|
|
|
Papur Pawb
3 Chwefror 1900.
Tudalennau 6-7
PRIF STEDDFOTWR Y RHONDDA
MA'R gwetiad wedi mynd yn ddiareb os mynwch chi - erbyn
hyn yn y mynydda. Pobol o bob man yn y Rhondda, a phobol o’r Rhondda yn mhob
man. Fe gwrddws dou ddyn a’u gilydd yn Switzerland yr haf diwetha; ac erbyn
holi, rodd un o’r Blanllecha' a'r nail o Bla'n Rhondda. Faint ohoni nhw fydd
yn cwrdd a'u gilydd yn Exhibition Paris y flwyddyn hyn, wn i ddim. 'Chytig o
hen bobol – Rhondda sydd yn fyw pan oin nhw yn cerad i 'Berdar am bound o
shiwgir, ac yn rhoi swllt am dano fa, ac yn rhoi deunaw am lathid o galico. Ma'n
dret i ishta lawr a gryndo ar un ne ddou o'r hen bobol sydd yn aros yn atrodd
yr hanes am y Cwm cyn i'r relwe gal i gneud, a chyn i'r pylla glo gal eu
shinko.
'Rodd na fachan o gollier yn Clytach Vale - bachan
doniol odd a hefyd. Itha good short odd a. D'odd neb yn i gymryd a'n brysur,
chi'n gweld.
Bachan dicon nabyddus yn Steddfota Cwm Rhondda odd Eos
y Bont. Rodd e'n gwpod am bob Steddfod o Fernhill i'r Bont, ac o'r Bont i'r
Mardy. Fe odd y cynta'n wastod bothdi'r hall nei capal lIe rodd y Steddfod i
gal i chynal. Os na chelsa fe drain ddicon bora bant a fe ar i
drad. Dodd cerad deg milltir yn mennu dim arno fa.
"Pam?" medda chi, "rodd e am fod mor
gynar yn y Steddfod."
"Wel, rodd Eos y Bont yn fardd yn gystal a
chantwr, ac yr odd am fod miwn pryd er mwyn darllan i bishyn o farddoniaeth.
— "Anerchiadia gan y beirdd," medda'r cadeirydd - ac miwn shiffad,
chi welsach fachan tal tena, a'i wallt yn hongad lawr air i sgwydda fa.
"Pwy yw hwna, Shori?"
“Bachan asan, ond ta hwna yw Eos y Bont."
Yr odd rhoi yn dechra pwffan ma's, gan werthin pan
welse'n nhw'r Eos ar y stage.
"Dishtawrwydd, os gwelwch chi'n dda,”
medda'r Boss, - hyny yw - y cadeirydd.
"Mishdir Cadeirydd," medda'r Eos, "darn
o awdl sy' gen i i ddarllen i chi: —
"Yn fore iawn o Clydach Vale
Mi groesas y mynydd i Ferndale
Mi gollas y tren - y Taff Vale,
Ond fe geras bob cam, dyna chi sale. (Hwre !)
"Yn y mor ma dwr yn stor,
A glo sydd yn y Rhondda,
'Rwyn myn'd i atrodd heddy, syr,
A chanu am y gora. (Hwre! eto).
"Tra bo Eos yn y llwyn,
A thra bo houl a lleuad,
Mi gara i'r Eisteddfod lon—
Na cholla i byth fy nghariad."
"Y nesa!” medda'r cadeirydd, ne fe fusa'r Eos yn
mynd yn ddi-stop nes boi'n amser cino.
Rwy i wedi clywed pethach odd iawn miwn Steddfota, ma
ag acw. Dos dim amsar i son am rheiny nawr; achos wy i am fynd y mlan at Eos.
Pryd bynag y gwelwch far fa ma bwndal o gopies gytag e o dan i gesal.
"Llwybr y Wyddfa," "Cymru Fydd," "Holy City,"
"Star of Bethlehem ,— y rhai hyn yw i favrats a. Dyw a ddim yn cyfyngu
hunan i'r canu, achos ma fa wedi ala ffugenwa miwn am atrodd, — araeth ar y
pryd — darllan sol-ffa, first sight.
Rodd yr Eos yn barticular iawn pwy ffugenw fusa fe'n
gymryd. Pan fusa'r sgrifenydd yn galw'r enwa mas; rodd a'n gwpodpartly pwy
odd yn gwishgo'r enwa mwya.
"Atrodd, 'Pa te mae'r Amen.' Y cynta yw 'Spurgeon'
— oti 'Spurgeon' yma?"
|
|
|
|
Dyma fe," medda'r Eos, gan etrych o bothti i gal
gwel'd os odd pawb yn dishgwl arno fa.
Fe fusa'n atrodd "Pa le mae'r Amen" yn yr
yspryd ag ydylsai atrodd "Ond," Mynyddog; ac yn atrodd
"Ond" yn yr yspryd mwyaf pruddaidd glywsoch chi ariod. Yn lle
bod yn brysur ar ol shwd eira pwysig, yr odd y dorf yn hollti gan werthin. Yr
odd yn werth wthnos o ddwr y mor i wel'd a chlywad yr Eos yn atrodd. Yr odd
points yn cal i dangos nag odd neb wedi meddwl am dani nhw — a geira, yn cal
i swno miwn dull newydd spon. Chlywsoch chi ddim a'ch clusta, shwd bronownso,
yn enwetig pan fusa fe'n atrodd Sisnag.
"Atrodd' Sisnag," medda chi. "Rodd yr
Eos yn i gymal pan yn atrodd Shakespeare neu Milton ne Tennyson.
Rwy'n cofio 'Steddfod yn Ngharphili un Llungwyn, a'r
pishyn odd wedi ddoti lawr i atrodd odd "Charge of the Light
Brigade." Pan welws y dorf anfarth yr Eos yn mynd i'r lan i'r stage --
wrth gwrs yr odd e'n ddiarth i'r rhan fwyaf o heni nhw — dyma nhw yn doti u
hunen miwn position i enjoyo'r atrodd, achos ow nhw'n meddwl to rhyw actor
mawr odd a. Wel, rodd i wallt a yn ddicon i chi feddwl ta Irving odd na. O
ran hyny, dyna odd y ffugenw odd yr Eos wedi ddewis.
"Charge of the Light Brigade," medda Irving,
gan ddishgwl yn gynta ar y cadeirydd a'r gwyr mawr odd ar y stage - yna ar y
dorf, ac yn olaf ar welydd yr hen gastall.
Tynu wasgod lawr odd peth cynta i neud cyn dachra'r
"charge." Rhytag i fysedd drwy wallt - tynu tipyn bach o'i
nishad i'r golwg - pwsho'i gyffs, rhyddhau dipyn ar i golar, a throi i
fwstach. Unwaith eto dyna'r Eos yn gweud:
"Charge of the Light Brigade," a dyma fe off.
"Half a legiw half a legiw" (curo dwylaw—
gwaeddi - a werthin).
"Silence at the back!”
"Half a legiw onward," gan rytag ymlan at y
ford.
"Into the vala of dath rode the six hundrad,"
"Cannan to right of them," (lan a'i law
with).
"Cannan to left of them," (lan a'i law dde).
"A channan in front of them," (ynta yn
dishgwl 'nol).
Yr odd y bobol yn ddilywodrath erbyn iddo gyradd y
cenol - ond dodd dim danto'r Eos yn both. Ath ymlan i'r diwadd. Fu dim shwd
glappo dwylo yn Ngharphili cynt na chwetyn.
Wrth fod e'n dod lawr o'r stage, rodd llawar yn sefyll
ar waelod y steps yn barod i fynd lan. Dyma wetws a:
"Pidwch bod yn ddwl mynd lan, boys. Na nhw ddim
ond werthin am ych pena chi. Chi'n gweld shwd ma nhw wedi nhreato i. Elwn i
ddim lan yto ta beth."
Rwy'n cofio clywad y bry yn atrodd "Y Tren"
(Ceiriog) rhyw dro yn Blanllecha. Rodd 'no le'r bora hwnw. Fe driws imitato'r
whistle yn gynta, yna'r "pum ugain o foch." Dyma fe gellwn y stem
mas pan ddath a at "hwlti heltar skiltar skeltar." Fe ath ymlan o
explosion i explosion — o werthin wy i'n feddwl chi'n gwel'd - nes o'r diwadd
iddo fa ddod at "Ha, ha, ha.” Fe gymerws yr Eos mai y tren yn whistlan
odd Oeiriog yn feddwl wrth hyn, a dyma fa'n gwaeddu mas miwn llais, bach tena
"Ha-ha—hi—i—i—-i."
Ma'n debyg i fod a wedi bod yn practiso am fish o amsar
er mwyn imitato'r whistle i berfection!
Beth ta ni'n cal clip ar yr Eos fel cantwr. Yn
Blanllecha ceso i'r fraint o'i glywad a yn canu hefyd. Y solo tenor odd
"Llwybr y Wyddfa." 'Rol carthu a pheswch - acor a cheuad y copi
|
|
|
|
cwpwl o droion -cal swn. Dyna fe'n rhoi winc i'r
chwareuwr i starto.
"Gogoniant i Gymru, i anwyl wlad fy nhadau,"
meddai Eos.
"Hold on," meddai'r beirniad, "ma rhyw
gamsynid yn bod. 'Llwybr y Wyddfa' yw'r gan."
Ar hyn dyma'r chwareuwr yn stopo, ac yn etrych ar y
cystadleuwr, ac wedi cal y winc dyma fe'n starto chwara yto.
Fe ath yr Eos ymlan yn right nawr am dipyn, ond gollws
i ffordd cyn pen hir, ac fe ath i grwydro yn ofnadw.
Fel hyn y gwetws y beirniad am dano fa yn i
feirniadath: -
"Sims Reeves." Dicon o lais i wneyd hootar ac
yn wir rwy i yn cretu ta hootar ddylsa fo fod. Dim ond i ddoti a ar ben
Castall Nos, busa'n gneud y tro i'r Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach; i Gwm
Berdar a Merthyr. Wir wy i yn cretu y gnela fa'r tro yn grand ar ben y
Wyddfa, fe fusa'n gallu'n galw ni i gyd yn y boreu, yn Nghymru, Werddon, a
Lloegr. Mi fusa'n dda gen i wel'd committee'r 'Steddfod Genedlaethol yn
cymeryd yr hint, ac yn i neud o yn eiddo cenedlaethol. Ma Sims Reeves yn
wybodus iawn miwn cerddoriaeth yn ddiama. Fe geso’n lawar mwy nag oin ni yn
ddisgwl. Fe geso’n dast o "Gogoniant i Gymru" i ddechra, wetin fe
geso'n dwtsh bach o "Gwlad y Delyn,” yna "Gwyr Harlech,"
"Llwyn onn," "Hen Wlad fy Nhada'.” Erbyn i Sims gyrhaedd y
bedwaredd linell, yr odd a miwn hwyl yn canu "Just before the battle
mother."
Ma'n drueni o'r mwyaf fod gwr fel Sims Reeves yn
gwastraffu ei dalant fel hyn miwn 'Steddfota bach. Fe ddylsa fyn'd i’r
Genedlaethol, fel y gallo gwrdd a chantwrs or un level a'i hùnan."
"Poor fellow, 'rodd yr Eos wedi cownto ar ga'l mwy
nag un prize yn Bla'nllecha -Atrodd, saith a wech; canu, deg a wech; can o
glod i Dr Price, tri gini. Poor fellow! weta i yto, achos chas o ddim dicon i
dalu am i brogram. Fe gotws Ap Edmund y darn canlynol o’r gan odd yr Eos wedi
ala miwn. Ffugenw r Eos y tro hyn odd —Homer, Dante-Davies.
"Doctor Price, Blanllechi,
Y dyn gora ar greigia Cymru;
Nid yw hwn fel Price o'r Llan,
Dyma ddyn y bobol wan,
Dyw hwnw ddim yn hannar dyn
Fe losgws i fab a paraffin."
O, ie, fe anfonws englyn i'r gystadleuath hefyd ar yr "Eos": - Dyma
fe: —
Alun yr holl adar — yw’r Eos
Mewn cerddoriaeth lafar;
Mae'n gwisgo grey mor hygar,
Deryn pert, y byd a'i car.
Welas i ddim shwd gynghaneddion a hyn yn "Ysgol Farddol.Dafydd
Morganwg." Ond dyna, ma'n debyg, ma atodiad i'r cynghaneddion ddysgws yr
Eos. Llawar gwaith y triws a am y wobor ar arath ddifyfyr. Fe fu jest a chal
y wobor unwaith hefyd. Yr odd rhywun yn gwpod beth odd y testyn i fod,
ac fe wetws wrth yr Eos. Dim ond i ti addo gweud ar y stage beth weta i wrtho
ti fe gai di hanner coron.
"Beth yw a Dafydd?"
"Ceuwch eich llycid, ac fe gwelwch a," medda
Dafydd.
"Wel, asgwrn gwyllt, shwd sense i weud ar y stage
— Ceuwch eich llycid, ac fe gwelwch a!"
Pan ath yr Eos lan ar y stage y testyn odd
"Dim." Ma'n depyg iddo fa anghofio beth ddywetws Dafydd, achos
ddywetws a ddim "Ceuwch eich llycid ac fe gwelwch a," ond fe sefws fel
delff am dair mynyd heb weud gair na symud llaw na thro'd, er fod y dorf yn
yfflon gan werthin. "Dyna yw dim," medda fe; a lawr ag e.
Dodd dim bai ar yr Eos, poor fellow; achos rodd e'n gneud i ora i fod yn
all-round miwn pobpath.
|
|
|