|
|
(delwedd E0296) (tudalen 300)
|
300
DETHOLION.
HIRAETH AM Y NEF.
MAE'R Nef can belled yn y blaen,
Nes peri i mi wylo,
A cheisio cymhorth oddifry,
A nerth i gyrhaedd yno.
'Rwyf heddyw yn yr anial dir,
Yn wylo ac och'neidio,
Rhag im' ddiffygio ar y daith,
A methu cyrhaedd yno.
Ond er holl anhawsderau'r daith,
Na fydded imi gwyno,
Wrth ddysgu gwaredigol gan
Y rhai gyrhaeddant yno.
'Rwy'n gwel'd trwy ffydd degwch y ffro,
O bell 'rwyf iddi'n teithio;
Wrth syllu ar ogoniant hon,
Y byd 'rwyf yn anghofio.
DYBEN 1 WAITH DUW.
MAE amcan gan Dduw yn modolaeth
Yr holl greadigaeth i gyd,
O leiaf wrthddrychau y ddaear
Hyd fawredd y nefoedd yn nghyd;
O'r lleiaf abwydyn a luniodd
Hyd fwyaf archangel y nef;
Am hyny cydganed y ddaear
Mewn moliant a chlod iddo Ef.
Dyweded y ddaear a'r nefoedd,
A'u lluoedd, o galon i gyd,
Dyffrynoedd, dolenog afonydd,
Mynyddoedd, cilfachau y byd,
|
|
|
(delwedd E0297) (tudalen 301)
|
DETHOLION.
Aneirif ymlusgiaid y moroedd,
A chorau asgellog y nen,
A dynion, a llu y cerubiaid—
Boed lesu ein Brenin yn Ben.
Y DDAU GVFAMOD.
Ml droaf fy ngolwg i Eden,
Er gweled erchylldod y dydd,
dydd y gwnaeth Adda droseddu
Cyfamod oedd uniawn a rhydd;
Trwy fwyta O'r pren gwaharddedig,
Daeth angeu yn gyflog i ni,
A chleddyf oedd rhyngom å'r bywyd,
Ar sail y cyfamod a fu.
Pan oeddym yn erchyll ein cyflwr,
A'n gwyneb ar grwydro yn mhell,
Addewid a roddwyd er cadw
Ar sail y cyfamod sydd well—
A wnaed gan y Bachgen a anwyd
Er pryntl i ni fywyd rhad,
Trwy aberth a chariad trag'wyddol,
Caed ffynon o ddwfr a gwaed.
DVMUMIAD.
CARWN ddringo'n awr i'r nef,
Heibio'r haul a'r nefol lu,
At y teulu dedwydd sy'n
Canu am yr aberth cu.
Ond gwell yw myned adrau
Trwy fyrdd o orthrymderau,
-Na chael mwyniant gwag y byd,
A'i golli yn yr angau.
301
|
|
|
(delwedd E0298) (tudalen 302)
|
302
DETHOLION.
DEIGRVN MAM.
DEIGRVN mam, pa beth yw hwnw
A ganfyddaf ar ei grudd?
Byth yn llawn nis gallaf draethu„
Mae yn hwn elfenau cudd;
Rhagoriaethau y ddynoliaeth
Y n ei gyfansoddi sydd;
Boed i mi ei anrhydeddu
Trwy fy mywyd, nos a dydd.
Megys angel cryf gwarcheidiol
Y w y deigryn hwn i mi,
I fy nghadw rhag pydewau,
A gelynion sydd heb ri';
Dwg i gof y dwys gynghorion
Gan fy mam a roddwyd im',
Nertha fi drwy demtasiynau;
Pwy a draetha nerth ei rym?
Pan yn llanc, ac yn gwynebu
Ar y byd, o dj fy nhad,
Mam ddywedai cyn fy myned,
" Gێl fy ngrudd, fy mhlentyn mad;
V n y deigryn hwn canfyddi
Fy mendithion bob yr un;
Cadw'm deigryn yn dy wyddfod
Bythol er dy fwyn dy hun."
Mam a gollais dan law angeu,
Ond ei deigryn sydd yn fyw,
Ac yn sicr o fy nghanlyn
Hyd o flaen gorseddfainc Duw;
Tystio wna y deigryn hwnw
Fod fy mam yn mhlith y llu
Sydd yn awr yn gorfoleddu
Trwy ruddfanau Calfari.
|
|
|
(delwedd E0299) (tudalen 303)
|
DETHOLION.
GWERINIAETH AMERICA.
WERINIAETH, ti redais yn dda,
A rhedeg fu'n fuddiol i ti,
Heb hyny diffygiai dy nerth
Cyn gweled dy rwymau yn rhydd;
Yn awr mae dy wobr yn fawr,
Mewn llwyddiant, a chyfoeth, a bri,
Dros foroedd a gwledydd y mae
Caniadau o foliant i ti.
Mae'th gareg sylfaenol yn fawr,
A chywir ei naddiad yn wir,
A'i defnydd o farmor di-ail,
All bara hyd ddiwedd y byd;
A'i phwys ar gadernid y graig;
A heria ryferthwy y mar—Sylfaenaist dy deml dros byth,
Mewn rhyddid yn nghysgod yr lore
Gwregysa dy lwynau yn awr,
A gweithia tra per y dy ddydd;
Ac yna cei wobr sydd fwy,
A theilwng o broffes dy ffydd;
Gwna gweithio yn deilwng a doeth
Ddwyn heddwch a mwy o fwynhad,
Ar ol i'r gelynion i gyd
Orwedd o dan wadnau dy draed.
Gwrthsefaist elynion yn lew,
Vmleddaist nes enill y dydd;
Ti doraist gadwynau o bres
Er cael y ddynoliaeth yn rhydd;
Gelynion sydd eto yn ol,
Sydd gedyrn a chyfrwys mewn brad;
Y fasnach ddu feddwol sydd un,
A'i dwylaw sydd gyflawn o wa'd.
303
|
|
|
(delwedd E0300) (tudalen 304)
|
304
DETHOLION.
Ié, gwaed rhai a fegaist yn gu,
Mae'n yfed bob dydd yn dy Wydd;
Dy degwch, dy harddwch, dy nerth,
A'th fywyd mae'n geisio bob pryd;
Ai marw mewn dirmyg a gwarth,
A hyny ar ganol ei dydd,
Fydd tynged y wlad sydd yn awr
Yr harddafo wledydd y byd?
GWIN CVMUNDEB.
TEIMLAF awydd i alw sylw fy nghyd-grefyddwyr
Cymreig yn mhlith gwahanol enwadau Cristionogol
ein cenedl at yr anmhriodoldeb o arfer gwin meddwol
ar Fwrdd Cymundeb y saint; ac efallai y cynhyrfa
hyny rai galluocach na mi i ddeffroi yr eglwysi at y
pwnc teilwng hwn. Y mae gan bob arferion, drwg neu
dda, ddylanwad neillduol ar y byd; a pho fwyaf urddasol a fydd cylch yr arferiad,
cryfaf oll yw dylanwad yr
esiampl; felly, o angenrheidrwydd, y mae ymddygiad
Eglwys Dduw at unrhyw beth yn myned yn mhell er
sefydlu cymeriad y cyfryw yn ngolwg y byd. Onid
ydyw yn wirionedd ofnadwy, a gydnabyddir gan
wledydd paganaidd a chan Gristionogion, fod y
gwledydd Cristionogol yn fwy meddw nag unrhyw
wledydd ag y tywyna haul arnynt. Os felly, onid
priodol ymofyn, a mynu gwybod yr achosion o hyn,
ac yna symud y gwarth? Onid oes a fyno gwin y
Cymun hyn? Onid yw y ffaith fod yr eglwysi Cristionogol er's oesoedd yn
defnyddio y gwin meddwol
yn yr ordinhad fwyaf cysegredig O'r eiddynt, yn gyfystyr a chyhoeddi ei fod
yn dda a rhinweddol? Ac
onid yw yn rhesymol i bawb gredu fod yr hyn ag sydd
wedi ei gysegru gan Eglwys Dduw yn dda, er eu bod
yn gweled ei effeithiau yn ddrwg? Os bydd i dad
|
|
|
(delwedd E0301) (tudalen 305)
|
DETHOLION.
305
sydd yn arfer myglys rybuddio ei fab ieuanc o ddrwg
defnyddio tobaco, pa un ai rhybuddion, ynte esiampl
y tad, a fydd debycaf o gario ewyllys y plentyn? Yr
esiampl, onide? er cased yr arferiad, ac er cynddrwg
ei effeithiau ar gyfansoddiad y llanc! Felly, pa gysondeb sydd i ni bregethu,
a rhybuddio pobl o ddrwg y
fasnach feddwol, tra y byddom ar yr un pryd yn ei
chefnogi yn ymarferol gyda chysondeb, trwy brynu ei
chynyrch i'w ddefnyddio yn ein gwleddoedd cysegredig? Tebyg fod llawer
ohonom, trwy rym ymarferiad, yn credu fod y gwin coch a llygredig a
ddefnyddir
ar Fwrdd yr Arglwydd gan lawer o eglwysi y saint O'r
un ansawdd a'r gwin a ddefnyddiodd Ef a'i ddysgyblion ar sefydliad y Swper, a
bod y cyfryw win llygredig
yn bortreiad gweddus O'r gwaed dihalog a dywalltwyd
er golchi ymaith bechod y byd, ac i fywhau a disychedu am dragywyddoldeb y
rhai oedd yn marw o syched.
A chofier nad oedd dim gweithiedig na lefeinllyd i
gael ei yfed na'i fwyta gan yr luddewon ar Wyl y
Pasg. Dysgir ni ganddo Ef: " Holl Air Duw sydd
bur;
V nef a'r ddaear a änt heibio, ond fy ngeiriau
I nid änt heibio ddim; " " Ni ddaethum i dori y
gyfraith na'r proffwydi; "
ac eto, Efe a ddywed, " Nac
edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei
liw yn y cwpan," Diar.
iii. 31. Y n enw Cristionogaeth, pa fodd y gallwn ufuddhau i'r gorchymyn hwn
wrth yfed y gwin meddwol wrth Fwrdd yr Hwn sydd
yn ei wahardd? Pa gysondeb sydd mewn peth O'r
fath? Pa hyd y gwatwarwn eiriau Duw, trwy eu gwyrdroi er cefnogi arferion
llygredig? Yn enw cysondeb,
yn enw crefydd, yn enw sancteiddrwydd yr Anfeidrol,
paham, ie, paham yn yr oes oleu hon, na ddefnyddiai
holl eglwysi y saint wrth Fwrdd eu Harglwydd, " loewwin, öe, gloew-win
Puredig," ie, gwin nad ymddangoso
Iliw gwirf arno yn y cwpan cysegredig? Ai am na
ellir ei gael? Nage; canys y mae rhai eglwysi yn ei
|
|
|
(delwedd E0302) (tudalen 306)
|
306
•DETHOLION.
gael yn loew ac yn bur. Onid ffrwyth pur y winwydden
O'r fath hyn heb lygru sydd weddtts i gysgodi yn y
cwpan rinweddau Dwyfol waed y Messiah? Oni ddylai
fod digon o sél ac o allu moesol yn eglwysi Duw i
symud y rhwystrau sydd ar y ffordd i'r gwin hwn gael
ei ddarparu yn fanteisiol i'w ddefnyddio gan holl
eglwysi'r gwledydd? " A hyn, gan wybod yr amser,
ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu,"
"Y nos a gerddodd yn mhell, a'r dydd a nesaodd,"
Rhuf. xiii. 11, 12.
Am hyny deffro, gwisg dy nerth,
Y n awr, O forwyn Seion;
Darfu y nos, a' r dydd a ddaeth
I weled dy elynion;
Fe'th esgusodwyd yn y nos
Am wyro mewn tywyllwch,
I lwybrau gau arferion ffol,
Nes colli dy hawddgarwch.
Ond 'nawr yr haul sydd uwch dy ben,
Rho heibio esgusodion,
Rhaid ymryddhau yn gwbl oll
Oddiwrth dy ddrwg arferion;
Glanha dy wisg, a bydd yn hardd,
Nes Iloni yr angylion,
Am fod yr hon oedd gynt yn frwnt,
Y n awr yn haeddu'r goron.
Mae Ef a wnaeth dy ddewis di
Ar ddeng mil yn rhagori—
Sancteiddrwydd yw ei wisg erioed,
Teilynga ei addoli;
Darparu wnaeth ar fynydd Duw
WIedd lawn o basgedigion,
A gloew-win i'r hwn a ddaw
I'w Wydd mewn dillad gwynion.
|
|
|
(delwedd E0303) (tudalen 307)
|
DETHOLLON.
Pwy gant eu gwa'dd i'r mynydd hwn
Ar foreu y briodas?
Pob milwr dewr yn myddin Crist
Orchfygo bethau atgas,
Gan sathru ffrwythau'r cnawd i gyd,
A byw wrth ffrwythau'r Ysbryd,
Gant wledda ar y ddeheu law
Ar ffrwythau pren y bywyd.
307
PAHAM V DVLID BOD VN FWY GOFALUS
O BLANT NAG O'R TRVSORAU PENAF?
(1) Y MAE fod Duw yn gwneyd hyny yn profi y
dylai pawb wneyd yr un modd. (2) Am eu bod yn
fodau tyner a hawdd eu niweidio. (3) Am eu bod i'w
hyfforddi. (4) Am mai yr hyn a ddysgant pan yn
ieuanc fydd yn eu llywodraethu trwy eu hoes. (5) Am
mai plant yr oes hon fydd yn arwain yr oes nesaf. (6)
Am mai yr hyn a ddysgir iddynt, ac a arferir ganddynt,
a roddant hwythau i'r oes a ddaw ar eu hol.
(7) Am
fod llawer o waith yn eu haros, ac nas gallant ei wneyd
heb eu cymhwyso ato pan yn ieuanc. (8) Am mai
trwy y plant y sicrheir cysuron a gobeithion dyfodol y
byd. (9) Am eu bod hwy i barhau, tra y mae trysoratt
y byd i ddarfod. (10) Am y bydd yr had a hauir yn
meddyliau y plant yn cael ei fedi byth mewn gwae
neu wynfyd yn y byd arall.
I. Y mae y ffaith fod Duw yn rhoddi y pwys
mwyaf ar iawn addysgu plant yn profi y dylai dynion
wneuthur yr un modd. Ac yn awr, gadawer i ni
weled a ellir profi fod Duw yn fwy gofalus am blant
nag am drysorau y ddaear. Wel, y mae y Beibl yn
ein dysgu na wnaeth yr Hollalluog, pan aeth i greu y
ddaear a'r mör, goleuni a gwres, llysiau a blodau,
mwnau a pherlau, anifeiliaid ac ehediaid, yn eu holl
harddwch, ond dywedyd " Bydded," ac felly y bu.
|
|
|
(delwedd E0304) (tudalen 308)
|
308
DETHOLION.
Ond nid felly y mae yr un Llyfr yn ein dysgu am y
sylw a'r gofal sydd gan yr Arglwydd am blant. Ond
am na chaniata ein terfynau i ni fod yn fanwl, nodwn
yn unig hanes Samson. Cawn yn yr hanes hwnw fod
" yr Hwn sydd yn trigo yn y goleuni fel nas gellir
dyfod ato," oddiar ei orsedd uchel, yn gorchymyn i
angel fyned ar daith bell, heibio i'r haul a'r ser, i ryw
fwthyn dinod ar wyneb ein daear ni, at wraig dlawd, i
hysbysu iddi y buasai iddi esgor ar fab, ac i'w chyfarwyddo pa fodd i ymddwyn
rhag ei niweidio. Yr oedd
yn rhaid iddi gadw ei hun yn Ian, a llwyrymwrthod å
phob math o ddiodydd meddwol, hyd yn nod ffrwyth
y winwydden yn ei ansawdd buraf; ac yr ydym yn
cael i'r angel dalu ail-ymweliad å'r wraig a'i phriod, er
rhoddi iddynt gyfarwyddiadau neillduol i iawn-fagu y
bachgen oedd ar ymddangos. Darllener Llyfr y Barnwyr, O'r drydedd benod ar
ddeg hyd yr unfed ar
bymtheg, er gweled y fath ofal oedd gan yr Arglwydd
am Samson, nes y daeth i oedran gwr, yn nghyda'r
gwaith anghymharol a wnaeth mewn canlyniad, &c.
Ond er yr holl ofal a fu am dano o'i genedliad i fyny, gan
Nefoedd a daear, cawn mai prin y daeth yn gymhwys,
er y cyfan, at y gwaith oedd gan Dduw ar ei gyfer.
Il. Am eu bod yn fodau tyner a hawdd eu
niweidio. Ymddengys fod holl wrthddrychau'r greadigaeth, yn eu dechreuad, yn
dyner ac egwan, ac yn
agored i dderbyn argraffadau oddiwrth unrhyw beth
a'u cyffyrddo; ac ymddengys fod dyn yn ei febyd yn
fwy felly na'r mwyafrif ohonynt. Nis gall y baban
fwyta ac yfed ohono ei hun; ond y mae yn rhaid i
ereill ei feithrin trwy ei borthi, ei ddyfrhau, a'i
ddilladu, onide, buan y bydd efe farw. Ac er gweinyddu arno angenrheidiau
bywyd, onis gwneir hyny yn
iawn, gyda gofal a chysondeb, andwyir ei gyfansoddiad corfforol a meddyliol;
anffurfir harddwch a phrydferthwch ei aelodau a'i synwyrau corfforol; a
gwanheir
|
|
|
(delwedd E0305) (tudalen 309)
|
DETHOLION.
309
a thywyllir cyneddfau ei enaid, fel ag y bydd ei
fodolaeth ar hyd ei oes yn boen a blinder, trallod a
thrueni iddo ei hun, ac yn faich a melldith i gymdeithas. Ond os iawn
feithrinir ef, trwy ofal a doethineb, bydd prydferthwch ei gorff yn hardd, ei
sirioldeb
yn adfywiol, ei lais yn gerddgar, ei ysgogiadau yn
heinyf, a'i holl alluoedd yn rhagorol; a bydd ei bresenoldeb a'i
ddefnyddioldeb yn y byd yn elw a bendith,
ac yn adlewyrchu gogoniant ei Greawdwr. Gan hyny,
oni ddylai y gofal penaf fod am y trysorau penaf?
" Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd; ei wobr
Ef yw ffrwyth y groth."
Ill. Am eu bod i'w hyfforddi mewn moesgarwch
cymdeithasol, mewn gwybodaeth gyffredinol, ac, yn
benaf, yn noethineb y byd ysbrydol. Vmddengys i mi
mai y ddyledswydd bwysicaf, a'r ragorfraint werthfawrocaf a roddwyd i
ddynion, ydyw iawn hyfforddi
plant eu hoes yn mhob doethineb. Canys, yn y Ile
cyntaf, y mae meddwl plentyn fel carden yr arluniwr,
yn derbyn argramadau oddiwrth bob gwrthddrych a
ymddangoso o'i flaen. Neu y mae yn gyffelyb i
ystafell eang, a'r enaid preswyliedig yn derbyn i
mewn bob peth a gynygir wrth ddrysau yr ystafell,
gan eu Ileoli yn ansymudol yn y meddwl. Eto, y
mae fel Ilong y marsiandwr, yn cael ei llwytho am y
waith gyntaf a darpariaethau at wasanaeth ei pherchenog, yr hwn a fydd ar ei
bwrdd yn fuan yn cychwyn
morwriaeth bywyd, gan wynebu y 'stormydd a'r tbnau
cynhyrfus, i geisio gwlad i gartrefu yn dragywyddol;
ac y mae yn sicr y bydd cysuron a dyogelwch y daith,
yn nghyda chyrhaedd gwlad a chartref dymunol yn
y diwedd, yn ymddibynu yn benaf ar werth a chymhwysder y darpariaethau
cychwynol. Ond y gwir
yw, y mae holl gymhariaethau y byd darfodedig
yn rhy ddiffygiol i ddangos dylanwad ac effeithiau
addysg ac esiainpl foreuol ar feddwl creadur anfarwol.
|
|
|
(delwedd E0306) (tudalen 310)
|
310
DETHOLION.
Y mae Ile i ofni fod plant yn cael eu hesgeuluso yn
eu babandod a'u hieuenctid, trwy ryw hen syniadau
cyfeiliornus am gymhwysder plant i dderbyn addysg
foreuol.
Ymddengys i mi fod plant yn dysgu llawer cyn
bod eu rhieni yn cydnabod hyny, nac yn ystyried fod
eu hymddygiadau hwy eu hunain, pa un ai da ai drwg
fyddont, yn cael eu cymeryd i fewn i feddyliau y plant,
fel esiamplau iddynt hwy i' w hefelychu. Fel hyn y mae
sylfeini gwybodaeth, ac arferion bywyd, yn cael eu
gosod yn meddyliau y plant yn annileadwy, yn ol yr
hyn a welant ac a glywant. Felly, y mae O'r pwys
mwyaf i ymddwyn yn iawn bob amser yn mhresenoldeb y cyfryw, gan roddi iddynt
esiampl ac addysg dda.
A dylid cofio bob amser fod ymddygiadau yn cael mwy
o le yn meddyliau plant na gwersi trwy eiriau, ac
y maent yn eu deall yn foreuach. Ychydig iawn a
ddysgir i blentyn trwy eiriau yn y flwyddyn gyntaf o'i
oes; ond efallai ei fod yn dysgu Inwy trwy gyfrwng y
llygad yn y flwyddyn hono nag mewn un flwyddyn
ddilynol. Sym uder canwyll o flaen llygad plentyn
wythnos oed, a gwelir ei fod eisoes yn dechreu mwynhau ac athronyddu y byd
allanol; ac nid hir y bydd
cyn deall iaith gwén y fam, a gwg y tad. Onid yw y
plentyn yn dysgu canoedd o wersi sylfaenol gwybodaeth yn yr adeg foreti hon
o'i oes?—am gariad a Chas,
am diriondeb a gwg; am ffurfiau, a lluniau, a Iliwiau;
am brydferthwch, harddwch, a holl amrywiaeth y byd
o'i gwmpas; ac, yn wit, nid hollol at-resymol tybied ei
fod, o ran ei fyfyrdodau, yn dechreu cymdeithasu
bodau anweledig y byd ysbrydol; canys i'r byd hwnw
y crewyd ef yn benaf, ac yno, ar hyd meusydd gogon-eddus y byd hwnw, y
bwriadodd y Creawdwr da iddo
ymhyfrydu yn ddiddiwedd. A chan fod pechod yn
bygwth amddifadu dyn O'r gogoniant hwnw, a chan
fod ei dynged tragywyddol yni ymddibynu llawer ar
|
|
|
(delwedd E0307) (tudalen 311)
|
DETHOLION.
311
arferion ac addysg foreuol, onid rhesymol y gallwn
anog ein gilydd i roddi mwy O'n bryd ar iawn hyfforddi
plant ein hoes nag ar drysorau a mwynderatl darfodedig? Am hyny, "
Hyfforddia blentyn yn mhen ei
ffordd, a phan heneiddio nid ymedy hi."
Gwnaeth y Creawdwr doeth a da
Aneirif ryfeddodau—
Trwy'r byd, a gwelyau'r moroedd mawr—
Cywreinion ei wrthddrychau.
V byd llysieuol hefyd sydd
V n gyflawn o'i ogoniant,
A'r anifeilaidd fyd y sydd
V n canmol Duw y moliant.
Gwnaeth wisgoedd yr asgellog fyd
Y n llyfr dadblygedig,
Er help i ddyn i draethu'n uwch
Fod Duw yn fendigedig.
Mae Duw yn ymddwyn at y dyn
Fel baban i'w addysgu,
Fel prawf i bawb ohonom ni
Fod plant i' w hegwyddori.
YR AWDWR FEL CASGLVDD CREFVDDOL.
V MAE hanesyddiaeth yn profi yn atnl fod anffodion
personol a chymdeithasol yn troi allan yn fendithion.
Credwyf ei bod wedi bod felly i mi, mewn perthynas
å'r anffawd yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn
Hyde Park, Pa., T.U.A., yr hyn a ddygwyddodd fel y
canlyn:—-Vn y flwyddyn 1867, yr oedd gan y Trefnyddion Calfinaidd yn y ddinas
uchod un O'r capeli
tlysaf, heb fod ond tua 200 dol. o ddyled arno; ond
darfu i'r cwmni glo gloddio tano, fel y syrthiodd. V
nos Sabbath gyntafy båm i ynddo yn nechreu 1868,
|
|
|
(delwedd E0308) (tudalen 312)
|
312
DETHOLION.
syrthiodd rhan O'r nenfwd i ganol y gynulleidfa ar
amser y gwasanaeth—a dyna ein trallodion yn dechreu.
Yn gyntaf, gorfu i ni chwilio am le arall i addoli hyd
oni ddarfu i ni ail-adeiladu. Wedi hyny, cymheilwyd yr
eglwys i hawlio iawn oddiwrth y cwmni trwy y llys
gwladol; ond ar ol tuag un mlynedd ar ddeg o gyfreithio,
gorfu arnom eu gadael, am nad oedd genym arian i'w
hymladd yn hWy; yr oedd ein dyled wedi cynyddu i
tua 12,000 dol., a ninau ond twr o dlodion heb arian
i'w talu. Yn y cyfyngder hwn, gosodwyd ein cwyn o
flaen Cymanfaoedd yr Enwad trwy y Talaethau
Unedig. Angenrhaid a osodwyd • ar y tlawd hwn i
ymgymeryd å'r gwaith o fyned O'r pwll glo i gasglu
trwy y wlad; ac felly yr enillwyd y cymeriad o
" Gardotyn o Hyde Park," yr hyn a ystyria yn anrhydedd. V mae yn
dra sicr na welsid byth mo
" Llwybrau Bywyd " yr awdwr yn y Talaethau Unedig,
na chwaith y gyfrol hon, oni bai am anffodion eglwys
y Trefnyddion Calfinaidd yn Hyde Park. Wele yn canlyn grynodeb O'r
oruchwyliaeth hono o gardota. Diamheu y byddai yn ddyddorol gan lawer ddilyn
y teithiau
casglyddol yn y gyfrol hon, ond gofod a balla.
Cylch Cymanfa New York
744 02 dol.
Wisconsin
935 98
Minnesotaaclowa 315 71
Pennsylvania
866 24
Ohio
1,756 36
Cyfanswm
4,618 31 dol.
Mae yn aros o ddyled ary capel 4,000 dol. Ac
yn awr, gyda llafur a bendith cartrefol, credwn ein bod
allan o berygl, ac y gallwn dalu y gweddill bob yn
ychydig.
W. D. DAVIES.
Hyde Park, Eårill 2i1, 1883.
O.Y.—Ta1wyd y gweddill uchod trwy ymdrech
cartrefol yn fuan drachefn.— W. D. D.
|
|
|
(delwedd E0309) (tudalen 313)
|
DETHOLION.
313
DA, WAS DA A FFVDDLAWN."
HYDE PARK, PA., Ebrill 10fed.—We1e Adroddiad
yr Olrheinwyr (Mawrth 29ain, 1883) i gyfrifon casglyddol Mr. William D.
Davies at ddyled capel y Trefnyddion Calfinaidd yn Hyde Park, Pa.:—
" Ar ol edrych dros yr holl gyfrifon, a chymharu
yr oll å'u gilydd, yr ydym yn eu cael fel y canlyn:—
4,647 98 dol.
Cyfanswm y Derbyniadau
Cyfanswm y Treulion
1,154 62
3,493 36 dol.
Y n gadael elw clir o
" Yr ydym am hysbysu fod 31 dol. O'r swm uchod
wedi eu talu i drysorydd yr eglwys ar ol trosglwyddo
ei report gan y casglydd, Mr. Davies. Hefyd fod gan
y trysorydd i'w dalu yn ol i Mr. Davies y swm 0 1 09
dol. o gamgyfrifiad."
Nos lau, Ebrill 5ed, derbyniwyd a chadarnhawyd
yr uchod yn unfrydol gan yr eglwys. Hefyd, pasiwyd
y penderfyniad canlynol:—Ein bod fel eglwys yn
dymuno cyflwyno ein diolchgarwch diffuant i'n holl
garedigion, ac ewyllyswyr da yr achos, am eu caredigrwydd i ni drwy eu
cyfraniadau, ac am eu tynerwch
a'u croesaw i'n hanwyl frawd, W. D. Davies, tra yn eu
plith. Ein dymuniad a'n gweddi drosoch yw, ar fod
i'r Duw Hwnw sydd yn gyfoethog o drugaredd eich
cyflawni phob gras a dawn ysbrydol, yn ol ei gyfoeth
Ef mewn gogoniant. Dros, ac ar gais yr eglwys,
MosES ANDREWS,
Olrheinwyr.
REES C. POWELL,
PERTHVNAS CREFVDD, DIRWEST, A
GWLEIDIADAETH.
VR hyn a feddyliwn pan yn son am grefydd yw, byw
yn weddus er gogoniant Duw, ein dedwyddwch ein
21
|
|
|
(delwedd E0310) (tudalen 314)
|
314
DETHOLION.
hunain,• a daioni i bawb O'n cyd-ddynion. Felly, ond
i ni dalu sylw dyladwy i'r fasnach feddwol yn ei
dylanwad personol, cymdeithasol, a gwladwriaethol,
gwelwn yn eglur y dylai Dirwest fod yn rhan O'n
crefydd mewn dwy wedd yn arbenig: V n gyntaf, yn
gymhelliadol; yn ail, yn waharddol.
I. Ond sylwi yn briodol, gwelwn fod yfed diodydd
meddwol yn cynyrchu blys annaturiol, a thrwy hyny
yn anmharu iechyd corfforol a meddyliol, nes ysbeilio
y dyn o'i harddwch, ei gymeriad, ei ddefnyddioldeb, ei
fywyd, a'i ddedwyddwch yn y byd hwn, aé am dragywyddoldeb! " Ni cha na
diotwyr, na chyfeddachwyr, na meddwon etifeddu Teyrnas Dduw." Dyna
golled fawr yn canlyn dechreu yfed diodydd meddwol,
onide? Felly, dylai dyn fod yn ddirwestwr er ei fwyn
ei hun.
Il. V n ngwyneb y profion fod y fasnach feddwol
yn gwneyd cymaint o ddrwg teuluol a chymdeithasol, dylai pob crefyddwr sydd
yn caru Iles a dedwyddwch ei gydgreaduriaid wneyd ei oreu i argyhoeddi ei
gyd-ddynion i lwyrymwrthod hi. Edrycher ar y
tlodi a gynyrcha hi mewn miloedd o deuluoedd;
cymaint o ymborth a dillad gwragedd a phlant a
ysbeilir ganddi yn barhaus; a'r fath drueni teuluol a
chymdeithasol y mae yn gynyrchu drwy y byd, er ein
hargyhoeddi O'n dyledswyddau i gymhell ac argyhoeddi pawb i ymwrthod swyn
cyfareddol y ddraig
feddwol.
Ill. Ond yn ngwyneb y ffaith fod y fasnach yn
cynyddu er gwaethaf holl gymhelliadau moesol
goreuon y byd Cristionogol, argyhoeddir llawer ohonynt o'u dyledswyddau i
arfer moddion mwy effeithiol,
(1) Gan
sef moddion gwaharddol neu gyfreithiol.
fod 900,000,000 dol. yn cael eti gwario yn flynyddol yn
y Talaethau Unedig am ddiodydd meddwol; (2) Gan
fod 600,000 yn cael eu cynal i gario y fasnach yn mlaen
|
|
|
(delwedd E0311) (tudalen 315)
|
DETHOLION.
315
yn y wlad, llafur y rhai sydd yn anhraethol waeth
na cholled; (3) Gan fod y fasnach yn gwneyd yn
flynyddol 10,000 0 wallgofiaid, 40,000 0 droseddwyr
cyhoeddus, 60,000 0 gardotwyr, 900,000 0 feddwon, a
3,000,000 0 ddiotwyr, yn achosi un rhan o dair o holl
glefydau y wlad, ac yn gwneyd colled flynyddol i'r
wlad o yn agos i 2,000,000,000 dol., heb son am yr
anghysur a'r golled foesol sydd yn canlyn y ffugyrau
yna (awdurdod y rhai yw yr Esgob Newman yn y Zion
Herald, fel cymhelliad i'r blaid Werinol i gymeryd
Gwaharddiaeth i' w banlawr cenedlaethol); (4) Gan fod
y fasnach tiffernol wedi cael ei gwau trwy gyfreithiau
y wlad; (5) Gan fod y Llywodraeth yn trwyddedu y
fasnach am tuag un rhan o ddeg O'r derbyniadau, ac
felly yn gyfrifol am ddrwg y fasnach—oni ddylai pob
Cristion bleidleisio y felldith allan O'r cyfreithiau a'r
wlad?! Erbyn heddyw, tebyg fod mwyafrif dinasyddion y Weriniaeth yn cydolygu
yn y pethau yna oll
ond yn amrywio am y modd i symud y drwg gwladol
hwn.
Wel, gan y cydnabyddir ef yn ddrwg gwladwriaethol, ac am hyny fod yn rhaid
ymddwyn tuag ato
yn wladwriaethol, un O'r pethau mwyaf amlwg yw, fod
yn rhaid cael plaid genedlaethol o Waharddwyr er
symud y drwg, oblegid (1) Y mae Gwaharddiaeth
Dalaethol yn rhy gyfyng a gwan, am fod y Llywodraeth Gyffredinol yn rhoddi
caniatad i fasnachdai yn y
cyfryw dros ben y llywodraeth dalaethol, ac am fod
mantais gan y talaethau cylchynol i ysmyglo dros y
terfynau. (2) Am fod y blaid Ddemocrataidd o blaid
y fasnach feddwol. (3) Am fod cefnogwyr Gwaharddiaeth a chefnogwyr parhad y
fasnach yn mantoli éu
gilydd yn y blaid Werinol, fel nas gall basio ac
effeithioli cyfreithiau Gwaharddol.
(4) Am y byddai
cyfreithiau Gwaharddol wedi eu gwneyd gan y pleidiau uchod yn gyfreithiau
meirwon, oherwydd fod
|
|
|
(delwedd E0312) (tudalen 316)
|
316
DETHOLION.
mwyafrif nlawr o'u swyddogion yn gaethion i'r blys at
y diodydd yn y cyfryw; ac felly, yn ol deddf natur,
cefnogant ac amddiffynant yr hon sydd anwyl
ganddynt. (5) Bydd gan blaid newydd a fo wedi ei
ffurfio oddiar egwyddorion dyngarwch a chenedlgarwch Cristionogol ddigon o
wroldeb a gonestrwydd
moesol i ryddhau y Weriniaeth oddiwrth waradwydd y
fasnach feddwol. " Eithr gosodant win newydd mewn
costrelau newyddion."
GWRTHDDADLEUON YN ERBYN V BLAID WAHARDDOL.
I. Gobeithia Dirwestwyr y blaid Werinol y gwna
eu plaid hwy ryw dro gymeryd Gwaharddiaeth i'w
banlawr, ac oddiyno i gyfreithiau y wlad; ond po
fwyaf y chwiliwn i seiliau eu gobaith, tywyllaf oll yr
ymddengys i mi am sylweddoliad eu gobaith, oblegid
cydymdeimla arweinwyr eu plaid å'r fasnach feddwol,
trwy eu blys at y diodydd, a'r swyn sydd yn arian a
phleidleisiau cefnogwyr y fasnach.
Il. Cyhuddir ni o gefnogi y fasnach trwy dynu
ein pleidleisiau oddiwrth y blaid fwyaf ffafriol i
Waharddiaeth; ond yn ngwyneb y cyhuddiad, credwn
ninau fod proffes dwyllodrus y blaid Werinol yn fwy o
rwystr ar ffordd llwyddiant y blaid Waharddol na
gelyniaeth agored y blaid Ddemocrataidd, gan eu bod
yn llwyddo i dwyllo tyrfa fawr o Waharddwyr o ran
barn i aros ynddi hi.
Ill. Cyhuddir ni o fod yn achlysur o ddwyn tlodi
masnach rydd ar y wlad, trwy adael i'r blaid Ddemocrataidd fyned i awdurdod
yn Ile y blaid Werinol.
Edrychwn ninau ar y pwnc yna yn y goleuni hwn, sef
fod yn well i'r wlad oddef tlodi am ychydig flynyddau,
na myned rhagddi i ddinystr anadferadwy mewn hån
tragywyddol, megys y cenedloedd a gollwyd O'r blaen
mewn corsydd llygredigaeth. Onid gwell i'r plentyn
|
|
|
(delwedd E0313) (tudalen 317)
|
DETHOLION.
317
wialen cerydd yn llaw cariad ei rieni na phenrhyddid
i lwybrau dystryw? Onid gwell i'r claf ddysgyblaeth
ymprydiol y meddyg er ei wellhad, na rhyddid i
fwyta y pethau a fydd yn nerth i'r dwymyn i'w gario i
angeu? Felly, onid gwell i'r Weriniaeth hon, gan
fod ei bywyd mewn perygl, ddewis dysgyblaeth y
meddyg da dros enyd bach, na myned rhagddi mewn
rhyfyg ac anystyriaeth i afael pangfeydd colledigaeth?
Onid yw hanes yr oesoedd yn profi i ni mai hunanymwadiad a gofalgarwch yw y
pyrth i lwyddiant a
dedwyddwch personol, cymdeithasol, a chenedlaethol?
Am hyny, yn enw cariad, a dyngarwch, a Christionogaeth, paham y condemnir ni
am sefyll ar ffordd y
prif gleddyf sydd gan y diafol er difa gogoniant
y cenedloedd?
Mae'r Arglwydd yn teyrnasu,
Mae'n dyfod gyda rhwysg,
Fe wasgar y gelynion,
Truenus fydd eu gwysg;
Fe ddylent Ei gusanu
Cyn delo yn Ei lid,
Er gosod pechaduriaid
Y n sathrfa oll i gyd.
Dyweda rhai am bechod,
Nid camwedd ydyw hyn;
Mewn cynghrair gydag uffern,
Fe wnawn y du yn wyn;
A gwnawn y fasnach feddwol
V n dduwies hardd a glan,
Trwy urddas yr High License,
Mae swynion yn y tan.
Fe rwymwn y Gwaharddwyr
Dan y gefynau pres,
|
|
|
(delwedd E0314) (tudalen 318)
|
318
DETHOLION.
I' w boddi yn y gwirod,
Ddaw tiffern ddim yn nes;
Nid ydynt ond ynfydion
I'w gyru 'maes O'r byd,
Ac yna cawn lonyddwch,
A heddwch yn ei bryd.
Ha! pwy sydd yn eich gwylio
A'i lygaid sanctaidd, glan?
Gwaharddwr ydoedd Daniel,
A'r llanciau yn y tan;
Mae Duw gan y Gwaharddwyr—
I'w cynal yn y glyn,
Nes enill buddugoliaeth
Er cael y brwnt yn wyn.
Ffyddlondeb y Gwaharddwyr,
A bendith Nefoedd fry,
A gyfyd y ddynoliaeth
O'r gerwyn feddwol ddu;
Er gwisgo mantell sobrwydd
Trwy Gristionogaeth fyw,
A gwledda mewn gogoniant
V n mhresenoldeb Duw.
CRANCYDDIAETH DDIRWESTOL.
MAE o fewn yr Unol Dalaethau
Rhyw bobl a elwir yn " Grancs,"
Aflonydd eu traed a'u hymadrodd,
O'r mar hyd yr afon eu prancs,
Cynghreiriant yn Ilewyrch goleuni,
Ac o dan dywyllwch y nos,
Er ffurfio rhyw blaid wladwriaethol„
A hono i'r bobl yn gro's.
|
|
|
(delwedd E0315) (tudalen 319)
|
DETHOLION.
A beiant y blaid fawr Werinol
Wnaeth ollwng y caethion yn rhydd;
Ac hefyd y blaid Ddemocrataidd,—
Yr oreu O'r pleidiau y sydd!
Er ffurfio rhyw blaid o Waharddwyr
O waelion geintachwyr y wlad,
A'u hamcan yw gwneuthur cyfreithiau
Er cael y diodydd yn rhad.
Gwna'r bobl bron oll eu dirmygu,
Fel rhai heb na synwyr na gras,
Am geisio cael cyfraith Waharddol,
Er rhwymo diafol a'i was,
Tra nad yw eu rhif ond rhyw haner
Dinesydd ar gyfer pob cant,
Tra naw deg a naw dyn a haner
V n credu mewn porthi y chwant.
Ond dyna, rhyw hanes fel yna
A geir trwy holl oesoedd y byd,
Am rai fu yn cyfrif eu hunain
V n gaethion, å'u dwylaw yn rhydd,
Gan dybio eu hunain yn ddoethach
Na holl ddewisolion y wlad!
Ond buan y derfydd am danynt
Mewn marchnad sydd hynod o rad.
Mewn difrif, pwy ydynt ynfydion?
Ai'r bobl a welant y drwg,
A safant rhwng duon bechodau
A'r dynion, er cymaint y gwg?
Ai Enoch y seithfed o Adda,
A Noah tywysog yr arch?
Ai Joseph wrth fyned i'r carchar,
Y gwron, y mwyaf ei barch?
319
|
|
|
(delwedd E0316) (tudalen 320)
|
320
DETHOLION.
Ai Daniel yn nghwmni y Ilewod,
A'r llanciau yn nghanol y tan?
Pwy oedd yr ynfydion ar Carmel
Pan weddiid ar Ddttw ar wahan?
Ai crancod oedd Paul yr Apostol,
A llu y merthyron i gyd,
A'r rhai a ganlynant yr lesu
O heddyw hyd ddiwedd y byd?
Gwna amser egluro y doethion,
A phrofi pwy ydyw y " Cranes;"
Gwnaeth ddangos Ilon'd byd o ynfydion
Vn boddi o achos eu gwancs;
A phrofodd yn Sodom y gyflog
A ddaw i wir grancod y byd,
A phrofa pwy eto sydd grancod,
A gwelir eu casglu yn nghyd.
Ac er fod diodydd y felldith
Vn cyflym ddinystrio y wlad,
Gan ddifa deg cant o filiynau
Bob blwyddyn o arian mewn brad;
Ac er sydd yn marw yn feddwon,
Ac er sydd o gaethion i'w chwant,
Deddfwrir y drwydded uffernol
Er mwyn rhyw ddeg dolar y cant.
Mae'r cynghrair trwyddedol yn swyno
Holl lu dinasyddol y wlad,
A gwobr anwiredd yn rhwymo
O'r coryn hyd fawdiau y traed;
Ar ddydd yr etholiad fe welir
Twyll cyfoeth yn cario y dydd;
V bobl mewn rhwymau crancyddol!
A phechod o'i rwymau yn rhydd!
|
|
|
(delwedd E0317) (tudalen 321)
|
DETHOLION.
O! wylwn wrth wel'd y dallineb
A'r anghysonderau i gyd,
Gweddio dros achub y bobl,
A fotio i' w damnio yn nghyd;
Trwy agor y pydew heb waelod,
Trwyddedu meithrinfa y chwant,
Ac yna melldithio yn groew
Gynyrchion deg dolar y cant!
321
PENARGLWYDDIAETH V FASNACH
FEDDWOL.
MAE'R ddaear yn symud, a'r byd yn cyfnewid,
A'r gwirod drwy'r Unol Dalaethau sydd ben;
Duw Bacchus yn frenin, a'r bobl yn gwaeddi,
Ni fynwn wirodydd yn ieuanc a hen.
Mae gweision y bobl yn seddau'r Weriniaeth
V n talu gwarogaeth i urddas y gwin;
O'r swyddog distadlaf hyd at yr Arlywydd,
O'u bodd neu o' u hanfodd yn plygu y glin.
Cyfryngau Ilenyddiaeth a wnaethpwyd yn tlfudd
I waeddi nes clywo angylion uwchben,—
Fod raid i frenines ardderchog High License
I dderbyn addoliad a chyfoeth heb sen.
Amen, medd arweinwyr y blaid Ddemocrataidd,
Ac yna adseinia'r Gwerinwyr, Amen;
Amen, gwaedda doethion y wlad Gristionogol,
Ni werthwn y bobl a'u heiAdo, Amen.
Rhy gynar a gwrthun yw llais y Gwaharddwyr,
Atalier eu twrw, medd tiffern a'r byd;
Er atal eu rhyfyg, a hyny yn brydlon,
Rhaid yw eu dyfetha trwy ddichell a Ilid.
|
|
|
(delwedd E0318) (tudalen 322)
|
DETHOLION.
Fe ddaw proffwydoliaeth y Beibl yn sylwedd:
Fe ddywed addewid, fe wawria y dydd,
I ollwng caffaeliaid y cadarn yn rhyddion,
Dan faner Gwaharddiaeth gwir ryddid a fydd.
V n Iloches y celwydd y cyfyd goleuni,
Ac yna y bobl a gredant y gwir;
Tuebant yn ffyddlon er lies cyffredinol,
A daw y Weriniaeth o'i llygredd yn bur.
V n mhlith y Ileiafrif bu Moses ac Aaron,
A Daniel a'r llanciau yn Babilon fawr,
Ac hefyd y Bachgen a anwyd mewn preseb,
Ond heddyw sydd Lywydd y nefoedd a'r llawn
Ai byth y gwelir dynolryw
Y n caru eu dinystrydd?
Culhau a wna y lydan ffordd,
Fe dderfydd eu llawenydd.
Gwna llwybrau chwant o fyr barhad
Ar frys lwyr losgi allan;
Ac yn Ile'r crechwen ynfyd, ffol,
Fe ddaw y poen a'r ochain.
V n nghanol Edomiaid yn Bozrah
V gwelaf Waharddiaeth yn fyw;
Er Ilid a chynllwynion y cewri,
A rhagddi yn ysbryd ei Duw;
Gorchfyga trwy Gleddyf yr Vsbryd,
Er cael y caffaeliad yn rhydd;
Daw allan yn fuddugoliaethus,
A bywyd i'r meddwon a rydd.
I Edom daeth goleuni,
V caethion dd'ont yn rhydd,
|
|
|
(delwedd E0319) (tudalen 323)
|
DETHOLION.
cant rodio trwy lawenydd
I wlad o fywyd pur;
Pan fydd y fasnach feddwol
A Satan o dan s&l,
Am filoedd o flynyddoedd,
Mewn pwll.sydd is na'r bedde
Rhaid yw bod yn grancyddol
Dan wawd am enyd bach,
Er gosod ein cymdeithion
A'u blysiau ar wahan;
Nes delo y synwyrau
I'w Ile, a'r pen yn iach,
Ac yna try yn elw
Mewn llwyddiant pur a chån.
Y FASNACH FEDDWOL.
V BVD sydd yn meddwi, pa fyd ydyw hwn?
Pa fodau sydd yn ei breswylio?
Ai mewn anialdiroedd anhygyrch y mae,
Lle nad yw goleuni yn treiddio?
Ai bodau na chawsant ddoethineb a barn
I ddeall sydd yn ei boblogi?
Ai dyna y rheswm fod miloedd bob dydd
Mewn meddwdod a gwae yn dihoeni?
O na, er cywilydd, gwaradwydd, a gwarth,
Mae'n bod yn y byd Cristionogol!
Gwna miloedd a elwir yn feibion i Dduw
Addoli yn fwy y diafol!
Gweddiant yn uchel ar Frenin y saint
Am ddifa yr hyn sydd yn feddwol;
Ac eto mewn gweithred a thrwydded y blys
Y n yfed yr hyn sydd yn ddamniol.
323
|
|
|
(delwedd E0320) (tudalen 324)
|
324
DETHOLION.
Darperir y gwenwyn dieflig yn hyf
Er melldith i fwthyn a phalas,
Ac hefyd i wledd gysegredig y saint,
A'i wneuthur yn dduw yw y pwrpas;
Ac er fod gwirodydd sydd feddwol a chas
V n costio rhyw fil o filiynau
Bob blwyddyn, eu hyfed yn gyson a gånt,
Er dystryw yr Unol nalaethau.
Mewn llysoedd eglwysig gan ddoethion yr oes,
Cyhoeddir y drwydded yn bechod;
Ond fel dinasyddion tuebant yn groes,
Am fod G.O.P. yn eu gwarchod!
A'r blaid Ddemocrataidd yn rhyfedd o ddawn,
A Chynghrair Undebol y Bobol,
A dröant bechodau trwyddedol yn win,
A gwawdiant y ddewr-blaid Waharddol!
Mewn oes ddiwygiadol 'rym ynddi yn byw,
Oes ffugio y parddu yn eira,
Oes credu y celwydd, a gyru y gwir
Trwy felldith i waelod Gehenna!
Oes fawr y penrhyddid, a phleser, a chwant,
Ac oes i felldithio Gwaharddwyr;
Oes cauad y llygaid, ac hefyd y glust,
Rhag Dirwest yr uniawn ddiwygwyr.
Ond oes sydd yn gwawrio, oes canol y dydd,
" Gwirionedd O'r ddaear a dardda; "
' Cyfiawnder O'r nefoedd a edrych i lawr,"
A heddwch trwy'r byd a flagura;
Oes rhyddid daionus a rhwymo y chwant
Wrth uniawn reolau y bywyd;
Oes sobrwydd a llwyddiant o afon hyd för—
Oes caru, oes canu mewn gwynfyd.
|
|
|
(delwedd E0321) (tudalen 325)
|
DETHOLION.
325
Y mae y penillion ucbod wedi eu cyhoeddi o bryd
i bryd yn y Drych, gan yr awdwr, wrth weled gelynion
Dirwest yn gweithio yn erbyn Gwaharddiaeth yn wladwriaethol yn y Talaethau
Unedig; a gwelaf fod awdurdod a dylanwad y fasnach feddwol, a'i haddolwyr, yn
fwy ofnadwy yn Mhrydain Fawr nag yn America!
A pheth fydd diwedd hyn oll?
HAELIONI CRISTIONOGOL.
1. Mae dyn yn greadur i' w egwyddori am ei
ddyledswyddau.—Un felly oedd yn ei sefyllfa greadigol
a pherffaith, canys cawn fod yr Arglwydd ar foreuddydd ei fodolaeth yn ei
ddysgu fel böd moesol, yn ei
gyflwr paradwysaidd a dedwydd; os felly, pan oedd ei
ddeall heb ei dywyllu gan bechod, pa faint mwy felly
ar ol iddo gymeryd ei arwain ar grwydr ar hyd
llwybrau anhygyrch anialdiroedd tywyll y byd moesol!
Y mae doethion y ddaear yn gwybod hyn yn mhob
oes O'r byd. Medd Syr Isaac Newton, yr athronydd
mawr, yn ei hen ddyddiau:—" Yr wyf fel llanc yn
chwareu å'r cregyn ar y traeth, a'r mar a'i gyflawnder
eto yn ddirgelwch i mi! "
" O! am gyfeirio fy ffyrdd
i gadw Dy Ddeddfau," medd y Salmydd; a chawn i
Solomon, y doethaf o ddynion, golli ei lwybrau! A
pha ryfedd, gan fod cwmwl o bechod, a chwmwl arall o
ddigofaint Duw, yn crogi rhwng ein byd ni a ffynonell
goleuni? Ond diolch, y mae Tad y goleuni wedi
gweled yn dda agor ffordd newydd i'n harwain trwy
ac heibio y cymylau tywyll yn ol i fro y goleuni; ac
o'i ddaioni, y mae yn gweled yn dda ethol y rhai sydd
yn credu i fod yn gydweithwyr Duw i arwain a
chyfarwyddo i ac ar hyd y ffordd. A chan ei fod yn
Awdwr trefn, " gosododd rai yn apostolion, rhai yn
broffwydi, ereill yn athrawon," &c.
|
|
|
(delwedd E0322) (tudalen 326)
|
326
DETHOLION.
2. Y Blaenoriaid i ofalu am adran arianol y
gwaith.—Sefyd1wyd hyn yn ddeddf gan neu yn yr oes
apostolaidd, pan y neillduwyd y seithwyr da eu gair i
wasanaethu byrddau, fel y gallai yr apostolion lafurio
yn fwy llwyr yn yr athrawiaeth. V mae y byd Cristionogol, o hyny hyd heddyw,
yn cydnabod hyn; felly,
gan fy mod inau wedi derbyn yr anrhydedd o gael fy
rhifo yn mhlith y blaenoriaid, y mae y Nefoedd a'r
Eglwys wedi fy ngosod dan y cyfrifoldeb o wneyd fy
ngoreu er anog pawb at haelioni crefyddol.
3. Mae haelioni Cristionogol yn sylfaen hanfodol
llwyddiant yr Efengyl.—Yr egwyddor hon ysgogodd
feddwl y Duwdod i gynllunio ffordd o waredigaeth i'r
euog, ac a ddaeth a'r Ail Berson o'i ogoniant hanfodol
a digwmwl i waered trwy y digofaint anfeidrol, a
thrwy y cwmwl o euogrwydd sydd yn gordoi y byd!
Cawn Ef yn gyntaf yn nghanol y cwmwl yn chwilio
am y colledig: " Adda, pa le yr wyt ti? " Cawn Ef
wedi hyny yn adeiladu yr arch, er cadw y byd euog yn
fyw; yna yn codi y llanc Joseph O'r pydew, a thrachefn
yn ei ddwyn allan O'r carchar. Gwelwn Ef yn codi
Moses bach O'r afon, ac ar ol hyny yn myned trwy
waelod y mar i agor ffordd i rai ar ddarfod am danynt;
yna yn ymboeni gyda'r rhai gwrthnysig am ddeugain
mlynedd! Cawn Ef yn diffoddi angerdd y tan, ac yn
cau safnau Ilewod. " A phwy a draetha Ei oes Ef? "
Gwelwn Ef wedi hyn yn dianc am Ei einioes i'r Aifft,
mewn Ilestr bychan o bridd! Ié, 'ie, un mor fawr a
Thad Tragywyddoldeb yn cymeryd ei wasgu i lestr
pridd, er ei guddio yn ngwlad y caethiwed! Gwelwyd
Ef yn cael Ei gernodio a'i groeshoelio, ac o'i fodd yn
myned i uffern er dwyn gydag Ef oddiyno y " caffaeliad oddiar y
cadarn," ac er gwaredu y rhai a garcharwyd yn gyfiawn! Dyna haelfrydedd,
onide? Dyna yr
esiampl a roddes Efe i' w ganlynwyr o haelfrydedd
Cristionogol. Felly, eglur yw, mai haelfrydedd yw
|
|
|
(delwedd E0323) (tudalen 327)
|
DETHOLION.
327
sylfaen llwyddiant yr Efengyl, yn ogystal a hanfod
y gwaith o adeiladu y Jerusalem a ddaeth i waered
oddiwrth Dduw.
4. Gwirfoddolrzvydd yzv hanfod cymeradwyaeth
haelfrydedd Cristionogol.—Nid oes un weithred o eiddo
böd moesol yn teilyngu cydnabyddiaeth, os na fydd yn
weithred wirfoddol. O wirfoddolrwydd Duw y tardda
Ei holl weithredoedd; gan hyny, rhaid eu bod yn dda
a chanmoladwy. V mae Duw hefyd wedi gosod yr
ewyllys yn nghalon dyn i fod yn ysgogydd i' w holl
weithredoedd, yn y fath fodd ag y bydd ei ddedwydd-wch neu ei annedwyddwch,
am amser a thragywyddoldeb, yn ymddibynu ar ein hymddygiadau gwirfoddol,
am mai yn yr ewyllys y mae canolbwynt cyfrifoldeb
dyn. Gan hyny, nid yw yr egwyddor orfodol yn
perthyn i'r byd rhesymol. Nid yw Brenin Seion wedi
ordeinio gorfodaeth i fod yn elfen yn Ei Eglwys o
gwbl; nid yw yn gosod gwerth ar y rhodd annewyllysgar, nac ar ymddygiad y
swyddog eglwysig sydd
yn gorfodi neb i roddi. Ni bydd y Barnwr• yn cydnabod yr un O'r ddwy weithred
yn y Dydd Olaf:
" Canys Myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder: yr wyf
yn casåu trais yn boeth-offrwm " (Esa. Ixi. 8). Tybia
rhai fod yr Arglwydd yn gorfodi yr Eglwys luddewig i
dalu y degwm; ond nid felly yr wyf fi yn deall.
Tybiwyf mai wedi awgrymu yr oedd yr Arglwydd
y priodo]deb iddynt gyfranu y degwn at gynal crefydd,
neu at fwyd ysbrydol iddynt eu hunain, gan addaw
iddynt fendithion trwy ac am wneyd, a melldith trwy
beidio gwrandaw ar Ei gynghor Ef, yr I-Iwn sydd yn
llywodraethu ar bob peth.
5. Eglur gan hyny yzv ein dyledswydd i anog ein
gilydd at haelioni crefyddol.—V mae llwyddiant yn
gofyn haelioni—er cael capel Cysurus a hardd yn ddiddyled, ac er cynal
gweinidog yn anrhydeddus i
arlwyo i ni ymborth ysbrydol. A dylai fod gan bob
|
|
|
(delwedd E0324) (tudalen 328)
|
328
DETHOLION.
eglwys ystafell eang a chyfleus i'r bobl ieuainc gyfarfod
å'u gilydd i gadw cyfarfodydd adloniadol, crefyddol, a
Ilenyddol. Hefyd, dylai fod yn yr ystafell hon ddarIlenfa dda, yn cynwys
llyfrau a chyfnodolion ar bob
cangen o wybodaeth fuddiol; yna ni fydd llawer o
berygl i blant yr eglwysi dyfu i fyny yn ddrygionus ac
annuwiol ar hyd yr heolydd, yr ystordai, y tafarndai,
y chwareudai, &c.
Eto, y mae eangder a mawredd y gwaith Cenadol
yn galw arnom anog ein gilydd at haelioni crefyddol.
V mae miliynau Asia, Affrica, America, ac ynysoedd
y mar, yn galw arnom o ddyfnder trueni a thywyllwch
moesol, am anfon atynt hwythau y newyddion da o
lawenydd mawr am "y Bachgen a anwyd erbyn
caledi," er codi y colledig truenus O'r pydewau damniol
ac anobeithiol i ddedwyddwch gwynfydedig a thragywyddol. " Ond,"
medd yr anghrediniol, " pwy sydd
" Yr ydym yn methu yn
ddigonol i'r pethau hyn? "
awr a thalu y ddyled sydd ar ein capel, na chwaith
gasglu digon i dalu am weinidogaeth, fel yr ydym yn
gorfod cael ffeiriau, festivals, hap-chwareuon, &c., er
ein cynorthwyo i gael pethau i fyn'd rywfodd." Ond
gallaf fi ateb yn ddibetrus, y bydd Eglwys Dduw, yn
nydd Ei nerth Ef, yn ddigonol i gyflawni angenion y
byd. Y mae ewyllys, ffydd, a gallu yr Eglwys i
gynyddu, fel y gareg a welodd Daniel yn cael ei thori
O'r mynydd, ac yn treiglo, gan gynyddu nes Ilenwi yr
holl ddaear. Gwneir holl anialdiroedd y byd yn erddi
paradwysaidd trwy fendith Duw ar haelioni ei bobl.
Gellid Cristioneiddio yr holl fyd cyn can' mlynedd i
heddyw, trwy haelioni yr Eglwys a bendith Duw.
