kimkat3609k Llythyrau Wil
Cwmbychan. Rhondda Leader 1911-1912. Ma’
rhyw ysfa wedi dod droso i yn ddiweddar am ga’l ’scrifenu i bapyr newydd.
03-12-2021
●
kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
●
● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
●
● ● ● kimkat0219k Y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
Yn nhafodiaith ardal y Rhondda y mae “Llythyrau Wil Cwmbychan” – mae
“Tonypandy” yn dynodi lleoliad y Rhondda o fewn tiriogaeth y Wenhwyseg.
...
(delwedd J6243)
04
Tachwedd 1911
11
Tachwedd 1911
25
Tachwedd 1911
02
Rhagfyr 1911
09
Rhagfyr 1911
30
Rhagfyr 1911
06
Ionawr 1912
27
Ionawr 1912
|
|
(delwedd D7603) (28 Hydref 1911) |
28
Hydref 1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. Syr, - Ma’
rhyw ysfa wedi dod droso i yn ddiweddar am ga’l ’scrifenu i bapyr newydd. Wn
i ddim beth yn y byd mawr yw a, ond galla’ i ’we’d hyn, i fod a wedi mhoeni i
ys lawar dydd. Ma’ fa’n wath na diffyg traul, a wi’n teimlo os na rho i fent
iddo, byddai siwr o explodo. Mae a’n ’mhoeni i’n od yn y nos; wi’n colli oria’
o gyscu o’i achos a, a ma’ Moli weitha yn neido lan yn frawychus reit wrth yn
’glywed i’n ochan. “Be’ sy’
arnat ti,Wil bach?” gofyna. "Ga i mo’yn doctor atat ti?” Fe’i clywas
hi’n gwed wrth wraig drws nesa’ ddo. “Dear, dear, Mrs. Webster, I’m sure I
don’t know what is the matter with William, my husband. I be afraid he’s in
the middle of decline." “Dear me," eba honno’n ol, “he looks very
well, too. Have you asked the doctor to come an’ see him?"
"No," ateba Moli. "but I think I will." Druan o
Moli, o’dd hi ddim yn gwpod yn ’ghlefyd i, a ma’ hi’n ffaelu a deall beth
sydd matar arno i. "Ma rhwpeth od arnat ti, Wil," eba hi bore heddi
amser brecwast, “ ’rwyt ti’n ochn’ido ishta tarw yn y nos, a ’dyw a’n effecto
dim ar dy ’stymog di. Wyt ti’n byta mor hearty ag erio’d. Os rhwpath yn dy flino
di?” “Os,
Moli, eba fi, ma’ ’na ryw lwmpyn lawr ma yn y mrest i, a ma fa’n ’y nilino i’n
enbyd." “Diffyg
traul, Wil bach,” eba hi, "treia Quinine Bitters ato fa, os shifftiff
rhwpath a fe shifftiff wnw fa. Fuws Bet yn ’waer yn godda’n enbyd odd’wrtho
am flynydda, a mi wariws, do, scorodd o buna ato, ond fasa ’run man iddi
towlu nhw i’r afon. Da’th Doctor Jones i’r ty rhw ddiwrnod, a dyma fa’n gofyn
i Bet, beth odd matar arni. “Wyt ti’n dishgwl fel cilog twrci,’ eba fa, “a
dyw’r lliw coch ’na ddim yn liw iachus, ’byca i. Wyt ti’n godda oddwrth diffyg
traul, ferch?” ‘Otw,
syr,’ eba Bet, ‘ma fa’n ’y mhoeni i’n enbyd, syr.’ ‘Oh,’ eba’r hen ddoctor, ’cymar
botelad o Quinine Bitters; wnaiff a fwy o les i ti na dim sy’ gen i yn y
surgery.’ A mi wna’th, a buws hi ddim yr un fenyw byth wetyn. Treia di fa,
Wil, ma’ fa’n siwr o ’neyd lles i ti." “Thankiw
i ti am dy gounsel," eba fi, “ond nid diffyg traul sy’ arno i, a do’s
dim un sort o Quinine Bitters shifftiff hwn i fi. A gwed y gwir wrtho ti,
Moli, do’s dim doctor all wella hwn. Wel di, ma’ fa tu hwnt i’w gallu nhw er
mor glefar i nhw.” “Wil
bach," eba Moli a golwg frawychus arni, “ma’n rhaid dy fod ti’n dost iawn;
tyn dy ddillad a chera i’r gwely nawr ar dy gyfer. Mynai i wel’d Dr. Jones nawr,
gwel’d beth wetiff e am danat ti” : a off a hi i ercyd ’i bonnat a chape. Aros
dicyn bach," eba fi, “glywast ti ’riod am y clefyd ’scrifenu?” “Clefyd
’scrifenu?” eba hi yn syn reit, “naddo i’r dyn; glywas am y clefyd melyn,
clefyd y galon, a chlefytach fel ’na. Shwt glefyd yw y clefyd ’na, Wil?” Wel, ma’
fa’n anodd i fi esponio fa, ti’n gwel’d. Ma fa’ ishta ryw lwmpyn mawr ar y
mrest i, a ma fa mor ddrwg fel wi’n ca’l gwaith ca’l yn anal. Ma fa’n wath y
nos na’r dydd, wn i ddim pam, a’r hyn sy’n od o bwthti fa yw nag yw a’n effecto
dim ar y myta i. Peth od arall a bwthti fa yw ’i fod a yn ’ala i smoco rhyw
lot digynyg. Welast ti ddim dyn tost yn gallu smoco llawar ariod, do fa? ond am
hwn, mwya’ i gyd fydd a arnat ti mwya’ o faco sy’ isha ar y gwalch.” "Wel,
am clywch y dyn, rhw glefyd od digynyg yw hwna. Os llawar yn marw o hono fa,
Wil?” "Na,
chlywas i ddim fod neb wedi marw o hono fa. Ond ma’r patient yn myn’d yn dost
digynyg ar brydia." “Os dim
moddion ar ’i gyfar a, Wil?" “Wel, os
ma moddion i’w ga’l, ond taw papyr i’w a.” “Papyr,
Wil, papyr? Chlywas i ddim shwt beth a ’nghlustia ariod. Papyr yn gwella clefyd!” “Ma’ na
lawar o betha wyt ti ddim wedi clywad, Moli. Dim ond papyr sy’n gwella hwn, a
digon o bapyr. Mwya’ o bapyr gai di, gora’ i gyd. Glywast ti am y bardd mawr
’ny, Shakespeare? Wel, fe gath ’e trwch ofnadw o’r clefyd ’ma, a mi usws rhw
dorath o bapyr. Dyna Gwilym Hiraethog wetyn; ’ro’dd Gwilym yn bregethwr mawr,
bardd mawr, a ’scrifenwr mawr. Odd isha llond cart o bapyr arno fe." I "Y
dyn, chlywas i ariod shwt nonsense. Llond cart o bapyr i wella tipyn o bo’n
yn y frest! Wyt ti’n dechra dyli, Wil? Sat ti’n gwe’d fod mwstard arno fa, mi’th
gredwn di.” “Wel, ma
am’all un o nhw’n rhoi tipyn o fwstard arno ’ed, a ma fa’n llosgi fel y cythrwm.
Ond nid mwstard melyn yw a, Moli, mwstard du." "Mwstard
du, y dyn; pwy glywodd son am fwstard du? O’n nin’n gwed fod ti’n dechra dyli,
Wil. Llond cart o bapyr, a mwstard du! Ma’n rhaid i fi ol doctor, nid at dy
frest di ’nawr, ond at dy ben di." Aros ’to
dicyn bach, Moli. ’Rhyn o’n ni’n feddwl yw hyn. Rhw ysfa am ’scrifenu yw’r po’n
’na, a’r peth gora i’r patient yw dicon o bapyr gwyn i ’scrifenu arno. Wrth cwrs,
ar ol ’scrifenu arno, rhaid ’i anfon a i’r papyr newydd a’i brinto fa. Pan
ddaw a mas miwn print ma’r clefyd yn gwella." "Ond
beth am y mwstard, Wil?” “Wel,
wylia yn ffigyrol o’n ni, ti’n gwel’d. Gwed ti ’mod i’n ’scrifenu rhwpath
saucy am ddyn, ma’ fa’n llosgi ticyn ar y dyn o’n ni’n ’scrifenu am dano. Dyna’r
mwstard yw hwna. Ma’ pob dyn mawr wedi ca’l y po’n ma’n i frest, rhw pryd, a
dim ond papyr a phrint all i wella fa." “Wel,"
eba Moli a’i llygad yn fflachio, “wi’n gwpod o’r gora beth yw’r lwmpyn ’na.
Gwynt yw a i gyd, ’ngwas i, a myna ticyn o bills i warad a. Wnaiff mwy o
ddaioni i ti lawar na phrint." WIL. |
|
|
(delwedd D7607) (04 Tachwedd 1911) |
04
Tachwedd 1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. Diolch i
chi, syr, am g’oeddi y llythyr d’wetha alas i chi. ’Ro’dd a’n etrach yn biwr
miwn print, a phan gwelws Mali fa bu hi jest a cha’l fit. "Y
llepryn," eba hi, "os genti ddim dicon o waith heb ’scrifenu rhw hen
sothach fel ’na? Ma’ arna’ i gwiddyl meddwl fod ti’n wr i fi. Y clefyd ’scrifenu’n
wir! Fysa’n well i ti lawar dori ticyn o go’d i fi erbyn bora fory, ’n lle
gneyd ffwl o d’hunan fel ’na. Wn i ddim beth wetiff ’newyrth William pan
glywiff a mod i wedi prioti un dicon dwl i ’scrifenu am ’i wraig miwn papyr
newydd. A beth gymrws afal ’arnat ti i ’ngalw i’n ’Moli’? Mali w’ i, cofia
di, a Mali fydda i er gwitha’r clefyd ’scrifenu na. "Meli
fach," eba fi pan ges i le i roi gair miwn ar ’i edge, “cymar bwyll. Nid
’y mai i odd a fod d’enw di wedi ’i droi yn Moli yn papar. ’Scrifenas i a’n
ddicon plaen, ond ma’ bechgyn y printars ’na, wel’ di, yn ca’l ’i blino’n arw
gan rhwpath ma’ nhw yn ’i alw yn ‘Printar’s Devil.’ W i ddim yn gwpod p’un a
oti nhw yn ca’l ’i blino gan rhacor o gythreuliaid na dynon cyffretin, ond
dyna weta nhw i gyd, os bydd bai yn rhwla, “Oh, that’s the ‘printar’s devil.’” "Paid
a wlia am ‘brintar’s devil’”, eba Mali. “Ma’ mwy o gythral, mi wna’n llw, yn
yr un ’scrifenws y lol na’r printar ddotws a yn y papar. Wi’n ’napod rai o’r
bechgyn ’na sy n gwitho gyta Evans a Short, a wi’n gwpod taw bechgyn nêt i
nhw. Dyl’sa fod cwiddyl ar dy galon di wed shwt betha am ddynon
respectabl." “Wyt ti
ddim yn gwpod beth wi’n feddwl," eba fi. O’n i’n gwed dim yn erbyn
caractor y printars, cofia. Ma’ nhw i gyd, mor bellad ag wi’n ’napod nhw, yn
fechgyn decha iawn. Ma’r boss, wel di, ’n flaenor gyta’r Baptis yn Jerusalem,
a ma’n rhaid i fod a’n fachan weddol upreit, ne fusa wedl ca’1 y kick-out o’
na slawar dydd. Ma’ bucal Jerusalem, wi’n clwyad, yn fachan od o strêt, ac os
yw popath ma’ nhw’n wêd yn wir am dano fa, ma’ fa’n batrwn i hanar pregthwrs
y Rhondda. Na, o n ni’n gwed dim byd yn erbyn caritor y printars, ond gwêd o’n
i fod ’na rhwpath - beth alla ’i alw fa? - in-.titti- tion, greta’ i - yn myn’d
wrth yr enyv I printar’s devil. ae ar ’i ’sgwydda fe rhaid i ti rhoi y bai
fod d’euw di wedi newid o Mali i 1 Moli." "Wd," eha. Mali, mj
glywas rhen Shon tilangors yn son cetyn am roi chwara teg i’r cythral, end
wyt ti’n ad-lo ticyn bach at ’i gyfrifoldeb a, greta i. Chreta i yn y niVW
fod ’na un cythral mwy yn shop y printars na sy’ yn shop Jones y blaenor.
< Ond, gad y cythral ’na yn y man ’na, rhyn Nyi-ij. wed oti fod a’n
gwiddyl digynyg tod ti’n ’scrifenu shwd lol a ’na i r Leader.’ O’n 111 n
arfadd meddwl yn uwch am y golycydd, a wi’n synu i fod a wedi condescendo i
brinto shwd st.wff. rital(I fod isha news yn ddigyoyg arno eyn busa fa. yn
gatal shwd fol-lal ddod allan yn i bapar." Dyna lle ’rwyt ti’n
camsynad," eba fi. Wyt t.i’n mesur pawb wrth dy lathan dy hunan. Ma’
llawer o dy sort ti i glill ar hyd a lIed y CWUl ’n.u. a, gall’sa dyn diarth
gretu fod boll ddoethineb yr oesa wedi ) grynhoi yn ych pena chi. Sa ti’n
gwpod y cyfan. ma’ ’na lawar o ddynon, a rhai lIed brominent ’ed, wedi clappo
’nghefan i am y Dythyr ’na. Dyna e l .i))P o ’n"- h e f aii i ’Ili i? llytliyr
jii. D yiia - - J ,LI Ddavies. yr Hengwrt. i ddechra, a 1 ma"n dwid i ti
addaf fod ("JI gwpod pwy I ochor i’r bara.ma’r menyn, achos o’dd i’ dad
a’n catw y-sgol cyn noladyddariod. Wt’),iedda’th yr hen Ddavies ata i y dydd
o’r bla’n, ac eba fe. William) ma n rhaid i fi ’eh congratulato chi ar yr
ysgrif ddyddorol ymddangosws yn y ]iapar y dydd o r bla’n. Chi n gwpod ffordd
i ’scrifenu ’n ddios. ’R^i’dd y situation yn humorous dro& ben. a’cli
ffordd chi o’i drin a yn ddicon i a la dyn pren i werthin." Thankiw,
syr,’ eha fi, ’na’r tro cynta’ i fj ariod rhoi pen wrth bapar.’ -Alwy o
(-i-f,dit, i chi. William bach. c,vi(If,iit it)(I gyta chi a true sense of
humour, a gnewch ych gora i ddevelopo fa; ma’ fa’n rare treasure dyddia hyn,
cretwch chi fi.’ Druan o Davies," eba. Mali, o’n ni’n arfadd ei-etu fod
ticyn o sens yn ’i glopa fa. ond un clai common yw e a. ni. "Sense of
humour,’ ’n wir! Pan o’n i’n grot an ffwlbi-i fydda nhad a mam yn galw shwt
lol a hyna. Ond ni.a’i- o ’s yma dieyu yr) I’uy jntlite nag o’dd Irlien bobol
slawar dydd. Caib fydda nhw’n galw caib. ond erbyn livit i-iiild rhoi ticyn o
holish ar bo path rhag ofan offendo rhw grachach o fobol. Sa. ’rhen Ddavics
yn gwed ’i feddwl, fe wetsa wrthot ti fd dyn taw ffolineb o’r sort dwla o’dd
;:1y Iythyr di, a taw ffwl tost o’t ti am ’i ’scrifenu a. Sense of humour yn
rare treasure,’ wir! Wn i am rwpath sy’n fwy rare o dieyn. Sens yw hWIIW ’<1,
ond taw common sens yw a, a fasa-’n f-eit(litli fawr i ti a’r giwad sy’n ciso
dy wthi di’r lan i ga’l ticyn bach o bono." Wel, ma’n rhaid i fi wed dy
fod yn encouragin’ jawlI j ddyn acha dechra ’i yrfa lenyddol. Mali. Ond. fel
’na ma’ i wedi bod, ac fel ’na bydd hi ’ed, ’byca i, hyd ddiwedd amser. Ma’
gan hob dvii mawr ’i sAN-ii)bwl yn y (--Il-lwd" ishta gwetws yr Apostol.
Fe gas Dickens, medda’r experts. wraig ddicon anghariadus. a, dicon helbulus
o’dd ’i fywad a. Dyna Carlyle a Ruskin, wetyu. ’ro’dd yr harn wedi llosgi’n ’i
c’lonna nhw o achos ’i gwracadd. A fel ’na wi’n gwel’d hi ’n mhob
cylch." William. (Iviia (Idief)ii ar ych ensyniadau chi." (Pan fydd
mwnci Mali lan, William" a chi "I mae nghalw i bob amsar). Phriotas
i ddim o chi i ga’l yn insulto fel hyn. Rw’ i wedi lxxl yn wraig dila, i chi
rhyd y blynydda, ac o’dd pop.it.ll yii iyiyi)d yn we(](Iol liyd ite-, i clii
clefyd ’scrifenu ’na. Os nag wi’n ych suito chi’n awr, mi a i ’nol at ’y
inham hyd ites y b’och wedi gwella o’r clefyd. ittiskin Carlyle, yn wir!
-Alia i enwi rai myn’wod sy lawar rliy dda i’w gwyi-, ond wi’n gobitho ’mod i
wedi codi yn rhy uchel i rhoi brath yn nghalon y dyn sy’n dad i ’mhlant i. Os
nag os geni lawar o sense of humour, falla fod geni ddicon o gomrnon sense i
pod pryd ma’ tewi ar bwnc fel yna." Ac off a hi at ’i mam ar ’i chyfar.
WIL. |
|
|
(delwedd D7605) (11 Tachwedd 1911) |
11
Tachwedd 1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. On i’n
dicwdd bod miwn cwrdd Proffesor Levi rw bythewnos nol yn Tonypandy, a ma’n rhaid
i fi wed fod y bachan bach wedi ’i gneyd hi’n biwr digynyg ’ed. Bachan a
future iddo fa yw Levi ys dywad y Sais, a dyw a ddim yn secrat yn y byd ’i
fod a a’i lycid ar Shir y Cardis fel membar o’ Parliament. Wi’n ’napod ’i dad
ys blynyddau; hen wr piwr digynyg yw ynta ’ed, a stim dowt i fod a wedi gneyd
gwasana’th mawr i Gymru a’i phlant wrth olycu y "Drysorfa Fach" mor
ragorol am shwt lot o flynydda. Pan o’n ni’n grwtyn, dim ond dou bapyr o’dd
yn arfadd dod i’n ty ni - y “Drysorfa Fac” a “Banar” Gee. O’dd nhad yn arfadd
gwed taw i ni’r plant o’dd a’n prynu’r “Drysorfa," ond chelsa neb olwg
arni nes ’ro’dd e’ wedi myn’d trwyddi o glawr i glawr, advertisements a
chwbl. Am y "Fanar," ’ro’dd hi’n hanar-cysegredig. Fe gym’ra nhad i
lw ar air ’rhen Domos Gee; ’ro’dd a’n cretu nag o’dd dim shwd ddyn yn y wlad
ag e’ - a wara teg iddo, ’ro’dd a ddim ’mhell o’i le ’ed. Ond am
Levi o’n ni’n w’lia. Chip o’r hen bloc yw e’, a ma fa’n siwr o neyd marc,
cretwch chi fi. O’dd ’i ara’th a ar ’rhyn ’ro’dd y Llywotrath bresenol wedi ’neyd
yn werth myn’d spel o ffordd i’w chlywad. Dangosws yn ddicon plaen taw y
Liberals sy’n myn’d i wella cymdeithas, a’i bod nhw ishos yn gwitho tra’r
oedd y Soshaliad yn gwiddi. Ac os o’s rhwrai yn gallu gwiddi, y Soshaliad yw
rh’iny. Ma’ nhw’n byw ar widdi, ac os na fydd ’na ddim i widdi o bothti, wel,
fe wna’n rhwpath. ’Rhyn wi’n ffaelu deall yw hyn: ma’r Soshaliad yn gwed taw ’i
petha nhw ma’r Librals yn paso yn y Senadd, ac eto i gyd, nhw yw ’rhai sy’n
screchan mwya’ am droi’r Llywotrath ’ma dros y drws. Ma’n rhaid i fi wed nag
wi’n deall argument fel ’na. Os taw mesura Soshalaidd ma’r Llywotrath ’ma ’n
paso, pwy isha troi nhw mas sydd? Dyna’r very thing, greta i, ddyla’i pleso
nhw. Ond y gwir am dani, Mishtir Golycydd, oti fod y Librals yn tori’r tir o
dan trad y boys hyn, a dyna sy’n gneyd nhw mor gas, ma’ nhw wedi dod i gretu
taw gyda nhw ma’ monopoly diwyciad cymdeithas, ac os bydd rhwun yn eisho
gneyd ticyn yn y cyfeiriad ’ma ’blaw nhw look out yw hi. Dyna Keir Hardie i
chi. Dyn gas y cic out gan ’i genedl ’i hunan, ac o’s dim son i fod a wedi
cwni’i fys bach i helpu un dosbarth o withwrs, fe yw’r dyn sy’n mynd ar hyd a
lled y wlad ’ma i feirniatu popath ma’r Llywotrath ’ma ’n gisho ’neyd. Ma fa
fel nobyn ymofyniad ar lwybr diwyciad, ac os gweliff a rhw fesur yn dod o’r
workshop Rhyddfrydig, ma’ fa ar flaena’n dra’d ar unwaith yn gofyn yn
scornllyd, “Pwy hawl o’dd gen’ ti, y labwst, i ddod ffordd ’ma cyn i fi roi
caniatad i ti?” Sa Hardie a’r giwad sy gyta fa ’n ca’l ’u ffordd, ddelsa dim
un math o wellianta i’r withwr hyd nes y bydda nhw yn y Cabinet. Ma ’ma dicyn
o wa’niath rhwng Soshalath a social reform, a fe aiff yr express Rhyddfrydig
yn ’i bla’n, cyfartha cwn Hardie faint a fyna nhw. Wel, i
newid ymatrodd dicyn, ys dywad Jones y pregethwr, beth i chi’n feddwl, dyn, o’r
glanastra ma’r Italiaid yn gneyd yn Tripoli ? Wi wedi darllan y papyra
dyddiol ’ma ’n fanwl, a ma’ rhaid i fi wed fod y’ngwa’d i’n berwi wrth ’i
ddarllan nhw. Meddylwch ’i bod nhw yn bwtchera’r dynon duon ’na wrth y milodd
heb un sort o escus. Nid rhyfal wi’n galw peth fel ’na, a wi’n synu fod y
gwletydd erill ’ma ’n gatal i’r macaroni pabyddol gario ’mla’n fel ma fa. Son
am Grist’nogath! ’Do’s dim mwy o Grist’nogath miwn peth fel ’na nag sy miwn
cwt ci Twm Deio. Stim dowt gen i fod ’r Italians wedi meddwl bod gyta nhw
soft job ar ’i dwylo, ond ma’ nhw wedi cym’ryd mwy o gnoad na allan nhw ’i
lyncu, a ma nhw’n dechra ffindio ’ny mas ’nawr. Ma hi just myn’d ’n drad moch
arni nhw cyn ’i bod nhw wedi lando bron, a’r nefodd sy’n gwpod shwt drefan
fydd arni nhw pan a’n nhw mas i’r wlad ticyn bach. Wi’n ofni bydd rhaid i nhw
’i roi lan yn bad job. Netho nhw fawr o beth a hi yn Abyssynia slawar dydd, a
stim gopath y gna nhw iotyn yn well yn Tripoli. Well i’r Italian fyn’d ’nol i
werthu ice-cream o lawar, ond wi wedi rybuddio Jane Ann nag yw hi ddim i
brynu werth dima gyta’r creduriaid digydwpod rhacor. - Ych ufudd was, WIL. O.Y. - Da’th
Mali ’n ol dranno’th wedi ’ngatal i - ffraews a’i mham, a ma hi’n awr ’n
foddlon, eba hi, i roi lan ar clefyd ’scrifeni. |
|
|
(delwedd D7599) (25 Tachwedd 1911) |
25
Tachwedd 1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. Ma’n
depyg bod amserodd anbydus o’n blan. Mhob twll a chornal dim ond son am strike
glywa i, a ma Mali just myn’d yn hippish wrth feddwl fel ma’ prish petha’n cwni.
’Rhen Soehaliaid ’na sy’n ’i - neyd a i gyd." eba hi, "a- yyi’n
stwnip iod Jitiie ii-e(ii prii otiI Ull hi’n speeciio lei y bydd petha o dan
Llywotrath Sochaladd yn y llgyru i’n dost reit." Paid a becso Mali fach/’
eba finna’n ol, stim O pdha mor withad a ’na ’ed, ac am y Llywotrath Sochaladd.
stim islia i t ’wna. Ond, yn y ngwir i, golwg dicyn yn dywyll wela i ar
botha. Un peth yw wlia am strike, peth arall yw dod trwyddi yn weddol ddeeha,
Wi ddim wedi anghofio strike y Cambrian eto, a os arna. i ddim rhyw Iiirath
mawr am un arall. Stim dowt fod petha yn ddicon drwg; wn i am law.ar yn
gwitllO’ll ’run heading a ti nag os gyta. iiiiii ddim llawar yn spar rol tain
n trots. a os bydd llwyth o 10 ar y papyr bach, wel, ma’r ticyn sy gyta nlny
i fynd sha thre yn fach digynyg, Will colio lihad ’slawar dydd yu dod sha.
thre a thri swllt yn ’i bccad wedi gwitho’n galad t.rw’l’ bythewnos; ro’dd ’i
.grwtyn a wedi ii)yiil(f t’r rest. ’Ron wech o deulu, a beth o’dd triswllt i
brynu ticyn o tara a lluniath ar ’n eyfar ni. ’blaw son am dalu wech swllt ’r
wthnos o i-piit! Win gallu gwo1’d mam nawr yn ishta yn y eornal a’r triswllt
yn un Haw, ac yn plethu ’i ffetog a’r Haw arall wrth (It-io cy,.Itro ffor(i(i
o,*dd hi’ii niyiid i gall dou pen y Uinyn at ’i giddyl. Do, welas mwy g we I
a s y dagra ’n docl yn ffrwd 07i llycid, c ina’n sefyll ae yn etrach arm. a
ffili dean am beth o’dd hi’n llefan. ’Ro’dd tri swllt y pryd ’ny yn ffortshwn
bach i fi. ac ’ro’dd gwel’d mam yn llefan a ffortshwn yn ’i Haw yn beth tu
hwnt i’m meddwl fach i ’i amgyffrad. Ond, dewch chi, ddeso i i wpod yn well,
a ma’ dagra mam pryd ’ny wedi llosgi’n eirias ar ’y nghalon i byth wed’yn.
la, son o’n ni am y strike, a i hyny daw hi os na ddangosif y mishtri a’r I
gwithw rs dicyn bach mwy o ysbryd plycu. O’n in darllen llythyr Mabon yn y
papar pwy ddydd, a o’ni’nrretu fod ’rhen fellow yn i gwed hi’n od o sensible
’Pd, "Ro’dd a’n dangos fel o’dd dynon, gwracadd, a phlant yn gorfod
godda ar amsar strikes, a o’dd a’n gwed peth arall ’ed i ni’r gwithwrs ddim
yn ’i gofio bob amsar - ma." na. ddynon bach yn godda. trw’r strikes nag
os gyta nhw ddim Dais na shar yn ’n cwerylon ni. Peth dicon haws yw rytag
lawr y shopwrs ’ma, alii galw yn Uatron, rack-rentars a phetha fel ’n:1; ond
teu i’r gwr bonheddig ’ed, ma’n dda i ni lawar tro fod am’all i shopwr a
dicon o galon gyta fa i bido S l l() ] )%%rl- .1 kl eoll 0 g, can shop pan o
ni mas ar strike. Ma’ ’na rliai common yn ’i plith nhw, stim dwywaith, ond
stim o’i ’n deg i libello class aehos un neu ddou. la. dyna o’dd Mabon yn ’j
wed, fod amsar plycu wedi dod. a os yo’s arbad strike i fod, wel. plycu bydd
rhaid, Wi’n ddicon hen ’nawr i wpod fod isha dou i Iii,ey(i eweryl bob amsar,
a wi wedi dyscu peth arall ’ed, fod isha dou i ’neyd heddweh. Stim dishgwl
settlo i fod os na. fydd y ddwy oehor yn fo’lon rhoi ffordd ticyn bach. (A o’s
dim isha i fi wed rhwng cromfacha fel hyn taw’r mishtri ddylsa roi fwya’ o
ffordd). Ma’ gento ni i gwithwrs gase rhy dda i lli ’i spwylo la wrth fehatio
fel lot o blant, a ma dyletsw’dd ar y mishtri i’n trin ni fel boda resymol, a
nid fel lot o .automatic machines. In short, ys dywad Dai Sais, cwestiwn
rlieswm yw Inn-I. a. stim ond rheswm a synwr cyffretin a ddaw a ehyfiawndar i’r
ddwy ochor. O’s geni ddim r’w dwmpyn o ffydd yn y boys ’ma sy’n gwiddi am ’r
whole hog bob amsar. Fel gwetws rh’wun dydd o’r bla’n, As a hattlccry it is
splendid, as a business proposition it is absurd." Na, ma’r ddwy ochor
yn gorfod ’lowo ticyn miwn bargan, a. wi’n cretu, os dangos if y mishtri a’r
gwithwrs dicyn o ymdrach i ddod i gwrdd giddyl, y cawn ni enjoyo cino’r ’Dolig
leiii fel arfadd. Ys dywad Jones y pregethwr ar ddiwadd ’i brecath, Hyn ufydd
was, WIL. |
|
|
(delwedd D7602) (02 Rhagfyr 1911) |
02-12-1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan At y
Golycydd. Ma’ hi
wedi bod yn helynt budr yn yr eclws wi n belongad iddi. Stim bucal wedi bod
gyta ni ys blynydda, a o’dd rhai o’n pobol ifinc ni’n cretu ’i bod hi’n bryd
i ni symud ymla’n gyta’r amserodd. “Beth yw gwerth eclws heb fucal?” eba Dai
Shirgar. “Stim mwy o yni yn perthyn iddi nac sy miwn hoelan i gwni ’ddiar y
llawr. Camsynad mawr, greta i, yw bod eclws fel Moriah, a chymint o fobol
ifinc yn belongad iddi, heb ddyn cymhw’s idd ’u arwa’n ar hyd y porfeydd
gwelltog. ’R yn ni ishta corff heb un pen iddo fa. Bobol fach, ma’n bryd i ni
ddihuno o’n cyscadrwdd, ne fe gollwn y dô ifinc sy’n cwni mor wired a taw
Dafydd Jones yw f’enw i." ‘Rodd
Dai yn gwed calon y gwir, greta i, a o’dd llawar yn cretu ’run fath a fa, ond
’i bod nhw’n of an gwed ’u meddylia. Y secrat am deni yw hyn. Ma gyta ni rhai
hen fossils o fla’noria’d a rywshap neu giddyl stim shwd beth a’u cyffro nhw
o’r manna lle ma’ nitia-. Wi’11 gwed dim yn ’i erbyn nhw fel dynon, cofiwch
chwi: wl’n cretti ’ti bod nhw, a’u cym’ryd nhw through an’ through, yn
ddynoji decha. iaii-ii i gyd, ond ’run pryd, wrn cretu ’u bod nhw yn gneyd
cam i-niii-r eclws yn ’u anwyboda’th. Wi wedi clywad fod dou neu dri o nhw
ddim yn mo’yn bucal o gwbl yn cretu, stim dowt, y busa hyny yn lleihau-dicyn
ar ’u awdurdod nhw. Ta beth, p’un ai gwir ne celwydd yw hwna- a bydda i ddim
yn lico slandro dynon gonast un amsar - ma’ hyn yu wir. beth bynag, fod y
majority o’r eclws yn dechra d’od i deimlo nag yw petha fel dyl’sa nhw tod. A
fe dda’th petha i’r pen ’rwthnos i ’wetha. Galwd cwrdd y brotyr ar ol odfa’r
bora, a Wra. "ïÃ�riams-rllu sy’n
ca ’i suspecto nag yw - ddim yn ffafrio c o’dd yn y gatar. Wel, fe dda’th y
ewestiwn mawr ymla’n, a o’dd hi’n ddicon hawdd gwel’d fod rhai o’r bla’noria’d
yn ddicon anghyfforddus ’ed. ’Ro’n nhw’n ishta fel pe busa nhw ar lwyn o
ddrain, a phan busa rlrw’un yn carttiu ’i wddwg, ne’lI pesweh yn weddol
uchal, o’ch chi’n ’i gwel’d nhw’ll nido fel sa nhw wedi ca’l start anbydus.
Fel gwetas i o’r bla’n. Wm. Williams o’dd yn y gatar, a dyma fa’n gosod y
matar ger bron y cwrdd. Wedi "golchi ’i d(lwyio "iiylswti fod wedi
gwcd taw draper yw Wm. Williams, a ma golchi ’i (I(Iii,’N, lo, yn naturiol i*
ddraper - dyma fel y gwetws a - yerbatim et litteratim report! Stim isha fi’ch
hysbysu chi, frotyr, beth yw amcan y cwrdd ’ma. chi’n gwpod i gyd, ’ddiar pan
ymadaws Mr. Dayies, ein diweddar winidog, y’n bod ni wedi ymlwybro ’mla’n heb
gymhorth bucal. Ma’ rhai blynydda bellach wedi paso er pan ymadaws Mr. Dayies
a ni, ond trwy diriondeb y Brenin Mawr, ’ryn ni wedi llwyddo i gatw’r achos
yn fyw, gatw a yn weddol anrhydeddus ’ed. Collad fawr, stim dowt, yw colli
bucal da a ffyddlon, ond, er taw fi sy’n ’i wed a, dyw’r gollad yn ’n hachos
ni ddim cymint a fasa fa, falla, miw n llawar man. ’Ryn ni, ariod, wedi ca’l
y gair ’n hod ni’n eclws heddychol. ac yn eclws withgar, ac er ’n fod ni wedi
ca’l ein difeddianu o wasana’th bucal, ’ryn ni wedi para ’mla’n ar y llinellau
hyn, a’r tebygolrwydd yw y galla ni fyn’d ymla’n am flynydda- yto. Ond, ma’n
depyg fed ’ma rhai yn teimlo fod isha ticyn o newidiath. Wi’n clywad fod y
bobol ifinc ’ma yn dychra achwyn fod islia bucal arnom, ac os na wnawn
gydsynid a’u dymuniad, y bydda nhw’n mwrw ’u coelbrena gyta rhai o’r capelydd
erill yn ’r ardal ’ma. Fe glywas ddo fod rhai o nhw’n ca’] ’i trwblu gan
amheuon, a ’do’dd neb yn y set fawr, medda nhw, all’sa rhoi ticyn o oleuni i
nhw. We], frotyr, ’rw’ i wedi bod yn athraw yn yr Ysgol Sul am ddeugan
mly/ledd, a wi’n cretu y galla ’i wed mod 1 wedi bod o wasana’th i ddega o
fechgyn ifinc yn y cyfeiriad hwn, a falla gallwn fod o ryw help bach iIr
byddigion hyn ’ed, pc basa nhw yn gwed hanar gair witho i. Ond. ma’n depyg
taw symud ymla’n ma’r o’s, a i-ii.a.icl paso’t- set fa%I-, N- dyddia rhain, i’r
pwlpit, os bydd ’na rhyw gwestiyna athrawiaethol dyrus ,n cwni. Otw i ddim am
wed dim ):n gà s yn erbyn y ’r.bol ifinc; ma’ rhaid i ni wrthy’ nhw, tun
(lowt, a ma’ rliiicl i iii sy’n myn’d miwn ticyn Ã�I oedran
gofio taw Ji li"-y fy:id yn cynal yr achos ma’s o law, a doethineb ar ’n
rhan ni fydda rhoi cyfleustra i nhw wed ’u barn ar y c-westiwn sy o y cwrdd.
Wi’n awr yn rhoi Y cwrdd yn agored i bawb wed ’i feddwl ar y niut&r hwn.
Cyn bod y cadirydd wedi ca’l amsar i ishta, dyma hanar-dwsiu yn cwni ar ’u
tra’d ’run pryd, a phob un yn gMrthod roi ffordd i’r llall. I laii it’r
c-.t(lirydd ar ’i dra’d yto, gan anog y brotTyr i gofio taw nid meetin’ clwb
o’dd a, ac i ymddwyn yn deilwng o’r ty. O ’1 diwadd m.i’iinaiorlty yn isthadd
lawr ac yn gatal i Dafydd Edmwnt ga’l hewl rydd. Siaratws Dafydd yn gall
clros ben ar yr angen o fucal, a dilynwd a gan Job Matthews, bachan a gwallt
coch, a thempar yn gochach na ’ny. Gwetws Job rhai petha hallt am y set fawr,
ond galwd a i order, am taw dewish bucal o’dd matar y cwrdd, nid bychanu y
"big guns." Fel fflachiad O1 ddryll dyma’r hen Domos Thomas y Felin
lan ar ’i dra d, a fe’i gwetws hi yn ffyrnig digynyg am y bobol ifinc sy am
rytag y shows i gyd," ys dywad a. O’dd hi’n ddicon plaem nag o’dd Tomos
ddim yn myn’d i blycu i’r storm, a fe dalws "1 dir fel derwen. chi’ll
son am ych pobol ifinc," eba fa, "welas i lawar o ddaioni ar law ’n
pobol ifinc ni ariod, a sa’r lot yn cwni ’u llythyra, wi ddim yn cretu y
cawsa ni dwmpyn o gollad." ’Ro’dd y gath ma’s o’r cwtyn, a fire an’
tongs y buws hi wetyn am sha hanar awr. Welas i ddim shwd rally slawar dydd:
wlia am gwrdd clwh! All’sa hwnw ddim dal canw’H ’n ymyl cwrdd brotir Moriah.
O’r diwadd fe Wm. Williams rhw cymint o gontrol ar y cwrdd, a wedi i bob un
wed ’i getyn. ro’wd y matar i yote. Cariws y for o ddicon, a phendrafynwyd dd’od
a’r ewestiwn o fla’n ’r eclws noswath ’ny. Cewch hallas y cwrdd ’ny tro nesa.
- Ych ufudd was, WIL. |
|
|
(delwedd D7606) (09 Rhagfyr 1911) |
09-12-1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. ‘Ddiar
pan scrifenas l’r llythyr diwetha wi wedi bod mwn dwr po’th. Clywws rai o’r
bla’noriaid ’mod i wedi scrilenu ticyn o hanas cwrdd y brotyr i’r papar ’rwthnos
wetha, a d’ethpwd a’r peth. o’u hla.’n nhw hora. Sul. lla’n depig rod dOli no
dri o henyn nhw yn i gwed hi’n hallt digynyg am ych ufudd was. a fe glywas
fod Wm. Williams yn ddicon cas i nghroci i heb unrhyw sort o drial. On ni
wedi bod yn cwrdd y bora. ac o’n nj’n myn’d i ishta. lawr i ga’l ticyn o gino
gita Mali a Jane Ann pan da’th enoc dicyn yn sharp ar ddrws y ffryiit. Pos’man!"
eba Jane Ann. Pwy pos’man wyt ti’n wlia. feroh, amsfir cino dydd Stit"
])yn y ia’.r greta i," eba Mali, a off a hi a r jwg i’r drws. Shwd i’cli
chi bora ’ma r eba r Ihús wrth y drws. "Oti William gartra? "O!
chi sy’ ’na." t’ba Mali, gati .stuno r jwg dan ’i ffeto- Deik-eii
Till.-I William yn y gecin ganol ’n myn d i ga 1 tamad i fita." Buo i
just a chwmpo r gylhuh a r cH.o re i’r Uawr! Pwy o’dd a ond Wiii. Wdh?ms.
"Cera o dan dra’d," eba fi,yn rhoi cic a o claii i yii i- l iol
(,I(, i’r gath fel sort o escus i ga 1 roi yent i nheimlata. Dewch ’m]a’n man
hyn. Wm. Williams, i’r gatar fawr. Ma’ hi dicyn yn o’r heddy’ r eba h i
ddeehra ’r sgwrs. Oti, ma’ hi dicyn yn o’r wir. hen fellow ’n swrth reit
"ond )e ddeso i o le weddol twym." O," eba fi - o’n i’n diall
both o’dd ’Then chap yn drifo a to. ond fe gymra’n llw mod i’n etrach mor
ddiniwad a babi i chi wedi ca’l cillo. fe wela, a stilit yn well i dWlllO dyn
ar dnrnld o r na phryd da o gino. Clywas nadcu pn gwed sebrodd o with a taw r
peth gora i ddyn a. ticyn o anw’d arno i w pitcho miwll i fita gymint a gall a."
Dyn call o’dd ’rhen Dornos Jones," cha. William, "a ma’n depig i
fod an diall y clefytach ’ma gystal a neb. Oud a gwed y gwir i ti, nawr
detllo i o’r -eapal. "0." eba fi, i cli’n ’weddar heddy’ rn’ii
rhaid foci gita chi fusnex di< yn yn bwysig o fla’n y cwrd<t? Pwysig
iawn," eba for gnu gwnnu’i lycid Ian i’r ciling. :’Falla’n wir,"
eba finau o’n ni’n gu pod ’i fod a’n d’od nes i dre. j Y gwir am deni,"
eba fa, chi. Wm. Jones, o’dd matar y cwrdd bora heddy’ Falla’n wir," eba
fina ’to, ma’n dicyn o gredit i fachan fel fi ga’l bod yn destyn cwrdd bla’noriaid
wit ha. Fel glywas fod cwrdd y brotyr wedi pendrafynu roi cwestiwn y bucal o
fla’n ’r eclws, ond stim o chi’n meddwl roi gahyad i ll: oti chi. Wm.
Williams? Wil! eba Mali. "paÃd a wiia mor ^con am betha crefydd. Nid
matai o sport i’w dewish gwinitog ar oclws fel ^loriah, cofia di. Ma’ isha do’thinab
a phwyll wrth waith fel ’na." O’s. man depig. eba fi, nl;^ n hecl^s ni
wedi arfadd dicon o bwyll ar y ewestiwiT hyn iiial nhw wedi bod n pwyllo am
dros saith mlynodd, a i fi Set-ytil,I-ol S,-Iith Dilyiiid(I <f newyn y’n
nhw wedi bod ’ed. Ma’n enid i just a staryo ar y pctha wi’n yn y cyrdda
wthnosol. a onibae am am’all i brecath ar y Sul wÃ�n cretu
y byswn i wedi llAi-(-ii slawar blwyddyn. Ac am y do’thinab na 4)t, tiln am
dano, ’r unig ddo’tiiinali wi wedi gwel’d yn Moriah yw’r do’thinab sy can y
bla’noriaid i gatw’r awdurdod yn i I ].I NN-Ii hunen." "Ma’n depic ych
bod chi, Wm. Jones, ’run fath a llawar erill yn ’r eclws, yn eretu fod ’r
imsar we(li tl’o(I i ni ("ra’l gwinitog," eba ’rhen William. Wi ’n
i gretu a ys blynydda," eba fi, st chi’r bla’noa-iaid ’na sy’n ishta mor
sanctidd ych gwynepa yn y’set fawr yn cislio meddwl dicyn bach am les yr
eclws, bysach chitha yn i gretu a ’ed." Wel, ar y cwestiwn ’na wi wedi d’od
i wlia. a chi," eba Wm. Williams, ’n golchi ’i ddwylo. "FaUa,"
eba fi; "nawr iiist. giy(,tcoci-I chi taw fi n’dd matar cwrdd y bla’noriaid
bora heddy’, a dyma chi ’n awr yn gwed wlL bod chi wedi d’od i wlia s’ha fi
ar y biie4al. i%la’ii rhaid i fi gretu fel’ na ycli bod chi yn Saeddwl roi
galwad i fi." Plflwcli cellwar, y dyn," eba’1’ hen fellow yn wyllt.
’Rhyn o’n ni’n fcddwi pan wetas i taw chi o’dd matar y cwrdd I bora hcddy’ o’dd
bod ych gwaith chi ’n?critenu hanas cwrdd y brotyr i’r papar newydd wedi bod
dan ’styria’th y bla’noriaid. a ma nhw wedi gofyn i fi wlia a chi ’nghylch y
peth." "0," eba. fina, "dyna chi ’n d’od nes i dre dicyn
gwetweh wrtho i beth yw barn y bla’noriaid. Otw i’n myn’d i ga’l y chuck-out,
ne ot-icii chi "n meddwl rhoi i dan ddiscyblath? Wel," eba fa, yn
etrach i’r tan, ma hwna yn gorfFws lawar arnoch chi. _M;i’n rhaid i fi wed
wrtho chi ’n blaem nag i ni’r bla’noriaid ddim yn cym’radwyo scrifiuiu hanas
cwrdda’r eclws i’r papyra, a ma’ rhaid i chitha addo na ’neweh chi ddim racor
o hono fa. ’Dyn ni ddim yn gwpod ’n iawn ffordd i withretu ’n ych aclios chi
pan dynwd y rlieola ma’s c’dd yn tada ni ddim yn meddwl am reportars, a ’do’s
dim darpariath ar gyfar ’i aclios ulny. ’Nawr, wi am wed hyn wrthoch chi os ’newch
chi addo pido scritenu racor. ’newn i fadda i chi, end os chi, bydd rhaid i
ni fyn’d a’eli aclios chi i’r Cwrdd Cwartar. Chi gewch o hyn i’r Sul nosa’ i
’styriad y matar." Dyna ddiwadd ’i brecath a: fe gymrws ’i lid a ma’s a
fe. dan elamo’r drws. Anghofiws wed Bora da" wrth ’matal. -Ti tI wedi
gneyd hi o’r diwadd." eba Mali; o’n ni’n gwpod shwt bysa hi hen glefid
scrifenu ’na.’ Paid a beeso, Mali Ifach. eba fi "wi’nhito dim blewyn am
denyn nliw. Ccranhwa’rpeth i’r Cwrdd Cwartar os lica nhw all hwnw ddim rhoi
jail i fi ta beth ddaw o bono fa. Cwit dicyn o’r tatws ’na i fi." O’n ni
wedi addo rhoi ticyn o banns y cwrdd eclws i chi ’rwthnos hyn, ond o’dd rhaid
i fi wed am yisit yr Escob. - Ych tifudd was. WIL. |
|
|
(delwedd D7601) (30 Rhagfyr 1911) |
30-12-1911 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. Oti clii
ddim yn meddwl, syr, fod hi’n bryd i ni ddotl stop ar y fuss ’ma amsar ’Dolig?
O’n ni’n arfadd cretu fod y byd yn dye lira, d’od yn gallach, ond
mt"i-hal(I i fi wed fod y jjreto ’na wedi ca’l ’i shiglo yn enbyd y
bythewnos wetha ’ma. Stim i glywad yn y stryt wi’n byw ynddi ond swn myn’wod
yn clocsan hi sha’r bakhws a llon’d ’u bricha nhw o dishena. Gwynt, tishan sy
’liihetii-n,,iii ar y llofft, ar y llawr, mas ar ’r hewl; wi wedi bed yn byw
am; fythewnos cyfan mwn atmosphere o disliiii, t wi just yn cretu ’mod i ar y
ffordd i droi yn dorth o dishan gurran.s ’m hunan. O’n ni’n wIia. a’r wraig
sy’n catw’r bakhws pw’ dd warnod ’ma, a o’dd hi’n gwed" wrtho i fod
amall i deulu yn hala cymint a phymtheg torth o dishan i bopi, a ma’ gita’r
teuluodd tlota u’dd y dishan fwya’ rich. ’Rarswd fawr, mcddylwch am ’lla.
Pymtheg torth o dishan Ma’n rhaid fod gita’r dynon bach ’na stymoca. ishta
lletar. Fusa un torth o dishan ’Dolig yn y mowio i mas right- away. Pymtheg
forth O dishan heb gownto’r twrcis? y pwdins, a rhy\? lot O1 onSarn erill Otw
i’n wir yn cretu ’i bod hi’n bryd i ni alw stop ar shwd fratadd. Gwyl fawr y
bola yw’r ’Dolig ’nawr’ a’r twrci yw’r aberth ar yr allor. Ma’r bwtchwr ’n
fwy ’i barch ’r atag hyn o’r flwyddyn na’r person, a ma’r geni ’n Methlehem
yn c a’l ’i angliofio ’n swn claddu’r cino ’Dolig. O ia. busnes od o bwysig
yw par’toi ar gyfar yr wyl fawr. Pidwch wlia am ddim os na fydd yn bearo ar
gysegredicrwdd hon. Beth yw Bil yn y Senadd i’w gydm.aru a cha’l y suet mwn
pryd! Pwy ots faint yw’r trethi os bydd y sultanas yn ddima’r pound ’n
chepach yn shop Pegler na ’n shop y Co-operatiye! Consols yn cwmpo, wetsoch
chi? Beth yw ’ny’r dyn geso ni’n twrci swllt yn chepach na’r dynon drws nesa’
Ma’ pelan fawr y greadicath yn teddi ’n ddim ’n ymyl pledran o lard. Na,
pidwch wlia am ddim ar y ddaear na than y ddaear, mwn politics na chrefydd,
ma busnes ffest y ’Dolig yn llawar rhy ddifrifol i bethach fel ’na ga’l sylw’r
dyddia, hyn! I chi ’n gas y dyn. meddweh. Nagw i’n wir; ond alia i lai na
thimlo mor warnal yw dynon wedi’r cwbl. Dyna Mali ’r wraig. Wetwn i ddim gair
yn ’i herbyn am lawar; ma’ hi gystal gwraig a allsa dyn ga’l mwn dwarnod o
gerddad, on’ ma’ hi ’run fath a’r rest yn. y peth hwn. A i fi wed y gwir, ma’
byw gita hi wedi bod yn brofedicath i fi ’r bythewnos wetha Ima. Wi ddim wedi
gallu cyscu’r nos fel dylswn ni; pan fydda i’n dychra cau n llycid, fi
jwmpiff Mali lan ar i isht;4dd, yn wyllt reit- wrth foddwl am y pwdm ar y
tan. "0 William," eba hi. oti chi’n meddwl fod y sospan ’na’n berwi
n sych? Mwn cwartar awr bydd ar i ishtadd ’to. Dyna hen shimpil ath John ych
brawd lla fusa fa’n hala twrci i ni leni fel arfcadd." Allsa petha ddim
myn’d ’mb’n fel ’un. a fe wetas wrthi dwarnod ne ddou cyn 1),olig,
"Dishgwl ’ma, Mali, stim isha i ti ’neyd y fuss fawr ’na o’m rhan i wi
ddim yn meddwl bita dim o’th dwrci na dy bwdin di." Dyn dishefo i’n
brudd," eba hi, wyt ti’n dychra scawni yn d’ben William? Taw a dy lol;
os na fiti di ’rhyn rho i ti, chai di ddim arall." "0 aros
di," eba fi, ’‘g?? wel’d." "Be’ sy’ matar arnat ti,?dham?? eba
hi. Wyt ti’n arfadd bita n hearty reit o nghino i bob Dydd ’Dolig, a pam wyt
ti’n gwed na fiti di ddim leni? Wi ddim yn ’i mcyn a," eba fi. Ar ol ’n
holl drwbwl i i gyd," eba hil "dyna’r diolch wi’n gal gen ti am
aros lawr spoi hanar nos i lanha’r currans a r resins, a wilo pob shop yn y
Pandy am nutmeg." Wel, ofynws neb i ti," ob& fi. Na, on’ sa ni
heb ’neyd ’ny fusa dicon o fwstwr ’da ti, a busa dicon o hen gloch gen
ti." A dyma hi’n d-eclira ’i gollwng hi. Os 6s rhwpath yn gasach na 1
giddy1* gen i, gwel’d menyw ’n llefan yw ny. Allswn i ddim o’i ddal a, a eba
fi, ll NYel, Mali fach, drea i fita tamad o dy bwdin di, on’ chymra i ddim o’r
twrci." "Ffordd ’ny?" eba hi," ’n tynu 1 llaw dros ’i
llycid. "Wyt ti’n ots nag arfadd. Ot ti’n arfadd gwed fod tin lico cig
twrci achos fod llai o frasdar ynddo na chig gwydd." na’ii  Wel,
ia," eba 6, "ma’ wna’n reit 1 wala; ond fusa’n well gen i ga’l
ticyn o boro. Stim o twrci yn cytuno a fi ’nawr. i Pore!" medda hi;
"fuws dim pore1 o fun). 1 ll ty ni acha Dydd ’Dolig ariod."
"Paid hito," eba fi, "ti gai d i’r twrei, a dera ticyn o bwc i
fi." Fel ’na buws hi. A’th Mali mas nos Satwrn a phrynws pishyn bach o
bore i fi. Bora ’Dolig, wedi i fi dd’od sha thrc o’r cwrdd, da’th Mali fiwn i’r
parlwr ato 1. "Tasta hwn," eba hi, "wyt ti’n clywad lhw flas,
od ar y pore Tastas y tamad eig. "Nag wi." eba fi, "cig
splendad yw a." Mwn rhw gwartar awr dyma ni’n ishtadd lawr i ga’l cino.
O’dd y cino’n myn’d yn first class, ()iid o’i-i i-ii’n ftill deall beth ()’dd
y willeo ar Jane Ann a’i rnhani. Wedi i ni fita’r pwdin; gofynws Mali: Beth o’t
ti’n feddwl am y cino, Wil? "Cino splendid o’dd a." eba fi. Licas
ti’r pore? eba hi. Fitas i ddim gwell tamad bach o gig ariod," eba fi.
Ha., ha," eba hi, o’n ni’n gwpod y licsat ti’n nghino i wi we,(Ii catwlr
pore snoi fory, a o’n ni’n falch dy glywad di’ll gwed i ti enjoyo’r
twrci." Oti, syr, wi’n cretu ’i bod hi’n bryd i roi stop ar y fuss a’r
ffesto ’ma amsar ’Dolig. - Ych ufndd was, Wil. |
|
|
(delwedd D7600) (06 Ionawr 1912) |
06-01-1912 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. Blwyddyn
Newydd Dda i chi, syr; sgwlwch yn dda ga i g’lenig? Ia, dyma flwyddyn arall
wedi myn’d ’to at yr hen gownt. Dear me! fel ma’ amsar yn myn’d h’ibo. ’Dyw
hi ddim on’ ishta ddo ’ddiar pan o’n ni’n cro’sawu’r flwyddyn newydd wetha, a
dyma hi’n awr wedi’n gatal. Faint o betha sy’ wedi dicwdd ’ddiar hyny? I ni
wedi cael y Coroniad,yr streic y relwes, yr Urdd-wisgiad, riots, a phetha
mawr erill, rhai o henyn nhw nag o’n ni’n breuddwyto dim am i gweJ’d nhw.
Faint o’n hen gyfeillion sy’ wedi ’matal a’r fuchadd hon? Faint sy’ wedi troi
’u cefna arnom ni am wletydd erill? Faint sy’ wedi prioti, a faint sy’ wedi ’u
geni? Rhw whirligig ryfedd yw amsar wedi’r cyfan, a ma’ fa yn ’n lando ni
witha mwn lleodd od. Ia, dyma ni ar ddechra blwyddyn newydd ’to, a’r cwestiwn
i ni ’nawr yw pwy bendrafyniata i ni meddwl nuthur y tro ’ma, a faint o henyn
nhw oti ni’n meddwl ’u catw? Ryw idea od yw gnuthur pendrafyniad ar ddechra
blwyddyn, serch hyny. Ma’ fa’n rhyw sort o addefiad nag i ni ddim wedi
gnuthur ’rhyn ddylsa ni ar hyd y flwyddyn sy’ wedi paso. Fydda i’n dishgwl ar
flwyddyn ishta rhyw summary bach o fywyd dyn yn y byd ’ma. Chi’n gwpod pan
fydd dyn yn tynu tua cwt ’i fywyd, un o’r petha mwya’ am’al sy’n d’od dros ’i
wefusa fa oti ryw frawddeg fel hyn: "O na chelswn ni ail-ddechra ’mywyd
unwaith ’to!” Wel, just fel ’na ma’ hi ar ddiwadd blwyddyn. Wrth ddishgwl ’nol
ar y dalenna i ni wedi ’u troi drosodd am byth, ryw feddwl fel hyn sy’n cym’ryd
meddiant o hono ni: “Na biti na allsan ni rhwbbo’r stain ’na off o’r ddalan
wen ’na, a rhoi rhwpath yn well yn ’i le." Ond chewn ni byth ’neyd ’na.
Pwy sy’n gwed -’rhen Omar Khayyam, greta i- “The moving
finger having writ, moves on, Nor all
thy piety nor wit, nor all thy tears Can
erase one word of it." Wi ddim
siwr ’mod i wedi dyfynu’n reit, ond rhwpath fel ’na ma.’ fa’n wed, a ma’ byd
o wir ynddo ed. Ia, amsar i gym’ryd stoc yw hi ar ddiwadd blwyddyn, a pan b’o
ni’n myn’d o bothti hi, rhyfadd mor fach yw’n stoc ni wedi’r cwbl. Ne’r hyn
ddylsWn wêd oti, mor lleiad yw’r stoc o betha da sy gita ni. Ma gita ni lot o
bethach fusa’n well i ni fod hepddyn’ nhw o lawar; rhyw lot o’r us a ’chytig
iawn o’r gwenith. Wel, beth i ni’n myn’d i ’nuthur yn y flwyddyn newydd?
Fyddwn ni ryw dicyn nes ’mla’n ar ’i diwadd hi nag o’n ni ar ’i dechra hi? Ma’
amsar y pendrafyniata wedi d’od. Pwy bendrafyniad newydd i chi wedi ’i ’nuthur?
Peth dicon hawdd yw gnuthur pendrafyniad, ond peth arall yw ’i gatw a. Wi’n
cofio dechra’r flwyddyn wetha, gnetho i bendrafyniad i bido smoco dim owns o
facco byth on’ ny’. Gatwas i’r pendrafyniad? Do. Am dri dwarnod solit o’dd
bacco, pib, a matches yn ’y mocad i. Pan b’o i’n gnuthur pendrafyniad i bido
smoco, wi’n gofalu fod dicon o’r "twls" bob amsar yn ’y mocad i. Ma’n
hawsach i gatw o lawar pan i chi’n gwpod fod gita chi’r wherewithal, ys dywad
Dai Sais, i dori a pryd mynoch chi. WeI, fel ’ny ’r o’dd hi ddechra’r
flwyddyn ddiwetha. pan netho i’n meddwl lan i bido smoco raoor. Fel gwetas i.
’r o’dd y bacco a’r matches yn ’y mocad i, a o’dd popath yn myn’d ’mla’n yn
dde-chs digynyg. O’dd dim mwy o isha. mwcyn arna i nag o’dd ar yr hen gath sy’ gita Motryb Jane. A
gwed y gwir i chi, o’n ni’n dechra safio arian, a o’dd Mali’n gwed ’mod i’n
dishgwl lawar yn well ’ddiar pan o’n ni wedi towlu’r bacco lan. Ond. druaji o
hono i, ’mhen rhyw dri ne’ bedwar dwarnod mi etho i i dy ffrynd i fi i wel’d
oil paintin’ o’i dad Pan etho’i ’no ’r o’dd Twm Berdar a Dai Shirgar ’no o
mla’n i, a o nhw’n tynu arni fel par o steam ingins. ’R o’dd y ty yn llawn
mwg, a allsa ni ddim gwel’d gwymeta’n giddyl just. Cymar gatar," eba
Jacy ’y martnar wrtho i, "a dera ’mla’n man hyn." Le ma’r paintin’?
eba fi. Aros dicyn bach," eba Jack, c. ti gai di weld a heb fod ’n
hir." Ishteddas lawr, on’ os o’dd na bitchwr, o’n ni’n ffili’n deg a’i
wel’d a; fusa ’n llawr mor rhwydded i drio gwel’d yr haul yn Llundan pan ma’r
fog lawr. "Both wyt ti’n disbgwl ar y wal ’na mor seriws f" gofynai
Jack. Wel, wi isha gwel’d pictshwr dy dad," eba fi. A dyma’r tri yn
dychra, werthin fel lot o ffwliaid. "Be’, sy’ matar? eba fi. Wel, ti’n
gwel’d," eba Jack, ti yw’r pictshwr. O’n ni wedi clywad d’ fod ti wedi
towlu’r bacco lan, a o’n ni am wel’d shwt busa ti’n Qfljoyo gwelld erill yn
smoco. A ma’n rhaid i fi wed i ti ’nuthur pictshwr net ed wrth dy stumia di.
’Nawr, dyma bib a bacco i ti, light up, ’ngwa. i." A light up buws hi
ed. Netho ’run nendrafyniad i bido smoco wetyn. - Ych I ufydd was,
WIL. |
|
|
(delwedd D7604) (26 Ionawr 1912) |
27-01-1912 Llythyrau
Wil Cwmbychan. At y
Golycydd. O chi
ddim yn napod Tomos Shams, o chi, syr? Bachan budyr o’dd Tomos. Thomas James
o’dd ’i enw fa, on’ o’dd neb yn ’i napod wrth ’r enw ’na. Tomos Shams o’dd ’r
enw glywas i arno’n grwtyn, a’r un enw fuws arno tra fuws a byw. Dyn o
Gwm-Nedd ’odd Tomos, on’ fe dda’th i’r Cwm ’ma yn grwtyn gita’i dad a’i fam,
a ’ma ’nath a ’i nyth byth ’ddiar ’ny. Pan o’dd Tomos yn fachan ifanc o’dd a’n
arfadd myn’d at y Bedyddwrs, on’ wedi iddo brioti ath gita’r wraig at y
Methodus. O’dd gwraig Tomos yn Fethodis o’r Methodus; o’dd hi’n gwpod ins an’
outs ’rhen Gorph i gyd: ’ro’dd ’Fforddwr Charles a’r Cyffes Ffydd ar bena’i
bysadd hi, a o’dd hi’n arfadd gwed taw’r dyn mwya’ fuws ar y ddaear ’ma ar ol
Paul o’dd Charles o’r Bala. "Ware teg iddi, menyw lan gita’i gwaith o’dd
hi, a o’dd hi’n fenyw ola iawn ’ed. Allsa atrodd faint fynsach chi o adnota;
’ro’dd hi fel sa chi yn y Cwrdd Eclws witha pan fusa hi’n wlia a chi, a fe
glywas wêd ’i bod hi witha yn dychra’r otfa yn y Ty Cwrdd Methodus pan fusa’r
brotyr dicyn bach yn shy. Wel, fel
o’n ni’n gwêd, wedi i Tomos brioti, gadaws y Baptis, a fe ath at y Methodus.
On’ er cystlad menyw o’dd ’i wraig a, ffilws hi’n lan a’i ga’l a i joino gita’r
achos. Gita’r gwrandawrs o’dd Tomos o’r dechra i’r diwadd, a stim dowt fod
hyny wedi becso ticyn ar ’i wraig a ’ed. Clywas hi’n becan arno lawar pryd i
fwrw ’i goelbren stywad hi on’ para’n stiff o’dd Tomos. Fuws y gwinitog ar ’i
ol a, do, ddwseni o witha, on’ sefyll fel adamant o’dd ’rhen bechadur. Cer di
mla’n," eba Tomos wrth ’i wraig ar ol un o’r bouts ’ma, fe wna i o’r
gora." On’ ma’
arno i ofan, Tomos, ma’ dyn ar goll fyddi di’n y diwadd," eba hi.
"Paid a becso," eba fe, “fydda i’n reit i wala. Ma’r Brenin Mawr yn
gofalu am gywion yr estrys." “Oti
siwr," eba hitha, “ma mal ’na’n itha gwir, on’ cofia, mwya’ i gyd fydd
dy gyfrifoldeb di yn gwrthod y Bywyd pan ma’ hi’n ddydd gras ac yn dymhor iathawdwriaeth."
O’dd
Tomos yn gallu ’neyd dim pan fusa Jane ’i wraig yn towlu adnota fel hyn ar ’i
draws a, a ’ro’dd hitha yn ddicon call i bido gwasgu gormod arno pan welsa hi
’i fod a ar lawr. Fel ’na buws petha, a fe ath yr hen fellow i’r bedd yn
wrandawr a dim on’ ’ny. On’ fe gladdwyd ’i wath a lawer tro. Os nag o’dd a’n
aelod, ’ro’edd a mwn llawar o betha yn batrwn i aelota tai cwrdda ’i ddilyn
a. Dou
wendid mawr o’dd yn perthyn i Tomos. ’Ro’dd a’n gollwng am’all i lw bach yn
slip, a ’ro’dd a’n od o ffond o fowls. Rai blynydda cyn iddo farw buws cwmni’r
gwaith yn ddicon piwr i roi "lamp fach" iddo, a o’dd ynta, wrth
gwrs, yn meddwl ticyn am yr anrhydedd. ’Ro’dd Mr. Davies, manager y gwaith,
yn ddyn strict iawn; o’dd a’n ddiacon gita’r Dissenters, a os o’dd rhwpath yn
gas ganddo, clywad dyn yn rheci o’dd ’ny. ’Ro’dd e’ a Tomos un dwarnod yn myn’d
trwy ryw hen waith, a, rhywfodd neu giddyl bwrws Tomos ’i ben ’n erbyn
carrag. “---- mawr,"
eba Tomos "beth ---- o’dd ’wna?” "Beth
wetsoch chi, Tomos? eba Mr. Davies. "O
’rhen garrag ’na!" eba Tomos; “welwch chi’r claish ’ma ar y nalcan i!” “Wi’n
gwel’d y clais," eba Mr. Dayies; “ond pwy isha colli’ch tempar a chablu
fel netho chi?” “Netho i
ddim cablu," eba Tomos. “Ond
clywas i chi’r dyn," eba Mr. Davies. “D---- ariod!"
eba Tomos, “netho’i fa heb yn wpod i fi ta." Dyna chi
’to," eba Mr. Davies; "da chi, cishwch atal hen arferion cas fel ’na."
Gwendid
mwya’ Tomos o’dd ’i fowls a. Welas i ariod mo honyn’ nhw, on’ clywas Dai
Berdar yn gwed fod gita fa gollection - gair Dai yw hwna -da digynnyg. “Ma atar
pert gita fa," eba Dai wrtho i ryw ddwarnod. “Ma’ pob sort o fowls gita
fa. Ma’ gita fa’r bantams bach lleia welas i ariod a’n llycid, a ma’ ’na bob
short o Plymouth Rocks gita fa." O’dd pob
un yn district Tomos yn gwpod am ’i wendid a; os busa isha cogyn, ne bar o
rails y ffordd siwra o’u ca’l nhw fusa braggo’r fowls. ’Ro’dd ’rhen Wm.
Roberts yn arfadd gwêd fod ’na lawar yn byw ar fowls Tomos ’blaw Tomos a’i
wraig. A o’dd a’n gwed calon y gwir. Wi’n cofio un dwarnod pan o’n ni’n
gwitho gita Dai Cwmnedd, o’dd isha cogyn yn dost arno ni. "Beth
’newn ni fachan?" eba fi. “Wyt ti’n cretu y gnaiff ’rhen Tomos ala cogyn
i ni?” "Wi
ddim yn gwpod," ebai Dai, "on’ fe treia i fa." Ryw awr
ne ddwy wetyn, pwy ddath lan trwy’r fäs ond Tomos. “Holo, Tomos,"
eba Dai, "i chi’n dishgwl yn serchus digynnyg. Oti chi wedi enill prize
arath gita’r cilog na?” "Wel,
nagw bachan. Ma’ fa’n bwrw ’i blu, a stim iws i fi ala fa i’r shews nawr, ti’n
gwel’d," eba’r hen fellow yn ddiniwad reit. Wel, gwetwch chi be’ chi’n
dewish, cilog pert yw a, eba Dai. Wi wedi gwel’d llawar O giloood, on’ welas
i ddim gwell hwna’n unman. Halwch a i’r Crystal Palace, Tomos, ma’ fa’n siwr
o scupo’r lot o’i na’n." .0 "Wyt ty’n cretu ’ny, Dai?" eba
Tomos. "Cretu ’ny!" eba Dai; "wi’n gwpod ’ny! Dyn! welas i’r
shew wetha yn LIUlL dan, a cretwch chi a ne bido, fe allsach cilog chi wado’r
lot yn single-handed. Busa am’all i hen fancier wedi ’neyd ’i ffortiwn o’r
cilog ’na, Tomos, cretwch chi fi." Gewn wel’d ar ol iddo facu ’i blu
beth ’naiff a," eba Tomos, a dyma fa’n troi i ga’l myn’df. O,
Tomos," ebai Dai ishta sa fa dim ond newydd feddwl am y peth, stim
shawns am gogyn bach? Dishgwlwch ar y top ’ma. ’Newn ni ddim man hyn heb
gogyn; treiwch ga’l un i ni. ’newch chi?" Cewch, cewch," eba ’rhen
Domos. fe weta wrth Jack y llifiwr am alb drained o go’d cogs i chi."
"Dyna ti," eba Dai wrtho i wedi i Tomos droi ’i gefan; "welas
ti fel gwithws y cilog bach ’na hi? Wi’n gwed wrtho ti nag os dim cilog yn y
wlad yn depig i gilog Tomos Shams." Poor fellow! Os nag os ’na gilocod
yn y nefodd, fe spwyliff lot o enjoymant Tomos. |
(delwedd J6213)
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ
ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ
ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ
ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ
ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_227_llythyrau-wil-cwmbychan_1911_3609k
.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 02-07-2017
Adolygiad diweddaraf : 02-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag
un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Wellz-Katəlóuniə) Wébsait
Adran y
Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines /
Page Views
Edrychwch ar ein
Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats
…..