Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya
Wales-Catalonia Website
Y Cymry yn yr Unol Daleithau: Carnarvon, Iowa
http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_iowa-carnarvon_2790k.htm
0001 Yr
Hafan kimkat0001
→ 1793k Y Cymry Alltud (Mynegai) kimkat1793k
→ 1050e
Y Cymry yn América kimkat1050e
→ y tudalen hwn
(delwedd 7375)
Aquesta pàgina en català: no disponible
encara
2791e This page in English - Welsh settlements abroad kimkat
Y mae talaith Iowa yn frith o sefydliadau Cymreig. Yn rhyfedd ddigon, pentref Almeinig yn fwy na dim oedd Carnarvon, ac er bod sefydliad Cymreig ryw hanner can milltir i’r Gogledd (Peterson / Lynn Grove) ac un arall ryw bedwar ugain milltir i’r De (Wales), nid oedd yn y cylch hyn gymuned Gymreig fel y cyfryw.
Sut felly aeth Carnarvon yn enw arno?
Yn ei hanes am Swydd Sac, Iowa (History of Sac County, Iowa) (1914) y mae’r awdur William H. Hart yn dweud fel hyn am y pentref (o’i drosi o’r Saesneg):
Carnarvon... Dyma’r unig bentref yn nhrefgordd Viola a gynlluniwyd a chofrestrwyd; 24 Hydref 1881 fu dyddiad ei gofrestru. Fe’i gosodwyd allan gan George W. Pitcher, yn adran 22, trefgordd 86, cylchfa 36.
Ar hyn o bryd mae iddo tua chant a hanner o drigolion. Cyffordd ar reilffordd y Chicago & Northwestern yw Carnarvon, lle y mae cangen Carroll yn ymadael â changen Tama.
Fe’i lleolir ychydig dros bedair milltir i’r de-ddwyrain o dref Wall Lake.
Fe enwyd y trefi fel a
ganlyn... Carnarvon, ar ôl tref o’r un enw yng Nghymru, man geni y Goruchwyliwr
Adran Hughes (“Division Superintendent Hughes”) o Gwmni Rheilffordd y Chicago
& Northwestern...
delwedd 7727
Pwy yn union, tybed, oedd y Bonwr Hughes o Arfon?
Dyma luniau o Carnarvon a’r cylch yr wyf wedi eu rhoi at ei gilydd yn ddiweddar (sef ddoe):
http://www.youtube.com/watch?v=ydaDN9S-K-M
DIWEDD
Adolygiad diweddaraf: 05-03-2011
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r
Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
"CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You
are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
(English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə)
Wébsait (Íngglish)
Archwiliwch y wefan hon
---
Adeiladwaith y wefan
---
Gwaith cynnal a chadw
Cysylltwch
â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA
CYMRU-CATALONIA