Gadewch i ni gael gofyn i ffugyrau beth a ddywedant
hwy am hyn. Tebyg nad yw poblogaeth y byd heddyw
yn 1,500,000,000, ond tybiwn hyny; a Christionogion
y byd yn 300,000,000; yna ceir fod pedwar o baganiaid
ar gyfer pob Cristion i'w grefyddoli; a dylem gofio
|
|
|
(delwedd E0325) (tudalen 329)
|
DETHOLION.
329
fod yr holl saint yn offeiriaid. Pe dyblai y Cristionogion yn eu rhif bob
ugain mlynedd, enillid yr holl
fyd at Grist felly cyn pen haner can' mlynedd! " O,'
medd rhywun,
"o ba le y ceid digon o arian at y
gwaith? " Wel, ca ffugyrau lefartl eto ar y cwestiwn
yna. Y n ol yr ystadegau diweddar, dywedir fod
900,000,000 0 ddoleri yn cael eu gwario yn flynyddo
am ddiodydd meddwol yn y Talaethau Unedig yn
unig, a 600,000,000 am dobaco—neu 1,500,000,000 cydrhyngddynt; sef un dolar
bob blwyddyn ar gyfer pob
dyn byw ar wyneb y ddaear! Talai hyny 1,000 0
ddoleri y flwyddyn ar gyfer 1,500,000 0 weinidogion;
sef un gweinidog ar gyfer pob 1,000 0 bobl y byd! Ac
os yw y Talaethau Unedig yn fyw, er cymeryd cymaint
a gwerth 1,500,000,000 0 ddoleri o wenwyn i'w chyfansoddiad yn flynyddol, ai
tebyg na allai fyw wrth wario
y cyfryw er cyfranu bendithion bywyd tragywyddol i'r
byd? A chofier nad yw y wlad hon ond rhan fechan
O'r byd Cristionogol.
Ond cymerwn olwg fwy cartrefol eto ar y ffeithiau:
1,500,000,000 0 ddoleri gan 60,000,000 0 drigolion sydd
gyfartal i 25 dolar ar gyfer pob enaid byw: felly
gwaria mil o bersonau 25,000 0 ddoleri yn flynyddol.
Y n awr, gadewch i ni gael edrych beth all y gwastraff
yna wneyd o ddaioni yn flynyddol:—
Cyfraniadau at y capel
At ystafell y ddarllenfa ..
At gyflog i'r gweinidog .
I lyfrgellydd a janitor
I harddu oddimewn ac allan
At drysorfa y tlodion
At y Genadaeth Gartrefol
At y Genadaeth Dramor
Cyfanswm .
22
2,000 dol.
1,000
1,000
1,000
1,000
1,000
2,000
3,000
12,000 dol.
|
|
|
(delwedd E0326) (tudalen 330)
|
330
DETHOLION.
A dyna eto 13,000 0 ddoleri yn weddill at gysuron cartrefol neu deuluaidd.
Eithr ni chyfrenir yn flynyddol
yn awr ond tua 120,000,000 0 ddoleri, sef prin dwy
ddolary flwyddyn ar gyfer pob un yn y wlad; ac at y
Genadaeth Gartrefol a Thramor, ni chyfrenir ond tuag
wyth sent y pen ar gyfartaledd. Onid YW y byd eto
yn mhell o'i le? " Wel," meddai rhywun, " rhaid cofio
fod llawer O'r gwastraff dan sylw i fyned i fwydo a
dilladu teuluoedd y meddwon sydd yn awr yn dyoddef."
Wrth gwrs, ac yr wyf fi yn y ffugyrau blaenorol wedi
gadael dros yr haner ar gyfer hyny. Ond credwyf nad
yw yr amser yn mhell pan y bydd y gwledydd Cristionogol yn gwahardd masnachu
mewn diodydd meddT•vvol a'r tobaco fel melldithion cymdeithasol. V n awr,
megys cynt, y dywed yr Arglwydd: " Dygwch yr holl
ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nh9."
" O," medd yr amaethwr Americanaidd, " nis gallaf fi
ddegymu at gynal crefydd, a gofalu am fy nheulu yn
briodol." Onis gwyddost fod atnaethwyr Cymru dlawd
yn gorfod talu y degwm at grefydd arall, a chynal eu
crefydd eu hunain a'u teuluoedd hefyd? Meddai y
gweithiwr cyflogedig sydd yn enill 1 •50 dolar y dydd:
" Nid allaf finau ddim degymu at grefydd a byw;
byddai hyny yn agos i un dolar yr wythnos, neu dros
.40 0 ddoleri y flwyddyn! Na, yr wyf yn cyfrif fod un
ddolar y mis yn ddigon i mi gyfranu at grefydd." Beth
pe byddai i ti a'th gyfaill yr amaethwr wneyd yn ol
cynghor Duw, er gweled pa fodd y troai pethau
allan!
6. Mae ymarfcriad yn hanfodol i bob llwyddiant.—
Rhaid i ddyn arfer bod yn haelionus er dysgu bod yn
fwy haelionus, fel y gallo fedi y can' cymaint mewn
canlyniad, yn ol addewid y digelwyddog Dduw. Er
bod mor ymarferol ag a fyddo bosibl, awgrymaf
rai rheolau a fyddai yn feithrinfa i'r ysbryd haelfrydig:
|
|
|
(delwedd E0327) (tudalen 331)
|
DETHOLION.
331
1. Dylid gwneyd o leiaf un casgliad y mis ar gyfer
y weinidogaeth a gofalu am y capel.
2. Penoder rhyw frawd cymhwys bob mis i siarad
ar ryw blyg o haelioni crefyddol.
3. Cyfraned pob un, O'r hynaf i'r baban, ryw swm
bob mis.
4. Cyhoedder adroddiad blynyddol o gyfraniadau
pawb.
5. Gwneler casgliad gyda chysondeb at gynorthwyo y tlodion.
6. Gwneler casgliad teilwng,yn fisol neu flynyddol,
at y Cenadaethau Cartrefol a Thramor, a chasgliad
blynyddol at y Feibl Gymdeithas.
7. Cyflwyner un casgliad blynyddol i gronfa er
cynorthwyo i adeiladu capeli yn ddiddyled, fel na
byddo yr eglwysi yn cael eu Ilethu gan 16g dyled, fel
ag y mae yn awr yn rhy gyffredinol.
Ond i'r bobl edrych ar bethau yn iawn, deuant o
ewyllys yn fwy haelionus, a thrwy hyny yn fwy
dedwydd a gwell eu hamgylchiadau. Onid yr Arglwydd sydd yn rhoddi ac yn
cymeryd ymaith? Os
wyt ti yn ymffrostio dy fod yn rhoddi dolar y mis at
gynal crefydd, tra y dylesit roddi pump, cofia y gall
Duw gymeryd pedair o'i eiddo oddi arnat, trwy drais
dy feistr, neu trwy dy garcharu yn dy wely am rai
wythnosau. A thithatl, y.r amaethwr, a ddywedi di
nas gelli ddegymu at grefydd? Oni chymerodd Efe
geffyl gwerth 150 dol. oddi arnat y gauaf diweddaf, ac
yr wyt eto yn byw ar ol y golled! Pe buaset wedi
gwerthu y ceffyl ar ddeehreu y flwyddyn, er dy alluogi
i roddi 50 dol. at wahanol achosion crefydd, buaset
100 dbl. yn well allan yn dy logell, a chan' cymaint yn
well allan yn dy fynwes. " O, ffolineb! nid yw yr
Arglwydd yn gwneyd fel hyn å'r byd," medd rllywun.
Wel, os oes rhywun yn arnheu, gadewch i ni gael
|
|
|
(delwedd E0328) (tudalen 332)
|
332
DETHOLION.
gwrandaw ar Air y dystiolaeth, yr hwn sydd i aros
trwy holl oesau y ddaear, ac wedi i amser ddarfod:
" A ysbeilia dyn Dduw? eto, chwi a'm hysbeiliasoch I.
Ond chwi a ddywedwch, V n mha beth y' th ysbeiliasom?
V n y degwm a'r offrwm. Melldigedig ydych trwy
felldith; canys chwi a' m hysbeiliasoch I, sef yr holl
genedl hon. Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel
y byddo bwyd yn fy nhj•, a profwch Fi yr awrhon yn
hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi
ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na bo
digon o le i'w derbyn. Myfi hefyd a argyhoeddaf er
eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi
ffrwyth y ddaear; a'r winwydden yn y maes ni fwrw
ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y
lluoedd."—Ma1. iii. 8-11.
Dyna i chwi, ac nid yw Efe yn Ilefaru yn ofer. Ac
os felly y Ilefarai wrth yr Eglwys luddewig, pa faint
mwy wrth yr Eglwys Gristionogol, yr hon sydd genadol, a'i gwyneb ar yr holl
fyd? Os oeddynt hwy yn
felldithiol am ysbeilio y degwm, pa faint mwy ni?
Onid Ei weision Ef yw pob peth? V mae y gorthrymwyr gwladol yn weision iddo
Ef: " Moab yw Fy
nghrochan golchi," medd Efe; a dywed hefyd am y
pläau sydd yn lladd y meirch, a'r gwartheg, a'r defaid,
a'r moch, yn eiddo iddo Ef; ond nid hyfryd gan Dduw
yw cymeryd Ei eiddo oddiarnom; gwell ganddo lawer
iawn eu derbyn oddiwrthym fel offrymau gwirfoddol,
er nad oes eu hangen arno Ef, canys, meddai, " Eiddo
Fi yr arian a'r aur, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd."
" Paham ynte," meddai rhywun, "y mae mor galed a
dysgwyl i un tlawd fel fi roddi iddo o'm hangen at Ei
waith? " Dywedaf i ti: Byddai llwyddiant bydol yn
ddamniol i ti heb grefydd; ac asgwrn cefn gwir grefydd
yw cynorthwyo Duw i wneyd ag ereill fel y gwnaeth
Efe trwy ereill i ninau. Felly, y mae pob rhodd dda
|
|
|
(delwedd E0329) (tudalen 333)
|
DETHOLION.
333
o eiddo y saint er mwyn dyn, ac nid er mwyn y Duw
" Profwch Fi yr awr hon yn hyn,"
Hollgyfoethog.
ynte.
7. Mae Duzv yn bendithio _yn ol y ffyddlondeb.—
4' Yr hwn sydd yn hau yn brin a fed hefyd yn brin;
a'r hwn sydd yn hau yn helaeth a. fed hefyd yn
helaeth," yw hi yn mhob oes O'r byd—-yn y byd moesol
yn ogystal a'r byd llysieuol; a gwyn fyd y ddaear yn
y man, pan fydd yr holl saint yn ewyllysgar i hau yn
helaeth yn nydd ei nerth Ef, ac y byddant hwythau
oll yn medi y can' cymaint yn y byd hwn. V na atebir
yn gadarnhaol a sylweddol yr hen ofyniad amheus
hwnw: "A enir cenedl mewn un dydd? " Y pryd
hwnw bydd gwyddoniaeth, celfyddyd, a chyfoeth y
byd yn cydweithio er gwneyd i'r anialwch flodeuo, a'r
diffaethwch fel gardd yr Arglwydd, Ile y bydd preswylfeydd tawel, ac aneddau
Ilonydd ac heddychol teulu
mawr cyffredinol Duw, ar hyd cyfnod hirfaith a
gogoneddus y Milflwyddiant, pan y bydd sancteiddrwydd yn ysgrifenedig megys
ar ffrwynau y meirch, a
phan na ddysgant ryfel mwyach. Gan y " bydd
heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tönau y mar,"
sef tönau mar cariad Cristionogol, cydweddied y saint
ar yr Arglwydd am iddo anfon yr Vsbryd i agor llygaid,
a deall, a chalonau ei bobl, fel y byddont ewyllysgar
i'r cynhauaf mawr yn nydd Ei nerth Ef; " Canys llawn
yw tywyll-leoedd y ddaear o drigfanau trawsder."
" Deffro, deffro, Seion, gwisg dy nerth; gwisg wisgoedd
dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerusalem."
CYFALAF A LLAFUR.
DYNA un o bynciau mawr yr oes. Nid yn yr oes
hon yn unig y mae hwn wedi bod yn bwysig, ond
y mae wedi bod felly mewn gwahanol oesoedd o
|
|
|
(delwedd E0330) (tudalen 334)
|
334
DETHOLION.
ddechreuad y byd. Oni phrofa hanesyddiaeth y byd
fod yr ychydig wedi ymdrechu trwy yr oesoedd i
wneyd y werin yn gaethion i'w hewyllys hwy? Ac er
i'r Unol Dalaethau gyhoeddi yn 1776 fod pob dyn i
fod mewn rhyddid ac urddas cyfartal—yn gymdeithasol a gwladol—cymerodd yn
agos i gan' mlynedd i'r
dosbarth cyfoethog a llywodraethol i gydnabod eu
cyffes ffydd yn ymarferol, a thebyg y cymerai fil o
flynyddoedd yn rhagor cyn y gellid llwyddo i argyhoeddi y caeth-feistri i
ryddhau eu caethion. V mae
Ile i ofni fod yr elfen dreisiol a gorthrymus mor gref
ag erioed yn nghalonau cyfalafwyr y Talaethau
Unedig; ac hefyd fod yr egwyddor ddrwg yna yn
nghalonau y gweithwyr, ac yn amlygtl ei hun pan y
ca gyfleusdra. Meithrinir yr egwyddor ddrwg yna yn
nghalonau y ddau ddosbarth i raddau pell trwy gauresymau. Dysga y dosbarth
blaenaf eu gilydd i gredtt
fod yn iawn cadw y gweithwyr i lawr rywle yn
ngraddfa yr anifail; ac O'r ochr arall, yn yr ymwybyddiaeth o hyn, y mae y
gweithwyr yn cynddeiriogi i'r
fath raddau, fel y boddlonant i niweidio eu hunain a'tt
teuluoedd er dial a cholledu y meistri. Nid oes dim
yn fwy eglur na bod pob dosbarth O'r boblogaeth yn
gorfod dyoddef mewn canlyniad i ymladdfeydd cyfalaf„
a llafur, a'u bod yn fwy niweidiol felly o flwyddyn i
flwyddyn, am fod elfenau addysg, celfyddyd, &c., yn
ffafriol i'r ddwy elfen dan sylw i ymfyddino yn fwy
cyffredinol a pheryglus yn erbyn eu gilydd; ac i'r un
graddau y mae heddwch a llwyddiant cyffredinol yn
cael ei beryglu, fel ag yr wyf yn fwy argyhoeddiadol, o
flwyddyn i flwyddyn, o ddyledswydd y Llywodraeth
WIad01 i sefydlu cyfreithiau cyflafareddol, i orfodi y
meistr a'r gweithiwr i ymddiried i gyflafareddwyr i
benderfynu eti hanghydwelediadau. Y mae Ilesy meistri
a'r gweithwyr yn galw am gyfraith O'r fath, ac hefyd
Iles masnachol yn gyffredinol. Os yw yn iawn gwneyd
|
|
|
(delwedd E0331) (tudalen 335)
|
DETHOLION.
335
cyfraith i atal dau berson i ymladd, pan na bydd ond
hwy eu hunain yn dyoddef yr ergydion, pa faint mwy
rhesymol yw i atal y corfforaethau masnachol a'u
gweithwyr i ymladd, tra y mae yr holl wlad yn dyoddef
yr ergydion? Onid dyna ddyben llywodraeth wladol?
sef cadw trefn, ac i ymaflyd yn figwär y gorthrymydd,
a'i orchymyn i ffordd cyfiawnder, yn ogystal a'r rhai a
fydd yn gosod ceryg o flaen olwynion masnach mewn
cylchoedd is?
Y mae dwy o wledydd mwyaf gwareiddiedig y byd
y blynyddoedd diweddaf hyn, yn wirfoddol, wedi
ymddiried eu hanghydwelediad i gyflafareddwyr yn
hytrach na'i wastadhau ar faes rhyfel a dystryw. A
chan fod rhyddid gwladol a Christionoxol yn cael ei
gamarfer mor ofnadwy, byddai yn fendith i gael
cyfraith i lywodraethu y ddwy elfen fawr beryglus dan
sylw, er rhagflaenu trychinebatl ofnadwy oes y trydaniaeth, canys ni bydd
heddwch mwy hyd oni sicrheir
cyfiawnder ar y ddaear. Oni bydd i wladweinwyr
ddeddfwru yn y cyfeiriad hyn yn brydlon, ceir gweled
eto erchyllderau yr hen egwyddor annuwiol hono,
" Trechaf treisied, gwanaf gwaedded," a cheir, yn Ile
rhyddid gogoneddus Gweriniaet.h Gristionogol, benrhyddid uffernol trais a
dystryw.
Yr wyf wedi bod yn mhlith y tanddaearolion yn
Nghymru ac America am 26 0 flynyddau, ac wedi
bod yn dadleu yr egwyddor gyflafareddol yn nghynadleddau fy nghydweithwyr
er's tua 30 0 flynyddau,
ac yn fwy argyhoeddiadol yn barhaus mai yr egwyddor
gyflafareddol a ddaw chyfiawnder masnachol i'r byd,
er sicrhau brawdgarwch cyffredinol ar y ddaear yn ol
yr addewidion.
|
|
|
(delwedd E0332) (tudalen 336)
|
336
DETHOLION.
V TLAWD A'R CVFOETHOG.
MAE arnaf awydd canu,
Oes yn wir, oes yn wir;
Ond eto dwys alaru
'Rwyf yn wir,
Oblegid anghyfiawnder,
A chreulawn iawn orthrymder,
Y rhai sydd mewn cyflawnder,
Ié yn wir, ie yn wir;
D'ont hwythau i gyfyngder,
D'ont yn wir.
Mae myrdd yn ocheneidio
Tua'r nef, tua'r nef,
At Un sydd yno'n gwylio
Y n y nef;
Un sydd mewn mawr eiddigedd
At rai mewn rhwysg a mawredd,
Fo'n gwledda mewn anwiredd
Dan y nef, dan y nef;
Eu Barnwr sydd yn eistedd
Y n y nef.
Mae amser gwell i ddyfod
Cyn bo hir, cyn bo hir,
Hyd gyrau'r ddaear isod,
Cyn bo hir;
Cyfiawnder a deyrnasa,
Trugaredd ymgofleidia,
A'r byd a orfoledda
Cyn bo hir, cyn bo hir;
Anialwch a flagura
Cyn bo hir.
A Gwr fydd yn ymguddfa
Rhag y gwres, rhag y gwres;
DETHOLION.
Amddifaid a gysgoda
Rhag y gwres:
Bydd cariad y pryd hyny
Trwy'r ddaear yn teyrnasu,
Brawdgarwch fydd yn ffynu,
Gyda gwres, gyda gwres;
Pob dosbarth fydd yn canu
Gyda gwres.
Bydd egwyddorion nefoedd
V pryd hyn, y pryd hyn,
Trwy'r ddaear a'i thrigolion
V pryd hyn;
Ni bydd yr un yn meddwi,
Na neb drwy'r byd yn cablu,
Na'r gwan dan draed yn trengu,
V pryd hyn, y pryd hyn;
Ond heddwch wna deyrnasu
V pryd hyn.
Trwy ffydd gwnaf finau gantl
V n y nos, yn y nos;
Dedwyddwch ddaw trwy hyny,
V n y nos:
Trwy Dduw y daw bendithion,
A 'i fawrion addewidion,
Ei arfaeth sydd yn ffyddlawn
Ddydd a nos, ddydd a nos,
Mae'r oll yn oll yn ddigon
Ddydd a nos.
337
|
|
|
(delwedd E0333) (tudalen 337)
|
DETHOLION.
Amddifaid a gysgoda
Rhag y gwres :
Bydd cariad y pryd hyny
Trwy'r ddaear yn teyrnasu,
Brawdgarwch fydd yn ffynu,
Gyda gwres, gyda gwres ;
Pob dosbarth fydd yn canu
Gyda gwres.
Bydd egwyddorion nefoedd
V pryd hyn, y pryd hyn,
Trwy'r ddaear a'i thrigolion
V pryd hyn ;
Ni bydd yr un yn meddwi,
Na neb drwy'r byd yn cablu,
Na'r gwan dan draed yn trengu,
V pryd hyn, y pryd hyn ;
Ond heddwch wna deyrnasu
V pryd hyn.
Trwy ffydd gwnaf finau gantl
V n y nos, yn y nos ;
Dedwyddwch ddaw trwy hyny,
V n y nos :
Trwy Dduw y daw bendithion,
A 'i fawrion addewidion,
Ei arfaeth sydd yn ffyddlawn
Ddydd a nos, ddydd a nos,
Mae'r 011 yn 011 yn ddigon
Ddydd a nos.
337
|
|
|
(delwedd E0334) (tudalen 338)
|
338
DETHOLION.
AMRVWIOL DEIMLADAU VR AWDWR AR El
GRWYDRIADAU AMERICANAIDD.
Cipdrem ar amrywiol deimladau awdwr " Llwybrau
Bywyd " yn ei siomedigaethau a'i lwyddiant.
TRA mi yn tramwy'r ddyrys daith
Er gwerthu " Llwybrau Bywyd,"
Ar hyd y dydd ac yn y nos
Trwy lwybrau maith anhyfryd;
Wrth gefnu ar y palas gwych,
A chofio gwg ei berchen,
Teimlwn mai Ofer oedd fy ngwaith,
Er fod y dyn mewn angen.
Mi aethum rhagwyf gan dristau,
Trwy'r gwlaw, y llaid, a'r eira,
Nes cyrhaedd at amaethdy llawn,
A'r teulu oll yn gwledda;
Gwahoddent fi yn siriol iawn
At fwrdd y bywyd yma;
Ond gan na werthwn iddynt hwy,
Fy nghalon a lesmeiria.
Os båm yn hau trwy'r llwyr cul
Am ddegau o flynyddau,
'Rwy'n awr yn medi ar y daith
V n mhlith y drain a'r blodau;
Gan fod ytndeithwyr trwy y byd
V n prynu " Llwybrau Bywyd,"
Er adgyfnerthiad yn y blaen
Wrth deithio tua'r gwynfyd.
Canfyddaf trwy fy nheithiau oll
Un gwir yn argraffedig,
Mai cyfnewidiol yw y byd,
A'i flodau sydd wywedig;
|
|
|
(delwedd E0335) (tudalen 339)
|
DETHOLION.
Yr haf a aeth, a'r hydref sydd,
A'r gauaf sydd yn dyfod,
Ac yna'r gwanwyn yn ei rwysg,
A bywyd fydd ei hanfod.
Y tro O'r blaen mewn cartref Clyd
Y teulu oedd yn llawen;
Ond tro a ddaeth—y tad nid yw,
A'r gweddill mewn wylofain;
Ond amser wna i'r fam a'r plant
Cyn hir i sychu'r dagrau,
Am fod bendithion Nefol Dad
V n Iloni eu gwynebau.
Y plant a welwn nid yn mhell
Y n awr sydd yn teyrnasu;
A hwy fu'n gweini arnynt hwy
O'r cartref wedi colli;
Ddoe, claddedigaeth yno fu,
Ac heddyw mae priodi,
A gwenu'n siriol mae y byd,
Ond 'fory bydd yn gwgu.
Am hyny teithiwn tua'r wlad
Lle nad yw'r haul yn machlud,
Lle na bydd pleser i barhau
Am dristwch yn cyfnewid;
Ond cariad am y teultl mawr
Fel cylch i'w dedwyddoli,
Am drag'wyddoldeb i barhau,
Heb elfen i'w gwasgaru.
339
|
|
|
(delwedd E0336) (tudalen 340)
|
340
DETHOLION.
A'M LLVGAID ARNAT V'TH GVNGHORAF."
(SALM
xll. 8.)
IE, er dy fod yn crwydro'n mhell
Mewn tywyll, anial wlad,
Ac er dy fod yn mhell o'th fro,
A thegwch t' dy Dad;
Dywedaf wrthyt yn y niwl,
O'm llwybrau na phellha;
Wrth chwilio am y llwybr cul
V nos, na lwfrha.
A phan y byddych yn y llaid
A'r d'rysni'n wylo'n ddwys,
Dywedaf wrthyt y pryd hyn
Am fan i roi dy bwys!
Ac er ar goll fel dafad brudd,
Heb wybod b'le i droi,
Mi a sibrydaf yn dy glust—
" Dos, wele fan i ffoi."
A rhag it' farw heb ddim bwyd,
Na dw'r mewn anial cas,
A'm llygaid arnat, cei dy ddwyn
At ddw'r a phorfa fras;
O'th fodd ti grwydraist draw yn mhell
I geisio pleser gau;
Gwnaf Fi o'm bodd dy dywys at
Bleserau i barhau.
Gwnaeth cynghor drwg y gelyn ddyn
Dy dywys di ar goll;
Gwna'm cynghor I adferiad llawn,
Rwy'n gweled oll yn oll;
Er cymaint gofal mam a thad,
Mwy yw fy ngofal I,
Gwnaed cynghrair gan Anfeidrol Dri
Er cael dy gadw di.
|
|
|
(delwedd E0337) (tudalen 341)
|
DETHOLION.
A 'm llygaid arnat, dilyn wr.af
Di i dy lwybrau oll;
Nis gallaf, er fy mwyn fy Hun,
Dy adael byth ar goll;
Gwna'm llais yn yr Efengyl fwyn
Adseinio o dy ol,
" O! dychwel, dychwel, cyn bo hir
O'th gau arferion ffol."
Fy llygaid arnat sydd o hyd,
Er bod yn mhell o' th wlad,
Rhag i ti farw yn dy wae,
V n mhell o d' dy dad!
O! tro dy wyneb tua'th fro,
Paham yr wyli m wy?
Mae canu fry ger bron fy N had.
Dos, gwledda gyda hwy.
Mae'm gwallt yn wlyb gan wlith y nen„
Tra yn dy wylio di,
Gan i Mi arnat roi fy serch,
Dy Geidwad ydwyf Fi;
Mae'th gamrau di a gwallt dy ben
Mewn cyfrif gan Fy N had,
Ac er dy gael i' w fynwes Ef
Y collais I fy ngwaed.
Am hyny, gwrando'm llais bob dydd„
A'm cynghor er Ileshad,
'Rwyf wedi marw er dy fwyn,
Fel un O'r breiniol had;
Cei wledda yn y byd a ddaw
Heb ddeilen sur i'th ran,
Wrth gofio gofal Mab y Dyn
Am danat pan yn wan.
341
|
|
|
(delwedd E0338) (tudalen 342)
|
342
DETHOLION.
FFAIR GVD-GENEDLAETHOL GOLUMBAIDD Y
BVD VN CHICAGO VN V FLWVDDVN 1893.
DYNA yr Arddangosfa ardderchocaf a welodd y byd
hyd yma o gynyrchion naturiol a chelfyddydol—o waith
Duw a gwaith dynion. Syniad beiddgar a mawreddog
oedd y syniad o geisio casglu esiamplau o holl waith
Duw yn y greadigaeth eang ar hyd y cyfnodau anfesurol
yn y byd materol a moesol; ac hefyd esiamplau o
gynyrch y eddwl dynol yn holl amrywiol gangenau
dadblygiad am chwe' mil o flynyddoedd, i le mor
fychan a rhyw 1,037 0 erwatl o dir, a hyny o fewn rhyw
ddwy flynedd o amser. Costiodd tua 10,000,000 dol.
er cyfaddasu Ileoliad y Ffair, heb gyfrif y draul o
adeiladu rhyw 400 0 adeiladau mawrion a bychain.
Tebyg nad oes unrhyw genedl yn y byd a allai
ymgymeryd å'r fath anturiaeth, a'i gwneuthur yn
llwyddiant, ond y Talaethau Unedig. Gosodwn ger
bron ystadegau y prif Ffeiriau blaenorol, er dangos
hyn, gan roddi nifer yr erwau a'r troedfeddi dan do yn
mhob un ohonynt:—
Paris, 1867
Llundain, 1862
Vienna, 1873
Paris, 1889
Philadelphia, 1876
Chicago, 1893
Erwau.
87
23b
280
173
236
1,037
Troedfeddi.
3,371,904
1,291,800
2,963,421
1 ,ooo,ooo
5 , 000, 000
Dangosir prif dreuliau Ffair Chicago, heb gyfrif
treuliau unigolion fel y canlyn
V Cwmni Arddangosiadol .
Llywodraeth y Talaethau Unedig..
V Gwahanol Dalaethau
Gwledydd Tramor yn nghyd
Cyfanswm y draul
Doleri.
20,000,000
1,400,000
6, 600,000
8,250,000
36,250,000
|
|
|
(delwedd E0339) (tudalen 343)
|
DETHOLION.
343
Wele yn canlyn enwau y gwledydd ag oeddynt yn
dangos eu nwyddau yn Ffair Chicago, a'r symiau a
wariasant er cario hyny allan, heb gyfrif treuliau yr
unigolion a'r corfforaethau er dangos eu nwyddau:—
Argentine Republic
Austria
Belgium
Bolivia
Brazil
Columbia
Costa Rica
Denmark
Danish West Indies
Ecuador
France
Germany
Great Britain .
Barbadoes
British Guiana
British Honduras
Canada
Cape Colony ..
Ceylon
India
Jamaica
Leeward Islands
New South Wales
New Zealand..
Trinidad
Greece
Guatetnala
Hawaii
Honduras
Hayti
Doleri.
100,000
100,300
57,000
30,000
600,000
100,000
150,000
67,000
1,200
125,000
733,400
800,000
391,000
5,840
25,000
7 '500
200,000
50,000
121,000
405,000
24,335
6,000
243,325
27,500
15,000
65,000
200,000
60,000
20,000
25,000
|
|
|
(delwedd E0340) (tudalen 344)
|
344
Japan
Liberia
lyrexico
Morocco
Netherlands
DETHOLION.
Dutch Guiana
Dutch West Indies
Nicaragua
Norway
Orange Free State
Paraguay
Peru
Russia
Salvador
San Domingo
Spain
Cuba
Sweden
Uruguay
Doleri.
880,000
7 ,ooo
50,000
150,000
100,000
10,000
5,000
31,000
106,280
7 '500
100.000
140,000
310,320
12,500
25,000
14,000
25,000
108,000
24,000
Tebyg na welodd y byd adeiladau mor fawrion
erioed O'r blaen. Gosodwn ger bron yn y fan yma
faint o dir orchuddid gan rai o brif adeiladau y Ffair
ryfedd hon.
Adeiladau.
Troedfeddi. Erwau.
Manufactures & Liberal Arts 787 x 1687
Administration Building
Mines Buildings
Electricity Building Transportation Building
AnnexWoman's Building
Art Galleries Building
Fisheries Building
AnnexAnnex- 262 x
350 x
- 345 x
- 256 x
425 x
- 199 x
- 320 x
120 x
- 165 x
262
700
690
960
900
388
500
200
365
133 Chains
30.5
1.6
5.6
5-5
5.6
8.8
1.8
3-7
1.1
1.4
.8
|
|
|
(delwedd E0341) (tudalen 345)
|
DETHOLION.
Adeiladau.
Horticulture Building
Green houses
Machinery Building Agriculture BuildingForestry Building
Troedfeddi.
- 250 x 998
24 x 100
- 492 x 846
- 800 x 1350
- 208 x 528
U.S. Government Building - 345 x 415
345
Erwau.
5-7
.5
9.6
13.0
2.5
3-3
Music Hall
- 120 x 250
Gellid nodi ugeiniau yn ychwaneg o adeiladau mawrion
a heirdd ar faes yr Arddangosfa fawr hon. Vr oedd
38 0'r Talaethåu wedi adeiladtl eu Slate Buildings yno,
heblaw yr adranau oedd ganddynt yn yr adeiladau
mawrion. V n ol fy nhyb i, Illinois a California oedd
å'r adeiladau talaethol eangaf a llawnaf o ryfeddodau.
Vr oedd 16 0 wledydd tramor wedi adeiladu State
Buildings ar faes yr Arddangosfa. Dywedid fod tua
400 0 bob math o adeiladau ar dir y Ffair, ond nid
oedd yr oll ohonynt ond megys dim at yr amrywiaeth
dirifedi o ryfeddodau ag oedd o'i mewn; •ie,
RHYFEDDODAU MEWNOL Y FFAIR.
Ond oferedd fuasai ceisio gwneyd sylwadau arnynt
bob yn un ac un, canys pe y cymerem dair mynyd i
edrych ar gywreinion pob rhyfeddod unigol, cymerai
bedair blynedd ar hugain cyn cyrhaedd yr Olaf; felly,
ni cheisiwn ond gwneyd ychydig sylwadau cyffredinol.
Yr oedd yno filoedd o dystiolaethau o ryfedd waith
Duw mewn
DAEAREG,
a'r cyfryw yn arwain yr edrychydd yn ol ar hyd
gyfnodau uwchlaw dirnadaeth dyn, er ceisio amgyffred
y modd yr oedd Duw yn ffurfio yr amrywiol feteloedd
a meini gwerthfawr, gan eu gosod i gadw i ni yn ei
gelloedd cuddiedig dan wadnau y mynyddoedd, i'w
23
|
|
|
(delwedd E0342) (tudalen 346)
|
346
DETHOLION.
cloddio allan yn y dyddiau diweddaf hyn er gwasanaeth dyn a gogoniant Duw.
Eto, gwelid yn Ffair fawr
Chicago
RYFEDDODAU Y MOR.
Ceid esiamplau O'r modd y mae yr ysbrydion anweledig yn crystaleiddio
cywreinion yn ngwaelod y
moroedd; a gwelid yno gasgliad byw o ryfeddol amrywiaethau tylwythau y
dyfroedd yn eu helfen gynenid
wrth y miloedd, nes peri i'r edrychydd ryfeddu at
amrywiaeth gwaith y Meddwl Anfeidrol; ac hefyd
athrylith dyn yn medru caethgludo yr holl amrywiol
bysgod, a chynal yn fyw y miloedd hyn mewn modd
manteisiol i ni eu gweled, fel ag yr oeddynt yn eu
rhodfeydd dyfrol. Yr oedd yno y casgliad cyflawnaf
O'r
BVD LLVSIEUOL
ag a welwyd erioed mewn Arddangosfa—o'r isop ag
sydd yn tyfu ar geryg yr afon i fyny heibio a thrwy
fyd y blodau, a'r coed ffrwythau amrywiol, hyd at y
coedwigoedd tnawrion, Ile y ceir pob math o goed
gwerthfawr, megys y derw, cedrwydd, mahogany, &c.,
at wasanaeth amrywiog meibion celfyddyd, er gwasanaethu a harddu preswylfeydd
a symudiadau y byd.
Gwelem yno hefyd y casgliad helaethaf a welodd y
byd erioed o
YMLUSGIAID, BWYSTFILOD, AC ANIFEILIAID
y meusydd—o'r trychfilyn Ileiaf i fyny heibio tylwyth
y seirff a'r ysgorpionau, a'r bwystfilod ysglyfaethus o
bob rhyw, a thrwy ddosbarth yr anifeiliaid dofion a'u
holl amrywiaeth mewn gwahanol wledydd. Yr oedd
yno gasgliad gogoneddus O'r
BVD ASGELLOG,
O'r gwybedyn Ileiaf i fyny heibio i'r wenynen i fyd yr
adar, Ile y gwelir mwyaf o gywreinrwydd preintadwy y
|
|
|
(delwedd E0343) (tudalen 347)
|
DETHOLION.
347
Llaw Anfeidrol, fel y mae yn brofedigaeth i'r edrychydd i addoli y cynyrch yn
Ile y Cynyrchydd Dwyfol.
Y n nesaf, yr oedd yn y Ffair fawr hon y casgliad cyflawnaf o gangenau y
TEULU DYNOL
ag a welwyd gyda'u gilydd erioed—o gorachod pegynau
y ddaear hyd Indiaid anwaraidd y gwregys poeth, ac
o wehilion aflan a meddw anwariaeth hyd at urddasolion glan, sobr, a
diwylliedig gwareiddiad Cristionogol.
Dygai y gwahanol gynrychiolwyr hyn neillduolion eu
-dosbarth• a'u cenedl gyda hwy i'r Arddangosfa. Un
diwrnod, gwelwn yno
ORYMDAITH GYF-GENEDLAETHOL,
Ile y gwelid moddion trosglwyddol 11oll wledydd ac
oesoedd y byd yn cael eu defnyddio yn ymarferol—ö
law ac ysgwydd-seddau Negroaidd Canolbarth Affrica,
ac elorgerbydau a chamelod Asia, a boncyff olwynion
wageni yn cael eu llusgo gan geffylau ac asynod Ewrop
ac America, gydag amrywiaeth gwelliantau trosglwyddol yr oes oleu hon; ac yn
yr orymdaith yr oedd
yr olwyn-farchogwyr, y cerbyd trydanol, &c.
Eto, yn yr adeiladau mawrion, gwelid cywreinion
celfyddydol holl wledydd y byd, O'r
CYFNOD CERYGOG,
pan oedd offerynau hwsmoniaeth yn cael eu gwneyd o
geryg, a choed, a chroen, cyn bod haiarn a meteloedd
ereill yn cael eu darostwng i wasanaeth celfyddydol;
gwelid yno y mwrthwl careg, a'r eingion gareg, y llawfeini malu, a'r bwa
saethau a ddefnyddid am ganrifoedd ar feusydd rhyfel, gan y gwar a'r anwar;
ac arddangosid eto filoedd o esiamplau o ddadblygiad
celfyddydol y cyfnod haiarnaidd, fel ffrwyth athrylith
athrawon celfyddydol mewn gwahanol gangenau celf.
|
|
|
(delwedd E0344) (tudalen 348)
|
DETHOLION.
Yr oedd i' w gweled yn y Ffair hon aneirif offerynau
AMAETHYDDIAETH,
gyda'r gwelliantau rhyfeddol ac aml, o gyfnod y dwrnfedi a'r llaw-gryman hyd
y dydd hwn, pan y mae yr
ager-beiriant yn aredig y tir, a hau yr ydau, a'u medi,
a'u rhwymo, a'u dyrnu. A chasglwyd i'r Arddangosfa
fawr hon y byd
PEIRIANOL,
gyda'i holl ddiwygiadau, o'u cychwyniad syml hyd
gyfnod y meirch tanllyd presenol, y rhai a allant lusgo
llwythi o filoedd o dunelli yr un yn y cyflymdra o
filldir y fynyd dros y gwastadeddau mawrion, a thrwy
y mynyddoedd a thros eu penau, os bydd angen; ac
ardderchog oedd ymddangosiad y meirch hyn yn yr
Arddangosfa, gyda'u traed haiarnaidd ac olwyniog, a'u
gewynau o ddur, a'u cymalau o bres, yn llusgo ar eu
hol gyfresi o balas-gerbydau ardderchog o addurnedig!
Eto, bydded i ni fyned am dro drwy y
MANUFACTURES' BUILDING,
yr hwn a orchuddia 30.5 0 erwau o dir. Dyna adeilad
mawr, onide? V n hwn yr arddangosid gwerth canoedd
o filiynau o ddoleri o nwyddau llaw-weithfaol holl
wledydd y byd. Gallai dyn gerdded ar hyd y dydd
trwy amrywiol rodfeydd yr adeilad mawreddog hwn
heb fyned ddwywaith ar hyd yr un llwybr, heb aros
dim i edrych ar y miliynau rhyfeddodau amrywiol
oedd ynddo!
ART BUILDING.
Cynwysa hwn eto fyd o ryfeddodau. Mesura 500 wrth
300 0 droedfeddi, a'i holl ystafelloedd yn llawn o gynyrch y meistri yn y
celfyddydau cain yn holl wledydd
y byd. Arddangosai arluniau yr adeilad hwn y teulu
|
|
|
(delwedd E0345) (tudalen 349)
|
DETHOLION.
349
dynol yn ei holl arweddau personol a chymdeithasol,
trwy holl raddau dedwyddwch a thrueni y byd. Eto,
yr oedd yr
WOMAN'S BUILDING
yn ardderchog gan gynyrch athrylith merched y
gwahanol wledydd; ac i Cymry ar eu hymweliad å
Ffair y Byd yn Chicago, nid y Ileiaf dyddorol oedd
gweled y Gymraes yn gwau gwlaneni Cymru, sef Miss
Margaret Adams, Dolwyan, Felindre, sir Gaerfyrddin;
ac yr oedd yn neillduol o ddyddorol i'r awdwr i gael
siarad Cymraeg hi yn Ffair y Byd, gan ei bod wedi
dyfod o ardal fy mebyd i gynrychioli fy ngwlad enedigol yn Arddangosfa Fawr y
bedwaredd ganrif ar
bymtheg; a boddlonrwydd i bob Cymro a Chymraes
yw deall i Miss Adams enill y wobr am watl y wlanen
oreu yn Ffair y Byd.
Ond yr oedd cynyrchion miloedd o ferched athrylith y gwahanol wledydd yn yr
adeilad hwn yn
ogystal ag eiddo Miss Adams, a chafodd llawer ohonynt eu gwobrwyo fel hithau;
ond gofod a balla i mi
helaethu ar gywreinion yr adeilad hwn, nac amryw O'r
prif adeiladau ereill yn yr Arddangosfa. Ond rhaid
gwneyd sylw eto O'r
ELECTRICITY BUILDING,
gan fod cy.nwys yr adeilad hwn yn cynrychioli y cyfnod trydanol ag sydd wedi
gwawrio ar y byd, ie, cyfnod
i oleuo a symud y byd gan y mellt wrth ewyllys dyn.
A dyddorol yn ddiau fyddai penod yn y fan yma ar
gywreinion dadblygiadol y byd trydanol er amser ei
ddarganfyddwr, Benjamin Franklin, hyd heddyw, pan
yr oedd gwahanol liwiau yr enfys yn byrlymu allan O'r
ddaear i oleuo y Ddinas Wen ar adenydd trydanol;
ond rhaid ymatal. V n nesaf, bydded i ni wneyd sylw
byr ar y cyfleusderau er trosglwyddo y bobl a phethau
i Ffair y Byd yn Chicago.
|
|
|
(delwedd E0346) (tudalen 350)
|
350
DETHOLION.
Tebyg nad oes unrhyw ddinas yn y byd mor fanteisiol i gynal Ffair ar raddfa
mor eang a Chicagm
Byddai yn nesaf peth i anmhosiblrwydd i gael cymaint
o dir yn gyfleus mewn unrhyw ddinas arall. Y mae
Chicago yn rhyfeddod i'r byd o ran ei gallu trosglwyddol. Er nad yw Chicago
ond dinas ieuanc, y mae
yn ganolbwynt i 76,865 0 filldiroedd o gledrffyrdd, a 37
o wahanol ffyrdd haiarn mawrion yn canolbwyntio yn
y ddinas hon, ac hefyd ganoedd o agerfadau y llynoedd
mawrion. Gan fod Chicago ar län dehau-orllewin llyn
Michigan, gall 88,000,000 0 breswylwyr y Cyfandir gael
eu cludo i Ffair y Byd yn Chicago, heb unwaith newid
cerbyd nes y byddont yn nghanol y ddinas. Y mae
262 0 through express trains yn myned i mewn neu
allan o Chicago yn ddyddiol, a 660 0 trains Ileol; hyny
yw, rhai nad ydynt yn myned yn mhell i'r wlad; a 274
o trains yn cludo nwyddau masnachol yn ddyddiol;
164 0 trains yn cludo nwyddau amaethyddol a choed
yn ddyddiol; a'r oll yn gwneyd 1,360 0 trains dyddiol
i mewn neu allan o ddinas Chicago! Pa ddinas yn y
byd all wneyd y fath drafnidiaeth å'r byd allanol yn
ddyddiol, heb gyfrif ei mantais fordwyol? Ié, y mae
107 0 orsafoedd teithwyr gan y gwahanol gledrffyrdd
o fewn terfynau y ddinas! Gellid cael cyfleusderau
bod mynyd O'r dydd o ganol y ddinas i'r " Ddinas
Wen " gyda y gledrffordd, ar hyd y ddaear, neu dros
ben y tai, neu gyda y cable street cars, neu electric street
cars, &c.
Yr oedd chwe' mis yr Arddangosfa yn y " Ddinas
Wen " wedi cael ei ranu bron i gyd rhwng y gwahanol
dalaethau, y gwahanol gymdeithasau, y gwahanol
wledydd, &c.; ac nid y Ileiaf nodedig oedd dyddiau y
Cymry. Un diwrnod oedd y gwahanol dalaethau yn
gael bob un, ond cafodd y Cymry bedwar diwrnod yn
y " Ddinas Wen " i gynal eu
|
|
|
(delwedd E0347) (tudalen 351)
|
DETHOLION.
HEISTEDDFOD GYD-GENEDLAETHOL
351
dan nawdd, ac fel rhan o Arddangosfa Fawr Ffair y
Byd, yr hon a gynaliwyd Medi 5ed, 6ed, 7fed, a'r 8fed,
1893, dan nawdd " Cymrodorion Cenedlaethol Chicago,"
Llywydd yr hon oedd y Parch. Samuel Job, a'i Hysgrifenydd Cyffredinol oedd y
cerddor, a'r bardd, a'r
Ilenor hyawdl, W. Apmadoc. Ond gan fod yr Eisteddfod hon y fwyaf mawreddog a
gynaliwyd erioed, eglur
yw fod yn rhaid i lawer gydweithio yn dda cyn y gellid
dysgwyl llwyddiant; felly, enwaf aelodau y gwahanol
bwyllgorau, canys y mae rhan O'r clod yn perthyn i
bob un O'r cyfryw. Dechreuwn gyda
BWRDD V CVFARWVDDWYR.
Parch. Samuel Job (Llywydd); W. T. Lewis, Racine,
Wis.; W. E. Powell (Gwilytn Eryri), ac R. Jones (1slywyddion); W. H.
Phillips, W. J. Jones, John H.
Jones (Sotlth Chicago), Thomas E. Lewis, John P.
Jones, R. W. Owen, Owen W. Jones, O. R. Williams,
a D. E. Humphreys.
PWYLLGOR GWEINYDDOL.
John B. Rees (Llywydd), David Rosser, Parch. J.
Wynne Jones, Rees Price, W. L. Williams, Parch. H.
O. Rowlands, D. R. Jones (South Chicago), John
Watkins (Is-lywydd), Parch. Jenkin Lloyd Jones,
Edward A. Francis, D. R. Jones (Dafydd Rhisiart),
Isaac Davies, Parch. Ellis Roberts, Gomer D. Jones,
D. V. Samuels, D. Charles Harris, John Edwards, R.
P. Evans, a John L. Owen.
SWYDDOGION GWEITHIOL.
W. Aptnadoc (Vsgrifenydd Cyffredinol), Edward
Thomas (Idriswyn—Vsgrifenydd i Brydain Fawr),
Evan Lloyd (Trysorydd), D. C. Harris (Ysgrifenydd
|
|
|
(delwedd E0348) (tudalen 352)
|
352
DETHOLION.
Arianol), D. U. Samuel (Cyfreithiwr), E. G. Lloyd
(Ysgrifenydd Cofnodol).
PWVLLGOR RHVDDIAETHOL.
Parch. W. C. Roberts, D.D. (Llywydd), Parch.
Ellis Roberts, Parch. Jenkin Lloyd Jones, Parch. J.
Wynne Jones, W. Apmadoc, Parch. Dr. H. O.
Rowlands.
PWVLLGOR BARDDONOL.
R. O. Davies (Moriog—L1ywydd), W. E. Powell,
E. G. Lloyd, Parch. T. Corry Thomas, W. Apmadoc,
a'r Parch. W. Rowland Williams.
PWVLLGOR CERDDOROL.
John P. Jones (Llywydd), Rees Price, Thomas
Richards, John E. Pugh, W. R. Jones, O. R. Williams,
Hugh Davies, W. Apmadoc, ac Isaac Davies.
PWVLLGOR CELFVDDVDOL.
W. Wynne Jones (Llywydd), John B. Rees, J.
Edwards, D. E. Humphreys, D. R. Jones, a J. Williams.
PWYLLGOR ARIANOL.
John P. Jones (Llywydd), Thomas E. Lewis, D.
Edward Jones, Richard P. Evans, J. H. Jones, Robert
Lloyd Owen, a D. C. Harris.
PWYLLGOR ARGRAFFU.
Evan Lloyd (Llywydd), D. C. Harris, John
Edwards, R. P. Evans, ac R. Jones
PWYLLGOR V GWOBRWVON.
W. E. Powell (Llywydd), R. W. Owen, D. V.
Samuels, J. P. Jones, ac Owen W. Jones.
|
|
|
(delwedd E0349) (tudalen 353)
|
DETHOLION.
PWVLLGOR TROSGLWVDDOL.
353
W. E. Powell (Llywydd), J. Watkins, J. Edwards,
John B. Rees, a Morgan L. Morgan.
PWYLLGOR CROESAWOL.
John Edwards (Llywydd), Hugh R. Jones, D. R.
Jones (Dafydd Risiart), Gomer D. Jones, D. R. Jones,
s.Ch., W. R. Jones, M. L. Morgan, a J. D. Davies.
PWVLLGORAU BONEDDIGESAU V CVMRODORION.
S WV D DOG ION.
Mrs. D. R. Jones (Llywyddes), Mrs. E. Griffiths, a
Mrs. R. Jones (Is-lywyddesau), Miss M. J. Rees,
(Vsgrifenyddes Gofnodol a Gohebol), Miss Hannah
Bowen (Trysoryddes).
PWVLLGOR GWEINVDDOL.
Mrs. Hugh Davies, Mrs. Samuel Job, Mrs. Isaac
Davies, Mrs. J. R. Williams, Mrs. John Watkins, Mrs.
Hammond, Mrs. •Edward Jonathan, Miss Gwladys
Edwards.
PWYLLGOR EISTEDDLEOEDD.
Miss Kate Griffiths a Miss Grace Jones.
PWYLLGOR ARIANOL.
Mrs. Samuel Job (Llywyddes), Mrs. J. Edwards
(Ysgrifenyddes), Mrs. E. Griffths (Trysoryddes), Miss
E. Owen, Mrs. Joshua Thomas, a Miss M. H.
Williams.
Eto, haedda y Columbia (sef y newyddiadur Cymraeg a Saesoneg a gyhoeddir yn
Chicago), ran helaeth
|
|
|
(delwedd E0350) (tudalen 354)
|
354
DETHOLION.
O'r clod a ddeillia oddiwrth lwyddiant Eisteddfod
Fawreddog Gyd-genedlaethol Chicago. Ac am y
Drych (sef newyddiadur Cenedlaethol Cymry America
er's degau o flynyddau, yr hwn a gyhoeddir yn Utica,
talaeth Efrog Newydd), wrth gwrs, cefnogodd yntatt
Eisteddfod Fawr Ffair y Byd. Ond gan y teimlai fod
Pvvyllgor yr Eisteddfod yn gosod mwy o werth ar y
Columbia na'r Drych, yr oedd yn naturiol i'r Olaf
deimlo dipyn yn eiddigeddus ac oerach o ran ei sél
dros y symudiad na'r Columbia, gan fod hwn yn cael
ei gyhoeddi yn minas y Pwyllgor, a'r Eisteddfod, a
Ffair y Byd.
Ac yn awr enwn cyymaint o bersonau o enwogrwydd cenedlaethol a gymerodd ran
yn ngweithrediadau yr Eistedd fawreddog hon ag aallwn ddwyn i
gof.
V BEIRNIAID.
Cystadleuaeth y corau meibion: Mr. John Thomas
(Pencerdd Gwalia), Llundain; Mr. W. L. Tomlins,
Chicago; a Dr. John H. Gower, Denver, Colo.; corau
y merched: Dr. Gower, Pencerdd Gwalia, a Mr. W.
Courtney, New York; y canigau: Dr. D. J. J. Mason,
Pencerdd Gwalia, a Mr. W. Courtney; y brif gystadleuaeth gerddorol: Mr. W. L.
Tomlins, Pencerdd
Gwalia, a Dr. Gower; y gantawd (cyfansoddiad): Dr.
Mason a Dr. Gower; y caneuon, deuawdau, &c.: y tri
beirniad uchod, Mr. Ben Davies, a Miss Mary Davies;
y traethodau: Proff. John Rhys, M.A., Rhydychain,
Lloegr; Anrh. Ellis H. Roberts, New York; Parch.
E. C. Evans, Remsen, N.Y.; Parch. W. C. Roberts,
D.D., a Mr. Thomas L. James, New York; Prom O.
M. Edwards, M.A., Rhydychain; Parch. H. E. Lewis
(Elfed), Llanelli, D.C.; Parch. John Rhys Morgan,
D. D. (Lleurwg), Llanelli, D.C.; Beriah Gwynfe Evans,
Vsw., Caernarfon, G.C.; Parch. Jenkin Lloyd Jones,
|
|
|
(delwedd E0351) (tudalen 355)
|
DETHOLION.
355
Chicago; Proff. G. Frederick Wright, Oberlin, O. ,
Proff. W. H. Williams, Prifysgol Madison, Wis.; a'r
Parch. D. Parker Morgan, D. D. , New York; barddoniaeth: Parch. Rowland
Williams (Hwfa Mon), Dafydd
Morganwg, Mr. G. H. Humphrey, Dyfed, Tudno, yr
Anrh. H. M. Edwards, a'r Proff. D. Rowlands, B.A.
(Dewi Mon), Coleg Aberhonddu.
ARHOLWVR YR VMGEISWYR AM DEITLAU
EISTEDDFODOL.
Mr. John Haydn Morris, Mount Vernon, New
York; Mr. T. J. Davies, Mus. Bac., Scranton, Pa.; a'r
Parch. J. T. Morgan, B.M. (Thalamus), New StratsVille, Ohio.
ARWEINWVR.
Parch. T. C. Edwards, D. D. , Kingston, Pa.; Parch.
Fred Evans, D.D., Milwaukee, Wis.; a'r Anrh. H. M.
Edwards, Scranton, Pa.
Dyna ddigon o enwogion i osod urddasolrwydd ar
Eisteddfod Fawreddog Gyd-genedlaethol Ffair y Byd,
onide? Ac yn awr awn rhagom i sylwi ar ei gweithrediadau dadblygiadol
dyddiol.
SABBATH, MEDI 3VDD.
Nid wyf am i neb i'm camddeall, a thybio fy mod
am iddynt gredu i weithrediadau Ilenyddol Eisteddfod
Gyd-genedlaethol Ffair y Byd gychwyn ar y Sabbath:
ond mai " The World's Religious Congress " a gychwynwyd gan y Cymry
ar y dydd hwn yn Neuadd
Columbus. Y mae yn wybyddus i lawer fod Eisteddfod
Crefyddau y Byd wedi ei threfnu i' w chynal mewn
cysylltiad a Ffair y Byd, ac yn anfwriadol, mae'n debyg,
y disgynodd i ran ein cenedl ni i gychwyn y gyfres
hon ar Medi 3Ydd. Yr oedd cynadleddau enwadol
|
|
|
(delwedd E0352) (tudalen 356)
|
356
DETHOLION.
wedi eu cynal O'n blaen ni, ond ni chychwynodd yr
eisteddiadau Ile yr oedd gwahanol enwadau crefyddol
yn cymeryd rhan ynddynt, nes i ni ei chychwyn, ac yr
oedd Cymry o Gymru, a gwahanol dalaethau, ac o
wahanol gredoau, yn cyd-addoli y Sabbath hwn yn
Chicago; a chafwyd amryw o gyfarfodydd crefyddol
gyda ni fel cenedl yn y gwahanol neuaddau a chapelau,
ar hyd rhyw ddeg o ddyddiau Cymreig Ffair y Byd.
Ac O'r cyfryw, yn y cyntaf cawsom bregeth ragorol
gan y pen-bardd, y Parch. Rowland Williams (Hwfa
Mon); ac yn yr Olaf a gefais i yno, cawsom ddwy
bregeth gan ddwy efengyles, sef Miss Rosina Davies a
Rahel o Fon; a thipyn yn rhyfedd i mi oedd gweled
rhyw ddwsin o weinidogion ordeiniedig yn eistedd
yn ewyllysgar i wrandaw ar y llancesau hyn. Da
genyf ddeall fod yr efengyles o Dreherbert wedi cael
derbyniad tywysogaidd trwy y Talaethau Unedig,
a bod ei phregethau a'i chaniadau wedi rhoddi
• boddlonrwydd cyffredinol yn mhlith y gwahanol
enwadau.
NOS LVN, MEDI 4VDD,
cafwyd cyfarfod dyddorol i groesawu enwogion o
Gymru a manau ereill, gan Gymrodorion Chicago, ar
eu dyfodiod i Eisteddfod y Cydfyd.
DVDD CYNTAF VR EISTEDDFOD,
sef dydd Mawrth, Medi 5ed, am 12 0'r gloch, cafwyd y
cyfarfod cyntaf o gwmpas cylch yr Orsedd, o flaen
.adeilad Llywodraeth y Talaethau Unedig; a chan
Hwfa Mon y pen-bardd, am y waith gyntaf yn y Talaethau Unedig, agorwyd yr
Orsedd Farddol, trwy
ddarllen llythyr trwyddedol y patriarch Clwydfardd.
Ac yn ol defod henafol Gorsedd Beirdd Ynys
Prydain, darllenwyd Gweddi yr Orsedd gan Cynonfardd, oddiar y Maen Llog, yr
hwn oedd yn nghanol y
cylch cysegredig, fel y canlyn:—
|
|
|
(delwedd E0353) (tudalen 357)
|
DETHOLION.
357
Dyro, Dduw, dy nawdd; ac yn nawdd, nerth:
Ac yn nerth, ddeall; ac yn neall, gwybod;
Ac yn ngwybod, gwybod y cyfiawn;
Ac yn ngwybod y cyfiawn, ei garu;
Ac o garu, caru pob hanfod;
Ac yn mhob hanfod, caru Duw;
Duw a phob daioni.
Y na dadweiniwyd y cledd gan y pen-bardd Hwfa
Mon, uwchben y deuddeg apostol Derwyddol, ac yna
cafwyd anerchiadau gan y beirdd canlynol:—Cynonfardd, Hwfa Mon, Elerch Jones,
Dafydd o Went,
Gwilym Eryri, Thalamus, Rhisiart Ddu o Fon, Moriog,
Cilcenin, Tegfelyn, Dewi Glan Dulas, Athrywyn, ac
Ifor Cynidr Parry.
ANERCHIADAU BARDDONOL YR ORSEDD.
Gorsedd awen bob enyd—yw'r fan
I wir feirdd gydgwrddyd;
Ei safon a'i hurddas hefyd
Sydd ar ben gorseddau'r byd.
Cyn torir cainc naturiol—ein Gorsedd
A'n gwersi barddonol,
Rhaiadr Niagra'n rhuol
V n nwyd ei nerth naid yn ol.
—Dewi Glan
Gorsedd y beirdd geir sydd ben,—ein prif-feirdd
Sy'n profi meib awen;
Os gwnei 'enaid roi naid i' w nen,
Cei rodio yn mraich Ceridwen.
Anrhydedd anhoredig—gwel ydyw rhinwedd
I'n gwlad fabwysiedig;
Hyrwydda'n beirdd drwyddi—gadw
Gorsedd a'i mawredd ynyr Amerig.—Ci/cenin
|
|
|
(delwedd E0354) (tudalen 358)
|
358
DETHOLION.
Dyma Orsedd Ilen heb frenin,—dyeithr
V daeth i'n Gorllewin;
Ni all Sais na thrais ei thrin,
Na'i hagoryd fel gwerin.
Llyw gwerin all agoryd—yr Orsedd
Wir wersi cyfrinfyd •
Ein Hwfa yw hwnw hefyd,
Aur gleddyf yw ryglydda fyd.
—Ifor Cynidr Parry.
Heb rith Eisteddfod y Brython,—Gorsedd
A gwersi'r Derwyddon;
Tra Haul Duw trwy y wlad hon,
Hi gerir gan bob gwron.—E/erch Jones.
HWFA MON.
Awenydd " Bro'r Menyg Gwynion "—ordeiniwyd
I drydanu dynion;
A methai blwyddi meithion
A dofi mellt Hwfa Mon.—Dewi Glau Dulas.
Y n y Neuadd Fawr Eisteddfodol, yn absenoldeb y
llywydd penodedig, sef y Barnwr Noah Davies, New
York, cymerwyd y gadair gan Samuel Job, Ysw.,
Pullman, Illinois, ac arweiniwyd gan Cynonfardd ac
Ednyfed; a thra yr oedd Mr. John H. Gower, Denver,
yn chwareu ymdaith fawreddog ar yr organ fawr, cyrhaeddodd gorymdaith y
Beirdd i'r neuadd O'r Orsedd,
a rhoddwyd iddynt dderbyniad brwdfrydig. Y na galwyd Proff. John P. Jones,
Chicago, yn mlaen i arwain
y gynulleidfa yn natganiad o " America " a " Hen
W lad fy Nhadau." V na traddododd Cynonfardd aneerchiad rhagorol ar yr
Eisteddfod.
|
|
|
(delwedd E0355) (tudalen 359)
|
DETHOLION.
359
V gystadleuaeth gyntafydoedd ar y Deuawd, " Lle
treigla'r Caveri " (R. S. Hughes), gwobr 20 dolar, gan
Gymrodorion Seattle, Wash. Vmgeisiodd chwe' parti.
Goreu, Mri. Stephens a Watkins, Scranton, Pa.
V n nesaf cyrhaeddodd Hwfa Mon a Dyfed, &c., a
chafwyd anerchiad yn llawn tan cenedlgarol gan
Hwfa, fel cynrychiolydd Gorsedd Beirdd Vnys Prydain
yn Eisteddfod Ffair y Byd.
Beirniadaeth Cyfieithiadau y Rhiangerdd " Evangeline." Gwobr, 50
dolar. Neb yn deilwng O'r wobr.
Cån, " Gwlad y Delyn," gan Dyfed Lewis, o Lundain, yn ardderchog, a
gorfu iddo ail-ganu. Cyfeiliwyd
gan Mrs. Clara Novello Davies.
Cystadleuaeth unawd Contralto, " Life without my
Eurydice." Gwobr 20 dolar, gan Gymrodorion Los
Angelos, California. Vmgeisiodd pump, sef Miss Anne
Bowen, Caerdydd; Miss Bessie Evans, Builth, sir
Fryclleiniog; Miss Lizzie Ingram, Pittsburg, Pa.;
Mrs. Connell, Scranton; a Mrs. Mary J. Williams,
Scranton. Cystadleuaeth ardderchog. Cyhoeddwyd
Miss Evans yn oreu, a derbyniwyd y dyfarniad gyda
chymeradwyaeth fyddarol y gynulleidfa.
Datganiad o " Merch Megan " gan y dorf, dan arweiniad Proff. J.
Lloyd Evans, Wilkesbarre. Organyddes, Miss Annie Peat, Racine, Wis.
V n awr deuwyd at brif atdyniad y dydd—Cystad1euaeth y Corau Meibion —ac un o
ddygwyddiadau
pwysicaf yr Eisteddfod, un yr edrychid ato gyda dyddordeb angerddol gan Gymry
yr holl wlad, oherwydd
dyfodiad corau o Gymru i fesur cledd cerddorol rhai
o brif gorau Cymreig y Talaethau Unedig. Vr oedd
teimlad y gynulleidfa pan ddeuwyd at y gystadleuaeth
hon yn frwdfrydig i'r eithaf, ac ysgydwai y dorf fel
|
|
|
(delwedd E0356) (tudalen 360)
|
360
DETHOLION.
coedwig dan ei ddylanwad. Galwyd y corau yn mlaen
yn y drefn ganlynol: Cambrian Male Chorus, Pittsburg„
arweinydd, Proff. D. E. Davies; Wilkesbarre Male
Chorus, arweinydd, Proff. John Lloyd Evans; Penrhyn
Male Choir, arweinydd, Mr. Edward Broome; Tabernacle Male Choir, Salt Lake
City, arweinydd, Proff.
Evan Stephens; Gwent Glee Society, arweinydd, Mr.
Tom Griffiths; Rhondda Glee Society, arweinydd, Mr.
Tom Stephens; Iowa Male Party, tarweinydd, Mr. W.
B. Powell. Cymerodd y gystadleuaeth ddyddorol hon
dros ddwy awr o amser i fyned trwyddi. Derbyniwyd
y naill gor ar ol y llall gyda chymeradwyaeth mawr. V
darnau oeddynt " Cambria's Song of Freedom " (T. J.
Davies, Mus. Bac.), a " The Pilgrims " (Dr. Joseph
Parry), i gorau heb fod dan 50 nac uwchlaw 60 mewn
rhif. Beirniaid, Pencerdd Gwalia, Mr. W. L. Tomlins,
Chicago, a Dr. Gower, o Denver, Colo. Gwobr 1 af,.
1,000 0 ddoleri, gan Evan Lloyd, Ysw., Chicago; 2il
wobr, 500 0 ddoleri, gyda bathodau aur i'r arweinwyr
buddugol. Pan orphenodd Cor y Penrhyn ganu y
dernyn cyntaf, yr hyn a wnaethent yn ogoneddus, yr
oedd brwdfrydedd y gynulleidfa fawr yn angerddol—
cododd canoedd o'u heisteddleoedd, gan waeddi a
chwyfio hetiau a chadachau. Yr oedd yr effaith fel
trydan yn rhedeg trwy yr holl gynulleidfa. Nid yn
aml y gwelir y fath ddylanwad a'r fath olygfa. Buwyd
am rai mynydau cyn cael dystawrwydd, er holl ymdrechion arweinydd y cyfarfod.
Cafodd datganiad Cor
y Rhondda drachefn bron y gyffelyb gymeradwyaeth.
Cariodd datganiadau ysblenydd yr holl gorau, ac yn
enwedig y ddau gor o Gymru, yr holl gynulliad i
deimladau uchel, fel yr oedd yn anhawdd cadw y
teimladau hyny heb dori allan yn ystorm o gymeradwyaethau hirbarhaol. Dyma'r
treat mwyaf bendigedig
a gafodd Cymry y Talaethau Unedig erioed, ac nid yn
fuan eto y cant ei gyffelyb. Gohiriwyd y feirniadaeth
|
|
|
(delwedd E0357) (tudalen 361)
|
DETHOLION.
361
hyd y cyngerdd nos Fercher. Enillwyd y brif wobr
gan y Rhondda Glee Society, arweinydd Mr. Tom
Stephens; a'r ail wobr gan y Penrhyn Male Choir,
arweinydd, Mr. Edward Broome.
Beirniadaeth ar y ddau Hir a Thoddaidd, Beddargraff y Parch. Lewis Meredith
(Lewys Glyn Dyfi).
Gwobr, 15 dolar, gan aelodau Cymrodorol. Goreu,
" Berwyn," sef Mr. David E. Davies (Glan Ffrydlas),
Bethesda, C.C.
V CVNGERDD CVNTAF.
V n yr hwyr cynaliwyd cyngerdd mawreddog dan
lywyddiaeth Samuel Job, Vsw., ac arweiniad yr Anrh.
H. M. Edwards, Scranton. Agorwyd trwy ddatganiad
o " My Country, 'tis of thee," gan Gor yr Eisteddfod,
dan arweiniad Mr. W. B. Powell, Hiteman, Ia. Cån
gan Mr. Ben Davies, o Lundain, " Deeper and deeper
still," a " Waft her Angels." Rhoddwyd derbyniad
brwdfrydig i Mr. Ben Davies ar ei ymddangosiad
cyntaf ar lwyfan Americanaidd. Canodd nes gwefreiddio yr holl gynulleidfa, ac
mewn atebiad i encore
hirbarhaol, cafwyd ganddo gan Gymreig, " Gwlad fy
Ngenedigaeth," yn odidog. Unawd ar y delyn gan
Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia), " Melodies of
Cambria " (J. Thomas). Pan ddaeth Mr. Thomas i'r
llwyfan, cododd yr holl gynulleidfa ar ei thraed, a
rhöddwyd iddo fanllef ar ol banllef o groesawiad.
Derbyniodd ei chwareuad godidog gymeradwyaeth
mawr, a chafwyd ganddo " Clychau Aberdyfi " yn
fendigedig. can, " Selva Opaca," gan Miss Jennie
Owen, Milwaukee; can, " Across the Dee," gan Mrs.
Jennie Alltwetl Bell; " The Gauntlet," gan Proff.
Harry E. Jones, Philadelphia;
can, " Angels ever
bright and fair," gan Mrs. Mary Davies, Llundain.
Derbyniwyd Mrs. Davies, am y waith gyntaf yr ochr
24
|
|
|
(delwedd E0358) (tudalen 362)
|
362
DETHOLION.
hon i'r Werydd, gyda chymeradwyaeth drydanol,
ac mewn atebiad i encore hirfaith, canodd gån Gymraeg yn odidog; can, "
Mi garwn weled Gwalia," gan
Proff. Gordon Thomas, yn ardderchog; chwareuad ar
y delyn gan Pencerdd Gwalia. Felly y terfynwyd
dydd cyntaf yr Eisteddfod, wedi mwynhau gwledd
ddigyffelyb.
VR AIL DDYDD.
CYNGHRES V CVMRODORION CVD-GENEDLAETHOL.
Boreu ddydd Mercher, am 10.30 0'r gloch, cyfarfyddodd Cynghres
Gyd-genedlaethol y Cymrodorion,
yn Neuadd Cån, Ffair y Byd, a daeth cynulliad da yn
nghyd. Llywyddwyd gan y Parch. T. C. Edwards,
D. D. (Cynonfardd), Kingston, Pa., yr hwn a wnaeth
sylwadau ffraeth ar ddymunoldeb y cyfarfyddiad, gan
ei fod yn cael ei wneyd i fyny o gynrychiolwyr o
Ddehau a Gogledd Cymru, Llundain, Liverpool, yn
nghydag o bob parth O'r Talaethau Unedig. Wedi i
amryw siarad, galwyd ar y boneddwr anrhydeddus, a'r
Cymro twymgaJon, W. Cadwaladr Davies, Vsw., o
Lundain, priod y gantores fydenwog, Mary Davies, i
anerch y cyfarfod. Gan fod Mr. Davies yn un o brif
gefnogwyr ac hyrwyddwyr Addysg Uwchraddol yn
Nghymru, gwnaeth y sylwadau isod ar " Siarter Prifysgol Cymru."
ANERCHIAD MR. CADWALADR DAVIES.
Mr. Cadwaladr Davies, ar ol cyd nabod y croesaw
calonog a dderbyniodd, a ddywedodd fod yr adfywiad
cenedlaethol yn Nghymru yn ffrwyth y teimlad crefyddol a'r teimlad Ilenyddol
oedd wrth wraidd hil y
|
|
|
(delwedd E0359) (tudalen 363)
|
DETHOLION.
363
Celt. Vr oedd crefydd a Ilenyddiaeth yn gymhleth å'u
gilydd er dyddiau boreuaf hanes y Brutaniaid. Yr oedd
Barddas•yn anwahanol gysylltiedig å'r Celtiaid y sonir
am danynt gan IWI Caisar a Tacitus. Vr oedd yn anmhosibl meddwl am y
Brutaniaid ond fel cenedl yn
corffori y syniad o lenyddiaeth, oblegid Ilenyddiaeth o
ryw fath oedd eu crefydd, megys yr oedd yn anmhosibl
meddwl am yr Hebreaid ond fel yn cynrychioli crefydd,
y Groegiaid gelfyddyd, a'r Rhufeiniaid gyfraith (cym.)
Ganoedd o flynyddoedd wedi i'r Rhufeiniaid adael
Prydain, yr oedd Cymru yn enwog am ei beirdd dysgedig a'i cholegau yn
Mangor-is-y-coed, a manau ereill
(clywch, clywch). Pan gollodd Cymru ei hannibyniaeth, collodd bobpeth ond ei
hiaith a'i serch at lenyddiaeth. Dinystriwyd ei cholegau, ciliodd ei beirdd
o'i ffurfafen, ac aeth yr Orsedd a'r Eisteddfod dan
gwmwl. Ond ni chollwyd y drychfeddwl cenedlaethol.
Bu raid i Harri V ll., pan ddaeth i Orsedd Lloegr, addaw
Prifysgol i Gymru, er na chyflawnodd ei addewid. Ar
gais Cromwell, cynlluniodd Richard Baxter, y Puritan,
Brifysgol i Gymru; ond bu farw Cromwell cyn rhoddi
y bwriad mewn gweithrediad. Ond yn haner diweddaf
y ganrif ddiweddaf torodd gwawr ar Gymru ar ffurf y
Diwygiad Methodistaidd a'r adgyfodiad Eisteddfodol,
ac nid oedd ond ychydig, os dim, cydymdeimlad
rhyngddynt. Ond yr oedd y naill mor angenrheidiol
a'r llall i ddadblygiad y genedl, ac, megys yr oedd y
Renaissance yn angevrheidiol i'r Reformation, felly yr
oedd yn fendith fod Cymru wedi cael y diwygiad
Ilenyddol yn ogystal a'r adfywiad crefyddol. Vr oedd
y naill mor anhebgorol a'r llall i ddadblygiad y genedl
(clywch, clywch). Cenedl gyfyng ei syniadau fuasai
y Cymry pe na chawsent ond y diwygiad crefyddol yn
unig; a phe na chawsent ond yr adfywiad Eisteddfodol
yn unig, y mae Ile i ofni mai pobl Iled ddigrefydd
fuasent (clywch, clywch). Ond trefnodd Rhagluniaeth
|
|
|
(delwedd E0360) (tudalen 364)
|
364
DETHOLION.
fod Ilenyddiaeth a chrefydd i gael Ile eto yn y bywyd
cenedlaethol, ac felly cynysgaeddwyd Cymru, nid yn
unig å Charles O'r Bala, tad yr Vsgol Sul, ond hefyd
thadau y Renaissance Cymreig—-L1ewelyn Ddu,
Goronwy Ovvain, leuan Brydydd Hir, a'r hen Gymrodorion a fu yn foddion i
adgyfodi yr Eisteddfod o
gaddug canrifoedd o ebargofiant (cym.). PlentY11 yr
adgyfodiad crefyddol—hyny yw, yr Eisteddfod a' r
Ysgol Sul—yw y symudiad addysgol sydd wedi bod yn
cynhyrfu Cymru am dros ugain mlynedd, ac sydd wedi
ei goroni yn ngwaith y Llywodraeth O'r diwedd yn
cydnabod hawl Cymru i gael Prifysgol Geneålaethol
(uchel a hirfaith gym.).
V na dangosodd Mr. Davies gopi O'r Siarter fel yr
oedd y Llywodraeth wedi ei basio, ac yn nghanol
brwdfrydedd mawr, dywedodd mai ffaith hynod oedd
fod y weithred hon o gyfiawnder i Gymru yn cael ei
hysbysu am y tro cyntafyn yr Eisteddfod Gyd-genedlaethol yn y Byd Newydd. Vr
oedd y Cymry yn bur
i' w hen gymeriad. Yr oeddynt yn parhau yn yr adfywiad cenedlaethol i ymlynu
wrth y drychfeddwl
oedd wrth wraidd enaid y bywyd Cymreig. Perygl
mawr gwareiddiad y genedl Frutanaidd oedd gor-ddadblygiad yr ysbryd
masnachol, ac yr oedd yr Eisteddfod
yn Chicago yn brotest yn erbyn materoliaeth yr oes,
ac yn brawf fod yr elfen Geltaidd am fynu Ile yn
nyfodol y Byd Newydd megys yn nyfodol yr Hen
Fyd, ac yr oedd hyny yn golygu fod Awen a Chån yn
rhan o fywyd y byd, ac yn allu yn mysg dynion
(uchel gym
Derbyniodd ei sylwadau gymeradwyaeth wresog y
gwrandawyr.
Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Davies
am ei araeth lawn o newyddion da o lawenydd mawr
i'n cenedl. Cynygiwyd a phasiwyd penderfyniad,
gyda brwdfrydedd mawr, fod yr Eisteddfod yn anfon
|
|
|
(delwedd E0361) (tudalen 365)
|
DETHOLION.
365
llythyr o ddiolchgarvvch i'r Gwir Anrhydeddus William
Ewart Gladstone, Prifweinidog Prydain Fawr, a' i
Weinyddiaeth, am hyrwyddo a phasio mesur sefydliad
Prifysgol i Gymru drwy Senedd y deyrnas, ac yn ei
longyfarch ar lwyddiant y Weinyddiaeth gyda mesurau
o gyfiawnder i drigolion y Deyrnas Gyfunol a'r
lwerddon.
Cynygiwyd gan y Cadeirfardd Dyfed, ac eiliwyd
gan amryw, fod y cyfarfod yn dymuno Ilongyfarch
yr hen batriarch barddonol, Hwfa Mon, Prif-fardd yr
Eisteddfod, ar gyrhaeddiad pen ei flwydd y diwrnod
hwnw. Ni hysbyswyd pa nifer o hafau oedd y bardd
enwog wedi weled, ond dywedai Cynonfardd fod eu
rhif yn rhywle 0 30 i 80; ond nad oedd yn bosibl cael
oedran cywir Hwfa na Dyfed. Wedi diolchiadau,
gohiriwyd hyd foreti Gwener.
ARHOLIADAU AM URDDAU.
Am 10,30, boreu ddydd Mercher, mewn ystafell yn
y Festival Hall, arholvvyd nifer o ymgeiswyr cerddorol a barddol am urddau,
gan Proffeswyr T. J.
Davies, Mus. Bac., Scranton, Pa., a J. Haydn Morris,
Mount Vernon, N.Y. Aeth y personau canlynol
drwy yr arholiad am urddau cerddorol: Proff. Harri
E. Jones, W. H. Jones, Vernon Hughes, J. P. Thomas
(loan Mynwy), a H. W. Owen (Ap Owain). Arholwyd
y beirdd gan Dyfed a Rhisiart Ddu o Fon, a phasiodd
naw ohonynt yr arholiad am urdd barddonol, a dau am
urdd ofydd. Ceir hanes eti hurddiad yn ngljn
gweithrediadau yr Orsedd ddydd lau.
CYFARFOD V PRYDNAWN.
Llywydd y cyfarfod ddydd Mercher ydoedd yr
Anrhvd. David Richards, Knoxville, Tenn. Arweinwyr: Dr. Fred Evans (Ednyfed),
a'r Anrhyd H. M.
|
|
|
(delwedd
E0361b) (tudalen 366)
|
Edwards. Wedi anerchiad
llawn o din Cymreig
gan Mr. Richards, galwodd Ednyfed ar y Proff. Apmadoc i arwain y gynulleidfa
yn nadganiad O'r hen
dön Gymreig Moriah " a " Rhyfelgyrch Gwe$r
Harlech."
Anerchiad fraeth gan yr arweinydd, Ednyfed.
Beirniadaeth Hwfa Mon ar y Chwech Hir a
Thoddaid, Ffair y Byd." Gwobr, 25 dol., gan T. F.
Kelly, Vsw., Chicago. Tri ytngeisydd, Ond yr oll yn
anheilwng O'r wobr.
Can, Mentra Gwen," gan Proff. W. Courtney,
yn ardderchog, a bu gorfod iddo ail•ganu.
Cystadleuaeth Unawd i Denor, " O, Delyn fy
Ngxlad," wedi ei chyfansoddi yn arbenig ar gyfer yr
Eisteddfod gan Pencerdd Gwalia. Gwobr, 20 dol., gan
Mri. Thomas H. Jones (Odnant), Robert peat, Owen
Francis, a Josiah Williams, o Lima, O. Il yn ymgeisio
yn y blaen•brawf, a phedwar ar y llwyfan. Goreu,
Richard Williams, Kingston. Pa.
Cydgan, "Hob y Deri Dando," gan Gör yr Eisteddfod, dan arweiniad
proff. W. Aptnadoc.
Can, "O na byddai'n hafo byd," gan Ben Davies,
nes gwefreiddio y gynulleidfa, a bu raid iddo ail-ganu.
Beirniadaeth y Bryddest ar Christopher Columbus." Gwobr, 150 dol., ac
eryr arian. Vr eryt- yn
rhodd Cymrodoresau Denver, Colo. Tri chyfansodd•
iad—dau Gymraeg ac un Saesoneg. Goreu, G. A.
Leader, Leachfield Terrace, Llundain (Saesoneg).
Can, " Codiad yr Hedydd," gan Miss Jennie
Owen, Wilwaukee, yn dderbyniol iawn.
Beirniadaeth y Nofel Saesoneg, Representing
Welsh Mode Of thought and feeling as reflected in the
Customs and Manners Of their Country." Gwobr, 300
dol. Chwech o ymgeiswyr. Rhanwyd y wobr rhwng
y Parch. T. Griffiths, Vstalyfera, a Mr. John Rowlands,
Waunarlwydd, ger Abertawe, D.C.
|
|
|
(delwedd E0361c) (tudalen 367)
|
DETHOLION.
367
Cystadleuaeth y Canigau, " Y Gwanwyn " a'r
" Haf" (Gwilym Gwent). Gwobr, 250 dol., gan Gym-
rodorion Denver, gyda bathodyn aur i'r arweinydd
buddugol. I gorau heb fod islaw 50 nac uwchlaw 60
o rif. Un cör a ganodd, sef y Western Reserve, dan
arweiniad y Proff J. Powell Jones. Canasant yn
rhagorol ac yn haeddianol O'r wobr.
Hysbyswyd gan yr arweinydd fod llythyr wedi ei
dderbyn oddiwrth yr Anrhyd. Anthony Howells,
Conswl y Talaethau Unedig yn Nghaerdydd, yn dat-
gan ei ofid nas gallai fod yn bresenol, oherwydd nad
oedd sefyllfa ei iechyd yn gyfryw ag y gallai adael
cartref.
Cystadleuaeth y Quartette, God be Merciful "
(Mason). Gwobr, 25 dol., gan John Howard Jones,
Vsw., Chicago, Ill. Un parti, cynwysedig o Mrs. A.
Thomas, Miss Emma Brown, Richard Williams, a J.
P. Burns; Wilkesbarre, ac yn teilyngu .y wobr.
Cyn diwedd y cyfarfod, gwnaeth yr arweinydd
corawl bydenwog, Caradog, o Gymru, ei ymddangos-
iad. Gwaeddodd rhywun fod Caradog yn y dorf, ac
anfonwyd dau berson i'w arwain i'r llwyfan. Ar hyn
wele yr holl dorf fawr yn tori allan yn un fanllef
daranol o gymeradwyaeth a chroesaw i'r hen gadfridog
cerddorol godidog, yr hwn a arweiniodd y Cymry i
fuddugoliaeth fythgofiadwy y Palas Grisial. Dywed-
odd : " Hon yw yr adeg fwyaf dedwydd ar fy mywyd—
cael y fraint o ddyfod i'r America ar amser mor
nodedig, a chael y fath dderbyniad croesawgar a sylw
na freuddwydiais ei gael, ac nad wyf ychwaith yn ei
haeddu. Cefais bob rhwyddineb ar fy nhaith yma,
ac yr wyf yn teimlo yn iacb, ac yn gobeithio y caf
fwynhad ytl eich plith. Yr wyf yn sicr nad anghofiaf
byth eich derbyniad gwresog. Diolch i chwi." Cafodd
y croesawiad brwdfrydig effaith amlwg ar deimladau y
gwron.
|
|
|
|
|
(delwedd E0362) (tudalen 368)
|
368
DETHOLION.
Cydgan diweddol, " Bryniau Kassia " a " Congress
Street," gan G6r yr Eisteddfod, dan arweiniad Proff.
Haydn Evans.
CYNGERDD CANTATA " LLEWELVN
Edrychid yn mlaen gyda dyddordeb neillduol at
gyngerdd nos Fercher, gan mai yn hwn yr oedd y
gantawd ddramayddol benigamp " Llewelyn " i gael ei
pherfformio, o eiddo Pencerdd Gwalia, gan Gör yr
Eisteddfod, dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun, ac
yn cael eu dilyn gan Orchestra Ffairy Byd, a Madame
Chatterton a 15 0'i dysgyblesau telynol. Yr oedd y
neuadd yn llawn, a dysgwyliad am wledd gerddorol
o radd uchel, yn yr hyn ni siomwyd neb. Arweinydd
y cyfarfod, Cynonfardd. Bu parotoi mawr ar gyfer y
perfformiad hwn gan Gor Mawr yr Eisteddfod am
fisoedd, dan arweiniad Proff. Apmadoc. Cynwysai y
•car adranau pwysig o Racine a Milwaukee, dan arweiniad y Proffeswyr E. O.
Jones a John H. Williams.
Heblaw y car, dan arweiniad yr awdwr enwog, cymerwyd rhan yn y Gantawd gan
Mrs. Mary Davies, Mr.
Ben Davies, Mr. Gordon Thomas, Mrs. Jennie Alltwen
Bell, a Madame Chatterton a'i thelynesau. Rhifai y
Gerddorfa 60, a Chor yr Eisteddfod 500. Creodd y
datganiad rhagorol a roddwyd frwdfrydedd neillduol
yn y gynulleidfa fawr. Saify Cantata hon yn uchel
yn marn y beirniaid cerddorol dysgedicaf, ar gyfrif ei
gwreiddioldeb ati harddull desgrifiadol, yn nghyda
chywreinrwydd ei cherddoriaeth offerynol. Aeth yr
holl ddatganwyr drwy eu rhan yn odidog, a derbyniodd y perfformiad
gymeradwyaeth uchel. Rhydd
newyddiaduron y ddinas y ganmoliaeth uchaf i'r
Gantawd a'r datganiad ohoni.
Cyn dechreu y perfformiad, datganodd Cor yr
Eisteddfod " Gloria," dan al weiniad Proff. E. O. Jones,
Racine, Wis.
|
|
|
(delwedd E0363) (tudalen 369)
|
DETHOLION.
369
can, " Serenade," gan Dyfed Lewis, yn ardderchog; ac mewn atebiad i
encore, canodd " Hen Gadair
Freichiau fy Mam."
Profodd y cyngerdd hwn allu cerddorol dihafal
Pencerdd Gwalia fel cyfansoddwr ac arweinydd.
V TRYDVDD DVDD.
Hwn ydoedd " Ardderchog Ddydd y Gadair," yn
yr hwn y cymerid dyddordeb mawr gan y dorf, gan fod
canoedd erioed heb weled y ddefod yn flaenorol.
VR ORSEDD.
Agorwyd yr Orsedd yr ail waith boreu ddydd lau,
ac yr oedd miloedd wedi ymgynull o amgylch y Maen
Llog. Gan mai hon oedd Gorsedd Olaf yr Eisteddfod,
a'r unig gyfleusdra i weled y ddefod henafol yn cael ei
dwyn yn mlaen ar dir Amerig am gryn amser, yr oedd
y dyddordeb yn fawr ynddi. Cafodd y gwrandawyr
eesboniad eglur ar bethau oedd gynt yn ddirgelwch
hollol iddynt, a gwyddant yn awr beth yw Gorsedd
Beirdd Vnys Prydain. Gwisgai y Beirdd, yr ofyddion,
cerddorion, &c., eu mantelli prydferth o amrywiol
liwiau, yn ol amrywiaeth eu graddau. Wedi geiriau
agoriadol gan Hwfa Mon, dadganwyd " Vmdaith Gwyr
Harlech" gan y dorf, yna esgynodd Hwfa i ben y Maen
Chwyf, a galwodd enwau y personau oeddynt wedi
pasio yr arholiad y dydd blaenorol am urddau barddonol, &c. Fel yr oedd
pob ymgeisydd yn d'od yn
mlaen, arwisgid hwynt ag ysnodenau Derwyddol.
Urddwyd y personau canlynol:—W. E. Powell (Gwilym
Eryri); Richard Bowen (Glan Ebwy), South Chicago;
John Edno Roberts (Edno), Oshkosh, Wis.; R. O.
Davies (Moriog), Milwaukee; Henry Rees (Harri ar ei
|
|
|
(delwedd E0364) (tudalen 370)
|
370
DETHOLION.
Oreu), o Iowa; T. E. Evans (Cilcenin), Nanticoke,
Pa.; W. D. Jones (Gwilym neudraeth), Chicago, yn
feirdd.
Cafodd pedwar eu hurddo yn ofyddion:—Samue1
Job, Pullman; Parch. D. T. Phillips, Chicago; Parch.
H. H. Harris, Taylorville, Pa.; Ifor Cynidr Parry,
Howard, S. Dakota.
Anerchwyd y dorf yn ddysgedig ar gerddoriaeth
yr Eisteddfod gau Pencerdd Gwalia, a rhoddodd ganmoliaeth uchel i' r
cystadleuaethau cerddorol. Dywedai,
pan ddaw cantl offerynol y Cymry i fyny å'u cantl
Ileisiol, y byddant y genadl fwyaf cerddorol yn y byd.
Siaradwyd hefyd gan W. Cadwaladr Davies ac ereill.
V na aed yn orymdaith fawreddog tua'r neuadd, yn
cael ei blanori cyan seindorf ysblenydd y Second
Regiment, yn ehwareu ymdaith Gymreig, a'r beirdd,
ofyddion, cerddorion, &c., yn eu gwisgoedd prydferth.
YR ORSEDD.
Brawdgarwch brwd a gura—yn mynwes
Ddymunol Columbia;
Rhoi'i braich yn wir o barch wna
Y n gwlwm am wddf Gwalia.
Eisteddfod yn glod i' r gwledydd-—yw hon
Dan haul y byd newydd;
A'i defod yn d'od a dydd
Tra siriol tros y Werydd.
Ei llwyfan sy'n gån i gyd,—gwledd enwog
Lwyddianus y cydfyd;
Daw awen mewn dyhewyd
I ddeffro beirdd Ffair y Byd.
Vmyrwyr mewn camwri,—drwy eu nwyd,
Fu'n dyrnodio arni;
Ond dal i'n hysbrydoli
Mae clod ei hawdurdod hi.—Dyfed.
|
|
|
(delwedd E0365) (tudalen 371)
|
DETHOLION.
37 r
Erbyn 1.30 yr oedd y neuadd eang yn llawn, a
brwdfrydedd yn yr awyr. Dechreuwyd y gweithrediadau drwy gydgan agoriadol y
dorf, " Babel," dan
arweiniad Mr. John H. Williams, Milwaukee, Wis.
Y n absenoldeb y Ilywydd penodedig, yr Anrh. Thomas
L. James, New York, cyflwynwyd y Dr. W. C. Roberts,
New York, diweddar brifathraw Coleg Lake Forest,
Illinois, fel cadeirydd y dydd. Arweiniwyd yn fedrus
fel arfer gan yr Anrh. H. M. Edwards a Dr. Cynonfardd
Edwards. Yr oedd y llwyfan yn orlawn o feirdd*
cerddorion, &c.
Cån yr Eisteddfod, " Hen W lad y Meryg Gwynion," gan Proff. Harry
E. Jones.
Traddododd y cadeirydd parchedig araeth Gymreig-Seisonig för, hyawdl, a llawn
o dån Cymreig.
Beirniadaeth y traethodau Saesoneg, " Welshmen
as civil, political, and moral factors in the formation
and development of the United States Republic."
Gwobr, 300 dolar, gan Mrs. W. H. Jones,
Ill., a buggy brydferth, gwerth 300 dolar, rhoddedig
gan Mitchell and Lewis Company, Racine, Wis. Dau
gyfansoddiad i law, a'r ddau yn anrhydedd i'r ysgrifenwyr a'r genedl Gymreig.
Dygent yr. enwau " Cambro-American
a " William Penn." Dywedai y
beirniaid y dylent gael eu hail-ysgrifenu a'u cyhoeddi
ar unwaith. Goreu, y Parch. Ebenezer Edwards„
gweinidog y Bedyddwyr yn Minersville, Pa., yr hwn a
gynrychiolwyd gan Dr. Mason.
Beirniadaeth y Gantawd (Cyfansoddiad). Gwobr,
150 dolar. Rhagorai dau gyfansoddiad, ond nid oedd
yr un ohonynt yn teilyngu y wobr.
Beirniadaeth y traethawd, " Celtic contributions
to England's fame and power.'" Gwobr, 300 dolar.
Dau gyfansoddiad, " Llais O'r Fro " a ' 'James Proctor;"
eiddo " Llais O'r Fro " yn rhagori, ond heb fod i fyny
å'r safon, ac ataliwyd y wobr.
|
|
|
(delwedd E0366) (tudalen 372)
|
372
DETHOLION.
Cystadleuaeth unanrcl Baritone, " Where the Lilldon
bloom." Gwobr 20 dolar, gan Gymrodorioll Los
Angelos, Calif. U gain yn ymgeisio yn y blaenbrawf,
4 ar y llwyfan cyhoeddus, sef Mri. Harry Harries,
Kingston, Pa.: W. W. Watkins a T. J. Watkins,
Scranton, Pa.; a Joseph P. Burns, Wilkesbarre. Goreu,
Joseph P. Burns. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i 'r
datganiad.
A law Gymreig, " Gyda'r Wawr," gan Miss Clara
Williams, Minneapolis, Minn. Derbyniodd gymeradwyaeth fyddarol, ac ail-ganodd
yn gymeradwy iawn.
Beirniadaeth y cyfieithiad i'r Gymraeg o " Locksley Hall "
(Tennyson). Gwobr 30 dolar. gan Eisteddfod y Gorllewin. Pedwar i law. Goreu,
eiddo
' Murmur y Dön," sef Hugh Edwards (Huwco Penmaen), Penmaen House, Rhyl.
Cynrychiolwyd gan
proff. W. Apmadoc. Rhoddwyd canmoliaeth uchel
cyfieithiad.
DEFOD V CADEIRIO.
V n awr deuwyd at brif ddygwyddiad yr Eisteddfod, sef y ddefod o gadeirio y
bardd buddugol ar destyn
Y gadair— " lesu o Nazareth." Erbyn hyn yr oedd ar
y llwyfan dorf luosog yn ymsymud ac ymysgwyd
megys dan ddylanwad corwynt, a'r brwdfrydedd yn
anorchfygol. Dyma y tro cyntaf i filoedd oedd yn
bresenol weled y ddefod henafol hon, a theimlid dy
ddordeb mawr ynddi. Tra yr oedd y beirdd yn parotoi
gweithrediadau y seremoni, canodd Ben Davies yn
Saesoneg fendigedig, a derbyniodd •encore fyddarol.
Ail-ganodd " Gwlad fy Ngenedigaeth," y oeiriau gan
Hwfa Mon. Cododd dadganiad godidog y gan hon y
gynulleidfa i deimladau cenedlaethol a gwladgarol, y
cyfryw nas teimlwyd erioed O'r blaen. Erbyn hyn, yr
oedd y beirdd wedi ymgynull, yn eu mantelli gwyn a
gwyrdd prydferth, ar y llwyfan.
|
|
|
(delwedd E0367) (tudalen 373)
|
DETHOLION.
373
Dadganwyd yr ymdeithgan fawreddus, " Gwir
Harlech," gan gorau yr Eisteddfod, dan arweiniad
Proff. Apmadoc. Chwareuwyd deuawd y telynau—
Cambria; "
a'r alawon, "V Gadlys," "Y Ferch O'r
Scer," a " Thros y Gareg," gan Pencerdd Gwalia a
Madame Chaterton.
Galwad udgorn, a ffurfiad cylch y beirdd, yr
ofyddion, a' r cerddorion.
can, " Cwynfan Prydain," gan Mrs. Mary Davies,
yr hon a dderbyniwyd gydag encore uchel, ac ailganodd, " Y n iach i ti
Gymru."
Beirniadaeth yr Awdlau gan Hwfa Mon. Darllenodd Hwfa ei sylwadau mewn llais
clir a hyglyw.
Daeth pump o awdlau i law, yn dwyn yr enwau, " Du,"
" V Cereniad," " Lazarus," " Ebenezer," ac
"Anafosus."
Yr oedd eiddo " Cereniad " a " Lazarus " yn rhagori ar
eu cydymgeiswyr; a chyhoeddwyd " Lazarus " yn oreu,
ac yn deilwng o wobr 500 dolar Eisteddfod Gydgenedlaethol Ffair y Byd,
rhoddedig gan nifer o Gymry
cenedlgarol Philadelphia, Pa., a chadair dderw ardderchog, a bathodyn aur.
Tra yn traddodi y feirniadaeth, amgylchid Hwfa gan ddau arweinydd y
cyfarfod—Ednyfed a Chynonfardd, yn eu gwisgoedd
barddol. Gwisgai Hwfa ar ei ddwyfron un O'r bathodau
a enillodd yn yr Hen W lad lawer o flynyddau yn ol, yr
hwn a roddwyd, yn ddiarwybod iddo ef O'r ffaith, gan
Mrs. John Watkins, Chicago. Yr oedd y tri beirniad
yn unfryd unfarn mai eiddo " Lazarus " oedd yr oreu.
Galwyd ar " Lazarus " i godi yn ei sedd, a hawlio y
wobr, y gadair, ac anrhydedd uchaf Barddas, ac ymddangosodd yn mherson y Parch.
E. Rees (Dyfed),
Caerdydd, D.C. Gorchymynwyd i osgorddlu O'r
beirdd, ofyddion, a'r cerddorion fyned hyd at y bardd
buddugoliaethus a'i arwain i'r llwyfan. Tra yr oedd
yr yandaith yn cymeryd Ile, dadganai Cor yr Eisteddfod
" Merch Megan," dan arweiniad Edward Broome.
|
|
|
(delwedd E0368) (tudalen 374)
|
374
DETHOLION.
Cyrhaeddodd y gosgorddlu y llwyfan, a rhwng Cynonfardd a Rhisiart Ddu o Fon
yr oedd y gwylaidd a'r diymffrost Dyfed. Vn n ghanol cymeradwyaeth fyddarol
y dorf, dodwyd y bardd buddugol i eistedd yn nghadair
Eisteddfod y Cydfyd. Dad weiniwyd y cledd uwchben
y buddugwr, tra y gofynwyd y cwestiwn dair gwaith
yn olynol—" A oes heddwch? " ac yr atebwyd ef dair
gwaith gan y gynulleidfa, a chyhoeddwyd Dyfed yn
Fardd Cadeiriol Eisteddfod Golumbaidd Gydgenedlaethol y Byd, ac yn fardd
Cymreig anrhydeddusaf yr
oes. Rhoddwyd banllefau cymeradwyol i'r cadeirfardd. Wedi ychydig eiriau gan
y prif-fardd Hwfa,
arwisgwyd y buddugoliaethwr gan Mrs. Mary Davies,
yr hon a wisgai geninen a gyflwynwyd iddi flynyddau
yn ol gan Edith Wynne. Vna anerchwyd y cadeirfardd
gan nifer o feirdd, megys Cynonfardd, Ifor Cynidr
Parry, Athrywyn, W. W. Rowlands (Cambria, Wis.).
Moriog, Thalamus, Dewi Glan Dulas, Rhisiart Ddu o
Fon, Dafydd o Went, Parch. J. F. Humphreys (Peru,
N.Y.), Glan Ebwy, Parch. J. Vincent Stephens, Deudraeth, Tegfelyn, Ednyfed,
Philo (Saesoneg), Ffrwdwyllt, Gwernogle, Cilcenin, leuan Fardd, Edno. Parch.
Mr. Jones (St. James, Minn.).
Can wyd unawd, " Hen W lad fy Nhadau," yn
odidog gan Mrs. Mary Davies, a'r gynulleidfa yn uno
yn y cydgan. Vn y cyfwng hwn, darllenwyd y penderfyniad a basiwyd gan
gyfarfod y Cymrodorion y
dydd O'r blaen, i'w anfon i'r Gwir Anrhyd. W. E.
Gladstone, Prifweinidog Prydain Fawr, yn diolch iddo
am ei gefnogaeth i Addysg Uwchraddol yn Nghymru.
Cyflwynwyd gan Cynonfardd, ac eiliwyd mewn araeth
hyawdl gan D. V. Samuels, Vsw., cyfreithiwr Cymreig
Chicago, yr hon a dderbyniwyd gan y gynulleidfa
gydag uchel gymeradwyaeth. Galwyd ar W. Cadwaladr
Davies, Vsw., o Lundain, i anerch y dorf ar y pwnc, a
chafodd ei sylwadau gefnogaeth frwdfrydig. Darllen
DETHOLION.
375
odd Cynonfardd fryseb danforawl y penderfynwyd ei
hanfon i'r G.O.M. oddiwrth Eisteddfod y Cydfyd, fel
rhagflaenydd yr anerchiad; ac i gadarnhau y fryseb,
cododd yr holl gynulliad ar eu traed, a rhoddwyd y
fath fanllefau o gymeradwyaeth nes yr oedd yr adeilad
eang yn crynu ar ei sylfeini.
" GOREU ARF, ARF DYSG."
v" V GWIR WN ERBVN V BVD."
At the International Eisteddfod, held at the
World's Fair, on the 5th, 6th, 7th, and 8th days of
September, in the year of Christ, 1893, the Presiding
Bard of Gorsedd, the Rev. Rowland Williams (Hwfa
Mon), of Llangollen, Wales, having sheathed the sword.
and the assenlbled multitude having thrice declared
peace, as requested by usage and rites, it was resolved
by acclamation, proclaimed with sound of trumpet, on
the motion of Dr. T. C. Edwards, Kingston, Pa.,
seconded by Ihniel V. Samuels, Chicago, and suppoEted by W. Cadwaladr Davies:
—
1. That the Welsh people of America, assembled
at the International Eisteddfod of Chicago, desire to
express their gratitude to the Prime Minister and
Government of Great Britain for conceding to the
demand of the Welsh people for a National University; and they, also,
congratulate the people of the
Fatherland on the promised fulfilment of their aspirations in connection of
education.
2. That copies of this resolution be forwarded by
the Executive Committee to the Right Hon. W. E.
Gladstone, M.P., First Lord of the Treasury; the Right
Hon. Lord Aberdare, Chairman of the Welsh University Conference; the Right
Hon. Arthur H. D.
Acland, M.P., Minister of Education; • and Thomas
Edward Ellis, M.P., Junior Lord of Treasury.
|
|
|
(delwedd E0369) (tudalen 375)
|
DETHOLION.
375
odd Cynonfardd fryseb danforawl y penderfynwyd ei
hanfon i'r G.O.M. oddiwrth Eisteddfod y Cydfyd, fel
rhagflaenydd yr anerchiad; ac i gadarnhau y fryseb,
cododd yr holl gynulliad ar eu traed, a rhoddwyd y
fath fanllefau o gymeradwyaeth nes yr oedd yr adeilad
eang yn crynu ar ei sylfeini.
" GOREV ARF, ARF DYSG."
v" V GWIR NN ERBVN V BVD."
At the International Eisteddfod, held at the
World's Fair, on the 5th, 6th, 7th, and 8th days of
September, in the year of Christ, 1893, the Presiding
Bard of Gorsedd, the Rev. Rowland Williams (Hwfa
Mon), of Llangollen, Wales, having sheathed the sword.
and the assetnbled multitude having thrice declared
peace, as requested by usage and rites, it was resolved
by acclamation, proclaimed with sound of trumpet, on
the motion of Dr. T. C. Edwards, Kingston, Pa.,
seconded by Daniel V. Samuels, Chicago, and suppoEted by W. Cadwaladr Davies
1. That the Welsh people of America, assembled
at the International Eisteddfod of Chicago, desire to
express their gratitude to the Prime Minister and
Government of Great Britain for conceding to the
demand of the Welsh people for a National University; and they, also,
congratulate the people of the
Fatherland on the promised fulfilment of their aspirations in connection of
education.
2. That copies of this resolution be forwarded by
the Executive Committee to the Right Hon. W. E.
Gladstone, M.P., First Lord of the Treasury; the Right
Hon. Lord Aberdare, Chairman of the Welsh University Conference; the Right
Hon. Arthur H. D.
Acland, M.P., Minister of Education; • and Thomas
Edward Ellis, M.P., Junior Lord of Treasury.
|
|
|
(delwedd E0370) (tudalen 376)
|
376
DETHOLION.
Cystadleuaeth unawdau Sopranos, "Y Gwenith
Gwyn " a " Clychau Aberdyfi." Gwobr laf, 25 dolar,
gan Master G. Tennyson Mathews, New York; 2M,
15 dolar, gan y Parch. J. Wynne Jones, Chicago, a
Cadben J. L. Morris, Canal Dover, O. Enynodd y
gystadleuaeth hon ddyddordeb mawr, gan fod yr ymgeiswyr i ymddangos yn
gystadleuol mewn hen wisgoedd Cymreig, ac i ganu hefyd i gyfeiliant y delyn.
Ymgeisiodd pump o foneddigesau ieuainc prydferth o
Ddeheudir Cymru, sef Miss May John, Pentre, Cwm
Rhondda; Emily Francis, Caerdydd; Georgia Thomas,
Whitland, Penfro; Mary Williams, Pontlotyn; a
Lizzie Davies, St. Dogmell, Caerdydd. Goreu, Miss
Francis. Methodd y beirniad a phenderfynu rhwng
dwy am yr ail wobr heb iddynt gantl drachefn, yr hyn
a wnaethant yn y cyngerdd, a barnwyd Miss John a
Miss Davies yn gyfartal. Rhoddwyd cymeradwyaeth
byddarol i'r boneddigesau ieuainc yn eu gwisgoedd
hardd, oll yn aelodau o gor bydenwog y
gerddores alluog a phoblogaidd Mrs. Clara Novello
Davies, o Gaerdydd.
Beirniadaeth Cån—" Celf." Gwobr, 25 dolar,
rhoddedig gan Dr. D. J. J. Mason. Goreu, Thalamus,
New Straitsville, O.
Beirniadaeth y Fyfyrdraith, " V Bardd ar Farddoniaeth." Gwobr, 25
dolar, rhoddedig gan Griffith Jones,
Ysw., Llundain. Goreu, " Un hoff ohoni,"
sef Wm.
Evans (Artro), Dolgellau. Cynrychiolwyd gan Moriog,.
Milwaukee.
V CADEIRIO—ANERCHIADAU Y BEIRDD.
Ein " Lazarus " rymusol,—Hen arwr
Ni erys yn farwol;
Atom ni daeth eto'n ol,
Y n Ddyfed awen Ddwyf01.—Cynonfardd.
|
|
|
(delwedd E0371) (tudalen 377)
|
DETHOLION.
Dy awen fwyn daniai fyd—o feirdd
'Steddfod fawr y cydfyd;
A Hwfa yntau hefyd,
Dyn y gan, yn dån i gyd.
Well done! Dyfed fendigedig,—ti guraist
Gewri yr Amerig;
A thrwy Brydain heddyw ni thrig
Awdwr mor glodforedig.—Moriog.
I'r lesu a'i drefn rasol—y canodd
Ei acenion swynol;
Hwtio ffug, chwyddwynt ffol,
Wnaeth Dyfed mewn gwaith Dwyfol.
Ei " lesu " drwy dån ysol—y beirniaid
Heb Wyrni'n ddihangol
Ddaeth allan,—urddwaith 11oll01
Ydyw'n wir, heb iod yn ol.
Bardd Chicago a fo, a fydd—yn ganllaw,
Y n gynllun efrydydd;
Tra heli ddw'r—tra haul ddydd,
A mwnau yn nghöl mynydd.— Tegfelyn.
Curwr y Beirdd—cawr hir o ben—difai
Y w Dyfed digynen;
A diwyd yw ei awen,
Oleua'n awr fel haul nen.
Ein Hiesu gynesodd—ei awen,
A hyawdl y canodd,
V n hollol fe enillodd,—a chöd lawn
Y n wir gyfiawn gyda'r gadair gafodd.
Thalamus.
Dyfed, prif-fardd ein defion,—i'r lesu
A roes ei orchestion;
Gwedd araul egwyddorion
Urdd ei fri, a hardda'i fron.
25
377
|
|
|
(delwedd E0372) (tudalen 378)
|
378
DETHOLION.
Per odlwr pur hyawdledd—a godwyd
I gadair anrhydedd;
Llafurwr a'i holl fawredd
Leinw'r wlad, a Iona'r wledd.
—Parch. [Ohn T. HumØhreys (Arfonwy),
Peru, N. Y.
Ein Prif-fardd Dyfed fwyn sy'n harddu—llawr
Llwyfan Ilon meib Cymru;
Rhyw hyawdl gerdd, rhyw odlig gu,
Ini roes yn llawn O'r lesu.
—Gwilym Deudraeth.
Anwyl was ein hael lesu—yw'n Dyfed,
Hyfwyn wnaeth brydyddu;
Arwr o fardd, concwerwr fu—ar g'oedd
Cana i oesoedd gan eu cynesu.
Nef awen lawn o fywyd—anadlodd
Odlau ei " Gån " hyfryd:
Tra'n hiaith, a thra'r nef hefyd,
'E hoffir bardd Ffair y Byd.—leuan Fardd.
Dyfed fid, efe ydyw—y prif-fardd,
Profwyd e'n ddigyfryw;
Mi waeddaf yma heddyw
Mai di-ail wr am awdl yw.
—Richard Bowen (Glan Ebzvy).
Mawrion feirdd yr Amerig,—ac eilwyr
Ein Gwalia fynyddig,
Curodd e'—Dyfed—un dig
Nid adwaen fardd nodedig.—Gwernog/e.
Cyhoedded Amerig heddyw—y dir
Gadeiriol digyfryw;
At hyn—ein Laureate yw—
Dywedwch mai ein Dyfed ydyw.
Ifor Cynidr Parry.
|
|
|
(delwedd E0373) (tudalen 379)
|
DETHOLION.
Hwn a roes gån i'r lesu—awengref,
Yn y Groes yn credu;
Am ei lwydd ceir yma lu
Ar ogwydd i' w fawrygu.—Edno.
Dyfed wir å'i dafod arian—gurodd
Gewri'r byd yn gyfan;
Rhyw angel Gabriel y gån
Y n nef awen yw'n hofian.
Ei gadeiriau
E' fu dda, e' gafodd ddeg.
A cha hon yn ychwaneg.—Ci/cenin.
Hurrah to our chaired hero—Dyfed,
Divinely favored Cymro;
379
Brains in sweet strains have borne thee through
Unchequered in Chicago.—Philo.
Dyfed yw'r mwyaf Dwyfol,—canodd
Acenion bendigol;
Awen gref i'r nef äi'n ol,
Nodau ei chån oedd hudol.
Awdl iawn fel anadl hedd,—lesu'n
Wir rasol yw'r sylwedd:
Hynod fyw eneiniad fedd,
Da fawliad llawn dwyfoledd.
Teilwng O'r pum' cant dolar,—a hyny
Y n ngwyneb haul llachar;
Yr Enw Gwyn—'r awen gar,
Trwy aiddgerdd ein bardd treiddgar.
'E geidw rawd y gadair hon—enw
Ein hanwyl fardd ffyddlon,
A'i urddas yn mysg beirddion,
Tra'r haul tér, tra elo tön.
Dafyddo Went, Scranton, Pa.
|
|
|
(delwedd E0374) (tudalen 380)
|
380
DETHOLION.
Mawr seren Cymru siriawl—yw Dyfed,
A difalch fardd swynawl;
Ei enw fyth fydd dan fawl,
Rhoes i fyrddiwn wers farddawl.
—Ffrzvydzvyllt.
Y CYNGERDD NOS IAU.
Dechreuwyd y cyngerdd nos lau am 8 0'r gloch.
Cadeiriwyd gan yr Anrhyd. John Jarrett, Pittsburgh,
Pa.; arweinydd, yr Anrhyd. H. M. Edwards. Wedi
agoriad trwy ddadganiad o 's America " gan Gor yr
Eisteddfod, dan arweiniad Proff. Apmadoc, dechreuwyd ar unwaith ar un o brif
ddygwyddiadau yr Eisteddfod, sef cystadleuaeth Corau y Merched ar y
darnau, " The Lord is my Shepherd," a " The Spanish
Gipsy Girl," i gorau heb fod islaw 40 nac uwchlaw 50
o nifer. Gwobr gyntaf, 300 dol.; ail, 160 dol., gyda
bathodau aur i'r arweinyddesau buddugol. Ymgeisiodd dau gor, sef y Cecelians
o Wilkesbarre, Pa., o dan
arweiniad Mrs. Annie Thomas (Eos Tydvil), a Chor
Merched Cymreig Caerdydd, dan arweiniad Mrs. Clara
Novello Davies. Caed dadganiad bendigedig gan y
ddau gor. Dyfarnwyd cor Caerdydd yn oreu, yn
nghanol cymeradwyaeth fyddarol.
" Llwyn Onn," gan Gor yr Eisteddfod, yn cael ei
ddilyn gan 15 0 delynau.
Deuawd, "I Live and Love Thee," Miss Clara
Williams a Mrs. Jennie Alltwen Bell.
can, " There is a Bower of Roses," Mrs. Mary
Davies.
can (mewn gwisg Gymreig), " Clychau Aberdyfi,"
Miss May John a Miss Davies, Caerdydd.
can, " Boed Gwalia'n W lad i'r Brython," ProffHarry E. Jones.
Deuawd, " Una Notte a Venezia," gan Mrs. Mary
Davies a Ben Davies, yn ardderchog.
can, Miss Jennie Owen.
Chwareuad ar y delyn gan Pencerdd Gwalia,
Cafwyd cyngerdd odidog.
|
|
|
(delwedd E0375) (tudalen 381)
|
DETHOLION.
V PEDWERVDD DVDD.
381
Am 10 0'r gloch, cynaliwyd ail Gynghres Gydgenedlaethol y Cymrodorion yn
Neuadd Cån. Llywyddwyd gan y Parch. W. T. Lewis, D. D. , St. Louis, Mo.
Wedi anerchiadau byrion gan amryw, galwyd ar y
Parch. W. C. Roberts, DD., New York, i ddarllen ei
bapyr ar " The Origin, Customs, and Characteristics of
the Welsh." Caed papyr gwir alluog. Cyflwynwyd
diolchgarwch gwresog i'r Dr.
CVFARFOD Y PRYDNAWN.
Dechreuwyd y gweithrediadau am 1.30. Gwelwyd
yn fuan mai hwn ydoedd prif ddydd yr Eisteddfod,
oherwydd y brif gystadleuaeth gerddorol. Yr oedd y
neuadd yn orlawn erbyn 1 0'r gloch—pob sedd wedi ei
chymeryd, llawn 10,000 yn bresenol.
Cymerwyd y gadair gan R. T. Morgan, Vsw.,
Oshkosh, Wis., ac arweiniwyd gan yr Anrh. H. M.
Edwards a Dr. Fred Evans (Ednyfed). Dadganwyd
" Llwyn Onn " gan Gor yr Eisteddfod, dan arweiniad
Proff. Apmadoc. Anerchiadau gan y cadeirydd, a'r
arweinydd, H. M. Edwards.
can, Proff. Gordon Thomas, " Hen Gymru Fendigedig" (o waith Mr.
John T. Jones, Chicago).
Beirniadaeth y Llawlyfr (Cymraeg neu Saesoneg),
" Byr-hanes Beirdd Cymreig, &c., 0 1560 hyd at
Gwilym Hiraethog." Gwobr, 100 dolar, gan Eisteddfod y Gorllewin, a lot
gwerth 200 dolar gan Mr. Henry
Parry, Mitchell, a'r Barnwr G. W. Roberts, Vanton,
South Dakota. Goreu, Mr. Charles Ashton, Dinas
Mawddwy, G.C.
Beirniadaeth y Llawlyfr (Cymraeg neu Saesoneg),
' Hanes y Prif Eisteddfodau o Eisteddfod Fawr Caerdydd, o dan nawdd y Tywysog
Gruffydd ap Nicholas,
yn y 15fed ganrif, i 1892." Gwobr, 100 dolar. Goreu,
y Parch. Erasmus W. Jones, Utica, N.Y.
can, " Codiad yr Ehedydd," gan Miss Clara
Williams, Minneapolis, gydag uchel gymeradwyaeth.
Cystadleuaeth Unawd Soprano, "O Loving
Heart." Gwobr, 25 dol., gan Gymrodorion St. Louis,
Mo. Vmgeisiodd chwech. Goreu, Miss May John,
Pentre, Cwm Rhondda.
|
|
|
(delwedd E0376) (tudalen 382)
|
382
DETHOLION.
Beirniadaeth yr Operatic Libretto, " Owain Glyndwr." Gwobr, 100
dolar, gan Gymry South Chicago.
Goreu, D. R. Williams (Index), Braddocks, Pa., gyda
chymeradwyaeth uchel.
Cystadleuaeth chwareu ar y delyn, " Y Gwenith
Gwyn." Gwobr, 50 dolar, gan Gym rodorion South
Chicago. Pedwar yn cystadlu; goreu, W. Morgan
(Ap Siencyn), Caerphili, D.C.
Beirniadaeth Hwfa Mon al Arwrgerdd y Goron—
' George Washington." Gwobr, 100 dolar, a choron
arian, y goron yn rhoddedig gan foneddigesau Cymrodorol Denver. Dau yn
cystadlu; goreu, Watcyn
Wyn, Amanford, D.C. Cynrychiolwyd gan Dr. Cynonfardd Edwards, a choronwyd ef
gan Mrs. M. A. Ellis,
Denver. Aed trwy ddefodau y coroni gyda'r un ddefod
a'r cadeirio. Anerchodd amryw O'r beirdd ar yr amgylchiad. Wele ychydig:—
Newydd goron ddiguro—o orwych
Arian Colorado;
Ein Watcyn Wyn ydyw o
Y n egwyl fawr Chicago.
—Ifor Cynidr Parry.
Cariwyd y befriog goron—yn deilwng
Gan dalent y gwron,
Ar heuliau y cawrolion,
Oes angeu teg George Washington.
—merch.
Goreu fardd sir Gaerfyrddin,—a'r gWr a
Gurodd y beirdd cyfrin;
Mawl ei gerdd yw mél a gwin,
Hardd ddewisol fardd iesln.
Enillodd, dyma'r cnewullyn,
Coron yw hat ein Wat Wyn.
— Cilcenin.
Watcyn Wyn, y dyn mawr doniol,—efe'r
Angel-fardd buddugol;
Fe ad hwn fywyd o'i ol
O nodwedd dwfn eneidiol.
|
|
|
(delwedd E0377) (tudalen 383)
|
DETHOLION.
'E erys y goron arian—erddo
V n urddas cerdd burlan,
I nodi gwir enaid y gån,
Bron emog bardd Brynaman.
383
George Washington a' i wroniaeth—wir luniodd
Ar lenau barddoniaeth;
I ranau'r iawn Werinwr aeth,
A'i benod drwy'n hannibyniaeth.
—Dafydd o Went.
can, " Dyffryn Clwyd," gan Mrs. Jennie Alltwen
Bell, yn odidog, a gorfu iddi ail-ganu.
Anerchiad Cymraeg a Saesoneg hyawdl gan y
Parch. Jenkyn Lloyd Jones, am ogoniant yr Eisteddfod.
Erbyn hyn yr oedd y gynulleidfa yn awyddus iawn am
glywed y brif gystadleuaeth gerddorol, i fwynhau yr
hyn yr oedd y gynulleidfa anferth wedi d'od yn nghyd.
Yr oedd y brwdfrydedd yn awr yn tori dros yr ymylon.
Am 4 0'r gloch dacw y Scranton Cymrodorion Choir,
214 mewn rhif, ar y llwyfan, a dechreuasant ganu dan
arweiniad Proff. Dan Protheroe. Y darnau oeddynt,
' Worthy is the Lamb," " Blessed are the men that
fear Him," a " Now the impetuous torrents rise." Yr
ail i ganu ydoedd cor y Tabernacl, Salt Lake City, 250
o rif, dan arweiniad Proff. E. Stephens; trydydd, y
Scranton Choral Union, 260 0 rif, arweinydd, Proff.
Haydn Evans; pedwerydd, y Western Reserve, Ohio,
200 0 rif, arweinydd, Proff. J. Powell Jones. Ni bu y
fath olygfa o fewn y Festival Hall O'r blaen—y gynulleidfa enfawr wedi ei
gorchfygu gan frwdfrydedd
fel y canai y naill gor ar ol y llall, a'u cymeradwyaeth
yn siglo y Ile. Hon oedd y wobr fwyaf a roddwyd
erioed mewn unrhyw gystad1euaeth—5,ooo o ddoleri,
ac ail wobr 0 1,000 0 ddoleri, gyda bathodau aur i'r
arweinyddion buddugol. Canodd yr holl gorau yn
odidog, a chafwyd gwledd O'r fath fwyaf enaidgynhyrfiol, y gyfryw na cheir ei
chyffelyb yn fuan yn y
wlad hon. Gohiriwyd y feirniadaeth hyd gyngerdd yr
hwyr.
Cydgan diweddol, " Rhyl," gan Gor yr Eisteddfod,
dan arweiniad Dr. Mason.
|
|
|
(delwedd E0378) (tudalen 384)
|
384 DETHOLION. V CVNGERDD DIWEDDOL. Dechreuwyd y cyngerdd terfynol atil 8 0'r
gloch. Llywydd, Parch. W. C. Roberts,
D.D., New York ; arweinydd, Dr.
Cynonfardd Edwards. Vr oedd y neuadd
eto yn orlawn—llawn 10,000 yn bresenol, yn
frwdfrydig am wybod canlyniadau y gystadleuaeth fawr, a mwynhau gwledd derfynol yr wyl
genedl- aethol. can, Proff. Harry E. Jones, Philadelphia;
can, " My Queen," yn
ardderchog, gan Mr. Ben Davies, a
gorfu iddo ufuddhau i ail-alwad y dorf. Unawd ar y delyn, " Ar hyd y nos," gan
Madame Chatterton, a gorfu hithatl„
chwareu drachefn. Cån, " The Banks of
Allan Water," gan Mrs.' Mary Davies, gydag uchel gymeradwyaeth, ac ail-ganodd. Cyflwynwyd
Dr. George F. Root, a Proff. W. B.
Matthews, Chicago, i'r dorf, ar
gyfrif eu safleoedd uchel fel cyfansoddwyr
cerddorol. " Clychau
Aberdyfi," gan Gor Merched Caerdydd,
dan arweiniad Mrs. Clara Novello Davies. Un O'r gwleddoedd cerddorol mwyaf bendigedig.
Gorfuwyd canu eilwaith. Anerchiad hyawdl gan y Cadeirydd. Cån, "
O Don Fatala," gan Miss Grace
Jones-Taylor, Chicago, gydag uchel
gymeradwyaeth. Unawd ar y delyn,
" Echoes of a Waterfall," gan
Pencerdd Gwalia. Darllenwyd
llythyr oddiwrth Mrs. Henry Ward
Beecher, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth uchel y gynulleidfa. Hysbysodd Ysgrifenydd yr Eisteddfod ei fod
wedi derbyn llythyr oddiwrth Samuel
Thomas, Ysw., mab i'r hwn a gododd y
ffwrnes gyntaf er toddi haiarn yn
America, sef Mr. David Thomas, Catasauqua, Pa., ac amgauodd cheque am 50 dolar tuag at ddwyn
traul yr Eisteddfod. Hefyd, llythyr a
cheque oddiwrth George Davies, Ysw.,
Lansford, Pa., i'r un perwyl. Rhoddodd
Dr. Cynonfardd Edwards ganmoliaeth uchel i Bwyllgor yr Eisteddfod •a'r Cymrodorion am anturio
gyda'r fath ymgymeriad, ac am ei
chario allan mor ardderchog i fod yr
Eisteddfod fwyaf gogoneddus a gynaliwyd
|
|
|
(delwedd E0379) (tudalen 385)
|
DETHOLION.
385
erioed. Dywedai fod dyled genedlaethol i'r Ysgrifenydd, Apmadoc, a Thomas E.
Lewis, Vsw., am drefnu
a sicrhau eiddo yr Eisteddfod. Mr. Lewis yw trysorydd cwmni y Columbia.
Deuawd, " Sereneta," Mrs. Mary Davies a Mr.
Ben Davies, a theimlai pawb mai dyma emwaith yr
11oll gyngerddau.
Canwyd yr " Hallelujah Chorus " gan Gor yr Eisteddfod, dan
arweiniad yr hen wron Caradog, a chafodd
y gynulleidfa foddhad mawr.
Bellach, deuwyd at adeg beirniadaeth y brif gystadleuaeth gorawl, a theimlid
pryder mawr gan
gyfeillion y corau am eu tynged yn nghlorianau manwl
y beirniaid dysgedig, Mr. John Thomas (Pencerdd
Gwalia), Proff. W. L. Tomlins, Chicago, a Dr. Gower,
Denver. Traddododd Dr. Gower y feirniadaeth, yr
hon nad oedd ond b&r. Nododd ychydig o ddiffygion
y naill gor a'r llall, sef fod tuedd ynddynt i fforsio, nad
oedd digon o ofal gan yr altos mewn rhai manau yn y
darnau i wneyd y nodau uchaf yn eu priodol ddull.
Nid oedd yn cymeradwyo y darnau fel rhai i roddi
prawf ar leisiau. Ni nododd rinwedd na rhagoriaeth
y naill ar y llall, ond ceir hyny yn y feirniadaeth
swyddogol eto. Wedi pwyso pobpeth, barnent mai y
trydydd cor a ganodd ydoedd y goreu, ac yn teilyngu
y wobr, sef y Scranton Choral Union, dan arweiniad
Proff. Haydn Evans: a'r ail a ganodd yn ail-orau, sef
Cor y Tabernacl, Salt Lake City, dan arweiniad Proff.
E. Stephens. Derbyniwyd y dyfarniad gyda chymeradwyaeth fyddarol.
Wedi gwobrwyo yr arweinwyr buddugol, ymwahanodd y dyrfa fawr, a therfynodd
gweithrediadau
Eisteddfod Gyd -genedlaethol Ffair y Byd yn llwyddiant
perffaith yn mhob ystyr, ond fod y Pwyllgor yn fyr o
•rai canoedd o ddoleri er talu pob treuliau.
Dyna ni wedi cyrhaedd at ddiwedd yr Eisteddfod
fwyaf mawreddog ag y gWyr hanesiaeth am dani—y
fwyaf mawreddog am ei thestynau cystadleuol—y
fwyaf mawreddog o ran ei gwobrwyon—y fwyaf
mawreddog o ran eangder cartrefleoedd y cystadleuwyr; corau mawrion yn dyfod
filoedd o filldiroedd i'r
ymdrechfa, sef O'r tu draw i'r Mynyddoedd Creigiog yn
|
|
|
(delwedd E0381) (tudalen 386)
|
386
DETHOLION.
y Gorllewin, a Mynyddoedd yr Allegheny yn y
Dwyrain, a thair mil o filldiroedd yn mhellach, sef o
Gymru, gwlad y gan; a mawreddog, yn Olaf, oblegid
ei pherthynas å'r Arddangosfa Fawr Golumbaidd Gydgenedlaethol.
Ac yn awr, i bawb ag sydd wedi gwylied gweithrediadau yr Eisteddfod Fawreddog
Gyd-genedlaethol
Ffair y Byd yn Chicago, yn y flwyddyn 1893, iddynt
hwy y mae rhai ffeithiau yn eglur, os edrychir heb
wydrau rhagfarn ar y llygaid.
1. Mai hon oedd yr Eisteddfod fwyaf mawreddog
ag y gWyr y byd am dani.
2. Fod yr Eisteddfod hon wedi codi y genedl
Gymreig yn ngolwg y byd fel cenedl henafol, lenyddol, a cherddorol.
3. Fod yn rhaid i'r Cymry gael rhyw bedwar
diwrnod o leiaf i ddangos eu neillduolion cenedlaethol,
tra yr oedd un dydd, fel rheol, yn ddigon i genedloedd
ereill.
4. Fod yr Eisteddfod hon wedi talu, yn ol mantol
gyffredin pobl o farnu.
5. Fod ymgeiswyr o Gymru wedi curo ymgeiswyr
Cymreig y Talaethau Unedig, yr hyn oedd yn rhesymol dysgwyl, yn ngwyneb y
ffeithiau fod mwy o
lenorion, beirdd, a cherddorion yn Nghymru, a gwell
ac amlach manteision i ymddadblygu, &c.
Eto, bydded i ni wneyd ychydig o sylwadau
terfynol yn gyffredinol am Ffair Golumbaidd Gydgenedlaethol Chicago yn 1893.
Mewn ystyr gyffredinol credaf ei bod wedi, ac yn
talu am y draul aruthrol a wariwyd yn ng19n hi.
Nid wyf am i neb dybied fy mod am iddynt gredu fod
y doleri a wariwyd mewn perthynas å'r Ffair yn dyfod
yn ol i logellau y rhai a'u gwariasant. Nid dyna y
meddwl; ond y meddwl yw, fod y byd i'w ddysgu
a'i lesoli, a bod hyny yn arfer costio arian, &c.„
ac mai yn y dyfodol y dysgwylir i bob addysg i dalu
yn benaf.
V n gyntaf, credaf fod holl gefnogwyr y Ffair hon
wedi cael eu talu i raddau helaeth yn eu mynwesau yn
yr ymwybyddiaeth eu bod wedi cefnogi yr Arddangosfa addysgiadol fwyaf
mawreddog ag y gwyr y byd
|
|
|
(delwedd E0382) (tudalen 387)
|
DETHOLION.
387
am dani, a bod yr ugain miliwn o bell ac agos a aethant i draul fawr er myned
i'w gweled yn bersonol wedi
cael boddlonrwydd go dda.
Vn ail, credaf y gwna yr Arddangosfa ychwanegiad mawr at gynydd gwyddorol, a
chelfyddydol, a masnachol y byd.
Vn drydydd, credaf y bydd i'r Ffair brysuro llawer
ar gynydd gwareiddiad cyffredinol y byd.
Y n bedwerydd, credaf fod y Ffair wedi ac i wneyd
llawer er hyrwyddo brawdgarwch cyffredinol, a thrwy
hyny—
Y n bumed, brysuro llwyddiant a chynydd moesoldeb Cristionogol drwy y byd. A
chredaf fod y
WORLD'S RELIGIOUS CONGRESSES
wedi gwneyd llawer i'r cyfeiriad yna, Ile yr oedd
rhai o arweinwyr holl grefyddau y byd yn siarad
ac yn ysgwyd dwylaw yn siriol å'u gilydd ar dir
brawdgarwch; ac wrth weled cynrychiolwyr y bwystfilod Chineaidd, Indiaidd,
Arabaidd, Rhufeinaidd,
yn dyfod yn nghyd fel hyn i gyfeillachu yn frawdol
wrth alwad y llanc Cristionogol Americanaidd, perai
i mi gofio am y broffwydoliaeth hono: "Y blaidd a'r
oen a borant yn nghyd; y Ilew fel yr 'ch a bawr wellt
a bachgen bychan a'u harwain," &c.
Onid priodol i ni edrych ar Ffair Fawr Chicago,
a'r brawdgarwch yn ngljn hi, fel rhaglewyrchiad y
Milflwyddiant? Wrth gwrs, cymerodd llawer o bethau
chwerw le mewn perthynas å'r Ffair Fawr hon, fel
cynyrch naturiol egwyddorion ac arferion drwg, fel ag
y gellir yn naturiol ddysgwyl yn ngljn a phob sefydliad
mawr cymdeithasol yn ngwyneb agwedd foesol bresenol y byd.
Ond am yr Arddangosfa Fawr yn mhen yr wythfed can-mlynedd darganfyddiad
America, ni bydd neb
am gadw yr Arddangosfa yn agored ar y Sabbath er
budd cribddeilwyr masnachol. Ni bydd ychwaith gerbydresi yn rhedeg i'w gilydd
y pryd hyny ar y„ffyrdd
haiarn, canys bydd holl gwmniau ffyrdd cyhoeddus
y pryd hyny yn gofalu am reoleiddiad da, fel na byddo
raid i'r gweithwyr golli eu cwsg a'u gorphwys rheol
|
|
|
(delwedd E0383) (tudalen 388)
|
388
DETHOLION.
aidd, ac ni bydd y cyfryw y pryd hyny yn cael eu
temtio i arllwys y gwenwyn meddwol i'w cyfansoddiad
er dyrysu yr ymenyddion, ac, mewn canlyniad, esgeuluso eu dyledswyddau, a
pheryglu bywydau diniwed a
meddianau.
V n awr, gan mai " Gormod o ddim, nid yw dda,"
gadawaf Ffair y Byd a'r Eisteddfod Gyd-genedlaethol
i ofal hanesyddiaeth, gyda gosod ger bron ryw syniadau a aeth trwy fy meddwl,
ar ffurf penillion, wrth
weled y Ffair a'i rhyfeddodau.
Mae'r byd yn rhyfeddol o ddechreu y cread,
Trwy waith y Creawdwr, ac hefyd y dyn;
Cofnodir yn rhyfedd, gan Dduw a phlant dynion,
Yr holl weithrediadau—ni chollir yr un!
A cherfia y Créwr y dirfawr ddirgelion
Ar greigiau y cadw er addysg i ni;
A chasglwyd O'r cyfryw gan fysedd athrylith,
I'r " Wen Ddinas " newydd, rhyfeddol ei bri,
Amrywiaeth y creigiau, a llwythau y dyfroedd,
O'r byd hardd llysieuawg, a choedydd y maes;
Aneirif ymlusgiaid amrywiog y ddaear,
Y n nghydag asgellog ehediaid pob oes.
Ac hefyd gynyrchion y cain gelfyddydau
Sydd wedi eu casglu yn rhyfedd yn nghyd,
Er dangos athrylith y meibion a'r merched,
A'r oll yn dysgleirio nes synu y byd.
Bu mawrion balasau a gerddi crogedig
Y n synu trigolion y ddaear O'r blaen;
Ond heddyw nid ydynt ond rhith a chysgodion
V n ymyl gogoniant y " Wen Ddinas " Ian.
Un dydd, pan yn mron syfrdanu gan edrych
V n nghanol y mwyaf O'r p'lasau i gyd,
Fe'm codwyd i fyny trwy'r gwagle mewn syndod!
Wrth syllu ar gynyrch athrylith y byd.
Cynhyrfwyd fy enaid i ofyn yn ddystaw,
Y n ymyl gogoniant mynegol y Ffair,
|
|
|
(delwedd E0384) (tudalen 389)
|
389
DETHOLION.
A welir gan lygaid y miloedd ymwelwyr
Fod calon Creawdwr athrylith yn hael?
Wrth weled ffrwyth athrylith fyw
V n mh'lasau gwych y " Ddinas Wen,"
Cofiais fod dinas eto'n well
Mewn nefol wlad nag ydyw hon.
I'r wen ddinas nefol y pyrth fydd yn hardd
Gan ddeuddeg math o feini drud;
A'r ffyrdd palmantedig gan aur heb ei fath,
Er swyno y teithwyr o hyd.
'Roedd siomiant a marw'n ein " Dinas Wen " nt
A'i blodau a sathrwyd dan dra'd;
Ond bywyd blodau anfarwol a fydd
V n arsyllfa y nefol wlad.
Chwech mis oedd amseriad ein " Dinas Wen " wych
I ddangos gogoniant y byd;
Ond maith drag'wyddoldeb, heb siomiant y nos,
I weled y nefoedd i gyd.
Goleuni trydanol amryliw a haul
Oleuent yn ninas y dyn;
Ond yn arddangosfa y ddinas uwch ben,
V goleuni fydd Duw ei Hun.
Son am gantl yn Chicago,
Ac Eisteddfod Ffair y Byd,
Mil yn ymgais am wobrwyon,
Fel goreuon oll i gyd;
oll yn canu yn rhagorol,
Un o ddeg yn cael y clod,
A'r naw ereill yn cyhoeddi,
Anghyfiawnder sydd yn bod!
Un o ddeg yn gorföleddu,
Naw o ddeg yn wylo'n ddwys,
A'u telynau ar yr helyg,
Ac yn dianc gyda brys
I' w gwelyau i alaru,
Am na chawsant hwy eu rhan!
Ar ol misoedd o ddiwyllio,
Colli'r oll ar ddydd y farn!
|
|
|
(delwedd E0385) (tudalen 390)
|
390
DETHOLION.
Ond cerddorion doeth y bywyd,
vn Eisteddfod " Nefoedd Wen,"
Pawb a fydd yn haeddu gwobr,
A'u coronau ar y pen;
Wedi bod yn ngwlad y cystudd
Amser maith yn dysgu'r dön,
Pawb yn cael y fuddugoliaeth
Y n Eisteddfod Duw a'r Oen.
Cenir anthem Pen Calfaria
Gan gantorion Cymru Wen,
Gyda Moses a'r Proffwydi,
Am un Duw mewn Tri yn rhan;
Y na unir yn y cydgan
Gyda yr angelion glån,
Heb fod neb yn yr Eisteddfod
Hon yn colli dim O'r gan!
PEDWAR O RVFEDDODAU YR UNOL
DALAETHAU.
TEIMLAF i enwi rhai o fawrion bethau yr Unol
Dalaethau eto cyn gorphen y gyfrol hon nad wyf wedi
eu henwi yn y benod ar Ddaearyddiaeth yn y rhan
gyntaf. Enwaf yn flaenaf
BROOKLYN BRIDGE,
sef y bont grogedig hwyaf yn y byd, er uno Brooklyn
a New York City dros yr East River. Mae y prif fwa
yn 1,595 0 droedfeddi a chwe' modfedd, a hyd yr holl
bont yn 5,980 0 droedfeddi.
MAMMOTH CAVE.
Hon yw yr ogof hwyaf yn y byd, yr hon sydd yn
Edmondson Co., Kentucky, ac y mae ynddi lawer o
filldiroedd o rodfeydd ac ystafelloedd mawrion a
chywrain o waith natur. Gellir myned am lawer o ffordd
mewn badau ar ddyfroedd yr Echo River, yr hon
sydd yn myned trwy yr ogof am filldiroedd. Nid oes
llygaid gan bysgod yr ogof hon, am nad oedd y
Creawdwr am greu llygaid yn Ofer er preswylio byd
|
|
|
(delwedd E0386) (tudalen 391)
|
DETHOLION.
391
tywyll yr ogof hon. Ond tybia llawer fod Mammoth
Cave yn colli ei gogoniant yn ymyl ei chwaer a ddarganfyddwyd yn ddiweddarach
yn
MYNVDDOEDD DUON DAKOTA.
Dywedir fod hon yn 52 0 filldiroedd o hyd,
1,500 0 ystafelloedd, rhai ohonynt yn 200 troedfedd o
uchder; a bod afonydd a rhaiadrau mawrion o'i mewn,
a bod ynddi 37 0 lynoedd, ac un ohonynt yn erw o
arwynebedd. Mae yr ogof yn 700 troedfedd uwchlaw
arwynebedd y mar, a 400 troedfedd islaw arwynebedd
Y ddaear.
NIAGARA FALLS.
Niagara y gelwir yr afon ag sydd yn rhedeg o
Lyn Erie i Lyn Ontario, ac i'r gogledd iddi y mae tir
Canada, ac i'r dehau, talaeth New York; ac yn yr afon
hon y mae y Niagara Falls, sef y cwymp dyfrol mwyaf
yn y byd, mae'n debyg. V mae yr afon yn cael ei thori
yn ddwy gan " Goat Island," fel ag y mae yn disgyn i'r
dyfnder yn ddwy ffrwd fawreddog: Horse Shoe Falls
yn ochr Canada, yn 158 0 droedfeddi o uchder, a 2,000
o led; a'r American Falls yn 164 0 droedfeddi o
uchder, a 900 0 droedfeddi o led. Nid mewn uchder y
mae y cwymp dwfr hwn y mwyaf yn y byd, ond yn
swm y dwfr a ddisgyn drosto. V mae rhai cwympiadau
dyfrol ereill yn America yn uwch nag ef.
Eto, gwnawn sylw o un peth mawr ar ddiwedd y
gyfrol hon ag sydd o ddyddordeb i'r byd yn gyffredinol, yr hwn a ddeil
berthynas arbenig thynged
dyfodol y byd, sef—Ai1-ddyfodiad personol Crist i
deyrnasu ar y ddaear.
AIL-DDYFODIAD CRIST.
GAN fod cymaint o wahanol farnau yn mhlith y saint
am amseriad ac ystyr lythyrenol ail-ddyfodiad Brenin
Seion i deyrnasu ar y ddaear am fil o flynyddoedd,
tybiais mai nid annyddorol fyddai fy syniadau inau ar
hyn mewn penod för yn y gyfrol hon; ond nid yn enw
proffwyd, na mab i broffwyd, ond fel un ag sydd yn
ymwybodol fod Brenin y saint yn dysgwyl i' w holl
ddeiliaid wneyd eu goreu i ddeall amseroedd ac
|
|
|
(delwedd E0387) (tudalen 392)
|
392
DETHOLION.
egwyddorion Ei Deyrnas, ac yn dal pawb yn gyfrifol
fel bodau rhesymol am eu gwybodaeth a' u hanwybodaeth, yn ol eu manteision a'u
galluoedd naturiol.
Gwel Matt. xvi. 2, 3: " Ac Efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan
fyddo yr hwyr y dywedwch, Tywydd
teg; canys y mae y wybr yn goch. A'r boreu, Heddyw
drycin; cynys y mae y wybr yn goch ac yn bruddaidd.
O ragrithwyr! chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren,
ac oni fedrwéh arwyddion yr amserau? " Hefyd, yn
yr ymwybyddiaeth ei fod yn dysgwyl i'r oll ohonom i
amcanu goleuo ereill: " Llewyrched felly eich goleuni
ger bron dynion," &c.
V n gyntaf, rhoddaf fy syniad am ddyfodiad yr
Arglwydd lesu i deyrnasu ar y ddaear am fil o flynyddoedd mewn ystyr
amseryddol, oddiar adlewyrchiad
proffwydoliaethau y Beibl ac arwyddion yr amserau;
ond na ddysgwylier i mi wneyd sylw ar yr holl
broffwydoliaethau mewn penod för fel hon, ond anogaf
y darllenydd i ddarllen yn arbenig Dat. xix. a'r
.,
a sylwer ar y pethau ag sydd i gymeryd Ile ar y ddaear
yn rhagflaenorol i'r Milflwyddiant. Cadwn mewn cof
hefyd y gwirionedd mawr mai rheol gyffredinol Duw
yw ymddwyn at ddynolryw fel bodau rhesymol a
chyfrifol, yn y lluosog yn ogystal a'r unigol, yn wladwriaethol yn ogystal ag
eglwysig; y mae y gwirionedd yna yn amlwg yn ei ymddygiadau at y byd dan
bob goruchwyliaeth. Ni welodd yn dda gymeryd eu
rhyddid a'u cyfrifoldeb moesol oddiwrth ein rhieni
cyntaf, a'u hatal i bechu, na chwaith oddiwrth y cynddiluwiaid, na chwaith
oddiwrth yr Aifftiaid na'r
Israeliaid trwy y canrifoedd;
ac nid yw hanesyddiaeth yn profi ei fod yn ymddwyn yn wahanol o dan
oruchwyliaeth yr Efengyl—yn bersonol, eglwysig, na
gwladwriaethol. Ei reol yw: V n gyntaf, cynghori;
yn ail, rhybuddio; ac yn drydydd, cosbi. Onid dyna
y mae y Beibl a hanesyddiaeth y byd yn brofi?
V mae y syniad mai ewyllys benarglwyddiaethol
Duw yw achosydd ac ysgogydd pob peth, y drwg fel y
da, yn arwain i ddyryswch gwrthun ac anesboniadwy;
gan hyny, bydded i ni chwilio am yr achos o bechod,
ac am arafwch adferiad y byd yn nghalonau plant
dynion, ac nid yn ewyllys Duvv y Cariad a'r Duw
|
|
|
(delwedd E0388) (tudalen 393)
|
DETHOLION.
393
Sanctaidd: canys, " Vr 1--1wn sydd yn ewyllysio bod
pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth O'r gwirionedd " (1 Tim. ii.
4); eto, " Nid yw yr Arglwydd yn
oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw Efe tuag
atom ni, heb ewyllysio bod neb
yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch " (2 Pedr
iii. 9). O, 'ie, diolch am ei fod yn hirymharous hefyd,
onide buasai wedi darfod ar y byd er's llawer blwyddyn.
Dywedodd er's yn agos i ddwy fil o flynyddoedd yn
ei Air: " Ni chaiff na diotwyr, na chyfeddachwyr,
na meddwon etifeddu Teyrnas Nefoedd; " eto y mae
miliynau o ddiotwyr yn treio etifeddu y nefoedd a'r
ddiod, a miloedd yn rhoddi mwy o arian am y diodydd
meddwol nag a gyfranantat grefydd. Tebyg fod yr holl
wledydd Cristionogol yn gwario dros ddeg cymaint
am y diodydd meddwol a tobaco nag a werir ganddynt
at wella y byd. Os felly, pa ryfedd fod y gwaith yn
araf? Eto, dywedodd Ef pan yma yn y byd: " Vr
hwn a ddygo gleddyf a ddyfethir å chleddyf." Er
hyny, y mae holl wledydd Cristionogol y ddaear yn
gosod mwy o ymddiried ymarferol mewn arfau rhyfel
nag yn Nghleddyf yr Vsbryd er dwyn y byd i' w le.
Felly, ar draws rhybuddion Tywysog Heddwch, y mae
gwledydd Cristionogol y byd y dyddiau hyn yn ymgystadlu mewn darparu arfau
dinystr; a thybiaf y
bydd i'r byd gael ei argyhoeddi cyn diwedd y ganrif
nesaf, trwy ei ynfydrwydd rhyfelgar ei hun, mai Ofer
y cleddyf a'r march i ymwared, ac mai geirwir y Gwr
a ddywedodd, " Yr hwn a gloddia bwll i arall, efe ei
hun a syrth ynddo." Felly, y mae gan y Brenin Mawr
ddigon o amynedd i aros er rhoddi mantais i'r rhai na
fynant gredu ac ufuddhau iddo Ef, iddynt gael cyfleusderau i wneyd y gwaith
yn ol eu dychymygion eu
hunain, pe yn bosibl; ond y mae ffrwyth anufudd-dod
yn chwerwi bob tro. Cydnabyddodd y Weriniaeth
Americanaidd er's dros gan' mlynedd yn ol, fod pob
dyn i fod yn rhydd; ond am ryw 80 mlynedd, mynodd
gaethiwo drachefn, ond bu y ffrwyth yn ofnadwy, ac y
mae y byd yn ei wybod.
V mae arwyddion yr amserau yn awgrymu i mi
fod ynfydrwydd, rhyfyg, ac anffyddlondeb preswylwyr
y ddaear i ddeddfau daionus llywodraethiad y byd yn
26
|
|
|
(delwedd E0389) (tudalen 394)
|
DETYIOLION.
addfedu i'w gynhauaf naturiol, ac i dderbyn yn ol eu
gweithredoedd, ac y bydd chwyldroadau mawrion ac
ofnadwy ar y ddaear o hyn i ben can' mlynedd. V na
y bydd i weddill Cristionogion y byd fod yn ewyllysgar i dderbyn Crist yn
bersonol ar ddechreu y seithfed
fil, i lywodraethu ar y ddaear ar hyd y mil proffwydoliaethol, neu Jubili
hirfaith Cristionogaeth. Yr wyf
yn credu y bydd i breswylwyr y ddaear ar hyd y
cyfnod gogoneddus hwnw allu gweled Person Crist eu
Brenin; ond prin y credaf y bydd iddynt å'u llygaid
naturiol weled Ei gorff materol; ond tueddir fi, yn
hytrach, i gredu mai gweled Ei Berson Vsbrydoledig a
fyddant å'u llygaid ysbrydoledig eu hunain; hyny yw,
bydd i Gristionogion y Mil-blynyddoedd ddeall addysg,
egwyddorion, a chymeriad yr Arglwydd lesu Grist
mor drwyadl, neu yn fwy trwyadl nag oedd Ei ddysgyblion yn adnabod Ei Berson
ymddangosiadol yn nyddiau
Ei gnawd oddiwrth bersonau pobl ereill. Onid dyna
? " Ac ni
awgrym yr adnod hono yn Jer.
xi. 34
ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei
frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd,
oherwydd hwynt-hwy oll 0'r Ileiaf ohonynt hyd y
mwyafohonynt a' m hadnabyddant, medd yr Arglwydd,"
&c. Byddai yn afresymol meddwl i gorff dynol yr
Arglwydd fod yn holl-bresenol gyda'r holl saint ar y
ddaear ar yr un amser.
Pa fodd y mae deall yr Ysgrythyr yn Dat.
. am
adgyfodiad y rhai gwynfydedig a gaiff ran yn yr adgyfodiad cyntaf, i
gyd-deyrnasu Christ am fil o
flynyddoedd? Onid y syniad yw, fod pob un O'r cyfryw
wedi dyoddef a chael eu lladd am amddiffyn rhyw ran
o wirioneddau yr Efengyl nad oedd y byd yn ei gredu,
nac yn ei ddeall, yn eu hoes hwy? Bydd yr holl bobl
yn y Mil-blynyddoedd yn credu ac yn byw yn ol pob
athrawiaeth ag y bydd y merthyron wedi marw wrth
eu hamddiffyn. Ca un ei ladd am ddyweyd wrth
Gristionogion fod y ddaear yn troi; ond bydd pawb
yn cael eu llywodraethu yn y Mil-blynyddoedd yn
ngoleuni y gwirionedd fod y ddaear yn troi. Un arall
yn cael ei ladd gan yr Eglwys am ddal nad oes eisieu i
bechadur fyned trwy Bab at Dduw er cael maddeuant
o'i bechodau; ond bydd pawb yn y Mil-blynyddoedd
|
|
|
(delwedd E0390) (tudalen 395)
|
DETHOLION.
395
yn gwybod y bydd croesaw i bob pechadur fyned at
Dduw yn yr lawn mawr, heb dalu i unrhyw Bab
daearol am y fraint. Un arall yn cael ei ladd gan yr
Eglwys am ddysgu fod hawl gan ddyn cyffredin i
ddarllen y Beibl; ond bydd pawb yn cael rhyddid i
ddarllen y Beibl drosto ei hun yn y Mil-blynyddoedd.
Arall yn cael ei ladd am ddadleu dros ryddid i'r dyn
du; ond bydd pawb yn credu yn y Mil-blynyddoedd na
bydd yn rhaid cael croen gwyn cyn y gall dyn etifeddu
rhyddid. Y blynyddau hyn, y mae rhai yn cael eu
herlid a'u lladd yn America Gristionogol am ddysgu
ei bod yn gymaint o ddyledswydd i wneyd cyfreithiau
gwladol i atal y degfed i werthu diodydd meddwol fel
diod gyffredin ag ydyw i atal y naw ereill O'r dinasyddion fel yn bresenol;
ond dywed un Llyfr mawr y
bydd i'r angel gasglu cangau gwinwydd y ddaear a'u
bwrw i'r gerwin fawr, y tuallan i byrth y ddinas, cyn y
Mil-blynyddoedd. Pa faint a gynwysir, tybed, mewn
rhwymo yr hen ddraig fawr, a'i bwrw i'r pydew heb
waelod am fil o flynyddoedd, a selio arni, rhag dyfod
allan i dwyllo a swyno y bobl am y Mil-blynyddoedd?
Wrth gwrs, nid oes ond rhif fechan yn credu heddyw
y bydd i'r fasnach feddwor anwyl i gael ei rhwymo
rhag myned ag arian ffyliaid wrth y miloedd o filiynau
yn flynyddol.
Pa fodd bynag, tueddir fi i gredu fod ymdrechfeydd ofnadwy i fod yn y byd y
can' mlynedd nesaf
rhwng egwyddorion drwg a da, ac y bydd llawer O'r
pethau chwerwon yn gyflog cyfiawnder i'r anffyddlon iaid Cristionogol, megys
ag y talwyd i'r Eglwys
luddewig yn yr oes Apostolaidd, ac o hyny hyd
heddyw.
Gwelaf arwyddion y bydd i'r luddewon hwythau
edifarhau, a cheisio yr Arglwydd, tua dechreu y Milblynyddoedd, ac ym bydd
iddynt ymsefydlu yn eu
hen wlad, ac adeiladu yno y Jerusalem Newydd yn
llythyrenol, yn ol y proffwydoliaethau, ac y bydd
Jerusalem, a Chanaan ddaearol yr luddewon, yn ganolbwynt y byd Cristionogol y
cyfnod hyny, a hwythau
yn genedl offeiriadol. " Y n y dyddiau hyny y bydd
i ddeg o ddynion, o bob tafodiaeth y cenedloedd,
ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yn ngodrau gwr o luddew,
|
|
|
(delwedd E0391) (tudalen 396)
|
396
DETHOLION.
gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom fod
Duw gyda chwi " (Zech. viii. 23). Ond cofier nad
wyf heb wybod fod barn a theimlad mwyafrif mawr y
byd Cristionogol heddyw yn wahanol i mi yn y pwnc
hwn fel llawer o bethau ereill; a diamheu genyf y
bydd i elfenau natur gael eu darostwng yn fwy gwasanaethgar eto nag ydynt yn
adeg Ffair y Byd Newydd
yn 1893, fel ag y bydd i'r pererinion o wledydd pellaf
y ddaear fyned yn rhatach a chyflymach i W lad Canaan
y pryd hyny nag y gallwn ni yn awr fyned O'r Unol
Dalaethau i Loegr a Chymru; a chan wired a'n bod ni
yn byw yn oes y gwyrthiau celfyddydol ac anianyddol„
mewn cymhariaeth i'r oesoedd O'r blaen, caiff yr oesoedd dyfodol weled pethau
mwy a rhagorach.
'Dyw hi eto ond dechreu gwawrio,
Cwyd yr haul yn uwch l'r lån.
HYD V MILFLWVDDIANT.
Mil o flynyddau ddywed y Beibl, onide? ond
gweddus i ni gadw mewn cof fod diwrnod proffwydoliaethol y Beibl, yn aml, yn
cynwys blwyddyn; ac os
felly yn y broffwydoliaeth hon, bydd y Milflwyddiant
yn 365 0 filoedd o flynyddau! Yr wyf fi yn credu
felly, a gallwn ddangos amryw resymau da dros y
syniad pe y bai gofod yn caniatau. Ond sylwaf yn
fyr ar un o wrthddadleuon gwrthwynebwyr y syniad„
sef: Gan fod y Beibl yn profi y bydd i'r bobl fyw oes
hir—" Fel dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, ac
a hir-fwynhant waith eu dwylaw," byddai i'r
ddaear fyned yn rhy lawn o breswylwyr i allu cael
cynaliaeth arni. Wel, yn ngoleuni y gorphenol,
ymddengys yr wrthddadl yn gref; er hyny, y mae
awgrymiadau i'w cael o blaid y cyfnod hirfaith a
nodwyd.
(a) Gall y ddaear gynal llawer o bobl yn ol yr hen
ddull o gynal; er engraifft, dywedir gan farnwyr
galluog a gofalus, er nad oes yn awr ond tua 64,000,000
o bobl yn yr Unol Dalaethau, y gallai ei daear gynal
1,000,000,000 0 boblogaeth yn ol y dull presenol o
amaethu, &c. A beth am yr holl diriogaethau eang y
tuallan i'r Unol Dalaethau dros yr holl ddaear?
|
|
|
(delwedd E0393) (tudalen 397)
|
DETHOLION.
397
(b) V n ol darganfyddiadau gwyddoniaeth a chelfyddyd y dyddiau diweddaf hyn,
awgrymant y posiblrwydd i breswylwyr y Milflwyddiant, trwy athrylith
celfyddydol, allu peri i'r ddaear gynyrchu can' cymaint
ag a wna yn awr. Onid oes awgrym yn y benod Olaf
o Lyfr Datguddiad fod cyfnod i dd'od pan y bydd 12
crop yn y flwyddyn, Ile nad oes ond un yn cael ei
gynyrchu yn awr? " V n nghanol ei heol hi, ac o ddau
tu i'r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg
rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth; a dail y
pren oedd yn iachåu y cenedloedd." V mae y frawddeg
Olaf yn brawf cryf mai ar y ddaear, Ile y bydd cenedloedd i'w meddyginiaethu,
y bydd i'r broffwydoliaeth
hon i gael ei chyflawni, ac nid yn y Ganaan Nefol ar
01 dydd y farn Olaf, yn ol yr hen syniad. Er fy mod
yn credu mai adlewyrchiad ffugyrol sydd yn yr adnod
dan sylw o ddadblygiad gogoneddus yr Eglwys
Gristionogol mewn ystyr foesol yn y Milflwyddiant,
eto y mae llawer o awgrymiadau er profi y bydd i
w.ybodaethau anianyddol a chelfyddydol gydymddadblygu å'r llwyddiant
crefyddol a moesol. V mae
pethau anhygoel yn cael eu gwneyd y dyddiau
diweddaf hyn yn yr ystyr yma. Fe all y fferyllydd
wneyd gwahanol fathau o ddiodydd, mewn ychydig
o fynydau, trwy gymysgu gwahanol ddrugs å dwfr, fel
nas gall yr yfwyr adnabod gwahaniaeth rhyngddynt
a'r diodydd sydd yn cael eu gwneyd yn ol yr hen ddull
cyfreithlon. Eto, gwneir ymenyn o frasder cnawd
.anifeiliaid meirw mor berffaith, fel nas gall y bobl
gyffredin, wrth ei fwyta, ei wahaniaethu oddiwrth
ymenyn a wneir oddiwrth laeth y gwartheg, &c.
Felly, yn ngwyneb ffeithiau celfyddydol yr oes hon,
nid annaturiol tybied y posiblrwydd i bobl y Milblynyddoedd i allu dwyn bara
allan O'r pridd mewn
un dydd yn ogystal ag y gellir ei gael yn awr mewn
blwyddyn.
(c) Eto, os bydd i'r bobl fyned yn rhy aml fel na
ellir codi digon o fara O'r ddaear i'w cynal, onis gall
eu Brenin y pryd hwnw hefyd beri i bum' torth a dau
bysgodyn chwyddo, fel y gallant borthi y miloedd
gystal ag y gwnaeth yn nyddiau Ei gnawd? neu dywallt bara O'r nefoedd, fel ag
y gwnaeth i'r Israeliaid
yn yr anialwch?
|
|
|
(delwedd
E0394) (tudalen 398)
|
398 DETHOLION. (d) Gan fod pethau mor anhebyg wedi cymeryd Ile yn ein hoes ni, awgryma hyny y posiblrwydd i breswylwyr y ddaear yn y dyfodol pell, pan y bydd gwyneb y ddaear yn rhy lawn o breswylwyr, i alltt ymfudo i fydoedd ereill mor hwylus ag y gallodd Columbus ddarganfod America er ein mwyn ni. Pe y dywedid wrth y bobl haner can' mlynedd yn 01 y buasai Lloegr a'r Unol Dalaethau yn medru siarad å'tt gilydd dan y Werydd yn ein hoes ni, buasai hyny mor anhygoel iddynt hwy ag yw i ni gredu y bydd pobl y dyfodol yn gallu ymfudo i blanedau ereill. Pa fodd bynag am hyny, y mae yr Arglwydd lesu Grist wedi sicrhau y bydd digon o le i bawb o fewn terfynau Ei deyrnas yn rhywle. V n nhj fy N had y mae llawer o drigfanau," &c. " Ac wele yr wyf Fi yn myned i barotoi Ile i chwi ;" ac ni bydd o fawr gwa- haniaeth i'r saint pa un a gymerir hwy O'r ddaear fel Enoch, a'r rhai a gaiff eu cyfnewid ar darawiad llygad wrth yr udgorn diweddaf, neu ynte farw fel pobl ereill yn y byd hwn, neu rhyw blanedau ereill. " Canys nis gallant farw mwy, oblegid cydstad ydynt å'r angel- ion," &c. Canys, " Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant Ef." V n gyntaf, trwy ddysgu yr ewyllysgaryddion i fod yn ffyddlon yn nydd ei nerth, sef trwy addfwynder yr Efengyl, y daw pethatl i'w Ile. Y n ail, trwy geryddu y rhai cyndyn i ufudd-dod„ fel na'u damnier gyda'r byd. Ac yn drydydd, trwy ddinystrio cynllwynion y rhai drygionus. " Amen, yn wir, tyred Arglwydd " Gwyn eu byd y rhai ag sydd iddynt ran yn lesu." yr adgyfodiad cyntaf." O! ARGLWYDD, Preswylydd y Berth, O ! anfon Dy Vsbryd i lawr, O! Seion, deffroa cyn hir, O ! gwel y cynhauaf sydd fawr ; O ! gwel y paganiaid sydd bell, O fro y goleuni yn wyw, O! galw'r afradlon yn 01 O feddiant y cibau i fyw.
|
|
|
(delwedd E0395) (tudalen 399)
|
DETHOLION.
Ai Ofer y treuliaist Dy nerth?
Ai Ofer y collaist Dy waed?
Ai Ofer y daethost mor bell?
Ai ofer y dyfroedd a gaed?
Ai draw, yn mhen oesoedd y daw,
A rhedeg yn Ofer yn awr?
Ai Ofer cyfamod o hedd?
Ai cysgu mae'r cariad sydd fawr?
Ateba Preswylydd y Berth:—
Mi geisiaf breswylwyr y llawr,
Mi wn am yr Vsbryd y daw,
Mi gwnaf ef yn Seion yn ben •
Mi äf trwy dywyllwcll y nos,
Mi goda'r colledig yn fyw,
Mi guraf nes agor O'r drws
Arweinia yn ol at fy Nuw.
Daw tyrfa can amled a'r ser,
Daw'r aflan a'r Ethiop yn wyn,
Daw'm pobl yn fwy ar fy ngwedd,
Daw'r arian a'r aur yn ddibrin;
Denv'r Ilesg fel y cadarn yn awr,
Daw'm byddin yn ffyddlon i Mi;
Daw'r byd a'r Cenedloedd i'm rhan,
Medd 'N had, " Mi a'u rhoddais i Ti."
Trwy'r cariad tragywyddol rwy'n d'od,
Trwy Eden y daethum i lawr,
Trwy ddylif o ddwfr a than,
Trwy'r Ilewod yn Babilon fawr;
Trwy'r dirmyg, a'r erlid, a' r gwarth,
Trwy'r hoelio, y marw, a'r bedd,
Trvvy wneuthur ewyllys fy N had,
Trwy waed a chyfamod o hedd.
Mae'r gareg yn treiglo yn awr,
Hi chwala bechodau y byd,
Ei chynydd fel mynydd fydd mawr
Wrth chwalu'r mynyddoedd i gyd;
Ac eto'r diffaethwch a gan,
Pan Seion a'i gwisgoedd yn gän,
Er derbyn ei Phriod ei hun,
A'r Cymry yn gwisgo eu rhan.
399
|
|
|
(delwedd E0396) (tudalen 400)
|
400
DETHOLION.
DVMUNIAD V CRISTION.
BOED da yn ngolwg Brenin hedd,
Ffynonell pob daioni,
I nerthu y pererin hwn
I dynu ar i fyny.
A boed i mi trwy nerth Ei ras
V pur i adlewyrchu;
Fel ag y rhodiodd Ef trwy'r byd,
Gan weini mewn tosturi.
Boed fy ngherddediad inau mwy
O' m bodd i' w efelychu;
Gan wasgar gwir oleuni byw
Trwy'r Duw a wnaeth fy ngharu.
SIRIOLDEB PLANT I'R TEITHIWR.
WRTH deithio dyrys anial fyd,
Mewn tristwch a blinderau—
V plant a'm hadgyfnerthent i
T rwy londer eu gwynebau;
Tra'n teithio y Gorllewin pell,
A phawb i mi'.n ddyeithriaid,
Gwnai gwenau plant fy nghodi pan
Vr oeddent hwy yn gwylied.
Ar derfyn dydd, wrth deithio'n mlaen,
Mi neswn at amaethdy,
Mewn lludded blin, yn mhell o' m tref,
A'm natur ar lewygu;
Pryderon oedd o dan fy mron
Rhag na chawn le i ort)hwys,
A chollwn aml ddeigryn pur
Ac oedd i Dduw yn hysbys.
Ond rhag cael saeth mewn calon drist,
Rhyw angel wnai fy mlaenu,
Er arwain mwyn angylais Ian
I'r cyntedd i'm croesawu;
|
|
|
(delwedd E0397) (tudalen 401)
|
DETHOLION.
Arweiniai fi chalon mam,
Er nad oedd hi ond geneth;
Dyddorai fi o flaen y tan,
Gan yru pryder ymaith.
Na foed i mi anghofio hon
Hyd foreti y datguddio,
Pan y dywedir wrthi hi:
' Myfi oedd yn dy wylio,
V n Galia gynt, wrth ddrws dy fam,
Pan hwn y gwnaet gysuro:
Tra y cardotai droswyf Fi,
Tydi a weiniaist iddo.
Trwy weini arno ef yn Ilon,
Gan gymhell a chroesawu,
Cynyrchaist berl i gostrel Dt1W
W na heddyw dy goroni;
Pan y croesawaist hwn o bell,
Myfi wnest ymgeleddu—
Gan hyny dos i dj fy N had,
Cei yno dy groesawu.
Bu swynion y caredig blant
Ar hyd fy holl grwydriadau,
Fel engyl Duw i'r eiddil hwn
Am lawer mil o weithiau;
Ar hyd a Iled " Gwlad machlud haul,"
Pan wnelent hwy fy Iloni—
Diflanai fy nlhryderon oll,
Pan welwn hwynt yn gwenu.
Rhyw fodd y mae fy serch o hyd
Y n ceisio sylweddoli
Rhyw gyfarfyddiad fel O'r blaen,
A minau i'w groesawu;
Ond nis gall hyn yn llawn i fod
Y n myd y chwyldroadau;
Ond yn y byd sydd i barhau
Boed gwobr ar eu penau.
401
|
|
|
(delwedd E0398) (tudalen 402)
|
402
DETHOLION.
Ac os na allaf fi fy hun
O'm llawnder eu croesawu,
Fe all ein Brawd yn N hj ein Tad
V n gyflawn eu sirioli;
Os hau yn iawn y gwnaethant hwy
Vr hadau yn y meusydd,
Addfedu wnant mewn byd a ddaw,
O fewn y Nefol froydd.
BETH VW BYWYD?
Fv enaid a ofyn—Pa beth yw y bywyd
A welir trwy'r holl greadigaeth i gyd?
V n mro y diffeithwch gwna bywyd flaguro,
Ac ynddo y goedwig a ddawnsiant yn nghyd;
a beth yw y bywyd a ffurfia y blodau?
A'r bysedd Anfeidrol a'u lluniant mor hardd,
Trwy holl anialdiroedd eithafoedd y ddaear,
Ar Grewr y cyfryw gwir fywyd a chwardd!
Gofynaf yn wylaidd o ddyfnder y galon,
Wrth weled asgellog ehediaid y nef—
Pa beth y w y bywyd a wna eu haddurno
Mor hardd, mewn ysgafnder, ac hefyd yn gref?
Ai'r un ydyw bywyd y llysiau blodeuog
A bywyd ybyd anifeilaidd i gyd?
A bywyd addurnol cymeriad yr eneth?
Ai 'run Yivv eu natur, y dyfnder, a'r hyd?
Mi glywaf rhyw adsain o bell yn egluro
Fod dau fath o fywyd rhyfeddol yn bod,
A'r ddau'n ffynonellu yn mynwes y Duwdod,
A'r ddau wrth ddadblygu yn seinio Ei glod;
V bywyd anianol a welir yn gyntaf
Trwy holl amrywiaethau y cread i gyd,
Ond bywyd uwch natur yw bywyd yr eneth,
Sef bywyd ysbrydol, tragywyddol ei hyd.
Fe welir gogoniant y byd anianyddol
Gan lygaid anianol preswylwyr y byd,
Ond llygaid ysbrydol gan fodau anfarwol
All wel'd y ddau fywyd yn plethu yn nghyd
|
|
|
(delwedd E0399) (tudalen 403)
|
DETHOLION.
Nis gall holl ogoniant y pethau a welir
Ddiwallu y bodau sydd byth i barhau,
Ond pethau rhagorach o froydd y bywyd,
403
Lle nad oes marwolaeth, na llygredd, na bai.
Nid oes neb daearol all dd'weyd beth yw bywyd,
Y n mhlith holl athrawon dysgedig y byd,
A Ilifo mae bywyd o hanfod y Duwdod,
Ac heb ei amgyffred bydd bywyd o hyd;
Y n mhen mil o oesau bydd doethion y nefoedd,
O'r dyn i'r archangel, yn gofyn ar go'dd—
P wy ddeall gogoniant hanfodion pob bywyd?
Ac yn yr arsyllfa bydd pawb wrth eu bodd.
UNIGRWYDD YR IESU.
FE deimlwyd unigrwydd yn Eden ardd
Oblegid euogrwydd du,
Unigrwydd colledig rhwng llwyni'n ffoi,
Oedd eiddo ein rhiaint ni.
Unigrwydd geisiwyd gan Cain ar eu hol,
Rhag rhuad cydwybod hy',
Ond hyny ni chafodd yn anial Nod,
Ellyllon welai bob tu.
Ond nid oes y fath unigrwydd yn bod
Ag eiddo ein Hiesu ni—
Er pan y gadawodd gymdeithas Tad,
A'r dyddan angylaidd lu.
Unigrwydd Anfeidrol, yn pasio'r ser
Trwy ganol tywyllwch du!
Heb neb i'w gysuro, a'r daith yn mhell,
Tra'n dyfod i'n ceisio ni!
I wlad yr Edomiaid ei Hun y daeth!
Ond cleddyf oedd wrth Ei glun;
Gwnaeth rwymo y cadarn heb gymhorth neb
Wrth ddyfod i geisio dyn!
|
|
|
(delwedd E0400) (tudalen 404)
|
404
DETHOLION.
Am ddeugain niwrnod ni chafodd fwyd,
Tra'n ymladd gelyn dyn;
Trwy'r cabledd a'r poeredd ei Hun y daeth,
Trwy gariad, er lludded blin!
Unig, tra'n chwysu defnynau o waed,
Tra'n cysgu yr oedd y tri;
Ei Hunan, yn dadleu å'r cyfiawn Dad
Am hawliau ein hachos ni!
Pan nes'odd y bradwr å'i finiog gledd,
Yr lesu oedd wrtho'i Hun;
Tra Pedr å'i gleddyf yn colli'r ffordd,
Ef ddywedai, " Na choller un! "
Unigol yn llysoedd byd oedd Efe,
A barn a drowyd yn ol;
Unigol yr lesu tra pawb yn ffoi—
A Pedr yn gwadu'n ffol!
Unigol rhwng lladron y gwelwyd Ef—
Dan felldith a chleddyf Duw!
" Paham y'm gadewaist," anwylaf Dad,
Tra'n marw dros ddynol ryw?
Vr haul a ymguddiodd tu ol i'r Ilen,
Tra'n marw ei Grewr ef;
Unigrwydd anfeidrol, tra'n crymu'i ben,
Gan farw, ac eto'n gref!
Unigrwydd disgynol hyd uffern ddofn
Oedd eiddo yr Arglwydd Dduw,
Er codi'r colledig o waelod bedd
I burdeb a chyflwr byw!
I fyny o Bozrah y daeth mewn nerth,
A'i wisgoedd yn goch i gyd;
Ac heddyw mae'n ysgwyd teyrnwialen aur
Er llywio hyd ddiwedd byd.
|
|
|
(delwedd E0401) (tudalen 405)
|
DETHOLION.
BACHGEN A ANED 1 NI."
V BACHGEN a anwyd yn Methie'm
Gan Dduwdod a roddwyd i ni;
Nyni, ag oedd wedi ein colli,
Eto " Bachgen a aned i ni "!
Nyni, ag oedd ar y Ilithrigfa,
Heb allu dychwelyd i'r län—
Ac aflan dan felldith y gyfraith,
A gwaeau trag'wyddol yn rhan!
Ond er fod y mellt yn dychrynu,
Gan uchel daranu eu gwae,
Gan fwgwth i'n byd nad oedd obaith,
Ond tywyllwch du byth i barhau;
Fe gafwyd gwawr Gobaith mewn preseb,
Er nad oedd derbyniad mewn ty:
A morwyn a ddygodd y trysor—
A Meddyg a gafwyd i ni.
Mab morwyn a anwyd yn Methle'm,
A Mab y ddynoliaeth i gyd;
Mab Adda, er talu y ddyled,
A chadw preswylwyr y byd;
Fe'i ganed yn Fab yr Anfeidrol,
Sef Mab etifeddiaeth y nef;
Mab oedd i'r Duw Dad yn ddiddechreu—
Mab byw a thragywyddol yw Ef.
Er bod yn Etifedd tragywyddol
Yr holl greadigaeth i gyd,
Er bod yn Ffynonell goleuni
Holl heuliau y nefoedd o hyd—
O'i wirfodd Fe ddaeth i dywyllwch,
Ac hefyd yn uffern y bu,
O gariad er mwyn y colledig—
Y " Bachgen a aned i ni."
Pe meddwn athrylith archangel,
A doniau cantorion y nef,
Nis gallwn byth seinio yn gyflawn
V clod a deilynga Efe—
405
|
|
|
(delwedd E0402) (tudalen 406)
|
406
DETHOLION.
Am ddisgyn o fangre goleuni,
Er cadw tyrfaoedd heb ri';
Caumoled yr holl greadigaeth
V " Bachgen a aned i ni."
V DRWYDDEI) I'R NEFOEDD.
AMRVWIA amodau y ddaear
I demlau anrhydedd y b.yd;
Trwyddedir i wyddfod breninoedd
Trwy uchel waedoliaeth o'u tu,
Ac hefyd trwy berlau amrywliw,
A thiroedd, ac arian, ac aur;
Ac eto, yn nghanol y cwbl,
Oferedd y byd a fwynheir!
Ond gwell yw amodau y nefoedd
Er cyrhaedd palasau yr hedd,
A'r fro Ile mae Duw yn preswylio,
I bawb a gant weled Ei wedd:
Nid cyfoeth a gwaed a ofynir,
Nac uchel athrylith y byd;
Na, dim ond ffyddlondeb yn gywir
I bawb sydd a' u calon yn bur.
A dywedir ar foreu y frawdle
Wrth wir dywysogion y byd:
" O de'wch, etifeddwch y deyrnas
A brynwyd yn gyfiawn i chwi;
Fy mrodyr, gwisgasoeh ffyddlondeb,
A dillad roddasoch i Mi—
De'wch, bellach, i'r wen etifeddiaeth,
Rho'f nefoedd yn wobr i chwi."
Ac wrth y rhai Ileiaf y dywed:
" Codasoch i agor y drws
I'm brodyr ag oedd yn ddyeithr—
I'w hangen gweiniasach ar frys,
|
|
|
(delwedd E0403) (tudalen 407)
|
DETHOLION.
Ac heddyw cyhoeddaf yn hyglyw:
' V ddiod roddasoch i M i,
Rai bychain, i Mi buoch ffyddlawn,
V nefoedd 'rwy'n roddi chwi.' "
Boed clod a gogoniant tragywyddol
I 'r lesu, yr Vsbryd, a'r Tad,
Am osod amodau y gwynfyd
I dlodion fel yma mor rhad;
Sef bod dros ychydig yn ffyddlawn
V n llwybrau ufudd-dod y saint,
Am hyn yn- cael teyrnas a choron,
A bywyd tragywyddol yn fraint!
CARTREF.
RHYw hiraeth sydd o dan fy mron
Am gartref yn rhyw fan,
Ond heb orphwysfa hyd yn hyn
Mewn unlle dan y nen;
Mi aethum dros y llydan för,
A thrwy y gwledydd pell,
Dros bant a bryn am lawer taith,
Heb feddu'r cartref gwell.
Ac er cael gwenau llawer mil
Trwy'r byd a Gwalia Wen,
Ac mewn aneddau cynes Clyd
'Roedd gwagter dan fy mron;
Tra llais a glywn i o hyd
I'm cymhell yn y blaen,
Rhag imi gael .fy nghartref fod
A'r Duwdod ar wahan.
Mi welais lawer cartref clyd,
A rhai cartrefi brad;
Rhai mewn cyflawnder moethau byd,
A gwychder byr-barhad;
407
|
|
|
(delwedd E0404) (tudalen 408)
|
408
DETHOLION.
Ac ereill mewn bythynod coed
V n mhell o swynion tref,
A chariad pur yn Iloni'r cylch
Tra'u cyfoeth yn y nef.
Ordeiniodd Duw ar gyfer pawb
Wir gartref a mwynhad-—
Ond diafol ddaeth i dd'rysu hyn
Trwy swynion twyll a brad;
A daeth yn Ile paradwys wen,
A gwir ddedwyddwch llawn,
Ofidiau fyrdd i gylch y tj
V n nghartref llawer iawn.
Ond Un a ddaeth o'i gartref gwyn,
A gwychder tj ei Dad,
Er cyrchu pawb a garant fyw
Mewn puredd a mwynhad,
I gartref na ddaw gofid mwy,
A'r teulu oll yn llawn
Wrth fwrdd y wledd na dderfydd mwy,
A phawb yn llawen iawn.
V teulu oll heb un ar goll,
Er crwydro pob rhyw wlad,
A phawb heb allu marw mwy
V n ngwyddfod Duw y Tad;
Ar hyd rhodfeydd y nefol wlad,
A'r euraidd Salem wiw,
A dyger finau i'r mwynhad
Trwylwaed a chariad Duw.
DIWEDD.
Joseph Williams, Argraffydd, Glebeland, Merthyr.
|
...