http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_cl_1081k.htm
0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal
..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta
en gal·lès
....................0009k Y Gwegynllun
/ Mapa de la web
..............................1798k
Geiriaduron / Diccionaris
........................................1794k Geiriaduron ar gyfer
siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants
..................................................0379k Mynegai i’r
Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català
............................................................y tudalen hwn /
aquesta pàgina
|
Gwefan Cymru-Catalonia CLAC-CLUCAINA |
Adolygiad diweddaraf |
claca
1 clapwyr tâl, rhai sydd
wedi eu talu i guro dwylo mewn theatr
2 mân siarad
3 fer petar la claca dal
pen rheswm
4 fer la claca clebran
Es fan la claca entre ells i no deixen
parlar els altres Maent yn clebran â’u gilydd a dŷn nhw ddim yn gadael
i’r bobl eraill siarad
Clairà
1 trefgordd (el Rosselló)
clam
1 cwyn
2 fer clam contra gwneud
cwyn yn erbyn
3 posar clam contra gwneud
cwyn yn erbyn
4 banllef o brotest
clamant
1 sydd yn hawlio
clamant
1 achwynwr, hawlydd
clamar
1 gweiddi am
2 mynnu
3 (berf heb wrthrych) gweiddi
4 clamar a Déu (+
infinitiu) (wrth sôn am beth y mae eisiau ei newid, etc) galw’n daer (am + berfenw)
5 clamar en el desert llefain
yn y diffeithwch (= apelio am rywbeth ond bod pawb yn anwybyddu’r apêl)
clamor
1 gwaedd, dadwrdd,
2 banllef o brotest
clamorós
1 swnllyd
2 sgrechlyd
3 anferth
un èxit clamorós llwyddiant ysgubol
clan
1 (Yr Alban) clan
2 (grwp o bobl â nod cyffredin) clic, carfan
clandestí
1 cudd
2 tanddaearol
clandestinitat
1 dirgel
en la clandestinitat yn y dirgel
2 byw yn y dirgel
clap
1 patshyn
clap de gespa clwt o borfa
clapa
1 smotyn (o liw)
2 bwlch
3 llannerch
clapada
1 napyn, nepyn
2 fer una clapada cael
nepyn
clapar
1 cysgu
ççM’he quedat clapadíssimççç Es i gysgu’n drwm iawn (wrth cael nepyn yn
y pnanwn, er enghraifft)
clapat
1 brych (croen)
2 brith (anifail)
3 brith (aderyn)
clapejar
1 britho
claper
1 tir caregog
2 pentwr o gerrig
3 cludair, pentwr o goed
Claper
1 Cyfenw.
(1) Hefyd â ffurf luosog: Clapers
(Clapés, Clopés)
(2) Â’r fannod 'salat' (“es”, forma mes antiga de “el”): Esclaper (Esclapé);
clapera
1 tir caregog
Clapera
1 Cyfenw.
(1) Hefyd â ffurf luosog: Claperes
(Claperas)
Claperol
1 Cyfenw.
(1) Hefyd â ffurf luosog: Claperols
[claper + -ol bachigol] = lle pentyrrau cerrig;
Claperos
1 Cyfenw lle pentyrrau cerrig
claperot
1 adfail adeilad cerrig
clapir
1 (ci) nadu
clapissa
1 lle caregog
“Clapissa” vol dir paratge de roques i pedreny
Ystyr “clapissa” yw lle creigiau a cherrig
clapotejar
1 (hylif) tasgu, cael ei dasgu
claque
1 tapddawns
claquera
1 siaradusrwydd
clar
1 disglair, claear, gloyw
2 wedi ei oleuo yn dda /wedi ei goleuo yn dda (ystafell)
3 llachar
4 golau (lliw)
5 golau (dydd)
6 clir (gwydr)
7 clir (dŵr)
8 (testun) clir
més clar impossible mor olau â’r
dydd
9 clir = hawdd ei ddeall/ei deall
10 treure-ne en clar llwyddo i ddeall
11 tenau (brethyn)
12 clir (ysgrifen)
13 tenau (coedwig)
14 tenau (cawl)
15 clir (llais)
16 (esboniad) clir (= hawdd deall)
més clar impossible mor olau â’r
dydd (“yn glirach amhosibl”)
més clar que l'aigua mor olau â’r
dydd (“yn glirach na’r dŵr”)
17 clir (iaith)
18 és clar wrth gwrs
19 amlwg
és clar i evident que
mae’n hollol amlwg fod....
20 tenir
clar bod yn sicr
tenir molt clar que bod yn berffaith
sicr fod..., bod yn benderfynol fod..
Això ho tinc molt clar Rw i’n
berffaith sicr am hynny
clar
1 yn glir
ben clar yn hollol glir
ho va dir ben clar davant les càmeras
Fe’i dywedodd yn hollol glir o flaen y camerâu
2 parlar clar siarad yn
blaen
3 parlar clar siarad yn
blwmp ac yn blaen
4 parlar clar i català siarad
yn blwmp ac yn blaen
clar
1 golau
clar de lluna golau lleuad
2 bwlch, toriad
clara
1 gwynnwy
claraboia
1 ffenestr do
clarament
1 yn glir
2 yn amlwg
claredat
1 llacharedd
2 golau
3 eglurder
clarejar
1 gwawrio
ja clareja mae’n dechrau gwawrio
2 bod yn denau (hylif)
un brou que clareja cawl tenau
clarí
1 utgorn
clariana
1 bwlch rhwng cymylau
2 llannerch
Clariana de Cardoner
1 trefgordd (el Solsonès)
clarícia
1 esboniad
clarificació
1 esboniad
clarificador
1 esboniadol
clarificar
1 (hylif) gloywi, ymloywi
clarinet
1 clarinét
clarissa
1 [lleian o Urdd Santes Clar o Asisi]
clarividència
1 clirwelediad
claror
1 goleuni
2 a la claror de la lluna yng
ngolau'r lleuad
la claror al final del túnel y golau
ym mhen draw’r twnel
clasc
1 sain clychau
2 (larwm) hwtian
classe
1 math
2 (prifysgol) dosbarth, darlith
3 dosbarth =nifer o fyfyrwyr
4 ystafell ddosbarth
5 dosbarth cymdeithas (classe social)
6 la classe política y
gwleidyddion
clàssic
1 clasurol
música clàssica cerddoriaeth
glasurol
clàssic
1 clasur
clàssic!
1 (i fynegi fod ryw weithred yn nodweddiadol, yn arferol, heb beri'r
syndod lleiaf) yn union fel y byddid yn disgwyl
classificació
1 dosbarthiad
classificar
1 dosbarthu
2 (llythyron) didoli
classificar-se
1 ennill lle yn y rownd nesaf (cyfres o cystadleuthau)
2 (safle ar ôl cystadleuaeth) cyrraedd, dod (yn gyntaf, ayyb)
clasta
1 beili, cwrt, iard
clàstic
1 (Daearyddiaeth) clastig
2 (model), y gellir ei dynnu oddi wrth ei gilydd
clatell
1 gwegil
net de calell cyfrwys (“â’r gwegil
yn lân”)
portar llana al clatell bod yn
hygred (“cario gwlân ar y gwegil”)
tenir molta llana al clatell bod yn
hygred (“bod gennych lawer o wlân ar y gwegil”)
2 Boira al castell, pluja al clatell (dywediad o Montgrí, sir Baix Empordà) (“niwl wrth y castell, glaw ar y gwegil”) Pan fydd castell
Montgrí yn diflannu yn y niwl, mae’n sicr o fwrw glaw
clatellada
1 trawiad ar y gwegil, ergyd ar y gwegil
Tot i que m'esperava uns millors
resultats del NO a Catalunya, la baixa participació és una clatellada als
socialistes.
Er imi ddisgwyl gweld gwell canlyniadau ar gyfer y bleidlais dros Nage yng
Nghatalonia, mae’r bleidlais isel yn dipyn o ergyd i’r Sosialwyr
clatellejar
1 taro ar y gwegil
clatellut
1 gwegildew, gwegildrwm, gyddfdew
clau
1 hoelen, hoel
2 styden, stydsen
3 pigyn
4 peth diwerth
No val ni un clau Dyw e’n werth dim
5 dant llygad, ysgithrddant
6 ysgithir
7 clof, clofsen, clowsen, clowsyn
8 fer entrar la clau per la
cabota (“gwneud i’r hoelen fynd i mewn â’r pen”) ceisio gwneud yr amhosib’;
cario mwg mewn berfa / whilber , bwyta uwd â myniawyd, hel gwynt i sachau, golchi
traed alarch, cael caws o fola ci, malu glo mân yn glapiau
9 no deixar ni un clau a la
paret (lleidr) gwacáu tŷ, ayyb (“ni + gadael yr un hoelen yn y wal”)
10 ser sec com un clau =
fel llyngyren
11 clavar-li un clau al cor
rhoi ysgytwad i rywun, perii rywun ddioddef (“hoelio hoel yng nghalon rhywun”)
clau
1 allwedd, agoriad, 'goriad
2 clau mestra
prifallwedd, prifagoriad
3 tancar amb clau cloi
(drws, ayyb)
4 clau anglesa sbaner
5 (Cerddoriaeth) cywair
6 ateb, allwedd (i broblem, i ddirgelwch)
7 clau de pas stopfalf
8 (watsh, cloc) tolyn
9 (reslo) gafael, bachell, craff, clo
10 (dryll, gwn) clo
claudàtor
1 bach sgwâr / bach petryal
Claudi
1 enw (Claudius)
Clàudia
1 [Claudia] (Gwladus)
claudicació
1 ildio
2 cloffni
3 osgói, esgeuluso
claudicar
1 ildio
2 bradu’ch egwyddorion
3 cloffi
clauer
1 modrwy allweddi
2 gofalwr
clauera
1 gofalwraig
claustral
1 clawstrol
claustre
1 clawstr =rhodfa colofnog o gwmpas clos agored mewn mynachlog
2 clawstr =mynachlog
3 senedd = (prifysgol) corff arweiniol statudol sydd yn cynnwys
y canghellor, yr is-ganghellor, y deoniaid, ac athrawon
4 staff = staff arweiniol ysgol
5 cyfarfod (senedd prifysgol, staff ysgol)
claustrofòbia
1 clawstroffobia
clàusula
1 cymal
clausura
1 cau
2 séremoni gau
3 bywyd mynachol
convent de clausura cwfaint caeedig
clausurar
1 cau
2 dwyn rhywbeth i ben
3 gohirio
clava
1 pastwn, clwpa
clavada
1 ergyd
ser un una bona clavada (wrth sôn am
gost rhywbeth) colbio’r poced
Avui en dia anar al cinema suposa més de
1000 de les antigues pessetes. I les crispetes i refrescs també són una bona
clavada
Heddiw mae mynd i’r sínema yn meddwl gwario mwy na mil o’r hen besetas (=
chwech iwro). A mae’r popgorn a’r diodydd ysgafn yn colbio’r poced hefyd
clavar
1 hoelio
Amb això que has dit l'has clavat força
Rwyt ti wedi ei tharo hi ar ei chlopa â dy sylwadau, Rwyt ti wedi taro’r
hoelen ar ei phen â dy sylwadau (“Â’r hyn rwyt ti wedi ei ddweud, rwyt ti wedi
ei tharo lawer”)
2 pinio
3 mewnosod, gosod i mewn,
4 trywanu
5 clavar-li (a algú) una
bufetada taro rhywun, anelu ergyd at rywun, rhoi dyrnod i rywun (yn ei
wyneb)
clavar-li (a algú) una puntada de peu
cico rhywun; ceryddu rhywun
6 (gem) gosod
7 clavar-li els ulls (a
algú) syllu (ar rywun)
clavar els ulls (en algú) syllu (ar
rywun)
8 clavar-li crits (a algú)
gwaeddu (ar rywun)
9 clavar-li (una cosa) per la
cara (a algú) dweud (rhywbeth)
yn wyneb (rhywun)
10 clavar (algú) a la creu “hoelio
rhywun wrth y groes” (wrth sôn am ffawd y dymunir i elyn)
clavar-se
1 clavar-se a riure
dechrau rhuo chwerthin
2 clavar-se una espina pigo’ch hunan
3 clavar-se una estella al dit cael fflawen yn eich bys
4 clavar-se una sorpresa cael
ei syfrdanu
clavari
1 (cymdeithas), trysorydd
clavat
1 wedi ei hoelio yn sownd
2 sownd
3 yr un fath yn union
És clavat al seu pare Mae e’r un
poerad â dad
4 (dilledyn) sydd yn ffitio i’r dim
5 i'r dim
6 wedi eich syfrdanu
deixar-lo clavat synnu rhywun ar ei
hyd
7 wedi’ch hoelio i’r fan
8 (amser) yn union
Són les dotze clavades Mae hi’n
ddeuddeg o’r gloch yn union
clavecí
1 hárpsicord
2 spined
claveguera
1 carthffos
2 estar més avall que les rates de
claveguera bod yn is na llygod y garthffos (wrth sôn am wehilion
cymdeithas)
clavell
1 penigan y gerddi, penigan cigliw, carnasiwn
clavell pelut gludlys
clavellina
1 penigan y gerddi, penigan cigliw, carnasiwn
clavicèmbal
1 hárpsicord
2 spined
clavícula
1 pont yr ysgwydd
clavicular
1 claficlaidd
clavilla
1 pìn
2 pèg
clavillar
1 rhoi pegiau
claviller
1 set o begiau
2 (gitâr) pen
clàxon
1 corn (car)
tocar el clàxon canu corn
cleca
1 clatshen
Allò de parar
l'altra galta quan reps una cleca és absurd
Mae troi’r foch
arall ar cael cernod yn hurt
Vols una cleca ben donada?
Wyt ti am gael clatshen nad anghofi di
moni byth?
cleda
1 ffald, corlan,
Tarddiad: Celteg *kleta cf Cymráeg clwyd
2 (ffigurol) corlan,
clemència
1 maddeugarwch, trugaredd
clement
1 trugarol
clenxa
1 rhaniad y gwallt
clenxar
1 (gwallt) rhannu, gwneud rhesen wen yn...
clepsa
1 corun y pen
2 (gair cellweirus am ben) siol, clopa, penglog, pennog
Ho va dir ben fort per veure si, d’una vegada per totes, li entra a la clepsa
Fe’i dywedodd yn uchel iawn er mwyn gweld a geir ganddo ddeall (“a aiff i’w
glopa”), unwaith ac am byth
3 penglog
4 ymennydd, brêns
cleptomania
1 ysfa ladrata, cleptomania
Clerà
1 trefgordd (el Conflent)
clergue
1 clerigwr
2 offeiriad
2 gweinidog
clerical
1 clerigol
clericalisme
1 clerigaeth
clericat
1 clerigiaeth (swydd)
2 clerigwyr
clicar
1 clicio
Sobre
l'arxiu que t'interessi clica a l’esquerra de la rata
Dros y ffeil y mae gennyt ddiddordeb ynddo clicia ar ochr chwith y
llygoden
client
1 cwsmer (siop, cwmni)
2 claf (meddyg)
clienta
1 cwsmer (o fenyw)
2 claf (meddyg)
clientela
1 cwsmeriaid,
2 (meddyg) cleifion
clima
1 hinsawdd
climàtic
1 hinsoddegol =yn perthyn i hinsawdd
climatització
1 aerdymheru, aerdymeriad
climatitzar
1 aerdymheru
climatitzat
1 aerdymeredig
climatòleg
1 hinsoddegwr
climatòloga
1 hinsoddegwraig
climatologia
1 hinsoddeg =gwyddor astudio'r tywydd
climatològic
1 hinsoddegol =yn perthyn i hinsoddeg
clímax
1 uchafbwynt
clin
1 rhawn [= crin]
clínic
1 clinigol
clínica
1 meddygfa, clinig
2 hyfforddiant clinigol
3 ysbyty
clip
1 clip papur
2 clip gwallt
3 broetsh
clissar
1 gweld
2 gweld = deall
clissos
1 llygaid
clítoris
1 clítoris
clivella
1 crac
2 agendor, rhwyg
clivellar
1 rhwygo
clixé
1 stensil
2 ystrydeb
cloc-cloc
1 clwc
cloc-piu
1 digalon, iselfryd
cloenda
1 diwedd (cyfarfod)
2 gwahanfur
cloendat
1 wedi ei wahanu gan wal
clofolla
1 plisgyn cneuen
2 plisgyn wy
cloïssa
1 cragen fylchog
cloqueig
1 clicio
cloquejar
1 clwcian
fer cloquejar-li el cap hurtio
rhywun (“gwneud i ben rhywun glwcian”)
cloquer
1 clochdy
clor
1 clorin, glasnwy
clorat
1 clorad
clorhídric
1 hudroclorig
clòric
1 clorig
àcid clòric asid clorig
clorofil·la
1 clóroful
cloroform
1 clórofform
clorur
1 clorid
clos
1 caeedig, amgaeedig, =wedi ei gau/ei chau i mewn
2 wedi eich ynysu
2 swil
clos
1 clos = lle caeedig
2 séremoni cloi
3 wal
4 ffens
5 [cyfenwau] Clos, Delclòs
closca
1 plisgyn wy
2 plisgyn ffa, coden ffa, cib ffa, masgl ffa
3 plisgyn (cneuen)
4 cragen
5 penglog
6 pen
7 ymennydd
8 dur de closca pendew,
penbylaidd, twp
9 trencar-li (a algú) la
closca torri ei ben/ei phen
10 trencar-se la closca crafu
ei ben, meddwl yn galed
clot
1 pant
2 pwll, twll
3 bedd
4 bochdwll
5 ôl y frech
6 anar al clot marw, mynd
dan y dywarchen (“mynd i’r pant”), estyn y fer
7 tenir un peu al clot bod
ar war eich pwll, bod ar fin trengi, bod ym mhorth y fynwent
8 sortir del clot (“dod allan o’r
pant”) gwella’ch cyflwr, gwella’ch stad, codi yn y byd
Hi ha gent que no podrà sortir mai del
clot Y mae pobl na fydd byth yn gallu gwella’u cyflwr
clota
1 pant (pant mawr)
clotada
1 cwm
clotell
1 gwegil [Cataloneg yr Ynysoedd] (Catalaneg safonol clatell)
clotut
1 bochdyllog
cloure
1 cau
2 clensho
3 blocio
club
1 clwb
2 clwn bos
cluc
1 (llygaid) wedi eu cau, yngháu
a ulls clucs a’ch llygaid yngháu
clucaina
1 fer la clucaina = marw
2 fer clucaines cysgu,
pendwmpian
Adolygiad diweddaraf -
darrera actualització 20 06 2002 - 2003-12-15 :: 2004-01-11 :
2005-02-04
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) am ai? Yuu ø(r) vízïting ø peij frøm dhø "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I? You are visiting a page from the
"CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website