http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_pe_1682k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

PE-PEPERO

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 :: 2005-03-22

 

  



 

 

pe
1
pi = enw'r llythyren P

peany
1
pédestal

peatge
1
toll
2
clwyd dollau

pebet
1
ffon thus = arogldarth

pebeter
1
(Eglwys) thuser = llosgwr arogldarth

pebrada
1
saws (pupur, garlleg, persli, finegr)
2
math o ronyn unnos

pebràs
1
math o ronyn unnos
2
pupur

pebrassa
1
math o ronyn unnos
2
pebrassa vermella math o ronyn unnos

pebre
1
pupur
2
gra de pebre pupren

pebrer
1
planhigyn pupur

pebrera
1
pot pupur

pebrot
1
pupur = pimento, pupur gwyrdd, pupur coch
pebrot vermell pupur coch
pebrot
vermell escalivat pupur coch wedi ei goginio ar farwor
pebrot groc
pupur melyn
pebrot
verd dolç pupur gwyrdd melys
pebrot coent pupur poeth, pupur egr
tires de pebrot stribynnau o bupur
A mi no m'agrada el pebrot Nid wyf yn hoffi pupur
un pebrot tallat a quadradets
pupur wedi ei dorri’n sgwarau bach

2
carreg = caill
Els torturadors li van tallar l'aparell i els pebrots i els hi van introduïr a la boca
Torrodd yr arteithwyr ei bidyn a’i geilliau a’u rhoi yn ei geg

3 estar fins els pebrots de..
(“bod hyd y ceilliau am”) bod wedi cael llond bola ar...
N’estic fins els pebrots Rw i wedi cael llond fy mola ar y peth

4 pebrots dewrder
El problema és la falta de pebrots de molts de nosaltres
Diffyg dewrder llawer ohonom yw’r broblem
tenir pebrots bod yn ddewr
tenir pebrots de bod yn ddigon dewr i
Però, és clar, qui pebrots de convocar unes eleccions al Parlament ara?
Ond wrth gwrs pwy fydd yn ddigon dewr i alw etholiad nawr?
no tenir pebrots
bod yn llwfrgi
El que no pebrots ets tu
Ti yw’r llwfrgi, nid fi
no tenir prou pebrots de fer alguna cosa bod yn rhy ofnus i wneud rhywbeth

5 haerllygrwydd, eofndra
Quins pebrots
tenen aquests espanyols Dyna haerllug yw’r Castilwyr
té pèbrots
(sefyllfa)
mae’n anhygoel, mae’n warth o beth; (agwedd) haerllugrwydd yw..., eofndra yw...,
venir a viure a Gràcia i queixar-se de la Festa Major pebrots...
dod i fyw i (bentre) Gràcia ac yna gwyno am yr Wylmabsant braidd yn eofn
té pebrots la cosa mae’n anhygoel, mae’n warth o beth
tenir els sants pebrots de bod tan ddigywilydd i
els sants pebrots de dir que no passa res bod tan ddigywilydd i ddweud nad yw dim yn digwydd


6 anar a tocar els pebrots (“mynd i gyffwrdd â’ch ceilliau”)
Ves a tocar els pebrots a una altra banda, que de pesats com tu ja n'estem
Cer i grafu (“cer i
gyffwrdd â’th geilliau yn rhyw le arall”), yr ym ni wedi cael hen ddigon o bobol ddiflas fel ti

pec
1
dwl, gwirion, twp, ffôl
2
Pec cyfenw [Cataloneg hynafol = gwirion, twp]

peça
1
darn, rhan
2
(theatr), drama fer
3
dilledyn
4
darn (mewn gêm); e.e. peça d'escacs darn gwyddbwyll
5
ystafell (mewn tŷ)
6
peça de terra darn o dir
7
peça de recanvi
8
d'una peça yn un darn
9
mala peça (person) aderyn brith
10
tenir mala peça al teler
bod yn ddrwg arnoch (“bod gennych frethyn drwg yn y gwŷdd”)
Els catalans tenim mala peça, molt mala peça al teler.
I des de fa segles, ai!
Mae’n ddrwg arnom ni, yn ddrwg iawn arnom ni’r Cataloniaid. Ers canrifoedd, ysywaeth
11
estar peça clau bod yn ddyn allweddol, bod yn wraig allweddol
És un polític molt conegut perquè ha estat peça clau en els governs de Pujol
Mae’n wleidydd adnabyddus iawn iddo fod yn ddyn allweddol yn llywodraethau (yr arlywydd) Pujol

pecador
1
pechadur
pecador empedreït pechadur anachubol
 

pecaminós
1
pechadurus

pecar
1
pechu
2
mynd ar gyfeiliorn
3
pecar de... (+ ansoddair neu enw) bod yn rhy...
pecar de generós bod yn rhy hael
Aquest menjar peca de salat Mae'r bwyd yma yn rhy hallt
No voldria pecar de pessimisme Ni hoffwn swnio yn rhy besimistaidd

pecat
1
pechod
Jesucrist va dir, qui estigui lliure de pecat que tiri la primera pedra, i d'aquesta manera la pobra adúltera es va poder salvar
Fe ddywedodd Iesu Grist - yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi; yn y ffordd hon, bu’n bosibl i’r butain druan gael ei hachub
2
els set pecats capitals y saith brif bechod
pecat capital pechod o’r gwaethaf
Quan es critica a CIU en aquest país un sembla que cometi un pecat capital, quan en canvi, els altres partits es poden criticar tranquilament sense que t'acusin de perseguidor
Pan gaiff CiU ei beirniadu yn y wlad hon mae’n ymddangos fod rhywun yn cyflawni pechod o’r gwaethaf, ond ar y llaw arall, caiff feirniadu’r pleidiau eraill yn llonydd heb iddynt dy gyhuddo o fod yn erlidiwr
3
absoldre algú dels seus pecats
gollwng rhywun oddi wrth bechod, rhyddháu rhywun oddi wrth bechod, maddau pechod i rywun
4
pecat mortal pechod marwol
5
pecat venial pechod bach, pechod bychan, mân bechod
6
penedir-se dels seus pecats edifarháu’ch pechodau
7
cometre un pecat cyflawni pechod
8
no tenir ni culpa ni pecat d’una cosa ni + bod gennych ran yn rhywbeth (“na bai na phechod”)
9
Qui ha fet el pecat que faci la penitència Mae rhaid i droseddwr dderbyn cosb am ei gamweddau (“y sawl a gyflawnodd y pechod a wnelo benyd”)
10
confessar els seus pecats cyffesu’ch pechodau
Pecat confessat és mig perdonat “Mae pechod wedi’i gyffesu yn bechod wedi’i hanner maddau”
11
ser lleig com un pecat bod yn hyll fel pechod, bod yn hyll fel diawl, bod mor hyll â phechod
ser més lleig que un pecat bod yn hyll fel pechod, bod yn hyll fel diawl, bod mor hyll â phechod (“bod yn hyllach na phechod”)
Aquesta tia és més lletja que un pecat Mae’r wraig hon yn hyll fel pechod
12
És pecat Mae’n drueni, Mae’n bechod
13
estar en pecat bod yn llawn pechod
14
ser un pecat dels grossos
bod yn un o’r pethau gwaethaf y gall rhywun ei wneud
Una carta agraïnt el teu ajut no pot portar el teu nom ple d’errors, mai de la vida. És un pecat dels grossos, em sembla
Ni all llythyr sydd yn diolch iti am dy help ddwyn d’enw yn llawn o wallau, byth. Mae hynny yn un o’r pethau gwaethaf y gall rhywun ei wneud, yn fy marn i

pecblenda
1
pitshblend, pigfwn

peceta
1
darn arian heb fawr o werth
2
darn arian Castilaidd a wnaethpwyd ym Marselona rhwng 1707-1711, yn gyfwerth â dau ‘ral’ arian
3
(â’r sillafiad pesseta) arian gwladwriaeth Castîl hyd Ionawr 2002, pan y’i diddymwyd wrth i’r iwro gael ei fabwysiadu

pecíol
1
petiol, deilgoesyn

peciolat
1
petiolog, deilgoesog

peciòlul
1
deilgoesig

pècora
1
dafad, mamog
2
ser una mala pècora bod yn ddyn drwg, bod yn wraig ddrwg
ser una bona pècora bod yn ddyn drwg, bod yn wraig ddrwg

pectic
1
(Cemeg, Bywydeg) pectig

pectina
1
pectin

pectinat
1
cribddanheddog
fulla pectinada deilen gribddanheddog

pectoral
1
dwyfronnol
aleta pectoral bronasgell, asgell ddwyfronnol
músculs perctorals cyhyrau dwyfronnol

pectoral
1
brongroes

pectosa
1
pectos

pecuari
1
gwartheg, da (goleddfair) (= yn perthyn i wartheg, i dda)
Les exportacions pecuàries angleses han caigut en picat
Mae allforion gwartheg Lloegr wedi gostwng yn sylweddol

peculat
1
embeslad = dwyn arian neu eiddo rhywun neu rywrai gan y sawl sydd yn gofalu amdano

peculi
1
eiddo preifat, eich arian eich hun
Evans va sufragar del seu peculi l’excavació del palau
Talodd Evans am y cloddio yn y palas â’i arian ei hun

peculiar
1
priodol, nodweddiadol, arbennig
condicions peculiars amgylchiadau arbennig
característiques peculiars nodweddion arbennig, hynodweddau

peculiaritat
1
neilltuolrwydd, nodwedd arbennig

peculiarment
1
yn neilltuol

pecúnia
1
arian, pres

pecuniari
1
ariannol
problemes pecuniaris
trafferthion ariannol
pena pecuniària dirwy

pedaç
1
patshyn
posar un pedaç a rhoi patshyn dros
pare pedaç tangnefeddwr, cymodwr, un sydd yn cymodi rhwng rhai sydd yn taeru

pedacer
1
dyn racs

pedagog
1
athro
2 pedàgoga athrawes

pedagogia
1
addysgeg

pedagògic
1
addysgol, pedagogaidd

pedagògicament
1
yn addysgol

pedal
1
pedal (beic, organ)
pedal piano pedal chwith
pedal fort pedal dal, pedal cynnal
2
pedal del fre pedal brêc
pedal de l’embragatge pedal cydiwr

pedalar
1
pedlo

pedalejar
1
pedlo

pedani
1
jutge pedani ustus heddwch

pedania
1
(Castîl) ardal

pedant
1
pedant, crachysgolháig

pedant
1
pedantaidd, crachysgolheigaidd = yn brolio’ch gwybodaeth am ryw bwnc trwy fanylu ar agweddau dibwys, am nad yw’r wybodaeth hon yn eang
El diari no dóna noms catalans a les pel·lícules i als llibres amb títols anglesos. No és fruit de cap pruïja pedantesca. No pretén més que ser respectuós amb la llengua original
Nid yw’r papur yn rhoi enwau Catalaneg ar ffilmiau a llyfrau â theitlau Saesneg iddynt. Nid oherwydd awydd bod yn bedantaidd mo hwn. Dim ond cynnig parchu’r iaith wreiddiol y maent.

pedantejar
1
bod yn bedantaidd

pedanteria
1
pedantiaeth, crachysgolheictod

pedantesc
1
pedantaidd

pederasta
1
péderast = dyn sydd yn cael cyfathrach rywiol â bachgen / â bechgyn
2 (ansoddair) pederastaidd = sydd yn cael cyfathrach rywiol â bachgen / â bechgyn
Detinguts tres
capellans pederastes a Boston
Tri offeiriad pederastaidd wedi eu restio yn Boston

pederastia
1
pederastiaeth = cyfathrach rywiol rhwng dyn â bachgen

pedestal
1
pédestal
posar algú sobre un pedestal rhoi rhywun ar bédestal

pedestre
1
ar draed
forces pedestres milwyr traed
estàtua pedestre cerflun ar ei ddeudroed
2
cyffredin, di-fflach, diawen

pediatre
1
pediatrydd

pediatria
1
pediatreg

pediàtric
1
pediatrig

pedicel
1
(planhigyn) coesyn, pedicl

pedicel·lat
1
(planhigyn) coesynnog, pediclog

pedicle
1
(planhigyn) coesyn, pedicl

pediculat
1
coesynnog, pediclog

pediculosi
1
pla llau, pedicwlosis

pedicur
1
triniwr traed, dyn trin traed, menyw trin traed, ceiropodydd

pedicura
1
troed-driniaeth, triniaeth traed, trin traed

pediforme
1
ar ffurf troed

pediluvi
1
baddon traed, bàth traed

pediment
1
pédiment, talog, talfa

pedra
ffurf fachigol: pedreta
1
carreg
cor de pedra calon garreg
paret de pedra wal gerrig
pedra angular conglfaen
pedra d’esmolar maen hogi, hogfaen
pedra de toc maen prawf
pedra esmoladora maen hogi, hogfaen
pedra filosofal eurfan, maen yr athronydd
pedra fogeura carreg fflint
pedra mil·lar carreg filltir
pedra preciosa carreg werthfawr
pedra sepulcral carreg fedd
pedra tosca pwmis, carreg bwmis
pont de pedra pont gerrig

no deixar pedra sobre pedra chwalu yn wastad â’r llawr, ni + gadael carreg ar garreg

a una tirada de pedra o fewn tafliad carreg

no posar cap pedra al fetge aros yn dawel, peidio â chynhyrfu (“ni + dodi carreg yn yr afu”)

llançar la primera pedra taflu’r garreg gyntaf

tirar la primera pedra taflu’r garreg gyntaf
Aquell de vosaltres que no tingui pecat, que comenci a tirar pedres (Joan 8:7)
Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi (Ioan 8:7)

passar algú per la pedra tywys rhywun gerfydd y trwyn (gorfodi i rywun wneud rhywbeth nad yw’n fodlon ei wneud) (“dod â rhywun drwy’r maen (melin”))

quedar-se de pedra bod wedi syfrdanu, bod wedi hurtio
deixar (algú) de pedra syfrdanu (rhywun), bwrw (rhywun) yn stwn, bwrw (rhywun) yn bedwar
M’has deixat de pedra, e!
Rwyt ti wedi fy synnu’n fawr (gyda’r newyddion hynny)

Qui tingui la casa de vidre que no llanci pedres
Y neb sy’n byw mewn ty^ gwydr gocheled luchio cerrig; Mae eisiau aderyn lân i ganu

desprendiment de pedres cwymp creigiau

Pedra rodalissa no posa molsa
Carreg a dreigla ni fwsogla;
Ni bydd mysyglog faen o’i fynych drafod;
Dyw’r garreg sy’n twmlo’n tyfu dim mwsog

tirar la pedra i amagar la mà golwg na lyncai mo’r llaeth arnoch (“taflu’r garreg a chuddio’r llaw”)

posar la primera pedra gosod y garreg sylfaen
La UGT donarà suport a la vaga contra la posada de la primera pedra del transvesament (El Punt 2004-01-10)
Cefnoga’r UGT (Unió General de Treball / “Undeb Cyffredinol Gwaith” – undeb llafur) y streic yn erbyn gosod carreg sylfaen y gweithiau trosglywddo dŵr (= cynllun i godi cronféydd dŵr ar afon Ebre i gael anfon dŵr i ardaloedd sych ar yr arfordir deheuol i gynnal amaethyddiaeth ac i ddyfrháu meysydd golff)

fer-se’n set pedres dod allan ohoni’n wael, cael y gwaethaf ohoni

2
ceseiren, cenllysgen
caure pedra bwrw cesair, bwrw cenllysg
Cau pedra Mae hi’n bwrw cesair / cenllysg

3
pedra = pedra de molí maen melin
M’és una pedra al coll Mae’n fwrn arnaf fi (“mae e’n faen melin am fy ngwddf”)

4
pedra = carreg fustl
Té mal de pedra Mae cerrig arno

5 No podem guanyar. L’enemic és massa fort. No hi ha res més a fer que ser-los una pedreta a la sabata
Ni allwn ennill. mae’r gelyn yn rhy gryf. Nid oes dim a ellir ei wneud ond bod yn ddraenen yn eu hystlys (“carreg yn yr esgid iddynt”)

pedrada
1
tafliad carreg
2
ergyd carreg
matar a pedrades llabyddio

pedraire
1
chwarelwr
2
saer maen

pedral
1
pwysau plwm (ar linyn pysgota)

Pedralba
1
trefgordd (els Serrans)

Pedralbes
1
ardal yn ninas Barcelona

pedralló
1
pwysau plwm (ar linyn pysgota)

pedralta
1
dandis
jugar a pedralta chwarae dandis

pedram
1
pentwr cerrig

pedrapiquer
1
saer maen
2
chwarelwr

pedrega
1
brwydr â cherrig

pedregada
1
storm o cesair / o genllysg
La pedregada va perjudicar els cítrics i algunes hortalisses
Difethodd y storm o gesair y ffrwythau sitrws a rhai llysiau

pedregar
1
tir caregog
anar el carro al pedregar (mynd i anhawster wrth ymwneud â rhywbeth) mynd i dwll, mynd i ddyfroedd dyfnion (“y gert yn mynd i dir caregog”)
El procés de substitució del català és cada dia més ràpid perquè no hem volgut veure el pedregar que tenim al davant
Mae coll yr iaith Gatalaneg (“proses amnewid y Gatalaneg”)  yn cyflymu o ddydd i ddydd oherwydd nad oeddym yn barod i weld y gors (“tir caregog”) oedd o’n blaenau

pedregar
1
bwrw cenllysg, bwrw cesair

Si per Sant Jaume (= 27 Gorffennaf) plou, abans de vuit dies pedrega
(Dywediad) Os bwriff hi law ddydd Sant Iago, cyn pen wyth niwrnod bwriff gesair

Les collites han anat tan malament aquest any que no podem ni menjar. Ha pedregat i no tenim res.
Mae’r cynhaeaf wedi bod mor wael eleni fel fel na allwn ni fwyta hyd yn oed. Mae wedi bwrw cesair a does dim gyda ni.

Els llauradors, preocupats per les seues collites, sovint es pregunten: Pedregarà? Gelarà? Quan plourà?
Mae’r ffermwyr yn poeni am eu cnydau ac yn gofyn yn aml, “Fydd hi’n bwrw cesair? Fydd hi’n rhewi? A pryd bydd hi’n bwrw glaw?

Bon dia és el que plou i no pedrega
(Dywediad) Diwrnod da yw diwrnod pan fydd yn bwrw glaw a dim yn bwrw cesair


2
pedregar-se el fetge cerrig bustl yn ffurfio (“yr afu yn ymgaregu”)

pedregat
1
wedi ei ddifetha gan gesair

pedregós
1
caregog
camí pedregós llwybr caregog
Vam deixar el camí i vam prendre un camí pedregós a la dreta Gadawson ni’r heol a chymerson ni lwybr caregog i’r dde
el terreny és molt pedregosa, i si està moll (per boira o pluja) la baixades és fa feixuga i perillosa
Mae’r tir yn garegog dros ben, ac os yw e’n wlyb (oherwydd y niwl neu’r glaw) mae mynd i lawr yn anodd ac yn beryglus
el llit d’un torrent pedregós i sec, gairebé tot l’any
gwely ffrwd caregog a sych, bron gydol y flwyddyn
un sol pedregós i pla tir caregog a gwastad

pedreguer
1
tir caregog

Pedreguer
1
trefgordd (la Marina Alta)

pedrejar
1
(berf â gwrthrych) sarnu / difetha (eich iechyd)
2
(berf â gwrthrych) difetha (planhigion)

pedrejar-se
1
colli’ch iechyd

pedrenc
1
carreg (ansoddair)
Un ‘taula’ és un pedestal sostenint una superfície pedrenca
Pedestal sydd yn cynnal llech (“wyneb carreg”) yw ‘taula’

pedreny
1
craig, carreg, cerrig
L’últim tram del camí és farcit de pedreny solt
Mae rhan olaf yr heol yn llawn o gerrig rhydd
Les parets en sec de Mallorca mostren una gran diversitat de pedreny i de graus d’adobament
Mae waliau sych Maiorca yn dangos amrywiaeth fawr o garreg a mathau o orffeniadau
un mjunt de pedreny pentwr cerrig, carn
“Clapissa” vol dir paratge de roques i pedreny Ystyr “clapissa” yw lle creigiau a cherrig
Pedreny (cyfenw)
2
glasog, crombil
3
bola
tenir un bon pedreny bod archwaeth dda gennych

pedrenyal
1
callestr, fflint
2
pistol ag iddo faril hir, rhythwn
El bandoler li va ventar un tret de pedrenyal
Taniodd yr herwr ergyd arno â’i bistol

pedrenyaler
1
cllestr, fflint
un pedrenyaler era un fabricant d’una mena d’escopeta curta que és disparava amb pedrenyal
Ystyr “pedrenyaler” oedd un a wnelai fath o ddryll pelets byr a danid â charreg fflint

pedrenyera
callestr, fflint
moles de pedra pedrenyera o pedra foguera, és a dir, de sílex
meini melin o gallestr neu garreg fflint, hynny yw, o “silex”
una abundància de nombrós sílex o pedrenyera embalada amb guix i amb argila
toreth o gerrig fflint neu gerrig callestr wedi eu gorchuddio â sialc neu glai

pedrer
1
chwarelwr
2
glasog, crombil
L’estómac de la gallina s’anonema “pedrer” perquè es ple de pedretes. Realitzen la funció de trituració.
“Pedrer” yw’r enw ar stumog iâr am ei fod yn llawn cerrig bach. Mae’r cerrig hyn yn malurio’r bwyd.
2
(Milwriaeth) blif = peiriant taflu cerrig

pedrera
1
chwarel, cwar, pwll cerrig

la Pedrera

1
enw poblogaidd ar “Casa Milà”, adeilad yn ninas Barcelona, ar gornel Carrer Provença a Passeig de Gràcia, wedi ei gynllunio gan y pensaer Antoni Gaudí. Adeiladwyd rhwng 1906 a 1910 ar gyfer Pere Milà Camps

pedreria
1
cerrig gwerthfawr

pedrerol
1
(Lathyrus sativus) math ar ythysen

Pedret i Morzà
1
trefgordd (l'Alt Empordà)

pedreta
1
cerigyn
pedreta blnca punxaguda i dura cerigyn caled pigfain gwyn ei liw
una pedreta no massa grossa carreg heb fod yn fawr iawn
Tinc una pedreta a la sabata
Mae gen i garreg yn f’esgid
2
pwysau plwm (ar linyn pysgota)
2
arribar a les tres pedretes mynd i berygl mawr
Un pas més i hauriem arribat a les tres pedretes Cam arall ac fe fuaswn ni wedi mynd i berygl mawr

pedrís

1
mainc garreg
Es Pedrís Llarg és el banc de pedra adossat a la paret de l’església parroquial de Begur, al Baix Empordà
“Es Pedrís Llarg” (Y Fainc Hir”) yw’r fainc garreg â’i gefn at eglwys y plwyf ym mhentref Begur yn sir Baix Empordà
Es Pedrís Llarg enw cylchgrawn cyngor pentref Begur

pedrissa
1
chwarel, cwar
Sa Pedrissa Y Cwar (enw lle, Deià, Mallorca)

pedró
1
carn
2
pédestal

pedrós
1
caregog

pedrósa
1
(planhigyn) (Aethionema saxatile) triaglog


pedrusca
1
cerrig wedi’u torri; sgri, marian

pedruscada
1
storm o gesair, storm o genllysg

pedruscall
1
cerrig wedi’u torri; sgri, marian
un amplíssim camp de pedruscall, amb rocs i còdols de grnadària diferent
maes eang llawn cerrig, â chreigiau â phobls o wahanol feintiau
pedruscall d’ompliment rhwbel, cerrig llanw
entremig de l’argamassa i el pedruscall d’ompliment de l’interior dels murs de l’església hi ha alguns fragments de tègules de tipus romà
ynghanol y morter a cherrig llanw yn welydd yr eglwys y mae darnau teils Rhufeinig eu golwg


peduncle
1
coesyn, coesig
Aquestes flors no ténen peduncle
Nid oes coesyn i’r blodau hyn

peduncular
1
coesynnol
la zona peduncular i lenticel·lar
y rhan coesynnol a lentiselaidd

pedunculat
1
coesynnog
l’ull d’un decàpode és pedunculat
Llygaid coesynnog sydd gan gramennog

pega
1
pitsh, tar
2
cyfnod o anlwc
estar de pega cael cyfnod o anlwc
3
pega dolça licris
4
pega de sabater cwyr crydd
5
pega grega ystor du, resin du
6
fer-hi pega
..1/ bod allan o le
..2/ (lliwiau) gwrthdaro, anghytuno
7
negre com la pega
..1/ (lliw) pygddu, purddu, parddu blac, du bitsh
..2/ (tywyllwch) fel y fagddu, fel bol buwch, yn dywyll bitsh
8
magl = anfantais gudd; trafferth, anhawster
La firma en qüestió ofereix a l’empresari un sistema per prevenir talls de llum i caigudes de tensió.
L’empresari, fart dels talls de llum sobretot als estius, compraria el que faci falta. La pega: l’oferta li fa Fecsa-Endesa, la mateixa companyia que li subministra la llum amb petits talls, talls perllongats, sobretensió, caigudes de tensió...
Mae’r cwmni dan sylw yn cynnig i’r dyn busnes gyfundrefn iddo gael osgói toriadau trydan a gostyngiadau yn y foltedd. Buasai’r dyn busnes, wedi cael llond bol o doriadau trydan yn enwedig yn yr haf, yn prynu beth bynnag y bo ei eisiau. Y fagl yw fod Fecsa-Endesa yn gwneud y cynnig – yr un cwmni sydd yn darpau trydan iddo, â thoriadau bach, toriadau estynedig, gorfoltedd, gostyngiadau yn y foltedd, ayyb

pegada
1
ergyd

pegadella
1
crachen, cramen

pegaire
1
hoff o fwrw, hoff o daro

pegallós
1
gludog

pegament
1
yn dwp, yn ffôl

pegar
1
curo
2
trywanu
3
anar a pegar contra (carreg) taro, taro ar
4
pegar-li per...(fer alguna cosa) teimlo awydd (gwneud rhywbeth)
Li va pegar per plorar Teimlai awydd llefain
5
bwrw
pegar-li un cop de puny (a algú) rhoi dyrnod (i rywun)
pegar-li una puntada de peu
(a algú) rhoi cic (i rywun)
El policia li va pegar una bufetada ben grossa Rhodd yr heddwas glamp o belten iddo
6
pegar una punyalada trywanu
7
pegar-li un atac de ràbia cael pwl o dymer drwg

Pegàs
1
Pégasws

pegat
1
patshyn
És un pegat en un banc Gweithred hollol ddiwerth yw e
2
trwsiad, brodiad

pegellida
1
llygad maharen

Pego
1
trefgordd (la Marina Alta)

pegot
1
plaster
2
crydd
3
bwnglerwaith

peguissaire
1
hoff o fwrw, hoff o daro

peguisser
1
hoff o fwrw, hoff o daro

pegunta
1
pitsh

peiot
1
(cyffur) peiote (Lophophora willamsii)

peirer
1
saer maen

peix
1
pysgodyn
2
Peixos (cytser) Y Pysgod
3
Peixos (arwydd y sidydd) Y Pysgod
4
peix de mar pysgodyn dŵr hallt, pysgodyn môr
peix d’aigua dolça pysgodyn dŵr croyw, pysgodyn afon (“pysgodyn dŵr melys”)
peix d'aquari pysgodyn acwariwm
peix blanc
pysgodyn gwyn (= un isel ei fraster)
peix glas pysgodyn glas (=un uchel ei fraster)
peix espasa (Xiphias gladius) cleddbysgodyn, pysgodyn cleddyf
peix gros pwysigyn, dyn pwysig (“pysgodyn mawr”)
peix roquer pysgodyn carreg
peix de roca
pysgodyn carreg
peix lluna lloerbysgodyn, lloeren fôr
peix sense sang arianresog (pysgodyn o’r teulu Atherinidae) (“pysgodyn heb waed”)
peix serra llifbysgodyn, pysgodyn llif
peix tropical pysgodyn trofannol
peix volador pysgodyn hedegog
ser un peix que es porta l’oli bod yn debyg o lwyddo (“bod yn bysgodyn sydd yn dwyn yr olew”)
No és ni carn ni peix Dyw e’r naill beth na’r llall (“nid yw na chig na physgodyn”)
trobar-se com un peix a l’aigua bod yn eich elfen (“fel pysgodyn yn y dŵr”)
estar-se com un peix a l’aigua bod yn eich elfen (“fel pysgodyn yn y dŵr”)
sentir-se com un peix fora de l’aigua teimlo’n anghartrefol (“fel pysgodyn allan o’r dŵr”)
sentir-se com un peix al rostoll teimlo’n anghartrefol (“fel pysgodyn yn y sofl”)
El peix gros es menja el petit Trechaf treisied, gwannaf gwichied (“mae’r pysgodyn mawr yn bwyta’r pysgodyn bach”)
ser un bon peix bod yn gyfrwys (“bod yn bysgodyn da”)
espina de peix blewyn (“draenen pysgodyn”)
cola de peix glud pysgod, pysglud
mercat de peix marchnad bysgod
agafar peix gwneud i rywun wneud rhybeth fydd o fantais i chi
peix martell (Sphyrna zygaena) morgi pen morthwyl

5 estar peix bod heb astudio, bod heb wybod y pwnc, bod heb wybod y ffeithiau
Francament hauré de fer un gran esforç perquè estic peix
A dweud y gwir, bydd rhaid i mi wneud ymdrech fawr am nad wyf i’n gwybod rhyw lawer

6 anar peix bod heb astudio, bod heb wybod y pwnc, bod heb wybod y ffeithiau

anar molt peix amb gwybod y nesa’ peth i ddim am
Vaig molt peix amb el
futbol Rw i’n gwybod y nesa’ peth i ddim am bêl-droed
Va molt peix en anglès i mates Mae e’n wan iawn mewn Saesneg a Mathemateg
En aquest camp vaig molt peix Dw i ddim yn gwybod llawer am y pwnc hwn
Gràcies per la teva col·laboració, ja veus que vaig peix
Diolch am eich cymorth, fel wyt ti wedi sylweddoli nid wyf yn gwybod llawer am y pwnc
De física també vaig peix Dyw ffiseg ddim yn gryfder gen i
Amb això de l’HTML vaig molt peix Dw i ddim yn deall llawer ar HTML
-Què vindràs, demà? -No ho sé, he d´estudiar, que vaig molt peix -Ddoi di yfory? -Wn i ddim, rhaid i fi astudio, dw i ddim wedi dysgu rhyw lawer.
Només 3 respostes encertades. Vas força peix. Et convé llegir més llibres sobre el tema.
Dim ond tri ateb yn iawn. Dwyt ti ddim yn gwybod digon o bell ffordd. Rhaid i ti ddarllen mwy o lyfrau ar y pwnc ’ma.

7 memòria de peix cof byr iawn (“cof pysgodyn”)
O ets un cínic o tens memòria de peix Naill ai
sinig wyt ti neu mae gen ti gof byr iawn

peixada
1
llwyth o bysgod
2
saig ar sail pysgod

peixalla
1
haid mawr o bysgod

peixar
1
porthi

peixat
1
ben peixat
wedi eich porthi’n dda, porthiannus, llond eich croen, graenus
el gat ben peixat del véi cath borthiannus y cymydog
2
pesqueria, peixatera

peixater
1
gwerthwr pysgod

peixatera
1
pysgodfa

peixateria
1
siop bysgod

peixejar
1
bod blas pysgod ar

péixer
1
(berf a gwrthrych) pori, rhoi i bori, porthfelu
2
(berf heb wrthrych) pori

peixera
1
powlen bysgod
2
sianel (sydd yn dwyn dŵr o afon neu lyn)

peixet
1
mân bysgodyn
2
peixet de plata (trychfilyn) prif arian, dim
3
Tira peixet! Dyna lwc i ti!

peiximinuti
1
pysgod mân, silod mân
2
pethau bach diwerth

Peixos
1
(cytser) Y Pysgod
2
(arwydd y sidydd) Y Pysgod

peixopalo
1
ysgadenyn wedi’i sychu

pejoratiu
1
difrïol

pejorativament
1
yn ddifrïol

pel > per

pèl

1
blewyn
2
(mewn barf) blewyn
pèl moixí manflew (= dechrau barf)
2
(anifail) ffwr
animal de pèl anifail blewog
3
(aderyn) manblu
4
(gem) nam
5
(dillad) blew, blewiach, manflew
6
 un pèl (adferf) dipyn bach, braidd
És un pèl complicat, ja ho sé
Ma braidd yn gymhleth, mi wn
un pelet (adferf) dipyn bach
Les temperatures pujaran un pelet cap a la tarda
Bydd y tymheredd yn codi tuag at y pnawn

7 pels pèls o drwch y blewyn, o drwch asgell gwybedyn, o drwch dim ŵy


8 pèl de cavall rhawn
pèl de cuca llinyn pysgota (“blewyn pryf”)
pèl de seda llinyn pysgota (“blewyn sidan”)
pèl de boc (Vulpia myuros) peisgwellt y fagwyr (“blew bwch”)
pèl de bou (Poa bulbosa) gweinwellt oddfog (“blew ych”)
pèl de ca (Poa bulbosa) gweinwellt oddfog (“blew ci”)
pèl de farigola (Cuscuta epithymum) llindag lleiaf (“blewyn teim”)

A
a pèl gyda’r graen

a pèl noeth, noethlymun
.....anar a pèl bod yn noethlymun

a pèl heb gondom
.....fer l’amor a pèl cael rhyw heb gondom

a pèl yn ddigyfrwy
muntar a cavall a pèl marchogaeth yn ddigyfrwy

al pèl yn union

AMB
amb pèls i detalls yn fanwl iawn
...Ens ha explicat amb pèls i detalls coses força interessants
...Mae wedi esbonio i ni yn fanwl iawn bethau diddorol tu hwnt

descriure (alguna cosa) amb tots els pèls i senyals disgrifio rhywbeth yn fanwl (“â’r holl flew i marciau”)

AMOR
fer l’amor a pèl
cael rhyw heb gondom

ANAR
anar a pèl bod yn noethlymun

BOC
pèl de boc
(Vulpia myuros) peisgwellt y fagwyr (“blew bwch”)

BOU
pèl de bou
(Poa bulbosa) gweinwellt oddfog (“blew ych”)

CA
pèl de ca
(Poa bulbosa) gweinwellt oddfog (“blew ci”) = pèl de bou

CAVALL
pèl de cavall
rhawn

COS
lluir-li el pèl del cos
bod mewn cas cadw da (“blew’r corff yn disgleirio iddo”)


CUCA
pèl de cuca
llinyn pysgota (“blewyn pryf”)

DESCRIURE
descriure (alguna cosa) amb tots els pèls i senyals
Gweler: amb

DETALL
amb pèls i detalls :
Gweler  amb

EN

en pèl gyda’r graen

FARIGOLA
pèl de farigola
(Cuscuta epithymum) llindag lleiaf (“blewyn teim”)

FER
fer l’amor a pèl
cael rhyw heb gondom

LLENGUA
no tenir pèls a la llengua
siarad yn blwmp ac yn blaen (“ni + gennych flew ar y tafod”)

LLUIR
lluir-li el pèl del cos
Gweler cos

NO
no tenir pèls a la llengua
siarad yn blwmp ac yn blaen (“ni + gennych flew ar y tafod”)

MUDAR
mudar de pèl (ocell) bwrw plu; (neidr) bwrw croen; (person) newid byd

PER
pels pèls
o drwch y blewyn, o drwch asgell gwybedyn, o drwch dim ŵy

POSAR
posar-se-li els pèls de punta
: Gweler PUNTA

PRENDRE
prendre-li el pèl
herian rhywun, tynnu coes rhywun (“cymryd y blew oddi arnoch”)
 
PUNTA
posar-se-li els pèls de punta
bod wedi’ch dychryn drwyddoch (“y blew yn eu codi o bwynt iddo”)
Va sentir el pèl del bescoll posar-se-li de punta Teimlai godi blew ei wegil
Quan el veig se'm posen els pèls de punta
Pan wyf yn ei weld mae’n hala ysgryd drwof fi
fer-li posar els pèls de punta codi gwallt eich pen chi, codi’r gwallt ar eich pen chi, hala ysgryd drwyddoch chi (“gwneud iddo roi y blew o bwynt”)

SEDA
pèl de seda
llinyn pysgota (“blewyn sidan”)

SENYAL
descriure (alguna cosa) amb tots els pèls i senyals : Gweler: amb

TENIR
no tenir pèls a la llengua
siarad yn blwmp ac yn blaen (“ni + gennych flew ar y tafod”)

TOT
trobar pèls en tot
pigo brychau ym mhopeth (“dod o hyd i flew ym mhopeth”)
descriure (alguna cosa) amb tots els pèls i senyals : Gweler descriure

TROBAR
trobar pèls en tot
pigo brychau ym mhopeth (“dod o hyd i flew ym mhopeth”)
 
 

pela
1
(taten) pil, croen
2
pilio
3
dirisglo, tynnu rhisgl pren
4
(pys, ffa) coden, plisgyn, masgl
5
peseta
la pela y peseta, arian
És que la pela és la pela
Arian sy’n cyfrif, Arian sy’n mynd â hi, (wrth wneud penderfyniad, rhaid cofio taw arian yw’r peth pwysicaf oll)
peles pres, arian
Tens peles? Oes gennyt ti arian?

pelabou
1
(hefyd sanguinyol) (Cornus sanguinea) cwyros

pelacanyes
1
tlotyn (“pilio cans”)

pelada
1
crafiad, sgathrad
fer-se una pelada (al genoll) cael crafiad, cael sgathrad (ar y pen-glin)
2
pilio
3
dirisglo

peladella
1
moelni, alopesia

peladís
1
piliadwy, y gellir ei bilio

pelador
1
piliwr
2
barcer, un sydd yn tynnu rhysgl corc

peladures
1
pilion

pèlag
1
môr
2
nifer fawr o / nifer mawr o
un pèlag de dificultats nifer fawr o anawsterau

pelàgic
1
eigion (ansoddair)

pelaí
1
lleden

pelalla
1
pilion

pelar
1
torri (gwallt)
fer-vos pelar el cap cael torri’ch gwallt
2
pilio (ffrwythyn)
3
blingo, tynnu croen anifail marw
4
(plu) pluo, plufio; plycio’r plu, tynnu’r plu
5
(Alzina surea) (= pren corc) dirisglo, tynnu’r corc
6
blingo (rhywun) = dwyn oddi ar rywun
pelar-li tots els diners dwyn ei holl arian oddia arno
7
un fred que pela = oerfel enbyd, rhyndod enbyd ('sy'n blingo')
8
pelat heb arian
estar pelat bod heb yr un ddimai goch
M’ha deixat pelat Mae e wedi fy ngadael heb yr un ddimai goch
9 lladd
Abans de pelar els condemnats (el compte d’Espanya) els feia escoltar “Las habas verdes”. –Què és això? –Una cançó castellana... (Avui 2004-01-20)
-Cyn lladd y carcharorion bu Iarll Sbaen yn gwneud iddynt wrando ar “Las habas verdes”. –Beth yw hwnnw? –Cân Gastileg...

pelar-se
1
pelar-se de fred
rhynnu gan oerfel, crynnu gan oerfel
2
pelar-se-la wancio, halio, mastwrbio
Si te la peles et quedaràs cec Os mastwbri di fe ei di’n ddall

pelargoni
1
pig yr aran

pelat
1
(gwallt) wedi ei dorri
2 (pen) moel
closca pelada pen moel (difrïol) (“cragen foel”)
3
(anifail marw) wedi ei ddigroeni, wedi ei flingo
4
(iâr farw, ayyb) wedi ei phluo
6
(ffrwythyn) wedi ei bilio
7
(pys, ffa) wedi eu sbinio / disbeinio
8
heb arian
9
(tir) noeth, heb lystyfiant
10
(enw gwrywaidd) tlotyn
11
(dafad) wedi ei chneifio
12
nosaltres els pobres mortals de cul pelat ni’r meidrolion daear

pelatge
1
(anifail) ffwr, blew
2
math
de tots els pelatges (pobl) o bob lliw a llun
Hi havia gent de tota mena, de totes les edats i de tots els pelatges
Yr oedd yno amrywiaeth fawr o bobl, o bob oedran ac o bob lliw a llun

pèl-blanc
1
(ansoddair) gwallt gwyn

pel broc gros
1
yn blwmp ac yn blaen (“trwy’r pig mawr”) (pig ystên, etc)

pèl-curt
1
(ansoddair) gwallt byr

pelecípodes
1
pysgod cragen

pelegrí
1
pererin
2
(Falco peregrinus) hebog tramor

pelegrina
1
pererin
2
cragen fylchog

pelegrinar
1
pererindota

pelegrinatge
1
pererindod

pelfa
1
plwsh, plysh

pelfar
1
gorchuddio â phlwsh, â phlysh



pel fet de
1
oherwydd
pel fet de ser oherwydd fy mod i, dy fod di, ayyb, am fy mod i, dy fod di, ayyb

Ara bé, pel fet de ser jove sí que crec que tinc una manera de fer diferent
Nawr te, am ’y mod i’n ifanc mae’n digwydd mod i’n meddwl bod gen i ffordd wahanol o wneud pethau

pelfó
1
sienîl

pelfut
1
plysiaidd

pelicà
1
pélican

pelicans

1
(Delphinium pubescens) troed yr ehedydd

pelilla

1
naddion corc

pell
1
croen (person)
ficar-se a la pell (d’algú) eich rhoi eich hun yn lle (rhywun), eich rhoi eich hun yn lle (rhywun)
ser a la pell (d’algú) bod yn lle (rhywun),
Jo personalment no li perdonaria si fos a la pell d’ella
Fyddwn innau ddim yn ei faddau taswn i yn ei lle hi
2
croen (anifail)
3
lledr
bossa de pell bàg croen
4
ffwr
abric de pell cot ffwr, côt flew
5
ser de la pell de Barrabas bod yn un drwg (“bod o groen Barabbas”)
ser una mala pell bod yn un drwg (“bod yn groen drwg”)
6
croen (ffrwythyn)
No mengis aquelles prunes amb la pell Paid â bwyta’r eirin ’na â’r croen
7
la pell de gallina croen gwydd
tenir tota la pell de gallina bod yn groen gwydd i gyd
8
tenir la pell dura bod yn un dygn iawn, medru dal ati (“bod gennych y croen caled”)
tenir la pell molt prima bod yn groendenau
tenir la pell gruixuda bod yn groendew
Només li queda la pell Does ond ei lun, Mae e fel petái’n byw ar wellt ei wely, Mae e’n denau iawn (“dim ond y croen sydd yn weddill ganddo”)
salvar la pell achub eich croen
llevar-li la pell a algú difrïo rhywun (“codi croen rhywun”)
canviar la pell bwrw’ch croen
no cabre algú a la seva pell bod yn llond eich esgidiau, bod yn fi fawr, bod yn llawn ohonoch eich hun (“rhywun ddim yn ffitio
Jo no voldria estar a la seva pell Hoffwn i ddim bod yn ei le fe
deixar-hi la pell
marw
fer-se’n la pell talu â’ch bywyd (am rywbeth), (rhywbeth) yn costio’ch bywyd i chi
9
ser un llop amb pell de be
bod yn flaidd mewn croen dafad
deixar la pell de be i treure el llop que porta dins tynnu’r croen dafad â dangos (“tynnu allan”) y blaidd yr ych chi’n dwyn oddi fewn

pelladura
1
creithio, creithiad
tenir bona pelladura bod gennych croen sydd yn creithio’n hawdd
tenir mala pelladura bod gennych croen nad yw’n creithio’n hawdd

pel·lagra
1
pelagra

pellaire
1
blingwr
2
crwynwr, gwerthwr crwyn

pellam
1
llwyth o grwyn

pellar
1
(clwyf) iacháu

pellar-se

1
(clwyf) iacháu
Aquesta ferida costa de pellar Mae’r clwyf hwn yn araf iawn yn iacháu

pelleringa
1
(croen) fflap
2
(dilledyn) darn
3
ser fet una pelleringa bod fel llyngyren, bod yn denau iawn

pellerofa
1
(gwrawnwin) croen
2
(pys, ffa) croen

pellet
1
peled

pelleter
1
crwynwr, ffyriwr

pelleteria
1
siop gwerthu dillad croen

pellicar
1
pigo’ch bwyd, pigo bwyta

pel·licula
1
ffilm
pel·lícula de por ffilm arswyd
fer una pel·lícula (sínema) dangos ffilm
pel·lícula de lladres i serenos ffilm ladron a gleision, ffilm sydd yn dangos yr heddlu yn erlid troseddwyr
pel·lícula en blanc i negre ffilm ddu a gwyn (“ffilm mewn gwyn a du”)

pellicular
1
pilennol

pellingot
1
rhecsyn
anar fet un pellingot bod yn frwnt ac yn anniben

pellissa
1
dilledyn ffwr

pellisser
1
blingwr

pelliseria
1
siop ffyriwr

pèl-llarg
1
(ansoddair) gwallt hir

pelló
1
(cneuen) masgl, plisgyn

pellofa
1
= pellerofa

pell-roja
1
(ansoddair) croen coch

pelltrencar-se
1
cracio

pellucalles

1
gweddillion bwyd a roir i anifeiliad

pellucar

1
(aderyn) pigo (briwsion, ayyb)

pel·lùcid
1
clir, eglur, tryloyw

pellut
1
tenau
2
(anifail) blewog

pel mig
1
trwy’r canol

pel motiu que sigui
1
am ba reswm bynnag

pelós
1
blewog

pelosella

1
(Hieracium pilosella) math o heboglys

pelota
1
pelota

pelotari
1
chwaraewr pelota

pel que fa
1
gyda golwg ar

pel que sembla
1
yn ôl pob tebyg

pèl-ras
1
wedi colli ei flyff

pèl-roig
1
croen coch

pels mateixos motius
1
am yr un rhesymau

pels pèls
1
o drwch y blewyn, o drwch asgell gwybedyn, o drwch dim ŵy

peluix
1
plwsh, plysh

pelussa
1
flwff, flyff

pelussera
1
gwallt hir anniben

pelut
1
blewog
Pelut enw ci
2
cudynnog
2
mân-flewog
2
anodd
situació peluda sefyllfa anodd

pelut

1
mat gwellt esbarto, mat drws

pelutxo

1
(Hydnum erinaceus) math ar fadarchen

pelvià
1
pelfig, isgeudodol

pelvis
1
pelfis
pelvis del ronyò ceudod pelfig, isgeudod

pena
1
cosb
infligir-li una pena (a algú) cosbi, rhoi cosb ar, dodi cosb ar (rywun)
aplicar-li una pena (a algú) cosbi, rhoi cosb ar, dodi cosb ar (rywun)
alleujar-li una pena (a algú) lliniaru cosb i (rywun)
mitigar-li una pena (a algú) lliniaru cosb i (rywun)
condonar-li una pena (a algú) diléu cosb i (rywun)
pena de mort
y gosb eithaf
pena corporal cosb gorfforol
pena infamant cosb warthus
les penes eternes cosb tragwyddol
sota pena de la vida dan gosb marwolaeth, ar boen eich bwyd
sota pena de mort dan gosb marwolaeth, ar boen eich bwyd

2
galar, tristwch
compartir penes rhannu gofidiau
Els de CIU esteu acabats i l'únic que sabeu fer és plorar Apa, a compartir penes amb els vostres companys d'oposició del PP.
Mae hi ar ben arnoch chi ym mhlaid CiU a’r unig beth yr ych yn gwybod ei wneud yw llefain. Bant â chi i rannu gofidiau â’ch partneriaid gwrthbleidiol, y PP

3
a penes prin bod..., o'r braidd
a penes hi hàviem arribat que... O’r braidd yr oeddem wedi cyrraedd pan....
4
a penes cyn gynted â
5
jutjar algú mereixedor de pena dyfarnu fod rhywun yn haeddu cosb
6
amb més pena que glòria
sense pena ni glòria
heb gael yr un sylw
7
És una pena Mae'n drueni, Mae'n biti
8
és una pena que (+ modd dibynnol) mae'n drueni bod...
Quina vertadera pena. Dyna drueni o’r mwyaf
9
fer-li pena gofido, dolurio, brifo = peri i ofidio
10
valdre la pena bod yn werth-chweil
Val la pena d’anar-hi Mae'n werth-chweil mynd yno
11
amb penes i treballs (adf) â llawer o drafferth
12
  prendre’s la pena de mynd i’r drafferth o (wneud rhywbeth)
13
ànima en pena enaid mewn gwewyr / mewn artaith
14
donar-se pena mynd ati (i weithio)
Doneu-vos pena! Ewch ati!
15
Em fa pena veure’l malalt Mae’n flin gyda fi ei weld mor wael
16
treure (algú) de pena lliniaru dioddefaint (rhywun)
17
Quina pena d'home Am ddyn diflas.
Només sap repetir per enèsima vegada el mateix discurs obsessiu. Quina pena d'home
Nid yw’n gallu gwneud dim ond ailadrodd yr un peth yn obsesiynol. Am ddyn diflas.

 
 


penable
1
cosbadwy

penal
1
penydiol, cosb
2
dret penal cyfraith trosedd, deddf gosb, deddf gosbi
3
procediment penal achos llys
4
establiment penal carchar

penal
1
carchar
2
(chwaraeon) cosb

penalitat
1
cosb
2
dioddefaint, caledi

penar
1
cosbi
2
(berf heb wrthrych), galaru
3
fer-lo penar gwneud i un ddioddef

Pena-roja
1
trefgordd (el Matarranya)

penat
1
galarus
2
poenus, dolorus
vida penada = bywyd garw
viatge penat = taith anoddd
treball penat = gwaith caled

penible
1
ttrallodus, gofidiol

penca
1
toriad, tafell, darn
2
haver-n'hi una penca bod yn dal ac yn denau

penca
1
gwraig hyf
2
tenir unes penques bod yn hyf
3
tenir moltes penques bod yn hyf

penca
1
dyn hyf, dyn digywilydd

pencar
1
gweithio (iaith sathredig)
Viure sense pencar és la seva màxima aspiració
Byw heb weithio yw eu huchelgais mwyaf

pendent
1
dan ystyriaeth, heb ei derfynu/ei therfynu
afers pendents materion heb eu penderfynu
2
dibynnol
estar pendent de bod yn ddibynnol ar
3
ar oleddf, llechweddol

pendent
1
goleddf, llethr, llechwedd, inclein
tenir molt pendent bod yn serth iawn
El camió va patinar al carrer, que té molt pendent Sglefriodd y lorri ar yr heol, sydd yn un serth iawn

pendís
1
goleddf, llethr, llechwedd, inclein
El monestir de Sant Martí.Enganxat al pendís del Canigó, aquest monestir va ser fundada el 1007
Mynachdy Sant Martin. Cafodd y mynachdy hwn, sydd yn glynu wrth lechwedd [mynydd] Canigó, ei sefydlu yn 1007.
 
2
graddiant

pendó
1
lluman
El carrer dels Canonges de la Seu d'Urgell estarà decorat amb escuts heràldics, banderes, pendons i estendards
Fe gaiff Heol y Canoniaid yn la Seu d’Urgell ei haddurno â tarianau heraldaidd, baneri, llumanau ac ystondardau
2
un ffiaidd, ffieidd-ddyn, casddyn (iaith sathredig)
Si es que en sou de pendons! Rhai ffiaidd ych chi, wir w.

pèndol
1
pendil

pendonista
1
banerwr, banergludydd

pèndul
1
crog

pendular
1
siglog, pendilaidd

penediment
1
edifeirwch

penedir-se
1
edifarháu, edifaru, bod yn edifar gennych
penedir-se de no haver fet alguna cosa bod yn edifar gennych ichi beidio â gwneud rhywbeth
Faci-ho avui. No se’n penedirà Gwnewch e heddiw. Fydd hi ddim yn edifar gennych
2 penedir-se’n bod yn edifar o’r herwydd
Us en penedireu!
Byddwch chi’n edifar o’r herwydd!

penedit
1
edifeiriol, edifar

penell
1
ceiliog gwynt

Penelles
1
trefgordd (la Noguera)

penelló
1
llosg eira, cibwst

penetració
1
treiddiad

penetrabilitat
1
treiddiadwyedd

penetrable
1
treiddiadwy

penetració
1
treiddiad

penetrador
1
treiddgar, treiddiol

penetrant
1
treiddiol

penetrar
1
treiddio

pengim-penjam
1
yn ddiog
2
yn afrosgo

penic
1
ceiniog

penicil·lina
1
penisilin

península
1
gorynys

peninsular
1
gorynysol
2
Iberia (ans) = yn perthyn i orynys Iberia
Molt pocs polítics castellans han parlat de la realitat peninsular
Ychydig iawn o Gastiliaid sydd wedi siarad am wir sefyllfa gorynys Iberia

penis
1
pidyn, cal, gwialen, mwydyn
un penis erecte
pidyn â min arno

Peníscola
1
trefgordd (el Baix Maestrat)

penitència
1
penyd

penitencial
1
peyndol

penitenciar
1
penydio = gosod penyd ar

penitenciari
1
penydiol
2
centre penitenciari carchar

penitencier
1
penydiol
2
(ansoddair) carchar
3
(enw gwrywaidd) offeriad penydiol

penitencieria
1
penydlys, tribiwnal eglwysig yn Rhufain

penitent
1
edifeiriol

penitent
1
edifeiriwr

penjada
1
crogi

penjador
1
cambren (at hongian dillad)
2
hatstand

penjament
1
sarhâd, enllib
2
dir-li penjaments (a algú) sarháu, lladd ar
dir-li tota mena de penjaments galw pob enw dan haul ar

penjant
1
(ansoddair) crog
2
(enw gwrywaidd) clogwyn, rhiw serth

penjar
1
hongian
2
(teléffon) rhoi’r ffôn i lawr
Li vaig dir adéu i vaig penjar
Fe ddywedais ffarwél wrtho a rhoi’r ffôn i lawr
3
crogi (person)
4
bwrw ar, priodoli
5 hongian (rhoi rhywbeth ar fachyn; wrth sôn am ymddeol o ryw weithrediad)
El davanter va penjar les botes per dedicar-se a entrenar
Hongiodd y blaenwr ei sgidiau er mwyn ymrói i hyfforddi

penjarella
1
rhecsyn

penja-robes
1
cambren (at hongian dillad)

penjat
1
yn hongian
2
wedi ei hongian
3
wedi ei grogi/ei chrogi

penjat
1
un wedi ei grogi / ei chrogi

penjoll
1
bwnshyn
2
swynbeth
un penjoll en forma de sargantana swynbeth ar ffurff madfall

penna
1
plufyn

pennat
1
ar ffurf pluen, pluenffurf

penó
1
baner

penol
1
briach trawslath

penombra
1
gogysgod = cysgod gwan o amgylch y prif gysgod
2
hanner-golau, hanner-tywyllwch

penombrós
1
gogysgodol, hanner tywyll

penós
1
anodd

penosament
1
gydag anhawster

penquer
1
agafe

pensa
1
meddwl (= gallu)

pensada
1
meddwl = meddyliad

pensadament
1
o fwriad, yn fwriadol

pensador
1
meddylgar
2
(enw gwrywaidd) meddyliwr, deallusyn
3
athronydd

pensament
1
meddwl, meddyliad
llibertat de pensament rhyddid meddwl
2
pansi
3
fer un pensament penderfynu
4
Fora de la vista, fora del pensament (“allan o olwg, allan o feddwl”) (yn Gatalaneg, mae hyn yn cyfeirio at osgói temtasiwn)

pensamentera
1
pansi

pensar
1
meddwl (= defnyddio’r gallu meddyliol)
2
meddwl = bwriadu
3
dychmygu
4
pensar a cofio
5
pensar en meddwl am
6
Vull pensar que sí Hoffwn feddwl felly;
Vull pensar que no Hoffwn i feddwl nad yw hi felly
7
T’has parat a pensar que...? A wyt ti wedi meddwl...?
8 Cadascú pensa com pensa Ym mhob pen mae piniwn

pensar-ho millor
1
cael gwell syniad

pensar-se
1
myfyrio (rhywbeth)

pensar-s'hi
1
meddwl dros rywbeth, ystyried rhywbeth

pensar-s'ho
1
meddwl (dros rywbeth), ystyried (rhywbeth)
penseu-vos-ho millor ailfeddwl, meddwl dwywaith, meddwl eilwaith
Un altre dia abans d'acusar algú d'una cosa que no podeu demostrar penseu-vos-ho millor
Rywbryd arall, cyn cyhuddo rhywun o rywbeth nad allwch chi ei brofi, meddyliwch eilwaith



pensarós
1
synfyfyriol, meddylgar

pensió
1
pensiwn = taliad henoed neu fethedigaeth
pensió de viudetat pensiwn gwraig weddw
2
fer un pla de pensions ymuno â chynllun pensiwn
3
lwfans, grant
4
llety


pensionar
1
rhoi pensiwn i

pensionat
1
ysgol breswyl

pensionista
1
pensiynwr

pensiu
1
myfyrgar, meddylgar

pensívol
1
myfyrgar, meddylgar

pentàgon
1
péntagon

pentagonal
1
pumochrog, pumonglog

pentagrama
1
(Cerddoriaeth) erwydd

Pentateuc
1
(Beibl) Y Pumllyfr

pentatló
1
pentathlon

pentatònic
1
pentatonig

pentecosta
1
Sulgwyn

pentinada
1
cribiad
2
cerydd

pentinador
1
trinwr gwallt, barbwr
2
lliain barbwr

pentinadora
1
gwraig trin gwallt

pentinar
1
cribo (gwallt)
2
cribo (gwlân)
3
rhoi pryd tafod i, ceryddu
4
lladrata (ar lafar)

pentinat
1
triniaeth gwallt, toriad gwallt

penúltim
1
olaf ond un
2
gobennol

penúria
1
tlodi, cyni, angenoctid, diffyg, prinder,

penya
1
carreg
2
cylch, grwp, carfan
el llest de la penya yr un callaf yn y grŵp
3
(Chwaraeon) clwb cefnogwyr

penyal
1
carreg fawr
2
craig

penya-segat
1
craig, dibyn

penyatera
1
lle creigiog, creigle

penyorament
1
dirwy

penyorar
1
dirwyo

penyora
1
gwystl
2
gwarant
donar de penyora rhoi rhywbeth yn warant
3
fer pagar penyora dirwyo
4
deixar alguna cosa de penyora gwystlo, adneuo, ponio

penúria
1
tlodi, angen

peó
1
cerddwr
2
milwr traed
3
gweithiwr di-sgil
4
cyffredinwr (gêm) (gwyddbwyll, etc)

peonada
1
cwmni o filwyr traed

peonar
1
(aderyn) hopian

peoner
1
troedfilwr, milwr traed

peònia
1
rhosyn y mynydd

pepa
1
(Castileg Andalusia) dihiryn

pepero
1
(Castilegaeth) aelod o’r blaid Gastilaidd asgell-dde eithafol “Partido Popular” o “PP”
2 pepera (Castilegaeth) aelod o wraig


 




 

 

 

Adolygiad diweddaraf - darrera actualització - 2001 05 06 :: 2003-11-02 :: 2003-12-15 :: 2004-01-05 ::  2005-02-11 :: 2005


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) zïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website