kimkat3791k Clywedion Aberdar. Hen
Bacman. Tarian y Gweithiwr.
05-05-2023
.....
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
.....
..
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
La
Web de Catalunya i Gal·les
Cywaith Siôn
Prys - Testunau Cymraeg ar y We
Aberdar. Clywedion.
Hen Bacman.
(Tarian y Gweithiwr)
|
(delwedd 7282)
|
https://translate.google.com/
(Cymraeg, català, English,
euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)
...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro
1899
5
Hydref 1899.
2
Tachwedd 1899
7
Rhagfyr 1899
14
Rhagfyr 1899
…..
1900
19 Gorffennaf
1900
20
Medi 1900
…..
1901
10
Ionawr 1901
7
Chwefror 1901
28
Chwefror 1901
-----------------
1899
|
|
(delwedd J7534) (5 Hydref 1899)
|
Tarian
y Gweithiwr. 5 Hydref 1899.
CLYWEDION
— ABERDAR.
Clywed
fod llawer yn holi os yw yr Hen Bacman yn fyw. Ydyw, a dyma fe eto yn cyfarch
ei ddarllenwyr a'i gwsmeriaid hefyd o ran hyny.
Clywed pawb yn fy llongyfarch ar fy nychweliad o ddwfr y mor, ac fy mod yn
edrych yn well. Wel, heb ddweyd gair o
anwiredd, cefais ddigon o ddwfr y cymylau wedi dychwelyd, a gwaeth
fyth, yn fy absenoldeb, rhiedodd dau o fy nghwsmeriaid ymaith heb dalu eu
‘dues.'
Clywed newydd dda am waith Abernant, a gobeithio fod y newydd yn wir. Trueni
fyddai gweled canoedd o ddynion yn gwynebu y gauaf mewn segurdod.
Clywed fod llawer yn bwriadu ymuno a chlwb y rhacs tua'r Nadolig os bydd i
Abernant gadw yn mlaen. Byddaf finau yn lwcus i gael orders, yn ol pob count.
Clywed fod gwyr Cwmbacb yn gweithio yn galed i gael heol o'u dinas hwy i
bentref bach Aberaman, a minau gyda hwy. Y mae'n hen bryd i'r lle gael gorsaf
hefyd. Y mae'n syndod meddwl fod rhyw getyn o le fel Abernant yn eu maeddu yn
y peth hwn.
Clywed llawer o bethau ffol yn mhob cyfeiriad, heb fod yn werth eu cyhoeddi,
ond adroddaf un o honynt er hyny, sef ei bod yn warthus i feddwl fod gwraig
(a ystyrir yn respectable) yn cerdded allan ar hyd yr heolydd gyda un o
filwyr y Cwrt Bach, tra byddo ei gwr yn gweithio.
Clywed fod gobaith am heddwch yn awr rhwng y ddau weinidog fuont yn dadleu yn
y parc. Da iawn.
Clywed fod yn well o lawer i bacman ieuanc o'r dref briodi na phoeni y
merched ar hyd y tai. Byddai, yn wir, pe bai ond er mwyn cadw urddas y
Brigade i fyny.
Wel,
dim rhagor y tro hwn, ond ‘look out' yr wythnos nesaf.
YR
HEN BACMAN.
|
|
|
(delwedd J7620) (2 Tachwedd 1899)
|
Tarian y Gweithiwr. 02 Tachwedd1899.
ABERDAR — CLYWEDION.
Clywed oddiwrth gydbacman fod y boneddwr o Benyfai wedi iawn ddeongli pethau.
Methodd y pacman a'i fesur y tro hwn.
Clywed fod busnes y motor cars bron gyrru’r
bendro ar rai o bobl y lle. Paham y rhaid i Aberdar fod rhyw 20 mlynedd ar ol
pob tref arall ?
Clywed mai argument tlawd yw eiddo un o fanagers y cwm yn erbyn y motor cars,
sef y byddant yn beryglus i hen bobl! Wel, yn enw pob pacman, pa gerbyd sydd
ddyogel, ynte?
Clywed pe bai rhai pobl yn cael cerbydau i'w cludo hyd yn nod i'r nefoedd, y
caent ryw fai drachefn arnynt.
Clywed ei bod yn drueni ysbeilio bywioliaeth na bara chaws neb, ond pe deuai
y motor cars i'r dref, ai nid yw mwyafrif gyrwyr y brakes yn alluog i weithio
fel pob dyn arall ?
Clywed llawer yn dweyd y bydd y motor cars yn tori i lawr. Dyna hi eto, fel
arfer. Yn enw'r anwyl, onid yw'r brakes hefyd yn tori i lawr weithiau? 0
leiaf y mae y ceffylau yn tori i lawr, a threngodd un pwy ddydd ar haner y
ffordd i orsaf Abernant, gan achosi i'r hen bacman golli'r tren.
Clywed os metha y cwmni ddwyn motor cars i'r dref, y bwriadant gychwyn Penny
Busses, y rhai yn ddiddadl a fyddant yn welliant mawr ar y brakes presenol.
Clywed mai motto gyrwyr y brakes ddylasai fod, ‘Live and let live.'
Clywed llawer o siarad am y rhyfel a'r Boers, ac y mae gwahanol farnau ar y
pwnc hwn fel llawer pwnc arall. Un peth sydd sicr, nid oes angen myned i Dde
Affrig er cwrdd a ‘bores.' Dewch am eu traws ddigon o honynt yn Aberdar.
Clywed fod y ddwy ferch aeth i Lunden gyda'r excursion wedi cael siomiant
sur, ond arnynt hwy yr oedd y bai. Paham y gosodasant nod mor uchel o'u
blaen? Yr oedd yn dda ganddynt ddychwelyd i'w hen gartref, Sweet 'Berdar,
wedi'r cyfan.
Clywed fod gobaith yr adgychwynir hen lofa No. 9 eto, ac y cawn weled yr Hen
Goedwr (o fendigedig goffadwriaeth) mor ddiwyd ag erioed.
Clywed fod dinas Tresalem yn diwygio, felly mor fuan ag yr ysgafnheir tipyn
ar fy mhac, bydd i mi groesi r suspension, ac yn ddiau os dychwelaf yn
ddianaf, bydd genyf doraeth o newyddion ‘from over the border.'
YR HEN BACMAN.
|
|
|
(delwedd J7691) (7 Rhagfyr 1899)
|
Tarian y Gweithiwr. 7 Rhagfyr 1899.
ABERDAR - CLYWEDION.
Clywed llawer yn holi, Beth ddaeth o'r Hen Bacman? Wei, dyma fe i'r ffrynt
unwaith eto.
Clywed nad yw'r Motor Cars wedi gwneud ychydig neu ddim niwed i wyr y Brakes,
fel y mawr ofnai y Sosialiaid.
Clywed fod Rhyddfrydwyr y dref wedi myned yn hynod ddifywyd, ac mai y
Sosialiaid yn unig fedrant eu cadw yn effro.
Clywed fod pethau yn gwella tuag Abernant mewn ystyr fasnachol, ond
nad yw sefyllfa foesol dosbarthiadau neillduol o'r trigolion yn diwygio dim.
Clywed llawer am ruthrgyrch fawr y Bazaar yr wythnos ddiweddaf.
Dywedwyd wrthyf fod yna ymladdfa ffyrnig am y to a'r bara brith, ac y
gorfuwyd cael heddgeidwad i reoli'r bobl wrth y drws.
Clywed fod gwrthddrych y Bazaar yn haeddu cydymdeimlad, ac wedi cael
cefnogaeth dda ond na ddylid annghofio am ereill ydynt hefyd yn teilyngu yr
un ystyriaeth.
Clywed achwyniadau cyffredinol am fod y Motors mor hwyr yn troi allan
yn ddyddiol. Wel, chwi Frakesmen, cymerwch yr hynt, a byddwch yn effro.
Clywed fod yr hen Kruger yn bwriadu cynyg ar y solo bass yn yr
Eisteddfod a gynelir yn y Farchnadle ar Boxing Day. Os na fydd hyny yn
atdyniad, mae yn anhawdd gwybod beth arall
allasai fod.
Clywed llawer am y Nadolig, ac fod y rhagolygon am dipyn o fwyniant a
seibiant eleni yn anrhaethol uwch nag oeddynt y llyedd. Bydd hyny yn gysur I
luaws o deuluoedd y dosbarth gweithgar drwy y gymydogaeth.
Clywed fod amryw o Gymry o'r dref a'r cylch allan ar faes y rhyfel yn
Affrica, ac fod mwy nag un ohonynt wedi myned yn aberth i gynddaredd y Boers.
YR HEN BACMAN.
|
|
|
(delwedd J7670) (14 Rhagfyr 1899)
|
Tarian y Gweithiwr. 14 Rhagfyr 1899.
ABERDAR-CLYWEDION.
Clywed fod heiynt y Bwllfa wedi achosi cryn siarad yn y cwm, gan fod
dyfarniad y llys yn erbyn y gweithwyr. Nid oes terfyn i annealldwriaetbau
glofaol.
Clywed fod Aberdar yn colli tir mewn ffordd o ddarparu adloniant meddyliol
i'r ymwelwyr ac ereill ar adeg gwyliau y Nadolig. Gwir fod Eisteddfod i fod
yma Boxing Day, ond nid yw eisteddfod yn ateb chwaeth pawb.
Clywed rhai yn dweyd fod ymgais yn cael ei gwneud i ail adgyfodi yr Empire,
tra y dywed ereill mai gobaith gwan sydd am hyny. Pwy sydd iawn?
Clywed fod pobl dda Aberaman yn dechreu ymysgwyd o'r Ilwch, ac yn son yn awr
am sicrhau neuadd newydd at wasanaeth y lle cynyddol hwnw.
Clywed fod gormod o gefnogaeth yn cael ei roi i'r arwerthwyr teithiol ddeuant
heibio o bryd i bryd, yn enwed y rhai Iuddewig, sy'n fynych yn hudo pobl i
roi fwy na gwerth dwbl a threbl y nwydd ffugiol gynygir iddynt. Bobl anwyl,
cefnogweh eich cyd-drefwyr ydynt yn fasnachwyr teilwng, yn hytrach na
thramorwyr diegwyddor.
Clywed fod ein dau aelod seneddol wedi myned yn ddison iawn am danynt
- un yn byw o fewn 30 milldir yn cadw draw heb geisio ein hanerch ar bynciau
llosgawl y dydd, na rhoi un cyfrif o'i hun i'r etholwyr, tra r llall yn hela
yn China! Onid yw sefyllfa y blaid
Ryddfrydol yn y dref yn resynus o ddigrif?
Clywed fod Ilawer iawn o dlodi yn bodoli mewn rhai ranau o'r dref, er
bywioced yr amseroedd, a gwaith stiff iawn, iawn ydyw casglu arian i'r
HEN
BACMAN.
|
|
|
1900
|
|
(delwedd J7769) (19 Gorffennaf 1900)
|
19-07-1900
Tarian
y Gweithiwr. 19 Gorffennaf 1900.
ABERDAR-CLYWEDION.
Cjywed
fod lluaws o wyr a gwragedd y gymydogaeth ar ymweliad a glan y mor, er nad yw
yr hin wedi bod yn hollol ffafriol iddynt yn ddiweddar.
Clywed
mai araf iawn y mae y cynghor yn trefnu i ddod a'r baddonau a'r ymdrochle cyhoeddus i ben.
Clywed fod. wmbredd o'r dref wedi myned i Benarth dydd Sadwrn, ac fod y merched
wedi troi allan mewn style.
Clywed fod rhai ag oedd wedi gwneud eu meddyliau i fyny i fyned i'r Paris Exhibition
wedi newid eu barn eto, gan fwriadu yn awr i roi tro am y ffynonau, ac arelll
i fanau iachus y mor yn Sir Aberteifi.
Clywed fod llu a'u bwriad i fyned i ffair fawr Awat Caerfyrddin, a
chan fod yr Hen Bacman yn argoeli bod yno hefyd, byddwch ar eich
gwyliadwriaeth, oblegyd deuaf a'ch hanes i gyd yn ol.
Clywed
fod rhai o ferched Foundry Town wedi ceisio yn galed am gael caniatad i fyned
i'r chwareudy nos Sadwrn, ar eu ffordd yn ol o Benarth, ond fod eu gwylwyr wedi
eu llwyr atal.
Clywed fod y cata beirdd yn Aberdar wedi digio yn dost wrth bwyllgor
Eisteddfod Merthyr am beidio eu gwahodd i'r turn-out dydd Iau nesaf.
YR
HEN BACMAN.
|
|
|
(delwedd B1210) (20 Medi 1900)
|
Tarian
y Gweithiwr. 20 Medi 1900.
ABERDAR
- CLYWEDION.
Clywed lluaws yn holi, Pwy yw yr Hen Bacman? ac wrth fyned ar fy rounds yr
wyf yn gorfod ateb, er lles fy hun, mai nid Y FI yw e!
Clywed ereill yn dweyd mai hen ffwl yw yr hen bacman, ond gobeithiaf fy mod
yn gallach na'r Johnny Fortnight yna sydd yn llyncu pryd helaeth o ymborth
pobl dlawd Abernant pan fetha gael ei gyfran!
Clywed fod gwyr Tresalem wedi digio wrthyf am i mi eu galw yn genedl o
bysgotwyr. Wel, yn enw pob khaki, pa ddrwg oedd tynu r casgliad hwnw pan
maent yn byw mor agos at y samwns ?
Clywed mwstwr ofnadwy yn ffair Castellnedd, ac yr oedd yno snecyn o bacman yn
treio swagro fel swell, ac er iddo geisio cuddio ei identity mewn siwt o
ddillad flashy, adnabyddes ef wrth 'i drwyn.
Clywed fod breced o wyr Cwmaman yn gorfod cerdded milldiroedd wrth ddychwelyd
o'r ffair, ac fod Cwmnedd yn adsain gan eu---! Wel dyna, gwell yw peidio
dweyd y cwbl.
Clywed fod Sosialiaid yr ochr ucha' mewn penbleth dirdynol am nas gallant
gael eu ffordd yn newisiad ymgeisydd cymhwys i Ward y Gadlys. Nid oes daioni
mewn haerllugrwydd, yn enwedig o'r rhyw Sosialaidd.
Clywed fod Mr Bwmbast wedi cynyg ei hun yn ymgeisydd trwy gyfrwng papyr
lleol, ond hawyr bach, 'does yna ddim parch pacman iddo o Gwmnantyrbwch i
Gwmaman.
Clywed pawb yn canmol y tywydd, ond yn condemnio y DARIAN am fod rhanau o
honi weithiau yn annarllenadwy. Cofied gwyr Llwydcoed a'r crydd mai bai
Mishdir y Darian yw hyny, ac nid eiddo yr hen bacman.
Clywed fod un o drigolion Maesydre yn ymffrostio ei fod yn deall pwnc y
rhyfel gystal ag un gwr yn y lle. Nid yw wedi cwrdd a gaffer y khaki hat,
'rwy'n sicr.
Clywed fod un bardd, pedwar cantwr, dau fwtchwr, ac un pacman o Foundry Town
yn myned i Eisteddfod L'erpwl.
Clywed fod colier a labrwr o'r Gadlys yn bwriadu priodi Dydd Nadolig.
Rhoddwch order, boys, i'r
HEN
BACMAN.
|
|
|
……
|
|
(delwedd J7771) (10 Ionawr 1901)
|
Tarian y Gweithiwr. 10 Ionawr 1901.
BERDAR—CLYWEDION.
Clywed fod bardd o Heolyfelin yn AIL OREU ar y gadair yn Mhontycymmer y
Nadolig.
Clywed fod hwter y Gadlys wedi gwella cymaint, nes, ar wawriad y ganrif, iddo
roi un blast fawr o roesawiad iddi oedd i'w glywed o ben ucha i ben isa'r
cwm.
Clywed fod ‘canu waits’ yn mynd mas o ffasiwn yn rhwydd, ac nid rhyfedd,
canys y mae yr arferiad bellach yn cael ei ystyried yn ‘respectable form of
begging.'
Clywed fod lluaws wedi addaw ‘troi’ er gwell ar ddechreu'r ganrif, ac os
catwiff un bachan o Dresalem i fod yn dotal am dri mis, mae Mary Jane yn addo
mynd gyta fa draw i Ferthyr - at Allor Hymen!
Clywed fod shew o garu a sportan ar heol Cwmbach ar nos Suliau, a'r tro olaf
y daethum heibio, gwelais bacman bach o Gymro yn breichio dwy lodes landeg,
ac yn sgothi pob math o storiau wrthynt. Os cymer match Ie, dyna lle bydd
dress ar gost price!
Clywed fod mwstwr bidir sha cae Maes y Dre ar
ddechra'r ganrif, a chywilydd ydoedd meddwl fod crugyn o screchgwn yn canu
comic songs, &c., gerllaw ty lle y gorweddai corff marw.
Clywed fod eisteddfod lewyrchus yn Siloa noson ola'r ganrif, a'r unig
achwyniad oedd fod y gwobrwyon yn liliputaidd
Clywed fod rhai o efrydwyr y dref yn achwyn nad oes un iaith o gwbl i w
chlywed yn y pentref. Nac ydoes, wrth gwrs, rhaid myned i Gwmbach neu
Dresalem i glywed ieithoedd a ——!
Clywed fod mwy o ymwelwyr a Merthyr o'r cwm hwn yn ystod y gwyliau nag a fu
yno ar adeg gyffelyb erioed o'r blaen. Y mae hyny yn profi fod attractions yr
ochr draw i'r mynydd, pe na bai dim arall yno.
Clywed fod ymgais egniol yn cael ei gwneud gan luaws, heblaw y Cynghorwr John
Howell, i sicrhau heol o Gwmbach i Aberaman, ac mai ystyfnigrwydd asynol ar
ran neb fyddai gwrthwynebu y fath fudiad bendithiol i drigolion dwy ochr y
cwm.
Clywed fod snob o bacman o —— wedi dweyd wrth un arall yn yr orsaf nad yw efe
yn bwriadu cario pac a phastwn bachog ddim yn hwy, am nad yw ‘edrych yn deidy,'
ac mai bag neu bortmanteau fydd yn eu defnyddio o hyn i mas. Peidied neb a
chamsynied hwnw am yr
HEN BACMAN.
|
|
|
(delwedd J7772) (7 Chwefror 1901)
|
07-02-1901
Tarian y Gweithiwr. 7 Chwefror 1901.
ABERDAR — CLYWEDION.
Clywed fod marwolaeth a chladdedigaeth y Frenines yn destyn siarad yr holl
drigolion, fel yn mhob ran arall o'r wlad.
Clywed fod y gwasanaeth coffadwriaethol a gynelid yn y gwahanol leoedd o
addoliad wedi cael dylanwad er lles ar luaws o bobl, ac fod y trigolion wedi
talu teyrnged uchel o barch i goffadwriaeth
y Frenines.
Clywed fod defosiwn pobl y rhan uchaf o'r cwm tuhwnt i'r lleill ac i ddydd
Sadwrn fod yn debycach i'r Sul nag y bu erioed yn hanes y lle.
Clywed fod trachwant y tafarnwyr, er hyny, am wneud busnes mor ffyrnig
ag erioed, ac er gwaethaf Proclamasiwn y Brenin i suspendo'r trade am y dydd,
mynasant agor eu temlau yn y boreu a'r hwyr, gan gau am ychydig oriau yn y
prydnawn.
Clywed fod llawer yn bexo nad oedd excursion yn myned i Lunden i weld angladd
y Frenines, yn enwedig rhai o'r Gadlys.
Clywed fod rhai o r pacmen hefyd wedi tori deddf y Brenin dydd Sadwrn, ond pa
ryfedd? —casglu yw ac a fu eu hanes hwy yn awr ac yn dragywydd.
Clywed fod llawer iawn o siarad am y ddarllenfa rydd, a dim ond siarad
sydd pa bryd y gweithredir sydd bwnc arall. Syndod yr addewidion gwerthfawr
geir adeg etholiad, ond wedi eu hethoi, ceir fod haner ein cynghorwyr ‘wedi
eu cael yn brin.'
Clywed fod diwedd yr wythnos wedi troi yn lletwith iawn i rai — fod
ereill mewn penbleth pa ddiwrnod allai y Sul fod, yn herwydd y Proclamasiwn
Clywed fod Ap Cardie yn lied wael ei iechyd, ac yn gyfyngedig i'w dy,
ond medr ddefnyddio ei ysgrif-bin serch hyny. Hyderwn y ca adferiad buan, pe
ond er mwyn cyfiawnu ei ddyledswyddau.
Clywed gwyr y wasg ar eu huchelfanau, ac yn llawn bywyd yn y dref, ac
fod eu gwaith ar gynydd gwyllt, gan nad faint y parhao.
Clywed fod gwyr Tresalem yn dechreu ymysgwyd o'r llwch, ac yn
penderfynu gwneud y Ile yn atdyniadol yr haf nesaf.
Clywed fod y gwaith tin wedi stopo.
YR HEN BACMAN.
|
|
|
(delwedd J7770) (28 Ionawr 1901)
|
28-02-1901
Tarian y Gweithiwr. 28 Chwefror 1901.
ABERDAR — CLYWEDION.
Glywed fod y dosbarth gweithgar yn fyw i
angenion y dref y dyddiau hyn.
Clywed fod y Sosialiaid hefyd yn effro iawn, ond y drwg yw fod yr
ychydig nifer sydd yma mor wyntog ac hunanol, yr hyn sydd mor annaturiol i
rai yn honi fod lles y lluaws ganddynt mewn golwg.
Clywed fod ymgeiswyr llafur i ymladd ar rai o'r Wards yn y frwydr agosol, a
chan mai gweithwyr yw cyfangorff y boblogaeth, dylent gael cynrychiolaeth
deg.
Clywed fod gormod o'r dylanwad gafferyddol yn cael ei arfer adeg lecsiwn, ac
nad yw'r gweithwyr yn meiddio amlygu digon o annibyniaeth meddwl. Mae y
deyrnas gafferyddol yn ymledu, gan nad beth a fynegir i'r gwrthwyneb.
Clywed fod y wledd fawr wedi troi yn Ilwyddiant mor bell ag yr oedd y
danteithion yn myned, ond fod y gwlybwr a'r areithiau yn sal tuhwnt.
Clywed fod yno gyn-bacman yn i spowto hi yn iawn, ond nad oedd posib
deall yr oll a lefarai— ei fod dipyn yn rhy fluent!
Clywed fod cryn edrych yn mlaen at Fancwet Mr Keir Hardie, yr aelod ieuengaf
dros y fwrdeisdref. Darogenir y bydd yno gryn frwdfrydedd.
Clywed fod rhai wedi parotoi eu hareithiau eisoes, ac y bydd eu hyawdledd yn
gwefreiddio'r dyrfa. Da iawn, os gwir.
Clywed fod y merched yn achwyn nad ydynt yn cael yr un manteision gwleidyddol
a'r bechgyn, ac fod dwy ferch o'r Gadlys yn benderfynol o wthio eu hunain i
Fancwet Keir Hardie.
Clywed fod Iluaws wedi eu gwahodd yno, ac yn eu plith ceir yr HEN
BACKMAN.
|
|
|
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ
/ i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē
Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄
W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON
+ ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ
Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄
ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ
uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ
Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ
Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ
/ aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ
əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ £ gyn aith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː
ʌ́
Ə́ ə́
|
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute
|
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_352_hen-bacman_tarian-y-gweithiwr_3791k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:
Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu
visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Adran
y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau
/ Vistes de les pàgines / Page Views
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats