kimkat3603k
Tarian y Gweithiwr. Tafodiaith Morganwg (Tafodiaith Morgannwg). Wmffra
Huws.
06-12-2021
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg
yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3603k Y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Tarian y Gweithiwr. |
|
...
|
|
|
Gosodiad (delwedd J6242a) (2 Chwefror 1897) |
Tarian y Gweithiwr. 18 Chwefror 1897. IAITH MORGANWG. Yr wyf yn colli fy nhipyn amynedd weithiau wrth weled ambell lenor
coeg-ddysgedig yn gwatwar tafodiaith Morganwg. Mae yn wir ein bod yn cyfnewid
swn llawer llythyren wrth ei threiglo dros ein tafodau; ond nid ydym haner
mor euog o lofruddio yr iaith a rhai o siroedd ereill Cymru. Os gwelwch y
misolyn a elwir Heddyw, chwi a welsoch sarhad ar dafodiaith Morganwg. Ni
welodd ac ni chlywodd neb yr un Morganwgyn yn siarad nac yn ysgrifenu Cymraeg
mor fratiog ag a osodir allan yno. Nis gwn i beth yw amcan pobl wrth wawdio
ein tafodiaith. Gall ein brodyr Gogleddol adael ein dynwared yn burion; mae
ein Cymraeg mor bur a'r eiddynt hwy unrhyw ddydd. Mae rhai o fechgyn y ‘Welsh
Gossip' yn gallu cyfieithu yn gampus hefyd. Heddyw ddiweddaf, yr oedd rhywun
yn ceisio cyfieithu geiriau rhyw wraig o'r Dinas. Yr oedd hono wedi dweyd
wrth ei phlentyn ei fod mor wlyb a phe buasai wedi bod dan ddw'r y bargod.
‘Bargod’ yw gair pobl Morganwg am ‘ddiferion y to,' meddai y clebrwr yn
mhapyr Caerdydd. Fe wyr pawb mai ‘bargod' y gelwir y rhan o'r to sydd yn
ymestyn dros y mur. Onid o dan y ‘bargod ' y bydd y gwenoliaid yn nythu? Nid
yw waeth yn y byd beth fydd defnydd y to, bargod fydd y rhan o hono lle y
ffurfia y diferion. Yr oedd bargodion lawn i hen dai toion gwellt y dyddiau
gynt. Gwelsoch yn ystori fuddugol y Nadolig fel y darluniai yr awdwr ‘fargod'
Cilytwyni — yn ddigon o gysgod i'r plant lechu rhag cawod o wlaw. Mae oes y
shoots wedi dod dros ein gwlad o benbwygilydd bellach, ac felly, nid yw yn
rhyfedd fod rhai pobl wedi gollwng yn annghof beth yw ystyr y gair ‘bargod.' Yr ydym ni yn Morganwg yn rhy dueddol i gamseinio geiriau. Dyna y gair
gan, yr ydym yn ei seinio yn gen. Nid oes esgus dros wneud hyny. Mae rhai yn
ceisio gwella ein diffygion ar y pen hwn weithiau, ac ereill yr un mor selog
yn ein hamddiffyn rhag ein hymosodwyr. Clywais ei anrhydedd, y Barnwr Gwilym
Williams, yn taro yn Iled drwm ar benau y dysgedigion hyny sydd wedi cynyg
diwygio rhai o'r hen Emynau. Yr oedd ambell un yn cael ei wella, meddai ef,
ond yr oedd llawer mwy yn cael eu handwyo gan dinceriaid. Chwi wyddoch am y
llinellau yn nghan Wil Hopkin, ‘Bugeilio'r gwenith gwyn,' — 'Pa ma ai fi neu arall Gwen Sydd oreu gen dy galon.' Mae rhai wedi ceisio eu gwella trwy fwrw y gair gen allan, a gosod gan yn
ei le. Mae hyny yn fwy clasurol, bid siwr; ond mae y perseinedd yn cael ei
aberthu wrth wneud hyny. Clywais un yn amddiffyn y ffurf wreiddiol, am mai
gen sydd yn unol a thafodiaith Morganwg, a thafodiaith Wil Hopkin yn y
fargen, ac na ddylid andwyo perseinedd y llinellau trwy y cyfnewidiad.
Ymbalfalu yn y tywyllwch yr wyf fi yn ystyried gosodiadau y ddau ddosparth.
Pe buasent yn cofio mai Ann oedd enw y ‘Ferch o Gefnydfa' — a dyna sydd ar ei
beddfaen yn mynwent Llangynwyd — ni fuasai eisieu dyfalu am ffurf wreiddiol y
gair, heb son am ei gyfnewid. Onid fel hyn y canodd Wil, — ‘Pa un ai fi neu arall fun Sydd oreu gan dy galon,' Peidied neb mwy a son am dafodiaith Morganwg yn nglyn a'r ‘Gwenith Gwyn,'
a chaned y cantorion y llinellau fel uchod heb ofni eu bod yn gwneud cam a'r
bardd. Yr eiddoch, WMFFRA HUWS. |
(The Worker’s Shield). 18 February 1897. The Language of Morgannwg / Glamorgan.
I sometimes lose the little patience I have (“lose my bit of patience”)
when I see the occasional pedantic writer mocking the Morgannwg dialect. It
is true that we the sound of many a latter as we roll it over our tongues;
but we are not half as guilty of murdering the language as some in the other
Welsh counties. If you see the monthly called Heddyw, you have seen an insult
to the Morgannwg dialect. No man saw or heard anyone from Morgannwg speaking or writing Welsh as
fragmented as is set out there. I don't know what the aim of people ridiculing
our dialect. Our Northern brethren can leave off imitating us altogether; our
Welsh is as pure as theirs is any day. Some of the 'Welsh Gossip' boys can
translate brilliantly too. Only today someone was trying to translate the
words of some woman from the Y Dinas. She had told her child that he was as
wet as if he had been under the water (dripping from) the eaves. 'Bargod' is
the word of Glamorgan people for 'water dripping from the roof,' said the commentator
in the Cardiff newspaper. Everyone knows that the part of the roof over the
wall is called the ‘bargod’ (eaves / overhang). Don't the swallows nest under
the 'bargod'? No matter what the roof is used for, the ‘bargod’ is the part
of it where the drops (of water) form. The old thatched houses in the olden days had full eaves. You saw the winning
Christmas story how the author depicted the ‘bargod’ of Cilytwyn - enough
shelter for the children to shelter from a shower of rain. The age of the chutes
has now swept over our country from end to end, and so it is no wonder that
some people have forgotten what the word 'bargod' means. We in Glamorgan are too prone to mispronounce words. Take the word “gan”
(= by, with), we say it (“sound it”) (as) “gen”. There is no excuse for doing
that. Some people sometimes try to eliminate this defect (“improve our
deficiencies”) in this matter (“on this end”), while others are just as
zealous in protecting us from our attackers. I heard his honour, Judge Gwilym
Williams, (“beating quite heavily on the heads of”) giving a godd ticking off
to those scholars who have proposed revising of some of our old hymns (“of the
ancient hymns”). He said some were being improved, but many more were being destroyed
by tinkers. You know the lines in Wil
Hopkin's song, ' Bugeilio'r gwenith gwyn’ (“watching over the white wheat”) - '(Say) whether it's me or another, Gwen, Who is your heart’s favourite (who is best with [“gen”] your heart.)' Some have tried to improve them by casting out the word “gen”, and
replacing it with “gan”. That's more standard (“classical”), to be sure; but
the euphony is sacrificed in doing so. I heard someone defending the original
form, since it is “gen” which corresponds to the dialect of Morganwg, and the
dialect of Wil Hopkin into the bargain, and that the euphony of the lines
should not be harmed by the substitution (“exchange”). I am fumbling in the
dark in weighing up (“considering”) the propositions (“settings”) of the two
sides (“classes”). If they remembered that the name of the Maiden of Cefnydfa
was Ann - and that is what is on her headstone in Llangynwyd cemetery – there
would have been no need to guess the original form of the word, let alone its
replacement. Didn’t Wil say it thus (“Wasn’t it like this that Wil sang”), - '(Say) whether it's me or another, maiden, Who is your heart’s favourite (who is best with [“gan”] your heart.)' Let's say nothing more about the Morgannwg dialect in regard to ‘Gwenith
Gwyn’ and let the singers sing the lines above (“as above”) without fear that
they are doing a disservice to the poet (“doing wrong to the poet”). Yours, WMFFRA HUWS. |
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū /
ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ
oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ /
ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ
ŵ ŷ ẃ ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_349_tafodiaith-morganwg-morgannwg_3604k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 06-12-2021
Adolygiad diweddaraf : 06-12-2021
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd
Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf
i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the
CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Wellz-Katəlóuniə) Wébsait
Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte
de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y
tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our
Stats
…..