|
|
(delwedd J7377a) (tudalen
006)
|
STRAEON
Y GILFACH DDU
J.
J. Williams
Gwasg
Aberystwyth
MCXXXI
|
|
|
(delwedd J7377b) (tudalen
007)
|
Argraffiad
Cyntaf – Mehefin, 1931
Argraffwyd
gan Wasg Gomer, Llandysul
|
|
|
(delwedd J7377c) (tudalen
008)
|
I
Goffadwriaeth fy Nhad a’m Mam ym mynwent y Gilfach Ddu
|
|
|
(delwedd J7377d) (tudalen
009)
|
Rhagair
YN y mwyafrif o'r storiau hyn ceisir portreadu bywyd glowyr
Morgannwg ddeugain mlynedd yn 61. Bywyd yn llawn hapusrwydd, diddordeb,
direidi, a riTtur dda oedd hwnnw. O'm cof ac nid o'm dychymyg y daeth y rhan
fwyaf o lawer o gynnwys y llyfr.
Ymddangosodd " Harri'r Wythfed," " B Fflat,"
ac " Ar Foel Cadwgan " yn y Western Mail ; ac " Achub Wil Rees
" a " Gweddi Wil Bach " yn y Tyst.
Dymunaf gydnabod yn ddiolohgar awdudodau'r ddau bapur am eu
caniatad caredig i'w cyhoeddi yma.
Treforis, Mehefin, 1931 J. J. WILLIAMS
|
|
|
(delwedd J7377e) (tudalen
010)
|
Y CYNNWYS
Tud. CADAIR TREGARON ... 11 ACHTJB WIL REES ... 21 • HARRI'lt
WYTHFED ... 27 EI GYNGERDD GYNTAF ... 33 WAT ii171V8 A.C. ... 39
RODDITOOLIASTE DAYYDD JOHN • •• ... 47 Y CZWYDRYN • • . • • • •• • ... 53
GWEDDI WIG BACH ••• ... 61 B. FaLge ... 65 Az Fom. Cavratuat ... 69
|
|
|
(delwedd J7378) (tudalen
011)
|
Cadair Tregaron
TUA deugain mlynedd yn ôl, y côr canu enwocaf ym Morgannwg oedd
côr y Gilfach Ddu. Yr oedd canu yn eu gwaed yn y pentref hwnnw, a chystadlu
hefyd. Ni chlywsai'r byd am y Ile onibai am ei ganu. Aent ati ymron bob nos i
ystafell ddigon diaddurn yng ngwaelod y pentre; ac er bod y creithiau'n las
ar wynebau'r bechgyn, a llawer mam ieuanc â’i baban ar ei bron, nid wyf yn
disgwyl y clywaf byth ddim tebyg i'r canu hwnnw, ddeugain mlynedd yn ôl. Erys
ambell ddarn i chwararro gwmpas fy nghalon hyd y dydd hwn, a chaf fy hun fyth
a hefyd yn mwmian eanu hen dameidiau lleddf a glywais yn y Gilfach Ddu.
Dydd mawr y pentre oedd dydd hebrwng y c6r i'r eisteddfod. Tyrrai
pawb i'r orsaf, ac nid oedd lun ar waith yn y lofa'r diwrnod hwnnw. A chwarae
teg i'r hen yswajn, perchen y gwaith, anghofiai'r golled i gyd pan
gyrhaeddai'r newydd gyd a'r nos fod y e6r wedi curo. Byddai of yn un o'r rhai
cyntaf i gael y newydd. Gofalai Shoni'r Aohos am hynny, canys cai
chwecheiniog am ei drafferth. Cyn gyrated ag y cyrhaeddai'r newydd i'r lle,
brasgamai Shoni druan fel hydd i gyfeiriad yr offis. 'Doedd neb byw wedi gweled
Shoni yn rhedeg ond ar y ,teithiau hynny. Tair ceiniog oedd y tat php
fyddaisr dor wedi colli, a chwech pan fyddai wadi mail} x , ond gofalai cor y
Gilfach Ddu fod Shorn, naw gwaith o bob deg,. yn cael ei chwech,yp. gyfan.
Byddai saith neu wyth e, fechgyn oryfi6n, dipyn•yn arw yr olwg artynt, yn
myned gyda'r oar bob man, i ofalu el fad yn cael, whara teg," a,
obalodd,,1 mwy nag un beinfiad le i ,eclifeirwch am wneuthur oamwri. Wedi
cychwyn o'r car, al'r hen bobl, a'r plant yn eu yn-41 i'w tai; ond wd .oedd ergyd
o waith y diwrnod eithr cwrddent gllycld, ar y gongl ddyfalu tynged y nor.,
" Wyt ti'n y meddwl 'nillan nhw, Marged. l " -ebe gwraig • y drws
nesaf.
|
|
|
(delwedd J7379) (tudalen
012)
|
Cadair Tregaron " Rwy'n cretu g'nan nhw, ferch," ebe
Marged. " 'Ro'n trb w'n gwe'd fod s "W'n tocins yn 'u (Arm nhw
nithwr, to beth." Ac unai pawb nad oedd dim ond ennill i fod, " os
na chelen' nhw gam." Modd bynnag, daeth y son am Eisteddfod fawr
Tregaron, a chyrhaeddodd y rhaglen i'r Gilfach Ddu. Galwyd y cOr ynghyd yn
ddiymdroi i benderfynu " os o'dd mynd i fod." Awgrymodd yr
arweinydd fod " yr amsar dicyn yn bring, y darn dicyn yn galad, a'r
wobor dicyn yn fawr." " Beth yw'r pishyn? " ebe rhywun. "
Worthy is the Lamb," ebr yntau. " Faint ma'n' nhw'n ginnig am dano
fa?”
“Ucian punt," ebe'r arweinydd. Dyma'r holwr ar ei draed fel bolh :
" Annwl gidwithwrs," meddai (yr oedd yn aelod o bnllgor y
gwaith)," 'y marn i yw nad Os dim doi ar y ewestiwn. Udan punt, a ninna
man hyn heb acor yn penna' am ddoi fish! Mi fydde'n gwiddil i ni. 'Allyn i
ddim marw fel dyn arall pe bydden ni'• gatal iddin nhw fynd heb gal shot
atyn' nhw, Is bath. Os w i mewn ordor, Mr. Cadeiridd, rw' i'n cinnig yn bod
ni yn 'mofyn yr ucian punt 'na." " Rw' i'n cinnig yr eiliad,"
ebe rhywun. Ao heb ragor o ddadlau, dyma'r dwylo caled i fyny bob un i "
'mofyn yr ucian punt ". Chwardd di, ddarllenydd mwyn, os mynni, am ben y
dadlau diniwed yna; ond pe *wait hwy yn canu ymhen y mis, " Worthy is
the Lamb," as es en talon o'th fewn, fe deimlit y dagrau yn cronni i'th
fat y teimlaf innau y funud yma, wrth feddwl am g oreithiau gias, a'u
lleisiau fel y nablau aur, yn emu am yr Oen — ddeug3in mlynedd yn ôl! Werwylfort
dyn ieuanc o'r enw Evan Watcyn yn y Gilfach Ddu, so ef oedd yr unig un yn yr
ardal a ystyrrid " yn dicyu o fardd." Ieuan Gwent y gelwid ef gan
bawl), Dyna'i ffugenw bob amber pan yn adrodd yn hogun yn y man eisteddfodau,
ao erbyn hyn ymddangosai ambell bennill per uwch enw
12
|
|
|
(delwedd J7380) (tudalen
013)
|
Cadair Tregaron
Ieuan Gwent. Gwelid ei enw ar ambell garreg fedd mwy diaddurn na'i
gilydd yn y fynwent fach yn y cwm, a thystiai ambell un yma a thraw fod Ieuan
yn " fardd bach net." Ni freuddwydiodd neb bethau mawr amdano, ond
sylwai'r mamau fod yn haws gan y plant bach gofio penillion Ieuan nag eiddo
neb arall. Daeth yntau rywsut o hyd i raglen testunau Tregaron, a sylwodd fod
yno wobr a chadair am bryddest i'r " Gwlith." Am wythnosau wedyn,
sylwai'r gweithwyr a adawai'r lofa hanner nos fod y gannwyll yn llosgi'n hwyr
yn ystafell Ieuan Gwent. Cadwodd ei fwriad iddo'i hun, a gwasgodd of at ei
galon o olwg y byd; ond sylwodd ei gydweithwyr yn y lofa fod Ieuan yn
liprifennu mwy nag arfer ar y bocs cwrlo, a'i fod yn brinnacei eiriau na
chynt. Ond yr oedd dydd yr eisteddfod yn agoshau, ac nid oedd hamdden i
siarad am ddim arall yn y Gilfaoh Ddu. Canai'r cor yn well nag erioed, a
chlywid " Worthy ie the Lamb " ar dafodau'r plant ar y ffordd i'r
ysgol. Daeth yn bryd i bob mam baratoi coler lAn i'w bachgen, ac i'r merched
feddwl beth i'w wisgo. Un noson, gwelwyd Shoni'r Achos yn llechu wrth y drws
i wrando'r con " P'un ai tair ynte 'whech gei di'r tro hyn, Shoni?
" ebe rhywun. " Myn brain i, ma' siin 'whech miwn 'na heno, os nod
w i'n camsyned," ebe Shoni, a'r golau yn ei lygad. Ond y bore cyn yr
eisteddfod, ymdaenodd owmwl droe y Gilfach Ddu. Aethai'r bechgyn fel arfer
i'r lofa ar doriad y dydd, a hawdd gwybod fod trannoeth yn anion ei o'i flaen
wrth glywed y talcenni glo yn diasbedain gan n mawreddog — " Blessing
and honour, glory and pow'r, be unto Him, be unto Him." A phed
eisteddech ar y ilethr foel uwchben y pentre, caech glywed y merched yn oanu
ymhob t9; a'r un oedd y gin — " Blaming and honour, glory and pow'r, be
unto Him"; a phwy a *yr na chydiodd telynau'r nef yn y gin cyn marw
ohoni ar y moelydd l Ond bu diwedd
13
|
|
|
(delwedd J7381) (tudalen
014)
|
Cadair Treciamn sydyn i'r canu, a gwelwyd y Gilfach Ddu yn dal ei
hanadl. Rawsut, darganfu rhyw wraig fod telegram i rywun yn y pentre newydd
gyrraedd y Post Office, ac i ffwrdd a hi, a'i hanadl yn ei dwrn, i gyhoeddi
bod " teligrafft ar y ffordd yn dyfod. Ymdaenodd y newydd fel tan mewn
eithin crin, a rhuthrodd y pentref i'r drws. Druain ohonynt! cennad
marwolaeth oedd pob telegram a ddaethai i'r pentref hyd yn hyn. Calon pwy
oedd i'w chlwyfo'r tro 'yma? Mawr y dyfalu a fu. Ar hyn, dacW'r hen
bostfeistr i'r golwg yn y tro,-a churodd pob calon yn gyflyrnach. " Ble
saif e? " 'Roedd g*r hon-a-hon yn gweithio yng Nghwmtyle, " fe
ellwch fentro taw — " Ond dacw ddiwedd ar y dyfalu, afr hen swyddog yn
sefyll wrth ddrws Marged Watcyn, mam. Ieuan Gwent. Nid oedd angen curo; yr
.oedd Marged, druan, ar y drws, a'i hwyneb erbyn hyn fel y marmor gwyn.
Hysbyswyd hi mai eiddo Evan Watcyn (Ieuan Gwent) oedd y telegram. Gosododd y
swyddog ef ar y bwrdd, gan fod gormod o gryndod ar Marged, drum, i gydio
ynddo, ac i ffwrdd ag ef heb air ond hynny. Gyd fod o'r ffordd, llanwodd y
cymdogion y ty, a mawr oedd y cydymdeimlad a Marged Watcyn. 'Feiddiai neb
gyffwrdd y telegram, ond gadawyd ef, fel darn o wahan-glwy, ar y bwrctd. A
,pha angen ei ddarllen? Gwyddai pawb beth oedd ynddo. Un mab oedd gan Marged
heblaw Ieuan. Yr oedd hwnnw'n weinidog i km' Grist mewn capel bychan Yn y
wlad. " Machgan annwl i," ebe Marged, ..dagrau'n hidl, " fiws,
e ddim. yn rhyw iach iawn ariod, ond 'feddyles i 'riOd y bydde fe'n naynd mor
monied. Deigen Cid o'dd 'i dad, yn 'y ngadel a gyd f, nhw 'u Wylai Marged
" y' dfvr nesa' at ei chalon," ac wylai pawb gyd A, hi. Gwyddent
trwy brofiad mynych yn y Gilfach Ddu mai mwy effeithiol na phob araith' yw
wylo gyd A'r rhai sydd yn wylo.
14
|
|
|
(delwedd J7382) (tudalen
015)
|
Cadair Tregaron Anfonwyd i'r gwaith at Ieuan, ac nid oedd angen
oedi munud i benderfynu pwy oedd i gyfarfod Ieuan ar ben y pwll. Gwaith yr
hen Ddafydd Ifan y diacon oedd hynny. Nid oedd tieb drwy'r holl wlad 'a'r
ddawn i dorri'r garw fel. Dafydd Ifan. Pan glwyfid bachgen yn y lof a,
gofelid bob amser anfon Dafydd Ifan i dorri'r newydd i'r fam. Ac nid oedd dy
yn y pentre na wybu rywbryd am gysuron Dafydd Ifan. Cyfarfu'r ddau — Ieuan a
Dafydd — ar ben y pwll. " Be' sy'n bod, Dafydd Ifan? O's rh'wbeth ar
mam? " ebe Ieuan. " Nag o's, 'machgen i," ebe'r hen wr, —
" dim byd ar dy fam." ett, A dyna'r cwbl a glybuwyd o'r ymddiddan.
Tipyn o orchest i'r hen iirr fu dilyn Ieuan y bore hwnnw. Ar y ffordd i fyny,
gwelai arwyddion galar ar bob llaw. Yr oedd y Wilds i lawr ar bob ffenestr yn
y pentre, — dyna un o'r traddodiadau na feiddid eu diystyrru yn y Gilfach
Ddu. O'r diwedd, cyrhaeddodd y t9, a chafodd olygfa nas anghofiodd hyd ei
fedd. Eisteddai Marged Watcyn yn y gadair fawr yn y gongl nesaf i'r tan, a'i
phen yn ei neisied booed. Ar bob cadair arall yn y ty eisteddai'r cymdogion,
a'u neisiedi yn eu dwylo-- mynnai'r traddodiad mai. Marged yn unig oedd i
gadw y neisied ar ei hwyneb! Ar y bwrdd yr oedd Wain oyn wynned a'r carlwm,
ac ar y can& gorffwysai'r telegram — heb ei agor byth. Yr oedd golwg
ryfedd ar Ieuan — ei wyneb yn ddu fel y glo, a dwy ffrwd o chwys wedi
rhigoli'r llwch ar ei ddeurudd, fel ffrydiau'r gaeaf ar darenni'r fro. "
Dyna fel ma' hi, Ieuan bath," ebe un o'r gwragedd, " ma rh'wun dani
o kyd." " Ia, ia," ebe un arall, " ma'r Beibil yn gwerd
yn eitha gwir : Ynghanol ein bywyd yr ydym yn anger ." " Rw' i wedi
gwe'd- wrthot ti lawar gwaith ma? nid yn y Beibil ma' hwnna," ebe Dafydd
Ifan. • " Beibil ne' bido, Dafydd Ifan, ma' fe'n eitha gwir, to
beth," ebe'r wraig dafotrydd.
|
|
|
(delwedd J7383) (tudalen
016)
|
Cadair Tregaron
Bu distawrwydd am dipyn wedyn, ac amcan pennaf hwnnw oedd rhoi
cyfle i Ieuan ddarllen y telegram. Yr oedd cywreinrwydd y gwragedd yn prysur
gael y trechaf arnynt.
“Well i ti ddarllen e', 'machan i, i ni ga'l clw^ed y gweitha,”
ebe un ohonynt o'r diwedd.
Ufuddhaodd Ieuan, a bu tawelwch mawr. Syrthiodd mudandod ar bawb,
ac aeth sw^n rhwygo'r telegram fel cledd i galon Marged Watcyn. Edrychodd
Ieuan yn hir arno, a daliai pawb eu hanadl.
"Mam," eb ef o'r diwedd, "codwch y blinds
'na."
"Bachan ofnadw! " ebe un ohonynt, "cwnnu'r blinds,
a dy frawd wedi marw!"
" 'Dyw 'mrawd ddim wedi marw," ebe Ieuan; "cwnnwch
y blinds 'na."
"O wel, wir," ebe un arafl, " wa'th teligrafft ne'
bido." . Mawr fu'r ymgais i wybod beth oedd cynnwys y telegram, and yr
unig beth a ddywedai Ieuan oedd mai rhywbeth iddo ef ei hun oedd ynddo. Cwmni
siomedig lawn a ymadawodd A thy Marged Watcyn y bore hwnnw. " Cwnn y
blinds 'na, Miriam," ebe gwraig y drws nesaf wrth ei merch, " do's
dim anglodd i fod yto." " Dim anglodd? " ebe Miriam. "
Nag o's, wir, gweitha'r modd," ebe hi, " a dyna finne wadi ymoleh
'y ngwmed am ddim." " Neiff e' ddim drwg i chi, mam fach,"
ebe'r Firiam ddrwg, a chwarddodd lond y q. Wedi cael gwared y galarwyr, y
path cyntaf a wnaeth Ieuan oedd gofyn a oedd ei goler yn lin. " Pwy lin
yw hi," ebe Marged Watcyn, " a thithe wedil gwishgo hi dy' Sul?”
“Rhaid i mi un yn rhywle,'' ebe yntau, " whant area' i (i) fynd i1
'steddfod fory." " Ma'n well i ti fynd i weld dy frawd," ebe'r
fain drum, " efli di fentro fod rhwbeth arno fe."
16
|
|
|
(delwedd J7384) (tudalen
017)
|
Cadair Tregaron
Cystal dywedyd yn y fan hon mai cynnwys y telegram
oedd: “Wanted at Tregaron to-morrow. Come early, without fail.” Ofer ceisio
darluni teimladau Ieuan Gwent, ond aeth ati i chwilio gyntaf y medrai am y
ffordd gyflymaf i gyrraedd Tregaron. Y gair “early” a’i blinai fwyaf. Onibai
am hwnnw gallai fyned gyd a’r un trén â’r côr, ond nid oedd hwnnw i gyrraedd
yno hyd y prynhawn. Gwelodd mai yr unig ffordd am dani oedd cerdded wyth
milltir a hanner yn y bore bach i gyrraedd y mail i Brinderry Junction.
Taith ryfedd a fu honno! Cychwynnodd cyn i’r wawr
orffen ymlid y gwliith o’r tarenni. Y Gwliith! Onid dyma destun ei gerdd?
Siaradodd â phob perlyn y bore hwnnw, ac adroddodd ei gân bob gair wrth
gerdded Tarren y Dduallt. A phan yn croesir i’r gamfa i’r gwastatir,
dychmygai glywed miliynau o leisiau pêr yn gweiddi “Heddwch” ar lechweddau’r
Darren. Nid oedd ar y ddaear y bore hwnnw namyn angylion a thylwyth teg!
Cyrhaeddodd yr orsaf awr a hanner cyn pryd, a
threuliodd yr amser i ddarllen y telegram, ac adrodd ei gân drosodd a
throsodd wrtho’i hun. Daeth y trén o’r diwedd, ac i ffwrdd â Ieuan Gwent, a’i
wyneb yn syth i Dregaron. Ymhen tua dwyawr arhosodd y trén yng ngorsaf
Pontyffynnon, a digwyddodd rhywbeth yno a barodd i Ieuan ddarllen y telegram
am y filfed waith. Pwy ddaeth i’r cerbyd yno ond Salamus a Siencyn Wyn — dau
eisteddfodwr pybyraf y dydd: Salamus, â’i wallt modrwyo g, gwinau; a Siencyn
Wyn, â’i ateb ffraethlym, pert. Deallodd yn fuan eu bod hwy thau ar eu taith
i Dregaron; a chan eu bod yn siarad am bopeth ond y gadair, teimlodd yn sicr
fod y ddau yn cynnig. Gwyrth yn unig a’i galluogai ef i guro cewri felly, a
rhag llewygu ohono darllenodd y telegram eto. “Wanted at Tregaron” — ie,
dyna’r geiriau, ar waethaf Salamus a Siencyn Wyn.
Wedi hir deithio, “Dacw’r babell,” ebe Salamus. “Ie,
dyco’r tent,” ebe Siencyn Wyn. A deallodd Ieuan Gwent fod Tregaron o’r diwedd
yn ymyl. Wrth edrych ar eu cyd
|
|
|
(delwedd J7385) (tudalen
018)
|
Cadair Tregaron
deithiwir syml yn y gongl, tybiai Siencyn Wyn fod y
graith ar ei dalcen yn lasach nag y buasai awr yn ôl. Ni ddaeth i’w feddwl
mai’i wyneb oedd yn wynnach!
Lle bychan oedd Tregaron, ac oherwydd hynny yn lle
da am eisteddfod. Rhwng trén a cherbyd a throi a thraed, daethai dwy ochr y
wlad i’r wledd y diwrnod hwnnw. Aeth Ieuan ar ei union i’r babell yr ŵyl,
ond gwybu’n fuan nad oedd fawr angen am y "come early." Buwyd gyd
a’r unawdau a’r adrodd, ac araith Saesneg y llywydd, hyd yn ddiweddar yn y
prynhawn; ond wedi hir a hwy r, gwelwyd ddarpar ar gyfer y cadeirio. Llennwyd
y babell yn awr i’w hymylon eithaf, a theimlai Ieuan Gwent ei galon yn ei
wddf.
Gyd â hyn, clybuwyd mwy o sŵn nag arfer ym mhen
ôl y babell, ac aeth y sibryd drwy’r lle fod côr y Gilfach Ddu wedi cyrraedd.
A chwarae teg i’r cõr hwnnw, nid aeth i eisteddfod erioed heb i’r holl babell
ddyfod i wybod hynny yn bur fuan. O hynny allan, clywid acen bert Morgannwg
yn amlwg ym mhleediadau’r ŵyl; a pha eisteddfod sy’n llawn hebddi?
Deallodd y corau eraill hyd yn oed drwy’r bloeddiau diniwed fod yno leisiau
fel y diliau mêl. Ond ust! dacw’r Gadair yn y canol; dyma ddiasiad y Corn
Gwlad; dacw’r beirdd ar y llwyfan; y feirniadaeth yn cael ei darllen, ac
"Eiddil" yn orau o ddigon o dri-ar-ddeg.
Ar hyn, dyma daranllais yr Archdderwydd yn rhwygo
nef a daear: "Os yw 'Eiddil’ yn wyddfodawl, safed ar ei draed."
"Ych chi’n dishgwl iddo sefyll ar’i ben, ‘te?”
ebe llais main Morgannwg yn y pen ôl.
"Eiddil," rhuaï’r Archdderwydd drachefn.
Ar hyn, ynghanoe’r mudandod llethol, dacw ddyn
ieuanc gwelw ar ei draed, a chraith fawr las ar ei dalcen.
"Pwy ydi o?" ebe’r Gogleddwyr.
"Pwy yw e’, boys," ebe Morgannwg.
Ar hyn, dyma wawch annarëol o ganol y Gilfach Ddu:
"O! r Ieuan bach ag e’! O! r canon ag e’!”
|
|
|
(delwedd J7386) (tudalen
019)
|
Cadair Tregaron
" Pwy yw e', 'te, Dai? " ebe rhywun. " Wel, bachan,
ond taw Ieuan Gwent yw e'," ebe Dai. " 'Rwyt ti'n siwr o fod yn
camsyned," ebe hanner dwsin. " Camsyned," ebe Dai, " ble
ma'ch llyged chi? " Bu gorfoledd na chlybuwyd ei gyffelyb ar y ddaear
hon pan wnaed yn sicr mai Ieuan Gwent oedd biau'r Gadair. • Wylai'r merched a
neidiai'r bechgyn, a chafodd un ohonynt enw newydd a lynodd wrtho hyd ei fedd
— " Tvvm gollws 'i gap." Erbyn hyn, yr oedd dau fardd urddasol wedi
eu hanfon o'r llwyfan i gyrchu'r buddugwr i'w sedd. Ni bu rhaid iddynt
gerdded ymhell, canys yr oedd dau o fechgyn y Gilfach Ddu yn cario Ieuan ar
eu hysgwyddau i gyfeiriad y llwyfan : neb hyd y dydd heddiw sut yr aethant
ato drwy'r rt ac ni wyddent eu hunain chwaith. Aed ymlaen cadeirio yn of
Braint a Defod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Taranai'r Archdderwydd, " A
oes heddwch?”
“O's, myn hyfryd i," ebe un o fechgyn y Gilfach Ddu cyn i'r dyrf a gael
gafael yn ei ilais. Chwarddodd pawb, and gwgodd yr Archdderwydd, a gwelwyd
cymylau tair sir yn cronni ar ei ael. Wedi araith lem ar "
hyfiafiaetholrwydd a chysegredigeiddrwydd yr Orsedd," gofynnodd drachefn
: " A oes heddwch?”
“Hedd-wch," ebe'r dorf yn ufillais=a dihangodd y waedd heibio i Gors
Caron i gyfeiriad y tar, a thystiai rhywrai iddynt ei chlywed yn gymy cher
gwylanod ar y traeth. Bu Ieuan.dan orfod i aros yn Nhregaron trwy'r nos
honrio, canys, ,yn uxioi deildf ddigyfnewid, nid oedd y' Gadair i fyned o'r
llwyfan nes byddarr eisteddfod trosodd — ac nid oedd obaith am hynny hyd
hanner nos. Treuliodd y nos, a'i Gadair gyd Ilg ef, mewn gwesty bychan heb
fod nepell o'r orsaf. 'Chysgodd eddirn, ond fe freuddwydiodd lawer. Yn y
cyfamser, canodd corau. Yr unig fai a ddarganfu'r beirniad ar gor y Gilfach
Ddu oedd " bod tuedd i sharpo yn y tenors." " Fe sharpet tithe
hefyd 'tae di mor fakh a fi. 0! 'r Ieuan bath ag e! " ebe Dai Jones.
19
|
|
|
(delwedd J7387) (tudalen
020)
|
Cadair Tregaron Dai oedd cydweithiwr Ieuan yn y pwll .glo. Ef a'i
hadnabu Orntaf pan gododd " Eiddil " ar ei draed. Oaf odd y fath
orfoledd y diwrnod hwnnw fel y bu dri mis cyn oeri. Nid rhaid ymhelaethu ar
dynged y con Digon yw dywedyd i rywrai weled Shoni'r Achos yn brasgamu
ynghynt nag arfer i'r offis, ac iddo ddyfod yn ei ôl a dwy " whech
" loyw yn ei law, tan foliannu Ieuan Gwent a eh& y Gilfach Ddu.
Daeth y cor adref tua hanner nos, a mawr y gorfoledd a fu. Lledodd y son am
Ieuan Gwent i bob tji yn y pentre, a phenderfynwyd, heb na chynnig nac eilio,
nad oedd neb i fyned i'r lofa trannoeth. Nid anturiaf geisio darlunio'r
derbyniad a roddwyd i Ieuan. Ni chafodd roddi ei draed ar y llawr nes
cyrraedd carreg aelwyd ei fam. Sylwodd pawb mai distaw iawn oedd Marged
Watcyn. Yr unig air a ddaeth dros ei gwefus ydoedd hwn : " Mi fydde'n
dda gen i pe bydde 'i dad e' byw heddi." Dyna unig Gadair Ieuan Gwent.
Ymhen blwyddyn neu ddwy, gwelwyd fod yr afiechyd a aeth a'i dad i'w fedd yn
ddeugain oed wedi gafael ynddo yntau; ac ymhen tipyn, gwelwyd gorymdaith ddu
yn troi i'r fynwent tuallan i'r pentre, a Dai Jones ymlaenaf dan yr elor.
Rhyw gyfnos, yr haf diweddaf, pan oedd pelydr ola'r haul yn gorff-wys ar
Darren y Dduallt, euthum at ei fedd. Dichon mai rhyw wendid ynof i sy'n
cyfrif am y peth, and yn fy myw ni allwn lai na chredu bod mwy o wlith ar
laswellt y bedd hwnnw nag yn unman arall drwy'r fynwent. Ac er bod y garreg
yn llwyd, a'r golau'n wan, llwyddais i ddarllen y geiriau hyn :
" VIIAN GWENT BARDD CADAIR TREGARON "
20
|
|
|
(delwedd J7388) (tudalen
021)
|
Achub Wil Rees DYN divad
" oedd Wil Rees i'r Gilfach Ddu. Ni wyddai neb yn rhyw fanwl iawn o ba
le y daethai; ond gwyddai pawb, wrth y mil creithiau man ar ei wyneb, iddo
gychwyn ei yrfa yn rhywle yn ardaloedd y glo carreg. Disgynnodd yn y Gilfach
Ddu, ac Ann ei wraig gydag ef, yn sydyn a distaw, fel cawod eira. Sylwodd
rhywrai fod rhyw " fachan diarth " ar ben y pwll fore trannoeth, a
dyna i gyd. Deallwyd gydag amser mai rhyw hanner paw oedd Wil. Ni theimlai
ddiddordeb mewn na chapel nac eisteddfod, ac yr oedd hynny yn ei gloi allan
yn llwyr o fywyd y pentre. Nid ymunai chwaith a'r meddwon, ond credai y dylai
pob dyn gonest gael " sioncen fach acha nos Satwn." Pan fyddai
hynny o orchwyl trosodd, ai yn syth tuag adref at Ann, fel dyn wedi cyflawni
ei ddyletswydd. Gan ei fod yn rhy dda i ymuno a'r dosbarth gwaethaf, a heb
fod yn ddigon da i'r dosbarth gorau, pur ddigwmni a fu Wil am dymor maith.
Disgynasai i ganol gwareiddiad a oedd yn anghynefin iddo. Methai ef a'r
Gilfach Ddu a deall ei gilydd; a rhyw ddioddef ei gilydd, ac edrych yn sarrug
ar ei gilydd, a wnaeth y ddau am fisoedd. Ond daeth tro ar fyd pan symudwyd
Wil i weithio yn ymyl tua homier dwsin o'r bechgyn a berthynai i'r Bechgyn
glen eu meddwl a'u moes oedd y rhai hynny yn ddieithriad, ond mor llawn o
ddireidi a'r wyn ar lethrau Tyla'r Fedw gerllaw. Sjarad am gapel a chanu a
chystadlu y byddent drwy gydol y dydd. Byd go ddieithr oedd hwnnw i Wil.
" 'Rwy'n teimlo ishta giar mewn llyn yn 'u cenol nw," meddai ryw
noson wrth Ann. " Os taw felni ma' hi," meddai hithau, " y
peth gora i ti, Wil bach, fydd dysgu moifad gynted y gelli di."
21
|
|
|
(delwedd J7389) (tudalen
022)
|
tichith Wil Rees
A dysgu moifad " a wnaeth, oblegid ceid arwyddion v.m hen
ychydig wythnosau fod yr paint, yn dechrau gafael nddo yntau. Daeth
yn*farwydd ag 'enwau eorau, a beirniaid, a thermau cerdd; a theimlodd y nwyd
gystadlu yn deffro yn ei waed. Y gwir yw, cymerodd y bechgyn Wil at eu calon,
a thyfodd yntau yn y gw,res. Rhyw brynhawn dydd Gwener, a chystadleuaeth
bwysig ar droed trannoeth, gofynnodd un o'r bechgyn yn sydyn " Wn i yn y
byd a licsa'r hen Wil ddod gita ni? A threfnwyd ar unwaith i ofyn iddo.
" Otich chi'n folon i fi ddod? " meddai Wil. " Bolon? Bachan,
fydd hi ddim yn llawn hebddot ti. Dere 'mla'n, wir." Yr oedd cael ei
gyfrif yn rhywun yn brofiad newydd i Wil, ac aeth adref fel dyn wedi cael
ffortiwn. Geneth hirben, gall, oedd Ann, a Ilawenhai yn ddistaw o weled Wil
yn dechrau rhwygo'r lien oedd rhwng ei unig-rwydd a bywyd y Gilfach Ddu.
Gofalodd,ei fod yn cael cychwyn drannoeth mor drwsiadus a ,neb yn y fintai,
a'i gorchymyn olaf ar garreg y drws oedd hwn " Cofia di ddod yn reit, 'nawr."
Nid anghofiasai Ann mai dydd Sa,dwrn ydoedd, ac ofnai yn ei chalon nad
anghofiai Wil mo hynny chwaith. Daeth y diwrnod cyntaf yn ei fyd newydd a
phrofiad byth-gofiadwy i Wil. Ymdaflodd i rialtwch yr Aryl, eytunodd a phob
gair a ddywedodd y beiimiad, a gwybu pawb yn seddau swllt ei fod yn byw yn yr
un pentref ter cor buddugol. ,Daeth adref yn yr un cerbyd ter arweiriydd, gan
dybio mai felly y byddai debycaf o gael manylion yr eisteddfod nesaf.
Dilynodd y gwersyll bolj tro Wedi 'Ilya, a xlechreuodd uno yn y canu diniwed
ar y ffo;dd adref. Pan fyddai wedi llymeitian ar y mwyaf, byddai bob amser
yr). canu " Beth sydd imi yn y byd? "; a phan yn berffaith sobr,
" Y Ferch o Blwyf' Penderyn." Disgwyliai Arui yn bryderus amdano'n
dychwelyd o'r teithiau hynny.
22
|
|
|
(delwedd J7390) (tudalen
023)
|
Ahab .Wil Rees
" Odi Wil ni wedi dock? " meddai rywdro wrth dwr o
enethod a ddaethai o'r orsaf a. flaen y gweddill. " Oti, oti,"
meddai un ohonynt, " 'ro'n i'n ciwed laish e cuwch d neb yn y
tren." . " Beth o'dd e'n ganu, ferch? " meddai Ann, druan. Nid
oedd angen gofyn dim arall, canys taflai'r ateb oleuni ar holl gyflwr moesol
Wil. . . Ar awgrym yr arweinydd, fe'i gwahoddwyd ymhen amser i ymuno "
Wath ma llaish net gita fa, to fe'n gwpod beth i nithur ag e." Ac felly
y bu. Yr oedd yn ei le. bob nos, a gofalai'r bechgyn yn y talcenni glo ei
arwain drwy'r darnau mwyaf afrwydd gant o weithiau'r dydd. Aeth popakk ymlaen
-yn hwylus am amser hir; ond un nos, torrwyd ar y tahgnefedd, a digwyddodd
rhywbeth a roes enw newydd i Wil — enw a , lynodd wrtho am flynyddoedd.
Gosodesid of i eistedd yn nasal at un o berchen llais mawr, mawr — aruthrol
fawr; ac nid oes sicrwydd hyd y dydd hwn nad er mwyn " boddi Wil "
y gwnaed hynny. Ond ni fynnai Wil mo'i foddi." A'r cor, un nos, yn
anterth hwylus un o'i ddarnau mawr, a chymydog Wil yn rholio taranau heibio'i
glust — " Bachan," meddai Wil, dros y liei gyd, " paid &
gweiddi felna. 'Rwyt ti'n canu ishta tromben, 'chan. Rho ehawns i rwun arall,
w." " Beth ma shwd whirl din a ti'n wilia? " meddai hwnnw.
" Ta ti'n.dishgwl ar y copi fe welsat fod Handel wedi doti forte man 'na
(y sain forty a rodd i'r gair dieithr, fel pawb arall yn y Gilfach. Ddu),
" a ma pob un sy'n gallu gweiddi yn gweiddi man 'ny.!' . Myn brain
i," meddai Wil, " to fe wedi doti fifty laver fydda isba iti nithur
shwd geisha 'na." . Collodd yr arweinydd bob llywodraeth ar y.c6r.
Tynnwyd .3rr ysgol gan i ban;. ond y mae'r darn a genid heb ei orffen eto. Un
o ganlyniadau anochel tro hwnnw oedd iddo..gael ei adnabod o hynny allan .fel
Wil Fifty gan bawb yn. y Gilfach Ddu.,
|
|
|
(delwedd J7391) (tudalen
024)
|
Achub Wil Rees Nid dyna'r brofedigaeth olaf a gafodd oddi wrth ei
ogion. Daethai Sais rhonc, o'r enw Alfred H. Warner, i'r Gilfach Ddu o rywle.
Casglwyd yntau ìi mewn i'r côr, a'i osod yn nesaf at Wil, yn lle'r lleisiwr
mawr. Eithr gwelwyd yn fuan nad oedd pethau wedi gwella dim. “Then Round
About the Starry Throne” oedd y darn y gaeaf hwnnw. Pur anfoddhaus oedd Wil,
ac aeth â'i gŵyn gerbron y pwyllgor. “ Beth sy genti yn erbyn y Sais
'na, Wil?” meddai'r cadeirydd. | “ Beth sy genni yn 'i erbyn a?” meddai Wil,
“ fe'n spwylith ni reit 'i wala. 'Dyw e ddim yn gwêd y geira yn hannar reit.
Yn lle gwêd “ rownd abownt ' fel pob dyn arath, ae Am gwêd 'rahnd atahl, meu
rwpath felny. 'Nillwn ni yt Mm Bernwyd yn unfryd nad oedd neb cymhwysach na
Wil i fynd i siarad â'r Sais, ac aeth ar ei neges bwysig yn ddiymdroi.
Rhywbeth yn debyg i hyn fu'r ymddiddan : Wil: Why don't you sing righl, mun î
Sais: What do you know abahi singing î Wil: I do know you cani say “rownd
abownt,” whatever. Sais : I can say “ rahnd abaht”” as well as you can. Wil:
Ay, “rahnd abahtb”: bub what aboul “ rownd abownt ” î Bu dadlau hir, ond i
ddim pwrpas. Collodd Wil ei dymer. “Man alive,” meddai, “ what's on you? Try
once agen. Make your mouth rownd like me, and keep ŵ rownd umtŵ you
finish. If you do that, “rownd abownt” must come oul righM.” s Aeth Wil yn ôl
i'r pwyflgor â chyfrif o'i oruchwyliaeth. ““'Dall a byth â'i nitHur a,”
meddai, “ ma rhwpath y matar ar 'i wddwg a : 'dyw hi ddim wedi'i chwpla, ne
rwpath. Fe'n spwylith ni reit 'i wala.” '7 Hanner y wobr o ugain punt a
gafodd y Gilfach Ddu'r tro hwnnw, a bu llai o ganu nag arfer ar y ffordd
adref. Wedi 24
|
|
|
(delwedd J7392) (tudalen
025)
|
Achub Wil Rees cyrraedd yr orsaf, ymwahanai'r côr, bob un i'w
gartref. Cerddai tua dwsin ohonynt i'r un cyfeiriad, a Wil ac Alfred H.
Warner yn eu plith. Daeth tro'r Sais i droi i'w lety. “ Good nighi, all,”
meddai. “ Good night, Alf,” meddai amryw yr un pryd; ond ni ddywedodd Wil yr
un gair. Wedi munud o ddistawrwydd, dechreuodd yntau : “Yr hen “ rahnd
abaht,' ishtag yw a.; fe gostws ddegpunt i ni heddi.” Yn fuan wedyn, daeth
cwmwl i ffurfafen Wil. Cyfarfu â damwain yn y lofa, ac ni allai ddilyn ei waith
na dilyn y côr am flwyddyn gyfan. Nid anafwyd ef yn drwm iawn,wanys meg 'n ì
lusgo i'w deithiau nos Sadwrn megis cynt. Digon wm oedd byd Ann ac yntau
erbyn hyn Ychydig cyn y Nadolig cyfarfu celwe y côr, yn ôl ei arfer, i rannu
enillion y flwyddyn. Rhoddwyd swm sylweddol i'r arweinydd, a rhywfaint i'r
cyfeilydd; ac yna aed ati i rannu'r gweddill yn gyfartal rhwng yr aelodau.
Wele'r ieuengaf ar ei draed: ““ 'Rwy'n cynnig fod Wil Fifty i ga'l shâr o'r
arian. “Faint y ch chi am roi iddo fa î ” meddai'r hyesendP] “'Rwy'n cynnig
'i fod a'n ca'l dwpwl shâr pawb arall,” meddai'r i A dyna a benderfynwyd, heb
awgrym croes. Gwyddai'r trysorydd yn dda am arfer nos Sadwrn Wil, a threfnodd
i'w gyfarfod. Yn y pwyllgor dilynol hysbysodd sut y bu: y Wetws a ddim,”
meddai. “ Fe driws wêd rhwpath, ond fe ddath rhwpath idd,'i wddwg a, a fe
dacws. Fe gitshws yn dyn yn y'm llaw i, ac yn lle mynd ymla'n, fel arfadd, fe
drows 'nôl, ac fe a'th sha thre at Ann.” Ni ddywedodd neb yr un gair, ond fe
deimlodd y llanc hwnnw rywbeth tebyg iawn i ddeigryn yn cronni i'w lygad.
Aeth y weithred garedig i galon Wil, ac ni ddaeth byth oddi yno. Daeth
cwmni'r bechgyn yn anghenraid iddo. 25
|
|
|
(delwedd J7393) (tudalen
026)
|
Achob Wril“Rêes. Dilynodd hwynt yn awr i'r capel, a daeth ag Ann
gydag ef: ' ac yno y buont yn ffyddlon am flynyddoedd. Gydag amser,
anghofiwyd Wil Fifty yn llwyr, a siaredid amdano bob amser fel William Rees.
Gyda threigliad y blynyddoedd aeth y côr ar wasgar, a symudodd William Rees
yn ôl i'w gynefin, i drin rhyw dyddyn bychan a adawyd iddo gan ei dad a'i
fam. Mae'r llanc hwnnw a soniodd am y “shâr o'r arian ” yn weinidog yr
Efengyl ers blynyddoedd. Beth amser yn ôl fe'i gwahoddwyd i gymnal gŵyl
bregethu mewn capel bychan ar gyffiniau Siroedd Caerfyrddin a Morgannwg. Pan
ddisgynnad o'r pulpud wedi oedfa'r bore, rhoddodd un o HE y sêt fawr ei law
ar ei ysgwydd, a dywedyd :.; “ Gyta fi rwyt ti'n dod ìi gino.” Synnodd y:
pregethwr êi. gyfarch felly gan. ŵr dieithr. Ond wedi craffu, a syllu, a
chraffur eilwaith, gwawriodd arno nad oedd yr hynafgwr yn neb llai na William
Rees. Newidiasai'n ddirfawr ym. mhopeth, ond ei greithiau. Yr oedd y rheini
yr un lliw, yr un faint, ac yn yr un man.â chynt. A chyda. William Rees yr
aeth i ginio, ac i-dê hefyd-o ran hynny;a mynnai Ann iddo aros-am yr wythnos.
Ônd yn y Gilfach Ddu y treuliwyd y diwrnod ar ei hyd. Yr unig beth a flinai'r
gweinidog ydoedd iddo fethu'n lân a chael yr.hen bererin i ganu “ Y Ferch.
o.Blwyf Penderyn.”.. .. Cyn ymadael fore trannoeth, cafodd hanes William Rees
gan ei gyd-swyddogion , yn,y sêb fawr. Dywedent nad.oedd ball ar ei
ffyddlondeb, ac mai ei hoff waith oedd cynghori'r ieuainc i ofalu. dewis
cwmni da.; Xchwanegent iddo ddywedyd ragor nag unwaith yn y gyfeillach.:-”Nid
.yr Xsbryd Glân a'm hachubws. i, ong bechgyn y Gilfach. Ddu.? Wel, dyna'r
ffordd,.hyd. y y gallaf gofio. heno, yr aeth ' Wil. Rees - Wal HNy a Wa ìi ny
ay WAlle Boos. SR a Y o 26
|
|
|
(delwedd J7394) (tudalen
027)
|
Barri' r Wythfed GWENDID mawr y Gilfach Ddu oedd prinder unawdwyr.
Meddai ar gor diguro, and nid oedd yr un Saul ymhlith y proffwydi, a pharai
hynny gryn lawer o dristwch calon. O'r diwedd daeth ymwared, a hynny o fan na
ddisgwyliai neb. Mewn bwthyn (Egon llwyd yn y pentre preswyliai gAirr o'r enw
Harri Harri, a chanddo 1piid ty o blant, bechgyn bob un. Ni pherthynai Harri
i'r fintai gyntaf a ymsefydlodd yn y Gilfach Ddu, ond daethailjno " pan
o'n nhw yn dechra acor y whech," chwedl yntau. Harri Ddwy-waith y gelwid
of gan yr holl ardal, a chas ganddo'r enw. Penderfynodd, gan nad pa nifer o
fechgyn a ddeuai i'r aelwyd yn eu tro, na chai'r un o honynt ddioddef yr un
gwaradwydd dad. Ond pan gyrhaeddodd yr wythfed yr oedd yr enwau wedi rhedeg
yn brin, a bu'n rhaid ei fedyddio yn Harri. Yr oedd hyn yn ormod o demtasiwn
i feddwl bywiog a direidus y Gilfach Ddu. Sibrydodd rhywun " Harri'r
Wythfed, myn hyfryd i." Cyn pen hanner awr cyraeddasai'r newydd bob ty
yn y pentre, a chwarddodd pawb. Nid oedd neb yn cofio i'r hen ysgolfeistr
chwerthin ers blynyddoedd, ond y tro hwn gwnaeth iawn am y camwedd, a
chwarddodd drwy'r nos yn ei gwsg. A dyna'r enw am byth mwy — Harri'r Wythfed
a Henry the Eighth gan yr ychydig Saeson a ddaethai i'r lle ar ddamwain.
Gydag a,mser tyfodd yn greadur heglog, tenau, tal. Meddai ar wddf o ryw
ddirfawr hyd, a " boos naish " anferth yn rhywte tua hanner y
ffordd i fyny. Ar y gwannaf ydoedd o ran galluoedd deallol, ac o ran ysbryd
yr oedd mor ystyfnig a mul. Dywedodd ei dad ganwaith " Ma fa ishta
mwlsyn, oti." Ond ar waethaf ei -ffaeieddau daeth yn wrthrych serch
'gofal' y Gilfach Ddu, cant's gwelwyd .ynddo addewid am ddatganwr mawr, a
ddygai; ryw ddydd; lawryfau 'riewydd
27
|
|
|
(delwedd J7395) (tudalen
028)
|
Harri' r Wythfed i'r pentre. Meddai ar lais cyfoethog, dwfn; a
phan ganodd gyntaf ar ei ben ei hun, edrychodd aelodau pwyllgor y cor mewn
syndod ar ei gilydd. Mae'n wir nad oedd ei nodau yn gyfartal eto, ond bai i'w
gywiro oedd hwnnw. Cymerwyd ato yn ddi-ymdroi gan yr holl ardal, ac
ymddiriedwyd y gwaith o'i baratoi i arweinydd y con Araf iawn, iawn a fu
cynnydd Harri. Ni allai ddarllen nodyn o gerddoriaeth, na llawer o ddim
arall, o ran hynny. Dechreuodd yr arweinydd wangalonni, a sylwyd fod ei wedd
yn gwelwi. Dywedodd yn gyfrinachol ryw nos mai'r unig belydr o gysur a gawsai
era misoedd oedd pregeth Mr. Evans ar " Eithr cafled amynedd ei
pherffaith waith." Ond o'r diwedd taenwyd y newydd ar led fod Harri wedi
meistroli dwy solo — " Arm, arm, ye brave," a'r " Teithiwr a'i
Gi " — a llifodd ton o orfoledd dros y pentre. Tua'r un amser
cyrhaeddodd rhaglen eisteddfod fawr Bro Morgannwg, a mawr fu'r llawenydd pan
welwyd arni'r geiriau hyn : Bass Solo, " Arm, arm, ye brave."
Teimlai pawb fod holl olwynion rhagluniaeth yn troi o du Harri. Cododd y
pentre'n fore ddydd yr eisteddfod, a gwelwyd tyrru i gyfeiriad yr orsaf. Yr
oedd y cOr yn cynnig, bid siwr, ond tynged Harri oedd pwnc y siarad rhwng pob
dau. Wyt ti'n meddwl fod siawns 'da fe? meddai un. " Ma hi gita fa reit
i wala," meddai'r llall, " os na bydd Llew'r Gelli yn cynnig, a
fydd rhaid i hwnnw watshan i bolas hed." " Ma fa siwr i wala o fod
miwn," meddai'r trydydd, " wath lawr sha'r Fro 'na ma preserves y
Llew." Nid gwr i gellwair ag of oedd 'Llew'r Gelli. Yr oedd yn hen ganwr
profiadoi, yn adnabod pob beirniad, ac yn gwybod pob tric. Wedi cyrnaedd
ohonynt faes yr eisteddfod, a chael golwg ar y babell, dau bwnc mawr y
Gilfach Ddu oedd sut i rwystro Ham i eistedd ar y glaswellt, a sut i wybod a
oedd Llew'r Gelli ymhlith y cystadleuwyr. Caed llawer o drafferth gyda'r
cyntaf, ond penderfynwyd yr olaf yn bur ddisyfyd.
28
|
|
|
(delwedd J7396) (tudalen
029)
|
Harri'r Wythfed Rhuthrodd rhywun at y cwmni anadl yn ei ddwrn, a
chlybuwyd y catecism a ganlyn. " Ma Llew'r Gelli yma reit i wala,"
meddai'r cennad yn gynhyrfus . " Wyt ti'n siwr, pun a scothi celw'dd i
ala ofon anion ni wyt ti?”
“Siwr! and gwelas i a gem llycid y munan." " Odd myfflar gwyn am i
wddwg a?”
“Odd, yr un un ag odd gita fa pan 'nillws a yn y Cap Coch." " Fe
ddylsan ni fod wedi cal myfflar gwyn i Harri, hed." va. Ar hynny
cyrhaeddodd cennad arall gan ychwanegu — " A 'rodd copi mawr ishta llian
bord yn pocan mas o bocad frest i got fawr a." Setlodd hynny'r cwestiwn
tuhwnt i bob amheuaeth. Yr oedd Llew'r Gelli yn um*! a chyflymodd curiad
calon y Gilfach Ddu. " Pidwch a hito, boys," meddai un o'r ewmni,
" ma'r Llew yn mynd ar i oetron, diolch i Dduw, a ma isha dicyn o anal i
ganu ' Arm, army brave ' ." Chwalwyd y cwmni gan ddynesiad seindorf a
chwythai eilffordd i gyfeiriad y babel!; canys yr oedd cystadleuaeth bwysig
i'r cyrn pies y diwrnod hwnnw. Dilynwyd beehgyn y cyrn gan y gsirr a
siaradodd ddiweddaf; adwaenai hwynt yn dda, canys yr oedd yn hen
eisteddfodwr. Pan ddistawodd y cyrn, bu cyfathrach isel, ddirgel, ddwys
rhynedo chwythwyr, ac yna daeth yn ei ôl at fintai'r Gilfach Ddu gan edrych
mor ddiniwed £'r oen. Braidd yn gynt na'r disgwyl hysbyswyd o'r llwyfan mai
cystadleuaeth y baswyr a fyddai'n nesaf. Rhuthrodd y newydd fel trydaw drwy'r
dorf a oedd allan ar y mass, a ohyn pen dwy funud yr oedd pob copa o'r
Gilfach Ddu yn y babel!. Syiwyd hefyd fod gwSrr y cyrn pres yn tynnu at y
babell, ac yn aros yn dwr y to allan, am y pared A'r llwyfan, lie y gallant
yn hawdd glywed y canu oddimewn. Datganwr pur
29
|
|
|
(delwedd J7397) (tudalen
030)
|
Harri?r Wythfed 641 oedd y cyntaf, ac am hynny cafodd
gymeradwyaeth wresog gan y Gilfach Ddu. Yn ail, galwyd ffugenw Harri. "
'Nawr 'te," meddai'r Gilfach Ddu. A dacw ef i'r llwyfan, mab Harri
Ddwywaith, yn llefnyn amrosgo, dibrofiad, tal, yn wynebu'r byd am y tro
cyntaf yn ei fywyd. " 'Nawr, Harri bath! " Rhaid imi aros i'ch
hysbysu mai'r drafferth barhaus gyda Harri oedd ei gael i gychwyn yr). iawn.
Dyma ddedfryd arweinydd y cor, " Ma fa ishta ceffyl Twm yr Hailer, yn
mynd yn biwr digynnig ddim ond 'i gal a i starto." I osgoi trychineb ar
y cychwyn eisteddasai'r arweinydd yn y seddau blaenaf, yn union ar gyfer
Harri, fel y gallai roddi arwydd iddo pa bryd. i " ddod i miwn."
Ond dacw'r piano'n cyehwyn, Harri lygad ar yr arweinydd; dyma'r arwydd, a
Harri'n dechrau mor gywir A thic y clot. Canodd yn rhagorol yr holl ffordd,
ac yn agos i'r diwedd siglodd y babel drwyddi gydag — "Arrm — Arrm —
Arrm arrm ye brave,---a no-o-o-o-ble cause." Treiddiai'r Rads cyfoethog
i gyrion y babell, aeth yn ddistawrwydd drwy'r lle, a holai hen
eisteddfodwyr, " Pwy yw hwnna 'te?”
“Bachan ifanc o'r Gilfach Ddu yn treio am y tro cynta'," meddai llais
main yn ymyl; ac yr oedd hynny yn ddigon o brawf i Harri fodloni ei
gyfeillion. Ni chyffrodd gymaint Ag un o'r rheini o'i le, canys yr oedd yn
rhaid aros i glywed Llew'r Gelli. Yn y cyfamser canodd saith neu wyth eraill,
ond gwyddai'r Gilfach Ddu wrth reddf fod Harri ddigon ar y blaen hyd yn hyn.
Yn dcliweddaf oil galwyd ar Lew'r Gelli. Gofalai'r Llew mai ef ofeld yr olaf,
ym mhob cystadleuaeth, — dyna un o'i driciau. Neth i'r llwyfan yn hamddenol,
safai fel gwr bonheddig, a daliai ei gopi fel artist. Dechreuodd gyda Rawer
mwy o bolish na Harri, druan; slyriai yn llawer esmwythach, a gafaelodd y
datganiad yn y dorf. Yr oedd ambell nodyn gan Harri filltiroedd o flaen dim a
feddai'r Llew, a dyna unig obaith y Gilfach Ddu erbyn hyn. Pan
.30
|
|
|
(delwedd J7398) (tudalen
031)
|
Hard' r Wythfed oedd y Llew tua hanner y ffordd drwy'r unawd
gwelwyd y Orr a fu'n siarad a bechgyn y cyrn pres yn nesu'n llechwraidd at
arweinydd y cor, a gofyn yn bryderus, " Oti't Llew yn ennill?”
“Ma arno i ofon i fod e, wir," meddai hwnnw yn ddigon trist. Ar hyn,
brysiodd yr holwr allan, rhedodd at wyr y cyrn pres, a bloeddio'n wyllt —
" Nawr te; boys, hwthwch! hwthwch w! " Ar y gair, gosododd pob un
ei gorn wrth ei wef us, ac ar amnaid oddiwrth mblaenor fe chwythwyd y fath
swn erehyll, aflafar, syfrdanol, nafeirlybuwyd mo'i 'fath er dechreuad y yd.
Crynodd yr holl wlad, tie aeth yn pandemonium yn y bne. -11. Llewygodd flu o
wragedd, safodd y cyfeilydd h'i ddwy law yn yr awyr, a distawodd' Llew'r
Gelli yn yr act o ganu " Almighty Jehovah! " Parhaodd y cynnwrf am
amser maith; ond o'r diwedd galwodd llywydd yr viryl ar Lew'r Gelli i
ddechrau'r eilwaith. Gwelwyd yn fuan nad oedd obaith am hynny, canys
bloeddiai'r Gilfach Ddu fod dechrau ddwywaith yn doriad ar bob rheol. A chan
fod pawb, bellach, wedi blino ar y gystadleuaeth bu'n rhaid i'r Llew adael y
llwyfan. Wele'r beirniad ar ei draed. Dywedodd ei bod yn ddrwg ganddo am yr
anffawd i'r datganwr olaf, ond bod hynny wedi gwneuthur ei waith of yn llawer
haws. Dyfarnodd y wobr, heb ronyn o betruster, i'r sawl a ganodd yn ail —
Harri'r Wythfed! Neidiodd y Gilfach Ddu ar ei thraed, siglwyd dwylo, taflwyd
hetiau, a rhuthrwyd i gyfeiriad y llwyfan. Galwyd Harri i dderbyn ei wobr, ac
i'w arwisgo gan etifeddes un o bendefigion y Fro. liyr o gorff oedd y
foneddiges, ond glanach o bryd a gwedd na neb a welsai Harri erioed. Mahal yn
ei flaw fag coch mawr, a rhuban i'w osod am y gwddf. Chwarddodd pawb pan
welwyd y pellter oedd rhyngddi phen Harri, a gwaeddodd rhywun o'r seddau of
rywbeth ynglYn a " doti colar acha gwddwg giraffe."
31
|
|
|
(delwedd J7399) (tudalen
032)
|
Harri'r
Wythfed
Ymhen
oriau lawer daethpwyd at y gystadleuaeth gorawl, a phan ddaeth tro'r Gilfach
Ddu gwelwyd Harri ymhlith y baswyr a'r bag coch am ei wddf o hyd. Pan
ddarfu'r ŵyl, a phawb yn gwneud am y trên, ceisiwyd ei berswadio i
roddi'r bag yn ei logell, ond i ddim pwrpas. Y gwir yw, yr oedd cywilydd ar y
bechgyn gerdded yn ei gwmni ac yntau'n ymddwyn mor blentynnaidd. O'r diwedd
gofynnwyd i'r arweinydd siarad âg ef, a dechreuodd —
“Tyn
yr hen fag 'na, 'chan, a dod a o'r golwg yn rhwla. Ma pawb yn dishgwl ar dy
ôl di, ac yn wherthin am dy ben di. Fe ddotais i 'm un i yn y mhoced man
cetho i a.”
Safodd
Harri ar ganol y ffordd, ymsythodd i'w gyflawn ddwylath a modfedd, gosododd
ei law fawr, galed, ar ei fynwes, a dywedodd yn bendant, derfynol —
“Boys,
'man hyn dotws y ladi fe, a 'man hyn ma fa i fod, hed.”
|
|
|
(delwedd J7400) (tudalen
033)
|
Et Gyngerdd Gyntaf
WEDI'R fuddugoliaeth fawr yn eisteddfod Bro Morgannwg cododd yr
haul ar fywyd Harri, unawdydd y Gilfach Ddu. Aeth yn anwylach nag erioed i
galon y pentre, a lledodd y sôn amdano hyd ymhell. Trannoeth yr eisteddfod
soniodd un o'r papurau Saesneg am “star of the first magnitude.” Gwyddai
Harri o'r gorau beth oedd star, ond yr oedd magnitude y tuhwnt i'w
ddirnadaeth. Yn fuan wedyn gwelwyd ef yn cyflymu i ben y pwll ddeng munud yn
gynarach nag arfer, ac yn gwneud am y tŷ pwyso. Yn hwnnw yr oedd dau
ddyn yn pendronni uwchben rhyw lyfrau
mawr, ac yn paratoi ar gyfer llafurwaith y dydd. Un o'r ddau oedd y pwyswr
cwmni, a'r llall y checkweigher newydd.
“Beth wyt ti'n mofyn mor fore,” meddai un o'i gydweithwyr, “ffeili
cysgu, neu beth ?”
“Ma isha gweld y checkweigher arno i,” meddai Harri.”
"O's rhai o dy gownts di'n wrong, ne rwpath?”
“Na, ma 'nghownts i'n reit i wala, ond w i isha gwpod beth yw magnitude.”
“Wel bachan brain, shwd wyt ti'n dishgwl i'r checkweigher
wpod?”
“O, wel,” meddai Harri, “ os taw felni ma hi, beth y'n ni well o'i
dalu fa î ” Am ddyddiau wedyn bu dadlau brwd yn y taloenni glo ar
ddyletswyddau checkweigher. Ond ni pharhaodd y dadlau'n hir canys daeth
pwysicach pwnc i hawlio sylw. Erbyn hyn yr oedd y gaeaf yn agoshau, a daeth
yn bryd i ardaloedd y gweithfeydd drefnu eu cyngherddau ar gyfer y tymor; ac
ymdrechai pob ardal ddarganfod datgeiniaid newydd. Soniodd amryw ohonynt am
““y bachan 'na 'nillws
|
|
|
(delwedd J7401) (tudalen
034)
|
Fi Gyngerdd Gyntaf ym, Mro Morgannwg.” Ac un bore daeth llythyr i
Harri, wêlli ei gyfeirio fel hyn — HARRY Hanny, Eso., BASS SOLOIST, GmFACcH
Dpu, GLAM. O Benrhiwcoed y daethai'r llythyr — pentref poblog tua phum
milltir o'r Gilfach Ddu, a mynydd sêrth rhyngddynt. Cynnwys y llythyr oedd
gwahoddiad i Harri ganw mewn cyngerdd, a gofyn yr un pryd am ei delerau.
Cymaint ag a allai Harri, druan, ei wneuthur oedd darllen y llythyr, heb sôn
am ei ateb; a phenderfynodd ymdaflu ar drugaredd pwyllgor y côr. Caed pwyllgor
llawn ar y noson apwyntiedig, eanys aethai sôn am y llythyr drwy'r holl
bentre, a gallai'r rhan fwyaf ei adrodd air yn air. Wedi cadarnhau cofnodion
y cyfarfod blaenorol galwyd ar Harri i mewn. Yr oedd cryn bellter o'r drws i
ben pellaf y long room, a phan oedd tua hanner y ffordd dechreuodd y curo
dwylo mwyaf byddarol a glywyd yn yr ystafell erioed. Derbyniwyd ef fel brenin
oryfel. Pasiwyd tri pheth yn ddiymdroi, gyda gorchymyn i'r ysgrifennydd eu
gosod i lawr yn fanwl yn y llyfr cofnodion, — yn gyntaf, fod y pwyllgor yn
cymryd at yr holl fater; yn ail, fod Harri i dderbyn y gwahoddiad; yn
drydydd, fod y peth i & ga'l i nithur yn deilwng o'r Gilfach Ddu.”
Gwyddent yn dda y byddai eisiau rhyw bethau mewn, cyngerdd nad oedd eu hangen
ar gyfer eisteddfod. Y ddau beth pwysicaf oedd gwisg gyfaddas i'r ll , &
dysgu Harri i “nithur bow” ar ôl gorffen canu. Wrth drin y mater cyntaf
soniwyd am got â chwt fain, crys gwyn â ffrynt stiff, tei wen, a slipars, 'a
dywedodd rhywun fod “ James Savage yn arfadd gwishgo 'menyg gwynnon hed.”
Wedi hir siarad penderfynwyd ymddiried y mater hwnnw yn llwyr i Mary Hughes,
geneth 34
|
|
|
(delwedd J7402) (tudalen
035)
|
Ei Gyngerdd Gyntaf ieuanc brydweddol, fedrus gyda'i bysedd, a
breswyliai'r drws nesaf i Harri. Meri Drws Nesa' y gelwid hi gan bawb, am mai
dyna'r enw a roddai Harri arni bob tro y soniai amdani, a digwyddai hynny yn
bur fynych. Rhoddwyd y gorchwyl o ddysgu Harri i “nithur bow” yn nwylo'r
Proffeswr Hall, o Bontypridd. “Ia,” meddai un o'r pwyllgor, “ danfonwch e
lawr at Hall, i ga'l gweld os gall e stwytho dicyn arno fa.” O'r diwedd daeth
dydd y gyngerdd, — dydd gaeafol, oer. Penderfynwyd teithio mewn brêc dau
geffyl — Harri a'r pwyllgor i gyd. Barnwyd ymhellach mai doeth a fyddai mynd
a Meri Drws Nesa gyda hwynt rhag ofn y digwyddai rhyw anffawd i ddillad
Harri, “ wath wyddoch chi yn y byd beth all ddicwdd acha noswath felni.” Nid
oedd gan Ha th- wynebiad o gwbl i'r trefniant hwn. Tua phump o'r gloch y
prynhawn gwelwyd y cerbyd yn barod ar scwâr y pentre, a'r cwmni i gyd ynddo.
Yr oedd y Gilfach Ddu i gyd ar y scwâr, a. phan gychwynnodd y cerbyd rhoddwyd
tair banllef fawr y gellid yn hawdd eu clywed o Dwyn y Glog, filltir i
ffwrdd. Wedi teithio tua milltir a hanner, a chroesi'r afon ar waelod y cwm
sylwyd fod y nos eisoes wedi lapio'i mantell am Darren y Dduallt 'fan draw.
Erbyn cyrraedd gwaelod coed Tŷ Draw dechreuai'r ffordd godi yn serth; a
chodi a wnâi mwy am lawn filltir, nes dyfod i frig y mynydd. Yr oedd yn
amhosibl i'r ceffylau dynnu'r fath lwyth i fyny'r rhiw, a gwelwyd bod yn
rhaid cerdded oddiyno bob cam i ben y mynydd. Disgynnodd pawb ond Harri a
Meri Drws Nesa', a chleciodd y gyrrwr ei chwip. Ni fynnai'r cwmni sôn am i un
o'r ddau hynny gerdded. “Rw i'n gybitho na chaiff a ddim annwd, ta beth,”
meddai un. . “ Dw i ddim yn meddwl y caiff un o'r ddou annwd, a barnu fel o'n
nhw'n gwasgu at i giddyl,” meddai un arall. Buwyd amser hir yn dringo'r rhiw,
a'r cerbyd ryw ganllath o flaen y cwmni o hyd. O'r diwedd cyrhaeddodd y
cerbyd y gwastad ar ben y mynydd, a mynnai'r gyrrwr aros hyd oni
chyrhaeddai'r gwed
|
|
|
(delwedd J7403) (tudalen
036)
|
Ei Gyngerdd Gyntaf
“Beth wyt ti'n sefyll 'man hyn? ” meddai Harri, “ oera la'n w.” “Ma
hi'n oer ambeidus ar y top 'ma,” meddai'r gyrrwr, '*a mi fydd 'u ca'l nw miwn
i gyd yn help i dy gatw di'n dwym.” “ Rw i'n dwymach o lawar fel yr ŵ
i,” meddai Harri, “' whada bant.” Ond aros a wnaeth y gyrrwr, a dringodd pob
un o'r fforddolion i'w le. Pan yn nesu at hen fferm y Lân trodd Harri'n sydyn
at y gyrrwr — . “O's dim cwnnad arath heb fod yn hir?” meddai. Atebodd hwnnw
mor dyner ag y gallai fod. y ffordd, bellach, yn mynd i lawr ar ei phen i
Benrhiwcoed; a chofiodd Harri'r gyngerdd am y tro cyntaf. * _ Tua chwarter
milltir cyn cyrraedd y pentre, aeth yr holl bwyllgor allan o'r cerbyd, — yr
oedd yn rhan o'u hystryw i beidio â gadael i Benrhiwcoed wybod am eu
bodolaeth. O'r fan honno cerddasant yn un ac un, gan ymgymysgu â'r dorf a
oedd ar ei ffordd i gapel Carmel, lle y cynhelid y gyngerdd. Oddimewn,
ymwasgarasant i bob rhan o'r adeilad, fel nad oedd unrhyw ddarn helaeth iawn
heb gynrychiolydd o'r Gilfach Ddu. Pan ddaeth Harri i'r llwyfan i ganu “Arm,
arm, ye brave,” cafodd dderbyniad llawer mwy cynnes nag un o'r datganwyr Fr:
a sylwyd bod y croeso yn gyffredinol iawn gan yr holl : lleidfa. Ônd nid oedd
hynny i'w gymharu â'r gymeradwyaeth a gafodd ar ôl gorffen. Wrth weled
rhywrai, yn eu hymyl yn curo dwylo, a chwiban a bloeddio, dechreuodd pawb
guro dwylo, a chwiban, a | y | “ Encôr,” medd _“ Yr un bachan ŷn ôl
yto,” ' meddai arall, 2 Signor Foli myn hyfryd i)”. meddai'r trydydd, i — Er
llawenydd i bawb perswadiwyd Harri i ddyfod i'r llwyfan yr eilwaith. Ond y
drwg ydoedd mai dim ond un gân arall, “ Y Teithiwr a'i Gi, ” a wyddai Harri,
ac .yr oedd 36
|
|
|
(delwedd J7404) (tudalen
037)
|
Ei Gyngerdd G yntaf honno i lawr ar y rhaglen i'w chanu yn nes
ymlaen. Beth oedd i'w wneuthur? Gwyddai'r Gilfach Ddu o'r gorau beth i'w
wneuthur. Gwelwyd rhywun yn estyn nodyn i'r Cadeirydd. Rhoes hwnnw ei spectol
ar ei drwyn a darllenodd y papur yng nghlyw'r gynulleidfa. A'r cynnwys
ydoedd, y byddai'n dda gan y gynulleidfa pe gellid perswadio'r datganwr i
ganu'r un unawd drosodd drachefn, ac y byddai'n ddiolchgar dros ben i'r
cadeirydd pe defnyddiai ei ddylanwad mawr i'r perwyl hwnnw. Bu cryn waith perswadio
ar Harri, ond o'r diwedd, ufuddhaodd i daerineb y cadeirydd. ““'Dyw a ddim
mor ddwl a ma fa'n dishgwl,” meddai'r Gilfach Ddu. Canodd Harri'r eilwaith yn
well hyd yn na'r tro cyntaf. Ac er i'r “ bow ” dorri mwy nag un o reolau'r
Proffeswr Hall bu'r gymeradwyaeth yn hir a brwd. Digwyddodd yr un pethau'n
union ynglŷn â'r “ Teithiwr a'i Gi,” ac ar ddiwedd y gyngerdd nid oedd
sôn am neb ond Harri. Caed taith i'w chofio byth ar y ffordd yn ôl. Cytunwyd
yn bur gyffredinol nad pob pentre a_allai gynhyrchu pwyllgor mor ddoeth, a
chanwr mor dda. Ychwanegodd Harri mai nid pob pentre a allai “ gwnnu merch
mor deidi â Meri Drws Nesa, hed.” Yr oedd yn tynnu at ganol nos pan
gyrhaeddasant ben y mynydd. Aethai'r golau allan yn ffenestr y Lan, ac ni
chlywyd na siw na miw yr holl ffordd ond swn cŵn Tŷ Draw yn cyfarth
yn eu cenelau. Dadlwythwyd ar y scwâr, a mynnodd yr holl gwmni hebrwng Harri
bob cam i'r tŷ. Nid oedd yn rhy fodlon i hynny, a phrotestiai fod ganddo
gwmni mor bell â'r drws nesa'. Wedi cyrraedd y ŵ aed dros yr holl hanes
lawer gwaith, a thyfai bob tro ei ddweyd. * * * Y mae'n agos ddeugain mlynedd
er hynny, a'r Gilfach Ddu wedi newid llawer. Tua mis yn ôl teimlais rhyw
hiraeth
|
|
|
(delwedd J7405) (tudalen
038)
|
Ei Gyngerdd Gyntaf i gagl golwg ar yr hen le. Euthum yno heb yn
wybod i neb, a heb yn wybod i mi fy hun. Wedi rhoi tro i'r fynwent. euthum
i'r pentre, ìi chwilio am hen gydnabod, a holi hanes hwn a'r llall. Wynebau
dieithr oedd ym mhobman, ac amddifad o'r hen lawenydd a gofiwn gynt. “ Ydyw
Harri'r Wythfed byw'n awr?” meddwn wrth hynafgwr ar y gongl.”
“Oti, oti,” meddai, “ fe sy 'n byw yn hen dŷ 'i dad.” Euthum i fyny ar
fy union, a churo drws y tŷ, a phwy ddaeth i'w agor ond Harri. “Harri,”
meddwn i. Edrychodd i'm hwyneb yn hir, a chyn dywedyd yr un gair rhuthrodd at
waelod y grisiau, a gweiddi â'i holl nerth — “Meri, dera lawr whaff, wyt ti'n
gwpod pwy sy' 'ma? 5 Pwy Feri,” meddwn innau, “nid Meri Drws Nesa, iefa 2?”
“Drws nesa, wir,” meddai Harri, “ ma Meri a fi yn byw yn yr un tŷ os
deng mlynedd ar ucian. Dera miwn.”
|
|
|
(delwedd J7406) (tudalen
039)
|
Wat
Huws, A.C.
Pan
oedd côr y Gilfach Ddu ar frig ucha'r llanw nid oedd pwysicach gŵr yn y
pentre na'i arweinydd — Wat Huws. O ran hynny, arweinyddion corau oedd
eilunod y cyfnod hwnnw ymhob pentref ym Morgannwg. Gwyddai pawb eu henwau, a
gallai'r rhan fwyaf ohonom fynd yn rhugl dros restr eu buddugoliaethau. Ar eu
henwau hwy yn hytrach nag ar enwau'r pentrefi y gelwid y corau — côr Silas
Evans, côr Coleman Bach, côr y Crwtyn, a chôr Wat Huws. Coffa da am danynt.
Ni allaf hyd heddiw sefyll yn ymyl bedd yr un ohonynt heb blygu pen, a
chofio'n ddiolchgar am eu cyfraniad sylweddol i wir ddiwylliant gwerin pan
oedd y golau'n brin. Gofalodd Rhagluniaeth osod un ohonynt ymhob pentref o
bwys. Daeth pob un yn eilun ei gôr ei hun, ac yn ddychryn y corau eraill.
Gŵr
byr o gorff, gwelw ei wedd, du ei wallt, llawn synnwyr cyffredin a natur dda
oedd arweinydd y Gilfach Ddu. Watkin Hughes oedd ei enw ar y cyntaf, ond pan
enillodd y radd o A.C. aeth yn Watcyn Huws. Ond gan fod bywyd yn fyr a
phrysur ar y pryd Wat Huws y gelwid ef gan bawb. Bodlonodd yntau i'r drefn,
ac ymhen ychydig Wat Huws, A.C. a welid uwchben pob tôn o'i waith.
Ond
er symled yr enw yn ei ffurf derfynol caffai ambell un gryn anhawster i'w
barablu'n iawn. Un o'r anffodusion hynny ydoedd Dai Dirwest. Nid oedd Dai,
druan, yn selog o gwbl o blaid dirwest, ond cafodd ei enw am ei fod bob amser
yn labro'n y dŵr, ym mannau gwlypa'r pwll. Dioddefai'n drwm oddiwrth hen
wendid Morgannwg, y llythyren “'h”. Peth i'w ryfeddu oedd hynny hefyd, canys
hannai ei dad, Ifan Dafis, o “Shir Gafyrdding,” chwedl yntau. Ond un o
fechgyn congl y stryd oedd Dai, ac yno, yn hytrach nag ar yr aelwyd gartref y
cafodd ei iaith. Gofidiai hynny lawer
|
|
|
(delwedd J7407) (tudalen
040)
|
Wat
Huws A.C.
ar
yr hen ŵr, a loes i'w galon oedd clywed Dai'n dywedyd, — “What 'Uws”
byth a hefyd. Swniai'n rhy debyg i What use, ac nid oedd yr ymadrodd
hwnnw yn cyfleu o gwbl syniad Ifan na Dai am arweinydd y côr. Cymaint oedd
gofid yr hen frawd fel y penderfynodd gymryd at yr achos o ddifrif. Yn yr un
stryd â hwy preswyliai dyn ieuanc a ddechreuasai lenydda tipyn, o'r enw Gwilym
Jones. Yn hwyr un nos gwelwyd Ifan Dafis yn llusgo'n lladradaidd at dŷ'r
llenor ieuanc, ac yn curo'r drws yn hanner ofnus: a daeth Gwilym ei hun i'w
agor ar unwaith.
“Ifan
Dafis,” meddai, “beth yn y byd ddath a chi ma's acha tywydd scelar fel hyn?
Dewch miwn, w, dewch miwn.”
“Y
bachan Dai 'co sy'n poeni dicyn arno i,” meddai'r hen frawd.
“Be
sy'n bod, oti fa'n mynd i râs yto, neu beth?
Yr
oedd Dai, er gofid dirfawr i'w a'i fam, yn prysur ennill iddo'i hun enw fel
rhedwr cyflym. Enillasai'r gamp bob tro, a dywedai rhai o'i ffrindiau mwyaf
brwd ei fod “yn ’i gwân 'i ishta llychetan,” neu, cyflymach fyth, “ishta
milgi Ben Shir Fôn.”
“Fe
licswn i ta'r hen lyfath mor whimwth ar i dafod ag yw a ar ì drad,” meddai
Ifan Dafis, ac ychwanegu “Ma fa'n ffeili'n glir â gwed “Wat Huws" ishta
dyn arath, a fe licswn yn ambeidus ta ti'n gallu shapo dicyn arno fa, ma fa'n
ala cwiddyl arno i, oti.”
“Rwy'n
specto at beth ych chi'n ala, Ifan Dafis,” meddai Gwilym, “ych chi am iddo
ddoti acor o h's miwn.”
“Nagw,”
meddai Ifan, “ddim am iddo ddoti racor miwn. Allwn i feddwl fod gita fa lawn
dicon ohonyn nw, ond nad yw a'n gwpod yn y byd ble iddi doti nw. Da machan i,
Gwilym, cymar ato fa, nei di? Fe licswn i fyw idd i glŵad a'n gwed enw
Wat yn iawn, ta beth.”
Tosturiodd
Gwilym wrth yr hen wr, ac addawodd wneuthur ei orau. Nid oedd ganddo ond
ychydig obaith am lwyddiant, canys ni wyddai am undyn byw wedi gwella o'r
clefyd
|
|
|
(delwedd J7408) (tudalen
041)
|
Wat
Huws, A.C
a
flinai Dai. Fodd bynnag cymerodd at y gorchwyl, a threfnwyd rhyngddynt ill
dau fod y frwydr i'w hymladd y prynhawn Sadwrn dilynol ar lethr Tarren y Foel
ymhell uwchlaw'r Gilfach Ddu, ac o gyrraedd clyw'r preswylwyr.
“Nos
da 'nawr ta, Gwilym,” meddai Ifan Dafis, “a chofia di roi eitha ddrilad iddo
fa.”
Bodlonodd
Dai i'r trefniant, ond yn bur hwyrfrydig, a chrynai wrth feddwl am y driniaeth oedd yn ei aros.
Daeth prynhawn Sadwrn, a gwelwyd Gwilym a Dai yn cychwyn am y mynydd gyda'i
gilydd. Rhyfeddodd pawb a'u gwelodd fod dau mor anhebig ynghyd, a cheisiwyd
dyfalu pun ai Dai oedd am ddysgu llenydda ynteu Gwilym Jones oedd am ddysgu
rhedeg. Gwelwyd y ddau'n mynd drwy'r Glwyd Wen, yn dringo llwybr y mynydd,
nes diflannu o'r golwg yng nghoed y Gelli. Wedi dyfod allan o'r coed troisant
yn sydyn ar y chwith ar hyd hen ffordd yr amaethwyr gynt, a oedd ers
blynyddoedd yn laswellt meddal bob modfedd ohoni. Cerddasant yn hamddenol am
tua milltir i gyfeiriad Tyla'r Fedw. Erbyn hyn yr oedd y Gilfach Ddu yn y
golwg eto, ac ymddangosai o'r pellter hwnnw fel rhyw bentref cwsg ar waelod y
cwm. Esgyn ychydig a wnai'r henffordd o hyd; ond o'r diwedd gwelent o'u
blaenau ddarn o dua hanner milltir mor wastad â'r ford.
“Wyddost
ti be ddigwyddws 'man hyn, Dai?” meddai Gwilym.
“Beth
alla ddicwdd mewn shwd le hyn?” meddai Dai.
“
'Man hyn 'nillws Glanffrwd y dryll 'ny.”
“Pwy
ddryll?” meddai Dai, “am beth 'nillws a fa?”
“Rhytag,”
meddai Gwilym; a deffrôdd natur Dai i'w gwaelodion isaf.
Bu'n
rhaid i Gwilym adrodd a wyddai o hanes Glanffrwd, a'r holl helynt ynglŷn
â'r rhedegfa fythgofiadwy honno ar lethr Tarren y Foel, — pan lifai Llanwynno
i gyd o un cyfeiriad, a'r Mount o'r cyfeiriad arall i'r ymgiprys redeg rhwng
eu dau arwr. Y mae dros hanner canrif er hynny, ond y mae
|
|
|
(delwedd J7409) (tudalen
042)
|
Wat Huws A.C.
sôn am y dydd hwnnw yn cynhesu calon Llanwynno hyd yr awr hon.
Wedi i Dai gael amser i oeri dywedodd yn araf ac isel “Rodd dynon shew yn
gallach bryd hynny na ma nhw'n awr.” “ Nawr te, Dai bach, beth te ni'n dechra
ar waith y dydd,” meddai Gwilym o'r diwedd. “ Faint ôt ti'n wed odd hyd y
râs?” meddaì Dai. Methodd Gwilym yn lân â'i gael at y pwynt am amser hir, am
fod Dai, druan, yn awyddus i ohirio'r enbydrwydd hyd y gallai. Gorfu i Gwilym
droi'n bendant iawn, a'i atgoffa fod yr ysgol gân am saith, a bod yr
eisteddfod i'w chynnal ymhen yr wythnos. . “ Reit iw âr, rw i'n folon nawr,”
meddai Dai, fel dyn yn mynd i dynnu'i ddannedd. Safodd ar y glaswellt, a
Gwilym rhyw lathen oddiwrtho. Daeth yr awr o'r diwedd, ac fel hyn y bu. “
Nawr, gwed ar yng ôl i — Wat.” “What,” meddai Dai. “ Nace'r twpsyn, nid What,
ond Wat. Treia yto.” “ Wat,” meddai Dai'r tro hwn yn glir a chroyw. “ Dyna
fe, bachan,” meddai Gwilym. “Ma fa mor hawdd a newid pishyn tair, Dyna hannar
y gwaith wedi'i nithur mewn bythtu shiffad. Dim ond un hannar arall sy gita
ti. Nawr, gwed Huws.” “ uws,” meddai Dai. “ Dyna ti yto. Dod yr 'h” miwn ar y
dechra 'chan — Huws.” “ Huws,” meddai Dai, heb wybod a oedd yn iawn ai peidio
^ “ Reit i wala,” meddai Gwilym, “fe fydd dy dad yn falch ohonot ti yto. Rwyt
ti'n gweld fod y peth yn ddicon shimpil ddim ond i ti ddoti dy feddwl ar
waith. Yn awr, gwed y ddou gyta'i giddyl — Wat Huws.” “What uws,” meddai Dai,
druan; a thorrodd Gwilym « ei galon. 42
|
|
|
(delwedd J7410) (tudalen
043)
|
Wat Huws, A.C.
“ Yr arswd annwl,” meddai, “rwyt.ti'n ddicon i ala dyn yn winad,
wyt. Dyna beth w i'n alw yn gwnnu tŷ, a'i dynnu fa i lawr yn jibidêrs ar
dy ben wetni.” “ Jobin dana chwmpws a ddim ar ben neb arath ta beth,” meddai
Dai. Erbyn hyn lledasai niwl gwan, oeraidd tros erwau moelion Tarren y Foel.
Yr oedd yn hen bryd cael cwpanaid o de cyn mynd i'r ysgol gân, a rhedodd y
ddau i lawr ochr y mynydd gan dynnu llinell union i gyfeiriad y pentre. Yr
oedd eisteddfod y Sadwrn dilynol, a gynhelid ym Mhontfaen, yn bwysicach nag
arfer i gŵr Wat Huws. Gwyddid fod y prif gorau i gyd yn dyfod â'u
lluoedd i'r maes, ac yn eu plith gôr Llwyndyrys. Yr oedd peth gwaed drwg
rhwng Llwyndyrys a'r Gilfach Ddu. Nid dim lŷn â'r canu a gyfrifai am
hynny ychwaith, ond peth pur wahanol. Gan fod ychydig dros dair milltir rhwng
y ddau le gallai gwŷr Llwyndyrys gael diod ar y Sul yn y Gilfach Ddu.
Golygfa dorcalonnus oedd gweled y brodorion yn sychedig y, tu allan i'r
dafarn, a gwŷr Llwyndyrys oddimewn. Yr oedd yn ormod i gig a gwaed ei
dal, a bu golwg bur chwerw ar bethau fwy nag unwaith. Er mai ychydig o'r
cyfeillion hyn a berthynai i'r corau teimlent ddiddordeb mawr ynddynt, a
dilynenf hwy i bob eisteddfod. Ceid digon o arwyddion y byddai'r ddwyblaid yn
eu grym ym Mhontfaen; a rh ybuddiodd Wat ei gôr i ofalu ymddwyn yn deilwng
o'r Gilfach Ddu. Ni ddigwyddodd dim neilltuol yn yr eisteddfod, nes oedd yn
bryd dychwelyd ar ddiwedd y dydd. Tystiai rhywrai iddi fod “ bron a thano ” bryd
hynny. Llifai'r dorf o'r babell i'r orsaf nes oedd y plaiform yn orlawn o ben
i ben. Gwelwyd ““pytnars” y Gilfach Ddu a Llwyndyrys yn eu llygadu'i gilydd
yn bur beryglus — “Fe licswn i ga'l go at y cochin 'co,” meddai Twm yr
Halier. “' Well i ti bido,” meddai'r llall, “ wath alla i ddim gwed mod i'n
lico'i olwg a.” 48
|
|
|
(delwedd J7411) (tudalen
044)
|
Wat Huws, A.C.
“ Ond mi fydd 'i olwg a wedi newid mewn bythtu dair rownd,” meddai
Twm. Ar hyn, dyma'r tren i mewn, a'r rhai a ddisgynnodd ohono yn ceisio
gwthio eu ffordd allan drwy'r dorf. Yn eu plith yr oedd llanc pur
annhrwsiadus ei ddiwyg â baich mawr o riwbob ar ei ysgwydd dde. Cydiodd
rhywun mewn gwialen o'r riwbob, a'i thynnu allan o'r bwndel. Yna cydiodd
arall, ac arall, ac arall, nes oedd pob un ymron yn y fan honno â riwbob yn
ei law. O ryw hanner difyrrwch trawodd rhywun y nesaf ato ar ei gefn â'r
riwbob, ac mewn hanner eiliad aeth yn daro cyffredinol. Aeth pawb ati
blith-drafflith, a gwelwyd Twm yr Halier yn tynnu i gyfeiriad y Cochin. Erbyn
hyn safai'r llanc cyffredin eì wisg ar gwr y dorf, golwg druenus 'ar ei wedd,
a dim ond papur llwyd a llinyn yn ei law. Ar y gair neidiodd meistr yr opsaf
i ben trol fechan yn ymyl, chwythodd yn gryf yn ei ôhwibanogl, a cheisio am
ddistawrwydd. Dywedodd wrth y dorf ei bod yn gywilydd iddynt, mai llanc tlawd
yn cynnal ei fam weddw oedd y bachgen, a'u bod wedi distrywio moddion eu
cynhaliaeth am wythnos. Cyn iddo orffen yr oedd Twm yr Halier yn ei ymyl ar y
drol a deigryn mawr yn rholio dros ei wyneb garw — . “' Rownd â'r het,”
meddai, “ cer di, Cochin Llwyndyrys, un ffordd, a mi af innau'r ffordd
arath.” Rhodd pob dyn ar y plaiform ei law yn ei logell, a daeth y ddwy het
yn ôl yn llawn i'r ymyl. “ Citsh yn rhain,” meddai Twm wrth y llanc tlawd. “
Cer;'N thre at dy fam, a gwed wrthi bod ni wedi prynu'r riwbob 1 gyd.” Aethai
pennaeth yr orsaf yn fud yn ystod yr holl helynt hwn; a phan gychwynodd y
tren allan y cyfan a allai ei ddywedyd oedd “Thank you, boys.” Yr oedd rhyw
grygni rhyfedd yn ei lais wrth ddywedyd cymaint â hynny. Erbyn dadlwytho ym
Mhontypridd gwelwyd bod Cochin Llwyndyrys wedi colli ei het. 44
|
|
|
(delwedd J7412) (tudalen
045)
|
Wat Huws, A.C.
“Hyh,” ebr Twm yr Halier, “rw i'n gwpod lle ma hi. Aphe bai.hi
gita fa alla fa ddim o'i gwishgo hi.” Gwyddai Twm yn bur fanwl ymha le y
disgynnodd y riwbob. Pan gyrhaeddodd Dai Dirwest adre'r noson honno yr oedd
ei dad a'i fam ar lawr, yn disgwyl y newydd. “ 'Nillsoch chi, Dai bach 2?”
meddai Mari Dafis. “ Ennill? do,” meddai Dai, “a fe wetws y beirniad nad odd
dim pertach arweinydd yn y byd na What 'uws.” Griddfannodd Ifan Dafis yn yr
ysbryd, ac yn y corff hefyd o ran hynny. “ Pam,” meddai Mari Dafis, “'wetws a
mono fa'n reit nawr?” ,» “ Mari,” meddai Ifan Dafis, “ cynn y gannw'll 'na,
neu fe fydd yn fora dy” Sul cyn awn ni i'r gwely.”
|
|
|
(delwedd J7414) (tudalen
047)
|
Buddugoliaeth Dafydd John
IE, siwr, Dafydd John — yr hen bererin annwyl na bydd neb ohonom
yn ymweled â mynwent y Gilfach Ddu heb sefyll yn bennoeth wrth ei fedd, ar
waethaf ei ben- dd i gyd. Aeth drwy fywyd heb berthyn i blaid o- unrhyw fath
mewn na byd nac eglwys. Oherwydd hyn ni feddai na gelyn na chyfaill, ac ni
theimlodd erioed angen am yr un o'r ddau. Dyn unig, yn ei gŵys ei hun
heb ymyrryd â chŵys neb arall Gadd Dafydd John, a gwae'r neb a ymyrrai
â'i gŵys yntau. Credai'n ddiysgog ynddo'i hun, ac yn ei Dduw. Iddo ef,
dyna'r unig ddau fod oedd uwchlaw beirniadaeth. Pan areithiodd rhyw amheuwr
mawr ar sewêr y pentre, a siglo ffydd y bobl ieuainc ym modolaeth Duw. _'““
Pidwch â becso dim,” meddai Mocyn Llifiwr, “ma Dafydd John gita ni yto.”
Cafodd lu o fân swyddi yn yr eglwys a thuallan iddi, nid am ei fod yn
chwennych swyddi, ond am y credai y gallai eu cyflawni yn well na neb arall.
Synnai rhywrai iddo lwyddo cystal heb gymorth plaid, ond y mae'r esboniad yn
syml ddigon. Pan ymrysonai dwyblaid ynglŷn &'r cymhwysaf i
lanw.swydd wag, cydiai Dafydd John yn y gwaith o dan eu trwynau, ac ofer byth
meddwl am ei ddiorseddu wedyn. Fel rheol nid oedd neb am ei ddiorseddu, canys
tawelid y ddwyblaid wrth feddwl na churesid yr un ohonynt gan y blaid wrthwynebol.
Dyna sut y bu ynglŷn â chodi'r canu yng nghyfarfodydd yr wythnos. Ni
ddeuai codwr canu'r Sul byth ar gyfyl y rhai hynny, ac ymddiriedwyd y gwaith
i hen frawd ffyddlon a oedd yn weddol sicr o'r tonau mwyaf cyfarwydd. Pan fu
ef farw barnwyd bod cyfle braf i roddi gwaith i un o'r bobl ieuainc. Ond pan
hwyliwyd ati i benderfynu ar un gwelwyd
|
|
|
(delwedd J7415) (tudalen
048)
|
Buddugoliaeth Dafydd John bod yno ddau. Nid oedd llawer o ddewis
rhyngddynt, ac yr oedd gan y ddau tua'r un nifer o berthnasau yn aelodau o'r
eglwys. Rhyw nos Fawrth, a'r mater pwysig i ddyfod gerbron nos Sul,
digwyddai'r cantorion fod yn brin, a chymerodd Dafydd John at y canu. Meddai
rhywun ar y diwedd — “ Fydd ma ddim lecsiwn nos Sul, yath ma hiar
benaryyddou.” Ac felly y bu. Glynodd wrth y gwaith am flynyddoedd, ac er iddo
orfod gorffen ambell dôn ar ei ben ei hun, cytunai pawb y gallai pethau fod yn
llawer gwaeth. Ond un nos aeth pethau yn bur annhrefnus. Rhoddodd rhywun
bennill allan ar fesur anghyfarwydd, a gwelwyd Dafydd yn troi'r dail yn fwy
cynhyrfus nag arfer. Methodd a dyfod yn barod mewn pryd, a thrawodd dôn na
chlywyd mohoni na chynt na chwedyn. Aeth pethau i'r wal ar ddiwedd y llinell
gyntaf, & distawodd Dafydd. Cyn iddo gael cyfle i ail-gynnig dechreuodd
un o'r brodyr ieuainc y dôn iawn yn ddigon di-drafferth, a chanwyd yn hwylus
i'r diwedd. Eithr ni chanodd Dafydd John yr un nodyn; yn hytrach edrychai
dros ei spectol, a gadwai'n bur isel ar ei drwyn, i wneuthur yn sicr o'r
troseddwr. “Dirdishefoni,” meddai yn y gwaith trannoeth, “ beth sydd ar y
whilgrots 'ma? 'Glywsoch chi hwnna nithwr? 'Do's dim canu yn nheulu hwnna, ar
nad o's.” Nid edrychodd arno am fisoedd wedyn; ond pan syrthiodd darn o'r “
gloden ” ar y llanc yn y talcen glo, mi glywais mai Dafydd John oedd y eyntaf
i fentro'i fywyd i'w gael yn rhydd. Yn yr un ffordd yn union y daeth swydd
bwysig arall i'w ddwylo, sef blaenori'r angladdau i Lanwynno, a gofalu fod
war yn “troi ma's” bob hyn a hyn. Yr umndertaker a arferasai gyflawni'r
gorchwyl hwnnw; ond un tro digwyddai dau angladd yr un prynhawn, a chafodd
Dafydd John ei gyfle. “ Gan 'mod i'n gorfod mynd i'r angladd arall,” meddai'r
saer, “ gofaled rhai ohonoch chi am droi ma's yn hwn.” “Gwnewch chi e,”
meddai un wrth y llall. “Na 'na i, ar fencos i,” meddai hwnnw. “ Gwnewch“ chi
e, rych chi'n hynach na fì.” 48
|
|
|
(delwedd J7416) (tudalen
049)
|
Buddugoliaeth. Dafydd Johh Heb air o'i enau cerddodd Dafydd John
ychydig gamau 'mlaen, trodd ei wyneb yn ôl, a dechreuodd ar brif waith ei
fywyd — ““ Pedwar ma's. Tyrrai pawb i'r angladdau bryd hynny, a gorffennai
gwaith y pwll glo yn gynarach nag arfer. Nid oedd sôn am gerbydau, ond pedair
ysgwydd dan yr elor bob tro. Yroedd : Llanwynno dros dair milltir ìi ffwrdd
yn y mynyddoedd, a: llawer o'r ffordd heb gysgod cawnen rhag ergyd glaw na
thes haul. - “ Pedwar ma's.” Dyna glywid, fel cnul cloch, ŷn â swn yr
afon ar waelod y cwm, ac â brefiadau'r defaid ar Fynydd Gwyncul. Cerddai
Dafydd a'i ben i lawr, a'i ddwy law ar ei feingefn : rhifai yr un nifer o
gamau bob tro, a gofalai fod pob cam yn union yr un hyd. “Pedwar ma's.” Yr un
oslef o'r tŷ i'r fynwent, a honno fel petai beiriant tu ôl iddi ac nid
person. Disgynnai fel dart marwolaeth yng - nghalonnau'r galarwyr ymhen ôl yr
angladd, a cherddai drwy freuddwydion anesmwyth y rhaì a gafodd ysgwyddau
briw dan bwysau'r elor. “ Pedwar ma's.” Amhosibl cael gan Ddafydd John arafu
dim na chyflymu; ac ni fyrhâi fodfedd ar hyd y cario hyd yn oed pan fyddai'r
corff yn drwm a'r ysgwyddau'n dyner. Un prynhawn poeth o Orffennaf, a'r elor
yn drwm, a'r cwmni'n llai nag arfer ceisiwyd ganddo newid ychydig yn fwy
mynych. Ond yn ei flaen yr ai fel dyn mud a byddar. O'r diwedd penderfynodd y
bechgyn “droi mas ” cyn derbyn ohonynt orchymyn Dafydd. * Pedwar ma's.” Pan
sylwodd i'r cyfnewid ysgwyddau ddigwydd eisoes safodd ar ganol y mynydd,
trodd o'r neilltu i'r angladd basio, ac aeth yn ôl tuag adref gan ddywedyd *
Claddwch e'ch hunen, 'te.” O hynny ymlaen ymlusgai'r angladd fel sarff 49
|
|
|
(delwedd J7417) (tudalen
050)
|
Buddugoliaeth Dafydd John wedi colli ei cholyn. Wrth fynd heibio'r
Tynewydd ar ei ffordd yn ôl fe'i cyfarchodd Mr. Egans — “Rych chi wedi
retyrno'n glou bidir, ddyn.” “ Odw,” meddai Dafydd John, a dyna i gyd. Yn
syniad Dafydd, yr unig un, heblaw ef ei hun, na fhalai i ymyrryd â'i waith
oedd yr Hollalluog. Pan ddaeth galw am orsaf rheilffordd yn y Gilfach Ddu
caed cryn anhawster i gael darn tir cyfaddas i'r pwrpas. Yr unig fan a atebai
ymhob peth oedd y tir y llifai'r afon arno, a phenderfynnwyd yn ddi-ymdroi
newid cwrs yr afon, ac adeiladu'r orsaf ar ei hen wely. Ond nid oedd modd
cael gwely newydd i'r afon heb dorri twnel o tua hanrier canllath o hyd drwy
ganol craig anferth a safai fel castell ar lawr y cwm. Pan gychwynnwyd ar y
gwaith hwnnw dechreuodd Dafydd John holi, a daeth i wybod yr holl gynllun.
Cynhyrfodd i waelod ei galon wrth feddwl am ryfyg dynion. ““Pwy sy'n gwpod
ora' ble ma' doti afon,” meddai, “Duw ne' nhw? Newid gwaith yr Hollalluog,
iefa. Ffor'na odd yr afon yn llifo cyn 'u geni nhw, ac os nad w i'n camsyned
ffor'na bydd hi'n llifo yto hed.” Ond yn ei flaen yr aeth y twnel, a chlywid
ffrwydriadau'r dynameit yn siglo'r ardal ddwywaith y dydd. Nid oedd y capel
ymhell, a rhyw nos pan oedd Dafydd John ar ei liniau ysgydwyd yr adeilad gan
ffrwydriad cryfach nag arfer. Cododd pawb eu pennau i edrych ar ei gilydd, a
safodd Dafydd ar hanner ei weddi. Ond gafaelodd yr eilwaith, — ““ Dyna nhw
yto,” meddai. ' Dera ma's, O Arglwydd, dera ma's yn Dy rym, a hŵth nhw i
felldith â nhw.” hen misoedd lawer gorffennwyd y twnel, arweiniwyd yr afon
drwyddo, a chodwyd yr orsaf. Ond un nos tua dechrau'r gaeaf duodd yr wybren
yn sydyn, a gwelwyd y cymylau'n ymgasglu fel gwersyll y storm uwchben Tarren
y Dduallt. Dechreuodd fîrwd y Pistyll Golau felynu, a gwelwyd rhaeadrau
newydd yn ymdywallt o'r tarenni. Aeth yr afon fach ar waelod * y cwm yn afon
fawr, a chariodd y llifeiriant bopeth o'i flaen. 50
|
|
|
(delwedd J7418) (tudalen
051)
|
Buddugoliaeth Dafydd John
Ymgasglodd pentwr anferth o goed a rwbel wrth enau'r twnel, a
rhwystrodd yr afon i fynd trwodd. Chwiliodd hithau am ei hen wely, a
rhuthrodd yn gynddeiriog drosto, gan gario celfi'r orsaf fel plu i gyfeiriad
afon Taf. Aeth sôn am yr alanas drwy'r pentre, a brysiodd y mwyaf anturus
ohonom drwy'r storm i weled y difrod. Yr oedd yn dywyll fel y fagddu erbyn
hyn. Disgynnai'r glaw a: rhuai'r gwynt nes ei gwneuthur yn anodd inni glywed
lleisiau ein gilydd. Ond ust! dyna lais ar y gwynt yn gymysg â rhu'r llifeiriant.
Collem ef weithiau, daliem ef bryd arall. “ Pwy yw'r Mishtir erbyn hyn ,. :
Gretwch chi'n awr... Bwriadau lawar sydd yng nghalb dyn, ond cyngor yr
Arglwydd, hwnnw a saif.” Euthum yn nes ato, a phwy oedd yno ond Dafydd John,
a'i draed yn y dŵr, yn cael buddugoliaeth ar ei holl elynion. “Fechgyn,”
meddai z Mocyn Llifiwr, “ ma' gan yr Hollalluog un partnar ffyddlon yn y
Gilfach Ddu, ta beth.”
|
|
|
(delwedd J7420) (tudalen
053)
|
Y Crwydryn
SAFAI wrth offis y gwaith ryw brynhawn oer ganol S gaeaf, a'r
cyfan a feddai mewn cas gobennydd ar ei ysgwydd. Nid oedd ond ysgafn o gorff,
a thenau oedd y wisg amdano. Yr oedd swp o wallt cringoch yn cuddio'i ben, a
chap yn cuddio hanner hwnnw. Brysiai'r gweithwyr adref heb gymryd y sylw
lleiaf ohomo, canys gwelent olygfa debig bob dydd o'r wythnos. Ymhfm ysbaid
gwelid rhywun mwy corffol na'r gweddill yn cerdded yn araf i gyfeiriad yr
offis, a ffon union yn ei law. “Hwnco manco yw'r manager î”' meddai'r gwr dieithr
wrth un o'r glowyr â âi heibio ar y pryd. “Ia,” meddai hwnnw, “ac os wyt ti'n
meddwl dod i witho yn y lle hyn fe ddoi di i wpod hynny heb fod yn hir hed.”
Gyda hynny cyrhaeddodd y swyddog, a rhoes y gŵr dieithr y cas gobennydd
ar y llawr yn ei ymyl, fel y gallai " gyffwrdd â'i gap. “O's siawns am
dicyn o waith, syr, os gwelwch chi'n dda,” meddai. “Pwy withwr wyt ti?”
“Halier, syr.” “ Wyt ti'n gwpod rhwpath am halio?” “Otw, syr, yn gwpod popath
am dano fa.” “Gwpod popath!” atebai'r swyddog, '“ ti yw'r very dyn sydd isha
'ma; ma gita ni lawar sy'n cretu bod nhw'n gwpod mwy nag y ma'n nhw, ond
chetho i neb o'r bla'n yn gwpod popath. Fe dalith y gwaith 'ma'n well nag
ariod 'nawr.” “ Rych chi'n insho 'mla'n nawr, syr, gwpod popath am halio
wetas i.” “Rwyt ti'n sleit iawn i nithur gwaith o'r fath, wyt ti ddim ê ” |
53
|
|
|
(delwedd J7421) (tudalen
054)
|
Y Crwydryn ““ Otw, syr, os mai wrth y pownd y'ch chi'n barnu
dynon; ond rw i wedi nithur y gwaith os blynydda.” “ Blynydda? beth yw
d'oetron di ta?” “ O, wara teg, syr, whilo carpad bag dyn w i'n galw hwnna.”
“Rhaid inni ffindo rhwpath i ti, spo; dera i'r lamprŵm bora dy' Llun.” “
Thenciw, syr,” a chododd y cas gobennydd ar ei ysgwydd. Ond cyn iddo gychwyn
i'w ffordd gofynnodd swyddog y gwaith : * “' Ble'r o't ti'n gwitho ddwetha?
”' “ Yn Ynysowen, syr.” “Pam dethot ti odd'no * “Do'dd dim byd ma's o le,
syr, nag o'dd tawn i marw.” “Pam dethot ti odd'no ta?” gan ymdrechu ymddangos
yn sarrug. Ac am unwaith nid oedd yr un ateb yn barod. Y gwir yw, nid oedd yr
un ateb i'w gael, ond bod y duedd i grwydro yn ei waed. Perthynai i ddosbarth
a oedd yn ddi-gartref, ac am hynny yn gartrefol ymhobman fel ei gilydd, —
dosbarth a ffynnai ym Morgannwg yn nyddiau cynnar y Gilfach Ddu. Ni theimlai
nac anwyldeb na chas at na pherson, na thŷ, na gwaith, nac ardal. Ni
châi'r anhawster lleiaf i osod y cas gobennydd i lawr yn unman, na'r
anhawster lleiaf i'w gymryd i fyny drachefn. Wedi treulio blwyddyn neu lai
mewn ardal codai ar ei adain heb y rheswm lleiaf, fel aderyn y drudwy o
gatforfa. Y nwyd i grwydro, a dim arall, â'i dug i'r Gilfach Ddu'r prynhawn
hwnnw. Dafydd oedd ei enw, ond ni wybm i erioed Dafydd beth; eithr Dai Doli y
bedyddiwyd ef yn y Gilfach. Nid oedd berthynas yn y byd rhwng yr enw â'i
faintioli, ond Doli oedd enw y ferlen fach a osodwyd tan ei ofal yn y pwll
glo. Creadureg ddiddorol oedd Doli. Dygwyd hi i'r lofa am y gallai fynd i'r
mannau lle nad oedd digon o uchter i'r ceffylau mawr. Nid Mn s 54
|
|
|
(delwedd J7422) (tudalen
055)
|
Y Crwydryn oedd derfyn ar ei direidi, ac ni bu cymaint o stranciau
yn. perthyn i greadur erioed. Nid oedd y fath beth â'i chael i gychwyn yn y
bore ond ar un amod, sef oedd hynny, cael lwmp o siwgr gan y neb â'i gyrrai.
Heb hynny ciciai, ysgrechiai & chnoai nes oedd yn berigl mynd yn agos
ati. Ac wedi ei gollwng yn rhydd o'r tresi ar ddiwedd y dydd gwae'r neb a
fyddai rhyngddi â'r stabl. Gorchwyl cyntaf Dai oedd astudio . Doli, a
gorchwyl cyntaf Doli oedd astudio Dai. Daethant i'w, deall ei gilydd i'r dim,
a hoff oedd gan y glowyr wylio Doli yn gwthio'i thafod i logell Dai ìi
chwilio am y siwgr. Daethant mor agos i'w gilydd fel y galwyd ef yn Dai Doli,
a hithau yn Ddoli Dai. Dyn yn adnabod ei gwêmer i'r dim oedd yr hen swyddog
gwaith, â barnodd o'r ymgom gyntaf na byddai hi ddim yn ddrwg ar Ddoli yng
nghwmni Dai. Credodd y Gilfach Ddu ar y cychwyn mai gŵr i'w ofni oedd
Dai, ond gwybu'n:fuan nad oedd ei ddiniweitiach yn yr holl fyd. Cymerai arno
fod yn ddrwg a chas, pan nad oedd mewn gwirionedd yn un o'r ddau. Gallech
feddwl wrth ei siarad ei fod yn feddwyn rhonc, ond nis gwelwyd erioed: tan
effeithiau'r. ddiod; ei fod yn ymladdwr mawr, ond ni chymerodd ran mewn
ysgarmes erioed; ei fod yn ddigllon wrth fechgyn y capeli, eithr hoffai'n ei
galon dreulio hanner awr yn eu cwmni. Hoffai blagio'r rheini bob bore Llun
drwy awgrymu iddo ef gael rhyw amseroedd rhyfedd er nos Sadwrn, ac iddynt
hwythau golli'r cyfan drwy fynd gyda'u mamau i'r cwrdd. Ond druan ohono, nid
oedd ef namyn prentis yn y gelfyddyd honno, a hwythau'r meistri perffeithiaf
a adnabâm erioed. Cyn pen bythefnos yr oedd eu llinyn mesur wedi bod drosto
bob modfedd, a gwyddent o'r gorau mai rhyw ragrithio bod 'yn ddrwg yr oedd
Dai. Bu un ohonynt, mewn cyfeillach nos Iau, yn ei gyferbynu â'r rhai a
ragrithiai fod yn «da. Gellid meddwl weithiau, fel y bygythiai rywun a
fyddai'n absennol, bod rhyw ddewrder eithriadol yn perthyn iddo. Amheuai'r
bechgyn hynny hefyd, a rhyw dro digwyddodd rhywbeth a gadarnhaodd yr amheuon
i'r carn. Fl cm
|
|
|
(delwedd J7423) (tudalen
056)
|
Y Crwydryn Er mai crwydryn oedd Dai, nid oedd cylch ei grwydriadau
yn fwy na rhyw ddeg neu ddeuddeg milltir yn y fan. eithaf. Canolfan y
crwydriadau i gyd oedd pentref Penrhiwcoed. Nid ymhoffai yn hwnnw mwy na rhyw
bentref arall, ond yno y talai eì glwb ar nos Sadwrn unwaith yn y mis; ac nid
âi byth ymhellach nag y gallai gymryd y daith honno ar droed. Cychwynnai i'r
daith yn gynnar yn y prynhawn, bob amser ar ei ben ei hun, a chyrhaeddai'n ôl
i'r Gilfach Ddu tua chanol nos. Un nos Sadwrn aethai dau gyfaill, Gwilym
Jones ac Edwin Rees, i gyfarfod cystadlu yn Aberpennar, a dychwelent yn hwyr
dros y mynydd. Yr oedd yn noson olau leuad braf, ac wrth ddringo'r rhiw hir
ìi gyfeiriad y Lan gwelent ffermdy Cefn Fforest yr ochr arall i'r cwm mor
eglur ymron â phe bae'n ganol dydd. Gorffwysai distawrwydd mwyn ar y mynydd,
ac ymgomient hwythau'n hamddenol felys am y pethau a ddaeth erioed i galon
llanciau o'u hoedran pan fo'r lloer yn bwrw ei hud ar fynyddoedd. Wedi uno
ohonynt â'r llwybr a ddeuai i fyny o Benrhiw- coed, mynd heibio'r Lan, a
chychwyn drwy'r caeau i fyrhau'r daith, tybient weled rhyw bererin unig gryn
bellter o'u blaenau yn cerdded i'r un cyfeiriad â hwythau. Cerddasant yn
gyflymach, a chan fod y borfa fel carped dan eu traed nid oedd modd i'r
teithiwr eu clywed. Ond wrth groesi'r gamfa gerrig rhwng dau gae y mae'n
rhaid iddo edrych yn ôl â'u gweled, canys pan gyrhaeddodd y ddau gyfaill y
gamfa yr oedd wedi ennill cryn dipyn arnynt. Pwy bynnag ydoedd yr oedd yn
amlwg erbyn ag bod dychryn arno, canys gwnâi ei orau i ddianc rhagddynt. Yr
oedd peth felly wrth fodd calon*Blant y Gilfach Ddu, a dechreuasant redeg nerth
eu sodlau i orddiwes y ffoadur. Erbyn cyrraedd y gamfa nesaf yr oeddynt o
fewn ugain llath i'w ddal. Pan welodd y ffoadur hynny rhoddodd y fath sgrech
annaearol, na chlybuwyd mo'i chyffelyb gan yr un ddrychiolaeth oddiar gamfa
yng ngolau lleuad erioed, a chlywyd y cwn yn cyfarth ym muarth y Lan. 56
|
|
|
(delwedd J7424) (tudalen
057)
|
Y Crwydryn “ Edwin,” meddai Gwilym dan ei anadl, “ wyt ti'n gwpod
pwyyw a?” | “ Nagw i,” meddai hwnnw, “ ond ma fa wedi c'al ofon dychrynllyd
ta pwy yw.a.” e “Ond taw Dai Doli yw a bachan.” “Paid â whalu whaldod w, beth
fydda Dai'n nithur man hyn?” | “' Ond taw wedi bod yn talu'i glwb ma fa, w.”
| Gwawriodd y gwirionedd ar Edwin, ac o hynny ymlaen caed hanner awr nas
anghofiwyd byth gan un o'r ddau. Rhedai Dai cyn gynted ag y gallai &i
draed ei gario, a dilynai'r bechgyn. Ysgrechiai fel porchell ph ddeuent yn
weddol agos, ac ar ôl pob ysgrech arafai'r erlidwyr eu cam. Nid oeddynt am ei
ddal, am y byddai hynny yn derfyn ar y sbort. Dilynasant ef i lawr y llwybr
garw heibio'r Ffynnon Dwym, yr hen dafarn, dros bont y relwe, ac i fyny gae
bach y Graig. Rhuthrodd y ffoadur i lawr y ffordd fawr, ond gan eu bod
bellach yn agoshau at y pentre cymerodd y ddau erlidiwr yr hen ffordd gefn
drwy gaeau Buarth Capel. Eisteddodd y ddau. ar fìn y ffordd i gael anadl,
sychu chwŷs, chwerthin, a pharatoi cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Penderfynasant beidio âg yngan gair am yr helynt wrth undyn byw, a disgwyl
datblygiadau. Yr oedd yn Sul drannoeth, ac erbyn yr hwyr cerddasai rhyw su
ddieithr drwy'r Gilfach Ddu. Nid oedd na phen na chynffon i'r stori, ond
deallwyd fod nifer o ddyhirod mileinig wedi ymosod ar Dai Doli ar gefn y
mynydd ganol nos, ac na fu ond trwch y blewyn rhyngddo â cholli ei fywyd.
Deffrôdd y su atgofion am yr anfad-ddyn a saethodd forwyn y Pistyll Golau, —
amaethty i fyny ddwy filltir yn y cwm,- — -a dechreuwyd amau a oedd gan hwnnw
law yn erchyllwaith y noson gynt. Yn ystod yr ugain munud ginio yn y pwll
ddydd Llun aeth Gwilym ac Edwin â Dai o'r neilltu, i gael yr hanes o lygad y
ffynnon. “Nawr, gwed y gwir Dai, shwd digwyddws hi?
|
|
|
(delwedd J7425) (tudalen
058)
|
Y Crwydryn
| & shwd digwyddws hi! Ma fa’n ryfadd ’mod i’n fyw i
wéd wrthoch chi.” |
‘“Sawl un o’n nhw? ”
“Bythtu hanner dwsin ’man lleia.”
‘“ O’dd rifolfars gita nhw, fel ma dynon yn gwed? ”’
‘“ Ro’dd rhwpath tepig iawn gita nhw, ta beth.”
: Cafwyd yr holl hanes, a thipyn dros ben. Wedi meddwl
yn hir a dwys dywedodd y ddau gyfaill fod yr holl fusnes yn
berffaith glir iddynt hwy. Yr oedd yn amlwg y gwyddai’r
ryffians yr adeg i Dai groesi’r mynydd i dalu’i glwb, 4’i fod
bob amser ar ei ben ei hun; y byddent mor sicr 4 dim o fod
wrth yr un gwaith wedyn ymhen y mis, ac mai’r gorau peth
i Dai oedd bod yn barod ar eu cyfer; ac mai’r unig ffordd
amdani oedd iddo gasglu ynghyd tua dwsin o ddewrion glewaf
yr ardal i’w cyfarfod ar y mynydd. Cytunodd Dai 4 phob ~
gair, a threuliodd y mis i chwythu bygythion a chasglu byddin.
Cafodd ddigon o wirfoddolwyr, ar un amod, sef nad oedd y
fintai i gychwyn cyn stop tap.
_. '“ Ma’ arno i ofon na all Mawar o nhw ddim cychwyn
wetni,” ebe rhywun.
O’r diwedd daeth dydd y frwydr, a chauwyd y tafarnau am
- wn-ar-ddeg o’r gloch. Ymgasglodd y fyddin yn ffyddlon i’w
gair, cychwynnodd i’r gad, a Ianto Napoleon yn ei harwain.
Cytunai pawb a’i gwelodd mai dyna’r orymdaith ryfeddaf a
gychwynnodd o’r Gilfach Ddu erioed. Safai Gwilym ac Edwin
mewn congl gudd lle y gallent fod yn llygad-dystion o’r cyfan,
a chlywsant ryw wag direidus yn gofyn —
“ Beth yw’r rheina? Salvation Army iefa? ”’ |
| Nid rhyw lawer o panes y fyddin a gaed fyth. Yn wir y
mae’n amheus a gyrhaeddodd faes y gad o gwhl, canys
clywyd Ianto Napoleon yn cyfaddef eu bod yn dioddef yn
enbyd oddiwrth dditlyg disgyblaeth.
Dychwelodd Dai y tro hwnnw yn groeniach, heb gyfarfod
4 neb ar y mynydd, a chytunwyd yn weddol unfryd fod y
gelyn “ wedi ca’l ofon.” .
58 |
|
|
|
(delwedd J7426) (tudalen
059)
|
Y Crwydryn Ond yn ystod y mis y bu Dai yn casglu ei luoedd
ymddangosodd hanes yn “ Y Darian ” am ryw gyfarfod cystadlu bychan a
gynhaliwyd yn Aberpennar, a hysbyswyd mai Gwilym Jones o'r Gilfach Ddu a
enillasai'r wobr am yr englyn. Sylwyd hefyd ddarfod cynnal y cyfarfod yr un
noson â phrofedigaeth Dai Doli, a dechreuodd rhywrai mwy busneslyd na'r
gweddill osod dau a dau at ei gilydd. Ond nid oedd neb yn sicr o ddim, ac yn
fuan daeth rhywbeth arall yn destun siarad. Ni wn i hyd yr awr hon pa un a
wybu Dai'r gyfrinach ai beidio, ond gwn o'r gorau na fynnai siarad am yr
helynt. Am Doli'n unig y mynnai sôn. Ond methodd hithau fel pawb a phopeth
arall â'i gadw yn yr unfan, canys yn fuan wedyn fe'i gwelwyd yn croesi'r
mynydd; a'r tro hwn w oedd cas
|
|
|
(delwedd J7428) (tudalen
061)
|
Gweddi
Wil Bach
ACHA
nos Lun odd y'n cwrdd gweddi ni yn Salem wedi arfadd bod, ond ma fa acha nos
Fawrth os cetyn yn awr. A fel hyn buws hi. Ro'dd rhwpath yn dwcid nos Lun
oddarnon ni o hyd. Gita bod y cyhoeddwr yn cwpla gwed am y cwrdd gweddi nos
Lun, a'r gyfeillach nos Iou, yr odd ganto fa'r list ryfedda o bob hen garshwn
i'w cyhoeddi wetni — consarts, darlithia, sosials, dramas, — a'r consarn i
gyd acha nos Lun, os gwelwch chi'n dda: nos y cwrdd gweddi. Nhw a'u hen ddramas, wcta.i! AWbrffod i ni symud y cwrdd
gweddi i nos Fawrth, i bleso'r bobol ifeno. Ma nhw'n lwcus fod Meri Jên
wedi'm stopo ii wed y marn pan o'n nhw'n pendrafynu gnithur hynny, ne fe
roiswn i hanas 'u bywyd i rai ohonyn nhw. Wel, os odd hi'n dena nos Lun,
'rodd hi'n wath byth nos Fawrth. 'Rodd trueni arno i am Mr. Evans y
gweinitog. Ma fa fel ta fa'n gwitho mewn hedin caled, oti, a heb lawar o 'elp
hed. “ Rhaid inni stico gita fa,” mente fi wrth Meri Jên, “ neu fe dorrith 'i
galon, reit 'i wala.” A stico nethon ni. Wrth gwrs, dw i ddim mor ifânc ag y
bues î, a rwy'n blino 'erbyn nos. A gwath na'r cwbwl, ma nhw wedi 'notiii
witho yn y whech o ar y streic, ac y mae honno dicyn yn galad i ddyn o'm
oetran i. A rhaid imi wed, gymin 'a allwn i nithur odd 'catw'm llycid yn acor
mewn ambaÌl gwrdd. Ond, os ych chi yn y fan 'na, fe agorson yn llytan 'i wala
mewn un cwrdd. 'Ro'n i'n ofni na chien nhw byth wetni. Atrodd hanas y cwrdd
hwnnw o'n i'n feddwl nithur nawr, a fe licswn i gwpla fa cyn bo Meri Jên yn
dod 'nol. “a “ Ma un crwt bach gita Meri Jên a fi. William yŵ 'i' enw
'fa — yr un enw â brawd Meri Jên gas 'i ddiwadd ym mhwll 'Tynybetw. Ond “ Wil
bach ” ma pawb yn 'i alw fa. Ma fa'r hen grwt bach ffeina'n y byd, ond 'down
i ariod wêdi cretu “ôl
|
|
|
(delwedd J7429) (tudalen
062)
|
Gweddi Wil Bach fod sw lawar yn 'i ben a, wath ma ochor 'i fam yn
gryf yndo fa. Dodd dim gofid yn y byd i gâl a i'r capel ariod. 'Rodd hi'n
bryd iddo fa nawr gymryd rhan yn y cwrdd gweddi, ond down i ddim yn i weld
a'n shapo rhw lawar shag at hynny. A gwed y gwir i chi, 'rodd a'n becso peth
arno i, ac ar Meri Jên hed. ' Ond ryw nos Fawrth — rhaid i chi fadda mod i'n
gorffod sychu'm speetol man hyn. Ych chi'n gweld, ni macws a. 'Rodd hi'n
dywydd sgelar y nos Fawrth hynny. 'Rodd rhai pwr dabs yn gorffod cilo o'r tŷ
am 'u bywyd, wath odd yr afon wedi cwnnu yn fwy sytan nag arfadd. Fe
licswn.yn 'y nghalon aros yn y tŷ acha noswath mor ecer; ond bant a fi,
wath o'n i ofon y bydde Mr. Evans wrth 'i hunan yn y cwrdd gweddi. Wrth
fraesan drw'r glaw a'r llaca, mi glywswn rywun yn dod wrth 'y nghwt i — a
phwy odd 'no ond Wil. “Ma dicyn o'i dad yndo fa, hed,” mente fì wrth 'y
munan. 'Rodd y glaw yn dishgyn fel pe byse hi'n bwrw am y tro dwetha; ond
ymlân yr ethon ni'n dou, Wil bach a fi. Wedi cyrraedd y festri, 'rodd 'no
dwyshged fach wedi olaseu. Mi gwelas hi'n wath lawar gwaith, a 'rodd y cwrdd
bach yn mynd ymlân yn nêt. Ond rhwla sha'r cenol, dyma Mr. Evans yn rhoi emyn
ma's; a chyn inni ddechra canu, dyma fa'n galw ar Wil bach: “ Willie Jones,
'machgen i, ddowch chi i weddio'n nesa? Peidiwch â phallu, pe na baech yn
dweud ond dau air.” A dyma ni'n dechra canu. Nace, nid “ni,” ond “nhw,” wath
o'n i wedi mynd i grynu ishta deilen. 'Do'n i ddim yn lico dishgwl yn ôl, ond
'rown i'n gwed yn 'y munan : “ Wn i daw a mlân erbyn bod ni'n cwpla canu.” Ac
os ych chi yp y fan 'na, mlân dath e. 'Ro'n i'n ofon dishgwŵl yn 'i wmed
e, ond' mi-gweles 'e'n mynd ar 'i linie wrth gornal y ffwrwm, yn yr un man yn
gwmws ag y . bydde'i dadeu yn arfadd penlinio. Dishtawrwydd? Fe allwn . i
feddwl na chlywes i shwd beth ariod. 'Ro'n i'n meddwl fod y ddaiar a'r
nefoedd i gyd yn plyeu i wrando. 'Mhen ticyn fe ddechreuws Wil bach. 62
|
|
|
(delwedd J7430) (tudalen 063)
|
Gweddi
Wil Bach
“O,
Arglwydd,” mente fe, ac fe stopws.
“O,
Arglwydd,” mente finne yn y munan, “ro 'elp iddo fa.”
A
fe rows 'elp iddo fa, hed. 'Rw i'n cofio racor o weddi Wil bach, ond chewch
chi mo'i glywad a, shwt.
Pan gwplws y cwrdd, 'detho i ddim i lingran ambothtu 'ta neb, ond
fe'i gwanas hi sha thre mor gynned ag y gallse 'nhrâd 'y nghario i. 'Ro'n i'n
gweld wrth lycad Mr. Evans y lica fa wilia sha fi hed, ond sha thre'r etho i.
Pan o'n i'n mynd trw' ddrws y festri, mi welswn i fod a'n citsho'n dyn yn
llaw Wil bach, ac yn gwed rhwpath wrtho fa. Chetho i ddim gwpod byth beth
fu'r wilia rhwng y ddou. “ Helo! ” mente Meri Jên, “ rwyt ti nghynt nad
arfadd,. wyt ti ddim î”
“Otw,” myntwn i, “y tŷ yw'r lle gora acha tywydd fel hyn.” ““ Shwd gwrdd
odd 'na heno?” mente hi. “Cwrdd bach piwr digynnig,” mente fi. '“ Pwy odd yn
cymryd rhan heno? yr un rhai ag arfadd Spo,” mente hi. Mi wetas wrthi pwy o'n
nhw, ond 'ro'n i'n ffeili'n deg a. gwed enw Wil. 'Rown i'n tacu bob tro'r o'n
ni'n treio. .'r diwadd, dyma fa mâs: “ A — a — Wil ni,” myntwn i. “' Wil bach
ni!” mente hi. Fe steddws ar y gatar, fe bwysws 'i phen ar y ford, ac îe
lefws, fe lefws, ac fe lefws. Etho i ddim i wed dim wrthi hi, wath, a gwed y gwir
i chi, 'ro'n i bron bod cystal a llefan 'y munan; a pheth arall, 'ro'n i'n
meddwl y gnelsa pwl o lefan les iddi. Fe 'nath les iddi hed, wath y nos
Fawrth wetni 'rodd hi yn y cwrdd gweddi gita Wil bach a fi.
|
|
|
(delwedd J7431) (tudalen
064)
|
B Fflat
0^dipyn i beth, tynnais ef i adrodd ei hanes. Bachgen o lowr
ydoedd, o Dreorci, allan o waith, ac wedi blino eistedd ar garreg y ffenestr.
Ychydig ddyddiau'n flaenorol cychwynasai ef a'i gyfaill i'r West am wythnos o
ganu ar y stryd, gan roddi ar ddeall i'w dad a'i fam mai eu hamcan oedd
treulio wythnos gyd â chefnder iddo yn Llangennech. Y bore hwnnw yr oedd eì
bartner i gychwyn o Gastellnedd, ac yntau o Bontardawe, a'r ddau i gyfarfod
yn Abertawe yn y nos. “Pam na fyddech chi'n canu gyd â'ch gilydd * ”' meddwn
i. “Canu 2?” meddai, “ ma” cwiddyl arno i ganu gita fa, wath ma fa mâs o diwn
hannar i 'amsar.” Ac ychwanegodd : “W i'n gybitho na fydd 'i glascad e' ddim
mwy na'm un i heno, ne' fydd dim diwadd ar 'i frago fa.” Pan ofynnais iddo
beth oedd yn ganu, dywedodd, " Wrth gwrs, y'm mandrel sharp i yw “ How
Vain is Man, ond rhaid i chi gâl piano i nithir shâp acha shwbeth 'ny. Wetni ŵi'n
gorfod cwmpo'n ôl ar “ Hen Ffon fy, Nain, a rhwpath felni. Ond pan ŵi'n
paso tŷ pregethwr ŵi'n switcho nw off, a doti “Cwm Rhondda” mlân.
Ma” llawar ffordd i ladd ci heb 'i groci fa, yndosa? ” Yr oeddem yn ei chanol
hi erbyn hyn, a minnau yn y drydedd nef. “O'n i'n gallu twteho B Fflat ishta
whislle pan startas i pwy: ddydd,” meddai, “ ond rhaid i fi bido slaco
gormodd ar, y 'mhapwr, ne' fydda i ddim ffit i fynd i'r 'Steddfod.” . “
'R/ych chi'n meddwl mynd yn ôl erbyn y 'Steddfod? ” meddwn innau. “ Otw,
otw,” meddaî, “ rw i wedi promisho helpu dicyn acha Parti Male Voice lawr yn
y Cwtsh. Ma' nw wedi bod yn whilmentan am denors da am bothdi'r lle i gyd; ac
fe ddethon . ato i, wath o's dim gormod o B Fflats yn yr hen Gwm 'co nawr.” “
Mae dau neu dri parti da iawn o'r ardal hon yn bwriadu cynnig,” meddwn innau.
66
|
|
|
(delwedd J7432) (tudalen
067)
|
B Fflat
““ Shewlwch 'ma,” meddai, “os y'ch chi am nithur tro piwr iddyn'
nw, gwetwch wrthyn' nw' am aros yn nhre, wath 'nillan nw byth. 'Do's dim
tenors ta chi lawr ffor' hyn. Mi glywas un o'r parlïes 'na dicyn bach yn ôl,
ac ar f'encos i ro'dd y first tenors fel ta nw wedi llyncu niwl. Mi whadwn nw
reit i wala.” Mentrais ddwyn ar gof iddo nad oedd bechgyn “ ffor' hyn” ddim
wedi cael eu “ whado” bob amser, chwaith. Ond ni waeth imi siarad â phost
llidiart. Soniodd rywbeth am Tom Stephens a William Thomas, ac adroddodd am
ryw hen frawd â llais tenor pêr yn gweiddi ' Sand y Môr” yn Nhreorci nes
gellid ei glywed dros y mynydd yn y Mferdy. “'U whado nw? Gwnawn, nes bydd
cwiddyl arnyn” nw edrych yn y glass am fish,” meddai. “ Wn i ddim pwy wedws
wrth 'u tenors nw y gallan” nw ganu ariod.” Soniais innau rywbeth am y bâs,
ond clodd y ddadl yn fuddugoliaethus drwy osod ei law yn ei boced, a gofyn,
“Otych chi'n beto? ” I newid ymadrodd, dywedais gan nad pwy a enillai, fy mod
yn gobeithio y cai Cwm Rhondda 'Steddfod lwyddiannus. “Nid 'Steddfod Cwm
Rhondda yw hi, na 'Steddfod Treorci,” meddai. “ Wyddoch chi beth y'n ni yn 'i
galw hi? 'Steddfod W. P.” Dygais ar gof iddo fod W. P. yn wael ei iechyd yn
Llandrindod. 8 “Llandrindod î ” meddai. “ Ta chi'n 'i roi e' yn y lleuad,
chatwach chi mono fa o'r 'Steddfod; ac am 'i iechyd a, fe fydd byw i'n claddu
ní i gyd. Ma' nw'n dechra cretu y bydd rhaid 'i saethu fa! Wyddoch chi beth
ma' fa wedi nithur nawr? Ma' fa wedi cwnnu Railway Statson newydd ar b y
tent. Fe fu bron cwnnu docks yng Nghwmparce i ddod â llonga' miwn 'no, wath
ma'r Ocean yno'n barod; a mi fyta nghap os na fydd y brenin a'i wraig yn
'Steddfod W. P. Watshwch chi beth wi'n wed wrthoch chi.” o
|
|
|
(delwedd J7433) (tudalen
068)
|
B Fflat Wedi'r araith hon, aethom ar draws ac ar hyd. Soniodd am
amryw o gymeriadau a adwaenwn, yn dda, ac yn eu plith ei dad ei hun. O'r
diwedd, gofynnodd yn sydyn : Shwd y'ch chi'n napod y Rhondda mor dda?
”.Dywedais imi fod yn byw yno flynyddoedd yn ôl. Edrychodd yn fy wyneb,
neidiodd ar ei draed. “ Ar f'encos annwl i, nid y chi oedd yn — ” Cydiodd yn
fy llaw, gwasgodd hi, ysgydwodd hi; a theimlais y.creithiau caled ar ei law
yntau. Deffroes y creithiau hynny atgofion, am gannoedd o hen ddwylo an ma -châf
eu hysgwyd mwy. , “Rhaid imi i gwân. hi,” meddai, o'r diwedd, * neu y mae Wil
Mas o Diwn yn siwr j wln o glou mwy ne â cyn nos.” Ac i ffwrdd ag ef. Euthum
gyd âg sg ychydig lathenni o'r tŷ.. | “ Canwch, bachan,” meddwn i, “i mi
gael clywed tenor am unwaith.” “Na,” meddai, “chana i ddim yn ych golwg chi,
a chithe'n napod nhad.” Dyna'r olwg ddiweddaf a gefais i arno. Ond ymhen
ychydig funudau dyma'r forwyn fach yn gofyn, “ Otwch chi'n . elwed rhyw ganu
yn rhwle?” Euthum at y drws unwaith eto, a thros ben y tai o'r stryd nesaf
deuai llais tenor fel y diliau mêl: yr oedd mor ystwyth â'r faneg, ac mor
glir â thelyn. Ust! dyna nodyn uchel, uchel, ond yn cael ei-daro fel cloch.
Rhedais i'r tŷ, rhoddais fy mae ar y piano, a MEDD fel plentyn : “ B
Fflat, myn hyfryd i!”
|
|
|
(delwedd J7434) (tudalen
069)
|
Ar Foel Cadwgan I bu dau erioed yn fwy anhebig i'w gilydd nag Ifan
Dafis a Ianto, ac ni bu dau erioed yn fwy o gyfeillion. Cynnyrch hen
ddiwylliant Cwm Rhondda oedd Ifan Dafis, a'i holl fryd ar wrando pregeth a
nyddu pemnill. Cynnyrch rhywbeth diweddarach oedd Ianto, a'i holl siarad am
bethau gwahanol iawn i benillion a phregethau. Oherwydd ei ddireidi
cellweirus a'i natur dda, yr oedd yn ryn gan bawb. Fel y dywedais eisoes, yr
oedd y ddau yn pyfeillion calon, er bod dros ddeugain mlynedd o wahaniaeth yn
eu hoedran. Sylfaen y cyfeillgarwch oedd y ffaith mai gydag Ifan Dafis y
dechreuasai Ianto weithio “ dan y ddaear” yn hogyn pedâ&ir-ar-ddeg oed.
Un o arwyr pob glowr yw'r dyn y dechreuodd weithio gydag ef. Aethai rhai
blynyddoedd heibio er hynny, a thaflwyd Ianto yma a thraw fel pluen ar lanw
cynyrfiadau'r Cwm. Glaniodd o'r diwedd ym Mhendyrys ymhlith perthnasau ei
fam, eithr croesai'r mynydd yn awr ac eilwaith i weled ei hen gyfoedion. awn
Sadwrn diwethaf, a'r tywydd yn deg, a brest Ifan Dafis yn weddol, teimlodd yr
hen bererin y oarai wybod pa mor uchel y gallai ddringo Moel Cadwgan erbyn
hyn. Diffygiodd ymhell cyn cyrraedd mor uchel â chynt, ao eisteddodd ar y
glaswellt ar fin y llwybr defaid. Gyda'i fod yn eistedd, clywai rywun yn
dyfod, dan chwiban, o gyfeiriad Pendyrys. “ Tanto, baehan,^ meddai Ifan
Dafis, “ beth ar wyneb y ddaear ddaeth â ti — — ” “Shwd y'ch chi, Ifan
Dafis,” meddai Ianto. Bu rhywfath o “shiglo dwylo”; ond y mae honno'n un o'r
crefftau nad yw'r gloŵr erioed wedi ei meistroli, ““Rhwto cyrn” y
galwant hi weithiau. Eisteddodd y ddau, a Chraig y Ddelw a Phen Pych — fel
Ebal a Gerisim — yn sbîo
|
|
|
(delwedd J7435) (tudalen
070)
|
Ar Foel Cadwgan
arnynt o'r ochr arall i'r cwm. Wedi siarad yn hir am bawb a
phopeth daeth munud o ddistawrwydd. " Ianto," meddai Ifan Dafis yn
sydyn, " gwddot ti am beth on i'n meddwl pan On i'n ishta man hyn cyn i
ti ddod ? " " Na wn i, wir," meddai Unto. " Rhyw hen
brecath, spo." " Nace, wir," meddai Ifan Dafis, " and on
i'n meddwl rhwpath fel hyn—y licswn i'n ambeidus ga'l dod 'nol am dro i'r hen
wlad 'ma sha hannar can mlynadd i 'nawr." , " I ga'l oeri ticyn,
iefa, Ifan Dafis ? " ebe'r Ianto dryg-ionus. Gwenodd yr hen Vir yn araf
wrth feddwl mai'r un oedd Ianto o hyd. " Gwrando, Ianto," meddai.
" 'Rwy'n cretu y bydd yr hen wlad 'ma wedi newid shew erbyn hannar can
mlynadd i heddi." " 'Rw i'n gybitho bydd hi, to beth," meddai
Ianto. Aeth Ifan yn ei flaen heb sylwi ar obeithion Ianto. " Ma rhwpath
yn gwed wrtho i y bydd cetyn gwell barddoniath pryt hynny na sy'n awr. Fel
hyn rw i'n seiffro hi. Ma nhw ers blynydda'n awr yn garcus iawn ambothtu shwd
ma gwed rhwpath, and 'dyn nhw ddim acos mor bartic-iwlar beth ma nhw yn wed.
Iaith, gramadeg, arddull yw popath 'nawr, a rhyw chic bach slei i gwpla pob
can. 'Ro'dd isha'r pethach hyn, 'do's dim dowt. Ond ma rhwpath wedi mynd ar
goll : 'dyw 'u gwaith nhw ddim yn mynd i galon dynon, ac yn aros 'no."
" 'Rwy'n gwpod at beth y'ch chi'n hala, Ifan Dafis," meddai Ianto.
Y'ch chi'n cofio'r caneri bach 'ny o'dd gita mam ? Fe etho i i baento'r craj
ryw brynhawn dydd Satwn, a chyn imi gwpl•r job fe gilws y caneri."
" Dyna fe i'r dim, Ianto," meddai Ifan Dafis. " Fe gilws
y,caneri, a do's dim gwaniath wetni pwy mor bert y bydd y craj. 'Nawr, ma
nhw'n dechra whilo am y caneri, a rw i'n cretu fod dou neu dri ohonyn' nhw ar
drac a hed. Erbyn hannar can mlynadd i naNtir fe fyddan' wedi'i ddal a. A fel
o'n
7Q
|
|
|
(delwedd J7436) (tudalen
071)
|
Ar Foel Cadwgan i'n gwêd, fe liceswn yn fidir ga'l dod 'nol i
glwad y caneri yn 'i graj newydd. Rhwng y caneri a'r craj fe fydd barddoniath
hyfryd yn yr hen wlad 'ma hannar can mlynedd i 'nawr.” “ Wilia am ganeris,”
meddai Ianto, “ mi glwas i ganeri ar y wireless pwy nos "yma, a chanwr
bach swît o'dd a hed.” “ Ia,” meddai Ifan Dafis, “ dyna i ti beth arath fydd
'ma hannar can mlynadd i 'nawr — wireless ì Gymru. Dyna biwr fydd switsho
'mlân, a Chymrâg yn dod mâs bob tro”. “ Gan bwyll, Ifan Dafis,” meddai Ianto.
“Os na ddotiff y Cymry well programs na ma nhw'n ddoti 'nawr, fe fydd
Pendyrys yn switsho i Daventry, bob mam jack o nhw. Canu'r un hen bethach o
hyd, a chanu'r rheini nys o diwn, w' i'n 'u clwad nhw, ta beth.” i Addefodd
Ifan Dafis fod cryn lawer o wir yn yr hyn a ddywedodd Ianto, ond awgrymodd
hefyd nad y Cymry'n unig a ganai “mâs o diwn.” Awgrymodd ymhellach fod cael
yr hen iaith yn ddigon o iawn am ambell nodyn allan o gywair. “ Y gwir am
dani,” meddai, “fe fydd mwy o alw am Gymrâg 'mhen hannar can mlynadd na sy'n
awr. 'Rwy'n cretu y byddan nhw'n sgrifennu ac yn wilia gwell Cymrâg na ma
nhw'n nithur yn awr. Ma nhw wedi dechra'i dyscu hi yn y man reit — gita'r
plant yn yr ysgolion. Wetni ma'r bechgyn a'r merched yn y colega yn dechra
ca'l blas arni. 'Y marn i yw ein bod ni'n cwnnu tô o bobol ifìnc fydd yn fwy
bolon marw dros 'u hiaith na neb sydd wedi bod o'u bla'n nhw. Ma'n wir nad
yw'r mamau ar yr aelwyd ddim fel licswn i 'u gweld nhw, ond rhaid cofio na
chethon nhw ariôd ddyscu Cymrâg 'u hunen. Erbyn hannar can mlynadd i nawr, fe
fydd y mamau wedi ca'l Cymrâg yn yr ysgol. Fe licswn i ddod 'nol “ ““ O's
siawns i'r bachan hyn ddoti gair i miwn 'nawr, Ifan Dafis?” meddai Ianto.
“Whada bant, 'ta,” med
|
|
|
(delwedd J7437) (tudalen
072)
|
Ar Foel Cadwgan R _ Yr oedd Ianto o'r un farn ag Ifan ar gwestiwn
y Gymraeg yn yr ysgolion. “ Fe ellir ' i nithur a,' meddai gan daro'i law
galed ar ei ben lin, “ fe ellir 'i niihmr a; a'r fact ag e, ma fa'n ca'l 'i
nithur nawr. Sha mish yn ôl fo ddath ' na deulu o Italians i Bendyrys, a fe
halson y crwt bach i'r ysgol. Pan â'th a sha thre i gino y bora cyna, 'dodd
'i dad a'i fam ddim yn 'i ddiall a, wath alla fa wilia dim ond Cymrâg. Shw'
waith, Ifan Dafis *? ” Ond yn ei flaen yr aeth Ianto, heb aros am ateb. “A
dyna grotan fach 'y nghnithar, lle'r w i'n lodjo. Fe ddath sha thre un
diwrnod: “Awa,' mente hi, otych chi'n gwpod beth yw aeroplane yn Gymrâg? '
Etho i ddim yn fwy shimpil ariôd; fe halws gwiddyl arno 'i, do.” ““Gad hi'n
awr, Ianto,” meddai Ifan Dafis, “neu fe fydd isha spel arnat ti. Ma 'eroplen
y grotan fach wedi 'noti ii feddwl am beth arath. Mewn eroplêns y bydd pawb
yn mynd ambothtu, hannar can mlynadd i nawr. A dyma nhw nawr yn wasto arian
dynon tlawd i nithur hewlydd dros yr hen fynydda 'ma — hewl i Gwmocwr, a hewl
arath hibo Ystrad Uffernol i Gwm Nedd. Wasti gyd, wath fydd dim isha hewlydd
ar eroplêns.” “Eitha reit, Ifan Dafis,” meddai Ianto, “a lle piwr i'r
eroplêns ddishgyn fydd Pen Pych. 'Ro'n dw n meddwl am hynny wrth 'i shapo fa.
Pan ddowch chi, Ifan, yn ôl, dishynnwch ar Ben Pych, a mi fydda i yno a'm
eroplên yn y'ch dishgwl chi. Mi fydda i'n hen ŵr bach shonce bryt hynny,
“, ond mi ddota geninen yn 'i nghap, i chi gâl 'y napod i.” Gyda'r siarad
hwn, edrychodd y. ddau i gyfeiriad Pen Pych. Dechreuai niw] y prynhawn ymlig
am ei gorun, a daeth oerni miniog yr awel.”
“Ma'r hen frest 'ma'n gwêd ' i bod bin fudd ini dynnu sha thre,” meddai Ifan
Dafis. “ Dera lawr gita fi: 'rwy'n shwr fod dishgled o dê piwr yn barod i
ni.” Ac i lawr a hwy. A phan oedd Ifan Dafis yn cau drws ei dŷ, yr oedd
twr o blant bach yn mynd heibio dan ganu“ Hen Wlad fy Nhadau.”
|
|
|
(delwedd J7438) (tudalen
073)
|
Eglurhad ar ambell air ac ymadrodd a all fod yn dywyll i rai
anghynefin â thafodiaith Morgannwg. CADAIR TREGARON Tocyns: Pres, arian. Os
na chelen nhw : Oni chaent. Ticyn: Tipyn. Pishyn : Piece, darn. Cwrìo: Mân
dameidiau o lo. Mor gynned : Cyn gynted. Cwnnu : Codi. Gwmed : Wyneb. Dyco:
Dacw. ACHUB WIL REES Dyn dŵad: Dieithrddyn, nid brodor. Acha: Ar. Ishat:
Yr un sut â, fel. Moifad: Nofio. Llaish : Llais. : Wetws & ddim: Ni UU
ddim. Triws: Treiodd. Citshws : Cydiodd. Tacws: Y! » methodd â siarad. ' Sha
thre : Tuag adref. Cino: Cinio. . HARRU'R WYTHFEDAcor y whech : Dechrau
gweith: io'r wythien chwe troedfedd. Bocs llaish : Larynz.. Mwlsyn : Asyn,
Watshan 'i boints; Bod ar ei orau. Hed : Hefyd. Seothi celwydd : Llunio
celwydd a'i ddweud. Ala afon : Dychrynu; ala — hela. Pocan ma's: Ymwthio
allan, poking out.; Hito: Hidio. Anal: Anadl. ' ' Piwr digynnig: Eithaf da,
da iawn, caredig. Hwthwch : Chwythwch. Cetho : Cefais. U Er GYNGERDD GYNTAF
Shwd : Sut. Cwt: Cynffon. *Gybitho : Gobeithio. Giddyl : Gilydd. Win
ychrynllyd Oer wh oer yc yd. u Whada bant: Dos Cwnnad : Ehiw, allt, codiad. .
Whaff : Yn gyflym; &r unwaith. .... War Huws, A.C. Scelar: Y; » garw.
Ishata llyc! tan : Fel mellten. Llyfath : Ffwlcyn. Specto : yw nm dyfalu.
Drilad : A drilling. 5 GB Shew : ynu | Mewn bythtu shiffad: Mown eiliad.
Winad : O'i go. Tano : Tanio. ”
|
|
|
(delwedd J7439) (tudalen
074)
|
EGLURHAD
BUDDUGOLIAETH DAFYDD JOHN
Dirdishellni : Duw, deisyfwn ni?
Whilgrots : Glaslanciau.
Nithwr : Neithiwr,
Cloden: Clod, nenfwd y talcen glo.
Retyrno: Dychwelyd,
Yn glou : Yn glau, yn fuan.
Doti : Rhoddi.
Fforna: Y ffordd yna.
Hwth : Chwyth, chwytha.
Y CRWYDRYN
Hwnco manco: Hwnacw 'man- acw. Insho mla'n:
Cymryd mantais annheg.
Sleit: Slght, ysgafn.
Whilo catpad bag dyn: Holi
Spo: I suppose.
Dethot : Daethost.
Whalu whaldod :
Siarad ffolineb,
Bythtu : Oddeutu.
Wetni: Wedi hynny.
GWEDDI WIL BACH
Os cetyn: Ers tipyn. Dwcid : Lladrata. Garshwn : Haid (o
garrïson). Hedin caled: Hard. heading, .. ffordd drwy'r graig, nid trwy'r
glo. Y whech: Y wythien lo chwe troedfedd. “Y Crwt: H Na chïen nhw: Na
chauent. Gas 'i ddiwadd : A laddwyd. Shag at: Tuag at. Sytan : Sydyn. Ecer :
Eager, garw. Bracsan : Ymdrabaeddu. Llaca: gr ' Clasgu: Ymgasglu. Flwrsms
Mainc. Rows: Roddes. 74
Lingran ambothtu : Sefyllian o gwmpas. . Gwanas hi sha thre:
Brysiais adref, (Gwanu o gwadnu). Wilia : Siarad, (o chwedleua). 'Chetho i
ddim : Ni chefais ddim. Catar : Cadair.
B FFLAT Began : Begio, cardota.
Nyddo: Wedi cau i fyny, y talcen glo wedi mynd â'i ben iddo.
Os mishodd : Ers —
Clasgad : Casgliad.
Mandrel Sharp: Y gân orau, offeryn gwaith heb golli'i fin.
Acha shwbeth 'ny : Ar sut beth â hynny.
Yndosa : Onid oes e. Slaceo 'mhapwr:
Llacio pabwyr y lamp, llosgi mwy o olew, gweithio'n galetaeh.
Whilmentan : Chwilio pob congl. 'Shcwlwch: Disgwylwch, edrychwch.
Whadwn : Curwn.
Mi A'm 'nghap: Mi fentra un
an; Gwadnu, rhedeg. *
AR FOEL CADWGAN
Rhwto: Rhwbio.
Seiffro : Decipher, deall,
Carcus, Gofalus
Cilws; |Wws: Dihangodd.
Gwaniath : Gwahaniaeth. :
Whilo : Chwilio.
Trac : Track, llwybr.
Yn fidir : Yn fawr. Mae “ bidr ” Morgannwg yn y Ud i
Cheso i ddim : Ni chefais ddim.
Cwpla : Cwblhau, ioa
Awa: Ewythr.
Dishgled :. Cwpanaid.
|