaid i'w gymmeryd i'r carchar a'i haflonyddai ddydd a nos. Pan ddeallwyd fod yr amgylchiadau wedi cael y fath effaith arno, cydunwyd i adael pob peth i sefyll hyd ei adferiad; yn mhen tua phythefnos o amser daeth ychydig yn well, a dychwelodd yn nghwmni Mr. Rees i'r Casnewydd i gyfarfod â'i ofynwyr; y peth cyntaf a wnaeth, pan welodd un o'r rhei’ny, oedd taro ei law ar ei oriadyr, (watch,) a chan godi ei law arall i'r lan, dywedai mewn llais uchel, "Every jot of what I am possessed of, shall go to pay the debt." Yna tynodd allan ei oriadyr, ac estynodd hi i'r gofynwr, a dy¬wedai, "Here is my match. Sir, take this to begin." Pan ddeallodd W. Lewis hyn, teimlodd ei ymysgaroedd yn cyffroi o'i fewn, ac oddiar dosturi cyffelyb i'r eiddo Jonathan, tuag ato, tynodd yntau ei oriadyr allan, ac estynodd hi i Mr. H.


 

 

(delwedd 4559) (tudalen 37)

 

 

 

 




(x37) "Gymmerwch hon yn ei lle," ebe fe, “mae yn well genyf o lawer fyned heb un watch fy hunan, nâ'ch gweled chwi heb un." Gan fod pob arwydd o barch a delid iddo trwy ei oes yn adfywiad i'w ysbrydoedd, pan yn ngafael y llesgedd mwyaf, diau fod yr arwydd hon o gyfeillgarwch yn ddadebriad i'w enaid, pan oedd agwedd y cwbl a'i amgylch fel yn gwgu ar ei babell.

Y mae gonestrwydd egwyddor yn beth o fawr bwys i grefydd, pan y dygwyddo dyryswch yn amgylchiadau y sawl a'i proffesant, ac yn enwedig Swyddogion Eglwysig. Taflodd. Mr. H. ei amgylchiadau yn agored,— ni cheisiodd gelu dim, -- ac er maint ei ofidiau, daeth trwyddynt oll yn anrhydeddus. Pe na allesid dweyd hyn, a phrofi y dywediad yn wir, buasai cofnodi hanes ei fywyd yn ofer; un ystaen ar nodwedd gweinidog a eilw am fwy na nerth triphlyg y dylanwad cyffredin i'w ddileu; ond am wrthddrych y cofnodion hyn, bydded ei hanes yn dest o'r egwyddor a'i llywodraethai, a gwelir nad oedd dim hocedus yn ei ymddygiadau, nac un ystryw er darbod drosto ei hunan, i'r dyben o dwyllo ei ofynwyr; gallai heb wrido ofyn yn mhen blynyddoedd, o ran un amcan o'i eiddo i dwyllo, "Pwy o honoch a'm hargyhoedda i o bechod?" Ond er na welwyd ar ei wynebpryd yr un drem sarug, o herwydd ei golledion personol, yr hyn a ddangosir ac a ystyrir weithiau fel rhan o'r taliad, eto, dywedir iddo gael archoll dost i'w fynwes, pan yr ymddifadwyd ef o'i holl lyfrau, y rhai fuasent gymdeithion ei ystafell ddirgel am flynyddoedd, a chydaelodau y gynnadledd hyfrytaf oedd ganddo, oddieithr cymdeithas y saint: pan ddychwelai o gyhoeddiad, yn llesg a diysbryd, dim ond iddo droi i'r study, yr oeddynt hwy yno bob amser yn barod i'w dderbyn — yn ewyllysgar i gael eu troi a'u trafod fel y mynai — heb fod yn agored i haint, na marwolaeth i'w hysgar oddiwrth eu gilydd; ond y byd! y byd a ddaeth i mewn, â gwg ar ei wyneb, a dechreuodd gyfarch




 

 

(delwedd 4560) (tudalen 38)

 

 

 

 

 




(x38) cyfrolau yr hên awdwyr HOWE, DODDRIDGE, OWEN, HENRY, WATSON, HALL, SECKER, GURNAL, &c., fel pe dywedai, "Myfi yw eich perchenog heddyw." Treiddiodd teimlad dyeithr drwy enaid yr hen feddiannydd — tarawodd ei law ar ei ddwyfron — a daeth ochenaid allan mor brudd a phe drylliasid aelod o'i gorff, a dywedai wrth gyfaill, "Dyna'r llyfrau wedi myn'd, o'r rhai y cesglais berlau cyn hyn; buont o ddefnydd mawr i mi; do, do, ac o les, yr wyf yn credu, i bechaduriaid, ond mae yn rhaid i'r bobl gael eu harian." Cafwyd allan fod y llyfrau o lawer fwy o werth na'r hyn a roddwyd am danynt, ond llwyddodd y Parch. Theophilus Jones i gael amryw o honynt yn ol, yr hyn a fu yn llawenydd mawr i Mr. H. yn nghanol ei ofidiau. Nid rhyfedd iddo, wedi cael y fath brawf o wagedd a ffuantrwydd y byd, ddywedyd yn mhen blynyddoedd, pan yn ceisio cysuro gwraig weddw yn nghanol ei thrallodau, "Daeth y byd ataf fi," ebe fe, "yr un fath â'r wenynen, a mêl yn ei enau, a cholyn yn ei gynffon."

Er fod ymrwymiadau y Colonel Lascells, fel ymgeleddwr, wedi eu cyflawni, yn nhaliad yr arian i fyny, fel y crybwyllwyd o'r blaen, ac er fod gweled y cwbl o'r meddiannau wedi eu treulio, mewn yspaid tair blynedd, yn loes i deimlad y gwr boneddig, eto, ni throdd ei gefn ar Mr. H. yn nydd ei aflwydd,— gwyddai yn dda am ei ddiffygion fel dyn i guro ei ffordd drwy y byd; ond yn y modd mwyaf boneddigaidd sylwodd arno yn ei gyfyngderau, nid fel y gwna llawer, y rhai pan y gwelant ddyn ar lawr, tybiant ei fod yn beth lled gampus os gallant roddi cic iddo yno, a throediad arall nes ei lewygu; ond ymddygiadau brwnt, diegwyddor, ac annuwiol, yw cymmeryd mantais ar ddyn a fyddo eisoes wedi ei orchfygu gan brofedigaethau. Oddiar awydd i ddangos iddo ryw arwydd o garedigrwydd, galwodd y Colonel yn y Casnewydd i weled Mr. H., pan yr oedd yr amgylchiadau gofidus hyn ar gael eu dwyn i derfyniad, a rhoddodd fenthyg deg punt ar


 

 

(delwedd 4561) (tudalen 39)

 

 

 




(x39) hugain iddo i'w helpu yn mlaen, a bernid yn gyffredin, pe buasai Mr. H. yn dewis, y cawsai oddiar law y Colonel unrhyw ffafr resymol a geisiai ganddo.


Yn gymmaint a bod tuedd cryf yn y fath amgylchiadau dyryslyd i niweidio ei feddwl gyda gwaith y weinidogaeth, barnwyd mai priodol fuasai iddo ymattal dros ychydig amser, hyd oni ddygid pethau i derfyniad hollol, ac felly y bu am o ddeutu hanner y flwyddyn 1822, heb bregethu: ond nid oedd yr attalfa hono yn cael ei hystyried fel cerydd arno, pan ar yr un pryd yr atebai hyny y dyben i ragflaenu sylwadau niweidiol i grefydd, ac yn y pen draw wneuthur mwy o les nag o niwed iddo yntau a'r Eglwysi.

Wrth derfynu yr hanes ddigysur hon am drallodau tymhorol ein hanwyl frawd, cyflwynaf at wasanaeth y darllenydd yr hanesyn canlynol, yr hwn a etyb fel drych i ddangos symledd ei gymmeriad, yn nghyd ag onestrwydd trwyadl ei egwyddor. Yn mhen rhyw faint o amser wedi i'r holl amgylchiadau gael eu terfynu, a Mr. H. yn rhydd yn nghyfrif ei ofynwyr, daeth o hŷd i'w gyfrwy a'i ffrwyn, y rhai, o herwydd rhyw esgeulusdra, a adawwyd heb eu henwi yn yr ysgrol; ond "Yr hwn a dwng i'w niwed ei hun, ac ni newidia," a feddyliodd yn y fan am ei ofynwr trymaf, yr hwn oedd yn byw yn Mristol, daeth i'w feddwl na ddylai oedi cyn rhoddi yr harnais i fyny i hwnw, ac fel na byddai camgymmeriad yn eu cylch, aeth yn groes i Hafren a'r ôlran hyny o'i eiddo gydag ef, — wedi tirio ar yr Hotwells, taflodd y cyfrwy a'r ffrwyn yn groes i'w ysgwydd, gan gyfeirio ei wyneb tua thŷ y masnachwr, yr hwn a'i gwahoddodd yn serchog i ddyfod i mewn,— ar ol ychydig o ymddyddan arweiniol, dechreuai Mr. H. draethu ei neges, a dywedai, "This Saddle and Bridle were not named in the Schedule, and I found them;" gan enwi y fan, "and I brought them to you on account of the balance of my debt." Fel y gellir dychymmygu, dechreuodd y masnachwr agor ei lygaid,



 

 

(delwedd 4562) (tudalen 40)

 

 

 

 




(x40) gan syllu arno gyda'r synedigaeth mwyaf,— yr oedd y gwr wedi gwneyd trafodiaeth masnachol a channoedd, os nid a miloedd o ddynion, ond allan o hil Hengist a Gomer, a phawb, ni chyfarfyddodd â dyledwr o fath yr hwn oedd o'i flaen ar y pryd, a chyda'r boneddigeiddrwydd mwyaf, dechreuodd y mas¬nachwr sicrhau i Mr. H. nad oedd dim amheuaeth yn ei feddwl am ei gywirdeb; ac er mwyn newid yr ymddyddan, wele y masnachwr yn ffwdanu yn nghylch cael tipyn o ymgeledd i'w ymwelwr ar ol ei fordaith; ac wedi iddo yntau gyfranogi o garedigrwydd gwr y tŷ, dechreuodd ymbarotoi ar gyfer dychwelyd, gan feddwl y cerddai yn ysgafnach wedi gadael ei Iwyth ar ei ol; ond yn hyn efe a gamgymmerodd, ac i ddadl yr aethant, y naill am eu gadael yno, a'r llall yn gwrthod eu cymmeryd, a'r masnachwr a ennillodd y dydd, ac â dymuniad y masnachwr i Mr. H. gael iechyd i ddefnyddio y cyfrwy a'r ffrwyn, a hir oes a llwyddiant rhagllaw, ymadawodd yr olaf, a dychwelodd adref wedi ei faeddu gan diriondeb ac ewyllys da ei ofynwr, a'i wobrwyo am ei onestrwydd. Cyn hir daeth yr amser i ben, pryd yr anogwyd ef i ymaflyd yn ei orchwyl dewisol o'r newydd, a chanfyddwyd nad oedd ei arfau wedi pylu, ond ymddangosai fel wedi ennill nerth adnewyddol, "a'i gynnydd yn eglur i bawb." Bu y pair danllyd hon yn fendithiol iddo ef ac i'r cynnulleidfaoedd; gellir golygu yr amser hwn yn gyfnod newydd a dedwydd yn. ei fywyd gweinidogaethol. Ymosododd ar y gwaith pwysig; yn awr gyda nerth a llwydd dyblyg; ymddyrchodd yn uwch yn ffurfafen ddysglaer y weinidogaeth, fel un wedi ennill adenydd newydd, a chymhwysderau mwy, yn nyffryn trallod a phrawf, a chafodd ei neillduo i gyflawn waith y weinidog¬aeth yn mis Awst, 1824, yn Nghymdeithasfa Llangeitho.


Gan y cyfyngir y pennodau canlynol i'r darluniad o Mr. H. mewn cysylltiad â'r weinidogaeth yn benaf, caf derfynu y Bennod hon â chrybwylliad am yr amgylchiadau teuluaidd yr

 

 

(delwedd 4563) (tudalen 41)

 

 

 

 




(x41) arweiniwyd ef iddynt gan ragluniaeth, y rhai a fuant o ganlyniad pwysig iddo ef ar amryw ystyriaethau.


Yn y flwyddyn gyntaf wedi ei ordeiniad, sef 1825, pan yr oedd ar daith yn Sir Aberteifi, bu farw ei fam. Yn mis Medi, 1827, priododd â Miss Lewis, un o aelodau y Gasnewydd, yr hon oedd yn ddynes garuaidd, addfwyn, a thawel. Ganwyd iddynt chwech o blant, o'r rhai y mae pump yn fyw. Wedi dyoddef cystudd nychlyd, a phrofedigiaethau chwerwon, mewn ffydd ac amynedd, hi a fu farw ar yr 16eg o fis Medi, 1841, yn 41ain mlwydd oed.

Yn mis Mehefin, 1843, priododd yr ail waith, â Miss Morgan, o Benycae. Ganwyd iddynt bedwar o blant, o'r rhai y mae dau yn fyw.

PENNOD V.
CASGLIAD TUAG AT DDILEU DYLED CAPEL CASNEWYDD.

Achlysur adeiladu y Capel — Trallod yr Eglwys o herwydd maint y ddyled — Cymdeithasfaoedd De a Gogledd yn cenadu casgliad cyffredinol — Llwyddiant Mr. H. yn y daith gasglyddol — Haelioni y Cynnulleidfaoedd.

Nid oedd gan y Methodlstiaid un lle sefydlog yn y dref uchod i addoli, ac ni bu yr achos ond fel pabell symudol o fan i fan, hyd oni adeiladwyd y capel presenol. Y lle cyntaf y dechreuwyd cynnal moddion ynddo oedd hen Fragty, — oddi yno symudwyd i Hope Chapel, ond o herwydd tynu y gweithredoedd yn enw dyn, yr hwn cyn hir a ddyrysodd yn ei amgylchiadau, gwerthwyd y Capel i dalu dyled liwnw, a phrynwyd y tŷ gan gynnulleidia o Saeson, i'r rhai y bu Mr., Rees yn weinidog. Yn mmhen tymhor symudodd y Cymry i lofft y Pobty; ac wedi addoli yno am ryw gymmaint o amser, adeiladasant Gapel bychan yn ymyl yr hên Gastell, yr hwn ai adeiladasant


 

 

(delwedd 4564) (tudalen 42)

 

 

 

 




(x42) elwid "Capel y Castell," a gorfu iddynt, yn mhen rhai blynyddoedd, o herwydd rhyw amgylchiadau, werthu y tŷ hwnw i berchenogion y tir, ac aeth yr arch, wedi ei chario o fan i fan am amryw flynyddoedd, heb un man sicr i orphwys ynddo.


Penderfynwyd, er pob siomedigaeth, i beidio rhoddi i fyny, a chymmerwyd tir mewn man cyfleus o'r dref i adeiladu tŷ newydd; yr oedd hyn yn y flwyddyn 1829. Oni bai yr hanes sydd genyf i'w roddi am ymdrech calonog, Mr. H., a chydweithrediad Cristionogol y cynnulleidfaoedd i'w gynnorthwyo, gellid edrych ar adeiladu tŷ mor fawr a chostus, o dan y fath anfanteision, yn anturiaeth annoeth; ond y mae y ffeithiau a ddygir gerbron o haelioni anghymharol miloedd Cymru yn yr achos, yn ddiheurad digonol dros y fath anturiaeth; ond gan fod y swm o 1920p. wedi myned o draul ar yr adeiladaeth, a'r ffordd i'w dalu yn aneglur, daeth y baich yn beth teimladwy ar bawb, yn enwedig Mr. H. Cynnyddodd y pryder mor fawr, fel nad oedd braidd dim arall i'w glywed mewn cyfarfodydd eglwysig, a dywedai yntau yn ei ofnau, "Fe â'r Capel hwn o'n meddiant eto, ar ol y lleill," a'r farn gyffredin oedd mai felly y byddai. Dygwyddodd i'r Cadben Evan Lloyd, o Gaernarfon (gynt), ddyfod i'r porthladd ar yr amser gofidus hwn, a galwodd i weled Mr. H., a gwrandawodd arno yn adrodd ei gŵyn, na wyddai efe na'i gyfeillion i ba le i droi am ymwared. "O," ebe y Cadben, yn ei ddull croyw, fel arfer, “O, Morgan anwyl, dowch trwy'r Gogledd i gasglu; mi gewch ddigon o arian yn y Gogledd i symud yr holl faich oddiar eich cefn." Codai yntau ei ben yn siriol, gan ofyn, “I chi'n meddwl y cawn i genad?" "Cewch, cewch," ebe'r Cadben, "os oes modd yn y byd, mi fyna i weled hyny;" a thyna yr hwp cyntaf o ganol cors anobaith; y nesaf ato oedd ei dynu drwy y Cyfarfod Misol, yr hyn a wnaed, ac anfonwyd oddiyno genadau i Gymdeithasfa Sir Benfro, i ofyn am genad i fyned i gasglu drwy Siroedd y Deheudir, yr hyn a ganiatawyd


 

 

(delwedd 4565) (tudalen 43)

 

 

 

 




(x43) Yn y cyfamser, prysurodd y morwr ffyddlawn i gyflawni ei adduned yntau, mynodd weled amryw weinidogion, ac yn eu mysg y Parch. John Elias, yr hwn a ddywedai, mewn atebiad i'r cais, fel hyn, "Y mae 300p. yn ddigon i adeiladu Capel yn Newport, a'r cwbl dros ben hyny, nid yw dda i ddim, am a wn i, oddigerth i borthi balchder; ond mi a wnaf fy ngoreu." Yr oedd hyny yn ddigon; gosodwyd yr achos i lawr gerbron Cymdeithasfa y Gogledd, ac er ei fod yn wrthwyneb i'r rheol gyffredin, eto, oddiar dosturi a chyd-ymdeimlad y frawdoliaeth, rhoddwyd gwrandawiad unfrydol i'r deiseb, a chaniatawyd i'r achos gael ei osod gerbron y cynnulleidfaoedd; daeth y newydd da i Sir Fynwy, ac i'r Casnewydd, ac nid bychan oedd y gorfoledd i glywed fod Cymru, o begwn i begwn, yn agored o'u blaen.


Trefnwyd cyhoeddiad yn ddioed i Mr. H., a chychwynodd ! cyn hir, â'i wyneb ar y Gogledd, gan ymweled â rhai manau yn Siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi ar ei ffordd. Hwyrach y byddai crybwylliad am ei brofiad, pan yn cychwyn ar neges mor bwysig, yn briodol yn y man hyn, yr hwn a brawf ei fod o dan lwyth trwm o ofidiau, ac mewn dygn ddigalondid; pan yr oedd yn ymyl y Bontfaen, (Morganwg,) newydd gychwyn i'r daith, cyfarfu Mr. Frederick, o Ddowlais, ag ef; wedi ysgwyd dwylaw, "Frederick anwyl," ebe fe, "wele fi yn myned tua'r Gogledd, ac yr wyf yn mron meddwl y byddaf farw ar y ffordd." Yna gorweddodd ar war yr anifail, â'i ben tua'r llawr, a tharawodd ei law ar ysgwydd Mr. F., ac, eb efe, "Y mae pechodau pobl y Casnewydd wedi eu rhwymo ar fy esgyrn, mae y baich hwn yn mron gwasgu fy enaid i'r bedd, a'm bywyd i'r dinystrwyr. Anwyl frawd, gweddiwch drosof." Ofnodd Mr. F. rhag y dygwyddai rhyw anffawd iddo yn y fan, ond yn mhen ychydig ymuniawnodd, a dywedai, â llais grymus, "Rhaid myn'd, rhaid myn'd," ac aeth i'w ffordd. Y ffeithiau canlynol a brofant y dylanwad mawr oedd



 

 

(delwedd 4566) (tudalen 44)

 

 

 

 




(x44)ganddo ar y bobl ynmhob man, er maint y llwfrdra a deimlai ar ei gychwyniad; yr oedd serchogrwydd y bobl tuag ato y fath, fel yr oedd llogellau a chalonau pob dosparth a phlaid yn ymagor yn ei ŵydd; cyn pen tri diwrnod wedi ei fyned i Sir Gaernarfon, yr oedd yr holl wlad yn gyffro drwyddi, a- phawb yn teimlo dros y pregethwr tlawd yn ei helbul blin. Yn Llanlechid, dywedai ar weddi, ar ol pregethu, "Fy Nhad anwyl, ti elli di droi y creigiau sydd o amgylch yma yn sovereigns i'r bobl hyn gael gwasanaethu dy achos di," a'r holl dorf mewn dagrau ar y pryd; yna anerchai y gynnulleidfa, a dangosai ei ddwylaw teneuon, a'i gorff egwan, a dywedai ei fod wedi ofni y buasai yn rhaid i'r corff gwael hwnw fyned i'r carchar o achos y Capel, a'r holl bobl yn ymddangos fel pe baent am waeddi yn un llais, "Na chei byth fyned i'r carchar, tra bo arian yn Sir Gaernarfon." Cyfarfu y Cadben Lloyd ag ef gerllaw Bangor, ac aeth drosodd gydag ef i Sir Fôn, a'r un fath oedd yr effeithiau a welid o dan ei bregethau a'i anerchiadau yno, â'r hyn a deimlid yn Sir Gaornarfon. Dywedai y Cadben ei fod yn cysgu noson yn ymyl LIangefni, a boreu dranoeth, cyn iddo gychwyn i Langristiolus, cynghorai gwr y tŷ ei wraig i beidio dyfod a llawer o arian gyda hi, onite y byddai i'r gwr dyeithr (gan olygu Mr. H.) fyned â'r cwbl; ond nid oedd perygl yn y byd, yr oedd y wraig yn tystio ei bod wedi cyfranu y cwbl oedd ar ei helw i'r casgliad y nos o'r blaen yn LIangefni. Mewn llythyr a dderbyniais oddiwrth y Parch. W. Roberts, Runcorn, ar yr achos hwn, dyddiedig Hydref 18fed, 1852, dywedai fod ymadroddion, dullwedd, a thaerineb Mr. H. y fath, fel y dylanwadent yn anorchfygol ar y cynnulleidfaoedd — dangosai y perygl y safai ynddo o gael ei daflu i'r Jail, oni thynid ymaith y ddyled, desgrifiai yn y modd mwyaf gresynol y gofid a'r gwarth a ddeilliai o wrestio ei gorff tlawd, gwanaidd, a theneu, a'i daflu i garchar am ddyled a orphwysai ar dy ei


 

 

(delwedd 4567) (tudalen 45)

 

 




(x45) Dduw a'i Geidwad. Yr oedd ei wedd felancholaidd, a'i ddwylaw teneuon, y rhai a arddangosai i'r bobl, yn gynnorthwy nid bychan, er argraffu ar eu meddyliau y gresyndod cysylltiol a goruchwyliaeth o'r fath tuag ato. Sicrhai ei wrandawwyr mewn manau y byddai yn foddlawn i farw, mor gynted ag y gwelai y ddyled wedi ei dileu; dywedai mewn manau ereill iddo fod mor ffortunus a darganfod y Philosopher's stone, yr hon oedd yn troi pob peth yn aur, er dwyn yn mlaen ei amcan, a bod y llechau yn chwarel Bethesda, Sir Gaernarfon, wedi eu troi yn aur, er gwasanaethu achos y Duw mawr yn y Casnewydd. "Yr oedd y chwarel wyr," meddai, "yn taflu eu haur i'r boxes, er estyn ymwared i Morgan dlawd o'i ofid." Dywedai mewn man, "Yr oedd bachgen bach y dydd o'r blaen yn dal ceiliog bronfraith ar ben ei fys, gan ddywedyd, “A oes neb a rydd dair ceiniog i mi am yr aderyn, i mi gael eu rhoi i'r pregethwr tlawd o Newport, tuag at glirio dyled ei gapel, rhag iddo gael ei daflu i'r Jail?" Dywedai Mr. E,. ei fod yn cofio am Gadben llong (yr hwn oedd yn wr cyfoethog) yn gwrando arno yn Nghaergybi, wedi teimlo mor ddwys oddiwrth ei ymadroddion, fel yr anfonodd Sovereign iddo ar ol y gwasanaeth. Gwr parchus arall yn Llangefni, a aeth i wrando arno, o dan yr argraff y byddai iddo ei orfodi i gyfranu cymmaint o arian ag a fyddai yn ei logell, a dywedai wrth y teulu cyn cychwyn, nad oedd wiw iddo fyned a llawer o arian gydag ef, onite y byddai i'r pregethwr ei yspeilio o honynt oll; pa fodd bynag, cymmerodd hanner Sovereign, gan ystyried y byddai hyny yn rhodd led haelionus; eithr wedi ei glywed yn adrodd amgylchiadau yr achos, edifarhai yn ddirfawr na buasai wedi cymmeryd ychwaneg gydag ef, ac aeth adref at ei wraig, a dywedai wrthi, "Mwyn dyn, estynwch Sovereign, i mi gael ei hanfon i Mr. Howells, canys ni allaf oddef y meddwl i'r fath bregwthwr enwog a duwiol fod mewn gofid a thrwbl gyda dyled Capel."



 

 

(delwedd 4568) (tudalen 46)

 

 



(x46) Y mae Mr. R. yn sylwi mewn un rhan o'i lythyr, fod ei eiriau yn swynol tu hwnt i alluoedd dychymmyg na desgrifiad; iddo fyned gydag ef o Gaergybi i Gapel Ty'n-y-maen, a'i fod, fel y tybiai, wedi cyfranu yn lled helaeth yn ei le cartrefol, ac o yn benderfynol ei feddwl na roddai ddimai yn ychwaneg tuag at yr achos; ond iddo deimlo y fath argraff ar ei feddwl wrth ei wrando yn Ty'n-y-maen, fel na allasai ymattal rhag rhoddi y pedwar swllt a ddygwyddai fod yn ei logell ar y pryd.


Pan yn dychwelyd o'r daith hon, ymwelodd ag amryw fanau yn y Siroedd ereill, gan ddybenu yn Llanidloes, lle yr adroddai ei deimladau gofidus cyn cychwyn. "Yr oeddwn," meddai, "mewn gofid mawr, nes y gorfu i mi fyned i'r gwely, a'r cyfeillion yn dweyd am danaf, Poor fellow, os pery i ofidio fel yna yn hir, bydd yn rhaid ei roddi yn y straight jacket un o'r dyddiau nesaf. Yr o’wn i yn ofni y gwerthid y ceffyl, ac y danfonid fi fel John Bunyan i'r carchar; ond y mae wedi gwawrio arnaf. Gogoniant! Yr wy'n credu na cha i ddim myned yno, y mae'r grug, a'r ïeir, a chwbwl, wedi eu troi at y pwrpas o glirio y ddyled; ond y mae un peth yn fy mlino eto," meddai, "y mae'r cyfeillion yn dweyd wrthyf, na ddeua i byth i'w gweled mwyach, wedi i mi gael y casgliad; ond yr wy'n meddwl dod eto, i ddiolch am garedigrwydd mor fawr a ddangoswyd, ac i bregethu am Grist wedi ei groeshoelio." Yna gwaeddai allan, "Dawaf, dawaf, dawaf! Dawaf, yn wir,' os byddaf byw!" Cyflawnodd ei addewid, gan ymweled a'r Gogledd wedi hyny; ond, och! y llygaid a'i gwelsant, ni welant mo hono ef mwy. Byddai rhoddi darluniad manwl o'i ymweliadau â Siroedd y Deheudir ar yr achos crybwylledig, yn fy arwain yn mhell dros derfynau y cylch y bydd yn rhaid i mi gaethiwo fy hunan iddo. Ymddengys ei fod yn lled debyg, o ran ei ddull, ei ddawn, ei frwdfrydedd, a'i lwyddiant, yn y naill ran o'r



 

 

(delwedd 4569) (tudalen 47)

 

 



 
(x47) dywysogaeth, i'r hyn ydoedd yn y rhan arall, ond fod ganddo
sylwadau gwahanol yn ol yr amgylchiad. Dywedai mewn man yn Sir Forganwg, "Yr oeddwn yn meddwl y buasai coed yr elm yn Siroedd y West yn cael eu troi yn arian, am fod gwŷr, gwragedd, a phlant, yn rhoddi eu haur, a'u harian, a'u pres, ac hyd y nod hên ffyrllingau, ar y plate." Pan mewn man yn Sir Benfro, daeth gwraig gyfoethog i dŷ y Capel ar ei ol, wedi yr oedfa, ac estynodd Sovereign iddo, "Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chi, Ma'm," ebe yntau, a gosododd y dernyn aur at y casgliad. "Nid fel yna," ebe y wraig foneddig, "yr wyf wedi rhoddi at y casgliad eisoes; cedwch y Sovereign yna i chwi eich. hunan." "Na, os gwelwch yn dda, Ma'm," ebe yntau, "mi a'i rhoddaf i'r Arglwydd y tro hwn, waith drosto cf yr wyf wedi dôd;" ac felly yr oedd y cyfan a ddisgynai i'w law ef, i fyned yn ddioed i drysorfa y Brenin, heb olwg ar amcan y doniad.

Daeth i Flaenanerch ar foreudydd Llun, a chafodd y tŷ yn llawn o wrandawwyr yn ei aros; dywedai yn ei anerchiad, "Yr wyf yn credu wrth eich gwêdd, eich bod yn penderfynu cael y cwppwl saint sydd yn y Casnewydd oco yn rhydd o'r ddyled sydd arnynt; a dw i'n rhyfeddu dim llawer wrth eich amcan, waith un o ddybenion dyfodiad ein Brawd hynaf i'r byd, oedd rhyddhau a thalu dyled ei bobl; yr wyf wedi cael prawf newydd mai un celwyddog yw'r cythraul, fe anfonodd un o'i blant ataf i ddweyd nad oedd gwiw i mi fyned i Sir Benfro, mai cybyddion oedd yno i gyd; a chyn y llwyddwn i gael dim oddiwrthynt, y byddai yn rhaid eu crogi wrth eu sodlau, i'r arian gael syrthio o'u pocedau; ond pe gwelwn i y creadur rhagfarnllyd hwnw eto, mi a'i hargyhoeddwn o'i gyfeiliornad; yr wyf wedi cael yn Sir Benfro lawer tu hwnt i'm dysgwyliad; sylwais ar un plentyn yn nghol ei fam, yn gosod Sovereign ar y plate mewn un man,— a welwch chi fod yn dda i sylwi, fy nghyfeillion, mae dynion mewn oed, a phlant, ac


 

 

(delwedd 4570) (tudalen 48)

 

 




(x48) angylion, a phawb a phob peth, yn penderfynu i ni gael cadw y Capel." Erbyn hyny yr oedd gwynebau pawb yn orchuddedig gan ddagrau, a dagrau oedd yr ern a gyfrifid yn arwydd sicr y byddai y casgliad yn fawr, ac felly y bu yn y lle hwn; cyfranasant â chalon ewyllysgar amryw bunnoedd yn y fan. Mewn man arall, yn Sir Aberteifi, daeth yfwr glew i'r oedfa, gan fwriadu talu ymweliad â'r dafarn ar ol y cyfarfod; gwrandawai y gwr ar Mr. H. yn dweyd y talai yr Arglwydd yn ddwbl i garedigion ei achos; hoffodd yntau y sylw, am fod cant-dâl (centage) yn llôg da ar arian; yr oedd dwy chwech yn ei logell; ac yn wrthwyneb i'w fwriad rhoddodd un i'r casgliad,— ar ei ffordd adref, codai swilt i fyny, a chredodd yn y fan mai Prophwyd cywir oedd y Pregethwr, a dechreuodd ofidio am na roisai y chwech arall, ac yna (fel y tybiai) cawsai ddau swllt o lôg am ei un.


Olrheiniad manwl a'n harweiniai hyd at y plant bach yn gwerthu ieir, hwyaid, colomenod, agor blychau nadolig, a phob dyfais i gael arian i'w hanfon ar ei ol; heblaw gweision a morwynion yn codi symiau (nid bychain) o'u cyflogau, at yr un perwyl; ambell i gybydd, a ddaliodd yn mhob hinsawdd, yn colli ei lywodraeth ar ei logell; a hên oferwyr sychedig yn twyllo yr eilun Bacchus i gael offrymu eu sylltau ar allor y Duw byw. Yn y modd hwn cyrhaeddodd Mr. H, ei amcan, a chasglodd, rhwng cyfraniadau trefydd Lloegr, yn y Gogledd, 700p., ac yn y Dehau 600p., y cyfan yn 1300 o bunnoedd, yr hwn gasgliad a orphenodd yn y flwyddyn 1833. — Fel hyn bu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i waredu yr achos o afael dinystr a gwarth.

(delwedd 4571) (tudalen 49)

 

 


___________________________________________

 

 
(x49) PENNOD VI.
CYMMERIAD PERSONOL MR. HOWELLS.

Ei neillduolrwydd naturiol — Adolygiad ar ei eithafion — Ei eithafion heb fod yn ŵyriad oddiar Iwybrau gwirionedd — Ei ymddangosiad personol — Diysgogrwydd ei olygiadau — Ei olygiadau yn eu perthynas a phleidlais y bobl — El dymher — Ei ddidueddrwydd — Ei onestrwydd — Ei nodweddion cymdeithasol — Ei Lythyrau at ei Blant — Barddoniaeth y Parch, W. Rees, (Gwilym Hiraethog,) Llynlleifiad.


Yr oedd Mr. Howells, er yn blentyn, yn cael ei ystyried yn un ag hynodrwydd anghyffredin yn perthyn iddo;— cyfrifid ef yn ddyn anghymhar, heb fod yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau;— yr oedd neillduolrwydd naturiol yn ei gymmeriad, yr hyn a barai i lawer ei gyfrif yn ddyn nwythig, (eccentric,) a hyny o herwydd y canfyddid afreoleidd-dra mewn rhai o'i arferion ac arbenigrwydd penderfynol yn y lleill; ac o herwydd ei ddiofalwch yn y naill a'i fanylwch yn y llall, caed ef yn gyffredin yn myned i eithafion, ac yn annibynol ar gywirdeb nac anghywirdeb yr eithafion hyny, byddai y pwynt pell a gymmerai i sefyll arno yn sicr o beri i'r sawl a wahaniaethent oddiwrtho ei feio am fyned yn rhy bell, a'r diwedd fyddai ei wrthwynebu, yr hyn yw tynged pawb o'r un gogwyddiad meddwl. Y mae yn beth ffodus i mi, wrth geisio darlunio y fath gymmeriad, fod modd dangos nad oedd ei ethafion yn cynnwys dadgyffesiad o un gwirion¬edd nac yn ŵyriad oddiar dir rhinwedd a santeiddrwydd; addefir fod ei ddull a'i ddywediadau, a'r ffordd a gymmerai i gyrhaedd ei amcan, yn wahanol i ereill o'i gydwladwyr; eto, yn y dyben, yr hyn yw y mater mwyaf ei bwys, nid oedd ei eithafion ef ond graddau mwy neu lai o'r hyn a geid yn mhawb o'r rhai a fedyddiwyd a'r un ysbryd; ac yn hyny yr oedd yn ymdebygu i'r diwygwyr a fu o'i flaen, yn gystal a rhai o'i gyfoesolion. Anaml y gwelir diwygwyr, yn wladol nac yn eglwysig, heb y nodwedd hwn. Aeth Jeremiah ac

 

 

(delwedd 4572) (tudalen 50)

 

 



(x50) Hosea yn rhy bell yn nghyfrif y genedl oedd yn dewis ymdroi yn ei phechodau; yr oedd yr apostol Paul yn dal ei linyn yn, rhy dỳn i foddloni eglwys a ymlynai wrth hen ffurfiau seremoniol, heb yr Ysbryd; gwawdiwyd a melldithiwyd y BENDIGEDIG ei hun, gan grefyddwyr deddfol yr oes hono; am ba beth? onid am ei hynodrwydd yn cymhell athrawiaeth wrthwyneb i'w daliadau hwy? Cafodd Mr. H. y gair, nid heb deilyngdod, ei fod yn ddyn hynod, neu yn null cyffredin y wiad o lefaru, "yn ddyn od!" Nodwedd ag sydd bob amser yn dderchafiad neu yn ddarostyngiad i'w berchenog, yn ol fel y gwrthfawrogir ef. Yn gyffredin y mae dyn hynod, yn hynod o fawr neu yn hynod o fach yn ngolwg y werin; y mwyaf o bawb gan rai, a'r lleiaf o bawb gan ereill. Yr oedd Mr. H. yn un o hynod ddynion ei oes yn ddiau, ac i'r dyben o ffurfio barn gywir am dano, amcenir i'r portreiad gael ei dynu yn ngoleuni ei weithrediadau, ei arferion, a'i eiriau ei hun.

Ei ymddangoslad personal.—Yr oedd yn ddyn o faintioli cyffredin, tua phum troedfedd a naw modfedd a hanner, o daldra, — yn deneu iawn, — gwisgi ac heinif yn ei ieuenctyd, a nodedig am ystwythdra ei gymmalau hyd ddiwedd ei oes, — esgyrn bychain, —llygaid gleision, yn fychain yn hytrach, ond yn graffus, — ei edrychiad yn dreiddgar a beirnadol, a phob ystumiad yn dynodi dyn myfyrgar; — pan ar ei ben ei hun, ymddangosai yn ddybryd, heb un gosgedd yn arwyddol o deimlad llawen, — yr oedd yn naturiol o duedd pruddglwyfus, yr hwn fel y darfodedigaeth, a gynnyddodd arno hyd derfyniad ei oes; ond yn gyffredin byddai swyn cyfeillgarwch yn rhyddhad iddo oddiwrth effeithiau ei bruddglwyfni.

Nid oedd dim yn ei olwg yn ffafriol i beri i ddyn hydwyllog feddwl ei fod yn un mawr, am nad oedd wedi dysgu gwneyd unrhyw ddysplead ffuantus o hono ei hun mewn dim. Dylid addef ei fod o wneuthuriad cyfartal, fod cymmeintiolaeth

 

 

(delwedd 4573) (tudalen 51)

 


(x51) (proportionality) yn ffurf ei gorff o'i ben i'w draed, eto, egwan, bychan a llwydaidd oedd, nes peri i lawer feddwl am ei Feistr, gan ryfeddu "mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion," a'r sawl a farnant y dyn wrth ei feddwl, a welent ryw beth allan o'r cyffredin ynddo, pan yr agorai ei enau, ac unwaith y dechreuai lefaru, ymlidiai ragfarn allan o fynwesau pawb.

Gwreiddoldeb ei feddwl.— Gwreiddioldeb ei alluoedd meddyliol oedd ddinas ei gadernid; nid oedd yn annhebyg i adnod gynnwysfawr o lyfr y Diarebion, yr hon a rydd synwyr cyflawn heb fod yn gysylltiedig ag adnod o flaen nac ar ol; safai yntau ar ei ben ei hun yn nghanol ei frodyr; yr oedd ei feddwl yn ddigon mawr i agor pob mater a deflid i'r bwrdd, a'i amgyffredion yn ddigon eang i ddwyn allan bethau newydd wedi i bawb dewi. Yr oedd ei sylwadau yn berlau a orddysgleirient lygaid y lluaws a fyddai yn bresenol, a thra y tywalltent hwy ddagrau yn hidl, yntau megis yn ddiarwybod, a dywalltai ei sylwadau athrylithgar, y rhai a luchiai dros yr holl le, gan wefru rhwng cysylltiadau yr enaid, aent ddyfnach ddyfnach i mewn, nes y gafaelent yn y galon, ac ar ol gosod y cwbl yn fflam, eisteddai i lawr, a'i ben rhwng ei liniau; os gellir arfer cymhariaeth, sicr yw ei fod yn annhebyg i'r còryn a daflwyd ar ysgwydd y cawr, — gwyddai y ffordd i arfer golygiadau ereill, heb eu camarfer; ac nid oedd profedigaefh i neb feddwl ei fod yn gwisgo mantell rhyw un arall.

Diysgogrwgdd ei olygiadau.— Yr oedd o benderfyniad meddwl cryf, ac ar bob mater o bwys llafuriai yn galed i ffurfio barn gywir, a'r farn hono fyddai yn ddcddfiddo cf; nid oedd, mwy nag ereill, yn anffaeledig, nac yn proffesu anffaeledigrwydd, ond goddefai y cymmeriad hwnw, os gwnai hyny y gwamal yn ddiddig, yn hytrach nag aberthu ei egwyddorion am wegi; yr oedd ei olygiadau yn rhy gedyrn i'w hysgwyd gan bob awel, ac yn rhy gyscgredig i'w dibrisio. Heblaw

 

 

 

(delwedd 4574) (tudalen 52)


(x52) ei fod o benderfyniad eryf yn aaturiol, yr oedd ganddo lygaid i weled drwg o bell. Dywediad cyfiredin am dano oedd, “Y mae yn anhawdd ei droi." Gwir oedd y dywediad, ond paham? Am ei fod yn ddyn anhawdd ei dwyllo, ar un mater fyddai yn gysylltiedig â chrefydd; nid oedd yn un o'r rhai a goleddai farn dyner am gythraul o herwydd ei fod mewn gwisg wen; a phan y gwelai ereill yn cael eu hudo ymaith gan rith, safai yn ddiysgog yn ymyl gwirionedd, a mynych y dywedai, "Wel, wel, ni wn i beth ddaw o'r oes yma; mae hi yn myn'd i rywle; ond dewch chi, chi gewch wel'd cyn bo hir pwy sydd right."

Ei Olygiadau yn eu perthynas â Phleidlais y Bobl.— Mewn ymdriniaeth Eglwysig neu Gymmanfaol ar fater, ni chynnygai un amser ei olygiadau noethion, fel rheol i farnu y pwnc; ond dygai allan seiliau ei olygiadau, yn rhesymau rhy bwysig i'w troi yn ol; ni ddywedai, "Fel hyn, neu fel arall, y dylai y mater hwn gael ei benderfynu," a'r ddadl egwan hono tu cefn, "Dyma fy meddwl i;" ac nid llygadu ar wynebpryd y bobl fyddai ei ddefod ychwaith, er mwyn gwybod pa ochr oedd gryfaf; ond, os gwelai duedd at ŵyro, ar unrhyw achos o bwys, pell oddiwrtho ef fyddai gollwng gwirionedd i'r llawr, er mwyn cadw ei barch; am fod ei ddiddichellrwydd rhyngddo ag arfer cyfrwysdra. Ei lwybr o dalu sylw i farn y bobl fyddai rhoddi iddynt gyfleusdra teg, drwy gynnyg iddynt y defnyddiau priodol tuag at ffurfio drychfeddwl cywir, a'r defnyddiau hyny yn rhesymau cryfion, yn lle brysio i derfynu y mater cyn ei drin; — nid llawer a ddywedai mewn Cymdeithas heb gymhelliad mawr arno, ond caed fod yr ychydig hyny yn llawn o sylwedd. Blinid ef yn ddirfawr gan bob twyll-ddadleuaeth, {sophistry,) ac ni chyfrifai lawer o'r hyn a gamenwir "hawl y bobl i farnu drostynt eu hunain," amgen i dra-arglwyddiaeth eu harweinwyr ar y werin, megis pan yr amcenir cario mater, y twyllir y bobl â'r hen ffregod,

 

 

(delwedd 4575) (tudalen 53)

 

 


(x53) "Majority sydd i benderfynu," heb ddim mewn golwg ond hudo yr anneallus i roi benthyg eu dwylaw i'r dyben o gario allan eu dybenion hwy, — a hyny cyn meddwl nemawr o ddim, yr hyn mewn gwirionedd a gynnwys yr un peth a chrefu ar y lluaws i dansgrifio a llygaid cauedig, i anffaeledigrwydd yr ychydig, neu newid Pabyddiaeth Esgobaethol am Babyddiaeth Weriniaethol. Goleuo meddyliau y bobl ar bob achos pwysig, oedd amcan Mr. H., — credai yn ddiysgog ei bod yn dymhor nosaidd ar grefydd, — ar gyfer y nos dygodd gydag ef nid canwyll frwynen, ond lamp fawr; yr oedd hono wedi ei thrwsio yn dda, olew yn y llestr bob amser, a chadwodd hi heb ei diffodd yn nghanol pob tymhestl. Ai cyfaill ei genedl ydoedd? Atebed meibion a merched Cymru; clywir adsain o ddeng mil o galonau, oll yn tystio, “Ie, ein cyfaill ni ydoedd efe." Pa beth a wnaeth efe drosoch, attolwg ? a ddaeth efe atoch a geiriau gweniaith? “Naddo, ond wedi dangos peryglon y ffordd, cododd ei lamp fawr i'n goleuo." Pa beth ond cariad at ei genedl, a barai iddo ddywedyd mor aml, "Y mae eisieu i'r bobi gael deall."

Ei Dymher.— O ran ei dymher naturiol, yr oedd yn tueddu at fod yn wresog, yn gyffredin yn achwyngar, ac yn agored i deimlo yn anniddig; hwyrach fod y naws anhapus hon wedi cynnyddu arno o herwydd ei afiechyd. Ni fwynhaodd iechyd perffaith am un diwrnod cyfan yn ystod llawer o flynyddoedd; hawdd y gall dyn cryf, sydd â'r hoelion heb laesu yn ei gyfansoddiad, edrych yn llon yn wyneb ei gyfaill llesg, a synu o herwydd ei wedd anfoddog, am nad yw yn feddiannol o'r profiad a grea ynddo gydymdeimlad; ond heb olwg ar wresogrwydd tymher Mr. H. yn naturiol nac yn achlysurol, yr oedd y rhan fwyaf o'r hyn a elwir yn dymher wresog, yn fwy tebyg i zei grefyddol nag i ddim nwydwyllt a digofus, canys nid yn ei achos personol yr ymddangosai yn gynhyrfus; gwelwyd ef mewn profedigaethau dirfawr, — dyoddefodd luaws

 

 

 

(delwedd 4576) (tudalen 54)

 


(x54) mawr o helbulon, tu hwnt i'r cyffredin; ond yr effaith o bob camdriniaethau personol arno fyddai ei yru i ymguddio yn ei ofid, ac wedi ei orchfygu gan ddigalondid, gorweddai yn ei wely, yn hytrach na dadleu ei achos ei hun, nac ymrafaelio a'i wrthwynebwr. Yn y cyfryw amgylchiad collai bob hunan-feddiant, a darostyngid ef i ofnau ac iselder ysbryd;
ond pe deuai rhyw un ato â newydd drwg am rywbeth mewn cysylltiad â chrefydd, megis fod rhyddid crefyddol yn cael ei gyfyngu, hyd y nod mewn parth pellenig o'r byd, neu yn un o deyrnasoedd y Cyfandir, codai i fyny yn y fan, a gwelid yr hwn oedd ychydig fynydau yn ol ar lun baban, mewn mynydyn wedi ei wisgo a nerth cawr, a'r truan digalon ar ymdori o eiddigedd dros enw ei Dduw. Os creffir ar yr achos priodol i'r naill effaith ar gyfer yr achos priodol i'r effaith arall, gwelir mai mewn cysylltiad ag adfyd yr eglwys y dangosai gynhyrfiad, tra, yn wyneb aflwydd personol, syrthio a llwfrhau yn ei ysbryd y byddai. Nid i'r dyben o ddadbrofi gwresogrwydd ei dymher naturiol, y gwneir y crybwylliadau, ond i ddangos arglwyddiaeth gras Duw, hyd y nod ar y tymherau anymarhous, a welwyd yn ennynu ynddo pan yn ieuanc oddiar hunanoldeb, ond wedi hyny a santeiddiwyd i ennynu mewn eiddigedd dros achos Mab Duw.

Y mae camgymmeriad mawr iawn gyda golwg ar ddylanwad crefydd ar y tueddiadau naturiol, fel pe byddai yn difeddiannu dyn o'i alluoedd; ond nid gras yw dideimladrwydd. Os yw y dyn a fuasai unwaith yn fywiog, yn gyffrôus ac yn dreiddgar ei feddwl, wedi syrthio i ddideimladrwydd, syrthni, a llwfrdra, nid crefydd a wnaeth y cyfnewidiad hwnw! Y mae'r gwahaniaeth i'w briodoli naill ai i effaith rhyw anhwyl ar ei gorff, neu i fursendod neu rithiad crefyddol er mwyn ymddangos ei fod yr hyn nid yw; yn wahanol i hyny y dylid edrych ar Mr. Howells o dan y nodwedd hwn, am ei fod, pan yn agored i gynhyrfiad, wedi cadw hyd ddiwedd ei oes y

 

 

(delwedd 4577) (tudalen 55)

 

 

 


(delwedd 4577)
(x55) bywiogrwydd ysbryd hwnw ag oedd yn un o'r teithi amlycaf yn ei gymmeriad naturiol: ni fyfyriodd am fynyd erioed ar un o wersi dieflig y Jesuit, o herwydd hyny ni chuddiodd ei groen ag un hug, fel na bu galwad erioed i ddwyn ar gofiddo yr atgasrwydd a genedlid yn y fynwes wrth ganfod mursendod a rhith.

....."In man or woman, but far most in man,
......And most of all in man that ministers
......And serves the altar, in my soul I loath
......All affectation. ’Tis my perfect scorn."


Gan ymgadw oddiwrth bob arddangosiad rhagrithiol o hono ei hun, efe a iawn farnodd megis Phinees, ac er cythruddo ei ysbryd mewn eiddigedd dros enw yr Arglwydd yn hytrach na thaflu ysmig ar lygredigaeth “er mwyn budd," arwyddair ei galon oedd, "Pa beth a wnai i'th enw mawr?"

Ei Ddidueddrwydd.—Yr oedd yn ffyddlawn i ddweyd y gwir, ac ni dderbyniai wyneb y beius drwy weniaith, gan ei adael yn agored i fyned rhag ei flaen i amryfusedd mwy;
ymgadwai yn ddigon pell ar y tu arall. Yr oedd fel Jacob, yn ddyn croyw a dihoced, "A Jacob oedd wr dysyml," (a plain man;) fel dyn plain, heb ragor nag un wyneb, (yr hyn sydd lawn ddigon i'r un dyn), yr adnabyddid yntau. Dywedai y gwir wrth ei gymmydog, ac ofer dysgwyl dim arall, am nad oedd gwyneb arall ganddo; ei amcan yn ei waith yn ymddwyn yn ddiduedd, fyddai argyhoeddi o fai; cyflawnodd y rhan hyny o'i weinidogaeth yn ei holl gylchoedd,—o'r pulpud, — mewn cymdeithas, — ac yn bersonol. Pan y traddodai ei gynghor yn gyhoeddus, safai o flaen y bobl, fel Paul yn Athen, “â'i ysbryd wedi ei gynhyrfu ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod." Yna dygai sylwedd yr un athrawiaeth o fewn cylch oedd lai, gan ymosed gyda'r difrifoldeb a weddai i deyrn-genad y Nef, ar y llygredigaeth a allai fod ar y pryd yn dihoeni yr eglwys; galwai ar ei frodyr i








 

 

(delwedd 4578) (tudalen 56)

 

 

 

 

(delwedd 4579) (tudalen 57)

 

 



 

(delwedd 4580) (tudalen 58)

 



 


(delwedd 4581) (tudalen 59)

 

 

 


(delwedd 4582) (tudalen 60)

 



 


(delwedd 4583) (tudalen 61)

 



 


(delwedd 4584) (tudalen 62)

 



 


(delwedd 4585) (tudalen 63)

 



 


(delwedd 4586) (tudalen 64)

 



 


(delwedd 4587) (tudalen 65)

 



 


(delwedd 4588) (tudalen 66)

 



 


(delwedd 4589) (tudalen 67)

 



 


(delwedd 4590) (tudalen 68)

 



 


(delwedd 4591) (tudalen 69)

 



 


(delwedd 4592) (tudalen 70)

 



 


(delwedd 4593) (tudalen 71)

 



 


(delwedd 4594) (tudalen 72)

 



 


(delwedd 4595) (tudalen 73)

 



 


(delwedd 4596) (tudalen 74)

 



 


(delwedd 4597) (tudalen 75)

 



 


(delwedd 4598) (tudalen 76)

 



 


(delwedd 4599) (tudalen 77)

 



 


(delwedd 4600) (tudalen 78)

 



 


(delwedd 4601) (tudalen 79)

 



 


(delwedd 4602) (tudalen 80)

 



 


(delwedd 4603) (tudalen 81)

 



 


(delwedd 4604) (tudalen 82)

 



 


(delwedd 4605) (tudalen 83)

 



 


(delwedd 4606) (tudalen 84)

 



 


(delwedd 4607) (tudalen 85)

 



 


(delwedd 4608) (tudalen 86)

 



 


(delwedd 4609) (tudalen 87)

 



 


(delwedd 4610) (tudalen 88)

 



 


(delwedd 4611) (tudalen 89)

 



 


(delwedd 4612) (tudalen 90)

 



 


(delwedd 4613) (tudalen 91)

 



 


(delwedd 4614) (tudalen 92)

 



 


(delwedd 4615) (tudalen 93)

 



 


(delwedd 4616) (tudalen 94)

 



 


(delwedd 4617) (tudalen 95)

 



 


(delwedd 4618) (tudalen 96)

 



 


(delwedd 4619) (tudalen 97)

 



 


(delwedd 4620) (tudalen 98)

 



 


(delwedd 4621) (tudalen 99)

 



 


(delwedd 4622) (tudalen 100)

 



 


(delwedd 4623) (tudalen 101)

 



 


(delwedd 4624) (tudalen 102)

 



 


(delwedd 4625) (tudalen 103)

 



 


(delwedd 4626) (tudalen 104)

 



 


(delwedd 4627) (tudalen 105)

 



 


(delwedd 4628) (tudalen 106)

 



 


(delwedd 4629) (tudalen 107)

 



 


(delwedd 4630) (tudalen 108)

 



 


(delwedd 4631) (tudalen 109)

 



 


(delwedd 4632) (tudalen 110)

 



 


(delwedd 4633) (tudalen 111)

 



 


(delwedd 4634) (tudalen 112)

 



 


(delwedd 4635) (tudalen 113)

 



 


(delwedd 4636) (tudalen 114)

 



 


(delwedd 4637) (tudalen 115)

 



 


(delwedd 4638) (tudalen 116)

 



 


(delwedd 4639) (tudalen 117)

 



 


(delwedd 4640) (tudalen 118)

 



 


(delwedd 4641) (tudalen 119)

 



 


(delwedd 4642) (tudalen 120)

 



 


(delwedd 4643) (tudalen 121)

 



 


(delwedd 4644) (tudalen 122)

 



 


(delwedd 4645) (tudalen 123)

 



 


(delwedd 4646) (tudalen 124)

 



 


(delwedd 4647) (tudalen 125)

 



 


(delwedd 4648) (tudalen 126)

 



 


(delwedd 4649) (tudalen 127)

 



 


(delwedd 4650) (tudalen 128)

 



 


(delwedd 4651) (tudalen 129)

 



 


(delwedd 4652) (tudalen 130)

 



 


(delwedd 4653) (tudalen 131)

 



 


(delwedd 4654) (tudalen 132)

 



 


(delwedd 4655) (tudalen 133)

 



 


(delwedd 4656) (tudalen 134)

 



 


(delwedd 4657) (tudalen 135)

 



 


(delwedd 4658) (tudalen 136)

 



 


(delwedd 4659) (tudalen 137)

 



 


(delwedd 4660) (tudalen 138)

 



 


(delwedd 4661) (tudalen 139)

 



 


(delwedd 4662) (tudalen 140)

 

 




 

 



Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
 
www.kimkat.org/amryw/1_
testunau/sion_prys_185_boanerges_1853_0391k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: llyfr yn fy meddiant innau
Creuwyd / Creada/ Created:
06-11-28
Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 22-01-2018
Delweddau / Imatges / Images:


Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait