kimkat3795k
Aberdare.Clywedion. Tarian y Gweithiwr.
14-03-2023
.....
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
|
(delwedd
0003)
|
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website
Aberdar.
Clywedion.
Yr
Hen Gilog.
Tarian y Gweithiwr. 1901.
Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The
Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/
…..
Beth sy’n
newydd yn y wefan hon?
|
(delwedd 4665)
|
.....
(delwedd J7058b)
.....
20 Mehefin 1901
5 Medi 1901
10 Hydref 1901
|
|
|
Clywedion
20 mehefin 1901
BER DAR-CL Y WE DION.
Clywed holi a holi dibaid pa beth ddaeth o'r Hen Bacman, ond neb yn gwybod
dim. Barna rhai ei fod wedi emigrato, ereill ei fod wedi cael swydd uwch:
wedi retiro neu wedi marw. "
Clywed ei fod wedi cael enw drwg gan wyr y 'sa-mwns.' Gan fod genyf telephonic
communication a'r holl ardal, yr wyf yn clywed holl fusnes yr ardal
benbwygilydd, a llawer mwy na feiddiwn gyhoeddi, Mr Gol.
Clywed fod llawer allan o waith yn y Gadlys a manau ereill, ac ambeh un yn ei
chymeryd yn dawel a dirwgnach, fel pe na baent yn malio dim pa un a gaent wat
h ai peidio.
Clywed fod Jack y Ripper wedi cillo o'r dref, ac y mae'r merched yn awr allan
bob amser o'r hwyr.
Clywed fod 8 o briodasau i gymeryd lie yn ystod wythnos gyntaf Awst-un o Gwm-
dar, un o Heolyfelin, dwy yn Aberaman, y I dwy yn Foundry Town, un yn
Nghwmbach, a'r olaf yn Maesydref.
Clywed fod dau hen lane sydd yr ochr chwith i'r deugain, o gymydogaeth Aber-
nant, wedi setlo gwneud last attempt i gael bobo wedjen yn Llanstephan eleni.
Clywed fod yna glwb arian dw'r y mor yn y Gadlys sydd mor gyfoethog, fel y
mae hot ferched y cwm yn awyddus i gael introduc- tion i'r aelodau.
Clywed fod rhai o ddysgyblion y Chris- tian Endeavour yn feini tramgwydd i'r
naill a'r llall, er mawr cywilydd i'w proffes.
Clywed fod I siarad plaem' allan o'r cwestiwn y dyddiau hyn yn mhlith pobl
hunan-dybiol ac ymffrostgar. Why not call a spade a spade.'
Clywed fod yr eglwysi yn bwriadu cael crusade yn erbyn cyclo ar y Sul.
Clywed fod General Meeting o glwb dw'r y mor y Gadlys nos Sadwrn nesaf i
setlo'r counts a'r banquet.—No females allowed.
Clywed fod y gwniadyddesau, y teiliwr- iaid, a'r milliners yn gwneud eu
ffortiwn y dyddiau hyn, ond y mae yn ddigon tlawd ar YR HEN GILOG.
|
|
|
|
5 mdi 1901
CLYWEDION—ABERDAR. Wedi dychwelyd o ddw'r y mor, Mr
Gol., nid wyf felly wedi clywed beth fu yr helynt- ion am y pythefnos
diweddaf, ond cefais ddigon o glywedigion tra ymaith i lanw pac yr Hen
Barman.
Clywed fod y feinwen enillodd y solo yn Aberteifi wedi cael ei blino yn
afnatsan gan amryw ymwelwyr masheryddol a syrthiasant mewn cariad a hi.
Clywed fod y soloist mawr o'r Trip wedi fflato yn Llanstephan. a'i fod yn
bwriadu treio codi'r gwynt eto trwy g) fansoddi marwnadau a llythyron caru.
Clywed fod mwy o snobs yn y Cei eleni nag erioed, nes taflu y jacks a'r
pregethwyr i'r shade.'
Clywed fod yr hen Fwmbast bron a cholli ei bortmanto yn C- Junction, gan gym-
aint ei drachwant am ddobin.
Clywed fod Wil wedi swagro cymaint yn y Llan nes y gorfu i'w gyfeillion fed
dan y baich o'i ddwyn allan o'i drybini methdal iadol.
Clywed fod un o'r snecs wedi dwyn gwar- adwydd arno ei hun yn Ceinewydd drwy
i'r ffeirad ei gael dan ddylanwad y dablen
Clywed yn y tren mai dim ond un sydd yn caru yn y gwely yn Sir Gaer, ond fod
rhagor yn Sir Aberteifi. Ni chefais gownt am Shir Bembro.
Clywed fod y pregethwr gafodd dalu yn hallt am ei lety yn y Cei wedi gwirio
nad aiff i ddwr y mor eto cyn cael codiad yn ei gyflog. Dylasai ymuno a'r
Preachers' Pro- tection Society, neu fyn'd i Lanilltyd, lie y dywed Eos Hafod
fod y lodgins yn chep annghyffredin.
Clywed fod Jacki wedi gwneud ymgais aflwyddianus i gipio gwidw'r Red Cow,
serch sefyll I drinks all round/ ac ymffrostio ei fod yn Under-manager Ni
ellir twyllo hen adar ag us, sydd wirionedd byw o hyd.
Clywed cetyn o rigymwr yn bygwth rhoi cwpwl o glowts i Fishdir y DARIAN am
beidio cyhoeddi ei benillion i'r gantreg o Aberaeron. Aeth ei dymeredd bron
below Zero pan hysbysais ef fy mod wedi clywed fod Fighting Editor yn awr yn
Swyddfa'r DARIAN.
Clywed fod merched Sweet Berdar wedi swyno'r Cardies yn rhyfeddol eleni, ac
fod yn mhryd rhai o honynt i ddod Jan o'r ffermydd W a'r G——, i gael ride yn
y motor cars. Os bydd eisieu guide arnoch cofiwch am YR HEN GILOG.
J7542
|
|
|
(delwedd 7542) (10 Hydref
1901)
|
Tarian y Gweithiwr. 10 Hydref 1901.
ABERDAR CLYWEDION.
Clywed fod helbul difrifol yn nglyn a'r Co-operative yn Aberaman. Mynwch
gyfiawnder, fechgyn.
Clywed fod meeting y Free Library yn dra marwaidd — nid oedd yno haner cant
yn bresenol; ond eglurwyd pethau yn dra boddhaol gan yr Uwch-gwnstabl.
Clywed fod un oedd yn aflonyddu y
Sosialiaid yn nghyfarfod y farchnadle wedi cael y ‘dirty kick out.'
Clywed fod Cymro mewn cyfarfod yr wythnos ddiweddaf, wrth siarad, yn son y
byddai yn well iddo siarad yn Gwmrag er mantais y mwyafrif, ac meddai, “Wy'n
supporto'r resolution heno am fod y case yn demando pob attention ar y'n rhan
ni fel class gweithgar.'
Clywed fod y collars yn achwyn ar y cwmpad, ond dylasent achwyn ar y rhenti
eithafol uchel hefyd, ac uno a'u gilydd i ‘gampo mas,' os na ostyngir hwynt.
Clywed fod undeb gyda'r shopwrs a'r dressmakers yn y dref, ac mai undebu sydd
i'w glywed yn mhob man: ond clywed Wil taw Undeb y Rhacs yw'r undeb mwyaf
poblogaidd yn y byd.
Clywed fod y nosweithiau Llun ac Iau yn
bopular gan ferched y ‘cwm’ i ymweled a'r pentra i bysgota am sponars, ac mai
boys yr high colars yw'r favourites.
Clywed fod dwy o honynt wedi cael siom
truenus — iddynt gael y newydd trist fod y ddau sponar smart yn lowyr bach
o'r Trip. Moral – ‘Don't be led by appearances.'
Clywed y bydda i'r motors yn flat shot
oni bai am y menywod a'r merched glan o Aberaman.
Clywed fod paced o ferched o Gwmbach yn ishta yn mhlith y ‘gods’ nos --- yn y
New Theatre, ac y chwerthin mor iachus fel ag i dynu sylw yr holl dorf.
Clywed fod clybiau dwr y mor ar gynydd yn y gymydogaeth, ond fod yr un a
gychpynwyd [gychwynwyd] mewn tafarn yn Maesydref wedi wrofi n [profi]
fethiant, ac nid rhyfedd.
Clywed fod argoelion masnach am y gauaf agoshaol yn fwy gobeithiol nag y
buont er's rhai blynyddau, ac y mae hyny yn galonogol i luaws heblaw
YR HEN GILOG
|
|
|
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ
/ i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ
Ȳ /
MACRON + ACEN
DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́
ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ
Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː B5237ː
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀,
ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ
ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː
ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋
a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gyn aith δ δ
£ gyn aith δ δ
£ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gyn aith δ δ
…..
…..
ʌ ag
acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́
Ə́
ə́
|
Shwa ag
acen ddyrchafedig / Schwa with acute
|
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/testunau_311_aber-dar-clywedion_yr-hen-gilog_3795k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 14-03-2023
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 14-03-2023
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font
/ Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych
chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
…