kimkat0900k Hanes Bywyd Thomas Williams, Yr Hwn A Adwaenid Wrth Yr Enw Thomas Capelulo. A Ysgrifenwyd O’i Enau Ef Ei Hun. Llanrwst; Argraffwyd Gan John Jones. Tros Thomas Williams. 1854.

02-07-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat03900
Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

 

Hanes Bywyd Thomas Williams, Yr Hwn A Adwaenid Wrth Yr Enw Thomas Capelulo. A Ysgrifenwyd O’i Enau Ef Ei Hun. Llanrwst; Argraffwyd Gan John Jones. Tros Thomas Williams. 1854.

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

 


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
Què hi ha de nou en aquest web?
What’s new in this website?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

...

(Yn Saesneg / In English: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_206_thomas-williams-capelulo_SAESNEG_0901k.htm )

 

 

 

 (delwedd C4766) (tudalen 002)

HANES BYWYD THOMAS WILLIAMS, YR HWN A ADWAENID WRTH YR ENW THOMAS CAPELULO. A YSGRIFENWYD O’I ENAU EF EI HUN. LLANRWST; ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES. TROS THOMAS WILLIAMS. 1854. PRIS CHWECHEINIOG.

 

 

 (delwedd C4767) (tudalen 003)

HANES BYWYD THOMAS WILLIAMS, &c.

 

Y MAE llawer o ffyrdd gan ddynion i wneuthur eu hunain yn hynod yn y byd; ond nid ydyw pob math o hynodrwydd i genfigenu wrtho. Y mae y gwrthddrych y sonir am dano yn nhu dalenau y llyfr hwn yn un o'r rhai rhyfeddaf a hynotaf a fu yn y byd erioed, a chymeryd ei holl fuchedd o'r dechreu hyd yma dan sylw. Buasai yn anhawdd genym gredu fod yn bosibl i ddyn fyned i'r fath ddyfnderoedd o drueni wrth ddilyn ei chwantau, oni buasai ini glywed y peth o'i enau ef ei hun. Y mae yr hanes yn debycach i ffug-chwedl nag i wirionedd ar lawer o gyfrifon; eto yr ydis yn gorfod credu mai gwir ydyw; oblegid na fedd y cyfaddefwr ddigon o fedr i ddyfeisio y fath ddarlun didor a chyson o ddrygioni, ac nid ydyw y peth yn elw nac yn anrhydedd iddo. Y mae y ffeithiau yn dyfod y naill ar ol y llall i gylymu yn eu gilydd. Y mae y gweithredydd wedi bod drostynt ganoedd o weithiau yn nghlyw ei gyfeillion a'i gymydogion, ac y mae wedi eu hadrodd bob amser yr un fath. Efallai, y dywed rhywrai na ddylasid dodi y fath gasgliad o bethau rhyfedd wrth eu gilydd. Gan mai ysgrifenu hanes bywyd yr oeddid, yr ydym ni yn barnu yn ostyngiedig y dylasid; a phe byddai hanes bywydau dynion yn cael eu hysgrifenu gyda

 

 

 (delwedd C4768) (tudalen 004)

4

 

mwy o onestrwydd, y byddai hyny yn llawer gwell i'r oesau a ddeuant na'r dull a gymerir. Gwnai y meddwl y byddai hanes holl gampau drygionus ac ysgeler dyn ar gof a chadw, i lawer un edrych pa fath lwybrau a wnelai i'w draed, wrth fyned drwy y byd; ond y mae y dull darnguddiadol a gymerir gyda hanes bywydau dynion, yn gyffredin, sef, peidio coffa ond yr hyn fydd yn anrhydedd iddynt, yn peri i amryw fod yn hollol ddiofal pa fath fywyd fyddant byw; oblegid y maent yn gwybod y bydd rhyw rai yn ddigon gofalus am eu coffadwriaeth fel na cheiff dim ond y da ei gyhoeddi. Y mae y Bibl yn rhoi y da a'r drwg am bob un yr ysgrifenai; heb hyny nid oes fodd cael allan y gwirionedd; ac nid ydyw coffa am y drygedd ond yn peri i'r daioni fod yn fwy dysglaer a llewyrchus. Y mae dangos y dyfnder y mae dyn wedi bod ynddo, mewn halogrwydd a thrueni, yn dangos mawredd y drugaredd a'i hachubodd; ac yn ei osod dan rwymau parhaus yn ngolwg pob un i fod yn ddiolchgar am ei waredigaeth. Nid ydyw yn gweddu i rai a gafwyd yn isel iawn mewn pechadurusrwydd siarad yn uchel am y gweddill o'u hoes; gan nad beth fyddo eu rhinweddau ar ol eu galw o dywyllwch i oleuni; oblegid y mae ganddynt hwy fwy o waith nag a allant gyflawni mewn amser byr i ddyfod i'r marc yr oedd ereill yn cychwyn oddiwrtho pan oeddynt hwy yn y ffos. Gormod o waith i ddyn fyddo wedi bod dros ei ben am flyneddau mewn halogrwydd fydd enill digon o ragoroldeb yn fuan i'w osod ef mewn sefyllfa y gall lefaru hyf gyda golwg ar gyflyrau ereill. Dylai yn hytrach rodio yn alarus dros y gweddill o'i ddyddiau, a diolch am i'w gymydogion gymeryd sylw o hono ac uwchlaw y cwbl

 

 

 (delwedd C4769) (tudalen 005)

5

 

am i'r Arglwydd gymeryd trugaredd arno, a rhoddi iddo le yn ei dy, ac enw yn mhlith ei bobl.

 

Y mae y Gymdeithas lwyrymataliol wedi ateb dyben goruchel yn amgylchiadau Tomos Williams, megis y gwelir yn amlwg. Bu iddo ef yn ymgeledd i'w godi ar ei draed fel creadur rhesymol i gychwyn ar lwybrau rhinwedd; ac er ei gynorthwyo i enill ymddiriedaeth y rhai a’i hadwaenent; canys yr oedd efe cyn myned yn llwyrymataliwr wedi myned tu allan i bob cylch yn y wladwriaeth; ac wedi ffurfio cylch iddo ei hun nad oes neb yn fynych yn troi yn ei gyffelyb; a'r cwbl oll er porthi angerddoldeb y chwantau ynfyd a niweidiol oedd ynddo. Wrth edrych dros yr hanes y mae yn drueni meddwl i amser dyn gael ei dreulio nid yn unig mor ddiwerth ond mor lygredig. Cafodd ei gychwyn allan heb addysg dymorol nac ysbrydol, mewn teulu tylawd; yr oedd yn rhyhwyr ei gael o'r ffordd, Ni chafodd gelfyddyd i’w dilyn; ond yr oedd ei gychwyniad allan yn arwain i segurdod ac i bethau gwaeth. Nid oedd ryfedd i'r Iuddewon ddyweud mai yr un peth oedd magu plentyn heb grefft a'i fagu yn lleidr. Pa swydd salach a allasai plentyn yn ei oed ef gael na dal penau ceffylau boneddigion, fel y geilw efe y rhai oedd yn dyfod i Lanrwst, y pryd hwnw; a gwneuthur mân negeseuau ar hyd y dref? yr oedd hyny yn ei arwain yn union i ymofyn am ryw swydd segur; megis, glanhau esgidiau a chael myned yn ostler neu yn farchogwr; gan ei ddwyn ar unwaith i safn profedigaeth nad oes prin un o gant heb fyned yn ysglyfaeth iddi. Dyma y dosbarth tebycaf i'r anifeiliaid a drinir, ac a yrir ganddynt, ag sydd i'w gael yn yr holl fyd adnabyddus. Y maent yn dechreu eu gyrfa mewn twyll:

 

 

 (delwedd C4770) (tudalen 006)

6

 

ac yn ei threulio allan, yn gyffredin, mewn meddwdod. Y mae yn drueni gweled cynifer o ddynion mewn gwlad efengyl, yn treulio eu hoes o gwmpas y prif westai (inns,) ac ar benau cerbydau, a phethau byd arall mor ddyeithr iddynt a phe byddent yn Hotentots. Yr ydym ni yn son am y dosbarth yma, yn gyffredin, ond gwyddom fod eithradau anrhydeddus yn bod. Y mae y rhai a elont i'r fath swydd yn derbyn llawer o’u talion drwy ddiod feddwol; ac y mae gyriedyddion y cerbydau yn cael eu bwrw ar drugaredd y teithwyr am eu cyflogau, yr hyn sydd hollol annheg. Y maent drwy hyny yn cael eu hanog i fyned yn anonest; ac os yn anonest, yn gelwyddwyr hefyd er mwyn cadw eu penau ar ol gwneud cam a'u meistri. Dyma lle cafodd Tomos Williams ddechreu ei yrfa yn nghanol tyngwyr, rhegwyr, a meddwon halogedig; ac ni chafodd fantais i wybod yn more ei oes lle yr oedd drygau yn dechreu, na rhinwedd a moesoldeb yn diweddu. Daeth yn fuan iawn i ddangos fod yn ei natur yntau gymaint o halogediaeth ag oedd yn natur neb o honynt.

 

O fod yn yriedydd ceffylau aeth yn filwr; sef, y nesaf i geffyl o ran dim llywodraeth a fedd dyn drosto ei hun. Yr oedd efe, yn bresenol, mewn sefyllfa nodedig fanteisiol i holl aflendid a halogrwydd ei natur enynu allan; a gallem sicrhau y darllenydd na fu efe yn ol i'r milwr penaf am bob castiau drwg ac am feddwdod. Y mae y milwr mewn cyfleusdra nad all na ostler na gyrwr ceffylau gael ei chyffelyb. Gall ef, ar amgylchiadau neillduol, fwrw allan holl halogedigaeth ac aflendid cnawd ac ysbryd. Gall ladd, treisio, meddwi, rhwyg beichioglon, yspeilio, a llosgi tai a phobl heb fod

 

 

 (delwedd C4771) (tudalen 007)

7

 

yn agored i gael ei alw i gyfrif. Y mae yn deddf iddo ei hunan amryw amgylchiadau. Y peth mwyaf y mae Tomos Williams yn gyfaddef yn ei erbyn ei hun yw meddwdod a phuteindra; nid ydyw yn son fawr am ei orchestion fel lladdwr ei gyd-ddynion mewn gwaed oer; ond yr oedd ei gyflwr yn ddu iawn yn rhestr meddwon, godinebwyr, celwyddwyr, tra bu gyda'r fyddin: yr oedd efe yn rhydd i wneud pob cast er mwyn cael diod. Costiodd i'w gnawd a'i esgyrn ddyoddef lawer gwaith o achos ei fariaeth. Wedi iddo ddyfod yn rhydd dilynodd yr unig swydd ag oedd yn debyg o gadw y defnyddiau oedd yn ei enaid llygredig i gyneu; sef, gyru gwartheg a moch. Bu mewn cyfyngderau mawrion lawer gwaith, ac nid oedd dim ond ei feddwdod a'i ddigywilydd-dra a allasai ei wared o honynt. Yr oedd efe, yn ddiameu, yn un gwir ddrygionus cyn ei ddychwelyd at grefydd; ac un o'r pethau rhyfeddaf yn yr oes hon yw ei fod ef yn fyw ar ol goddef cynifer o driniaethau celyd y buasai yn gofyn nerth behemwth i fyned drwyddynt? ond y peth rhyfeddaf ol1 y w ei fod yn proffesu crefydd. Nid oes gan neb ddim amgenach na da i'w ddyweud am dano, er pan y mae wedi ymuno â chrefydd. Y mae efe yn ffyddlawn hyd at ddiareb gyda phob moddion crefyddol; ac y mae yn ymddangos fel dyn yn cael hyfrydwch yn ffyrdd crefydd. Nid oes dim wedi cymeryd lle hyd yma i beri i neb ametl nad ydyw Tolnos Williams. yn bentewyn wedi ei achub. Gyda golwg ar ei ardystiad y mae wedi cadw ato yn hollol, er y dydd y dodes ei enw ar y llyfr. Yr ydym yn cwbl gredu fod cymaint o awydd ynddo am sefyll at ei air, yn hyn, ag oedd ynddo o'r blaen at feddwdod a phechodau gwarthus ereill.

 

 

 (delwedd C4772) (tudalen 008)

8

 

Yr ydym ni wedi cael cyfleusdra lawer o weithiau i'w glywed yn dyweud ei hanes yn ei gyflwr pechadurus; ac ymddangosai fel dyn yn teimlo o herwydd ei ddrygioni. Un o'i wendidau penaf yw bod yn o lawdrwm ar ddynion sydd wedi byw yn well nag ef ar hyd eu hoes; os na fyddant yn cyd-weled ag ef mwen (sic; = mewn) pethau y mae dadl yn eu cylch. Y mae yn debyg el fod ef yn rhy hen i ddiwygio llawer yn hyn; ond os ceir yr hyfrydwch o'i weled yn dal yn sobr ac yn grefyddol hyd ei fedd, maddeuir hyn iddo yn gystal a'i wendidau ereill.

 

Derbyniodd anogaethau taerion lawer gwaith i ysgrifenu hanes ei fuchedd o'i febyd, a chydsyniodd yn ddiweddar. Bu ganddo wrthwynebiad yn hir i'r hen deitl ei ganlyn; ond gan mai enw ty ei dad, ac nid ei feddwdod a'i ddrygioni a barodd iddo gael ei alw yn Twm Capelulo, barnwyd mai gwell oedd iddo beidio diosg yr hen enw; oblegid hebddo byddai yn rhy anhawdd i ddyeithriaid wneud allan hanes pwy yw y llyfr.

 

Y mae yr hanes canlynol wedi ei ysgrifenu o'i enau ef ei hun: a chan mai gwell fydd gan y darllenydd ei glywed ef na neb arall yn dyweud ei hanes, ymwrandawn arno ef.

 

CEFAIS fy ngeni a'm magu yn Llanrwst, Swydd Dinbych, lle trigai fy rhieni a'u perthynasau. Yr oedd fy nhad yn Ffeltiwr, ac yn un o brif gantorion y Llan, a fy mam yn bobwraig. Nid oeddynt hwy na'r gweddill o'm teulu yn hynod mewn cywreinrwydd celfyddydol, na daioni, na drygioni;- yr oedd atal dywedyd ar bob un o honom. Arferwn fyned i wrando i'r Llan, oherwydd nid oedd gan yr Ymneillduwyr un Capel yn y dref oddigerth rhyw dŷ fyddai gan y Methodistiaid

 

 

 (delwedd C4773) (tudalen 009)

9

 

Calfinaidd, ac nid oedd ysgol Sul wedi dechreu; ond yr oedd ysgol ddyddiol ddigon rhad i'w chael i'r tylotaf o honom. Rhoddwyd finau ynddi am ychydig; ond deuais oddiyno cyn dysgu darllen na dim arall o les; a thrwy fy mod yn un o unarddeg o blant, a fy rhieni yn dylodion, yr oedd yn rhaid i mi fel hwythau ymdrechu enill rhywfaint can gynted ag y gallwn. Arferwn ddal penau ceffylau boneddigion, a gwneud negesau a mân orchwylion hyd y dref. Byddai hen foneddigesau Maenan yn fy ngalw yn Tom Ddrwg. Pan oeddwn oddeutu deg oed, aethum at benau ceffylau rhyw gariwr oedd yn sefyll ar yr heol, a gofynodd y dyn i mi fyned gyda'r drol a'r ddau geffyl ychydig yn mlaen i'r naill du i'r dref, tra byddai yn myned i ryw dŷ; dywedais inau yr awn. Nid oeddwn yn gwybod fod gwahaniaeth rhwng gwaeddi ho, neu height, wrth y ceffylau, mwy na rhywbeth arall; a phan oeddwn yn myned dros bont lled gul, gwaeddais ho yn lle height, a nesodd y ceffylau ataf, nes y gwasgwyd fi rhwng yr olwyn ar wal, ac aeth fy ysgwydd o'i lle: a bu chwarter blwyddyn cyn llwyr wellâu. Byddai plant y dref yn arfer myned i chwareu hyd ffordd o'r bont fawr at Wydyr; ac un tro dygwyddodd fod yno luaws o fulod, a pherswadiodd y plant ereill fi i fyned ar gefn un o honynt, rhoisant ddrain a dail poethion dan ei gynffon yn ddiarwybod i mi; a chyn gynted ag y gollyngwyd ef, rhedodd yn mlaen nes y syrthiais a thori fy mraich. Cariwyd fi i'r dref, a bum yn sâl am dri mis.

 

Pan oeddwn oddeutu deuddeg oed, cefais fyned i'r Eagles Inn i lanhau esgidiau, lle yr ydoedd telynor o'r enw William Ellis yn cael ei gadw at wasanaeth y tŷ; a byddwn inau yn ei brovocio trwy ei ddyn-

 

 

 (delwedd C4774) (tudalen 010)

10

 

wared yn chwareu y delyn. Yr oedd yno foneddwr a boneddiges o'r Iwerddon yn aros i fwrw yr haf, y rhai a alwent am danaf yn aml i'w hystafell i ddynwared y telynwr, gyda choes ysgub neu rywbeth cyffelyb; ac yr oeddwn yn gwneyd mor debyg iddo ac yn eu difyru mor fawr, fel y gorchymynent roddi ciniaw i mi bob dydd braidd o'u bwyd eu hunain. Yr wyf yn cofio i mi ddyfod o hyd i boteli gwin gweigion yno, a fy mod wedi dyferu yr ychydig ddafnau ddygwyddodd fod yn eu gwaelod; a thrwy rhyw fân lymeidiau felly, yn nghyd ag ambell i lwnc gan y morwynion, am wneud negesau iddynt, dechreuais hoffi gwiriodydd nes arfer eu hyfed yn fynych. Yr amser hwnw yr oedd Coach fawr yn rhedeg o'r Amwythig i Gaergybi; a thra safai wrth bont Llanrwst i newid ceffylau, byddai rhai boneddigion yn taflu arian oddiarni i'r afon, a neidiwn inau i'r gwaelod i'w codi, er mwyn eu cael, yn benaf, i'w rhoddi am ddiodydd meddwol.

 

Pan wnelwn ryw ddrwg yn yr Eagles, rhedwn adref i Capelilo. (Capelilo y gelwid tŷ fy nhad am ei fod yn debyg i dŷ o’r enw yn Nwgyfylchi; ac oddiwrth hyny y gelwir finau hyd heddyw yn "Twm Capelilo.") Bum yno am ddwy flynedd yn farchwas, (Ostler,) a mod yn fachgen bywiog, mentrus, a direidus, rhoddwyd fi i yru yr Express oddiyno i'r Cernioge, gyda merlyn gwyllt a chastiog o'r enw “Paul Jones". Un noswaith cyn i mi fyned yn mhell oddiwrth y dref, dychrynodd a neidiodd yn ol yn sydyn nes y syrthiais i lawr, a bum yn hir hyd y ffordd yn methu ei ddal, a thrwy hyny gorfu imi golli llawer o amser. Pan ddaethum yn ol, gorchymynodd Mr. Mouldsdale i ddau o’i weision fy nghuro yn yr ystabl. Ymadawais oddiyno ac

 

 

 (delwedd C4775) (tudalen 011)

11

 

 

aethum i'r Bull Conwy, i yru yr Express; ond cyn hir daethum yn ol i Lanrwst i yru coaches drachefn.

 

Ar ol bod am beth amser yn ngwasanaeth Mr. Titley, Penloyn, ymunais â Militia Sir Gaerynarfon, yn amser yr “Heddwch bach;" ac yr oedd guinea y Sir yn dyfod i bob un o honom, yr hwn a wastreffais am oferedd tra yn exercisio yn Nghaerynarfon. Yn mhen tri mis daeth galwad (route) am y Militia i fyned i Loegr, a gosodwyd ni yn Canterbury, tu draw i Lundain. Aethom oddiyno i Bens. Barracks, yn Sussex, lle yr ymunais a'r fyddin yn filwr rheolaidd, gan dderbyn £10 0 bounty, y rhai a weriais i gyd mewn tri neu bedwar diwrnod am ddiodydd i'w rhanu rhwng Militia Arfon, yn lle prynu crysau a phethau angenrheidiol ereill i fyned gyda'r fyddin. Aethum o Sussex i Chelsea; a chawsom orchymyn oddiwrth y llywodraeth, gan Syr Arthur Wellesley, (Duke of Wellington,) i fyned oddiyno i Portsmouth; ac o Portsmouth hyd y mor i St. Iago, (un o ynysoedd Cape Verd,) lle dywedid fod Buonaparte wedi anfön llu o Ffrancod i'w chymeryd. Ar ol aros yno am fis, hwyliasom yn mlaen i Cape of Good Hope; ac oddiyno, yn mhen pythefnos, i St. Helena; o St. Helena i Monte Vides [sic; = Video) , yn Nebeudir America; ac o Monte Vides, hyd yr afon Plata i Buenos Ayres, lle yr oedd rhyfel yn myned yn mlaen rhwng y Spaniards a'r Prydeiniaid. Rhoddwyd fi a 300 eraill i wylio Yspytty (Hospital) y Prydeiniaid.

 

Yn mhen ychydig ddyddiau gorchymynwyd i mi a 15 ereill yn nghyd a swyddog, i fyned trwy y wlad yn genadon heddwch at ran o'r fyddin oedd mewn lle arall; a chaniateid i ni yspeilio tai y brodorion at ein cynaliaeth. Pan oeddym yn tori un tŷ

 

 

 (delwedd C4776) (tudalen 012)

12

 

 

gwelem hen wr yn llechu yn un o’r ystafelloedd, a mynai Gwyddel oedd yn fy ymyl ei drywanu â'i bicell. "Ymatal ddyn,” meddwn inau wrtho, “a wyt ti am ladd hen greadur diniwaid fel hyn — nid oes genym ni hawl i ladd neb ond wrth amddiffyn ein hunain." “Taw yr hen Gymro hyll, onide rhoddaf hi trwot ti,” meddai yntau. "Na wnei di mo hyny, chwaith," ebe finau. A phan welodd yr hen Spaniard fy mod yn ei achub, aeth o dan ei wely ac estynodd allan gostrelaid o win,—gwnaeth arwydd i erfyn arnaf ei yfed; dangosais inau fod arnaf ofn fod gwenwyn ynddo; — yntau a yfodd o hono ei hun, i ddangos nad oedd dim niwaid ynddo: yna cymerais ef o'i law. Wrth weled hyn, deisyfodd y Gwyddel gael llymaid hefyd, pryd y nacaodd yr hen wr, gan ysgwyd ei ben yn ffyrnig. Aethom yn mlaen nes cyrhaedd pen ein taith. A phan oeddym yn dyweyd ein neges wrth y prif swyddogion, a phawb o honom yn cydsefyll (stand at ease,) a gwn pob un rhwng ei fraich a'i ystlys ffroen i fynu, aeth yr ergyd allan o'm gwn i, yn ddirybudd, nes oedd gwres y powdr yn poethi fy nghlust ac yn deifio fy ngwallt. Dychrynodd pawb, a chwiliwyd allan pwy a ollyngodd yr ergyd. Cafwyd fy ngwn i yn wag, a dygwyd fi ger bron penaeth y gâd, yr hwn a ofynodd i mi, "Beth oedd eich dyben yn gollwng yr ergyd yna?” "Yr wyf yn begio eich pardwn, Syr," meddwn inau, "nid oes genyf fi ddim help, — y mae rhyw ddyryswch ar glo fy ngwn er's misoedd." Edrychodd ef, a gwelodd ei fod felly. "Mae yn dda i chwi ei fod fel yna," meddai wrthyf, “onide cawsech eich fflangellu yn llymdost y funud hon yn ngwydd pawb."

 

Daethom yn ol hyd yr un ffordd i Buenos Ayres,

 

 

 (delwedd C4777) (tudalen 013)

13

 

a rhoddwyd fi drachefn i wylio Meddygdy (Hospital) bob yn ail a fy nghymdeithion. Un noswaith neillduol, cauwyd fi tu allan i ddorau y pyrth, a'r gelynion oddiamgylch hyd y maesydd yn saethu eu bwledau nes oeddynt i'w clywed yn gwibio oddeutu fy mhen. Pa fodd bynag, cefais fyned i mewn cyn cael unrhyw niwaid. Rhoddwyd fi ddiwrnod arall yn wyliedydd ar balas mawr oedd yn sefyll ar le peryglus. Pe daethai dau o'r gelynion at y lle, buasai yn rhaid i mi ymladd â'r ddau; ond pe daethai tri, caniateid i mi ddianc am fy mywyd. Dychrynais yn fawr unwaith, trwy i mi glywed trwst a saethu mewn coedwig oedd gerllaw, gan dybied mai y gelynion oedd yno; ond wrth iddynt ddynesu tuag ataf, gwelais mai Saison oeddynt, a bod un o honynt yn Gymro ac yn hen gyfaill i mi. Yn mhen ychydig funudau ar ol iddynt fy nghyraedd, daeth tri o'r gelynion tuag atom; saethodd tri neu bedwar o honom atynt, a charlamasant ymaith yn eu holau. Oni buasai i'r rhai hyn ddygwydd fod gyda mi, buasent yn sicr o fy lladd.

 

Yn fuan wedi hyn gorchfygwyd y Spaniards, a bu heddwch, ac ymadawodd y rhan fwyaf o'r fyddin, gan gyfeirio tuag adref i Loegr. Pan oeddwn i yn myned i'r llong oedd yn dyfod i Cape of Good Hope, syrthiodd fy ngwn i'r mor, trwy i mi ei ollwng rhwng fy mysedd wrth geisio gafael mewn rhaff. Dedfrydwyd fi i ddyoddef 300 o ffangellau, a thalu am dano; ond ni weinyddwyd dim ond 50, - maddeuwyd y gweddlll. Y mae fflangellu yn ddiachos fel hyn wedi darfod ymhlith y filwriaeth yn bresenol. Ar ol aros yn y Cape dros amryw fisoedd, aethom i Alikan Bay i wylio rhag i'r Ffrancod lanio yno. Yr oedd yno dŷ yn cael gwerthu diodydd meddwol

 

 

 (delwedd C4778) (tudalen 014)

14

 

am dair awr bob dydd; meddwais inau yno, ac aethum gyda dynes ddu o Hottentot, ond nid ar feddwl da, fel y gellid tybio. Gwelodd un o'r swyddogion fi; a daeth ataf i fy anmharchu a fy nghuro, tarewais inau ef lawer gwaith; ac ar ol hir ac ymladd mi a sobrais. Achwynodd arnaf, a rhoddodd fi yn ngharchar i gael fy mhrofi am ei darawo. Dedfrydodd y Court Martial fi i gael fy flangellu gyda'r gath naw cynffon fil ond un (999) o weithiau. Pan ddaeth yr amser dywedodd un o'm cyfeiilion wrthyf yn ddystaw ei fod wedi rhoddi haner potelaid o frandi yn y geudy (ty` bach,) os medrwn gael myned yno. Gofynais i'r swyddogion am gael myned i'r geUdy, a gadawsant i mi fyned, gan fy nilyn gyda'u cleddyfau yn noethion at y drws; (ond ni chawswn fyned pe gwybuasent pa beth oeddwn yn ei wneud yno.) Llyncais y brandy a daethum allan. Yna arweiniwyd fi at yr y stanc trithroed, a thyrfa fawr o filwyr arfog yn fy amgylchynu. Wedi i mi ddyoddef 800 O ffrewylliadau, dywedodd y meddyg nas gallwn ddal ychWaneg; "Na gorphenwch y cwbl," ebe finau, yn fy ffyrnigrwydd. “Williams," meddai yntau, "gwell i chwi atal eich tafod, onide rhaid i chwi gymeryd y cwbl." "O'r goreu, Syr, gwnewch felly," ebe finau. "Na cymerwch ef ymaith i'r clafdy," meddai yntau: ac felly y bu: - ni soniwyd byth am y gweddill. Cefais amgeledd dda yn y. clafdy; oblegid yr oedd pawb yn hoff iawn o honwyf, ac yn casâu fy erlynydd, sef y swyddog a'm carcharodd. Ar ol gwellâu ychydig, anfonwyd fi ac ereill o'r milwyr i le bychan, ugain milldir yn y wlad, i lafürio ar dyddyn y Major; ac un diwrnod daethom o hyd i win yn y palas, ac yfasom o hono; ond ni feddwodd neb ond

 

 

 (delwedd C4779) (tudalen 015)

15

 

myfi yn unig. Dedfrydodd y Major fi i gael fy flangellu; ond cefais fy arbed trwy i'w wraig eiriol troswyf, am fy mod wedi bod yn adrodd hanesion am y Cymry wrthi ryw dro cyn hyn. Dychwelsom o'r lle hwn i Alikan bay; ac oddiyno hyd y mor i Cape of Good Hope. Pan oeddym oddeutu saith milldir oddiwrth y tir, meddwais yn drwm, ac yn fy meddwdod ymdrechais gael lle i neidio i'r môr, gan feddwl am nofio at y làn, a dianc oddiwrth y fyddin; ond pan oeddwn ar neidio dros ymyl y llong i'r mör, gafaelodd un o'r milwyr yn fy hugan, ac wedi perswadio arnaf aeth a fi i le diogel nes sobri. Wedi cyrhaedd Cape Town rhoddwyd ni yn y Barracks oedd yno. Ar ol paradio yn y prydnawn byddem yn cael myned allan hyd y dref: ac er mwyn cael pres i gael diodydd, byddwn i yn myned i balasau ac at foneddigion i ganu hen donau ac i chwareu y "delyn bren" a dynwared y bands; a byddwn yn cael llawer o fwyd ac arian lle byddai fy nghydfilwyr yn methu cael dim heb ladrata: yr oeddwn yn rhagori ar bawb o'r fyddin yn hyny o beth. Meddwais yno, ac arosais yn y tafarndai am ddau ddiwrnod yn lle myned i'r Barracks bob dydd yn rheolaidd; a phan ddeuais yn ol i'r Barracks, rhoddwyd fi mewn cyffion yn y garchargell. Dygwyd fi ger bron y Court gosb a gefais oedd dyoddef 500 o fflangellau. Pan oeddid yn fy fflangellu, gwaeddais ar y Major am iddo drugarhau wrth Gymro tlawd a diniwaid; a gwrandawodd ar fy llef, a maddeuodd 300 i mi. Cymerwyd fi i'r Meddygdy (Hospital) at ugain ereill oedd yn yr un cyflwr; a gyrid ni fel gyru anifeiliaid bob bore i'r môr; ac yr oedd y dwfr hallt yn llosgi yn dost yn y briwiau ar ol y gath naw cynffon.

 

 

 (delwedd C4780) (tudalen 016)

16

 

Wedi i ni wellâu ychydig cychwynasom i Bombay, yn yr India. Ac ar y fordaith hono dechreuodd y llong ollwng dwr i mewn; a byddem yn ei bympio allan ddydd a nos yn ddigyswllt. Yr oedd y Captain yn methu gwybod beth i'w wneud, a oedd yn werth ei throi i ryw borthladd ai peidio, i edrych beth oedd arni. Un diwrnod galwodd at bawb i fynu ar ei bwrdd, yn cynwys Gwyddelod, Scots, Saeson, Danes, Swedes, Portuguse, a minau yn unig Gymro. Gofynodd i bob un o honom a fedrem ni nofio, gael iddo wybod pa ffordd yr oedd y dwfr yn dyfod i'r llong, a nacaodd pawb addef y medrent. Pan ydoedd yn gofyn fel hyn i mi, a minau yn gwadu y medrwn, daeth rhyw lieutenant oedd yn fy adnabod yn mlaen, a dywedodd wrthyf, "Peidiwch a dweyd celwydd wrth eich Captain, Williams, —chwi yw y nofiwr goreu a welais i erioed." "Wel, yn wir, Syr, y mae arnaf fi ofn i'r Sharks fy llyncu," ebe finau: ac felly naceais wneuthur eu cais. Ond yn mhen oddeutu haner awr daeth Steward y Captain heibio wrth ranu bwyd, a dywedodd wrthyf fy mod yn un gwael iawn yn nacâu gwneud cais y Captain: “Dowch mentrwch," meddai, gan roddi liquors i mi i'w yfed. Dywedais inau yn mhen ychydig funudau fy mod am fentro, a thynais fy nghrys a neidiais dros ymyl y llong i'r môr. Suddais o dani, a gwelais fod un o'r estyll yn dechreu hollti, a bod y lleni copr (copper-sheets) yn codi oddiar yr agen. Pan ddeuais i fynu o'r dwfr, gwnaeth y Captain i mi fyned ar fy llw fy mod yn dweud y gwir: a dywedais wrtho bob peth a welais, a fy mod yn meddwl yn sicr mai trwy yr agen hono yr oedd y dwfr yn cael ei sugno i fewn. Pan glywodd y Captain hyny gorchym-

 

 

 (delwedd C4781) (tudalen 017)

17

 

ynodd el throi i mewn i Bombay can gynted ag y gallesid; ac wrth ei hadgyweiro gwelsant ei bod fel y dywedais: a rhoddodd y Captain £1 i mi am fy anturiaeth.

 

Y mae yn hawdd iawn gan gabdeiniaid roddi cant ac ychwaneg o'r gath naw gyffonog ar gefn troseddwyr, ond pan yr anturiai un ei fywyd yn nghanol y lle mwyaf arswydus am sharks yn y byd, ie, ac i achub y llong a'r dwylaw, ni chaiff ond un £1. Pan y mae cyfraniadau o greulonder, ac haelfrydedd mòr anghyfartal nid rhyfedd i rinwedd fyned yn isel.

 

Pan oeddym yn aros fel hyn yn Bombay, cafodd pob un o honom o'n cyflog i brynu dillad, ond yn lle gwneud hyny â hwy, aethum i bentref bach, ychydig o’r dref, i'w gwario am ddiodydd, ac am gael myned gyda merched duon; a lladratawyd rhan o honynt oddiarnaf. Cysgais allan un noswaith yn feddw ar y tywod, a phe buaswn yn aros ychydig funudau yn hwy heb ddeffro, buasai y llanw yn fy ngolchi ymaith i'r môr. Ac fel hyn, yn fy meddwdod, ymdroais hyd y dref yn hirach na'r amser goddefedig, sef, tri diwrnod: oblegid nid oedd rhyddid i ddyeithriaid i aros ar y tir ddim mwy na thri diwrnod. Daeth Sergeant du oddiamgylch y pedwerydd dydd i edrych a oedd rhywun wedi aros ar ol heb fyned i'w llongau, a chafodd fi mewn ty tafarn, yn bur sal ac wedi gwario fy holl arian er y diwrnod cynt. Gofynodd beth oedd fy enw mewn Saesoneg pur ddrwg, dywedais inau mai Williams, yn nghyd ag enw y llong y perthynwn iddi. Rhoddodd wydraid o wirod i mi, gan ddymuno arnaf aros yno am ychydig o oriau, ac aeth ymaith. Daeth ataf yn ol cyn y nos a dau o filwyr

 

 

 (delwedd C4782) (tudalen 018)

18

 

arfog gydag ef, a hwy a'm cymerasant i garchardy, neu adeilad mawr lle'r oedd Blacks yn gwylio. Arweiniasant fi yn mlaen i ddaeargell ëang, a rhoisant fi mewn cyffion ar wastad fy nghefn ar lawr cerig, a fy nhraed i fynu, - bum yn y cyflwr hwn drwy y nos heb ddim bwyd. A thranoeth dygwyd fi o flaen yr ynadon, a daeth cadben y llong y perthynwn iddi yno i’m rhyddâu trwy dalu £2 o ddirwy troswyf; yna aethum gydag ef yn ol i'r llong.

 

Pan oeddwn ar ymadael o Bombay daeth rhai o foneddigion y wlad hono gyda ni, ac yn eu plith foneddiges weddw o Loegr, yn nghyd a'i thri phlentyn a'i morwyn. Yr oedd ar hon eisiau un o ddwylo y llong i'w gwasanaethu ar hyd y fordaith, a dywedodd y Captain y cai hi fi. A gweini iddi hi oedd fy ngwaith o Bombay i Cape of good Hope. Yr oedd hi yn hoff iawn o honwyf, - byddai yn rhoddi llawer o ddiodydd i mi, a meddwodd fi un noswaith: a phan oeddwn yn myned allan trwy gaban y Captain i wneud neges iddi, gofynodd y Captain. “Pwy sydd yna?” "Gofynwch i fy ***” ebe finau, a rhedais yn mlaen cyn iddo ddweud dim arall. Aethum ato yn fore dranoeth i ofyn ei bardwn am fy ymddygiad cywilyddus y noswaith o'r blaen, a maddeuodd i mi: gan feio fy meistres am roddi cymaint o wirod i mi. Ar ol cyraedd y Cape, aeth y boneddigion i'r làn, a lletyasant i gyd yn yr un tŷ, a chymerodd y foneddiges fi gyda hi. Yr oedd hi yn fy hoffi mor fawr fel y byddwn yn cael ei dilyn i blith y boneddigion mwyaf. Wrth weled fy ngwisg braidd yn wael, rhoddodd £3 i mi i brynu dillad newydd; ond yn lle gwneud yn ol gorchymyn y foneddiges rhoddais hwy am ddiodydd, a tharewais ar hen filwr adnabyddus i mi, a gweriais

 

 

 (delwedd C4783) (tudalen 019)

19

 

y cwbl cyn ymadaw â hwnw. Yn mhen diwrnod neu ddau aethum yn ol at fy meistres mor llwm ag oeddwn yn cychwyn. Ac wedi i mi ddywedyd wrthi fel y bu, dymunodd arnaf beidio gwneud felly byth mwy; a rhoddodd ychydig arian i mi drachefn i geisio dillad: ond gwastreffais y rhai hyny yr un modd. Arosais allan yn feddw ar gam amser ar y nos; cymerodd y cwnstabliaid fi yn garcharor i gastell mawr. Yn mhen rhai wythnosau dygasant saer yn perthyn i'r un llong a mi yno am yr un trosedd; a daeth y Captain yno i'w ymofyn ac i'w ryddâu, a gwelodd finau yno, ac a'm rhyddaodd. Oni buasai i'r saer hwnw ddygwydd cael ei garcharu, ni buaswn i byth yn medru dyfod oddiyno: oblegid nid oeddwn yn ngolwg y Captain yn werth chwilio am danaf. Ymgasglodd y milwyr a phawb o'r mordeithwyr i'r llong, ac aethom heibio St. Helena i geisio dwfr croyw. Ni chefais i fyned yn was i'r foneddiges mwyach: rhoddwyd fi i wneud gwaith caled perthynol i'r llong. Yn mhen yr wythnos hwyliasom o St. Helena tua Lloegr, a glaniasom yn Plymouth, lle yr ydoedd Buonaparte mewn dalfa mewn llong, wedi ei gymeryd ar ol rhyfel Waterloo, yr hon oedd wedi terfynu ddiwrnod neu ddau cyn i mi gyraedd Plymouth.

 

Daeth heddwch cyffredinol drwy holl Ewrop, a chefais inau ryddâd oddiwrth y fyddin; ond nid oedd pension i neb a ryddheid y pryd hwnw. Yr oedd genyf bedair punt a phedwar swllt yn fy mhoced pan laniais yn Plymouth. Troais i mewn i un o’r tafarndai yno a gwerias oddeutu pedwar swllt a meddwais, ac aethum i gysgu y noswaith hono i dy drwg. Erbyn i mi sobri a deffro yn y bore, yr oedd rhywun wedi fy yspeilio o fy arian a

 

 

 (delwedd C4784) (tudalen 020)

20

 

fy holl ddillad. Pan welais hyn tarewais y ddynes ddrwg yn fy ngwylltineb nes oedd ei gwaed yn pistyllio hyd y lloft, gan feddwl mai hi oedd wedi gwneud. Aethum allan hyd y dref y dydd canlynol yn ddigalon iawn; a daethum yn ol i'r un ty ag y collais fy arian, a gofynais i ŵr y tŷ am lety y noswaith hono, a chefais le ganddo. A rhywbryd yn y nos daeth a dyn du mawr (Black) o longwr i gysgu i'r un ystafell a mi, a chlöodd y drws arnom ein dau.

 

Aethum o Plymouth i Bridgewater. Yr oedd yn y lle hwn long o Casnewydd wedi dyfod a glo yno hyd y gamlas (canal;) a chefais ddyfod gyda hono i Casnewydd, trwy weithio arni i dalu am fy nghludiad. Daethum oddiyno yn mlaen i Merthyr Tydfil, gan fegio hyd y wlad at fy nghynaliaeth, Cefais wyth swllt a llawer o fwydydd mewn un palas oedd ar fin fy ffordd, gan foneddigion oedd wedi dyfod yno, trwy gwyno wrthynt, a dywedyd fy mod yn filwr, wedi bod yn Affrica ac America, a bod rhywun wedi fy yspeilio yn Plymouth o’r hyn ol1 a feddwn.

 

Cerddais o'r Merthyr dros fynyddau mawrion a thrwy lawer o drefi y Deheudir hyd at Gorwen, ac i Gapel Curig, lle y cefais groesaw mawr gan Mr. Hughes, un anrhydeddus am ei groesaw i'r tylawd„ a chan ereill oedd yn fy adnabod i yno. Daethum adref dranoeth o Gapel Curig i Lanrwst; ac ar y ffordd troais i fegio i'r Glynllugwy, a dywedodd gwraig y tŷ fod fy nhad yn glaf iawn —— fod gweddi gydag ef yn Eglwys y plwyf y Sul o'r blaen. Daethum yn mlaen dros Nant Bwlch yr heiyrn, a throais i dŷ James Harker, i aros nes deuai yn nos, oblegid yr oedd arnaf gywilydd dyfod i'r dref yn y

 

 

 (delwedd C4785) (tudalen 021)

21

 

dydd, am fod golwg lled lwm a thruenus arnaf. Pan gyraeddais y dref, aethum i dŷ cefnder i mi, ac aeth y wraig i dŷ fy nhad mewn munud i ddweud fy mod yno; daeth fy chwaer gyda hi yn ol, a phan welodd hi fi, dywedodd, 'Nid Twm fy mrawd ydyw hwn! “Ie, chwaer bach, dy frawd ydwyf," ebe finau, gan wylo. Yna aethum gyda hi adref i'r tŷ , lle yr ydoedd fy nhad yn ei wely yn bur sal, a gofynais iddo, "Nhad bach, ai sal iawn ydych chwi, - Twm ydwyf fi.” "Ai Twm wyt ti, machgen bach i!" ebe yntau. "Ie, nhad bach," ebe finau, dan wylo. “O b'le doist ti?" meddaij "O Plymouth, drwy y Deheudir," ebe finau. “Yr wyt ti yn edrych yn llwm iawn," meddai drachefn. “Ydwyf, yr wyf fi felly, - cefais fy yspeilio o fy holl ddillad, a llawer o arian; ond y mae genyf ychydig eto wedi eu casglu trwy fegio hyd y ffordd adref." Wel, Beti bach," meddai wrth fy chwaer, "yr wyf yn ewyllysio i Twm gael yr holl ddillad a roddais i Jack ei frawd. Daeth Owen fy mrawd o Gaergybi i edrych am dano yn mhen y ddeuddydd wedi i mi ddyfod adref, ac aeth yn ei ol dranoeth; a bu fy nhad farw y dydd canlynol. Yr oedd fy mam wedi marw er’s blynyddau cyn hyny.

 

Ar ol claddu fy nhad aethum i weithio ar y ffordd newydd oedd yn cael ei gwneud o'r Amwythig i Gapel Curig a Chaergybi; a byddwn yn byw gyda fy chwaer yn Llanrwst. Wedi gorphen y ffordd uchod arferwn wneud negesau i foneddigion o gylch y dref, a gyru gwartheg i Loegr. Pan oeddwn gartref cyn myned at y fyddin, yr oeddwn yn caru merch ieuanc o Eglwysfach: ond erbyn i mi ddyfod ol yr oedd hi yn wraig weddw a chwech o blant ganddi. A phan oeddwn yn gweithio yn Ngwydyr

 

 

 (delwedd C4786) (tudalen 022)

22

 

priodais hi, a bu farw yn mhen chwe’ blynedd, Rhoddais y plentyn a gawsom i Beti fy chwaer i orphen ei fagu, a gwasgarwyd y plant oedd ganddi o'i gwr cyntaf i leoedd i wasanaethu.

 

 

Ar ol claddu fy ngwraig, troais yn grwydryn ac yn feddwyn gwaeth nag erioed. Aethum gyda gyr o wartheg i Brentwood, tu draw i Lundain. Can gynted ag y derbyniais fy nghyflog, dechreuais yfed yn y tafarndai,a meddwais yn drwm: ac yspeiliwyd hyny o arian oedd yn fy mhocedau. Gwynebais tua Chymru, gan fegio yn mhob man y meddyliwn y byddai rhywbeth i'w gael. Wedi cyraedd Llundain, a lletya noswaith yn Whitechapel Street, deuais yn mlaen hyd Barnet Road, gau gyfeirio tua Barnet. Ac ar y ffordd hon troais i dŷ tafarn mawr„ a dywedais fy hanes wrth ŵr y tŷ, gan gwyno nan oedd genyf ddim arian — fy mod yn hen yriedydd (driver) o Gymru; a gofynais iddo am gael lle i gysgu yn yr ystabl. “Beth, a ydych yn meddwl y gadawaf fi i ddyn dyeithr fel chwi fyned i'r ystabl lle mae cymaint o ffrwyni a chyfrwyau, a phethau gwerthfawr ereill?" meddai wrthyf yn ddifrifol. “Wel, yn wir, pe bai yno fwy ganwaith o bethau gwerthfawr, ni chymeraf fi ddim oddiyno,” ebe finau yn gwynfanus. Yna gofynodd i'r ffarmwyr oedd yn dygwydd bod yno yn yfed, "Beth ydych chwi yn ei feddwl o'r hen Gymro hwn?" Wel, fe allai ei fod yn dweud y gwir, a'i fod yn onest — gwell genyf fi Gymro na Gwyddel." Yna gorchymynodd gwr y tŷ i'r Ostler wneud lle i mi yn yr ystabl. Rhoddodd fwyd i mi hefyd, a chefais lawer o ddiod a phres gan y ffarmwyr oedd yno yn eistedd. Cefais wydraid o gin ganddo wrth gychwyn oddiyno bore dranoeth. Wedi dyfod dref Barnet, ar

 

 

 (delwedd C4787) (tudalen 023)

23

 

 

y ffordd i Northampton, troais at Balas mawr, a daeth y gwr boneddig i'm cyfarfod yn ymyl y Palas. Dywedais fy nghwyn wrtho, gofynodd yntau o ba le yr oeddwn yn dyfod, dywedais inau mai Cymro o Lanrwst, Sir Ddinbych, oeddwn. Yna gofynodd a adwaenwn i rai o foneddwyr Sir Ddinbych. "Adwaen Syr, yr ydwyf vn adnabod Syr Watkin Williams Wynn," ebe finau. Yn mha le y mae efe yn byw?" "Yn Wynnstay, wrth Rhuabon," ebe finau. "Ie, yr ydych yn y gwir," ebe yntau. Aeth i'w bwrs ac estynodd haner coron i mi. Yr oeddwn wedi clywed fod cefnder i mi yn byw yn Northampton, a phan gyraeddais yno, holais am dano gyda gwas gwr boneddig oedd yn fy adnabod yno. Deuais o hyd i'r shop lle yr ydoedd yn aros, gofynais a oedd yno un Mr Williams? A daeth dyn pur debyg i mi yn ei wynebpryd i'r drws, a dywedodd fod yno un o'r enw hwnw - mai Williams oedd ei enw ef ei hun. "Wel, Syr, cefnder i chwi ydwyf fi," ebe finau – yr oedd fy nhad i a'ch tad chwi yn ddau frawd; a throais heibio i chwi i edrych am danoch wrth fyned adref i Gymru." "O, ai ê; -A ydych chwi yn fab i f'ewyrthr Thomas, Llanrwst? meddai wrthyf. “Ydwyf, Syr," ebe finau. Derbyniodd fi yn groesawus iawn, chwiliodd am lety cysurus i mi i fwrw y Sabbath. Er ei fod mewn sefyllfa uchel, daeth gyda mi i brif dafarndai y dref, ac arddelai fi yn gefnder iddo yn ngwydd pawb o'i gydnabod. Ac wrth ymadael rhoddodd i mi bâr o hosanau a het, ac un swllt ar ddeg o arian. Daethum i Coventry, a thrwy Sir Amwythig adref i Lanrwst.

 

Ar ol dyfod adref aethum i aros i Plasmadog, a byddwn yn myned i'r dref i negeseua dros fy meistr,

 

 

 (delwedd C4788) (tudalen 024)

24

 

 

Un diwrnod ymdroais yn y tafarndai i yfed. Ac fel yr oeddwn yn cyd yfed gydag ereill mewn un tŷ tafarn, cynygiodd un o'r cwmpeini sovereign i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnw fyned. A chynygiodd yr un gwr ddau swllt i minau os awn, dywedais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Fawr oddiamgylch yr Hall yn nghanol y dref yn noeth lymun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweled, nes yr aeth yn sal. Gyda'r nos yr un dydd, wedi myned yn ychydig meddwach, rhedais yr un modd o ben isaf y dref, at y Bont Fawr, am swllt; a rhedodd Mr. Lewis Thomas, Druggist, ar fy ol gyda chwip y tro hwn, gan feddwl fy nghuro, a fy nhroi i fewn rhywle, cyn dangos ychwaneg o'm digywilydd-dra; ond methodd a fy nghyraedd. Yr wythnos ganlynol aethum i ddanfon fy meistr i Gerig y Druidion; ac wrth ddyfod yn ol gyda'r ceffyl, troais i dafarndy oedd ar y ffordd, a meddwais yn drwm a syrthiais oddiar ei gefn lawer gwaith cyn cyraedd y dref: aeth rhywun arall a'r ceffyl adref o’r dref, oblegid yr oeddwn i yn rhy feddw i allu symud.

 

Ymadawais o’r Plasmadog, ac aethum gyda gyr o wartheg o Sir Fon i'r Eglwys wen, yn Sir Amwythig. Ac wrth ddyfod yn fy ol adref, dechreueus yfed a meddwi yn Nghaerlleon, a tharewais wrth ddynes ddrwg, a chysgais allan yn fy meddwdod. Pan sobrais yn y bore canlynol, cefais fy hun yn gorwedd yn mhlith pentwr o gerig yn nghwr Heol y Bont, wedi fy yspeilio o hyny o arian oedd genyf. Y noson ganlynol aethum i dafarndy bach afreolus, a meddwais yno, a darfu rhyw ddyhirod baentio fy ngwyneb a'm dillad â phaent coch a

 

 

 (delwedd C4789) (tudalen 025)

25

 

gwyn a du. Aethum allan i’r heolydd gan ganu a bloeddio, a thyrfa fawr o blant a llanciau o fy amgylch yn chwerthin ac yn fy maeddu. Daeth yr Hedd-geidwad ataf i fy nghymeryd i'r carchar am feddwi a pheri cynwrf ac aflonyddwch yn y dref: ac wrth i mi nacâu myned gydag ef yn rhwydd, a cheisio ei wrthwynebu, aeth fy mraich o'i lle. Bum yn y carchar mewn gofid mawr drwy y nos. Bore dranoeth dygwyd fi i'r llys o flaen Maer y dref, i fy mhrofi am fy nghamymddygiad y noswaith flaenorol. Gofynodd y Maer i mi. "O ba le y daethoch chwi i’r dref yma?” "O Lanrwst, fy arglwydd," meddwn inau. "I ba beth y daethoch i'r dref yma?” “Myned drosodd tuag adref yr ydwyf, wedl bod yn danfon gwartheg i Sir Amwythig," ebe finau. Gofynodd yntau, "Pa fodd y bu i chwi feddwi fel hyn?” "Wel, fy arglwydd, cymeryd llymaid go

 helaeth a wnaethum yn y Gwyliau (Nadolig) yma rywfodd," meddwn inau. O, ai ê," meddai yntau, - a ydyw Iesu Grist yn caniatau i chwi gymeryd mwy o ddiodydd meddwol yn y Gwyliau nag amser arall? — mi a'ch cosbaf chwi am hyn." “Nag ydyw, fy arglwydd," ebe finau — maddeuwch i mi, os gwel eich arglwyddiaeth yn dda — yr ydwyf yn un digon diniwaid a gonest." "A ewch chwi ymaith o’r dref os maddeuaf i chwi?” meddai yntau, “Af, my lord," meddwn inau, gan ddiolch iddo am ei diriondeb. Ar ol ystyried ychydig, a gweled fy mraich mewn cadach, ac wedi cael fy maeddu gymaint gyda'r paent oedd hyd fy ngwyneb, gorchymynodd ei arglwyddiaeth i'r Hedd-geidwad fy anfon allan o’r dref.

 

Daethum yn fy mlaen oddiwrth Gaer dan fegio i bentref bychan, ac aethum at dŷ Offeiriad o

 

 

 (delwedd C4790) (tudalen 026)

26

 

Gymru (y Parch E. Evans, neu Ieuan Glan Geirionydd,) i erfyn arno ar fy ngliniau am iddo roddi ychydig o bres neu ryw elusen arall i mi. Dywenodd yntau, a rhoddodd ychydig o fara i mi; (o herwydd ni chredai nad yn dweyd celwydd yr oeddwn yn nghylch fy mraich, er mwyn cael arian i'w rhoddi am ddiodydd. Daethum yn mlaen i Dreffynon, dan fegio yn mhob man, a byddwn yn cael llawer hefyd, trwy ddangos fod fy mraich o'i lle — nas gallwn weithio, &c. Pan oeddwn yn un o dafarndai Treffynon cynygiodd Dr. Bevan roddi fy mraich yn ei lle am ddeunaw ceiniog, ac yr oedd genyf finau gymaint a hyny o bres hefyd; ond gwrthodais ei gynygiad er mwyn cael chwaneg o ddiodydd. Daethum yn mlaen mewn gofid mawr drwy Lanelwy a Llanfair i Lanrwst. Can gynted ag y cyraeddais adref, aethum at yr Offeiriad, yr hwn oedd hefyd yn Ustus Heddwch, i ofyn am gymorth o’r Plwyf tuag at fyw, ac i roddi fy mraich yn ei lle. Gorchymynodd yntau i'r Plwyf wneud fy nghais, a rhoddodd chwe' cheiniog yn fy llaw: a gweriais inau ef am ddiodydd meddwol, a meddwais y diwrnöd hwnw hefyd. Rhoddodd meddygon y dref fy mraich yn ei lle dranoeth, heb unrhyw ystyriaeth arianol.

 

Wedi bod gartref am yspaid o amser yn gwneud mân swyddau hyd y dref, aethum gyda gyr o foch i'r Amwythig. Pan dderbyniais fy nghyflog, aethum i'r tafarndai gyda rhai o yriedyddion y dref ag oedd yn fy adnabod, a meddwais yno. Ac wrth y Welsh Bridge cyfarfyddais â dynes ddrwg, yr hon a’m hudodd gyda hi. A gwelodd yn mha le yr oeddwn yn cadw fy arian, ac yr yspeiliodd fi o’r cwbl, — yr oeddwn yn rhy feddw i'w rhwystro. Wrth

 

 

 (delwedd C4791) (tudalen 027)

27

 

ddyfod o’r Amwythig arosais ychydig yn Ngwrexham, a meddwais yno a chysgais allan, ac yspeiliodd rhywun fi cyn y bore. Y noswaith ganlynol gofynais am lety i ddynes lled ieuanc oedd yn sefyll yn nrws ei thy, a dywedodd nad oedd yno ddim ond un gwely — y cawn gysgu yno am swllt os dewiswn. Rhoddais inau swllt iddi gyda'r nos, gan feddwl myned yno y noswaith hono, ac aethum allan hyd y dref; ond yn mhen ychydig oriau edifarheais ei roddi iddi, ac aethum ati yn fy meddwdod i ofyn am fy swllt yn ol - y deuwn yno drachefn; rhoddodd hithau y swllt i mi yn ddigon ewyllysgar. Ond wrth dalu am wydraid o gwrw mewn rhyw dŷ tafarn, gwelais mai swllt drwg ydoedd! Rhedais yn fy ol i chwiiio am dani; ond erbyn i mi fyned at ei thy, yr oedd wedi cloi y drws a dianc i rywle.

 

Daethum o Wrexham yn ol i Lanrwst, ac i lawr i ffair Llansantffraid, gan ddysgwyl cael rhyw orchwyl i'w wneud yno. A thranoeth ar ol y ffair cefais gryn lawer o ddiod gan hwn a'r llall oedd yn fy adnabod, yn nghyd a ffarmwyr y gymydogaeth. Yr oeddynt wedi clywed fy mod wedi myned drwy dref Llanrwst yn noeth ryw dro yn ol, a chynygiasant roi chwartiau o gwrw i mi os gwnawn yr un peth yno. Derbyniais eu cynygiad yn llawen, - tynais am danaf ac aethum allan yn noeth lymun drwy y pentref oddiwrth yr Efail at y Wheat Sheaf ac yn ol, a rhedodd Mr. Thomas Williams, Masnachydd, ar fy ol gyda chwip fawr; ond methodd a fy nal.

 

Aethum o Lansantffraid i Ddinbych, ac oddiyno i Ruthyn, lle y dygwyddais daraw wrth ddynes ddrwg, yr hon a ddaeth i fegio at yr un tŷ a mi.

 

 

 (delwedd C4792) (tudalen 028)

28

 

A thranoeth deuais o hyd iddi ar y fordd at Langollen. Ar ol siarad ychydig am bethau amgylchiadol, dywedodd mai gwraig weddw dlawd o Wyddeles oedd hi. Dywedais inau mai gwr gweddw tlawd o Gymro oeddwn inau - ein bod yn ddau gymhariaid cymwys iawn i fyw gyda'n gilydd. Nid oedd yn hollol foddlawn i fy nghanlyn, rhag ofn fod yno rywun yn ein hadnabod; ond addawodd wneud fy nghais pan elwn yn mhellach yn mlaen. Telais am ei llety y noswaith hono; ac aethum i lety arall oddiwrthi. Bore dranoeth cychwynasom ein dau tuag at Groesoswallt, gan fegio arian a bwydydd hyd y wlad. Ac yn y Waen (Chirk,) pentref bychan oedd ar y ffordd, troisom i mewn dŷ tafarn, a chydyfasom yno yn hir, a rhoddais fy arian i gyd iddi i'w cadw. Aethum yn mlaen i Groesoswallt, lle y cawsom lety yn ddidrafferth, ac nid oedd neb yn ameu nad gwr a gwraig oeddym. Aethom oddiyno i Aberystwyth: ac yr oeddwn wedi hel oddeutu pymtheg swllt o arian a bwyd ar hyd y ffordd, a rhoddi y cwbl iddi i'w cadw.

 

Pan oeddwn allan yn begio hyd y Gymydogaeth, diangodd o’r tŷ llety oedd genym, ac aeth i'r tafarndai [i] wario fy arian i gyd am ddiodydd. Bum ddeuddydd neu dri hyd y dref yn methu cael hyd iddi; ond o’r diwedd cefais wybod lle yr ydoedd yn lletya, ac aethum yno ati, a chefais hi yn llechu tu draw i'r gwely. Tynais hi i'r llawr a dechreuais ei churo a rhwygo ei dillad yn fy ngwylltineb, rhedodd hithau allan o fy nwylaw, pan y gallodd, ac aeth i’r tŷ yr oeddym yn aros ar y cyntaf. Meddyliodd gwragedd y tai nesaf mai fy ngwraig oedd, a rhwystrasant fi i fyned i'r tŷ ati, rhag i mi ei niweid1o. Gadawais hi yno, ac ni welais hi byth mwyach.

 

 

 (delwedd C4793) (tudalen 029)

29

 

Aethum o Aberystwyth drosodd i Aberdyfi, ac oddiyno i'r Tywyn Meirionydd; ac yn mlaen i bentref o’r enw Llwyngwril, lle y byddai Nannau Wynn, Ysw., Llanrwst, yn arfer myned i hela bob blwyddyn. Nid oedd genyf ddim arian i dalu am lety y noswaith hono. Yr oedd yno westy, neu dŷ tafarn pur fawr, lle yr arferai y boneddwr hwnw ddisgyn; a dywedais wrth wraig y tŷ hwn mai gwas i Mr. Nannau oeddwn — fy mod wedi dyfod yno i ddanfon y cŵn hela, a fy mod wedi eu gadael y n Abermaw - eu bod wedi blino gormod i gyraedd Llwyngwril y noswaith hono. Credodd y wraig fy mod yn dweyd y gwir; rhoddodd swper a diodydd a lle i gysgu i mi. Cefais foreufwyd hefyd dranoeth gan foneddwr oedd yn byw yn ymyl y gwesty hwn, ac yn gyfaill mawr i Mr. Nannau; gofynais iddo am fenthyg swllt nes deuai fy Meistr yno, rhoddodd yn ddigon rhwydd. Yna diengais at Abermaw can gynted ag y gallwn.

 

Aethum o’r Abermaw ar draws y wlad i Wrexham, a chefais afael ar hen ferch led ffol yn y tŷ yr oeddwn yn lletya yno, yr hona amododd i ddyfod i fy nghanlyn fel gwraig i mi. Aethom o Wrexham i Slr Drefaldwyn, dan fegio ein dau hyd y wlad tuag at fyw. Cawsom waith i godi pytatws yn Llanidloes; - yr oedd hi yn cael deg ceiniog, a minau swllt yn y dydd am oddeutu wythnos o amser. Daethum o’r Deheudir trwy Machynlleth, Dolgellau a Harlech, ac i Gaerynarfon, a throsodd i Sir Fon. Troisom i dŷ tafarn yn y Gaerwen, yn ymyl Llangefni, a meddwais i y noswaith y daethom yno. Bum yno ar fy nherm am dri neu bedwar diwrnod, nes gweriais yr holl arian oeddym wedi gasglu i feddwl priodi. Daethom o Sir Fon i Fangor, a

 

 

 (delwedd C4794) (tudalen 030)

30

 

thrwy Gonwy i Mochdre, lle yr ymadawsom â'n gilydd; oblegid yr oedd yn ormod trafferth genym ail hel arian tuag at fedru priodi a chadw tŷ. Aeth hi yn ei hol at Wrexhmn, a deuais inau i Lanrwst. Yr oeddwn wedi cael trousers cryf a hardd, dim gwaeth na newydd, gan wr boneddig yn Mangor; a phan oeddwn ar fy nherm yn Llanrwst, a fy arian wedi darfod, ac yn methu dyfeisio pa fodd i gael chwaneg o cwrw, gwerthais ef am bymtheg ceiniog a hen drousers gwael a charpiog. Wrth weled yr hen drousers hwn mor fudr a thyllog, tynais ef oddiam danaf, a theflais ef ymaith, ac aethum at Bettws y coed yn haner noeth, heb ddim ond coat a chrys am danaf; gan feddwl y buaswn felly yn fwy o wrthddrych tosturi. Aethum yn gyntaf at y Royal Oak; ond ni chefais yno ond gwydraid o gwrw. Aethum oddiyno at Hendrerhysgethin, ac ni chefais ddim yno, oherwydd nid oedd Mr. Price yn dygwydd bod gartref. A phan oeddwn ar gychwyn oddiwrth y tŷ tywalltodd rhai o’r morwynion biseraid o ddwfr o’r lloft i lawr am fy mhen. Aethum oddiyno i Gapel Curig, a throais i'r Inn: ond ni lwyddais i gael dim yno heblaw ychydig o bres a diod. Aethum ychydig yn mlaen i dŷ ffarm a elwir Dyffryn Mymbyr a dywedais wrth wr y tŷ, "Harri Roberts bach, byddwch gystal a rhoi hen drouser neu rywbeth i greadur llwm ac anffodus - y mae rhywun wedi fy yspeilio o fy nhrousers a'r arian oedd yn ei bocedau pan oeddwn yn cysgu allan yn ymyl Llanrwst." "Wel yn wir, Twm bach," meddai yntau, “wn i ddim, — fe allai fod gan y mab yma un a wna y tro i ti; tyred i fewn." Ac estynodd y mab g1ôs pen glin da i mi; a chefais fwyd a lle i gysgu y noswaith yno.

 

 

 (delwedd C4795) (tudalen 031)

91

 

Daethum adref yn fy ol ac aethum i ffair Llanbedr i ddanfon dau fystach dros un o gigyddion Llanrwst, a meddwais yno yn gynar ar y diwrnod. Dygwyddais fyned i ardd oedd tu cefn i dŷ tafarn yno, lle yr ydoedd Stewardiaid Gwydyr, a mân foneddigion eraill o Lanrwst yn cydyfed cwrw. Gwaeddasant arnaf a dywedasant y cawn chwart o gwrw os gorweddwn ar lawr, ac iddynt hwythau gael ei dywallt i fy safn. Caniateais inau iddynt wneuthur felly, a gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymerasant y chwart cwrw a chodasant ef i fynu, a thywalltasant y cwbl, yn nghyd a llawer ychwaneg, i lawr i fy ngwddf, fel i bwll o ddwfr. Ond cyn iddynt gael yr hyn a ddymunent o sport gyda mi, cododd rhyw ffarmwr fi i fynu ar fy nhraed, a symudodd fi ymaith. Cychwynais at Lanrwst yn yr hwyr yn feddw iawn, a syrthais wrth bont Dolgarog, a chysgais yno hyd y bore.

 

Ar ol hyn aethum i ffair Porth Aethwy, a chefais waith yno i ddanfon bustachiad i Sarnfollteyrn, dros rhyw borthmon o Leyn; a chefais bum' swllt o gyflog ganddo. Aethum yn mlaen i Bwllheli, a dechreuais wario yr arian a dderbyniais y dydd o’r blaen, a meddwais yn arswydus, a chefais gysgu noswaith neu ddwy yn y tŷ tafarn lle yr oeddwn. Ond pan ddarfyddodd fy arian, dywedodd gwraig y tŷ fod rhyw werthwr tea wedi dyfod yno - nad oedd ganddi ddim lle i mi i gysgu mwyach. Pa fodd bynag, trwy ei bod yn llawer o’r nos, a minau yn feddw, dywedodd y gallwn gael myned i lofft yr ystabl. Nid oedd genyf ddim i'w wneud ond myned yno. A phan oeddwn yn myned allan drwy ddrws y cefn at yr ystabl, gwelais ddau bot a llechi ar eu gwynebau mewn rhyw gornel yn y cefn. Ar

 

 

 (delwedd C4796) (tudalen 032)

32

 

 

ol cysgu yn y gwair am rai oriau, daeth syched mawr arnaf, a deffroais, ac ni wyddwn beth i'w wneud i dori fy syched. Ond o’r diwedd cofiais i mi weled rhyw botiau yn y cefn wrth ddyfod yno. Codais ac aethum allan i chwilio am danynt, gan ddysgwyl fod dwfr ynddynt. Deuais o hyd iddynt; ac yr oedd cwpan ar lawr yn eu hymyl, a chodais gwpanaid i'w yfed ar frys; ac wrth ei archwaethu yn egr a sharp, meddyliais mai diod fain ydoedd, a chymerais lwnc pur fawr o hono. Ond cyn pen haner munud daeth cyfog mawr arnaf. Ac erbyn edrych yn fanwl, deallais mai golch sur ydoedd!

 

Daethum yn ol i Lanrwst drachefn, lle yr arosais am yspaid o amser. Un diwrnod pan oeddwn yn feddw iawn, cyfarfyddais â dynes ddrwg ar y dref, ac ymddygais yn bur warthus gyda hi ganol dydd goleu; ac yr oedd tyrfa fawr o blant, ac eraill, oedd yn dygwydd myned heibio ar y pryd, yn gylch o'm deutu yn edrych arnaf. Cymerodd Mr. Williams, yr Exciseman chwip a chwipiodd ni, nes ein gwahanu oddiwrth ein gilydd. Prin yr wyf yn cofio yr amgylchiad gwarthus hwn, oblegid yr oeddwn mor feddw fel, na wyddwn pa beth oeddwn yn ei wneuthur; ond yr oedd yno ddigon o edrychwyr sobr yn fy ngweled allant dystio yn fy ngwyneb heddyw er cywilydd i mi. Ond rhaid addef pe buasai dynion moesgar y dref yn fy ngweled y buasent yn fy fflangellu yn dost.

 

Oddeutu yr adeg hon (18 mlynedd yn ol,) daeth y Gymdeithas Gymedroldeb i fri pur fawr; ond dirywiodd cyn pen hir, a diflanodd yn llwyr, oherwydd fod ei haelodau yn methu cyduno yn nghylch y terfyn a farnent oedd rhwng cymedroldeb a gormodedd. Sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol, a

 

 

 (delwedd C4797) (tudalen 033)

33

 

chynyddodd y Gymdeithas hon yn gyflym iawn, nes y daeth llwyrymwrthod yn beth pur gyffredin trwy bob parth o Gymru. Parheais i i yfed meddwi, nes oeddwn wedi myned yn wir druenus yn mhob modd. A phan oedwn [sic; = oeddwn] yn bur sal un diwrnod ar ol hir derm, ystyriais ychydig, ac ofnais fod y diodydd meddwol yn fy lladd yn brysur. Aethum at Mr. Griffith Williams, ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirwestol, a dywedais wrtho fy mod am roi fy enw yn Ddirwestwr. “A ydych yn meddwl y medrwch chwi ddal am ychydig, Thomas bach?” meddai hwnw wrthyf yn bur dyner. Ydwyf, yn wir," ebe finau. "Y mae arnaf ofn na fedrwch — rhoddaf eich enw yn y llyfr bach am fis i ddechreu," meddai yntau. Ac felly y bu. Dywedais wrtho mai y dydd canlynol yr oeddwn am ddechreu llwyrymwrthod o ddifrif — fy mod am orphen y diwrnod hwnw, (sef y diwrnod yr oeddwn yn siarad ag ef,) drwy yfed cymaint a gaffwn o ffarwel i'r hen ddiodydd am byth. Cefais haner dwsin o gerddi, ac aethum gyda hwynt i Drefriw, i'w gwerthu. Troais i'r tafarndai yn Nhrefriw, a chefais gryn laver o gwrw yno. Aethum i lawr cyn y nos at Dolgarog, a chefais wydraid neu ddau yno. Aethum yn mlaen i'r Royal Oak, ac oddiyno i'r Bedol, lle y cymerais yr haner pint olaf. Aethum yn mlaen oddiyno oddeutu 8 o'r gloch y nos at y Farchwel. A phan oeddwn yn myned at y tŷ hyd ffordd gul, syrthiais heb fod dim neillduol yn achosi hyny,— yr oeddwn yn ddigon sobr i gerdded yn rhwydd a dirwystr. A bum yn meddwl lawer gwaith ar ol hyny mai yr ysbryd drwg oedd yn fy ngwthio ac yn fy nhaflu i lawr o ffarwel i mi. Pan aethum at ddrws y tŷ, daeth y wraig allan, a gofynais am le i

 

 

 (delwedd C4798) (tudalen 034)

34

 

 

gysgu y noson hono. Dywedodd hithau nad oedd yno ddim lle yn y tŷ — y cawn i ddillad gwely i fyned i'r ysgubor os mynwn. Dywedais inau y byddai yn dda i mi gael hyny; a daeth y gwas gyda mi i'r ysgubor i wneud gwely i mi yn y gwair. A phan aeth y gwas allan, plygais ar fy ngliniau, a gweddiais ar i'r Arglwydd fy sobri, a fy nerthu i ddal yn ddirwestwr o hyny allan, yn nghyd a fy nghadw rhag pob drwg. Erfyniais yr un peth hefyd wrth godi bore dranoeth, ac aethum i’r tŷ, dywedais wrth y wraig fy mod yn ddirwestwr, ac yn meddwl parhau felly hefyd. "Taw Twm bach," ebe hithau, - “pe buasai genyf gwrw i'w gynyg i ti y funud hon, buasit yn ei yfed yn bur llyfn, yr wyf yn sicr." “Na, yn wir, coeliwch fi, yr wyf yn meddwl, yn bresenol, na chymeraf ddafn byth eto," ebe finau. Ar ol cael boreufwyd ganddi, aethum i Lanbedr, a throais i dafarndy yno i fegio, a chynygiodd gwraig y ty haner pint o gwrw i mi, yr hwn a wrthodais, a chefais geiniog ganddi. Aethum oddiyno i Gonwy, gan fegio pres hyd y tai. Pan gyraeddais Gonwy, aethum i bob tafarndy adnabyddus i mi i fegio arian a bwyd, a gwrthodais ddiodydd meddwol yn mhob un o honynt. Aethum o Gonwy i Abergele; ac ar y ffordd yno, wrth dŷ tafarn o’r enw Tan'r ogof, yr oedd porthmon moch adnabyddus i ni, wrth ddrws y tŷ yn prynu moch. Talodd am haner peint o gwrw i mi, a phan oedd efe yn ei estyn ataf, gwrthodais ei gymeryd. "Beth, a ydych chwi yn ddirwestwr?” meddai, yn ddirmygus, "Ydwyf, yn wir, Syr," ebwn inau. "Wel, os nad yfwch ef, mi a'i taflaf am eich pen," ebe yntau. Gwrthodais ei gymeryd er y cwbl; taflodd yntau ef am fy mhen yn ei wylltineb.

 

 

 (delwedd C4799) (tudalen 035)

35

 

Aethum yn mlaen i ffair Abergele, a throais i werthu Almanac i dŷ tafarn lle yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân. A phan welsant fi yn dyfod atynt, ac yn gwybod fy mod yn ddirwestwr, daeth un o bonynt o’r tu ol i mi ac ymaflodd am fy nghanol a gwasgodd fy mreichiau, a chymerodd un arall haner peint o gwrw, gan feddwl ei dywallt i fy ngenau, er fy ngwaethaf; gwasgais inau fy nannedd mor din ag y medrwn, nes y methasant yn eu hamcan. Aethum oddiyno i Lansantsior, ac yr oedd darllawydd Cimel gyda'r drol yn dyfod i'm cyfarfod oddiwrth y palas at y ffordd, a jar o gwrw yn ei law. A phan welodd fi, dywedodd, “Tyred yma, yr hen Gapelilo anwyl, gael i ti gegiad o’r cwrw yma i dy gynesu;” (oblegid yr ydoedd yn bwrw eira.) “Na chymeraf yn wir, diolch i chwi," meddwn inau. “Beth sydd arnat ti — a wyt yn Ddirwestwr dywed?" meddai yntau. "Ydwyf," meddwn inau. “Wel dal ati hi ynte, machgen i," meddai yntau. Ac fel yna, byddai rhai yn fy nghalonogi yn fawr, er fod ereill yn ddirmygus iawn o honwyf. Daethum yn mlaen i Ddinbych, a throais i dŷ Mr. Thomas Williams, tad y Parch. W. Williams, (Caledfryn,) yn Heol Henllan, yr hwn oedd yn wreiddiol o Lanrwst; gofynodd o ba le y daethwn ar y fath dywydd mawr. Dywedais inau mai o Abergele, a fy mod yn ddirwestwr er ys rhai misoedd bellach. Ac yr oedd yn dda iawn ganddo glywed fy mod yn ddirwestwr, parodd i mi eistedd i lawr i gael bwyd. Fel hyn yr oeddwn yn cael cymaint o bres a bwyd am fod yn ddirwestwr, ag oeddwn yn ei gael o’r blaen o ddiodydd am wneud campiau drwg.

 

Daethum drosodd o Ddinbych i Lanrwst, a

 

 

 (delwedd C4800) (tudalen 036)

36

 

thranoeth yr oedd Cyfarfod Dirwestol yn Nghapel y Trefnyddion Calfinaidd. Erfyniodd llywydd y cyfarfod arnaf ddweyd ychydig am ddirwest ac am danaf fy hun. Dywedais inau fy mod yn caru y drefn o lwyrymwrthod yn fawr iawn, gan ddangos y lles oedd wedi ei wneud i mi eisoes; ac adroddais iddynt hefyd fy hanes pan oeddwn yn feddw yn Llanbedr — fel y goddefais dywallt cwrw i fy mol — nad oedd waeth genyf pa fodd y rhoddid ef i mi, am y cawn ef i fy mol rywsut.

 

Cefais fy nghoelio am gant o lyfrau dwy geiniog yr un, ac aethum hyd y wlad i'w gwerthu; a gwrthodais gymeryd diodydd meddwol am danynt lawer gwaith. Gwerthais y cwbl mewn oddeutu wythnos; yna deuais yn ol i Lanrwst a'r arian i gyd yn fy mhoced, a thelais am danynt i'r Llyfrwerthwr, yr hwn oedd yn rhyfeddu fy mod heb eu gwario a meddwi, a dianc rhag eu talu fel y byddwn arferol o wneud pan yn feddwyn. A rhoddodd ychwaneg o lyfrau i mi, ac aethum gyda hwynt hyd y gymydogaeth, ac i'r ffeiriau.

 

Dechreuais edrych ar fy nghyflwr fel pechadur, ac ymofidio oherwydd fy mhechodau, ac aethum i'r Ysgol Sul i geisio dysgu darllen; a thrwy lawer o boen dysgais yr A, B, ac ychydig o sillebau. Erbyn heddyw yr ydwyf yn medru darllen fy Meibl yn lled rwydd, (ni byddaf yn ceisio darllen un llyfr arall; ) ond nid wyf yn gailu deall meddwl neu ystyr pob adnod a ddygwyddwyf ddarllen. Yr oeddwn yn dyfod yn fwy ystyriol o hyd, a byddwn yn gweddio yn aml ar i'r Arglwydd fy ngalluogi i fyw yn dduwiol; a byddwn yn cael nerth i fasnachu yn onest, ac i ymatal oddiwrth bechodau cyhoeddus ac ysgeler.

 

 

 (delwedd C4801) (tudalen 037)

37

 

Wedi bod allan am beth amser gyda llyfrau a gefais ar goel, deuais yn ol a thelais am danynt; ac yr oeddwn wedi casglu ychydig o arian erbyn hyn, yn nghyd a thair suit o ddillad. Ac ar ol bod yn teithio fel hyn gyda llyfrau am oddeutu tair blynedd, ymunais â chrefydd, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Llanrwst. Dywedais wrthynt wrth fy nerbyn fy mod yn ofni nad oedd byw yn ddirwestwr sobr a zelog ddim yn ddigon – fy mod am ymdrechu byw fel Cristion o hyny allan? A derbyniasant fi mewn syndod a llawenydd. Yn mhen oddeutu pedwar mis derbyniwyd fi i'r eglwys yn gyflawn aelod, pryd y cynghorwyd fi i beidio rhoddi lle i ddiafol — peidio chwareu gyda themtasiynau trwy fyned i'r tafarndai i werthu llyfrau, — a pheidio gwrando ar neb fyddo yn fy ngwawdio am fod yn grefyddwr. Yr oedd pawb oedd yn y capel yn rhyfeddu fy ngweled yno.

 

Pan oeddwn ar daith gyda llyfrau yn Mangor, tarewais ar wraig weddw lled daclus o Sir Fon, yr hon oedd wedi dyfod yno i edrych am ei merch. Ac yn mhen chwech wythnos priodais hi yn Nghaergybi, a daethom i fyw i Fangor. Yr oedd hi yn ddynes bach dwt iawn, — dywedid iddi fyned at y Wesleyaid er mwyn fy nghael i yn wr. Wedi cyd fyw gyda'n gilydd am oddeutu pum' mis neu haner blwyddyn, daethum i drosodd i Lanrwst i dalu am, ac i geisio chwaneg o lyfrau, gan adael yr arian oeddwn wedi eu casglu gyda hi gartref. Ond erbyn i mi fyned yno yn fy ol, yr oedd hi wedi diengyd at ei pherthynasau i Gaernarfon gyda holl ddodrefn y ty, ac un bunt ar ddeg o arian oeddwn wedi gasglu iddi. Synais weled fy nhy yn wag fel hyn, ac wrth edrych ychydig o'm deutu

 

 

 (delwedd C4802) (tudalen 038)

38

 

gwelwn bapyr ar ymyl rhyw dwll oedd yn y pared ac ysgrifen arno; aethum ag ef i'w ddangos i rywun, yr hwn a ddywedodd wrthyf mai llythyr ysgar rhyngwyf i a fy ngwraig, Beti Morris, ydoedd, Holais y cymydogion i edrych a wyddent hwy rywbeth am dani, a dywedasant ei bod wedi myned o’r dref er's pedwar o’r gloch y bore o’r blaen. Yr oeddwn bron a gwallgofi erbyn hyn ac aethum ar ei hol dranoeth i chwilio am dani. A phan oeddwn wrth Gaerynarfon, cyfarfyddais â'r Parch. Thomas Owen, Llangefni, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn a ofynodd i mi sut yr oeddwn, a dywedais inau ei bod yn ddyryslyd iawn arnaf fi. "Beth sydd, Thomas Williams? " meddai yntau. "Beti Morris, yr hon a briodais oddiar eich plwyf chwi acw, sydd wedi dianc oddiwrthyf, a'r dodrefn a fy holl arian hefo hi," meddwn inau. "Ac yr oedd yn rhyfedd ganddo glywed. Rhoddwch gyngor i mi beth i'w wneud yn fy nghyfyngder, Thomas Owen bach," meddwn wrtho. "Wel, os cymerwch fy nghyngor i," meddai yntau. "Gwyliwch, a gweddiwch yrwan fwy nag erioed, onide bydd y diafol yn bur brysur o'ch cwmpas chwi yn y brofedigaeth yma Daliwch yn ddirwestwr drwy y cwbl — peidwch ag anmhwyllo a digio wrthi, ond yn hytrach gweddiwch drosti." "Gweddio dros hen sopen ddrwg fel yna?" meddwn inau. “Ie, Thomas bach, - mae yr ysgrythyrau santaidd yn gorchymyn i ni weddio dros ein gilydd, a charu ein gelynion," meddai yntau. Gwrandewais arno, a gwnaethum yn ol ei gyngor. Wedi methu cael hyd iddi yn Nghaerynarfon, aethum drosodd i Sir Fon, ac i Gaergybi. Holais am lety noswaith yno, mewn tŷ wrth lân y mör, a dywedodd gwraig y tŷ

 

 

 (delwedd C4803) (tudalen 039)

39

 

na chawn i ddim lle gyda hi, am i mi abusio Beti Morys. Deallais hyny fod Beti yn y dref yn rhywle, a chwiliais am dani yn ddyfal; ond methais a'i gweled, a throais adref at Fangor. Ac wrth Bont y Borth, gwelais Lord Newborough, ac aethum ato i'w gyfarch, a gofynodd yn mha le yr oeddwn wedi bod, dywedais inau mai yn Nghaergybi yn chwilio am fy ngwraig, yr hon oedd wedi fy ngadael y dyddiau o’r blaen, gan gymeryd fy arian a phob peth hefo hi ymaith, pan oeddwn i oddi cartref. A dyma y llythyr ysgar a adawodd ar ei hol yn y tŷ, my Lord, os byddwch gystal ag edrych arno. Darllenodd yntau ef a dywedodd. "Yn wir, mae'n ddrwg genyf drosoch: — rhaid i mi fyned yn mlaen yn bresenol." "Wel, gyda'ch cenad, my Lord, beth a wnaf iddi hi — nid oes genyf ddim arian — mae hi wedi cymeryd y cwbl gyda hi?” meddwn inau. “Fe allai y daw hi atoch yn ei hol," meddai yntau; ac aeth i'w bwrs, a rhoddodd bum' swllt i mi. Yna aethum i Fangor, ac ymgynghorais â blaenoriaid y capel, y rhai â'm perswadiasant i adael iddi, a pheidio ymhel a hi byth mwy.

 

Troais allan i werthu llyfrau, ac enillais naw punt mewn ychydig o fisoedd. Aethum ar fy nhaith fel hyn i Gaergybi; a phan oeddwn wrth y dref, cyfarfyddais â rhyw ddyn oedd yn dygwydd adnabod Beti Morys, yr hwn a ddywedodd lle yr oedd hi yn byw, a dangosodd i mi y tŷ. Rhoddais fy mox llyfrau mewn tŷ oedd gerllaw, ac aethum ati, a chefais hi yn byw mewn llofft. Aethum i fynu y grisiau, a gwaeddodd hithau, "Pwy sydd yna?" Dringais inau yn nes ati, a dywedais, "Hollo, Beti, ai ti sydd y ma yn un frenines?"

 

 

 (delwedd C4804) (tudalen 040)

40

 

"Thomas Williams bach," meddai hithau, "sut yr ydych chwi? ac o ba le y daethoch? – A welsoch chwi rhyw eneth bach yn cynyg llefrith wrth y drws yna?” "Na welais — pa fodd y gwelswn i beth felly yr amser yma ar y nos?" meddwn inau. "Aroswch yma tra byddwyf yn edrych am dani," meddai hithau. Ond ei neges oedd myned i ofyn i'r Cwnstabl a ddeuai i droi rhyw ddyn allan o'i thŷ." Gofynodd hwnw pwy oeddwn, a dywedodd hithau mai math o wr iddi oeddwn. Dywedodd yntau nas gallai droi un felly allan, a nacaodd ddyfod. Wedi ei dysgwyl i'r ty am beth amser, aethum allan i edrych lle y gallai fod cyhyd, a gwelwn hi yn dyfod i lawr yr heol gyda hen wr oedd yn myned i'r society i gapel y Wesleyaid. Ac archodd Beti ar hwn ddyfod gyda ni i fynu i'r llofft. Wedi eistedd ac ymddiddan am beth amser, dywedodd yr hen wr ei bod yn bryd myned i'r capel. A phan oeddynt hwy yn cychwyn i'r capel, a minau yn myned allan i geisio fy mox, bu ychydig o ffrwgwd rhyngom yn nghylch agoriad y llofft — mynai hi gloi y drws a chymeryd yr agoriad gyda hi, - a mynwn inau ei gael, a threchais hi. Deuais i i'r tŷ yn ol, ac edrychais beth oedd ganddi yn ei dillad a'i chelloedd, gan ddysgwyl fod yno ychydig o fy arian heb eu gwario. Ar ol ei dysgwyl i’r tŷ am beth amser, aethum i'm gwely, ac ni welais hi y noswaith hono — aeth i ryw dŷ arall. Ond dranoeth daeth yno, a phan oedd hi ar y grisiau, gwaeddodd “Hollo! – pwy yw y bobl ddyeithr sydd yn fy nhŷ i?" Pan ddaeth yn mlaen ataf gofynais iddi, "Yn mha le y buost ti neithiwr, Beti?” “Yn fy ngwely, wrth gwrs, fel pawb arall," meddai hithau. "Paham na fuasit

 

 

 (delwedd C4805) (tudalen 041)

41

 

 

yn dyfod at dy wr?" meddwn inau. "Yr oedd arnaf fi eich ofn, yn wir," meddai hithau. “Yr wyf yn dywedyd i ti fod yn rhaid i ti aros yma fel dynes, neu fyned allan - fi piau bob peth sydd yma," meddwn wrthi. "W

el, Thomas Williams, a wnewch chwi actio fel gwr?” meddai hithau, gan roddi el llaw am fy ngwddf. "Actio fel gwr — beth welaist ti yn amgen ynwyf erioed?" meddwn inau wrthi yn ffyrnig. Wedi ffraeo fel hyn am ychydig daethom yn ffrindiau, ac arosasom gyda'n gilydd am bedwar diwrnod; ac aethom i dŷ Owen fy mrawd i wneud rhyw fath o amodau heddwch o hyny allan. Aethum i allan gyda'm llyfrau at Sir Gaerynarfon, a dywedodd hithau y deuai ar fy ol gyda dodrefn y tŷ dranoeth, gael i ni fyned i fyw i Fangor fel o’r blaen. Ac fel yna ymadawsom yn heddychol; ond ni ddaeth byth ar fy ol i Fangor, a chyngorwyd fi i'w gadael yn llonydd.

 

Ryw dro yn mhen hir a hwyr ar ol hyn, gwelais hi mewn rhyw dŷ yn Nghaerynarfon, a dywedais rywbeth wrthi, — chwerthodd am fy mhen, nes enyn fy nhymer wyllt, a thafodais hi yn lled arw, gan ddanod iddi yr annghyfiawnder a wnaethai â mi, &c. Aeth hithau at yr Heddynad i geisio gwarrant i fy nal am ei "abusio," a chymerwyd fi o flaen yr Ynad, a daeth hithau yno i dyngu ei hoedl arnaf. Ac felly bu raid i mi dalu costau y warrant a'r twrne, trwy iddi hi ddweyd anwiredd arnaf heb un achos yn y byd. Gwelais hi unwaith ar ol hyn, ond ni wnaethum un sylw o honi.

 

Wedi bod am yspaid o amser yn Mangor a'r cymydogaethau, daethum i fyw i Lanrwst, lle yr ydwyf hyd yn hyn mewn tŷ bychan.

 

Yma yr wyf yn mwynhau y llonyddwch i arol-

 

 

 (delwedd C4806) (tudalen 042)

42

 

 

ygu fy einioes, a gruddfan o herwydd meddwdod a phuteindra fy oes; yma yr wyf yn gweled fy nigywilydd-dra gynt; fy mhechodau gwaradwyddus yn eu lliwiau priodol. Yr wyf yn synu pa beth a'm gwnaeth yn ddiareb y Cymry am fudreddi a gogan. Yr wyf yn edrych ar fy hynt waradwyddus gyda thristwch, ac yn ocheneidio o herwydd cyfnodau drwg yn fy Mywgofiant. Ond yr wyf yn engraifft i'r oes o anurddiant pechod. Yr wyf yn esiampl o ddiofalwch, o feddwdod, o buteindra — yr wyf yn golofn fyw o isder dynoliaeth, mewn dirif amrywiaeth o syrthiadau, yr wyf yn esboniad o allu Dwyfol mewn gwaredigaeth dihafal o feddwdod a'i ganlyniadau, yr wyf wedi bod yn adyn truenusaf — yn wawd i bawb, yn ddiareb i'r rhai a'm hadwaenent, yr wyf eto hefyd yn gwisgo fy sothach, mae genyf lawer o ffaeleddau.

 

Pa ddyn wedi y darlleno y llyfryn hwn a beidia a rhyfeddu? Gwel fachgenyn a adawyd yn ddi-ddysg, ac yn ddigelfyddyd, i fyned y ffordd yr arweinid ef gan ei galon lygredig. Yr oedd fel llong heb lyw, nac angor, yn cael ei ymlid gan dymestloedd, ac yn cyfarfod â thrychinebau arswydus yma a thraw. Nid oes un o fil o drigolion ein gwlad yn myned i ddegwm y gofidiau yr aeth Tomos Williams drwyddynt, ac y mae yn anhawdd iawn cydymdeimlo ag ef yn ei aml a'i flin gystuddiau, oblegid pethau a dynai am ei ben ei hun yn gwbl oeddynt, ar ol iddo ymado âg aelwyd ei fam. Pe buasai wedi cael addysg, meddyliasai am amgen swydd na dal penau ceffylau, a glanhau esgidiau &c.; a phe buasai ganddo grefft, ni feddyliasai am redeg yr Express a gyru gwartheg; a phe buasai wedl cael dygiad i fynu crefyddol, buasai yn pet-

 

 

 (delwedd C4807) (tudalen 043)

43

 

 

ruso cryn lawer, er fod milwriaeth yn fwy cymeradwy y pryd hwnw nag ydyw yn bresenol, cyn y gwerthasai ei hun yn gaethwas i fyned ladd dynion am swllt yn y dydd! Leied o beth fuasai yn troi y peiriant yn y dechreu; ac o herwydd esgeuluso y peth bach hwnw y boen, y drafferth, y gwarth, a'r peryglon yr arweiniwyd Tomos Williams iddynt. Yr oedd ynddo ef, yn ddiau, megis y gwelir wrth ddarllen yr hanes, fwy o ddefnyddiau y gallasid gweithio arnynt i wneud dyn o hono, ac aelod o gymdeithas, nag sydd yn meddiant lluoedd sydd yn ymddangos yn well yn y byd. Aeth ar gyfeiliorn y cam cyntaf o'i daith; a bu hyny yn foddion i'w arwain i roi canoedd o gamau o chwith ar ei ol. Y mae yn rhyfedd ei fod ef yn fyw; ac yn rhyfeddach fyth ei fod gyda chrefydd. Os dywedai Apostol mawr y cenedloedd, “O ba rai y penaf ydwyf fi," beth a ddywed Tomos Willlams?

 

Yr ydym yn gweled yn y drych sobr hwn y pwys mawr o ddwyn plant i fynu yn ofn yr Arglwydd. Ni wyr y rhai a gafodd hyn o ba sawl mil o ofidiau y gwaredwyd hwynt, nac yn mha le y buasent yn debyg o ddiweddu eu gyrfa heb hyny. Byddai yn dda genym i bob rhieni sydd yn am roi addysg i'w plant, ac am eu dwyn i fynu yn grefyddol, pe yr edrychent ar y darlun trwm a dynodd Tomos Williams o hono ei hun. Nid ydym yn ameu nad oes egin rhai a dyfant yn debyg iddo, i'w gweled wrth yr ugeiniau, yn heolydd ein trefydd yn y dyddiau presenol. Gall rheini chwerthin am eu penau, ond y mae yr had yn cael ei hau; a gallant dramgwyddo wrth y rhai a'u galwant at eu dyledswydd, ond y mae y plant yn

 

 

 (delwedd C4808) (tudalen 044)

44

 

myned waeth waeth mewn drygioni. Rieni cymerewch rybudd a gofelwch am beidio magu plant fydd yn felldith i'r byd pan fo eich llwch chwi yn y bedd.

 

Nid ydym yn golygu y buasai yn gyfiawnhaol yn Nhomos William adrodd ei helyntlon, drwy y wasg, oni bai fod tuedd mewn cyhoeddi hanesion o’r fath i weinyddu er rhybudd i ereill; sef, i riem a edrychant ychydig ar ol eu plant,  ac i blant a fagwyd ar aelwydydd rhieni difraw a diofal. Y mae y pethau a adroddwyd yn ddiaddurn, gan y gwr ei hun, yn sicr o gael sylw lluaws mawr yn ein gwlad; ac, yn enwedig, o’r dosbarth llwyrymataliol, a'r dosbarth crefyddol. Gwelir yn nrych yr hanes hwn mor bell y dichon i ddyn fyned yn nghyflawniad ei chwantau pechadurus heb gywilydd; ac mor angenrheidiol yw i rieni fagu eu plant mewn cyflwr y byddont yn agored i gywilyddio o achos gweithredoedd drwg. Arwydd trwm yw gweled plant heb fedru gwrido ar ol cyflawni yr hyn nad ydyw yn briodol. Dyma un o’r pethau boreuaf y mae rhieni o deimlad, pa un bynag ai tlawd ai cyfoethog fyddant, yn geisio gael fel egwyddor blanedig yn eu hiliogaeth. Defnyddir y ffordd o grio cywilydd yn y teulu, ac y mae yn fynych yn llymach na'r wialen; sef, gwneud i'r plentyn deimlo ei ddarostyngiad. Y mae pob plentyn wrth natur am fod yn ormeswr, can belled ag y mae ei gylch yn cyraedd; ac un o’r pethau cyntaf sy gan y tad a'r fam i ymladd ag ef yw yr ysbryd mawr sydd yn tyfu ynddo. Y ffordd i'w fagu mewn anufudd-dod a digywilydd-dra yw gadael iddo gael pob peth a chwenycho, a pheidio ei geryddu pan wnelo ar fai. Nid peth yn tyfu ar unwaith yw hyfder; megis y gwelir ar fynediad plentyn i le dyeithr. Y mae

 

 

 (delwedd C4809) (tudalen 045)

45

 

arno ofn pob peth y pryd hwnw; ac y mae yn edrych ar bob un dyeithr fel ei elyn. Ni chymerai lawer am ddyweud "Na wnaf," wrth estron; ond bydd cynefindra, hyd yn oed mewn lle estronol, yn gwisgo yr arswyd ymaith; yn enwedig os bydd yr estroniaid yn caniatau i blant wneuthur yn rhy hyf arnynt. Cynefindra y plentyn â bygythion diystyr y fam sydd yn ei wneuthur o’r diwedd yn ddigon hyf i wrthwynebu ei hewyllys ac i'w herio yn feiddgar. Ie, â rhai mor bell nes ymosod ar eu rhieni fel bwystfilod. Pe ceid sylw rhieni at y perygl o fagu plant yn ddiofn, ac yn ddiddysg, ceid wyneb arall ar y wlad yn fuan lawn, Peth hawdd fyddai i bob tad a mam ddiwygio gartref pan y mae y cylch yn fychan; ac mewn gwirionedd dyma y man lle y dylai diwygiad gychwyn; pa reswm sydd i ddynion fagu plant, gan ddysgwyl i estroniaid wella eu rnoesau? Onid dyledswydd arbenig y rhieni ydyw hyny? Nid oes ganddynt fwy o hawl i ollwng eu plant allan yn wylltion ac ddiaddysg, nag sy ganddynt i ollwng haid o fleiddiaid yn rhydd mewn cymydogaeth. Paham y rhaid i estroniaid perffaith oddef anghyfleusdra a gofid oddiwrth blant na pherthynant iddynt? Pe meddylid am yr anmhriodoideb o hyn, ni fyddai dim gwrthwyneb gan unrhyw rieni i roi addysg i'w plant. Y mae rhyw dyb yn y byd fod gwahaniaeth rhwng plant pobl fawr a phlant pobl fach yn wreiddol. Ond ni fu erioed gyfeiliornad mwy na hwn, canys "efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion." Y mae yr holl wahaniaeth yn y dygiad fynu a gant, ac yn y gwisgoedd a wisgant. Y mae un yn cael ei fagu yn foethus ac yn gostus; ac mae y llall yn cael ei fagu yn galed ac yn dlawd.

 

 

 (delwedd C4810) (tudalen 046)

46

 

Pe cawsai Tomos Williams ei eni yn Ngwydir, y lle Capelulo, a phe cawsai ei ddwyn i fynu mewn addysg a moesau, gwnaethai gystal gwr boneddig, yn ol maint ei synwyr, ag un sydd yn gwisgo coronig. Y mae hyny i'w weled yn amlwg yn yr hyn a wnaed o’r dyn, wedi ei gael yn gorwedd yn ei waed, ar faes llygredigaeth a meddwdod. Y mae efe, drwy lwyr ymatal wedi dyfod yn deilwng o gael bod yn aelod o’r Gymdeithas ddynol, pryd yr oedd o’r blaen yn deilyngach o fod yn mysg anifeiliaid; ac y mae efe, hyderwn, drwy ei grefydd, wedi dyfod yn deilwng o gael ei restru yn gyd-ddinasydd â'r Saint, ac yn un o deulu  Duw. Na ddigaloned y duaf, ac na ddigaloned cenadon Efengyl yn wyneb caledwch y penaf o'u gwrandawyr, dyma Tomos Williams, yr hwn gynt a fu mor bell a neb tu yma i'r trueni oddiwrth grefydd, wedi ei wneud yn grefyddwr! Y mae hyn yn gymaint syndod a phe codid un oddiwrth y meirw. Dyn oedd yn bla y tafarndai, yn gas gan bob wyneb ei weled yn dyfod i'w tai, oblegid ei haerllugrwydd a'i aflendld, wedi sobri; ac nid yn unig hyny, ond wedi dychwelyd at grefydd! Ac wedl dysgu darllen y Bibl ar ol dyfod at grefydd! Gellir ei weled, yn bresenol, yn lle cael ei hergwdio fel esgymunbeth dros drothwy tafarndai, ar ol gwario y cwbl, yn myned i'r addoldy; yn lle bod yn gwylio, a'i "safn yn golsyn" ar y Sul, am y drws cyntaf a agoro ar ol y gwasanaeth, yn myned a'i Fibl mawr o dan ei gesail i'r Ysgol Sabbathol. Yn lle dyfeisio castiau a chelwyddau i gael arian i gael diod, gellir ei weled yn myned a'i gist fechan o lyfrau ar ei gefn, o le i le, i daenu gwybodaeth fuddiol yn mysg ei gydwladwyr. Yn lle bod yn

 

 

 (delwedd C4811) (tudalen 047)

47

 

difyru ynfydion uwch ben yr haner peint, ac am haner pint, y mae Tomos Williams yn gwneud ei oreu, yn ol ei fantelsion, i ddychwelyd dynion oddiwrth eu ffyrdd drwg. Ac os ydyw yn myned ychydig dros y marc, rai gweithiau, yn ei sel wrth geisio gwneuthur daioni, maddeuir iddo. Wrth ystyried ei fod ef yn hen cyn dechreu cyfeillachu â phobl foesol, a Chyn gweled y gwerth o fywyd sobr, nid ydyw yn rhyfedd ei glywed yn ergydio yn lled drwm ar y fasnach mewn diodydd meddwol; canys ni wyddai efe, hyd yn ddiwedar, beth oedd hyfrydwch bywyd dyn sobr; a chan ei fod ef yn medddwl nad oes fodd i neb sydd yn arfer ag yfed mewn cymedroldeb wybod hyny, nid ydyw yn rhyfedd ei fod rai prydiau yn tywallt ei felldithion i ffiol y meddwyn, ac yn dyweud fod y rhai a brofo y diodydd yn gyfranog o'i bechod. Os caiff fyw  ychydig, daw yn fwy tyner ei farn eto. Y mae pob newyddian yn danllyd iawn yn mlyneddau cyntaf ei oes ddiwygiadol, ond y mae addysg a phrofiad yn ei gyfarwyddo yn ffordd dealldwriaeth nes y mae yn gallu goddef mewn cariad rai a wasaniaethant oddiwrtho ef mewn barn. Y mae y brodyr y Trefnyddion, yn Llanrwst, yn ymgeleddgar dros ben o’r hen bechadur hwn a fu mor bell ar gyfeiliorn; ac y mae y dirwestwyr, a'r Methodistiaid, drwy y wlad ol1, yn gefnogol iawn iddo gyda'r gorchwyl sy ganddo. Y mae efe wedi cael byw i fyned i henaint teg, ac y mae golwg iach a glanwaith arno; ond y mae yn debyg iawn oni buasai y tro a gymerodd le ar ei fuchedd y buasai fe o ran ei gorff yn y bedd, er ys blyneddau, ac o ran ei enaid mewn gwlad o anobaith. Y fath gysur iddo yn ngwely angau fydd meddwl ei fod

 

 

 (delwedd C4812) (tudalen 048)

48

 

wedi cael cysegru yr unfed awr ar ddeg i'w Greawdwr, a'i fod yntau yn derbyn ei wasanaeth gwael. Y mae efe yn debyg yn bresenol o gael marw a'i ben ar obenydd ar ol ei anturiaethau gwylltion i gyd, ar for ac ar dir; a mwy na hyny, y mae efe yn debyg o gael Iesu yn gyfaill ac yn rhan iddo. Nid oes genym ni ddim ond barnu yn ol fel yr ydym yn canfod pethau. Yr ydym ni yn ei weled ef yn meddu cystal gobaith am y Nefoedd ag unrhyw bechadur arall, canys y mae efe yn rhodio yn ffyrdd rhinwedd, yn bresenol; a gobeithiwn y caiff ef gymorth i ddal ei ffordd ac ychwanegu cryfder hyd y diwedd.

 

Yr ydym yn dra gwahanol yn ein golygiadau i'r rhai hyny a edrychant gyda dirmyg ac amheuaeth ar hen bechaduriaid fel Tomos Williams. Ni feddwn hawl i wnend hyny tra byddo dyn gyson â'i broffes. Nid oes gan unrhyw Eglwys, megis y dywedodd un, ond cymeryd pob un yn dduwiol tra y caiff ef. Y mae yn gof genym glywed hanesyn am ryw hen flaenor, yr hwn oedd yn lled gyndyn i dderbyn aelod unwaith, er nad oedd ganddo ddim yn neillduol yn erbyn bywyd y cyfryw, ond fod rhywbeth ynddo heb gyfateb i'r mesur oedd ef yn arfer roi ar grefydd bersonol. Pwy a ddygwyddodd fyned i'r gyfeillach, pan oedd mater y dyn yn cael ei drin, ond y diweddar  Mr.  John Jones, Edeyrn, yr hwn yn ei ddull arferol a ofynodd a oedd gan rywun rywbeth yn erbyn i'r dyn gael ei dderbyn yn gyflawn aelod. Yr hen flaenor a gododd ar ei draed, ac a ddywedodd, yn bwysig iawn, ei fod ef yn ddigon boddlawn iddo gael ei dderbyn ar brawf. "Ar brawf, aiê," ebai, John Jones, "onid ar brawf yr ydym i gyd?”  Y

 

 

 (delwedd C4813) (tudalen 049)

49

 

mae llawer o wirionedd yn hyn. Ac onid ydyw cyfraith y tir yn ystyried pob un yn ddiniwaid hyd nes y profir ef yn euog? Gan hyny nid teg i neb edrych gyda llygad o amheuaeth ar Tomos Williams. Y mae efe wedi glynu wrth ei benderfyniad dirwestol a chrefyddol er pan y rhoes ei enw ar lyfr y Gymdeithas lwyrymataliol a’r Gymdeithas grefyddol; ac yr ydym yn gobeithio, o'n calonau, yr erys ei enw ar y llyfrau hyny hyd nes y byddo yn cael ei ysgrifenu ar gauad ei arch, fel y byddo yn gofgolofn barhäol o’r hyn a all trugaredd a gras wneud ar enaid pechadur mawr.

 

OL-YSGRIF. Ysgrifenwyd yr hanes blaenorol o enau Tomos Williams gan wr ieuanc, y pryd hwnw, o Lanrwst; ac edrychwyd dros y copi, gan ei ddiwygio, ac ychwanegu yr arweiniad i fewn a'r diweddglo, gan gyfaill.

 

LLANRWST; ARGRAFFWVD GAN JOHN JONES.

 

 

...

 

xxxxxxxxxxxxxxxxx

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
wikipedia, scriptsource. org


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_206_thomas-williams-capelulo_0900k.htm

Ffynhonnell / Font / Source:
Creuwyd / Creada/ Created:
17-05-2018

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 02-07-2018 17-05-2018

Delweddau / Imatges / Images:

 

 

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait