http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_po_1688k.htm
0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal
..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta
en gal·lès
....................0009k Y Gwegynllun
/ Mapa de la web
..............................1798k
Geiriaduron / Diccionaris
........................................1794k Geiriaduron ar gyfer
siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants
..................................................0379k Mynegai i’r
Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català
............................................................y tudalen hwn /
aquesta pàgina
|
Gwefan Cymru-Catalonia POAGRE - PPCC |
Adolygiad diweddaraf |
poagre
1 (llid bysedd y traed) y droedwst = cymalwst yn y troed; y
gymalwst, y gewynnwst, y gowt
La crisi típica
del pacient amb gota és l'atac d'artritis aguda gotosa (poagre), que consisteix en la inflamació brusca de la primera
articulació del dit
Anhwylder arferol y claf sy’n dioddef o’r gymalwst yw pwl o arthritis llym
cymalystaidd (“poagre”), hynny yw, llid sydyn cymal cyntaf y bys
inflors de poagre chwyddau’r
gymalwst
És vell i té
els peus molt consentits amb inflors de poagre
Mae e’n hen ac y mae ei
draed yn chwyddau i gyd o achos y gowt (“yn friwiedig iawn â chwyddau’r
gymalwst”)
poal
1 pwced (Cataloneg y Deheubarth) ( Cataloneg yr Ynysoedd)
[Cataloneg y Dywysogaeth: galleda]
el Poal
1 trefgordd (el Pla d'Urgell)
la Pobla
1 trefgordd (Mallorca)
població
1 poblogaeth
Quina és la
població totalde la U.E.?
Faint yw poblogaeth yr Undeb Ewropeaidd?
2 pentref
3 tref
A quina població catalana se celebra la Patum? Berga
Ym mha dref yng Nghatalonia y dethlir y “Patum”? Berga
4 dinas
5 plannu coed
6 població civil sifilwyr
Pobla d'Arenós
1 trefgordd (l'Alt Millars)
la Pobla
de Benifassa
1 trefgordd (el Baix
Maestrat)
la Pobla
de Claramunt
1 trefgordd (l'Anoia)
la Pobla
de Cérvoles
1 trefgordd (les Garrigues)
Pobla de
Farnals
1 trefgordd (l'Horta)
la Pobla
de Lillet
1 trefgordd (el Berguedà)
la Pobla
de Massaluca
1 trefgordd (la Terra Alta)
la Pobla
de Montornès
1 trefgordd (el Tarragonès)
la Pobla
de Màfumet
1 trefgordd (el Tarragonès)
la Pobla
de Roda
1 trefgordd (la Baixa
Ribagorça)
la Pobla
de Sant Miquel
1 trefgordd (el Racó
d'Ademús)
la Pobla
de Segur
1 trefgordd (el Pallars
Jussà)
la Pobla
de Vallbona
1 trefgordd (el Camp de
Túria)
la Pobla
del Duc
1 trefgordd (la Vall
d'Albaida)
la Pobla
Llarga
1 trefgordd (la Ribera Alta)
poblament
1 poblogi
poblar
1 poblogi
2 plannu (coed)
3 stocio (pysgod)
poblat
1 pentref
2 tref
3 lle cyfanedd
la
Poblatornesa?
1 trefgordd (la Plana Alta)
poble
1 pobl (= cenedl)
2 pentref, tref
al centre del poble yng nghanol y pentref / y dref
3 el poble y werin
el Poblenou de
Benitatxell
1 trefgordd (la Marina Baixa)
poblet
1 pentref, tref
pobletà
1 gwledig, pentre bach, tre fach
pobletà
1 pentrefwr
Pobleta de la
Granadella
1 trefgordd (les Garrigues)
Poboleda
1 trefgordd (el Priorat)
pobre
1 tlawd
pobre com Job cyn dloded â llygoden
eglwys
2 tlawd (ffigurol)
3 ychydig, dim
pobre
1 un tlawd, tlotyn
2 pobre! druan!
(De-ddwyrain: pwr-dáb)
Pobres de nosaltres amb municpals com
vostè. Drueniaid ohonon ni â heddweision (= heddweision cyngor y ddinas)
fel chi.
3 els pobres y tlawd, y tlodion
pobresa
1 tlodi
viure per sota del llindar de la pobresa
byw mewn tlodi, byw’n dlawd (“byw o dan drothwy tlodi”)
2 Obri la porta a la peresa i
entrarà a ta casa la pobresa (“Agorwch y drws i ddiogi a tlodi a ddaw i
mewn i’th dy^”) (Ni ddylid bod yn ddiog. Gwaith caled biau hi bob amser)
2 diffyg
pobreta
1 druan fach
pobrissó
1 truan bach
poc
1 fawr o, fawr iawn o, dim llawer o
2 rhai
3 poc temps fawr o amser
4 fa pocs dies rai
dyddiau yn ôl
5 en pocs dies ymhen rhai
dyddiau
6 i ffurfio ymadrodd sydd yn gyfwerth ag ansoddair negyddol ei ystyr neu naws
yn Gymraeg
poc madur anaeddfed
poc profund bas
poc
1 ddim rhyw lawer, ychydig o weithiau, ddim llawr, fawr iawn
2 poc útil heb fod yn
ddefnyddiol
poc
ffurff fachigynol: poquet
1 tipyn bach
2 tipyn bach o amser
3 dim ond ychydig bach, ychydig yn unig, fawr iawn
prometre molt i atényer poc (“addo llawer a chyrraedd ychydig”) addo môr
a mynydd, addo llawer mwy nag y gellir ei roi mewn gwirionedd
4 a poc a poc o dipyn i
beth / a poquet a poquet o dipyn i
beth
A poc a poc! Gan bwyll!
5 poc o molt mwy neu lai
6 entre poc i massa dyw e
ddim o bwys
7 un poc tipyn bach
8 poc més o menys mwy neu
lai
9 poc després ar ôl tipyn
10 que no és poc sydd yn gryn dipyn
(“nad yw’n beth bach”)
A casa nostra hi ha molta gent, de totes
edats, orígens i condicions, que han decidit destinar totes les seves energies
a preservar tot el que encara ens queda i a recuperar tot el que ens han pres,
que no és poc!
Yn ein gwlad (“yn ein cartref”) y mae llawer o bobl, o bob oedran, o bob haniad
o ac o bob cyflwr sydd wedi penderfynnu rhoi eu hegni i gyd at gadw popeth sydd
yn dal i fod gennym, ac i ennill yn ôl yr hyn y maent wedi cymeryd oddi arnom,
sydd yn gryn dipyn
poca cosa
1 ddim llawer
poca cosa més
1 dim arall
poca-pena
1 un digywilydd, un haerllug
Ha marxat amb el poca-pena d’en Miquel
Mae he wedi mynd i ffwrdd â’r Miquel digywilydd yna
poca-solta
1 un ffwndrus, un penchwiban
2 un gwallgo', ffŵl
poca-soltada
1 nonsens
poca-traça
1 un trwsgl, un drwsgl
poca-vergonya
1 un digywilydd, un ddigywilydd
poc ença poc
enllà
1 mwy neu lai
pels volts del Nadal poc ença poc enllà tua
Nadolig (“o gwmpas Nadolig mwy neu lai”)
poció
1 trwyth
poc o molt
1 mwy neu lai
poda
1 tocio
2 tymor tocio
podall
1 bilwg
podar
1 tocio, trimio
poder
1 grym
aconseguir el poder ennill grym
El poder suposa responsibilitat grym
a ddwg gyfrifoldeb
estar al poder bod mewn grym
estar assedegat de poder bod yn sychedu am rym
2 gallu
3 nerth, cryder
4 awdurdod
5 llywodraeth
ERC (Esquerra Republicana de Catalunya) fa por al poder de Madrid
Mae ERC (Chwith Genedlaethol Catalonia) yn hala ofn ar y llywodraeth yn Madrid
treure (algú) del poder gwneud (i
rywun) golli grym, gorthfygu llywodraeth (rhywun)
S'ha de fer pressió més que mai i treure el PP del poder
Rhaid rhoi mwy fyth o bwysau arnynt a gwneud i’r PP golli grym
6 els tres poders de l’estat tri grym yr wladwriaeth (hynny yw, y gangen ddeddfwriol, sydd yn gwneud y deddfau; y gangen weithredol,
sydd yn gofalu bod y gyfraith yn cael ei pharchu; a’r gangen farnol, sydd yn
dehongli’r gyfraith)
el quart poder y pedwerydd grym, y cyfryngau torfol
Els mitjans de communicació tenen un poder tan
fort que hi ha gent que s'atrevit a qualificar-lo com el quart poder
Mae gan y cyfryngau torfol rym tan gryf fel y mae rhai yn mynnu ei
alw’r “pedwerydd grym”
Es parla de la premsa com a quart poder
Dywedir fod y wasg yn “bedwerydd grym”
poder
1 gallu, medru (galluogrwydd)
Amb aquesta gent no es pot ni parlar Mae’n gwbl amhosibl siarad â’r bobl ’ma
poderós
1 grymus, nerthol
l'home més poderós del món y dyn grymusaf
yn y byd
2 cryf
poderosament
1 yn nerthol, yn rymus
poder veure
1 no poder veure ddim yn
gallu dioddef, casáu
podi
1 podiwm
2 podiwm enillwyr gystadleuaeth, ras, ayyb
al graó més alt del podi
(“ar
ris uchaf y podiwm”)
els catalans amb més possibilitats de pujar al podi són...
y Catalaniad sydd yn fwyaf
tebygol o ennill yw... (“â’r mwyaf o bosiblrwyddau o ddringo ar y podiwm...”)
També en categoria femenina, E.H. ha obtingut el
tercer lloc al podi final
Yng nghátegori’r merched eto, mae E.H.
wedi cymryd y trydydd lle (“wedi cael y trydydd lle ar y podiwm terfynol”)
podria
1 gallai
L'economia no podria funcionar si hagués
d'atendre tots els capricis individuals.
Ni allai’r économi weithio pe buasai rhaid iddo foddháu mympwyon pob unigolyn
podridura
1 pydredd, llygredd
2 llygredd (ffigurol)
podrir
1 pydru
2 (berf heb wrthrych) pydru
podrit
1 pwdr, pydredig
podrit
1 rhan bwdr (o beth)
poema
1 cerdd
poemari
1 llyfr barddoniaeth
poesia
1 barddoniaeth
2 cerdd = darn o farddoniaeth
poeta
1 bardd, prydydd
poetastre
1 bardd talcen slip
poetessa
1 bardd o wraig
poètic
1 barddonol
poètica
1 barddoniaeth = y grefft
pogrom
1 pogrom
pogués
1 gallai
Si jo pogués el faria demà mateix
Pe gallwn, byddwn yn ei wneud yfory
pointsètia
1 poinsetia (Euphorbia pulcherrima), blodyn Nadolig
He trucat a la floristeria perquè em reservin una poinsètia.
Rwy i wedi galw’r siop flodau iddynt gadw pointsetia i mi
poques
1 ychydig (plural de poc)
pol
1 polyn
polaina
1 coeswisg
polar
1 pegynol = yn perthyn i begynau’r Ddaear, neu i’r ardaoloedd Arctig
neu Antarctig
cercle polar cylch pegynol
polaritat
1 polaredd, pegynedd
polarització
1 polareiddiad
polaritzar
1 polaru, polareiddio
polca
1 polca
polèmic
1 dadleuol
polèmica
1 dadlau, ffrae
2 dadleuaeth
polemista
1 dadleuydd
polemitzar
1 dadlau
polenta
1 polenta = uwd india-corn
poli
1 (ar lafar) heddwas
És un poli infiltrat Ymdreiddiwr o heddwas yw e
intercanviar
posicions com el poli bo i el poli dolent newid
lle fel yr heddwas da a’r heddwas drwg
policia
1 heddlu
2 heddwraig, plismones
policia
1 plismon, plisman, heddwas
policia local heddwas lleol
policia municipal heddwas trefol,
heddwas a gyflogir gan gyngor tref
policia nacional (gwladwriaeth
Sbaen) ‘heddwas cenedlaethol’, heddwas Castilia
policíac
1 heddlu
novel·la policíaca nofel dditectif
policial
1 heddlu
A Catalunya hi ha un dèficit policial
Yng Nghatalonia nid oes digon o heddlu
policlínica
1 ysbyty cyffredinol
policonreu
1 ffermio cymysg
policrom
1 aml-liwiog
polidesa
1 taclusrwydd, destllusrwydd
2 glanweithdra
3 coethder
polidor
1 (ansoddair) sydd yn caboli
2 (enw) cabolwr
máquina polidora peiriant sandio
políedre
1 (ffurf lafar: poliedre)
poluhedron
poliester
1 poluester
poliesportiu
1 “aml-chwaraeon”
pavelló poliesportiu canolfan
chwaraeon
La cursa de fons començarà a les nou del matí davant del
pavelló poliesportiu de Can Noguera
Bydd y râs redeg yn dechrau am naw y bore o flaen y canolfan chwaraeon Can Noguera
polifonia
1 póluffoni, amlseiniaeth
El
naixement de la polifonia: del
cant gregorià al renaixement
Geni póluffoni: o’r alm-dôn Gregoraidd i’r Dadeni Dysg
2 de polifonia poluffonig
De Calaix
és un trio de polifonia vocal
femenina creat el 2001 a l'Alt Empordà
Mae De Calaix yn driawd poluffonig
lleisiau merched a sefydlwyd yn 2001 yn l'Alt Empordà
polifònic
1 amlseiniol, poluffonig
poligàmia
1 amlwreicaeth
poliglot
1 amlieithog
poliglot
1 amlieithydd
polígon
1 pólugon
2 polígon industrial
ystâd ddiwydiannol
poliment
1 (gweithred) caboli
2 llewyrch, sglein, gloywder
polímer
1 pólumer
polinomi
1 polunomial
Polinyà de la Ribera
1 trefgordd (la Ribera Baixa)
Polinyà del Vallès
1 trefgordd (el Vallès Occidental)
poliol
1 = poliol d’aigua (Mentha pulegium) llysiau’r gwaed
una infusió de
menta i poliol te mintys â llysiau’r gwaed
poliomelitis
1 poliomuelitis
pòlip
1 polup (meddygaeth)
2 polup (swoleg)
polir
1 caboli, cwyro
2 caboli, gloywi (ffigurol)
polir l’assaig caboli’r traethawd
2 polir (algú) coethi (rhywun), diwyllio
(rhywun); = gwneud rhywun yn goeth ei ymddygiad
4 lladrata (ffigurol)
polir-se
1 gwastraffu (arian)
2 gwerthu
3 dihysbyddu, gwario
polir-se els estalvis dihysbyddu`ch
cynilon, gawrio’ch cynilon
M'he polit el que tenia estalviat Rw
i wedi gwario popeth yr oedd wrth gefn gyda fi
polisíl·lab
1 lluosill
polisíl·lab
1 gair lluosill
polisportiu
1 neuadd chwaraeon, canolfan chwareuon
pòlissa
1 pólisi (yswiriant)
2 stamp cyllidol
3 contract, cytundeb
polissó
1 teithiwr cudd (ar fwrdd llong, awyren)
polit
1 trefnus
2 pert, nêt
politècnic
1 politechnig
politècnic
1 coleg polutechnig
politeisme
1 amldduwiaeth
politeista
1 amldduwiad
polític enw
1 gwleidydd
polític
1 gwleidyddol
dret polític cyfraith gyfansoddiadol
2 (perthnasau) -yng-nghyfraith
família política teulu yng
nghyfraith
política
1 pólisi
2 gwleidyddiaeth
fer política be political
3 gwleiddydd (gwraig)
politicòleg
1 gwyddonydd gwleidyddiaeth
politicologia
1 gwyddor gwleidyddiaeth
politització
1 gwleidyddoliad, gwleidyddoli
polititzar
1 gwleidyddoli
politja
1 troell, pwli
polivalent
1 amryfalent
poll
1 cyw, cywennen
poll
1 lleuen
ull de poll corn = caleden neu
dewychiad ar groen
trepitjar-li (a algú) l’ull de poll sathru ar gyrn rhywun, sengi ar gyrn rhywun,
tynnu blewyn o drwyn rhywun
tocar-li (a algú) l’ull de poll sathru
ar gyrn rhywun, sengi ar gyrn rhywun, tynnu blewyn o drwyn rhywun, brifo rhywun
i’r byw
Aquesta reacció fora de lloc vol dir que els hem tocat l'ull de poll.
Mae’r ymateb hollol ddireswm hwn yn awgrymu ein bod wedi sengi ar eu cyrn
nhw (= wedi eu bwrw yn eu gwendid)
polla
1 iâr fach
2 (Castileb) pidyn
xupada de polla calsugniad
Ves a Madrid a xupar la polla als teus
amos espanyols
Cer i Madrid i galsugno dy feistri Castilaidd
pollada
1 nythaid, deoriad, hatsiaid
Durant el mes d’agost en una visita a aquesta
zona es trobà a terra sota el niu del mussols banyuts un dels tres polls mort, tractant-se de l’exemplar
més petit de la pollada
Yn ystod mis Awst, yn ystod ymweliad â’r ardal hon, fe
ddaethpwyd o hyd, ar lawr o dan nyth y tylluanod corniog, i gorff un o’r tri
chyw (“un o’r tri chyw wedi marw”), sef yr un lleiaf o’r nythaid
pollancre
1 poplysen
pollastre
1 cyw iâr
2 cig cyw iâr
polleguera
1 (drws) colyn
sortir de polleguera colli ei limpyn
(“mynd oddi ar y colyn”)
Que passin coses i que els espanyolistes
surtin de polleguera!
(sôn am wrthdystiadau o blaid timau cenedlaethol i Gatalonia) Bydded i bethau
ddigwydd a bydded i’r Castilgarwyr golli’u limpyn!
fer-lo sortir de polleguera codi
gwrychyn un, gwylltio
treure (algú) de polleguera gwylltio rhywun (“tynnu oddi ar y colyn”)
Em treu de polleguera que diguin allò de diuen Mae yn fy ngwylltio
eu bod y dweud yr hyn y maent yn ei ddweud
pol·len
1 paill, manflawd, bara gwenyn
Pollença
1 trefgordd (Mallorca)
pollera
1 cwb ieir, cwt ieir
polleria
1 siop ddodefnod, siop ffowls
Pollestres
1 trefgordd (el Rosselló)
pollet
1 cyw iâr, cywennen
pollí
1 asyn ifanc, asen ifanc
exposició de cavalls i pollins sioe geffylau ac asynnod (asynnod ifanc)
pol·linització
1 peilliad peilliadau;
peillio
pollós
1 lleuog
2 brwnt, truenus
pol·lució
1 llygredd
polo
1 polo
polonès
1 Pwylaidd
2 Pwyleg
polonès
1 Pwyliad
2 Pwyleg
polonesa
1 Pwyles
Polònia
1 Gwlad Pwyl
Polop
1 trefgordd (la Marina Baixa)
polpa
1 mwydion
polpós
1 mwydionog
pols
1 curiad (cylchrediad gwaed)
prendre-li el pols a algú teimlo
curiad rhywun
2 arfais (anatomeg)
pols
1 lluwch, llwch
fer-li la pols a algú cael y blaen
ar rywun
polsada
1 pinsiad
una polsada de sal pinsiad o halen
polsar
1 teimlo curiad un
2 tynnu (cordyn gitâr, ffidl)
3 profi (rhywun), ceisio gwybod gwir farn rhywun
polsegós
1 llychlyd
polseguera
1 cwmwl llwch
polsera
1 brasled
rellotge de polsera watsh
arddwrn
2 gorchudd rhag casglu
lluwch
polsim
1 manlwch, llwch mân
polsós
1 llychlyd
poltre
1 ebol
poltra eboles
2 ceffyl naid (chwaraeon)
poltró
1 diog (De-ddwyrain: pwdr)
poltrona
1 cadair esmwyth
2 cadair esmwyth fel sumbol o swydd yn y llywodraeth a gamddefnyddir er hunanfawrhâd,
lle clyd, “clydfan”
El que vol és aconseguir una poltrona al
preu que sigui
Yr hyn y mae yn ymofyn ei wneud yw cael “clydfan” gostied a gosto
Per salvar la seva poltrona va canviar de partit I
gadw ei “glydfan” ymaelododd â phlaid arall
poltroneria
1 diogi
pólvora
1 powdr gwn
ser viu com la pólvrea deall yn
chwim
ser una pólvrea bod gan rywun dymer
ddrwg
polvorera
1 blwch powdr wyneb
pólvores
1 powdr wyneb
polvorí
1 stordy powdr gwn
polvoritzador
1 malurydd
2 chwistrellydd (at hylif)
polvoritzar
1 malu yn llwch, malurio
2 chwistrellu
polzada
1 modfedd
polze
1 bys bawd
pom
1 nobyn
2 bwnshyn (blodau)
poma
1 afal
suc de poma
sudd afal
guardar-se una poma per a la set rhoi
arian o’r neilltu (“cadw i chi’ch hun afal ar gyfer syched”)
pomada
1 eli (meddygaeth)
pomell
1 bwnshyn (o flodau)
pomer
1 pren afalau
2 Pomers cyfenw
pomera
1 = pomer pren afalau
2 Pomera cyfenw
pompa
1 rhwysg
2 séremoni
3 pompes fúnebres angladd
una empresa de pompes fúnebres (Avui
2004-01-26) cwmni trefnu angladdau
4 trefnwr angladdau
Pompeia
1 Pompei
Pompeu
1 (enw bedydd)
pompill
1 pen ôl, tin (Cataloneg Uwchfynyddol)
pompó
1 pompon
pompós
1 rhwysgfawr, rhodresgar, llond eich esgidiau
pòmul
1 gên
poncell
1 gwrwyf
poncella
1 morwyn, gwrwyf
2 blaguryn
poncellar
1 blaguro, egino
ponderable
1 swmpus
2 canmoladwy
ponderació
1 mesur a phwyso
ponderador
1 sy’n sadio, sy’n sefydlogi
ponderar
1 ystyried, considro, mesur a phwyso
ponderat
1 wedi ei fesur (peth)
2 doeth
3 sàd, wedi ei sefydlogi
ponderós
1 trwm
2 pwysig
pòndol
1 cadw tŷ
pondre
1 (aderyn) gosod (wy)
pondre's
1 machlud (haul)
ponedor
1 sy'n dodwy wyau
2 (eg) bocs nythu, deorfa
ponència
1 adroddiad (a gyflwynir ar gyfer cael trafodaeth arno)
ponent
1 gorllewinol
ponent
1 gorllewin
De ponent, ni vent ni gent
(Dywediad, Gwlad Falensia) O’r Gorllewin, na gwynt na phobl (hynny yw, mae
popeth a ddaw o’r tu hwnt i ffin orllewinol Gwlad Falensia yn ddrwg)
De ponent, res de bo, ni el vent O’r
Gorllewin, dim byd da, hyd yn oed y gwynt
ponent
1 darlithydd = un sydd yn rhoi darlith, darllen papur
2 ynad (un sydd yn rhoi adroddiad i lys er mwyn cael penderfyniad
terfynol)
ponentada
1 gwynt cryf o’r gorllewin
ponentí
1 gorllewinol
poni
1 poni, merlyn
pont
1 pont
Pont del Diable enw pont a Manresa i
mewn lleoedd eraill (“pont y gŵr drwg”)
2 (llong) pont lywio
Catalunya Nord: <punt>
pontatge
1 toll bont, toll i groesi pont
Pont d'Armentera
1 trefgordd (l'Alt Camp)
http://ca.wikipedia.org/wiki/El_Pont_d%27Armentera Gwefan Wikipedia
http://www.pontdarmentera.altanet.org/ Gwefan Cyngor y Pentref
el Pont de Claverol
1 trefgordd (el Pallars Jussà)
Pont de Molins
1 trefgordd (l'Alt Empordà)
la Pont de Montanyana
1 trefgordd (l'Alta Ribagorça)
el Pont de Suert
1 trefgordd (l'Alta Ribagorça)
http://pontsuert.ddl.net/
Pontellà
1 trefgordd (el
Rosselló)
pontet
1 (fiolin) crib; brân; pont
pontífex
1 pontiff, archesgobol
pontifical
1 archesgobol
pontificar
1 offeiriadu
pontificat
1 pabaeth
2 teyrnasiad (cyfnod teyrnasiad pab)
pontifici
1 archesgobol
pontó
1 pontŵn
Pontons
1 trefgordd (l'Alt Penedès)
Pontós
1 trefgordd (l'Alt Empordà)
Ponts
1 trefgordd (la Noguera)
A Ponts pocs de bons (Dywediad)
Yn Ponts dim
llawer o bobl dda
ponx
1 pwnsh
pop
1 (cerddoriaeth) pop
pop
1 óctopws
popa
1 pen ôl llong
anar vent en proa mynd â’r gwynt o’r
tu ôl; bod lawc gennych
de popa a proa o’r pen ôl i’r pen
blaen
2 bron
3 pwrs buwch, cadair buwch
A la Vall de Meià, poques popes i molt gra (Dywediad) Yn
Vall de Meià, ychydig o gadeiriau buwch a llawer o rawn
popliti
1 cameddol
popliti
1 camedd y gar
popular
1 poblogaidd
2 gwerinol (yn perthyn i'r werin) cân werin
canço popular
3 gwerinol (yn perthyn i iaith y werin)
4 yn perthyn i’r Partido Popular (plaid asgell-dde Gastilaidd sydd
yn etifedd gwleidyddiaeth yr unben Franciso Franco)
la política popular pólisi y Partido
Popular
els populars (enw) aelodau seneddol
y Partido Popular, cefnogwyr y Partido Popular
5 (pris) rhesymol
preus molt populars prisiau
fforddiadwy, prisiau isel
6 yn perthyn i’r bobol yn
hytrach i’r awdurddodau
iniciativa popular prosiect
wedi ei gychwyn gan wirfoddolwyr neu ymgyrchwyr
popularitat
1 poblogeiddrwydd
popularitzar
1 poplogeiddio
popularment
1 yn boblogaidd
populatxer
1 rhad, cwrs, coman
populatxo
1 nasiwn
populisme
1 poblyddiaeth
populós
1 poblog
pòquer
1 pocer
poquesa
1 bychander, bychandra
2 peth diwerth
por
1 ofn
agafar por cael ofn
tenir por (de fer alguna cosa) ofni
(gwneud), bod ag ofn (gwneud)
que fa por sy'n hala ofn ar ddyn,
sy'n gyrru ofn ar ddyn
no tenir gens de por (d’alguna cosa) bod dim ofn (rhywbeth) arnoch
Per què hi ha tant pocs cotxes
amb el CAT sobre la E? La gent té molta por per la multa
Pam y mae cynlleied o geir â’r CAT dros yr E? Mae ofn mawr cael dirwy ar
bobl (“mae ofn mawr y ddirwy”)
2 fer-li por gyrru ofn ar, hala ofn
ar; ofni
Els fa por que hi pugui haver una alternativa independentista amb
capacitat de gestionar la cosa pública, perquè aleshores els nostres anys dins
d'Espanya estaran comptats
Maent yn ofni’r ffaith y gellir bodoli plaid arall, un sydd yn arddel
annibyniaeth, sydd yn alluog i weinyddu’r cyrff cyhoeddus, oherwydd os felly
bydd ein blynyddoedd o fewn gwladwriaeth Castilia yn dod i ben
fer-li una por terrible (a algú) hala ofn mawr (ar rywun)
Si això és l'ideologia del teu partit em
feu una por terrible.
Os hynny yw ideoleg / syniadaeth dy blaid di rych chi’n hala ofn mawr arna
i
3 per por a represàlies rhag ofn dial
Els habitants del carrer es neguen a
parlar del crim per por a represàlies.
Mae trigolion yr heol yn gwrthod siarad am y llofruddiaeth rhag ofn dial
poques vegades
1 yn anaml, fawr iawn
poquet
1 tipyn bach
Gweler poc
porc
1 mochyn
2 (sarhâd) mochyn
3 porc senglar baedd
gwyllt
4 porc marí llamhidydd,
morhwch, Sambedyddiwr (“mochyn môr”)
5 porc espí ballasg (“mochyn draenen”)
6 dir-li el nom de porc (a
algú) difrïo (rhywun), difenwi (rhywun) (“dweud enw ‘mochyn’ i rywun”)
porc
1 brwnt, budr, ffiaidd
porca
1 hwch
porcada
1 cenfaint o foch
2 tro gwael
porcell
1 porchell
2 Porcell cyfenw
Baltasar Porcell
enw llenor Maliorcaidd
porcellana
1 porslen, tsheini
porcellaner
1 gwneuthurwr porslen
2 gwerthwr porslen
porcellera
1 cwt moch
porc espí
1 ballasg
porcí
1 mochaidd, mochyn (cymhwysair), moch (cymhwysair)
2 (enw) mochyn
porcins moch
explotacions amb ramaderia (dividides en set tipus: bovins, ovins, cabrum, porcins, equins,
aviram, conilles)
ffermydd ag anifeiliaid (wedi eu rhannu yn saith o fathau: gwartheg, defaid, geifr, moch, ceffylau,
dodefnod, cwningod)
porció
1 darn
porc senglar
1 baedd gwyllt
porfidia
1 dyfalbarhâd
2 ystyfnigrwydd
porfidiejar
1 mynnu
porfidiós
1 ystyfnig
porgar
1 rhidyllio
porgueres
1 eisin = plisg allanol y grawn y^d a dynnir ymaith
pornografia
1 pornógraffi
pornogràfic
1 pornograffaidd, pornograffig
porós
1 mandyllog
terra porosa pridd mandyllog
una superficie porosa
arwyneb mandyllog
Aquest paper és molt porós i absorbent Mae’r papur hwn yn fandyllog iawn ac yn amsugnol
dros ben
porositat
1 mandylledd, mandyllogrwydd
la porositat del terreny mandylledd
y tir
la porositat del sòl mandylledd y pridd
una porositat elevada mandylledd uchel
porpra
1 porffor
de color porpra porffor ei liw
Les flors del freixe són petites i de color porpra Mae
blodau’r onnen yn borffor eu lliw ac yn fach
El Tamarisc és un arbust o petit arbre
caducifoli que arriba als 4 m. d´alçada, amb branques porpres o brunes obscures
Mae’r grugben Balcanaidd (Tamarix anglica Webb) yn llwyn neu yn bren bach deilgwymp
sydd yn cyrraedd 4 medr o uchder, ag iddi ganghennau porffor neu frown tywyll
porquejar
1 (berf â gwrthrych) bwnglera
2 (berf heb wrthrych) chwarae cast brwnt ar, chwarae cast budr ar
Porqueres
1 trefgordd (el Gironès)
porqueria
1 bryntni, budreddi
2 ffieidd-dra = agwedd gas
3 sothach = rhywbeth diwerth
Menjar ràpid no significa,
necessàriament, menjar porqueria.
Dyw bwyd cyflym ddim yn gyfystyr â bwyd sothach o anghenrhaid
Jo no menjaria aquesta porqueria ni de
conya
Fyddwn i ddim yn buta’r
sothach yma ar gyfrif yn y byd
porra
1 pastwn
ves a la porra cer i grafu
porrada
1 pastyniad, ergyd a phastwn
2 cennin berwedig
porradell
1 cenhinen wyllt
porrat
1 (Gwlad Falensia) ffair ddanteithion
El mort al forat, i el viu al
porrat (“y marw yn y twll, a’r byw yn y ffair”) ??Rhaid mwynháu am fod
bywyd yn fyr
porrer
1 byrllysgwr (un sydd yn dwyn byrllysg, sef ffon sydd yn sumbol
awdurdod)
Porrera
1 trefgordd (el Priorat)
Porreres
1 trefgordd (Mallorca)
porro
1 cenhinen
2 joint (sigaren mariwana)
Ella volia fumar-se un porro
Roedd hi’n ymofyn smoco
porró
1 [jwg gwydr at win ag iddo sbowt hir]
2 mesur hylif (0.941m)
port
1 porth, porthladd
2 dur a bon port gwneud
llwyddiant o, dwyn rhywbeth i ben yn llwyddiannus
3 bwlch
4 osgo
5 ports tâl cludo
ports de transport tâl cludo
pagar els ports de
transport talu am y cludiant
Si voleu que us enviem el DVD per
correu, haureu de pagar els ports de transport.
Os yr ych chi’n ymofyn i ni anfon y DVD atoch trwy’r post, bydd rhaid i chi
dalu am y cludiant
porta
1 drws
a la porta de casa seva wrth ddrws
ffrynt ei gartref
entrar per la porta del darrere a
mynd i mewn trwy’r drws cefn; sleifio i mewn
va entrar al partit per la porta del
darrere ymaelododd â’r blaid dan din
obrir la porta
agor y drws
Obri
la porta a la peresa i entrarà a ta casa la pobresa (“Agorwch y
drws i ddiogi a tlodi a ddaw i mewn i’th dy^”) (Ni ddylid bod yn ddiog. Gwaith
caled biau hi bob amser)
tancar la porta
cau’r drws
2 clwyd, gât, iet
3 mynedfa
4 gôl
gol a pròpia porta gôl yn ych erbyn
eich hun, gôl a wneir gan aelod o dîm o blaid y tîm gwrthwynebol drwy gicio’r
bêl i’w gôl ei hun
5 a porta tancada yn y dirgel, tu ôl
i ddrysau caeëdig
La reunió es va celebrar a porta tancada
Cynhaliwyd y cyfarfod yn y dirgel
6 pixaportes (“[y sawl
sydd yn] piso [o flaen y] drysau”) bachgen sydd yn caru â merch (yr enw yn
cyfeirio at gi sydd yn piso o flaen drws lle y mae wedi clywed arogl gast)
Porta
1 trefgordd (l'Alta Cerdanya)
porta d'entrada
1 drws ffrynt
portaequipatges
1 (car) cist
porta principal
1 prif fynedfa
portaavions
1 llong awyrennau
portabandera
1 banerwr
portable
1 cludadwy
portabombeta
1 daliadur bwlbiau
portacigarretes
1 câs sigaréts
portada
1 clawr (llyfr)
2 (newyddiadur) tudalen blaen
portador
1 sydd yn dwyn / cario
portador
1 cludwr
2 (siec) pagar al portador
talu daliwr y siec
portadora
1 twbyn
portaequipatges
1 (tren) shilff fagiau
2 (beic) cludwr (lle dros yr olwyn gefn i gario pethau)
3 (car) cist
portal
1 mynedfa (bloc o fflatiau)
2 porth dinas
el portal de l’Àngel enw heol yng
nghanol Barcelona (“porth yr angel”)
3 prif ddrws adeilad (yn enwedig os yw e’n fwy na’r lleill)
portalada
1 porth cofadail
portalatge
1 (Hanes) toll a delid wrth fynd trwy borth tref gaerog
portaler
1 (Hanes) un oedd yn codi y doll a delid wrth fynd trwy borth tref
gaerog
2 dryswr palas, un sydd yn agor a chau drws palas
portelera
1 portwll (ffenestr gron yn ochr llong)
portalàmpades
1 rhoden fellt
portaló
1 mynedfa llong
portamonedes
1 pwrs
portar
1 cario
2 mynd â
3 dod â
portar-li mala sort (a algú) dod â
lwc ddrwg (i rywun)
4 portar maldecaps bod yn
broblem
5 (llwybr, heol) arwain i
6 gwisgo
7 gosod (carreg sylfaen)
8 portar (algú) davant de la
justícia rhoi cwrt ar (rywun)
(“dod â rhywun ger bron y cyfiawnder”)
9 (barf, gwallt) bod gennych
portar la barba rasa bod gennych
farf wedi ei dorri’n fyr
Portava els cabells llargs Roedd
ganddo wallt hir
portar-ho a la sang rhywbeth yn rhedeg yn y gwaed gyda rhywun (“ei
gario yn y gwaed”)
Són lladres i mentiders. Ho porteu a la
sang. Son mala gent. Lladron a celwyddgwn yn nhw. Mae’n rhedeg yn y gwaed gyda nhw. Pobl
ddrwg y^n nhw.
berf heb wrthrych
10 dwyn
Una cosa porta a l’altra Mae un peth yn arwain at beth arall (wrth siarad
am yr amodau sydd eisiau i gyrraedd rhyw
amcan - rhaid eu gweld fel dilyniad camau)
Una mentida porta a una
altra mentida Mae i bob
celwydd ei gymar
(“mae un celwydd yn dwyn i gelwydd arall”)
portar a dins
1 bod o fewn (nodwedd cudd rhywun)
portar al cap
1 meddwl
portar a pensar
1 gwneud i un feddwl
portar a terme
1 cyflawni
portar mal giny
1 bod yn arwydd ddrwg
portar mass enllà
1 mynd â rhywbeth i’r eithaf
portar plom a l'ala
1
portar pressa
1 bod ar frys
portar-se
1 ymddwyn
2 (bod mewn cyflwr iechyd) Es
porta bé ara Mae’n iawn nawr
portàtil
1 cludadwy
portavent
1 peipen awyr
portaveu
1 llefarydd
portaviandes
1 bocs bwyd
Portbou
1 trefgordd (l'Alt Empordà)
Port de la Selva
1 trefgordd (l'Alt Empordà)
portell
1 adwy, bwlch
Portell de Morella
1 trefgordd (el Ports de Morella)
portella
1 drws = drws bach
2 drws = drws car
la Portella
1 trefgordd (la Noguera)
Portellada
1 trefgordd (el Matarranya)
portent
1 peth hynod
portentós
1 hynod
porter
1 gofalwr bloc o fflatiau
2 gôl-geidwad
portera
1 gofalwraig bloc o fflatiau
2 gwraig gofalwr
porteria
1 desg gofalwr bloc o fflatiau
2 gòl (lle ar gae pêl-droed)
pòrtic
1 pórtico
porticó
1 caead (ffenestr)
pòrtland
1 sment Portland
porto-riqueny
1 (enw) Pwertoriciad (mf) Pwertoriciaid
2 (ansoddair) Pwertoricaidd
(els) Ports
1 comarca (Deheubarth Gwledydd Catalonia)
portuari
1 porth
Portugal
1 Pórtiwgal
portugués
(ansoddair)
1 Portiwgalaidd, (iaith) Portiwgaleg
(enw)
2 (iaith) Portiwgaleg
3 (persona) Portiwgaliad
Portvendres
1 trefgordd (el Rosselló)
Portè
1 trefgordd (l'Alta Cerdanya)
Portús
1 trefgordd (el Vallespir )
poruc
1 ofnus, hawdd eich dychryn
La gent catalana és covarda i poruga
Mae’r Catalaniaid yn llyfrgwn ac yn hawdd eu dychryn
porus
1 mandwll
porxada
1 arcêd
porxo
1 portsh
posa
1 ystum
2 agwedd
posada
1 rhoi, dodi
posada en marxa cychwyn
la posada de la primera pedra
(d’un edifici) gosod carreg sylfaen (rhyw adeilad)
posador
1 sydd yn sefydlu
2 (enw) gwestywr
posar
1 rhoi, dodi
2 rhoi (dillad)
3 rhoi = arllwys
4 cyfieithu, trosi
posar-lo en gal·lès trosi i'r
Gymráeg
5 (blwyddi) posar-li més (“gosod mwy
i...”)
Tinc 17 anys... encara que hi hagi molta
gent que em posi mes.
Rwy’n ddwy ar hugain oed - er bod llawer yn meddwl fy mod yn hy^n
6 dweud fel esiampl
Jo crec que Catalunya arribarà a la
independència més prest que tard. Posem en 10 anys?
Rwy i’n meddwl y caiff Catalonia ei hannibyniaeth (“cyrhaedda i’r
annibyniaeth”) gynt yn hytrach na hwyrach. Ymhén deng mlynedd, er enghraifft.
(“gosodwn ddeng mlynedd?”)
posem per cas er enghraifft
(“rhoddwn ar gyfer achos”)
7 posar-li-ho més difícil (a algú) gwneud
rhywbeth yn anos i rywun
Cada vegada m'ho posen més difícil Maent
yn ei gwneud yn anos anos i mi
Altres:
AL DIA
posar (alguna cosa) al dia diweddaru
(rhywbeth) = ymgorffori y newidadau hyd at heddiw
A TERRA
posar (alguna cosa) a terra rhoi
(rhywbeth) ar lawr
BARRERES
posar barreres (a algù) rhwystro rhywun (“dodi rhwystrau i rywun”)
CARA
posar cara de ràbia edrych yn wyllt
CONTROL
posar un cert control (a alguna cosa) rheoli
(rhywbeth) i ryw raddau
CRIT
posar el crit al cel gwneud cythraul o dwrw (“rhoi y bloedd i’r nefoedd”)
DIA
> al dia
DIT
posar el dit a la llaga rhoi’ch bys ar friw, bwrw rhywun yn ei wendid (“rhoi’r bys yn y briw”)
posar el dit al forat taro'r hoelen ar ei phen, ei tharo-hi ar ei
chlopa ["rhoi'r bys yn y twll"]
EN LLIBERTAT
posar (algú) en llibertat gollwng (rhywun) yn rhydd
EN RELLEU
posar (alguna cosa) en relleu dangos pwysigrwydd (rhywbeth)
EN SERVEI
posar (alguna cosa) en servei darparu (rhywbeth)
FI
posar fi (a alguna cosa) rhoi pen (ar rywbeth)
FRENÈTIC
posar (algú) frenètic hala (rhywun) yn
benwan
GENOLL
posar un genoll a terra
..a/ disgyn ar ben-glin
..b/ posar un genoll a terra (davant algú) ymostwng (o flaen rhywun)
LLIBERTAT
> en llibertat
MÀ
posar la mà al foc mynd ar eich llw, tyngu ar eich gair, dweud ar
eich peth mawr, tystio i wirionedd (rhywbeth) (“dodi’r llaw yn y tân”)
Hi posaria la ma al foc Fe awn i ar fy llw (mai felly y bu)
Per cert, el partit nacionalista castellà, Tierra
Comunera no va ser fundat per un immigrant castellà resident a Sabadell? Hi
posaria la ma al foc.
Gyda
llaw, oni sefydlwyd Plaid Genedlaethol Castilia, Tierra Comunera, gan fewnfudwr
o Gastiliad oedd yn byw a Sabadell? Fe awn i ar fy llw mai felly
y bu.
No hi
posaria la mà al foc, però... Awn i ddim ar fy llw, ond...
No hi posaria la mà al foc, però diria que en aixo té ell la
rao perquè coneix bastant aquella empresa
Awn i ddim ar fy llw, ond fe ddywedwn taw yn hyn o beth fe sy’n iawn am ei
fod yn nabod y cwmni ’na’n lled dda
Posaria la mà al foc que és mentida; sabem perfectament com són els del PP
Awn i ar fy llw taw celwydd yw e; ry^n ni’n gwybod yn burion sut mae pobl y
PP (plaid asgell dde Castilia)
MULTA
posar-li una multa (a algú) codi dirwy (ar rywun)
PEDRA
no posar-se pedres al fetge bod yn ddidaro
RELLEU
> en relleu
SERVEI
> en servei
TELEVISIÓ
posar la tele rhoi’r teli ymláen
TERRA
> a terra
ULL
posar-li (a algú) un ull de vellut rhoi llygad du (i rywun) (“llygad
melfed”)
posar-se
1 dod yn
2 rhoi (amdanoch) (ddillad, ddilledyn)
Els menuts es posen les disfresses
Mae’r plant yn rhoi eu dillad ffansi
Posa't el que vulguis! Rho amdanat yr hyn a fynnot!
3 posar-se a (rv) dechrau
(gwneud)
4 posar-se (a l'aparell) mynd
at y ffôn
Digui-li que s'hi posa Dywedwch
wrthi am fynd at y ffôn
posar-se com un energumen
1 mynd yn benwan
posar-se de la
seva banda
1 cefnogi, sefyll o’ch plaid
posar-se bo
1 gwella
posar-se de cua
1 mynd i'r gwt, mynd i'r gynffon, mynd i'r ciw
posar-se de genolls
1 disgyn ar eich pen-gliniau
posar-se vermell
1 gwrido, mynd yn goch
posar-se violent
1 colli’ch tymer
posat
1 wedi ei ddodi
2 posats a fer Os awn ni ati i wneud rhywbeth am y sefyllfa
3 posats a dir a dweud y gwirionedd
posat
1 ystum
posició
1 safle
2 posicions safbwynt, barn
La meves posicions són conegudes Mae
fy safbwynt innau yn hybsys i bawb
3 agwedd, safbwynt
4 position, attitude, standpoint
posicionament
1 rhoi mewn cyflwr neu le
pòsit
1 gwaelodion
2 gwely
3 olion
positiu
1 pósitif
2 llwyddiannus
positivament
1 yn bósitif
positivisme
1 positifiaeth
positivista
1 positifydd
positró
1 pósitron
positura
1 ymddaliad, osgo, ystum
posposar
1 rhoi ar ôl
posseïdor
1 sydd biau
posseïdor
1 perchennog
posseir
1 perchen ar
2 cael rheolaeth ar, rheoli
veure els
combats de mascles per pòsseir les femelles del ramat.
gweld brwydrau’r gwrywod i reoli benywod y praidd
possessió
1 meddiant
2 (tiriogaeth) prendre
possessió de meddiannu
A l’any 1918 França va prendre possessió d'Alsàcia i Lorena
Yn y flwyddyn 1918 meddiannodd Ffrainc Elsass a Löthringen
3 prendre possessió d’un càrrec meddiannu
swyddogaeth
celebrar la presa de possessió del líder
socialista del càrrec de president de la Generalitat
dathlu urddo’r arweinydd Sosialaidd yn bennaeth ar y Gyffredinfa
possessiu
1 meddiannol
possessionar
1 meddiannu
possibilitar
1 gwneud yn bosibl
possibilitat
1 posibilrwydd
2 hi ha la possibilitat que
(+ berf yn y modd dibynnol)
bod yn bosibl i
A la pàgina web
els alumnes posen la seva fitxa personal. A més, hi ha la possibilitat que algú
hi posi el seu currículum
Ar y tudalen gwe mae’r myfyrwyr yn rhoi ei manylion personol (“cerdyn ffeil
personol”). Yn ogystal â hyn, mae’n bosibl i rhywun roi braslun ei yrfa
3 la possibilitat o no que
(+ berf yn y modd dibynnol) a... ai peidio
L’enquesta té com a tema la possibilitat
o no que Convergència i Unió guanyi les pròximes eleccions del mes de mar
Mae’r arolwg yn ynwneud a`r pwnc a enilla Convergència i Unió ai peidio yr
etholidadau nesaf ym mis Mawrth
4 no tenir possibilitat de
nid oes iddo obaith i
5 cyfle
No tens ni l’ombra d’una possibilitat
Does gen ti’r gobaith lleia / Nid oes
gennyt y gobaith lleiaf (“nid oes gennyt hyd yn oed cysgod cyfle”)
possible
1 posibl
el màxim nombre possible de cymaint
ag sy’n bosibl o
possible
1 yr hyn sydd yn bosibl
fer el
possible gwneud eich gorau glas
Espero que CiU
i ERC façin el possible perquè el nou Estatut sorti lo menys provincià que es
pogui
Gobeithio fod pleidiau CiU ac ERC yn gwneud
eu gorau glas er mwyn i’r Ystatud newydd (ar hunanlywodraeth Catalonia),
hyd ag y mae modd, beidio trin Catalonia fel rhanbarth (“yn dod allan y lleiaf
taleithiol / rhanbarthol”)
possessionar
1 meddiannu
possibilitar
1 gwneud yn bosibl
possibilitat
1 posibilrwydd
2 hi ha la possibilitat que
(+ berf yn y modd dibynnol)
bod yn bosibl i
A la pàgina web
els alumnes posen la seva fitxa personal. A més, hi ha la possibilitat que algú
hi posi el seu currículum
Ar y tudalen gwe mae’r myfyrwyr yn rhoi ei manylion personol (“cerdyn ffeil
personol”). Yn ogystal â hyn, mae’n bosibl i rhywun roi braslun ei yrfa
3 la possibilitat o no que
(+ berf yn y modd dibynnol) a... ai peidio
L’enquesta té com a tema la possibilitat
o no que Convergència i Unió guanyi les pròximes eleccions del mes de març
Mae’r arolwg yn ynwneud â’r pwnc a enilla Convergència i Unió ai peidio yr
etholiadau nesaf ym mis Mawrth
4 no tenir possibilitat de
(fer alguna cosa) nid oes gan rywun
obaith (i wneud rhywbeth)
5 cyfle
possible
1 posibl
possible
1 yr hyn sydd yn bosibl
post
1 astell, planc
post de planxa bwrdd smwddio
post del pit sternwm, asgwrn y frest
post-
1 rhagddodiad = yn sgil, ar ôl; postelectoral, etc
posta
1 gosod
2 (wy) dodwy
3 bet
4 (cerbyd) cerbyd post, coetsh fawr, y mêl, y mâl
5 cuddfan
6 swyddfa bost
7 a posta del sol ar
fachlud haul
(pondre’s machludo)
postada
1 shilfoedd
postal
1 post
targeta postal ac hefyd postal ar ei ben ei hun – cerdyn post
paquet postal parsel
postal
1 cedryn post (= tarjeta postal)
postam
1 estyll, planciau
postdata
1 ôl-nodyn
postdatar
1 ôl-ddyddio
post de planxar
1 bwrdd smwddio
pòster
1 poster
postelectoral
1 ar ôl yr etholiad, ar ôl yr etholiadau
postergar
1 gohirio
posterior
1 diweddarach
posterioritat
1 olafiaeth
2 amb posterioritat wedyn, yn sgil hynny
posteriorment
1 yn ddiweddarach
posteritat
1 yr oesoedd i ddod
posterma
1 casgliad, crawniad, pws
postermejar
1 crawni, gori
posterma
1 fflaim
postgraduat
1 ôl-raddedigyn
postgrau
1 gradd bellach
postguerra
1 y cyfnod ar ôl y rhyfel
2 en la postguerra
(ychdig) ar ôl y rhyfel
postil·la
1 sylw, nodyn, ôl-nodyn
Encara una altra postil·la sobre
l’afer:... Ac mae gennyf sylw pellach i’w wneud ar y fater:
postil·lar
1 ychwanegu nodion / nodiadau
postilló
1 rhagfarchog
postís
1 gosod, dodi
barba postissa barf ddodi
postís
1 gwallt gosod, gwallt dodi
post mortem
1 post-mortem
postoperatori
1 ôl-driniaethol
postoperatori
1 gwellhâd, adferiad (âr ol llawdriniaeth)
postor
1 (Castiliad) cynigiwr
postrar
1 = prostrar
postrem
1 olaf
postremitat
1 pen eithaf
2 diwedd, munudau olaf
postres
1 pwdin, melusfwyd = trydydd cwrs pryd o fwyd
postulació
1 ymgeisyddiaeth
postulant
1 ymgeisiol
postular
1 gofyn am
2 (swydd) ceisio am...
3 (cardota) casglu
postulat
1 gosodiad
pòstum
1 ar ôl marwolaeth
postura
1 (pris) cynnig
2 postures ymddygiad
cilwenog, ymddygiad mindlws
posturer
1 cilwenog, mindlws
pot
1 pot
2 jar
el pot de la confitura gwraidd,
craidd, hanfod
pota
1 (anifail) coes
2 (cath, etc) pawen
3 (ceffyl, etc) carn
4 coes dodrefnyn
5 estirar la pöta estyn y
goes, marw
6 ficar la pöta
rhoi ei throed ynddi
7 caure de quatre potes
cwympo
8 ensenyar la pota
ymddangos yn eich gwir liwiau
potable
1 yfadwy
aigua potable dŵr yfed
potada
1 cic
2 ôl troed
potassa
1 potash, golchludw
potassi
1 potasiwm
potàssic
1 potasig
potatge
1 potes
2 potes = anhrefn
potència
1 cryfder, nerth
2 (rhyw) nerth
3 les potències de les tenebres
grymoedd y fall, grymoedd y tywyllwch (“grymoedd y tywyllwch”)
4 no tenir potència
sexual bod heb allu rhywiol, bod yn
analluog
5 gwlad nerthol
La Xina és una potència mundial
capriciós i massa impredictible
Mae Tsheina’n rym byd-eang mwympwyol a rhy anrhagweladwy
potencial
1 dichonol, posibl
2 (Gramadeg) amodol
potencial
1 dichonoldeb
potenciar
1 grymuso
2 rhoi cychwyn i
potent
1 nerthol, cryf
potentat
1 teyrn
2 teicŵn teicwniaid
potestat
1 awdurdod grym
La Generalitat reclama a l’Estat la potestat d’expedir i
retirar els carnets de conduir (El Punt 2004-01-17)
Y Gyffredinfa (llywodraeth Catalonia) yn hawlio gan y Wladwriaeth y grym i roi
allan ac i ddirymu trwyddedau gyrru
potestatiu
1 dewisol, yn ôl dewis
pòtil
1 casgen
potinejar
1 byseddu (rhywbeth)
2 piltran, stwna, cyboli (Sud) potsian
3 siarad (iaith) yn garbwl
El noruec, no el parlo bé; només el
potinejo
Dw i ddim yn siarad Norwyeg yn dda; dim ond ei siarad yn garbwl a wna i
potiner
1 ffwrdd-â-hi, rywsut-rywfodd
Hom no pot jugar amb qüestions sensibles
de manera potinera i inoportuna (Avui 2004-01-26)
Ni ellir chwarae mewn modd ffwrdd-â-hi ac anamserol â materion tringar
potiner
1 gweithiwr ffwrdd-â-hi
potinera
1 gweithwraig ffwrdd-â-hi
potinga
1 diod, trwyth
poti-poti
1 blith-draphlith
pòtol
1 trempyn
potollar
1 cicio
Potries
1 trefgordd (la Safor)
pot ser
1 No pot ser que ni
ddylai
potser
1 efallai
2 que potser... ydy...
efallai?
pou
1 (dw^r) pydew
2 (olew) pydew
3 pou miner pwll glo
4 pou de ciència hen ben, ’sglaig, gwyddoniadur ar ddwy droed (“pydew o
wybodaeth”)
(Ar ôl i rywun ddatgan rhyw wybodaeth astrus) Vostè és un pou de ciència Gwyddoniadur ar ddwy droed ych chi
pouar
1 tynnu (dŵr), codi (dŵr)
pouater
1 cloddiwr ffynhonau
pou mort
1 carthbwll
PP
1 el Partit Popular enw
Cataloneg de el Partido Popular,
plaid wleidyddol Gastilaidd o’r asgell dde eithafol, etifedd ideolegol yr unben
Franco
PPCC
1 Els Països Catalans Y
Gwledydd Cataloneg
Adolygiad
diweddaraf - darrera actualització - 2001 05 06 :: 2003-11-02 :: 2003-12-15
:: 2004-01-05 :: 2005-02-11
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the
"CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait