kimkat2074k Llwybrau Bywyd; Neu, Haner Can' Mlynedd o Oes William D. Davies, "Y Cardotyn" o Hyde Park, Scranton, Pa. Utica, N. Y.
T. J. Griffiths, Argraffydd, 131 Genesee St. 1889.
W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

21-09-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat2067k Llwybrau Bywyd – y Gyfeirddalen
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_232_llwybrau-bywyd_w-d-davies_1889_y-gyfeirddalen_2072k.htm
● ● ● ● ● kimkat2074k
Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 
(delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llwybrau Bywyd; Neu, Haner Can' Mlynedd o Oes William D. Davies, "Y Cardotyn" o Hyde Park, Scranton, Pa. Utica, N. Y.

T. J. Griffiths, Argraffydd, 131 Genesee St. 1889. W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

 

RHAN 2
Tudalennau 120-239

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
Què hi ha de nou en aquest web?
What’s new in this website?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404


(delwedd 6665)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro
....

 

 

 


(delwedd E0529) (tudalen 120)

120 LLWYBRAU BYWYD.

iwr ei gyflog." Ond os bydd rhyw un uwch ben ei ddigon o bethau y byd, fel y gallo roddi ei lioll lafur am flwyddyn neu ddwy at ryw wasanaeth crefyddol, pob peth yn dda, canys fe dal Duw iddo; eithr o ba le y gall gweithiwr tlawd wneyd felly? A phe buaswn i wedi anturio gwneyd felly, ar draul yr ychydig oeddwn wedi gynilo yn yr amser aethai heibio, tebyg y buasai rhai yn ddigon dwl i ddysgwyl y $100 yn nghasgliad 1881, a'r $100 yn y flwyddyn 1882, &c, yr un fath genyf. Yr wyf yn gwneyd y sylw liwn am fod rhai nad ydynt eu liunain yn rhoddi rhyw lawer at gynal crefydd, wedi awgrymu y dylaswn i gasglu am ryw ddeunaw mis at gapel yn rhad ac am cldim. Dywedais wrth y frawdoliaeth yn Hyde Park, os gwnaent liwy yn gyntaf yr liyn a farnwn i yn adclas iddynt, yr awn i yn y nerth hwnw at ddyeithriaid i ymofyn cymorth. “All right" meddent; yr oeddynt yn foddlon i mi gymeryd fy ffordcl fy hun. A'r nos Sabbath canlynol dywedais o flaen yr eglwys a'r gynulleidfa, am adael heibio y Festival fwriadedig, gan fy mod yn dyfod heibio iddynt i ofyn addewidion ganddynt yr wyfclinos ganlynol; ac os cawn fy moddloni, yr awn at eraill am gymorth, dan yr argylioeddiad ein [bod ni ein liunain yn ymddwyn yn deilwng.

Y canlyniad fu i mi gael tua $1,500 o addewidion i'w tain o fewn y cliwe' mis dylynoL Yna declireuais ar y gwaith rhyfedd o gasglu neu gardota. Yr oedd y llafur yn fwy gwrthwynebus i mi, gan^fy

 

 


(delwedd E0530) (tudalen 121)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PAKE. 121

mod yn credu y dylai eglwysi adeiladu capelau, a thalu am danynt, ar yr un egwyddor ag y mae person neu deidu yn adeiladu ty iddo ei hun, a thalu am dano yn ei le. Y gwahaniaeth yn yr amgylchiad hwn oedd, fod ein baich ni wedi cael ei wthio arnom trwy drais ac anghyfiawnder, a ninau yn analluog ein hunain i symud y gorthrwm; oddiar yr ystyriaethau hyn, tybiwn ei bod yn fwy anrhydeddus i gardota cymorth i dalu ein gofynwyr, na bod o dan gwmwl o anonestrwydd.

YN NHALAETH NEW YORK.

Hydref 25, 1881, dechreuais ar y gwaith newydd; ac ar ol ymweled a rhai lleoedd yn ein dyffryn ag oedd y brawd Rees Morgan heb ymweled a hwy, gwynebais ar Dalaeth New York, gan ddechreu yn Plainfield. Tybiais cyn cychwyn, y buasai yn briodol i mi gael areithio ar Ddirwest yn y gwahanol gapeli ar fy nliaith, a thracldodais ryw fath o araeth yn Plainfield; ond deallais yn fuan fod cardota yn ddigon o waith i mi, os nad mwy na digon, oblegid collais y llyfr casglu o'r cerbyd yn yr eira a'r llaid cyn gorphen yn yr ardal gyntaf hon. Llwyddais yn well na'm dysgwyliad yn Sir Oneida, a derbyniais garedigrwydd mawr yn Utica, Oriskany a Rome, a hyny gan rai o bob enwad, ac yn fwyaf neillduol Dr. Roberts, T. S. Griffiths, Apmadoc, a'r Parch. W. A. Jones, yn Utica; y Parch. John S. Adams a John Williams, yn Plain9

 

 


(delwedd E0531) (tudalen 122)

122 LLWYBEAU BYWYD.

field; John E. Jones, yn Bridgewater; David Evans, "Eos Glan Twrch," a'r Parch. John H. Jones, yn Rome; ac Evan Morris yn Oriskany. Wele sylwadau a gyhoeddwyd yn y Drych yn ganlynol i hyn:

Collinsville, K Y., Rhag. 13, 1881. - Cyn cychwyn oddicartref , t edrychwn ar fy ngalwedigaeth newydd gyda chasineb; ond yn awr, ar ol rhai wythnosau o brofiad, yr wyf yn mawrhau fy swydd, am ei bod yn un o'r rhai mwyaf manteisiol i adnabod pobl o ran eu hegwyddorion a'u harferion; ac yr wyf yn diolch i Dduw am fod Cymry Swydd Oneida yn llawer nes at berffeithrwydd egwyddorion ac arferion, a dedwyddwch cymdeithasol, nag y meddyliais fod unrhyw wlad wedi esgyn. Ddarllenwyr y Drych, a wyddoch chwi beth, yr wyf yn credu fod angelion y nefoedd yn rhyfeddu wrth weled y fath sirioldeb, lletygarwch a haelioni, y mae y cardotyn hwn yn gael yn mhob ardal. Y mae y tadau a'r mamau, y meibion a'r merched, y ceffylau a'r cerbydau, y cwn a'r cathod, yn cydroesawn a gweini arnaf nos a dydd, gan aberthu llawer er fy nghysuro, gan fy nghyrchu a'm hebrwng, fel pe bawn dywysog. “Gwirionedd wyf yn ei ddywedyd, ac nid wyf yn dywedyd celwydd, a'm cydwybod yr cyd-dystiolaethn." Dygwyd fi i Remsen gan y Parch. E. C. Evans, M. A., a chefais ef yn gyfarwyddwr caredig a lletygar, a gosododd gynyrch ei haelfrydedd anrhydeddus yn gyntaf ar y llyfr. Hefyd bu Hugh Hughes a John Davies

 

 


(delwedd E0532) (tudalen 123)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 123

a'u teukioedd yn clcla i mi. Yn y Nant cefais bob sirioldeb gan Mri. Richard Davies a Hugh Jones; yn French Road, gan yr hen bererin Evan Perry, a William T. Jones; yn Penygraig, gan Thomas W. Richard a Rees Jones, a'u teukioedd, a theilyngant goffadwriaeth; yn Enlli, gan Robert W. Pritchard a'i garedig fab, <fcc.; yn Penycaerau gan John W. Roberts a Charles M. "Williams, <fcc.; yn Prospect, gan John T. Jones a'i ferch garedig a thalentog, a'r brawd hynaws Abraham N. Rees. A phan oeddwn nos Sadwrn diweddaf, dan dywyllwch y nos, yn pryderus gael fy hun yn Port Leyden, heb wybod i ba le i fyned, ni fynai Rhagluniaeth i mi dristau, ond daeth gwr ieuanc yn mlaen, gan ofyn ai fi oedd Mr. Davies, a chymerodd fi yn ei gerbyd am dclwy neu dair milldir i gartref paradwysaidd ei dad, sef Mr. David Roberts. Teimhvn fy hun gartref cyn pen dwy fynyd, trwy sirioldeb yr holl cleulu. Yn mhen dau cldiwrnod trosglwyddwyd fi i ofal teulu careclig y ffyddlon Ellis Lewis, yr hwn heddyw a'm gadawodd yn y fan hon yn ngofal Miss Kate Evans, merch jv hen dcliacon Evan Evans, yr hwn sydd wedi gadael y cldaear am y cartref tragwydclol.

Yn awr am air ag sydd deilwng o sylw yr holl genedl Gymreig, sef fod holl Gymry yr ardaloedd yma yn siarad yn barchus a hiraethus am eu cynfugail, y Parch. James Jarrett a'i briod, gan ddymuno arnaf eu cofio atynt. Dyna rywbeth gwerth i bobl Plymouth ei wybod, ac sydd yn goron o an-

 

 


(delwedd E0533) (tudalen 124)

124 LLWYBBAU BYWYD.

rhydedd ar ben y gwas ffyddlon yna i Iesu Grist. Gallwn feddwl eu bod yn awyddus i gael yr hynaws a'r ffyddlon W. H. Williams, Wilkesbarre, yn gyfnewid yn ei le. Ymddengys hyny yn deg; ond byddai yn golled fawr i ni golli Williams o Pennsylvania. Yr wyf yn awr a'm gwyneb ar y bryniau, a'-r gwlaw f el pe am fy atal; ond gobeithio y gwna oleuo yn fuan. Y mae yr Arglwydd wedi fy llwyddo hyd yma, a'i ewyllys a wneler yn y dyfodol, medd fy enaid, gan gredu y tal yr Arglwydd i bawb am eu caredigrwydd.

Nelson. - Yn yr ysgrif o'r blaen, gadawsom ein gilydd yn nhy y garedig Catherine Evans, ond nid oedd i ni yno ddinas barhaus, gan liyny gwnaeth yr liynaws Robert 0. Lewis fy hebrwng mewn cerbyd, gan fy ngadael yn ngofal yr hen Gymro caredig, Richard Williams, Boonville, yr hwn a'm harweiniodd at yr ychydig Gymry sydd yno, gan gasghi $7 mewn llai nag awr o amser. Wedi hyny anfonodd ei fab a'i gerbyd i'm hebrwng trwy y llaicl a'r eira am bellder mawr, nes dyfod i dy y caredig John H. Roberts, Webster Hill, yr hwn eto a fu yn haelfrydig a lletygar i ni; ac hefyd J. W. Thomas, &c, yr hwn a'm gadawodd yn ngofal Evan G. Evans, a bu yntau, yn gystal a Thomas ei frawd, yn bob cymorth i mi yn Quaker Hill, gan fy hebrwng i dy y caredig Richard Roberts, yr hwn, drachefn, yn ewyllysgar, a aeth a mi i ymweled a'r brodyr yn Mullin Hill, gan fy hebrwng yn ei gerbyd yr holl ffordd i Floyd, a fy rhoddi yn

 

 


(delwedd E0534) (tudalen 125)

YX CASGLU AT GAPEL HYDE PABK. 125

ngofal Owen Griffiths. Tr Arglwydd a clalo icldo ef am ei garedigrwydd. Yn Floyd eto cefais bob sirioldeb, yn neillduol gan y gweinidogion David M. Jones a J. E. Griffiths, y rhai a wnaethant fy nghyflwyno yn siriol i sylw en cynnlleidfaoedd; hefyd bn William Jones y cantwr a'i deuln yn garedig a lletygar, a hefyd William E. Jones a'i briod. Aeth ef a fi i ofal y Parch. Thomas T. Evans, Holland Patent, lle y bu ef a M. J. Meredith a'u tenluoedd yn groesawgar iawn. Yn Marcy bu y brodyr William O. Roberts a John H. Evans a y u teuluoedd yn lletygar, gan roddi i mi bob cymorth angenrheidiol. Cefais bob sirioldeb drachefn yn Brynmawr gan E. C. Eoberts, L. D. Davies, a'u teuluoedd, a'r brawd Jones, y saer, yr hwn a'm canlynodd trwy y gwlaw a'r eira, ac a'm harweiniodd i'r Aifft, ac o honi ar ol cael cynyrch ei hyd, <fcc. Hefyd, wrth esgyn o'r Brynmawr gwnaeth y Parch. W. D. Williams (A.) fy adgyfnerthu ar fy nhaith, gan fy anog i ymweled a'i frodyr yn Madison County, ac yr wyf yn ddiolchgar iddo am ei gyf arwyddyd. Wedi hyny arweiniwyd fi i dy yr hen Gristion didwyll, John Watkins a'i deulu caredig, y rhai a'm cymellasant i aros yn eu cymdeithas hyd nes yr elai y gwlaw heibio, yr hyn a wnaethym hyd dranoeth, er cysur a mwynhad i mi. Teilwng o sylw y w fod Mr. a Mrs. Watkins yn briod er's 63 o flynyddau. Aeth eu caredig fab a mi i balasdy y cyn-Lywodraethwr Seymour, yr hwn a gyfranodd i mi $10. Dangosodd Mr. Seymour a'i

 

 


(delwedd E0535) (tudalen 126)

126 LLWYBKAU BYWYD.

briod anrhydeddus i ni bob sirioldeb; cadwasant ni i ymgomio am tuag awr a haner, ar wahanol f aterion gwladol, cymdeithasol, cenedlaethol, daearyddol, amaethyddol, &c, a siaradai yn barchus am y Cymry. Ymddyddanai a ni fel ei gydraddolion, er ein bod yn cynrycliioli tlodion trallodus. Oddi yno aethym i New York Mills, lle y gwnaeth y broclyr William Hughes a Stephen S. Williams fy nghynorthwyo a'm lletya. Bendith fo ar en penau. Oddi yno aethym i Frankfort Hill, lle y dangosodd pawb i mi bob sirioldeb, ond yn benaf John Ellis, Hugh D. Evans, a Robert D. Roberts. Yn Waterville gwnaeth yr hen ddiacon, Robert Griffiths, fy nghynorthwyo; yna daethym i Nelson, lle yr wyf yn cael sirioldeb mawr gan bawb, ond yn fwyaf neillduol gan y Parch. Griffith Jones, a'r brodyr William R. Jones, David D. Hughes, John Richards, Lewis Jones, a David Pugh, a'u teuluoedd. Heddyw, gwnaeth David Samuel, yr hwn sydd yn 98 oed, ysgrifenu ei enw ar fy llyfr, ac wrth adrodd hanes ei fywyd, dywedai: “80ain mlynecld i'r fall diweddaf, yr oeddwn i yn was yn Nantgareg, plwyf Llangeler, Sir Gaerfyrddin." Y mae yn proffesu crefydd er's 67 o flynyddau, ac y mae yn credu y bydd yn y nefoedd cyn hir bellach; ac adroddai adnodau a hymnau nes fy synu at ei gryfder meddyliol a chorfforol. Ymddengys i mi ei bod yn bosibl iddo fyw lawer o flynyddau eto; ac y mae Mrs. Mary Hughes, sydd yn byw yn yr amaethdy nesaf ato, yn 90 mlwydd oed, a

 

 


(delwedd E0536) (tudalen 127)

YX CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 127

rhoddodd hithau $1 ar fy llyfr. Yr wyf wedi gweled 11a wer o hen bobl dros 80 mlwydd oed yn nihlith y Cymry yn y Dalaeth lion, ac ymddangosant yn gryfion a nerthol. Ai tybed fod yr oes yn estyn yn ol y broffwydoliaeth am y mil blynyddoedd? Y mae pawb yn garedig i mi yma, fel yn mhob lle ag yr wyf wedi bod. Y mae eglwys yr Annibynwyr yma yn lluosog, dan ofal y Parch. Griffith Jones, ac y maent liwy a'r Methodistiaid yn cydweithio yn gyfeillgar dros y Gymdeithas Feiblaidd, ac yn y cyfarfodydd llenyddol, etc. Y T r Arglwydd a'u bendithio a gras i ymberffeithio yn mhob rhinwedd personol a chynideithasol, fel y byddont yn gogoneddu Duw trwy ddwyn ffrwyth lawer. Y mae y bobl, o bob enwad, yn siarad yn barchus a hiraethus ar ol y Parch. William E. Morgan, yr hwn sydd newydd ddychwelyd i Hyde Park.

New York, Ion. 19. - Wele fi wedi cefnu ar y chwarelwyr eto, ar ol bod wythnos yn eu plith, a chefais hwy yn garedig a lletygar. Y lle cyntaf yr ymwelais ag ef oedd West Pawlet, lle bn Mr. Owen Evans yn lletygar a chymwynasgar i mi; ac yn Granville, Mr. William R. Evans oedd fy nghymwynaswr penaf; ac yn Middle Granville hefyd, gwnaeth y Parch. Hugh Davies ragori ar bawb eraill mewn gweini ar y cardotyn hwn yno. Yn Ponltney, gwnaeth Griffith & Nathaniel ddangos cydymdeimlad mawr a'm hachos, trwy gyfranu eu hunain, a'm hwyluso gyda y gweithwyr yn Wells Pond. Yn Famamsville, Thomas Morris a Hugh

 

 


(delwedd E0537) (tudalen 128)

128 LLWYBEAU BYWYD.

G. Hughes a wnaethant y cymorth mwyaf i mi. Ac yn Fair Haven, dangosodd Owen Owens a'i deulu bob caredigrwydd i mi, a thrwy ei gymorth ef a'r Parch. E. D. Humphrey, casglasom $54 mewn un dydd. Cefais y fraint o dreulio Sabbath yn eu piith, ac y mae agwedd lewyrchus ar bob rhan o'r achos crefyddol. Nos Sabbath, pregethodd y Parch. Hugh Davies yn wir dda a difrifol, ar fod Seion, er ei holl ogoniant, yn cael ei gw^rthod gan lawer. Wele fi wedi bod ddau ddiwrnod yn y ddinas fawr Ymerodrol, ac yn teimlo ei bod yn bryd i mi gefnu arni, gan mai cardota dros eraill yr ydwyf; ac yn wyneb yr anhawsdra i mi gael hyd i'r Cymry sydd mor wasgarog yma, y mae y Parch. G. H. Humphrey a'i gydswyddogion yn eglwys ei ofal, yn penderfynu gwneyd hyny drosom goreu y gallont. Credwyf y gwnant gasglu swm hed dda, canys y mae iddynt air da am elusengarwch; ac y maent yn gweled ein hachos yn deilwng. Bydd i mi gyhoeddi faint fyddaf wedi gasglu yn mhob lle ar ol i mi gael yr holl loffion i law. Nid yw y diwedd eto.

YN LUZERNE, SCHUYLKILL, CARBON, &C, PA.

Philadelphia, Mawrth 3. - Wele fi y tro hwn yn ninas y “Cariad Brawdol." O New York aethym aclref i roddi cyfrif o'm goruchwyliaeth. Wedi hyny, aethym ar fy ail daith, gan ddechreu yn Upper Lehigh, lle ag sydd yn meddiant y brodyr

 

 


(delwedd E0538) (tudalen 129)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 129

y Bedyddwyr, oncl y rhai a ymddygasant ataf fel Methodistiaid. Ymddygodd y caredig William Powell, Ysw., yn haelionus tuag ataf; a chefais arweinydd da yn y cyfaill William Coslett. Aethym oddi yno i Drifton, lle y bu David R. Lloyd a William D. Davies a'u teuluoedd yn dda wrthyf, a chefais bob sirioldeb gan bawb ag yr ymwelais a hwy. Eto yn Hazelton, trwy y caredig James E. Roderick, Inspector of Mines, gwnaethym yn dda. Wedi hyny yn Audenried, lle bu yr holl Gymry ag yr ymwelais a hwy, yn dda wrthyf, Benjamin Williams, David Davies, &c. Yn Jeansville drachefn, ymddygwyd ataf yn frawdol gan George Haycock, Enoch Thomas, ac eraill. Yn Beaver Meadow hefycl, gwelais Gymry a allasent gydymdeimlo gan gynorthwyo. Y lle nesaf yr ymwelais [ag] ef oedd Lansford, lle y cyfarfyddais a'r hen gyfaill caredig, Meurig Aman; ond yr oedd wedi rhedeg ei hunan allan fel arweinydd begeriaid. Yn Coal Dale, yn ol cyfarwyddyd y Parch. D. E. Hughes, ymwelais a'r Cymry. Oddi yno i Bull's Run: fy arweinydd yn y lle olaf oedd Thomas F. Jones. Oddi yno aethym i Pottsville, lle yr arweiniodd y Parch. Richard Edwards fi trwy ystorm o eira i chwilio am y Cymry; yna aethym i Minersville, lle y cefais fwynhau lletygarwch a chydymdeimlad John R. Davies a'i deulu dynol, a Dewi Cwmtwrch a'i deulu caredig. Yn Shenandoah arweiniwyd fi yn fedrus gan Henry L. Jones; a chystal ag yntau yn Mahanoy City oedd y ffyddlon T. W. Gower.

 

 


(delwedd E0539) (tudalen 130)

130 LLWYBEAU BYWYD.

Cefais dynerwch yn Ashland, ac yn Mount Carmel, Hopkin J. Davies a'm cysurai; yn Shamokin, cynorthwywyd fi gan y Parch. D. T. Davies, yr hwn sydd weinidog llwyddianus, ac yn cael ei barchu yno gan bob cenedl; trwy ei gymorth ef ac R. T. Price a David Thomas, cesglais yno $64.75, a gwnaeth Jenkins a'i briod eu rhan hwythau i mi fel hen Fethodistiaid. Teilwng sylwi, wrth gefnu ar y glofeydd, fod fy nghydgenedl yn mhob ardal wedi dangos sirioldeb a haelfrydedd mawrimi yn ngwyneb arafwch y gweithfeydd, &c.

Yn nesaf, ymwelais a chwarelwyr calon agored Slatington, y Parch. John R. Jones, Daniel Williams, a John W. Morris, oeddynt fy arweinwyr yno. Yn Catasauqua, y mae llawer o Gymry yn mwynhau llwyddiant bydol a chymdeithasol. Yno y mae David Thomas, brenin gweithiau haiarn America, ac yn filiwnaer, a bu foddlawn ganddo osod ei enw ar lyfr y cardotyn; ond y dyn a'r mwyaf o ragoriaethan y natnr ddynol wedi cyfarfod ynddo a welais i o bawb yno, ydyw William G. Lewis. Y mae yma lawer y caraswn wneyd nodiadau am danynt, ond nis gallaf enwi pawb y gwelaf neillduolion ynddynt yn teilyngu hyny, oblegid amser a ballai. Ond da genyf gofio fod ymddygiadau da pawb yn cael eu hysgrifenu yn y llyfr mawr, i'w hamlygu yn y dyfodol pell.

Rhoddaf i chwi fras ddarluniad o'r modd y treuliais Wyl Sant Dewi yn ninas y Cariad Brawdol. Yn gyntaf, ymwelais ag office Reed & Lucas, lle y

 

 


(delwedd E0540) (tudalen 131)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PAKE. 131

dangoswyd i mi gan Lucas, yr agent, y nodedig Lucas Automatic Continuous Roll Model. Tebyg fod ffortiwn fawr yn y peiriant cywrain hwn. Yn ail, ymwelais a'r Cymro caredig, David T. Davies,, yn y Custom House, yr hwn, er ei fod wedi bod am flynyddau yn cloddio yn ogofeydd y ddaear,. ac wedi dringo 29 o risiau yn y Custom House, sydd yn awr yn nesaf at y boneddwr a'i gosododd ar y ris gyntaf. Gallwn feddwl y byddai yn anrhydedd i ni fel cenedl ei weled yn estyn yn uwch eto yn ngwasanaeth ei wlad. Oddi yno arweiniwyd fi gan Mr. Davies i'r cyfarfod blynyddol a gynelid gan y Gymdeithas liynaf ar gyfandir America (medd Horatio Grates Jones), sef y Gymdeithas a sefydlwyd yn j flwyddyn 1798 i'r dyben o gynorthwyo y Cymry angenus ar eu dyfodiad i'r wlad, &c. Yr oedd golwg anrhydeddus ar y Gymdeithas. Yr oedd yno rai o ddinasyddion cyf~ oethog y ddinas na allent siarad Cymraeg, ond sydd yn cadw yr hen deimlad Cymreig yn fyw, trwy olynu eu henafiaid yn y Gymdeithas genedlgarol hon. Yn ol Adroddiad blynyddol Thomas Griffiths, y Trysorydd, y mae yn eu Trysdrfa dros $4,000: a chyfranasant i'r angenus y flwyddyn o'r blaen dros $300. Ail etholasant yr hen swyddogion i mewn y flwyddyn ddyfodol eto, sef Llywydd, Horatio Gates Jones; Is-ly wydd, Richard B. Wize; Ysgrifenydd, David T. Davies; Trysorydd, Thomas Griffith. Wedi gohirio gwaith y Gymdeithas, awd at y bwrdd i gyfranogi o'r ciniaw blynyddol. Yr

 

 


(delwedd E0541) (tudalen 132)

132 LLWYBEAU BYWYD.

oedd wrth y bwrdd tua 50, ac yn eu plith y Carclotyn, ond yr oedd yn green iawn wrth y fath giniaw, y cyntaf o'r fath i mi; felly myned yn mlaen wrth guess oeddwn, a cheisio efelycliu eraill. Pe tuaswn yn bwyta o'r pethau oedd o'm blaen, fel yr wyf yn arfer, buaswn wedi cael fy nigoni o iara ac ymenyn cyn i'r swper ddyfod; ond gan fy mod yn guessio fod rhywbeth i ddyfod i'r bwrdd heblaw bara ac ymenyn, bum yn ddigon o Ianci i allu parhau i fwyta hyd y diwedd heb orlenwi. Ar ol ciniaw, cafwyd anerchiadau gan lawer, a chafodd y Cardotyn yr anrhydedd o anerch y cynulliad! Arweiniwyd fi oddi yno gan Mr. John R. Parry, i bwyllgor y Bicentennial, lle yr oedd rhai o brif ddinasyddion y Dalaeth, ac yn eu plith ExGovernor Hartranft. Ac yr oedd yno nn Mrs. Kodgers yn dadlu yn erbyn arddangosiad milwrol yn yr wyl fwriadedig. Bendith ar ei phen am ei sel Gristionogol; ond tebyg ei bod o flaen ei hoes yn y peth hwn.

YN OL I HYDE PAEK AC YN MLAEN I R GQRLLEWIN.

Gadewais ddinas y Cariad Brawdol am Baltimore, Md., a chefais y Cymry yno yn garedig a haelionus. Cesglais yn eu plith $61. Bhoddwyd pob cymorth i mi gan y Parch. John Wynne Jones a'i garedig dad, Mr. Jenkin Jones, gynt o Columbus, Wisconsin - bu ef yn ffyddlon i mi a'm hachos hyd y diwedd; a'r un modd ei fab a'i briod

 

 


(delwedd E0542) (tudalen 133)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 133

groesawus. Yr Arglwydd a dalo iddynt mewn bendithion y ddaear a'r nefoedd. Y mae y Parch. Wynne Jones yn weinidog llwyddianus ar eglwys Bresbyteraidd yn Canton, a phregetha bob yn ail Snl yn y ddwy iaith, yn llawn tan Cymreig; a gallwn feddwl ei fod yn un o'r gweinidogion mwyaf parchus yn Baltimore. Y mae un o gyfoethogion y ddinas newydd roddi iddo $20,000 at gapel newydd. Mr. Jones yw bugail eglwysig y Cymry sydd yn gweithio yn y gwaith copr yno, ac y mae wedi llwyddo i sefydlu darllenfa ardderchog i'r gweithwyr yn y dref .

Ar ol gweled Cymry y ddinas yn hed lwyr, troais fy ngwyneb tua West Bangor, i weled pobl Sir Gaernarfon, a chefais hwy yn siriol a kaelionus. Bu y Parch. Edward J. Hnghes a'i deulu yn bob cymorth i mi; ac yn ei dy ef y cwrddais a'r ferch a ddangosodd fwyaf o gydymdeimlad a mi o holl ferched y byd, am a wn i, er nad oedd ar y pryd ond tua phum' mlwydd oed, os wyf yn cofio yn iawn. “Pwy sydd yn cadw ty i ti?" gofynai i mi. "Nid oes neb yn cadw ty i mi," atebais inan; a chyda hyny gwelwn ei mynwes yn chwj^ddo, a'i llygaid yn serenn, ac meddai gyda rhyw oslef angelaidd, “Deuaf fi i gadw ty i ti;" ond er ewyllys da yr eneth garedig, a phawb eraill, ar ol cael rhyw $76.75 ganddynt, angenrhaid a osodwyd amaf i fyne? d rhagwyf am Hyde Park unwaith eto, trwy Harrisburg a Danville.

Wedi cael byr roesaw gartref rhaid oedd wyn-

 

 


(delwedd E0543) (tudalen 134)

134 LLWYBRAU BYWYD.

ebu ar y Gorllewin am y waith gyntaf; felly ffwrdd a mi, Mawrth 21, 1882, ddydd a nos, heb orphwys nes cyraedd Chicago. Ond gan nad oedd yr awdurdodau yn rhyw galonogol iawn yno, aethyni rhagwyf am Racine. Yno, drachefn, anogwyd fi i fyned rhagwyf, a dyfod yno wrth ddychwelyd. Anaddfed hefyd oedd pethau yn Milwaukee; felly troais fy ngwyneb ar ardal Gymreig Waukesha. Y cyntaf a'm croesawodd yno oedd ein hen weinidog, y Parch. R. H. Evans, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn ymyl un o eglwysi ei ofal, sef Bethesda, ger Genesee Depot. Gwledd i mi oedd cwrdd ag ef a'i deulu, o dan fy amgylchiadau presenol. Arweiniwyd fi trwy yr ardal gan Samuel Price, John Jones, a Richard Williams; ac yn ardal Jerusalem gan Richard Mason. Cefais dipyn o gymdeithas y Parch. John Williams; ond y mae ef a Mr. Mason wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur er ys rhai blynyddau bellach, gyda llawer eraill a fuont yn fy sirioli fi ar hy d f y llwybrau amrywiog yn ystod y daith gasglyddol. Dyna gysur i mi ambell dro wrth gael aneddau yn wag o'r gwynebau siriol gynt, yw cofio y gobaith o gael eu gweled y “dydd a ddaw” yn derbyn bendith y Brawd hynaf, pan ddywed efe wrthynt, "Yn gymaint a gwneuthur o honoch i un o'r rhai lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch." Hefyd cefais dipyn o gymdeithas y Parch. C. D. Jones (A.), a bu yntau yn garedig wrthyf. Arweiniwyd fi trwy ardal Bethania yn nesaf gan Thomas O. Jones a Hugh

 

 


(delwedd E0544) (tudalen 135)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PAEK. 135

H. Williams; a thrwy ardal Waterville neu Moriah gan y Parch. John Moses a'i deulu. Yn nghyraydogaeth Soar arweiniwyd fi gan yr ewyllysgar Roderick Rice a Richard Pugh; a thrwy ardal Seion gan y cyfeillion John J. Williams a William Morris. Yn Bark River bu yr Annibynwyr, fel y Methodistiaid, yn dda wrthyf, ac arweiniwyd fi yno gan D. B. Dalies, E. R. Griffiths, ac Edward Morgan. Yn nesaf ymwelais ag Ixonia, lle y bu y Parch. John T. Morris yn bobpeth i mi yno ag a ellid ddymuno mewn amgylchiadan o'r fath. Yn Watertown cefais arweinydd rhagorol yn y caredig D. K. Jones.

Yn nesaf ymwelais a Picatonica, He y bu pawb yn dda wrthyf, ond yn fwyaf neillduol yr hen frawd William Davies, a'r ffyddlawn arweinydd Benjamin Williams. Yn Dodgeviile cefais y Parch. William Charles a'i briod, a John Williams a Thomas Davies a'i deulu yn gareclig iawn. Clywais yr hen batriarch John H. Evans yn pregethu yn dda a bywiog, er ei f od dros 80 mlwydd oed. Yn nghymyclogaeth Salem arweiniwyd fi gan y caredig Thos. Williams, Caergybi. Yn ardal y Coed bu yr Annibynw^yr a'r Bedyddwyr yn bob cefnogaeth i mi. Duw a dalo idclynt, Yn ardal Blue Mounds a Ridgeway cefais arweinydd rhagorol yn y Parch. Edward Jones, a siriolwyd fi yn fawr gydag ef a'i deulu lletygar. Y Parch. John Davies a'm derbyniodd yn serchus, gan fy nghyflwyno i ofal Jones, ei frawd-yn-nghyfraith. Hefyd ymddyg-

 

 


(delwedd E0545) (tudalen 136)

136 LLWYBKAU BYWYD.

odd y Parch. D. J. Phillips, gweinidog y brodyr Annibynol, yn serchus a haelionus ataf.

Aethym oddi yno i Caledonia, lle y gwnaeth y Parch. Thomas J. Rice a Hugh Roberts ac eraill ddangos i mi bob caredigrwydd a lletygarwch, ac y cyfranodd yr holl ardal yn debyg i ardaloedd eraill. Aethym oddi yno i Bangor, La Crosse, lle y derbyniwyd fi yn siriol gan y Parch H. M. Pugh a'i briod letygar; a bn yr hen frawd John Pro r theroe hefyd yn gyfranog a Pugh i'm cynorthwyo. Awd a mi oddi yno i Fish Creek, a chyflwynwyd fi i ofal D. J. James, ac ni theimlais yn fwy cartrefol yn unrhyw le ar fy nheithiau, nag yn ei gymdeithas ef a'i deulu caredig. Ar ol myned a fi trwy y gymydogaeth, aeth a fi yn ei gerbyd i ofal John D. Lloyd, Blaenydyffryn, a bu ef ac Isaac Jenkins (gynt o Bellevue) a J. D. Davies yn bob cymorth i mi er hwylysu fy amcan yn y gymydogaeth.

YN NGHYLCH CYMANFA MINNESOTA.

Anturiais i gylch Cymanfa Minnesota, er i mi esgeuluso gofyn yn brydlon am ganiatad cymanfaoL Yr wyf yn mawrhau trefniadau y Corff, eto gobeithiaf fod yr eithriad hwn o'm heiddo i'w esgusodi. Pa fodd bynag am hyny, boed hysbys i Gymry America fod y Cardotyn hwn wedi derbyn mwy, fe allai, o haelfrydedd a charedigrwydd yn wyneb yr amgylchiadau, yn eu plith, nag yn unrhyw ranbarth ag y bum yn flaenorol. Y mae pobl

 

 


(delwedd E0546) (tudalen 137)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 137

y West yn medru cydymdeimlo a'r rhai trallodus, ac nid y rhai pellaf o Hyde Park sydd yn ceisio fy argyhoeddi fy mod yn myned yn rhy bell oddi cartref i gasglu; ond y rhai pellaf dan ddylanwad twyll cyfoeth, a'r rhai sydd yn perchen llawer o bethau y byd, sydd yn medru fy ngwaradwyddo a'm troi yraaith yn waglaw. Teimlaf ambell dro mai gwell bod yn gardotyn di-gartref na bod yn breswylydd palasau, fel y rhai ag y mae eu trysor yn y bywyd hwn, heb allu trugarhau.

Yn Mankato cyfarfyddais a hen gyfaill a adwaenwn yn Nghymru, sef y brawcl gweithgar James Griffiths, genedigol o Meidrim, Sir Gaerfyrddin, ac wedi hyny o Tstrad Rhondda, Morganwg. T mae ef yn para yn ei berffeithrwydd. Oddi yno aethym i ardal Seion, Blue Earth Co., lle y bu David J. Jones a Thomas Hughes yn gymorth i mi; ac yn ardal Carmel, Evan Jones ac Edward Wigley a'm cyfarwyddent. Oddi yno aethym at y Parch. W. M. Jones, ac yn ei dy ef y cefais tin o'r teuluoedd mwyaf croesawus. Am nad oedd Mr. Jones ei hun yn gyfleus i'm harwain trwy ardaloedd ei ofal, daeth y brawd J. D. Thomas ar hyd ardal Salem; y Parch. John Roberts a'r brawd Evan Davies trwy ardal Jerusalem; ac yn ardaloedd Bethel a Cambria, y Parch. Griffith Roberts a'r hen frawd Thomas Richards. Oddi yno aethym i'r Coed Mawr, ac aeth y Parch. David F. Jones a fi yn garedig trwy ardaloedd ei ofal, a chasglasom yn hed dda, er fod capel newydd ar 10

 

 


(delwedd E0547) (tudalen 138)

138 LLWYBEAU BYWYD.

waith ganddynt eu hunain. Oddi yno aethyni i Minneapolis, tref brydferth a chynyddol, He y cefais gyfleustra i fod yn mhlith y Cymry dros y Sabboth. T mae ganddynt eglwys a chynulleidfa gynyddol ac addawol (o bobl ienainc yn benaf), ac y maent yn bwriadu cael capel newydd yn fuan, a sicrhau bugail. Gallwn feddwl fod yno faes ardderchog i ddyn gweithgar. T mae ganddynt flaenoriaid da yn mhersonau John H. Parry, John L. Owens, ac H. O. Roberts. Oddi yno aethym i Bristol Grove, lle bu William J. Williams a John W. Jones yn gynorthwyol i mi trwy yr ardal; ac yn Foreston, Iowa, y Parch. John D. Williams ac O. E. Williams a fuont ij arweinwyr. Wele fi yn awr yn Lime Spring, yn mwynhau sirioldeb a lletygarwch y Parch. Richard Isaac a'i briod; ac y mae J. W. Williams, goruchwyliwr y Drych, hefyd yn gymwynaswr i mi yma.

YN SEFYDLIADAU IOWA.

Awn rhagom unwaith eto, a'n gwynebau am u Dad y dyfroedd," ar ein ifordd i Welsh Prairie, Iowa, lle y cefais groesaw yn nghartref y Parch. Thomas E. Hughes. Dranoeth, aeth Mr. Hughes a fi a/r Parch. Hugh Hughes (W.) o Birkenhead, tua Williamsburg, a chawsom ddwy wledd ysbrydol gan y "gwr Duw" hwn o Gymru. Un o'r rhai cyntaf a welais yno oedd hen gyfaill i mi o Hyde Park, sef “Tom bach y canwr," neu yn fwy priod-

 

 


(delwedd E0548) (tudalen 139)

YX CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 139

ol, Thomas Williams, ac wrth gwrs yr oecld yn ddynmnol i ni gwrdd mor annysgwyliadwy yn mlilith dyeithriaid. Ar ol cael croesawiad tywysogaidd gaii Gymry y ddwy ardal olaf, aethym yn mlaen hyd ardal Old Man's Creek, a derbyniais bob sirioldeb a haelioni. Tmddygodd y Parch. O. Morfab Jenkins yn frawdol a Christionogol ataf; arweiniodd ef a Mri. John G. Jones, William Edwards, a William Morris, fi trwy yr ardal. Aethym yn nesaf i chwilio am Long Creek, ac arweiniwyd fi trwy yr ardal gan y Parch. Richard Hughes, “Esgob y Gorllewin," fel y'i gelwir. Bum hefyd yn nhy y Parch. John E. Jones, gweinidog yr A. yn yr ardal ar y pryd, yr hwn a'm derbyniasai rai wythnosau yn flaenorol yn Audenried, Pa.

YX OL I WISCONSIN.

Dychwelais o Iowa yn ol i Wisconsin trwy Madison a Portage City i Wild Rose, lle y bu y Parch. Daniel Thomas, John D. Jones, ac eraill, yn ewyllysgaryddion gyda mi yn ardal y “Blodau Gwylltion." Cefais y rhan a ddygwyddai i mi o fendithion yr ardal; yna ymadewais am Cambria, lle y derbyniwyd fi gan y Parch. Rees Evans a'i deulu croesawus; a chan mai bore y 4ydd o Orphenaf ydoedd, aeth a fi i'w Heisteddfod, yr hon a lywyddid yn dda yn nghyfarfod y bore gan y Parch. Mr. Evans, ac yn nghyfarfod y prydnawn gan Gwilym Eryri yn ddifyrus. Yn yr hwyr cafwyd

 

 


(delwedd E0549) (tudalen 140)

140 LLWYBEAU BYWYD.

concert, canolbwynt yr hwn oedd Miss Jennie Owen o Chicago, yr lion a ganai yn dda. Fy arweinwyr casglyddol yn Cambria oedd y brodyr John a Daniel Williams. Aethym yn nesaf i Rock Hill, lle y derbyniais bob sirioldeb a chymorth angenrheidiol (nes rhoddi cyfleustra i'r holl ardal roddi eu rhoddion i mi) gan y Parch. David Pngh a'i deulu croesawus. Oddi yno aethym i Portage Prairie, lle y gweinyddwyd arnaf yn helaeth gan y diacon William Owen. Yn nesaf, aethym trwy ardal Proscairon, dan arweiniad y diaconiaid John O. Owen a Robert W. Williams; ac oddi yno aethym i Blaenycae, He y cynorthwywyd fi gan y Parch. John R. Daniel a'r diacon Griffith Williams. Awd a mi gan Mr. Daniel i ofal Mr. Thomas L. Jones, Lake Emily, yr hwn, yn rhanol a'r Parch. D. R. Jones, a'm harweinient. Yn Randolph croesawyd fi gan yr archddiacon Joshua Roberts, yr hwn a'm harweiniodd trwy y gymydogaeth yn rhanol a'r Parch. T. Foulkes; ac hebryngwyd.fi gan y blaenaf yn ngherbyd yr olaf i ofal y cymwynasgar ddiacon, John W. Davis, yr hwn a aeth a mi trwy ardal Carmel; oddi yno i ardal Seion, lle y derbyniais bob sirioldeb fel gan breswylwyr pob ardal ag yr wyf wedi bod ynddynt; ond fy mhrif gymwynaswr yma oedd yr hen ddiacon, Evan D. Edwards. Yma cefais y fraint a chwenychwn yn fawr, sef cael clywed yr hen broffwyd, William Jones (Llanllyfni), yn pregethu, ac er ei fod yn 81 mlwydd oed, pregethai yn dda ac effeithiol ar y geiriau

 

 


(delwedd E0550) (tudalen 141)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 141

hyny, “Paliam y cloffwch rhwng dau feddwl?" dec. Wole fi yn awr yn nghartref achlysurol gweinidogion Duw yn ardal Jerusalem, sef yr Hendre; ac er fod yr hen breswylwyr wedi myned i'r nefoedd, olynir hwy yn garedig gan eu mab ieuengaf, Mr. Owen Jones; a'r Arglwydd a'i bendithio ag nn i lanw lle ei fam yn ei gartref cysegredig. Yr wyf hefyd wedi cael y fraint o gymdeithasn a'r bardd W. W. Rowlands, yr hwn sydd ddiacon ffyddlawn yn eglwys Jerusalem. Yr wyf yn awr a'm gwyneb ar Colnmbus, yn ngofal y brawd caredig, W. AY. Hughes.

Racine, Awst 3. - Yn Columbus, cefais yr holl Gymry yn bobl garedig; y rhai a gymerent fwyaf o ddyddordeb yn fy lhvydcliant yno oeddynt Uriah Dayies, Ysw., Benjamin Hughes, Ysw., a'r hen Gristion, John F. Jones. Yn ardal Bethel hefyd, dangoswyd i mi garedigrwydd gan bawb, ond yn benaf gan y Parch. John J. Roberts a'i deulu. Oddi yno aethym trwy ardal Moriah, dan arweiniad eu hen ddiacon, John "Williams. Yn nesaf, aethym trwy gymydogaefch Salem, yn nghymdeithas y diacon ewyllysgar, Owen H. Morris, yr hwn a'm hebryngodd yn garedig i Beayer Dam, gan fy ngadael dros nos yn ngofal y lletygar Mrs. Mary Prichard. Tranoeth, aethym i ardal Oshkosh - ardal gref o Gymry, lle y mae achosion eglwysig gan y T. C, yr A., y B., a'r T. E., ac ymwelais a hwynt oil yn eu tai, dan arweiniad y Parchn. J. K. Roberts a John R. Jones, “Hendre," a Mri. Hugh

 

 


(delwedd E0551) (tudalen 142)

14*2 LLWYIHIAT IJYWYD.

Owen ac Ellis Williams, a dangodwyd i mi sirioldeb mawr gas bob enwad vn v gymydogaeth. Acthviii yn nee&f i Neenah, i ymweled a'r ychydig Gymry sydd yno, lle y thae dwy eglirys wan gan y T. 0. a'r A. Arweiniwyd fi yno gan yr hen chwaer garedig, Mrs. Ellen Brace (A.), H. Gittins a Win. Price (T. C); a thalodd i mi fyned yno hefyd. Yn nesaf, trcf Oslikosli. Yno cefais y Parch. David Davies a'i briod yn garedig a iletygar i mi; ond prin y gallaf ddweyd i'r frawodiaeih yn gyffredinol ymddwyn ataf yn tinol a'u hem\ da, am y rheswm eu hod yn bwriadn adeiladu capelnewydd. Dymonaf Iwyddiant iddynt gyda en caf>el newydd, ac na byddant mor anffortunns gydag ef ag ydym ni yn Hyde Park wedi hod. Cefais dderbyniad croesawns gan y Parch. 11. Trogwy Evans, a chan y diacon, R. P. Morgan, a chynulleidfa yr Annibynwyr, Ac

Yn nesaf, aethym i Milwaukee a chefais dderbyniad orosawus, a chydymdeimlad casglyddol, u r an y Patch. H. P. Howell; arweiniodd ti vn garedig am ddau ddiwrnod trwy y dref i dderbyn arian -an \ Cymry, ac i weled rhyfeddodau y dref 1 1; i ial<l ,i ohyfoethog. Enwafddwy olygfa ddyddofol a welais yno, sef yn y gyntaf, Dwyfor, y bardd, yn oghanol y sidanan, ac yn brif glerc y stor fwyaf yn y are! £ nesaf oedd gweled Gwilym Eryri yn ei swyddfa, yn cael <i amgylchu gan gynyrchion Dakota, yn ysgnbau mawrion o zenith a chorn, 4c, a'r bardd yij j raid. Yr oedd yn olygfa

 

 


(delwedd E0552) (tudalen 143)

YX CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 143

farddonol, heb son am y farddoniaeth a ddylifai o enau y bardd wrth gyflwyno gogoniant “Paradwysaidd Dakota," gan ei fod newydd ddychwelyd o olwg y golygfeydd swynol sydd yno. Bwriada fyned yno eto yn fuan. Golwg foddhaol i mi oedd gweled y ddau fardd crybwylledig yn y cyfarfod gweddi ochr yn ochr; arwydda hyny fod y ddau fardd yma yn bwriadu byw mewn gogoniant uwch yn ngwisgoedd nefol y Ganaan addawedig, ar ol i ogoniant Milwaukee a Dakota ddarfod. I fyny yr elont ar liyd llwybrau doethineb, meddaf. Yn nesaf, daethym i Eacine, ac wele fi yn awr yn mwynliau lletygarwck y Parcb. Joseph Roberts a'i deulu siriol, ac y mae Mr. Thomas H. Williams wedi fy arwain yn garedig trwy y dref i dderbyn caredigrwydd y frawdoliaeth.

TRWY CHICAGO I SEFYDLIADAU OHIO.

Lima, 0., Medi 2. - Cyn gadael Wisconsin cefais y pleser o gyfranogi o letygarwch John P. Howell, Mount Pleasant, a'i briod, a hefyd haelioni yr eglwys fechan hono. Tn nesaf ymwelais a Chicago, ond nid oedd amgylchiadau yn ffafriol i'n hamcan ni yno ar y pryd; ond addawai y Parch. David Harries ac eraill gofio am drallod eglwys Hyde Park pan ddaw adeg fanteisiol. Oddiyno aethym i Van Wert, Ohio. Y mae yno sefydliad cryf o Gymry caredig a haelionus; cynwysa clclwy eglwys Fethodistaidd, ac un undebol dan ofal bugeiliol y

 

 


(delwedd E0553) (tudalen 144)

144 LLWYBBAU BYWYD.

Parclm. J. P. Morgan ac Isaac Edwards. Arweiniwyd fi o gwmpas yr ardal gan Evan C. Rees, D. W. Evans, D. M. Jones a Richard Jervis, ac hebryngwyd fi oddiyno gan y Parch. John P. Morgan, i'm cyflwyno i sylw Cymry Delphos. Tchydig sydd yno o honynt, ond y maent yn mhlith y prif fasnachwyr, ac ymddygasant ataf yn anrhydeddus. Yn nesaf ymwelais a Sugar Creek, a chefais y Cymry yno yn debyg i bobl eraill yn ol eu hamgylchiadau. Yn nesaf aethym i Gomer - y sefydliad Cymreig cyfoethocaf, o bosibl, yn America, yn ol ei faint - o leiaf ganddynt hwy y mae y capel harddaf a welais i hyd yma ar fy nheithiau trwy y wlad; ac y mae palasau heirdd yr amaethwyr yn profi eu bod yn llwyddianus yn y byd. Ymddygasant ataf yn garedig, a chyfranasant i mi yn debyg i ardaloedd yn gyffredin, er nad oes yno gapel gan y T. C. Ac y mae eu gweinidog, y Parch. R. M. Jones, yn ddyn caredig ac yn fugail llafurus, gallwn feddwl. Arweiniwyd fi trwy yr ardal gan Mri. David Howell, meibion William H. Jones, W. J. Williams, Jacob Price, Josiah Edwards, H. Tudor a John Bebb, a'r olaf yn un o'r arweinwyr goreu a gyfarfyddais yn fy holl deithiau, a hebryngodd fi i'r ddinas hon i'm cyflwyno i sylw Cymry y ddinas. Er nad oes yma gapel Cymreig, ymddygasant ataf yn garedig, ac y mae yma hoarding house cyfleus a dymunol gan R. C. Jones a'i briod. Ac wele fi unwaith eto ar gychwyn i ardal Radnor, &c, mewn gobaith fod llwyddiant yn fy aros yn y

 

 


(delwedd E0554) (tudalen 145)

IN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 145

dyfodol fel yn y gorphenol. Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

Oak Hill, 0., Medi 23. - Lima aethym i Badnor, lle y croesawyd fi yn lletygar gan deulu y caredig Robert Hughes dros y Sabboth; ac awd a mi trwy yr ardal gan y brodyr Edward Watkins a John D. Williams. Oddiyno aethym i ymweled a Chymry Delaware, lle y mae ganddynt eglwys fechan dan ofal yr hen weinidog ffyddlawn y Parch. John H. Jones, a chefais dderbyniad brawdol ganddynt. Oddiyno aethym i Columbus, He y derbyniwyd fi yn garedig gan y Parch. E. V. Griffith, yr hwn a'm cyflwynodd i ofal caredig a lletygar y Parch. Evan B. Jones a'i deulu, He y cefais gartref dymunol tra y bum yn y ddinas; Mr. Jones hefyd oedd fy arweinydd casglyddol yn benaf, ond gwnaeth Mri. Jones, Tregaron, a Thomas Eowlands eu rhan fel arweinwyr. Y mae eglwys gref a gweithgar dan ofal Mr. Griffith, ac eglwys wanach gan yr Annibynwyr, yn ngofal Mr. Jones, eu gweinidog. Ar ol trethu haelfrydedd Cymry y ddinas yn hed dda, wynebais ar Jackson Town, lle y croesawyd fi gan fy mrawd a'i deulu, a'r Parch. David Jenkins a'i deulu, ac eraill. Mae yn Jackson eglwys Gymreig lewyrchus dan ofal y Parch. David Jenkins. Ymwelais hefyd a Coalton, He newydd, yn ymddibynu am ei fodolaeth a'i barhad ar weithiau glo bychain, y rhai a weithir allan yn gyflym o herwydd teneuwch yr.haen lo; ond mae yno rai canoedd o Gymry, gallwn f eddwl, ac y mae

 

 


(delwedd E0555) (tudalen 146)

146 LLWYBRAU BYWYD.

ganddynt gapel newydd, lle y mae eglwys undebol addawol yn addoli. Trwy arweiniad yr hynaws Samuel Llewelyn ymwelais a'r rhan fwyaf o honynt, a dangosasant i mi ysbryd haelfrydig. Yn nesaf daethym i'r lle liwn a elwir Oak Hill. Pentref byclian hed ddinod ei ymddangosiad yw; ond nid wrth yr olwg gyntaf y mae barnu pwysigrwydd y lle hwn mwy na llawer lle arall; tybiwn wrth olwg y lle y buaswn yn casglu yma tua haner cant o ddoleri, ond wele fi wedi casglu yma dros gan' dolar. Cymry yn benaf sydd yn byw yma, braidd yr oil o honynt mewn amgylchiadau cysurus, ac amryw Gymry hed gyfoethog yn eu plith, megys Thomas T. Jones, T. L. Hughes, D. Edwards, JohnD. Davies, ac eraill allesid enwi. Y mae yma dair eglwys Gymreig, gan y Trefnyddion Calfinaidd, y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Bugeilir yr olaf gan y Parch. Jenkin Rees, a gallwn feddwl y byddai bugail da yn fendith i'r flaenaf; ond gan fod yn eu plith lawer o bobl ddiwylliedig, egwyddorol a ffyddlon, y mae agwedd iachus ar yr achos yn eu plith. Diau fod yr eglwys a'r cylchoedd yma yn teimlo mawr golled ar ol y diweddar Barch. Edward E. Jones. Eglwys brodyr j Bedyddwyr yw y drydedd. Gwan yw hon, gallwn feddwl, a bugeilir hi gan y Parch. Dr. Griffiths. Fy arweinwyr yma yw David L. Evans a David Edwards, ac ni anmharchwyd y cardotyn hwn gan dlawd na chyfoethog yn Oak Hill; ond yn y gwrthwyneb, cafodd fwynhau lletygarwch rhai o'r teuluoedd mwy-

 

 


(delwedd E0556) (tudalen 147)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 147

af anrhydeddus yn y he, a haelioni y tlawd a'r cyfoethog.

Afon Ohio, Hyd. 27. - O Oak Hill aethym yn nesaf i ardal Horeb, lle y'm harweiniwyd gan y brodyr David J. Evans, David J. Morgan a David J. B. Davies. Yn nesaf i ardal Bethel, ac arweiniwyd fi gan John H. Jones a'r Yswain Evans. Wedi hyny arweiniwyd fi gan J. E. Edwards trwy ardal Peniel; ac aeth Evan Phillips a mi i ofal y ffyddlon David G. Williams, Sardis, yr hwn a'm hebryngodd trwy gilfachau cysgod angen i ofal J. S. W. Evans, Nebo, a chefais y fraint o drenlio Sabboth ar Ian Nebo, yn mhlith y brodyr yr Annibynwyr, y rhai a fugeilir gan y Parch. R. Richards, yr hwn a ddangosodd garedigrwydd mawr i mi. Oddiyno aethym trwy ardal Siloam (A.), i Ty'nrhos (A.), ac arweiniwyd fi trwy yr ardal gan y Parch. R. Richards. Oddiyno aethym i Centerville, ac arweiniwyd fi yno gan Dr. Jenkins, ac anfonodd fi i ofal ei frawd John J. Jenkins, Bethania, yr hwn a'm cyfarwyddodd i fynyddCarmel (A.),. ac wedi hyny i ofal Daniel Williams, Soar, yr hwn hefyd a fu yn garedig wrthyf. Arweiniwyd fi yn ofalus oddiyno i ofal y caredig David A. Lloyd, Moriah, gan y brawd David M. Davies, a chymerodd yr hen frawcl Daniel Morgan ran yn fynghynorthwyo yn ardal Moriah, a chefais y fraint o gyfranogi o letygarwch gweddw y diweddar Barch. Robert Williams; ac y mae yn dda genyf allu dywedyd am Gymry sefydliad Jackson a Gallia, fy

 

 


(delwedd E0557) (tudalen 148)

148 LLWYBRAU BYWYD.

mod wedi eu cael yn bobl garedig. Ar fy nliaith oddiyno i Pomeroy arosais yn nhref Jackson i ffarwelio a'm brawd a'i deulu ar eu hymadawiad i Gymru. Oddiyno aethym i Minersyille a Pomeroy; yn y lle blaenaf cef ais gartref achlysurol yn nheulu caredig y brawd Ebenezer Williams, ac yn y lle olaf yn nhy David T. Edwards. Ond fy arweinydd yn yr ardaloedd yma a'r cylchoedd oedd yr ymroddgar a'r ffyddlon Peter Jones. Arweiniodd fi am saith niwrnod trwy Pomeroy, Minersyille, Syracuse, Hartford, W. Va., a Mason City, lle y mae eglwys fechan gan y Bedyddwyr Cymxeig; ac ymddygasant yn garedig a haelionus tuag ataf . Dyma fi yn awr ar fwrdd y “Lizzie Johnston," ar fy nhaith i Ironton, ac yr wyf yn teimlo yn hapus ar ei bwrdd, gan fod y daith yn ddymunol i gorff a meddwl lluddedig. Mae y trip yn rhad, sef cael ein cludo tua 70 o filldiroedd am $1.50, a bwyd a gwely yn y fargen, ac y mae y swyddogion a'r dwylaw yn garedig a gofalus. Cefais fy liun yn nesaf yn Ironton, dinas brydf erth ar Ian afon Ohio, bywyd masnachol yr hon yw y melinau haiarn. Y mae ynddi amryw ganoedd o Gymry mewn amgylchiadau hed dda, a chanddynt ddau gapel Cymxeig; ond ymddengys i mi y byddai yn well i'r ddwy eglwys ddyfod yn un, fel y gallont gynal gweinidog da, yn lle newynu fel y maent yn bresenol. Y mae yno adnoddau un eglwys gref a llwyddianus pe y gallent gyd-fyw. Ymddygodd yr holl Gymry ataf fi fel pe baent oil yn perthyn

 

 


(delwedd E0558) (tudalen 149)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 149

i'r uii enwad a niinau, a chafwycl gwasanaeth cyhoeddus undebol y Sabboth yr oeddwn i yno, a chydgyfranogodd y ddwy eglwys o swper yr Arglwydd, dan weinidogaeth Dr. Thomas, Pittsburgh. Cynorthwywyd fi yno gan James Davies a Thomas Evans, diaconiaid y T. C.

Cincinnati, O., Tach. 14. - Daethym o Ironton i'r ddinas fawr hon, yr hon a gynwysa tua 300,000 o bobl. Y mae safle ddaearyddol y ddinas yn fanteisiol ac amry wiog, gyda'i hamry wiol fryniau uchel wedi eu harddu gan balasau a meusydd hyfryd. Y mae yma lawer o Gymry gweithgar a llwyddianus mewn masnach a chelfyddyd. Addolant mewn dau gapel hardd, un yn perthyn i'r T. C, a'r Hall i'r Annibynwyr - y cyntaf dan ofal bugeiliol y Parch. Edward C. Evans, M. A., diweddar o Bern-' sen, N. Y., a'r Hall dan weinidogaeth Dr. D. Jones. Gallwn feddwl fod y Corff yn gwerthfawrogi Mr. Evans, a gobeithir y bydd yn fendith er llwyddiant yr eglwys am lawer o flynyddau. Y mae yr eglwys Annibynol hefyd yn eglwys weithgar a llwyddianns. Y mae Cymdeithas Lenyddol Gymreig hefyd gan ein cydgenedl yn y ddinas. Ac heblaw y Cymry a gymdeithasant fel yna a'u gilydd yn iaith en tadau, y mae yma lawer o'n cydgenedl yn ymgymysgn a'r Americaniaid, oblegid amgylchiadan, ac y mae rhai o honynt yn anrhydedd i ni fel cenedl, ac un o'r cyfryw yw Llewelyn J. Evans, un o athrawon Lane Seminary. Edrychir i fyny ato yma fel pregethwr at athraw dysgedig,

 

 


(delwedd E0559) (tudalen 150)

150 LLWYBEAU BYWYD.

& chyda sirioldeb cyflwynodd fi a'm hachos i sylw ei gyd-athrawon, a cliyfranasant i mi rhyngddynt $15. Yn wir, dangoswyd i mi haelioni gan holl Gymry y ddinas. Fy arweinyddion yma oeddynt Mri. John Prichard, E. C. Evans (Cyfeiliog), Lewis Hughes, a'r Parch. M. A. Ellis, M. A., a dangoswyd i mi garedigrwydd neillduol gan lawer, megys Ebenezer Evans, James Hughes a John Pugh a'u teuluoedd. Yr wyf wedi cael llety cysurus yn nhy James J. Davies, He mae tua deuddeg o Gymry boneddigaidd yn byrddio - yn rhif 11 Arch street, ger capel Cymreig yr Annibynwyr.

Yr wyf am gyfeirio oddiyma trwy Shawnee, New Straitsville, Zanesville, Newark, Welsh Hills, Granville, Cleveland, Pittsburgh, Johnstown ac Ebensburg; ac oddiyno tuag adref , i roddi cyfrif o'm goruchwyliaeth.

WEDI CYEAEDD ADREF.

CYFBIF O'M GOKUCHWYLIAETH.

Anwyl Gydgeneol! Wele fi wedi cyraedd adref i Hyde Park, ar ol mwynhau eich caredigrwydd a'ch haelioni mewn gwahanol foddau am un mis ar bymtheg, ac nis gallaf byth draethu fy nheimladau amrywiog yn wyneb y parch a'r croesawiad cyffredinol a gefais genych. Bum yn eich plith, f el aelodau o bob enwad crefyddol, a rhai dibroffes yn ogystal, dan amgylchiadau amrywiol ac anhyf-

 

 


(delwedd E0560) (tudalen 151)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 151

ryd, oncl bu eich sirioldeb a nawdd Khagluniaeth y nef yn nerth i mi mewn 11a wer o lafur a lludded, a phob aniser mi a gedwais. fy ngolwg ar gysegredigrwydd yr anrhydedd a osodwyd arnaf, gan wylied fy hun yn fy lioll yrnddygiadau, a chofio fod pob gweithred i ddyfod i farn; ac er fy holl ddiflygion personol i gwrdd a'r profedigaethau a wynebwn, yr wyf yn teimlo yn dra hyderus na bydd raid i mi ofni cyfarfod neb o honoch, yn y byd hwn na'r hwn a ddaw, oblegid ymddygiadau anweddus tuag atoch. Mi a garwn gael y cyfleusdra i ymweled a'r oil o lionoch unwaitb eto, ar ol darfod a'r casglu yma; ond dyna, yr wyf wedi cael y cyfleusdra goreu i roesawu a mwynbau eich. nodweddion; ac y mae yn dda genyf allu tystiolaethu, ar ol cael y cyfleusderau goreu i weled a theimlo eich holl wendidau a'ch diffygion, fod fy syniadau yn uwch am eich nodweddion nag o'r blaen: ond eto y mae He. Awn rhagom at berffeithrwydd, a'r Arglwydd, irwy ei Ysbryd, a'n cynorthwyo i fyw a'n gwynebau at y wlad lle y cawn ysgwyd dwylaw mewn cariad pur, yn y llawnder tragwyddol, heb eisieu cardota mwy! Yn awr, er mwyn boddlonrwydd cyffredinol, rhesymol i mi roddi adroddiad cyhoeddus o gyfraniadau pob ardal ag yr ymwelais a hi, yr hyn sydd fel y canlyn:

 

 


(delwedd E0561) (tudalen 152)

152 LLWYBRAU BYWYD.

CYLCH CYMANFA NEW YORK.

Plainfield, Parch. John Adams, $5 00; cyfanswm, 29 90; Bridgewater, 9 70; Utica, Dr. Boberts, 5 00; T. Solomon Griffiths, 10 00; T. J. Griffiths, 5 00; cyf. 72 95; Borne, 22 30; Oriskany, 7 25; Bemsen, Parch. E. C. Evans, 5 00; cyf. 33 80; Nant, 10 50; French Boad, 7 20; Penygraig, 8 39; Enlli, 7 70; Penycaerau, 5 81; Prospect, 7 37; Collinsville, 16 20; Constableville, 8 37; Boonville, 7 00; Webster Hill, 6 75; Quaker Hill, 3 00; Mullin Hill, 5 25; Eloyd, 20 20; Holland Patent, 15 65; Marcy, 20 50; Brynmawr, Horatio Seymour, 10 00; cyf. 25 00; Frankfort Hill, 13 00; N. Y. Mills, 11 10; Waterville, 8 25; Nelson, 30 83; Pawlet, Vt., 11 25; Granville, 6 87; Middle Granville, 40 75; Poultney, 14 25; Farnamsville, 17 87; Fair Haven, Owen Owens, 5 00; B. E. Lloyd, 5 00; trwy y post, 5 00; cyf. 59 00; Dinas New York, W. E. Dodge, Esq., 100 00; cyf. 180 00. Yr oil o'r symiau yna yn nghyd, 744 02.

CYLCH CYMANFA WISCONSIN.

Dosiarth Waukesha. - Bethesda, Parch. B. H. Evans, 5 00; S. D. James, 5 00; cyf. 31 05; Jerusalem, Griffith Boberts, 5 00; cyf. 27 70; Bethania, 6 25; Moriah, 17 25; Bark Biver, 11 05; Soar, 5 25; Seion, 10 85; Ixonia, Mrs. Edward Lewis, 5 00; cyf. 27 55; Watertown, 8 55; Milwaukee, Parch. H. P. Howell, 5 00; cyf. 37 75; Bacine, Evan B. Evans, 5 00; John Y. Jones, 5 00; cyf.

 

 


(delwedd E0562) (tudalen 153)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PAKE. 153

68 68; Mount Pleasant, 9 90; Chicago, Parch. David Harries, 5 00; cy f . 10 50. Cyfanswm y Dosbarth hwn, 272 43.

Dosbarih Dodgeville. - Picatonica, Wm. Davies, $5 00; T. J. Jones, 5 00; W. D. Eoberts, 5 00; cyfanswm, 56 45; Dodgeville, 24 10; Salem, Evan W. Williams, 5 00; cyf . 20 00; Coed, 23 50; Blue Mound a Ridgeway, John W. Jones, 5 00; cyf. 51 00; Caledonia, 22 30; Bangor, La Crosse, Parch. H. M. Pugh, 5 00; John Prothero, 5 00; cyf. 24 25; Fish Creek, 16 88; Blaen Dyffryn, 14 40. Cyfanswm y Dosbarth hwn, 252 88.

MINNESOTA AC IOWA.

Seion, Blue Earth Co., Minn., $15 50; Carmel, 8 15; Salem, 12 60; Jerusalem, 30 10; Cambria Township, 12 80. (Bydded hysbys i'm cymwynaswyr yn y cylchoedd yna, na ddarfu i mi ddywedyd i neb y fath gelwydd dwl a'm bod yn cael pum' dollar y dydd am gasglu; a bydded hysbys i bawb a garant wybod, mai dwy ddolar y dydd oedd fy nghyflog.) Mankato, 10 25; Coed Mawr, David E. Morgan, 5 00; cyf. 24 60; Minneapolis, 10 25; Bristol Grove, 12 40; Foreston, Parch. John D. Williams, 5 00; cyf. 15 50; Lime Spring, Parch. Rich. Isaac, 5 00; cyf. 28 20; Williamsburgh, 22 06; Welsh Prairie, 9 75; Old Man's Creek, 39 45; Long Creek, Parch. Richard Hughes, 5 00; E. J. Davies, 5 00; cyf. 64 10. Yr oil, 315 71.

11

 

 


(delwedd E0563) (tudalen 154)

154 LLWYBRAU BYWYD.

DOSBAETH WELSH PRAIRIE, WIS.

Wild Rose, $43 55; Cambria, Parch. Rees Evans, 5 00; cyf. 33 41; Rock Hill, 7 45; Portage Prairie, 13 60; Proscairon, 11 31; Blaenycae, 15 75; Lake Emily, 16 61; Randolph, 35 60; Carmel, 10 05; Seion, 10 75; Jerusalem, 14 65; Columbus, Un yn mawr gymeradwyo eglwys Hyde Park am fynu talu ei dyled, 45 00; Uriah Davies, 5 00; cyf. 65 75 Bethel, Parch. John J. Roberts, 5 00; cyf. 19 35 Moriah, 9 55; Salem, T. J. Hughes, 5 00; cyf. 14 20 Ardal Oshkosh, 49 48; Neenah, 15 05; Tref Oshkosh (A.), 10 90; eto, T. C, 14 11. Cyfanswm yr oil, 410 67.

Y CASGLLADAU YN OHIO.

Salem, Yanwert, D. W. Evans, $5 00; T. Albans, 5 00: D. M. Jones, 5 00; cyf. 86 75; Horeb, 25 00; Seion, 16 70; Delphos, 8 50; Sugar Creek, 11 85; Leatherwood (A.), 10 75; Gomer (A.), 42 84; Lima, 9 63; Radnor, 26 95; Delaware, 6 25; Columbus, 66 34; Coalton, 17 72; Tref Jackson, T. M. Jones, 5 00; cyf. 43 25; Oak Hill, Parch. E. R. Jones,

5 00; T. L. Hughes, 6 50; T. T. Jones, 5 00; Mrs. Ellen Edwards, 5 00; David Edwards, 10 00; cyf. 109 55; Horeb, 21 75; Sardis, 17 00; Nebo (A.),

6 85; Jefferson Eurnace, 18 00; Carmel (A.), 4 05; Bethel, 14 50; Peniel, 17 75; Ty'nrhos (A.), 6 00; Centerville, John Jenkins, 5 00; cyf. 23 45; Bethania, 7 77; Soar, 11 25; Moriah, 26 10; Salem (A.), 2 55; Minersville, 24 95; Pomeroy, Edwards, 5 00;

 

 


(delwedd E0564) (tudalen 155)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PAKE. 155

Edward Joseph, 5 00; A Friend, 5 00; cyf. 49 50; Syracuse a Hartford City, G. W. Maredock, 5 00; cyf. 19 36; Mason City, Edward Edwards, 10 00; D. C. Davies, 10 00; cyf. 26 75; Ironton, 50 00; Cincinnati, William Tudor, 5 00; John D. Pugh, 5 00; Proff. J. DeWitt, 5 00; Proff. James Eells,

5 00; cyf. 130 60; Shawnee, 36 00; New Straitsvffle, 31 05;
Zanesville, D. T. Williams, 5 00; cyf. 28 50; Newark, 33 03; Welsh Hills, 8 65; Granville, 36 15. Yr oil, 1,133 54.

Dosbarih Pittsburgh.-Ee^rbuv^a., O., $11 50; Alliance, T. B, Morgan, 5 00; cyf. 20 55; Massillon, 14 00; Pigeon Eun, 13 85; Akron, 15 25; Thomaston, 17 12; Palmyra, 15 45; Paris, 16 55; Niles,

6 00; Mineral Eidge, 3 50; Weathersville, 11 30; Leadsville, 9 10; Youngstown, Parch. Ebenezer Evans, 5 00; Thomas Davies, 5 00; cyf. 65 50; Girard, 19 75; Brookfield, 6 50; Sharon, 19 35; Braddocks, W. P. Jones, 10 00; cyf. 24 70; McEeesport, 8 65; Turtle Creek, 2 00; Ebensburgh, 86 39; Houtzdale, Mrs. Peter Cameron, 5 00; cyf. 27 99; Osceola, 2 50; Johnstown, D. J. Morrell, 20 00; M. Fulton, 5 00; cyf. 118 65; Etnaville, 3 50; Pittsburgh, W. Thow, 20 00; Owen Jones, 5 00; O. E. & Co., 5 00; cyf. 121 15. Cyfanswm y Dosbartb, 661 05:

CYLCH CYMANFA PENNSYLVANIA.

Upper Lehigh, Wm. Powell, $5 00; cyf. 15 00; Drifton, 13 45; Audenried, 7 18; Jeansville, 15 47;

 

 


(delwedd E0565) (tudalen 156)

156 LLWYBEAU BYWYD.

Hazleton, James E. Roderick, 5 00; James James,

5 00; cyf. 17 50; Beaver Meadow, 4 50;, Lansford,

6 50; Coal Dale, 4 85; Bull Bun, 4 50; Pottsville, James Jones, 5 00; cyf. 11 25; Miner sville, John B. Davies, 5 00; John H. Davies, 5 00; cyf. 16 34; St. Clair, 4 25; Shenandoah, 37 30; Mahanoy City, 26 77; Ashland, 9 80; Mount Carmel, 7 25; Shamokin, Alyr larlton, 10 00; David Llewelyn, 20 00; George Marshall, 5 00; Steven Billinghendy, 5 00; Miss Kattie Marts, 10 00; cyf. 64 75; Slatington, Hugh L. Davies, 5 00; cyf. 56 55; Catasauqua, David Thomas, 10 00; Wm, G. Lewis, 5 00; Davies & Thomas, 5 00; Mrs. J. N. Tieller, 5 00; cyi 86 25; Hokendauqua, John Thomas, 5 00; "W. B. Thomas, 5 00; cyf. 16 25; Philadelphia, Thomas Griffiths, 5 00; John O. Hughes, 30 00; BobertE. Patterson, 5 00; George Hughes, 5 00; James Eynon, 5 00; George D. McGreary, 5 00; W. G. Fisher, 5 00; cyf. 82 25; Baltimore, Parch. J. Wynne Jones, 5 00; T. Morris, 5 00; Capt. D. Evans (Pwllheli, G. C), 5 00; cyf. 61 00; West Bangor, Howell Williams, 5 00; John Humphrey, 5 00; cyf. 76 75; Danville, 25 85; Plymouth, Nottingham Shaft, 35 50; Washington Mine, 8 50; Boston Mine, 9 50; cyf. 53 50; Kingston, Daniel Edwards, 5 00; J. G. Hoyt, 5 00; William Loveland, 5 00; Abram Nestill, 5 00; Shaft No. 1, 21 45; No. 2, 13 00; cyf. 59 45; Carbondale, Watkins & Williams, 40 25; Hyde Park, B. G. Brooks, 10 00; Parch. W. E. Morgan, 5 00; Bichard Thomas, 5 00; D

 

 


(delwedd E0566) (tudalen 157)

YN CASGLU AT GAPEL HYDE PARK. 157

~W. Powell, 5 00; T. E. Hughes, 5 00; D. J. Evans, ' 5 00; cyf . 41 50.* Cyfanswm yr oil, 866 24. [Cofier nad yw y swm yna yn cynwys yr hyn yr ydym ni fel eglwys wedi ei wneyd yn y cyfamser, nac ychwaith yr liyn oeddys wedi gasglu cyn i mi ddeclireu.]

Cylch Cymanfa New York $744 02

"Wisconsin 935 98

" Minnesota ac Iowa . 315 71

Pennsylvania 866 24

Ohio 1,756 36

Cyfanswm 84,618 31

Mae yn aros o ddyled ar y capel $4,000 00. Ac yn awr, gyda llafur a bendith cartrefol, credwn ein bod allan o berygl, ac y gallwn daln y gweddill bob yn j^chydig.

W. D. DAYIES.

Hyde Pari, Elrill 2, 1883.

DA, WAS DA A FFYDDLON.

Hyde Park, Pa., Ebrill 10.- Wele Adroddiad yr Olrheinwyr (Mawrth 29ain, 1883), i Gyfrifon casglyddol Mr. Wm. D. Davies, at ddyled capel y Trefnyddion Calfinaidd yn Hyde Park, Pa.:

" Ar ol edrych dros yr holl gyfrifon, a chydmaru yr oil a'u gilydd, yr ydym yn en cael fel y canlyii:

 

 


(delwedd E0567) (tudalen 158)

158 LLWYBRAU BYWYD.

Cyfanswm y Derbyniadan $4,647 98

Cyfanswm y Treulion 1,154 62

Yn gadael elw clir o $3,493 36

Yr ydym am hysbysn fod $31 00 o'r swm nchod wedi en talu i drysorydd yr eglwys ar ol trosglwyddo ei report gan y casglydd, Mr. Davies. Hefyd, fod gan y Trysorydd i'w daln yn ol i Mr, Davies y swm o $1 09 o gamgyfrifiad."

Nos Ian, Ebrill y 5ed, derbyniwyd a chadarnhawyd yr nchod yn nnfrydol gan yr eglwys. Hefyd pasiwyd y penderfyniad canlynol: Ein bod fel eglwys yn dymnno cyflwyno ein diolchgarwch diffnant i'n holl garedigion, ac ewyllyswyr da yr achos, am en caredigrwydd i ni drwy en cyfraniadan, ae am en tynerwch a'n croesaw i'n hanwyl frawd, W. D. Davies, tra yn en plith. Ein dymnniad a'n gweddi drosoch yw, ar fod i'r Duw hwnw sydd yn gyfoethog o drngaredd, eich cyflawni a phob gras a dawn ysbrydol, yn ol ei gyfoeth ef mewn gogoniant. Dros ac ar gais yr eglwys,

Moses Andrews. ) ni -, . Eees C. Powell, \ Olrhemwyr.

 

 


(delwedd E0568) (tudalen 159)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 159

CYFNOD VII.

CHWE' BLYNEDD YN OBUCHWYLIWR.

PIGION OM TAMEIDIAU YN Y “DRYCH: SEF HANES FY NHEITHIAU YN Y DWYRAIN a'r GORLLEWIN.

Yn nechreu mis Mai, 1883, ymgymerais a'r swydd o oruchwyliwr teithiol dros y Drych; ac yn nghorff y chwe' blynedd diweddaf (1883-1889) yr wyf wedi ymweled a bron yr oil o sefydliadau Cymreig y Dwyrain a'r Gorllewin, mor bell a Colorado. Dechrenais ar fy nyledswyddan yn siroedd Lackawanna a Luzerne, Pa.; yna o Mehefin? 1883, hyd Ebrill, 1884, ymwelais yn hed fanwl a fy nghydgenedl yn Ohio, AVisconsin, Minnesota, Iowa, Kansas, Missouri, Illinois a New York. Am ddwy flynedd a haner, rhwng Ebrill, 1884 ac Awst, 1886, cyfyngais fy hun i Dalaethy "Maen-Clo," lle y mae cylchrediad y Drych yn fawr iawn, ac yn parhau i gynyddu, fel prif newyddiadur y genedl Gymreig. Treuliais ranau o Fedi, 1886, yn Ohio; yna cyfeiriais fy llwybrau i Wisconsin, gan dreulio tri neu bedwar mis yn sefydliadau Cymreig blod-

 

 


(delwedd E0569) (tudalen 160)

160 LLWYBRAU BYWYD.

euog siroedcl Racine, Columbia, Iowa, Dodge, Winnebago, Waukesha, La Crosse, &c.; yn gystal ag yn Iowa a Minnesota. Yn ddylynol, ymwelais a Missouri, Kansas, Nebraska a Colorado, gaii ddychwelyd i'r Dwyrain trwy Ohio, ar ol taith a barhaodd am tua deunaw mis. Tynai llawer o bethau fy sylw ar hyd fy llwybrau troellog, a fuasent yn ddyddorol iawn pe medraswn wneyd sylwadau priodol arnynt; oncl anmhriodol i mi oedd mynegu y filfed ran o'r pethau a welwn ac a glywwn. Pa fodd bynag, hyderwyf nad hollol annyddorol na diaddysg ar y pryd oeddynt y “Tameidiau' f mynych a ymddangosasant yn ein newyddyr cenedlaethol yn hed gyson, o'r rhai yr ail-gyhoeddir y “Pigion” canlynol: LLITH I.

Y TERFYSG YN CINCINNATI, 0., YN 1884 - DYCHWELYD ADREF TRWY UTICA o'e GORLLEWIN.

Hyde Park, Pa., Ebrill 9, 1884.- Y tro diweddaf yr anerchais ddarllenwyr y Drych oedd oddiar y Welsh Hills, rhwng Newark a Granville, Ohio, o'r lle yraethym yr ail waith i Cincinnati; ac yr oeddwn yn y “Queen City" yn adeg y terfysg rnileinig yno, ar derfyniad prawf y llofrudd William Bener. Am achos gwreiddiol y cythrwfl, gellir dweyd yn

chwe' blyxedd yx ortjchwyliwr.

 

 


(delwedd E0570) (tudalen 161)

161

dcligon priodol, "Barn hefyd a droed yn ei hoi, a chyfiawnder a safodd o hirbell, canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni allodd ddyfod imewn! Ie, gwirionedd sycld yn pallu, a'r liwn sydd yn cilio oddiwrth ddrygioni a'i gwna ei linn yn ysbail; a gwelodd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn!" (Esa. lix. 14, 15.) Byddai yn dda i farnwyr y ddaear gofio bob amser, fod yr bwn sydd yn nwch na'r nwcliaf yn gwylied, a bod nn yn nwch na hwynt, ac nad yw eu hamddiffynfeydd na'u tyran cadarnol ond fel gwegi o flaen ei lid Ef; ac mai ffiaidd yn ei olwg yw gwatwariaeth o wneiitlmr barn a cbyfiawnder; ac y byddant hwythan yn cael eu dal yn eu cyfrwysdra yn nydd dial. Dydd Gwener, Mawrtb 28ain, y buaswn trwy y llysdy cryf, hardd a mawreddog, lle yr oedd barn yn cael ei gwatwar gan farnwyr Cincinnati; ac wrth edrych ar fawredd a cliadernid yr adeilad, tybiwn y medrai AYrthsefyll boll elfenau dinystr am genedlaethau a chanrifoedd, gan fod y muriau a'r lloriau o feini maY\ r rion, a'r grisiau, y to, etc., o baiarn a gwydr. Ond ha! gan fod y lle barn a chyfiawnder liwn wedi myned yn ogof lladron ac ysbeiiwyr, y rhai a watwarent y gyfraith ac iawnderau y diniwed, er gwobr, wrth gerdded trwy y llys-ystafelloedd, tybiwn weled yn ysgrifenedig ar y parwydydd y tu ol i'r barnwyr a'r rheithwyr, “Gwatwarwyr yn eistedd ar orseddfeinciau barn a lialogasant fy enw, purer fi trwy dan." A'r nos dranoeth, er fod y ltysdy yn cael

 

 


(delwedd E0571) (tudalen 162)

162 LLWYBEAU BYWYD.

ei amddiffyn gan yr heddgeidwaid a'r milwyr arfog; ac er nad oedd defnyddiau tan yn yr adeilad mawreddog, oddigerth byrddau, meinciau a llyfrau, gwelid y lle yn wenfflam; a boreu Sabboth. yr oedd mwg puredigaeth yn esgyn i'r nefoedd, gogoniant ac ymffrost y llys cyfreithiol yn llwch, ac ugeiniau o fywydau gwerthfawr wedi cael eu haberthii ar allor ynfydrwydd, am nad oedd a wnelai farn, ac am nad oedd a weinyddai gyfiawnder! Ymddengys i mi nad oedd yr hyn a gymerodd le yn Cincinnati ond adlewyrchiad o gymeriad llygredig y wlad yn gyffredinol; ac os nad wyf fi yn cam-farnu, ond i bethau barhau i fyned rhagddynt yn en cyfeiriadan presenol am dipyn eto, rhedir y y wlad i ddinystr gan swyddogion llygredig, tra y byddo y dinasyddion goreu yn cysgu a breuddwydio. Er goclielyd y dinystr bygythiedig, y mae amryw ddiwygiadau yn angenrheidiol: (1.) Dylai pob dinesydd barcliu deddfau doechineb, yn anianyddol, moesol a cliymdeithasol. (2.) Rhaid i'r bobl ochelyd twyll a gweniaeth swydd-geiswyr llygredig; yna gellir yn rhesymol ddysgwyl gweled y wlad yn llwyddianus ac yn gartrefle cyfiawnder a dedwyddwch.

Yn Utica, JV. JT. - O Cincinnati, aethym ar fyr ymweliad ag Utica, N. Y., a gwelais fod rhai dygwyddiadan pwysig wedi cymeryd lle yno yn mlilith y Cymry er pan y bnaswn yno o'r blaen yn casgln at gapel Hyde Park. Yr adeg hono yroedd “y Myfyr" yn cael ei ordeinio yn weinidog a bug-

 

 


(delwedd E0572) (tudalen 163)

chwe' blynedd YN ORUCHWYLIWR. 163'

ail yr Annibynwyr Cymreig; ond y mae ef wedi ei gymerycl yniaith, a'r hen weinidog Dr. Gwesyn Jones wedi ei adferyd eto i'w le. T mae y Trefnyddion Calfinaidd, er y pryd hwnw, wedi gwerthu eu haddoldy ar Seneca Street, ac yn addoli mewn capel newydd hardd ar fynydd Moriah, yr ysmotyn uchaf, meddir, yn y ddinas brydferth. Yr wyf, ar ol gweled agos yr oil o gapeli y Cymry yn America, yn meddwl mai y capel liwn yw yr harddaf o konynt oil. Da oedd genyf ddeall fod Dr. Roberts yn parhau yn gryf a llwyddianus fel g weinidog yr eglwys. Bum, wrth gwrs, yn swyddfa y Drych, dros yr. liwn y bum yn teithio am yspaid deng mis; ac ymddangosai pob peth yno yn drefnus a bywiog - T. J. Griffiths yn siriol a gweithgar yn arolygu y cwbl; J. W. Jones a J. C. Roberts yn trefnu a dethol pethau cyfaddas i'w harddangos yn y Drych, er budd y genedl Gymreig trwy y Talaethau; a Richard E. Roberts yn gofalu am un o adranau mwyaf pwysig y swyddfa, sef y cyfrifon.. Ac wrth gwrs yr oedd yno amryw o Gymry eraill o dalentau llenyddol yn hyrwyddo gwaith y swyddfa. Bum yn mwynhau lletygarwch y brodyr John C. a Richard E. Roberts, a thrwy hyny cefais y fraint o weled y drysorfa fawr ac amrywiol o lyfrau sydd ganddynt i'w gwerthu i bwy by nag a ewyllysio eu prynu. Ymwelais hefyd a theulu caredig y cerddor, y bardd a'r henor Apmadoc; ac yr oedd efe, fel arfer, yn llawn o ffraethineb a sirioldeb. Bum yn ymgomio ag amryw eraill o enwog-

 

 


(delwedd E0573) (tudalen 164)

164 LLWYBRAU BYWYD.

ion y ddinas, megys y Parch. Owen Griffiths (Giraldies), T. Solomon Griffiths, &c.; oncl yr oeddwn mewn tipyn o frys i fynecl aclref i Hyde Park, am foci genyf^lawer a garwn yma, ac heb eu gweled er ys deng mis.

Cyraedd Hyde Park. - Erbyn cyraedd adref da oedd genyf gael fy nghydgenedl mor gysurus, ac eglwys y T. C, dan ofal y Parch. R. F. Jones, mor lewyrchus ag y gwelais hi erioed, heb ond $2,100 o'r hen cldyled fawr anghyfiawn hono yn aros. Y mae llawer o honoch yn teimlo dydclordeb yn hanes yr eglwys yma, a bydcl yn dda gan lawer ar hyd y Talaethau cldeall hyn. Un o'r pethau cyntaf a dynodcl fy sylw ar ol dychwelyd oedd helaethiad capel y Bedycldwyr. Dywedir fod gweinidogaeth Dr. Williams mor boblogaidd fel mae y capel yn rhy fach eto. Wrth gwrs, yr oeddwn yn ddigon o athronydd i fyned i'r Gymdeithas Athronol nos Sadwrn, i welecl a chlywed yr athronwyr. Un o'r pethau cyntaf ar y program ydoedd anerchiad gan Dr. H. I. Jones, ar gyfansoddiad y corff dynol; ac'un o'r pethau digrif fu yn nglyn a'r achos oedd yr anghydwelediad oedd rhwng Mrs. Roberts a Dr. Jones mewn perthynas i ryw skeleton oedd gan y Doctor ger bron. Yn ganlynol siaradwyd ar ansawdd a symudiadau gloawl y rhanbarth, gan yr athronwyr Daniel J. Evans (Daniel Ddu), a Thomas D. Davies; ac wrth gwrs yr oedd y Llywydd, William G. Price, yn ddigon o athronydd i osod y pregethwr goreu i bregethu yn olaf,

 

 


(delwedd E0574) (tudalen 165)

chwe' blyxedd YN OBUCHWYLIWR. 165

sef W. D. D., Y C., H. L., A T. D., &c. Yr oedclwn yn bwriadu ymweled a miloedd yn rhagor o Gymry ar fy ffordcl adref , oni bae am arafwch masnachol. Xid eiddo gwr ei ffordd wedi'r cwbl.

LLITH II.

YMWELIAD A DRIFT0N, JEDDO, BEAYER MEADOW, AUDENBIED, SLATINGTOX, PA., &C.

Slatixgton, Pa., Mai 17, 1884. - Ar ol aros rai wyfcbnosaii yn Hyde Park a'r cylchoedd, wedi fy nychweliad o'r Gorllewin, cynyrfwyd fi i ail-ymweled a rhanbarthau glofaol Pennsylvania. Gadewais Scranton foreu yr 8fed cyfisol gyda'r 0. K. K.

New Jersey, dros y mynydd diffaeth, a cliyn can
01 dydd yr oeddwn yn Upper Lehigh. Arweiniwyd fi i weled y Cymry yno gan y cyfaill John J. Turner. Aethyni yn nesaf dros y mynydd i Drifton, He y derbynnvyd fi yn 11a wen a chroesawiis gan Watkin Evans (goruchwyliwr lleol y Drych) a'i briod. Gwnaeth y cyfaill David E. Lloyd hefyd ei ran yn siriol fel arweinydd, ac yr oedd y Cymry oil yn yniddwyn yn roesawol. Y lleoedd nesaf oeddynt Jeddo ac Eckley, lleoedd dinod rhwng y ceryg a'r llwyni. Amlygai y Cymry yno hefyd eu nodweddion cynenid. Oddiyno aethym i Hazelton, lle mae amryw Gymry mewn sefyllfaoedd pwysig, sef James, y Postfeistr; James E. Roderick, Inspector of Mines; Williams, llyfr-

 

 


(delwedd E0575) (tudalen 166)

166 LLWYBRAU BYWYD.

werthydd; a Mr. Thomas, perchenog y livery stable, &c. Arweiniwyd fi at y Cymry yno gan y cyfeillion Nicholas ac Evan Thomas. Yn Beaver Meadow cyfarfum a hen gyfaill yn mherson Mr. Thomas W. Howells, goruchwyliwr y gweithiau glo newyddion perthynol i gwmni Drifton. Yr oedd Howells a minau 16eg o flynyddau yn ol yn cydweithio fel green-horns yn Salineville, O.; ond j mae ef yn myned rhagddo er ys blynyddau fel goruchwyliwr llwyddianns; ac yr wyf finau yn myned rhagwyf hefyd bob dydd, a chredwyf fod holl ddarllenwyr y Drych yn barod i gredn fy mod yn myned yn y blaen yn gyflym i rywle yn barhaus. Wedi gorphwys dros y Sabboth yn nghynideithas Cymry a Saeson Beaver Meadow, aethym i Jeansville a Tresckow, lle y cefais y Cymry yn roesawns a siriol. Fy arosfan nesaf oedd Audenried, lle yr arweiniwyd fi yn ewyllysgar at f y nghydgenedl gan y Parch. Anthony H. Howells, gweinidog ieuanc, bywiog a llafurus eglwysi yr Annibynwyr yno ac yn Jeansville. Hefyd cymerodd y Parch. Mr. Evans, gweinidog y Bedyddwyr yn y He, ran yn fy hyrwyddo gyda'm gwaith, yn nghyda Wm. A. Davies, yr hwn a deimla fawr sel dros y Drych fel newyddiadur cenedlaethol. Bwriada Mr. Davies fyned yn fuan ar ymweliad a Chymrn - yr anerchiad barddonol a ganlyn oddiwrth ei fam, sef Mrs. David Davies, Ynysowen, Merthyr, wedi ei symbylu i hyny:

 

 


(delwedd E0576) (tudalen 167)

CHAYE 1 BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 167

Py meddw], cwyd dros frig y don,

Y gorwyllt eigion blin,

At un a sugnodd faeth o 'mron,

A niwynaidd serch fy inin; Ac, O! na chaem ni weled gwedd

Anwylaf William bach, Ni rydd y byd i ni un hedd,

Heb wel? d ei wyneb iach.

'Bwy'n cofio 'r dydd, fy inhlentyn lion,

Chwareuaist gylch ein tra'd, Ond heddyw draw 'rwyt dros y don,

Yn mhell, yn mhell o'th wlad, A'r bwthyn tlws, fy machgen cu,

Lie rhoddaist gyntaf gam, Mae'n hiraeth dwys fel tonau'r Hi

Ay for dy dad a'th fam.

Wrth weled gwedd dy anwyl dad,

Sy'n awr yn myn'd yn ben, 'Ewy'n methu teimlo un mwynhad,

Na braidd yn rhoddi gwen; O! na chaem chwai adenydd hir

Yr eryr ar ein taith, Er gweled gwedd dy wyneb pur

Tu draw i'r moroedd rnaith.

Os na chawn gwrddyd er ein hedd,

Mewn gwledd, fel teulu 'nglyn, Pe gei eneinio uwch ein bedd,

Y blodau ceinwedd cun; Gobeithio 'rwyf cawn gwrdd yn nghyd,

Mewn arall fyd yn nhref, Ac yno fyth fel teulu glwys, Wir orphwys yn y nef.

Sugarloaf, neu Tomicken, ydoedd fy nghyrchfan nesaf . Y mae yn y lle hwn ddeg neu ddeuddeg o deuluoedd Oymreig, ac eglwys Annibynol newydd ei sefydlu, dan ofal y Parch. Thos. E. Watkins, yr

 

 


(delwedd E0577) (tudalen 168)

168 LLWYBBAU BYWYD.

hwn fu yn arweinydd siriol i mi yn y he. Y mae yn yr eglwys hono wr ieuanc addawol iawn fel pregethwr; newydd ddyfod drosodd y mae o Aberaman, ger Aberclar. Gallwn dybied fod digon a fanan a mwy o'i angen na Tomicken, yn gymaint a bod yno weinidog sefydlog. Gall bregethu yn rhwydd yn y ddwy iaith. Un gwaith glo sydd yn y he, a plierthyna i gwmni Drif ton; mae dan ofal y Cymro hynaws, Rees W. Dayies; ond nid yw y gwaith yn addawol iawn hyd yraa, am fod y glo yn pallu, ac yn hed wlyb. Cefais groesaw yn y lle gan y henor, Dd. J. Davies a'i briod, yr hwn sydd yn teimlo dyddordeb yn llwyddiant y Drych yn y he. Yn Gowen, cyfarwyddwyd fi ar fy union i lety y fforddolion, sef ty Mr. John Parry. Y mae Mrs. Parry yn gwneyd ei linn yn ddedwydd wrth roesawu dyeithriaid. Onid wrth wneyd felly y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod? Y mae yn Gowen amryw o deulnoedd Cymreig, a dygir y gwaith yn mlaen yn hed gyson. Arolygir y gweithiau gan Evan Watkins, yr hwn hefyd a berchenoga waith llechi yn Slatington, er rhoddi cyfleustra i'r chwarelwyr ddadblygn eu hegwyddorion.

 

 


(delwedd E0578) (tudalen 169)

LLITH III.

YN MHLITH CHWABELWYB LEHIGH A NOBTHAMPTON

EISTEDDFOD A CHYMANEA - GWELLIANTAU.

Hyde Pabk, Meh. 19, 1884.- Yn Slatington y gadawsom ein gilydd ddiweddaf. Tref yw hono ar Ian orllewinol yr afon Lehigh, tua lianer y ffordd

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 169

rhwng Mauch Chunk a Bethlehem, mewn gwlad hardd a chynyrchiol. Y niae y rhan fwyaf o'r preswylwyr yn Ellmyniaid, ond Cymry o rhwng bryniau Caernarfon, G. C, sydd yn medru codi a llunio y llechi, er elw masnachol a chysur cymdeithasol. Mae gan ein cydgenedl dri o addoldai yn y dref - im newydd hardd gan y T. C, ac ynddo adnoddau eglwys lewyrchus, a dylai fod ganddynt weinidog sefydlog, mewn nndeb ag eglwys o eiddo yr enwad yn Danielsville. Hefyd, mae gan yr Annibynwyr gapel newydd a hardd, ac achos hed flodenog, er nad mor lluosog a'r flaenaf gallwn feddwl. Maent hwythau heb fngail; a chlywais eich gohebydd, y Parch. E. E. Lewis, yn traddodi pregeth dda i'r gynulleidfa oddiar y geiriau hyny, “Hyd ag y mae ynoch, byddwch heddychol a phob dyn," &c. Ymresymai fod egwyddorion weithiau yn llnddias cadw heddwch; ond ceryddai y dosbarth hyny ag sydd yn yr eglwysi, mewn enw bod yn blaen a gonest, fel blaen mynawyd bob aniser yn tyllu cnawd rhywrai, &c. Perthyna yr addoldy a'r eglwys arall i'r Bedyddwyr, ac y maent hwy Avedi bod yn gobeithio gallu cymeryd Dr. "Williams oddi arnom ni, yr Hyde Parkiaid yma, am ei fod ef a'i gyfeillion wedi prynu rhan addawol yn y chwarelan yno. Ond tebyg yw nad yw Dr. Williams i ffitio yn Slatington yn bresenol. Amgylchynir y dref am filltiroedd gan chwarelau, o Slate Dale yn y gorllewin hyd Danielsville yn y dwyrain. Ymwelais a'r rhan fwyaf o honynt, a gallwn feddwl 12

 

 


(delwedd E0579) (tudalen 170)

170 LLWYBRAU BYWYD.

fod adnoddau cyfoeth am ugeiniau o flynyddoedd yn y cylchoedd yna; ond rhaid cael cyfalaf lawer er gwneyd iddynt dalu. Ond cofier nad yw yn bosibl i'r holl chwarelau hyn dalu yn dda, mwy na lioll fwngloddiau y byd.

Yn awr, ni a ganlynwn gor canu Slatington, dan arweiniad T. Lloyd (Grych JElen), i Eisteddfod Gerddorol Wilkesbarre, ac erbyn ystyried anfanteision y cor hwn, gallwn feddwl ei fod wedi gwneyd yn dda iawn. Bum yno yn gwrandaw ar saith neu wyth o gorau yn olynol yn canu yr un dernyn, ac er fy mod yn gwrandaw iel judge, nis gallwn yn fy myw wybod pwy oedd yn canu oreu. Tri pheth sydd yn ddyrys i mi mewn perthynas i'r canu cystadleuol yma: (1.) Pa fodd y mae y beirniaid yn medru penderfynu pwy sydd yn canu oreu, pan y mae yr holl gantorion yn canu mor dda? (2.) Paham y mae yn agos yr holl gystadleuwyr yn cael cam gan y beirniaid? (3.) Pa fodd y mae y eantorion yn parhau i gystadlu, dro ar ol tro, gan ei fod yn costio cymaint iddynt, ac yn y diwedd, ar ol misoedd o lafur a lludded Sabboth ac wythnos, rhyw saith o bob wyth o honynt yn cael dim ond gwialenodau y curwyr yn lle gwobr? Son am amynedd: syned y byd at amynedd cantorion Eisteddfodol!!! Y mae yn ymddangos i mi fod y cantorion yna yn rhoddi “too much for the whistle” Eisteddfodol; ond nid oes eisieu i mi ddweyd nad wyf yn ganwr wrth feirniadu fel yna, am hyny digon bellach am yr Eisteddfod. Cymanfa y T. C.

 

 


(delwedd E0580) (tudalen 171)

chwe' blynedd yn oruchwyliwb. 171

yn Bellevue, Mai 24, 25, oedd gyraanfa hed dda; ac heblaw gweinidogion y Dalaeth, yr oedd yn bresenol ddau o bregethwyr dyeithr, sef Hugh Hughes o Princeton Seminary, a'r Parch. H. P. Howell, Milwaukee, yr hwn a bregethodd yn dda fel arfer, ac yn neillduol felly oddiwrth Psalm 149 2; “Gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin," &c. Ond fe allai mai y bregeth fwyaf difrifol ac effeithiol oedd yr un a draddodwyd yn y cyfarfod dau y Sabboth, gan Hugh Davies, Wilkesbarre, oddiwrth Esa. 52. 1; “Deffro, deffro, gwisg dy nerth Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerusalem," &c. Dangosai yn eglur mai cynyrch cysgadrwydd ysbrydol ydyw yr Eisteddf odau, y ffeiriau, yr excursions, j?ic?iics, a'r lotteries, &c, a gefnogir er mwyn tynu arian oddiwrth y bobl i gynal crefydd. Ac os nad yw crefydd yn werth ei chynal yn anrhydedus ar ei theilyngdod ei hun, nad yw yn werth ei harddel o gwbl; mai yr efengyl yn ei symlrwydd digymysg yw gogoniant yr ejglwys, a'r moddion priodol i wella y byd.

Bum yn ymweled a Chymry siriol Nanticoke, Warrior Run, Alden, Wanamie, a Morgantown. Yn y He olaf y mae amryw o Gymry Hyde Park yn sylfaenu dinas, ac agor glofeydd. Tebyg y bydd yn lle pwysig cyn pen pum' mlynedd. Er mwyn rhoddi tipyn o ymarferiad i mi, aeth T. P. Stevens a D. Jones a mi i weled y twnel tanddaearol a'r siafft newydd, ac wedi hyny dros y mynydd ac i'r poorhouse ar Ian y Susquehanna, ond

 

 


(delwedd E0581) (tudalen 172)

172 LLWYBEAU BYWYD.

trwy drugaredd nid oedd angenrhaid ar un o honom i aros yn y lle anhyfryd hwnw. Yn awr, wele fi yn Hyde Park unwaith eto, ac y mae yma nn peth newydd, sef y goleuni trydanol. Mae dan oleuad ar Main St., sef un ar y scwar ger fferylldy Morgans, ac un arall yn y lle mwyaf aristocrataidd yn Hyde Park, sef o flaen y “Banner Block," yr hwn a berchenogir gan yr Anrh. T. Phillips. Yma hefyd y mae neuadd a darllenfa y Gymdeithas Athronol. Yn nesaf at y bloc dan sylw y mae Herman's Hotel, ac yn agosaf at hyny annedd-dy a swyddf a Mr. W. Price, undertaker; yna y capel hardd liwnw y mae y rhan fwyaf o honoch yn rhanddalwyr o liono, er pan y bn y “Cardotyn” yn ymweled a chwi. Yna daw annedd-dy a swyddfa y cyfreithiwr a'r henor galluog, H. M. Edwards, ac ar y fru arall i'r heol, anedd-dy hardd yr Anrh. D. M. Jones, a stor gyfferi T. Jones, yr hwn sydd fferyllydd enwog a llwyddianns.

LLITH IV.

AE LAN Y MOE YN OCEAN GROVE, N. J. - NEILLDUOLION YE YMDEOCHLE DYMUNOL.

Ocean Geove, N. J., Gorph. 14, 1884. - Er pan gyferchais ddarllenwyr y Drych o'r blaen, bum ar wibdaith trwy rai o ardaloedd Cymreig Swyddi Carbon a Schuylkill, gan ddechreu yn Lansford, Coal Dale, Bull's Bun, Pottsville, Minersville, St.

 

 


(delwedd E0582) (tudalen 173)

i

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 173

Clair, Frackville, Mahanoy Plains, Gilberton, Shenandoah, Mahanoy City, &c. Araf iawn oedd masnach yn y lleoedd uchod, ac o ganlyniad arian yn brin gan y Cymry, fel y rhan fwyaf o bobl. Un o'r prif bethau a dynai fy sylw yn y cyfryw leoedd, oedd fod y Cymry yn ymffurfio yn glybian politicaidd, dan luman Blaine a Logan, a gallwn feddwl oddiwrth eu brwdfrydedd, eu bod yn penderfynu ethol eu dynion yn yr hydref.

Gan fod y tywydd yn boeth, a'm cyfansoddiad inau yn wan i ddal y gwres, tueddwyd fi i ddyfod i gael gorphwysdra ar Ian y nior yma, ac i ddysgwyl amser gwell i weithio dros y Drych. Ac yn awr, wele fi megys ag un troed ar y mor, ac un arall ar y tir; neu, mewn geiriau eraill, rhwng dau for mawr, llydaji, a dwfn - yr un i'r Dwyrain yn dair mil o filltiroedd o led, ac yn cynwys yn ei ddyfroedd ryfeddodau wrth y miloedd, yn nghyda dirgelion dirifedi o eiddo y Creawdwr doeth a da; ar y tu Gorllewinol y mae mor mawr a llydan, yn cjTiwys mwy o ryfeddodau na'r un Dwyreiniol; y mae yn fwy o led, yn fw T y o ddyfnder, ac yn fwy amrywiog a rhyfeddol yn ei gyfansoddiad a'i ysgogiadau ofnadwy. Cyfansoddir y cyntaf o ddyfroedd; cyfansoddir yr ail gan gydgyfarfyddiad ac ymgymysgiad dynoliaeth o wahanol dylwythau y ddaear. Cynyrfir un yn barhaus gan ddeddfau anianyddol, a chynyrfir y Hall yn barhaus gan ddeddfau anianyddol a moesol. Y mae y blaenaf yn cludo Uongau a'u marsiandiaeth werthfawr i

 

 


(delwedd E0583) (tudalen 174)

174 LLWYBEAU BYWYD.

wahanol wledydd y ddaear; ac y mae yr olaf yn cario yn ddyddiol ei filoedd llongau yn llawn o farsiandiaeth werthfawrocach i borthladdoedd y byd moesol, ysbrydol, a thragwyddol. Y mae tonau y blaenaf fel pe yn cystadlu am oruchafiaeth, ac weithiau fel yn bygwth dymchwelyd a gorchuddio y ddaear a dinystr; yn gyffelyb y mae gronynau yr olaf fel pe yn ymdrechu am yr uwchafiaeth, ac weithiau yn ymgynddeiriogi yn donau grynms ac ofnadwy, fel pe yn penderfynu dymchwel y genedl i ddinystr buan, ond wedi hyny yn gorfod llonyddu wrth lais yr hwn a ddywedodd wrth y mor, “Hyd yma yr ei, a dim yn mhellach."

Un o'r pethau cyntaf a dynodd fy sylw ar y pedwerydd o Orphenaf, ydoedd boneddiges yn gofyn ai nid Cymro oeddwn; a thybiai ei bod yn adnabod fy wyneb. Atebais, wrth gwrs, mai Cymro oeddwn, a gofynais ai Cymraes oedd hi. Atebodd hithan mai David Jones y gof o Philadelphia oedd ei thad. Yna cofiais fy mod wedi ei gweled yn nhy ei thad ddeng mlynedd yn ol, pan ar fy nhaith i Gymru; ac iddynt fel teulu ddangos sirioldeb mawr i mi y pryd hwnw, fel y maent yn arfer gwneyd a Chymry dyeithr yn eu dinas, os cant gyfle. Y mae bron holl Gymry America yn gwybod am David Jones a'i genedlgarwch. Yn nesaf, aethym i'r camp ground rhagorol sydd yma, yr hwn a agorir am y tro cyntaf yr haf presenol. Caed cyfarfod dyddorol, cynwysedig o ganu a darllen y Datganiad Annibyniaeth, ac araeth ardderchog

 

 


(delwedd E0584) (tudalen 175)

chwe' rlynedd yn oruchwyliwr. 175

gan yr Anrh. Ckamrey Shaffer o New York. Yr oedd yn dda genyf ei glywed yn siarad nior gryf ar ddyledswydd dinasyddion y Weriniaeth i ymfyddino yn erbyn y fasnach feddwol sydd yn gwneyd cymaint o ddifrod ar eu meibion a'u merched trwy y wlad. Pe bae y wlad i gyd fel y lle hwn, byddai yn wlad ddedwydd. Nid oes yma un He i werthu diodydd meddwol na thybaco, ac ni oddefir dawnsio o fewn y dref. Cyfrifir fod yma tua 25,000, y rhai a ymgynullant yn ddyddiol i addoli Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi.

Saif Ocean Grove ar Ian yr Atlantic Ocean, rhwng Long Branch ac Atlantic City, ac y mae yn un o'r lleoedd mwyaf dymunol am adloniant, ac adfywiad corfforol a meddyliol. Cychwynwyd ef rai blynyddau yn ol gan y M. E. Camp Association, a pharha i gynyddu. Y mae y traeth yn ddwy filltir o hyd, yn wely tywodlyd, heb ddim ceryg i'w wneyd yn anhyfryd i'r ymdrochwyr; ac o'r tn ol i'r rhodfa dywodlyd yma, y mae rhodfa goed ch^ye llath o led, a thua dwy filltir o hyd, ac ugeiniau o feinciau coed i'r pleserwyr i eistedd, i edrych ar ryfeddodau yr eigion - degau o longau yn y golwg bob amser. Y mae yma amryw o ymdrochfeydd celfyddydol; ac mewn cysylltiad a'r cyfryw y mae lleoedd i gael amrywiaeth adloniadol, gormod yn awr i mi geisio eu henwi. Hefyd, y mae yma lynau o ddwfr croew yn myned oddiwrth Ian y mor allan i'r wlad, He y mae degau o fadau at wasanaeth y pleserwyr. Gellir edrych ar Ocean Grove ac As-

 

 


(delwedd E0585) (tudalen 176)

176 LLWYBRAU BYWYD.

bury Park fel un dref, yn cael ei gwneyd i fyny o balasau a bwthynod, ac aneddau cyhoeddus hardd a phrydferth. Nid oes yma ond ychydig o fasnachdai, mewn cydmariaeth i drefydd yn gyffredin. Rhif y boblogaeth yn y gauaf yw tua 5000, ond yn yr haf amrywia o 20,000 i 40,000. Gallwn feddwl mai dyma y lle tebycaf o ran ei nodweddion i'r darluniad a rydd y Beibl o'r Nefoedd, o un lle ar y ddaear; yn un peth, am nad oes yma leoedd i werthu y diodydd meddwol; a gallwn dybied fod y bobl y rhai mwj^af dedwydd yn y byd, pawb yn ymbleseru, yn hen ac yn ieuanc, heb neb i'w weled yn gweithio ond megys o bleser. Ac heblaw ei fod yn lle o adfywiad corfforol, y mae yma hef yd foddion iachawdwriaeth ysbrydol; a cheir yma ddanteithion yr efengyl wedi eu harlwyo yn ogoneddus gan wasanaethwyr cymwys brenin Seion, yn benaf dan ofal y M. E. Camp Meeting Association. Y mae ganddynt dri lle cymwys at eu gwasanaeth: (1.) Tabernacl mawr. yn mesur 168 troedfedd ysgwar, digon o faint i gynwys 1200 o bobl i eistedd; (2.) Tabernacl arall, yn ymyl y cyntaf, harddach a mwy perffeithiedig, yn ddigon eang i ddal 2000 o bobl, gallwn feddwl; (3.) Y Cysegr Sancteiddiolaf ar y Camp Ground, yr hwn a ddeil tua 300 o bobl. Ac yn ychwanegol y mae ganddynt fath o Dabernacl hardd ar Ian y mor, yn swn y tonau, lle y cadwant gymanfa fawr yn Sabbothol, pan fyddo y tywydd yn ffafriol. Cefais y fraint o fod yn un o'r cyfryw y Sabboth diweddaf,

 

 


(delwedd E0586) (tudalen 177)

chwe' blynedd yn osfchwyliwr. 177

ac yr oedd yn fawreddog a gogoneddus - j bobl gyhoeddus ar y stage o flaen y babell yn gwynebu at y mor, a'r rban fwyaf o'r miloedd ar y traeth a'u cefnau at y inor, a'u gwynebau at y gweinidogion. Yn wir, cyfarfod rhyfedd oedd hwn - y mor a'r gynulleidfa megys yn cyd-ddyrcbafu eu mawl i'r Brenin niawr, llywydd ac adferwr pob petb. Un peth striking iawn a ddygwyddodd, oedd i faner wen gael ei cbodi ar agerlong arddercbog oedd yn marcliog yr eigion mawr beibio i ni, yr hyn a wnaed o warogaetb i'r olygfa ar y Ian, gan y gwyddent mai addoli Duw y duwiau, sef Brenin Seion, yr oeddys. Yn eu tro, gwnaeth y miloedd ar y traetb a'r areithfa gyfnewid y cyfarcbiad, trwy ysgwyd eu miloedd cadacbau gwynion uwcb eu penau, o foddbad wrtb weled y rbai sydd bell ar y mor yn dyrchafu baner wen yn arwydd o warogaeth i wasanaetbwyr a cbynrychiolwyr y Brenin ag y mae ei orseddfainc yn y Nefoedd. Yn awr nodaf y moddion crefyddol a welais yn Ocean Groye am yr wytbnos ddiweddaf:

Sabbotb, Gorph. 6ed - Am 9 a.m., dau gyfarfod gweddi, un gan yr ben bobl yn y “Sancteiddiolaf," a'r llall gan y bobl ieuainc yn yr ail Dabernacl. Am 10: 30, cymanfa fawr i bregethu a cbanu yn y babell fawr. Am 2 p. m., Ysgol Sabbothol yn y tri He crybwylledig - yn un o bonynt, canoedd o blant wedi cael eu dosbartbu i'w begwyddori; ac yn yr ail, dosbartb Beiblaidd mawr, y mwyaf a welais erioed, yn cael ei gario yn mlaen yn debyg i'r

 

 


(delwedd E0587) (tudalen 178)

178 LLWYBRAU BYWYD.

mocld yr oeddynt yn holi yr Ysgolion Sabbothol yn Nghymanfaoedd Ysgolion y T. C. yn Nghymru, yn yr hen amser gynt, pan oeddwn i yn llanc; ac yr oeddynt yn ddyddorol a galluog. Maes y llafur oedd hanes Jonathan a Dafydd, ac yn wir yr oedd y doctoriaid bychain a mawrion yn dangos eu bod yn gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau. Yn yr hwyr cawsom y cyfarfod crybwylledig ar y traeth am 6: 30 p. m.

Gorph. 7fed- Dau gyfarfod gweddio am 9 A. M., fel y dydd blaenorol, a ehyfarfod mawr cyffredinol am 7: 45 p. m., yn y Tabernacl.

Gorph. 8fed - Yr un fath, ac yn wir y mae y cyfryw gyfarfodydd yn debyg i hen ddiwygiadau Cymru.

Gorph. 9fed - Y cyfarfodydd gweddio yn y bore fel arferol, ac am 4 p. m., cymanfa ddirwestol The Humane Christian Temperance Union of N. J. Wrth wrandaw y plant yn canu, yr oeddwn yn meddwl y byddai yn fwy o treat iddynt glywed Band of Hope Hyde Park yn canu. Am 7: 45, cyfarfod dirwestol eto,

Gorph. lOfed - gyfarfodydd dirwestol trwy y dydd, yn cael eu cario yn mlaen yn benaf gan y boneddigesau; ac yn wir meddaf i chwi, y maent yn ofnadwy o ddifrifol a phenderfynol yn erbyn y fasnach feddwol. Yr oeddynt yn gweddio, ac yn canu, ac yn areithio yn rymus anarferol; am hyny cryned y ddaear. Os darfu i'r weddw daer yn yr efengyl orchfygu y barnwr anghyfiawn; os yw pro-

 

 


(delwedd E0588) (tudalen 179)

CHWE 5 BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 179

phwydoliaethau y Beibl i gael ea cyflawni; os yw Duw yn y nefoedd wedi tyngu i'w anrhydedd y bydd iddo wrandaw gweddi; os yw wedi addaw rhwymo y ddraig a chasglu gwinwydd y ddaear a'u bwrw i'r pydew diwaelod; os yw anffyddwyr yn gwawdio yr efengyl a'i hegwyddorion; os yw gwladweinwyr yn diystyru; os oes miloedd o'r rhai a alwant en hnnain yn Gristionogion yn anwylo y diodydd meddwol yn fwy na dedwyddwch y tenlu dynol; os darostyngwyd muriau Jericho yn gydwastad a'r 11a wr trwy swn y cyrn hyrddod - yn enw gwareiddiad, yn enw anrhydedd y teulu dynol, ac yn enw miliynau o fudion sydd yn cael cam, ac yn enw y cenedlaethau a ddaw, ac yn enw yr Hwn a roddes ei hun i farw er prynu rhyddid i'r caethion,. a heddwch a dedwyddwch i breswylwyr y ddaear, pa hyd y ca miliynau o arian yn flynyddol eu hoffrymu wrth draed duw Bacchus? Ie, pa hyd y ca dedwyddwch miliynau o'r teulu dynol ei droi yn wylofain ar ei allorau dinystriol, ac y ca ugeiniau o filoedd o fywydau dynol eu dinystrio am amser a thragwyddoldeb yn flynyddol? Yn wyneb y ffeithiau uchod, ac yn wyneb y tebygolrwydd fod y dinasyddion Cristionogol yn rhy lwfr i ryddhau y wlad o afael y ddraig feddwol, pa ryfedd os yw yr Arglwydd yn ysbrydoli y boneddigesau hyn, megys Debora gynt, er gwaredu eu gwyr, a'u meibion, a'u merched, a'u brodyr, a'u chwiorydd? Onid oe& achos? Y ddwy areithyddes fwyaf hyawdl yn y cyfarfodydd hyn oedd Mrs. Parson, yr hon sydd

 

 


(delwedd E0589) (tudalen 180)

180 LLWYBBAU BYWYD.

yn y wlad yma yn cynrychioli Cymdeithas Ddirwestol Boneddigesau Prydain Fawr; a Mrs. Ellis, Ysgrifenydd yr Humane Christian Temperance Union of N. J,; ac yn ol fy marn i, Mrs. Ellis oedd y fwyaf hyawdl.

Gorph. lleg - Y cyfarfodydd gweddio fel arfer am 9 A. M., ac yn yr hwyr math o barhad o'r gynadledd ddirwestol, i geisio ateb y gofyniad, What are we going to do about it? Yn ol gogwyddiad y siaradwyr, y mae y blaid wleidyddol ddirwestol yn rhwym o gynyddu a gorchfygu; a dyweded yr holl bobl a garant lwyddiant a dedwyddwch y byd, Amen.

Gorph. 12f ed - Y cyfarfodydd gweddio yn y bore, a chyfarfod cann, &c, yn yr hwyr. Dyna i.ddarUenwyr y Drych fyr nodion o ddygwyddiadau wythnos yn Ocean Grove.

LLITH V.

DELAWABE WATEB GAP - BANGOR - SOUTH GIBSON - LONG POND, &C.

Ar ol bod ddwy wythnos yn Ocean Grove, aethym drwy ranan o wlad brydferth New Jersey i Delaware Water Gap, lle rhamantus rhwng creigiau, clogwyni, a choedydd cysgodol, ar Ian afon enwog Delaware. Dylifa canoedd o bobl y trefydd i'r lle nodedig yma bob haf am adgyfnerthiad iechyd ac adloniad corfforol a meddyliol, ac i ymguddio rhag angerddolrwydd gwres yr haul. O'r

 

 


(delwedd E0590) (tudalen 181)

chwe' blyxedd yn obuchwyliwk. 181

orsaf ni welir oncl ychydig aneddau, gan fod y pentref a'r hafdai mawrion cyhoeddus yn wasgaredig rhwng y clogwyni ysgythrog; ac y mae yn yr anialwch cylchynol lawer o olygfeydd dyddorol i'r pleserwyr, sef ffrydiau, rhaiadrau, &c. Tebyg mai yr olygfa fwyaf dyddorol i'r daearegwyr yw edrych ar y modd y mae yr afon Delaware yn neu wedi gwneyd ei mynedfa trwy y mynycld uchel, yr hwn sydd yn esgyn o bob tu i'r afon, megys niuriau maluriedig am ganoedd o droedfeddi o uchder. Dichon iddo gael ei rwygo gan ddaeargryn mewn cyfnod cynoesol, neu o bosibl ei dreulio gan ryfferthwy y mor yn y cyfnod pell, pan oedd ei donau cynddeiriog yn teyrnasn ar y rhanbarth yma o'r ddaear, ddeng mil nen ragor o flynyddau yn ol.

Yn nesaf ymwelais a chwarelwyr Bangor, yr hwn le sydd tna deg neu bymtheg milldir i'r de o Delaware Water Gap. Tuag ugain mlynedd yn ol nid oedd Bangor yn bodoli. Deckreuodd y cliwarelwyr Cymreig gloddio yn yr ardal 18 mlynedd yn ol, ac oddiar hyny y mae Bangor yn cynyddu yn barhaus mewn pwysigrwydd masnachol a chymdeithasol. Mae yn y dref ddau gapel Cymreig - un gan y T. C, a'r Hall gan yr A. Gweinidogaeth deithiol a geir yn y blaenaf, ond yn achlysurol gweinyddir gan y Parch. Ellis W. Jones, yr hwn sydd yn byw yn y He er pan ddaeth drosodd o Gymru, tua dwy flynedd yn ol. Gweinyddir yn yr olaf gan y Parch. John Williams.

Aethym o Bangor i ymweied ag ychydig Gymry

 

 


(delwedd E0591) (tudalen 182)

182 LLWYBRAU BYWYD.

Slateford, ac yna dychwelais i Hyde Park. Ar ol mwynhau rhai dyddiau o gymdeithas fy nghyfeillion yno, cymerodd Henry Harris, South Gibson, fi jn ei gerbyd i'w gartref, arlan Long Pond, oddeutu 28 neu 30 milldir i'r gogledd o Scranton. Y mae Long Pond a'i bysgod yn atdyniad i ganoedd o bleserwyr o wahanol gyfeiriadau bob haf; ac y mae yr amaethdai o gwmpas y llyn yn llawnion o ymwelwyr yr adeg yma o'r flwyddyn. Tn ymyl Long Pond y mae y mynydd uchaf yn Pennsylvania, sef Elk Hill. Un diwrnod cymerodd Mr. Harris amryw o honom yn ei gerbyd i gopa y mynydd; ac y mae golygfeydd eang, heirdd ac amxywiog i'w gweled oddiyno. Ceir golwg ardderchog ar y wlad-am ugeiniau o filldiroedd o amgylch, a dywedir y gellir gweled New York a Philadelphia drwy bellwydr ar ddiwrnod clir. Canfyddir tri-arddeg o lynoedd o'i gopa trwy bellddrych, a saith gyda'r Hygad noeth.

Amgylchynir Long Pond ac Elk Hill gan sefydliad Cymreig Dundaff a South Gibson. Mae yn y sefydliad un eglwys Gymreig, dan ofal y Parch. Daniel Daniels; ac mae y gwas ffyddlon hwn i Iesu Grist yn parhau yn gryf a bywiog gyda gwaith yr Arglwydd yn ei hen ddyddiau. Yn ffortunus iddo ef daw amryw o weinidogion i'r sefydliad am iechyd ac adloniant, yr adeg hon o'r flwyddyn, a phregethant yn achlysurol yn lle yr hen dad Daniels. Y Sabboth diweddaf, sef Awst 17, yr oedd yno y Parchn. Dr. Williams (B.), Hyde Park, a D. W. Mor-

 

 


(delwedd E0592) (tudalen 183)

ghwe' blynedd yn oruchwyliwr. 183

ris (B.), Taylorville. Pregethodd Mr. Morris yboreu yn rhagorol oddiwrth y geiriau byny, “Ffordd y bywyd i'r synwyrol sydd fry, i ochel uffern obry." Yn yr hwyr pregethwyd yn Gymraeg a Saesoneg gan Dr. Williams yn rhagorol, oddiwrth hanes Joseph yn cyflwyno ei dad i wydd Pharaoh. Mae yn y sefydliad yr wythnosau hyn bregethwr ieuanc gobeithiol o'r enw Griffiths, yr hwn a bregetha yn aehlysurol yn lle Mr. Daniels; ac nis gallaf lai nag edniygu y gwr ieuanc hwn, am ei fod yn dyfod i Dundaff o'r coleg bob blwyddyn i weithio ar fferm yn wythnosau y cynauaf, er enill arian i'w gario trwy ei gwrs colegawl, a chymwyso ei hun i fod yn weinidog cymwys y Testament Newydd. Yr Arglwydd a'i bendithio. Khag blino darllenwyr y Drych, rhaid i mi derfynu heb wneyd nodiadau ar nodweddion personol cymeriadau nodedig y sefydliad, megys Evan ap Zac, Thomas Evans, Thomas Rees, Thomas Maxey, &c.

LLITH VI.

Y DRYCH A J. W. JONES - GWAHARDDIAETH YN NGHLORIAN YR ATHRONWYR.

Hyde Park, Pa., Ehag. 3, 1884.- Teimlwyf fel cyfarch darllenwyr y Drych unwaith eto, ar ddiwedd y flwyddyn, gan ddymuno gwyhau dedwydd iddynt. Blwyddyn nodedig a fu mewn perthynas a'r Drych, onide? o herwydd marwolaeth annysgwyliadwy J. W. Jones; ond profa y rhifynau di-

 

 


(delwedd E0593) (tudalen 184)

184 LLWYBRAU BYWYD.

weddaf y bydd i'r Drych barhau, fel arfer, y newyddiadur Cymreig goreu a fedd y genedl. Sicr genyf y gwneir ymdrech mawr gan y Cymry drwy y wlad i f eddianu yr arlun addawedig o'r diweddar olygydd. Yr wyf wedi gweled amryw wedi tori yr arlun a ymddangosodd yn y Drych a'i fframio yn liardd i'w roddi ar eu parwydydd; pa faint mwy y gwnant a'r arlnn lliwiedig? Y mae y Gymdeithas Athronol yma wedi cymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o anrhydeddu coffadwriaeth y henor ymadawedig.

Aethym i Gymanf a Undeb Canu Cynulleidfaol y T. C, a gynaliwyd yn Wilkesbarre ar Ddydd Diolcligarwch. Llywyddwyd yn dda a dyddorol gan y Parch. Hugh Davies, yr hwn a ddywedodd yn ei araeth agoriadol f od tebygolrwydd y gwelid chwyldroad mawr yn ffurfiau a duwinyddiaeth yr eglwys Gristionogol yn ystod yr haner canrif nesaf; ond nid ystyriai fod eisiau dychrynu, am fod y deyrnas i lwyddo. Awgrymai y tebygolrwydd y buasai mwy o'r lion, a llai o'r lleddf, yn nghaniadaeth y cysegr. Arweinid y canu yn dda a chwaethus gan G. M. Williams, a chwareuid yr organ gan lorwerth Jones. Cafwyd anerchiadau da ac addysgiadol gan yr Is-Lywydd, y Parch. Rowland Thomas, y Parch. John T. Morris, Bellevue, y Parch. W. H. Williams, Wilkesbarre, y Parch. W. W. Lewis, Kansas, y Parch. Samuel Williams, Wilkesbarre, a Mri. L. S. Jones a Rees Morgan. Cafwyd Cymanfa dda, gallem feddwl, ac ail-etholwyd yr hen

 

 


(delwedd E0594) (tudalen 185)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 185

bwyllgor i ddarparu ar gyfer Cymanfa o'r fath y flwyddyn nesaf eto.

Nos Sadwrn diweddaf cefais hanidden i ymweled a'r Gymdeithas Athronol yma, yn yr hon yr wyf yn dal aelodaeth er ys pyrntheg mlynedd. Er fy llawenydd yr oedd yr ystafell yn llawn o bobl, a'r anrhydeddus Lywydd, Thomas Phillips, yn ei gadair, yr Is-Lywydd, W. J. Price, ar ei aswy, a'r Ysgrifenydd, John Davies, ar ei ddeheu. Tn gyntaf cafwyd ton agoriadol dda; yna eglurwyd y pwnc athronol gan Henry H. Davies, set “Diffyg ar y Lloer." Wedi hyny cafwyd dadl ar bwnc mawr y dydd, sef, u Penderfynwyd, Fod y blaid Waharddol i'w chymeradwyo am redeg j^mgeisydd am yr Arlywyddiaeth yn yr ethohad diweddaf." Dadleuwyd ar yr ochr gadarnhaol gan y bardd, y henor, yr athronydd, y gwleidiadwr, a'r Prohibitionist, Daniel J. Evans (Daniel Ddn), yn cael ei gynorthwyo gan Mr. John T. Evans. Dadleuid ar yr ochr nacaol gan y bardd, y henor, yr athronydd, y gwleidiadwr, y cyfreithiwr a'r areithiwr hyawdl Henry M. Edwards, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. John D. Thomas. Nid oes achos i mi ddywedyd mai wrth y ddau brif ddadleuwyr yr oedd dysgwyliad y gwrandawyr yn benaf . Agorodd Evans y ddadl trwy ddarllen banlawrei blaid, ac amddiffynodd y cyfryw yn wrol a hyawdl. Ar ei ol, agorai Edwards j ddadl ,ar yr ochr wrthwynebol trwy addaw peidio gwneyd ymosodiadau anniharchus ac anfoneddigaidd ar yr ochr wrthwynebol, a chad13

 

 


(delwedd E0595) (tudalen 186)

186 LLWYBEAU BYWYD.

wodd at ei addewid yn hed dda dros amser; ond cyn y diwedd, yn ngwres ei hyawdledd, ac yn nghanol cymeradwyaethau cynyrfus y gwrandawyr, yn nghyda chyfarthiadau y ci oedd yn bresenol, yr hwn a dybiai, gallem feddwl, ei bod yn llawn bryd iddo ef roddi terfyn ar y stwr angliymedrol. Dywedodd mai cranks meddyliol a chorfforol ydoedd pawb a bleidleisiodd dros St. John. Y rheswm sydd genyf dros gredu fod y ci yn deall ei waith, yw y ffaith i'r ci, ar ol cael dystawrwydd oddiwrth y dorf, ddyfod ataf fi (yr hwn nad adwaenai o'r blaen), gan siglo ei gynffon a gosod ei draed ar fy nglin mewn sirioldeb, fel, wrth bob tebyg, yr unig grank yn yr ystafell; oblegid gwnaeth yr ymosodwr apology i'w brif wrthwynebwr fel yr unig eithriad. Gan fod rhyw Un Mawr, ryw dro, wedi dywedyd am ein cyfarfod ni? y byddai i'r hyn a ddywedir yn y glust, ac mewn ystafelloedd, gael ei bregethu ar benau y tai, adroddaf ar ben ty rhyddid y wasg un argument arall o'r eiddo Mr. Edwards, yn ddigon uchel fel y clywo preswylwyr glanau y Mor Tawelog a glanau Mor y Werydd, ac y caffo y miloedd o rai pellychydig o neillduolion y ddadl hon. Cyfaddefai ei fod ef, gyda thua 99 o bob cant o'r blaid Werinol, yn foddlon ac yn awyddus am weled y fasnach feddwol yn cael ei difodi o'r byd; “ond," meddai, "dangosaf i chwi i bwy y mae y Prohibition party yn debyg. Yr oedd yn ngwlad Groeg, yn yr hen amser, ddyn cyffredin o ran ei alluoedd a'i amgylchiadau, fel nas gallai an-

 

 


(delwedd E0596) (tudalen 187)

CHWE' BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 187

farwoli ei enw trwy wneuthur da; gan hyny penderfynodd anfarwoli ei enw trwy wnenthur drwg, a rhedodd i brif deml y ddinas i'w gosod ar dan, fel y llosgwyd hi ar ei ben. Mewn canlyniad mae ei enw mewn coffadwriaeth hyd y dydd hwn. Felly," meddai, "ygwnaeth y blaid Waharddol yn yr etholiad diweddaf. Gan nad oeddynt yn medru enwogi eu hunain wrth wTieuthur da, trwy athrylith, mynasant dynu teml ardderchog y blaid Werinol am eu penau i ddinystr bythol."

Nid wyf am ddadleu a Mr. Edwards fod pobl o athrylith yn y blaid Waharddol; ond byddai yn dda iddo gofio yr hen ddywediad, “Ffeithiau ydynt bethau ystyfnig;" ac i'r blaid Werinol wTthod i'r Gwaharddwyr gael lle i'w colofn fechan yn eu teml fawreddog yn Chicago; a gwna hanesyddiaeth yr oesau dyfodol dystiolaethu nad yw y Gwaharddwyr ond ceisio adeiladu teml iddynt eu hunain fel rhai gwrthodedig. Goddefer i minau wneuthur un gydmariaeth fechan. Cydmaraf y blaid Werinol i Samson, yr hwn a gyfodwyd gan Dduw i ryddhau y rhai gorthrymedig. Mae ein Samson ni, fel y Samson gynt, wedi gwneyd pethau mawrion; ond twyllwyd ein Samson ni gan “dwyll cyfoeth," a thynwyd ei lygaid gan arglwyddi y Philistiaid, sef tywysogion y fasnach feddwol, ac wele ef heddyw, fel y Samson gynt, wedi tynu ar ei ben ef hun ei deml fawreddog. Ond na feddylier fod y genedl etholedig i farw gydag un o'i phlant anffyddlon. O na, y mae Duw

 

 


(delwedd E0597) (tudalen 188)

188 LLWYBRAU BYWYD.

yn myned i godi y blaid Waharddol yn ei lle; ac er fod y blaid Ddemocrataidd a gweddillion y blaid Werinol mewn cyngrair y dyddiau hyn, er llethu y baban liwn yn ei fabandod, rhaid cadw y gwaredwr yn fyw pe y gorfyddid ei feithrin yn yr Aipht dros amser. Goddefer i mi yn dyner ddymuno ar y rhai siomedig yn yr etholiad diweddaf, gofio eu bod wedi arfer ymffrostio yn egwyddorion rhyddfrydig eu plaid, ac nad yw yn unol a'u proffes ein henllibio ni am bleidleisio fel yr ydym yn barnu yn briodol. Cofiant hefyd fod Duw, ambell dro, yn dewis ffol bethau y byd, ac yn dyrysu y doethion yn eu cyfrwysdra. Nid yw y diwedd eto.

LLITH VII.

LLYTHYR PATAGONIA - HELYNTION GWEITHFAOL - D. L. MOODY.

Scranton Pa., Chwef. 5, 1885. - Yr wythnos hon cefais lythyr oddiwrth fy mrawd, John D. Davies, yr hwn sydd yn y wladfa Batagonaidd er ys naw mlynedd. Claddodd ei anwyl briod Hannah tua dwy flynedd yn ol, ac y mae gofal pedwar o blant bychain arno, mewn gwlad anial a phell. Ond dywed eu bod yn cael angenrheidiau bywyd yno hyd yma; a bod ganddo 40 o erwau o dir dan wenith, a'i fod yn dysgwyl tunell yr erw o gynyrch, gan eu bod yn cael digon o ddwfr. Dywed y bydd y wladfa ar ei thraed y flwyddyn hon, gan y bydd

 

 


(delwedd E0598) (tudalen 189)

chwe' blynedd yx oruchwyliwb. 189

gand^iynt filoecld o dunelli yn fwy o wenith nag a fu unrhyw flwyddyn flaenorol. Nid yw efe yn son am ddyfod oddiyno, ond dymuna arnaf fi fyned yno. Dywed fod yno ugeiniau yn barod i fyned allan i'r wlad i'w sefydlu, pe y delai digon o ymfudwyr i niewn i weithio en ffermydd yn y wladfa, hyd oni byddo iddynt wreiddio yn dda yn y sefydliad newydd, tua 200 o filldiroedd i fyny i'r afon. Dywed fod y T. C. wedi cael colled ar ol Ellis W. Jones yn y wladfa, a dymuna arnaf ei gofio ato yn fawr. Y mae ef yn siarad yn ffyddiog am ddyfodol Cymry Patagonia, <fcc.

Y mae y Gymdeithas Athronol yn fywiog a llwyddianus o dan weinyddiaeth newydd Harry P. Da vies; ac y mae y darpariaethau yn eang a mawreddog ar gyfer Eisteddfod fawr Genedlaethol 1885. Bwriedir ei chynal yn y lle ag y bu Moody yn gwefreiddio 7,000 heu 8,000 o bobl yr wythnos hon - lle rhagorol i gynal Eisteddfod. Cafwyd cyfarfod ymadawol i'r Parch. Lot Lake, Ion. 14eg. Yr oedd yn gyfarfod lluosog a pharchus. Anrhegwyd ef a gwerth tua $120. Yr oedd ton y cyfarfod yn gogwyddo at gael Mr. Lake yn ol i Hyde Park eto yn mhen blwyddyn heu ddwy, ar ol iddo gael tipyn o orphwys a newid yr awyr gylch Youngstown acw.

Yr ydym wedi cael y fraint o weled a chlywed a theimlo Dwight L. Moody, yn Scranton; a gwledd ydoedd a gofir gan filoedd am eu hoes, ac i dragwyddoldeb, yn ddiameu. Dyn Duw yw y dyn

 

 


(delwedd E0599) (tudalen 190)

190 LLWYBEAU BYWYD.

yma yn ddiddadl, bobl anwyl. Credwyf y^bydd mynyddoedd tragwyddoldeb yn mhen miloedd o flynyddoedd yn adsain ei lais o Scranton i glustiau miloedd o waredigion yn y gwynfyd nef ol; ac hefyd yn nghlustiau y rhai a ddywedant mewn anobaith tragwyddol, “O! na wrandawsem ar lais Moody, gwas yr Arglwydd, rhag dyfod o honom i'r lle poenus hwn." “O! na wrandawsem ar lais ein hathrawon; paham y diystyrodd ein calon gerydd?" Am naw, boreu Sabboth, siaradodd yn hynod brofiadol ar” "Weithgarwch Cristionogol," gan wneyd pob crefyddwr yn ddiesgus am segurdod ac anffyddlondeb crefyddol. Am dri, pregeth i ferched, ar “Gariad Cristionogol," yn rhyfedd o effeithiol, pryd y cododd 70 ar eu traed i geisio ffordd y bywyd. Am 7.30, pregeth i ddynion oddiwrth y geiriau, “Canys pa beth bynag a hano dyn, hyny hefyd a fed efe." Bobl anwyl, synem wrth glywed gyda y fath eglurder y profai fod pawb, y drwg a'r da, yn medi yn sicr gynyrch cnwd helaeth o'r un natur a'r bad. Dangosai hyny yn cael ei gyflawni yn llythyrenol yn mywyd gorenon y ddaear, megys cyflog Abraham am wadu ei wraig; Isaac yn medi chwerwder a gofid am lawer o flynyddau am ddangos ffafraeth i Esau; Jacob drachefn yn cael medi o dwyll ei dad-yn-nghyfraith, fel cyflog am dwyllo ei dad er meddianu yr enedigaeth-fraint; Dafydd yn cael medi yn ei fywyd o'i holl bechodau, yn ei blant a'i deulu ei hun, o'r un nodweddion a'r pechodau a gyflawnai ef ei hun!

 

 


(delwedd E0600) (tudalen 191)

chwe' blynedd yn oruohwyliwr. 191

Bobl anwyl, dyna olygfa oedd gweled y gwynebau gwelw ac euog yn myned allan ar ddiwedd y bregeth hono, pan yr arosodd 117 o euogion yn ol, fel rhai yn ceisio bywyd. Dydd Llun, am 10, y pwnc oedd, “T modd i wneyd cyfarfodydd gweddio yn fwy atdyniadol;" ac yr oedd y sylwadau yn hynod o fuddiol. Am 11, ymdriniwyd ar, “Beth yn rhagor a ellir wneyd i'r rhai sydd yn cadw allan o? r capeli?" Dangosai Mr. Moody fod gyda ni fel crefyddwyr lawer i'w wneyd er enill y cyfrywtrwy garedigrwydd personol, a bod yn groesawus yn y capelau, gan ofaln bob amser fod y Ueoedd i ymgynull yn Ian, ac mor gysurus ag y byddo bosibl. Am 12, cyfarfod gweddi. Am 3, y cymwysderau angenrheidiol er bod yn gymwys i wneyd gwaith eglwysig yn deilwng a llwyddianns - siarad da ac argyhoeddiadol eto.

LLITH VIII,

TRI CYMERIAD HYNOD YN ARDAL BELLE VUE - EU NODAYEDDION.

Hyde Park, Pa., Ebrill 4, 1885. - Un gangen doreithiog y byddaf yn gwledda arni yn fy mynych. grwydriadau yw Cymeriadau Hynod; ond y mae y cysylltiadau yn ami mor gysegredig ac amrywiog, fel yr wyf yn arswydo rhag bod yn rhy feiddgar arno, gan nad yw pobl yn edrycb ar eu hynodion eu lmnain yn yr tin golenni ag yr edrycha eraill

 

 


(delwedd E0601) (tudalen 192)

192 LLWYBRAU BYWYD.

arnynt. Gan hyny, rhag gwneyd cam a neb, a rhag en tramgwyddo, bycldaf yn ymgadw bron yn hollol rhag gwneyd sylw cyhoeddus o nodweddion personol; ond er ceisio dangos cyfoeth y maes hwn, ceisiaf awgrynm at dri chymeriad hynod a gyfarfyddais y dydd o'r blaen o fewn can' Hath i'w gilydd yn yr ardal hon:

Y cyntaf yw Evan Lewis, y “Cawr Gwan," neu “Garibaldi," fel y gelwir ef weithiau, ac y mae yn llenwi yr enwau yna oil mewn rhyw ystyriaethau, a 11a wer mwy. Yr ail yw Dafydd Davies, Bellevne; a'r trydydd yw yr hynod Llewelyn Jenkins, o'r un he. Am y cyntaf, y mae yn hen bellach, o fewn pedair blynedd i bedwar ngain; ond y mae eto yn gryf o gorff a meddwl, ei lygaid yn fywiog a threiddgar, ac yn nofio mewn hoenusrwydd trydanol, a gellir tybied wrth edrych yn ei lygaid ei fod yn gweled trwom ar amrantiad. Ac y mae llygaid ei feddwl drachefn yn llawn mor fywiog a threiddgar ag yw llygaid y corff. Gall eich cyfeirio a bys ei feddwl at nodweddion personol beirdd a Uenorion pob oes a gwlad, yn ogystal ag areithwyr ac athronwyr mewn gwahanol oesau, fel pe baent yn eich ymyl. Y mae ei gof yn awr yn yr oedran mawr yna fel cyclopcedia cyffredinol. Gall fel bardd egluro cyfrinion y pedwar mesur ar hugain, a mantola y beirdd yn eu gwyneb gyda rhwyddineb; ac y mae yr nn mor gyfarwydd mewn cangenan eraill o lenyddiaeth pob oes. Y mae enwau a nodweddion prif wleidyddion y

 

 


(delwedd E0602) (tudalen 193)

chwe' blynedd yn obuchwyliwb. 193

gwledydd mewn gwahanol oesoedd fel A, B, C, ar ei gof a'i dal'od-leferydd; a gall chwareu seiniau duwinyddiaeth, a chydmaru egwyddorion prif bregethwyr y byd yn eu gwyneb, mor naturiol a hamddenol ag un pencerdd wrth chwareu ei delyn. Ond rhaid dyehwelyd o'r tiriogaethau yna, i wrandaw am rai inynydau ar hyawdledd Lewis a Dafydd Davies.

Pan oedd Lewis a minau yn mwynhau ein hunain wrth siarad am gynwys yr hen gyfrolau oedd o'n cwmpas, yn nghyda nodweddion eu hawdwyr, dyna Dafydd Davies yn dyfod i mewn, ac yn ymosod arnom ein clau jn ddifyr a hyawdl; ac un o'r pethau cyntaf gafodd ei sylw, oedd hen lancyddiaeth. Gadawaf i ddaiilenwyr y Drych ddyfalu beth a'i cymellai i areithio ar y fath destyn yn y iath le, a chyda'r fath gynulliad oedd ger ei fron; ^ phriodol yw dywedyd iddo trwy ei hyawdledd enyn y tan yn mynwes Mr. Lewis, fel ag yr oedd j lle yn boeth a chyfyng iawn i mi. Yn awr, er addysg i hen lanciau Cymreig y wlad, nodaf dri o'u prif resymau yn erbyn unigrwydd hen lancyddol. Meddai Davies, “Edrych ar Lewis a minau; dyma ni yn awr yn ein hen ddyddiau mor ddedwydd a breninoedd yn ein tai, a'r wraig oreu yn y wlad yn gweini arnaf fi, a'r ail oreu yn gweini ar Mr. Lewis." Ar y gair, dyma Lewis yn tori ar ei draws, fel y canlyn: “William, yr wyf yn cydsynio a'r oil a ddywedi ond un sylw; nis gallaf gredu fod ei wraig ef yn rhagori ar fy anwylyd i;

 

 


(delwedd E0603) (tudalen 194)

194 LLWYBEAU BYWYD.

Mrs. Lewis yw yr oreu ag wyf wedi weled yn fy mywyd, ac y mae Mrs. Davies yn ail iddi; fel y gall Dafydd Davies a finan unrhyw ddiwrnod orchymyn y moethan goreu a fedd y wlad i'n tai, er ein dedwyddoli yn ein hen ddyddiau; a thyna i ti, William, ddau reswm cryf a chymelliadol dros i ti briodi gwraig; ac os nad yw Mrs. Lewis a Mrs. Davies yn ddigon cymelliadol i'th argyhoeddi i fod yn gall, mi a roddaf i ti eto nn rheswm bygythiadol, a thyma f o, Llywelyn Jenkins! edryeh arno, dyna dy dynged, onid edifarhei di, a brysio am dy fywyd." Gwarchod pawb! Rhaid fy mod yn wargaled iawn, os nad yw y tri rheswm yn gallu fy argyhoeddi!

Wedi hyny, aethym i edryeh am y trydydd rheswm, a chymerodd yr ymddyddan canlynol le rhyngom: “Pa fodd yr ydych yn teimlo heddyw, Mr. Jenkins:" “Tlawd a balch; y mae yn berwi yn gyson, y mae fel swn tren yn myned dros bont ddi-ben-draw - (y swn yn ei ben sydd yn ei boeni er's blynyddau). Yr wyf wedi clywed yn ddiweddar fod fy hen gyfeillion tua Dodgeville, Wis., wedi clywed fy mod wedi marw, a charwn i ti ddweyd gair wrthynt trwy y DrycJi fy mod eto yn fyw, er fy mod wedi marw ddwy neu dair gwaith yn ol dywediadau cyfeillion." “Faint yw eich oed, Mr. Jenkins?" "Yr wyf yn saith deg ac un o flynyddoedd." “Pa le y'ch ganwyd?" “Yn Blaenafon, Sir Fynwy, Deheudir Cymru, ond magwyd fi yn benaf yn Nantyglo; a phan yn 22ain oed, daethym

 

 


(delwedd E0604) (tudalen 195)

CHWE' ELYNEDD YNrOEUCHWYLIWE. 195

i Five Points, ger Pottsville, ac yn 1845 aetbym i waitb mwn plwm Dodgeville, Wis., ac yn 1852 aethym i California, a dycbwelais i Pennsylvania yn 1860." “Paham na baech wedi priodi, Mr. Jenkins?" "Am i mi golli fy iechyd, ac nad ystyriwn yn iawn i mi briodi wedi hyny; ond yr wyf wedi edifarbau filoedd o weitbiau na buaswn wedi priodi cyn byny. Cyngoraf di i briodi, William, mor gynted ag y gelli. Edrycb ar fy unigrwydd digysur. Byddaf yn debyg o farw yn y fan bon ryw ddiwrnod beb neb i ddal fy mhen, na dywedyd wrtbyf air o gysur."

Pe treuliai llawer un baner diwrnod yn mwtbyn Llewelyn Jenkins, i edrycb ar y golygfeydd, a gwrandaw ar deimladau a pbrofiad Mr. Jenkins yn ngwyneb drygau cymdeitbasol a cbrefyddol, yn ngbyda gwynfydau a gwaeau ben lancyddol, credaf yr ymadewid mewn argyhoeddiad fod Llewelyn Jenkins yn un o'r cymeriadau hynotaf a welsant yn en boes. Un o'r petbau cyntaf a dyn eicb sylw ar ol myned i fewn, fydd arluniau o bersonau bynod yn mbhtb llenorion a pbregetbwyr y gwabanol wledydd ac oesau, y rbai a welir yn crogi o gwmpas yr ystafell; ac wrtb boli Mr. Jenkins am j cymeriadau a bortreiedir yn yr arluniau, argyboeddir cbwi ei fod ef, fel Evan Lewis, yn feddyliwr mawr, a'i fod yn feirniad llym ac awdurdodol ar feirdd a cberddorion, ac atbronwyr a pbregetbwyr, ar fyd ac eglwys, drwg a da, duwiol ac annuwiol, ben ac ieuanc, ac argyboeddir cbwi yn fuan

 

 


(delwedd E0605) (tudalen 196)

196 LLWYBRAU BYWYD.

fod ei safon foesol a chrefyddol yn uchel a manwl, yn ol y sect fanylaf, a byddwch yn debyg o ddywedyd ynoch eich hunain wrth gefnu arno - "A phwy a ddichon sefyll?" Ond dyna, rhaid terfynu gyda dywedyd yn iaith brenines y Dean, “Ni fynegwyd mo'r haner” am fawredd a hynodion y tri wyr hyn.

LLITH IX.

TYWYSOGION YN SEION WEDI CWYMPO. - MEWN CYFABFOD DOSBABTH.

Sib Nobthampton, Pa., Medi 3, 1885. - Gaii fod y Drych yn hed ffyddlon i ddangos ei wrthrychan i'r byd megys y maent, gallai y bydd ij ngwael bethan i o leiaf yn fanteisiol i fod yn gyferbyniol i ohebiaethau rhagorach yn yr arddangosfa; canys yn ymyl y gwael y mae yn hawddaf gweled rhagoriaethan cynyrchion gwir athrylith. Pe bawn yn un o feibion athrylith, byddai yn hyfrydwch genyf ddyddori darllenwyr y Drych a chynyrchion amrywiol, mewn canlyniad i arsylliadau oddiar gopaau amrywiol fynyddau athrylith. Yr wyf wedi gweled a chlywed llawer er pan ysgrifenais o'r blaen, pe bawn yn medru dethol yn gyfaddas dywysenau rhagorol at eich gwasanaeth. Yr wyf wedi bod mor uchel ag y gallwn i geisio arsyllu ar haul bywyd U. S. Grant yn machludo, ac yr oeddwn yn cyfranogi o'r galar ar ei ol, ac o'r parch a'r

 

 


(delwedd E0606) (tudalen 197)

chwe' blynedd yn oruchwyliwe. 197

anrhydedd a delicl iddo gan y byd, fel dyn mawr mewn athrylith a ffyddlondeb yn ngwasanaeth ei wlad. Gwelwn hefyd o ben un o'r mynyddoedd uchel, haul bywyd un o dywysogion Seion yn machlud yn ngwlad fy nhadau. Cyffyrddodd y newydd hwn fy nheimladau, nid yn unig oblegid y golled ar ei ol i'r cyfundeb Methodistaidd, ond hefyd am fy mod i ac yntau wedi cael ein magu yn yr un ardal, a bod son am ei gladdedigaeth yn Closygraig, yn adgyfodi yn fyw i'm cof olygfeydd swynol mebyd ac ieuenctyd. Ac un o'r argraffiadau hyny oedd gweled y Parch. John Harries Jones, M. A., Ph. D., yn myned i ffwrdd i'r ysgol, wedi bod ar ymweliad a Chlosygraig a thy ei dad; ac y mae ei edrychiad hwnw o'i eiddo arnaf yn fyw yn fy meddwl yn awr mewn gwlad mor bell, ar ol tua 40 mlynedd o argraffiadau newyddion yn yr un meddwl. Rhyfeddol yw argraffiadau y meddwl dynol, onide? Ond dyna, y mae John Harries Jones ac U. S. Grant wedi myned at yr orsedd fawr i gael eu barnu fel dynion ar wahan i bob teitlau daearol. Oddieithr eu bod wedi meddianu y “gareg wen, a'r enw newydd" wedi ei ysgrifenu arni a u gwaed yr Oen," bydd yn dragwyddol druenus arnynt, oblegid dyna yr unig deitl a wna basio marwohon y ddaear i wynfyd y nefoedd.

Dyna eto un arall o dywysogion Seion wedi myned ar ol y ddau flaenaf, i sefyll o flaen yr un fainc i gael ei farnu fel hwythau, sef y Parch. Edward J. Hughes, West Bangor. Perthyn i'r ddae-

 

 


(delwedd E0607) (tudalen 198)

198 LLWYBRAU BYWYD.

ar y mae ei deitl yntau, er cystal ydyw. Pa fodd bynag am ddirgelion y byd ysbrydol, y mae yn eglur ein bod ni, fel cyfundeb Methodistaidd yn Nhalaeth Pennsylvania, yn teimlo colled fawr ar ol un mor ffyddlon o'n plith; ond tebyg fod eglwys West Bangor yn teimlo y golled yn fwy, oblegid agosach perthynas. Ei anwyl deulu gafodd golled anadferadwy; ond y mae yn gysur mawr i'r holl alarwyr fod Barnwr y gweddwon a Thad yr amddifaid eto yn fyw. Tr oeddwn y Sadwrn a'r Sabboth. diweddaf yn Nghyfarfod Dosbarth. Deheuol Pa., yn Danielsville, a theimlid y golled yn fawr gan y cyfarfod am golli y ffyddlawn Hughes o'r dosbarth eiddil a gwan.

Gan i mi son am y Cyfarfod Dosbarth yn Danielsville, fe allai y dylwn roddi crynodeb byr o'i weithrediadau, ar yr amod i ddarllenwyr y Drych beidio pechu trwy “ddiystyru dydd y pethau bychain." Dechreuwyd y cyfarfodydd nos Wener, Awst 14eg. Tn bresenol nid oedd ond y Parchn. B.. F. Jones, Hyde Park, ac Ellis W. Jones, Shenandoah; a'r diacon, John "W. Morris, Slatington; ac aelodan eglwys Danielsville, a'r ysgrif enydd; felly gwelwch fod gwendid oduy ddaear yn y Cyfarfod Dosbarth hwn, ond nis gwelais i yr un arwydd o wendid o du y nefoedd yn un o'r cyfarfodydd. Yn y cyfarfod cyntaf, etholwyd gan yr eglwys yn unfrydol yr hen Gristion, Hugh Boberts, i fod yn gyd-flaenor a'r ffyddlawn John J. Williams. Yn y cyfarfod dydd Sadwrn, dechreu-

 

 


(delwedd E0608) (tudalen 199)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 199

wyd gan John W. Morris; yna etholwyd yn llywydd achlysurol y Parch. R. F. Jones. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod o'r blaen gan yr ysgrifenydd, y Parch. Ellis Walter Jones; yna sylwyd ar wendid y dosbarth yn gyffredinol, ac mewn modd neillduol ar y ffaith nad oes ond un gweinidog ar hyn o bryd yn byw yn y dosbarth. Pasiwyd penderfyniadau o alar y dosbarth ar ol y diweddar Barch. E. J. Hughes, a rhoddwyd anogaeth i'r holl eglwysi drwy y dosbarth i osod arwyddion o alar ar eu pwlpudau am dri mis. Hefyd, gorchymynwyd i'r ysgrifenydd anfon llythyran o gydyrndeimlad ag eglwys West Bangor, ac a'r teulu amddifad yn eu trallod a'u colled alarus. Penderfynwyd yn ychwanegol fyned a chais i'r gymanfa nesaf am benodi brawd cymwys i gyhoeddi cofiant i Mr. Hughes yn y Cyfaill; a dymunwyd ar y dosbarth uchaf benodi rhyw weinidog i bregethu pregeth ^ngladdol iddo yn y gymanfa nesaf. Penderfynwyd i'r Cyfarfod Dosbarth nesaf fod yn Miners yille, Hydref 16eg, y dydd o flaen y Gymanfa. Cafwyd seiat dda am haner awr wedi wyth bore Sabboth, pryd yr ymdriniwyd ar fater seiliedig ar y geiriau, u Bydd ffyddlawn hyd angeu, a mi a roddaf i ti goron y bywyd;" a chafwyd sylwadau da. Pregethwyd nOs Sadwrn gan y Parch. E. F. Jones ar Marc 8: 12, sef arwydd yn cael ei gwrthod i genedl wrthodedig. Am ddeg, bore Sabboth, pregethwyd yn gyntaf gan Ellis W. Jones, oddiwrth Zech. 9: 12, “Trowch i'r amddiffynfa, chwi

 

 


(delwedd E0609) (tudalen 200)

200 LLWYBRAU BYWYD.

garcharorion gobeithiol;" a chan y Parch. K. F. Jones oddiwrth Mat. 7: 21-24, “Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd," &c. Am ddau^ pregeth gan y Parch. E. F. Jones oddiwrth Luc 8: 38, 39, sef, am y cythreiilig o wlad y Gadareniaid. Am chwech, gan Ellis W. Jones, oddiwrth Col. 1: 20. Khy faith fyddai i mi geisio manylu; ond gallwn feddwl ein bod wedi cael pregethau da yn yr holl gyfarfodydd. Hynyna oddiwrth droed y Mynydd Glas.

LLITH X.

DAU ARDDANGOSIAD MAWR, SEF EIDDO Y GWAHARDDWYE A'R KNIGHTS TEMPLARS.

Hyde Park, Pa., Mai 28, 1886.- Y mae y byd yn symud yn anianyddol a moesol, ac am hyny y mae y golygfeydd symudol yn aneirif ac amrywiog,, fel y mae yn anhawdd gwneyd detholiad buddiol i'w gosod ar wyneb y DryeK er adlewyrchu i wyneb cymdeithas. Pa fodd bynag, galwn sylw yn gyntaf at amgylchiad o nodwedd genedlaethol. Prydnawn dydd Llun, Mai 24, cynaliodd Gwaharddwyr Scranton a'r cylchoedd Gynadledd yn yr Arcadian Rink, Hyde Park, er hyrwyddo y blaid Waharddol; ac am wyth o'r gloch yr un dydd, yn yr un adeilad, caf wyd darhth alluog a hyawdl gan Walter T. Mills, un o olygyddion y dydd, ar “Y Pleidiau Gwladol a phynciau cyhoeddus y gorph-

 

 


(delwedd E0610) (tudalen 201)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 201

enol a'r presenol," i glywedigaeth tna 1,500 o bobl Scranton a'r cylchoedd. Wrth ymdrin a phleidian gwladol, a gwleidyddwyr y gwahanol gyfnodan a chanrifoedd, credaf ei fod yn argyhoeddi ei wrandawyr en bod yn gwrandaw un mwy na chranc politicaidd, ac amlygent hyny trwy ami gymeradwyaeth o'r hyn a ddywedai. Wedi iddo ddyfod at bleidiau presenol y weriniaeth hon, gallwn feddwl ei fod yn Uwyddo i argyhoeddi y gynnlleidfa i gredn mai y blaid Waliarddol fydd y blaid lywodraethol, cyn pen nemawr o flynyddau, er difodi y fasnach feddwol oddiar gymeriad y genedl; canys codasant ddwylaw bron yn nnfrydol o gymeradwyaeth i'r syniad yna, tra nad oedd ond nn yn y fath gynnlleidfa fawr yn teinilo dr-os godi ei law clros gredn y byddai i'r blaid Werinol byth wneyd hyny. Yna aeth i anog y gynnlleidfa i ddangos en barn a'n teimlad yn y pwnc, trwy gyfrann arian er meithrin y blaid newydd, a chyfranwyd tna chan' dolar yn y fan, heb nn rhybndd blaenorol. Gallwn feddwl fod teimlad y gwyddfodolion yn addfed i gyfrann $1,000, oni bnasai fod arafwch gweithfaol yn en Unddias. Yn awr, yn ngwyneb hyn, ac arwyddion eraill trwy y wlad, o New York i California, ac o Maine i Texas, onid yw golygyddion a gohebwyr cefnogol i'r hen bleidian yn gweled eto nad oes yr arwyddion lleiaf fod erledigaeth na chynllwynion bradwrns yn llwyddianns i ladd y blaid Waharddol?

Dydd Mawrth, Mai 15, hefyd oedd ddiwrnod 14

 

 


(delwedd E0611) (tudalen 202)

202 LLWYBRAU BYWYD.

mawr yn ninas Scranton, am fod o bosibl y Gym
deithas Ddyngarol fwyaf henafol ac urddasol yn y

wlad, yn gorymdeithio heolydd ein dinas, sef

Knights Templars Pennsylvania, y rhai oeddynt

wedi dyfod o wahanol barthau y Dalaeth yn eu

gogoniant arddangosiadol i gynal eu cynadledd

flynyddol yn ein tref. Y mae yn wybyddus fod

Oymdeithas y Seiri Rhyddion (Free Masons) yn

un o'r cymdeithasau mwyaf henafol ac urddasol

yn y byd, a bod y Marchogion Temlyddol {Knights

Templars) yn cael eu gwneyd i fyny o etholedigion

o blith y Free Masons, felly gallwn gymeryd yn

ganiataol fod yr orymdaith yn un wir urddasol, am

ei bod yn gynwysedig o'r dinasyddion mwyaf dysg
edig ac athrylithgar, ac o ganlyniad, yn meddu

dylanwad mawr yn wladwriaethol, masnachol, a

chymdeithasol, yn Nhalaeth enwog William Penn.

Wrth edrych ar eu gorymdaith hardd a gorwych,

yr oeddwn yn edmygu yr olygfa; eto yr oeddwn

yn amheus pa un ai bendith ai melldith yw Cym
deithas o'r fath mewn gwlad werinol fel yr eiddom

ni, gan fy mod yn ei gweled o nodwedd tra aristo
crataidd. Ar yr olwg gyntaf , tueddid fi i ofni ei bod

yn beryglus i ddyfodol y wlad, am fod ei thuedd i

gasglu yn ormodol iddi ei hun athrylith a chyfoeth

y wlad, ac am fod llwyddiant o'r fath a thuedd yn
ddo i feithrin balchder hunanol, yr hyn sydd bob

amser yn felldith yn ei ddadblygiad mewn gwar
adwyddo eu hisraddolion. Ond gan mai Cristion
ogaeth yw sylfaen eu hegwyddorion, ac am eu bod

 

 


(delwedd E0612) (tudalen 203)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 203

yn ddinasyddion o Weriniaetk ag sydd yn sylfaenedig ar gydraddoldeb dinasyddol, credaf y bydd i'r cyfryw ffeithiau, yn nghyda'r niantoliad allanol, orchfygu yr ysbryd traws-arglwyddiaethol sydd yn nodweddiadol o'u safle gyradeithasol. Ac -yn ychwanegol at hyn, nis gall yr athrylith a'r ddysgeidiaeth sydd yn en meddiant, ddim llai nag ainddiffyn y hes cyffredinol, yn yr ymwybyddiaeth “Fod yr bwn sydd yn uwch na'r uwcbaf yn gwylied, a bod un sydd yn uwch. na hwynt" yn llywodraethu y byd; hyny yw, os bydd iddynt gadw eu hunain yn sobr, trwy yfed diod natur er disychedn eu hunain, fel yr oeddynt yn eu gorymdaith y dydd o'r blaen - oblegid dyna yw hanesiaeth y byd, onide? sef mai dan ddylanwad diodydd meddwol^ yn benaf, y niae doethion, a dysgedigion a chyfoethogion, a barnwyr, a llywodraetkwyr y ddaear wedi arfer gwyro barn a chj^fiawnder; ac fel ffrwyth. o hyn y raae y byd yn mhob oes a gwlad wedi medi melldith a dinystr. Bydded i'r Knights Templars gadw mewn cof , fod eu cyfrifoldeb yn gyf atebol i'w safle yn y byd moesol a chymdeithasol; a'u baneri a'u harwyddluniau fyddont yn arwyddo fod eu cymdeithas yn amcanu arwain dynolryw yn ol i lwybrau dedwyddwch, Na fydded eu cleddyfau crogedig yn arwyddluniau i'r byd fod y rhai sydd yn eu dwyn, yn penderfynu efelychu treiswyr gormesol y byd trwy rym nerth y cleddyf, ond bydded i'w cleddyf fod yn hytraeh yn arwyddluniol o gleddyf yr Ysbryd,

 

 


(delwedd E0613) (tudalen 204)

204 LLWYBKAU BYWYD.

sef Gair Duw, yr hwn sydd yn tori rhwng dynion a'u pechodau, ac nid rhwng dynion a'u gilydd. Bydded iddynt hwy a ninau, yn ngoleuni Hani mawr y Cyfiawnder, weled ein Uwybran yn eglur tnag i fyny, at f ensydd gwir ddedwyddwch; ac yn llewyrch hanl gwareiddiad Cristionogol, weled rhagor rhwng ser gwirioneddol y ffurfafen foesol a gwreichion tanllyd a thwyllodrus yr awyrgylch ddaearol, y rhai a ddysgleiriant am ychydig amser, ac yna a ddiflanant yn yr elfenan nwyol.

LLITH XI.

TAITH FBYSIOG YN MHLITH Y GWEITHFEYDD. - TBYDYDD AGOBIAD CAPEL Y T. C. YN HYDE PABK.

Hyde Pabk, Pa., Gorph. 26. - Tua phum wythnos yn ol aethym heibio i Gymry Miners Mills a'r eylchoedd, ar y ffordd i Gyfarfod Dosbarth y T. C. yn Plymouth, lle y cefais wledd i'r meddwl dan weinidogaeth y Parch. Thomas Eoberts, Oak Hill, ac eraill. Oddi yno cludwyd fi gyda chyflymdra y ceffyl tan i fyny ac i waered dros y mynyddoedd nes cyraedd Slatington; a chan f od y chwarelwyr yn bobl mor ddigrif o ddoniol, awn gydag awch i chwilio am danynt rhwng y coedydd a'r creigiau am ugeiniau o filltiroedd dan gysgod y Mynydd Glas, o Slatington i Slate Dale, ac i Steinsville Ellmynaidd; yna oddi yno i Danielsville, lle yr ymgollais drachefn yn ngwlad yr Ellmyn.^Wrth

 

 


(delwedd E0614) (tudalen 205)

chwe' blynedd yn oruchwyliwb. 205

fyned yn nilaen am Bangor, cefais fy hun drachefn yn mhlith pobl a ddeallent fy iaith, ac a adwaenent fy wyneb; ac ar ol mwynhau sirioldeb pobl y llechi yno am ryw wythnos, ymwelais a Chyniry Catasauqua, ac oddi yno aethym i yniweled a Chymry y glofeydd, gan ddechreu yn Lansford a Summit Hill; yna Coaldale, Bull's Run, Tamaqua, Pottsyille, Minersville, St. Clair, Mahanoy City, Girardville, Ashland, Sharaokin, Mount Carmel, Shenandoah City, Audenried, Danyille, Hazleton, Weatherby, Drifton, Freeland, Upper Lehigh, a Warrior Run. Tn awr, wele fi ar ol pum' wythnos o grwydro, a gwledda ar garedigrwydd miloedd o'm cydgenedl, wedi cyraedd adref . Wedi y cwbl, hyd yn nod i hen lane digartref, “There is no place like homer” Home, sweet home /" Yr oeddwn am ddyfod adref erbyn ddoe, am fod capel y T. C. yn Hyde Park i gael ei gysegru am y drydedd waith i enw Arglwydd y lluoedd, ar ol cael ei adnewyddu a'i harddu unwaith yn rhagor, dan olygiaeth canmoladwy Mr. Wm. R. Wilhams; a diameu fod y capel yn harddach y tro hwn nag y bu erioecl. Pe buasai y gwaith wedi costio tair mil o ddoleri, nid wyf yn meddwl y buasai pobl ddeallus yn tybied ei fod wedi costio gormod; ond er clod i Mr. Williams a'r rhai a gydweithient dano, nid yw yr holl draul ond dwy fil! Ac yn y fan hon, gweddus yw cydnabod mai i Mr. Richard F. Jones ein gweinidog y mae mwyaf o glod am yr adnewyddiad hardd presenol. Nid yn unig y

 

 


(delwedd E0615) (tudalen 206)

206 LLWYBBAU BYWYD.

mae wedi dadleu i fuddugoliaeth y cyfnewidiadau a'r adnewyddiad, ond y mae ef trwy gymorth yr Anrh. Thomas Phillips, wedi casglu dros $1100 yn ystod yr wyth mis diweddaf , fel nad oedd yn aros o ddyled ar yr eglwys ar ddydd yr agoriad i'w talu yn y dyfodol ond $1230. Yr ydym yn bwriadu tain rhai canoedd o honynt o hyn i ddiwedd y flwyddyn, a hyny heb wneyd ty yr Arglwydd yn dy ffair na marchnad, heb hap-chwareu, na chystadlenaeth wrth-Gristionogol o'r hyn lleiaf . Dyna yw gweddi a dymuniad y tlawd hwn, gan fy mod yn credn fod yr Arglwydd yn dysgwyl i'w blant adeiladu ac adgyweirio tai i'w enw ef ar yr un egwyddor ag y mae dynion, sydd yn feddianol ar hunan barch ac anrhydedd cymdeithasol, yn adeiladu a harddu eu tai en hunain, sef ar eu traul eu hunain, ac yn gyfatebol i'w hadnoddau personoL Yr wyf yn credu er's llawer o flynyddoedd, na ddylai eglwys fyned i unrhyw dranl na bydd yn gweled ei ffordd yn glir i'w thalu, a hyny trwy offrymau gwirfoddol, ac nas gellir cyfiawnhau myned oddi cartref i gasglu at gapelau ond mewn amgylchiadau neillduol, megys yr anffawd a'm gwthiodd i ar draws y wlad i gardota flynyddau yn ol. Yr oedd fy nghydwybod i mor effro y pryd hwnw, fel yr oeddwn yn benderfynol o fyned adref mor fuan ag y cawn y ddyled i lawr i ryw $4000 neu $5000, am y credwn y dylasem ni fel eglwys gartrefol fod yn alluog i dalu y gweddill, yr hyn a wnaed. Y mae y ddyled wedi ei thalu, er nid yn

 

 


(delwedd E0616) (tudalen 207)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 207

hollol ar yr egwyddor ag yr wyf fi bob amser yn dadleu drosti; eto “da yw yr halen."

LLITH XII.

AR YR OLWYNION - CYMRY JOHNSTOWN, EU CAPELI a'u GWEINIDOGION.

Johnstown, Pa., Awst 26, 1886.- Gan fod y byd a'i gyflawnder yn synmd yn barhans, rhaid i ninau synmd yn en plith; felly dydd Gwener, Awst 13eg, synmdwyd fi gan yr elfenan o Scranton a thrwy Wilkesbarre i lawr ar hyd glan dwyreiniol afon a dyffryn y Susqnehanna, trwy ganol golygfeydd swynol ac amrywiog, nes croesi yr afon o'r tu dean i Snnbury, gan gael fy nghlndo trwy ddyftryn prydferth rhwng y mynyddoedd, nes cyraedd Lewistown, ar brif linell y Penn. R. E. Oddiyno clndwyd fi ar i fyny rhwng y brynian, ac ar hyd a hed llethran mynydd yr Allegheny, ac yna dros ei gopa ac i waered ar byd ei llechweddan gorllewinol, a tlma haner awr wedi naw yn yr hwyr gadawyd fi wrth ei gesail, roewn lle a elwir Johnstown. Wedi cael noson o orphwys, aethym allan i chwilio am y Cymry, a phwy a gwrddais gyntaf ond y bardd-bregethwr D. C. Phillips (Celyddon), a rhaid oedd i mi gefnn ar y gw^esty a myned i aros gydag ef tra yn y dref, a chefais yr un croesaw gan Mrs. Phillips, yr hon oedd yn gwella yn dda ar ol ei chlefyd diweddar. Trenliais dri diwrnod dedwydd yn en cymdeithas.

 

 


(delwedd E0617) (tudalen 208)

208 LLWYBEAU BYWYD.

Un o'r pethau cyntaf y sylwais arno yma oedd, fod capel y Trefnyddion Calfinaidd yn cael ei adgyweirio. Y mae capel yr Annibynwyr wedi ei adgyweirio yn hardd, a boreu Sabboth, AwstlSfed, cafwyd y bregefch agoriadol gan y Parch. E. W. Jones, D. D., gweinidog yr eglwys, oddiwrth Luc 10: 5: “Tangnefedd i'r ty hwn." Khoddodd rai cyngorion gwir deilwng i'r eglwys a'r gynulleidfa mewn perthynas i barchu ac addoli yn nhy Dduw. Nos Sabboth cawsom bregeth dda, efengylaidd a barddonol, gan Dr. Cefni Parry, oddiwrth Luc 20: 35, 36, sef am y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael rhan o'r adgyf odiad, fel na byddant farw niwy, &c. Teimlwn yn wledd i fy enaid glywed meddylddrychau y bardd am ogoniant y byd ysbrydol, a dyfodol gogoneddus y rhai a sancteiddiwyd. Hefyd, cefais y fraint o fwynhau cymdeithas Cadwgan Fardd a Celyddon, ac nid oes achos dweyd wrth y rhai a adwaenant y ddau, mai gwledd oedd eu cymdeithas.

Gallwn feddwlmai pobl dda yw Cymry Johnstown. Er nad ydynt yn lluosog iawn, eto y maent yn cadw gweinidogion o radd dda gan y tri enwad. Wele Dr. Jones yn cael ei gynal yn barchus gan eglwys yr Annibynwyr er ys tua phymtheg mlynedd. Ac wele eglwys y Trefnyddion Calfinaidd a'i gweinidog parchus, Mr. Phillips, yn cyd-fwynhau eu gilydd yn ddymunol er ys tuag wyth mlynedd. Ac wele eglwys y Bedyddwyr newydd sicrhau gwasanaeth y gweinidog enwog

 

 


(delwedd E0618) (tudalen 209)

chwe' blyxedd yx oruchwyliwr. 209

Dr. Cefni Parry, yr hwn sydd wedi dyfod i aros yn ngwasanaeth yr eglwys, er ei bod yn hed wan I wneyd cyflog teilwng iddo. Gallwn feddwl fod cyfartaledd da o Gyinry y dref yn fasnachwyr llwyddianus, ac y mae y Cymry gweithiol hefyd yn gofalu am gynildeb, etc., fel y cydmarant yn dda a'r Cymry mewn lleoedd eraill o ran amgylchiadau bydol. Buasai yn ddymnnol gwneyd sylwadau mwy person ol ar nodweddion Cymry y dref, ond rhaid ymatal y tro hwn. Gan fy mod wedi cael fy nghynyrfu gan ysbryd ac iaith farddonol Celyddon, ac wedi bod yn cysgn jn yr nn ystafell a chadeiriau barddol y cadeirfardd, dylwn o hyn allan fod wedi fy ysbrydoli gan ysbryd can a barddoniaeth; ond rhag i'r bechgyn chwerthin gormod, cadwaf fy mardcloniaeth hyd ryw dro eto.

LLITH XIII.

YX PITTSBURG - XWY XATURIOL - YR ACHOSIOX CREFYDDOIx - GWAHARDuIAETH.

Pittsburg, Pa., Mech 1, 1886. - Ar ol cefnu ar Johnstown, telais ymweliad brysiog a Chymry Braddock a Homestead; yna daethym i “Ddinas y Mwg." Un o'r pethau cyntaf a dynodd fy sylw yma oedd, nad yw Pittsburg haner mor fyglyd, a brwnt a thywyll ag yr arferai fod; a'r achos o'r cyfnewidiad ydyw, fod y nwy naturiol wedi cymeryd lle y miliynau tnnelli glo a losgid o'r blaen yn nghanoedd gweithiau amrywiol y ddinas. Mae

 

 


(delwedd E0619) (tudalen 210)

210 LLWYBRAU BYWYD.

hyn wedi gwneyd chwyldroad anhygoel yn y ddinas ac yn Allegheny City, mewn amryw ystyriaethau. Mae y cwmwl ty wyll a du a orchuddiai y fro wedi ei ddifodi o'r bron; a chan nad oes un bwsiel o lo yn cael ei ddifa yn awr, He yr oedd miliynau yn cael eu difa yn ddyddiol o'r blaen, mae y rhai a ddarparai y tanwydd ac a'i cludai yma wedi cael colledion mawrion. Eto, mae yr olygfa yn y melinau mawrion yma yn dra gwahanol i'r hyn a arferai fod. Mae y ceir glo, a'u dadlwythwyr, a'r tanwyr oil wedi eu colli. Y noson o'r blaen arweiniwyd fi gan gyfaill, i un o'r melinau mawrion, er gweled y modd yr oedd y nwy anweledig yn poethi a symud yr oil. lle yr oedd dwsin o ferwedyddion er cynyrchu ager i yru yr holl beirianau o'r blaen, yr oedd dau neu dri o danwyr yn angenrheidiol i gadw tan danynt; ond yn awr nid oes neb ond y peirianydd yn ffrwyno y gallu anweledig, yr hwn a gludir trwy bibell rhyw bedair modfedd o dryfesur. A dywedai y peirianydd, pe y rhoddai yr holl nwy a ddeuai trwy y bibell dan sylw i boethi y berwedyddion, y codid ager gweithiol oddiwrth y dwfr oer yn mhen pum' mynyd o amser. Y mae hynyna yn ymddangos yn anhygoel, heb weled a'r llygaid. Dangosodd i mi trwy dyllau cyfaddas a manteisiol, y gallu ag oedd ddigonol i gadw digon o ager i redeg y gwaith; yna gadawodd i'r oil a ddeuai trwy y bibell yn rhydd am haner mynyd, a dyna olygfa gyffrous, wrth edrych ar y fflam wynias-boeth yn rowlio yn rhyw

 

 


(delwedd E0620) (tudalen 211)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 211

lathen o drwch dan hyd a hed y berwedyddion mawrion! Ond y wedd fwyaf dynmnol ar hyn oil yw, rhadlonrwydd y tanwydd newydd, yr hyn sydd yn gosod y rhanbarth hwn mewn gwell mantais i gystadln a rhanbarthau eraill, gan sicrhau cynydd a llwyddiant masnachol yn fwy nag erioed yn Pittsburg, os bydd i'r nwy barhau yn ei nerth presenol, yr hyn sydd yn dra annhebyg yn ol deddfau natur. Tebyg na fu masnach yn fwy bywiog er's llawer blwyddyn, os erioed, nag yn bresenol.

Y mae yma lawer o Gymry parchus a Uwyddianus, y rhai hefyd sydd' yn ymdrechgar mewn ystyr grefyddol, fel mewn Ueoedd eraill. Mae gan y tair eglwys Gymreig eu gweinidogion, nid anenwog. Dyna y Parch. T. C. Davies mor anw r yl gan ei frodyr a'i chwiorydd yn awr, ar ol rhyw ddeunaw mlynedd o lafurio yn eu plith, a phan ddaeth yma ar y cyntaf i'w gwasanaethu, yr hyn sydd dipyn yn rhyfedd genyf, gan ei fod hefyd yn rhoi cymaint o'i sylw a'i lafur mewn pethan cyffredinol yr enwad Methodistaidd, megys y Genadaeth Gartrefol, fel Ysgrifenydd o'r dechreuad, &c. Ac nid annyddorol yw sylwi, er ei fod yn un o'r gweinidogion mwyaf llafurus gyda phethau teyrnas nefoedd, ei fod hefyd yn gwneyd llawer er cynorthwyo y ddaear i roddi ei ffrwyth. Y mae yn byw ryw wyth milldir allan o'r ddinas, mewn lle a elwir Idlewood, ar dair erw o dir, yr hwn a lafurir ganddo yn y fath dclnll celfyddydol, fel nad yw yn

 

 


(delwedd E0621) (tudalen 212)

212 LLWYBRAU BYWYD.

hawdd gweled llanerch mor gynyrchiol. Aethym gydag ef aclref un noson, a bore dranoeth cyn cy<?hwyn i'r Cyfarfod Dosbarth, mynai fyned allan i osod had ail gnwd mewn darn o'i ardd. Y mae hefyd yn Uwyddianus iawn mewn cynyrchu mel oddiwrth ei wenyn; dywed iddo gael haner tunell ^o fel oddiwrthynt yr haf hwn!

Y mae Dr. Thomas, gweinidog yr Annibynwyr, hefyd, wedi bod yn ddigon call i adeiladu ty ar yr un bryn a Mr. Davies, ond nid wyf wedi cael lle i farnu fod y Doctor yn tain fawr o sylw i drin y ddaear. Pa fodd bynag, dywedir i mi ei fod yntan yn Uwyddianus yn maes ei lafur fel pregethwr a bugail, ac y mae ganddo at ei wasanaeth gapel newydd hardd. Mae gan y Bedyddwyr hefyd gapel hardd wedi ei adeiladu y flwyddyn o'r blaen, a'r Parch. D. Ehoslyn Dayies yn gweinidogaethu ynddo. Ac heblaw y tair eglwys a nodwyd, mae gan yr Annibynwyr gapel ac eglwys ar y South Side, a chynelir math o foddion undebol yn Wood's Run yn achlysurol, yn gystal ag yn Soho, dan nawdd y T. C. yn benaf . Wrth gwrs, bum yn swyddfa y Wasg, He y dangoswycl sirioldeb i mi gan y golygydd Daniels a'r trefnydd Davies. Diau fod llafur diorphwys Mr. a Mrs. Daniels trwy y blynyddoedd yn haeddu gwell cydnabyddiaeth nag y maent yn gael.

Caraswn wneyd nodiadau personol am lawer o Gymry teilwng Pittsburg, oni bae fod yr ysgrif yn ^ueddu at feithder eisoes. Ond teimlaf yn ddyl-

 

 


(delwedd E0622) (tudalen 213)

chwe' blynedd yn obuchwthwr. 213

edswydd neillduol i wneyd sylw o'r Gynideithas Ddirwestol perthynol i'r T. C, yr hon sydd*dan lywyddiaeth John W. Jones, yr Ynad Heddwch Cymreig. Cynaliant gyfarfodydd cyhoeddus ar nos Sabbothau yn ami, a thrwy hyny y mae ganddynt amryw o areithwyr addawol yn mhlith pobl ieuainc yr eglwys. Dylai cynideithas o'r fath fod yn boll eglwysi y wlad, er egwyddori ac arfer y bobl ienanc i fywyd o ddefnyddioldeb. Y mae y cyfaill Jobn Lucas o Philadelphia wedi dyfod i Pittsburg, gyda'r amcan o ddiogelu bywydau pobl. Gobeithio y llwydda i wneyd hyny.

Bum yn y carchar ddoe am y waith gyntaf, a gobeithio am y tro diweddaf hefyd, rhag ofn na fydd mor hawdd dyfod allan y tro nesaf . Carchardy newydd ydoedd, yr hwn sydd heb gael ei halogi eto gan droseddwyr condemniedig y ddinas a'r cylchoedd. Digon tebyg fod llawer penod cldu i gael ei hesbonio o fewn ei furiau cedyrn yn y dyfodol, ae y bydd muriau ei gelloedd tywyll yn adsain anobaith oddiwrth wylofain a rhincian danedd y rhai fyddant wedi cael eu gyru gan eu drygioni o fwjmhad o oleuni rhyddid i gaethiwed tywyllwch a chysgod angeu. Aethym oddi yno i'r Uythyrdy, mewn dysgwyliad am y Voice, er gweled pa fodd y mae y blaid Waharddol yn llwyddo, sef y blaid, fel y credwyf, a godwyd gan Dduw i ddif odi y fasnach uffernol sydd yn gwneyd mwyaf er cymwyso dynion i garcharau daearol ac ysbrydol, ac i drueni amserol a thragwyddol; ond cefais fy

 

 


(delwedd E0623) (tudalen 214)

214 LLWYBRAU BYWYD.

siomi yn ij nysgwyliad am y tri rhifyn diweddaf o'r papyr. Cwynais wrth y postfeistr, yr hwn a ymddygodd yn deilwng o'i swydd, ond a fethodd eu cael. Sicrhai iddynt fyned ar goll cyn cyraedd Pittsburg. Bu ychydig o ymgom rhyngom yn nghylch y blaid Waharddol; cydolygai a mi fod y blaid i gynyddu, ac y byddai yn sicr o gael adgyfnerthiad mawr o'r blaid Ddemocrataidd yn ogystal a'r blaid Werinol.

LLITH XIV.

PITTSBURG I NEWARK A CHICAGO. - DYEITHRIAID GYMRU MEWN CYFARFOD PREGETHU.

Chicago, Medi 13, 1886. - Wedi gwrando preg«eth yn Pittsburg gan y Parch. Hugh Jones, Liverpool, ar y testyn, “Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn euro," cychwynais dranoeth am Zanesville, Ohio; ac ar ol aros noson yno er gweled y Cymry, cymerwyd fi ymaith i Newark, He y cefais ychydig o gymdeithas y Parch. D. Jewett Davies, Mr. Daniel Thomas, Goruchwyliwr y Drych, a'r hen batriareh Robert Owens. Disgynais yn nesaf yn Chicago, gan fyned i orphwys i gartref cysurus y fforddolion, 8 Eldridge Court, dan nawdd Mr. a Mrs. Davies (Mrs, Mathews, gynt), un o'r lleoedd mwyaf dymunol yn y ddinas i deithwyr Cymreig letya. Y mae y teulu hwn am ymneillduo oddiwrth ofalon bydol, mor fuan ag y gallant werthu

 

 


(delwedd E0624) (tudalen 215)

chwe' elynedd yn oeuchwyliwr. 215

allan; a gallwn feddwl fod yma fantais neillduol i barti priodol i wneyd yn dda. Y mae Chicago yn ddinas ryfeddol o ran ei chynydd; a hawdd canfod fod dyfodol mawreddog a gogoneddus o'i blaen, yn faterol, niasnachol, a chymdeithasol, oddigerth i ryw anffawd annaturiol, neu esgeulusdod moesol ei harwain i Imnan-ddinystr.

Tra yn y ddinas fawr, cefais y pleser o fod yn bresenol mewn cyfarfod pregethu yn nghapel y T. C. Nos Sadwrn, Medi lleg, pregethodd y Parch. Evan Jones, Pentrecelyn, G. C, oddiar Job 21: 15, a Ps. 73: 28, sef pregeth dda ar y buddioldeb o weddio. Am ddeg bore Sabboth, pregethodd y Parch. Thos. Roberts, Oak Hill, 0., oddiar Tit. 2: 11-13, ac ar ei ol y Parch. Hugh Jones, Liverpool, oddiar loan 14: 23. Am ddau, y Parch. Evan Jones, oddiar y Psalm gyntaf, a'r Parch. T. Roberts, oddiar Mat. 25: 10. Am saith, y Parch. Evan Jones, oddiar Luc 6: 47, 48, ac yn olaf , y Parch. Hugh Jones, oddiar Dat. 3: 26. Yr oedd yr holl bregethu a'r canu yn dda, a'r capel yn 11a wn o wrandawyr astud. Arweiniwyd y canu gan y cerddor siriol a charedig, John P. Jones; hefyd yr oedd yn foddhad mawr i mi weled Ap Mawrth yn ei ymyl dan y pwlpud. Y wledd olaf a gefais oyn ymadael am Milwaukee, oedd y cyngerdd yn nhy Ap Mawrth, pryd y canai ef a'i briod a'i ddwy ferch fechan, yn nghyd a'i chwaer-yn-nghyfraith, yn hynod swynol a theimladol. Yr oedd y canu yn cael ei gymysgu a dagrau hiraeth ar ol yr eneth

 

 


(delwedd E0625) (tudalen 216)

216 LLWYBRAU BYWYD.

oedd newydd eu gadael, er uno a'r cyngerdd mawr yn y teuln nefol. Diau y bydd yn dda gan ganoedd o gyfeillion Ap Mawrth glywed ei fod yn edrych yn dda, a'i fod dan gyflog yn un o'r egIwysi mwyaf cyfoethog yn Chicago.

Gallaf ddweyd fod capel y T. C. yn Chicago wedi gwella llawer yn ddiweddar, yn ei ymddangosiad a'i ddefnyddioldeb; ac y mae yr eglwys yn adeiladu ty hardd i'w gweinidog yn ymyl y capel. Gobeithio y ca en llwyddianus fugail (Dr. Harries) adferiad iechyd yn fuan i fwynhau y ty newydd, yn ogystal a'i lafur yn ngwinllan ei Arglwydd am lawer o flynyddau eto.

LLITH XV.

YN NGHYMANFA GYFFREDINOL MILWAUKEE - YN WAUKESHA, WATERTOWN, COLUMBUS, &C.

Columbus, Wis., Hydref 12. - Er pan ysgrifenais o'r blaen, bum yn Nghymanfa Gyffredinol y T. C. yn Milwaukee, hanes yr hon a ymddangosodd yn y Drych. Yr oedd Cymanfa y T. C. yn Pennsylvania wedi fy anfon yno fel eu cynrychiolydd; a gallaf ddweyd fy mod yn ystyried hyny yn gryn anrhydedd. Cyfarfuais yno ag ngeiniau o gyfeillion o wahanol barthau, y rhai a'm hadwaenent f el y “Cardotyn." Md oeddwn wedi sylweddoli o'r blaen fy mod agos mor boblogaidd. I'r Arglwydd y byddo y diolch am ddigon o ras i beidio ymchwyddo er niwed i mi fy Iran. Aeth y Gym-

 

 


(delwedd E0626) (tudalen 217)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 217

anfa Gyffredinol heibio, a'r cynrychiolwyr i'w cartrefleoedd, fel erbyn heddyw y mae miloedd o filldiroedd rhwng rhai o honom a'n gilydd, heb lawer o obaith cael cyfarfod mwy, “hyd oni chyfarfyddom oil" yn y Gymanfa fawr fry, He ni bydd ymadael mwy:

Yn mlaen y mae amssr yn cario

Preswylwyr y ddaear o'r bron? Fel nad ydwyf finau yn eithriad,

Rhaid nofio ar wyneb y don; Gwna amser ein cludo bawb drosodd,

Trwy holl amrywiaethau y byd, Pa un ai yn ddoeth ai'n ynfydion,

! cofiwn ffyddlondeb o hyd.

Ar ol y Gymanfa fawr cefais fwynhau Cyfarfod Dosbarth Bethesda, Wankesba; yna aethym yn hed fanwl trwy yr ardal bono. Yn Genesee Depot aethym heibio y ty He y croesawyd fi gynt fel “Cardotyn," gan Mr. a Mrs. Mason; ond “eu Ue nid edwyn ddim o honynt mwy," gan eu bod wedi ymfudo i'r wlad nefol, lle nad oes neb yn heneiddio nac yn marw. Wedi hyny heibio i'r He gynt y preswyliai y diweddar William Evans clair blynedd yn flaenorol i hyn, pan y bum y ffordd hono o'r blaen, ond sydd heddyw wedi cyraedd “Jerusalem y fangre lonydd." Bum yn treulio Sabboth yn nghymdeithas groesawus teulu Mr. John Roderick. Yn y boreu aethym i'r ysgol Sabbothol i Jerusalem, ond pell oedd y eyfryw o fod yr hyn y dylai fod. Am 2, cawsom bregeth gan y Parch. D. M. Jones, gan ei fod ef a'r Parch. R. H. Evans 15

 

 


(delwedd E0627) (tudalen 218)

218 LLWYBKAU BYWYD.

yn newid pwlpudau am y Sabboth. Testyn Jones oedd loan 12: 27, 28, ar ogoneddu y Tad a'r Mab; a phregeth dda ydoedd. Am 6, cawsom bregeth gan y Parch. H. P. Howell ar Col. 1: 14- “Trwy yr hwn y mae i ni brynedigaeth" - pregeth dda eto, ond teimlem ei bod yn darfod yn rhy fuan. Dydd Llun, Medi 27ain, bum yn swpera yn nhy Dr. Roberts, Bethania, a'i ddwy ferch siriol; a daeth y ffraethwr i'm hebrwng, gan fy mod am letya unwaith yn rhagor yn nhy Mr. Robert Williams. Yn ychwanegol at sirioldeb Mr. a Mrs. Williams a'r plant, a'r ddwy nain, Mrs. Williams a Mrs. Parch. Daniel Jenkins, cawsom gymdeithas y Parch. H. P. Howell, ac wrth gwrs bore dranoeth derbyniais ei fendith ef, gan fy mod i weithio er lledaenu cylchrediad y Cyfaill.

Ar fy nhaith tua Bark River, yn nhy ei dad-ynnghyfraith, Wm. James, cyfarfyddais a'm cyfaill D. H. Moses, yr hwn sydd yn ngwasanaeth cwmni bendithiol y Chicago, Milwaukee & St. Paul R. R.> swyddfa yr hwn sydd yn Scranton, er hyrwyddo ymfudiaeth o'r Dwyrain orlawn i diriogaethau breision y Gorllewin, megys Dakota. Ar ol ymweled a Chymry caredig Bark River, dychwelais i aros am noson mewn mwynhad o letygarwch y Parch. D. M. Jones a'i briod, ger Waterville, caredigrwydd y rhai a brofaswn o'r blaen tua phum' mlynedd yn ol, yn Floyd, N. Y., pan y gwisgwn y cymeriad “Cardotyn." Tranoeth ymwelais a Chymry caredig Wales a'r cylchoedd, ac yn eu

 

 


(delwedd E0628) (tudalen 219)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 219

plith j Parch. John Williams, a Mrs. Elias, yr hon sydd mewn galar dwys ar ol ei hanwyl ferch, yr hon a hunodd yn yr angeu er pan y bum yno o'r blaen. Wrth gwrs bum yn nghartref y Parch. R. H. Evans a'i deulu, a da genyf allu barnu ei fod ef yn parhau i osod perffeithrwydd yn nod i yniestyn ato. Nid boddhau cywreinrwydd ei wrandawwyr yw ei nod ef, eithr llafuria er eu hes gwirioneddol, yn bersonol, teuluol, cymdeithasol, gwladol a chrefyddol. Nid wyf yn gwybod am unrhyw weinidog yn ivrj ffyddlawn a chydwybodol er gwasanaethu ei Feistr a'i gydgreaduriaid, na Mr. Evans.

Oddiyno aethym o gwmpas y Cymry nes gjyaedd y ceredigion Riceiaid; ac ar ol cael ymgom gyda'r hen bobl, arweiniwyd fi gan George hyd at ei frawd James (Iago Ddu). Cafwyd noson lawen yn nghartref y bardd, ond tranoeth myned rhagof oedd yn yr arfaeth i mi; ac erbyn nos Sadwrn, Hydref 2il, cyraeddais ardal Seion, lle y gwahoddT\yd fi i fwynhau lletygarwch Mr. Thomas Thomas a'i briod, ger y llyn grisialaidd. Hefyd cefais Mr. D. Morris a'i deulu ac eraill yn garedig a chroesawus. Ar ol treulio Sabboth dymunol gyda phobl Seion, a rhyw naw diwrnod yn y sefydliad, a chael rhestr hed dda o dderbynwyr newyddion at y Drych a'r Cyfaill, troais fy ngwyneb tuag Ixonia, He y cymerwyd fi o gwmpas gan y Parch. John E. Jones; ac yn y fargen cefais y fraint o glywed y Parch. Hugh Jones, Liverpool, yn nghapel y T. C. Clywswn ef o'r blaen yn Pittsburg, ac wedi hyny

 

 


(delwedd E0629) (tudalen 220)

220 LLWYBEAU BYWYD.

yn Chicago, a thrachefn yn y Gymanfa Gyffredinol yn Milwaukee, ond teimlwn mai y bregeth olaf hon yn Ixonia oedd yr oreu o'r oil a glywais ganddo. Yr oedd ef a'i gyfaill Hughes yn teimlo yn llawen ar ol eu holl deithiati yn y Talaethau; a gallwn feddwl eu bod wedi cael eu boddhau yn y wlad.

Aethym rhag ij mlaen am Watertown, a derbyniwyd fi yn siriol a lletygar gan Mr. R. Jones (Bardd Gwyn) a'i deulu. Hebryngodd Mr. Jones fi o dy i dy i weled y Cymry, a chawsom amryw enwau at y CyfailL Yr oedd bron yr holl Gymry yn derbyn y Drych o'r blaen. Hefyd cefais y fraint o glywed amryw o gyfansoddiadau y bardd. Y mae efe wedi tori tipyn yn ystod y tair blynedd diweddaf, ar ol yr archoll o golli ei fab talentog ac addawol, T. C. Jones, yr hwn fu farw yn dra disymwth yn Mai, 1883, yn 31 mlwydd oed. Perchid ef yn fawr gan ddinasyddion Watertown a'r cylchoedd fel dinesydd a golygydd y Watertown Democrat, &c. O Watertown cyfeiriais tua Columbus yma, a chefais dderbyniad croesawus gan Uriah Davies, Ysw., ac eraill. Yn yr ardal amaethyddol rhwng Columbus a Beaver Dam gwelais John Griffiths, hen oruchwyliwr y Drych, yr hwn sydd yn wael ei iechyd. Cyraeddais erbyn nos Sadwrn, Hydref 9fed, i fwynhad o letygarwch Mr. Owen LI. Morris, He y gwahoddwyd fi i aros dros y Sabboth. Dywedodd wrthyf am ofyn i olygyddion y Drych, paham na baent yn cyhoeddi tipyn o

 

 


(delwedd E0630) (tudalen 221)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 221

hanes Bethesda a Cae-braich-cafn, Sir Gaernarfon, G. C, gan fod cyraaint o'r ardaloedd hyny yn America, fel ei hunan. Prydnawn Sabboth cefais y fraint o glywed y Parch. R. D. Williams, Columbus, yn nghapel Salem, oddiwrth Esa. 57; 17 - 19, sef y modd yr oedd yr Arglwydd yn ceryddu Israel am anwiredd ei gybydd-dod - pregeth ragorol a difrifol. Yn yr hwyr, yn Bethel, clywais bregeth alluog gan y Parch. John J. Roberts, oddiwrth Salm 118: 15 - “Atolwg Arglwydd, achub yn awr." Y mae ef a'r Parch. Daniel Thomas, Pine River, trwy awdurdod Cyfarfod Dosbarth, yr wythnosau hyn yn myned trwy eglwysi y Dosbarth i areithio o blaid y Gwaharddwyr; ac wrth deithio yn mhlith Cymry Wisconsin, gwelaf yn eglur eu bod am gymeryd rhan flaenllaw yn y diwygiad mawr gwaharddol.

LLITH XVI.

TRWY ANIAL-BARTHAU WISCONSIN - CYNYDD Y BLAID WAHARDDOL - GWRTHWYNEBIAD GWRAGEDD.

Randolph, Wis., Tach. 3, 1886.- Ar fy ffordd i Cambria, cefais y pleser o dreulio noson gyda Richard E. Owen. O herwydd gwlybaniaeth, ni arosais yn nghylchoedd Cambria y tro hwn, ond cyfeiriais fy wyneb tua Oshkosh, He yr arosais wythnos. Yna aethym trwy Ripon a Berhn; wedi hyny mewn cerbyd am 25 neu 30 o filltiroedd trwy

 

 


(delwedd E0631) (tudalen 222)

222 LLWYBRAU BYWYD.

y coed ai anialwch tywodlyd, yn nghanol gwlaw, i Wild Rose. Cefais y Cymry yno yn iach a ehroesawus, ond yn tueddu i gwyno oblegid methiant cynyrchion y flwyddyn hon, mewn canlyniad i sychder yr haf. Daliant eu profedigaeth, pa fodd bynag, fel Cristionogion, gan gredu fod Duw rhagluniaeth yn yinddwyn tuag atynt yn y ffordd ddoethaf.

Mae eglwysi y T. C. yn ardal y Wild Rose yn llewyrchus dan ofal y Parch. Daniel Thomas; ac nid wyf wedi gweled <dim arwyddion eu bod yn blino ar eu bugail, ond yn hytrach o'r ochr arall, y maent yn bobl ddigon call a deallus i weled fod eu gweinidog yn deilwng i'w anwylo a'i werthfawrogi. Siaradai hyd yn nod aelodau Gwerinol ei egIwys yn barchus am dano, er ei fod ef yn gweithio a'i holl egni dros y blaid Waharddol. Canmolent ei areithiau fel rhai o fewn ychydig i fod yn Waharddwyr; ac ymddengys i mi fod tua haner Cymry y sefydliad eisoes yn Waharddwyr cyflawn. Nos Iau, Hydref 28, clysvais araeth Seisnig alluog gan y Parch. Daniel Thomas, yn Spring Water, i gynulliad anrhydeddus, y rhai a wrandawent arno yn astud am ddwy awr; ond ar y diwedd cododd y Parch. Timothy Jones i ddweyd ei fod ef eto yn parhau yn Werinwr, a chan fod yr etholiad yn agos, y carai ef glywed rhai yn codi i ddadleu o blaid yr hen bleidiau; eithr nid oedd neb ond ef ei hunan yn teimlo i wrthwynebu syniadau Mr. Thomas. Ar yr un adeg yr oedd y Parch. John J.

 

 


(delwedd E0632) (tudalen 223)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 223

Roberts, Columbus, yn areithio yn Soar, capel y T. C, dros y blaicl Waharddol; a nos dranoeth, yn Caersalem, yr oedd y Parchn. John J. Eoberts a John Daniels yn sefyll i fyny dros yr un achos da, ac yn siarad mewn modd gryrnus ac argyhoeddiadol. Drachefn, cynaliai y W. C. T. U. en cynadledd sirol yn y Wild Rose, Hydref 29, 30; ac nid oes braidd achos dweyd eu bod hwy yn gefnogol i'r blaid Waharddol. Eto, Sabboth yr 31ain, cafwyd chwech o bregethan galluog i gapelaid o bobl yn Caersalem; felly rhwng pob peth gwelir nad yw pobl Wild Rose ar ol eu hoes. Yr wyf fi wedi gweled 11a wer o'r wlad; ond ymddengys y wlad o gwmpas Wild Rose yn un o'r rhanbarthau mwyaf diffaith yr olwg ami ag wyf wedi weled ar fy holl deithiau; ond o'r ochr arall, ymddengys i mi fod y bobl ar y blaen mewn rhinweddau cymdeithasol a chrefyddol, fel y teimlaf fod yr hen broffwydoliaeth ogoneddus hono yn cael ei gwirio: “A bydd i'r anialwch flodeuo fel rhosyn, a'r diffaethwch fel gardd yr Arglwydd."

Gadewais Wild Rose mewn graddau o hiraeth ar ol siriol wynebau fy nghydgenedl. Awd a fi am ryw bymtheg milltir gan y cymwynasgar Evan M. Owen, yn ei gerbyd, yn nghwmni y Parchn. John J. Roberts, Columbus, a John Daniels, Blaenycae, hyd Plainfield; ac oddi yno cymerwyd ni yn gyflymach gyda'r gerbydres trwy Portage i Cambria. Ar y ffordd i Portage Prairie gelwais yn nhy D. Williams, Tanybwlch, lle y gwelwn fod angeu wedi

 

 


(delwedd E0633) (tudalen 224)

224 LLWYBRAU BYWYD.

gwneyd bwlch er pan y buaswn yno o'r blaen, trwy symud Mrs. Williams i blith y meirw. Erbyn cyraedd preswylfod William Owen a'i deulu, bum bron metlm adnabod y he, gan en bod yn byw mewn palasdy newydd,. a adeiladwyd er pan brofaswn eu lletygarwch o'r blaen. Eithr y mae “ond” yma eto; er fod Mr. a Mrs. Owen yn byw mewn amgylchiadau cysurus, eto ymdaenodd cwmwl du dros y teulu yn ddiweddar, gan i un o'r meibion, W. H. Owen, yr hwn oedd mewn amgylchiadau llwyddianus ac anrhydeddus yn Winfred, Dakota, gael ei gymeryd ymaith gan angeu, Hydref 19eg, yn 38ain mlwydd oed. Dygwyd ei gorff i'w gladdn yn Portage Prairie, ardal ei febyd. Y dydd y cyraeddais yno, yr oedd Mr. Owen wedi gorfod myned i Dakota yr ail waith, er trefnu meddianau ei fab ymadawedig. Dranoeth aethym rhag y blaen i Proscairon, ac ar y daith cefais awr o orphwys ac ymgom gyda'r Parch. David Pugh; yna gelwais gyda'r holl Gymry allwn ddyfod o hyd iddynt, gan gael amser difyr wrth eu clyw ed yn dadleu y pwnc Gwaharddol. Os yw y bobl mor gynyrfus trwy y wlad mewn perthynas i'r pwnc hwn ag ydynt yn ardaloedd Cymreig Wisconsin, rhaid fod mwy o bwys ynddo nag y myn llawer gydnabod.

ardal Proscairon aethym i ardal Blaenycae, ac un o'r rhai cyntaf a gwrddais yno oedd yr hen gyfaill, Robert T. Williams, un o oruchwylwyr y Drych, yr hwn sydd yn parhau yn hed gryf, er ei fod yn 91 mlwydd oed. Dymunai arnaf ei gofio at

 

 


(delwedd E0634) (tudalen 225)

chaye' blynedd yn oruchwyliwr. 225

bobl y Drych, ac yn neillcluol at G. H. Humphrey, am eu bocl yn hen gyfeillion. Siaradai yn arw am y Gwaharddwyr, a bu raid i mi fyned i weled a chlywed y Parch. John Daniel, er cael cryfhad i'm ffydd, ar ol clywed yr hen frawd dan sylw yn nghyda Mrs. R. L. Roberts, Mrs. J. Jones, mason, ac eraill, yn ymresymu dros beidio cefnogi y Democratiaid. Coeliwch fi, yr oeddwn yn teimlo mai nid dim o beth y w clywed dwy neu dair o wragedd yn dadlen dros y blaid Werinol. Cefais gyfeillach grefyddol yn nghapel Blaenycae, o nodwedd ddymunol, oni bae fod huddygl y gauaf diweddaf heb ei syrnud o'r simneiau, fel y gorfodwyd y mwg i lanw y capel. Hefyd cefais rai oriau dyddorol yn nghymdeitlms Ellis W. Ellis a'i briod, cyn ymadael yn nghyfeiriad Randolph, lle yr wyf yn awr yn mwynhau lletygarwch yr arch-ddiacon Joshua Roberts, yn ei balasdy destlus a hardd.

LLITH XVII.

CYFAREOD DOSBARTH CALEDONIA - DIM 'BACO I BREGETHWYR - DIRWEST YN AMOD EGLWYSIG.

TreuUais y Sabboth, Tachwedd 4, yn Randolph, Wis., a chefais y fraint o glywed y Parch. Thomas Foulkes yn pregethn am ddeg y bore. Yr oedd yn pregethu yn Carmel yn yr hwyr, ond cefais awr neu ddwy o'i gymdeithas ganol dydd. Y mae Mr. Foulkes yn parhau i bregethu yn gryf, ond dywed-

 

 


(delwedd E0635) (tudalen 226)

226 LLWYBBAU BYWYD.

ai ei fod yn teimlo ei hun yn gwanhau o ran ei iechyd, ac yn analluog i ddyfod i'r Cyfarfod Dosbarth. Ond yr oeddwn i wedi gosod fy mryd ar fyned i'r cyfarfod hwnw i Caledonia, ac er mwyn bod yno yn brydlon, gadewais Randolph gyda'r tren cyntaf bore Linn am Portage. Oddi- yno cerddais dros yr afonydd Wisconsin a Baraboo, a'r ty Cymreig cyntaf y troais iddo oedd ty y wraig weddw, Mrs. Jones, No. 4. Er ei bod hi a'i merch yn prysur ddarparu ar gyfer derbyn dyeithriaid y Cyfarfod Dosbarth, taer wahoddai fi i letya yno dros nos; ond gan fy mod wedi bwriadu gorphen fy ngwaith yn yr ardal cyn y cyfarfod? aethym rhagof. Cyn nos cyfarfyddais a'r Parch. Thomas J. Rice, a rhaid oedd i mi fyned i aros gydag ef a'i deulu caredig. Tranoeth aethym rhagof, gan ymweled yn gyntaf a'm hen arweinydd, Hugh Roberts, a'i deulu croesawus; ac wedi hyny aethym heibio i'r capel. Yn ychwanegol at yr hen gapel lle yr addolid pan y bum yno o'r blaen, y mae ganddynt gapel newydd hardd tua chymaint ddwywaith a'r hen un, ac felly gwelwn nad yw eglwys Caledonia wedi bod yn cysgu yn ystod y tair blynedd diweddaf, ac fel y deallaf, y mae bron a bod yn ddiddyled.

Aethym heibio cartref D. P. Owen, lle y cawswn gynt fwynhau lletygarwch y teulu. Er fod Mr. Owen wedi symud i Portage i fyw, y mae ei fab eto yn cynrychioli y teulu yno. Cefais anedd-dai Thos. Williams ac eraill megys cynt. Mae W. R.

 

 


(delwedd E0636) (tudalen 227)

chwe' blynedd yn okuchwyliwr. 227

Evans wech symud i Portage i fyw, oncl mae rhagoriaethau y teulu yn cael en cynrychioli yn y ty yn mherson nn o'r merched, yr hon sydd wedi cael cydymaith caredig a hawddgar yn mherson Mr. John Eowlands. Bum can belled i fyny y dyffryn a thy Mr. Hugh Edwards, ond nid oedd e£ mor groesawus i mi y tro hwn a'r tro o'r blaen, gan i mi ddweyd wrtho fy mod yn perthyn i'r blaid Waharddol, ac yntau ar yr ochr arall yn credu yn y blaid Werinol. Dywedai nad yw ein plaid ni yn dda i ddim ond cynorthwyo y blaid Ddemocrataidd. O herwydd prinder amser nis gellais ymwelecl a thai Mr. William Owen a Mrs. Phillips, ac eraill. Cliriodd y cymylau, a chawsom dywydd dymunol yn ystod y cyfarfodydd; ac yr oedd cynrychiolaeth dda wedi dyfod yn nghyd o'r gwahanol ardaloedd. Nos Fawrth, cafwyd y bregeth agoriadol gan y Parch. D. Jones, Lake Emily, ar y 24ain o Eeolau Dysgyblaethol Cyffes Ffydd y T. C, sef y ddyledswydd o ddiwydrwydd personol gyda dyledswyddau bydol - pregeth hed anogaethol a theilwng o gymeradwyaeth ymarferol pob Cristion. Am wyth bore Mercher, agorwyd y gynadledd dan lywyddiaeth y llywydd rheolaidd, y Parch. John E. Jones, Hendref, a chafwyd pedair awr o gyfarfod gwir ddyddorol mewn ymdrin a gwahanol faterion y Dosbarth; ac yn mhlith pethau eraill cafwyd adroddiad manwl a boddhaol y cenadon ymweliadol gan y Parch. David Davies, Oshkosh. Hefyd, bu tipyn o siarad brwdfrydig mewn perth-

 

 


(delwedd E0637) (tudalen 228)

228 LLWYBBAU BYWYD.

ynas i'r drysorfa gynorthwyol i hen weinidogion, sef pa un a fydd er budd yr holl weinidogion, ynte y rhai angenus yn unig. Bu sylw byr ar ardystiad dirwestol fel amod aelodaeth eglwysig, a therfynwyd y pwnc mewn cymeradwyaeth o'r rheol a fodola eisoes trwy awdurdod y Cyfarfod Dirwestol a'r Gymanfa, sef bod ardystiad dirwestol yn amod aelodaeth. Cafwyd sylw ar yr arferiad drwg o ddefnyddio tobaco, ac anogwyd y plant a'r ieuenctyd i beidio dechreu ymwneyd a'r arferiad llygredig; pasiwyd hefyd na dderbynir neb i bregethn os na wnant lwyrymwrthod ag ef. Fel hyn, gwelwn fod y Cyfarfod Dosbarth hwn yn teimlo eu cyfrifoldeb a,'u rhwyniau i fod ar y blaen i gondemnio arferion drwg, ac i gefnogi arferion da. Derbyniwyd Owen Jones, brawd y Parch. J. R. Jones, Hendref, fel ymgeisydd am y weinidogaeth, ac anogwyd ef i fyned i'r ysgol. Yn y seiat gyffredinol am ddau, siaradwyd yn dda gan amryw weinidogion ac eraill ar yr angenrheidrwydd o feithrin cariad brawdol. Cafwyd pregethan da yn yr hwyr gan y Parchn. J. 3L Roberts a David Pugh, yr hwn oedd mewn galar ar ol claddu ei fab. Am ddeg dydd Ian, pregethwyd gan David Davies a John J. Roberts; am ddau, gan Daniel Thomas a John R. Daniel; ac am saith, gan John R. Jones, Hendref, a David Williams. Ystyriaf i ni gael cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd.

Wedi cael tipyn o gymdeithas David Owen, gorxichwyliwr presenol y Drych yn Portage, yn ei gar-

 

 


(delwedd E0638) (tudalen 229)

chwe' klynedd yn obuchwyliwe. 229

tref newydd yn y dref, cymerwyd fi yn y tren hyd Sparta, lle yr ymwelais ag amryw o'r Cymry. Bum yn gweled y Parch. R. T. Roberts, gynt o Cambria, yn ei gartref newydd, fel arolygwr Ysgol yr Amddifaid yno. Ymddengys i mi ei fod niewn cystal (os nad gwell) mantais i wasanaethu Duw a'i genedlaeth yn y fan hon a phe y parhai gydag eglwys Cambria. Mae tri adeilad mawr, harddj dan ei ofal, ac yn un o honynt y mae Mr. Roberts a'i deulu yn byw. Bydd y ddan arall yn barod i dderbyn plant ac is-athrawon yn fnan. Bwriedir codi rhagor o adeiladau i'r un dybenion, ac y mae 140 o erwau o dir wedi eu pwrcasu at wasanaeth sefydliad sydd yn debyg o ddyfod yn enwog a bendithiol. Wrth gwrs bum yn gweled y ffraeth R. E. Jones, arolygwr y Dryeh yn y he, Roberts a Jones, y masnachwyr llwyddianus, a Mrs. "W. Roland Williams a'i merched, y rhai a symudasant o Blaenydyffryn i fyw yn un o balasau harddaf Sparta. Yna cymerwyd fi yn ei gerbyd gan Mr. D. S. Jones i'w gartref yn Blaenydyffryn, rhyw wyth milldir o Sparta, i dreulio y Sabboth, am y trydydd tro. Er mai ardal fechan yw Blaenydyffryn, yn nghanol y bryniau, gwelais fod amser wedi newid cryn dipyn ar wyneb cymdeithas yno yn nghorff y pum' mlynedd diweddaf. Dyna gartref y diweddar John Lloyd, He y difyrwyd fi gan ei ddoniau y troion o'r blaen, wedi cael ei waghau o'i bresenoldeb ef a Peter ei fab trwy oruchwyliaeth angeu; ond y mae yno yr un croesaw a lletygar-

 

 


(delwedd E0639) (tudalen 230)

230 LLWYBEAU BYWYD.

well gan ei ferched amddifaid. Gofod a ballai i mi sylwi ar gyfnewidiadau eraill. Drwg oedd geriyf weled yr hen gyfaill, Thomas D. Davies, dan glefyd peryglus. Da fydd gan lawer o gyfeillion Isaac Jenkins, gynt o Hyde Park, ac wedi hyny "Warrior Run, glywed ei fod ef a'i deulu yn iach a chysurus. Yn ddamweiniol, am y waith gyntaf, <3yfarfyddais yn Blaenydyffryn a Mr. W. G. Williams yn nghwmni Mr. John D. Jones, a chefais rai oriau dyddorol gyda hwy. Y mae Mr. Williams yn fab i'r diweddar Barch. Robt. Williams, Blaenydyffryn, ac y mae yn Tin o ddinasyddion mwyaf parchus tref Sparta. Tebyg ei fod yn llwyddo fel business man pwyllog a deallus. Cefais adnabyddiaeth a'r Cymro-gyfreithiwr, D. F. Jones, yr hwn sydd ddyn diymhongar, ac wedi ei ethol am yr ail waith yn District Attorney. Mab ydyw i'r diweddar Barch. D. F. Jones o Minnesota, a nai i'r Parch. Richard F. Jones o Hyde Park, Pa. Hefyd, cefais ymgom yn Sparta gyda'r Sirydd, Evan R. Jones. Ymddengys ei fod yntau yn boblogaidd, gan ei fod wedi ei ethol i swydd wladol y waith hon eto.

LLITH XVIII.

SPAETA I BANGOB A FISH CEEEK, WIS. - YN MHLITH CYMBY MINNESOTA.

Gorphenais fy llith ddiweddaf pan dan nawdd y Sirydd Jones yn Sparta, Wisconsin - dan ei nawdd yn ddyn rhydd, cofier, er yn ngharchar. Nid

 

 


(delwedd E0640) (tudalen 231)

chwe' blynedd yn okuchwyliwr. 231

oedd yno ar y prjd ond tri carcharor, ac yr oedd traed un o honynt yn y cyffion, gan ei fod wedi ceisio gosod y carchar ar dan. Oddi yno cymerwydjfi raewn cerbyd gan Evan James i dy ei dad, D. J. James, yn Fish Creek, lle yr wyf wedi cael croesaw bob amser. Cefais y fraint o dreulio y Sabboth gyda'r T. C, mewn capel a aeth dan adgyweiriad yn ddiweddar. Pregethodd y Parch. H. M. Pngh ar y mab hynaf yn "Nameg y Mab Afradlon," ac esboniai ei bwnc yn wahanol i'r pregethwyr yn gyffredin. Ymresymai fod y mab hynaf yn well na'i frawd afradlon, gan sylwi, (1.) Ei fod yn earn cartref; (2.) Ei fod yn parchu ei dad; (3.) Ei fod yn dangos yn ei ymddygiadau ddrwg mawr pechod; (4.) Fod yn haws peidio pechu na chael adferiad; (5.) Mai y mab hynaf a gafodd yr holl ganmohaethyn y ddameg; (6.) Dynion cyson a ffyddlon, fel y mab hynaf, a gant fwynhau fwyaf o ddedwyddwch y nef - “Yr hyn oil sydd eiddof fi sydd eiddot ti." Y mae Mr. Pngh mor anwyl gan bobl ei ofal yn awr ag ydoedd 14 mlynedd yn ol pan aeth atynt. Torodd diwygiad crefyddol allan yn Fish Creek yn ddiweddar, yn ngwaith y bobl yn penderfynu cael tai a chysgod wrth y capel i'r ceffylau sydd yn gweini er cysur crefyddwyr ar y Suliau. Gan fod y Beibl yn dysgu fod y duwiol yn gofaln am fywyd a chysnr ei anifail, yr wyf yn rhyfeddu fod cynifer o eglwysi gwledig yn gorfodi en ceffylau i aros allan yn y tywydd eithafol am oriau, haf a gauaf, tra y maent hwy yn y capel yn

 

 


(delwedd E0641) (tudalen 232)

232 LLWYBRAU BYWYD.

ceisio acldoli Creawdwr a chynaliwr daionus am ei holl ddarpariaeth.au daionus er dedwyddwch dyn ac anifail.

T mae eglwys hefyd gan y brodyr Annibynol yn Fish Creek, dan fugeiliaeth y Parch. J. Pentyreh Evans, Bangor, ond ni ddaeth i'm rhan i gael myned i'w gapel. Bore Linn, yn nghwmni fy nghymwynaswyr, Mri. James a Thomas Richards o Cataract, aethym i weled Dr. John J. Jones, yr hwn dderbyniodd ei wersi cyntaf gan Dr. Lewis Lewis, Dowlais, D. C, ond sydd yn byw yn Fish Creek er's 27 o flynyddau, ac wedi meddyginiaethu llawer o gleifion o'r cancer ac anhwylderau eraill, yn ol tystiolaeth yr ardalwyr. Cartrefa mewn ty newydd hardd. Cefais giniaw twrciaidd rhagorol yn nhy Mrs. Jones, merch-yn-nghyfraith y meddyg, yr hon sydd yn un o ferched Hyde Park, Pa. - Bessie Bees, fel y gelwid hi gynt, a Mrs. Cenin wedi hyny. Tyngedai fi i gymell ei mam, Mrs. Bees, a Jenkin ei mab, i ddyfod ar ymweliad a'u hanwyl Bessie yn ei chartref dedwydd yr haf nesaf. Ar ol gweled y rhan f wyaf o Gymry yr ardal, arosais dros nos yn nhy John F. Jones, brawd y Parch. Bichard F. Jones, ein gweinidog yn Hyde Park; a threuliasom noson ddifyr yn ei gymdeithas ef a dau o'r plant. Bore dranoeth, aeth ei fab, D. F. Jones, a mi yn ei gerbyd i Bangor.

Ni bu fy arosiad ond byr yn Bangor, canys penderfynais fyned gyda'r tren yn syth i Minnesota. Cefais ysgwyd Haw a'r Parch. H. M. Pugh a'i briod

 

 


(delwedd E0642) (tudalen 233)

chwe' blynedd yn okuchwyliwr. 233

yn yr orsaf, fel yr oeddynt yn dychwelyd o daith. Erbyn naw o'r gloch dranoeth cyraeddais ben fy nhaith yn Mankato, He yr aethym rhag fy mlaen i dy gweddw fy hen gyfaill, James Griffiths: “Ei le nid edwyn ddim o hono ef nrwy” yno; cymerwyd ef i ffordd yr holl ddaear er pan fuaswn yno dair blynedd yn ol. Md rhyfedd fod Mrs. Griffiths yn fy nghroesawu niewn dagrau. Arweiniwyd fi i weled Cymry Mankato gan y ffyddlawn a'r diymhongar T. P. Thomas; ac yr oedd yn taro i'm meddwl fod y boblogaeth Gymreig yn cynyddu ac yn llwyddo yn y dref. Yn ychwanegol at Richard J. Thomas a J. R. Jones, y mae Richard F. Jones (mab y diweddar Barch. D. F. Jones), ac Owen E. Richards, goruchwyliwr y Drych, yn gwneyd masnach helaeth ar en cyfrifoldeb eu hunain; ac mae amryw Gymry siriol mewn gwahanol fasnachdai yn y dref. Mae eglwys y T. 0. yn myned ar gynydd dan fugeiliaeth y Parch. John C. Jones. Y maent wedi cael capel newydd, hardd, er pan fnm yma o'r blaen, yr hwn erbyn hyn sydd yn ddiddyled. Bore Sabboth, Tachwedd 28ain, clywais bregeth dda gan y Parch. Mr. Jones oddiar Phil. 2: 13, ac Eph. 2:2; sef ar y pwnc, Ysbryd Duw ac ysbryd y diafol yn cystadlu am oruchafiaeth ar ewyllys plant dynion, a hyny yn gymelliadol, ac nid yn dreisiol neu orfodol. Ganol dydd, aeth a fi gydag ef i Seion newydd, yn y wlad, trwy ystorm o eira; a chawsom y capel newydd a thlws yn llawn o wrandawyr, er fod yr hin yn dra anffafriol. 16

 

 


(delwedd E0643) (tudalen 234)

234 LLWYBRAU BYWYD.

Yn yr hwyr drachefn, aeth a fi i Oarmel, lle hef yd y gwelwn fod y bobl wedi dangos llawer o ffyddlondeb trwy ddyfod trwy yr eira, a'r tywyllwch, a'r oerfel, i'r gwasanaeth. Aethym yn nghwmni Mr. Jones i'w gartref, He y preswyliai gynt y diweddar ddiacon, "W. Roberts a'i denln, y rhai ill dau sydd wedi myned i dy en hir gartref er pan fnm yno dair blynedd yn ol. Wedi trenlio noson siriol gyda Mr. a Mrs. Jones a'n mab bychan, hebryngwyd fi dranoeth gan Mr. Jones mor bell a Channel, a chyraeddais balasdy newydd John G. Meredith cyn yr hwyr.

Yn nghymdeithas Mr. Meredith, ddydd Mawrfch, aethym trwy ystorm o eira i Lake Crystal, ac mor bell a thy Thomas Morgan erbyn ciniaw; yna i dy Benjamin Williams, lle y canwyd fi i mewn gan yr eira. Ail tranoeth tybiwn yr hin yn ddigon cymedrol i fyned rhagof am ardal Bethel, Bntternnt Valley, a daeth Mr. Williams gyda'i geffylan a'r cerbyd i'm hebrwng. Wedi myned allan o gysgod y llwyn i'r prairie agored, er fod yr hanl yn tanbeidio, gwarchod pawb! dyna daith annifyr, myned saith nen wyth milldir yn erbyn y gwynt, a'r hinfesnrydd yn rhywle yn nghymydogaeth zero; ond dyoddef oedd raid, heb droi i nnrhyw dy, canys yr oedd Mr. Williams yn dal yr oerfel fel dyn haiarn, ac nid oedd troi yn ol i fod nes fy nghyflwyno i ofal W. E. Williams, hen ohebydd y Drych, a chefnder i'r Parch. R. H, Evans. Ar ol cael noson o'i gymdeithas, aeth Mr. Williams a mi

 

 


(delwedd E0644) (tudalen 235)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 235

yn ei gerbyd trwy yr oerfel a'r eira heibio i Thos. E. Evans, goruchwyliwr y Drych, ac eraill, a gadawodd fi yn nhy yr Anrh. R. H. Hughes, lle yr oedd donation gan y Cyniry i wraig weddw a'i phlant, sef merch Mr. Hughes, yr hon sydd wedi cael ei gadael yn weddw gyda chwech o rai bychain. Yr oedd yr olygfa i mi yn un wir ddyddorol - gweled cynifer o wyr a gwragedd wedi dyfod o bell ac agos trwy yr oerfel ar y fath achlysur canmoladwy. Oddi yno aeth William J. Jones a mi i'w gartref nos Wener, a dydd Sadwrn ymwelais ag amryw a adwaenwn yn ardal Jerusalem. Da oedd genyf weled y Parch. W. M. Jones a'i deulu yn iach a siriol, er ei fod ef ei hun wedi bod yn ddiweddar yn agos i angeu mewn canlyniad i syrthio oddiar do ei dy. Y mae yn gwella yn dda. Bore Sabboth, aethym i'r ysgol Sabbothol i Salem, yr hwn sydd yn gapel hardd, ac yr oedd yr ysgol mewn agwedd lewyrchus. Am ddau, aethym gyda'r Parch. Machno Jones i Jerusalem, a chawsom bregeth gref ganddo yn erbyn y fasnach feddwol i gapelaid o wrandawyr. Am chwech yn yr hwyr, cawsom bregeth hed dda gan y pregethwr ieuanc, D. R. Davies, Eoswell, Dakota. Arosais y noson hono gyda'r Parch. John W. Roberts, a bore Llun ymwelais a'r Cymry cylchynol, ac yn eu plith yr Anrh. William R. Jones, yr hwn sydd newydd gael ei ethol i gynrychioli ei ranbarth yn St. Paul. Erbyn y nos, cyraeddais i fwynhau noson o gymdeithas Thomas Hughes, gohebydd y Drych yn

 

 


(delwedd E0645) (tudalen 236)

236 LLWYBRAU BYWYD.

ardai South Bend. Cefais amser difyr yn ei gwmni ef a'i fab, a bore dranoeth aeth a mi yn ei gerbyd i weled teulu David Jones, fy hen arweinydd gynt, ac yr oedd yn dda genyf ei gael ef a'i deulu yn iach a siriol. Ond am Evans y Pant, cefais ei le ef yn wag; symudasid ef gan angeu. Yr oedd ei deulu yntau yn fyw a siriol. Yna ymwelais a'r hen gyfaill ffraeth, John Evans, South Bend, a'i deulu; ae yr oedd ef a lluaws yn Blue Earth yn anfon eu cofion cynesaf at y Parch. B. Foulkes Jones, gan ei anog i ddyfod ar ymweliad a'i hen gyfeillion yn Minnesota.

LLITH XIX.

TKWY ARDALOEDD . CYMREIG MINNESOTA AC IOWA GWEITH3ARWCH CREFYDDOL A LLENYDDOL.

Aethym o Mankato i'r Coed Mawr, a chefais, wledd Cyfarfod Dosbarth y T. C. yno, Bhagfyr 8, 9; ac heblaw y moddion cyffredin, yr oedd dau ddyn ieuanc i gael eu harholi yno ar gyfer eu hordeinio, sef Isaac Newton Roberts, Minneapolis, a D. R. Davies, Powell, Dakota; ond ni ddaeth y blaenaf i'r arholiad. Cafwyd ymdrafodaeth ddyddorol yn y gwahanol gyfarfodydd ar wahanol faterion, ac etholwyd yn swyddogion: Llywydd, y Parch. W. A. Jones, gweinidog y he; Ysgrifenydd, Parch. J. C. Jones, Mankato; Trysorydd, Evan E. Jones, Jerusalem, postfeistr a goruchwyliwr y Drych yn Judson; Ysgrifenydd Bwrdd y Diacon-

 

 


(delwedd E0646) (tudalen 237)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 237

iaid, D. Evans, y Pant. Pwnc y seiat gyffredinol oedd, “Cadwraeth y Sabboth." Cafwyd ynidrafodaeth ddyddorol ac anogaethol arno. Pregethwyd yn dda gan y Parchn. W. M. Jones, Griffith Roberts, John C. Jones, John W. Roberts, a D. R. Davies, o Dakota. Sylwn fod pobl yr ardal yn hynod roesawus i'r dyeithriaid.

Ar ol niwynhau caredigrwydd pobl ardal y Coed dros y cwrdd, aethym am noson gyda Mr. a Mrs. W. R. Jones, y blaenaf yn fab i'r Parch. R. G. Jones, a'r ail yn ferch i'r Parch. Richard Hughes, Long Creek, Iowa. Boreu dranoeth aethym gyda y Parch. R. G. Jones, i weled yr hen frawd D. T. Morgan, yr hwn sydd wedi colli ei iechyd er ys blynyddau. Hefyd, aeth y Parch. Wm. A. Jones a ni i weled Mrs. David F. Jones; ond Ow! y dyn cryf hwnw a'm harweiniai o gwmpas yr ardal dair a phum' mlynedd yn ol - ei gartref nid edwyn ddim o hono ef mwy! Cymerwyd ef i ffordd yr holi ddaear er s tua dwy flynedd bellach; ond y mae rhaghiniaeth wedi dyfod a Mr. Hughes i'r ty yn briod i ferch ein hanwyl hen gyfaill, ac yn gwmni i'w weddw. Cyfnewidiol a symudol yw y byd o hyd, onide? Treuliais y noson gyda Mr. Phillips. Boreu Sabboth aeth Mr. Jones a mi i gwrdd a*r tren i Ottawa, gan fy mod am ddychwelyd i Mankato i dreulio y Sabboth; ac yn wir, mwynheais un Sabboth yn rhagor wrth fy modd yn mhlith Cymry y dref. Teilwng o sylw neillduol yw un o'r cyfarfodydd a gynelir gan ieuenctyd yr eglwys

 

 


(delwedd E0647) (tudalen 238)

238 LLWYBEAU BYWYD.

Gymreig, sef o chwech hyd saith nos Sabboth, i ymdrin a materion Beiblaidd. Er engraifft: Yr oedd y capel tua haner 11a wn o fechgyn a genethod ieuainc; a phan ddaeth yr amser, galwodd yr arweinydd, gwr ieuanc tuag 20 oed, ar ddyn ieuanc arall i ddod yn mlaen i ddechreu, trwy ganu, darllen a gweddio yn fyr. Yna hysbysai yr arweinydd faes y llafur, sef “Gweddi yr Arglwydd Iesu at ei Dad ar ran ei Ddysgyblion." Parllenai adnod ei hun, a'r holl dorf yn darllen bob yn ail ag ef. Wedi gorphen, gofynai i'r bechgyn a'r genethod, bob yn un ac un wrth eu henwau, i ddweyd eu meddyliau ar y mater ger bron, a gwnaent liyny yn syml a gweddus. Ar ol rhoddi cyfleusdra i'r oil, darllenodd yntau sylwadau pwrpasol yn ddiweddol, ac wedi hyny gorphenodd gwr ieuanc y cwrdd trwy weddi. Y maent hefyd yn cynal math o gyfarfodydd llenyddol yn ami yn y tair eglwys sydd dan ofal y Parch, John C. Jones, fel yr ymddengys i mi fod pobl ei ofal o flaen eglwysi y Dwyrain mewn gweithgarwch cymdeithasol. Ystyriwyf hwy yn ffortunus fod eu gweinidog yn dewis aros i'w gwasanaethu, yn hytrach nag ufuddhau i'r galwadau o Cincinnati a lleoedd eraill.

Dydd Llun, aeth y tren a fi mor bell a Lime Spring, Iowa; a dydd Ma wrth, Khag. 14eg, aethym, yn nghwmni John LI. Jones, i Wlad Canaan am y waith gyntaf erioed. Wedi cyraedd ty Hugh ElUs Jones a'i fam, buan y deallais fod y Ganaan hon hefyd yn “llifeirio o laeth a mel." Tranoeth,

 

 


(delwedd E0648) (tudalen 239)

chwe' blynedd yn oruchwyliwr. 239

ymwelais a'r rhan fwyaf o'r Cymry, gan gyraedd i dy John LI. Jones erbyn ciniaw. Yn gweled fy mod am ddychwelyd i Lime Spring, mynodd y teulu anfon y ferch i'm hebrwng mewn cerbyd. Bendith ar eu penau. Byddai y byd yma yn fyd caled ac oer ofnadwy, hyd yn nod i hen lanciau, pe na buasai am dosturi y merched. Cyraeddais erbyn nos i dy Bichard J. Boberts, goruchwyliwr y Drych, yr hwn a deimlai yn ddrwg am nas gallai ddyfod gyda mi dranoeth, am fod y gwaith ar ol ganddo, trwy ei fod wedi bod yn helaethu ei ysgnboriau y flwyddyn hon. Cefais Bichard Jones, Penllyn, a'i deuln, yn gysurus; a hefyd y Cymry yn Bristol Grove. Cefais groesaw mawr gan deulu Isaac Davies, goruchwyliwr y Drych - croesawiad cymysgedig o sirioldeb a thristwch, oblegid yr ystorm chwerw a ymwelodd a'r teulu er pan fum yno o'r blaen, sef marwolaeth pedwar o'r plant bywiog ac iach a chwareuent o'm cwmpas dair blynedd yn ol; ie, yr oil yn cael eu cymeryd o fewn naw diwrnod, i gymeryd eu lle yn y .cartref nefol. Nid oedd yn rhyfedd gweled croesawiad Mr. a Mrs. Davies yn cael ei gysegru a dagrau hiraeth ac adgofion; ond yr oedd yn dda genyf weled fod y teulu wedi myned trwy yr ystorm mewn nerth oddiuchod, heb bechu; ac fel prawf o hyny, wele dri o benillion a gyfansoddodd y fam, Charlotte Davies, ar ol eu colli:

My dear little children, they have left us For a home that's bright and fair;

 

....

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
wikipedia, scriptsource. org


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_232_llwybrau-bywyd_w-d-davies_1889_2_2074k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created:
19-09-2018

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates:  21-09-2018, 19-09-2018

Delweddau / Imatges / Images:

 

 

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait